gwasanaethau cyhoeddus - rhoi syniadau ar waith
DESCRIPTION
Presentation from WCVA's Annual Conference 2014TRANSCRIPT
Golwg hirdymor
• Ar ôl datganoli – dull unigryw Gymreig ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus?
• Dros ddegawd o ddadlau• Ar ddechrau’r degawd roedd adnoddau a’r galw
yn cynyddu• Bellach, mae adnoddau’n crebachu’n gyflym,
ond y galw (a disgwyliadau) yn dal i godi
Creu’r Cysylltiadau a Beecham
Creu’r Cysylltiadau, 2004
• Yn cynnig cydweithio a chydweithredu
• Yn gwrthod dull tameidiog a chystadleuaeth• Y dinesydd yn y canol
Adolygiad Beecham o wasanaethau lleol, 2006
• Y dinesydd yn y canol ond ar gyfer gweithredu mwy mentrus a chyflym
• Llywodraethu gwlad fach
• Cymru yn cyflawni ar gyfer ei phobl – a chyda nhw – wasanaethau sy’n canolbwyntio ar y dinesydd mewn ffordd y mae ei chymdogion mwy yn ei chael yn anos
Comisiwn Williams 2014
• Ad-drefnu llywodraeth leol
• Ailddiffinio natur gwasanaethau cyhoeddus
• “Yr unig ffordd hyfyw o ddiwallu anghenion a dyheadau pobl yw symud pwyslais gwasanaeth cyhoeddus tuag at gydgynhyrchu ac atal”
Ymateb Llywodraeth Cymru i Williams 2014
• “Rhaid i’n gwasanaethau cyhoeddus esblygu er mwyn adlewyrchu perthynas newydd rhwng y bobl sy’n darparu gwasanaethau a’r rheini sy’n elwa ohonynt
• Rhaid i wasanaethau cyhoeddus yn gynyddol gael eu darparu nid i bobl, ond gyda phobl
• Gweithredu’n gynharach i helpu pobl i gymryd camau ataliol i wella eu bywydau, yn hytrach nag ymateb dim ond pan ai pethau o chwith
• Darparu gwasanaethau cyhoeddus drwy gyrff cyhoeddus sy’n gweithio gyda phartneriaid – yn enwedig y trydydd sector, ac mewn rhai amgylchiadau y sector preifat – i ddarparu’r gwasanaethau gorau posib”
Themâu rheolaidd
• Rhoi pobl a chymunedau yn y canol• Ymgysylltu â’r cyhoedd wrth ddylunio a darparu• Atal ac ymyrraeth gynnar• Newid o ddiwallu anghenion yn unig, i feithrin
lles• Cytundeb ar syniadau• Ond a fydd y rhain yn cael eu rhoi ar waith?
Heriau anodd
• Mae rhoi pobl a chymunedau yn y canol mewn gwirionedd yn golygu rhannu grym a dylanwad – perthynas newydd?
• Sut mae buddsoddi yn yr hirdymor pan fo gennym ofynion tymor byr i’w hateb?
• Sut mae meithrin gallu a chryfder cymunedau wrth i adnoddau brinhau?
• Sut mae defnyddio arian y sector cyhoeddus yn graffach?
• A allwn ni leihau costau ond peidio â dinistrio gwasanaethau?
Toriadau byrbwyll
• Mae cyllid ar gyfer pobl a chymunedau a gefnogir gan y trydydd sector dan fygythiad
• Gwasanaethau anstatudol ac amwynderau lleol all fod y cyntaf i ddioddef
• Y peth hawsaf i’w dorri yw efallai’r peth gwaethaf i’w dorri
• Nid ydym yn gwario llawer o arian ar y trydydd sector
• Felly nid ydym yn arbed llawer drwy dorri’r sector
• Ond gallwn wneud niwed sylweddol drwy dorri’r sector
Gorfodi’r cyflymder
• Ysgogiadau newydd i gyflymu newid?• Llais ac ymgysylltiad y bobl fel y norm newydd• Cydnabyddiaeth fwy eglur o rôl y trydydd sector• Cydgymorth, gwirfoddoli a gweithredu yn y gymuned
• Trosglwyddo asedau a gwasanaethau mewn modd rhagweithiol sydd wedi’i reoli’n dda
• Parhau i fuddsoddi mewn cymunedau sydd dan anfantais er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau
• Canolbwyntio ar les (cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol) a chanlyniadau
Heddiw
• Bydd y siaradwyr heddiw yn parhau i ddatblygu’r syniadau
• A bydd ein gweithdai yn canolbwyntio ar enghreifftiau o weithio’n wahanol
• Rhannu grym
• Newid y berthynas rhwng y wladwriaeth a dinasyddion a’r trydydd sector
Diolch, a mwynhewch y gynhadledd