dysgu oedolion yn y gymuned yn nhorfaen€¦ · rydym yn ymfalchïo mewn cyflenwi gwersi o ansawdd...
TRANSCRIPT
Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn
Nhorfaen
Hydref 2020
www.facebook.com/torfaenACL www.torfaen.gov.uk/adultcommunitylearning
2 DYSGU CYMUNEDOL I OEDOLION NHORFAEN TYMOR YR HYDREF 2020
Cynnwys
Croeso 3
Cofrestru a Thalu 4
Sgiliau Hanfodol 5-7
TGAU 5-7
Cymwysterau/e-Ddysgu 8-9
Ieithoedd 10
Ffordd o fyw a Hamdden 11-14
Prosiectau Ewropeaidd 15
Clybiau 16
Croesyceiliog Canolfan Addysg Gymunedol
Cod y Ganolfan CR
The Highway, Croesyceiliog,
Cwmbran, NP44 2HF
Ffôn: 01633 647700
E-bost: [email protected]
Pont-y-pŵl Canolfan Addysg Gymunedol
Cod y Ganolfan PP
The Settlement, Trosnant Street,
Pont-y-pŵl , NP4 8AT
Ffôn: 01495 742600
E-bost: [email protected]
Y Pwerdy
Cod y Ganolfan PS
Blenheim Road, St Dials,
Cwmbran, NP44 4SY
Ffôn: 01633 647647
E-bost: [email protected]
Canolfannau
COFRESTRWCH 01633 647647 www.torfaen.gov.uk/adultlearningbrochure 3
Croeso Croeso i rifyn Hydref 2020 o lyfryn Dysgu Oedolion yn Eu Cymuned.
Mae'r Gwasanaeth Dysgu Oedolion yn Eu Cymuned yn Nhorfaen yn darparu ystod o gyrsiau o ansawdd uchel i ysbrydoli oedolion o bob rhan o'r sir mewn amgylchedd cyfeillgar, calonogol a chefnogol.
Os ydych chi'n ystyried ymgeisio am swydd neu os hoffech symud ymlaen yn eich gyrfa, mae ein cyrsiau achrededig yn cynnig cyfle delfrydol i chi ddatblygu'ch sgiliau, gwella'ch rhagolygon o ran cyflogadwyedd ac ennill cymwysterau gwerthfawr.
I'r rhai a hoffai ddysgu er budd personol, bydd ein cyrsiau Ffordd o Fyw a Hamdden yn eich galluogi i gychwyn ar siwrnai ddengar o archwilio profiadau newydd, datblygiad personol a gwell iechyd a lles.
Oherwydd yr adeg o’r flwyddyn y mae ein rhaglen yn cael ei llunio ac amser cynhyrchu’r llyfryn, gall dyddiadau tymor a dulliau cyflwyno cyrsiau newid. Oherwydd canllawiau’r Llywodraeth ar gyfyngiadau COVID-19 a newidiadau posibl yn y gofynion cadw pellter cymdeithasol.
Ein blaenoriaeth yw eich galluogi i ddysgu a’ch cadw’n iach.
Y Cynghorydd Jo Gauden Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio
Pam astudio gyda Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn Nhorfaen?
Mwynhad
Rydym yn ymfalchïo mewn cyflenwi gwersi o ansawdd sy’n ddifyr ac yn rhoi mwynhad i’n dysgwyr.
Gall ein tiwtoriaid ymroddgar rannu eu profiadau o arbenigrwydd a phrofiad gyda chi, gan eich ysbrydoli i fynd â’ch sgiliau i’r lefel nesaf. Ansawdd
Fel darparwr dysgu cymunedol arweiniol yn y fwrdeistref, rydym yn sicrhau bod ein cyrsiau o’r ansawdd uchaf.
Rydym yn dilyn cyrff dyfarnu a fframweithiau adloniadol a gydnabyddir yn genedlaethol, sy’n cael eu cyflenwi gan diwtoriaid profiadol ac ymroddgar.
Cyflogadwyedd
Os ydych eisiau gwella eich rhagolygon gyrfa at y dyfodol, gallwn hefyd gynnig cyrsiau cyflogadwyedd.
Mae rhai o’n dysgwyr yn dewis cychwyn gyda chwrs adloniadol cyn canfod angerdd newydd a mynd ymlaen i gymhwyster llaw.
I gael rhagor o wybodaeth ar gyrsiau am ddim a chymorth cyflogaeth, gallwch gysylltu â thîm ymroddedig Cyflogadwyedd y Cyngor Bwrdeistref Sirol ar 01633 647743.
Cyflawniad
Mae llawer o’n dysgwyr yn cael cyflawniad mawr mewn parhau i ddysgu, sy’n galluogi ffocws, neu roi profiad newydd i chi eu rhannu gyda’ch ffrindiau a’ch teulu, ynghyd â rhoi teimlad braf o gyflawni.
Hyblygrwydd
Rydym yn cynnig amrywiol gyrsiau mewn nifer o leoliadau ac ar amserau amrywiol, sy’n golygu y gallwch ddewis cwrs ar amser ac mewn lle sy’n gyfleus i chi.
D - Dysgu O – Opsiynau C - Cyflawni
COVID-19
Yn ystod cyfnod diweddar Covid 19 rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau ein bod yn gallu darparu amgylchedd dysgu diogel a dylech fod yn hyderus y bydd eich diogelwch a lles bob amser yn flaenoriaeth i ni. Serch hynny, byddwch yn ymwybodol ein bod yn disgwyl i’n dysgwyr gadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru er mwyn eu hiechyd a’u diogelwch nhw’u hunain ac eraill.
Efallai y bydd rhai cyrsiau yn cychwyn arlein cyn y gellir dysgu yn y dosbarth neu efallai y byddwn yn chwilio am leoliadau amgen.
Os bydd angen i ganolfannau gau yn y dyfodol, lle bo modd bydd cyrsiau yn parhau arlein.
4 DYSGU CYMUNEDOL I OEDOLION NHORFAEN TYMOR YR HYDREF 2020
Cofrestru a Thalu
Sut i gofrestru Gallwch gofrestru ar gwrs trwy ffonio ble fydd ein tîm yn hapus i roi gwybodaeth bellach i chi a’ch helpu i gofrestru.
Ein oriau agor yn ystod y tymor yw Dydd Llun i Ddydd Iau 8.30yb nes 9.15yh a Dydd Gwener 8.30yb nes 4,00yp. Ein oriau agor yn ystod gwyliau’r ysgol yw Dydd Llun i Ddydd Iau 08.30yb nes 4,30yp a Dydd Gwener 08.30yb nes 4,00yp.
Esbonio Taliadau Pan fydd tâl, yna er mwyn sicrhau lle ar eich cwrs, bydd angen i chi dalu lleiafswm o 50% o gost y cwrs. Gellir talu’r gweddill ar unrhyw adeg cyn dechrau’r cwrs, ond nid yn hwyrach na 4 wythnos ar ôl y dyddiad cychwyn. Rhoddir lleoedd ar y cwrs ar sail y cyntaf i’r felin gaiff falu.
NODWCH: Rhaid talu’n llawn ar adeg cofrestru am gyrsiau sy’n 8 wythnos neu lai.
Sut I Dalu Gallwch dalu gyda cherdyn credyd neu ddebyd dros y ffôn.
Efallai bydd ein prosiectau a ariennir gan Ewrop yn gallu rhoi cymorth gyda’ch costau dysgu a chyda ffioedd a thaliadau. Ffoniwch 01633 647743 am fwy o wybodaeth.
Yr Iaith Gymraeg Mae cyrsiau ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Nodwch eich dewis pan fyddwch yn cofrestru.
Hygrchedd Mae ein canolfannau’n gwbl hygyrch.
Er mwyn sicrhau bod eich ymweliad yn mynd yn dda, cysylltwch â ni cyn i chi ymweld ag fe wnawn ni bob peth i’ch cefnogi chi gyda’ch dysgu.
Ymwadiad Mae Dysgu Cymunedol i Oedolion Torfaen yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a chyrsiau yn y canllaw hwn. Serch hynny nid yw hyn yn gwarantu darparu’r gwasanaethau hynny.
Mae darparu’r cyrsiau’n dibynnu ar fod yna ddigon o alw. Mae’r wybodaeth yn y llyfryn hwn, hyd eithaf ein gwybodaeth, yn gywir wrth i’r llyfryn fynd i’r wasg.
Ni dderbyniwn unrhyw gyfrifoldeb am gamgymeriadau neu hepgoriadau ac rydym yn cadw’r hawl i newid, diwygio neu ddileu cyrsiau a restrir heb rybudd.
Cansol ac Addaliadau Mae Dysgu Cymunedol i Oedolion Torfaen yn cadw’r hawl i ganslo a newid cyrsiau. Mewn achosion o’r fath, rhoddir ad-daliad llawn neu gymesur.
Ni fydd dosbarthiadau nad ydynt yn cyrraedd y nifer angenrheidiol o ddysgwyr yn dechrau.
Unwaith y bydd dysgwr wedi cofrestru ar gwrs, bydd yn gyfrifol am yr holl gostau.
Ni roddir ad-daliadau oni bai bod y cwrs yn cael ei ganslo.
Ffioedd Ychwanegol Mae ffioedd aelodaeth defnyddwyr y ganolfan yn berthnasol i gwrs o ddau sesiwn neu fwy.
Os bydd angen i ganolfannau gau yn y dyfodol, lle bo modd bydd cyrsiau yn parhau arlein.
I gymryd rhan mewn dosbarthiadau ar-lein bydd angen cysylltiad dibynadwy â’r rhyngrwyd, cyfrifiadur/gliniadur/tabled/ffôn symudol gyda’r porwr diweddaraf. Bydd angen meicroffon ar y ddyfais ac, os yw’n bosibl, camera. Siaradwch â ni os oes angen help a chefnogaeth arnoch chi i fynd ar-lein, 01633 647647.
COFRESTRWCH 01633 647647 www.torfaen.gov.uk/adultlearningbrochure 5
Mae angen sgiliau hanfodol i lwyddo mewn gwaith, dysgu a bywyd. Dyna'r cerrig sarn sy'n ei gwneud yn haws dysgu sgiliau eraill. Beth bynnag yw eich pwynt cychwyn, gallwn helpu.
Mae gennym fwy na 50 o gyrsiau Sgiliau Hanfodol a Llythrennedd Digidol i ddewis ohonynt, gan gynnwys cyrsiau arlein lle nad oes angen dysgu wyneb i wyneb ac y gellir eu cwblhau o gysur eich cartref eich hun.
Cyrsiau Rhifedd AM DDIM* Cyrsiau Llythrennedd AM DDIM* Cyrsiau Llythrennedd Digidol AM DDIM* Cyrsiau ESOL - Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill AM DDIM* Cyrsiau ILS - Sgiliau Byw'n Annibynnol AM DDIM* *Mae ffioedd aelodaeth defnyddwyr y ganolfan yn berthnasol
Mae'r cyrsiau yma ar gael ddydd a nos ledled Torfaen
Ymunwch ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn.
Sgiliau Hanfodol
Llongyfarchiadau i Mary Murray Arbenigwr Cwricwlwm Sgiliau Hanfodol Dysgu Cymunedol i Oedolion Nhorfaen
ar ei Gwobr Ysbrydoli Tiwtor y Flwyddyn.
Mae Mary Murray yn diwtor Sgiliau Hanfodol a TGAU Rhifedd gydag enw da am ragoriaeth. Mae ei dosbarthiadau bob amser yn llawn ac mae dysgwyr yn gofyn am gael mynychu ei sesiynau oherwydd iddynt glywed amdanynt gan ffrindiau, perthnasau neu gymdogion.
Er mai ei huchelgais oedd bod yn athrawes mathemateg, dilynodd Mary lwybr gyrfa gwahanol ond ar ôl mynychu dosbarthiadau addysg oedolion i wella ei sgiliau cyfrifiadurol, cafodd ei hysbrydoli i feddwl y gallai addysgu oedolion. Ar ôl gwirfoddoli mewn dosbarth mathemateg, enillodd dystysgrif TAR a chyflawni ei nod.
Dywedodd Mary, “Fe nghenhadaeth yw dangos i ddysgwyr y gall mathemateg fod yn hwyl ac nid y pwnc brawychus y credent ei fod pan oeddent yn yr ysgol. Nid yn unig y bydd yn helpu i gadw eu meddyliau’n effro, bydd hefyd yn rhoi rhyngweithio cymdeithasol. I rieni mae’n ffordd o gadw lan gyda’u plant ac mae’n aml yn arwain dysgwyr i feddwl mwy am eu gyrfaoedd.”
TGAU Saesneg a TGAU Mathemateg Mae ein cyrsiau TGAU Mathemateg a Saesneg llwyddiannus yn llwybr at ddyfodol gwell.
Gallan nhw fod yn llwybr i waith, nodau newydd mewn gyrfa neu fynediad at addysg uwch. Mae'r cyrsiau dwys yma'n gofyn i chi fynychu'n rheolaidd ac am waith ychwanegol gartref.
Ar gyfer TGAU Mathemateg bydd angen dealltwriaeth sylfaenol o egwyddorion mathemategol arnoch chi. Byddwch yn dilyn maes llafur gosod CBAC a bydd pynciau'n cynnwys rhifau, trin data,
algebra a siâp
Ar gyfer TGAU Saesneg bydd angen i chi fod yn ddarllenwr da, yn hyderus ynglŷn ag ysgrifennu, gallu mynegi'ch syniadau ac ymateb mewn trafodaeth.
Byddwch yn dilyn maes llafur gosod CBAC a fydd yn cynnwys darllen a gwerthuso testunau'n feirniadol, crynhoi a chyfosod gwybodaeth a syniadau, ysgrifennu'n effeithiol gan ddefnyddio Saesneg
safonol, gramadeg, atalnodi a sillafu.
Ffoniwch i gael sgwrs anffurfiol am ein hystod eang o gyrsiau sgiliau hanfodol a TGAU, a chael hyd i’r cwrs iawn i chi.
01633 647647
6 DYSGU CYMUNEDOL I OEDOLION NHORFAEN TYMOR YR HYDREF 2020
Gwella'ch Saesneg
Magwch hyder mewn darllen, ysgrifennu a siarad a gwrando. Gloywch sillafu, atalnodi a gramadeg.
Gwella'ch Mathemateg
Magwch hyder mewn sgiliau rhifau sylfaenol gan gynnwys y defnydd o ffracsiynau, degolion a chanrannau. Dysgwch sut i ddefnyddio'r system fetrig ar gyfer prosiecctau yn y cartref, dehongli graffiau a thablau a deall a defnyddio gwybodaeth ariannol sylfaenol.
Gwella’ch Sgiliau Digidol
Dysgwch sut i ddefnyddio cyfrifiadur, gliniadur neu dabled yn effeithiol. P'un ai ydych chi'n ddechreuwr pur neu am wella'ch sgiliau digidol, bydd ein cyrsiau'n eich helpu i wneud y mwyaf o dechnoleg a chadw'n ddiogel ar-lein. Rhyddhewch eich creadigrwydd!
ESOL - Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill
Mae'r cyrsiau yma'n diwallu anghenion pobl nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt. Mae dosbarthiadau ar gael i ddechreuwyr pur a'r rheiny sydd am ddatblygu eu Saesneg a dysgu am fywyd yn y DU. Gwellwch hyder wrth siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Dysgwch mewn grwpiau bach, cyfeillgar trwy amrywiaeth o weithgareddau fel trafodaethau mewn grŵp, gemau iaith, posau a chwarae rôl.
ILS - Sgiliau Byw'n Annibynnol
Mae Dysgu Cymunedol i Oedolion Torfaen yn cynnig cyrsiau i oedolion gydag amrywiaeth o anableddau ac anawsterau dysgu. Cynllunnir cyrsiau ILS i ddatblygu sgiliau craidd fel hyder, cyfathrebu, sgiliau cymdeithasol a sgiliau byw'n annibynnol. Mae dysgu'n digwydd mewn grwpiau bach mewn awyrgylch hwyliog a chyfeillgar.
Os bydd angen i ganolfannau gau yn y dyfodol, lle bo modd bydd cyrsiau yn parhau arlein.
I gymryd rhan mewn dosbarthiadau ar-lein bydd angen cysylltiad dibynadwy â’r rhyngrwyd, cyfrifiadur/gliniadur/tabled/ffôn symudol gyda’r porwr diweddaraf. Bydd angen meicroffon ar y ddyfais ac, os yw’n bosibl, camera. Siaradwch â ni os oes angen help a chefnogaeth arnoch chi i fynd ar-lein, 01633 647647.
COFRESTRWCH 01633 647647 www.torfaen.gov.uk/adultlearningbrochure 7
Sgiliau Hanfodol a TGAU
Gwella'ch Saesneg
Gwella'ch Mathemateg
Gwella’ch Sgiliau Digidol
ESOL - Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill
ILS - Sgiliau Byw'n Annibynnol
Mae gennym dros 50 o gyrsiau Sgiliau Hanfodol a Llythrennedd Digidol AM DDIM ar gael ddydd a nos ledled Torfaen. Ymunwch ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn.
Ffoniwch i ddod o hyd i gwrs sy'n iawn i chi 01633 647647 Mae'r cyrsiau canlynol ar gael hefyd:
Cyflwyniad i Godio
Dysgwch iaith raglennu gan ddefnyddio'r cymhwysiad hwyliog a gweledol, Scratch. Cynlluniwch a rhaglennwch brosiect animeiddio gan dorri i lawr egwyddorion sylfaenol codio o sylwadau a namau at fathau o data, dolenni a chod ffug. Dysgwch ragor am yr iaith raglennu, Python, un o'r ieithoedd codio fwyaf poblogaidd a defnyddiol yn y byd.
Cyflwyniad i Godio SEC003 Ll 18:30 20:30 CR 28/09/20 10 wythnos AM DDIM*
Cyflwyniad i Godio SEC013 G 10:00 12:00 CR 02/10/20 10 wythnos AM DDIM*
TGAU Saesneg
Bydd angen i chi fod yn ddarllenwr da, yn hyderus ynglŷn ag ysgrifennu, gallu mynegi'ch syniadau ac ymateb mewn trafodaeth. Byddwch yn dilyn maes llafur gosod CBAC a fydd yn cywnnys darllen a gwerthuso testunau'n feirniadol, crynhoi a chyfosod gwybodaeth a syniadau, ysgrifennu'n effeithiol gan ddefnyddio Saesneg safonol, gramadeg, atalnodi a sillafu. Cynhwysir cost cofrestru ar gyfer yr arholiad yn ffi 'r cwrs.
TGAU Saesneg DGP006 Ll 18:00 20:30 PS 07/09/20 32 wythnos £226.00**
TGAU Saesneg DGS004 Me 18:00 20:30 PP 09/09/20 32 wythnos £226.00**
TGAU Saesneg DGS005 I 09:30 12:00 PP 10/09/20 32 wythnos £226.00**
Hanes Teuluol - Cael hyd i'ch teulu
Dysgwch sut i ymchwilio ac olrhain eich hanes teuluol gan ddefnyddio gwasanaethau ar-lein
Hanes Teuluol SEP029 G 12:30 14:00 PS 02/10/20 10 wythnos AM DDIM*
Paratoi ar gyfer TGAU
Ydych chi'n ystyried sefyll TGAU Mathemateg neu Saesneg yn y dyfodol ond ddim yn teimlo'n barod eto? Bydd y cyrsiau 38 wythnos yma'n cynnwys y sgiliau y mae eu hangen i sefyll TGAU yn y dyfodol.
Paratoi ar gyfer TGAU Saesneg SEP006 Ll 13:00 15:00 PS 07/09/20 38 wythnos AM DDIM*
Paratoi ar gyfer TGAU Saesneg SEP027 I 18:30 20:30 PS 10/09/20 38 wythnos AM DDIM*
Paratoi ar gyfer TGAU Maths SES011 Ma 13:00 15:00 PP 08/09/20 38 wythnos AM DDIM*
TGAU Maths
Bydd angen dealltwriaeth sylfaenol o egwyddorion mathemategol arnoch chi. Byddwch yn dilyn maes llafur gosod CBAC a bydd pynciau'n cynnwys rhifau, trin data, algebra a siâp. Cynhwysir cost cofrestru ar gyfer yr arholiad yn ffi'r cwrs.
TGAU Maths DGP007 Ma 09:30 12:00 PS 08/09/20 32 wythnos £226.00**
TGAU Maths DGP008 Ma 18:00 20:30 PS 08/09/20 32 wythnos £226.00**
TGAU Maths DGC006 Me 18:00 20:30 CR 09/09/20 32 wythnos £226.00**
TGAU Maths DGS006 I 18:00 20:30 PP 10/09/20 32 wythnos £226.00**
*Mae ffioedd aelodaeth defnyddwyr y ganolfan yn berthnasol **Ffi cymwysterau yn cael ei gynnwys yng nghost y cwrs
8 DYSGU CYMUNEDOL I OEDOLION NHORFAEN TYMOR YR HYDREF 2020
Cymwysterau ac e-Ddysgu
Nodwch: efallai bydd cyrsiau a hysbysebir yn newid oherwydd cyfyngiadau COVID-19
*Deunyddiau’r cwrs yn cael eu cynnwys yng nghost y cwrs **Ffi cymwysterau yn cael ei gynnwys yng nghost y cwrs
CR - Canolfan Addysg Croesyceiliog PP - Canolfan Addysg Pont-y-pŵl
PS - Y Pwerdy
City and Guilds Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 2
Bydd y cwrs Dyfarniad Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion yn rhoi'r wybodaeth hanfodol sydd ei hangen arnoch i ddechrau eich gyrfa fel Cynorthwyydd Addysgu. Byddwch yn dysgu sut i ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu, gyda phlant o bob oed, tra hefyd yn sicrhau dealltwriaeth o'u datblygiad addysgol, gan gynnwys eu hymddygiad a'u hanghenion lles.
Mae'r cwrs Tystysgrif Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion hefyd ar gael, mae hwn yn gyfuniad o theori a lleoliad. Bydd y cwrs hwn yn darparu technegau ymarferol i chi gynllunio gweithgareddau dysgu, strategaethau asesu a datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth graidd o anghenion addysgol plant.
Gofynion Cymhwystra ar gyfer y Cwrs - Rhaid bod gan ymgeiswyr TGAU gradd C (neu Gyfwerth â Lefel 2) mewn Mathemateg a/neu Saesneg. Bydd y cymwysterau’n cael eu gwirio a’u cadarnhau.
Mae lleoedd ar y cwrs hwn yn gyfyngedig. Cadarnheir lle yn amodol ar fodloni’r holl feini prawf.
Ceisiadau am leoedd ar Gyrsiau Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
Cam 1 - Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy o wybodaeth am ein cyrsiau City & Guilds Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion sy'n dechrau ym mis Medi 2020, (Cynorthwywyr Addysgu) y cam cyntaf yw ffonio am becyn adnoddau / gwybodaeth.
Cam 2 - Ar ôl edrych drwy'r pecyn gwybodaeth, a gweld eich bod yn cwrdd â gofynion y cwrs, a bod gennych ddiddordeb o hyd mewn lle ar gwrs, neu os oes angen mwy o fanylion arnoch, cysylltwch â ni i drefnu trafodaeth ac asesiad un i un..
Cam 3 - Yn dilyn y drafodaeth a'r asesiad un i un ac os ydych chi dal i fod eisiau dilyn lle ar y cwrs, bydd eich enw yn cael ei roi ar ein rhestr cyn-cofrestru.
Cam 4 - Yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarperir a chanlyniadau'r asesiad, bydd cynnig yn cael ei wneud ar gyfer y cwrs priodol. Efallai nad hwn yw'r cwrs o'ch dewis, gall fod yn ddewis arall. Os hoffech gofrestru ar ôl i'r cynnig hwn gael ei wneud, bydd cofrestriad yn cynnwys talu'r blaendal priodol neu gadarnhad o gyllid, i sicrhau'r lle.
Ffoniwch 01633 647647 i nodi’ch diddordeb a gofyn am eich pecyn gwybodaeth.
Dyfarniad City and Guilds Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 2
Dyfarniad Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion DGC005 I 09:30 12:00 CR 17/09/20 30 wyth. £311.50**
Dyfarniad Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion DGC004 I 12:30 15:00 CR 17/09/20 30 wyth. £311.50**
Dyfarniad Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion DGC003 I 18:00 20:30 CR 17/09/20 30 wyth. £311.50**
Tystysgrif City and Guilds Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 2
Tystysgrif Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion DGC002 Mer 18:00 21:00 CR 16/09/20 30 wyth. £386.50**
Gwobr Highfield mewn Addysg a Hyfforddiant Lefel 3
Mae'r Dyfarniad lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant yn rhoi'r wybodaeth a'r hyder i bobl addysgu yn y sector addysg ôl-16. Gallai hyn fod
fel hyfforddwr yn y diwydiant hyfforddi preifat neu fel athro / darlithydd mewn lleoliadau addysg bellach.
Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant DGP001 Mer 09:30 12:30 PS 07/10/20 15 wyth. £175.05**
Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant L3 DGP003 I 18:00 21:00 PS 08/10/20 15 wyth. £175.05**
Gweithdy BCS TG Lefelau 1 a 2
Dysgwch neu wella'ch gwybodaeth am ddefnyddio Microsoft Word, Excel, PowerPoint neu Access ar Lefel 1 neu 2. Dewiswch yr uned a'r
lefel i weddu i'ch anghenion ac ennill cymhwyster uned sengl BCS.
Gweithdy TG Lefelau 1 a 2 DIP001 Mer 10:00 12:00 PS 05/10/20 15 wyth. £98.25**
Gweithdy TG Lefelau 1 a 2 DIS001 I 18:30 20:30 PP 08/10/20 15 wyth. £98.25**
COFRESTRWCH 01633 647647 www.torfaen.gov.uk/adultlearningbrochure 9
Cymwysterau ac e-Ddysgu
Nodwch: efallai bydd cyrsiau a hysbysebir yn newid oherwydd cyfyngiadau COVID-19
*Deunyddiau’r cwrs yn cael eu cynnwys yng nghost y cwrs **Ffi cymwysterau yn cael ei gynnwys yng nghost y cwrs
CR - Canolfan Addysg Croesyceiliog PP - Canolfan Addysg Pont-y-pŵl
PS - Y Pwerdy
Tystysgrif AIM mewn Sgiliau Cwnsela Lefel 2
Mae'r cwrs sylfaen hwn yn tynnu sylw at sut y gall y swyddogaethau mewn sgiliau cwnsela wella'ch dulliau rhyngweithio â phobl eraill a datblygu eich sgiliau gwrando a deall.
Tystysgrif mewn Sgiliau Cwnsela Lefel 2 DGS003 Ll 18:00 20:30 PP 14/09/20 30 wyth. £294.50**
Tystysgrif AIM mewn Sgiliau Cwnsela Lefel 3
Gan adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yn Nhystysgrif Sgiliau Cwnsela Lefel 2, byddwch yn archwilio theori cwnsela yn fanylach ac yn ehangu eich gallu i gymhwyso'r wybodaeth a ddysgwyd mewn sesiynau ymarferol.
Tystysgrif mewn Sgiliau Cwnsela Lefel 3 DGP005 Mer 18:00 21:00 PS 16/09/20 36 wyth. £390.50**
Highfield e-ddysgu
Yma yn Dysgu Oedolion yn Eu Cymuned yn Nhorfaen, rydym yn deall pwysigrwydd opsiynau hyfforddi hyblyg o ansawdd uchel sy'n gweddu i'ch bywyd. Mae ein cyfres o gymwysterau e-ddysgu yn darparu platfform dysgu hyblyg ac amlbwrpas, sy'n galluogi dysgwyr i astudio o amgylch eu ffordd o fyw. Gydag ystod eang o gyrsiau achrededig, mae e-ddysgu ar-lein yn eich galluogi i ddysgu ar adeg ac mewn lle sy'n addas i chi.
Iechyd a Diogelwch Lefel 2 £45.00
Gwasanaeth Cwsmeriaid Lefel 2 £45.00
Diogelwch Bwyd Lefel 2 £45.00
Deiliad Trwydded Bersonol £45.00
Cyflwyniad i Alergenau £40.00
Deall Stiwardio mewn digwyddiadau sydd â gwylwyr Lefel 2 £115.00
Cyrsiau Newydd Ar-lein
Mae ansicrwydd o hyd ynghylch rhyddhau mesurau'r cyfnod clo a sut y gallai fod angen i ni, ac yn wir ein dysgwyr, addasu i ffyrdd newydd o weithio a dysgu. Yng ngoleuni hyn, rydym wedi bod yn chwilio am ffyrdd creadigol o ddarparu cyfleoedd i'n dysgwyr gychwyn ar gyfleoedd dysgu newydd gan ddefnyddio dysgu o bell neu atebion arloesol eraill. Rydym yn datblygu amrywiaeth o gyrsiau ar-lein a fydd yn caniatáu i'r dysgwyr hynny na allant gymryd rhan mewn dysgu wyneb yn wyneb, neu sy'n dewis peidio â gwneud hynny, gymryd rhan mewn dysgu wyneb yn wyneb ar yr adeg hon. Mae enghreifftiau o gyrsiau yn cynnwys:
Iechyd a Lles
Ymwybyddiaeth Ofalgar
Mentora Cyfoedion
Coginio
Celf a Chrefft
TGCh
Seicoleg Plant
Ffoniwch 01633 647647 i nodi'ch diddordeb yn unrhyw rhai o'r uchod neu i roi gwybod i ni am gyrsiau yr hoffech eu gweld yn cael eu hychwanegu at ein rhaglen ar-lein.
Os bydd angen i ganolfannau gau yn y dyfodol, lle bo modd bydd cyrsiau yn parhau arlein.
I gymryd rhan mewn dosbarthiadau ar-lein bydd angen cysylltiad dibynadwy â’r rhyngrwyd, cyfrifiadur/gliniadur/tabled/ffôn symudol gyda’r porwr diweddaraf. Bydd angen meicroffon ar y ddyfais ac, os yw’n bosibl, camera. Siaradwch â ni os oes angen help a chefnogaeth arnoch chi i fynd ar-lein, 01633 647647.
10 DYSGU CYMUNEDOL I OEDOLION NHORFAEN TYMOR YR HYDREF 2020
Ieithoedd
Ffrangeg - Blwyddyn 1 - Dechreuwyr
Dim angen gwybodaeth flaenorol. Ar gyfer dechreuwyr pur sydd am ddysgu iaith dramor. Dim achrediad. Pynciau'n cynnwys: cyflwyno’ch un, yr wyddor a rhifau, teulu, cyfarwyddiadau, bwyd a diod. Dysgwch mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar.
Ffrangeg - Dechreuwyr Blwyddyn 1 FLC001 Ll 19:00 21:00 CR 28/09/20 15 wyth. £130.50
Ffrangeg - Dechreuwyr Blwyddyn 1 FLP001 Me 10:00 12:00 PS 30/09/20 15 wyth. £130.50
Ffrangeg - Blwyddyn 2 - Gwella
Angen gwybodaeth sylfaenol. Dim achrediad. Pynciau’n cynnwys: eich hun a’ch teulu, bwyd a diod, llety, teithio a chyfarwyddiadau, amserau’r presennol a gorffennol. Dysgwch mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar.
Ffrangeg - Blwyddyn 2 - Gwella FLC009 Ma 19:00 21:00 CR 29/09/20 15 wyth. £130.50
Sbaeneg - Blwyddyn 1 - Dechreuwyr
Dim angen gwybodaeth flaenorol. Ar gyfer dechreuwyr pur sydd am ddysgu iaith dramor. Dim achrediad. Pynciau'n cynnwys: cyflwyno’ch un, yr wyddor a rhifau, teulu, cyfarwyddiadau, bwyd a diod. Dysgwch mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar.
Sbaeneg - Dechreuwyr Blwyddyn 1 FLC015 Me 19:00 21:00 CR 30/09/20 15 wyth. £130.50
Sbaeneg - Blwyddyn 2 - Gwella
Angen gwybodaeth sylfaenol. Dim achrediad. Pynciau’n cynnwys: ehangu geirfa ar gyfer bwyd, cyfarwyddiadau, llety, gwella sgiliau sgwrsio a dechrau defnyddio amser y gorffennol, gramadeg sylfaenol. Dysgwch mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar.
Sbaeneg - Blwyddyn 2 - Gwella FLC017 I 10:00 12:00 CR 01/10/20 15 wyth. £130.50
Sbaeneg - Blwyddyn 2 - Gwella FLC019 I 19:00 21:00 CR 01/10/20 15 wyth. £130.50
Sbaeneg - Blwyddyn 3 - Gwella
Angen peth gwybodaeth flaenorol. Dim achrediad. Pynciau’n cynnwys eiddo, teithio, iechyd, amserau’r presennol â’r gorffennol. Dysgwch mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar.
Sbaeneg - Blwyddyn 3 - Gwella FLC005 Ma 10:00 12:00 CR 29/09/20 15 wyth. £130.50
Sbaeneg - Canolradd - Blwyddyn 4/5
Os ydych chi wedi astudio Sbaeneg ers rhai blynyddoedd, yn gallu sgwrsio’n hyderus am bynciau yr ydych yn gyfarwydd â nhw ac os oes gennych chi rywfaint o ddealltwriaeth o amserau’r gorffennol, bydd ein dosbarthiadau canolradd Sbaeneg yn gwella’ch iaith lafar ac yn datblygu eich sgiliau ar yr un pryd ag edrych ar ddiwylliant ac arferion Sbaen ac America Ladin.
Sbaeneg - Canolradd - Blwyddyn 4/5 FLC007 Ma 18:30 20:30 CR 29/09/20 15 wyth. £130.50
Sbaeneg - Canolradd - Blwyddyn 4/5 FLC013 Me 10:00 12:00 CR 30/09/20 15 wyth. £130.50
Almaeneg - Blwyddyn 1 - Dechreuwyr
Dim angen gwybodaeth flaenorol. Ar gyfer dechreuwyr pur sydd am ddysgu iaith dramor. Dim achrediad. Pynciau'n cynnwys: cyflwyno’ch un, yr wyddor a rhifau, teulu, cyfarwyddiadau, bwyd a diod. Dysgwch mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar.
Almaeneg - Dechreuwyr Blwyddyn 1 FLC011 Ma 19:00 21:00 CR 29/09/20 15 wyth. £130.50
Almaeneg - Blwyddyn 2 - Gwella
Angen peth gwybodaeth flaenorol. Bydd y cwrs yma’n eich helpu i gyfathrebu yn Almaeneg. Byddwch yn dysgu Almaeneg fel y mae’n cael ei siarad mewn sefyllfaoedd pob dydd ac yn datblygu eich sgiliau darllen, ysgrifennu, gwrando a siarad. Bydd y dosbarth yn canolbwyntio ar wella rhuglder a hyder.
Almaeneg - Blwyddyn 2 - Gwella FLC003 Ll 19:00 21:00 CR 28/09/20 15 wyth. £130.50
*Deunyddiau’r cwrs yn cael eu cynnwys yng nghost y cwrs **Ffi cymwysterau yn cael ei gynnwys yng nghost y cwrs
CR - Canolfan Addysg Croesyceiliog PP - Canolfan Addysg Pont-y-pŵl
PS - Y Pwerdy
Nodwch: efallai bydd cyrsiau a hysbysebir yn newid oherwydd cyfyngiadau COVID-19
COFRESTRWCH 01633 647647 www.torfaen.gov.uk/adultlearningbrochure 11
Ffordd o fyw a Hamdden
Nodwch: efallai bydd cyrsiau a hysbysebir yn newid oherwydd cyfyngiadau COVID-19
*Deunyddiau’r cwrs yn cael eu cynnwys yng nghost y cwrs **Ffi cymwysterau yn cael ei gynnwys yng nghost y cwrs
CR - Canolfan Addysg Croesyceiliog PP - Canolfan Addysg Pont-y-pŵl
PS - Y Pwerdy
Cerameg a Chrochenwaith
Mae’r cwrs hwn yn cyflwyno neu’n ehangu’r sgiliau sydd eu hangen mewn gwaith cerameg a chrochenwaith. Yn ddelfrydol i ddechreuwyr llwyr neu rai gyda mwy o brofiad. Darganfyddwch bleser ac ymlacio wrth greu eich prosiectau eich hun.
Cerameg a Chrochenwaith FAC030 Ll 13:15 15:15 CR 28/09/20 15 wythnos £130.50
Cerameg a Chrochenwaith FAC034 Ma 18:30 20:30 CR 29/09/20 15 wythnos £130.50
Cerameg a Chrochenwaith FAC045 Mer 13:15 15:15 CR 30/09/20 15 wythnos £130.50
Cerameg a Chrochenwaith FAC046 Iau 19:00 21:00 CR 01/10/20 15 wythnos £130.50
Coginio
Addurno Cacennau a Chrefftau Siwgr
Dysgwch sgiliau a thechnegau i addurno cacennau fel eu bod yn edrych yn broffesiynol. Gwnewch rosod siwgr a blodau eraill, dysgwch sut i beipio, technegau peintio a modelu.
Addurno Cacennau a Chrefftau Siwgr FAP001 Ll 19:00 21:00 PS 28/09/20 10 wythnos £86.50
Addurno Cacennau a Chrefftau Siwgr FAC007 Iau 10:00 12:00 CR 01/10/20 10 wythnos £86.50
Ffasiwn a Thecstilau
Gwnïo i Bawb
Datblygu sgiliau gwnïo sylfaenol â llaw a pheiriant gwnïo i greu neu drwsio eich dillad eich hun.
Gwnïo i Bawb FAC054 Iau 12:30 14:30 CR 01/10/20 10 wythnos £86.50
Gwneud Dillad i Bawb
Dysgwch sut i wneud eich dillad eich hun, sut i ddarllen patrwm masnachol, dewis y ffabrig iawn a thechnegau adeiladu.
Gwneud Dillad i Bawb FAC014 Ma 09:30 11:30 CR 29/09/20 15 wythnos £130.50
Gwneud Dillad i Bawb FAS023 Mer 19:00 21:00 PP 30/09/20 15 wythnos £130.50
Sgiliau Gwneud Dillad Uwch
Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddysgu technegau newydd a datblygu eich prosiectau eich hun gan gynnwys drafftio ac addasu patrymau.
Sgiliau Gwneud Dillad Uwch FAC001 Mer 09:30 11:30 CR 30/09/20 15 wythnos £130.50
Gwneud a Thrwsio – Uwchgylchu Dillad
Mae’r cwrs hwn yn caniatáu i’ch dychymyg redeg yn wyllt ac yn dysgu sgiliau sydd eu hangen i uwchgylchu eich wardrob. Dewch i gael hwyl, dysgu sgiliau a gweld pa fath o ddillad y gallwch eu gwneud a fydd yn troi pen. Croeso i bob gallu a lefel ar y cwrs hwn.
Gwneud a Thrwsio – Uwchgylchu Dillad FAC031 Mer 10:00 12:00 CR 28/09/20 10 wythnos £86.50
Sgiliau Brodwaith
Dysgwch hanfodion brodwaith syml â llaw, megis pwyth cadwyn, pwyth blanced a phwyth croes yn y grefft hynafol hon.
Sgiliau Brodwaith FAS003 Mer 10:00 12:00 PP 05/10/20 6 wythnos £56.50*
12 DYSGU CYMUNEDOL I OEDOLION NHORFAEN TYMOR YR HYDREF 2020
Ffordd o fyw a Hamdden
Nodwch: efallai bydd cyrsiau a hysbysebir yn newid oherwydd cyfyngiadau COVID-19
*Deunyddiau’r cwrs yn cael eu cynnwys yng nghost y cwrs **Ffi cymwysterau yn cael ei gynnwys yng nghost y cwrs
CR - Canolfan Addysg Croesyceiliog PP - Canolfan Addysg Pont-y-pŵl
PS - Y Pwerdy
Cerddoriaeth
Gitarau
Dysgwch sut i chwarae melodïau a chordiau syml, chwarae deuawd ac mewn ensembles bach.
Gitarau – Blwyddyn 1 Dechreuwyr FAC019 Mer 16:30 18:30 CR 30/09/20 15 wythnos £130.50
Angen peth profiad blaenorol. Os gallwch chwarae ambell gord yn barod, dyma’r cwrs i chi.
Gitarau – Blwyddyn 2 Gwellhawyr FAC021 Iau 19:00 21:00 CR 01/10/20 15 wythnos £130.50
Yn y cwrs hwn, byddwn yn edrych ar amrywiol arddulliau o gerddoriaeth, wedi eu trefnu ar gyfer y gitâr, gan adeiladu ar eich gwybodaeth o gordiau a thablau nodiant.
Gitarau – Blwyddyn 3 Gwellhawyr FAC023 Mer 19:00 21:00 CR 30/09/20 15 wythnos £130.50
Hanes a Gwyddoniaeth
Astronomeg
Mae’r cwrs wedi ei anelu at y sawl nad oes ganddynt unrhyw wybodaeth o astronomeg, ynghyd â ’r sawl a hoffai ymestyn yr wybodaeth sydd ganddynt eisoes. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw ychydig o chwilfrydedd.
Astronomeg FGC001 Ll 19:00 21:00 CR 28/09/20 10 wythnos £86.50
Eiffoleg
Byddwch yn cael dealltwriaeth fanwl o archaeoleg, celfyddyd, crefydd, hanes a chymdeithas yr Hen Aifft mewn 6 wythnos o astudio.
Eifftoleg – Darganfod yr Hen Aifft FGC004 Ma 18:30 20:30 CR 03/11/20 6 wythnos £52.50
Gemwaith
Gemwaith Arian
Dysgwch sut i ddylunio a gwneud eich darnau chi eich hun o emwaith arian.
Gemwaith Arian FAC057 Mer 19:00 21:00 CR 30/09/20 15 wythnos £130.50
Gemwaith Arian FAC059 Iau 19:00 21:00 CR 01/10/20 10 wythnos £86.50
Gemwaith Gwifrau
Dysgwch sut i weithio gyda gwifrau, gan linynnu a chysylltu. Dysgwch sut i ddefnyddio ystod o gelfi a deunyddiau i greu dyluniadau gemwaith gwreiddiol.
Gwneud Gemwaith Gwifrau FAP015 Ma 19:00 21:00 PS 29/09/20 10 wythnos £86.50
Gwneud Gemwaith Gwifrau FAC082 Iau 19:00 21:00 CR 01/10/20 10 wythnos £86.50
Gwneud Gemwaith Gwifrau FAS015 Iau 10:00 12:00 PP 01/10/20 10 wythnos £86.50
Macramé
Macramé
Dewch i ddysgu hanfodion y grefft boblogaidd hon a gwneud prosiect addurniadol neu ddau, gan ddefnyddio detholiad o glymau Macramé.
Macramé FAS004 Mer 19:00 21:00 PP 02/11/20 6 wythnos £57.50*
COFRESTRWCH 01633 647647 www.torfaen.gov.uk/adultlearningbrochure 13
Ffordd o fyw a Hamdden
Nodwch: efallai bydd cyrsiau a hysbysebir yn newid oherwydd cyfyngiadau COVID-19
*Deunyddiau’r cwrs yn cael eu cynnwys yng nghost y cwrs **Ffi cymwysterau yn cael ei gynnwys yng nghost y cwrs
CR - Canolfan Addysg Croesyceiliog PP - Canolfan Addysg Pont-y-pŵl
PS - Y Pwerdy
Peintio a Darlunio
Dyfrlliwiau a Thechnegau Darlunio
Awgrymiadau a dysgu technegau darlunio sylfaenol a fydd yn eich galluogi i beintio gyda dyfrlliwiau mewn pwnc o ’ch dewis.
Technegau dyfrlliwiau a darlunio i ddechreuwyr FAP009 Iau 19:00 21:00 PS 01/10/20 10 wythnos £86.50
Dysgwch dechnegau darlunio uwch a fydd yn eich galluogi i beintio gyda dyfrlliwiau yn hyderus mewn pwnc o ’ch dewis.
Technegau dyfrlliwiau a darlunio i wellhawyr FAC073 Ll 19:00 21:00 CR 28/09/20 10 wythnos £86.50
Ffotograffiaeth
Symud ymlaen o ‘Auto’ – Ffotograffiaeth
Dysgwch sut i ddefnyddio eich camera yn y modd â llaw, yn cynnwys cyflymder caead, agorfa ac ISO i gael y gorau o’ch camera.
Ffotograffiaeth i ddechreuwyr FAP002 Ll 18:30 20:30 PS 05/10/20 8 wythnos £69.50
Seicoleg
Seicoleg – Cyflwyniad
Bydd yr wybodaeth a geir o’r cwrs hwn yn caniatáu i ddysgwyr arfarnu ymchwil seicolegol a chael dealltwriaeth fanylach o feddylfryd ac ymddygiad pobl.
Seicoleg – Cyflwyniad FAP008 Mer 19:00 21:00 PS 30/09/20 10 wythnos £86.50
Iaith Arwyddion
Iaith Arwyddion Prydain
Bydd ein cwrs IAP yn eich dysgu sut i gyfathrebu gan ddefnyddio symudiadau llaw a chorff, patrymau gwefusau ac edrychiadau.
Iaith Arwyddion Prydain FGC017 Ma 18:30 20:30 CR 29/09/20 10 wythnos £86.50
Iaith Arwyddion Prydain FGC005 Iau 10:00 12:00 CR 01/10/20 10 wythnos £86.50
Plygu Helyg
Plygu Helyg
Dysgwch sut i blygu a siapio helyg, pa gelfi a deunyddiau i’w defnyddio, i greu rhywbeth hardd ac ymarferol.
Plygu Helyg FAP012 Ma 19:00 21:00 PS 29/09/20 8 wythnos £74.50*
Ysgrifennu
Ysgrifennu Creadigol
Dysgwch sut i ysgrifennu barddoniaeth, straeon byrion, ysgrifennu i blant, traethodau ac erthyglau, mewn grŵp cyfeillgar.
Ysgrifennu Creadigol FAP004 G 10:00 12:00 PS 02/10/20 10 wythnos £86.50
14 DYSGU CYMUNEDOL I OEDOLION NHORFAEN TYMOR YR HYDREF 2020
Ffordd o fyw a Hamdden
Nodwch: efallai bydd cyrsiau a hysbysebir yn newid oherwydd cyfyngiadau COVID-19
Cyfleoedd rhan amser achlysurol i unigolion ysbrydoledig Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn Nhorfaen yn chwilio am bobl angerddol, frwdfrydig, i ymuno a’n tîm o diwtoriaid bywiog, i ddarparu cefnogaeth i oedolion mewn amrywiaeth o feysydd dysgu.
A oes gennych chi’r sgiliau neu’r wybodaeth efallai y byddai eraill am eu dysgu?
Celf a chrefft Coginio Ieithoedd Cerddoriaeth Addysg gyffredinol Tgch Oes gennych chi’r cymwysterau i ddysgu Sgiliau Hanfodol i oedolion yn y meysydd canlynol? TGAU Saesneg a Saesneg cyn-TGAU TGAU Mathemateg a Mathemateg cyn-TGAU ESOL Llythrennedd Digidol Dysgu fel Teulu Rydym yn cynnig rhaglen hyfforddi ragorol i helpu’ch datblygiad a’r cyfle i ddysgu sgiliau addysgu newydd.
I gael gwybod rhagor neu i gofrestru diddordeb, ffoniwch 01633 647642
Tymor Tymor yn Dechrau
Hanner Tymor yn Dechrau
Hanner Tymor yn Gorffen
Tymor yn Gorffen
Hydref
Dydd Mawrth 01.09.20
Dydd Llun 26.10.20
Dydd Gwener 30.10.20
Dydd Gwener 18.12.20
Gwanwyn Dydd Llun 04.01.21
Dydd Llun 15.02.21
Dydd Gwener 19.02.21
Dydd Gwener 26.03.21
Haf Dydd Llun 12.04.21
Dydd Llun 31.05.21
Dydd Gwener 04.06.21
Dydd Mawrth 20.07.21
Turnio Pren
Turnio Pren
I ddysgwyr gyda sgiliau turnio pren eisoes, cyfle i wella eich technegau ar durnen neu gylchlif i greu eich prosiect unigol eich hun.
Turnio Pren Uwch FAC091 Ll 09:30 12:00 CR 21/09/20 12 wythnos £171.60
Turnio Pren Uwch FAC094 Ll 18:30 21:00 CR 21/09/20 12 wythnos £171.60
Turnio Pren Uwch FAC097 Ma 09:30 12:00 CR 22/09/20 12 wythnos £171.60
Turnio Pren Uwch FAC100 Ma 18:30 21:00 CR 22/09/20 12 wythnos £171.60
15
... Rwyf angen oriau rheolaidd.
... Mae angen i mi ennill mwy.
Mae Timau Sgiliau a Chyflogadwyedd Cyngor Torfaen
yn cynnig cymorth sgiliau a chymorth gwaith AM DDIM
i’r di-waith a phobl sy’n gweithio. Cysylltwch â ni ar:
01633 647743 [email protected]
Mae Meini Prawf Cymhwyster yn berthnasol
... Nid wyf wedi gweithio ers amser.
... Rwyf yn gwneud cais am swyddi ond heb lwyddo eto.
... Rwyf am newid. ...Rwyf angen mwy o gymwysterau
... Mae gweithio’n anodd achos fy iechyd.
Gallwn helpu!
Beth bynnag yw eich sefyllfa…
16
Canolfan Clwb Dydd Amser Cyswllt
CAG Croesyceiliog
Addurno Cacennau a Chrefft Siwgwr gyda Val
Dydd Llun 19.00 - 21.00 01291 624391
Clytwaith a Chwiltio Dydd Llun 14.00 - 16.00 01633 868892
Almaeneg - Canolradd a Sgwrsio
Dydd Llun 17.45 - 19.15 19.30 - 21.00
karhowells@ hotmail.com
Arlunwyr Dydd Mawrth Dydd Mawrth 10.00 - 12.00 01633 862194
Cwiltio Cynnes Dydd Mawrth 12.00 - 15.00 19.00 - 21.00
01873 880424 [email protected]
Cerfwyr Coed Cwmbrân Dydd Mercher 10.00 - 12.00 01633 960142
Dyfrlliw gyda Rosemary Dydd Iau 13.30 - 15.30 01633 679219
Turnwyr Coed Crow Valley www.crowvalleywoodturners.org.uk
Dydd Iau 19.00 - 21.00 [email protected]
Cwiltwyr Green Valley 3ydd
Dydd Sadwrn 10.30 - 15.00 01633 865291
Pwythau a Thecstilau Creadigol Gwent
3ydd Dydd Sadwrn
10.00 - 15.30 01633 267507 [email protected]
CAG Pont-y-pŵl
Creu Cardiau Memrwn Dydd Mawrth 13.00 - 15.00 01495 742600
Dyfrlliw gyda Rosemary Dydd Mercher 13.00 - 15.00 01633 679219
Ioga Dydd Mercher 13.45 - 15.45 01495 742600
Tapwyr Cenedlaethau Dydd Iau 18.00 - 19.00 01495 742600
Carthennau Clwt Dydd Iau 19.00 - 21.00 01495 742600
Clytwaith a Chwiltio Dydd Gwener 09.30 - 16.00 01495 742600
Y Pwerdy Clwb Crosio Dydd Llun 10.30 - 12.30 01633 862863
Clwb Celf (Paentio a Darlunio)
Dydd Mawrth 10.00 - 13.00 07775 788352
Clybiau Mae Dysgu Cymunedol i Oedolion Torfaen yn cefnogi amrywiaeth eang o glybiau poblogaidd.
Os hoffech ymuno neu os hoffech chi wybodaeth bellach, ffoniwch rif cyswllt y clwb isod.