Dogfen Ymbaratoi
ar gyfer Rhaglen Gynhwysfawr Addysg a Dysgu Gydol Oes hyd at 2010yng Nghymru
Y Wladsy’n Dysgu
ISBN 0 7504 2735 3 Awst © Hawlfraint y Goron 2001
Dyluniwyd gan Cartograffeg G/128/01-02 Cysodwyd gan TPS
CYNNWYS
Tudalen
RhagairY Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes 1
Pennod 1Cyflwyniad 5
Pennod 2Sylfeini Cadarn 15
Pennod 3 Addysg Gyfun a Dysgu Gydol Oes yng Nghymru 23
Pennod 4Dysgu a Chyfle Cyfartal 39
Pennod 5Cynnydd ac Ymarferwyr 47
Pennod 6Y Tu Hwnt i Addysg Orfodol 53
Pennod 7Mynediad a Dyfodol Addysg Uwch 61
Pennod 8Canlyniadau 67
AtodiadauSut i ymateb 73
Rhestr byrfoddau 75
1
RHAGAIRMae addysg a hyfforddiant yn bwysig iawn i Gymru – maent
yn rhyddhau talent, yn ymestyn cyfle, yn atgyfnerthu
cymunedau ac yn helpu i greu cyfoeth.
Rydym yn wynebu newid technolegol cymhleth a
newidiadau anferthol o ran pwysau cystadleuol o’r tu mewn
i Ewrop a’r tu hwnt. Mae llawer o’n cymunedau yn
ddiamddiffyn ac yn ddifreintiedig. Mae ein cronfa sgiliau yn
weddol isel. Erys llawer i’w wneud er mwyn gwella’r rhaniadau sylweddol yn ein
cymdeithas – er iechyd a lles pawb sy’n byw yma; i sicrhau y gall pobl wireddu eu
dyheadau; ac i greu diwylliant llawn menter a chreadigrwydd, gan wneud y gorau
posibl o’n hetifeddiaeth neilltuol o gyfoethog ac amrywiol. Mae gan y sialensau
hyn arwyddocâd hanesyddol. Byddai’n fygythiol ac yn ddigalon i beidio â wynebu’r
sialensau. Ni ellir dewis peidio â chwrdd â hwy. Uwchlaw pob dim, mae llwyddiant
yn dibynnu ar gyflymder wrth gynyddu ein cronfa sgiliau a gwybodaeth.
Rydym wedi cyrraedd trobwynt o ran addysg a dysgu gydol oes yng Nghymru.
Mae’n arwyddocaol iawn fod prif ddeddfwriaeth a phenderfyniadau cyntaf y
Cynulliad Cenedlaethol yn gysylltiedig yn uniongyrchol â’r hyn sy’n cael ei wneud
mewn ysgolion ac â’r trefniadau ar gyfer dysgwyr ar ôl 16 oed. Mae gennym
ddeddfwriaeth yn ei lle bellach ar gyfer Cwricwlwm Cenedlaethol diwygiedig yn
dilyn adolygiad ar raddfa eang a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer Cymru. Yn yr un
modd rydym wedi trawsnewid strwythur cyflwyno a sicrwydd ansawdd ar gyfer
dysgu ar ôl addysg orfodol – nid lleiaf trwy sefydlu’r Cyngor Cenedlaethol newydd
– ELWa. O hyn ymlaen, bydd yn rhaid newid y pwyslais i wneud i’r newidiadau hyn
weithio i godi safonau; chwalu’r rhwystrau i ddysgu; codi ein cronfa sgiliau; a chael
gwared ar y rhwystrau i addysgu effeithiol. Bydd yn golygu darganfod dulliau
arloesol a radical o gael pobl ledled Cymru i fod yn gysylltiedig â hyn. Bydd yn
golygu mynd i’r afael â thangyflawni yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Bydd
yn golygu rhagoriaeth i bawb.
Fel y Gweinidog sy’n gyfrifol, fy ngweledigaeth ar gyfer addysg a dysgu gydol oes
yw y bydd gan Gymru enw da yn rhyngwladol fel Gwlad sy’n Dysgu: lle sy’n rhoi
buddiannau dysgwyr yn gyntaf; sy’n cynnig mynediad ehangach a chyfleoedd i
bawb; sy’n ceisio rhagoriaeth drwyddi draw; ac na fydd yn barod i fod yn ail orau
wrth wneud dysgu gydol oes yn realiti. Mae hynny’n golygu gwneud y gorau o
unrhyw gyfle sy’n dod i law er mwyn llwyddo i gael canlyniadau rhagorol a dod o
hyd i ddulliau arloesol a radical o greu cyfleoedd hefyd – p’un a fydd y cyfleoedd
hyn yn codi’n rhyngwladol, yn yr Undeb Ewropeaidd, drwy’r llywodraeth ganolog,
neu yma yng Nghymru.
Mae bwriad Llywodraeth y DU i gyflwyno Mesur Addysg i’r Senedd yn yr hydref
ynddo’i hun yn rhoi cyfle enfawr i ni. Yn wir, mae’n fraint i mi gyflwyno’r datganiad
strategol cynhwysfawr cyntaf hwn ar addysg a dysgu gydol oes yng Nghymru, a’r
Ddogfen Ymbaratoi gyntaf ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol ac isddeddfwriaeth yn y
maes hwn, i’w gyhoeddi o’r Cynulliad Cenedlaethol. Mae’n dangos ein penderfyniad
i gael y gorau o’r system a’r newidiadau strwythurol sydd eisoes yn eu lle. Mae’n
bwriadu ychwanegu at y momentwm tuag at sefydlu Cymru fel Gwlad sy’n Dysgu.
Mae’n dangos sut y gall datganoli gael effaith hynod o bositif ar lunio deddfwriaeth
sylfaenol yn San Steffan.
Rydym yn rhannu nodau strategol allweddol â’n cymheiriaid yn Lloegr – ond yn aml
mae angen inni fynd ar hyd llwybr gwahanol i gyrraedd y nodau hyn. Byddwn yn
cymryd ein cyfeiriad ein hunain o ran polisi lle y bo angen er mwyn cael y gorau ar
gyfer Cymru. Mae’n iawn ein bod yn rhoi awdurdodau lleol, cymunedau lleol ac
anghenion a blaenoriaethau a bennwyd yn lleol wrth graidd yr agenda ar gyfer
ysgolion, er enghraifft. Mae ein cymunedau am gael ysgolion cyfun lleol rhagorol
ar gyfer eu holl blant. Mae partneriaeth o’r math hwnnw wrth wraidd y ffordd y
byddwn yn gwneud pethau yng Nghymru.
Mae sylwedd yr hyn sy’n dilyn yn ymdrin â’r camau y bwriadwn eu cymryd, mewn
partneriaeth â’n cymunedau lleol, i atgyfnerthu’r sylfeini ar gyfer dysgu. Mae’n
dathlu bywiogrwydd a dilysrwydd addysg gyfun, gan gydnabod pwysigrwydd
ysgolion fel adnoddau cymunedol ac adeiladu hyder a gallu pobl fesul cymdogaeth.
Mae’n gosod agenda newydd sy’n rhoi cymorth i ymarferwyr addasu’r ffordd y mae
ysgolion a darparwyr eraill yn gweithio; i deilwra’r hyn a wneir i ddiwallu anghenion
dysgwyr unigol yn fwy hyblyg a manwl; i ddelio â’r newidiadau sy’n digwydd rhwng
y camau dysgu yn fwy llyfn a llwyddiannus; ac i ddarparu ar gyfer y rhai rhwng 14 a
19 oed mewn ffyrdd newydd a llawn dychymyg, gan sicrhau ehangder yn ogystal â
dyfnder. Mae hefyd yn ymwneud â sut y dylem adeiladu priffyrdd i roi mynediad
o’r ysgolion drwodd i’r prifysgolion – gan ysgubo ymaith yr hyn sy’n rhwystro pobl
rhag cymryd rhan er mwyn cefnogi dysgu. Mae’n ymwneud ag adeiladu Cymru lle
mae ein pobl ifanc i gyd – nid dim ond yr ychydig rai – yn cael y dechrau gorau
mewn bywyd; yn cael cyfleoedd deniadol i wireddu eu potensial llawn; ac yn
ymestyn yr hawl i ddylanwadu ar y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt drwy
gynnig llwybrau newydd i gyfranogi.
Bydd rhai o’r pethau a fydd yn ymddangos yn y Mesur Addysg sydd ar fin cael ei
gyflwyno o ddiddordeb arbennig i Loegr yn unig. O ran eu bod yn fesurau nad
2
ydynt yn cyd-fynd â threfniadau sy’n gweithio’n dda, ac sy’n cael canlyniadau da yng
Nghymru, bwriadwn i’r Cynulliad gael yr awdurdod i beidio â bwrw ymlaen gyda
hwy – ac yn sicr nid heb cael ymgynghoriad llawn ymlaen llaw ac archwiliad
trwyadl o’r holl oblygiadau. Felly, er y bydd y Mesur yn cwmpasu Cymru a Lloegr,
bydd llawer o ddarpariaethau’r Mesur yn rhai galluogol o ran eu cymeriad a bydd
gan y Cynulliad Cenedlaethol yr hawl i nodi i ba raddau y maent i’w cymhwyso yng
Nghymru. Nodir yr amcanion polisi ar gyfer Lloegr mewn Papur Gwyn ar wahân.
Mae’r Ddogfen Ymbaratoi hon yn cael ei chyhoeddi ar gyfer Cymru yn benodol.
Gobeithiaf yn wir y byddwch yn manteisio ar y gwahoddiad i gyflwyno sylwadau –
ac yr ymunwch â ni i wneud Cymru yn lle heb ei ail ar gyfer dysgu, a ffynnu.
Jane Davidson AC
Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes
3
4
Y WLAD SY’N DYSGU
PENNOD 1: CYFLWYNIAD
Paratoi’r Ffordd
11.. Yn ystod y dwy flynedd ers iddo ddechrau, mae’r Cynulliad Cenedlaethol
wedi cychwyn rhaglen anferthol o gefnogaeth, datblygiad a newid ar gyfer
hyfforddiant ac addysg yng Nghymru. Mae’r rhaglen yn neilltuol iawn o ran
amrywiaeth a chwmpas. Mae’n mynd rhagddi ar gyflymder a dyfnder na welwyd
mo’i fath ers sefydlu Adran Gymreig y Bwrdd Addysg bron i 100 mlynedd yn ôl.
Mae’n amser pwyso a mesur a gosod yr agenda ar gyfer y cam nesaf. Mae hyn yn
bwysig am fod graddfa a chyrhaeddiad yr agenda hon o bosibl hyd yn oed yn fwy
sylweddol na’r hyn a fu o’r blaen.
22.. Mae’r Ddogfen Ymbaratoi hon yn ymgynghori ar nifer o gyfeiriadau polisi
allweddol a hefyd ar gynigion deddfwriaethol i’w rhoi mewn grym. O fewn y cyd-
destun cyfansoddiadol a sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 mae gan
y Cynulliad allu pwysig i lunio cynigion deddfwriaethol ar gyfer addysg a
hyfforddiant yng Nghymru mewn ffyrdd sy’n gweddu yn uniongyrchol i anghenion
y wlad. Yn wir, er gwaethaf natur eang ei gyfrifoldebau penodol ei hunan, mae gan
Ysgrifennydd Gwladol Cymru rôl allweddol i lywio ac arwain ymagwedd
Llywodraeth y DU wrth lunio deddfwriaeth sylfaenol fel ei bod yn ystyried cynigion
a gofynion y Cynulliad. Felly, er nad oes gan y Cynulliad Cenedlaethol yr awdurdod
i lunio deddfwriaeth sylfaenol, mae ei allu i sicrhau bod deddfwriaeth San Steffan
yn addas i amgylchiadau Cymru yn bwysig iawn. Dangoswyd hyn gyda hynt Deddf
Dysgu a Sgiliau 2000 – yr roedd dros draean ohoni wedi’i neilltuo i Gymru yn unig.
Mae’r fframwaith cyfreithiol sylfaenol yn gyffredinol hefyd yn rhoi’r gallu i’r
Cynulliad ei hunan i gychwyn is-ddeddfwriaeth. Mae hyn yn dra arwyddocaol, yn
enwedig mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant. Yna gall y Cynulliad ddewis
gweithredu, neu beidio â gweithredu, mewn ffyrdd sy’n hollol neilltuol i Gymru.
33.. Dyma’r datganiad strategol cynhwysfawr cyntaf ar addysg a dysgu gydol oes
yng Nghymru, a’r Ddogfen Ymbaratoi gyntaf, ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol ac
is-ddeddfwriaeth yn y maes hwn a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae ei chwmpas yn adlewyrchu ehangder portffolio’r Gweinidog dros Addysg a
Dysgu Gydol Oes sy’n cynnwys yr holl faterion addysg a hyfforddiant bron yn
gyfan gwbl. Mae’n gysylltiedig â’r ‘Cynllun i Gymru 2001’. Ar ddiwedd bob
Pennod mae rhestr o gwestiynau ar gyfer ymgynghori. Anfonwch
eich ymatebion erbyn diwedd mis Hydref. Mae’r cyfeiriad i’w hanfon iddo, yn
electronig neu ar gopi caled, ar ddiwedd y ddogfen. Gobeithiwn yn fawr
5
iawn y byddwch yn cymryd y cyfle i gyfrannu. Bydd hynny yn llywio
penderfyniadau ynghylch polisi a’r pwerau i’w cymryd yng nghyd-destun y Mesur
Addysg y mae Llywodraeth y DU i’w gyflwyno i’r Senedd yn yr Hydref.
Parhad a Chynnydd
44.. Ers tro mae pobl yng Nghymru wedi gwerthfawrogi cyfleoedd buddiol i gael
eu dysgu a’u haddysgu yn wych. Mae’r ffordd o fynegi hyn wedi amrywio. Yn eu tro
cafwyd y mentrau grymus i sefydlu prifysgol genedlaethol; i gyflwyno arolygiaeth
ysgolion annibynnol ar ddechrau’r 20fed ganrif; i ddarparu ysgolion cynradd ac
uwchradd Cymraeg ar ôl yr ail ryfel byd; i sefydlu cynghorau cyllido penodol ar
gyfer addysg bellach ac addysg uwch; i gyflwyno Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer
Cymru; ac i gynnal gweithio mewn partneriaeth rhwng ysgolion, llywodraeth leol a
llywodraeth ganolog. Mae sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yn cyd-fynd â
chydnabyddiaeth ehangach na ellir trin hyfforddiant ac addysg fel rhywbeth a
ddiogelir gan y lleiafrif, neu gan yr etholedig rai. Mae cyflymder newidiadau
technolegol, cymdeithasol ac economaidd yn ei gwneud yn orfodol i ddysgu fod yn
hygyrch i bawb; bod yn rhaid i’r hyn a ddarperir geisio anelu at ragoriaeth, a’i
gyflwyno mewn gwirionedd; ac y dylai gwelliant parhaus fod yn arferol. Mae codi
safonau addysgol a lefelau sgiliau yn dyngedfennol er mwyn sicrhau datblygiad
cynaliadwy, economaidd a chymdeithasol hirdymor Cymru.
55.. Yn erbyn y cefndir hwnnw mae gennym ni yng Nghymru – ac yn arbennig
cyrff llywodraethu ac ymarferwyr – lawer i fod yn falch ohono ac yn hyderus yn ei
gylch. Er enghraifft, ac yn fwyaf diweddar:
•• Mae Cymru wedi arwain y maes mewn strategaeth neilltuol tuag at welliant
mewn ysgolion – yn seiliedig ar dystiolaeth; wedi’i reoli’n lleol; ac yn ddilys
yn broffesiynol. Mae dal y llwybr hwn gyda chefnogaeth athrawon, ynghyd â
chyfundrefn archwilio adeiladol; strategaethau ymatebol ar gyfer
llythrennedd a rhifedd; a darpariaeth gynyddol ar gyfer hyfforddiant
cychwynnol a hyfforddiant mewn swydd, wedi bod yn hynod o effeithiol.
Mae cyrhaeddiad disgyblion ar lefelau cynradd ac uwchradd wedi gwella’n
gyflymach nag erioed o’r blaen, ac o’i gymharu â Lloegr hefyd.
•• Yn dilyn penderfyniadau terfynol gan y Cynulliad Cenedlaethol, bu Cymru yn
arloesol o ran annog diwygiad radical o addysg a hyfforddiant ôl-16.
Bellach mae trefniadau pwrpasol wedi’u gwneud a fydd yn trawsnewid y
wybodaeth a’r gronfa sgiliau o fewn y wlad yn ystod y blynyddoedd i ddod.
Mae’n strwythur cydlynus heb rwystrau sefydliadol diangen. Mae Cyngor
Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant a’i gyd Gyngor, ELWa, yn
cefnogi’r holl ddysgu ol-16 ledled Cymru. Mae gan Gonsortia Cymunedol dros
6
Addysg a Hyfforddiant rôl allweddol o ran cydasio partneriaethau lleol.
Mae Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Cymru (Estyn) yn cymhwyso
disgyblaethau cyffredin ar gyfer y gwaith o archwilio’r holl ddarparwyr
hyfforddiant ac addysg bron yn gyfan gwbl: nid oes cynnydd mewn
arolygiaethau ar wahân sy’n gweithio i drefn wahanol. Mae Gyrfa Cymru yn
darparu gwasanaeth sy’n cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i bob
oedran i safonau cyffredinol ledled y wlad. Caiff y gwaith o ddatblygu
gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc ei ddatblygu gan y sectorau statudol a
gwirfoddol gydag arweinyddiaeth awdurdodau lleol ac o dan agenda
Ymestyn Hawliau1 sy’n seiliedig ar bartneriaeth.
66.. Eto i gyd mae’n rhaid inni wynebu’r ffaith fod gan Gymru gyfraddau isel o
weithgarwch economaidd o’i chymharu â gwledydd eraill; nifer sylweddol o lefelau
isel o ran sgiliau a chymwysterau
– er gwaethaf cynnydd sylweddol
yn ddiweddar; diffyg
gweithgarwch cymharol uchel yn
y boblogaeth oedran gweithio;
cyflogau isel a chynhyrchiant isel;
cyfran isel o Gynnyrch
Mewnwladol Crynswth (GDP) yn
y sectorau gwerth ychwanegol
uchel a thwf uchel; amrywiadau
llym o ran perfformiad
economaidd yn rhanbarthol; a
nifer isel o fusnesau newydd
mewn perthynas â maint y
boblogaeth. Er nad yw polisi
cyflogaeth wedi’i ddatganoli i’r
Cynulliad rydym yn gweithio’n
agos â’r Gwasanaeth Cyflogaeth
a’r Asiantaeth Budd-daliadau (a
gaiff ei alw’n Job Centre Plus yn
fuan) i sicrhau y caiff agenda Diwygio Lles ei datblygu i gwrdd ag anghenion penodol
Cymru a’i bod yn rhoi sylw i’n cyfrannau uchel o anweithgarwch. Mae sialens fawr
o’n blaen o hyd.
77.. Y ffaith syml yw bod hyfforddiant ac addysg yr un mor berthnasol i
ddatblygiad cymunedol, cynhwysiant cymdeithasol, creu cyfoeth a chyflawniad
personol llwyddiannus. Mae synergedd agos rhwng y mesurau angenrheidiol i
7
1 ‘Ymestyn Hawliau: Cefnogi Pobl Ifanc yng Nghymru’ a gyhoeddwyd ym mis Medi 2000.
PPrrooffffiill oo GGyymmrruu
•• Mae CMC fesul pen yng Nghymru tua 20 y
cant islaw’r cyfartaledd yn y DU;
•• Mae cyfran y bobl o oedran gweithio y
mae eu cymhwyster uchaf yn NVQ lefel 4
neu debyg, neu’n uwch, tua 23 y cant o’i
gymharu â 25 y cant yng ngweddill y DU;
•• Ym 1999 roedd enillion fesul awr yng
Nghymru 12 y cant yn is na’r ffigur ar gyfer
y DU;
•• Nid oes gan 19 y cant o’r boblogaeth
unrhyw gymwysterau, o’u cymharu â 16 y
cant yng ngweddill y DU;
•• Mae cyfraddau anweithgarwch
economaidd yn 25 y cant yng Nghymru o’u
cymharu â 21 y cant ledled y DU.
gynnal dysgu a chreadigrwydd, a chyflawni manteision twf economaidd, cyfoethogi
cymunedau ac ansawdd bywyd gwych i unigolion. Mae arloesedd yn y celfyddydau,
gwyddorau a thechnoleg yn symbylu gwlad rymus sy’n dysgu, ac yn cael eu hybu
ganddi. Ni all diwylliant o sgiliau isel, cymwysterau isel, creadigrwydd isel,
disgwyliad isel, a mentergarwch isel oroesi yn wyneb cystadleuaeth Ewropeaidd a
rhyngwladol.
88.. Nod y Cynulliad, felly, yw creu momentwm gwirioneddol i ddysgu gydol oes
i’n holl bobl; rhyddhau gallu pawb i gael yr hyder i addasu a dangos mentergarwch;
a gwneud y gorau o etifeddiaeth ddeinamig ddiwylliannol ac ieithyddol Cymru.
Datblygu’r Wlad sy’n Dysgu
99.. Ein nod yw bod gan Gymru un o’r systemau addysg a dysgu gydol oes gorau
yn y byd.
•• Rydym am i Gymru fod yn wlad sy’n dysgu, lle bydd dysgu gydol oes o
ansawdd uchel yn darparu’r sgiliau y mae ar bobl eu hangen i ffynnu yn yr
economi newydd, yn rhyddhau talent, yn ehangu cyfleoedd ac yn atgyfnerthu
cymunedau.
•• Rydym am i’n pobl ifanc i gyd gael y dechrau gorau mewn bywyd, y cyfle i
wireddu eu potensial llawn, a hawl clir ganddynt i ddylanwadu ar y
gwasanaethau sy’n effeithio arnynt.
•• Rydym am godi safonau addysgu a chyrhaeddiad yn ein hysgolion i gyd, gan
werthfawrogi a chefnogi’r proffesiwn dysgu er mwyn cyflawni hyn.
•• Byddwn yn sicrhau y caiff y manteision o’r gwelliannau eu mwynhau gan
bawb, mewn system hollol gynhwysfawr o ddysgu sy’n gwasanaethu ein holl
gymunedau lleol yn dda.
•• Rydym am i ddysgu fod yn rhan beunyddiol o fywyd gwaith, a bywyd nad
yw’n ymwneud gwaith, lle bydd lles y dysgwyr yn dod yn gyntaf.
•• Rydym am atgyfnerthu cyfraniad addysg a hyfforddiant i ddatblygiad
economaidd fel y nodwyd yn nogfen ymgynghori y Strategaeth Datblygu
Economaidd Genedlaethol.
1100.. Ar y cyfan, mae hyrwyddo dysgu gydol oes yn brif flaenoriaeth i’r Cynulliad,
ac i Gymru. Caiff ei weithredu, gan roi ystyriaeth ddyledus i ymrwymiad cyson y
Cynulliad a adlewyrchir yn GwellCymru.com, er mwyn:
•• gwireddu cynaliadwyedd;
8
•• mynd i’r afael ag anfantais gymdeithasol – yn enwedig yn ein cymunedau
mwyaf difreintiedig;
•• hyrwyddo cyfle cyfartal; a
•• cynnal amgylchedd sy’n clodfori amrywiaeth ac sy’n dangos cynnydd
gwirioneddol tuag at wneud dwyieithrwydd yn norm.
1111.. Gyda hyn mewn golwg, bydd gwaith datblygu polisi Pwyllgorau Pwnc y
Cynulliad yn dod â chanlyniadau tra phwysig. Eisoes cafwyd astudiaethau
sylweddol ar y blynyddoedd cynnar; y defnydd o dechnoleg gwybodaeth a
chyfathrebu; y cyflenwad o leoedd mewn ysgolion; a chynllunio Cynllun
Gweithredu Addysg a Hyfforddiant i Gymru. Mae adolygiad o addysg uwch yn dal
i ddigwydd. Yn eu tro, ac o dan y Cytundeb Partneriaeth newydd, mae’r
Gweinidogion wedi cychwyn ystod eang o gamau gweithredu sy’n dangos
penderfyniad i wneud newidiadau sylweddol parhaol a mwy graddol – o ran
darpariaeth a chyrhaeddiad yn gyffredinol. Yn dilyn hyn yn uniongyrchol, mae’r
Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes wedi cymryd mesurau i:
•• sefydlu rhaglen gwariant cyfalaf gadarn i drawsnewid yr amodau yn ein
hysgolion. Bydd hyn yn gyfanswm o tua £300 miliwn yn ystod y tair
blynedd hyd at 2004 gan ddisgwyl y bydd gwariant, o’r hyn sy’n gyfradd
flynyddol debyg o leiaf drwy gydol y degawd, yn bodloni targed Gwell
Cymru o gael pob ysgol mewn cyflwr ffisegol da a sicrhau eu bod yn cael
eu cynnal yn briodol, erbyn 2010;
•• darparu addysg feithrin ar gyfer pob plentyn o 3 oed i fyny os yw’r rhieni
yn dymuno hynny;
•• lleihau dosbarthiadau babanod i dri deg o ddisgyblion neu lai erbyn mis
Medi 2001 a dechrau ar y gwaith o ddod â dosbarthiadau iau i lawr i’r un
lefel;
•• hyrwyddo strategaeth i ehangu’r ddarpariaeth o gynlluniau siopau brecwast
a ffrwythau mewn ysgolion, ynghyd ag ailgyflwyno llaeth ysgol am ddim i
bob disgybl yng Nghyfnod Allweddol 1;
•• sefydlu polisi strategol ar gyfer ysgolion gwledig ac ysgolion bach, gyda
phapur i’r Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes yn yr Hydref;
9
•• rhoi strategaeth sgiliau sylfaenol bob oedran ar waith er mwyn paratoi
plant ifanc yn well ar gyfer dysgu pan fyddant yn dechrau’r ysgol a gostwng
nifer y plant, pobl ifanc ac oedolion sydd â gallu isel o ran llythrennedd a
rhifedd;
•• peilot ar gyfer Bagloriaeth Gymreig i ddarparu’r ehangder a’r profiad sydd
mor dyngedfennol i bobl ifanc os ydynt i wneud eu ffordd yn y byd – ac i
godi niferoedd y rhai sydd ar hyn o bryd yn llwyddo i gael cymwysterau
academaidd neu alwedigaethol uwch;
•• cynnig dyfodol cadarn i brifysgolion Cymru drwy gyflwyno strategaeth 10
mlynedd er mwyn cael cyllid digonol i ddatblygu ac ehangu;
•• cychwyn archwiliad annibynnol o dlodi ymhlith myfyrwyr; a
•• sicrhau bod anghenion addysgol ceiswyr lloches yn cael y sylw
angenrheidiol, a bod adnoddau digonol ar gael i ddiwallu’r anghenion hynny.
Yr Egwyddorion
1122.. Mae’r Gweinidog yn ceisio sicrhau y sefydlir nifer o egwyddorionallweddol mewn ffyrdd sy’n ddi-droi’n-ôl yn hyn i gyd. Felly mae’r canlynol ynamlwg.
•• Bydd yn rhaid rhoi lle blaenllaw i safonau a disgwyliadau uchel a
chanlyniadau sy’n gwella’n gynyddol ar gyfer pob dysgwr, beth bynnag fo’i
sefyllfa, ac ym mhob sector cyflawni rhagoriaeth ddiguro.
•• Mae buddiannau dysgwyr yn drech na phob peth arall. Mae safonau a
chanlyniadau yn golygu mwy na mewnbynnau. Bydd yn rhaid i bob sector a
darparwr gynllunio i gyflawni targedau ymestynnol ond realistig, gan rannu
arfer gorau rhyngwladol a gosod meincnodau newydd ar gyfer asesu
ansawdd.
•• Rhaid cydnabod a goresgyn y rhwystrau i ddysgu yn raddol er lles
mynediad a chyfranogiad y dysgwyr; cefnogaeth i amrywiaeth a
chymunedau; a chyfleoedd a dewisiadau ehangach.
•• Bydd yn rhaid rhoi pob anogaeth i sicrhau bod gan lwybrau dysgu
academaidd, technegol a galwedigaethol werth cyfartal i hybu’r dewisiadau
sydd ar gael i unigolion ac i hyrwyddo gallu pobl i addasu ac i gael eu
cyflogi yn wyneb newid technolegol cenedlaethol a rhyngwladol.
10
•• Bydd yn rhaid cyfyngu ar yr anghysonderau o ran cyrhaeddiad rhwng
ardaloedd, grwpiau, unigolion breintiedig a difreintiedig er lles pawb. Bydd
yn rhaid darparu’n well ar gyfer plant sy’n wynebu anfantais penodol a
phrinder cyfle.
•• Bydd yn rhaid cefnogi newyddbethau yn gyson er mwyn canolbwyntio ar
anghenion yr economi yn y dyfodol; galluogi darparwyr i ddefnyddio TGCh i
drawsnewid addysgu a dysgu ac i addasu a mireinio profiadau dysgu a
luniwyd ar gyfer anghenion, dyheadau a photensial unigolion.
•• Bydd yn rhaid clodfori barn broffesiynol ddeallus athrawon, darlithwyr a
hyfforddwyr yn ddi-ragfarn i ddisgyblaethau atebolrwydd cyhoeddus; a
chan roi ystyriaeth briodol i baratoi’r ffordd i ryddhau gallu ac arbenigedd
ymarferwyr.
•• Bydd yn rhaid ymgymryd â’r gwaith o ddatblygu polisïau a rhaglenni ar sail
partneriaeth gyda phawb a all gyfrannu at lwyddiant gan ddefnyddio
ymgynghori effeithiol; y fiwrocratiaeth leiaf posibl; a hybu ymrwymiad
gwirioneddol i waith ar draws ffiniau trefniadol gyda phartneriaid yn
chwarae i gryfderau’r naill a’r llall.
•• Bydd yn rhaid i’r ddarpariaeth ar gyfer addysg a dysgu gydol oes adlewyrchu
defnydd doeth o arian hefyd a phrofi cynigion yng Nghylchoedd Cynllunio
Cyllidebau olynol y Cynulliad yn erbyn blaenoriaethau cystadleuol.
•• Bydd yn rhaid i’r polisïau ar gyfer addysg a hyfforddiant fod yn seiliedig ar
dystiolaeth, cael eu cyflwyno’n agored a’u harfarnu; darparu seiliau cadarn
ar gyfer elwa ar wybodaeth a menter; a dangos yn glir yr enillion meintiol ac
ansoddol o fuddsoddiad y Cynulliad.
•• Bydd yn rhaid cymhwyso’r agenda ar gyfer dysgu gydol oes mewn ffyrdd
sy’n adlewyrchu anghenion ac amgylchiadau neilltuol Cymru gan roi
ystyriaeth lawn i swyddogaethau a galluoedd llywodraeth leol, cyfraniadau
busnes, a chefnogaeth hanfodol y sector gwirfoddol.
Y Camau Nesaf
1133.. Ni ellir gwadu’r datblygiadau sylweddol a wnaed yng Nghymru er mwyn
gwella safonau a pherfformiad pob dysgwr. Cafwyd cynnydd mewn ysgolion drwy
fawr ymdrech gan benaethiaid, ymarferwyr, cyrff llywodraethu, awdurdodau lleol, a
phawb sydd wedi gweithio, ac sydd yn gweithio, i’w cefnogi – gan gynnwys
busnesau a’r sector gwirfoddol. Yn yr un modd mae nifer y dysgwyr sy’n cael
11
mynediad i gyrsiau mewn colegau, prifysgolion a hyfforddiant sy’n seiliedig ar waith
wedi cynyddu’n nodedig – ynghyd ag ansawdd y cyrsiau a’r rhaglenni – o ganlyniad
i ymdrechion partneriaeth yr un mor sylweddol o fewn y sectorau hynny a
rhyngddynt.
1144.. Fodd bynnag, ni ellir arafu’r ymgyrch i adeiladu ysgolion rhagorol gyda’n gilydd,
ac i wireddu disgwyliadau uchel i bob disgybl lle bynnag y dysgant, waeth beth fo’u
hamgylchiadau. Nac ychwaith y momentwm i godi cyraeddiad ymysg pobl ifanc ac
oedolion o fewn addysg bellach, addysg uwch a hyfforddiant. Mae safle
proffesiynol ymarferwyr neu ddarparwyr addysg a hyfforddiant yn dibynnu i raddau
helaeth ar eu hymrwymiad i allu dangos sut i wella canlyniadau ar gyfer dysgwyr.
Yn yr un modd, mae angen arnynt y gefnogaeth fwyaf cadarn ac egnïol.
1155.. Isod nodir y mesurau a gymerwn i sicrhau y gallwn gyflawni ein huchelgais i
sefydlu Cymru fel gwlad sy’n dysgu, a chanddi fanteision pwerus i bawb sy’n byw
yno. Mae’n disgrifio cam nesaf y gwaith i gyflawni gwell canlyniadau mewn
ysgolion, colegau, prifysgolion, a hyfforddiant sy’n seiliedig ar waith ac i weld ei fod
yn cael digon o gefnogaeth. Yn fras mae’r ddogfen hon yn ymdrin â’n bwriad i:
•• aeiladu sylfeini cryfach ar gyfer dysgu mewn ysgolion cynradd gyda
gwelliant sylfaenol yn y ddarpariaeth yn ystod y blynyddoedd cynnar a’r
gefnogaeth i rieni (yn arbennig drwy ofal plant ategol), yn ogystal ag
anghenion arbennig;
•• sicrhau bod y trosglwyddo rhwng yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd yn
well fel bod hynny’n cyfrannu at godi safonau’n sylweddol ar gyfer y rhai
rhwng 11 a 14 oed, a’r canlyniadau a gyflawnir ganddynt; yn cyd-fynd â’r
ymdrech i ychwanegu gwerth sylweddol i’r hyn a gyflawnir rhwng 7 a 11 oed;
ac yn cysylltu â chytundebau clir rhwng ysgolion ac AALl ynghylch
canlyniadau a chefnogaeth gysylltiedig;
•• addasu arferion gweithio ysgolion yn gynyddol fel y gallant weithredu yn
fwy hyblyg, arloesol ac ymatebol er mwyn gwneud gwell defnydd eto o
dalentau ac ymrwymiad ymarferwyr wrth gefnogi dysgwyr; gweithredu yn
unigol ac mewn grwpiau partneriaeth fel adnoddau ar gyfer cymunedau; ac
atgyfnerthu cryfder y ddarpariaeth o ysgolion cyfun yng Nghymru;
•• bwrw ymlaen i drawsnewid y ddarpariaeth ar gyfer y rhai rhwng 14 a 19
oed, fel y caiff rhwystrau artiffisial eu trechu i fodloni gofynion dysgu mewn
canrif newydd. Mae rhwystrau rhwng llwybrau galwedigaethol ac
academaidd; rhwng camau cymryd cymwysterau ac arholiadau yn
12
gonfensiynol; rhwng gweithgareddau o fewn oriau ysgol a’r tu allan i oriau
ysgol; a rhwng darparwyr.
•• sicrhau bod gwasanaethau gwell i bobl ifanc yn datblygu’n gydlynus o dan
faner Ymestyn Hawliau; eu bod yn ymateb i’w hanghenion am wybodaeth a
chefnogaeth ddiduedd; a bod eu cyflwr yn cael ei bennu yn gynyddol gan
bobl ifanc eu hunain;
•• sicrhau bod gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd o ansawdd uchel
yn hygyrch i bawb drwy ddefnyddio technolegau arloesol a chyfoes;
•• cyflwyno mesurau blaengar i hyrwyddo gwell mynediad i ddysgu gydol
oes ar ôl 16 oed, yn benodol drwy addysg bellach, gan gynnwys fframwaith
o gymwysterau yn seiliedig ar gredydau a mesurau newydd o gynhaliaeth
ariannol i fyfyrwyr, prentisiaid a hyfforddeion;
•• bwrw ymlaen i fynd ar drywydd strategaethau ‘Gwnaethpwyd yng Nghymru’
er mwyn mynd i’r afael â diffygion mewn sgiliau ac ymrwymo busnes yn
fwy trwyadl, sector wrth sector, i gynllunio’r ddarpariaeth o ddysgu ym
mhob sefyllfa;
•• rhoi cefnogaeth gryfach byth i ymarferwyr drwy systemau newydd o
wobrwyo, cydnabyddiaeth, a datblygiad proffesiynol parhaus sy’n
adlewyrchu’r canlyniadau y mae eu hangen i orchfygu’r gwendidau mewn
safonau a chyrhaeddiad yng Nghymru;
•• gweithredu i foderneiddio ymdrechion cydweithrediadol addysg uwch
yng Nghymru, a rhwng Sefydliadau Addysg Uwch a sectorau eraill, er mwyn
ehangu mynediad yn sylweddol; gwella cynhyrchiant incwm; codi
gweithgaredd ymchwil; a gwneud defnydd o drosglwyddo gwybodaeth er
lles yr economi ehangach yng Nghymru.
13
14
PENNOD 2: SYLFEINI CADARN
Y Blynyddoedd Cynnar
1166.. Ein nod yw rhoi cychwyn ar garlam i bob plentyn. Ceisiwn blannu uchelgais
a disgwyliadau uchel yn gynnar. Dymunwn gefnogi rhieni i alluogi hyn i ddigwydd.
Golyga hyn ddefnyddio’r egwyddorion a sefydlwyd gan y Cynulliad fel bod
darpariaeth y blynyddoedd cynnar:-
•• yn cynnig cwricwlwm datblygu sy’n gyson ag anghenion a buddiannau
penodol pob plentyn;
•• yn darparu cyfle i bob plentyn wireddu ei botensial ac i gymryd ei le
cyflawn mewn cymdeithas ar sail cyfleoedd addysgol cyfartal;
•• yn adeiladu partneriaethau rhwng rhieni, teuluoedd, cynhalwyr,
gwarchodwyr plant, meithrinfeydd, cylchoedd chwarae ac ysgolion yn y
sectorau a gynhelir a’r sectorau nas cynhelir er mwyn datblygu gofal parhaus;
ac
•• yn cael ei arwain a’i meithrin gan ymarferwyr cymwys addas sy’n gallu gwella
safonau yn gynyddol ac yn integreiddio addysg a gofal yn effeithiol.
1177.. Rydym eisoes wedi sefydlu Panel Ymgynghorol y Blynyddoedd Cynnar i
helpu i lunio a rhoi gwybod am y
ffordd y cymhwysir yr
egwyddorion hyn – ac y datblygir
polisïau – yn y dyfodol. Cynhelir
archwiliad manwl o’r
ddarpariaeth gan awdurdodau
addysg lleol yn yr hydref. Mae’r
Panel Ymgynghorol hefyd wedi
cytuno y dylid cynnal
ymgynghoriadau ynglyn â sefydlu
Canolfannau Blynyddoedd
Cynnar integredig gan roi ystyriaeth i waith y Tasglu Plant. Neilltuwyd arian i
alluogi awdurdodau i ddatblygu cynigion gyda golwg ar sicrhau y gellir cychwyn
rhaglen i sefydlu o leiaf un Ganolfan ym mhob awdurdod yng Nghymru erbyn
Medi 2002. Mae adolygiad o’r ffordd y mae awdurdodau yn cynllunio
gwasanaethau ehangach i blant hefyd ar fin cychwyn yng nghyd-destun yr
ymgynghoriad ‘Plant a Phobl Ifanc – Fframwaith ar gyfer Partneriaeth’2. Caiff y
materion eu hystyried yn llawn gan Is-Bwyllgor Plant y Cabinet sydd newydd ei
sefydlu.
15
YY BBllyynnyyddddooeedddd CCyynnnnaarr yynngg NNgghhyymmrruu
•• Mae gan bob plentyn 4 oed le amser llawn
mewn ysgol a gynhelir.
•• Mae tua 75 y cant o blant 3 oed yr yr ysgol
yn rhan amser.
•• Fel rhan o’r Strategaeth Gofal Plant mae
9000 o leoedd gofal plant newydd wedi’u
hariannu ers 1999.
2 ‘Plant a Phobl Ifanc – Fframwaith ar gyfer Partneriaeth’ a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2000.
1188.. Ein nod yw sicrhau y caiff ymagwedd gydlynol ei mabwysiadu ar gyfer y
ddarpariaeth feithrin a gofal plant fel y bydd ar gael i bob plentyn tair blwydd oed
y mae ei rieni’n dymuno hynny ar ei gyfer. Mae integreiddio yn angenrheidiol fel
bod yr hyn a ddatblygir yn bendant er lles y plentyn, ac yn cael ei gyflwyno ar
adegau sy’n bodloni anghenion ymarferol cyfnewidiol teuluoedd a chynhalwyr.
Byddwn:
•• yn ceisio pwerau penodol i roi sylfaen gyfreithiol briodol i bartneriaethau
gofal plant a datblygiad y blynyddoedd cynnar er budd integreiddio llawn, gan
adlewyrchu disgresiwn y Cynulliad o ran polisïau a blaenoriaethau; ac
•• yn ymgynghori ar y ffordd y dylid adlewyrchu’r integreiddio nid yn unig cyn
bod addysg orfodol yn dechrau, ond yng Nghyfnod Allweddol 1 hefyd, gan roi
ystyriaeth deilwng i gyngor a gomisiynwyd yn arbennig gan Estyn.
1199.. Mae’r Cynulliad wedi amcangyfrif dros dro y bydd yr uwchraddio sy’n ofynnol
ar gyfer y blynyddoedd cynnar yn gofyn am fuddsoddiad ychwanegol o £12 miliwn
yn flynyddol o 2003. Darparwyd ar gyfer hyn mewn blaen-gynlluniau cyllidebol. Er
mwyn gwneud y defnydd gorau o’r arian hwn bydd angen hefyd:
•• sicrhau rhagor o ymarferwyr hyfforddedig â chymwysterau da. Caiff
trefniadau newydd eu rhoi yn eu lle mewn ymgynghoriad â’r holl ddarparwyr
ar sail partneriaeth i nodi faint sy’n ofynnol mewn perthynas â’r galw;
•• sicrhau bod sicrwydd ansawdd a’r system reoleiddiol ar gyfer gofal
integredig a darpariaeth y blynyddoedd cynnar, ynghyd â gofal plant y tu allan
i oriau ysgol, yn parhau i fod yn hollol addas ar gyfer cwmpas a natur
ddatblygol y sefyllfa. Bydd Estyn yn ceisio sicrhau y bydd y pwysau
rheoleiddiol yn addas i’r diben, a byddwn yn ystyried pa newidiadau y bydd
eu hangen i’r sefyllfa statudol gyffredinol er mwyn eu cefnogi yn hyn o beth;
•• gwahodd Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGCC) ac Estyn i
ystyried pa ddatblygiadau yn y cynlluniau nodau barcud a mesur ansawdd
a allai fod yn addas ar gyfer Cymru a byddwn yn ymgynghori – gan gynnwys
gyda Phanel Ymgynghorol y Blynyddoedd Cynnar, y partneriaethau presennol,
a’r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol – ar yr hyn a gynigiant; ac
•• ymgynghori ar addasrwydd cynyddu’r cyflenwad o ofal plant ac addysg yn y
blynyddoedd cynnar – drwy gynyddu’r ystod o ddarparwyr a ganiateir gan
gynnwys llywodraethwyr ysgol a chynhalwyr yn y cartref.
Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)
2200.. Rydym yn ceisio cael darpariaeth ragorol ar gyfer plant ag anghenion
arbennig, p’un a asesir bod angen datganiad arnynt ai peidio. Rydym am wneud yn
16
siwr y sylwir ar anawsterau yn gynnar. Bydd yn rhaid cael cysylltiad agos rhwng
darpariaeth o ansawdd uchel yn y blynyddoedd cynnar a chyfryngu effeithiol ar
gyfer plant ag anghenion arbennig. Rydym am i’r plant hyn gyflawni popeth y
gallant ei wneud. Mae disgwyliadau uchel yr un mor briodol iddynt hwy ag ar gyfer
pob plentyn arall. Bwriadwn deilwra’r cwricwlwm ar eu cyfer hwy, a sicrhau y
cefnogir athrawon wrth eu herio a’u hymestyn. Felly byddwn yn bwrw ymlaen i
gyflwyno’r ‘Rhaglen Weithredu ar gyfer Cymru’3 a gymeradwywyd gan y Cynulliad ac
yn dilyn y Papur Gwyrdd ar gyfer Cymru4 a gyhoeddwyd cyn ei dechrau.
2211.. Mae nifer y plant sydd â datganiad AAA yng Nghymru wedi bod yn weddol
sefydlog yn ystod y pum mlynedd
diwethaf – ar gyfartaledd ychydig
dros 17,000. Fodd bynnag, er bod
nifer y plant a aseswyd o’r newydd
bod angen datganiad arnynt wedi
gostwng rhywfaint i ychydig dros
2,000 yn ystod y blynyddoedd
diweddar, mae cyfran y
datganiadau newydd a roddir i
ddisgyblion o dan bump yn dal i
gynyddu. O’r datganiadau newydd
a gyhoeddwyd y llynedd, aeth
dros 21 y cant ohonynt i
ddisgyblion o dan bump (464), o’i
gymharu ag 8 y cant ym 1994 (227).
Mae hyn yn dangos pwysigrwydd
adnabod anghenion arbennig yn
gynnar, a’r ffordd y maent yn
datblygu drwy yrfa addysgol
plentyn.
2222.. Rydym yn edrych ar sut y
gellir gwella’r deunyddiau a’r
datblygiad proffesiynol sydd ar
gael i athrawon yn gweithio ym
maes AAA. Rydym am sicrhau
bod cynnydd plant sy’n gweithio’n
is na’r disgwyliadau ar gyfer eu hoedran yn cael ei fonitro’n fanwl yn erbyn
strategaethau cyson, a bod ysgolion yn gosod targedau priodol iddynt eu hunain i
gefnogi cynnydd y plant ag anghenion arbennig. Byddwn yn eu hannog i feincnodi
17
AAAAAA
•• Gwariant a gyllidebwyd ar gyfer AAA yn
2001-02 yw £176 miliwn – i fyny 9.5 y cant
ar y llynedd.
•• Mae nifer y disgyblion â datganiadau AAA
mewn ysgolion prif ffrwd wedi cynyddu i
75 y cant – i fyny 5 pwynt canran ers 1990.
•• Mae canran y rhai a addysgir mewn
ysgolion prif ffrwd yn amrywio ar draws
awdurdodau addysg o 23 i 92 y cant.
•• Roedd nifer y disgyblion â datganiadau a
oedd ag anawsterau dysgu cymedrol dros
5,500 ym mis Ionawr 2001.
•• Roedd nifer y disgyblion â datganiadau a
oedd ag anawsterau difrifol, dwys neu
anhawster arbennig arall dros 6,000, a’r
nifer oedd ag anhwylderau emosiynol ac
ymddygiadol dros 1,800.
•• Roedd dros 3,000 o ddisgyblion â
datganiadau ag anableddau corfforol, gan
gynnwys nam ar y clyw, nam ar y golwg ac
anawsterau llefaru.
3 ‘Llunio Dyfodol Addysg Arbennig – Rhaglen Weithredu’ – Hydref 1999.4 ‘Y GORAU ar gyfer Addysg Arbennig’ – Ionawr 1999.
eu perfformiad yn erbyn ysgolion eraill5. Byddwn yn cefnogi Estyn i ddatblygu ei
drefniadau ei hunan o ran archwilio a monitro, yn arbennig er mwyn sicrhau
datblygiad arferion cynhwysol. Byddwn yn hyrwyddo mesurau gwerth ychwanegol
ar gyfer perfformiad ysgolion, sy’n berthnasol i AAA. Byddwn yn sicrhau y bydd
cynlluniau strategol addysg yn darparu’n gywir ar gyfer gweithio aml-asiantaethol er
mwyn cysylltu cyfraniadau iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol i gefnogi
cynnydd plant ag anghenion arbennig.
2233.. Bydd Deddf AAA ac Anableddau 2001 ynddi’i hunan yn arwain at ddarpariaeth
well ar gyfer plant ag AAA ledled Cymru. Yn ystod y ddwy flynedd nesaf, bydd y
Cynulliad yn mynd i’r afael â’r blaenoriaethau canlynol i:
•• sicrhau bod AALl ac ysgolion mewn sefyllfa i adnewyddu eu polisïau a’u
gweithdrefnau ar gyfer plant ag anghenion arbennig. Bydd cynhaliaeth drwy
raglen Grantiau Cynnal Addysg a Hyfforddiant (GCAH) yn cynyddu i dros £4
miliwn o fis Ebrill 2002. Caiff Grwp Ymgynghorol Cymru ar AAA ei ailgyflunio
i helpu. Bydd Estyn yn cynnal prosiect i archwilio ansawdd y gwasanaethau a
ddarperir gan AALl;
•• mabwysiadu ymagwedd strategol i leihau tameidio gwasanaethau ar gyfer
grwpiau anableddau anfynych a dibyniaeth uchel. Mae’r Cynulliad eisoes
wedi archwilio gwaith tri phrosiect peilot rhanbarthol. Y bwriad yw eu huno
a gweithredu ar sail Cymru gyfan o fis Ebrill y flwyddyn nesaf. Bydd y
Cynulliad yn talu’r costau;
•• llunio mecanweithiau i alluogi awdurdodau lleol i ddarparu adnoddau
rhanbarthol ar gyfer plant ag anghenion ac anawsterau mwy cymhleth; rhoi
set ddata gyffredin yn ei lle sy’n cwmpasu’r holl wasanaethau perthnasol; a
sicrhau y gellir ymgymryd â’r cynllunio yn effeithiol;
•• archwilio cwmpas a graddfa’r cyllid a’r ddarpariaeth fel y gellir gwneud
effeithiolrwydd y buddsoddiad yn fwy eglur. Bydd hyn yn golygu paratoi
canllawiau cyffredin ar gyfer awdurdodau, ehangu’r Cod Ymarfer presennol, a
chael gwared ar yr amrywiadau sylweddol o ran asesiadau rhwng awdurdodau
ynghylch pryd y mae’n briodol i blentyn gael datganiad, a phryd y mae’n
briodol iddo beidio â chael datganiad;
•• sefydlu’n union i ba raddau y mae’r galw am therapi lleferydd a therapïau
eraill yn uwch na’r cyflenwad; sicrhau, pan fydd diffygion yn erbyn angen
amlwg, y cânt eu goresgyn; a’i gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ac
awdurdodau iechyd weithio gyda’i gilydd ar faterion darpariaeth yn fwy cyson
o lawer nag a wnânt ar hyn o bryd. Bydd gweithredu o anghenraid yn rhoi
ystyriaeth i anghenion ymarferwyr mewn perthynas â’r Gymraeg a’r Saesneg; ac
18
5 Gweler ‘Anelu at Ragoriaeth yn y Ddarpariaeth ar gyfer Anghenion Arbennig’ - Estyn, Gorffennaf2001.
•• ymgynghori i weld a fyddai’n gwneud synnwyr mewn egwyddor i’r Cynulliad
Cenedlaethol gael yr awdurdod i’w alluogi i sefydlu tribiwnlys penodol ar
gyfer AAA a hawliau anabledd addysgol yng Nghymru.
Ysgolion Cynradd
2244.. Mae ysgolion cynradd wedi
sicrhau gwelliannau sylweddol o
ran cyrhaeddiad eu disgyblion yn
ystod y blynyddoedd diweddar.
Er enghraifft, llwyddwyd i
gyrraedd y targedau ar gyfer 2000
yn y Cynllun Gweithredu ar
Addysg a Hyfforddiant i Gymru
(ETAP) mewn perthynas â’r
niferoedd sy’n cyrraedd y lefelau a
ddisgwylir ar ddiwedd Cyfnod
Allweddol 2. Yr her yn awr yw
cynnal momentwm i ostwng
canran y disgyblion hynny nad
ydynt yn cyflawni’r hyn y maent
yn alluog i’w wneud yn 11 oed. Ar
yr un pryd y nod fydd codi canran
yr addysgu sy’n dda neu yn dda
iawn, o’i gyferbynnu â boddhaol.
Bydd yn rhaid i hyn fynd law yn
llaw â chodi safonau addysgu a
dysgu drwy wneud y mwyaf
posibl o dechnolegau newydd – a
chau’r bwlch rhwng bechgyn a
merched o ran cyrhaeddiad, sy’n
dal i agor yn gynnar iawn.
2255.. Er mwyn helpu i gynnal
ysgolion cynradd yn hyn o beth byddwn:
•• yn darparu cymorth grant arbennig i leihau maint dosbarthiadau iau i 30
disgybl neu lai erbyn Hydref 2003. Yn 2001-02 bydd awdurdodau yn
defnyddio £9 miliwn o grant at y diben hwnnw – allan o gyfanswm o £20
miliwn a roddwyd ar gyfer hyn ac i fynd i’r afael â thangyflawni. Mae
cyfanswm y cymorth parhaus yn werth tua £57 miliwn ar gyfer y ddwy
flynedd o wanwyn 2002. Rydym yn bwrw ymlaen gyda golwg ar leihau maint
pob dosbarth cynradd i 25 neu lai yn ystod ail dymor y Cynulliad;
19
YYssggoolliioonn CCyynnrraadddd
•• Roedd maint dosbarthiadau wedi lleihauo 25.2 i 24.8 o ddisgyblion rhwng 2000 a2001.
•• Mae 94 y cant o’r dosbarthiadau aarolygwyd gan Estyn ar safonau boddhaolyn erbyn targed o 95 y cant ar gyfer 2002.
•• Mae 48 y cant yn dda neu’n dda iawn ynerbyn targed o 95 y cant ar gyfer 2002.
•• Llwyddwyd i fodloni neu i ragori ar ytarged o 60 i 70 y cant ar gyfer disgyblion11 oed sy’n cyrraedd lefel 4 neu uwchmewn profion ac asesiadau athrawonmewn Cymraeg, Saesneg, Mathemateg aGwyddoniaeth yn 2000 a gwnaedcynnydd cadarn yn y targed ar gyfer 2002(sef 70 i 80 y cant).
•• Yn gyffredinol, mae merched yn dal iberfformio’n well na bechgyn, gyda llai owahaniaeth mewn mathemateg agwyddoniaeth nag mewn ieithoedd.
•• Mae gan 14 y cant o ysgolion yng Nghymru50 neu lai ar eu rhestrau, o’i gymharu â 4 ycant yn Lloegr. Mae gan 33 y cant oysgolion yng Nghymru 100 disgybl neu lai,o’i gymharu â 15 y cant yn Lloegr.
•• Mae gan 20 y cant o ysgolion nifersylweddol o leoedd dros ben; drwyddi draw,mae 14 y cant o’r lleoedd heb eu llenwi.
•• yn ystyried a oes angen o hyd am y trefniadau asesu cenedlaethol ar gyfer
plant 7 oed – o ystyried y lefel uchel iawn y mae disgyblion yn cyflawni’r hyn
a ddisgwylir ganddynt – a’r posibilrwydd y gellid defnyddio’r adnoddau
cysylltiedig mewn modd gwahanol i alluogi athrawon i godi safonau ar draws
y cwricwlwm yn ystod y cyfnod hwnnw;
•• ymgynghori ynghylch a ddylid integreiddio, ac os felly sut orau i wneud
hynny, y Canlyniadau Dymunol6 ac i alluogi ymarferwyr i gefnogi cynnydd
cyflawn plant drwy gam sylfaenol statudol arfaethedig gyda chwricwlwm yn
ymestyn o 3 i 7 oed;
•• cynnal yr ymagwedd strategol a sefydlwyd ar gyfer Cymru i godi safonau
llythrennedd a rhifedd – gan ystyried yn llawn y rhaglenni cyflenwol i godi
sgiliau sylfaenol yn gyffredinol; a sicrhau bod pob rhaglen o’r fath, mewn
meithrinfeydd, ysgolion cynradd ac uwchradd ac addysg ôl-16, yn ennill y Nod
Ansawdd Strategaeth erbyn 2004;
•• defnyddio’r rhaglen GCAH i sicrhau y gall ysgolion cynradd gynyddu
cyflawniad nid yn unig ym mhynciau craidd y cwricwlwm, ond yn y pynciau
sylfaenol hefyd.
Trosglwyddo o’r Ysgol Gynradd i’r Ysgol Uwchradd
2266.. Mae’r dystiolaeth o
Adroddiad Blynyddol7 Estyn yn
cadarnhau nad yw’r cynnydd a
wneir gan ddisgyblion yn gynyddol
yn yr ysgol gynradd bob amser yn
parhau ar ôl symud i ysgol
uwchradd. Mae hefyd yn amlwg
nad yw ysgolion ac awdurdodau
lleol da yn ymestyn i fod yn
rhagorol. Gall tuedd ysgolion
uwchradd i adael i ddisgyblion sy’n
dod i mewn ymgyfarwyddo â’u
sefyllfa newydd achosi
goddefolrwydd neu ddryswch i rai
disgyblion. Gellir rhagdybio beth
yw’r ffordd orau i ddod â
disgyblion i lefel gyfwerth heb roi
sylw manwl i’r hyn y mae
disgyblion eisoes yn ei wybod, a
pha sgiliau sydd ganddynt eisoes. Mae hynny’n arwain at ailadrodd diangen a
20
6 Canlyniadau Dymunol i Ddysgu Plant cyn Oedran Addysg Orfodol’ – ACCAC 1996.7 Adroddiad Blynyddol Prif Arolgydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru 1999-2000.
AArriiaann
•• Rydym wedi cefnogi AALl i gyrraeddcynnydd o 10 y cant yng nghyfanswmcyllidebau gwasanaethau ysgolion dros2000-01 i £1.49 biliwn ar gyfer 2001-02.
•• Mae’r cynnydd cronnol wrth ddarparugwasanaethau addysg Awdurdodau Lleolers Ebrill 1999 yn 11.56 y cant mewntermau real.
•• Rhagwelir y bydd cyfanswm y gwariantfesul disgybl i fyny 7 y cant i £2,955 yn2001-02, o’i gymharu â £2,765 yn 2000-01.
•• Cyfartaledd y gwariant a gyllidebwydfesul disgybl yng Nghymru oedd £2,870yn 2000-01, yn uwch na phob ardal oLoegr ac eithrio Llundain ac AwdurdodauPrifddinesig Gorllewin Canolbarth Lloegra Gogledd Orllewin Lloegr.
digynnig ac agweddau sy’n annog tangyflawni ymysg y disgyblion eu hunain. Ar y
cyfan, yn ystod y 3 blynedd diwethaf, mae cyrhaeddiad ar y lefel ddisgwyliedig o
lefel 5 neu uwch ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 wedi hofran o gwmpas, neu
ychydig islaw, y gwaelod eithaf o’r targed o 60-70 y cant a osodwyd ar gyfer 2000
ar gyfer Mathemateg, Gwyddoniaeth a Saesneg
2277.. Fodd bynnag mae tystiolaeth glir y gall cydweithredu gwirioneddol effeithiol
rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd ddod â manteision enfawr o ran cyrhaeddiad
yng Nghyfnod Allweddol 3. Mae amrywiaeth o ddulliau yn cael eu defnyddio, o
gyflwyno prif ymarferwyr ymroddedig mewn llythrennedd neu rifedd er enghraifft,
i gyfarfodydd rheolaidd rhwng timau arweinyddiaeth; i ddefnydd gwell o dimau
arbenigol yn CA3 ei hunan a defnydd llawn dychymyg o staff addysgu ar draws CA2
a 3. Beth bynnag fo’r dull, yr effaith fydd pontio’r bwlch rhwng y ddwy sefyllfa yn
uniongyrchol i ddelio â’r trosglwyddo’n well, ac i gael gwell canlyniadau i rai rhwng
11 a 14 oed.
2288.. Ein blaenoriaethau yw:
•• sicrhau trwy gyfraith bod yr holl ysgolion uwchradd a’r ysgolion cynradd sy’n
eu bwydo yn ffurfio teuluoedd neu gonsortia, ac yn cynllunio mewn ffyrdd
sy’n gwneud y defnydd gorau o flwyddyn olaf Cyfnod Allweddol 2 a
blwyddyn gyntaf ac ail Cyfnod Allweddol 3, gan ystyried anghenion pob
plentyn beth bynnag fo’u doniau a’u talentau; a chael disgyblion i
drosglwyddo mewn modd cadarnhaol o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd;
•• creu system rhif adnabod dysgwr unigryw ar ffurf beilot i leihau pwysau
gwaith papur ar ysgolion; rhoi mynediad cyflymach o lawer i ymarferwyr i
ddata ar berfformiad er mwyn eu galluogi i gymhwyso eu harferion i ddiwallu
anghenion yn fwy penodol; ac i helpu i wella’r trosglwyddiadau yn 11 a 16 oed;
•• galluogi ysgolion cynradd bach – gan gynnwys y rhai sy’n gwasanaethu
cymunedau gwledig – i ffurfio grwpiau o dan un tîm arweinyddiaeth, ac un
corff llywodraethu yn unig: ar wahân i’r manteision addysgol, cymdeithasol
ac ymarferol eraill posibl, gallai trefniadau ar hyd y llinellau hyn ynddynt eu
hunain helpu i gefnogi cynllunio ar y cyd i ymdrin â throsglwyddo disgyblion
yn well i’r lefel uwchradd;
•• darparu trwy gyfraith i awdurdodau lleol ac ysgolion sefydlu protocolau ar
gyfer cytundebau partneriaeth yn nodi’r camau gweithredu y bydd AALl yn eu
cymryd i gefnogi ysgolion i godi safonau addysgol; gosod amcanion ar gyfer
cyrhaeddiad ar y cyd gyda phwyslais arbennig ar ysgolion sy’n tangyflawni neu
sydd â gwendidau amlwg; a chefnogi trefniadau ar gyfer ymdrin â
throsglwyddiadau yn 11 a 16 oed;
•• annog ysgolion i gyrraedd nodau ansawdd sy’n cefnogi hunanwerthusiad agwelliant parhaus megis Buddsoddwyr mewn Pobl a’r SefydliadEwropeaidd er Rheoli Ansawdd (EFQM); 21
•• codi hyder disgyblion a’u cael i gymryd mwy o ran drwy sefydlu cynghorauysgolion. O’u rhedeg yn dda a’u cysylltu â Fforymau Ieuenctid awdurdodaulleol, gall y rhain hefyd chwarae rhan i gyflwyno canlyniadau da wrth iddisgyblion drosglwyddo o’r lefel gynradd i’r lefel uwchradd – er enghraifftdrwy gefnogi ymweliadau ymlaen llaw a chynlluniau mentora. Fodd bynnagmae ganddynt werth ehangach eto fel rhan o’n hagenda cyffredinol i sicrhaubod gan bobl ifanc yr hawl i ddylanwadu’n uniongyrchol ar y penderfyniadausy’n effeithio arnynt. Mae agenda Ymestyn Hawliau a Fframwaith ar gyferPartneriaeth yn dangos y ffordd. Rydym yn cynnig ymgynghori ar ganllawiauarferion gorau i sefydlu cynghorau ysgolion, yn dilyn deddfwriaeth – ynenwedig drwy Llais Ifanc;
•• yn fwy cyffredinol rydym yn ymroddedig i hybu cyfranogiad plant a phoblifanc ar draws ystod o ddimensiynau mewn bywyd cymunedol. Bydd hyn arunwaith yn hybu cyrhaeddiad a datblygiad unigolion ond hefyd yn rhoi’r hawlgyfreithiol iddynt gynllunio’r gwasanaethau sy’n effeithio arnynt ynuniongyrchol. Fel ychwanegiad i’r cwmpas newydd ar gyfer cyfranogi byddadnodd gwybodaeth newydd o’r enw Canllaw Ar-Lein.
22
Cwestiynau
Y Blynyddoedd Cynnar1. A ydych yn credu bod yr agenda hon yn rhoi sylw i brif wendidau’r
ddarpariaeth?2. I ba raddau y mae polisi, arian, darpariaeth a sicrwydd ansawdd yn
hollol gysylltiedig o’ch safbwynt chi?
AAA3. A ydych yn cytuno mai’r blaenoriaethau ar gyfer gweithredu yn y
Bennod hon yw’r rhai iawn?4. A ydych yn credu y byddai’n gwneud synnwyr i sefydlu tribiwnlys ar
wahan ar gyfer AAA a hawliau’r anabl o ran addysg yng Nghymru?5. Pa gyfle pellach sydd ar gyfer gwella gwasanaethau yn uniongyrchol i
gwsmeriaid?6. Sut y gellir defnyddio TGCh i wella’r ddarpariaeth o wasanaethau?
Ysgolion Cynradd7. A welwch rinwedd mewn ystyried cam sylfaenol integredig ar gyfer y
rhai rhwng 3 a 7 oed a gwneud i ffwrdd â phrofi ar ddiwedd CyfnodAllweddol 1?
8. A yw’r ymagwedd arfaethedig at gynllunio trosglwyddiadau yn debygolo fod yn llwyddiannus?
9. A ydych yn teimlo y byddai’n fuddiol ei gwneud yn ofynnol yn statudoli gyfyngu meintiau dosbarthiadau iau i nifer penodol?
Pob Ysgol10. A ydych o blaid ei gwneud yn ofynnol cael cytundebau rhwng ysgolion
a’u AALl? Beth ddylai’r rhain ei gwmpasu?11. A ydych o blaid ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol sefydlu cynghorau
ysgolion?
PENNOD 3: ADDYSG GYFUN A DYSGU GYDOL OES YNG NGHYMRU
Cyflwyniad
2299.. Mae’r ymrwymiad i alluogi ysgolion i adeiladu ar eu cryfderau a goresgyn eu
gwendidau yn bodoli ers tro yng Nghymru. I raddau helaeth, caiff hyn ei fynegi yn
y trefniadau partneriaeth agos sy’n bodoli gydag awdurdodau addysg lleol, sy’n cael
ei adleisio yn y Cyngor Partneriaeth a sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru.
Ar y cyfan, nodweddir y wlad gan ymagweddau sy’n ceisio taro’r man canol rhwng
sicrhau bod gan ysgolion y gallu i wneud y mwyaf o’u hannibyniaeth, enw da a
hunaniaeth fel eu bod yn parhau i fod yn lleoedd lle mae disgyblion yn dymuno
bod, ac yn teimlo eu bod yn cael budd ohonynt, ac osgoi cystadleuaeth ddiangen
o blaid cydweithredu’n fanteisiol ar y naill ochr a’r llall lle bynnag y bo’n briodol.
3300.. Mae’r ymagweddau hyn wedi bod yn seiliedig ar ddatblygu ysgolion cyfun
lleol, nad ydynt yn ysgolion dethol. Maent wedi bod yn llwyddiannus. Nodwyd bod
llawer llai o ysgolion, yn ôl cyfran, mor agos i fethu fel bod angen mesurau arbennig
i’w newid yng Nghymru (8), nag yn Lloegr (778) ers mis Mai 1997. Yn yr un modd, mae
nifer yr ysgolion lle ceir llai na 25 y cant o’r disgyblion yn llwyddo mewn llai na 5
TGAU graddau A*-C yn is o lawer yng Nghymru (10) nag yn Lloegr (480) yn ôl
cyfran, ac mae’r gyfradd lle mae niferoedd yr ysgolion hynny yn gostwng yn
gyflymach yma.
3311.. Mae’r holl ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn dod o fewn y trefniadau a
sefydlwyd o dan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 sy’n darparu ar gyfer
ystod gwerthfawr o ddarpariaeth, yn y Gymraeg a’r Saesneg. Fodd bynnag, mae’n
amlwg iawn mai codi safonau pawb i lefelau sy’n curo eu lefelau blaenorol gorau
yw’r broblem strategol allweddol sy’n ein hwynebu o hyd. Ceir problemau dwys o
ran amrywiaeth mewn perfformiad a chyrhaeddiad rhwng yr ysgolion a’r
awdurdodau addysg lleol sy’n perfformio orau a gwaethaf.
3322.. Mae data a gyflwynwyd i Bwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes y Cynulliad yn
dangos nad buddsoddi mewn addysg yn unig yw’r prif beth sy’n pennu canlyniadau
llwyddiannus. Er hynny, fel y dengys y wybodaeth am berfformiad ysgolion o fewn
ardaloedd Rhoi Cymunedau’n Gyntaf8 mae llawer o ysgolion yn llwyddo i gael
canlyniadau rhyfeddol yn ogystal â rhai yn y cymunedau mwyaf difreintiedig. Yn
gyffredinol, mae Cymru yn gwario mwy y pen fesul disgybl nag unrhyw le yn Lloegr
ac eithrio Llundain a dau awdurdod prifddinesig. Mae ysgolion yn llwyddo i gael
canlyniadau sy’n cymharu’n dda iawn â’r rhan fwyaf o ardaloedd yn Lloegr. Rydym
23
8 Adfywio Ein Cymunedau Mwyaf Difreintiedig ‘Rhoi Cymunedau’n Gyntaf’. Ail Bapur Ymgynghori– Cynigion Gweithredu. Rhagfyr 2000.
yn ymroddedig i weithio mewn partneriaeth a nodi ffyrdd o gynnal y momentwm
sefydledig er budd gwell safonau yng Nghymru, tra ar yr un pryd yn lleihau’r bylchau
a nodwyd o ran cyrhaeddiad.
AArrddaallooeedddd CCyymmrruu aa LLllooeeggrr
CCyymmhhaarruu ggwwaarriiaanntt aa cchhyyrrhhaaeeddddiiaadd ggwwaassaannaaeetthhaauu yyssggoolliioonn 11999988--9999
3333.. Ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) rydym wedi sefydlu
gweithgor sy’n cynnwys ymarferwyr, aelodau etholedig, swyddogion, Estyn ac
amrywiaeth o bobl eraill – gyda chefnogaeth ymchwil a gomisiynwyd. Bydd yn
archwilio’r hyn sy’n gweithio i godi cyrhaeddiad ysgol gyfan a nodi’r gweithredu i
ledaenu arferion da. Bydd y Grwp "Lleihau’r Bwlch" yn cyflwyno adroddiad yn
2002. I baratoi ar gyfer hyn, rydym wedi gwneud camau pwysig i sicrhau y caiff
penderfyniadau ynghylch dyrannu adnoddau ar lefel y Cynulliad, awdurdod lleol ac
ysgol eu gwneud yn fwy eglur. Cyn sefydlu’r Cynulliad, ni fu ffigurau cynhwysfawr ac
archwiliedig ar gael mor agored a systematig erioed.
3344.. Byddwn yn cynnal gallu cyfansoddiadol awdurdodau lleol i gyrraedd
safbwyntiau cytbwys ynghylch buddsoddiad sy’n addas i’w hamgylchiadau ac y
maent yn y sefyllfa orau i’w cyfiawnhau. Byddwn hefyd yn mynd i’r afael â
gwendidau technegol yn y system, er enghraifft, yn rhai sy’n gysylltiedig â natur
eglur dirprwyo rhwng awdurdodau lleol ac ysgolion; y lwfans ar gyfer amddifadedd
cymdeithasol yn fformwla dosbarthu GCAH; ac i ba raddau y ceir gwahaniaethau yn
y ddarpariaeth fesul disgybl rhwng awdurdodau na ellir eu hegluro gan gostau
ychwanegol gwledigrwydd a ffactorau eraill. Rydym hefyd yn bwriadu ceisio cael
pwerau i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu fforymau lleol ar gyfer
ymgynghori â’u hysgolion ynghylch anghenion cyllid cyffredinol a’r fformwla lleol a
ddefnyddiwyd i ddosbarthu arian rhwng ysgolion.
24
DC
DODDd
Dwyr
CymruGO GC
E&H GDd
-12%
-9%
-6%
-3%
0%
3%
6%
9%
12%
-3% -2% -1% 0% 1% 2% 3%
Cyfartaledd sgôr pwyntiau TGAU/GNVQ
cyllideb fesul disgybl, o'i gymharu â'r cyfartaledd
Sgôr
pw
yntia
u TG
AU
/G
NVQ
, o'
i gym
haru
â'r
cyfa
rtal
edd
(ETES: data dros dro 2001)DC = Dwyrain Canolbarth Lloegr; GC = Gorllewin Canolbarth Lloegr; DDd = De Ddwyrain Lloegr; DO = DeOrllewin Lloegr; GD = Gogledd Ddwyrain Lloegr; GO = Gogledd Orllewin Lloegr; E&H = Sir Efrog a Humberside
Ysgolion sydd wedi’u Canolbwyntio ar Gymunedau
3355.. Uwchlaw popeth, rydym am gael cyfundrefn ysgolion cyfun, hyderus, a llawn
cymeriad yng Nghymru. Mae hon yn system lle y gall ysgolion ddatblygu, a gwneud
y mwyaf o’u cryfderau a’u gwreiddiau amrywiol. Rydym am weld perthynas agosach
o lawer rhwng ysgolion a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Rydym am i
ysgolion weithredu fel adnodd yn y gymuned – nid yn ystod oriau ysgol yn unig ond
y tu allan i oriau ysgol ac yn ystod y gwyliau hefyd. Fe’u gwelwn fel rhan annatod o
adeiladu gallu cymunedol – gan ddarparu sylfaen ar gyfer cyflwyno nid yn unig
addysg a hyfforddiant (gyda chysylltiadau â sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg
Uwch), ond hefyd ystod o wasanaethau eraill fel cynhaliaeth deuluol a hybu iechyd
a menter. Rydym am weld eu gwreiddiau yng nghyd-destun y gymuned eang; yn
gallu ymfalchïo eu cyflawniadau, ac yn gallu sicrhau eu bod yn cael eu cydnabod yn
gyhoeddus.
3366.. Gwelwn ysgolion – lawn cymaint â darparwyr eraill – fel sefydliadau sy’n
poeni’n fwyfwy ynghylch galluogi pobl i ddysgu sut i ddysgu, yn ogystal â bod yn
ymroddedig i drosglwyddo gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth. Ystyriwn yr awydd
i ddysgu, a’r hyder i wneud hynny, fel tueddiadau hanfodol bwysig ar gyfer y
dyfodol. Gwelwn ysgolion uwchradd, yn arbennig, yn symud i ffwrdd yn gynyddol
o amserlenni caeth, a hyd yn oed addysgu yn yr ystafell ddosbarth, i ddulliau mwy
hyblyg o lawer o ddarpariaeth sydd wedi’u teilwra i anghenion y dysgwr unigol ac
wedi’u cefnogi gan ddysgu o bell a TGCh hollrymusol.
3377.. Yng Nghymru rydym yn parhau i fod yn ymroddedig i’r ddarpariaeth o
ysgolion cyfun nad ydynt yn ysgolion dethol. Mae’r patrwm hwn o ddarpariaeth yn
ein gwasanaethu’n dda. Eto i gyd rydym yr un mor benderfynol o fabwysiadu ffyrdd
newydd o alluogi ysgolion i fod yn llwyddiannus. Gall rhai o’r rhain ymwneud â’r
sector preifat. Mae nifer o awdurdodau lleol ac ysgolion wedi sefydlu
partneriaethau ag ysgolion, er enghraifft drwy bartneriaethau preifat-cyhoeddus ar
gyfer adeiladau ysgol newydd. Ysgol Penweddig yng Ngheredigion yw’r ysgol gyntaf
o’r fath yng Nghymru ac mae nifer o gynlluniau eraill ar y gweill. Mae Cyngor
Bwrdeistref Sirol Tor-faen yn edrych ar y posibilrwydd o gael nawdd y sector preifat
ar gyfer cyfleuster newydd o fewn darpariaethau cyfreithiol arferol ysgol gyfun
gymunedol. Gallai cynlluniau o’r fath, sy’n dod â budd sylweddol i’w hardaloedd,
fod yn bwysig iawn. Yn wir, mae’n bosibl y byddant yn batrymau ar gyfer ysgolion y
dyfodol.
3388.. Fodd bynnag, mewn gwlad fach, gydag awdurdodau unedol cymharol fach, â
chymaint o nodweddion ac amgylchiadau penodol, byddai peryglon gwirioneddol
wrth symud ar raddfa eang tuag at fesurau helaeth nas profwyd ac a gyflwynwyd
yn unig drwy’r sector preifat neu sector arall yn ddiwahân a heb roi ystyriaeth lawn
i’r goblygiadau fesul achos. Mae manteision defnyddio ymagwedd gadarn a chyson
25
sy’n adlewyrchu’r egwyddorion ym Mhennod 1 wedi’u harddangos yn rymus ar gyfer
Cymru. Mae’n rhaid y bydd amheuon gwirioneddol ynghylch unrhyw beth a allai
darfu ar batrwm cynhyrchiol y berthynas honno yn sylweddol – cyn belled ag y
byddant yn parhau felly.
3399.. Yn hollol ar wahan, er ein bod yn awyddus iawn i annog ysgolion i adeiladu ar
eu cryfderau a’u datblygu lle ceir cysondeb â chyflwyno’r Cwricwlwm Cenedlaethol,
nid ydym yn bwriadu sefydlu rhaglen ysgolion arbenigol. Serch hynny, ni fydd neb
sy’n pryderu ynghylch anghenion dysgwyr yng Nghymru yn dymuno cymryd
safbwynt ragfarnllyd neu hunanfodlon ynghylch newid. Mae nifer o newidiadau sy’n
cael eu cynnig yn Lloegr mewn perthynas ag ysgolion a dylem groesawu sylwadau
ar eu haddasrwydd ar gyfer Cymru. Mae cynigion ar gyfer deddfwriaeth:
•• i roi i ysgolion a ddiffiniwyd fel rhai llwyddiannus fwy o annibyniaeth - o
bosibl dros bennu cyflogau a’r hyn sy’n cael ei addysgu;
•• i ddadreoleiddio rôl llywodraethwyr wrth benodi staff; ysgafnhau’r pwysau
arnynt drwy gyfyngu ar eu cyfrifoldebau mewn achosion diswyddo i wrando
ar apeliadau;
• i ddisodli corff llywodraethu lle mae ysgol yn wynebu her eithriadol neu lle
mae’r corff presennol yn methu â symud yr ysgol yn ei blaen; gyda Bwrdd yn
gweithio gyda’r AALl a rheolwyr yr ysgol i gael gwelliant cyflym;
• i gael canllawiau yn lle’r cyfarwyddyd ynglyn a’r ffordd y mae llywodraethwyr
yn cyflawni eu busnes;
•• i agor ystod ehangach o opsiynau i sicrhau gwelliant mewn ysgolion yn sector
addysg y wladwriaeth - ac ysgolion lleol llwyddiannus, cyrff gwirfoddol neu’r
sector preifat o bosibl yn cynnal ysgolion sy’n wynebu mesurau arbennig,
neu’n cael eu contractio ar wahoddiad llywodraethwyr i gyflwyno gwelliant
penodol o ran gwasanaethau;
•• i wella’r pwerau sy’n ymdrin â diffygion yn yr AALl a’r ymyriadau ganddynt;
•• i’w gwneud yn ofynnol i bob AALl sefydlu Fforwm Derbyniadau;
•• i’w gwneud yn ofynnol i AALl gydlynu trefniadau ar gyfer dyrannu lleoedd
mewn ysgolion gyda dyletswydd ar ysgolion sefydledig ac ysgolion a
gynorthwyir yn wirfoddol i gymryd rhan mewn cynlluniau o’r fath sydd wedi’u
cydlynu;
•• i gael cyrff llywodraethu i ffurfio grwpiau ac i weithio gyda’i gilydd.
4400.. Fel sy’n digwydd yn Lloegr, rydym yn parhau i fod yn hollol ymroddedig isystem addysg gyffredinol, a ariennir gan y cyhoedd ac sy’n atebol i’r cyhoedd, acyn addysg rydd ar y pwynt cyflwyno. Fodd bynnag, i’r graddau y mae’r mesuraunewydd hyn yn ymddangos mewn deddfwriaeth sylfaenol sydd i’w chyflwyno ac
26
nad ydynt yn cyd-fynd â threfniadau sy’n gweithio’n dda ac yn cael canlyniadau dayng Nghymru, bwriadwn y bydd gan y Cynulliad yr awdurdod i beidio â bwrwymlaen – ac yn sicr nid heb gael ymgynghoriad llawn iawn ymlaen llaw acarchwiliad trwyadl o’r holl oblygiadau. Felly, er y bydd y Mesur Addysg hwn sydd arfin cael ei gyflwyno yn cwmpasu Cymru a Lloegr, bydd llawer o’r darpariaethau ynrhai galluogol o ran eu natur a bydd gan y Cynulliad Cenedlaethol yr hawl i nodi iba raddau y maent i’w cymhwyso yng Nghymru.
Ysgolion Uwchradd a Pherfformiad
4411.. Mae targedau anodd wedi
bod yn eu lle ers amser ar gyfer
cyrhaeddiad yn 14 oed yng
Nghymru. Fodd bynnag, mae
arwyddion clir i ddangos bod
cynnydd tuag at wella
cyrhaeddiad ar ddiwedd Cyfnod
Allweddol 3 wedi cyrraedd man
gwastad. Mae’n amlwg bod angen
gwneud llawer rhagor i gefnogi
athrawon wrth godi safonau yn y
pynciau craidd, a chyfoethogi’r
profiad a gaiff disgyblion rhwng 11
a 14 oed yn yr ysgol. Dyma’r
oedran y bydd unrhyw ddisgybl
sydd mewn perygl o brofi
anniddigrwydd ac sy’n cael yr
ysgol yn brofiad di-fudd, yn mynd
ar goll. Fodd bynnag, nid ystyriwn
fod yr ymagwedd gyffredin neu
orfodol tuag at lythrennedd,
rhifedd, a safonau mewn pynciau
eraill yn fwy cyffredinol yn
briodol yng Nghymru. Bwriadwn
ddod â thîm o ymarferwyr profiadol at ei gilydd gyda chymheiriaid o Estyn ac
Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (ACCAC) i ddatblygu
canllawiau addas ar gyfer y gwahanol sefyllfaoedd yng Nghymru.
4422.. Disgwyliwn y defnyddir hyn mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol fel y
gellir cael yr elw gorau posibl o weddill y grant penodol a fydd ar gael eleni ac am
y ddwy flynedd nesaf i helpu i ostwng maint dosbarthiadau cynradd; mynd i’r afael
â phroblemau ysgolion sy’n tangyflawni; a chodi safonau yn gyffredinol yng
27
FFffeeiitthhiiaauu
•• Mae nifer yr ysgolion uwchradd sydd â
llai na 25 y cant o ddisgyblion yn ennill 5
neu ragor o TGAU A* - C neu gymhwyster
cyfatebol wedi syrthio o 27 ym 1996 i 10
yn 2000 – a’r targed ar gyfer 2002 yw dim.
•• Mae canran y gwersi a asesir gan Estyn fel
rhai da neu dda iawn bellach yn fwy na 50
y cant.
•• Mae canran y rhai sy’n ennill 5 TGAU
graddau A* - C neu gymhwyster cyfatebol
bellach yn gyfartal â Lloegr ar 49 y cant.
•• Mae 85 y cant o ddisgyblion yn ennill 5
TGAU graddau A* - G neu gymhwyster
cyfatebol yn erbyn targed o 90 y cant
erbyn 2002.
•• Mae 36 y cant o’r disgyblion yn ennill
graddau A* - C TGAU yn y pynciau craidd
yn erbyn targed o 40-60 y cant erbyn
2002.
Nghyfnod Allweddol 3. Bydd
awdurdodau lleol yn defnyddio
£9 miliwn yn 2001-02 i godi
safonau yng Nghyfnod Allweddol
3 a £2 filiwn i weithio gydag
ysgolion sy’n tangyflawni. Byddwn
yn sicrhau y bydd GCAH yn trefnu
i ddarparu deunyddiau newydd
rhagorol i athrawon a datblygiad
proffesiynol parhaol cyflenwol.
Caiff ei ddefnyddio hefyd i alluogi
pob athro, beth bynnag fo’i bwnc, i gefnogi gwelliannau mewn llythrennedd a
rhifedd; atgyfnerthu sgiliau ymarferwyr yn y meysydd hyn; gwella asesiad; a
hyrwyddo galluoedd disgyblion i resymu. Byddwn yn sicrhau y defnyddir rhan
ohono i rwydweithio ymarfer da ledled Cymru. Byddwn hefyd yn ystyried a ddylid
targedu cyfleoedd ychwanegol ar gyfer Addysg a Hyfforddiant mewn Swydd (HMS)
yn benodol at gynnal y momentwm gwelliant yng Nghyfnod Allweddol 2; codi
safonau yng Nghyfnod Allweddol 3 a hyrwyddo arloesi ar gyfer hyn a dibenion eraill
yn ehangach.
4433.. Ar yr un pryd byddwn yn darparu cymorth i ysgolion ymdrin ag ymddygiad
gwael gan ddisgyblion; gweithredu
ar egwyddorion cyfle cyfartal ac
amrywiaeth; mynd i’r afael ag
anniddigrwydd; a chynyddu
mynediad i gymwysterau a chael
llai o absenoldebau. Bwriadwn
archwilio i ba raddau y mae gan
Estyn yr awdurdod digonol i
archwilio’r ddarpariaeth ar gyfer
plant nad ydynt yn cael eu
haddysgu mewn ysgol i sicrhau, er
enghraifft, bod plant mewn
ysbytai yn gael bargen dda yn
addysgol. Rydym hefyd am godi
cyraeddiadau plant ‘sy’n derbyn
gofal’. Byddwn yn annog
Awdurdodau Lleol i weithredu ar
argymhellion yr astudiaeth9 ar y cyd rhwng AGCC ac Estyn a gyhoeddwyd ym mis
Gorffennaf. Byddwn yn hyrwyddo cydweithio; yn cynnwys plant sy’n derbyn gofal
28
PPllaanntt ssyy’’nn ‘‘ddeerrbbyynn ggooffaall’’
•• Roedd 3,200 o blant yn derbyn gofal yngNghymru ym mis Mawrth 1999.
•• Mae dros 75 y cant o blant sy’n derbyngofal yn gadael addysg ffurfiol hebgymwysterau.
•• Dim ond 3 y cant sydd â phump neu ragoro TGAU graddau A* - C.
•• Mae llai na 0.3 y cant yn mynd ymlaen iaddysg bellach.
CCyyrraaeeddddiiaaddaauu
•• Roedd nifer y plant 15 oed sy’n gadaeladdysg amser llawn heb gymhwystercydnabyddedig yn 1226 yn 2000, wedigostwng o 1320 ym 1999.
•• Ar gyfartaledd ni chofestrwyd 6 y cant oblant 15 oed ar gyfer sefyll unrhywarholiad TGAU yn 2000 – gostyngiad o 2y cant ers 1997. Mae’r ystod fesul AALl ynymestyn o 2 i 11 y cant.
•• Mae canran y bwlch cyrhaeddiad rhwngbechgyn a merched - 5 TGAU A* - C neugymhwyster cyfatebol wedi bod yn 11 ycant ar gyfartaledd yn ystod y 4 blynedddiwethaf.
9 ‘Education Provision for Looked After Children’ Gorffennaf 2001.
nad ydynt mewn addysg amser
llawn; ac yn defnyddio systemau
gwybodaeth newydd i fonitro’r
cynnydd a wneir tuag at fodloni
amcanion dysgu. Drwy roi’r sylw
cyson i hwn, ein bwriad yw
gwneud yn siwr bod ysgolion yn
sicrhau gwelliannau parhaol o ran
safonau, ac yn cyflawni targedau
mwy ymestynnol byth rhwng
2004 a 2010.
4444.. Ni all y gwasanaeth addysg
ar ei ben ei hun sicrhau safonau
gwell ar gyfer y disgyblion â’r lleiaf
o fantais. Felly nod y rhaglen Rhoi Plant yn Gyntaf yw trawsnewid y dull o reoli a
chyflwyno gwasanaethau a chanlyniadau i blant mewn angen. Yn ganolog i
amcanion y rhaglen y mae’r nod o godi safonau addysgol plant sy’n derbyn gofal, er
enghraifft. Bydd Rhoi Plant yn Gyntaf yn llwyddo ar yr amod bod awdurdod lleol
yn gweithredu fel rhiant corfforaethol ac yn cymryd yr un diddordeb ag unrhyw
riant arall ym magwraeth y plant y mae’n gofalu amdanynt. Mae uno â
gwasanaethau eraill a’r sector gwirfoddol yn dyngedfennol – a bydd arian at y diben
ar gael drwy Rhoi Plant yn Gyntaf, Cronfa Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc ac i
gefnogi Ymestyn Hawliau. Bydd cyfanswm o ryw £60 miliwn, gan gynnwys arian a
gynhelir gan GCAH, gwasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol a Gyrfa Cymru, ar
gael i gyflenwi gwaith y gwasanaeth addysg ar gyfer y flwyddyn nesaf yn unig.
Ymddygiad a Dinasyddiaeth
4455.. Mae’r hyn y mae disgyblion yn ei ddysgu, a sut y cânt eu hannog i ymddwyn
yn yr ysgol yn effeithio’n sylweddol ar eu hymddygiad fel dinasyddion, a’u cyfraniad
at y gymdeithas ehangach. Yn ôl Estyn mae ysgolion yn lleoedd agored, cadarnhaol
a chynhyrchiol iawn. Mae tystiolaeth helaeth bod ysgolion yn gweithredu’n unol â
chanllawiau’r Cynulliad Cenedlaethol ‘Cynnal Disgyblion a Chynhwysiant
Cymdeithasol’10. Mae llawer o ysgolion yn darparu cwricwla gwahanol a rhaglenni
dysgu arloesol i ailennyn diddordeb disgyblion sy’n anfodlon, sy’n aml yn fechgyn
ym mlynyddoedd 10 ac 11. Mae Cynlluniau Datblygu Ysgol a Chynlluniau Strategol
Addysg yr AALl yn cynnwys mesurau a thargedau i wella ymddygiad, lleihau nifer y
gwaharddiadau a chynyddu presenoldeb. Mae’r rhaglenni Menter Ieuenctid a Porth
Ieuenctid wedi bod yn llesol i’r plant hynny sydd mewn perygl o ddatblygu
29
CCyyrraaeeddddiiaaddaauu
•• Mae canran y sesiynau hanner diwrnod agollwyd gan ddisgyblion o oedran ysgolgorfodol mewn ysgolion uwchradd wedibod yn 10 y cant ar gyfartaledd yn ystody 4 blynedd diwethaf.
•• Yn 2000 roedd canran y disgyblion agyrhaeddodd y lefel ddisgwyliedig yngNghyfnod Allweddol 3, neu’r tu hwnt,mewn pynciau nad oeddent yn bynciaucraidd yn amrywio fesul pwnc rhwng 40 ycant a 66 y cant. Ar gyfer AddysgGorfforol, Celf a Cherddoriaeth roedd ynamrywio rhwng 67 a 76 y cant.
10 ‘Cynnal Disgyblion a Chynhwysiant Cymdeithasol’. Cylchlythyr 3/99 y Cynulliad Cenedlaethol.
ymddygiad gwrth-gymdeithasol, a bydd agenda Ymestyn Hawliau hefyd yn
cyfannu’n sylweddol at hyn yn y dyfodol.
4466.. Er hyn, mae nifer sylweddol o adroddiadau Estyn yn cyfeirio at ymddygiad
heriol iawn ymhlith lleiafrif bychan o ddisgyblion. Mae hyn yn cael effaith
sylweddol ar brofiad dysgu a chyfleoedd bywyd y disgyblion hyn a’u cyfoedion.
Fodd bynnag, mae’r tueddiadau yn anodd i’w sefydlu. Mae’r gofynion newydd ar
adrodd yn arwain at gasglu gwell data am drais, ond bydd angen dwy flynedd arall
cyn y gellir asesu’r wybodaeth mewn modd dibynadwy, a rhaid gwneud mwy o
waith i sicrhau y defnyddir dull cyffredin o gasglu data ledled Cymru. Beth bynnag
yw lefel y trais a’r ymddygiad gwael gan ddisgyblion, neu rieni, ni ellir ei ddioddef–
a byddwn yn cefnogi newid priodol i’r ddeddfwriaeth er mwyn mynd i’r afael ag ef.
4477.. Yn ddiamheuaeth mae’r sialensau sy’n cael eu hwynebu gan oedolion yn aml
yn ei gwneud yn anodd iawn iddynt fod yn gyson wrth reoli ymddygiad eu plant eu
hunain - plant sy’n anodd ac yn ymholgar. Ond nid yw hyn yn esgusodi achosion o
ymddygiad bygythiol gan rieni tuag at ddisgyblion ac athrawon. Fel rhan o’r polisi
byddwn yn rhoi blaenoriaeth i fesurau ataliol. Fodd bynnag, byddwn hefyd yn
ystyried a ddylid ehangu Gorchmynion Rhieni pan fo rhieni’n methu â chefnogi
ysgol drwy reoli ymddygiad eu plentyn yn yr ysgol. Byddwn yn archwilio pa
gymorth ychwanegol sydd ei angen ar ysgolion i weithredu - drwy gyfrwng y
llysoedd petai rhaid - pan fo rhieni yn sarhaus ac yn dreisgar. Mae angen cymorth
ar ysgolion i gynnal cyfundrefn ddysgu drefnus - ac i wneud hynny rhaid cael
cefnogaeth lwyr y llywodraethwyr, y rhieni, y cynhalwyr a’r awdurdodau, o fewn y
gyfraith. Yn unol â hyn byddwn yn defnyddio GCAH i dargedu cefnogaeth ar gyfer:
•• ysgolion uwchradd â chanddynt broblemau difrifol o ran ymddygiad gwael,
presenoldeb isel a chyrhaeddiad isel;
•• ymyrraeth gynnar i gynorthwyo plant ifanc sy’n cael trafferth i ganolbwyntio
a chydweithredu;
•• ehangu hyfforddiant ar gyfer ymarferwyr mewn rheoli ymddygiad a
gwrthdaro;
•• annog rhieni i gymryd cyfrifoldeb dros ymddygiad eu plant.
4488.. Yn y pen draw rhaid i’r ysgolion fod â’r hawl i wahardd disgybl sy’n ymddwyn
yn wael iawn yn barhaol. Ond nid dyma’r ateb i’r broblem. Mae’n anodd taro
cydbwysedd rhwng y bygythiad i’r trefnusrwydd sy’n angenrheidiol i brofiad dysgu’r
disgyblion a ddaw yn sgîl cadw disgybl ag ymddygiad gwael yn yr ysgol, a’r effeithiau
30
niweidiol yn gymdeithasol ac yn bersonol o wahardd disgybl. Mae’n anodd osgoi’r
canlyniadau dinistriol a ddaw yn sgîl tynnu plentyn allan o fyd addysg.
4499.. Er mwyn tynnu sylw’n gyson at y dulliau o ymdrin â’r broblem ddifrifol hon,
pennodd y Cynulliad darged i leihau nifer y gwaharddiadau parhaol o draean. Yn
ychwanegol, pasiodd reoliadau ar gofrestru deuol er mwyn cyflwyno data cywir ar
bresenoldeb mewn ysgolion. Disgwylir y bydd y targed ar waharddiadau yn cael ei
gyflawni. Yn dilyn hyn, credwn fod amrywiaeth ehangach o ddulliau ar gyfer ymdrin
ag ymddygiad gwael wedi cael eu defnyddio. Mae arferion da wedi’u rhoi ar waith
drwy ddefnyddio Unedau Cyfeirio Disgyblion; cynllunio ar gyfer ail-integreiddio
disgyblion i ysgolion y brif ffrwd ac ysgolion arbennig, gwersi yn y cartref,
cefnogaeth y Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Addysg a’r sector gwirfoddol.
Mae’r rhain oll wedi ennill eu plwyf bellach, ac felly gellir cyfiawnhau symud y
pwyslais o’r targed gwaharddiadau unigol i gyfeiriadau newydd.
5500.. Mae £10 miliwn o arian GCAH ar gael ar gyfer 2001-02 er mwyn mynd i’r afael
â’r anfantais gymdeithasol sy’n gysylltiedig ag ymddygiad gwael. Mater i’r ysgolion a’r
AALl yw penderfynu ar y modd gorau i ddefnyddio’r cyllid yn lleol. Wrth ddatblygu’r
dewisiadau, ni ddylid eu cyfyngu i leoliadau cyffredin eu hansawdd ar gyfer cael
gwared ar ddisgyblion. Pan fo angen darpariaeth amser-llawn ar gyfer disgyblion y
tu allan i’r ysgol rhaid iddo fod yn addas i’r diben ac o ansawdd uchel. Fodd bynnag,
ar gyfer y tymor byr, ein blaenoriaethau fydd:
•• cynnal cynhadledd bwysig yn yr Hydref ar ysgolion ac ymddygiad disgyblion;
i adolygu’r arferion gorau presennol, a nodi’r goblygiadau ar gyfer polisi ac
ariannu yng Nghymru;
•• sicrhau bod yr holl ddisgyblion sy’n cael eu gwahardd am fwy na thair
wythnos yn derbyn addysg amser-llawn addas o fis Medi 2002 ymlaen;
•• ymchwilio i ba raddau mae ysgolion yn defnyddio cyfres o waharddiadau byr
mewn achosion lle nad oes digon o ddewisiadau eraill i sicrhau y gellir ail-
gyfeirio’r plentyn yn llwyddiannus;
•• archwilio a ellid ehangu’r Menter Mynediad Ieuenctid (sydd bellach yn rhan
o’r Gronfa Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc), Rhaglen Partneriaeth Gwaith
Ieuenctid mewn Ysgolion a dulliau tebyg i’r rhai a ddefnyddir yn y rhaglen
Porth Ieuenctid mewn ysgolion;
•• cefnogi datblygu’r cwricwlwm, hyfforddi staff, gofal bugeiliol arbenigol,
cynllunio ar gyfer ail-integreiddio; a datblygiad proffesiynol staff y
Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Addysg;
31
•• pwysleisio’r angen i hyrwyddo arferion da, a rhwystro drwgarferion rhag
ymsefydlu, yn hytrach na delio’n unig â’r digwyddiadau unigol – gan sicrhau y
rhoddir blaenoriaeth a chyfleoedd i ddisgyblion sydd mewn perygl o ymadael
â’r ysgol ac sy’n ymddwyn yn wael, a hynny drwy’r trefniadau partneriaeth a
gyflwynwyd o dan Ymestyn Hawliau;
•• cyhoeddi canllawiau newydd ar swyddogaeth y Llywodraethwyr wrth
ymdrin ag apeliadau yn erbyn gwaharddiadau, i sicrhau bod y penderfyniadau
a wneir yn seiliedig ar gyngor yr ymarferwyr; ac
•• ar ôl y gynhadledd genedlaethol yn yr Hydref, cyhoeddi canllawiau newydd
ar gyfer Llywodraethwyr a phenaethiaid ar sut i ymdrin â chwynion ynghylch
ymddygiad athrawon mewn perthynas â disgyblion anystywallt ac unrhyw
gamau disgyblu dilynol, ac ystyried a fyddai’n ddefnyddiol cyflwyno
swyddogaeth annibynnol i sicrhau yr ymdrinnir â’r prosesau perthnasol gyda
chefnogaeth addas ac mewn da bryd.
32
Y Cyfnod 14 – 19 oed
5511.. Mae rhwystrau gwirioneddol i ddysgu yn y gwahaniaeth syfrdanol sy’n bodoli
rhwng addysg orfodol cyn 16 oed a’r cyfleoedd addysg a hyfforddiant ar ôl 16 oed.
Mae’r rhain yn effeithio ar ba gymwysterau a enillir, pa arholiadau sy’n cael eu sefyll
a phryd; ar ba mor atyniadol yw’r llwybrau galwedigaethol o’u cymharu â’r llwybrau
academaidd; ar beth sy’n cael ei wneud yn yr ysgol, y tu allan i oriau ysgol neu
mewn lleoliadau eraill; ac ar y cyfle i ddysgu sut i ddysgu. Rhaid goresgyn y
rhwystrau hyn. Ein bwriad yw:
•• cyflwyno gofyniad i ysgolion gynllunio mewn modd mwy systematig ar gyfer
ymdrin â’r trosglwyddo yn 16 oed, a hynny ar y cyd â darparwyr dysgu ar ôl
16 oed eraill, Gyrfa Cymru a’r Cyngor Cenedlaethol– ELWa;
•• mynd ar drywydd y newidiadau deddfwriaethol y dylid eu cyflwyno er
mwyn sicrhau effeithiolrwydd gweithredol – yn bennaf i sicrhau bod gan yr
ysgolion yr hyblygrwydd sy’n angenrheidiol i gynnig dewis eang o bynciau, ac
i gynnwys llwybrau galwedigaethol cadarn i ategu’r llwybrau academaidd o
fewn y cwricwlwm cyfan;
•• darparu cefnogaeth i addasu’r cyfleoedd i fodloni tueddiadau, galluoedd a
dewisiadau’r person ifanc yn well; rhoi cyfle i’r rhai mwyaf galluog wneud
cynnydd ar gyflymder sy’n gweddu i’w haeddfedrwydd; a chyflwyno ystod
ehangach o ddewisiadau ynglyn â’r lleoliadau lle y gall pobl ifanc ddysgu;
•• sefydlu fframwaith statudol cliriach ar gyfer Addysg Bersonol a
Chymdeithasol ac addysg sy’n gysylltiedig â gwaith;
•• caniatáu i ddisgyblion gyfuno cymwysterau academaidd a galwedigaethol ac
opsiynau sy’n seiliedig ar waith, ac felly cymhwyso egwyddor gwerth
cyfartal i lwybrau academaidd a galwedigaethol;
•• hyrwyddo profiadau eang ar ôl 16 oed, i gynnal prif nodweddion diwygiadau
Cymwysterau Llwyddiant – gan ddysgu gwersi ynghylch y llwyth gwaith a’r
rheolau cyfuno ar gyfer y Fagloriaeth Gymreig;
•• sicrhau y defnyddir fframwaith cymwysterau sy’n seiliedig ar gredydau yn
yr ysgolion fel ym mhob lleoliad arall; a
•• mynd ar drywydd deddfwriaeth i ehangu cylch gorchwyl Estyn i gynnwys
arolygiadau ardal o’r ddarpariaeth 14-16 oed er mwyn asesu pa mor gydlynol
yw dysgu cyn 16 oed ac ar ôl 16 oed ledled Cymru.
33
5522.. Y brif ystyriaeth yma yw nad ydyw’n amlwg bellach y dylai pob disgybl symud
drwy’r ysgol uwchradd ar yr un cyflymder, ac nad 16 oed yw’r prif raniad o safbwynt
eu datblygiad. Efallai y bydd angen ysgogiad newydd ac arloesol ar y disgyblion
hynny nad yw’r ysgol yn apelio atynt er mwyn adeiladau ar eu sgiliau a’u hyder – o
fewn yr ysgol neu’r tu allan. Efallai y bydd eraill am ehangu’u hastudiaethau neu
astudio pynciau mewn mwy o fanylder, gan dreulio mwy o amser o’r dewisiadau
galwedigaethol neu symud i astudiaeth uwch ar ôl cyflawni TGAU yn gynnar. Yn
ogystal, dylai’r casgliadau ynghylch pa arddull a chyd-destunau addysgu sy’n
gweithio orau i’r disgyblion gael eu rhoi ar waith mewn modd hyblyg er mwyn helpu
rhagor o ddisgyblion i lwyddo.
5533.. Mae llawer o waith eisoes ar y gweill i sicrhau bod y fframwaith cymwysterau
yn fwy hyblyg ac yn haws i’w addasu. Mae credydau ar gyfer modiwlau;
cymwysterau newydd megis TGAU mewn astudiaethau galwedigaethol, AS, Safon
Uwch a Safonau Uwch galwedigaethol, Hyfforddiaethau Cenedlaethol a
Phrentisiaethau Modern oll yn chwarae rhan yn hyn, fel y mae’r profiad o weithredu
canllawiau newydd ACCAC ar addysg yn gysylltiedig â gwaith. Mae hyn oll yn
hanfodol er mwyn agor mynediad i Addysg Bellach, Addysg Uwch a hyfforddiant
sy’n gysylltiedig â gwaith. Fodd bynnag mae mwy eto i’w wneud. Ein bwriad yw:
•• datblygu’r Fagloriaeth Gymreig gan sicrhau y rhoddir ystyriaeth lawn i
bwysigrwydd rhoi cyfle di-dor i ymgeiswyr ddarparu ar gyfer y cymhwyster
newydd cyn iddynt gyrraedd 16 oed;
•• gwahodd ACCAC i sicrhau bod rhyngberthynas foddhaol yn bodoli rhwng
cynllunio profion ac asesiadau’r athrawon yng Nghyfnod Allweddol 3, a’r
TGAU neu’r cymwysterau galwedigaethol dilynol;
•• ystyried y mesurau sy’n hanfodol o dan y Cynllun Gweithredu
Entrepreneuriaeth i Gymru er mwyn cyfoethogi profiad y dysgwyr, yn
arbennig yn y cyfnod 14-19 oed;
•• gwella ansawdd a pherthnasedd profiad gwaith fel rhan o’r broses o
fabwysiadu gwell agwedd tuag at ddysgu galwedigaethol;
•• adeiladu ar waith y Panel ar Addysg Datblygu Cynaliadwy;
34
•• gwahodd ACCAC i gyflwyno cyngor ar ddewisiadau posibl ar gyfer cynyddu’r
hyblygrwydd sydd ar gael i ysgolion drwy ddatgymhwyso’r Cwricwlwm
Cenedlaethol. Byddai hyn yn rhoi ystyriaeth i’r siâp a’r strwythur dewisiadau
gwahanol yng Nghyfnod Allweddol 4 yng Nghymru o’i gymharu â Lloegr. Bydd
hefyd yn cynnwys edrych hefyd ar ba mor ddefnyddiol fyddai datgymhwyso
yng Nghyfnod Allweddol 3 mewn rhai achosion er mwyn cefnogi’r cynnydd
yn y cyfnod 14-19 oed; ac
•• ymgynghori yn 2002 ar ddatblygu polisi ym maes 14-19 oed gyda’r holl
gyfranddeiliaid.
Adeiladu Amgylchedd Cefnogol
5544.. Ein dymuniad yw cael gwared ar feichiau biwrocrataidd diangen er mwyn
rhyddhau amser ar gyfer addysgu a dysgu. Mae’r Cynulliad wedi cymeradwyo
adroddiad y prosiect a gwblhawyd yn ddiweddar ar feichiau biwrocrataidd. Mae’r
adroddiad yn cynnwys cynllun gweithredu sy’n cael ei roi ar waith gennym. Mae’n
cael ei ystyried fel rhan o’r astudiaeth ehangach ar lwyth gwaith athrawon yng
Nghymru a Lloegr a gomisiynwyd gan yr Adran Addysg a Sgiliau.
5555.. Ar yr un pryd, rydym yn dymuno gweld teuluoedd yn derbyn cymorth yn
ystod a’r tu hwnt i oriau ysgol. Pan fo hyn yn cynnwys yr angen am ofal plant, mae
achos cryf o blaid rhoi pwerau deddfwriaethol i’r ysgolion ei ddarparu os dymunant
wneud hynny. Drwy gyfrwng rheolaeth ofalus, a defnyddio staff proffesiynol mewn
modd cyfrifol, gallai hyn ehangu oriau’r ysgol drwy gynnwys clybiau brecwast ac
ystod eang o weithgareddau y tu allan i oriau ysgol, gan gynnwys gweithgareddau
diwylliannol a chwaraeon. Credwn y dylai prosbectws o weithgareddau o’r fath fod
ar gael ar gyfer pob plentyn sydd yn yr ysgol yng Nghymru, o bosibl yn seiliedig ar
gymhelliant neu gredyd, ac yn cynnwys cyfnodau o wyliau.
5566.. Byddwn yn:
•• cyhoeddi cod ymarfer yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ar fanteisio i’r
eithaf ar weithgareddau’r ysgolion – gan gynnwys gwybodaeth ar ystod o
brosiectau enghreifftiol sy’n cael eu hariannu gan y Cynulliad;
•• bwrw ymlaen â nifer o argymhellion yn Adroddiad y Tasglu Addysg
Gorfforol a Chwaraeon yn yr Ysgol – gan gynnwys sefydlu canolfannau
datblygu’r cwricwlwm;
•• sicrhau bod y £48.7 miliwn sydd ar gael ar gyfer Addysg Gorfforol a
Chwaraeon gan y Gronfa Cyfleoedd Newydd yn ategu ymdrechion yr
ysgolion, yr AALl a Chyngor Chwaraeon Cymru i hyrwyddo chwaraeon a
ffyrdd iach o fyw ledled y wlad;
35
•• comisiynu Estyn i gynnal arolwg o’r ddarpariaeth ym maes y celfyddydau i
gynnwys Cyfnodau Allweddol 2 a 3, ac i ystyried beth yw’r modd gorau o
gynnwys y celfyddydau a mentergarwch greadigol mewn gweithgareddau
allgyrsiol i bobl ifanc;
•• parhau â’r Gronfa Datblygu Cerddoriaeth, ac ystyried sefydlu cronfa
celfyddydau a cherddoriaeth ar gyfer pobl ifanc pan fydd adnoddau ar gael;
•• manteisio i’r eithaf ar fynediad am ddim i Amgueddfeydd ac Orielau
Cenedlaethol Cymru, y Prosiect Diwylliant-Ar-Lein sy’n cael ei arwain gan
Lyfrgell Genedlaethol Cymru a gwaith Techniquest; a’i
•• gwneud yn ofynnol i Gyrfa Cymru gysylltu â’r diwydiannau creadigol i sicrhau
bod mynediad i wybodaeth am yrfaoedd cysylltiedig a chyfleoedd profiad
gwaith ar gael yn eang.
Adnabod Llwyddiant ac Osgoi Methiant
5577.. Cyflwynwyd Tablau Perfformiad yn rhoi gwybodaeth am ysgolion unigol ar
adeg pan nad oedd llawer o wybodaeth ynghylch cyrhaeddiad ar gael i ymarferwyr
nac ychwaith i rieni. Mae’r sefyllfa ddeng mlynedd yn ddiweddarach yn bur
wahanol. Mae llawer mwy o ddata ar gael, ac mae ymarferwyr bellach yn fwy
medrus wrth ei ddefnyddio i wella addysgu a dysgu dros gyfnod o amser. Mae’n
hanfodol bod ysgolion unigol yng Nghymru yn sicrhau bod gwybodaeth ar
berfformiad ar gael i rieni ar sail ddilys sy’n gyffredin i bawb. Dyma’r wybodaeth a
ddefnyddir gan athrawon flwyddyn ar ôl blwyddyn, a hwy sydd yn y sefyllfa orau
i’w gosod yng nghyd-destun ehangach bywyd yr ysgol yn eu trafodaethau â’r rhieni.
Nid oes unrhyw reswm pam na ddylid annog y rhieni i werthfawrogi perfformiad
cyffredinol yr ysgol fesul blwyddyn – gan osod canlyniadau mesuradwy yng nghyd-
destun ystod ehangach o gyrhaeddiadau mewn ffyrdd sy’n hybu yn hytrach nag yn
gwanhau hyder y gymuned leol. Mae gan rieni ddiddordeb ym mherfformiad yr
ysgol y bydd eu plentyn yn mynd iddi, neu’r ysgol y mae eisoes yn ei mynychu. Felly,
nid yw cyhoeddi llyfrynnau ynghylch ysgolion ledled Cymru yn berthnasol iawn
iddynt. Mae’r asesiadau o gyrhaeddiadau pobl ifanc hefyd yn datblygu’n fwyfwy
soffistigedig. Felly, yn dilyn ymgynghoriad, mae’r Gweinidog dros Addysg a Dysgu
Gydol Oes wedi penderfynu peidio â pharhau i gyhoeddi’r llyfrynnau hyn ond yn
hytrach, i gyhoeddi data agregedig ar lefel AALl. Yn amodol ar waith datblygu
pellach, bydd y deunydd hwn yn cael ei ategu maes o law gan ddata gwerth
ychwanegol a fydd yn rhoi darlun gwirioneddol foddhaol o berfformiad ysgolion
unigol.
36
5588.. Yn ychwanegol at hyn, mae Estyn eisoes wedi dechrau ymgynghori ar
fframwaith arolygu cyffredin ar draws holl ystod ei swyddogaethau, ar y modd
gorau i sefydlu hunan-werthuso a’i arolygu, ac i ba raddau y dylai’r arolygiadau
ganolbwyntio ar y rhai sy’n perfformio waethaf. Mewn egwyddor, mae cyflwyno
elfennau o ‘ymdriniaeth ysgafn’ a dethol fel rhan o’i arolygiadau yn rhywbeth i’w
ganmol. Gwnaed cynigion ar y model hwnnw yng Nghymru rai blynyddoedd yn ôl,
ond cymysg fu’r ymateb. Bydd Estyn yn annog ailystyried y manteision ymhell cyn
sefydlu cylch arolygu cyffredin ar gyfer yr holl ddarparwyr perthnasol o fewn y 3
blynedd nesaf. Yn y cyfamser mae’r Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes
wedi gwahodd Estyn i gynhyrchu crynodeb chwemisol o’r arferion gorau a nodwyd
yn ystod ei holl astudiaethau ac arolygiadau i’w ddefnyddio gan rwydweithiau
ymarferwyr, ac er mwyn rhoi cydnabyddiaeth gyhoeddus i’r enghreifftiau o
ragoriaeth mewn lleoliadau penodol. Bydd hyn yn ategu’r Mynegai Gwelliant
Ysgolion sy’n parhau i gael ei gyhoeddi’n flynyddol gan ACCAC.
37
CWESTIYNAU
1. A ydych yn cytuno na ddylai’r Cynulliad sefydlu rhaglen ysgolion
arbenigol – ac y dylai fod yn ofalus ynghylch newid y gyfundrefn
reolaeth bresennol, defnyddio partneriaid ar gytundebau, a rhoi
hunanreolaeth i ysgolion llwyddiannus?
2. A ydych yn cytuno y dylai’r Cynulliad hybu datblygiadau arloesol mewn
ysgolion, heb newid fframwaith presennol y ddarpariaeth ysgolion yng
Nghymru?
3. A yw’r cynigion ar gyfer y cyfnod 14-19 oed yn briodol?
4. A yw’n gwneud synnwyr i ddibynnu ar farn broffesiynol athrawon wrth
godi safonau yng Nghyfnod Allweddol 3 o fewn fframwaith o
ganllawiau manwl i Gymru, yn hytrach na strategaethau gorfodol?
5. A yw’r agenda ar gyfer gwella’r trosglwyddo yn 11 oed ac 16 oed yn
synhwyrol?
6. A yw’r ymagwedd yn y bennod hon tuag at ymddygiad mewn ysgolion
yn gadarn?
7. Ym mha fodd y dylid datblygu’r cysyniad o ysgolion fel adnoddau
cymunedol – a sut y gellid gwella dysgu yn lleol drwy ddefnyddio’r
model hwn?
38
PENNOD 4: DYSGU A CHYFLE CYFARTALYNG NGHYMRU
Cyfle i Bawb
5599.. Mae Deddf Llywodraeth Cymru yn gosod cyfrifoldeb neilltuol ac arbennig ar
y Cynulliad Cenedlaethol i fynd i’r afael â chyfle cyfartal. Rhaid cael gwared yn
raddol ar rwystrau anymwybodol sefydliadol a’r rhwystrau eraill i ddysgu. Gallwn
adeiladu ar gryfderau – er enghraifft, y dull a fabwysiadodd ACCAC tuag at
ddatblygu’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru, polisi Estyn ar fframweithiau
arolygiadau; ac ymdrechion cyfatebol partneriaethau enghreifftiol rhwng
awdurdodau lleol a gwasanaethau eraill statudol a gwirfoddol. Cafodd Comisiwn
Cyfle Cyfartal Cymru ei ariannu i gyhoeddi canllawiau ar gyfer ysgolion. Ein bwriad
ar gyfer y dyfodol yw:
•• gweithredu ar argymhellion Adroddiad Pwyllgor Cyfle Cyfartal y Cynulliad a
gymeradwywyd gan y Gweinidog ar fesurau i’w cyflwyno yng nghyfundrefn
addysg Cymru er mwyn trechu hiliaeth – a gofynion y Ddeddf Cysylltiadau
Hiliol (Diwygio) 2000 fel y maent yn gymwys i’r sectorau addysg a
hyfforddiant yng Nghymru;
•• bwrw ymlaen ag arolwg cynhwysfawr a rheolaidd o niferoedd a
chyraeddiadau disgyblion o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig yng
Nghymru. Felly, lle ceir patrymau amlwg o dangyflawni, bydd modd
defnyddio adnoddau yn fwy effeithiol i fynd i’r afael â hwy – yn erbyn cefndir
o osod targedau ar sail gadarn ar gyfer grwpiau sydd mewn perygl o
dangyflawni;
•• darparu cefnogaeth i ysgolion, uwch-reolwyr ac ymarferwyr ar gyfer gosod
disgwyliadau uchel a thargedau cyrhaeddiad ar gyfer disgyblion o
leiafrifoedd ethnig o’r rhaglen GCAH flynyddol, ac ar gyfer y rhai nad Saesneg
na Chymraeg yw eu hiaith gyntaf, sydd angen cefnogaeth ychwanegol i wneud
cynnydd yn yr ysgol;
•• darparu cymorth ariannol ychwanegol i’r awdurdodau yng Nghymru sydd, neu
sy’n debygol o letya ffoaduriaid a cheiswyr lloches, yn enwedig yn dilyn y
gwrthdaro yn Nwyrain Ewrop;
•• sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweithio gydag ysgolion i’w galluogi i
fodloni gofynion Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anableddau 2001 i
ddarparu mynediad i blant a phobl ifanc anabl – drwy gyfrwng cynlluniau
trefniadaeth ysgol a rhaglenni buddsoddi cyfalaf. Ar yr un pryd rhan o gylch
39
gorchwyl ELWa fydd galluogi darparwyr hyfforddiant ac addysg ar ôl 16 oed,
yn enwedig yn y sector addysg bellach ac uwch, i fodloni gofynion y Ddeddf;
•• annog cyrff llywodraethu ysgolion, colegau a phrifysgolion i ganolbwyntio ar
bwysigrwydd mabwysiadu ymagwedd gydlynol yn y modd y maent yn
ffurfio’u haelodaeth, a mynd i’r afael ag anghydbwysedd rhwng dynion a
menywod o fewn eu cyrff llywodraethu a’u timau staff. Anogir sefydliadau
addysg uwch i gynnal adolygiadau peilot ar dâl cyfartal yn ystod y flwyddyn
ariannol hon, yn dilyn canllawiau y Comisiwn Cyfle Cyfartal;
•• parhau i fonitro perfformiad cymharol bechgyn a merched yn erbyn targedau
a bennir yn y Cynllun Gweithredu Addysg a Hyfforddiant, ac ymgynghori ag
ymarferwyr ar sut i ymdrin ag anghyfartaleddau o safbwynt cyrhaeddiad yn y
tymor hir; a
•• galluogi ACCAC i ddarparu canllawiau ar y cwmpas o fewn Cwricwlwm
Cenedlaethol Cymru ar gyfer hyrwyddo cyfle cyfartal a dealltwriaeth o
amrywiaeth.
Dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
6600.. Yn fuan bydd y Pwyllgor
Addysg a Dysgu Gydol Oes yn
cynnal arolwg polisi o’r Iaith
Gymraeg a’i effaith ar addysg a
hyfforddiant. Y bwriad yw
cyfrannu at astudiaeth ehangach
sy’n cael ei chynnal gan y Pwyllgor
Diwylliant ar y polisi iaith ar gyfer
y dyfodol. O safbwynt ysgolion,
mae nifer y disgyblion sy’n cael eu
haddysgu mewn lleoliadau
cyfrwng Cymraeg dynodedig wedi
tyfu yn gyflymach yn ystod y
deng mlynedd diwethaf na’r
cynnydd cyffredinol yn niferoedd
y disgyblion.
40
YYssggoolliioonn CCyyffrrwwnngg CCyymmrraaeegg
•• Ym mis Ionawr 2000 cyfanswm nifer y
lleoedd mewn ysgolion cynradd cyfrwng
Cymraeg oedd 55,000 – 18 y cant o’r holl
leoedd cynradd.
•• Mae maint dosbarthiadau yn gyffredinol
yn llai mewn ysgolion cynradd cyfrwng
Cymraeg nag mewn ysgolion cyfrwng
Saesneg.
•• Mae bron i 23 y cant o ysgolion uwchradd
yn defnyddio Cymraeg yn iaith hyfforddi
ar gyfer o leiaf hanner eu pynciau sylfaen.
•• Mae nifer yr ysgolion o’r fath wedi tyfu o
44 i 52 yn ystod y degawd diwethaf.
•• Mae 18 y cant o ddisgyblion uwchradd yn
mynychu’r ysgolion hyn – o’i gymharu â 15
y cant 10 mlynedd yn ôl: mae 14 y cant yn
astudio Cymraeg fel iaith gyntaf – o’i
gymharu ag 11.7 y cant ddegawd yn ôl.
6611.. Yr Awdurdodau Addysg Lleol sy’n gyfrifol am gynllunio a darparu lleoedd
mewn ysgolion. Mae ganddynt ddwy brif ddogfen gynllunio, sef Cynllun Addysg
Cymraeg sy’n nodi polisi’r awdurdod ar gyfer datblygu’r ddarpariaeth addysg
cyfrwng Cymraeg; a’r Cynllun Trefniadaeth Ysgol (SOP) sy’n cael ei ddiweddaru’n
flynyddol, ac sy’n ymdrin â chynllunio’r holl leoedd mewn ysgolion, gan gynnwys
lleoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Er bod y galw am addysg cyfrwng
Cymraeg yn cynyddu, mae poblogaeth gyffredinol yr ysgolion yn lleihau, a bydd yn
parhau felly drwy gydol y degawd. Rhaid i bob awdurdod reoli’r ddarpariaeth
addysg cyfrwng Cymraeg fel rhan o’i strategaeth ar gyfer cydbwyso’r cyflenwad a’r
galw am leoedd mewn ysgolion.
6622.. Mae’r SOP wedi’i gynllunio i sicrhau bod yr awdurdodau’n ystyried yn
systematig sut i ddefnyddio’u hadnoddau yn effeithiol. Rhaid iddynt ddiweddaru eu
cynlluniau’n flynyddol, ac mae pob cynllun yn cynnwys cyfnod o 5 mlynedd i’r
dyfodol. Rhaid i’r awdurdodau ddangos drwy gyfrwng eu SOP sut y maent yn
cynllunio’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg law yn llaw â mathau eraill o
ysgolion. Mae’r cynlluniau sy’n ofynnol gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg hefyd yn
cyflawni diben tebyg.
6633.. Ar gyfer disgyblion sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr
ysgol, ychydig o gyfle sydd yn gyffredinol iddynt dderbyn addysg bellach, addysg
uwch neu addysg yn gysylltiedig â gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg, ac anghyson
yw’r ddarpariaeth. O ganlyniad, bydd ELWa yn ystyried y posibiliadau ar gyfer
cryfhau’r llwybrau cynnydd ar y cyd â’r awdurdodau lleol, sefydliadau a darparwyr
hyfforddiant drwy gyfrwng y Consortia Cymunedol. Rhoddir sylw arbennig i
sefyllfa’r ysgolion cyfrwng Cymraeg â chanddynt chweched dosbarthiadau bach
(sydd efallai’n gwasanaethu ardaloedd sy’n bell oddi wrth ddarparwyr eraill ôl 16
beth bynnag) er mwyn manteisio i’r eithaf ar y trefniadau partneriaeth ar ôl 16 oed
sy’n datblygu. Drwy gyfrwng ACCAC, darperir cefnogaeth ar gyfer cymwysterau
cyfrwng Cymraeg – arholiadau cyfrwng Cymraeg Lefel A, TGAU a’r Dystysgrif
Cyrhaeddiad Addysgol, ac asesiadau GNVQ cyfrwng Cymraeg. Hefyd rhoddir
cymorth i gyfieithu manylebau ac asesiadau GNVQ a Safonau Uwch
galwedigaethol, i gael deunyddiau ac mae’n ariannu’r waith o gyfieithu Profion
Sgiliau Allweddol. Mae’r Cynulliad hefyd yn cefnogi ystod o waith i gynyddu’r
cyrsiau NVQ sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.
6644.. Mae dros 20,000 o fyfyrwyr yn cofrestru’n flynyddol ar gyrsiau Cymraeg i
Oedolion a ariennir gan y Cyngor Cenedlaethol - ELWa. Cynhelir y cyrsiau hyn
mewn sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch. Mae llawer yn llwyddo i gael
cyllid ychwanegol drwy gyfrwng trefniadau trydydd parti gydag AALl a sefydliadau
arbenigol. Mae’r ddarpariaeth Gymraeg i Oedolion yn cael ei chydlynu gan 8
41
consortia a sefydlwyd ym 1994. Mae CCAUC yn darparu cyllid ychwanegol i
sefydliadau AU ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg i ategu eu cynlluniau i gefnogi
darpariaeth cyfrwng Cymraeg drwy’r holl sefydliadau. Ym mlwyddyn academaidd
1999/2000 ychydig dros 2,900 o fyfyrwyr a gofrestrodd mewn sefydliadau AU yng
Nghymru a dderbyniodd unrhyw addysg cyfrwng Cymraeg. Yr oedd oddeutu hanner
y rhain yn dilyn cyrsiau hyfforddi athrawon.
6655.. Yn fwy cyffredinol, mae’r Cynulliad wedi cyfrannu at gost sefydlu gwefan iaith
Gymraeg Cyswllt Dysgu. Mae’r gwasanaeth hwn yn gysylltiedig â’r Brifysgol i
Ddiwydiant (PiD) ac yn cael ei ddefnyddio’n gynyddol fel ffynhonnell dysgu o bell
mewn canolfannau dysgu, ar gyfer hyfforddiant yn y gweithle neu yn y cartref. Mae
nifer yr adnoddau dysgu sydd ar gael yn Gymraeg hefyd yn cynyddu’n raddol. Mae’r
blaenoriaethau cychwynnol yn ymwneud â sgiliau TG; llythrennedd a rhifedd
sylfaenol; sgiliau ar gyfer mentrau bach a chanolig; a’r sgiliau y mae eu hangen ar
wasanaethau aml-gyfrwng, y maes manwerthu, a’r sectorau modurol ac
amgylcheddol. Mae Coleg Digidol Cymru hefyd yn ddatblygiad ategol sy’n
defnyddio teledu digidol. Dechreuodd y gwasanaeth cwbl ddwyieithog hwn
ddarlledu ym mis Tachwedd y llynedd.
6666.. Ar gyfer y dyfodol, ein bwriad yw:
•• rhoi ystyriaeth drwyadl i argymhellion y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes
yn deillio o’u hastudiaeth o’r polisi iaith Gymraeg mewn perthynas ag addysg
a hyfforddiant;
•• adolygu’r modd y caiff y ddarpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng
Cymraeg ei hariannu unwaith y daw canlyniad yr archwiliad presennol yn
hysbys, ac ar ôl cwblhau asesiad o’r galw yn y dyfodol;
•• annog ysgolion ac AALl i weithredu ar ganfyddiadau astudiaeth Estyn ar y
Cwricwlwm Cymreig a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 11;
•• ceisio gwella’r cydlyniad rhwng cynlluniau trefniadaeth ysgol a’r cynlluniau
addysg cyfrwng Cymraeg cysylltiedig sy’n dilyn cyngor Bwrdd yr Iaith
Gymraeg (ByIG) a Chymdeithas y Cyfarwyddwyr Addysg yng Nghymru
(ADEW);
•• dadansoddi cynlluniau rheoli asedau AALl unwaith y byddant ar gael er mwyn
nodi a yw amodau ysgolion cyfrwng Cymraeg yn wahanol iawn i amodau
ysgolion eraill yng Nghymru;
42
11‘Dimensiwn Cymreig y Cwricwlwm yng Nghymru: Arfer Dda mewn Addysgu a Dysgu”.
•• ystyried pa dystiolaeth sy’n bodoli o lwyddiant cymharol gwahanol ddulliau
trochi ar gyfer dysgu’r iaith, a’r defnydd ohonynt pan fydd plant yn cael eu
cyflwyno i leoliadau cyfrwng Cymraeg rhwng 5 a 7 oed, neu’n 11 oed;
•• cryfhau’r cysylltiadau rhwng Mentrau Iaith ac ysgolion lleol, gyda chymorth
ByIG;
•• ystyried cynigion gan Fwrdd y Brifysgol12 ar gyfer datblygiad cynyddol dysgu
cyfrwng Cymraeg o fewn AU yng nghyd-destun adolygiad y Pwyllgor Addysg
a Dysgu Gydol Oes o addysg uwch;
•• cefnogi rhwydwaith yr ymarferwyr NVQ cyfrwng Cymraeg ledled Cymru; ac
•• annog rhwydweithiau o gyflogwyr i weithio gydag ysgolion a chymunedau i
ddangos beth yw’r galw ar gyfer sgiliau iaith Gymraeg ymysg cyflogwyr yn y
gwahanol sectorau yng Nghymru.
TGCh
6677.. Mae’n hanfodol defnyddio technolegau mewn modd cytbwys sy’n esgor ar
gyfleoedd dysgu. Mae fframwaith strategol Cymru Ar-lein13 yn anelu’n benodol at
sefydlu Cymru fel rhywle lle y gall cymunedau lleol ddefnyddio TGCh i gael gwared
ar rwystrau ffisegol, daearyddol ac ieithyddol a mynd i’r afael ag allgáu
cymdeithasol. Mae rhaniad digidol yn gwbl annerbyniol. Rydym am sicrhau bod
pawb yn meddu ar y sgiliau a’r ddealltwriaeth i gyfranogi a manteisio ar yr oes
wybodaeth. Mae’r buddsoddiad o bron i £27 miliwn yng Nghymru o’r Gronfa
Cyfleoedd Newydd yn cael ei ddefnyddio i roi’r holl lyfrgelloedd cyhoeddus ar-lein,
i ddigideiddio deunyddiau dysgu ac i hyfforddi athrawon, llyfrgellwyr ysgolion a
llyfrgellwyr cyhoeddus14. Mae hyn wedi’i ategu gan raglen £75 miliwn i ddatblygu
TGCh mewn ysgolion, addysg bellach ac addysg uwch a lleoliadau eraill dysgu gydol
oes. Mae’r technolegau newydd – o fyrddau gwyn rhyngweithiol i feddalwedd
arloesol – oll yn cynnig adnoddau hollbwysig ar gyfer dysgu ac addysgu o safon.
Byddwn yn adeiladu ar broffil e-ddysgu ac yn:
•• annog datblygu sgiliau TGCh hanfodol mewn cymunedau lleol – gan gefnogi
achredu canolfannau dysgu cyfleus a leolir mewn ysgolion a cholegau ac yn
ehangach. Ymysg yr amcanion fydd cefnogi ffyrdd newydd o alluogi pobl i
ddysgu a defnyddio’r Gymraeg;
•• gwella cyfleusterau TGCh ledled y maes addysg a hyfforddiant. Drwy
gyfrwng GCAH mae’r buddsoddiad mewn caledwedd a chysylltedd yn golygu
y byddwn yn cyflawni targed y Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu i gysylltu
pob ysgol â’r rhyngrwyd erbyn 2002. Mae hefyd wedi gwella’r gymhareb
disgybl:cyfrifiadur mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd. Ar gyfer y 3
43
12‘Bwrdd y Brifysgol ar gyfer Addysgu Cyfrwng Cymraeg Prifysgol Cymru.13‘Cymru Ar-lein: Online for a Better Wales’ Gorffennaf 2001.14‘Gweler ‘Adroddiad ar Faterion Llyfrgell a Gwybodaeth 1999 a 2000’ - Cynulliad CenedlaetholCymru, Gorffennaf 2001.
blynedd o Ebrill 2001 ymlaen byddwn yn darparu £24 miliwn ar gyfer
cyfleusterau TGCh mewn ysgolion, ac yn gwella’r cyfleoedd hyfforddi i
athrawon;
•• gwneud TGCh yn fwy hygyrch i ddysgwyr o bob oedran drwy sefydlu
Canolfannau Dysgu TGCh mewn ysgolion a sefydliadau cymunedol. Bydd y
Strategaeth Dysgu ar gyfer TGCh yn darparu cyfleusterau TGCh newydd ar
gyfer disgyblion ysgol ac oedolion sy’n ddysgwyr mewn dros 400 o leoliadau
ledled Cymru o fis Medi 2001 yn ogystal a chefnogi prosiectau lleol i ehangu
mynediad i TGCh mewn ardaloedd Rhoi Cymunedau yn Gyntaf. Byddwn
hefyd yn darparu arian ar gyfer prosiectau peilot i edrych ar fanteision
Sefydliadau Dysgu electronaidd yng Nghymru;
•• hybu datblygu deunydd addysgu a hyfforddi dwyieithog sy’n berthnasol i
Gymru. Mae TGCh yn rhoi mynediad i ystod o gynnwys a deunydd ar gyfer yr
ystafell ddosbarth sy’n parhau i gynyddu. Rhaid gwneud rhagor i fanteisio ar
y gwaith da a gynhelir ar lefel leol a chreu deunydd newydd ar ffurf electronig
sydd ar gael yn eang, ynghyd â datblygu adnoddau digidol i gefnogi’r
Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru;
•• cefnogi datblygiad cyflenwol a chydlynol y PiDd yng Nghymru, learndirect
a’r Coleg Digidol er mwyn helpu dysgwyr i ddysgu oddi wrth ei gilydd a’u
galluogi i gael mynediad i ddysgu mewn lleoedd cyfleus ac ar adegau sy’n
gyfleus iddynt, p’un a yw hynny yn y cartref, yn y gymuned neu yn y gweithle;
a
•• chynyddu nifer y bobl a chanddynt sgiliau TGCh o safon uchel, a cheisio’u
cadw yng Nghymru. Bydd ELWa yn sefydlu grwp arbenigol i gynghori’r
Cynulliad Cenedlaethol a’i bartneriaid ar y prif gamau i’w cymryd yn y maes
hwn yn ystod y degawd nesaf.
6688.. Mae adolygiad presennol y Pwyllgor Pwnc eisoes yn edrych ar oblygiadau e-
ddysgu o fewn y sector, ac yn cefnogi partneriaethau gydag AB a darparwyr eraill i
gryfhau mynediad i AU. O safbwynt ysgolion, mae’r Gweinidog dros Addysg a Dysgu
Gydol Oes eisoes wedi nodi y bydd yn rhoi tri prif argymhelliad adroddiad y
Pwyllgor ar TGCh mewn Addysg ar waith. Mae hyn yn cynnwys sefydlu Panel
Ymgynghorol TGCh i ddarparu cyngor pendant ar ddatblygu a chyflwyno polisi;
sefydlu Tasglu i lunio strategaeth ar gyfer TGCh yng Nghymru, gan gynnwys gwell
dulliau caffael; a thîm y Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Cymru fydd yn nodi ac yn
datblygu deunydd electronig yn y ddwy iaith ac yn cefnogi datblygu’r Cwricwlwm
Cymreig. Yn ei grynswth, gall mynediad i TGCh ddarparu traffordd ar gyfer dysgu na
44
welwyd mo’i thebyg o’r blaen. Gyda hyn mewn golwg mae’r Gweinidog dros Addysg
a Dysgu Gydol Oes yn bwriadu sefydlu panel ymgynghorol e-ddysgu anffurfiol i
gynnwys holl elfennau ei phortffolio er mwyn ceisio cynnal lefel y cynnydd, a
mabwysiadu ymagwedd fwy strategol ar gyfer y dyfodol.
45
CWESTIYNAU
1. I ba raddau mae GCAH yn gweithio i gefnogi cyfle cyfartal o’ch
safbwynt chi?
2. A ddylai data ar anghydbwysedd rhwng dynion a menywod a
chyfleusterau ar gyfer dysgwyr anabl gael eu cyhoeddi yn adroddiadau
blynyddol ysgolion, colegau a phrifysgolion?
3. A oes rhwystrau dysgu penodol yng Nghymru i bobl o gymunedau du a
lleiafrifoedd ethnig?
4. I ba raddau y gellid datblygu e-ddysgu i gefnogi’r ddarpariaeth cyrsiau
Cymraeg?
5. Yn eich barn chi, beth yw’r brif flaenoriaeth ar gyfer datblygu’r
ddarpariaeth dysgu gydol oes drwy gyfrwng y Gymraeg?
6. Ydych chi’n cefnogi’r ymagwedd a nodir yma tuag at ddatblygu TGCh?
7. Pa ddarpariaeth ddylai dderbyn blaenoriaeth er mwyn cau’r bwlch
digidol?
46
PENNOD 5: CYNNYDD AC YMARFERWYR
Cefnogi newid
6699.. Ein dymuniad yw sefydlu Cymru fel lle rhagorol i addysgu, i ddatblygu’n
broffesiynol ac i ddysgu, a hynny
waeth beth fo’r lleoliad. Mae’r
cynnydd yn y lefelau cyrhaeddiad
o fewn pob sector yn y
blynyddoedd diweddar a’r
cynnydd yn y nifer sy’n ymgymryd
ag addysg ôl-16 yn adlewyrchu
llwyddiant diamheuol arweinwyr
ac ymarferwyr mewn ysgolion a
phrifysgolion ledled Cymru. Eto,
mae ysgogiad proffesiynol yn
hollbwysig i sicrhau mwy o
welliannau o safbwynt cynnydd,
safonau a chanlyniadau i
ddysgwyr os ydym am wireddu
cyfleoedd bywyd y bobl hyn
ynghyd â’n huchelgais ar gyfer
Cymru.
7700.. Rydym hefyd yn cydnabod
bod yn rhaid i ddisgwyliadau
cyfreithlon y cyhoedd ynglyn â
gwelliannau parhaus fynd law-yn-
llaw â chefnogaeth ymarferol
sensitif a rhaid parhau i hyrwyddo
safle proffesiynol ymarferwyr.
Rhaid i wybodaeth agored sydd ar
gael i’r cyhoedd am gyraeddiadau
dysgwyr gyfrannu at y broses hon.
Byddwn yn parhau i fonitro nifer
yr athrawon yn ofalus, gan ystyried y gostyngiad ym maint dosbarthiadau yng
Nghymru a’r arwyddion fod cyfraddau geni yn gostwng yn gyflymach nag yn Lloegr.
Mae nifer y swyddi dysgu mewn ysgolion cynradd yn parhau’n isel, sef llai na 15 ym
mhob un o’r 3 blynedd diwethaf. Mae’n amlwg bod angen athrawon sydd â’r gallu i
annog eu staff cymorth a manteisio ar yr amrywiaeth o sgiliau sydd ganddynt -
ynghyd â darparu cyfle i ddatblygu staff mewn modd addas i ategu hynny.
47
FFffeeiitthhiiaauu
•• Yr oedd cyfanswm yr athrawon (yncyfateb i amser llawn) a oedd yn gweithioym mis Ionawr 2001 bron yn 28,700, sef400 yn fwy na’r flwyddyn flaenorol.
•• Yn 2001 yr oedd 99 o swyddi gwag iathrawon mewn ysgolion meithrin,cynradd ac uwchradd.
•• Rhwng mis Ionawr 2000 a Ionawr 2001,gostyngodd nifer y disgyblion fesulathro/athrawes o 21.9 i 21.5; ac o 16.7 i 16.6mewn ysgolion uwchradd.
•• Cynyddodd cyfartaledd maintdosbarthiadau ysgolion uwchradd o 21.0 i21.3 yn ystod yr un cyfnod.
•• Mae 11 y cant o leoedd mewn ysgolionuwchradd yn wag.
•• Gostyngodd nifer y disgyblion â’r hawl ibrydau bwyd am ddim yn yr ysgol o 21.6ym 1998 i 19.5 ym 2001.
•• Disgwylir gostyngiad o 11 y cant yn yniferoedd mewn ysgolion cynradd erbyndiwedd y degawd – a gostyngiad o 8 ycant mewn ysgolion uwchradd – sy’nadlewyrchu’r gostyngiad mewn cyfraddaugeni.
7711.. Yn gyffredinol rydym yn bwriadu darparu fframwaith o ddatblygu parhaus
sy’n nodweddiadol ‘Gymreig’ i athrawon. Rhaid i’r fframwaith fod yn seiliedig ar
dystiolaeth ac yn gallu ennyn cydnabyddiaeth ryngwladol. Rhaid iddo amrywio o
hyfforddiant cychwynnol i athrawon i gyfleoedd datblygu ar gyfer penaethiaid a
darpar benaethiaid. Bydd yn hanfodol mabwysiadu dull cynhwysfawr i ddenu
ymarferwyr newydd ac i ddatblygu ymarferwyr presennol ynghyd â sicrhau bod
cyfleoedd da yn bodoli i ddatblygu arweinyddiaeth effeithiol ar gyfer pob lleoliad
addysg a hyfforddiant.
7722.. Mae arweinyddiaeth ragorol ar gyfer ysgolion yn hanfodol ar gyfer codi
cyrhaeddiad disgyblion. I gefnogi hyn sefydlwyd Rhaglen Genedlaethol ar gyfer
Datblygu Prifathrawiaeth sy’n darparu hyfforddiant ar gyfer darpar benaethiaid,
canllawiau ar gyfer penaethiaid sydd newydd eu penodi a her i benaethiaid
profiadol. Rydym hefyd yn cyflwyno Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar
gyfer Prifathrawiaeth wedi’i wella, ac anogir yr holl ddarpar benaethiaid i anelu ato.
Bydd penaethiaid sy’n dechrau ar eu swyddi cyntaf ym mis Medi 2001 yn derbyn
cefnogaeth gan y Rhaglen Sefydlu Broffesiynol i Benaethiaid Newydd sy’n unigryw
i Gymru. Ers dechrau’r flwyddyn, mae penaethiaid profiadol wedi gallu ailedrych ar
eu sgiliau arwain gan roi ystyriaeth hefyd i anghenion eu hysgol. Gwneir hyn drwy’r
Rhaglen Arweinyddiaeth i Benaethiaid mewn Swydd sy’n dechrau gydag adborth
360º – gan staff, ac o bosibl llywodraethwyr, rhieni a disgyblion – ac yn arwain at
gynllun gweithredu eglur. Bydd cysylltiadau â’r Coleg Cenedlaethol Arweinyddiaeth
Ysgolion yn cynnwys cynllun peilot o gymuned ar-lein ar gyfer penaethiaid newydd
eu penodi, partneriaethau a chymrodoriaethau.
7733.. Mae’r strwythur gwobrwyo i athrawon hefyd wedi’i drawsnewid. Mae’n
parhau’n bwysig i ddenu ymgeiswyr o ansawdd uchel mewn cyfnodau da a drwg
drwy gyfrwng hyfforddiant cychwynnol athrawon, a’r llwybrau eraill i’r proffesiwn.
Ymysg pethau eraill, bellach cynigir cymhellion hyfforddi i’r holl ôl-raddedigion sy’n
ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol athrawon– gall fod hyd at £10,000 ar gyfer
pynciau lle mae prinder athrawon. O ganlyniad mae ceisiadau gan ôl-raddedigion
wedi cynyddu; mae’r cynnydd yn nifer yr athrawon mewn swyddi wedi parhau ers
1998; ac mae lefel y swyddi gwag yng Nghymru yn isel – dim mwy na 0.4 y cant. O
ganlyniad i gyflwyno’r trefniadau trothwy cyflog, mae modd bellach i athrawon da
profiadol fod ar raddfa dâl o hyd at £31,000 – ac mae uchafswm graddfa tâl y grwp
arweinyddiaeth wedi codi 50 y cant.
7744.. Mae’r cynnig ar gyfer cynllun rheoli perfformiad ar gyfer athrawon yng
Nghymru wedi derbyn croeso brwd. Bydd yn cynnig dull cyson ar gyfer gosod
amcanion, rhoi adborth rheolaidd; a strwythuro datblygiad proffesiynol. Er mwyn
ategu’r gefnogaeth gyffredinol drwy gyfrwng GCAH – er enghraifft mewn perthynas
48
â newidiadau i’r cwricwlwm neu ddatblygiad yr holl ysgol, bydd datblygiad
proffesiynol parhaus (CPD) yn
cael ei addasu fwyfwy at
anghenion yr unigolion. Mae
Cyngor Addysgu Cyffredinol
Cymru eisoes wedi bwrw ati.
Credwn fod ei natur agored ac
ymgynghorol, ei ddull o ddarparu
cyngor annibynnol, ynghyd â’i
weithredu effeithlon i sefydlu’r
gofrestr gyntaf erioed ar gyfer
athrawon, wedi derbyn croeso
brwd yng Nghymru. Yn unol â
hyn, yn ddiweddar cyhoeddodd y
Gweinidog dros Addysg a Dysgu
Gydol Oes ddyraniad o £1.5
miliwn i Gyngor Addysgu
Cenedlaethol Cymru dreialu a
threfnu gwerthusiad o
amrywiaeth o raglenni CPD
unigol. Bydd y rhain yn cynnwys
secondiadau, bwrsarïau, a
chyfleoedd i athrawon rannu
arfer da yn yr ystafell ddosbarth.
7755.. O safbwynt addysg bellach,
mae’r Cyngor Cenedlaethol –
ELWa yn gweithredu Rhaglen
Datblygu Llywodraeth a
Rheolaeth er mwyn codi safonau
llywodraethu a rheoli sefydliadau
addysg bellach. Mae’r sefydliadau
eu hunain, drwy gyfrwng Fforwm
(Cymdeithas Colegau Addysg
Bellach Cymru), yr Asiantaeth
Dysgu a Datblygu Sgiliau (LSDA) a
Chorff Hyfforddi Cenedlaethol AB, yn cynnal hyfforddiant mewn swydd ar gyfer
ymarferwyr a staff cymorth. Byddwn yn parhau i gefnogi’r rhaglenni hyn drwy
gyfrwng buddsoddiad y Cynulliad o dros £1 biliwn yn y Cyngor Cenedlaethol yn
ystod y cyfnod 2001-04. Yn ychwanegol, o fis Medi ymlaen, bydd lwfansau o £6,000
49
FFffeeiitthhiiaauu::
•• Mae’r Cynulliad wedi buddsoddi oddeutu£1.5 miliwn ar gyfer sefydlu CyngorAddysgu Cyffredinol Cymru ar 1 Medi2000. Mae’r Cynulliad yn darparu £0.5miliwn ychwanegol er mwyn gohiriocyflwyno’r ffi cofrestru i athrawon tan 1Ebrill 2002.
•• Mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedidarparu cyllid i dalu cyflogau uwch iathrawon, gydag athrawon newydd yncychwyn ar gyflog o £16,038 y flwyddyno leiaf, ac athrawon sy’n pasio’r trothwyyn ennill £26,919 y flwyddyn.
•• Mae grantiau hyfforddiant cychwynnol iathrawon wedi cael eu hymestyn ihyfforddeion cynradd ôl-raddedig. Maehyd at £10,000 ar gael i’r rhai sy’n dysgupynciau uwchradd lle mae prinderathrawon.
•• Mae £1.5 million wedi’i glustnodi ar gyferCAC(C) i dreialu a gwerthuso datblygiadproffesiynol parhaus i athrawon.
•• Mae 350 yn astudio’r CymhwysterProffesiynol Cenedlaethol ar gyferPrifathrawiaeth, ac mae 175 eisoes wediennill y cymhwyster.
•• Mae 250 o benaethiaid eisoes wedicymryd rhan yn y RhaglenArweinyddiaeth i Benaethiaid mewnSwydd.
y flwyddyn ar gael i ôl-raddedigion sy’n astudio cwrs amser-llawn Tystysgrif Addysg
i Ôl-raddedigion TAR (AB).
7766.. Yn gyffredinol, bydd sail y dystiolaeth ar gyfer polisïau a datblygiad
proffesiynol yn cael ei hategu gan Raglen Ymchwil Addysgu a Dysgu y Cyngor
Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy’n anelu at hyrwyddo ymchwil o
ansawdd uchel ar addysg, wedi’i chanolbwyntio ar wella canlyniadau a’i llunio i fod
yn berthnasol i’r arfer o addysgu a dysgu. Mae’r Cynulliad yn cyfrannu at y £13 miliwn
a ddyranwyd i ddau gyfnod cyntaf rhaglen ESRC, sy’n rhedeg o 1998 i 2006. Mae
nifer o ysgolion yng Nghaerdydd yn gysylltiedig a’r gwaith maes ar gyfer un prosiect,
a dyfarnwyd bron i £0.5 miliwn i Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Cymru
Caerdydd i oruchwylio rhwydwaith i ddatblygu a rhannu arfer ymchwil gorau. Hyd
yma, mae’r rhan fwyaf o’r prosiectau a ariannwyd wedi ymwneud ag addysgu a
dysgu hyd at 16 oed ond, mae swm pellach o o leiaf £10 miliwn yn cael ei ddyrannu
i’r trydydd cyfnod, a fydd yn canolbwyntio’n fwy ar addysg a dysgu gydol oes ol-
orfodol.
7777 Dyma yw ein blaenoriaethau ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol. Ein cynigion
yw:
•• ein bod yn ymgynghori ar yr hyn sydd angen ei wneud i foderneiddio
arferion sefydliadol ar gyfer y dyfofol, mewn ysgolion a cholegau, a
rhagdybiaethau ac arferion ymarferwyr er mwyn cyrraedd y gwelliannau a
geisiwn i ddysgwyr. Fel cam cyntaf mae adolygiad polisi gan Bwyllgor Pwnc ar
“Ysgol y Dyfodol” ar y gweill;
•• y dylai cyfrifoldebau statudol Cyngor Addysgu Cyffredinol (Cymru) gael eu
cadarnhau a’u hehangu, er mwyn cryfhau ei statws fel llais awdurdodol ar
gyfer y proffesiwn addysgu;
•• y dylid gwerthuso hyfforddiant cychwynnol i athrawon er mwyn sicrhau
ein bod yn cynnig y cyfuniad cywir o lwybrau tuag at ennill statws Athro
Cymwysedig. Byddai hyn yn cynnwys ailedrych ar ffurf a chynnwys
hyfforddiant cychwynnol athrawon i sicrhau ei fod yn cynnig y sail orau ar
gyfer gyrfa addysgu lwyddiannus, a’i fod yn ystyried blaenoriaethau’r
Cynulliad;
•• rhaid goresgyn yn raddol y rhwystrau i leoli a chyfnewid, sy’n effeithio ar
ymarferwyr – drwy gyfrwng newidiadau deddfwriaethol os bydd rhaid. Ar
gyfer y tymor hir, bydd hyn yn bwysig os yw’r partneriaethau – yn enwedig y
CCET– am weithio’n llwyddiannus. Byddwn yn ystyried yn ofalus i ba raddau
y mae AB a darparwyr eraill yn cael eu hariannu’n ddigonol i gyflawni’r amcan
hwn;
50
•• rhaid sefydlu cysylltiadau rhwng Datblygiad Proffesiynol Parhaus ac
ardaloedd Rhoi Cymunedau’n Gyntaf er mwyn treialu a gwerthuso dulliau
o gynnwys athrawon yn y broses o fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud ag
amddifadedd. Gallai hyn gynnwys dulliau i drawsnewid yr ysgol gyfan a
datblygu timau aml-broffesiynol i weithio y tu allan i’r ysgolion;
•• mae’n debyg y bydd sefydlu a datblygiad proffesiynol cynnar yng Nghymru yn
cynnwys blwyddyn sefydlu statudol, wedi’i dilyn gan ddwy flynedd bellach
o gefnogaeth ar gyfer athrawon newydd gymhwyso o fis Medi 2003 ymlaen;
•• cyflwynir modiwlau arweinyddiaeth ysgolion yng Nghymru y
flwyddyn nesaf, wedi’u llunio’n benodol ar gyfer y grwp ehangach
sydd â swyddogaethau arwain mewn ysgolion er mwyn cefnogi
penaethiaid;
•• bydd rhagor o gefnogaeth para-broffesiynol a chymorth arall yn cael ei
hyrwyddo’n raddol. Ni fyddwn yn pennu pa gyfuniad o sgiliau y dylai ysgolion
eu mabwysiadu, na cheisio cyfyngu ar eu hyblygrwydd i ddewis prynu
cefnogaeth amser-llawn neu ran-amser, neu i ddefnyddio TGCh yn fwy cost-
effeithiol. Fodd bynnag, maes o law bydd Estyn yn cael ei gomisiynu i
ymgymryd ag astudiaeth o arferion da gan ystyried nid yn unig brofiadau’r
ysgolion, ond hefyd hyfforddiant yn gysylltiedig â gwaith a Gwasanaethau
Gyrfa Cymru ym maes AB; ac
•• ehangu cymrodoriaethau ymarferwyr sy’n cysylltu ysgolion â phrifysgolion
i gysylltu AB ac AU. Yn ogystal, cynigir y dylai’r cynllun i gynorthwyo
ymarferwyr sy’n cychwyn ar yrfa ac yn aros yn y sector gwladol i dalu eu
benthyciadau myfyrwyr fod yn gymwys hefyd i athrawon newydd sy’n
dysgu pynciau lle mae prinder athrawon mewn ysgolion ac AB;
•• dylid sefydlu gwell systemau i sicrhau bod y Cynulliad yn medru manteisio ar
waith ymchwil academyddion mewn AB ac ymarferwyr eraill, i gyfrannu at
agenda’r polisi dysgu gydol oes yng Nghymru ac i werthuso’r canlyniadau;
•• bydd mwy o ddatblygiad proffesiynol a chefnogaeth arall yn cael ei
hyrwyddo mewn addysg bellach;
•• rhoddir ystyriaeth i gyflwyno cymhwyster prifathrawiaeth ar gyfer
prifathrawon newydd ac i roi cyfle i’r holl staff mewn sefydliadau Addysg
Bellach ennill cymwysterau priodol;
•• annog Fforwm ac Addysg Uwch Cymru (HEW) i gynorthwyo cyrff
llywodraethu i ddefnyddio safonau arferion gorau yn eu holl bolisïau
adnoddau dynol, gan gynnwys cyflogau ac amodau gwaith;
51
•• wrth gydnabod cyfraniad cyrff llywodraethu ym mhob sector byddwn yn
sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth a’r hyfforddiant sy’n angenrheidiol iddynt
fod yn effeithiol – yn enwedig wrth gefnogi gwaith ymarferwyr i godi safonau.
52
CWESTIYNAU
1. Pa ddatblygiadau sydd eu hangen o safbwynt datblygiad cychwynnol a
pharhaus athrawon er mwyn paratoi’r dysgwyr o dan eu gofal ar gyfer
dysgu gydol oes?
2. A ddylid adolygu’r rhaglen GCAH fel ei bod yn cynnwys datblygiad
proffesiynol darlithwyr addysg bellach a’r ddarpariaeth addysg bellach
yn gyffredinol?
3. Ym mha fodd y gall penaethiaid ac athrawon chwarae rôl ehangach
wrth fynd i’r afael ag anfantais gymdeithasol, yn enwedig yn ardaloedd
Rhoi Cymunedau’n Gyntaf?
4. Sut y gallwn barhau i ddenu ymgeiswyr o ansawdd uchel i faes
addysgu?
5. Pa ddatblygiadau o safbwynt hyfforddiant ar gyfer Llywodraethwyr
mewn ysgolion, addysg bellach ac addysg uwch ddylai gael
blaenoriaeth?
PENNOD 6: Y TU HWNT I ADDYSGORFODOL
Cyfnod Newydd o Fynediad
7788.. Ein hamcan yw sefydlu cyfnod newydd yn hanes dysgu ar ôl 16 oed yng
Nghymru. Canolbwynt hynny fydd ymdrech egnïol i ehangu mynediad – drwy
gysylltu ysgolion, addysg bellach, addysg uwch a darparwyr eraill ar ffurf
cytundebau a phartneriaethau strategol er mwyn gwneud cynnydd. Gosodwyd y
seiliau yn y Cynllun Gweithredu Addysg a Hyfforddiant a gymeradwywyd gan y
Cynulliad y llynedd. Mae’r mecanweithiau er mwyn hyrwyddo’r newidiadau hyn
bellach wedi cael eu gwireddu. Rydym wedi:
•• sefydlu Cyngor Addysg a Hyfforddiant newydd i Gymru, i weithio ar y cyd
gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan un enw, sef ‘Dysgu ac
Addysgu Cymru’ – ELWa;
•• hyrwyddo Consortia Cymunedol ar gyfer Addysg a Hyfforddiant ar gyfer
pob rhan o Gymru
•• Sefydlu Tasglu’r Fargen Newydd i Gymru i roi cyngor ar gyflwyno’r agenda
O Fudd-dâl i Waith;
•• Sefydlu pecyn penodol yn cynnwys Diploma Sigilau Modern i Oedolion;
ymestyn Prentisiaethau Modern i bobl dros 25 oed; a chyflwyno Cronfa
Datblygu Sgiliau – oll yn benodol ar gyfer Cymru;
•• Lansio Gyrfa Cymru, gwasanaeth arbennig i Gymru sy’n darparu gwybodaeth,
cyngor a chanllawiau di-duedd ar gyfer pob oedran, sy’n bodloni safonau
ansawdd cenedlaethol cyffredin;
•• Sefydlu Cronfa Manteisio ar Wybodaeth unigryw i gynorthwyo ein
sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch i gyfrannu at greu cyfoeth,
wedi’i ategu gan gronfeydd Amcan Un Ewrop;
•• Lansio Cyfrifon Dysgu Unigol i annog pobl i fanteisio ar ystod eang o
ddewisiadau dysgu flwyddyn ar ôl blwyddyn – gyda deddfwriaeth arbennig
gan y Cynulliad i gyflwyno gostyngiadau yng Nghymru;
•• Newid y fframwaith ar gyfer dysgu yn y gweithle i oedolion er mwyn
ymestyn y cymwysterau sydd ar gael i’r rhai sydd eisoes yn astudio; darparu
mynediad ar unwaith i bobl dros 50 oed; ac ehangu’r categorïau o bobl sy’n
gymwys i gynnwys pobl sydd wedi bod mewn gwaith am gyfnodau byr rhwng
cyfnodau o ddiweithdra; a
53
•• Lansio Strategaeth Sgiliau Sylfaenol15 yn benodol ar gyfer Cymru, sy’n
cynnwys y cyfnodau cyn 16 oed ac ôl-16 oed.
7799.. Cyflwynwyd y newidiadau hyn yn sgîl ysbryd newydd o bartneriaeth a
ysgogwyd gan y Cynulliad ei hun.
Maent yn hanfodol i drechu’r
rhwystrau sydd:
•• yn atal mynediad i
ddarpariaeth sy’n hyblyg, yn
berthnasol ac yn
canolbwyntio ar y dysgwr;
•• yn atal cydweithredu rhwng
darparwyr dysgu; ac
•• yn creu rhaniad artiffisial
rhwng llwybrau academaidd
a llwybrau galwedigaethol i
ddysgu.
8800.. Drwy gyfrwng ymgynghori
eang a chydweithio gydag
Awdurdod Datblygu Cymru a’r
Gwasanaeth Cyflogi, mae’r Cyngor Cenedlaethol – ELWa yn ceisio datblygu
strategaethau a chynlluniau fydd yn goresgyn y rhwystrau ymhellach; yn ehangu
mynediad i bawb; yn gwella dysgu cynaliadwy ledled Cymru; ac yn cyflwyno gwell
gwerth ac ansawdd.
Mynediad, gwybodaeth a sgiliau
8811.. Rydym yn cydnabod yn llawn bod y rhaniad rhwng cyn 16 ac ôl 16 mewn
llawer ffordd yn dod yn fwyfwy artiffisial. Does dim digon o’n pobl ifanc yn symud
ymlaen i addysg academaidd neu alwedigaethol bellach, neu hyfforddiant sy’n
gysylltiedig â gwaith. O’i gymharu â gwledydd meincnod eraill, does dim digon o’n
pobl ifanc ac oedolion yn codi lefel eu sgiliau ac yn ennill cymwysterau ar lefelau 3
a 4. Mae’r diffyg yn y sgiliau sylfaenol - llythrennedd a rhifedd gweithredol ymysg
oedolion yn ddifrifol. Ni ellir goresgyn y problemau hyn heb gydweithio agos rhwng
ysgolion ac addysg bellach ac uwch, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr.
8822.. Ni ellir cyflawni ein huchelgais i drawsnewid mynediad i addysg uwch oni bai
fod prifysgolion yn cysylltu’n rheolaidd ag ysgolion a cholegau ac yn annog mwy o
ddisgyblion i feddwl am y prifysgolion fel lleoedd i ddod iddynt. Byddai rhai
54
AArriiaann::
•• Bwriedir buddsoddi £1,095 miliwn yn y
Cyngor Cenedlaethol – ELWa dros y 3
blynedd o 2001 ymlaen.
•• Bydd y Gwasanaeth Gyrfaoedd yn derbyn
£93 miliwn dros yr un cyfnod.
•• Bydd y Gronfa Manteisio ar Wybodaeth
yn derbyn £34m dros 4 blynedd. Gyda
chyllid Amcan Un ac Amcan Tri, bydd
cyfanswm o £25 miliwn ar gael yn y
cyfnod 2000-02.
•• Cyfanswm y cyllid ar gyfer y Strategaeth
Sgiliau Sylfaenol rhwng 2001 a 2004 fydd
£30 miliwn.
15‘Strategaeth Genedlaethol Sgiliau Sylfaenol i Gymru’, Ebrill 2001.
disgyblion o dan 16 oed yn derbyn darpariaeth well mewn coleg neu mewn addysg
sy’n gysylltiedig â gwaith. Bydd angen i eraill gael y cyfle i sefyll arholiadau TGAU yn
gynnar, neu i’w hailsefyll; i gymysgu cymwysterau galwedigaethol ac academaidd; neu
i ymestyn eu hawl gwricwlaidd ar ôl 16 oed. Ar brydiau mae’n bosibl y bydd
cyfrifoldebau gofal plant neu ddibynyddion yn golygu y bydd angen cydgysylltu agos
rhwng y darparwr a’r gyfundrefn les. Bydd y partneriaethau a hyrwyddir trwy’r CCETs
yn bwysig o ran pontio’r rhaniad rhwng y camau cyn 16 ac ar ôl 16 oed. Yn wir, maent
hwy a phwyllgorau rhanbarth y Cyngor Cenedlaethol – ELWa yn chwarae rhan bwysig
er mwyn sicrhau economi mwy deinamig ac entrepreneuraidd a ategir gan weithlu
sydd â’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyblygrwydd sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.
8833.. At hynny, mae sefyllfa sefydliadau hyblygrwydd addysg bellach – sy’n
darparu ar gyfer dros 200,000 o ddysgwyr bob blwyddyn ac yn darparu tua 70 y
cant o’r holl gymwysterau a enillir ar ôl 16 oed yn hanfodol. Mae adroddiad Sgiliau
Dyfodol Cymru yn dangos bod tua 30 y cant o gyflogwyr yn dioddef oherwydd
prinder sgiliau gyda bylchau sylweddol rhwng y sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr
a sgiliau eu gweithluoedd. Mae tueddiad i gwmnïau syrthio i fagl sgiliau isel; gan nad
oes modd iddynt gael gafael yn hawdd ar y lefelau sgiliau uwch sydd eu hangen ar
gyfer twf uwch, maent yn bodloni ar lefelau sgiliau is a thwf is. Yng nghyd-destun y
cefndir hwn, mae tasglu Sgiliau Dyfodol Cymru wedi gwneud 50 o argymhellion
heriol. Maent yn gosod sgiliau yng nghanol ein hagenda economaidd a’n hagenda
ddysgu. Rydym yn ymateb i’r rhain mewn Cynllun Gweithredu a fydd yn ategu’r
Strategaeth Datblygu Economaidd Genedlaethol sydd ar y gweill – gydag ELWa’n
chwarae rôl bwysig o ran ei chyflwyno, nid lleiaf drwy AB a darparwyr eraill.
8844.. Bydd y camau a gymerwyd gennym o ran prentisiaethau modern, datblygu
sgiliau ac oedolion i gyd yn cynorthwyo cyflogwyr i godi sgiliau ar lefelau crefftwyr,
technegwyr a rheolwyr. Byddant hefyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r angen am
gynllunio dilynol, ac o fanteision bod yn Fuddsoddwr mewn Pobl. Byddant yn
cefnogi’r broses o fabwysiadu dysgu gydol oes fel norm ar gyfer pawb. Fe’u cefnogir
gan y Cyfrifon Dysgu Unigol (CDU) newydd sy’n gweithredu disgowntiau blynyddol
o 20 y cant ar gyfer amrediad eang o gyrsiau cymwys, ac 80 y cant ar gyfer cyrsiau
allweddol, penodol ar gyfer TG a dysgu Cymraeg. Rydym hefyd wedi ymrwymo i
agor 50,000 CDU erbyn mis Mawrth 2002: hyd yn hyn mae dros 43,000 wedi eu
hagor. Ar yr un pryd, ein nod yw gwneud y gorau o’r Ganolfan Byd Gwaith newydd
– er nad yw ei swyddogaethau wedi eu datganoli. Byddwn yn:
•• ystyried a ddylai Tasglu Ymgynghorol y Fargen Newydd chwarae rôl o ran
canolbwyntio ar y modd y mae budd-daliadau yn gweithredu i gynnig
cymorth yn ystod y cyfnod trosglwyddo i fyd gwaith;
55
•• sicrhau bod cydrannau datblygu sgiliau’r Fargen Newydd a’r Parthau Cyflogi
yn cyfuno â Sgiliau Dyfodol Cymru a’r Strategaeth Gyflogi arfaethedig ar gyfer
Cymru;
•• sicrhau bod ELWa’n cydweithio’n agos â’r Ganolfan Byd Gwaith, y WDA a
phartneriaid eraill i gyflawni blaenoriaethau’r Cynulliad ar gyfer sgiliau a
hyfforddiant, gan lunio cyrsiau i fodloni gofynion cymhwyster; yn cadw’r
pwyslais presennol ar sgiliau trosglwyddadwy; ac yn rhoi sylw i ardaloedd
Rhoi Cymunedau’n Gyntaf;
•• sicrhau bod ELWa a’i bartneriaid yn darparu canllawiau strategol ar gyfer
sefydliadau sy’n dymuno gwneud cynigion o dan bartneriaeth Amcan Un -
Datblygu Adnoddau Dynol a’r Fargen Newydd.
Blaenoriaethau
8855.. Dyma’n blaenoriaethau allweddol ar gyfer bwrw ymlaen.
•• Ategir y newid yn y ffocws tuag at y cyfnod 14-19 a chynllunio ar gyfer
trosglwyddo yn 16 gan datblygiad radical mewn gwasanaethau ar gyfer pobl
ifanc ac ymroddiad parhaus i wasanaeth ieuenctid statudol. Bydd y Cynulliad
yn pennu’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer partneriaethau i’w harwain
gan awdurdodau lleol a fydd yn cynnwys y sectorau statudol a gwirfoddol o
dan Ymestyn Hawliau. Ni fydd y partneriaethau yn atal darparwyr fel Gyrfa
Cymru rhag gwneud yr hyn a wnânt orau. Byddant yn sicrhau bod eu gallu a’u
harbenigedd yn cael eu cyfuno a’u cydlynu mewn modd na ellir ei gyflawni ar
wahân. Bydd y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes yn ymgynghori ar
gyfeiriadau deddfwriaethol cyn eu cyhoeddi.
•• Byddwn yn hybu ac yn cyllido hyfforddiant a datblygiad parhaus ar gyfer
ymarferwyr sy’n ymateb i anghenion y bobl ifanc fwyaf difreintiedig sydd
mewn perygl o anfodloni – ac y byddai eu heffeithiolrwydd trwy weithio ar
y cyd yn cynyddu’n sylweddol gan ddarpariaeth o’r fath. Bydd trefniadau’n
cael eu treialu ar gyfer darparwyr y Porth Ieuenctid mewn cydweithrediad â
Thimau Cyffuriau a Thimau Troseddwyr Ifanc; staff canolfannau teuluoedd a
lloches i ferched; unedau i’r digartref; Timau Mynediad i’r Ifanc a’r sector
gwirfoddol.
•• Rydym am sicrhau bod ysgolion uwchradd yn gweithio gyda Phartneriaethau
Addysg a Busnes, CCETs ac eraill i fodloni anghenion disgyblion yn fwy
effeithiol. Pan fydd angen gwneud newidiadau yn y ddeddfwriaeth er mwyn
galluogi ysgolion i ddatblygu cynlluniau cefnogi ar gyfer disgyblion sy’n
trosglwyddo i addysg ar ôl 16 mewn modd sy’n cyfoethogi eu cyfleoedd a’u
dewisiadau, byddwn yn ceisio’r newidiadau hynny.
56
•• Byddwn yn gofyn i ELWa newid ei drefniadau buddsoddi i wobrwyo
darparwyr sy’n bodloni’r amodau llym ar gyfer safonau, ansawdd,
mynediad a chanlyniadau. Byddwn yn disgwyl iddo ganolbwyntio ar
anghenion y sectorau busnes yn lleol, yn rhanbarthol neu yn genedlaethol fel
y bo’n briodol. Byddwn am iddo addasu ei waith i anghenion cymunedau gan
ddefnyddio technoleg arloesol i ddenu niferoedd cynyddol o bobl ifanc ac
oedolion i ddysgu. Rydym am i ELWa gydweithio mewn partneriaeth â
darparwyr i ddatblygu llwybrau dilyniant clir sydd o fewn cyrraedd dysgwyr,
ar lefelau ac adegau sy’n bodloni anghenion yr unigolyn orau.
•• Rydym yn disgwyl i ELWa bennu gofynion ymestynnol o ran ansawdd a
pherfformiad ar gyfer yr holl ddarparwyr dysgu, ac i bennu’r dull achredu ar
gyfer dysgu anffurfiol a gweithgarwch y sector gwirfoddol i gynnal dysgu
gydol oes a gwasanaethau cenhadu. Mae hynny’n golygu trefniadau arolygu a
sicrhau ansawdd priodol sydd wedi eu cyfeirio’n adeiladol er mwyn galluogi
darparwyr i adeiladu ar eu cryfderau ac i oresgyn y gwendidau sy’n effeithio
ar gyfleoedd bywyd y dysgwyr.
•• Byddwn yn ystyried cynllun corfforaethol cyntaf ELWa – y Cyngor
Cenedlaethol yn yr hydref. Byddwn yn disgwyl iddo gynnwys yr holl gamau i
godi sgiliau sylfaenol, generig a lefel uwch. Ar yr un pryd, byddwn yn ystyried
y modd y mae’r Cyngor yn bwriadu bwrw ymlaen â’i arolwg o’r trefniadau
cyllido sy’n berthnasol i ddarparwyr dysgu ar ôl 16 oed, gan gynnwys
dosbarthiadau chweched ddosbarth mewn ysgolion, fel y gellir ystyried
newidiadau priodol ar gyfer y dyfodol.
•• Byddwn yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng addysg uwch a darparwyr eraill
gyda’r nod o annog pawb sydd â’r potensial i fanteisio ar astudiaethau pellach
i fynd ymlaen i wneud hynny. Mae sefydliadau addysg bellach ac uwch eisoes
yn gweithio’n agos i ddarparu rhaglenni AB, a dysgu yn y gymuned sydd wedi
ei anelu at anghenion oedolion. Dilynodd 2,158 o ddysgwyr gyrsiau AU mewn
sefydliadau AB yn 1999/2000. Ar lefel strategol, bydd angen cwmpas
ehangach ar y Cynghorau o fewn ELWa i gynllunio gyda’i gilydd er mwyn
sicrhau’r budd mwyaf o’r cydweithrediad hwn. Byddwn yn sicrhau bod y
pwerau angenrheidiol yn eu lle er mwyn darparu ar gyfer hyn.
•• Rydym yn rhag-weld datblygiad pellach o ran yr egwyddor o Gonsortiwm
lleol er mwyn galluogi partneriaid i rannu staff ac adnoddau eraill er mwyn
hyrwyddo’r dewisiadau dysgu, lleihau dyblygu, diddymu cystadleuaeth
ddiwerth, integreiddio dysgu mewn gwahanol sefyllfaoedd, a chodi safonau
cyrhaeddiad. Pan fyddwn yn nodi rhwystrau strwythurol, biwrocrataidd neu
reoliadol byddwn yn gwneud cynigion ar gyfer symleiddio’r system a’i gwneud
57
yn haws i ddysgwyr weld ffyrdd ymlaen ac i adeiladu perchnogaeth
gymunedol a hunan-hyder.
•• Rydym yn bwriadu i gydweithio rhwng ACCAC ac ELWa sicrhau cynnydd
cyflym ar gyfer cyflwyno’r fframwaith cymwysterau’n seiliedig yn llwyr
ar gredydau – y mae Cymru wedi arwain y ffordd gydag ef. Bydd y sawl sy’n
petruso wrth ddechrau dysgu oherwydd eu bod yn ofni methu ar ddiwedd
cyfnod hir o amser ac ymdrech yn derbyn sicrwydd, trwy fancio credydau
wrth fynd ymlaen. Bydd y sawl sy’n dymuno cael dewis a hyblygrwydd yn
gweld bod credydau’n fwy addas ar gyfer bywyd modern ac yn
canolbwyntio’n fwy ar y dysgwr.
•• Byddwn yn parhau i annog cwmnïau Gyrfa Cymru i ddatblygu eu
gwasanaethau a chefnogi dysgwyr gydol oes o bob oedran, ond yn benodol
o fewn ysgolion ar y cyfnodau trosglwyddo allweddol ac mewn colegau AB.
Bydd hyn yn sicrhau bod pobl ifanc, sydd â phob hawl i ofyn am gefnogaeth
a mentora o ansawdd uchel yn gallu gwneud penderfyniadau deallus yn
gynharach – er mwyn osgoi camgyfeirio costus.
•• Rydym yn disgwyl i Gyrfa Cymru wneud defnydd gwell o adnoddau a dangos
yn eglur ei fod yn gwneud hynny, cyhoeddi data llawer mwy manwl-gywir am
ganlyniadau, cyfathrebu a marchnata’n fwy effeithiol, datblygu dulliau
rhyngweithiol wedi’u seilio ar TGCh, ymestyn safonau cyffredin o dan y
brand, datblygu staff mewn modd mwy cynhwysol a rhesymoli’r sefydliad, er
mwyn cyflawni ei swyddogaeth yn effeithiol yn lleol ac yn genedlaethol.
•• Byddwn yn gwahodd CCAUC i ddatblygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd AU ac
archwilio cysylltiadau â Gyrfa Cymru er mwyn cael cynllunio lleol ar y cyd a
gwneud defnydd gwell o adnoddau, marchnata a dulliau’n seiliedig ar TGCh.
•• Rydym yn cymryd rhan yn arolwg y DU o’r rhwydwaith Cyrff Hyfforddi
Cenedlaethol (NTO). Byddwn yn sicrhau bod y trefniadau diwygiedig yn
bodloni anghenion Cymru a’n hagenda sgiliau gan gynnwys gwaith
partneriaeth ELWa a Sgiliau Dyfodol Cymru.
•• Ein bwriad yw bydd ACCAC yn cynnig cyngor ar gymeradwyo cymwysterau
allanol yng Nghymru (heblaw am gymwysterau AU) mewn perthynas â dysgwyr
cyn 19 oed, a’r rhai dros 19 oed o fis Medi 2002 ymlaen, ac yn sicrhau bod
safonau a dulliau gweithredu CBAC a chyrff dyfarnu eraill yn addas i’r pwrpas.
•• Byddwn yn parhau i gefnogi’r gweithgareddau dysgu yn y gweithle a gynhelir
gan yr Undebau Llafur a byddwn yn gwerthuso Cronfa Dysgu Undeb Cymru
(WULF) er mwyn sicrhau bod y rhaglen hyd yn oed yn fwy effeithiol ac yn
cael ei thargedu at flaenoriaethau allweddol.
58
59
CWESTIYNAU
1. A ydych yn derbyn y dylai’r Cynulliad adeiladu ar y cysyniad o CCETs
yn seiliedig ar bartneriaeth, gydag amrediad ehangach yn dechrau yn
CA3?
2. A ydych yn cytuno bod angen i ddau Gyngor ELWa weithredu’n fwy
hyblyg ar draws ffiniau’r naill gorff a’r llall wrth gynllunio, cyllido a
darparu addysg ar ôl 16 oed?
3. Sut y dylai Gyrfa Cymru ddatblygu er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r
cyfleoedd sydd ar gael?
4. Sut y dylai ELWa sicrhau bod Sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg
Bellach yn datblygu compactau cadarn ar gyfer mynediad gyda’i
gilydd, a chydag ysgolion, gyda golwg ar sefydlu compactau ledled
Cymru erbyn 2005?
60
PENNOD 7: MYNEDIAD A DYFODOLADDYSG UWCH
Agor drysau
8866.. Rydym am i addysg uwch yng Nghymru wneud cyfraniad mwy byth at
gyflawni cynlluniau’r Cynulliad ar gyfer adfywio’r wlad yn economaidd yn
gymdeithasol ac yn ddiwylliannol. Nid rhywbeth i’r elite yn unig yw addysg uwch
erbyn hyn. Mae tua 24 y cant o bobl rhwng 19-24 oed yng Nghymru yn mynd
ymlaen i addysg uwch. Mae niferoedd y myfyrwyr a’r arian cyhoeddus a fuddsoddir
yn y sector yn parhau i gynyddu yn sylweddol o flwyddyn i flwyddyn. O ystyried
maint y buddsoddiad cyhoeddus hwn, mae’n anochel – ac yn hollol angenrheidiol
– bod y Cynulliad yn ceisio darganfod y cydbwysedd mwyaf positif rhwng sicrhau
bod prifysgolion yn eu cyflwyno eu hunain yn dda o ran bodloni anghenion
buddsoddiad cyhoeddus ar raddfa eang, a gwarchod y cwmpas y mae arnynt ei
angen i feddwl yn rhydd a gweithredu’n effeithiol.
8877.. Mae’n anochel hefyd y bydd
hyd yn oed mwy o ddiddordeb yn
cael ei ddangos mewn patrymau
mynediad. Nid yw’r gallu i
fanteisio ar addysg uwch ac i
lwyddo mewn addysg uwch wedi
ei gyfyngu i grwp cymdeithasol-
economaidd unigol. Mae AU yng
Nghymru yn perfformio’n dda
mewn perthynas â sectorau tebyg
eraill mewn ardaloedd eraill yn y
DU mewn perthynas ag anfantais
gymdeithasol a recriwtio. Serch
hynny, mae anghydbwysedd mawr
yn dal i fodoli rhwng niferoedd y
myfyrwyr sy’n cael eu derbyn i
addysg uwch o gartrefi breintiedig
a chartrefi difreintiedig. Nid yw’n
bosibl bodloni a rhagori ar
gyfraddau cyfranogiad sy’n bodoli
eisoes yn yr Alban a Gogledd
Iwerddon – gyda’r manteision a
61
YY CCyydd--ddeessttuunn
•• Buddsoddiad arfaethedig ar gyfer AU yn
2001-02 yn cynyddu o 8 y cant i £375m.
•• Derbyniwyd 101,251 o fyfyrwyr i gyrsiau
addysg uwch yng Nghymru yn y flwyddyn
academaidd 1999/2000, heb gynnwys y
Brifysgol Agored.
•• Yn ystod cylch asesu ansawdd 1993-98, ni
farnwyd bod unrhyw ddarpariaeth dysgu
yn anfoddhaol. Barnwyd bod 37 y cant yn
rhagorol.
•• Rhwng 1992 a 1996, cododd nifer yr
adrannau oedd yn syrthio i gategorïau
uwch yr Ymarfer Asesu Ymchwil o 32 i 60.
•• Yn 2001-02, cyfanswm grant y Cynulliad i
CCAUC yw £321.4 miliwn, neu 6.6 y cant o
grant DfEE i HEFCE/TTA.
•• Yn 1998/99, aeth 26.4 y cant o bobl ifanc
o grwpiau a dangynrychiolir i sefydliadau
addysg uwch, o’i gymharu â 25.1 y cant ar
gyfer y DU gyfan.
ddaw yn sgîl hynny ar gyfer sgiliau a hyder cymunedol – os bydd AU yn parhau i
gael ei gogwyddo yn y modd yma.
8888.. Rydym yn cydnabod nad oes dyfodol i fodel plwyfol ar gyfer AU yng
Nghymru. Mae’n rhaid iddi weithredu yn ôl safonau meincnodau sy’n gredadwy yn
rhyngwladol ac yn genedlaethol, yn ogystal ag yn lleol. Felly, beth bynnag yw’r
safonau sy’n berthnasol ar gyfer sicrhau ansawdd ac asesu perfformiad ledled y DU,
rydym yn disgwyl i AU yng Nghymru gael ei mesur yn ôl y safonau hynny. Yn sicr
mae rhan allweddol gan y sector i’w chwarae o ran cynhyrchu’r bobl gymwysedig
iawn y mae galw amdanynt mewn economi sydd wedi ei ddatblygu. Rydym am
hyrwyddo creadigrwydd ac entrepreneuriaeth er mwyn darparu sylfaen dechnoleg
uwch er mwyn denu rhagor o Ymchwil a Datblygu a mewnfuddsoddi, ac er mwyn
darparu ffynhonnell ragorol ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth a darparu cyngor. Yn
yr un modd, mae gan sector AU a gydnabyddir yn rhyngwladol rôl bwysig o ran codi
proffil rhyngwladol a dylanwad Cymru ei hun.
8899.. Mae’n rhaid ystyried arolwg polisi cynhwysfawr y Pwyllgor Addysg a Dysgu
Gydol Oes o Addysg Uwch yng Nghymru yn y cyd-destun hwnnw. Rydym wedi
addo y bydd yr argymhellion yn cael eu hystyried i fwydo strategaeth 10 mlynedd
ar gyfer y sector yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y sector yn
derbyn cyllid digonol ar gyfer y ffordd ymlaen. Caiff y proffil ar gyfer y cyllid
hwnnw ei ystyried yn y cylchoedd cynllunio ar gyfer cyllidebau sydd i ddod, gan
gynnwys yr un sy’n gysylltiedig â’r arolwg cynhwysfawr o wariant sydd i ddod. Nid
yw AU yng Nghymru wedi derbyn sylw mor drwyadl o’r blaen, ac nid yw ychwaith
wedi derbyn sicrwydd mor bwysig ar gyfer y dyfodol.
9900.. Mae’r sector AU yng Nghymru yn cynnwys 13 sefydliad gweddol fach. Maent
yn darparu addysg o ansawdd da i dros 100,000 o fyfyrwyr (mae bron i hanner
ohonynt yn dod o’r tu allan i Gymru). Maent yn cynnwys nifer sylweddol o
adrannau ymchwil uchel eu parch. Fodd bynnag, nid yw incwm gan y Cynghorau
Ymchwil ond yn dod i ryw 3.2 y cant o gyfanswm y D.U. Mae sefydliadau AU yn
wynebu cystadleuaeth gryf wrth geisio cael mynediad i ymchwil a ffurfiau eraill ar
gyllid. Fodd bynnag, mae buddsoddi parhaus yn angenrheidiol er mwyn cynnal y
cyfleusterau a’r offer modern sydd eu hangen i wella ar sylfaen weithredol ac
ymchwil y sector. Hefyd, mae’n rhaid i’r sefydliadau fuddsoddi mewn addysgu a
dysgu er mwyn denu myfyrwyr i’w cyrsiau (yng nghyd-destun cystadleuaeth
gynyddol gan sefydliadau yn Lloegr, a chan ddatblygiadau E-ddysgu hefyd). Hefyd
mae gofynion buddsoddi ynghlwm wrth ehangu mynediad a chyfranogiad, a
darparu rhagor o addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Fel mae pethau ar hyn o bryd,
mae’r Cynulliad eisoes yn buddsoddi mwy na’i gyfran o ddyraniad Barnett mewn
62
addysg uwch, ac mae pryder yn parhau ynghylch cynaliadwyedd y patrymau
darpariaeth presennol ar gyfer y dyfodol.
9911.. Ni fyddwn yn ceisio rhag-weld canlyniad Arolwg y Pwyllgor Addysg a Dysgu
Gydol Oes. Rydym yn sicr y bydd yn bell-gyrhaeddol ac yn bositif iawn. Byddwn yn
rhoi sylw difrifol i bob un o’i argymhellion ac yn llunio rhaglen briodol ar gyfer
gweithredu yng nghyd-destun y strategaeth 10 mlynedd. Fodd bynnag, rydym yn
gobeithio sicrhau sector sy’n perfformio’n uchel ar draws sawl dimensiwn
gwahanol. Rydym am weld:
•• rhaglen barhaus i gysylltu AU Cymru ag ysgolion, colegau a darparwyr eraill
ac i farchnata a hybu’r sector yn genedlaethol ac yn rhyngwladol – yn
enwedig mewn ardaloedd Rhoi Cymunedau’n Gyntaf – er mwyn datblygu
llwybrau mynediad newydd ar gyfer myfyrwyr o grwpiau sydd wedi eu
tangynrychioli mewn AU yn y ddwy iaith;
•• ymagwedd fwy pendant a mentergarol tuag at fanteisio ar wybodaeth a
throsglwyddo gwybodaeth gyda gwobrau mwy eglur am lwyddo;
•• ymdrech sylweddol i greu incwm ar gyfer ymchwil a datblygu, yn enwedig
gan y Cynghorau Ymchwil eu hunain, y sector preifat a’r ymddiriedolaethau;
•• ymgyrch newydd i fanteisio ar y farchnad ffyniannus ar gyfer dysgu ymysg
myfyrwyr y tu allan i’r DU a’r UE;
•• rhaglen egnïol i ddefnyddio egwyddorion ‘Rhagwelediad’ i adeiladu ar
wyddoniaeth a thechnoleg arloesol; defnyddio’n cryfderau; a denu a chadw
gallu byd-enwog, sy’n berthnasol i fusnes ar gyfer Cymru;
•• cyflwyno dulliau cydweithredol newydd i leihau gorbenion a rhannu
cyfleusterau a galluoedd ledled y sector.
9922.. Mae’n annhebygol y gellir cyflawni hyn heb ymagwedd radical newydd at
ddatblygu cydweithio a chydweithredu gan roi ystyriaeth briodol i’r llwyfannau a
ddarperir gan y gwahanol ranbarthau yng Nghymru ar gyfer cyrraedd mwy o bobl.
Rydym yn gobeithio y bydd y sefydliadau unigol a’u llywodraethwyr yn gallu
hwyluso’r newidiadau angenrheidiol trwy gydweithio, a phan fo’n briodol, trwy
Addysg Uwch Cymru a CCAUC. Fodd bynnag, nid yw sefyll yn ein hunfan yn opsiwn
ar gyfer sector egnïol sydd wedi ymrwymo i drawsnewid posibiliadau Cymru. Mae’r
pwysau cystadleuol yn golygu pe byddai’r momentwm ar gyfer gwella parhaus a
dramatig yng nghydlynedd a chynhyrchiant y system gyffredinol yn simsanu, y
byddai’n rhaid i’r cyfrifoldeb dros adfer y sefyllfa gael ei amlinellu yn glir. Byddem
yn dymuno ystyried canlyniadau adolygiad y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes
yn llawn. Er hynny, o ran egwyddor, dylem fod yn barod i wneud y cyfrifoldeb hwn
63
yn fwy amlwg nag ydyw o dan y ddeddfwriaeth bresennol. Mewn gwirionedd,
byddai hyn yn golygu, yn amodol ar ymgynghori ar amddiffyniadau, y byddai’r
Cynulliad mewn sefyllfa i alluogi CCAUC i chwarae rôl gynllunio pan fyddai angen
ategu’r cydweithredu sy’n hanfodol er mwyn diogelu’r gwelliannau parhaus o ran y
perfformiad a’r canlyniadau a geisir gennym.
Cefnogaeth i fyfyrwyr
9933.. Mae cyfanswm y rhai sy’n cofrestru mewn addysg bellach ac addysg uwch yn
parhau i gynyddu. Erbyn y flwyddyn academaidd 1999/2000 mae’r nifer yn uwch na
305,000. Rydym yn symud tuag at
gyflawni’r targedau cofrestru a
amlinellwyd yn gwellcymru.com.
Mewn addysg bellach mae
mwyafrif y myfyrwyr yn oedolion,
ac mae’r rhan fwyaf yn astudio yn
rhan-amser. Mewn addysg uwch,
mae 40 y cant o’r myfyrwyr sy’n
cofrestru dros 24 oed. Hefyd, mae
gan sefydliadau AU yng Nghymru
gyfran uwch o fyfyrwyr aeddfed a
myfyrwyr ifanc amser llawn ar
gyfer cyrsiau gradd o grwpiau
sydd wedi eu tangynrychioli na
chyfanswm y DU yn gyfan. Mae’r
gyfran uwch o fyfyrwyr aeddfed a
myfyrwyr ifanc amser llawn ar
gyrsiau gradd o grwpiau sydd wedi
eu tangynrychioli mewn
perthynas â chyfanswm y DU
mewn AU yng Nghymru yn
ganlyniad yn rhannol i gynnydd
mawr mewn cronfeydd mynediad
a chronfeydd caledi i fyfyrwyr.
Maent wedi cynyddu o lai na £3
miliwn ym 1998-99 i £20 miliwn yn
2001-02.
9944.. Rydym yn parhau i osod nod o annog hyd yn oed mwy o bobl i gymryd rhan
mewn dysgu drwy gydol eu hoes. Yn benodol, rydym am roi cefnogaeth ariannol
wedi ei thargedu ar waith fel y gall pob person ifanc barhau mewn addysg neu
64
MMyyffyyrrwwyyrr
•• Cynyddodd nifer y bobl a gofrestrodd
mewn AB o 191,996 yn y flwyddyn
academaidd 1997/98 i 204,444 yn y
flwyddyn academaidd 1999/2000.
Cynyddodd Cronfeydd Mynediad i
Fyfyrwyr AB o £0.422 miliwn i £3.027
miliwn dros yr un cyfnod, ac i £10 miliwn
yn 2001/02.
•• Cynyddodd nifer y bobl a gofrestrodd
mewn AU o 95,453 yn y flwyddyn
academaidd 1997/98 i 204,444 yn y
flwyddyn academaidd 1999/2000.
Cynyddodd cronfeydd Caledi Myfyrwyr
AU a chronfeydd cefnogi eraill o £1.329
miliwn i £2.998 miliwn dros yr un cyfnod,
ac i £10 miliwn yn 2001/02.
•• Yn y flwyddyn academaidd 1998/99,
roedd 59 y cant o fyfyrwyr o gartrefi yng
Nghymru oedd yn astudio cyrsiau AU
amser llawn/ rhyngyrsiau yn astudio yng
Nghymru ac astudiodd 40 y cant mewn
sefydliadau yn Lloegr.
hyfforddiant ar ôl 16 oed ac y gall myfyrwyr aeddfed sy’n arbennig o anghenus
gymryd rhan mewn addysg gydol oes. Yn dilyn y Cytundeb Partneriaeth, rydym ni
wedi penodi grwp archwilio annibynnol ar galedi myfyrwyr a chyllid yng Nghymru
i adrodd ar ddewisiadau ar gyfer mynd i’r afael â’r problemau sy’n deillio o’r system
bresennol o gynnal a chefnogi myfyrwyr.
9955.. Adroddodd y grwp ar 14 Mehefin gan wneud 54 o argymhellion. Mae’r
Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes eisoes wedi rhoi’r argymhelliad ar gyfer
cynnydd ar unwaith yn lefel y cronfeydd mynediad a chaledi i fyfyrwyr ar waith (o
£11.5 miliwn i £20 miliwn). Argymhellodd y grwp hefyd y dylai’r trefniadau presennol
ar gyfer mynediad a chaledi gael eu disodli gan system newydd o Lwfansau Cynnal
Dysgu trwy brawf moddion ar gyfer pobl 16-18 oed, a Bwrseriaethau Cynhaliaeth
Myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr is-raddedig a myfyrwyr AB 19 oed a throsodd. Byddai
hyn yn cael ei gefnogi gan Gronfeydd Ariannol Wrth Gefn i ddiogelu pob dysgwr.
Byddwn yn:
•• mynd i’r afael â’r holl argymhellion sy’n berthnasol i lywodraeth ganolog y
DU, yn enwedig y rhai hynny ar ffioedd dysgu yn y dyfodol, gyda’r timau
perthnasol o Weinidogion;
•• rhoi ystyriaeth fanwl i’r argymhellion ar gyfer y Cynulliad ei hun, gan
ymgynghori ar faterion gweithredol pan fo’n briodol;
•• ystyried goblygiadau ariannol yr Adroddiad yn y Cylch Cynllunio Cyllideb
presennol, a’r cylchoedd yn dilyn hynny;
•• ceisio sefydlu pwerau deddfwriaethol er mwyn darparu sylfaen statudol
gadarn ar gyfer hawl dysgwyr i gael Lwfansau a Bwrseriaethau Cynhaliaeth.
65
66
CWESTIYNAU
1. A yw’r lefelau o gefnogaeth a amlinellir yn Adroddiad Rees yn
ddigonol i hybu’r lefelau mynediad a chyfranogiad a geisir gennym?
2. A ddylai cefnogaeth i ddysgwyr gan y Cynulliad gael ei chyfyngu’n
bennaf i fyfyrwyr o gartrefi yng Nghymru sydd hefyd yn dewis astudio
yng Nghymru?
3. Beth yw eich barn am y cynnig i roi rôl gynllunio i CCAUC o dan y
mesurau diogelu?
4. A ddylem geisio cyfuno dau Gyngor ELWa yn y dyfodol?
5. Sut yr ydych yn rhag-weld y bydd CCAUC yn cydweithio â’r
sefydliadau AU ac AB a busnesau i ddatblygu sgiliau, mentergarwch a
gwybodaeth?
PENNOD 8: CANLYNIADAU
Ffurf y Llwyddiant
9966.. Mae’r ddogfen ymbaratoi hon yn disgrifio amrediad o fesurau sy’n anelu at
drawsnewid cyfleoedd bywyd pobl yng Nghymru er gwell a dim llai na hynny. Y
mae wedi ei chynllunio i alluogi Cymru i oresgyn y rhwystrau i gynnydd a ffyniant
cymdeithasol trwy ddysgu gydol oes sydd yn ymestynnol ac yn rhywbeth y gellir ei
fwynhau ar yr un pryd. Bydd bod yn uchelgeisiol, gwneud defnydd doeth o’r cyllid
sydd ar gael, gwella safonau’n barhaus, gwerthuso llym, cefnogaeth ar gyfer
ymarferwyr a dilyn egwyddorion partneriaeth yn ennyn llwyddiant. Mae’r ffordd y
diffinnir eu llwyddiant yn y ddogfen hon yn sail ar gyfer y cynllunio corfforaethol
yn ELWa - y Cyngor Cenedlaethol a CCAUC, ac ar gyfer llawer o bethau eraill yn
ychwanegol16. Mae gan y canlyniadau a geisir gennym ddimensiwn ansoddol cryf.
Serch hynny bydd canlyniadau pwerus hefyd y gellir eu cyfleu yn feintiol. Dyma’r
rhai hynny.
Cyfnod Allweddol 2
O fewn cyd-destun cwricwlwm eang a chytbwys, dylai canran y disgyblion sy’n
cyrraedd o leiaf lefel 4 yn y pynciau craidd gael ei godi i’r gyfradd 70-80 y cant
erbyn 2002; i’r gyfradd 80-85 y cant o 2004 ymlaen; i 85-90 y cant erbyn 2007; ac i
90 y cant erbyn 2010.
Cyfnod Allweddol 3
Codi canran y disgyblion hynny sy’n cyrraedd o leiaf lefel 5 yn y pynciau craidd i’r
gyfradd 70-80 y cant erbyn 2002. Erbyn 2004 i 2007 dylai fod yn bosibl mynd
ymhellach fyth i’r gyfradd 80-85 y cant gyda 85-90 y cant yn cyrraedd y lefel
ddisgwyliedig erbyn 2010. Yna 70 y cant o ddisgyblion i gyrraedd y lefel
ddisgwyliedig ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 ym mhob pwnc yn y cwricwlwm
erbyn 2007; a 80 y cant erbyn 2010.
Cymwysterau Lefel 2
Cynyddu’r ganran o ddisgyblion 15 oed sy’n ennill 5 TGAU graddau A* i C neu
gymhwyster cyfwerth o 44 y cant ym 1997 i 54 y cant erbyn 2002; i 58 y cant erbyn
2004; i 64 y cant erbyn 2007; a dros 75 y cant i adael addysg orfodol wedi ennill o
leiaf 5 TGAU gradd A* - C neu gymhwyster cyfwerth erbyn 2010.
Dylai canran y disgyblion 15 oed sy’n ennill 5 TGAU gradd A* - G neu gymhwyster
cyfwerth godi o 80 ym 1997 i 91 y cant yn 2002 a 95 y cant yn 2004. Pob un i aros
mewn addysg neu i drosglwyddo i dderbyn hyfforddiant mewn gwaith erbyn 2010,
a dim un i adael yr ysgol heb gymwysterau.
67
16‘Gweler hefyd ETAP - ‘Y Cynllun Gweithredu ar Addysg a Hyfforddiant i Gymru’ – 1999.
Dangosydd y pynciau craidd
Dylai canran y disgyblion 15 oed sy’n ennill graddau TGAU A* i C neu gymhwyster
cyfwerth mewn mathemateg, gwyddoniaeth, Cymraeg neu Saesneg (wedi eu
cyfuno) fod yn uwch na’r man canol yn amrediad BEST17 o 40 i 60 y cant erbyn 2004;
50 i 70 y cant erbyn 2007; a 55 i 75 y cant erbyn 2010.
Cynhwysiant
Lleihau nifer y bechgyn sy’n tangyflawni o’u cymharu â merched 50 y cant o
niferoedd 1996 erbyn 2002; 55 y cant erbyn 2004; a 60 y cant erbyn 2010.
Mae nifer y disgyblion 15 oed sy’n gadael addysg amser llawn heb gymhwyster
cydnabyddedig i fod 15 y cant yn is na 1999 erbyn 2002; 25 y cant yn is na 1999 erbyn
2004; 60 y cant yn is erbyn 2007; a 100 y cant yn is erbyn 2010.
Dim ysgolion â llai na 25 y cant o ddisgyblion 15 oed yn ennill o leiaf 5 TGAU
graddau A* - C erbyn 2002; dim heb lai na 30 y cant erbyn 2004; dim heb lai na 35
y cant erbyn 2007 a dim heb lai na 40 y cant erbyn 2010 a phob ysgol â chryfderau
amlwg; yn arloesol; yn dilyn arferion da ac yn gwasanaethu eu cymunedau.
Gwelliant mewn safonau dosbarthiadau cynradd ac uwchradd i fod yn foddhaol
ar gyfer o leiaf 95 y cant neu yn well erbyn 2002; 98 y cant erbyn 2007; a 100 y cant
erbyn 2010, a dim ysgolion yn derbyn asesiad yn barnu eu bod yn methu.
Gostyngiad mewn absenoliaeth mewn ysgolion uwchradd i lai na 8 y cant erbyn
2004; yn is na 7 y cant erbyn 2007; ac yn is na 5 y cant erbyn 2010.
Dylai’r awdurdodau lleol weithio gydag ysgolion i sicrhau bod 75 y cant o ‘blant sy’n
derbyn gofal’ yn gadael yr ysgol gydag o leiaf 2 TGAU neu gymhwyster cyfwerth
erbyn 2003; gydag o leiaf amrediad o gymwysterau ar lefel 2 erbyn 2007; ac
amrediad o gymwysterau ar lefel 2 a 3 (a lleiafswm o 5 TGAU neu gymhwyster
cyfwerth) erbyn 2010.
Pob plentyn i dderbyn manteision prosbectws llawn o weithgareddau y tu allan
i’r ysgol yn cyfuno gweithgareddau gwirfoddol, mentergarol, diwylliannol,
chwaraeon ac awyr agored erbyn 2010.
Creu 22,000 o leoedd gofal plant a gyllidir gan y Loteri trwy Gynlluniau
Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant erbyn 2003.
Dim dosbarthiadau babanod o dros 30 o ddisgyblion (heblaw am eithriadau
statudol) erbyn mis Medi 2001; torri maint dosbarthiadau’r adran iau i 30 o
68
17BEST – ‘Adeiladu Ysgolion Ardderchog Gyda’n Gilydd’ – 1997.
ddisgyblion neu lai erbyn mis Medi 2003; a bwrw ymlaen â’r cynlluniau i leihau nifer
y disgyblion ym mhob dosbarth cynradd i 25 neu lai o fewn ail dymor y Cynulliad.
Yr awdurdodau lleol i fod wedi gwneud buddsoddiad sylweddol er mwyn
atgyweirio, adnewyddu ac ailgodi adeiladau ysgolion a’r holl awdurdodau lleol i
fod wedi sefydlu cynlluniau rheoli asedau a rhaglenni buddsoddi cyfalaf mewn
ysgolion ar gyfer atgyweirio, adnewyddu ac ailgodi ysgolion erbyn 2003 – fel eu
bod, erbyn 2010, mewn cyflwr da, yn cael eu cynnal a’u cadw’n briodol, ac yn
galluogi dysgwyr i wneud defnydd llawn ac effeithiol o TG.
Yr holl awdurdodau lleol i fod â chynlluniau strategol addysg wedi eu
cymeradwyo ar waith erbyn 2002 ar gyfer y cyfnod 2002-05 er mwyn darparu
ffyrdd effeithiol o hybu gwelliannau i ysgolion.
Targedau Dysgu Gydol Oes
Nifer y bobl rhwng 16-18 oed heb gymwysterau i leihau o tua 1 o bob 5 ym 1996 i
1 o bob 10 erbyn 2002; i 1 o bob 20 erbyn 2004; 1 o bob 25 erbyn 2007 ac 1 o bob
50 erbyn 2010.
Nifer y bobl 19 oed heb NVQ lefel 2 neu gymhwyster cyfatebol i leihau o dros 1 o
bob 3 ym 1996 i tua 1 o bob 5 yn 2002; i lai nag 1 o bob 5 yn 2004; i 1 o bob 6 yn
2007; ac 1 o bob 7 yn 2010.
Nifer y bobl 19 oed heb NVQ lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol i leihau o 3 o bob
5 yn 2000 i lai na 3 o bob 5 yn 2004; yn agos i 1 o bob 2 yn 2007; ac 1 ym mhob 2
erbyn 2010.
O leiaf 25 y cant o bobl 16 – 19 oed i ennill y Fagloriaeth Gymreig erbyn 2010.
Cyfran yr oedolion o oedran gweithio heb gymwysterau i ostwng o tua 1 o bob 4
ym 1996; i 1 o bob 7 erbyn 2002; i lai nag 1 o bob 8 erbyn 2004; 1 o bob 9 erbyn 2007;
ac 1 o bob 10 erbyn 2010.
Cyfran yr oedolion o oedran gwaith ag NVQ lefel 2 neu gyfwerth i gynyddu o
dros 5 o bob 10 ym 1996; i 7 o bob 10 erbyn 2002; dros 7 o bob 10 erbyn 2004; 8 o
bob 10 erbyn 2007 a thros 8 o bob 10 erbyn 2010.
Cyfran yr oedolion o oedran gwaith ag NVQ lefel 3 neu gyfwerth i gynyddu o tua
3 o bob 10 ym 1996; i bron 5 o bob 10 erbyn 2002; i dros 5 o bob 10 erbyn 2004; i 6
o bob 10 erbyn 2007 a thros 6 o bob 10 erbyn 2010.
69
Cyfran yr oedolion o oedran gwaith ag NVQ lefel 4 neu gyfwerth i gynyddu o tua
1 o bob 5 ym 1996; i dros 1 o bob 4 erbyn 2002; i bron 3 o bob 10 erbyn 2004; o leiaf
3 o bob 10 erbyn 2007; a thros 3 o bob 10 erbyn 2010.
Cyfran yr oedolion o oedran gwaith sydd â sgiliau gweithredol sylfaenol mewn
llythrennedd i gynyddu o tua 8 o bob 10 ym 1996; i o leiaf 9 o bob 10 erbyn 2002;
a thros 9 o bob 10 erbyn 2004 ac i gynnal y lefel honno wedi hynny.
Cyfran yr oedolion sydd â sgiliau gweithredol sylfaenol mewn rhifedd i gynyddu
o dros 5 o bob 10 ym 1996; i 6 o bob 10 yn 2002; a thros 6 o bob 10 yn 2004; i 8 o
bob 10 erbyn 2007 a 9 o bob 10 erbyn 2010.
Y Rhaglenni Llythrennedd a Rhifedd i Deuluoedd i gael eu hehangu i gynnwys
2,300 o rieni a phlant erbyn 2003; 9,000 erbyn 2004; 12,000 erbyn 2007; a 15,000
erbyn 2010.
Sefydlu Gyrfa Cymru fel gwasanaeth i bob oedran er mwyn darparu gwybodaeth a
chyngor ar ddysgu a gyrfaoedd gyda’r gallu i 80,000 o bobl y flwyddyn ddefnyddio
ei linell gymorth; a’r Cynllun Porth Ieuenctid i gynnig gwasanaeth sy’n asesu
gofynion a chynllun gweithredu gyrfaol i bob person ifanc sydd ei angen erbyn
2003.
Cyfranogiad Cyflogwyr
Sefydlu fframwaith newydd i gefnogi mentrau llai sy’n cyflogi llai na 50 o bobl, i
hybu eu cyfranogiad mewn hyfforddiant a datblygiad i weithwyr i safonau
mesuradwy wedi eu hachredu.
O ran y cyrff sy’n cyflogi llai na 50 o bobl, 825 i gyflawni Safon Buddsoddwyr
mewn Pobl erbyn 2002; 1,100 erbyn 2004; 1,350 erbyn 2007; a 1,500 erbyn 2010.
Canran y cyrff â 50 neu fwy o weithwyr sy’n cyflawni Safon Buddsoddwyr mewn
Pobl i gynyddu o 15 y cant ym 1997; i 35 y cant erbyn 2002; i 40 y cant erbyn 2004;
i 50 y cant erbyn 2007; a 58 y cant erbyn 2010.
Canran y cyrff sy’n cyflogi 200 o bobl neu fwy sy’n cyflawni Safon Buddsoddwyr
mewn Pobl i gynyddu o 27 y cant ym 1997; i 48 y cant erbyn 2002; i 58 y cant erbyn
2004; i 70 y cant erbyn 2007; 8ac i 50 y cant erbyn 2010.
Ehangu Cyfranogiad
Nifer y cyfranogwyr mewn addysg a hyfforddiant ôl 16 i gynyddu o leiaf 10,000
bob blwyddyn o 1999 i 2004; a 12,000 bob blwyddyn o 2004 i 2010.
70
Erbyn 2004, rhaglenni dysgu yn y gwaith fel y Prentisiaethau Modern a’r Diploma
Sgilian Modern i Oedolion i’w hehangu i ddarparu lle ar gyfer hyd at 14,000 o bobl
ar lefel 3 NVQ ac yn uwch.
Y Fargen Newydd i helpu 30,000 o bobl o dan 25 oed i symud o fudd-dâl i waith
neu hyfforddiant a hefyd i dargedu anweithgarwch ymysg grwpiau oedran hyn,
rhieni unigol a phobl ag anableddau erbyn 2003.
Erbyn 2007, 36,000 o fyfyrwyr ychwanegol i fod wedi eu denu i addysg bellach ac
uwch gyda chymorth y ddarpariaeth newydd sylweddol ar gyfer Cronfeydd
Mynediad.
50,000 o Gyfrifon Dysgu Unigol wedi eu creu erbyn 2002; ELWa i sefydlu llinellau
sylfaen ar gyfer pennu targedau ar gyfer Cyfrifon â disgownt erbyn 2003.
15 y cant o gyrsiau addysg bellach i gyrraedd y safon uchaf (Gradd 1); 70 y cant i
gyrraedd Gradd 1 neu 2 erbyn 2003; 18 y cant i gyrraedd Gradd 1 ac 80 y cant i
gyrraedd Gradd 1 neu 2 erbyn 2007 ; ac 20 y cant i gyrraedd Gradd 1 a 90 y cant i
gyrraedd Gradd 1 neu 2 erbyn 2010.
Nifer y dyfarniadau ymchwil i’r lefel uchaf mewn addysg uwch i gynyddu un
traean erbyn 2003; 35 y cant erbyn 2007 a 10 y cant arall erbyn 2010.
Nifer y myfyrwyr tramor sy’n mynychu cyrsiau addysg uwch yng Nghymru i
gynyddu tua 3,000 erbyn 2003; o leiaf 9,000 erbyn 2007 a 12,000 erbyn 2010 gyda
chymorth Menter Myfyrwyr Tramor Llywodraeth y DU.
71
CCWWEESSTTIIYYNNAAUU
1. O dderbyn y bydd yn rhaid i ddarparwyr ac ymarferwyr ddechrau o’u
sefyllfa bresennol, a ydych yn cytuno bod y canlyniadau a’r targedau
hyn yn cynrychioli amcanion synhwyrol a chyraeddadwy?
2. A oes unrhyw beth heb ei gynnwys?
3. I ba raddau y dylem ddatblygu’r dangosyddion trwy gyfeirio at
feincnodau rhyngwladol?
72
ATODIAD 1
Y WLAD SY’N DYSGU
Sut i Ymateb
Mae’r ddogfen ymbaratoi hon yn cynnwys nifer o gwestiynau yr hoffem glywed eich
barn arnynt. Byddem hefyd yn croesawu cwestiynau ar bob rhan o’r ddogfen. Yn
unol â’r Cod Ymarfer ar Lywodraeth Agored, mae’n bosibl y byddwn yn caniatáu i’r
cyhoedd weld yr ymatebion hyn, oni bai eich bod yn gofyn i ni gadw eich ymateb
yn gyfrinachol.
Anfonwch eich ymateb i’r ddogfen ymbaratoi hon erbyn diwedd mis Hydref 2001,
at:
Mr Lee Anderson
Yr Is-adran Dysgu Gydol Oes 3
Yr Adran Addysg a Hyfforddiant
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ystafell N. 07, Trydydd Llawr
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Ffôn: (029) 2082 5845
Ffacs: (029) 2082 5852
E-bost: [email protected]
Gellir cael copïau ychwanegol o’r ddogfen ymbaratoi hon o’r cyfeiriad uchod. Mae
hefyd ar gael ar Wefan y Cynulliad Cenedlaethol, a’r cyfeiriad yw
www.dysgu.cymru.gov.uk neu www.learning.wales.gov.uk ac mae ar gael ar ffurf
Braille ac ar gasét sain.
73
74
ATODIAD 2
Y WLAD SY’N DYSGU
Rhestr byrfoddau
AAAAAA
Anghenion Addysgol Arbennig
AAAALLll
Awdurdod Addysg Lleol
AABB
Addysg Bellach
AACCCCAACC
Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru
AADDEEWW
Cymdeithas y Cyfarwyddwyr Addysg yng Nghymru
AAOOCCCC
Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru
AAUU
Addysg Uwch
BBEESSTT
Adeiladu Ysgolion Ardderchog Gyda’n Gilydd
BBIIGG
Bwrdd yr Iaith Gymraeg
BBmmPP
Buddsoddwyr mewn Pobl
CCAACC ((CC))
Cyngor Addysgu Cenedlaethol (Cymru)
CCCCAAUUCC
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
75
CCCCEETTss
Consortia Cymunedol ar gyfer Addysg a Hyfforddiant
CCDDUU
Cyfrifon Dysgu Unigol
CCLLllLLCC
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
CCMMCC
Cynnyrch Mewnwladol Crynswth
CCPPDD
Datblygu Proffesiynol Parhaus
DDffEEEE
Yr Adran Addysg a Chyflogaeth
DDffEESS
Yr Adran Addysg a Sgiliau
DDSSMMOO
Diploma Sgiliau Modern i Oedolion
EEFFQQMM
Sefydliad Ewropeaidd er Rheoli Ansawdd
EELLWWaa
Yr enw ar y cyd ar gyfer Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant
a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
EEOOCC
Y Comisiwn Cyfle Cyfartal
EESSTTYYNN
Swyddfa Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru.
EETTAAGG
Grwp Gweithredu Addysg a Hyfforddiant
EETTAAPP
Cynllun Gweithredu Addysg a Hyfforddiant
GGCCAAHH
Grant Cynnal Addysg a Hyfforddiant (GEST)
76
GGCCDD
Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu
GGNNVVQQ
Cymhwyster Galwedigaethol Cyffredinol Cenedlaethol
HHEEWW
Addysg Uwch Cymru
NNVVQQ
Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol
PPiiDDdd
Y Brifysgol i Ddiwydiant (learndirect)
SSOOPP
Cynllun Trefniadaeth Ysgol
TTAARR
Tystysgrif Addysg i Raddedigion
TTGG
Technoleg Gwybodaeth
TTGGAAUU
Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd
TTGGCChh
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
UUEE
Yr Undeb Ewropeaidd
WWDDAA
Awdurdod Datblygu Cymru
WWUULLFF
Cronfa Dysgu Undeb Cymru
77