grŵp tai pennaf adroddiad gweithgareddau 2013-14

17
Agor Drysau – Gwella Bywydau Gwasanaethau i Bawb ADRODDIAD GWEITHGAREDDAU BLYNYDDOL 2013-14

Upload: pennaf-housing-group

Post on 02-Apr-2016

213 views

Category:

Documents


0 download

DESCRIPTION

 

TRANSCRIPT

Page 1: Grŵp Tai Pennaf Adroddiad Gweithgareddau 2013-14

Agor Drysau – Gwella Bywydau

Gwasanaethau i BawbADRODDIAD GWEITHGAREDDAU BLYNYDDOL 2013-14

Page 2: Grŵp Tai Pennaf Adroddiad Gweithgareddau 2013-14

Gwasanaethau i bawb …

Heddiw mae’r Grŵp yn gweithredu ar draws ardal saith awdurdod lleol ac yn rheoli dros 5,500 o unedau o lety. Gyda Pennaf Cyf fel rhiant gwmni, mae saith endid y Grŵp (Pennaf, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, Cymdeithas Tai Tŷ Glas, Offa, Tir Tai, PenAlyn a PenElwy) yn cynnig gwasanaethau sy’n cyd-fynd â’i gilydd ac yn manteisio ar gael cefnogaeth ei gilydd, ac ar yr un pryd yn cadw eu hunaniaeth a’u rôl unigryw eu hunain. Darlunnir y berthynas gref sy’n bodoli rhwng y gwahanol endidau yng Nghynllun Busnes y Grŵp, sy’n dangos dyhead y sefydliad i barhau i ddatblygu mwy o lety a gwasanaethau cefnogi cysylltiedig i fodloni’r ystod eang o anghenion gan y cleientiaid y mae’n darparu ar eu cyfer.

Prif Ddiben y Grŵp yw Agor Drysau - Gwella Bywydau, y mae’n ei gyflawni trwy gyfres o flaenoriaethau tymor canolig sy’n cael eu gyrru gan ganlyniadau i’r gymuned. Mae’r rhain wedi eu dosbarthu dan ddwy ‘Thema’ allweddol:

à Gwella Cymunedau yn adlewyrchu’r pwyslais ar weithio gyda rhanddeiliaid, preswylwyr yn arbennig, i wella gwasanaethau yn barhaus a diwallu anghenion yn y gymuned.

à Gwella Adnoddau a Llywodraethu sy’n adlewyrchu ar yr isadeiledd mewnol a’r bobl yn y Grŵp, i ddarparu gwasanaethau o safon uchel, cost effeithiol ac effeithlon, a sicrhau ein bod yn medru gwrthsefyll yr amgylchedd allanol presennol.

Gyda hanes trawiadol dros y 35 mlynedd diwethaf, pan wnaeth Cymdeithas Tai Clwyd Alyn gaffael ei heiddo cyntaf ym Mhen Gorllewinol y Rhyl, mae strwythur Grŵp Tai Pennaf fel mae’n sefyll heddiw wedi cael ei gynllunio i alluogi’r sefydliad i fod yn fwy ymatebol i anghenion y cymunedau y mae’n gweithredu ynddynt, i gynyddu atebolrwydd lleol, i hwyluso darparu ystod ehangach o wasanaethau o safon uchel i gwsmeriaid, i wneud defnydd mwy effeithlon o’r adnoddau sydd ar gael a rhoi preswylwyr yn ganolog i’n gweithgareddau.

“Some people just see a young person in a tracksuit with a hoodie and think they know who that person is. They don’t see the individual with hopes and dreams and skills. Here at Isallt you are treated as an individual and you can begin to have hope for the future again”.

“Moving from a nursing home to an apartment of my own at Tan y Fron has been fabulous. The food in the restaurant really is first class. It’s peaceful here, it’s lovely to have your own home with your own front door, but at the same time you feel part of things with friendly people around you too. Being here has definitely added to my quality of life”.

Yn sail i holl waith y Grŵp mae ei Egwyddorion Craidd, sy’n ymrwymo Staff ac Aelodau’r Bwrdd i gyflawni eu dyletswyddau mewn fframwaith o werthoedd gwaelodol, sy’n cael eu crynhoi dan yr acronym “I CARE”:

Mae’r Grŵp yn darparu tai yn bennaf, a phan fydd hynny’n berthnasol, gwasanaethau gofal a chefnogaeth, i amrywiaeth eang o gleientiaid gan gynnwys: teuluoedd, pobl sengl, pobl hŷn, pobl ag anableddau dysgu a chorfforol a phrosiectau amrywiol i grwpiau bregus. Mae’r prosiectau yn amrywio o lety cyffredinol i deuluoedd, cynlluniau byw â chefnogaeth, cartrefi gofal, cynlluniau gofal ychwanegol, tai gyda gofal a chefnogaeth ac amrywiaeth eang o ddewisiadau perchenogaeth tai, ynghyd â Gofal a Thrwsio, gosod a rheoli eiddo, ac ystod eang o waith trwsio o ddydd i ddydd a gwasanaethau cynnal a chadw.

“Roedd symud o gartref

nyrsio i fy fflat fy hun yn Nhan

y Fron yn wych. Mae’r bwyd

yn y bwyty o’r safon uchaf.

Mae’n dawel yma, mae mor

braf cael eich cartref eich

hun gyda’ch drws ffrynt eich

hun, ond ar yr un pryd rydych

yn teimlo eich bod yn rhan o

bethau gyda phobl gyfeillgar

o’ch cwmpas hefyd. Mae

bod yma wedi ychwanegu at

safon fy mywyd yn sicr.”

“Mae rhai pobl yn gweld

person ifanc mewn tracwisg

a hwdi ac yn meddwl eu bod

yn gwybod pwy yw’r person

hwnnw. Fyddan nhw ddim

yn gweld yr unigolyn gyda

gobeithion a breuddwydion a

sgiliau. Yma yn Isallt rydych

yn cael eich trin fel unigolyn

a gallwch ddechrau cael

gobaith am y dyfodol eto”.

2

à UNPLYGRWYDD - gonestrwydd ac ymddiriedaeth ym mhopeth a wnawn

à GOFAL - edrych ar eich ôl eich hun, eraill a chymunedau

à ATEBOL - cymryd cyfrifoldeb am ein gweithredoedd

à PARCH - parchu eich hun ac eraill

à CYDRADDOLDEB - derbyn gwahaniaethau a thrin pawb yn deg

Page 3: Grŵp Tai Pennaf Adroddiad Gweithgareddau 2013-14

Datganiad y Cadeirydd

Mae’r Grŵp wedi parhau i fod yn arbennig o effeithiol wrth ymateb i’r amgylchedd sy’n newid yn barhaus y mae’n gweithredu ynddo, gan gydnabod pwysigrwydd bod yn hyblyg, gweithio gyda’n partneriaid awdurdod lleol i osod anghenion tai gwahanol yn nhrefn blaenoriaeth a defnyddio rhagolygon yn y tymor hir i ddod o hyd i atebion dyfeisgar i ddiwallu anghenion yn y dyfodol.

Rydym yn parhau i ddatblygu prosiectau i fodloni anghenion tai amrywiol iawn ac rydym wedi darparu 124 o unedau newydd ychwanegol yn ystod 2013/14 yn Gaerwen, Treuddyn, Llandudno, Llanddulas, Y Fflint, Rhuddlan a’r Rhyl gan ddefnyddio cyfuniad o grantiau gan Lywodraeth Cymru a chyllid preifat a godwyd gan y Grŵp. Yn ychwanegol, mae ein pumed cynllun gofal ychwanegol wedi cael ei orffen yn Llandudno; rydym yn parhau i ddatblygu prosiectau nad ydynt yn rhai preswyl; rydym yn parhau i fod yn gysylltiedig â gweithgareddau adfywio – yn arbennig yn Ardal Adfywio Strategol Gogledd Cymru; ac mae ein gwaith datblygu ar brosiectau tai cymdeithasol prif ffrwd a gweithgareddau cymunedol tenantiaid yn mynd o nerth i nerth. Yn ychwanegol, rydym wedi parhau i fuddsoddi yn sylweddol mewn darparu technolegau gwyrdd i leihau costau ynni i’n preswylwyr.

Yn fewnol mae dull y Grŵp, sy’n rhoi pwyslais ar ganlyniadau wrth reoli perfformiad, yn unol â Fframwaith Rheolaethol Llywodraeth Cymru, yn gweithio’n dda. Mae’r holl ganlyniadau cyflawni yr ydym ni wedi bod yn gweithio arnyn nhw wedi cael eu pennu yn dilyn proses ymgynghorol gynhwysfawr gyda’n preswylwyr a’n rhanddeiliaid – gan danlinellu ein hymrwymiad i roi cwsmeriaid yn ganolog i bopeth a wnawn - ac mae’r dull hwn yn awr yn ffurfio sail ein gweithgareddau cynllunio busnes, gwella parhaus a hunan asesu. Diolch i gyfraniad ein preswylwyr ar ein holl Grwpiau ‘Atebolrwydd ar Sail Canlyniadau’, maen nhw wedi helpu i gael dylanwad ar welliannau i ystod gyfan o wasanaethau gan gynnwys Ffurflen Gais Trosglwyddo symlach, sefydlu Grŵp Rheoli Asedau i edrych ar eiddo ‘anodd eu gosod’, datblygu ‘safon tŷ gwag newydd’ i sicrhau fod tai foid yn cael eu hailosod

mor gynnar â phosibl a darparu adborth i breswylwyr ar sut y mae eu cyfraniad wedi gwneud gwahaniaeth. Diolch i chi i gyd am eich cyfraniad gwerthfawr.

Wrth edrych i’r dyfodol, mae cyflymder newid i’r Grŵp yn gyflym, gan gynnig sialensiau a chyfleoedd. Wrth ymateb i’r amgylchedd allanol yr ydym yn gweithredu ynddo, byddwn yn ceisio rhagweld newid yn barhaus ac addasu yn rhagweithiol yn barhaus i ymateb i hynny. Agwedd holl bwysig yw cynnal hyfywedd ariannol, effeithlonrwydd, cost effeithiolrwydd a bodlonrwydd rhanddeiliaid, yn arbennig ar gyfer y prif ddefnyddwyr gwasanaeth fel ein preswylwyr.

Hon yw fy mlwyddyn olaf fel Cadeirydd a dymunaf gofnodi fy niolch i bawb o’m cydweithwyr ar y Bwrdd a Staff y Grŵp am eu cefnogaeth yn y gorffennol a’u hymroddiad dros y blynyddoedd. Bu 2013/14 yn flwyddyn dda a gyda’n gilydd rydym wedi cyflawni nodau’r Grŵp, ac mae rhai ohonynt yn cael sylw yn yr Adroddiad hwn dan y thema gyffredinol o ‘Gwasanaethau i Bawb’. Bu’n bleser gwasanaethu’r Grŵp ac edrychaf ymlaen at weld gweithgareddau Pennaf fel darparwr tai a gwasanaethau cysylltiedig yng Ngogledd Cymru yn parhau”.

Roger Waters, Cadeirydd, Pennaf Cyfyngedig

Mae’r sector tai yn newid yn barhaus ac mae 2013 - 14 wedi bod yn flwyddyn arall eithriadol o brysur a llwyddiannus i Grŵp Tai Pennaf, diolch i waith caled ac ymroddiad Aelodau’r Bwrdd a’r Staff, sy’n gwneud gwaith y Grŵp er budd pawb sy’n troi atom ni am gymorth, a hefyd i gefnogaeth barhaus y nifer o grwpiau rhanddeiliaid.

Dr Sarah Horrocks, Cadeirydd,

Cymdeithas Tai Clwyd Alyn

Mrs Judy Owen, Cadeirydd,

Cymdeithas Tai Tŷ Glas

Dr Angela Holdsworth, Cadeirydd,

Offa a Tir Tai

Mr Glyn M Jones, Cadeirydd,

PenAlyn a PenElwy

3

Page 4: Grŵp Tai Pennaf Adroddiad Gweithgareddau 2013-14

Parhaodd y galw am gyngor ariannol a dyledion i gynyddu a dros y flwyddyn ddiwethaf, derbyniodd Cynghorydd Budd-daliadau Lles a Dyled Clwyd Alyn bron i 150 o gyfeiriadau i breswylwyr, gyda chyfanswm y ddyled a drafodwyd yn fwy na £302,000. Fe wnaeth preswylwyr yr oedd cyflwyno’r ‘dreth ystafell wely’ wedi effeithio arnyn nhw hefyd dderbyn cymorth i wneud cais am Daliad Tai Dewisol (DHP), gyda dros 80% o’r ceisiadau yn llwyddiannus, ac fe gyfeiriwyd nifer o breswylwyr at asiantaethau eraill i gael cyngor a chefnogaeth.

Gwelodd y Tîm Gwasanaethau Tenantiaeth tua 300 o breswylwyr yn ystod Rhaglen Teithiau Stadau Haf y llynedd. Y diwygiadau i’r wladwriaeth les oedd y thema ganolog ac roedd y staff yn siarad yn uniongyrchol gyda phreswylwyr yn eu cymunedau lleol am sut yr oedden nhw’n ymdopi gyda’r newidiadau a chynnig cyngor priodol a chefnogaeth pan oedd angen hynny. Roedd y Gynhadledd Breswylwyr a gynhaliwyd ym mis Hydref hefyd yn canolbwyntio ar y thema o archwilio effeithiau Diwygio’r Wladwriaeth Les gyda’r preswylwyr. Anfonodd un oedd yn bresennol e-bost at y Gymdeithas ar ôl y digwyddiad yn dweud: “Fel tenant newydd i Clwyd Alyn mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn eich llongyfarch ar Gynhadledd oedd wedi ei threfnu’n dda - roedd y wybodaeth yn werthfawr iawn i mi hefyd, fel yr oedd i’r tenantiaid eraill yn y cyfarfod rwy’n siŵr”.

Cynhwysiant Ariannol

Mae cyfran sylweddol o breswylwyr Clwyd Alyn, yn arbennig y rhai sy’n byw ar incwm isel, yn gweld eu hunain yn cael eu hallgau yn ariannol. Cred llawer o’r preswylwyr yma sydd angen benthyca arian, a hynny yn anghywir, mai’r unig ddewis yw mynd at fenthycwyr llogau uchel fel cwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog, gwystlwyr neu, yn waeth fyth, benthycwyr ar y trothwy. Mae’r Gymdeithas wedi parhau i hybu a chyfeirio preswylwyr at sefydliadau fel yr Undeb Credyd a Money Line Cymru, sy’n cynnig credyd fforddiadwy, ac mae ein Swyddogion Lles wedi bod yn rhoi hyfforddiant Cynhwysiant Ariannol i staff rheng flaen i godi ymwybyddiaeth a gwybodaeth am y pwnc i’w helpu i roi’r gwasanaeth gorau posibl i denantiaid.

4

Page 5: Grŵp Tai Pennaf Adroddiad Gweithgareddau 2013-14

Gweithgareddau CymunedolMae’r Tîm Ymlyniad a Datblygu Cymunedol wedi parhau i weithio’n ddiflino dros y flwyddyn ddiwethaf gyda llu o gydweithwyr, preswylwyr lleol ac asiantaethau allanol sy’n bartneriaid i redeg ystod eang o brosiectau i ymateb i anghenion penodol a ddynodwyd yn eu cymunedau. Fe wnaeth y gweithgareddau yma helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i breswylwyr a’r amgylchedd lleol a dyma i chi flas o rai o’r prif ganlyniadau y gwnaeth y prosiectau yma helpu i’w cyflawni:

Gwella Bioamrywiaeth yn Lleol:

ÃÃ Yn Fflint, fe wnaeth pobl ifanc gymryd rhan mewn digwyddiad yn yr afon yn nant ‘Tyddyn’. Fe wnaeth y plant godi bywyd gwyllt o’r pwll, defnyddio siart i adnabod beth yr oedden nhw wedi ei ganfod ac yna dychwelyd popeth yn ôl i’r nant.

ÃÃ Yn Nhreuddyn, bu’r preswylwyr yn creu byrddau bwyd adar, potiau planhigion a ‘gwestai’ pryfed o ddeunyddiau naturiol. Fe wnaethon nhw fynd â’r eitemau adref wedyn i helpu i ddenu adar a phryfed i’w gerddi.

ÃÃ Fe wnaeth grŵp o bobl ifanc yn y Rhyl gymryd rhan mewn ‘helfa chwilod’ mewn gwisg ffansi cyn Calan Gaeaf i weld pa bryfed y byddent yn eu hadnabod yn eu hardal leol.

ÃÃ Pan wnaeth pobl ifanc o Lôn yr Orsaf yn yr Wyddgrug ddysgu bod llawer o rywogaethau cynhenid dan fygythiad neu eisoes wedi diflannu, fe wnaethant benderfynu gwneud offer bwydo ieir bach yr haf o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu gan helpu i’w denu yn ôl i’w gerddi.

ÃÃ Cynhaliodd Groundwork sesiwn yn Llys David Lord yn Wrecsam a anelwyd at ddysgu pobl ifanc sut i wneud blychau nythu adar ac offer bwydo adar.

ÃÃ Cymerodd preswylwyr yn Sir y Fflint a Chonwy ran mewn nifer o ddigwyddiadau ‘Penwythnos Gwyllt’, ymgyrch genedlaethol a ddyluniwyd i gynyddu’r nifer o wenyn ac ieir bach yr haf cynhenid yng Nghymru. Roedd y gweithgareddau yn cynnwys gwneud ‘gwestai’ gwenyn a phlannu blodau i ddenu pryfed i beillio a bywiogi eu cymunedau.

5

Page 6: Grŵp Tai Pennaf Adroddiad Gweithgareddau 2013-14

‘Pontio’r Bwlch rhwng Cenedlaethau’

à Parhaodd preswylwyr o gynllun tai cysgodol y Gymdeithas, Pentre Mawr i weithio gyda disgyblion o Ysgol Emrys ap Iwan ar ‘Brosiect Darllen Rhwng y Cenedlaethau’, a fu o fudd i’r preswylwyr hŷn a’r disgyblion fel ei gilydd. Roedd y prosiect yn cynnig cyfle i ddisgyblion ymarfer a datblygu eu sgiliau darllen mewn amgylchedd cefnogol, gyda’r preswylwyr hŷn yn barod iawn i wrando a chynnig help yn ôl y gofyn. Trwy ddefnyddio peiriannau Kindle, roedd y prosiect hefyd yn helpu preswylwyr i ddod yn fwy ymwybodol o dechnoleg newydd ac fe luniwyd cyfeillgarwch gwerthfawr rhwng y gwahanol genedlaethau. Roedd y prosiect ar y rhestr fer am Wobr Tai Cymru 2013 a dywedodd un o’r athrawon o Ysgol Emrys ap Iwan: “Mae hi wedi bod mor braf gweld y ddwy genhedlaeth yn darllen ac yn siarad hefo’i gilydd...yn gyffredinol mae’r prosiect hwn wedi gwella sgiliau darllen, cyfathrebu a thechnoleg a datblygu cyfeillgarwch braf iawn rhwng y disgyblion a’r preswylwyr ... fe fu’n bleser cymryd rhan”.

à Ymunodd preswylwyr o gynllun Byw â Chefnogaeth y Gymdeithas yn Isallt yn Llandudno â phreswylwyr Pentre Mawr trwy gymryd rhan mewn ‘Cwrs Coginio a Bwyta’ 6 wythnos i’r ddwy genhedlaeth ac roedd yr ymateb i’r prosiect hwn yr un mor galonogol. Esboniodd Gweithiwr Prosiect o Isallt: “Mae un o’n preswylwyr eisoes wedi dod yn ffrindiau ag un o’r preswylwyr o Pentre Mawr. Mae hi mor braf ei bod yn bosibl cau’r bwlch rhwng cenedlaethau fel hyn, a phawb yn mwynhau cwmni ei gilydd ... roedd yr ymateb gan bawb a gymerodd ran yn gadarnhaol iawn”. Yn y cyfamser, dywedodd Alison Pring, Warden yn Pentre Mawr wrthym fod y preswylwyr “...wedi mwynhau eu hunain yn fawr ac maen nhw’n methu aros tan ddydd Llun nesaf i gael mynd eto. Roedd y preswylwyr eraill i gyd yn genfigennus pan gawson nhw wybod y cwbl oedden nhw wedi ei ddysgu... yn arbennig mwynhau’r pryd a chwmni’r bobl ifanc yn y cynllun... Roedd un preswyliwr yn gallu trafod ei phroblemau diet gyda’r tiwtor ac fe lwyddodd i roi llawer iawn o help iddi. Roedd hi’n wirioneddol braf eu gweld mor hapus a brwdfrydig”.

6

Page 7: Grŵp Tai Pennaf Adroddiad Gweithgareddau 2013-14

Fe wnaeth nifer o ddigwyddiadau a fwriadwyd i ddwyn pobl at ei gilydd i wneud gweithgareddau hwyliog positif hefyd helpu i adeiladu gwell cysylltiadau mewn cymunedau:

à Rhoddodd digwyddiad ‘Cyfarfod Eich Cymdogion’ a gynhaliwyd yn Llys Alarch yn Y Fflint gyfle i breswylwyr gyfarfod ar dir eu cynllun dros fwyd a diod a thrafod eu hanghenion presennol, ac fe ymdriniwyd â’r materion hynny gyda chefnogaeth swyddogion a’r Gymdeithas Breswylwyr leol. Yna fe wnaeth y grŵp preswylwyr sicrhau grant i brynu BBQ, meinciau i’r ardd a sied, gan eu galluogi i drefnu eu digwyddiadau cymunedol eu hunain a dod at ei gilydd yn amlach.

à Trefnwyd ‘Diwrnod o Hwyl’ ar Stad Oldford yn y Trallwng a fwriadwyd i ddynodi pa sgiliau oedd gan y preswylwyr, gan eu hannog i gyfrannu at eu Grŵp Preswylwyr lleol a helpu pobl i gymdeithasu yn eu cymuned eu hunain.

Yn gyffredinol, rhagwelir bod y digwyddiadau a gweithgareddau amrywiol a drefnwyd mewn partneriaeth â phreswylwyr lleol ac asiantaethau eraill wedi helpu i gyflawni ystod eang o ganlyniadau gwahanol gan gynnwys gwella sgiliau ac iechyd a lles; lleihau unigrwydd; ymdrin â ffactorau sy’n helpu i oresgyn tlodi; cynyddu dealltwriaeth rhwng cenedlaethau; helpu i greu balchder a chreu cymunedau mwy diogel; hybu cydraddoldeb cyfle a mynediad at gyfleusterau chwarae, hyfforddiant ac ati; grymuso preswylwyr a chynyddu hyder wrth iddyn nhw sylweddoli pa wahaniaeth y gallan nhw ei wneud trwy weithio gyda’i gilydd; cryfhau cysylltiadau gwaith y Gymdeithas gyda’r sector preifat, statudol a gwirfoddol; ymdrin ag allgauedd digidol; a dathlu llwyddiant preswylwyr lleol a chodi ymwybyddiaeth ohonynt yn y gymuned ehangach.

Adeiladu Cymunedau a Gwella Cysylltiadau mewn Cymunedau

7

Page 8: Grŵp Tai Pennaf Adroddiad Gweithgareddau 2013-14

Cyrraedd Disgwyliadau Cwsmeriaid a Bodlonrwydd

Mae’r tîm staff yn PenAlyn wedi cael blwyddyn eithriadol o brysur yn cynnig gwasanaethau cynnal a chadw ymatebol ac wedi eu cynllunio i’n preswylwyr. Fe wnaeth eu cynhyrchiant ddyblu mewn cymhariaeth â’r 12 mis cyn hynny, gan sicrhau bod mwy o waith yn cael ei gwblhau yn yr amserlenni a ragdybiwyd. Mae hyn wedi ein helpu i wella’r modd y darperir gwasanaeth, cynyddu bodlonrwydd cwsmeriaid, gostwng costau cynnal a chadw a gwireddu arbedion trwy resymoli rheoli asedau a swyddogaethau cynnal a chadw.

Dywedodd Scott Brassington, Rheolwr Gyfarwyddwr PenAlyn: “Fe wnaeth ein gweithwyr lwyddo i ddiweddaru 141 bwyler, gosod 258 cegin newydd ac adnewyddu neu newid cyfanswm o 211 ystafell ymolchi, ac wrth wneud hynny maent wedi helpu i wella cyflwr a chynyddu oes stoc tai Clwyd Alyn. Yn ychwanegol, fe wnaethom gyrraedd ar gyfartaledd 96% o’n targedau o gyflawni gwaith mewn amserlen benodol a chael cyfradd bodlonrwydd cwsmeriaid ar gyfartaledd o dros 90% am y gwasanaeth a roddwyd i’n cwsmeriaid. Ond nid ydym yn bwriadu sefyll yn llonydd – rydym yn hollol ymroddedig i welliant parhaus ac yn bwriadu gweithio tuag at gyflawni lefelau uwch eto o fodlonrwydd cwsmeriaid yn y dyfodol”.

Gofal a Thrwsio Wrecsam

Mae Asiantaeth Gofal a Thrwsio Wrecsam, sy’n cael ei rheoli yn uniongyrchol gan Gymdeithas Tai Tŷ Glas, wedi symud i swyddfeydd newydd ar Stad Ddiwydiannol Rhosddu fis Gorffennaf diwethaf ac mae wedi parhau i roi gwasanaeth rhagorol cyson i gleientiaid. Derbyniodd yr Asiantaeth gyfanswm o 2,707 o gyfeiriadau, gyda 2,119 o gleientiaid yn cael budd o’r gwasanaeth. Yn ychwanegol, cafodd 386 o gleientiaid fudd o ‘Wiriad Tai Iach’ lle’r oedd staff yr Asiantaeth yn dynodi peryglon posibl yn y cartref ac yn cynnig atebion a fwriadwyd i leihau unrhyw beryglon posibl i’r cleientiaid.

Parhaodd y Gwasanaeth Tasgmon sy’n cael ei weithredu gan y Swyddogion Mân Waith Trwsio yn boblogaidd iawn, gyda 837 o gyfeiriadau yn cael eu derbyn, a derbyniodd yr Asiantaeth 636 o gyfeiriadau dan y Rhaglen Addasiadau Ymateb Cyflym, gyda 562 o gleientiaid yn cael budd o’r gwasanaeth.

Fe wnaeth Gofal a Thrwsio Wrecsam hefyd gwblhau gwaith i PenAlyn gan gynnig gwasanaeth trwsio i breswylwyr Clwyd Alyn, ynghyd â gwasanaeth peintio ac addurno yng nghynlluniau Byw â Chefnogaeth y Gymdeithas. Penodwyd Swyddog Mân Waith Trwsio a Phrentis Modern i wneud y gwaith, a diolch i gais llwyddiannus am grant a’r cynnig o nawdd gan Jackson Fire & Safety Solutions, llwyddodd yr Asiantaeth i gynnig Prentisiaeth Cynnal a Chadw arall i berson ifanc a fydd yn derbyn cymhwyster cydnabyddedig erbyn diwedd yr haf.

8

Page 9: Grŵp Tai Pennaf Adroddiad Gweithgareddau 2013-14

ODEL

Parhaodd ‘ODEL – cynllun dysgu, hyfforddi a menter gymdeithasol Clwyd Alyn – i fod yn llwyddiant mawr, gan ganolbwyntio ar brosiectau Byw â Chefnogaeth y Gymdeithas i bobl ifanc sydd wedi profi digartrefedd yn y gorffennol. Mae ODEL yn bodoli i gynnig hyfforddiant sgiliau bywyd i breswylwyr ac mae yn ymroddedig i roi hyfforddiant hawdd ei ddeall i bobl ifanc a all deimlo eu bod wedi eu hallgau o addysg ffurfiol yn aml. Cyflwynir yr hyfforddiant mewn modd sy’n hyrwyddo ymlyniad preswylwyr, yn cynyddu hyder a hunan-barch ac yn datblygu’r sgiliau bywyd sy’n angenrheidiol i fyw’n annibynnol. Mae hefyd yn ymgorffori achrediad cenedlaethol am fodylau o weithgaredd, a rhoi cyfle i bobl ifanc weithio gyda phobl hŷn fel rhan o nifer o brosiectau rhwng y cenedlaethau ar draws Gogledd Cymru.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, dyfarnwyd cyfanswm o 114 tystysgrif llwyddo i breswylwyr a gwblhaodd y modylau ar gyllidebu; ymddygiad ac iechyd personol; traddodiadau ac arferion Cymru; cael credoau a gwerthoedd; a chael a rhoi cefnogaeth. Fis Tachwedd diwethaf, arweiniodd yr ymweliad Sicrhau Ansawdd Allanol cyntaf gan Agored Cymru at adroddiad rhagorol ar systemau a gweithdrefnau ODEL, ac mae nifer o breswylwyr wedi sicrhau gwaith ers hynny, wedi eu derbyn ar gyrsiau gradd a dychwelyd i’r coleg ar sail yr hyfforddiant a gafwyd.

Yn ychwanegol, mae gan y Gymdeithas yn awr chwe aelod o Staff Prosiect a hyfforddwyd yn llawn fel Hyfforddwyr Cynhwysiant Digidol fel rhan o bartneriaeth gyda Llamau, Gwalia, Wallich a Communities 2.0. O ganlyniad, maen nhw’n medru darparu hyfforddiant i staff eraill a rhedeg gweithdai gyda phreswylwyr i wella eu sgiliau TG. Y bwriad yw datblygu’r cynllun hwn ymhellach yn y dyfodol i gynnig ystod lawn o wasanaethau ychwanegol ac yn y pen draw bydd yn cael ei ymestyn i breswylwyr tu allan i’n cynlluniau Byw â Chefnogaeth.

‘ResFest Refused’

Roedd y digwyddiad ‘ResFest’ a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam fis Gorffennaf diwethaf yn llwyddiant mawr eto. Trefnir y digwyddiad hwn gan ac i breswylwyr cynlluniau Byw â Chefnogaeth Clwyd Alyn ar draws Gogledd Cymru, gan gefnogi pobl ifanc sydd yn y gorffennol wedi profi digartrefedd i ddod at ei gilydd i arddangos eu talentau a’u llwyddiannau, a mynd i weithdai ar themâu penodol.

Thema ‘ResFest Refused’ oedd problemau gwahaniaethu y mae’r bobl ifanc wedi eu hwynebu. Fel rhan o’r diwrnod, arddangoswyd gwaith celf blaengar yr oedden nhw wedi ei greu fel rhan o’r prosiect ‘Can of Worms’, a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac a gydlynwyd gan CAG Coleg Harlech. Mwynhaodd ymwelwyr â’r arddangosfa gyfraniadau rhagorol gan bawb a gymerodd ran, gan helpu i archwilio gwahaniaethu trwy waith mosaig, batik a dulliau celf eraill. Dangosodd y bobl ifanc a gymerodd ran ymrwymiad mawr, gwaith caled a digonedd o dalent artistig, ac mae cefnogaeth y prosiect ‘Can of Worms’ wedi rhoi cyfle i’r preswylwyr ddathlu eu talentau, ennill hyder mewn ffyrdd newydd o fynegi eu hunain, ac mae wedi eu helpu i osod a chyflawni nodau newydd.

Diolch arbennig i holl noddwyr y digwyddiad, y cefnogwyr a’r preswylwyr a drefnodd nifer o ddigwyddiadau codi arian i gynorthwyo gyda chostau trefnu’r digwyddiad.

Offa – Y Partner Gosod

Rydym wedi parhau i ddatblygu ein Hasiantaeth Gosod Cymdeithasol, ynghyd â gwasanaeth rheoli i landlordiaid sector preifat ar draws Gogledd Cymru, gan weithredu dan enw Offa. Yn ystod 2013-14, cychwynnodd Offa ar ei hail flwyddyn yn y strategaeth dwf a gytunwyd gan y Bwrdd i reoli dros 450 uned o lety preifat erbyn 31 Mawrth 2016. Hyd yn hyn, mae Offa yn darparu ac yn rheoli dros

210 o unedau sector preifat ar rent ac mae’n parhau yn ymroddedig i reoli gosodiadau preifat a chymdeithasol yn y dyfodol.

Dewisodd Cyngor Sir Ddinbych Offa i weithredu fel ei reolwr ar gyfer unedau a gymerwyd dan y

Gorchmynion Rheoli Interim, a gynlluniwyd i sicrhau bod eiddo sector preifat nad ydyn nhw’n cyrraedd y

gofynion statudol yn cael eu rheoli’n dda. Bu’r ochr hon o’r busnes yn arbennig o lwyddiannus.

Mae Offa hefyd wedi bod yn ymwneud â chynllun Cartrefi Gwag y Llywodraeth, sy’n cynnig arian i alluogi i eiddo

gwag gael eu dwyn yn ôl i’r sector preifat ar rent. Llwyddodd Offa i wneud gwaith ar 9 eiddo o’r

fath yn Sir y Fflint dros y flwyddyn ddiwethaf ac wedyn mae wedi bod yn gweithredu ar

ran y landlordiaid i reoli’r cartrefi hyn.

9

Page 10: Grŵp Tai Pennaf Adroddiad Gweithgareddau 2013-14

Mae Tan y Fron wedi darparu 46 o fflatiau hunangynhaliol un a dwy ystafell wely, gyda’r fantais ychwanegol o gyfleusterau cymunedol eang, nodweddion diogelwch blaengar a Teleofal i helpu pobl i fyw’n annibynnol. Mae’r gofal ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos yn ôl gofynion pob unigolyn, ac mae gan y preswylwyr gynllun cefnogi unigol i roi unrhyw gefnogaeth y mae arnynt ei hangen yn ymwneud â thai. Mae Llys Dyfrig wedi darparu gofod swyddfa i Dîm Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol ynghyd â swyddfeydd a gofod clinig i’r Bwrdd Iechyd, ac mae Canolfan Gymunedol Tŷ Llywelyn yn parhau i weithredu o’r safle. Fel rhan o’r datblygiad, mae’r adnodd lleol pwysig hwn wedi cael ei adnewyddu o’r tu allan a’i ymestyn i wella’r cyfleuster yng nghyd-destun ei amgylchedd newydd.

Roedd y preswylwyr wrth eu boddau o gael symud i Dan y Fron yn ystod mis Mawrth eleni ac maen nhw wedi bod yn canmol manteision yr adeilad newydd:

Hybu Annibyniaeth yng Nghynllun Gofal Ychwanegol Tan y FronYn Llandudno, mae’r gwaith wedi gorffen ar gynllun gofal ychwanegol £9 miliwn

llawn dychymyg a Chanolfan Iechyd a Gofal Cymdeithasol amlasiantaethol, a

ddatblygwyd fel partneriaeth dair ochrog rhwng Clwyd Alyn, Cyngor Bwrdeistref

Sirol Conwy a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cynlluniwyd y ddau

adeilad i gynnig mynediad wedi ei liflinio i ofal cymdeithasol ac iechyd, ynghyd

â chyfnod newydd o fyw’n annibynnol i bobl hŷn yn y dref.

“Gall byw ar eich pen eich hun fod yn anodd. Roedd mor ynysig. Dwi erioed wedi gallu coginio felly roeddwn yn byw ar brydau parod. Mae bwyty gwych yma a bwyd o’r radd flaenaf. Dwi’n cael dewis o fwyd ffres bob amser cinio, ac mae’n braf cael pobl o gwmpas y gallai siarad hefo nhw”.

“Mae symud yma wedi gwneud gwahaniaeth anferth i’m bywyd. Dwi’n fwy parod i gymysgu, dwi’n bwyta’n well, mae fy iechyd a’m lles wedi gwella’n wirioneddol. Mae cael gofal wrth law yn rhoi tawelwch meddwl mawr. Yn Nhan y Fron, mae’r tenantiaid yn byw llawer iawn ac yn chwerthin llawer iawn! Dyna’r gwahaniaeth gwirioneddol y mae wedi ei wneud”.

“Mae cael pobl o fy nghwmpas wedi helpu yn fawr. Mae hi’n eithaf anodd pan fyddwch yn byw ar eich pen eich hun a dwi’n berson reit gymdeithasol, felly dwi’n mwynhau’r modd y byddwch chi’n gallu dod i lawr a chael sgwrs hefo pobl eraill amser cinio. Mae yna rywun yma i chi bob amser os bydd arnoch eu hangen, ond ar yr un pryd mae gennoch chi eich fflat hyfryd eich hun hefyd”.

10

Page 11: Grŵp Tai Pennaf Adroddiad Gweithgareddau 2013-14

Clos David Owen yn Rhuddlan - a enwyd ar ôl cyn Gadeirydd Clwyd Alyn ac un o Aelodau Bwrdd cyntaf Pennaf, y diweddar David Owen. Mae’r cynllun tai fforddiadwy newydd hwn yn cynnwys chwech o dai 2 a 3 ystafell wely a ddatblygwyd gan Clwyd Alyn ar y cyd gyda Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru, ynghyd â 4 cartref teuluol newydd arall a ariannwyd yn breifat gan y Gymdeithas.

Gwahoddwyd disgyblion o Ysgol Gynradd Gwynedd yn y Fflint i ddewis enw ar gyfer cynllun tai newydd y Gymdeithas sy’n cael ei ddatblygu gyferbyn â’u hysgol ar safle lle’r oedd eu ffreutur ar un adeg. Disgybl 9 oed, Adam Peters, a gynigiodd yr enw buddugol ‘Cwrt yr Ysgol’ ar gyfer y cynllun, sy’n cynnwys 9 o fflatiau teuluol dwy ystafell wely a adeiladwyd o gwmpas cwrt canolog a man parcio, ac a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint.

Roedd y Gymdeithas yn falch iawn o groesawu Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Dai ac Adfywio, Carl Sargeant, AC, i Fro Brwynog, Treuddyn, lle mae Clwyd Alyn a Chyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu 18 o gartrefi newydd i bobl leol. Dywedodd y Gweinidog: “Mae’n fraint cael fy ngwahodd i gartrefi rhai y mae eu bywydau wedi newid er gwell trwy’r Grant Tai Cymdeithasol a roddwyd ac i weld drosof fy hun y gwahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i’r gymuned leol.”

Roedd y cynlluniau eraill a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn yn cynnwys:

Bu Clwyd Alyn yn gweithio yn agos iawn â Thîm Cadwraeth Cyngor Sir

y Fflint i adnewyddu’r adeilad Rhestredig Gradd Dau, Yr Hen Lys yn

y Fflint. Manteisiodd y gwaith ar Gyllid Cynllun Treftadaeth Drefol y

Fflint, partneriaeth a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, CADW,

Cyngor Tref y Fflint a Chyngor Sir y Fflint.

Mae’r gefnogaeth hon ynghyd â buddsoddiad ariannol preifat a

drefnwyd gan Pennaf wedi helpu i arbed yr hyn a gredir yw’r adeilad

hynaf heblaw’r Castell sydd wedi goroesi yn y dref. Mae trafodaethau

ar y gweill yn awr gyda golwg ar ddatblygu a rheoli prosiect menter

gymdeithasol arfaethedig gydag Us UnLtd o’r adeilad.

Rhagwelir y bydd incwm a gynhyrchir o gaffi cymunedol fydd yn cael ei

weithredu gan bobl ifanc o’r llawr isaf yn eu helpu i gael mynediad at gefnogaeth

dysgu trwy Raglen Hyfforddi ‘ODEL’ Clwyd Alyn, a fydd yn y tymor hirach yn

helpu i ehangu eu cyfleoedd gwaith a symud ymlaen i fyw’n annibynnol.

Crynodeb DatblyguHybu Annibyniaeth yng Nghynllun Gofal Ychwanegol Tan y Fron

Roedd Clwyd Alyn yn falch iawn o groesawu Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt, AC, i Ffordd Melin Dulas, cynllun tai fforddiadwy newydd y Gymdeithas yn Llanddulas. Datblygwyd y cynllun mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac roedd y Gweinidog yn falch iawn o weld drosti ei hun sut y mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru o £1.5 miliwn yn helpu i ddarparu tai y mae galw mawr amdanynt i’r bobl leol.

11

Page 12: Grŵp Tai Pennaf Adroddiad Gweithgareddau 2013-14

Dywedodd Judith Williams, a symudodd i un o’r cartrefi wedi eu hadnewyddu ar Stryd y Tywysog, y Rhyl gyda’i gŵr a’i dau blentyn ifanc: “Rydym mor hapus yn ein cartref newydd. Dyma’r anrheg Nadolig gorau y gallen ni fod wedi ei gael”

Trawsnewid Cartrefi yn y Rhyl...

Gwelodd y flwyddyn ddiwethaf gynnydd sylweddol ym mhrosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl, lle mae Clwyd Alyn yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru i drawsnewid tai o gwmpas gofod gwyrdd newydd.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae 125 aelwyd sy’n cynnwys llawer o breswylwyr Clwyd Alyn wedi cael eu symud yn llwyddiannus wrth i’r gwaith ddechrau, gyda’r mwyafrif yn dewis aros yn ardal y Rhyl. Mae’r gwaith dymchwel eisoes wedi digwydd i wneud lle i faes parcio newydd ac mae’r Gymdeithas ar hyn o bryd yn cael trefn derfynol ar y cynlluniau am gartrefi newydd ac wedi eu hadnewyddu fel rhan o’r cynllun. Yn ychwanegol, mae llawer o waith adnewyddu ar eiddo mewn ffyrdd cyfagos wedi cael ei gwblhau, gyda chanlyniadau cadarnhaol i’r tenantiaid.

Cafwyd ymateb cadarnhaol gan David Howarth, a symudodd i un o’r cartrefi a adnewyddwyd gan y Gymdeithas yn Ffordd Crescent, y Rhyl, gyda’i bartner a’u mab dwy flwydd oed: “Rydym yn caru’r Rhyl. Mae’n lle gwych. Pan wnaethon ni glywed fod rhaid i ni symud oherwydd y gwaith dymchwel roedden ni’n torri’n calonnau, ond rydym yn wirioneddol fodlon ar y cartref yr ydym wedi symud iddo. Mae’n hollol wych.”

Cryfhau Gwasanaethau Cymorth i Ferched yn Sir y Fflint

Mae Cymdeithas Tai Clwyd Alyn wedi ymuno â Chymorth i Ferched Delyn i lansio Cymorth i Ferched CAHA - gwasanaeth newydd i gefnogi merched a phlant bregus yng ngorllewin Sir y Fflint. Ers 1987 roedd Cymorth i Ferched Delyn wedi cynnig gwasanaeth rheng flaen hanfodol yn y Sir, gan gefnogi merched a phlant oedd wedi dioddef camdriniaeth emosiynol, corfforol a/neu rywiol yn y cartref. Yn dilyn trafodaethau manwl gyda Chymorth i Ferched Delyn a Chymru, cytunwyd y byddai’r gwasanaeth yn trosglwyddo i Gymorth i Ferched CAHA, a fydd yn parhau i reoli’r lloches a chynnig gwasanaethau craidd gan gynnwys gwasanaethau galw i mewn ac allestyn i Gyngor Sir y Fflint, ynghyd â gwasanaeth iechyd meddwl a chynghori a ariennir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Dywedodd Linda Hughes, Rheolwraig Cymorth i Ferched CAHA: “Rydym wedi cyffroi am y rhagolygon ar gyfer datblygu’r gwasanaethau hanfodol sy’n cael eu darparu gan Gymorth i Ferched CAHA. Rydym yn angerddol am gynnig y gwasanaethau gorau a mwyaf blaengar i ferched a phlant sy’n profi camdriniaeth neu mewn perygl o wneud hynny. Rydym am wneud mwy ynglŷn ag atal; am gael mynediad at dai a gwella gobeithion merched mewn bywyd trwy gynnig dewisiadau ar gyfer dysgu a gwaith. Edrychwn ymlaen at gael gweithio gyda chi i gyd ar ein taith tua’r dyfodol”.

12

Page 13: Grŵp Tai Pennaf Adroddiad Gweithgareddau 2013-14

Dywedodd Prif Weithredwr Grŵp Pennaf, Graham Worthington: “Mae’n newyddion gwych ein bod wedi cadw ein hachrediad safon Aur Buddsoddwyr Mewn Pobl ac mae’n rhagorol bod sylw arbennig wedi ei roi am yr ymrwymiad ar draws y sefydliad i fodlonrwydd cwsmeriaid, ymgysylltiad preswylwyr a chyfathrebu, sy’n glod i’r staff ar draws y Grŵp.”

Canmoliaeth i ‘Fodelau Rôl Rhagorol’

Cyfarfu Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Llywodraeth Cymru, Ken Skates, AC, rai o brentisiaid y Grŵp yn ystod ymweliad â’n stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych fis Awst. Roedd y Dirprwy Weinidog yn awyddus iawn i ddysgu mwy am ymrwymiad Pennaf i gynnig cyfleoedd prentisio dan y cynlluniau ariannu Rhaglen Prentisiaethau a Recriwtiaid Ifanc a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, a dywedodd: “Mae Pennaf wedi datblygu cynlluniau prentisiaeth blaengar iawn sydd wedi eu targedu yn dda ac maent wedi eu rhoi yng nghanol y model busnes. Roeddwn wrth fy modd o gyfarfod Kim a Kayleigh a chlywed mwy am y ffordd y maent yn datblygu. Rwyf am weld mwy o ferched mewn prentisiaethau nad ydynt yn draddodiadol, fel gwresogi a phlymio, ac mae Kim a Kayleigh wedi dangos bod ganddynt y gallu, sgiliau a’r profiad i fynd yn bell yn eu maes dewisedig. Maent yn fodelau rôl rhagorol.”

Anna yr Ysbrydolwraig yn Ennill Gwobr Genedlaethol

Roedd Anna Newman, Warden yng nghynllun tai cysgodol y Gymdeithas yn Llys Erw, Rhuthun, yn falch iawn o ennill Gwobr ‘Cydweithiwr sy’n Ysbrydoli’r Flwyddyn’ yng ngwobrau TPAS Cymru, gan gydnabod yr ystod o weithgareddau a digwyddiadau y mae’n eu trefnu i breswylwyr yn y cynllun, gan gynnwys barbeciws, teithiau bws a gweithgareddau wythnosol amrywiol cyson. Y llynedd fe wnaeth helpu i drefnu drama i’r gwahanol genedlaethau, ‘Now and Then’ pan roddwyd anogaeth i bobl ifanc sy’n byw yn lleol ymuno gyda’r preswylwyr i berfformio sioe ar sail atgofion y preswylwyr, a gafodd effaith gadarnhaol iawn, nid yn unig ar Lys Erw, ond hefyd ar y gymuned ehangach yn Rhuthun.

Gwobr Staff IIP ‘Aur Dwbl’

Yn Ionawr roedd y Grŵp yn falch iawn o fod yn un o ddim ond chwe chwmni o Gymru i gael eu hail achredu yn llwyddiannus i gadw ‘Safon Aur Buddsoddwyr Mewn Pobl’ am dair blynedd arall. Er mwyn cyflawni’r Safon Aur roedd yn ofynnol i’r Grŵp ddangos arferion gwaith eithriadol mewn meysydd fel rheoli pobl, arweinyddiaeth, gweithio mewn tîm, blaengaredd wrth ddysgu a datblygu, ymlyniad staff a’u grymuso, cydnabod a gwobrwyo staff, gwelliant parhaus, a chyfrifoldeb cymdeithasol

corfforaethol. Tanlinellodd Adroddiad yr Arolygwyr nifer o nodweddion arbennig

gan ganmol ymrwymiad Pennaf i’r gweithwyr, a chydnabyddiaeth y

gweithwyr o werth hyn.

Her Elusen Gorfforaethol ‘Codi’r To’

Yn ôl ym Mai 2013, lansiodd y Grŵp ei Her Elusen Gorfforaethol ‘Codi’r To’, a dewisodd y staff Cancer Research UK fel eu helusen. Dros fisoedd yr haf, cymerodd 18 Tîm yn cynnwys mwy na 150 o bobl o bob rhan o’r sefydliad ran mewn llu o weithgareddau codi arian, gan arwain at godi cyfanswm rhyfeddol o £5,604 at Cancer Research UK. Llongyfarchiadau a diolch i bawb a gymerodd ran a dyma i chi gipolwg ar rai o’r sialensiau y gwnaethant eu hwynebu ...

13

Page 14: Grŵp Tai Pennaf Adroddiad Gweithgareddau 2013-14

Pennaf Cyfyngedig

Mr Roger M Waters - CadeiryddMr Mike Hornsby - Is-gadeiryddDr Angela Holdsworth Dr Buddug OwenDr Sarah Horrocks Mr Glyn M JonesMr Dafydd IfansMrs Judy Owen Mr Graham WorthingtonMr Mark Steel

Cymdeithas Tai Tŷ Glas Cyfyngedig

Mrs Judy A Owen - CadeiryddDr Sarah Horrocks - Is-gadeiryddMr Dafydd IfansMrs Louisa Diamond Mr David Badger - Aelod CyfetholedigMr Glyn M Jones

Cymdeithas Tai Clwyd Alyn Cyfyngedig

Dr Sarah Horrocks - CadeiryddMrs Eirwen Godden - Is-gadeiryddMr Dafydd Ifans Mr Derek Holmes Dr Buddug OwenMrs Judy OwenMr Glyn M Jones Mrs Louisa Diamond - Aelod CyfetholedigMr Ian Bellingham - Aelod Cyfetholedig

Offa Cyfyngedig

Dr Angela Holdsworth - CadeiryddMr Glyn M Jones - Is-gadeiryddMr Dafydd IfansMr Mark Steel Mr Mike Hornsby

Tir Tai Cyfyngedig

Dr Angela Holdsworth - CadeiryddMr Dafydd Ifans - Is-gadeiryddMr Mark Steel Mr Glyn M Jones Mr Mike Hornsby

PenAlyn Cyfyngedig a PenElwy Cyfyngedig

Mr Glyn M Jones - CadeiryddMr Mike Hornsby - Is-gadeiryddMr Trevor HendersonMr Mike Soffe Mr Scott Brassington

Byrddau Rheoli ar 31 Mawrth 2014

Grŵp Tai Pennaf Mrs Eurwen H Edwards - Llywydd Anrhydeddus

14

Page 15: Grŵp Tai Pennaf Adroddiad Gweithgareddau 2013-14

Grŵp Tai PennafCYFRIFON BLYNYDDOL 2013 - 14Mae’r rhain yn seiliedig ar Gyfrifon Grŵp Tai Pennaf fel y cawsant eu paratoi gan yr Archwilwyr.

CRYNODEB O INCWM £

Rhenti 19,657,978Taliadau Gwasanaeth ac ati 10,126,645Llogau i’w Derbyn 6,566Incwm Arall 2,695,730Cyfanswm 32,486,919

CRYNODEB O WARIANT £

Llogau Taladwy 5,470,612Rheoli 3,792,797Taliadau Gwasanaeth 11,722,796Cynnal a Chadw 6,585,379Arall 3,494,052Cyfanswm 31,065,636

Sylwer mai ffigyrau’r Grŵp yw’r rhain yn ymgorffori Cyfrifon Incwm a Gwariant a Mantolenni Pennaf, Clwyd Alyn, Tŷ Glas, Offa a Tir Tai, Pen Alyn a PenElwy.

I gael dealltwriaeth lawn o sefyllfa ariannol pob aelod o’r Grŵp, dylid astudio’r Datganiadau Ariannol llawn. Mae copïau o’r Datganiadau Ariannol ar gael os gofynnir amdanynt gan Ysgrifennydd y Cwmni.

Dyfarnodd Barn Hyfywedd Ariannol Llywodraeth Cymru ar 31 Mawrth 2014, a gynlluniwyd i roi dealltwriaeth i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC), eu tenantiaid, defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid eraill o hyfywedd ariannol y LCC, ddyfarniad o ‘Llwyddo’ i Pennaf, gan ddod i’r casgliad bod gan y Grŵp adnoddau digonol i fodloni ei ymrwymiadau busnes ac ariannol presennol a’r rhai a ragwelir.

MANTOLEN 31 Mawrth 2014 31 Mawrth 2013Asedau £ £Stoc Tai 140,831,358 130,904,422Asedau Sefydlog Eraill 4,015,636 3,578,268Stoc 58,434 37,128Dyledwyr 4,369,774 3,618,575Arian Parod a 4,428,060 3,318,845BuddsoddiadauRhwymedigaethau -7,612,863 -9,096,814PresennolCyfanswm 146,090,399 132,360,424

MANTOLEN 31 Mawrth 2014 31 Mawrth 2013Ariennir gan: £ £Benthyciadau 134,677,554 122,269,168Cronfeydd Cyffredinol 11,412,845 10,091,256Wrth GefnCyfanswm 146,090,399 132,360,424

15

Page 16: Grŵp Tai Pennaf Adroddiad Gweithgareddau 2013-14

Perfformiad / PerformanceMae’r cyfrifoldeb am reoli Grŵp Tai Pennaf yn y pen draw yn aros gyda’r Byrddau Rheoli perthnasol, sy’n cynnwys Aelodau a etholir yn flynyddol. Mae gan Aelodau’r Byrddau gyfoeth o sgiliau a phrofiad a enillwyd dros nifer o flynyddoedd, ac maent yn cynnig eu gwasanaethau a’u harbenigedd i Grŵp Tai Pennaf ar sail hollol wirfoddol.

à Yn ystod 2013/14, gosodwyd 478 o gartrefi Anghenion Cyffredinol a Cysgodol During 2013/14, 478 General Needs and Sheltered homes

were let

à Yr amser a gymerwyd ar gyfartaledd i ail-osod tai gwag oedd 4.06 wythnos

Average time taken to re-let vacant properties was 4.06 weeks

à Eiddo Gwag: mae cyfanswm yr incwm rhenti a gollwyd yn cyfateb i 1.75% o gyfanswm y rhenti y gellid eu casglu Voids: total rent income lost equated to 1.75% of total rent collectable

à Yr amser a gymerwyd ar gyfartaledd i osod tai newydd a drosglwyddwyd i’w rheoli oedd 0.00 wythnos neu ar ddiwrnod eu trosglwyddo gan Datblygu

Average time taken to let new properties handed over into management was 0.00 weeks or on day of handover from Development

à Gwariant cyfartalog ar Gynnal a Chadw yr uned £1,374 Average Maintenance expenditure per unit £1,374

à Gwariodd y Gymdeithas £616.82 yr uned ar gyfartaledd ar Reolaeth Tai

Average Housing Management expenditure per unit £616.82

à Cost atgyweiriadau o ddydd-i-ddydd ar gyfartaledd £189.38 Average cost of day-to-day repairs £189.38

Atgyweiriadau Repairs: Argyfwng / Emergency Brys / Urgent Heb frys / Non-urgent

Cwblhawyd o Fewn:Completed Within:1.11 diwrnod / 1.11 days4.8 diwrnod / 4.8 days20.97 diwrnod / 20.97 days

Nod Cyflawni:Target Completion:1 diwrnod / 1 day5 diwrnod / 5 days28 diwrnod / 28 days

Ffeithiau a Ffigurau / Facts & Figures

Mae Clwyd Alyn a Tŷ Glas yn Gymdeithasau elusennol Ddiwydiannol a DarbodusClwyd Alyn and Tŷ Glas are charitable Industrial and Provident Societies

Unedau o StocUnits of Housing Stock

Rhenti Wythnosol ar GyfartaleddAverage Weekly Rents

Daliadaeth BlaenorolPrevious Tenure

An

gh

en

ion

Cyff

red

ino

l (yn

cyn

nw

ys T

ai C

ysg

od

ol)

Ge

ne

ral N

ee

ds

(incl

ud

ing

Sh

elte

red

Ho

usi

ng

)

Tai a

Go

fal

Ca

re &

Su

pp

ort

Rh

an

Be

rch

no

ga

eth

Sh

are

d O

wn

ers

hip

Go

fal Y

chw

an

eg

ol

Ext

ra C

are

Cym

ort

h P

ryn

u

Ho

me

Bu

y

DIY

SO

DIY

SO

Cyn

llun

Da

liad

ae

th a

r g

yfe

r P

ob

l Hŷn

Lea

seh

old

Sch

em

e f

or

the

Eld

erl

y

DIY

HO

DIY

HO

Y F

arc

hn

ad

Ag

ore

d

Op

en

Ma

rke

t

Cyt

un

de

ba

u R

he

oli

Ma

na

ge

me

nt

Ag

ree

me

nts

3,7

08

718

39

7

24

9

127

99

80

63

39

32

Ten

an

tia

eth

Pre

ifa

tP

riva

te T

en

an

cy

Clw

yd A

lyn

Clw

yd A

lyn

Teu

luF

am

ily

Ten

an

tia

eth

Cyn

go

r

Co

un

cil T

en

an

cy

Gw

ely

a B

recw

ast

Be

d &

Bre

akfa

st

Cym

de

ith

asa

u T

ai E

raill

Oth

er

Ho

usi

ng

Ass

oci

ati

on

s

Ho

ste

liH

ost

els

Pe

rch

en

no

g P

resw

yl

Ow

ne

r O

ccu

pie

r

Cyd

-gyf

ne

wid

Mu

tua

l Exc

ha

ng

e

Lle

ty C

ae

th

Tie

d A

cco

mm

od

ati

on

121

96

83

71

39

28

4 g

we

ly

4 b

ed

ho

use

3 g

we

ly/5

pe

rso

n

3 b

ed

/5 p

ers

on

ho

use

3 g

we

ly/4

pe

rso

n

3 b

ed

/4 p

ers

on

ho

use

2 w

ely

/3 p

ers

on

2 b

ed

/3 p

ers

on

ho

use

1 g

we

ly/2

be

rso

n

1 b

ed

/2 p

ers

on

ho

use

Ffla

t 2

we

ly/3

pe

rso

n

2 b

ed

/3 p

ers

on

fla

t

Ffla

t 1

gw

ely

/2 b

ers

on

1 b

ed

/2 p

ers

on

fla

t

£10

8.7

1

£8

9.4

6

£8

5.9

7

£7

7.9

5

£7

5.2

4

£7

4.1

8

£7

2.2

4

Page 17: Grŵp Tai Pennaf Adroddiad Gweithgareddau 2013-14

Perfformiad / PerformanceMae’r cyfrifoldeb am reoli Grŵp Tai Pennaf yn y pen draw yn aros gyda’r Byrddau Rheoli perthnasol, sy’n cynnwys Aelodau a etholir yn flynyddol. Mae gan Aelodau’r Byrddau gyfoeth o sgiliau a phrofiad a enillwyd dros nifer o flynyddoedd, ac maent yn cynnig eu gwasanaethau a’u harbenigedd i Grŵp Tai Pennaf ar sail hollol wirfoddol.

Ultimate responsibility for the management of the Pennaf Housing Group and its members rests with the respective Boards of Management, which are made up of Members elected annually. Members of the Boards have a wealth of skills and experience gained over many years, and offer their services and expertise to the Pennaf Housing Group on an entirely voluntary basis.

Swyddfa LlanelwySwyddfa Gofrestredig ar gyfer Pennaf, Clwyd Alyn, Tŷ Glas,Offa, Tir Tai, PenAlyn a PenElwy72 Ffordd William MorganParc Busnes LlanelwyLlanelwySir Ddinbych LL17 0JD

St Asaph OfficeRegistered Office for Pennaf, Clwyd Alyn, Tŷ Glas, Offa, Tir Tai, PenAlyn and PenElwy72 Ffordd William MorganSt Asaph Business ParkSt AsaphDenbighshire LL17 0JD

Gofal a Thrwsio WrecsamYstad Ddiwydiannol RhosdduRhosdduWrecsam LL11 4YL

Wrexham Care & RepairRhosddu Industrial EstateRhosdduWrexham LL11 4YL

Daliadaeth BlaenorolPrevious Tenure

Tarddiad YmgeiswyrSource of Applicants

Gwariant ar Gynnal a ChadwMaintenance Spending

Ten

an

tia

eth

Pre

ifa

tP

riva

te T

en

an

cy

Clw

yd A

lyn

Clw

yd A

lyn

Teu

luF

am

ily

Ten

an

tia

eth

Cyn

go

r

Co

un

cil T

en

an

cy

Gw

ely

a B

recw

ast

Be

d &

Bre

akfa

st

Cym

de

ith

asa

u T

ai E

raill

Oth

er

Ho

usi

ng

Ass

oci

ati

on

s

Ho

ste

liH

ost

els

Pe

rch

en

no

g P

resw

yl

Ow

ne

r O

ccu

pie

r

Cyd

-gyf

ne

wid

Mu

tua

l Exc

ha

ng

e

Lle

ty C

ae

th

Tie

d A

cco

mm

od

ati

on

39

28

28

7 5 1

En

we

bia

da

u g

an

Gyn

gh

ora

u

Co

un

cil N

om

ina

tio

ns

Rh

est

r A

ros

Wa

itin

g L

ist

Cyd

-gyf

ne

wid

Mu

tua

l Exc

ha

ng

e

Tro

sglw

ydd

o/C

yfn

ew

id

Tra

nsf

ers

/Exc

ha

ng

es

Era

ill

Oth

er

Sym

ud

Ym

lae

n

Mo

ve-o

n

20

5

113

68

75

14 4

O d

dyd

d-i

-dd

ydd

Da

y-to

-da

y

We

di e

i gyn

llun

io

Pla

nn

ed

Cyl

cha

idd

Cyc

lica

l

£3,399,523 £2,441,814.69 £499,723.72

www.pennaf.co.uk

01745 538300 01978 714180

Hoffwch ni/Like us: facebook.com/PennafHGroup Dilynwch ni/Follow us: @PennafHGroup