groeslon, carmel, bronyfoel - dogfen ymgynghorol statudol … · 2019. 5. 15. · 18 mawrth 2013...

34
YMGYNGHORIAD STATUDOL YSGOLION GROESLON, CARMEL A BRONYFOEL 18 MAWRTH - 26 EBRILL, 2013 Dalgylch Ysgol Bronyfoel Catchment Dalgylch Ysgol Carmel Catchment Dalgylch Ysgol Groeslon Catchment www.gwynedd.gov.uk

Upload: others

Post on 21-Jan-2021

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

YMGYNGHORIAD STATUDOL

YSGOLION GROESLON, CARMEL A BRONYFOEL

18 MAWRTH - 26 EBRILL, 2013

Dalgylch

Ysgol Bronyfoel

Catchment

Dalgylch

Ysgol Carmel

Catchment

Dalgylch

Ysgol Groeslon

Catchment

www.gwynedd.gov.uk

Page 2: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

2

CYNNWYS

Tudalen Llythyr Pennaeth Addysg 3 1. Cyflwyniad – Esboniad o’r Ymgynghoriad 4-5 2. Manylion Cefndirol 6-8 2.1 Sut y cafodd y cynnig hwn ei ddatblygu? 6 2.2 Pam adolygu darpariaeth addysg yr ardal? 6 2.3 Sefydlu Panel Adolygu Ardal 7 2.4 Cyfarfodydd ysgolion unigol 7 2.5 Plant a Phobl Ifanc 8 2.6 Cyfathrebu ysgrifenedig 8 3. Manylion Yr Ysgolion 9-11 3.1 Ysgol Groeslon 9 3.2 Ysgol Carmel 9 3.3 Ysgol Bronyfoel 9 3.4 Tabl Manylion Cefndirol am yr Ysgolion 10 3.5 Map o’r Ardal 11 4. Gwerthuso Opsiynau Gwahanol 12-16 4.1 Model Cydweithio / Ffedereiddio 12 4.2 Datblygu Model Ysgol Ardal 12 4.3 Datblygu Model Ysgol Ardal Aml-safle 13 5. Y Cynnig a Ffafrir 17-25 5.1 Ystyr Ysgol Ardal 17 5.2 Pam argymell ysgol ardal? 17 5.3 Maint Dosbarthiadau 17 5.4 Niferoedd Disgyblion 18 5.5 Amgylchedd Dysgu ac Ansawdd Adeiladau 19 5.6 Ansawdd Addysg 21 5.7 Arweinyddiaeth a Staffio 21 5.8 Y Gymuned 22 5.9 Yr iaith Gymraeg 23 5.10 Asesiad Cydraddoldeb 24 5.11 Adnoddau ariannol 24 5.12 Ffactorau Daearyddol a Materion Cludiant 25 6. Dewis Safle ar gyfer yr Ysgol Ardal 27-29 7. Oblygiadau’r Cynnig 30-32 8. Amserlen o’r Broses Statudol a’r Camau Nesaf 33 Ffurflen Ymateb

Page 3: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

3

Pennaeth Addysg Head of Education Dewi R. Jones

18 Mawrth 2013Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a 26 Ebrill 2013 ar gynnig i ad-drefnu tair ysgol sef Ysgol Groeslon, Ysgol Carmel ac Ysgol Bronyfoel. Yn dilyn hyn byddwn yn adrodd ar ganfyddiadau’r ymgynghoriad i Gabinet Cyngor Gwynedd. Penderfynodd Cabinet Cyngor Gwynedd yn ei gyfarfod 27 Chwefror 2013, i ymgymryd â phroses ymgynghori statudol yn unol â gofynion Adran 29 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ar gau ysgolion Groeslon, Carmel, a Bronyfoel ar 31 Awst 2015. Yn ogystal, penderfynwyd ymgymryd â phroses o ymgynghori statudol yn unol â gofynion Adran 28 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ar y bwriad o sefydlu Ysgol Gymuned Ardal 3 – 11 oed i agor 1af Medi 2015 yn lle ysgolion Y Groeslon, Carmel a Bronyfoel. Cynhelir yr ymgynghoriad statudol ar y cynnig hwn i wasanaethu cymunedau dalgylchoedd ysgolion Groeslon, Carmel a Bronyfoel. Dyma ddogfen ar gyfer yr ymgynghoriad i’ch sylw. Noder bod amserlen y cyfarfodydd statudol wedi eu nodi yn y papur ymgynghori statudol yma. Mae copi o’r ddogfen yma, a phapurau cefndirol eraill ar gael ar wefan y Cyngor www.gwynedd.gov.uk/trefniadaethysgolion, ac yn eich ysgol a’ch llyfrgell leol. Os ydych eisiau copïau ychwanegol mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ffonio (01286) 679247 neu e-bostio [email protected] NODER - mae angen anfon unrhyw sylwadau ar y ddogfen statudol i Swyddfa Prosiect Ad-drefnu Ysgolion erbyn 13:00 dydd Gwener 26 Ebrill 2013. Gweler y manylion cyswllt perthnasol ar ddiwedd y papur ymgynghorol statudol hwn.

Yn gywir,

Dewi R. Jones

Pennaeth Addysg

Gofynnwch am / Ask for: Swyddfa Trefniadaeth Ysgolion School Organisation Office

� (01286) 679247 Ein Cyf / Our Ref: Trefniadaeth Ysgolion School Organisation

[email protected][email protected]

Page 4: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

4

CYNGOR SIR GWYNEDD

CYNNIG I GAU YSGOLION GROESLON, CARMEL A BRONYFOEL AR 31 AWST 2015 YN UNOL AG ADRAN 29 DEDDF SAFONAU A

FFRAMWAITH YSGOLION 1998 a

CHYNNIG I SEFYDLU YSGOL ARDAL AR SAFLE PRESENNOL YSGOL GROESLON YN UNOL AG ADRAN 28 DEDDF SAFONAU A

FFRAMWAITH YSGOLION 1998 AR 1 MEDI 2015

PAPUR YMGYNGHOROL STATUDOL

1. CYFLWYNIAD – ESBONIAD O’R YMGYNGHORIAD 1.1. Mae Cyngor Gwynedd yn ystyried ad-drefnu ysgolion o fewn ardal dalgylch ysgolion

Groeslon, Carmel a Bronyfoel.

1.2. Penderfynodd Cabinet Cyngor Gwynedd yn ei gyfarfod a’r 27 Chwefror 2013, i ymgymryd â phroses ymgynghori statudol yn unol â gofynion Adran 29 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ar gau ysgolion Groeslon, Carmel, a Bronyfoel ar 31 Awst 2015.

1.3. Yn ogystal, penderfynwyd ymgymryd â phroses o ymgynghori statudol yn unol â gofynion Adran 28 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ar y bwriad o sefydlu Ysgol Gymuned Ardal 3 – 11 oed i agor 1 Medi 2015 yn y Groeslon i ddarparu addysg ar gyfer dalgylchoedd presennol ysgolion Groeslon, Carmel a Bronyfoel.

1.4. Cyn bwrw ymlaen â’r cynnig mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i gael eich barn fel y gellir ei

ystyried cyn i benderfyniad gael ei wneud.

1.5. Cynhelir y cyfnod yma o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a 26 Ebrill 2013 1.6. Mae’r Cyngor yn ymgynghori gyda’r canlynol ynglŷn â’r cynnig:

• Staff yr ysgolion perthnasol • Llywodraethwyr yr ysgolion perthnasol • Rhieni/gwarchodwyr disgyblion yr ysgolion perthnasol • Disgyblion yr ysgolion perthnasol • Asiantaethau ac ymgynghorai perthnasol eraill

1.7. Cynhelir cyfarfodydd fel a ganlyn yn yr ysgolion perthnasol:

Ysgol Cyfarfod Staff Cyfarfod

Llywodraethwyr Cyfarfod Rhieni

Groeslon 10/04/13 - 4:00pm 10/04/13 - 5:00pm 10/04/13 - 6:30pm

Bronyfoel 15/04/13 - 4:00pm 15/04/13 - 5:00pm 15/04/13 - 6:30pm

Carmel 16/04/13 - 4:00pm 16/04/13 - 5:00pm 16/04/13 - 6:30pm Amserlen Cyfarfodydd Ymgynghoriad Statudol

1.8. Mae trefniadau hefyd wedi ei gwneud ar gyfer darganfod sylwadau plant a phobl ifanc.

Page 5: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

5

1.9. Bydd eich sylwadau’n cael eu hystyried cyn penderfynu ar y camau nesaf gan y Cabinet mis Mai 2013. Bydd Cabinet y Cyngor yn penderfynu, a ddylid cyhoeddi Rhybuddion Statudol a’i pheidio.

1.10. Fel rhan o’r broses ymgynghori, mae pecyn o wybodaeth gefndirol ar gael yn eich ysgol leol,

llyfrgelloedd lleol ac ar wefan y Cyngor www.gwynedd.gov.uk/trefniadaethysgolion. Bydd y pecyn yn cynnwys: - Cylchlythyr 021/2009 Cynulliad Cynigion Trefniadaeth Ysgolion - Strategaeth Addysg Gynradd o’r Ansawdd Gorau i Blant Gwynedd - Cynllun Blaenoriaethau – Maes Trefniadaeth Darpariaeth Addysg - Agenda a Chofnodion Cyfarfodydd Panel Adolygu ardal Groeslon, Carmel a Bronyfoel - Pecyn Ystadegau - Newyddlenni - Adroddiad Asesiad Effaith Ieithyddol - Adroddiad Asesiad Effaith Cymunedol - Asesiad Cydraddoldeb - Adroddiad Sesiwn Disgyblion - Adroddiad Cabinet 27 Chwefror 2013 - Taflen Penderfyniad Cabinet 27 Chwefror 2013

1.11. Os ydych yn dymuno derbyn y ddogfen hon ar ffurf wahanol, cysylltwch â Swyddfa

Trefniadaeth Ysgolion ar 01286 679247. 1.12. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau a chyflwyno’ch sylwadau yn y cyfarfod neu roi eich ymateb

yn ysgrifenedig gan ddefnyddio’r ffurflen ymateb sydd wedi ei atodir i’r ddogfen hon. 1.13. Dylid anfon sylwadau ar gyfer y cynnig yma drwy e-bost at

[email protected] neu drwy’r post i sylw:

Swyddfa Trefniadaeth Ysgolion, Adran Addysg, Cyngor Gwynedd, Pencadlys, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

1.14. Dylid anfon sylwadau erbyn 13:00 ar 26 Ebrill 2013 fan bellaf. Dylai unrhyw sylwadau,

ysgrifenedig neu drwy e-bost, gyrraedd y Cyngor erbyn y dyddiad a’r amser yma.

Page 6: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

6

2. MANYLION CEFNDIROL 2.1. Sut y cafodd y cynnig hwn ei ddatblygu?

2.1.1. Cyflwynwyd Strategaeth “Addysg Gynradd o’r Ansawdd Gorau i Blant Gwynedd” i gyfarfod

llawn o Gyngor Gwynedd ar 2 Ebrill 2009. Cafodd y Strategaeth ei chymeradwyo gan y Cyngor Llawn yn ddiwrthwynebiad.

2.1.2. Yn ei gyfarfod ar 9 Hydref 2012, penderfynodd y Cabinet ar ‘Gynllun Blaenoriaethau –

Maes Trefniadaeth Addysg’ wedi ei sylfaenu ar y strategaeth hon.

2.1.3. Cyflwynir y cynnig hwn ar ôl cynnal trafodaethau yn ardal ysgolion Groeslon, Carmel a Bronyfoel rhwng mis Hydref 2012 a mis Ionawr 2013, gan gynnwys: • 3 cyfarfod o Banel Adolygu darpariaeth yr ardal oedd yn cynnwys cynrychiolaeth o

lywodraethwyr, staff a rhieni yr ysgolion • sesiwn i blant a phobl ifanc yr ysgolion • asesiad o effeithiau’r cynigion ar iaith a chymunedau

2.2. Pam adolygu darpariaeth addysg yr ardal?

2.2.1. Mae’r Cyngor wedi bod yn monitro cyflwr adeilad Ysgol Y Groeslon ers peth amser. Caewyd cegin yr ysgol rhai blynyddoedd yn ôl, ac yn ddiweddar bu’n rhaid cau rhan o’r adeilad fel cam rhagweithiol, ac mae’r disgyblion yn derbyn eu haddysg mewn unedau symudol.

2.2.2. Gwnaethpwyd cais yn 2010 am arian o Raglen Cyfalaf Trawsffurfio Ton 3 (Tranche 3) gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adeiladu ysgol newydd yn Y Groeslon. Bu’r cais yn aflwyddiannus. Felly, yn unol â’r Strategaeth a phenderfyniad blaenorol gan y Cyngor Llawn (16/12/2010), penderfynodd Cabinet y Cyngor yn ei Gynllun Blaenoriaethau gychwyn ar drafodaethau ar ddyfodol darpariaeth addysg gynradd yn ardal pentrefi - Y Groeslon, Carmel a’r Fron.

2.2.3. Mae ardal Carmel a’r Fron yn ddaearyddol agos i’r Groeslon a hynny o fewn dalgylch Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle. Mae daearyddiaeth a dalgylch naturiol yr ardal yn ei diffinio ei hunan. Ond, mae ffactorau eraill sydd yn cryfhau’r rhesymeg ymhellach.

2.2.4. Mae nifer arwyddocaol o lefydd gweigion yn y tair ysgol yn unigol, ac o ran nifer - mae hyn gyfystyr â dros 100 (109) o lefydd gweigion rhwng y dair ysgol.

2.2.5. Mae tua £3,000 (£2,958) o wahaniaeth yng nghost y pen rhwng y 3 ysgol - mae

anghyfartaledd yn hyn o beth mewn cwta 2 filltir o bellter.

2.2.6. Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb i ddefnyddio arian cyhoeddus yn ddarbodus gan sicrhau cynaladwyedd ysgolion yn unol â’r Strategaeth. Er mwyn sicrhau defnydd effeithlon o adnoddau rhaid cymryd y cyfle i ystyried yr opsiynau fydd yn sicrhau darpariaeth addysg gynaliadwy a chadarn i’r dyfodol a hynny o fewn fframwaith y Strategaeth.

Page 7: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

7

2.2.7. Drwy ddiffinio’r ardal yn y modd yma felly, mae gan y Cyngor gyfle;

A) I ddenu cyfraniad ariannol gan Lywodraeth Cymru B) I wireddu nifer o ddyheadau’r strategaeth drwy gael llawer gwell effaith ar:

• Gysoni maint dosbarthiadau a lleihau’r amrediad oedran sydd mewn dosbarthiadau

• Ymateb i’r her o newid mewn poblogaeth fydd yn debygol o ddigwydd i’r dyfodol

• Gwella amgylchedd dysgu i fwy o ddisgyblion gan sicrhau ysgol fyddai’n gallu diwallu anghenion Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain

• Sicrhau arweinyddiaeth a rheolaeth gadarn • Sicrhau adnodd newydd, addas i bwrpas a chynaliadwy • Lleihau amrediad cost y pen ar gyfer darparu addysg yn yr ardal • Cysoni nifer o ysgolion yn yr ardal i gyd fynd â’r galw • Rhyddhau arian i’w wario ar blant yn y gyfundrefn addysg yn hytrach nag ar

adeiladau a chynnal yr isadeiledd presennol • Lleihau llefydd gweigion sylweddol sydd yn yr ysgolion gan gynyddu

effeithiolrwydd

2.3. Sefydlu Panel Adolygu Ardal

2.3.1. Sefydlwyd y Panel yn ystod Hydref 2012. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Panel ar 22 Hydref 2012. Cynhaliwyd 2 cyfarfod pellach ar 29 Tachwedd 2012, a 28 Ionawr 2013.

2.3.2. Gwahoddwyd cynrychiolaeth o ysgolion Y Groeslon, Carmel a Bronyfoel i drafod y mater

gyda’r rôl o gasglu tystiolaeth leol a chyflwyno syniadau ac opsiynau gwahanol i’r Aelod Cabinet Addysg. Roedd Pennaeth, Cadeirydd y Cyrff Llywodraethu a Riant Llywodraethwr yr ysgolion, yn ogystal â’r Aelodau Lleol yn aelodau o’r panel hwn.

2.3.3. Derbyniwyd a thrafodwyd ystod o dystiolaeth gan y Panel, gan gynnwys pecyn o

ystadegau ar yr ardal a gytunwyd gan y Panel cyfan fel adlewyrchiad cyflawn a theg. Wrth baratoi’r wybodaeth ystadegol, gofynnwyd i gynrychiolwyr ysgolion gyflwyno’u sylwadau, herio cynnwys y papurau a gofyn am unrhyw wybodaeth bellach fel yr oedd ei angen.

2.3.4. Cyflwynwyd hefyd wybodaeth ar y cyd-destun ariannol, gwybodaeth am ddatblygiadau

cenedlaethol gan gynnwys arweiniad y Llywodraeth ar drafod cynigion i ad-drefnu ysgolion.

2.3.5. Paratowyd rhestr o opsiynau posib ar gyfer ad-drefnu ysgolion yr ardal. Mireiniwyd y

rhestr i 3 prif fodel i’w hystyried ymhellach. Derbyniwyd dadansoddiad o oblygiadau addysgol, rheolaethol ac ariannol pob un cynnig yng nghyfarfod y Panel ar 29 Tachwedd 2013, lle trafodwyd yr opsiynau mewn manylder. Trafodwyd 3 model yn cwmpasu: • Datblygu modelau o gydweithio • Modelau o ysgolion ardal • Modelau o ysgolion ardal aml-safle

2.4. Cyfarfodydd Ysgolion Unigol 2.4.1. Ymwelwyd â’r dair ysgol gan yr Arweinydd Cabinet dros Addysg a Phlant a Phobl Ifanc a

Phennaeth Addysg yr Awdurdod ar gychwyn y broses. Pwrpas yr ymweliad oedd cyfarfod Penaethiaid a’r Cadeiryddion ac i weld a dod i ddeall sefyllfaoedd ysgolion unigol.

Page 8: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

8

2.5. Plant a Phobl Ifanc 2.5.1. Cynhaliwyd sesiwn ar gyfer plant a phobl ifanc er mwyn darganfod eu barn wrth i’r

broses fynd yn ei blaen. Hwyluswyd y sesiwn ym mis Tachwedd 2012 gan swyddogion arbenigol y Cyngor.

2.5.2. Cynhaliwyd ystod o weithgareddau er mwyn canfod barn plant a phobl ifanc ar nifer o

bynciau, gan gynnwys: maint dosbarthiadau; dyheadau am adnoddau o fewn ysgol; ystod oedran o fewn dosbarth; iaith plant tu allan i’r ystafell dosbarth; a phellteroedd teithio i’r ysgol.

2.5.3. Wrth gloi’r sesiwn, gofynnwyd i blant a phobl ifanc awgrymu’r math o gyfleusterau yr

hoffent eu gweld mewn ysgol. Yn gyffredinol, dangosodd y plant deyrngarwch i’w hysgolion a’u hathrawon tra hefyd yn adnabod nifer o adnoddau yr hoffent eu gweld yn eu hysgolion.

2.6. Cyfathrebu Ysgrifenedig

2.6.1. Paratowyd newyddlenni i’w cylchredeg i bob ysgol yn ystod y trafodaethau. Anfonwyd

copïau caled at yr ysgolion i’w cylchredeg i bob rhiant, e-bostiwyd y newyddlen at bob ysgol a chyhoeddwyd y newyddlenni ar wefan y Cyngor.

2.6.2. Cyhoeddwyd holl bapurau perthnasol ar wefan trefniadaeth ysgolion y Cyngor yn

www.gwynedd.gov.uk/trefniadaethysgolion

Page 9: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

9

3. MANYLION AM YR YSGOLION

3.1. Ysgol Groeslon

3.1.1. Lleolir Ysgol Groeslon o fewn pentref Groeslon sydd yn nalgylch Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle. Mae’r ysgol wedi ei lleoli heb fod ymhell o’r A487.

3.1.2. Mae’r ardal yn un sydd heb fod yn ffyniannus nac o dan anfantais yn economaidd. Yn

Ionawr 2012, gall 11% o ddisgyblion yr ysgol hawlio cinio am ddim. 3.1.3. Daw 88% o’r disgyblion o’r ardal gyfagos o fewn dalgylch yr ysgol, tra daw’r nifer fach o’r

disgyblion o dalgylchoedd ysgolion cyfagos fel Bronyfoel, Rhosgadfan, Rhostryfan a Brynaerau.

3.1.4. Mae’r ardal a wasanaethir gan yr ysgol yn un lled drefol o’i gymharu ag ardaloedd eraill

Gwynedd ac yn parhau yn ardal Gymraeg ei hiaith. Mae 88% o’r disgyblion yn dod o gartrefi lle siaredir y Gymraeg yn rhugl.

3.1.5. Derbynnir disgyblion i’r ysgol yn rhan amser yn y Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn dair

oed ac yn ddisgyblion llawn amser yn dilyn eu pen-blwydd yn 4 oed. Mae 75 o blant wedi eu cofrestru yn yr ysgol yn Medi 2012 gan gynnwys 9 plentyn meithrin. Pedwar dosbarth sy’n yr ysgol.

3.2. Ysgol Carmel 3.2.1. Lleolir Ysgol Gynradd Carmel yng nghanol y pentref o’r un enw, a leolir yng nghysgod

Mynydd y Cilgwyn. Mae'r ysgol yn gwasanaethu'r pentref a’r ardal gyfagos. 3.2.2. Mae’r ardal yn un sydd heb fod yn ffyniannus nac o dan anfantais yn economaidd. Gallai

19% o ddisgyblion fedru hawlio cinio am ddim yn Ionawr 2012. 3.2.3. Mae 83% o ddisgyblion yn dod oddi fewn i ddalgylch naturiol yr ysgol. Daw gweddill y

disgyblion o bentrefi cyfagos fel Y Fron a Rhostryfan. 3.2.4. Daw 67% o ddisgyblion o gartrefi lle siaredir Cymraeg fel iaith gyntaf. Daw’r gweddill o

gartrefi lle mae’r Saesneg yn brif iaith y teulu. 3.2.5. Mae’r ysgol yn derbyn plant a disgyblion rhwng 3 i 11 oed. Ar hyn o bryd, mae 48 disgybl

ar y gofrestr. Mae 9 plentyn meithrin yn yr ysgol. Dau ddosbarth sydd yn yr ysgol.

3.3. Ysgol Bronyfoel

3.3.1. Lleolir Ysgol Bronyfoel ym mhentref Fron. Mae’r ysgol yn gwasanaethu ardal eithaf

gwledig sydd ddim yn arbennig o ffyniannus, ond ni ystyrir ei bod o dan anfantais ychwaith.

3.3.2. Hyd at 23% o’r disgyblion oedd â hawl i dderbyn prydau ysgol am ddim yn Ionawr 2012.

3.3.3. Yn Medi 2012 daeth 62% o’r disgyblion o’r tu allan i ddalgylch naturiol yr ysgol. Yn bennaf

daw’r disgyblion yma o ddalgylchoedd ysgolion Groeslon, Carmel, Rhosgadfan a Bro Lleu.

Page 10: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

10

3.3.4. Daw 3 o’r 26 disgybl (12%) o gartrefi ble siaredir y Gymraeg yn rhugl. 3.3.5. Ar hyn o bryd, mae 26 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr, gan gynnwys 2 oed

meithrin, ac fe’u derbynnir yn rhan-amser y Medi wedi iddynt gyrraedd eu pen-blwydd yn dair oed ac yn llawn amser y Medi canlynol. Mae dau ddosbarth yn yr ysgol.

3.4. Tabl manylion cefndirol am yr ysgolion*

Ysgol Groeslon Carmel Bronyfoel

Capasiti (yn seiliedig ar gylchlythyr

Rhif 09/06 Cynulliad Cenedlaethol

Cymru Mesur Capasiti Ysgolion yng

Nghymru) Ynghyd â Lleoedd Meithrin Lle Bo’n Gymwys

128 78 52

Ystod oedran 3 - 11 3 - 11 3 - 11

Nifer ar y gofrestr Medi 2012 (ynghyd a lleoedd

meithrin/chweched dosbarth lle

bo’n gymwys)

75 48 26

Newid yn % niferoedd yr ysgolion ers 1975-2012

-30% -2% 0%

Nifer o ddisgyblion a ragwelir yn ystod y pum mlynedd nesaf

2012-2013 = 76

2013-2014 = 77

2014-2015= 82

2015-2016 = 87

2012-2013 = 48

2013-2014 = 50

2014-2015= 49

2015-2016 = 46

2012-2013 = 23

2013-2014 = 22

2014-2015= 20

2015-2016 = 19

Categori’r ysgol (cymunedol,

gwirfoddol a gynorthwyir,

gwirfoddol a reolir, sefydledig)

Cymuned Cymuned Cymuned

Categori yn ôl cyfrwng iaith (seiliedig ar Ddogfen Llywodraeth

Cynulliad Cymru Rhif: 023/2007 -

Diffinio ysgolion yn ôl darpariaeth

cyfrwng Cymraeg) – DIFFINIAD

PLASC

Ysgol Gynradd

Cyfrwng Cymraeg

Ysgol Gynradd

Cyfrwng Cymraeg

Ysgol Gynradd

Cyfrwng Cymraeg

Data perfformiad ysgolion / manylion adroddiadau arolygu Estyn

Arolwg Tachwedd

2007

3 x Gradd 1

4 x Gradd 2

Arolwg Ionawr

2011

Da

Da

Arolwg Ionawr

2008

7x Gradd 2

Llefydd gweigion 2011- 2012 41% (53) 38% (30) 50% (26)

Cost y pen 2011/2012 £3,890 £4,156 £6,848

Disgyblion all-dalgylch 2010-2011 12% (9) 17% (8) 62% (16)

* Gwybodaeth wedi ei gytuno gan yr ysgolion unigol a’r Panel Adolygu Ardal

Page 11: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

11

3.5 Map O’r Ardal

Pellteroedd / Distances:

Ysgol Y Groeslon - Ysgol Carmel = 1.4 milltir / miles (4 munud / minutes)

Ysgol Y Groeslon - Ysgol Bronyfoel = 2.2 milltir / miles (7 munud / minutes)

Ysgol Carmel - Ysgol Bronyfoel = 1 milltir / miles (3 munud / minutes)

£3,890 £ y Pen / Per Pupil

12% (9) All-ddalgylch / Outside Catchment

128 Capasiti Ysgol / School Capacity

41% (53) Llefydd Gwag / Surplus Places

75 Disgybl / Pupil

YSGOL Y GROESLON – DATA MEDI 2012

£4,156 £ y Pen / Per Pupil

17% (8) All-ddalgylch / Outside Catchment

All-ddalgylch / Outside

78 Capasiti Ysgol / School Capacity

38% (30) Llefydd Gwag / Surplus Places

48 Disgybl / Pupil

YSGOL CARMEL – DATA MEDI 2012

£6,848 £ y Pen / Per Pupil

62% (16) All-ddalgylch / Outside Catchment

All-ddalgylch/from outside catch

52 Capasiti Ysgol / School Capacity

50% (26) Llefydd Gwag / Surplus Places

26 Disgybl / Pupil

YSGOL BRONYFOEL – DATA MEDI 2012

Page 12: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

12

4. GWERTHUSO OPSIYNAU GWAHANOL

4.0.1. Paratowyd rhestr o opsiynau posib ar gyfer ad-drefnu ysgolion yr ardal. Mireiniwyd y rhestr i 3 prif fodel i’w hystyried ymhellach. Derbyniwyd dadansoddiad o oblygiadau’r modelau yn erbyn ffactorau a gwerthoedd y Strategaeth ‘Addysg Gynradd o’r Ansawdd Gorau i Blant Gwynedd’.

4.0.2. Trafodwyd modelau yn cwmpasu:

• Datblygu modelau o gydweithio/ffedereiddio • Modelau o ysgol ardal • Modelau o ysgol ardal aml-safle

4.0.3. Yn ystod y trafodaethau datblygwyd dogfen sydd yn crynhoi’r manteision ac anfanteision y

modelau a drafodwyd. Gwerthuswyd yr opsiynau gwahanol o fewn trafodaethau lleol yn y Panel. Gellir gweld cymhariaeth bellach o’r modelau yn erbyn ffactorau yn y strategaeth yn y tablau sydd yn dilyn isod.

4.1. Model Cydweithio / Ffedereiddio 4.1.1. Trafodwyd y byddai modd datblygu’r model hwn ar fwy nag un ffurf. Gellid cael cydweithio

anffurfiol rhwng yr ysgolion a chydweithio mwy ffurfiol trwy drefniant ffedereiddio. 4.1.2. Manteision y math hwn o fodel fyddai sicrhau fod darpariaeth addysg yn parhau ymhob

safle ble darperir addysg ar hyn o bryd. Byddai cyfle i rannu arbenigeddau a rhannu arfer da.

4.1.3. Ar y llaw arall, byddai anfanteision i’r math yma o fodel yn ogystal. Ni fyddai’n datrys y

broblem o leihad mewn niferoedd disgyblion nac ychwaith y sefyllfa o niferoedd uchel o lefydd gweigion mewn ysgolion unigol. Felly ni fydd gwahaniaeth i’r amgylchedd dysgu ac addysgu. Yn ogystal, byddai costau cynnal yr un nifer o adeiladau yn parhau ac ni ellir sicrhau'r buddsoddiad sylweddol fyddai ei angen i uwchraddio pob adeilad unigol.

4.1.4. Yn wir, yn ystod trafodaethau’r Panel Ardal, nodwyd yn glir na ffafriwyd y model yma gan

aelodau’r Panel. 4.2. Datblygu Model Ysgol Ardal 4.2.1. Diffinnir Ysgol Ardal fel ysgol sy’n disodli ysgolion eraill gan greu ysgol newydd i

wasanaethu yn eu lle. 4.2.2. Mae’r model hwn yn cael ei asesu yn llawn yng ngweddill y ddogfen fel y model a gaiff ei

ffafrio ar gyfer yr ardal.

Page 13: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

13

4.3. Datblygu Model Ysgol Ardal Aml-Safle

4.3.1. Yn yr achos yma, diffinnir ysgol ardal aml-safle fel un ysgol yn statudol ond lle gellir cael mwy nag un safle iddi. Buddion y math yma o fodel wrth gwrs yw’r posibilrwydd o gynnal presenoldeb addysg mewn mwy nag un cymuned. Mae’n fodel sydd yn ymateb yn dda mewn ardaloedd gwledig iawn lle mae pellteroedd teithio hir nes cyrraedd ysgol amgen. Y math o fodel a drafodwyd yma - fyddai un safle yn y Groeslon a’r llall yn Carmel. Byddai materion technegol yn ei gwneud yn anodd datblygu safle Bronyfoel.

4.3.2. Ar y llaw arall, byddai anfanteision i’r math yma o fodel yn ogystal. Byddai costau uwch o

gynnal a chadw dau safle a mwy o adeiladau. Byddai ansicrwydd ynglŷn â denu unrhyw fuddsoddiad ar gyfer uwchraddio’r adeiladau. Y tebygolrwydd yw y byddai’n rhaid gwario swm sylweddol ar un safle (yn y Groeslon) oherwydd anghenion cyflwr yr adeilad; ac y byddai llai o fuddsoddiad yn yr ail safle (yn Carmel). Mae pryder a fyddai cynllun o’r fath yn ddigon cadarn o ran denu buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru o gymharu â’r model a ffafrir, gan y byddai disgwyl i’r buddsoddiad arwain at safonau cenedlaethol penodol.

4.3.3. Yn ogystal, mae pryderon ynglŷn a chynaladwyedd y model yn yr achos hwn. Fel nodwyd

eisoes, byddai rhaid buddsoddi yn sylweddol yn safle yn y Groeslon, ac felly byddai hwn yn adeilad modern ac atyniadol. Ar y llaw arall, ni fyddai’r ail safle yn derbyn cymaint o fuddsoddiad.

4.3.4. Ceir pryder ynglŷn a rheolaeth mynediad rhwng y ddau safle allai godi yn y sefyllfa hon. Rôl

yr awdurdod fyddai rheoli mynediad i’r ysgol fel sefydliad, ond rôl y corff llywodraethol byddai rheoli mynediad i safleoedd penodol. Gan nad yw pellter daearyddol yn ffactor allweddol - mae tebygolrwydd y byddai problemau wrth ddewis pa ddisgyblion fyddai yn cael mynd i ba safle.

4.3.5. Gan y byddai’r ysgol yn un sefydliad, rhaid fyddai sicrhau fod yr un safonau addysgol yn

gyson ar draws yr ysgol a bod yr un cyfleoedd ar gael ar draws y ddau safle i’r disgyblion.

4.3.6. Mae’n bwysig nodi hefyd ganfyddiadau yr ardrawiad iaith, sef “…byddai’r model yma yn arwain at ddirywiad yn y Gymraeg”. Daw’r adroddiad ardrawiad iaith annibynnol i gasgliad y gallasai un o’r ddau safle gael ei weld yn gynyddol fel safle Saesneg – a hynny oherwydd cefndir ieithyddol disgyblion. Mae’r adroddiad yn nodi amheuaeth a fyddai unrhyw fesurau lliniaru yn medru goresgyn rhai effeithiau negyddol allai’r model yma ei gael ar y Gymraeg.

Page 14: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

14

Tabl Cymharu Modelau yn erbyn Ffactorau yn y Strategaeth Datblygu Dulliau o Gydweithio / Ffedereiddio

Ystyriaethau Nodiadau Manteision Anfanteision

Amgylchedd Ddysgu

“Ein disgwyliadau yw bod yr amgylchedd dysgu i blant ac athrawon y Sir - fel cyflwr yr ysgol, y dosbarth, ystafell athrawon, y ddarpariaeth chwarae- yn bodloni gofynion addysgu a dysgu yn y 21ain Ganrif”

-

Dim uwchraddio – ni fyddai’r opsiwn yn denu buddsoddiad Rhaglen 21C. Ni fydd holl elfennau ysgol safon 21 ganrif yn bresennol e.e. neuadd, ystafell pennaeth, cyfnod sylfaen addas. Cyflwr Ysgol Y Groeslon yn parhau i ddirywio ac adeiladau dros dro angen ei ddefnyddio.

Niferoedd Disgyblion

“Ein disgwyliadau yw bod angen adlewyrchu tueddiadau o ran poblogaeth a niferoedd disgyblion cynradd wrth gynllunio ar gyfer dyfodol addysg mewn dalgylchoedd gwahanol”

-

Un ysgol yn parhau yn y rhwyd diogelu staffio. Dros 100 o lefydd gweigion yn parhau. Posib i niferoedd un safle lleihau yn sgil cyflwr yr adeilad. Rhagamcanion un ysgol yn ymddangos yn fregus o ran nifer.

Maint Dosbarthiadau ac Amrediad oedran

“Ein disgwyliadau yw y bydd dosbarthiadau o'r maint addas yn ysgolion cynradd Gwynedd fel bod y profiadau a'r cyfleoedd gorau posibl yn cael eu cynnig i blant y Sir” -

Dosbarthiadau yn parhau gydag amrediad oedran i fyny at 4 mlynedd. Maint dosbarthiadau yn parhau i fod rhwng 9-30.

Arweinyddiaeth a Staffio

“Ein disgwyliadau yw bod penaethiaid yn cael tegwch i fedru arwain a rheoli yn broffesiynol yn eu hysgolion”

Byddai cyfle cyfyngedig drwy gydweithio mwy ffurfiol o ran cynnig cyfleon dysgu ac addysgu ehangach i’r disgyblion tu mewn a thu allan i’r dosbarth.

Ni fyddai’r math hyn o fodel yn rhoi cyfle i wella’r sefyllfa’r i ddisgyblion ar draws y tair ysgol i gael eu haddysgu gyda chyfoedion o’r un amrediad oedran ac i greu dosbarthiadau o faint hyfyw.

Ansawdd Addysg

“Ein gweledigaeth yw cynnig addysg o’r ansawdd uchaf posibl fydd yn rhoi'r profiadau, y sgiliau a’r hyder i blant y Sir a’u galluogi i ddatblygu i fod yn ddinasyddion dwyieithog, llwyddiannus a chyflawn.”

Gallu rhannu arbenigeddau staff. Cyfle cyfyngedig am fwy o amser digyswllt i’r pennaeth i ddatblygu a chryfhau rôl arweinyddiaeth. Cyfleon i gydweithio ar faterion proffesiynol a datblygu cynlluniau ar y cyd er budd y disgyblion.

Tri safle i reoli. Mwy o staff i arwain a rheoli. Angen rheoli staff o bell. Cyllideb yn caniatáu pennaeth yn seiliedig ar niferoedd ond bydd angen cyflogi dau bennaeth safle, felly unrhyw arbedion yn mynd i redeg cyfundrefn addysg yn hytrach nag ar y disgyblion. Ni fyddai angen 3 pennaeth fel yn bresennol (petai ffedereiddio ffurfiol)

Cymuned

“Ein disgwyliadau yw bod Ysgolion Cynradd y Sir yn ganolbwynt i weithgareddau cymunedol, gan gyfoethogi profiadau a chyfleon i'r disgyblion”

Ni fydd ysgol yn cau mewn unrhyw bentref.

Ansicrwydd yn parhau ynglŷn â chynaladwyedd darpariaeth addysg yr ardal.

Iaith

“Ein disgwyliadau yw bod holl ddisgyblion y Sir yn meddu ar ddwyieithrwydd cytbwys oed-berthnasol er mwyn eu galluogi i fod yn aelodau cyflawn o'r gymdeithas ddwyieithog y maent yn rhan ohoni”

Dim newid mawr i’r ddarpariaeth bresennol, cyfle i rannu arbenigeddau staff.

Dim newid mawr i’r ddarpariaeth bresennol, cyfle i rannu arbenigeddau staff.

Adnoddau Ariannol

“Ein disgwyliadau yw bod Gwynedd yn gwneud y defnydd gorau posibl o'r adnoddau ariannol sydd ar gael ar gyfer addysg gynradd y Sir”

Dyraniadau cyllideb yn parhau. Arbedion cost dau bennaeth yn cael ei wario gan yr ysgol fel bydd angen.

Dim denu buddsoddiad ariannol gan Llywodraeth Cymru. Amrediad cost y plentyn yn parhau rhwng yr ysgolion - £3,000 o wahaniaeth. Cost uchel cynnal a chadw’r tri safle. Cost cludiant rhwng safleoedd. Cyllideb yn caniatáu pennaeth yn seiliedig ar niferoedd ond bydd angen cyflogi dau bennaeth safle, fyddai felly yn ddefnydd llawn o unrhyw arbediad.

Ffactorau Daearyddol

“Ein disgwyliad yw bod gan bob plentyn yr hawl i gael mynediad at addysg safonol o fewn pellter rhesymol i'r cartref”

Ni fydd unrhyw blentyn yn teithio ymhellach i’r ysgol.

-

Page 15: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

15

Ysgol Ardal Aml-Safle (Cau tair ysgol ac agor un ysgol ar ddau safle) Ystyriaethau Nodiadau Manteision Anfanteision

Amgylchedd Ddysgu

“Ein disgwyliadau yw bod yr amgylchedd dysgu i blant ac athrawon y Sir - fel cyflwr yr ysgol, y dosbarth, ystafell athrawon, y ddarpariaeth chwarae- yn bodloni gofynion addysgu a dysgu yn y 21ain Ganrif”

Adeilad, cyfleusterau ac adnoddau yn cael eu hadnewyddu.

Bydd effaith y buddsoddiad yn cael ei wanhau gan fod dau safle. Ni fydd holl ddisgyblion yr ardal yn gallu manteisio cystal ar y ddarpariaeth fodern o ddydd i ddydd.

Niferoedd Disgyblion

“Ein disgwyliadau yw bod angen adlewyrchu tueddiadau o ran poblogaeth a niferoedd disgyblion cynradd wrth gynllunio ar gyfer dyfodol addysg mewn dalgylchoedd gwahanol”

Lleihau nifer llefydd gweigion yr ardal.

Gall un safle fod yn fwy bregus na’r llall o ran niferoedd. Gall un safle fod yn draen ar y llall. Bydd dau safle angen gallu gwrthsefyll tueddiadau demograffig. Byddai’n anodd rheoli pwy gaiff ei haddysgu ar ba safle (gan mai un ysgol fyddai).

Maint Dosbarthiadau ac Amrediad oedran

“Ein disgwyliadau yw y bydd dosbarthiadau o'r maint addas yn ysgolion cynradd Gwynedd fel bod y profiadau a'r cyfleoedd gorau posibl yn cael eu cynnig i blant y Sir”

Dosbarthiadau maint mwy addas a lleihad mewn amrediad oedran o fewn dosbarthiadau.

Ni fydd yn galluogi dosbarthiadau un oedran - byddai dosbarthiadau oedran cymysg yn parhau, efallai amrediad oedran 3 blwyddyn mewn rhai dosbarthiadau. Her o drefnu dosbarthiadau addas ar ddau safle.

Arweinyddiaeth a Staffio

“Ein disgwyliadau yw bod penaethiaid yn cael tegwch i fedru arwain a rheoli yn broffesiynol yn eu hysgolion”

Mwy o amser digyswllt i’r pennaeth arwain a rheoli.

Dau safle i reoli. Pennaeth angen rheoli staff o bell. Posib cyflogi dirprwy yn seiliedig ar y niferoedd ond bydd angen rheolwr safle o leiaf.

Ansawdd Addysg

“Ein gweledigaeth yw cynnig addysg o’r ansawdd uchaf posibl fydd yn rhoi'r profiadau, y sgiliau a’r hyder i blant y Sir a’u galluogi i ddatblygu i fod yn ddinasyddion dwyieithog, llwyddiannus a chyflawn.”

Byddai cyfle i adeiladu ar sylfaen ansawdd yr addysg a ddarperir yn yr ardal ar hyn o bryd - ond i raddau llai. Byddai cyfle cyfyngedig i greu dosbarthiadau o faint hyfyw gyda llai o amrediad oedran, ac i wella’r sefyllfa i ddisgyblion gael eu haddysgu gyda chyfoedion o’r un amrediad oedran a chyfleon dysgu ac addysgu ehangach i’r disgyblion tu mewn a thu allan i’r dosbarth.

Byddai yn her sicrhau ansawdd a chyfleoedd cyson o ran addysg ar draws y safleoedd. Byddai yn her reolaethol arwain y sefydliad ar ddau safle a byddai angen llawer o amser i sicrhau fod hynny yn llwyddo.

Cymuned

“Ein disgwyliadau yw bod Ysgolion Cynradd y Sir yn ganolbwynt i weithgareddau cymunedol, gan gyfoethogi profiadau a chyfleon i'r disgyblion”

Dod a phlant pentrefi at ei gilydd i ddysgu. Cadw presenoldeb safle ysgol mewn dau bentref, ac felly mae’r effaith yn llai negyddol.

Colli presenoldeb ysgol mewn pentref (Bydd angen ystyried mesurau lliniaru i leihau’r effaith).

Iaith

“Ein disgwyliadau yw bod holl ddisgyblion y Sir yn meddu ar ddwyieithrwydd cytbwys oed-berthnasol er mwyn eu galluogi i fod yn aelodau cyflawn o'r gymdeithas ddwyieithog y maent yn rhan ohoni”

- Canlyniad Yr Ardrawiad Ieithyddol - Model yma’n arwain at ddirywiad yn y Gymraeg o ran cyrhaeddiad academaidd a lleihau’r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg trwy glystyru carfan sylweddol o ddisgyblion o gartrefi di-Gymraeg gyda'i gilydd mewn sefydliad addysg gynradd. Nid oes gwarant y byddai mesurau lliniaru effeithiau negyddol yn llwyddo neu’n llwyddo’n rhannol o oresgyn neu leddfu’r effeithiau negyddol tebygol.

Adnoddau Ariannol

“Ein disgwyliadau yw bod Gwynedd yn gwneud y defnydd gorau posibl o'r adnoddau ariannol sydd ar gael ar gyfer addysg gynradd y Sir”

Gwneud gwariant y disgybl yn yr ardal yn fwy cyfartal. Darpariaeth fwy effeithlon o adnoddau.

Ansicrwydd llwyddiant achos busnes Llywodraeth Cymru. Her i’r llywodraethwyr sicrhau bod disgyblion un safle yn cael gwariant cyfartal â disgyblion y safle arall. Cost cynnal a chadw uwch oherwydd dau safle. Posib costau cludiant uwch na’r trefniant presennol. Posib cyflogi dirprwy yn seiliedig ar y niferoedd ond bydd angen rheolwr safle o leiaf.

Ffactorau Daearyddol

“ Ein disgwyliad yw bod gan bob plentyn yr hawl i gael mynediad at addysg safonol o fewn pellter rhesymol i'r cartref”

Ni fydd unrhyw ddisgybl yr ardal angen teithio pellter afresymol i’r ysgol.

Bydd rhai disgyblion yr ardal yn teithio ymhellach i’r ysgol (o gymharu â’r trefniant presennol).

Page 16: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

16

Ysgol Ardal Ystyriaethau Nodiadau Manteision Anfanteision

Amgylchedd Ddysgu

“Ein disgwyliadau yw bod yr amgylchedd dysgu i blant ac athrawon y Sir - fel cyflwr yr ysgol, y dosbarth, ystafell athrawon, y ddarpariaeth chwarae- yn bodloni gofynion addysgu a dysgu yn y 21ain Ganrif”

Adeilad, cyfleusterau ac adnoddau newydd, modern, addas i bwrpas i holl ddisgyblion yr ardal. Ysgol newydd safon y 21 ganrif gyda’r holl elfennau perthnasol ar gael i staff a disgyblion; neuadd aml bwrpas, ardal cyfnod sylfaen, man chwarae allanol, ystafell athrawon ayyb. Disgyblion yr ardal i gyd yn gallu manteisio ar ddarpariaeth fodern o ddydd i ddydd.

Niferoedd Disgyblion

“Ein disgwyliadau yw bod angen adlewyrchu tueddiadau o ran poblogaeth a niferoedd disgyblion cynradd wrth gynllunio ar gyfer dyfodol addysg mewn dalgylchoedd gwahanol”

Bydd yn creu darpariaeth gadarn yn yr ardal all wrthsefyll newidiadau demograffig yn well i’r dyfodol. Lleihau nifer llefydd gweigion yr ardal. Posib fydd llai o ddisgyblion yn symud allan o’r ardal fydd yn sefydlogi’r niferoedd.

Maint Dosbarthiadau /

Amrediad oedran

“Ein disgwyliadau yw y bydd dosbarthiadau o'r maint addas yn ysgolion cynradd Gwynedd fel bod y profiadau a'r cyfleoedd gorau posibl yn cael eu cynnig i blant y Sir”

Dosbarthiadau o’r maint addas gyda llai o amrediad oedran mewn dosbarthiadau.

Arweinyddiaeth a Staffio

“Ein disgwyliadau yw bod penaethiaid yn cael tegwch i fedru arwain a rheoli yn broffesiynol yn eu hysgolion”

Mae’r cynnig arfaethedig yn cynnig amryw o gyfleon i adeiladu ar sylfaen ansawdd yr addysg a ddarperir yn yr ardal ar hyn o bryd. Mae cyfle i greu dosbarthiadau o faint hyfyw gyda llai o amrediad oedran, a chyfle i ddisgyblion gael eu haddysgu gyda chyfoedion o’r un amrediad oedran a chyfleon dysgu ac addysgu ehangach i’r disgyblion tu mewn a thu allan i’r dosbarth. Bydd mwy o amser digyswllt i’r Pennaeth i arwain a rheoli’r ysgol ac felly, mwy o gyfle i ddatblygu cynlluniau dysgu newydd.

Angen am lai o swyddi.

Ansawdd Addysg

“Ein gweledigaeth yw cynnig addysg o’r ansawdd uchaf posibl fydd yn rhoi'r profiadau, y sgiliau a’r hyder i blant y Sir a’u galluogi i ddatblygu i fod yn ddinasyddion dwyieithog, llwyddiannus a chyflawn.”

Mwy o amser digyswllt i’r pennaeth arwain a rheoli. Bydd cyllideb yn caniatáu cyflogi dirprwy. Dim angen i’r pennaeth rheoli staff o bell, fydd pawb yn gweithio ar yr un safle. Cyfleoedd datblygu gyrfa well i staff.

Cymuned

“Ein disgwyliadau yw bod Ysgolion Cynradd y Sir yn ganolbwynt i weithgareddau cymunedol, gan gyfoethogi profiadau a chyfleon i'r disgyblion”

Plant o wahanol bentrefi yn dod at ei gilydd i ddysgu/cymdeithasu. Sicrhau darpariaeth addysg gadarn, gynaliadwy o fewn ardal ehangach all wrthsefyll newidiadau demograffig yn well i’r dyfodol. Ymestyn cyfleoedd i blant gael mynediad at adnoddau cymunedol ehangach.

Colli presenoldeb safle ysgol mewn dau bentref. Ar gyfer y cymunedau hynny ble fydd ysgol yn cau, mae’r ardrawiad yn argymell rhai mesurau i’r Cyngor eu hystyried er mwyn lliniaru’r effaith negyddol. Bydd y mesurau lliniaru hyn yn cael eu hystyried i’w hymgorffori yn y rhaglen waith pe penderfynir gweithredu ar yr argymhellion yn yr ardal.

Iaith

“Ein disgwyliadau yw bod holl ddisgyblion y Sir yn meddu ar ddwyieithrwydd cytbwys oed-berthnasol er mwyn eu galluogi i fod yn aelodau cyflawn o'r gymdeithas ddwyieithog y maent yn rhan ohoni”

Canlyniad Yr Ardrawiad Ieithyddol - Cynnig cyfleoedd i hyrwyddo ac atgyfnerthu’r Gymraeg yn addysgol a chymunedol ar sail proffil iaith y disgyblion. Mae ysgol fwy hefo mwy o ddisgyblion ymhob dosbarth a mwy o athrawon yn golygu mwy o gyfleoedd a phrofiadau i ymestyn cyrhaeddiad yn y Gymraeg, ac i ddefnyddio’r garfan sylweddol o ddisgyblion sydd o gartrefi Cymraeg i greu modelau iaith gadarnhaol i’r disgyblion sydd o gartrefi Saesneg neu Dwyieithog.

Adnoddau Ariannol

“Ein disgwyliadau yw bod Gwynedd yn gwneud y defnydd gorau posibl o'r adnoddau ariannol sydd ar gael ar gyfer addysg gynradd y Sir”

Cyfle i ddenu buddsoddiad o Llywodraeth Cymru. Gwariant y disgybl yn fwy cyfartal yn yr ardal. Ni fydd ysgol yr ardal yn y rhwyd diogelu. Darpariaeth fwy effeithlon o adnoddau.

Gall costau cludiant fod yn uwch na’r trefniant presennol.

Ffactorau Daearyddol

“ Ein disgwyliad yw bod gan bob plentyn yr hawl i gael mynediad at addysg safonol o fewn pellter rhesymol”

Ni fydd unrhyw ddisgybl yr ardal angen teithio pellter afresymol i’r ysgol.

Bydd rhai disgyblion yr ardal yn teithio ymhellach i’r ysgol (o gymharu â’r trefniant presennol).

Page 17: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

17

5. Y CYNNIG A FFAFRIR

5.0.1. Mae’r cynnig sydd yn cael ei ffafrio yma yn berthnasol i: • Ysgol Groeslon • Ysgol Carmel • Ysgol Bronyfoel

5.0.2. Penderfynodd Cabinet Cyngor Gwynedd yn ei gyfarfod ar 27 Chwefror 2013, i ymgymryd â

phroses ymgynghori statudol yn unol â gofynion Adran 29 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ar gau ysgolion Groeslon, Carmel a Bronyfoel ar 31 Awst 2015.

5.0.3. Yn ogystal, penderfynwyd ymgymryd â phroses o ymgynghori statudol yn unol â gofynion

Adran 28 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ar y bwriad o sefydlu Ysgol Gymuned Ardal 3–11 oed i agor 1 Medi 2015 yn y Groeslon, i ddarparu addysg ar gyfer dalgylchoedd presennol ysgolion Groeslon, Carmel a Bronyfoel.

5.1 Ystyr Ysgol Ardal

5.1.1. Yr hyn a olygir wrth Ysgol Ardal yw y bydd un ysgol yn cael ei sefydlu yn hytrach na thair

ysgol fel yn bresennol. 5.1.2. Prif nodweddion Ysgol Ardal yw:

• Yn statudol bydd gan yr ysgol un endid cyfreithiol • Bydd gan yr ysgol un Pennaeth. • Un gyllideb • Un corff llywodraethol

5.2 Pam Argymell Ysgol Ardal?

5.2.1. Argymhellir sefydlu Ysgol Ardal i wasanaethu dalgylch Groeslon, Carmel a Bronyfoel ar ôl ystyried nifer o ffactorau, sydd yn cynnwys; • Maint dosbarthiadau • Niferoedd disgyblion • Amgylchedd ac ansawdd dysgu • Arweinyddiaeth a staffio • Y Gymuned

• Yr Iaith Gymraeg • Adnoddau Ariannol • Ffactorau Daearyddol • Addasrwydd adeiladau

Rhoddir ystyriaeth i’r ffactorau hyn ac eraill yng ngweddill y ddogfen.

5.3 Maint Dosbarthiadau

5.3.1. Ein disgwyliadau yw y bydd dosbarthiadau o’r maint addas yn ysgolion cynradd Gwynedd fel bod y profiadau a’r cyfleoedd gorau posibl yn cael eu cynnig i blant y Sir.

5.3.2. Ar hyn o bryd, mae maint dosbarthiadau yn amrywio yn sylweddol drwy’r Sir, gan effeithio

ar brofiadau addysgol plant. Mewn rhai ardaloedd, mae dosbarthiadau mawr ac uwchlaw 30 mewn nifer. Mae’r Cyngor yn credu bod dosbarthiadau mawr iawn yn cael effaith negyddol ar brofiadau addysgol plant. Cefnogir hyn gan ymchwil (Blatchford et al, Sefydliad Addysg

Page 18: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

18

Llundain, 2008). Ar y llaw arall mae dosbarthiadau bach iawn yn nifer o ysgolion y Sir. Mewn adroddiad gan y cyn brif arolygydd addysg yng Nghymru, Roy James, nodwyd bod "nifer fach o ddisgyblion a geir mewn grwpiau blwyddyn yn yr ysgolion lleiaf yn arwain at lai o gystadleuaeth a symbyliad academaidd, a llai o gyfle i fanteisio ar amrediad amrywiol o brofiadau cwricwlaidd ac allgyrsiol". Bydd y Cyngor yn anelu i leihau maint dosbarthiadau mawr a chryfhau maint dosbarthiadau lleiaf y sir er mwyn sicrhau y caiff y disgyblion amrediad llawn o brofiadau a sylw priodol.

5.3.3. Yn y tair ysgol mae amrediad niferoedd mewn dosbarthiadau rhwng 9 ag 30.

5.3.4. Mae dau ddosbarth yn ysgol Carmel ac yn Ysgol Bronyfoel tra fod pedwar dosbarth yn

Ysgol Groeslon ar hyn o bryd - gyda dosbarthiad disgyblion fel a ganlyn yn ystod y flwyddyn academaidd 2012/13:

Ysgol Meithrin Derbyn Bl 1 Bl 2 Bl 3 Bl 4 Bl 5 Bl 6 Cyfanswm Nifer Dosb

Dosb Mwyaf

Dosb Lleiaf

Cyfartaledd Maint Dosb

9 8 8 14 8 8 10 10 Groeslon

9 30 16 20 75 4 30 9 18.75

9 3 9 8 7 4 3 5 Carmel

29 19 48 2 29 19 24

2 1 5 3 3 4 3 5 Bronyfoel

11 15 26 2 15 11 13

Maint Dosbarthiadau Ffynhonnell: Dadansoddiad Adran Addysg Gwynedd ar sail datganiadau ysgolion unigol, Hydref 2012

5.3.5. Mae’r strategaeth a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 2 Ebrill 2009 yn nodi uchelgais i sicrhau

dosbarthiadau rhwng 12-25 o ddisgyblion. 5.3.6. Mae amrediad oedran o fewn dosbarthiadau hefyd yn rhan o sicrhau darpariaeth briodol i’r

dyfodol. Pan mae ystod uwch o ran oedran disgyblion mewn un dosbarth mae heriau cynyddol ar gyfer addysgu a dysgu effeithiol. Er enghraifft, mae’r her yn fwy pan welir 20 o blant mewn dosbarth rhwng 7 i 11 oed o’i gymharu â 20 o blant sydd yn 10 oed mewn un dosbarth.

5.3.7. Byddai’r cynnig o ysgol ardal yn cysoni maint dosbarthiadau ac yn lleihau amrediad oedran o

fewn dosbarthiadau. 5.4 Niferoedd Disgyblion

5.4.1. Ein disgwyliadau yw bod angen adlewyrchu tueddiadau o ran poblogaeth a niferoedd

disgyblion cynradd wrth gynllunio ar gyfer dyfodol addysg mewn ardaloedd gwahanol. 5.4.2. Mae niferoedd disgyblion yn yr ysgolion wedi amrywio ers 1975, ond yn gyffredinol mae tua

18% yn llai o ddisgyblion yn ystod y degawdau diwethaf. Mae hyn wedi arwain at nifer o lefydd gweigion yn yr ysgolion - dros 40% (neu 100 mewn nifer) o lefydd gweigion ar draws y tair ysgol ar hyn o bryd.

Page 19: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

19

Niferoedd [Meithrin – Bl.6 (Oed 3-11)]

Ysgol 1975 1980 1985 1990 1995 2000 2005 2010 2012 1975-2012 twf

1975-2012 % twf

Y Groeslon 107 96 97 84 95 92 93 85 75 -32 -30%

Carmel 49 55 41 51 33 68 56 53 48 -1 -2%

Bronyfoel 26 29 26 30 26 34 33 36 26 0 0%

Ardal 182 180 164 165 154 194 182 174 149 -33 -18%

Niferoedd 1975-2012

Ffynhonnell: Data cyfrifiad ysgolion bob Medi

5.4.3. Nodwyd gan aelodau’r Panel Adolygu bod cyflwr diweddar adeilad Ysgol Groeslon wedi

arwain tuag at y lleihad sylweddol a welir yn niferoedd yr ysgol. Nodwyd hefyd y ffaith y bod newid defnydd o rannau o adeilad Ysgol y Groeslon yn ddiweddar wedi newid ffigyrau llefydd gweigion – a bod nifer o ddisgyblion yn cael eu haddysgu mewn unedau symudol. Dylid ystyried y wybodaeth am lefydd gweigion gyda hynny mewn golwg felly. Serch hynny, nid yw hynny yn newid y ffaith fod nifer sylweddol o lefydd gweigion rhwng y dair ysgol.

5.4.4. O wireddu’r cynnig byddai Ysgol Ardal yn cael ei sefydlu gyda chapasiti priodol ar gyfer

niferoedd disgyblion nawr ac i’r dyfodol. Bydd hyn yn sicrhau cynaladwyedd yr ysgol i’r dyfodol ac yn lleihau llefydd gweigion yr ardal sydd yn uchel iawn ar hyn o bryd.

5.4.5. Mae gan y dair ysgol yn yr ardal yma niferoedd sylweddol o lefydd gweigion ynddynt (fel y

diffinnir gan Lywodraeth Cymru - sef dros 25% neu 30 mewn nifer o lefydd gweigion).

Ysgol Capasiti Llawn (M – Bl6) Nifer o Lefydd Gwag % o Lefydd Gwag

Y Groeslon 128 53 41%

Carmel 78 30 38%

Bronyfoel 52 26 50%

Cyfanswm 258 109 42%

Llefydd Gweigion

Ffynhonnell: Data sydd wedi ei gyflwyno i’r Adran Addysg yn flynyddol gan yr ysgolion (i’w gyflwyno yn flynyddol i’r

Llywodraeth – Mesur Capasiti Ysgolion yng Nghymru)

5.4.6. O wireddu’r cynnig byddai gan yr Ysgol Ardal oddeutu 160 o ddisgyblion (2015). Yn ogystal bydd yr adeilad wedi ei adeiladu er mwyn dygymod a chynnydd pellach o hyd at 10% o dwf mewn niferoedd disgyblion (yn ddarostyngedig i bolisi mynediad) a heb fod ar draul ysgolion eraill dalgylch Dyffryn Nantlle.

5.5 Amgylchedd Dysgu ac Ansawdd Adeiladau

5.5.1. Ein disgwyliadau yw bod yr “amgylchedd dysgu” i blant ac athrawon y Sir – fel cyflwr yr ysgol, y dosbarth, ystafell athrawon, y ddarpariaeth chwarae – yn bodloni gofynion addysgu a dysgu yn y 21ain Ganrif.

5.5.2. Mae adroddiad ESTYN “Arfarniad o berfformiad ysgolion cyn ac ar ôl symud i mewn i adeiladau

newydd neu eiddo a adnewyddwyd” (2007) yn cadarnhau’r farn uchod. Noda’r adroddiad bod ysgolion oedd wedi gweld eu hadeiladau’n cael eu hadnewyddu wedi gweld gwelliant mewn

Page 20: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

20

cyrhaeddiad a chyflawniad disgyblion. Nodir bod arolygiadau Estyn o ysgolion unigol yn dangos bod ansawdd yr addysgu wedi gwella, bod morâl staff wedi codi, bod presenoldeb wedi’i gynnal ac ymddygiad wedi gwella. Yn ogystal y bod adeiladau sydd wedi eu gwella yn cynnig mwy o ddewis a darpariaeth well o ran addysg o fewn yr ysgol a gweithgareddau cyn ac ar ôl ysgol.

5.5.3. Mae pryder gwirioneddol ynglŷn â chyflwr ac addasrwydd nifer o ysgolion cynradd y Sir.

Mae angen buddsoddiad sylweddol yn yr adeiladau er mwyn ymateb i faterion iechyd a diogelwch ac i gyrraedd safonau priodol.

5.5.4. Mae’r Cyngor wedi bod yn monitro cyflwr rhan o adeilad Ysgol Y Groeslon ers peth amser.

Caewyd cegin yr ysgol rhai blynyddoedd yn ôl, ac yn ddiweddar bu’n rhaid cau rhan o’r adeilad fel cam rhagweithiol, ac mae’r disgyblion yn derbyn eu haddysg mewn unedau symudol. Os gwireddir y cynnig bydd adeilad yr ysgol newydd a’r amgylchedd dysgu yn cwrdd â safonau ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ac yn adnodd addysg arloesol ar gyfer yr ardal i’r dyfodol.

5.5.5. Sefyllfa gyfredol yr ysgolion yw bod angen gwario ar atgyweirio ac addasu ysgolion

Groeslon, Carmel a Bronyfoel i wella cyflwr ac addasrwydd yr adeiladau yn y 5 mlynedd nesaf. Ond fel nodwyd, byddai’n rhaid adeiladu rhannau helaeth o’r newydd yn y Groeslon ac felly angen buddsoddiad sylweddol yno. Wrth weithredu’r cynnig a chau safle Carmel a Bronyfoel - byddai hyn yn rhesymoli’r angen i wario ar wahanol adeiladau ac yn sicrhau buddsoddiad ar un safle i ddatblygu sefydliad gydag adeilad a chyfleusterau o’r radd flaenaf.

Gwybodaeth Gwariant Eiddo / Ffynhonnell: Adran Eiddo Gwynedd

* Mae’r swm yma yn deillio o argymhellion o’r asesiad risg tân. Mae asesiadau o’r fath wedi eu cwblhau ar gyfer pob adeilad sydd gan y Cyngor ac mae’r gwaith wedi ei flaenoriaethu yn ôl risg. Nid yw’r gwaith yn yr ysgol yma yn deillio o unrhyw risg uchel.

5.5.6. Os gwireddir y cynnig bydd adeilad yr ysgol newydd a’r amgylchedd dysgu yn cwrdd â safonau ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ac yn adnodd addysg arloesol ar gyfer yr ardal i’r dyfodol. Byddai buddsoddiad sylweddol o £4.84miliwn i sicrhau darpariaeth addysgol ragorol ar gyfer ysgol gynaliadwy a modern fyddai’n cwrdd yn llawn ag anghenion addysgol a chymunedol disgyblion a thrigolion yr ardal ehangach.

Ysgol Ôl-groniad gwariant unwaith ac am byth

Gwariant blynyddol cynnal a chadw ymatebol

Gwariant i gwrdd â gofynion rheoliadau tân

Groeslon

Tu hwnt i sefyllfa lle gellir ei

gynnal a’i gadw

(Nid yw’n rhesymegol ceisio

cynnal y strwythur am

gyfnod estynedig – gwaith

diogelu a chynnal dros dro

yn unig)

Tu hwnt i sefyllfa lle gellir ei

gynnal a’i gadw

(Nid yw’n rhesymegol

ceisio cynnal y strwythur

am gyfnod estynedig –

gwaith diogelu a chynnal

dros dro yn unig)

Tu hwnt i sefyllfa lle gellir ei

gynnal a’i gadw

(Nid yw’n rhesymegol

ceisio cynnal y strwythur

am gyfnod estynedig –

gwaith diogelu a chynnal

dros dro yn unig)

Carmel £110,000 £7,700 £3,000*

Bronyfoel £46,000 £9,600 £18,000

Page 21: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

21

5.6 Ansawdd Addysg 5.6.1. Noda arolygon diweddar Estyn fod y pedair ysgol yma’n darparu addysg o ansawdd da. Ni

fynegwyd pryderon nac amheuon am safon yr addysg yn unrhyw un o’r ysgolion.

Ysgol Groeslon Ysgol Carmel Ysgol Bronyfoel

Dyddiad Arolwg Arolwg Tachwedd 2007 Arolwg Ionawr 2011 Arolwg Ionawr 2008

Manylion Adroddiadau Arolygu 3 x Gradd 1

4 x Gradd 2

Da

Da 7 x Gradd 2

Canlyniadau arolygon diweddaraf Estyn

Allwedd:

Canlyniadau Estyn – Gradd 1 = da gyda nodweddion rhagorol

Gradd 2 = nodweddion da a dim diffygion pwysig 5.6.2. Mae safonau addysg yn greiddiol i’r cynigion. Er bod yna ragdybiaeth cyffredinol bod safonau

addysg mewn ysgolion bach yn uwch nag mewn ysgolion mwy, nid oes tystiolaeth i gefnogi’r rhagdybiaeth. Yn wir, mae adroddiad ESTYN “Ysgolion Cynradd Bach yng Nghymru (2003)” yn nodi nad oes gwahaniaeth sylweddol rhwng safonau addysg mewn ysgolion mawr a bach, ond “…lleia’n y byd yw’r ysgol, yr anoddaf yw’r dasg yn aml i’r athro gydweddu gwaith i holl anghenion dysgu’r disgyblion. Â’r adroddiad ymlaen i nodi “…gall fod yn anoddach i athrawon mewn ysgolion bach gydweddu gwaith ag anghenion disgyblion, gan y gall disgyblion ym mhob dosbarth wahaniaethu’n fawr o ran oed a chyfnodau datblygu. Mae hyn yn arbennig o wir yn yr ysgolion lleiaf (gyda hyd at 30 o ddisgyblion), lle mae 28% o waith anfoddhaol o gymharu ag 8% o waith anfoddhaol mewn ysgolion â dros 210 o ddisgyblion’.

5.6.3. Yn sgil y model arfaethedig rhagwelir cyfleon i adeiladu ar y sylfaen yma. Bydd cyfleon o ran

gwella’r amgylchedd dysgu, dosbarthiadau o faint hyfyw gyda llai o amrediad oedran i’w haddysgu gan roi cyfle i ddisgyblion gael eu haddysgu mewn grwpiau mwy gyda chyfoedion o’r un amrediad oedran. Yn ogystal gellir manteisio ar greu cyfleoedd dysgu ac addysgu ehangach i’r disgyblion tu mewn a thu allan i’r dosbarth. Disgwylir y bydd mwy o amser digyswllt i’r Pennaeth gael arwain a rheoli’r ysgol, a chyfle i ddatblygu cynlluniau dysgu newydd mewn sefydliad cadarn a chynaliadwy i’r dyfodol.

5.7 Arweinyddiaeth a Staffio

5.7.1. Ein disgwyliadau yw bod penaethiaid yn cael tegwch i fedru arwain a rheoli yn broffesiynol yn eu hysgolion. Yn ogystal disgwyliwn y gallai cyrff llywodraethu ysgolion arwain ysgolion yn effeithiol o fewn eu cyllidebau er budd disgyblion. Rydym yn disgwyl y byddai gan ysgolion y staff gorau ar gyfer darparu addysg i’r radd flaenaf.

5.7.2. Mae’r dair ysgol yn cyflogi penaethiaid, athrawon, staff ategol, cymorthyddion, gweinyddwyr,

staff darparu, glanhau a choginio.

5.7.3. O ran staff dysgu mae 3 athro llawn amser yn gweithio’n llawn amser yn Ysgol Groeslon – gyda’r Pennaeth mewn gofal yn un ohonynt. Ymhellach mae un athrawes rhan amser a 4 cymhorthydd. Yn Ysgol Carmel, mae Pennaeth ac athrawes llawn amser ynghyd ag athro

Page 22: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

22

ychwanegol am 0.2 o’r amser, a 2 gymhorthydd. Yn Ysgol Bronyfoel mae Pennaeth ac athrawes llawn amser a 2 gymhorthydd llawn amser ac un rhan amser.

5.7.4. Ar hyn o bryd mae gofyn i’r penaethiaid addysgu dosbarth am gyfran uchel o’u hamser, sy’n

lleihau’r amser sydd ar gael iddynt arwain a rheoli’r ysgolion yn broffesiynol. Wrth i’r gofyn am arweiniad a rheolaeth effeithiol gynyddu mewn ysgolion mae’n hanfodol fod unrhyw newid a gynigir yn ystyried amser arwain a rheoli penaethiaid.

Ysgol Sylwadau Gofal Dosbarth

Y Groeslon Pennaeth Parhaol (pennaeth mewn gofal ar hyn o bryd) 60%

Carmel Pennaeth Parhaol 80%

Bronyfoel Pennaeth Parhaol 80%

Gwybodaeth Arweinyddiaeth a Rheoli

Ffynhonnell: Adran Adnoddau Dynol a gwybodaeth gan benaethiaid

5.7.5. Un o’r prif fygythiadau sy’n ein gwynebu ar draws y sir yw’r anawsterau wrth recriwtio

penaethiaid newydd. Mae gan y Gwasanaeth Ysgolion gofnod o’r anawsterau hyn. Mae’r dystiolaeth yn dangos yn glir bod nifer o ysgolion yn gorfod ail hysbysebu swyddi ac oherwydd hyn, mae gan sawl un o’n hysgolion cynradd bennaeth mewn gofal. Byddai’r ysgol ardal yn ysgol a fyddai’n denu ymgeiswyr iddi ac yn enwedig felly rôl arwain a rheoli fel y pennaeth.

5.7.6. Yn wir, bydd union strwythur staffio’r ysgol i’w drafod ymhellach ac yn fater o benderfyniad

a fyddai angen sylw Corff Llywodraethol yr Ysgol Ardal. Bydd yr ysgol yn endid newydd, a bydd gofyn felly sefydlu Corff Llywodraethu newydd ynghyd ag offeryn llywodraethu gan ddilyn canllawiau a rheoliadau cyfredol. Bydd angen i’r Corff Llywodraethu newydd benodi’r Pennaeth a’r staff ar gyfer yr ysgol.

5.7.7. Datblygwyd polisi staffio manwl gan Gyngor Gwynedd mewn cydweithrediad ag Undebau

Llafur a phenaethiaid. Bydd y polisi yn sail i unrhyw ddiswyddiadau sy’n deillio o’r cynnig hwn. Bydd cyfathrebu eglur ac agored yn greiddiol i weithrediad llwyddiannus unrhyw gynigion. Mater i Gorff Llywodraethu’r Ysgol Ardal fydd ei strwythur staffio. Fodd bynnag, awgryma’r Cyngor y dylai’r Ysgol Ardal geisio clustnodi’r swyddi sy’n deillio o weithredu’r drefn newydd ar gyfer athrawon sydd yn gweithio o fewn y tair ysgol bresennol (sef Groeslon, Carmel a Bronyfoel) yn y lle cyntaf.

5.7.8. Byddai sefydlu Ysgol Ardal felly yn rhoi cyfleoedd gyrfa well i staff addysgu ac arall. Byddai

cyfleoedd gwell o ran rhyddhau arweinwyr ysgol (pennaeth a/neu ddirprwy os penodir) o’u hamser addysgu a dysgu er mwyn ffocysu yn fwy ar yr ochr arweinyddiaeth a rheolaeth o’u rolau i sicrhau gwelliant parhaus yr ysgol. Byddai modd yn ogystal i staff addysgu rannu o’u harbenigedd gyda nifer fwy o ddisgyblion gan weld buddion o addysgu amrediad llai o ran ystod oedran disgyblion mewn dosbarthiadau.

5.8 Y Gymuned 5.8.1. Comisiynwyd astudiaeth effaith cymunedol gan ymgynghorydd annibynnol ar y modelau

posib fel rhan o broses datblygu’r cynigion. Adroddwyd ar ganfyddiadau cychwynnol yr asesiad yng nghyfarfod olaf o’r Panel Lleol.

Page 23: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

23

5.8.2. Cyhoeddwyd dadansoddiad o’r defnydd cymunedol o bob ysgol, a chyfraniad ysgolion i’w cymunedau, mewn pecyn ystadegol cynhwysfawr. Mae’r ddogfen lawn ar gael ar wefan y Cyngor (www.gwynedd.gov.uk/trefniadaethysgolion) a chopïau hefyd ar gael drwy gysylltu â’r Swyddfa Trefniadaeth Ysgolion.

5.8.3. Wrth edrych ar asesiad a wnaethpwyd o effaith posib y modelau cychwynnol a ystyriwyd,

roedd yr asesiadau cymunedol yn nodi effeithiau mathau gwahanol o fodelau. Yn gryno, yr hyn nodwyd oedd bod cau ysgolion y yn medru cael effaith negyddol o ran gwerth tai lleol, gwasanaethau lleol a’r economi leol. Nodwyd rhai cyfleoedd posib hefyd (fel y cyfle i gael adnoddau ychwanegol, cyfle i ddenu rhieni ifanc, a chyfle i atgyfnerthu’r iaith gan warantu addysg yn yr ardal am gyfnod estynedig gydag adnoddau addysgol o’r radd flaenaf).

5.8.4. Ar gyfer y cymunedau hynny ble fydd ysgol yn cau, mae’r ardrawiad yn argymell rhai

mesurau i’r Cyngor eu hystyried er mwyn lliniaru’r effaith negyddol. Bydd y mesurau lliniaru hyn yn cael eu hystyried i’w hymgorffori pe penderfynir gweithredu ar yr argymhellion yn yr ardal;

- Er mwyn creu ysbryd cynhwysol a pherchnogaeth, dylid sicrhau ar gychwyn a thrwy

gydol y broses drosiannol fod Llywodraethwyr pob ysgol yn rhan annatod o’r datblygiadau a’r penderfyniadau gyda gwybodaeth reolaidd yn cael ei raeadru i rieni,

- Ymgynghori’n briodol gyda’r pentrefi a’r cymunedau lleol o ran cytuno ar ddefnydd pwrpasol o’r holl adeiladau i’r dyfodol,

- Dylid rhaglennu i sicrhau fod cyfran o weithgareddau cymdeithasol yr Ysgol (cyngerdd, noson goffi, ayyb) yn cael eu cynnal yn y pentrefi (adeiladau’r Ysgol neu Neuadd Gymunedol) lle mae ysgolion yn cau,

- Dylai’r Cyngor sicrhau fod cynlluniau cludiant ysgol yn bwrpasol

5.8.5. Wrth weithredu’r cynnig o sefydlu’r Ysgol Ardal byddai buddsoddiad sylweddol wrth geisio gwarantu presenoldeb addysg gynaliadwy ar gyfer yr ardal ehangach. Bydd cyfle i’r disgyblion a’r gymuned yn ehangach elwa o’r ddarpariaeth newydd.

5.9 Yr Iaith Gymraeg 5.9.1. Ein disgwyliadau yw bod holl ddisgyblion y sir yn meddu ar ddwyieithrwydd cytbwys oed

berthnasol er mwyn eu galluogi i fod yn aelodau cyflawn o’r gymdeithas ddwyieithog y maent yn rhan ohoni.

5.9.2. Bydd angen i unrhyw gynigion i newid trefniadaeth yn lleol gymryd ystyriaeth lawn o

effeithiau ieithyddol posib. Bydd cynnal a gwella’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith addysgol ac fel iaith gymdeithasol ymhlith plant felly yn ystyriaeth allweddol wrth lunio cynigion o fewn ardaloedd. Comisiynwyd ymgynghorydd annibynnol i gynnal asesiad effaith ieithyddol ar y modelau posib wrth ddatblygu’r cynnig hwn. Mae’r adroddiad wedi ei gwblhau ac wedi’i gyhoeddi ar wefan y Cyngor.

5.9.3. Mae’r adroddiad yn nodi canlyniadau posib model Ysgol Ardal Aml-Safle, a’r effaith

negyddol fyddai’r model hynny yn ei gael. Daw’r adroddiad annibynnol i gasgliad y gallasai un o’r ddau safle gael ei weld yn gynyddol fel y safle Saesneg. Mae’r adroddiad yn nodi amheuaeth a fyddai unrhyw fesurau lliniaru yn goresgyn rhai effeithiau negyddol allasai’r model yma ei gael ar y Gymraeg.

Page 24: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

24

5.9.4. O ran y cynnig hwn o sefydlu Ysgol Ardal, noda’r asesiad iaith y byddai sefydlu’r model hwn

yn “...cynnig cyfleon i hyrwyddo ac atgyfnerthu’r Gymraeg yn addysgol a chymunedol”.

5.10 Asesiad Cydraddoldeb 5.10.1. Cynhaliwyd asesiad cydraddoldeb llawn o’r cynnig gerbron. Mae’r asesiad yn nodi’r sefyllfa

bresennol ac yn dangos fod polisïau a threfniadau mewn lle a fyddai’n sicrhau fod y cynnig yn ystyried ac yn cyd-fynd ag hawliau cyfartal. Wedi pwyso a mesur y ffactorau perthnasol deuir i’r casgliad bod sicrwydd yr hyrwyddir cyfleoedd cyfartal yn gadarnhaol yn sgil y cynnig a bod mesurau mewn lle i sicrhau na fydd camwahaniaethu anghyfreithlon ac aflonyddu. Mae trefniadau mewn lle yn ogystal fydd yn monitro ac yn adolygu’r sefyllfa.

5.11 Adnoddau Ariannol

5.11.1. Ein disgwyliadau yw bod Gwynedd yn gwneud y defnydd gorau posibl o’r adnoddau ariannol sydd ar gael ar gyfer addysg gynradd y Sir.

5.11.2. Mae amrywiaeth sylweddol yn y gwariant fesul disgybl rhwng un ysgol ag ysgol arall yn yr

ardal. Yn ogystal, mae nifer helaeth o ysgolion y sir wedi’u cynllunio ar gyfer llawer mwy o ddisgyblion nag sydd wedi mynychu’r ysgol ers blynyddoedd. Er na ddylai cost llefydd gweigion yrru unrhyw gynigion newydd, mae’n rhaid bod yn fyw i effaith ac oblygiadau gwariant sylweddol ar ysgolion sydd â chanran helaeth o lefydd gweigion - yn enwedig effaith ac oblygiadau hyn ar y gyllideb sy’n cyrraedd disgyblion.

5.11.3. Mae gan y dair ysgol yn yr ardal yma niferoedd sylweddol o lefydd gweigion ynddynt (fel y

diffinnir gan Lywodraeth Cymru - sef dros 25% neu 30 mewn nifer o lefydd gweigion). Tabl isod yn dangos y nifer a’r canran o lefydd gweigion yn y dair ysgol:

Ysgol Capasiti Llawn (M – Bl6) Nifer o Lefydd Gwag % o Lefydd Gwag

Y Groeslon 128 53 41%

Carmel 78 30 38%

Bronyfoel 52 26 50%

Cyfanswm 258 109 42%

Ffynhonnell: Data sydd wedi ei gyflwyno i’r Adran Addysg yn flynyddol gan yr ysgolion (i’w gyflwyno yn flynyddol i’r

Llywodraeth – Mesur Capasiti Ysgolion yng Nghymru)

5.11.4. Mae adroddiad Estyn diweddar – ‘Sut mae lleoedd dros ben yn effeithio ar yr adnoddau sydd ar gael i wario ar wella deilliannau ar gyfer disgyblion?’, Mai 2012 yn nodi ‘Pan fydd lefel uwch na’r angen o leoedd ysgol, mae adnoddau’n cael eu defnyddio’n aneffeithiol a gellid eu defnyddio’n well i wella ansawdd yr addysg ar gyfer pob dysgwr’

5.11.5. A’i adroddiad ymlaen i nodi cost i bob lle gwag mewn ysgol gynradd - sef £262 i bob lle

gwag. Yn ôl y data sydd ar gael ar gyfer yr ysgolion yma felly mae cyfanswm o 109 o lefydd gweigion - sydd felly yn gyfwerth a gwerth o £28,558 o gost.

Page 25: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

25

5.11.6. Yn ogystal, wrth ystyried y defnydd darbodus a wna’r Cyngor tuag at gynnal darpariaeth addysg mewn ardaloedd mae strategaeth Addysg Gynradd o’r Ansawdd Gorau i Blant Gwynedd yn ystyried gwariant y pen fesul disgybl.

5.11.7. Dyrennir cyfanswm o £695,000 i’r tair ysgol yn 2012/13. Mae hyn gyfystyr â £4,965 fesul

disgybl ar gyfartaledd. Mae amrediad cost y pen rhwng Ysgol Groeslon â £3,890; Ysgol Carmel yn £4,156 ac Ysgol Bronyfoel yn £6,848. Cyfartaledd cost y pen Sirol am y cyfnod hwn yw £3,838.

CYFRAN O'R GYLLIDEB Ysgol Cyfanswm

Cyllideb Cyfartaledd y

Disgybl

Gwarchodaeth Lleiafswm Staffio*

Y Groeslon £305,000 £3,890 0

Carmel £188,000 £4,156 0

Bronyfoel £202,000 £6,848 £18,661

Ardal Groeslon, Carmel, Bronyfoel £4,965

Dalgylch Dyffryn Nantlle £4,206

Gwynedd

£3,838

Ffynhonnell: Adroddiad Adran 52 Gwynedd 2012/13

5.11.8. Cyfanswm dyraniad yr Ysgol Ardal newydd ar sail y dyraniad cyfredol fyddai oddeutu

£578,000. O ran costau refeniw, byddai sefydlu’r drefniadaeth newydd yn arbed £85,000, llai anghenion cludiant ychwanegol (a amcangyfrifir yn fras yn oddeutu £40,000), sef felly oddeutu £45,000 y flwyddyn.

5.11.9. Mae Ysgol Bronyfoel yn derbyn swm ychwanegol i’r dyraniad arferol trwy’r polisi

gwarchodaeth lleiafswm staffio (sy’n gwarantu o leiaf pennaeth ac athro ymhob ysgol a phennaeth a chymhorthydd mewn ysgolion sydd â llai na 15 o ddisgyblion). Mae cyfanswm y swm ychwanegol hwn yn £18,661. Petai sefydlu ysgol ardal byddai’r nifer o ddisgyblion a rhagwelir yn ddigon er mwyn denu cyllideb fel na fyddai angen buddsoddiad ychwanegol fel hyn.

5.12 Ffactorau Daearyddol a Materion Cludiant

5.12.1. Ein disgwyliadau yw bod gan bob plentyn hawl i gael mynediad at addysg safonol o fewn pellter rhesymol i’r cartref. Sylweddolir bod Gwynedd yn sir wledig iawn gyda phellter teithio sylweddol rhwng rhai cymunedau. Wrth gyflwyno unrhyw gynigion penodol mewn sir fel Gwynedd, bydd y pellter rhwng safleoedd a’r amser teithio i’r plentyn yn ystyriaethau allweddol.

5.12.2. Mae polisi cenedlaethol yn nodi bod hyd at 45 munud o deithio unffordd yn dderbyniol.

Fodd bynnag, yma yng Ngwynedd, nodir y Strategaeth ‘Addysg Gynradd o’r Ansawdd Gorau i Blant Gwynedd’ y dylid ceisio cyfyngu teithio i uchafswm o 30 munud o deithio unffordd rhwng y cartref a’r ysgol.

Page 26: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

26

Pellter ac amser teithio rhwng yr ysgolion Ffynhonnell: Cyfartaledd Google Maps; AA Routeplanner ac RAC Routefinder

Ysgol Pellter teithio mwyaf

i'r ysgol un ffordd (milltir)*

Amser hiraf mae plentyn yn teithio i'r ysgol un ffordd

(munud)*

Nifer mwy na 20 munud

(un ffordd)*

Nifer mwy na 30 munud

(un ffordd)*

Y Groeslon 1.3 milltir 5 mun 0 0

Carmel 1 milltir 5 mun 0 0

Bronyfoel 1 milltir 5 mun 0 0

* O fewn y dalgylch

Pellter teithio disgyblion presennol

Ffynhonnell: Cyfartaledd Google Maps; AA Routeplanner ac RAC Routefinder

5.12.3. Wrth sefydlu ysgol ardal newydd yn y Groeslon byddai pob disgybl presennol o fewn

cyrraedd rhesymol (o dan 30 munud teithio) i’r ysgol.

Dalgylch

Ysgol Bronyfoel

Catchment

Dalgylch

Ysgol Carmel

Catchment

Dalgylch

Ysgol Groeslon

Catchment

Map Dalgylchoedd ysgolion Y Groeslon, Carmel a Bronyfoel 5.12.4. Yn ôl asesiad cychwynnol o’r rhwydwaith ffyrdd a llwybrau teithio i’r ysgol byddai cludiant

yn cael ei darparu i’r Ysgol Ardal yn unol â’r Polisi Cludiant.

Ysgol Carmel LL54 7AA Bronyfoel LL54 7BB

Y Groeslon LL54 7DT 1.4 milltir / 4 munud 2.2 milltir / 7 munud

Carmel LL54 7AA 1 milltir / 3 munud

Page 27: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

27

6. DEWIS SAFLE AR GYFER YR YSGOL ARDAL 6.1 Wrth ddatblygu’r cynnig yma a thrafod opsiynau yn y cyfarfodydd panel adolygu, ystyriwyd

opsiynau safleoedd ar gyfer y ddau fodel a roddwyd ar y rhestr fer; - Safleoedd ar gyfer Ysgol Ardal Aml-Safle - Safleoedd posib ar gyfer Ysgol Ardal ar un safle

6.2 O ran y model a ffafrir – ystyriwyd opsiynau o safleoedd gan roi sylw manwl i’r gofynion canlynol;

- Maint safle (2.2 acer) - Gofynion cynllunio - Mynediad hygyrch - Tirwedd gwastad - Gwasanaethau strwythurol a thraeaniad - Unrhyw faterion amgylcheddol, archeolegol, llifogydd ayb - Y gyllideb

6.3 Aseswyd safleoedd yn y tri phentref gan roi ystyriaeth i’r ffactorau amrywiol. Arweiniodd hyn at

greu rhestr fer o 4 safle oedd i’w hasesu ymhellach, sef; • Safle ger yr hen A487 gogledd Groeslon • Safle presennol Ysgol Carmel • Safle presennol Ysgol Groeslon • Safle ger yr hen A487 – i’r de o Groeslon

6.4 Dyma leoliad y safleoedd hynny: 6.5 Aseswyd y safleoedd hyn yn ofalus yn erbyn ffactorau allweddol, ac mae’r asesiad hwn i weld yn

gyflawn isod. Nodwyd fod materion cynllunio a phroblemau technegol yn cynyddu’r cymhlethdod datblygu a risgiau yn achos nifer o’r safleoedd. O asesu safle presennol Ysgol Groeslon nodwyd bod modd ymestyn y safle, a bod y lleoliad yn cynnig ei hunan i ddatblygu o fewn amodau technegol, cynllunio a chyllidebol, heb unrhyw gymhlethdod sylweddol.

Ger yr hen A487 – Gogledd

Estyniad i’r safle

Ger yr hen A487 - De

YSGOL

CARME

L

Estyniad i’r safle

Page 28: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

28

6.6 Yn ogystal, nodir y byddai lleoli’r Ysgol Ardal yn y lleoliad hwn yn sicrhau hyfywdra’r safle i’r dyfodol gan fod lleoli’r ysgol yn Groeslon yn golygu bod yr ysgol yn nes i fwy na hanner o ddisgyblion yr ardal a hefyd, mae’n golygu llai o deithio i fwyafrif o ddisgyblion yr ardal o gymharu â lleoli’r ysgol yn Carmel.

6.7 Argymhellir felly y dylid ymgynghori ar sail y bwriad i sefydlu safle’r Ysgol Ardal ar safle presennol Ysgol Groeslon fel y cynnig sydd yn rhoi'r cyfle gorau i sicrhau ysgol gynaliadwy a chadarn ar gyfer y dyfodol, gan ddiogelu addysg yn y rhan yma o ddalgylch Dyffryn Nantlle. Amcangyfrifir y bydd datblygu adeilad ysgol o’r newydd yn costio oddeutu £4.8m ac y byddai angen sicrhau achos busnes cadarn i Lywodraeth Cymru er mwyn rhannu cost y datblygiad rhwng y Llywodraeth a’r Cyngor.

Page 29: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

29

6.8 Ystyriaethau ffactorau allweddol wrth ddewis safle yr ysgol ardal Allwedd Lliwiau: Gwyrdd – Dim llawer o gymhlethdodau a risgiau isel iawn / Oren – Ychydig o gymhlethdodau a risgiau isel / Coch – Llawer o gymhlethdodau a risgiau uchel

Maint Technegol Llifogydd Ardrawiad Traffig Cynllunio Effaith ar y

costau datblygu

Cludiant a phellteroedd teithio

Safle ger yr hen A487 – i’r de o Groeslon

14,725 m2

(3.6 acer)

Tir preifat

Gwastad a chlir yn gyffredinol

gan godi’n raddol tuag at y

dwyrain

Anoddach gwasanaethu –

angen cyflenwadau ychwanegol

o bosib.

Ddim

mewn

parth risg

llifogydd

Mynediad da

Ffordd yn ddistaw (dim

ffordd drwodd) ac o led

derbyniol gyda “lay-by”

ger ffin y safle

Angen rheoli traffig yn y

gyffordd yng nghanol y

pentref ond byddai modd

lleihau'r traffig gan y gellir

creu llwybr troed yn syth

o’r stadau tai i’r safle.

Yn erbyn:

Tu allan i’r ffin datblygu;

Adeilad rhestredig ochr draw

i’r cae cyfagos (Grugan Ddu);

Ymwthiad i gefn gwlad

agored;

O blaid:

Potensial i gael mynedfa oddi

ar yr hen briffordd;

Potensial i gysylltu efo Lon

Newydd – mynedfa gerbydau

amgen i’r tai presennol?

Potensial i sgrinio;

Potensial i gael llwybrau

cerdded diogel o’r stadau tai

cyfagos

Cost

gwasanaethu

o bosib yn

uwch na rhai

safleoedd

eraill ac felly

o bosib tu

hwnt i’r

adnoddau

sydd ar gael

Y pellter teithio mwyaf

i ddisgybl fyddai tua

2.5milltir.

Byddai cludiant yn cael

ei darparu i’r Ysgol

Ardal yn unol â’r Polisi

Cludiant

Y lleoliad yn agosach i

fwy na hanner o

ddisgyblion yr ardal

Byddai yn golygu llai o

deithio i fwyafrif o

ddisgyblion yr ardal

Safle presennol Ysgol Carmel

9,855m2

Angen

prynu dau

ddarn o dir

Gwahaniaeth lefel sylweddol

(11m) o flaen i gefn y safle.

Angen gwaith peirianyddol

sylweddol i lefelu neu greu

terasau.

Llwybr cyhoeddus yn ei groesi

ar hyn o bryd – anodd dylunio o

gwmpas hyn felly angen gwyro/

diddymu o bosib.

Angen dargyfeirio gwifrau

trydan yng ngwaelod y safle i

greu man chwarae.

Oherwydd natur gul y safle

byddai angen ail leoli’r plant

oddi ar y safle yn ystod y

cyfnod adeiladu.

Ddim

mewn

parth risg

llifogydd

Dim mynedfa oddi ar y

briffordd ar hyn o bryd.

Gwahaniaeth lefel rhwng y

ffordd a’r safle

Gall y gyffordd agosaf

ymdopi gyda’r cynnydd

disgwyliedig yn y llif traffig

Byddai angen creu

darpariaeth parcio a man

troi oddi ar y briffordd.

Hyn yn anodd oherwydd

bod y safle yn gul.

Posibilrwydd o greu

system unffordd gan

ddefnyddio ail fynedfa

drwy’r maes parcio

cymunedol presennol.

Angen codi adeiladau tu allan

i’r ffin datblygu

Pryder am raddfa'r datblygiad

a’i effaith ar gymeriad pentref

gwledig fel Carmel

Pryder am yr effaith weledol

ar y golygfeydd i fyny at y

pentref ac wedyn tuag at

Eryri, ac i lawr tuag at yr

arfordir.

Anodd ei gyfiawnhau yn

nhermau cynllunio pan fo

safleoedd eraill mwy derbyniol

ar gael

Yr angen am

waith

peirianyddol

sylweddol i

lefelu/sefydlu

terasau, ail

leoli gwifrau

trydan, a

natur gul y

safle yn

arwain at

gostau

uwchlaw yr

adnoddau

sydd ar gael

Y pellter teithio mwyaf

i ddisgybl fyddai tua

2.5milltir.

Byddai cludiant yn cael

ei ddarparu i’r Ysgol

Ardal yn unol â’r Polisi

Cludiant

Y lleoliad ymhellach i

fwy na hanner o

ddisgyblion yr ardal

Byddai yn golygu mwy

o deithio i fwyafrif o

ddisgyblion yr ardal

Safle ger yr hen A487 gogledd Groeslon

10,270 m2

– 3.5 acer

Tir preifat

Gwastad a chlir yn gyffredinol

gan godi’n raddol tuag at y de

Gellid ystyried cysylltu’r

datblygiad i’r Neuadd

Gymunedol sy’n ffinio gyda’r

safle

Gwasanaethau gerllaw

Ddim

mewn

parth risg

llifogydd

Mynediad da

Ffordd o led derbyniol

gyda “lay-by” ger ffin y

safle

Angen rheoli traffig yn y

gyffordd yng nghanol y

pentref – mae posib

ystyried ail fynedfa/

system unffordd i

gynorthwyo gyda hyn

Ffordd yn gallu bod yn

brysur ar adegau – angen

mesurau diogelwch y

ffordd

Yn erbyn:

Tu allan i’r ffin datblygu

O blaid:

Mynedfa trwy’r maes parcio

presennol ger y Neuadd;

Ysgol defnydd deuol a fyddai’n

ymgorffori’r neuadd

bresennol;

Natur y defnydd a wneir o’r

lleiniau tir i’r dwyrain a

chymeriad yr ardal yn golygu

bod y safle’n integreiddio a

chysylltu’n rhesymol gyda

phatrwm datblygu presennol y

pentref o gofio bydd rhan

ohono’n gae chwarae i’r ysgol.

Dyma’r safle

a

ddefnyddiwy

d fel sail i

lunio amcan

gostau’r bid

cyfalaf

Y pellter teithio mwyaf

i ddisgybl fyddai

2.5milltir.

Byddai cludiant yn cael

ei darparu i’r Ysgol

Ardal yn unol â’r Polisi

Cludiant

Y lleoliad yn agosach i

fwy na hanner o

ddisgyblion yr ardal

Byddai yn golygu llai o

deithio i fwyafrif o

ddisgyblion yr ardal

Safle presennol Ysgol Groeslon

7,905m2 –

byddai

ychwaneg

u’r cae i’r

gogledd yn

cynyddu’r

arwynebe

dd i

14,385m2.

Byddai

angen

prynu’r

cae i’r

gogledd

Eithaf gwastad a chlir

Y ddau safle wedi eu rhannu

gan lwybr cyhoeddus - angen i’r

dyluniad ystyried hyn

Pibell nwy ar ran o’r tir

ychwanegol all gyfyngu ychydig

Gwasanaethau ar y safle yn

barod

Gellir datblygu heb ail leoli’r

plant oddi ar y safle.

Posib ystyried defnyddio’r

adeilad traddodiadol presennol

Ddim

mewn

parth risg

llifogydd

Angen

gwaith

draenio

dŵr wyneb

ar y tir

ychwaneg

ol

Mynediad presennol i’r

safle yn dda

Gall y gyffordd agosaf

ymdopi a’r cynnydd

disgwyliedig mewn llif

traffig

Bydd angen darparu man

troi a pharcio oddi ar y

briffordd

Byddai modd lleoli’r adeiladau

o fewn y ffin datblygu

bresennol

Y safle’n integreiddio a

chysylltu’n rhesymol gyda

phatrwm datblygu presennol y

pentref o gofio bydd rhan

ohono ar safle presennol yr

ysgol;.

Potensial i sgrinio

Ni ragwelir gwrthwynebiad

sylweddol i ganiatáu adeiladu

ar y safle hwn

Posibilrwydd

o weld

datblygiad

rhatach na’r

adnoddau

sydd ar gael

os gellir

defnyddio’r

adeilad

traddodiadol

presennol fel

rhan o’r

datblygiad

Y pellter teithio mwyaf

i ddisgybl fyddai tua

2.5milltir.

Byddai cludiant yn cael

ei darparu i’r Ysgol

Ardal yn unol â’r Polisi

Cludiant

Y lleoliad yn agosach i

fwy na hanner o

ddisgyblion yr ardal

Byddai yn golygu llai o

deithio i fwyafrif o

ddisgyblion yr ardal

Page 30: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

30

7. OBLYGIADAU’R CYNNIG

7.0.1. Mae’r cynnig hwn yn golygu y bydd tair ysgol yn cau gan ddatblygu un ysgol newydd.

Ysgol Ardal

Groeslon Carmel Bronyfoel

7.1 Golyga hyn:

• Cau Ysgolion Groeslon, Carmel a Bronyfoel • Sefydlu un Ysgol Ardal yn y Groeslon • Ni fydd safle felly yng Ngharmel (Ysgol Carmel) nac yn y Fron (Ysgol Bronyfoel)

7.2 Bydd amryw o gyfleon i ddatblygu ar sylfaen ansawdd y dysgu ac addysgu sydd yn yr

ardal eisoes, sydd yn cynnwys; - darparu ysgol newydd a chynaliadwy a fydd yn addas i’r diben; - sicrhau cysondeb o ran maint dosbarthiadau ac ystod oedran o fewn dosbarthiadau; - cwrdd â’r her o newidiadau yn y boblogaeth dros y blynyddoedd nesaf; - cyfle hefyd i fuddsoddi bron iawn i £5miliwn i ddatblygu cyfleusterau fydd yn golygu

datblygu amgylchedd dysgu modern, addas i bwrpas, gydag adnoddau o’r radd flaenaf; - sicrhau arweiniad a rheolaeth ysgol gadarn; - lleihau cost y pen o ddarparu addysg gynradd yn yr ardal; - sicrhau y byddai mwy o gyllid ar gael i fuddsoddi mewn disgyblion ac addysg; - lleihau’n sylweddol nifer y lleoedd gweigion mewn ysgolion yn yr ardal; - creu sefydliad cadarn a chynaliadwy i ddarparu addysg yn y dyfodol.

7.3 Ystyriaethau wrth gau Ysgol Carmel ac Ysgol Bronyfoel 7.3.1. Rhoddwyd ystyriaeth gychwynnol i leoli’r ysgol ardal yn y Fron, ond daethpwyd i’r casgliad

nad oes safle addas fyddai yn ymateb i fwyafrif o’r gofynion technegol; - Maint safle (2.2 acer) - Gofynion Cynllunio - Mynediad hygyrch - Tirwedd gwastad - Gwasanaethau strwythurol a thraeaniad - Unrhyw faterion amgylcheddol, archeolegol, llifogydd ayb - Y gyllideb

Creu Ysgol Ardal

1 safle ar gyfer ardaloedd Groeslon,

Carmel a Bronyfoel (Fron)

Safle yn y Groeslon

Page 31: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

31

7.3.2. Rhoddwyd ystyriaeth gynhwysfawr i safle presennol Ysgol Carmel fel opsiwn ar gyfer yr

Ysgol Ardal, ond penderfynwyd peidio a’i argymell fel safle ar gyfer yr Ysgol Ardal. Dyma rai o’r rhesymau; - Nodwyd fod materion cynllunio a phroblemau peirianyddol yn cynyddu’r cymhlethdod

datblygu a risgiau datblygu’r safle - Golygai hynny y byddai’r gost yn cynyddu - Y lleoliad ymhellach i fwy na hanner o ddisgyblion yr ardal - Byddai yn golygu mwy o deithio i fwyafrif o ddisgyblion yr ardal

7.3.3. Mae’r adroddiadau effaith cymunedol yn nodi pryderon ynglŷn â chau Ysgol Carmel ac

Ysgol Bronyfoel ar y cymunedau yno. Bydd ystyriaeth i’r mesurau a argymhellir yn yr asesiadau hynny er mwyn lliniaru’r effaith ar y cymunedau hynny.

7.4 Ôl ddefnydd safleoedd a chefnogi cymunedau 7.4.1. Fel rhan o gamau i liniaru unrhyw effaith o gau ysgol mewn ardal - os oes dymuniad lleol

bydd y Cyngor yn gofyn i’w Swyddogion Adfywio gefnogi’r gymuned wrth ystyried unrhyw ôl-ddefnydd o dir ac adeiladau a ryddheir o ganlyniad i’r ad-drefnu. Gwneir hynny yn unol â pholisïau a phrotocol gweithredu y mae’r Cyngor eisoes wedi’u mabwysiadu yn ôl yn 2010.

7.5 Ystyriaethau Staffio

7.5.1. Petai cymeradwyaeth i’r cynnig byddai goblygiadau staffio allai arwain at ansicrwydd a diswyddiadau. Ymgynghorir yn benodol â staff a chynrychiolwyr yr Undebau fel rhan o'r ymgynghori presennol. Mae Cyngor Gwynedd wedi datblygu polisi staffio manwl, ar y cyd â’r Undebau Llafur a phenaethiaid. Bydd rhaid i unrhyw ddiswyddiadau o ganlyniad i’r cynnig hwn gyd-fynd â’r polisi hwnnw. Bydd cyfathrebu’n glir ac agored yn chwarae rhan greiddiol mewn gweithredu unrhyw gynigion.

7.5.2. Wrth sefydlu’r ysgol, bydd disgwyl i’r Corff Llywodraethu benodi staff ar gyfer yr ysgol.

Bydd Gwasanaeth Personél y Cyngor ar gael i roi cymorth a chyngor i’r Corff Llywodraethu a’r staff ynglŷn a’r broses.

7.6 Un Ysgol Ardal

7.6.1. Er mwyn sefydlu’r Ysgol Ardal bydd yn rhaid cau’r ysgolion dan sylw (Groeslon, Carmel a Bronyfoel), ac ail agor safle yn Groeslon er mwyn sefydlu’r Ysgol Ardal.

7.6.2. Eglurwyd eisoes oblygiadau sefydlu endid un ysgol o ran:

- Arweinyddiaeth (un Pennaeth) - Rheolaeth lywodraethol (un corff llywodraethol) - Cyllidebol (un gyllideb)

7.6.3. O greu’r Ysgol Ardal newydd bydd angen sefydlu Corff Llywodraethu, cyfansoddiad yr ysgol

a phenodi staff. Mater i Gorff Llywodraethu’r Ysgol Ardal fydd y strwythur staffio. Fodd bynnag, awgryma’r Cyngor y dylai’r Ysgol Ardal glustnodi’r swyddi sy’n deillio o weithredu’r drefn newydd ar gyfer staff sydd yn gweithio o fewn y tair ysgol yn y lle cyntaf.

Page 32: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

32

7.6.4. Wrth weithredu’r cynnig yma bydd dalgylchoedd yr ysgolion presennol yn cael eu haddasu. Gweler dalgylchoedd y dair ysgol bresennol ar y map isod. Defnyddir dalgylchoedd er mwyn adnabod ble mae’r ysgol agosaf i rieni/plant yn ddibynnol ar ble maent yn byw. Dyma sut mae’n bosib gwireddu Polisi Cludiant a Mynediad yr Awdurdod.

Dalgylch

Ysgol Bronyfoel

Catchment

Dalgylch

Ysgol Carmel

Catchment

Dalgylch

Ysgol Groeslon

Catchment

7.6.5. O ran cludiant, yn unol â pholisi’r awdurdod, bydd cludiant am ddim i ddisgyblion sydd yn byw 2 filltir neu drosodd o’r ysgol y maent yn byw yn ei dalgylch, neu’r ysgol agosaf. Yn ôl asesiad cychwynnol o’r rhwydwaith ffyrdd a llwybrau teithio i’r ysgol byddai cludiant yn cael ei darparu i’r Ysgol Ardal yn unol â’r Polisi gan edrych ar sefyllfaoedd penodol rhai unigolion.

7.6.6. Bydd cyllideb yr ysgol yn seiliedig ar niferoedd disgyblion fydd yn mynychu’r ysgol yn unol

â’r fformiwla cyllido ysgolion a hynny yn unol ag Adran 52 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

7.7 I Grynhoi

7.7.1. Cynigir felly i gau ysgolion Groeslon, Carmel a Bronyfoel gan sefydlu Ysgol Ardal wedi ei lleoli yn Groeslon i ddarparu addysg ar gyfer disgyblion cynradd ardal Y Groeslon, Carmel a Fron.

Page 33: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

33

8. AMSERLEN O’R BROSES STATUDOL A’R CAMAU NESAF

18 Mawrth, 2013 Cychwyn y cyfnod Ymgynghori Statudol 10, 15, 16 Ebrill, 2013 Cyfarfodydd Ymgynghori â Staff, Llywodraethwyr a Rhieni 13:00 ar 26 Ebrill, 2013 Dyddiad cau i dderbyn sylwadau ar y cynnig Mai 2013 Cabinet yn penderfynu cyhoeddi Rhybuddion Statudol a’i pheidio Ie Na Mehefin 2013 Cyhoeddi Rhybudd Statudol Gwrthod Y Cynnig Gorffennaf 2013 Diwedd Cyfnod Gwrthwynebu Ffurfiol Derbyniwyd Gwrthwynebiadau? Do Naddo

Trosglwyddo unrhyw wrthwynebiadau i Lywodraeth Cymru – gallai’r cynnig cael ei

gymeradwyo, ei wrthod neu’i newid (hyd at 7 mis i dderbyn penderfyniad)

Cyfarfod Cabinet

Cadarnhau’r Cynnig?

Na – Gwrthod y cynnig

Ie

Gweithredu’r Cynnig Erbyn 31 Awst 2015

Cyfnod o Fis

Page 34: Groeslon, Carmel, Bronyfoel - Dogfen Ymgynghorol Statudol … · 2019. 5. 15. · 18 Mawrth 2013 Annwyl Ymgynghorai, Rydym yn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a

34

CYNGOR SIR GWYNEDD

CYNNIG I GAU YSGOLION GROESLON, CARMEL A BRONYFOEL AR 31 AWST 2015 YN UNOL AG ADRAN 29 DEDDF SAFONAU A FFRAMWAITH YSGOLION

1998 a

CHYNNIG I SEFYDLU YSGOL ARDAL AR SAFLE PRESENNOL YSGOL GROESLON YN UNOL AG ADRAN 28 DEDDF SAFONAU A FFRAMWAITH YSGOLION 1998

AR 1 MEDI 2015

FFURFLEN YMATEB (Atodwch y ffurflen yma i’ch ymateb llawn)

Darparwch y wybodaeth ganlynol os gwelwch yn dda: 1. Enw: 2. Cyfeiriad:

3. Rwy’n ymateb fel (nodwch isod os gwelwch yn dda):

Rhiant

� Llywodraethwr

� Staff

� Disgybl

� Arall

(nodwch isod)

Arall: Nodwch isod os ydych yn cytuno i’r Cyngor gyhoeddi eich ymateb. Atodwch y dudalen hon i flaen eich ymateb i’r ymgynghoriad statudol. Gyda’ch caniatâd, byddwn yn ailgynhyrchu ymatebion, yn llawn neu wedi tynnu manylion personol fel enwau a chyfeiriadau, mewn adroddiad i’r Cabinet ar yr ymgynghoriad statudol.

Yn ôl gofynion y Ddeddf Diogelu Data 1998 mae angen i ni eich hysbysu o’r canlynol. Mae Cyngor Gwynedd yn ceisio eich barn ar y cynnig hwn fel rhan o broses ymgynghorol statudol. Defnyddir eich gwybodaeth bersonol am y rheswm yma’n unig, ac efallai y rhennir y wybodaeth gydag asiantaethau sydd yn rhan o’r ymgynghoriad er mwyn ymateb i faterion penodol sydd wedi eu codi gennych yn unig (e.e. Llywodraeth Cymru). Byddwn yn parhau i ystyried eich sylwadau pa bynnag opsiwn a ddewisir.

Dychwelir ymatebion i: Swyddfa Trefniadaeth Ysgolion, Cyngor Gwynedd, Pencadlys, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH neu

[email protected]

Dyddiad Cau: 13:00 ar 26 Ebrill 2013

Ia, cytunaf i’r Cyngor gyhoeddi fy ymateb ar ôl

tynnu gwybodaeth bersonol

Na, ni ddylai’r Cyngor gyhoeddi fy ymateb

Ia, cytunaf i’r Cyngor gyhoeddi fy ymateb llawn