gan des quinn a martin williams
DESCRIPTION
Yr eiddoch yn gywir Bert. gan Des Quinn a Martin Williams. Yn anffodus wyddon ni ddim pwy oedd Bert. Roedd yn un o’r miloedd o ddynion ifanc a aeth o Gymru i ymladd ym meysydd Ffrainc a Fflandrys. - PowerPoint PPT PresentationTRANSCRIPT
gan Des Quinn a Martin Williams
Yr eiddoch
yn gywirBert
Yn anffodus wyddon ni ddim pwy
oedd Bert. Roedd yn un o’r miloedd o
ddynion ifanc a aeth o Gymru i
ymladd ym meysydd Ffrainc a
Fflandrys.
Mae’r bathodyn ar ei gap yn dweud
ei fod yn aelod o’r Gatrawd Gymreig
ac roedd rhan bwysig gan fataliynau
o Gymru ym Mrwydr Mametz Wood
ym mis Gorffennaf 1916.
Gallai Bert fod yn un o’r milwyr
hynny.Byddai gan Bert stôr o wybodaeth am hanes y milwyr o Gymru ar y Ffrynt Gorllewinol a’r amodau erchyll a brofodd y milwyr hynny wrth fyw ac ymladd yn y ffosydd.
Ffotograff trwy garedigrwydd M. Williams
Os y byddai Bert wedi bod ym Mametz Wood, meddyliwch beth
fyddai ganddo i’w ddweud ar fore 12 Gorffennaf pan gafodd y
goedwig ei chlirio o’r diwedd gan filwyr o’r 21ain Adran.
Roedd y milwyr o Gymru wedi bod yn ymladd yn erbyn yr
Almaenwyr o fewn y goedwig er 7 Gorffennaf. Ar 7 Gorffennaf
yn unig collodd y 38ain Adran (Gymreig) 400 o filwyr wrth i
ynnau mawr a gynnau peiriant yr Almaenwyr eu torri i lawr
wrth iddynt symud ymlaen. Collodd tri theulu ddau frawd yr un
yn ystod yr ymosodiad ar y goedwig y diwrnod hwnnw.
Ar 10 Gorffennaf gwnaed ymosodiad uniongyrchol arall yn
erbyn y goedwig, a thrachefn collwyd llawer o filwyr, wedi’u
saethu gan ynnau peiriant a thaniadau ‘cyfeillgar’ o ynnau
mawr Prydain a gwympodd ymysg y milwyr wrth iddynt symud
ymlaen i gyfeiriad y coed.
Ar 11 Gorffennaf, bu ymosodiadau eraill, ar ymylon gogleddol a dwyreiniol y goedwig y tro hwn. A hwythau wedi ymlâdd yn hollol, rhaid oedd tynnu llawer bataliwn allan o’r frwydr a rhoi rhai o’r milwyr wrth gefn yn eu lle. Fel y digwyddodd ar 10fed, dechreuodd gynnau mawr Prydain danio a bu raid i’r milwyr o Gymru gysgodi mewn tyllau siel am oriau cyn mynd ymlaen â’u hymosodiad, a hynny yn erbyn gwrthwynebiad ffyrnig o du’r Almaenwyr.
Colledion y 38ain Adran ym Mametz Wood: Swyddogion Milwyr EraillLladdwyd 46 556 Clwyfwyd 138 2,668 Ar goll 6 579
Cyfanswm 190 3,803
Pam y gwnaeth milwyr y 38ain Adran barhau i ymosod ar goedwig Mametz er iddynt ddioddef colledion enfawr?
Dychmygwch beth fyddai gan Bert i’w ddweud am yr
ymosodiad ar Mametz Wood, sut y byddai’n teimlo a sut y
byddai’n disgrifio ei brofiadau.
Oherwydd sensoriaeth ni fyddai’n gallu ysgrifennu llawer am yr
hyn a ddigwyddodd, ond beth os y byddai wedi ysgrifennu
llythyr manwl gartref, neu dudalen o ddyddiadur, nad oedd
bwriad ganddo i’w postio. Byddai llawer o gardiau a llythyrau’n
cael eu cadw heb eu postio, a’u rhoi i aelodau o’r teulu ac
anwyliaid gan ffrindiau pan fyddent yn mynd adref ar wyliau.Chi yw Bert.
Ysgrifennwch lythyr, neu gyfres o nodiadau o ddyddiadur, yn
disgrifio’r paratoadau ar gyfer yr ymosodiad ar Mametz
Wood, a’r ymosodiad ei hun.
* Sut y gwnaeth eich bataliwn baratoi ar gyfer y frwydr? Beth roeddech chi’n ei
ddisgwyl?
* Sut roeddech chi’n teimlo cyn y frwydr a phan welsoch y milwyr cyntaf yn mynd
ymlaen?
* Beth ddigwyddodd yn ystod y frwydr? Pa ddigwyddiadau sy’n sefyll yn y cof?
* Sut roeddech chi’n teimlo ar 12 Gorffennaf pan ddaeth y frwydr i ben?