effaith yn 2016/17 - crisis · bywyd - iechyd a lles, sefydlogrwydd eu cartrefi, eu sefydlogrwydd...

22
Effaith yn 2016/17

Upload: others

Post on 12-Feb-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Effaith yn2016/17

  • Dyma’r cychwyn cyntaf. Darllenwch a chlywed straeon llawn gan y bobl a fu’n allweddol i ni gael effaith yn 2016/17 yn: www.crisis.org.uk/impactreport

  • Rydym yn cyhoeddi ein Hadroddiad Effaith blynyddol hanner ffordd drwy ein hanner canmlwyddiant. Fodd bynnag, nid moment i ddathlu mohoni. Do, mae’r hyn rydym wedi ei gyflawni wedi bod yn rhyfeddol. Eleni, darparon gymorth i dros 11,000 o bobl drwy ein canolfannau a thimau Crisis Skylight yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, a mynychodd dros 4,000 o bobl Crisis adeg y Nadolig. Rydym wedi helpu nifer fawr o bobl i roi diwedd ar eu digartrefedd. Ond erbyn hyn, rydym yn edrych am ddyfodol lle na fydd yn rhaid i ni fodoli mwyach.

    Yn ystod ail hanner ein hanner canmlwyddiant, byddwn yn parhau i ddatblygu cynllun i roi diwedd ar ddigartrefedd. Byddwn yn cwblhauymgynghoriad pwysig sy'n dod â phobl sydd â phrofiad byw o ddigartrefedd ac arbenigwyr eraill at ei gilydd; byddwn yn adolygu a chyhoeddi'r dystiolaeth orau am yr hyn sydd wedi gweithio i roi diwedd ar ddigartrefedd yma a thramor; a byddwn yn cyhoeddi ein hymchwil ein hunain i lenwi unrhyw fylchau. Ein cred yw y gallwn roi diwedd ar ddigartrefedd gyda’n gilydd.

    Jon Sparkes Prif Weithredwr

    Steve Holliday Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr

  • o bobl wedi cael gwaith

    "Mae taith pawb yn wahanol gyda chymaint o gamau bach a phan fyddant yn dechrau gweithio mae’n fuddugoliaeth enfawr. Yr hyn sy'n wych yw, wythnos neu fwy ar ôl iddynt ddechrau, byddaf yn cadw golwg ar sut mae pethau’n mynd ac mae pobl yn swnio’n wahanol. Maen nhw wrth eu boddau.”

    Zain, Hyfforddwr Gwaith a Dysgu, Caeredin

    "Mae'n ymwneud â rhoi cyfle i bobl edrych y tu hwnt i’w sefyllfa bresennol.”

  • Tîm codi arian y flwyddyn

    “Byddwn yn annog unrhyw un i gefnogi Crisis. Ni ddaw digartrefedd i ben heb weithredu. Mae Crisis yn gwerthfawrogi o ble y daw ei chyllid yn fawr. Mae eu hegwyddorion yn golygu bod y tîm yn gweithredu ac yn ymddwyn fel petai gefnogwr yn yr ystafell gyda nhw.”

    Andrew, Rhoddwr Crisis

    Gall agwedd dryloyw Crisis ond fod yn un cadarnhaol, a gobeithio y bydd yn arwain at fwy o roddion i hyrwyddo’r achos.”

  • "Dangosodd yr astudiaeth tai gyntaf sut mae'r system bresennol yn heriol i'r bobl ddigartref mwyaf bregus. Yn wir, mae’n pwysleisio sut y gall sefydlogrwydd, diogelwch ac ailgartrefu cyflym fod yn gam cyntaf pellgyrhaeddol tuag at wella. Gall ateb Housing First fod yn gam allan o ddigartrefedd am byth.”

    Kate, Cyfarwyddwr Crisis Skylight Merseyside ac ymgynghorydd digartrefedd annibynnol i Faer Metro Rhanbarth Dinas Lerpwl

    Ymchwil arloesol i atebion tai

    "Mae gweld y materion a'u deall yn allweddol i roi diwedd ar ddigartrefedd. Mae angen i chi adnabod problem i'w datrys."

  • o staff gyda phrofiad byw o ddigartrefedd

    “Mae fy mhrofiad gyda Crisis, o’r adeg pan ddes i'n rhan ohono hyd heddiw, wedi bod yn daith gynyddol. Rwyf wedi dysgu llawer mwy am ddigartrefedd. Ac rydw i wedi dod yn fwy hunan-fyfyriol, rhywbeth nad ydw i erioed wedi dod i fy ngwaith neu fy mywyd personol o’r blaen. Mae cyfuno gwaith gyda phrofiadau o'ch bywyd personol yn newid eich agwedd."

    Les, Hyfforddwr Cynnydd Dan Hyfforddiant a Chyn-gleient Crisis, Newcastle

    “Soniodd yr hyfforddwr Crisis wrthyf am rôl hyfforddwr dilyniant yr hyfforddai, a gynlluniwyd ar gyfer pobl â phrofiad o ddigartrefedd."

  • o bobl â gwell hyder

    "Rwy'n cael gwared â'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag symud ymlaen â'u bywydau."

    "Pan fydd rhywun yn magu eu hyder, maen nhw'n credu y gall newid ddigwydd. Dyma’r sylfaen i bopeth. Ac os ydych chi'n helpu rhywun gyda rhai meysydd allweddol yn eu bywyd - iechyd a lles, sefydlogrwydd eu cartrefi, eu sefydlogrwydd ariannol, rhwydweithiau cymdeithasol – gallwch eu helpu i adael digartrefedd ar ôl am byth.”

    Charlotte, Rheolwr Cynnydd, Coventry

    2,197

  • 11,775 o wirfoddolwyr

    “Mae gwirfoddolwyr Crisis yn anhygoel – maent yn mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn y gofynnir iddynt ei wneud. Yn Crisis adeg y Nadolig, mae gwesteion yn cysgu'n dawel; maent yn gwybod bod rhywun yn gofalu amdanynt. Maent yn cerdded allan wythnos yn ddiweddarach yn teimlo'n barod i wynebu’r byd eto. Gall hyn fod yn gam cyntaf allan o ddigartrefedd."

    Mike, gwirfoddolwr Crisis

    "Mae Crisis yn creu amgylchedd lle gallwch chi eistedd i lawr gyda pherson digartref fel rhywun cydradd."

  • 11,046 o bobl yn defnyddio gwasanaethau Crisis drwy gydol y flwyddyn

    "I bob person fel fi, mae miloedd yn rhagor sydd angen help Crisis.”

    "Dechreuais ddod i ddosbarthiadau crochenwaith Crisis a dechreuais fagu hyder. Yna, dechreuais gymryd rhagor o gyrsiau Crisis, gan gynnwys TG, mentora cyfoedion, a chymhwyster addysgu lefel tri. Yn ogystal ag annog pobl i ddefnyddio gwasanaethau Crisis, rwy'n ymwneud ag adeiladu cefnogaeth ac ymgyrchu dros newid."

    Rio, Llysgennad Crisis, De Swydd Efrog

  • "Fe wnaeth fy hyfforddwr Crisis fy helpu i wneud cais am gyllid i fynd ymlaen i lefel nesaf y cwrs cyfrifyddiaeth.”

    3,604 o gymwysterau a thystysgrifau arobryn

    "Drwy roi cynnig ar bethau gwahanol yn Crisis, teimlais fy mod i'n magu hyder. Fe wnaethant fy helpu i ennill profiad gwaith mewn rôl gweinyddu cyllid ac yn fuan, gobeithio, bydd gennyf y cymwysterau i symud ymlaen mewn bywyd. Rwy'n teimlo bod cymaint yn bosibl nawr. Mae Crisis wrth fy ochr bob cam o'r ffordd."

    Paula, cleient Crisis, Rhydychen

  • o westeion yNadolig

    "Mae Crisis adeg y Nadolig wedi agor drysau a fu unwaith ar gau."

    "Roeddem yn cysgu dan darpolin. Dywedodd y cyngor na allent helpu. Os ydych chi'n ddigartref, rydych chi'n agored i niwed. Yn Crisis adeg y Nadolig, bu llawer o bobl hyfryd i siarad â nhw. Llawer o gyngor. Mae rhywun wedi cymryd ein hachos. Mae pobl Crisis yn wych yn yr hyn maen nhw'n ei wneud."

    Claire a Sam, gwesteion yn Crisis adeg y Nadolig yn 2016*

    *Hanes go iawn yw hanes Claire a Sam, ond newidiwyd eu henwau fel na ellir eu hadnabod .

  • “Mae Crisis yn defnyddio ein profiad fel pobl sydd wedi bod yn ddigartref wrth iddynt ddod â strategaeth hirdymor ynghyd.”

    “ Yng nghyfarfod cyntaf y panel 'Expert by Experience' buom yn sôn am yr hyn yr oeddem wedi bod yn ei wneud a beth allai fod wedi ein hatal rhag bod yn ddigartref. Fe wnaethom nodi y gallai rhai gwasanaethau neu gymorth fod wedi ei atal. Ar hyn o bryd rydym yn cyfrannu at waith Crisis i gynhyrchu cynllun i roi diwedd ar ddigartrefedd."

    David, cleient Crisis ac aelod o banel ‘Expert by Experience’, Croydon

    Tystiolaeth ar gyfer cynllun newydd i roi diwedd ar ddigartrefedd

  • Wedi inni newid y gyfraith, gobeithio na fydd pobl yn canfod eu hun yn yr un sefyllfa â fi fy hun."

    1 gyfraith newydd,newid bywydau di-rif"Roedd yn werth chweil i gwrdd â'm Haelod Seneddol a chael rhywun a oedd yn gwrando go iawn. Rhoddodd ystyriaeth i bethau. Ac yna cefnogodd y bil yn y Senedd. Rwy'n mwynhau ymgyrchu dros achos mor deilwng. Mae newid yr hyn a fedraf er budd pobl yn y dyfodol yn wych." Martyn, cleient ac ymgyrchydd Crisis, Birmingham

  • Er mwyn rhoi diwedd ar ddigartrefedd ym Mhrydain am byth, mae angen cymorth arnom ar draws y sbectrwm gwleidyddol ac i lywodraethau yng Nghymru, Lloegr a'r Alban i weithredu.

    Ymrwymiadau gwleidyddol newydd i fynd i'r afael â digartrefedd

    Rydym yn gweld consensws trawsbleidiol cynyddol bod angen mynd i'r afael â digartrefedd, ac rydym wedi meithrin perthynas â Theresa May a'r Prif Weinidogion Nicola Sturgeon a Carwyn Jones. Cyn yr etholiad cyffredinol ym mis Mehefin 2017 yn San Steffan, ynghyd ag elusennau digartrefedd eraill a miloedd o ymgyrchwyr, sicrhawyd ymrwymiadau i fynd i'r afael â digartrefedd yn y maniffestos yr holl brif bleidiau.

  • “Yn y siop roedd gen i un prif berson roeddwn i'n gweithio gyda nhw. Roedd hi'n gefnogol iawn, yn ysgogol iawn."

    126 o bobl ar hyfforddeionCrisis"Yn bendant, mae'r rhaglen hyfforddi yn agoriad llygad. Nid oedd gen i lawer o wybodaeth am yr hyn a oedd yn gysylltiedig â manwerthu. Felly, roedd gwylio'r staff a sut roeddent yn rhyngweithio â chwsmeriaid yn fy nysgu sut i wneud hynny, sut i ddarllen a chysylltu â phobl wahanol. Rhoddodd hwb i’m hyder. Dysgais lawer ganddynt."

    Ade, Siop o hyfforddai Crisis, Llundain

  • "Mae'r bobl sy'n cymryd rhan yn ein gweithgareddau celfyddydol yn falch o'u llwyddiannau ac yn cynyddu eu hunan-gred yn gyffredinol. Yn wir, mae'n gwneud gwahaniaeth. Gall y profiad fod yn gatalydd dros newid - rhywbeth sydd yn gallu eu hysgogi i gynnal tenantiaeth, symud ymlaen i addysg neu hyfforddiant, a datblygu perthnasoedd cadarnhaol.”

    Esther, Cydlynydd Celfyddydau, De Cymru

    "Gall ymdeimlad o lwyddiant a gweld eu sgiliau'n cael eu cydnabod fod yn fan cychwyn go iawn ar gyfer newid pellach ym mywydau pobl."

    2,498o bobl gyda gwellcymhelliant

  • "Mae'r tenantiaid wedi bod yn ddibynadwy ym mhob ystyr a gallant gysylltu â Crisis am gymorth os bydd ei angen arnynt. Wrth symud o'r profiad anodd o fyw mewn ystafell sengl i'w cartref eu hunain, fe welwch eu teimlad o gynnydd. Mae hyn yn gwneud iddynt ganolbwyntio ar fod yn denantiaid da."

    Chris, landlord preifat, Rhydychen

    Mwy o arbenigedd o ran rhentu preifat

    Rydym yn ceisio creu cartrefi. Mae'r tenantiaid wedi bod yn wych."

  • o bobl yn cael cymorth i symud i gartrefi newydd

    "Maent yn eistedd gyda chi un-i-un a dod o hyd i dŷ sy'n addas i chi."

    "Fe wnaeth Crisis fy helpu i greu man lle rwy'n teimlo'n ddiogel. Fe wnaethon nhw fy addysgu sut i dalu fy miliau a byw ar fy mhen fy hun. Gyda nhw, cefais do uwch fy mhen, ac o’r herwydd symudais ymlaen. Os oes angen, rwy'n gallu siarad â Crisis o hyd. Dim mwy o ddigartrefedd. O gwbl.”

    Michael, cleient Crisis, Coventry

  • Gwirfoddoli

    Ymgyrchu

    Cyfrannu

    Codi Arian

    Mae'r amser a roddir i ni gan ein gwirfoddolwyr yn werthfawr. Bod yn wirfoddolwr a bod yn rhan o roi diwedd ar ddigartrefedd.

    Dysgwch ragor yn www.crisis.org.uk/get-involved

    Rydym yn ymgyrchu am y newidiadau sydd eu hangen i roi diwedd ar ddigartrefedd am byth. Ymunwch â'n rhwydwaith ac ychwanegu'ch llais.

    Ni fydd rhoi diwedd ar ddigartrefedd yn hawdd ond drwy gymorth rhoddion fe wyddom y gallwn, gyda’n gilydd wneud hynny.

    Cyfrannwch er mwyn rhoi diwedd ar ddigartrefedd. Ymunwch â digwyddiad, codi arian yn y gwaith neu gwnewch rywbeth eich hun.

  • Gyda’n gilydd Mae angen i bob un ohonom gyda’n gilydd roi diwedd ar ddigartrefedd. Dychmygwch fyd heb ddigartrefedd. Gwyddom ei fod o fewn gafael. Ond, mae angen i ni wneud i hyn ddigwydd gyda’n gilydd. Ydych chi gyda ni?

    Ymunwch â'n hymgyrch.www.crisis.org.uk/everybodyin

    #EverybodyIn

  • Darllenwch a chlywed straeon llawn gan y bobl a wnaeth ein helpu i gael effaith yn 2016/17 yn: www.crisis.org.uk/impactreport

    An English language report is available at: www.crisis.org.uk/impactreport

    Prif swyddfa Crisis 66 Commercial Street Llundain E1 6LT 0300 636 1967

    Rhifau Elusen Cofrestredig E&W1082947, SC040094. Rhif y Cwmni: 4024938