f y f f r i ndiau - meithrin€¦ · cd dewin 2 1. gweithgareddau i gylchoedd ti a fi yn benodol...

28
Dewin.co.uk F y f f r i n d i a u a fi

Upload: others

Post on 27-Jan-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Dewin.co.uk

    Fy ffrindiaua fi

  • Cynnwys

    Cyflwyniad .......................................................................................... 1

    Diolch .................................................................................................. 1

    Caneuon Defnyddiol ar Ddechrau Sesiwn ........................................ 2

    Syrpréis Doti ........................................................................................ 3 1 Chwarae Stomplyd .................................................................. 3 2. Lapio Anrhegion ....................................................................... 4 3. Bwyta Jeli a Ffrwythau ............................................................ 4

    Amser Gwely Dewin ........................................................................... 5 1. Cysgu gyda Doti ...................................................................... 5 2. Creu Gwely Bach i Doti ........................................................... 6 3. Creu Llun o’r Awyr yn y Nos .................................................... 7

    Het Hud Dewin ................................................................................... 8 1. Creu Het ................................................................................... 9 2. Chwythu Paent a Chreu Barcud ............................................. 10 3. Het i Bawb! .............................................................................. 11

    Ar Lan y Môr ....................................................................................... 12 1. Llwybr Troednoeth Glan y Môr ............................................... 13 2. Chwilio am Sêr ......................................................................... 14 3. Dawnsio gyda Doti ar Lan y Môr ............................................ 15

    Ffrindiau’r Goedwig ............................................................................ 16 1. Gêm ‘Cofio’ yn y Goedwig ...................................................... 17 2. Creu Cuddfan i’r Anifeiliaid ..................................................... 18 3. Canu gyda’r Adar .................................................................... 19

    Ar Wib! ................................................................................................ 20 1. Creu Planedau, Lleuad a Sêr .................................................. 21 2. Creu Roced i Dewin a Doti ...................................................... 22 3. Gwneud ‘Brechdanau Ar Wib’ ................................................ 32

  • 1

    CyflwyniadErs tair blynedd bellach, rwyf wedi cael y pleser o weithio gyda Dewin a Doti o fewn cylchoedd meithrin a chylchoedd Ti a Fi ar hyd a lled Sir Ddinbych, yn rhinwedd fy swydd fel Swyddog Iaith. Caf wefr o weld y plant yn ymateb iddynt ac yn eu derbyn fel ‘ffrindiau’ ac aelodau o’r cylch. Mae nifer o gylchoedd yn gwneud defnydd gwych ohonynt ac yn naturiol felly, o’u cyflwyno’n gyson, mae Dewin a Doti’n gwneud eu gwaith, sef annog plant bach Cymru i siarad Cymraeg. Mae gennym gyfle euraidd fel staff i’w defnyddio’n effeithiol i gyflwyno iaith i blant o gartrefi di-Gymraeg ac i ymestyn iaith y Cymry Cymraeg.

    Mae’r 6 llyfr stori Dewin a Doti sydd wedi eu cyhoeddi erbyn hyn yn drysor o fewn unrhyw gylch neu gartref, gan eu bod yn mynd â’r plant ar antur gyda Dewin a Doti neu’n rhannu profiadau arbennig â nhw. Gobeithio y bydd y gweithgareddau hyn, sy’n cyd-fynd â’r llyfrau, o fudd mewn cylchoedd i ymestyn y storïau ymhellach ac i gyfoethogi iaith y plant trwy amrywiol brofiadau.

    Rwyf wrth fy modd yn cyflwyno Dewin a Doti – Doti’n arbennig – o fewn ein cylchoedd Ti a Fi gan fod y babanod a’r plant bach yn dod i’w hadnabod yng nghwmni rhieni/gofalwyr. Mae’r plant yn teimlo’n gysurus a diogel ac mae’r oedolion yn dod yn ymwybodol o gymeriadau arbennig Mudiad Meithrin. (Cofiwch bod modd prynu Doti a’r holl lyfrau yng Nghyfres Dewin ar gyfer y cylchoedd neu’r cartref o siop Mabon a Mabli - www.mabonamabli.co.uk). O ganlyniad, rwyf wedi cynnwys rhai gweithgareddau sy’n addas ar gyfer cylchoedd Ti a Fi yn arbennig, ond wrth gwrs, gellir eu haddasu ar gyfer cylchoedd meithrin yn ôl y galw.

    Wrth gyflwyno a dilyn y gweithgareddau, y nod yw cynnwys Dewin a Doti yn yr hwyl ar bob cyfle posib. Ein gobaith fel staff felly, yw y bydd pob plentyn o fewn ein cylchoedd yn cyfeirio at Dewin a Doti fel ‘Fy Ffrindiau’.

    Diolch o galon am y cyfle i baratoi’r pecyn hwn ac i gylchoedd meithrin Sir Ddinbych am eu cefnogaeth a’u brwdfrydedd.

    Alaw Humphreys

    Diolch

    Ar ran Mudiad Meithrin hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Alaw Humphreys am greu’r pecyn gweithgareddau hyfryd hwn. Mae’n braf iawn gweld fod yma weithgareddau wedi eu llunio’n arbennig i’w defnyddio yn y cylchoedd Ti a Fi yn ogystal ag yn y cylchoedd meithrin. Mae’r fformat yn hawdd ei ddilyn, yn darllen yn rhwydd a’r cyfarwyddiadau yn glir a syml drwy’r llyfryn. Mae’r adnodd yn sôn am amrywiaeth o amgylcheddau fel ardaloedd, amser cylch a’r awyr agored, ac yn annog y plant i ddefnyddio eu dychymyg a’u chwilfrydedd. Diolch yn fawr hefyd i aelodau o Is-bwyllgor Ansawdd a Hyfforddiant y Mudiad am gymeradwyo cynnwys y pecyn hwn. Rydym yn hynod ddiolchgar hefyd i Gronfa Loteri Fawr am am eu cefnogaeth ariannol tuag at gyhoeddi’r llyfryn hwn.

    Iola JonesCyfarwyddwr Marchnata Mudiad Meithrin

  • Caneuon Defnyddiol ar Ddechrau Sesiwn

    Mae’r plant wrth eu boddau’n cael cwmni Dewin a Doti’n ystod amser cofrestru, amser cylch ac amser stori. Gellir eu croesawu trwy ganu’r caneuon bach syml hyn.

    ‘Helo Dewin,Helo Doti, Helo ffrindiau,Helo sut ‘da chi?’

    (ar yr alaw ‘Helo ffrindiau’)

    Yn ystod y gân fach hon anogir pob plentyn i roi mwythau neu gwtsh i Doti wrth iddi deithio o amgylch y cylch. Ar ddiwedd y gân bydd y plentyn sy’n gafael yn Doti yn gweiddi “Dyma Doti!”

    ‘Pasio Doti rownd y cylch, Rownd y cylch, rownd y cylch,Pasio Doti rownd y cylch,Ble mae Doti’n awr?’

    (ar yr alaw ‘London Bridge is falling down’)

    neu

    ‘Mae Doti’n dweud helo wrth bawbHelo wrth bawb, helo wrth bawb,Mae Doti’n dweud helo wrth bawb,Ble mae Doti’n awr?’

    Mae’r gân hon yn rhoi cyfle i gyflwyno het Dewin i’r plant a’u hatgoffa bod pob math o ryfeddodau ynddi!

    ‘Beth sydd yn yr het?Beth sydd yn yr het?Dewch i ni gael gweldBeth sydd yn yr het?’

    (ar yr alaw ‘Mae’r ffermwr eisiau gwraig’)

    ‘Cnoc, cnoc, cnoc’ –• CD Fy Ffrindiau a Fi, Martyn Geraint

    ‘Hwyl yn y cylch meithrin’ – • CD Dewin

    222

    1

  • Gweithgareddau i gylchoedd Ti a Fi yn benodol

    Chwarae Stomplyd gweithgaredd i fabanod a’u rhieni/gofalwyr yn arbennig

    NodRhoi cyfle i’r babanod arbrofi gyda theimlad a chyffyrddiad sef camau cyntaf y sgil o farcio.

    Offer ac adnoddauMat neu lieiniau bwrdd mawr y gellir eu golchi neu eu sychu, hambyrddau fflat, powlenni o dd∑r cynnes, ‘baby wipes’, llieiniau/tywelion, jeli di-siwgr wedi ei baratoi’n barod, cwstard, blawd corn wedi ei gymysgu â d∑r, siwgr eising.

    Cofiwch sicrhau cyn dechrau nad oes gan y plant unrhyw alergedd i’r cynhwysion

    fydd yn cael eu defnyddio. Bydd gofyn rhybuddio’r rhieni am y gweithgaredd yma wythnos cyn ei gynnal er mwyn sicrhau bod y plant yn gwisgo dillad addas neu hen ddillad.

    CyfarwyddiadauGosodwch y mat mewn man addas a chynnes. Rhowch un math o fwyd ar bob hambwrdd. Gadewch i’r babanod ymweld â phob hambwrdd yn eu tro gyda’u rhieni/gofalwyr er mwyn teimlo, marcio a chwarae gyda’r gwahanol fwydydd a chreu stomp!

    1

    Cyflwyno’r stori: Gofyn i’r rhieni/gofalwyr ddod â’r plant i eistedd mewn cylch

    Canu ‘Pasio Doti rownd y cylch’ (gweler tudalen 2)

    Beth sydd yn Het Hud Dewin?Llyfr bwrdd Syrpréis Doti (gan Rhian Mair Evans, Gwasg Gomer), digon o wrthrychau’n ymwneud â pharti gan gynnwys rhai sy’n gwneud s∑n e.e “party poppers”, utgorn bach, papur lapio, bal∑n, cardiau pen-blwydd, llestri parti, paced o jeli, addurniadau i’w rhoi ar

    deisen/cacen pen-blwydd.

    Neu – cynhwysion ar gyfer gwneud teisen.

    Wedi i chi ganu, gallwch ofyn i’r plant dynnu’r gwrthrychau allan o’r het yn eu tro. Bydd cyfle i’w trafod a chlywed pob math o synau difyr.

    Caneuon perthnasol: ‘Hapus ben-blwydd’; • ‘Dathlu’ oddi ar CD Fy Ffrindiau a Fi, Martyn Geraint

    ‘Pen-blwydd hapus i ti’•

    Gweithgareddau i gyd-fynd â’r stori

    Syrpréis Doti

    Iaith a gyflwynirLliwiau, rhannau o’r corff, oer, cynnes/twym.

    Profiad / datblygiadSymud, ymestyn, cydio, teimlo.

    3

    2

  • Cofiwch gynnwys Doti yn y gweithgaredd a’i rhoi i eistedd gyda’r plant gyda phowlen o jeli piws!

    Lapio Anrhegiongweithgaredd gr∑p bach

    NodRhoi cyfle i’r plant ddatblygu sgiliau llawdriniol wrth ymdrin â phapur, sisyrnau plastig a thâp masgio.

    Offer ac adnoddauDigon o bapur lapio pen-blwydd (wedi ei ail-gylchu os yn bosib), teganau’r cylch Ti a Fi e.e. blociau, llyfrau, trên bach, pêl, sisyrnau plastig, tâp masgio.

    Cyfarwyddiadau Trafod gwahanol siapiau gyda’r plant a’u hannog i lapio’r teganau â’r papur a’r tap masgio. Bydd y plant yn cael hwyl wrth agor yr anrhegion i gyd ar y diwedd.

    Iaith a gyflwynir Cylch, crwn, sgwâr, petryal, pen-blwydd, “Pa siâp ydy hwn?” “Pa anrheg wyt ti am ddewis?” “Pa un yw dy hoff anrheg?”

    Profiad / datblygiadGweithio’n bur annibynnol, cymryd tro, gwneud penderfyniadau, rhannu gydag eraill, sgiliau llawdriniol, sgiliau trafod.

    Bwyta Jeli a Ffrwythaugweithgaredd gr∑p mawr/bach gyda’u rhieni/gofalwyr – a Doti!

    NodDatblygu sgiliau llawdriniol trwy fwyta jeli gyda llwy, gan reoli’r jeli wrth wneud hynny, sy’n sgil ynddo’i hun!

    Offer ac adnoddauSawl powlen fawr o jeli di-siwgr o wahanol liwiau – yn dibynnu ar nifer y plant; gallwch roi ffrwythau yn rhai o’r jelis hefyd er mwyn ychwanegu blas a gwead, llwyau mawr, llwyau bach, powlen o dd∑r cynnes i olchi llestri, brwsh neu gadach/clwtyn golchi llestri, lliain sychu llestri.

    Cyfarwyddiadau Ar ôl trafod lliwiau’r jeli caiff y plant ddewis eu lliw a throsglwyddo’r jeli o’r bowlen fawr i’w powlen fach nhw gyda llwy fawr ac yna ei fwynhau gyda llwy fach.

    Cofiwch gynnwys Doti yn y gweithgaredd a’i rhoi i eistedd gyda’r plant gyda phowlen o jeli piws/porffor!

    Gall y plant olchi a sychu eu llestri eu hunain ar y diwedd.

    Iaith a gyflwynir Llwy fawr, llwy fach, lliwiau, “Wyt ti’n hoffi ffrwythau?” “Pa un yw dy hoff ffrwyth?” “Ydi’r ffrwyth yn blasu neu’n teimlo’n wahanol yn y jeli?”

    Wrth olchi a sychu’r llestri – budr/brwnt, glân, cynnes/twym, swigod, gwlyb, sych.

    Gellir canu’r gân isod wrth wneud y gweithgaredd hwn:

    ‘Dyma’r ffordd i olchi llestri,I olchi llestri, i olchi llestri,Dyma’r ffordd i olchi llestriAr ôl bwyta jeli.’

    ‘Dyma’r ffordd i sychu llestri…’

    (ar yr un alaw â ‘Dyma’r ffordd i frwsio dannedd’)

    Profiad / datblygiadAnnog annibyniaeth, sgiliau trin llwyau o wahanol faint, trafod lliwiau, trafod bwydydd iachus mewn parti e.e. ffyn moron, ciwcymbr, seleri, afal, grawnwin a.y.y.b. Rhannu’r profiad ag eraill.

    2

    3

    4

  • Gweithgareddau i gylchoedd Ti a Fi yn benodol

    Cyflwyno’r stori:Gofyn i’r rhieni/gofalwyr ddod â’r plant i eistedd mewn cylch.

    Canu ‘Pasio Doti rownd y cylch’ (gweler tudalen 2)

    Beth sydd yn Het Hud Dewin?Llyfr bwrdd Amser Gwely Dewin (gan Rhian Mair Evans, Gwasg Gomer), tedi, llyfr, blanced, clustog, tegan sy’n chwarae alaw dawel neu gryno-ddisg o gerddoriaeth dawel.

    Cyn darllen y stori gofynnwch i oedolyn guddio’r fasged a Doti ynddi.

    Yna ar ôl canu ‘Beth sydd yn yr het?’ gadewch i’r plant dynnu’r gwrthrychau allan ohoni fesul un.

    Gall y plant ymuno yn y stori trwy godi’r fflapiau. Ceisiwch eu hannog i ymateb wrth i chi ofyn y cwestiynau sydd yn

    y stori – bydd hyn yn gyfle i ail adrodd patrymau iaith.

    Ar ddiwedd y stori gall pawb yn dawel fynd i chwilio am Doti – gan gynnwys y babanod ym mreichiau eu rhieni/gofalwyr

    Caneuon perthnasol:

    ‘Heno, heno, hen blant bach’•

    ‘Si hei lwli mabi’•

    ‘Llwynog Coch yn Cysgu’ • – o’r llyfr Hwiangerddi, Mudiad Meithrin. Mae’r gân yma hefyd ar y CD Adar ac Anifeiliaid, Siân James, Mudiad Meithrin.

    ‘Mae Doti bach yn cysgu,Mae Doti bach yn cysgu,Mae Doti bach yn cysguCysgu’n braf.’

    Amser Gwely Dewin

    555

    3

  • Gweithgareddau i gyd-fynd â’r stori

    Cysgu gyda Doti gweithgaredd gr∑p mawr

    NodDatblygu sgiliau gwrando’r plant ac ymwybyddiaeth o le

    Offer ac adnoddauChwaraewr cryno ddisgiau, sgarffiau ysgafn, cloc larwm, CD o gerddoriaeth dawel.

    Cyfarwyddiadau Annog pawb i ddod yn ôl ar y mat ymhen amser gan eu hatgoffa o’r stori. Gofyn a ydyn nhw wedi blino erbyn hyn a’u hannog i orwedd yn dawel ac esgus cysgu fel Doti wrth chwarae cerddoriaeth dawel. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle i’r babanod gael eu mwytho a’u hanwesu gan eu rhieni/gofalwyr a gall yr Arweinydd a’r rhieni/gofalwyr eraill chwifio sgarffiau ysgafn

    dros y rhai h¥n tra mae’n nhw’n esgus cysgu. Yna gellir gosod y sgarffiau drostynt fel blanced.

    Gellir seinio cloc larwm neu chwarae cerddoriaeth uchel i ddeffro pawb ac yna cael cyfnod o symud a chân i gyfeiliant CD Fy Ffrindiau a Fi, Martyn Geraint, e.e. ‘Symud y corff’; ‘Pen, ysgwyddau, coesau, traed’; ‘Brwsio rownd a rownd’; ‘Da ni’n dawnsio’; ‘T¥ ni, t¥ chi’.

    Iaith a gyflwynir “Pwy sydd wedi blino?” “Dewch i orwedd” “Dyna braf!” “Mae pob man yn dawel”

    “Mae’n amser deffro!” “Dewch i symud a dawnsio”. Geirfa’r corff a symudiadau.

    Profiad / datblygiad Ymateb i gyfarwyddiadau, ymateb i gerddoriaeth, dynwared, datblygu sgiliau gwrando a sgiliau corfforol.

    1

    66

  • Creu Gwely Bach i Doti gweithgaredd gr∑p bach

    NodRhoi cyfle i’r plant ddatblygu sgiliau creadigol, marcio a thrafod gwahanol siapiau, lliwiau a deunyddiau.

    Offer ac adnoddauBocsys esgidiau, darnau o ddeunyddiau, glud, sisyrnau, sticeri

    Cyfarwyddiadau Annog y plant i ddewis darnau o ddeunyddiau addas ar gyfer blanced

    a gobennydd. Dewis darnau bach o ddeunyddiau a phapur i’w gludo ar y bocs er mwyn ei addurno.

    Wedi gorffen y gweithgaredd gellir gosod Doti ym mhob gwely yn ei thro a thynnu ei llun â chamera.

    Iaith a gyflwynir Meddal, hir, byr, mawr, bach, clyd, cysurus, lliwiau. “Pa liw yw dy flanced di?” Trafod hoff flanced a dillad gwely.

    Profiad / datblygiadTrin glud a siswrn plastig, creu i bwrpas, gwrando a dilyn cyfarwyddiadau, trafod a sgwrsio.

    Creu Llun o’r Awyr yn y Nosgweithgaredd gr∑p bach

    NodDatblygu sgiliau llawdriniol wrth brintio gyda thatws a thasgu gliter yn ofalus.

    Offer ac adnoddauCardfwrdd neu bapur du maint A4, tatws wedi eu torri’n siâp sêr a lleuad, paent gwyn a melyn, gliter arian, glud a spatiwla, llyfr sy’n dangos lluniau o’r awyr yn y nos.

    Cyfarwyddiadau Trafod y nos pan fo’r awyr yn dywyll. Dangos lluniau o’r awyr yn y nos.

    Beth sy’n disgleirio yn yr awyr? Trafod siâp seren a lleuad, gan ddangos bod y lleuad yn siâp gwahanol o dro i dro. Gadael i’r plant ‘brintio’ gyda’r tatws, rhoi glud ar y papur a thasgu gliter dros y glud.

    Iaith a gyflwynir Awyr ddu, sêr, lleuad, disgleirio, tywyll, golau, pwyso, printio.

    Profiad / datblygiadCreu’n annibynnol, trafod lliwiau a siapiau a’u cysylltu â’r byd o’u cwmpas. Trafod a sgwrsio wrth greu.

    2

    3

    GLUD

    7

  • Gweithgareddau i gylchoedd Ti a Fi a chylchoedd meithrin

    Cyflwyno’r stori:Rhowch groeso i Dewin a Doti a dewiswch un neu ddwy o’r caneuon canlynol:

    ‘Pasio Doti rownd y cylch’ • (gweler tudalen 2)

    ‘Cnoc, cnoc, cnoc’, CD• Fy Ffrindiau a Fi, Martyn Geraint

    ‘Cân 1’ ar CD• Dewin

    Beth sydd yn Het Hud Dewin? Llyfr bwrdd Het Hud Dewin, (gan Rhian Mair Evans, Gwasg Gomer) het Dewin fechan wedi ei gwneud o gardfwrdd, pethau i’w chwythu e.e. bal∑n, gwelltyn, ffan, baner, recorder, dail, cylch nofio (‘rubber ring’), clychau gwynt a.y.y.b

    Gofyn i’r plant dynnu’r gwrthrychau allan o’r het yn eu tro - cyfle i gyflwyno geirfa a chysyniadau. Rhoi cyfle iddynt weld rhai gwrthrychau’n newid siâp wrth eu chwythu a chlywed s∑n yn cael ei greu trwy chwythu.

    Cyflwyno’r stori gan bwysleisio geirfa ac ymadroddion arbennig fel “chwa o wynt”, “Hali Bali Balal∑n”, rhy uchel, rhy fyr, rhy araf.

    Trafod y syniad bod Doti’n ‘helpu’ ei ffrind, Dewin.

    Trafod y syniad na allwn ‘weld’ y gwynt ond gallwn weld ei effaith. Dangos effaith gwynt ar bethau sydd yn yr het trwy ddefnyddio sychwr gwallt (yn oer) e.e. dail, baner, clychau gwynt.

    Dangos effaith ein gwynt/anadl ninnau ar bethau. Mewn cylch Ti a Fi gellid rhoi bal∑n i bob rhiant/gofalwr ac annog y plant i afael yn y bal∑n wrth i’r oedolyn

    ei chwythu - er mwyn teimlo’r siâp yn newid. Peidiwch â chlymu’r bal∑n – er mwyn annog y plant i wylio a gwrando wrth i’r bal∑n gael ei gollwng. Os bydd hyn yn codi ofn ar blentyn, yna peidiwch â chynnal y gweithgaredd yma. Cofiwch hefyd, y gall plant bach dagu ar fal∑n, felly gwnewch yn si∑r eich bod yn casglu pob bal∑n ar y diwedd, a’u rhoi i gadw.

    Caneuon perthnasol:‘Fel hyn mae Doti’n rhedeg,Yn rhedeg, yn rhedeg,Fel hyn mae Doti’n rhedegAt yr het.’

    ‘Fel hyn mae Doti’n nofio’

    ‘Fel hyn mae Doti’n ymestyn’

    (ar yr alaw ‘Dyma’r ffordd i…’)

    (ar yr alaw ‘Un bys, dau fys, tri bys yn dawnsio’)

    ‘Helpu’, ‘Rwy’n hoffi bod yn’– • CD Fy Ffrindiau a Fi, Martyn Geraint

    ‘Y Tywydd’, ‘Pawb a Phopeth’ –• CD Y Tywydd a’r Tymhorau, Y Brodyr Gregory

    Het Hud Dewin

    ‘Dwi’n gweld y gwynt pan mae’r dail yn chwythu,Dwi’n gweld y gwynt pan mae’r dillad yn sychu,Dwi’n gweld y gwynt pan mae’r barcud yn hedfan,Dwi’n gweld y gwynt ym mhob man.’

    8

    4

  • Siôn

    Alys Mari Iwan

    Manon

    Dafydd

    Gweithgareddau i gyd-fynd â’r stori

    Creu Hetgweithgaredd gr∑p bach

    NodDatblygu sgiliau creadigol a llawdriniol. Adnabod eu henwau.

    ArdalCreadigol

    Offer ac adnoddauCardfwrdd o bob lliw, papur sidan a chrêp, glud, sêr, enwau’r plant ar ddarnau o bapur – i’w gludo ar yr het.

    Cyfarwyddiadau Rhoi cyfle i’r plant dorri’r cardfwrdd i’r maint cywir gyda chymorth ac addurno’r het gyda phapur a sêr. Eu hannog i greu patrwm os dymunir. Eu hannog i chwilio am eu henwau ymysg casgliad o enwau a phob plentyn i ludo ei enw ar ei het. Cymharu eu het hwy â het hud Dewin. Trafod beth fydden nhw’n ei roi yn yr het.

    Iaith a gyflwynir Rhy fach, rhy fawr, lliwiau, enwau cyntaf.

    1

    Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth DdiwylliannolCymryd tro a rhannu, annog annibyniaeth wrth greu, trafod hoff liwiau wrth greu, trafod eu henwau personol, gwneud dewisiadau.

    Siarad, Gwrando a Darllen Trafod gydag oedolion a dilyn cyfarwyddiadau.

    Datblygiad Mathemategol Cyflwyno’r syniad o fesur, creu patrwm.

    Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd Trafod lliwiau.

    Datblygiad CorfforolTrin a thrafod siâp y pen, datblygu sgiliau llawdriniol wrth fesur a chreu.

    Datblygiad Creadigol Addurno, ymdrin â glud a thâp selo.

    Sut mae’r gweithgareddau yn cysylltu i feysydd dysgu’r Cyfnod Sylfaen:

    GLUD

    999

  • Chwythu Paent a Chreu BarcudNodDatblygu sgiliau llawdriniol a chreadigol wrth greu barcud ac annog symudiadau corfforol wrth wneud i’r barcud hedfan.

    Offer ac adnoddauDarnau o bapur siâp diemwnt, paent, siwgr eising, d∑r, brwshys paent, gwellt, papur crêp, llwyau te, tâp selo, styffylwr, rhuban neu linyn.

    ArdalGr∑p bach yn yr Ardal Greadigol. Gr∑p mawr yn yr Ardal Tu Allan

    CyfarwyddiadauRhoi cyfle i’r plant gymysgu’r siwgr eising a’r d∑r - tua thair llond llwy de o siwgr eising mewn cwpan o dd∑r. Eu hannog

    i orchuddio’r papur â’r hylif. Yna gyda chymorth, rhoi smotiau o baent gyda llwy ar y papur cyn chwythu’r paent gyda gwelltyn. Bydd y plant yn gweld effaith y ‘chwythu’ ar y paent.

    Ar ôl i’r paent sychu, glynwch stribedi o bapur crêp ar waelod y barcud a darn o linyn neu ruban ar y pen arall.

    Gweithgaredd tu allanPan fydd pawb wedi creu barcud, gellir mynd allan ar ddiwrnod gwyntog a gadael i’r plant redeg yn rhydd gan dynnu eu barcud tu ôl iddynt gan weld effaith y gwynt.

    Cofiwch wneud yn si∑r fod Dewin a Doti’n cael cyfle i hedfan barcud hefyd!

    Iaith a gyflwynirGeirfa fel chwythu, yn uchel, yn isel, cymysgu, tynnu, chwifio, hedfan, paent, gwynt, siwgr eising, barcud, lliwiau.

    2

    Datblygiad Personol a Chymdeithasol Gwisgo ffedog yn annibynnol, rhannu a chymdeithasu, disgwyl tro, gofal am eraill wrth symud.

    Siarad a Gwrando Gwrando ar gyfarwyddiadau, trafod y profiad o greu ac o wneud i’r barcud deithio, dilyn rheolau bod yn yr awyr agored.

    Datblygiad Mathemategol Trafod siâp y barcud.

    Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd Trafod effaith gwynt ar y barcud, trafod y gofod o’n cwmpas wrth chwifio’r barcud, ymwybyddiaeth o ofod.

    Datblygiad CorfforolDatblygu sgiliau llawdriniol, rhedeg gan dynnu’r barcud ar eu holau yn yr awyr agored.

    Sut mae’r gweithgareddau yn cysylltu i feysydd dysgu’r Cyfnod Sylfaen:

    1010

  • Het i Bawb! gweithgaredd gr∑p bach

    NodRhoi cyfle i’r plant ddefnyddio eu dychymyg ac ymestyn eu hiaith wrth chwarae rôl.

    ArdalChwarae rôl.

    Offer ac adnoddauHetiau o bob math gan gynnwys rhai ar gyfer gwaith e.e. helmed dyn tân, drych mawr, camera/camera fideo, lluniau o bobl wrth eu gwaith.

    CyfarwyddiadauTrafod y syniad o wisgo het a pham e.e. helmed i feicio, het haul, het adeiladwr a.y.y.b. Rhoi cyfle i’r plant wisgo’r hetiau yn eu tro gan efelychu’r bobl yn y lluniau a gweld eu hunain yn y drych. Gellir eu ffilmio wrth gael sgwrs er mwyn ymestyn yr iaith - cyfle iddynt siarad a gwrando.

    Iaith a gyflwynir“Pwy sy’n gwisgo het fel hon?” “Beth maen nhw’n ei wneud?”

    “Dos at y drych.” “Wyt ti’n hoffi…?” “Hoffet ti fod yn …?” caled, meddal, mawr bach, rhy fawr/fach

    Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth DdiwylliannolDatblygu annibyniaeth, disgwyl tro a rhannu, trafod gwahanol fath o waith y mae pobl yn ei wneud, trafod diogelwch.

    Siarad, Gwrando a DarllenDefnyddio iaith berthnasol wrth drafod yr uchod, ymateb i gwestiynau.

    Datblygiad MathemategolTrafod maint a siâp yr hetiau.

    Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd Trafod pobl wrth eu gwaith.

    Datblygiad Corfforol Rheoli’r hetiau ar y pen.

    Sut mae’r gweithgareddau yn cysylltu i feysydd dysgu’r Cyfnod Sylfaen:

    TAN

    3

    11

  • Gweithgareddau i gylchoedd meithrin yn benodol

    Cyflwyno’r stori:Gellir ceisio creu awyrgylch ar gyfer Amser Cylch trwy gael y plant i eistedd ar ddarnau mawr o ddefnyddiau glas a melyn a dweud wrth y plant eich bod yn mynd i fyd hud Dewin a Doti.

    Croesawu Dewin a Doti trwy ganu un neu ddwy o’r canlynol –

    ‘Helo, Dewin, helo Doti…’ • (gweler tudalen 2)

    ‘Cnoc, cnoc, cnoc’ – • CD Fy Ffrindiau a Fi, Martyn Geraint

    Un o’r caneuon ar CD • Dewin

    Beth sydd yn Het Hud Dewin?Llyfr stori Ar Lan y Môr (gan Caryl Parry Jones, Cyfres Dewin, Gwasg Gomer), bwced a rhaw, cregyn, cerrig glan y môr, gwymon, pêl wynt, pysgod a chrancod plastig, deg o sêr cardfwrdd wedi eu lamineiddio, cwch bychan, het haul, sbectol haul a.y.y.b.

    Y tro hwn gellir darllen y stori CYN tynnu’r gwrthrychau o’r het. Felly, gallwch dynnu’r sêr o’r het a’u tasgu fel Dewin

    pan fydd yntau’n gwneud hynny yn y stori a gofyn iddynt ddychmygu eu bod ar lan y môr.

    Wedi darllen y stori gosodwch hambwrdd mawr o dywod ynghanol y cylch. Wrth i’r plant dynnu’r gwrthrychau yn eu tro allan o’r het, gosodwch nhw ar y tywod ar ôl eu henwi a’u trafod. Adeiladwch gastell tywod gyda’ch gilydd trwy ddewis plant i gymryd eu tro i lenwi’r bwced â thywod. Cyfrwch sawl llond rhaw o dywod sydd eu hangen i lenwi’r bwced.

    Caneuon perthnasol:‘Lawr ar lan y môr’•

    ‘Tymor yr Haf’ • CD Y Tywydd a’r Tymhorau, Y Brodyr Gregory

    ‘Cwch bach yn siglo’ • Llyfr a CD Caneuon Bys a Bawd, Falyri Jenkins, Mudiad Meithrin

    ‘Fuoch chi ’rioed yn morio?’•

    Ar Lan y Môr

    12

    5

  • Gweithgareddau i gyd-fynd â’r stori

    Llwybr Troednoeth Glan y Môr gweithgaredd gr∑p bach

    NodRhoi cyfle i’r plant arbrofi â gwahanol ddeunyddiau trwy deimlo â’r traed.

    ArdalDarganfod.

    Offer ac adnoddauNifer o hambyrddau gydag ochrau iddynt a phob un yn cynnwys deunydd a fydd yn rhoi gwahanol brofiad i’r plant wrth sefyll ynddynt e.e. tywod sych, tywod gwlyb, cerrig mawr, llyfn, cerrig bach, gwymon, d∑r. Llieiniau/tywelion.

    Os nad oes traeth yn y cyffiniau gellir creu effaith gwymon trwy dorri stribedi o fagiau plastig a’u gwlychu ychydig

    Cyfarwyddiadau Gosodwch yr hambyrddau mewn rhes fel bod y plant, yn eu tro, yn camu’n ofalus o un hambwrdd i’r llall. Cânt gyfle i brofi amrywiaeth o deimladau dan draed cyn golchi eu traed yn y ‘môr’ ar y diwedd.

    Beth am fynd â Dewin ar hyd y llwybr hefyd? Bydd yr iaith yn llifo wrth i chi ei arwain.

    Iaith a gyflwynir “Ydy o’n teimlo’n oer / llithrig / llyfn / garw / pigog / gwlyb / sych? “Bydd yn ofalus!” “Cymer ofal!” Geirfa glan y môr – cregyn, tywod, gwymon, crancod a.y.y.b.

    1

    Datblygiad Personol a Chymdeithasol Dilyn cyfarwyddiadau. Bod yn ymwybodol o blant eraill a dysgu cymryd tro. Deall yr angen i sychu’r traed ar ddiwedd y gweithgaredd er mwyn cadw pawb yn ddiogel.

    Siarad, Gwrando a Darllen Trafod y gwahanol ddeunyddiau a’u nodweddion. Defnyddio’r eirfa a’r ansoddeiriau uchod. Trafod eu profiad nhw o’r traeth.

    Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd Adnabod ac enwi nodweddion arbennig glan y môr.

    Datblygiad CorfforolCydbwyso wrth gamu ar arwynebedd neu lwybr anwastad/llithrig.

    Sut mae’r gweithgareddau yn cysylltu i feysydd dysgu’r Cyfnod Sylfaen:

    13

  • Chwilio am Sêrgweithgaredd gr∑p bach

    NodDatblygu sgiliau iaith a rhifo wrth chwilio a didoli.

    ArdalTywod

    Offer ac adnoddauTwb tywod, sêr cardfwrdd wedi eu lamineiddio, teganau a gwrthrychau’n ymwneud â glan y môr.

    Cyfarwyddiadau Cuddiwch wrthrychau’n ymwneud â’r

    traeth yn y twb tywod ymlaen llaw. Ewch â Dewin at y twb tywod a’i helpu i dasgu 10 o sêr dros y tywod gan gyfri i 5 wrth wneud hynny - fel yn y llyfr stori. Yna cuddiwch y sêr yn y tywod tra bod y plant yn cau eu llygaid. Gofynnwch i’r plant chwilio am y sêr a’u gosod mewn rhes er mwyn eu cyfri ar y diwedd. Byddant hefyd yn dod o hyd i grancod, pysgod, cregyn a.y.y.b a bydd cyfle ardderchog i atgyfnerthu’r eirfa a gyflwynwyd yn ystod amser stori.

    Iaith a gyflwynir Rhifo i 5, rhifo i 10, geiriau glan y môr, “Wyt ti’n gallu dod o hyd i…?

    2

    Datblygiad Personol a Chymdeithasol Sgiliau cyd-weithio, cymryd tro.

    Siarad a GwrandoTrafod a sgwrsio wrth ddilyn y gweithgaredd. Enwi’r gwrthrychau a’r creaduriaid. Eu hannog i sgwrsio gyda Dewin a dweud wrtho beth sy’n digwydd.

    Datblygiad Mathemategol Cyfri i 5, cyfri i 10, gwahaniaethu, cyflwyno iaith fathemategol e.e. sawl seren/faint o sêr?

    Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd Trafod glan y môr - beth maen nhw’n mwynhau ei wneud ar y traeth fel y plant bach yn y llyfr stori.

    Sut mae’r gweithgareddau yn cysylltu i feysydd dysgu’r Cyfnod Sylfaen:

    141414

  • Dawnsio Gyda Doti ar Lan y Môr gweithgaredd gr∑p bach/mawr - yn dibynnu ar y gofod sydd ar gael.

    NodRhoi cyfle i’r plant ymateb yn reddfol i gerddoriaeth a cheisio cyfleu rhannau o’r stori gydag ystum corff.

    ArdalSymud a chân

    Offer ac adnoddauChwaraewr CD; CD Fy Ffrindiau a Fi, Martyn Geraint; CD o gerddoriaeth dawel, sêr hudol Dewin

    Cyfarwyddiadau Cynhesu’r corff yn gyntaf trwy ganu a dawnsio gyda’r caneuon ‘Symud y Corff’ a ‘Pen, ysgwyddau, coesau, traed’.

    Gofynnwch i’r plant eistedd i lawr tra bod Dewin yn tasgu sêr o amgylch yr ystafell. Pawb i gyfri i 5 wrth iddo wneud hynny. Gan ddangos y llyfr stori, gofynnwch

    iddynt ddychmygu eu bod ar lan y môr

    Annog y plant wedyn i ddawnsio fel Doti gan ddefnyddio’r gofod sydd ar gael. Cofiwch gynnwys Doti yn y gweithgaredd gan siarad yn gyson gyda hi. Gall aelod arall o’r staff ddawnsio gyda Dewin. Gellir annog y plant i esgus dringo i ben y castell tywod anferth a phan fydd y gerddoriaeth yn stopio, sefyll fel delw ar ben y castell nes bydd y gerddoriaeth yn ail-ddechrau.

    Gofynnwch i’r plant symud fel crancod neu nofio fel pysgod.

    I’w tawelu ar ddiwedd y sesiwn, annogwch y plant i eistedd ar y ‘traeth’ a gwrando ar gerddoriaeth dawel. Gellir dewis dau neu dri o blant i gerdded yn araf o’u cwmpas gan gydbwyso bwced ar y pen, fel y ferch fach yn y llun ar dudalen 13.

    Pawb i orwedd i ddiweddu’r sesiwn, gan gynnwys Dewin a Doti!

    Iaith a gyflwynir Rhannau o’r corff; geirfa’n ymwneud â symudiadau e.e. rhedeg, ymestyn, neidio, palu; geirfa sy’n codi o’r llyfr stori e.e. tasgu, anferth, ar hyd a lled, palu, cyffro

    3

    MUDIAD YSGOLION MEITHRIN

    Caneuon Gŵ yl Feithrin – Fy Ffrindiau a Figan Martyn Geraint

    Cefnogir ein gwaith gan:

    Datblygiad Personol a Chymdeithasol Dilyn cyfarwyddiadau er mwyn bod yn ddiogel, ystyried plant eraill.

    Siarad a GwrandoDilyn cyfarwyddiadau, ymestyn geirfa, cyfleu iaith trwy ystum.

    Datblygiad Mathemategol Rhifo i 5, bach, mawr, anferth.

    Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd Ymwybyddiaeth o ofod a’i ddefnyddio i gyfleu syniadau.

    Datblygiad Corfforol Creu symudiadau gyda’r corff – rhedeg, ymestyn, neidio a.y.y.b

    Datblygiad Creadigol Defnyddio’r dychymyg i greu siapiau gyda’r corff.

    Sut mae’r gweithgareddau yn cysylltu i feysydd dysgu’r Cyfnod Sylfaen:

    15151515

  • Cyflwyno’r stori:Mewn byd delfrydol, byddai’n braf cyflwyno’r stori mewn coedlan neu yn yr Ardal Tu Allan er mwyn gweld y coed a chlywed yr adar yn canu o’u cwmpas.

    Gellir canu’r gân gyntaf ar CD Dewin neu ‘O, mae’n braf cael bod yn ffrindiau’ (CD Fy Ffrindiau a Fi, Martyn Geraint), i bwysleisio bod pawb yn ffrindiau.

    Cofiwch dasgu’r sêr gyda Dewin wrth ddarllen y stori er mwyn annog y plant i ddychmygu eu bod mewn coedwig.

    Beth sydd yn Het Hud Dewin?Llyfr stori Ffrindiau’r Goedwig (gan Caryl Parry Jones, Cyfres Dewin, Gwasg Gomer) anifeiliaid bach meddal neu bypedau – gwiwer, llygoden, aderyn, lindys; draenog wedi ei greu o daten a

    ffyn pren; pecyn o hadau, moch coed, mes, dail, brigyn.

    Trafod y ffaith bod anifeiliaid yn ffrindiau i ni ac y dylem fod yn ofalus ohonynt. Gellir eu holi am eu hanifeiliaid anwes.

    Caneuon perthnasol:‘Dau dderyn bach ar ben y to’•

    ‘Aderyn Bach Syw’, ‘Robin • Goch’, ‘Jac y Do’, ‘Dau Gi Bach’, CD Adar ac Anifeiliaid, Siân James, Mudiad Meithrin

    ‘Ble mae’r llygoden?’ Llyfr • a CD Caneuon Bys a Bawd, Falyri Jenkins, Mudiad Meithrin

    ‘Draenog Pigog’, ‘Faleri y Falwoden’, • ‘Lowri Lindys’ - CD Ffrindiau’r Wyddor

    Gweithgareddau i gylchoedd meithrin yn benodolFfrindiau’r Goedwig

    16

    6

  • Gweithgareddau i gyd-fynd â’r stori

    Gêm ‘Cofio’ yn y Goedwiggweithgaredd gr∑p mawr/bach

    NodDatblygu sgiliau ‘cofio’ a sgiliau iaith

    Offer ac adnoddauFel yr uchod yn yr het, hambwrdd, darn o ddefnydd i orchuddio’r hambwrdd.

    Cyfarwyddiadau Trafod y ffaith bod gan y wiwer gof ardderchog a’i bod yn cuddio cnau a mes i’w storio dros y gaeaf. Enwi’r pethau sydd ar yr hambwrdd ac yna egluro i’r plant bod angen iddynt ‘gofio’ beth sydd yna. Gorchuddiwch yr hambwrdd â’r darn o ddefnydd a gofyn i’r plant gau eu llygaid. Tynnwch un eitem oddi ar yr hambwrdd a’i chuddio yn yr het. Gofynnwch i’r plant agor eu llygaid a

    dweud beth sydd wedi diflannu oddi ar yr hambwrdd. Ail adrodd hyn nes bod dim ond un neu ddau o bethau ar ôl ar yr hambwrdd.

    Ar ddiwedd y sesiwn, gellir dangos i’r plant eich bod yn cuddio popeth mewn gwahanol fannau o fewn yr ystafell gan egluro nad oes neb i fynd i darfu arnynt. Yna, cyn mynd adref, rhowch gyfle i’r plant geisio cofio ble roedd pob dim. Pan fyddwch i gyd yn eistedd mewn cylch anfonwch y plant yn eu tro i chwilio - fel bod pawb yn gwylio’i gilydd ac yn clywed yr iaith berthnasol. Cofiwch gynnwys Dewin a Doti yn y chwilio.

    Iaith a gyflwynir Berfau’n ymwneud â’r stori – casglu, cropian, snwffian, crensian, hedfan; enwau anifeiliaid, geiriau’n ymwneud â’r goedwig.

    1

    Datblygiad Personol a Chymdeithasol Dysgu gofalu am greaduriaid ac anifeiliaid, dwyn i gof.

    Siarad a Gwrando Trafod a sgwrsio a cheisio cynnig atebion.

    Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r BydTrafod nodweddion coedwig, a pha fath o greaduriaid sy’n byw yno.

    Sut mae’r gweithgareddau yn cysylltu i feysydd dysgu’r Cyfnod Sylfaen:

    17

  • Creu Cuddfan i’r Anifeiliaidgweithgaredd gr∑p bach

    NodRhoi cyfle i’r plant ddefnyddio eu dychymyg a chreu i bwrpas

    Offer ac adnoddauHen gynfasau neu ddarnau mawr o ddefnydd mewn lliwiau tywyll os yn bosib, byrddau a chadeiriau neu ganghennau bamb∑/polion plygadwy a phethau i gysylltu e.e. darnau o gadachau fel hen grys-t wedi ei rwygo, pegiau, tâp masgio. Dail, moch coed, brigau, tortshis, llyfrau am y goedwig, teganau meddal - gwiwer, llygoden a.y.y.b

    Cyfarwyddiadau Ymunwch â’r plant i greu cuddfan i anifeiliaid y goedwig. Ceisiwch beidio rhoi gormod o arweiniad, ond yn hytrach

    eu hannog i ddefnyddio eu dychymyg eu hunain. Wedi creu’r guddfan gellir ei haddurno gyda dail a brigau ac yna gosod mwy o ddail, brigau a moch coed yn y guddfan, ynghyd â thortshis, llyfrau am y goedwig ac wrth gwrs, yr anifeiliaid a’r creaduriaid. Cofiwch annog y plant i fynd â Doti i mewn i’r guddfan. Byddant wrth eu boddau’n cael llonydd i chwarae yn y guddfan a defnyddio’r tortshis i edrych ar y llyfrau gyda Doti. Yna ewch chi â Dewin i mewn i’r guddfan a gofyn i’r plant adrodd eu hanes yn y guddfan wrtho.

    Iaith a gyflwynir Geirfa’n ymwneud â’r stori e.e. anifeiliaid y goedwig, canghennau, brigau, dail, moch coed. Geirfa adeiladu - gosod, clymu, sefyll, gorchuddio. Geirfa i ddisgrifio e.e. tywyll, sych, meddal, pigog, cryf.

    2

    Datbygiad Personol a Chymdeithasol Cydweithio wrth greu, datblygu syniadau, gofal am eraill.

    Siarad, Gwrando a DarllenCynnig syniadau, gwrando ar awgrymiadau, edrych ar luniau a phrint mewn llyfrau a’u trafod.

    Datblygiad Mathemategol Defnydd o eirfa fathemategol e.e. mawr, bach, hir, byr.

    Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r BydTrafod nodweddion cuddfan a pham fod rhai anifeiliaid yn mynd i gysgu dros y gaeaf.

    Datblygiad CorfforolDatblygu sgiliau llawdriniol wrth adeiladu, ymwybyddiaeth o faint corff.

    Datblygiad CreadigolDefnyddio’r dychymyg wrth adeiladu ac wrth addurno’r guddfan.

    Sut mae’r gweithgareddau yn cysylltu i feysydd dysgu’r Cyfnod Sylfaen:

    18

  • Canu gyda’r Adargweithgaredd gr∑p bach/mawr

    NodArbrofi gyda sain a rhythm trwy roi cyfle i’r plant efelychu s∑n yr adar a synau eraill yn y goedwig.

    ArdalSain a cherdd

    Offer ac adnoddauLlyfr stori Ffrindiau’r Goedwig, offerynnau - chwibanau, tambwrin, offeryn glaw, clychau bach, clychau gwynt, maracas neu unrhyw offerynnau addas eraill. CD o synau adar neu gellid hefyd defnyddio ‘Ap’ ar ffôn symudol neu lechen (‘tablet’) e.e. ‘Birdsong App’.

    CyfarwyddiadauAtgoffa’r plant o’r stori Ffrindiau’r Goedwig a chyfeirio’n arbennig at y llun ar dudalen 17 o Dewin a’r adar. Rhoi cyfle i’r plant wrando ar synau adar trwy gyfrwng CD neu Ap. Gofynnwch iddynt geisio efelychu rhai o’r synau e.e. s∑n tylluan, y gwcw ac unrhyw aderyn bach. Bydd yn haws iddynt, efallai, ail-greu eich s∑n chi, yn hytrach na’r CD neu’r ‘Ap’.

    Rhoi cyfle i’r plant glywed sain ac enwau’r gwahanol offerynnau ac yna

    trafod pa offeryn sy’n cyfleu sain yr adar ac amrywiol synau’r goedwig e.e. chwiban neu recorder - adar, maracas - draenog yn snwffian trwy’r dail, clychau gwynt - pili-pala a.y.y.b.

    Gellir rhoi offeryn i bob plentyn gan eu hannog i’w chwarae gyda’r CD o sain adar – gyda chithau’n eu harwain.

    Gwnewch yn si∑r fod Dewin yn chwarae offeryn gyda chymorth un o’r staff.

    Ceisiwch eu recordio ar dâp fel bod y plant yn gallu gwrando ar y sain maent wedi ei greu.

    Os nad oes digon o offerynnau ar gyfer pawb gallai’r plant gymryd eu tro mewn grwpiau i ganu un o’r caneuon a awgrymir ar dudalen 16 tra bod y gweddill yn creu’r synau.

    Mae’n bosib ymestyn y gweithgaredd trwy adael i’r plant eu hunain arbrofi’n nes ymlaen. Gellir gadael yr offerynnau yn yr Ardal Sain a Cherdd a chreu cardiau o flaen llaw gyda lluniau o ffrindiau’r goedwig a’r offeryn perthnasol ar bob un.

    Iaith a gyflwynir “Mae’r s∑n yma fel….” “Wyt ti’n gallu clywed….?” Enwau adar ac anifeiliaid y goedwig; rhisgl; crafu; crensian; swynol; uchel; isel; tawel; swnllyd a.y.y.b.

    3

    Datblygiad Personol a Chymdeithasol Gwrando ar eraill, cymryd tro.

    Siarad, Gwrando a DarllenTrafod a sgwrsio wrth ddilyn y gweithgaredd ac ymateb i gyfarwyddiadau; gwrando ar synau a cheisio eu hefelychu; gwrando ar waith ei gilydd; ymateb i luniau a thestun y llyfr

    Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r BydTrafod synau yn ein hamgylchfyd.

    Datblygiad Corfforol Sgiliau cydsymud a sgiliau motor mân trwy drin yr offerynnau a chadw rhythm; defnydd o lais i greu effaith.

    Datblygiad Creadigol Defnyddio’r dychymyg i efelychu synau a chreu effeithiau.

    Sut mae’r gweithgareddau yn cysylltu i feysydd dysgu’r Cyfnod Sylfaen:

    19

  • Ar Wib!

    Cyflwyno’r stori:Croesawu Dewin a Doti a chyflwyno rhai o’r ‘caneuon croeso’

    Beth sydd yn Het Hud Dewin?Llyfr stori Ar Wib (gan Caryl Parry Jones, Cyfres Dewin, Gwasg Gomer), lleuad bapur a seren fach feddal, fel sydd gan Dewin yn y stori.

    Wedi darllen y stori a thrafod y lleuad, y sêr a’r gofod gyda’r plant, gellir cyflwyno cân fach syml ar yr alaw ‘Un bys, un bawd yn symud’:

    ‘I ffwrdd â ni i’r gofod, I ffwrdd â ni i’r gofod, I ffwrdd â ni i’r gofod Mewn roced fawr.

    Cawn weld y sêr a’r lleuad, Cawn weld y sêr a’r lleuad, Cawn weld y sêr a’r lleuad O’r roced fawr.

    A Doti yw gofodwr A Doti yw gofodwr A Doti yw gofodwr Y roced fawr.

    Ewch ati wedyn i ail-greu’r stori gyda’r plant gan ddefnyddio cadeiriau isel. Gellir cyflwyno Doti fel y prif ofodwr, yna bydd Dewin yn dewis y plant i ddod yn eu tro i eistedd ar y cadeiriau yn y ‘roced’. Gwnewch yn si∑r fod Doti’n eistedd yn y blaen! Eglurwch i’r plant fod gofodwyr yn cyfrif yn ôl wrth i’r roced baratoi i godi o’r ddaear. Gwaeddwch gyda’ch gilydd –

    “5, 4, 3, 2 , 1 – Ar Wib!” (Cyfrwch ymlaen os yw hyn yn debygol o’u cymysgu!)

    Anogwch y plant i gyd-ganu’r gân uchod wrth iddynt esgus gwibio trwy’r gofod ac i ddychmygu eu bod yn edrych allan o’r roced ac yn gweld y sêr, y lleuad a’r planedau.

    Yna gwnewch i’r roced lanio’n ofalus wrth i chi a Dewin a’r plant gyfri i 5 fel yn y llyfr stori. (Mewn cylch meithrin mawr bydd yn rhaid gwneud hyn fel gweithgaredd gr∑p bach).

    Gellid tynnu sylw’r plant at y ffaith y bydd angen sêr a phlanedau yn gefndir y tro nesaf ac y byddai’n syniad gwych iddynt greu rhai yn yr ardal greadigol.

    Gweithgareddau i gylchoedd meithrin yn benodol

    2020

    7

  • Gweithgareddau i gyd-fynd â’r stori

    Creu Planedau, Lleuad a Sêr gweithgaredd gr∑p bach

    NodDatblygu sgiliau creadigol a llawdriniol wrth drafod y gofod

    ArdalCreadigol

    Offer ac adnoddauCylchoedd mawr papur o wahanol faint, sêr wedi eu torri o gardfwrdd, glud, ffoil, paent, brwshys, ‘gorchudd swigod’ (‘bubble wrap’), llyfrau stori Ar Wib, Caryl Parry Jones, ac Y Gofod, addas. Bethan Mair, (Cyhoeddiadau Rily).

    Cyfarwyddiadau Dangoswch luniau o’r gofod i’r plant gan

    drafod lliwiau’r planedau, y lleuad a’r sêr. Eglurwch eich bod yn ceisio creu effaith tyllau yn y lleuad a’r planedau trwy ddefnyddio’r gorchudd swigod. Yna bydd y plant yn peintio darn o orchudd swigod a’i ddefnyddio i greu patrwm ar y planedau a’r lleuad trwy bwyso’r swigod ar y papur. Trafodwch y lliwiau a holi sut mae modd iddynt greu lliw melyn golau ar gyfer y lleuad.

    Hefyd – creu sêr trwy rwygo darnau o ffoil a’u gludo ar y cardfwrdd.

    Iaith a gyflwynir Geiriau’n ymwneud â’r gofod, swigod, ansoddeiriau – disglair, llachar; siapiau a lliwiau. “Pa gylch ydy’r mwyaf/lleiaf?”

    Gellir gludo’r planedau, y lleuad a’r sêr ar ddau rolyn hir o bapur du a defnyddio hwnnw fel cefndir wrth wrth ail adrodd y

    stori y tro nesaf, un bob ochr i’r roced.

    Datblygiad Personol a Chymdeithasol Rhannu’r profiad ag eraill, eu hannog i weithio’n annibynnol ac i dacluso ar ddiwedd y gweithgaredd.

    Siarad, Gwrando a DarllenDefnyddio iaith bwrpasol – planed fawr, planed fwy, y blaned fwyaf; seren fach, seren lai, y seren leiaf. Dod yn ymwybodol o eirfa newydd e.e. gofodwr, planedau. Edrych ar luniau a phrint mewn llyfrau.

    Datblygiad Mathemategol Trafod siapiau a maint.

    Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd Trafod y gofod a’i nodweddion.

    Datblygiad Corfforol Datblygu sgiliau llawdriniol wrth beintio, rhwygo a gludo.

    Datblygiad CreadigolArbrofi gyda phaent a deunydd newydd; cymysgu lliwiau; datblygu syniadau.

    Sut mae’r gweithgareddau yn cysylltu i feysydd dysgu’r Cyfnod Sylfaen:

    1

    21

  • Creu Roced i Dewin a Doti gweithgaredd gr∑p bach – pawb i ddod i helpu yn eu tro

    NodRhoi cyfle i’r plant greu i bwrpas chwarae rôl.

    Ardal Creadigol a darganfod.

    Offer ac adnoddauBocsys cardfwrdd mawr, paent piws/porffor a melyn, darnau mawr o sbwng, tâp masgio, rholiau cardfwrdd, papur sidan coch a melyn.

    CyfarwyddiadauCydweithiwch gyda’r plant i greu roced a fydd ddigon mawr i 2/3 plentyn eistedd

    ynddi gyda Doti. Eglurwch eich bod am greu roced a’i pheintio yn hoff liwiau Dewin a Doti, sef piws/porffor a melyn. Trafodwch y siâp a gadael i’r plant eich arwain. Bydd angen ichi dorri’r bocsys i siâp y bydd modd i’r plant eistedd yn y roced ond gall y plant eu cysylltu at ei gilydd a chysylltu’r rholiau cardfwrdd. Eglurwch eich bod am ddefnyddio’r papur sidan i gyfleu fflamau’n dod o’r rholiau cardfwrdd. Wedi creu’r siâp gadewch iddynt beintio’r roced gyda’r sbwng.

    Ar ôl i’r roced sychu caiff y plant ei gosod yn yr ardal chwarae rôl a mwynhau ail greu’r stori’n annibynnol.

    Iaith a gyflwynir Geirfa’n ymwneud â’r gofod, siapiau, ansoddeiriau fel cryf, cadarn, mawr, mwy, diogel.

    Datblygiad Personol a Chymdeithasol Rhannu’r profiad ag eraill, cymryd tro. Chwarae rôl a chymdeithasu wrth wneud hynny.

    Siarad, Gwrando a Darllen Trafod wrth greu ac wrth chwarae rôl, ymestyn geirfa.

    Datblygiad Mathemategol Trafod siâp a maint y bocsys

    Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r BydYmwybyddiaeth o’r ‘gofod’ fel man lle gall gofodwyr deithio iddo, nodweddion y gofod.

    Datblygiad Corfforol Ymwybyddiaeth o faint corff plentyn a chysylltu hyn i’r gweithgaredd; sgiliau llawdriniol wrth beintio a chysylltu deunyddiau

    Datblygiad Creadigol Defnyddio’r dychymyg wrth greu a datblygu syniadau

    Sut mae’r gweithgareddau yn cysylltu i feysydd dysgu’r Cyfnod Sylfaen:

    2

    Bocsys cardfwrdd mawr, paent piws/porffor a melyn, darnau mawr o sbwng, tâp masgio, rholiau cardfwrdd, papur sidan coch a melyn.

    222222

  • MENYN

    Gwneud ‘Brechdanau Ar Wib’ gweithgaredd gr∑p bach

    Cofiwch sicrhau nad oes gan unrhyw blentyn alergedd at y cynhwysion a ddefnyddir.

    NodCyfle i ddatblygu sgiliau creu gyda bwydydd

    ArdalCreadigol

    Offer ac adnoddauCynhwysion i baratoi brechdanau – torth o fara brown wedi ei thorri’n dafelli, menyn meddal, tafelli o ham, caws, wyau (wedi eu berwi’n galed), letysen, tomato, ciwcymbr, torwyr siâp cylch a seren, sleisiwr wyau.

    Cyfarwyddiadau Atgoffa’r plant am bwysigrwydd hylendid wrth drin bwyd trwy fynd â nhw i olchi dwylo cyn dechrau. Trafod y ffaith eich bod am greu brechdanau siâp sêr, lleuad a phlanedau. Rhowch ddwy dafell o fara i bawb a rhowch gyfle i bawb daenu menyn ar eu bara. Yna gofynnwch iddynt ddewis llenwad/au i’w brechdan a’u gosod yn daclus ar un dafell cyn rhoi’r dafell arall ar ei phen i greu brechdan. Gofynnwch i bawb greu siapiau gyda’r torwyr. Cyfrwch faint o frechdanau sydd wedi eu creu. Faint o rai o’r gwahanol siapiau sydd. Trafodwch bwysigrwydd bwyta’n iach.

    Bydd y plant wrth eu boddau’n eistedd gyda Dewin a Doti amser byrbryd, yn bwyta ‘Brechdanau Ar Wib’.

    Iaith a gyflwynir ‘Sgwrio’r dwylo’, ‘germau’, geirfa berthnasol wrth goginio e.e enwau’r cynhwysion; taenu; siapiau

    3

    Datblygiad Personol a Chymdeithasol Trafod arferion da fel golchi dwylo cyn trin bwyd a bwyta, rhannu’r profiad gydag eraill, rhannu’r offer, tacluso.

    Siarad, Gwrando a DarllenDilyn cyfarwyddiadau, trafod wrth greu, datblygu geirfa berthnasol.

    Datblygiad Mathemategol Clywed iaith fathemategol - trafod siâp y brechdanau a’u cyfri.

    Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r BydTrafod bwydydd iach a sut mae’r llysiau a ddefnyddir yn y brechdanau yn tyfu.

    Datblygiad CorfforolDatblygu sgiliau llawdriniol wrth daenu menyn, gosod y cynhwysion ar y bara, a thorri’r siapiau.

    Datblygiad Creadigol Gwneud brechdanau gyda llenwad o’u dewis.

    Sut mae’r gweithgareddau yn cysylltu i feysydd dysgu’r Cyfnod Sylfaen:

    23232323

  • Ar-lein, ar alw ac ar Cyw, 7 diwrnod yr wythnos.Adloniant ac addysg Gymraeg i genhedlaeth newydd.

    Online, on-demand and on Cyw, 7 days a week.Entertainment and education in Welsh for a new generation.

    @TifiaCyw

    Logo colour ways

    Dysgwch Gymraeg wrth fwynhau rhaglenni Cyw!

    @tifi acyw: Ffrwd fyw ar Twitter a Facebook rhwng 7-8 bob bore yn cynnig cyfi eithiadau syml. Ymunwch â ni!

    Learn Welsh while enjoying Cyw programmes with your children!

    @tifi acyw – A live Twitter and Facebook feed every morning between 7-8 which offers a live feed with easy translations. Come and join us!

    Mudiad_Meithrin_A4_Ad.indd 1 25/03/2013 10:36

  • www.gomer.co.uk 01559 363092

    £4.99 yr un

    *Prynu 1 a chael 1 AM DDIM!

    *Buy 1 and get 1 FREE!

    Cynnig gwych ar lyfrau

    Dewin a Doti

    £3.99 yr un

    A special offer on Dewin and Doti books

    Offer valid from 27 May – 30 June 2013

    Cynnig ar gael rhwng 27 Mai – 30 Mehefin 2013

    * Llyfr rhataf am ddim* Cheapest book free

    Hwyl i bawb o bob oed!

    www.ylolfa.com

    £2.95£2.95

    £2.95

    £3.95

    £7.95

    Mathemateg CynraddPrimary Mathematics

    gyda

    stice

    ri!

    with

    stick

    ers!

    Sgiliau allweddol ar gyfer y cyfnodau allweddolKey skills for key stages

    or ky skills f o eKlddoweall

    gyfer y cyfnodau l ar ddoweall

    au Sgili

    esagy steor k

    gyfer y cyfnodau

    www.atebol.com T: 01970 832 172 e-bost: [email protected] fwy o fanylion ewch i’n gwefan

    Cyfres o 12 llyfr ffeithiol newydd!

    ... mwy yn y gyfres

    Cyfres Darllen Difyr

    Llond trol o lyfrau Bril gan Atebol!

    facebook.com/atebol

    @Atebol

    ad @ebol - mym_Layout 1 19/03/2013 20:14 Page 1

  • Dewin.co.uk

    www.meithrin.co.ukwww.bilingualfrombirth.co.uk

    www.camwrthgam.co.uk

    Cofiwch fod holl nwyddau a llyfrau Dewin, ynghyd â llu o

    adnoddau i blant hyd at 7 oed, ar gael o Siop Mabon a Mabli -

    www.mabonamabli.co.uk.