gwreiddio yn nuw? rooted in god? › media › ... · tree that comes in path. we can use the image...

96
Llyfryn y Grawys A Lent Book Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God?

Upload: others

Post on 25-Jun-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Llyfryn y Grawys A Lent Book

Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God?

Page 2: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Daw’r dyfyniadau ysgrythurol o’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.Mae gweddill y testun, gan gynnwys y gweddïau a’r addasiadau o’r Beibl, wedi’i ysgrifennu gan Janet Fletcher, wedi ei olygu â chymorth cydweithwyr esgobaethol ac wedi ei gyfieithu gan Siôn Aled Owen.Hawlfraint © Bwrdd Cyllid Esgobaeth Bangor 2017

The biblical extracts are from the New Revised Standard Version of the Bible.All other writing, including prayers and adaptations of the Bible is by Janet Fletcher, with editorial assistance from diocesan colleagues and a translation by Siôn Aled Owen.

Copyright © Bangor Diocesan Board of Finance 2017

Cynhyrchwyd â chymorth grant gan All Churches Trust.Produced with the aid of a grant from the All Churches Trust.

Page 3: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

4Dau ddarlleniad allweddolTwo key readings

9Sut i ddefnyddio’r Goeden a gweddïo gyda hi How to use and pray with the Tree

25Rhoi?Ail Wythnos y Grawys Giving? The Second Week of Lent

61Dyheu?Pumed Wythnos y Grawys Desiring? The Fifth Week of Lent

82Marw?Dydd Gwener y Groglith Dying? Good Friday

6RhagarweiniadIntroduction

10I’r sawl sy’n arwain cwrs Grawys For those leading a Lent course

37Datguddio? Trydedd Wythnos y Grawys Revealing? The Third Week of Lent

74Addo? Chweched Wythnos y Grawys Promising? The Sixth Week of Lent

86Disgwyl? Noswyl y Pasg Waiting? Holy Saturday

7Beth mae bod wedi ein gwreiddio yn Nuw’n ei olygu?What does it mean to be rooted in God?

8Sut i ddefnyddio’r llyfr hwn How to use this book

13Ymgodymu? Wythnos Gyntaf y Grawys Wrestling? The First Week of Lent

49Perthyn? Pedwaredd Wythnos y Grawys Belonging? The Fourth Week of Lent

78Gwasanaethu? Dydd Iau Cablyd Serving? Maundy Thursday

91Byw? Sul y Pasg Living? Easter Day

3

Page 4: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Diarhebion 3:13-18

Gwyn ei fyd y sawl a gafodd ddoethineb,a’r un sy’n berchen deall.

Y mae mwy o elw ynddi nag mewn arian,a’i chynnyrch yn well nag aur.

Y mae’n fwy gwerthfawr na gemau,ac nid yw dim a ddymuni yn debyg iddi.

Yn ei llaw dde y mae hir oes,a chyfoeth ac anrhydedd yn ei llaw chwith.

Ffyrdd hyfryd yw ei ffyrdd,a heddwch sydd ar ei holl lwybrau.

Y mae’n bren bywyd i’r neb a gydia ynddi,a dedwydd yw’r rhai sy’n glynu wrthi.

Effesiaid 3:14-21

Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau gerbron y Tad,yr hwn y mae pob teulu yn y nefoedd ac ar y ddaear yn cymryd ei enw oddi wrtho.

Rwyf yn gweddïo y bydd iddo ganiatáu i chwi, yn ôl cyfoeth ei ogoniant,gryfder a nerth mewnol trwy’r Ysbryd.

Rwyf yn gweddïo y bydd i Grist breswylio yn eich calonnau drwy ffydd,wrth i chi wreiddio mewn cariad fel eich sylfaen.

Rwyf yn gweddïo y bydd i chi gael eich galluogi i amgyffred ynghyd â’r holl saintbeth yw lled a hyd ac uchder a dyfnder cariad Crist.

Rwyf yn gweddïo y bydd i chi wybod am y cariad hwnnw, er ei fod uwchlaw gwybodaeth.Felly dygir chwi i gyflawnder, hyd at holl gyflawnder Duw.

Rwyf yn gweddïo ar yr hwn sydd â’r gallu ganddo i wneud yn anhraethol wellna dim y gallwn ni ei ddeisyfu na’i ddychmygu, trwy’r gallu sydd ar waith ynom ni.

I Dduw bo’r gogoniant yn yr eglwys ac yng Nghrist Iesu,o genhedlaeth i genhedlaeth, byth bythoedd! Amen.

Dau ddarlleniad allweddol

4

Page 5: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Proverbs 3:13-18

Happy are those who find wisdom,and those who get understanding.

For her income is better than silver,and her revenue better than gold.She is more precious than jewels,

and nothing you desire can compare with her.Long life is in her right hand;

in her left hand are riches and honour.Her ways are ways of pleasantness,

and all her paths are peace.She is a tree of life to those who lay hold of her;

those who hold her fast are called happy.

Ephesians 3:14-21

For this reason I bow my knees before God the Creator,from whom every family in heaven and on earth takes its name.

I pray that, according to the riches of God’s glory,you may be strengthened in your inner being with power through the Spirit.

I pray that, Christ may dwell in your hearts through faith,as you are being rooted and grounded in love.

I pray that you may have the power to comprehend, with all the saints, what is the breadth and length and height and depth of God’s love.

I pray that you come to know the love of Christ that surpasses knowledge,so that you may be filled with all the fullness of God.I pray to the One who by the power at work within us

is able to accomplish abundantly far more than all we can ask or imagine.To God be glory in the church and in Christ Jesus to all generations,

for ever and ever. Amen.

Two key readings

5

Page 6: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Rhagarweiniad Introduction

Fel esgobaeth, rydym wedi ymrwymo i feithrin ein disgyblaeth, ein hysbrydolrwydd a’n defosiwn. Byddwn am geisio Duw yn y pethau cyffredin gan ganfod yno ryfeddod ei Bresenoldeb. Byddwn am ymestyn ein disgwylgarwch mewn gweddi, ehangu’n gorwelion a chyfarfod â Duw mewn ffyrdd newydd, gan gyflawni’n galwad i ddilyn Iesu’n fwy ffyddlon.

As a diocese, we have committed ourselves to nurturing and deepening our Christian discipleship, spirituality and devotion. Christian discipleship means seeking out God in the ordinary and finding the extraordinary presence of the Divine. It is to stretch out our prayerful expectation, to widen our horizons and meet with God in new ways, and live out more faithfully our call to follow the way of Jesus.

Mae’r alwad i ddilyn Iesu’n alwad i fyw fel disgybl ac yn alwad i weddïo. Heb ein bod wedi ein gwreiddio yn Nuw mewn gweddi ni fyddwn yn sylwi ar gyffyrddiad tawel yr Ysbryd, nac yn clywed tyner lais Duw yn siarad â ni drwy drwst prysurdeb pob dydd.

Mae wythnosau’r Grawys yn galw arnom i oedi ac edrych ar ein hunain, ein bywydau, y ffordd rydym yn dilyn Iesu a’n gweddïo. Yn ystod y Grawys byddwn yn ail-fyw hanesion cyfarwydd, a fydd yn ein harwain yn ôl at y Groes ac at yr Atgyfodiad. Ac eto, pob Grawys, fe’n gelwir i edrych ar yr hanesion hyn â llygaid newydd ac â chalon newydd sy’n agored i bresenoldeb Duw drwy’n profiadau ninnau fel yr ydym ni heddiw.

Deuwn at y Grawys, ac at weddi, fel unigolion unigryw, wedi’n mowldio i raddau, wrth gwrs, gan y bobl o’n cwmpas. Rydym yn cerdded llwybr ffydd gyda phobl eraill ddirifedi, ac eto dim ond fel unigolion y gallwn ymateb i alwad Duw i ddilyn, i weddïo ac i ddyfnhau’n perthynas â’r Dwyfol yn barhaus. Ni all neb arall wneud hynny yn ein lle. Ein dewis ni ydyw, ac nid dewis unwaith ac am byth ond dewis beunyddiol. Dyma ddewis a phenderfyniad a roir ar waith drwy’n gweddïo bob dydd a thrwy’n ffyrdd arbennig ein hunain o wasanaethu Duw a dilyn ei alwad.

The call to follow is a call to discipleship and a call to prayer. Without being rooted in God through prayerful engagement, we will miss the quiet touch of the Spirit and the gentle voice of God speaking to us through the noise in the busy rush of our days.

These weeks of Lent call out to us to pause and look at ourselves, our lives, our way of following Jesus and our prayer. During Lent we re-enter into familiar stories, ones which take us back to the Cross and back to the Resurrection. Yet, each Lent, we are called to look at these stories with new eyes, and with a new heart open to God’s presence, in and through the experiences of the person we are at this moment.

We come to Lent, to prayer, through the uniqueness of our individual self, shaped to some extent of course by the people around us. In faith we follow with countless others, and yet, only we, the individual person, can answer God’s call to follow, to pray, to be in an ever deepening relationship with the Divine. No-one else can do this for us. It is our choice, made not simply once, but daily. This is a choice and a decision which is then lived out through our daily prayer, and through our own particular ways of serving and following God’s call.

6

Page 7: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Beth mae bod wedi ein gwreiddio yn Nuw’n ei olygu? What does it mean to be rooted in God?Gall coeden fod yn ddarlun defnyddiol i’n cynorthwyo i feddwl am hyn. Waeth pa mor fawr yw coeden, oni bai fod ei gwreiddiau yn ei hangori yn ddwfn yn y ddaear, bydd yn cwympo’n hawdd yn y stormydd sy’n ysgubo dros y tir.

To enable us to think about this, the image of a tree can be very helpful. A tree, no matter its size, without having its roots deeply embedded within the ground, can be easily felled by the storms that come and shake the land.

Heb fod iddi wreiddiau dwfn, gall rhuthr llifogydd neu wyntoedd cryfion ddistrywio neu ddadwreiddio unrhyw goeden sydd yn eu ffordd.

Gall y goeden fod yn drosiad ar gyfer ninnau a’n bywydau. Gallwn edrych ar wahanol rannu o’r goeden, neu agweddau arni - er enghraifft, y boncyff, y dail, y canghennau a’r gwreiddiau - i’n cynorthwyo i edrych ar y gwahanol rannau ac elfennau o’n bywydau ninnau.

Gall coeden fod yn dal ac urddasol, yn hudo’n llygaid i edmygu ei grym, ond os nad yw wedi ei gwreiddio’n gadarn yn y pridd oddi tani, arwynebol a bregus fydd ei grym a’i hurddas. Nid oes iddi ddyfnder i’w chynnal.

Wrth ddarllen yr efengylau, gwelwn nad oedd gwreiddiau ffydd y disgyblion bob amser yn ddwfn iawn! Roeddent yn amau ac yn methu deall, a bu iddynt fradychu Iesu a gwadu eu bod yn ei adnabod. Bodau dynol fel ninnau oedd y disgyblion a gallwn ninnau, fel hwythau, deimlo bod amrywiol stormydd bywyd yn hyrddio yn ein herbyn a’n siglo. Golyga gwreiddio yn y Duw yn yr hwn ‘yr ydym yn byw ac yn symud ac yn bod’ (Actau 17:28) y bydd ein ffydd yn ein cynnal, pa bynnag brofiadau a ddaw i’n rhan drwy fywyd.

I fyw’n ffyddlon heddiw, rhaid i wreiddiau ein ffydd fod yn ddwfn a sefydlog. Rhaid nerthu’r ‘gwreiddiau’ hynny drwy weddi, astudio, cyfeillgarwch, cydgyfarfod i addoli, ceisio maddeuant, cynorthwyo’n gilydd a thrwy geisio heddwch a chyfiawnder ag ysbryd hael. Mae gofyn i ni hefyd fod ag ymrwymiad dyfnach bob dydd i ddilyn llwybr Iesu, mewn ffydd a chariad.

Without a depth of rootedness, any passing deluge of water or fast moving wind can break down or uproot a tree that comes in path.

We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different parts, or aspects, of the tree - e.g. trunk, leaves, branches, roots - to help us to look at the different aspects and parts of our own life.

A tree can stand tall and majestic, commanding the eye to look and see its power, and yet, without being rooted in the ground beneath, its power and majesty is but shallow and superficial. It has no depth to sustain it.

Reading the gospels, we discover that the ‘rootedness’ of the disciples’ faith wasn’t always very deep! They questioned, they didn’t understand, they betrayed and they denied knowing Jesus. Like us the disciples were human, and we like them can feel ‘blown about’ and shaken by the various storms of life. Rooted in the God in whom ‘we live and move and have our being’ (Acts 17:28) means our faith will hold us together, no matter what experiences in life we go through.

To live in faith today, the roots of our faith need to be deep and secure. Our ‘roots’ need to be grounded and held firm by prayer, study, and friendship, by gathering together in worship, seeking forgiveness, and supporting one another, by offering a generosity of spirit in seeking peace and justice. It is also to have an ever deepening commitment to follow the way of Jesus, in faith and love.

7

Page 8: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Sut i ddefnyddio’r llyfryn yma / How to use this book

Sut i ddefnyddio’r llyfr hwn How to use this bookGall unigolion a grwpiau ddefnyddio’r llyfr hwn ar gyfer y Grawys. Ceir ynddo fyfyrdodau a chwestiynau, darlleniadau o’r Beibl a gweddïau i’ch cynorthwyo i ddyfnhau eich perthynas â Duw yn ystod yr wythnosau hyn. Os defnyddir y llyfr gan unigolyn, gellid defnyddio rhannau o’r deunydd ar gyfer pob wythnos bob dydd drwy’r wythnos yn hytrach nag ymdrin â’r cyfan ar un diwrnod.

This book for Lent can be used by individuals and by groups. There are reflections and questions, passages from the Bible and prayers to help engage more deeply with God during these weeks. If used by individuals, sections of each week could be used each day through the week rather than all on one day.

Mae’r deunydd ar gyfer Trydedd Wythnos y Grawys, ‘Datguddio?’ yn sôn am y gwaith celf gan Tim Iliffe yng Nghadeirlan Bangor. Mae’n defnyddio’r ddelwedd o goeden acasia Affricanaidd sydd â rhwyd wedi’i daenu ar draws ei changhennau ac ar draws corff yr eglwys. Gosodir blychau ynghrog ar y goeden a’r rhwyd. Mae’r blychau’n cynrychioli blychau meddyginiaeth fel y rhai a ddefnyddir gan bobl sydd ag afiechyd meddwl. Thema’r artist yw ‘Yn ein meddyliau mae llawer o ystafelloedd’, sy’n adleisio Ioan 14, a’r ffordd y gall afiechyd meddwl beri i ddioddefwyr deimlo eu bod yn symud o un ystafell i’r llall. Derbyniodd y gwaith celf gefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol. Fel rhan o’r Cwrs Grawys hwn, ceisiwch neilltuo amser i fynd i’r Gadeirlan i weld y gwaith celf ac efallai i ofyn am flwch i’w addurno ar gyfer ei grogi ar y goeden yn ystod ei thaith o gwmpas Cymru.

Chweched Wythnos y Grawys yw’r Wythnos Fawr. Yn hytrach nag un myfyrdod hir, mae’r wythnos hon yn cynnwys nifer o fyfyrdodau neu weddïau byrion i’n harwain o Sul y Blodau hyd at y Groes ar Ddydd Gwener y Groglith, ac o’r fan honno i’r disgwyl tawel Noswyl y Pasg a’r Atgyfodiad ar Sul y Pasg. Gellir ystyried y rhain gyda’i gilydd os bydd Cwrs Grawys yn parhau yn ystod yr Wythnos Fawr, neu gellir gweddïo gyda’r deunydd ar eich pen eich hun gartref.

Gall Arweinwyr Addoliad hefyd ddefnyddio’r trafodaethau a’r myfyrdodau yn y llyfr hwn.

Lent 3, ‘Revealing?’ includes a mention of the art installation by Tim Iliffe in Bangor Cathedral. He uses the image of the African acacia tree which has a net stretched across its branches, and across the nave. On the tree and the netting, boxes will be hung. The boxes represent medication boxes as used by those with mental ill health. His theme is ‘In our minds there are many rooms’ taken from John 14, and how in mental ill health there can be the sense of moving from one room to another. The art work is supported by the Arts Council of Wales, the Welsh Government and the National Lottery. As a part of this Lent Course, try to make the time to go to the Cathedral to see this art work, and maybe ask for a box to decorate to be hung on the tree as it travels around Wales.

Lent 6 takes us into Holy Week. Rather than a long reflection, this week has a number of short reflections or prayers to take us from Palm Sunday to the Cross of Good Friday, and from there to the quiet waiting of Holy Saturday and the Resurrection of Easter Day. These could be put together if a Lent Course continues during Holy Week, or can be prayed at home alone.

The reflections and thoughts in this book can also be used by Worship Leaders.

8

Page 9: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Sut i ddefnyddio’r llyfryn yma / How to use this book

Sut i ddefnyddio’r Goeden a gweddïo gyda hi How to use and pray with the TreeEfallai eich bod yn gyfarwydd â’r dull hwn o weddïo.

This may be a way of prayer that is familiar.

Tynnwch lun o goeden fel y mae hyn y llyfr ar ddarn mawr o bapur; neu gallech ddefnyddio’r un yn y llyfr. Yna wrth i chi deithio drwy wythnosau’r Grawys, defnyddiwch lun y goeden fel rhan o’ch gweddïo personol gerbron Duw. Gellid hefyd wneud hynny fel rhan o Gwrs Grawys er mwyn myfyrio ar yr hyn rydych wedi’i ddysgu, ei ddeall, ei ddirnad a’i drafod yn ystod pob sesiwn.

Er mwyn gweddïo yn greadigol gyda darlun y goeden, edrychwch ar y darnau canlynol ac ysgrifennwch eich atebion:

Draw a picture of a tree as printed in the book on a large piece of paper; or you could use the one in the book. Then as you journey through the weeks of Lent, use the image of the tree as a part of your personal prayer before God. This could also be done as part of a Lent Course to reflect upon what has been learnt, understood, discerned or discussed within that session.

To pray creatively with the image of the tree look at the following parts of the tree, and write down your answers:

The roots:• How ‘rooted’ in God is your faith?• How may those roots be strengthened?

Y gwreiddiau:• I ba raddau mae eich ffydd wedi’i ‘gwreiddio’ yn Nuw?• Sut ellid cryfhau’r gwreiddiau hynny?

Wyneb y tir:• Beth yw eich gobeithion a’ch disgwyliadau

ar gyfer y Grawys hwn?• Pwy/Beth sydd wedi’ch cynorthwyo i dyfu mewn ffydd?

Y boncyff:• Pa mor gryf neu gadarn yw eich ffydd?• Beth sydd wedi siglo eich ffydd, neu beth allai

wneud hynny?

Y canghennau:• Sut mae eich ffydd wedi tyfu a datblygu?• Sut ddelwedd sydd gennych chi o Dduw? A yw’r

ddelwedd wedi newid dros y blynyddoedd? Os ydyw, sut?

Y dail:• Yn gyffredinol - Beth yw dail eich ffydd - y doniau sydd

gennych a phopeth y gallwch ei wneud a’i gynnig mewn gwasanaeth i Dduw?

• Ar y goeden - Beth mae angen i chi ei hepgor i roi mwy o amser i chi i fod gyda Duw?

• Yn disgyn - Beth sydd wedi disgyn i’r llawr (profiadau personol) sydd wedi herio neu ddyfnhau eich ffydd?

• Ar y llawr neu yn y pridd - Beth sy’n bwydo eich ffydd ac yn cryfhau eich gwreiddiau yn Nuw o ddydd i ddydd?

Ground level:• What are your hopes and expectations

for this season of Lent?• Who/What has helped you grow in faith?

The trunk:• How strong or ‘sturdy’ is your faith?• What has or may ‘shake’ your faith?

The branches:• How has your faith grown and developed?• What is your image of God and has it and how

has it changed over the years?

The leaves:• General - What are the leaves of your faith - the

gifts you have and all you do and can offer in the service of God?

• On the tree - What do you need to ‘let go’ of to give you more time to be with God?

• Falling - What has fallen to the ground (personal experiences) which has challenged or deepened your faith?

• On or in the ground - What nurtures your day to day faith and rootedness in God?

9

Page 10: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

I’r sawl sy’n arwain cwrs Grawys For those leading a Lent courseBydd rhai o’r cwestiynau’n cyffwrdd â meddyliau personol felly bydd angen sicrhau cyfrinachedd o fewn y grŵp. Dylid hefyd annog yr aelodau ond i rannu pethau maent yn gyffyrddus ac yn fodlon eu rhannu. Efallai na fydd rhai ohonynt am gyfrannu unrhyw beth personol, er enghraifft, wrth ystyried afiechyd meddwl, ac mae angen iddynt wybod bod hynny’n iawn ac yn dderbyniol.

Efallai y byddwch am dynnu llun o goeden ar ddarn mawr o bapur ar gyfer pob wythnos, a hefyd sicrhau bod gennych greonau neu farcwyr ffelt ar gyfer ysgrifennu.

Some of the questions may touch upon personal thoughts and so there will be the need to ensure confidentiality within the group. Also encourage those present only to share what they are comfortable and happy to share. It may be that some will not want to contribute anything personal, for example, when looking at mental ill health, and they need to know that that is fine and accepted.

You may want to draw out a tree on a large piece of paper for each week, also to have crayons or felt pens to write with.

10

Page 11: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

11

Page 12: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

12

Page 13: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Ymgodymu?Wrestling?Wythnos Gyntaf y Grawys The First Week of Lent

13

Page 14: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Gweddi agoriadol Opening prayer

Ymgodymu? / Wrestling?

Diarhebion Proverbs

Effesiaid Ephesians

Gwyn ei fyd y sawl a gafodd ddoethineb,a’r un sy’n berchen deall.

Happy are those who find wisdom,and those who get understanding.

Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau gerbron y Tad,

yr hwn y mae pob teulu yn y nefoedd ac ar y ddaear yn cymryd ei enw oddi wrtho.

Ar ddechrau tymor y Grawys:Boed i mi geisio a chanfod doethineb,

boed i mi geisio a chanfod deall.

Deuaf ger dy fron, Dduw’r holl greadigaeth, a phenlinio mewn gweddi:

boed i wreiddiau fy ffydd fod yn ddwfn,boed i mi sefyll yn gadarn yn dy bresenoldeb, na foed

i mi wamalu na syrthio ar fin y ffordd.

Gyda holl deulu’r eglwys:pan fyddaf yn ymgodymu i fod yn ffyddlon,

llanwa fi â dewrder,pan fyddaf yn ymgodymu i barhau mewn gweddi,

llanwa fi â thangnefedd,pan fyddaf yn ymgodymu i ddeall sefyllfa eraill,

llanwa fi â chariad.Amen.

Gweddi’r Arglwydd, a’i dilyn gan:Boed i Ras Duw fy nghysgodi, boed i Oleuni Duw fy arwain,

boed i Dangnefedd Duw fy amgylchynu,boed i Gariad Duw fod i mi’n obaith,

er mwyn dyfnhau fy ffydd a’m gweddïo drwy’r Grawys hwn.

Amen.

At the beginning of this season of Lent:may I seek and find wisdom,

may I seek and find understanding.

I come before you, God of all creation,and kneel in prayer:

may the roots of my faith be deep,may I stand firm in your presence,

may I not waver or fall at the wayside.

With the whole family of the church:in my times of wrestling to be faithful,

fill me with courage,in my times of wrestling to be prayerful,

fill me with peace,in my times of wrestling to be understanding,

fill me with love.Amen.

The Lord’s Prayer, followed by:May the Grace of God be upon me,

the Light of God be my guide,the Peace of God be around me,

the Love of God be my hope, to deepen my faith and prayer this Lent.

Amen.

For this reason I bow my knees before God the Creator,

from whom every family in heaven and on earth takes its name.

14

Page 15: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Ymgodymu? / Wrestling?

Ymgodymu? Wrestling?

Dechreuwn ar ein taith drwy’r Grawys drwy atgoffa ein hunain nad yw ufuddhau i alwad Iesu bob amser yn hawdd! Mae yna adegau, efallai llawer o adegau, pan fyddwn yn ymgodymu i ddeall beth yn union mae ein ffydd yn ei olygu i ni yng nghyd-destun y byd o’n cwmpas. Bydd adegau hefyd pan allwn ni deimlo’n wag neu’n sych wrth geisio Duw mewn gweddi, pan fyddwn yn ymgodymu’n fewnol i ganfod geiriau gweddi neu’r tawelwch ar gyfer gweddïo.

We begin our Lenten journey with a reminder that following the call of Jesus is not always easy! There are times, and perhaps, many times when we wrestle to understand what our faith really means to us within the context of the wider world. Times too, when we may have a feeling of emptiness or aridness when seeking God in prayer; an inner wrestling to find the words to pray or the quietness in which to pray.

When have you wrestled with your faith?Pryd ydych chi wedi ymgodymu â’ch ffydd?

When have you wrestled and struggled to pray? Pryd ydych chi wedi ymgodymu i weddïo a theimlo bod gweddïo’n anodd?

What did you learn about yourself and about God, during those times?

Beth wnaethoch chi ddysgu amdanoch eich hun ac am Dduw yn ystod yr adegau hynny?

15

Page 16: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Read through the passage from the Book of Genesis 32:22-32, where Jacob wrestles through the night.

In those days: Jacob got up at night and took his two wives, his two maids, and his eleven children, and crossed the ford of the Jabbok. He took them and sent them across the stream, and likewise everything that he had. Jacob was left alone; and a man wrestled with him until daybreak. When the man saw that he did not prevail against Jacob, he struck him on the hip socket; and Jacob’s hip was put out of joint as he wrestled with him.

Then he said, ‘Let me go, for the day is breaking.’ But Jacob said, ‘I will not let you go, unless you bless me.’ So he said to him, ‘What is your name?’ And he said, ‘Jacob.’ Then the man said, ‘You shall no longer be called Jacob, but Israel, for you have striven with God and with humans, and have prevailed.’ Then Jacob asked him, ‘Please tell me your name.’ But he said, ‘Why is it that you ask my name?’ And there he blessed him.

So Jacob called the place Peniel, saying, ‘For I have seen God face to face, and yet my life is preserved.’ The sun rose upon him as he passed Penuel, limping because of his hip. Therefore to this day the Israelites do not eat the thigh muscle that is on the hip socket, because he struck Jacob on the hip socket at the thigh muscle.

Darllenwch drwy’r darn hwn o Lyfr Genesis 32:22-32, lle mae Jacob yn ymgodymu drwy’r nos.

Yn y dyddiau hynny: Yn ystod y nos cododd Jacob a chymryd ei ddwy wraig, ei ddwy forwyn a’i un mab ar ddeg, a chroesi rhyd Jabboc. Wedi iddo’u cymryd a’u hanfon dros yr afon, anfonodd ei eiddo drosodd hefyd. Gadawyd Jacob ei hunan, ac ymgodymodd gŵr ag ef hyd doriad y wawr. Pan welodd y gŵr nad oedd yn cael y trechaf arno, trawodd wasg ei glun, a datgysylltwyd clun Jacob wrth iddo ymgodymu ag ef.

Yna dywedodd y gŵr, ‘Gollwng fi, oherwydd y mae’n gwawrio.’ Ond atebodd yntau, ‘Ni’th ollyngaf heb iti fy mendithio.’ ‘Beth yw d’enw?’ meddai ef. Ac atebodd yntau, ‘Jacob.’ Yna dywedodd, ‘Ni’th elwir Jacob mwyach, ond Israel, oherwydd yr wyt wedi ymdrechu â Duw a dynion, ac wedi gorchfygu.’ A gofynnodd Jacob iddo, ‘Dywed imi dy enw.’ Ond dywedodd yntau, ‘Pam yr wyt yn gofyn fy enw?’ A bendithiodd ef yno.

Felly enwodd Jacob y lle Penuel, a dweud, ‘Gwelais Dduw wyneb yn wyneb, ond arbedwyd fy mywyd.’ Cododd yr haul arno fel yr oedd yn mynd heibio i Penuel, ac yr oedd yn gloff o’i glun. Dyna pam nad yw plant Israel yn bwyta giewyn gwasg y glun hyd heddiw, oherwydd trawo gwasg clun Jacob i fyw y giewyn.

Mae hanes Jacob yn ymgodymu drwy’r nos yn rhoi cip i ni ar hanes ehangach ei fywyd yn dilyn galwad Duw. Mae’r cyfarfyddiad annisgwyl hwn yn dod yn drobwynt ym mywyd Jacob. Roedd ar ei ben ei hun ac yna mae dieithryn yn ei gyfarch ac am ymladd. Er mor flinedig y byddai Jacob, mae’n ymladd yn ôl ac nid yw am ildio nes y bydd yn curo! Wrth i’r haul godi, a’i glun wedi’i afleoli, sylweddolodd Jacob â phwy y bu’n ymladd drwy’r nos. Mae’n derbyn bendith am iddo ymdrechu a threchu.

Sut fyddai Jacob yn teimlo ar ôl i’r dieithryn ei adael? Pa feddyliau a theimladau a fyddai’n rhedeg drwy’i feddwl a’i gorff ar ôl yr ornest ymgodymu annisgwyl hon? Yn ymarferol, fe adeiladodd allor, ond sut oedd Jacob yn emosiynol ac yn ysbrydol, ac at bwy y gallai droi i geisio doethineb a deall o’r profiad hwn?

The story of Jacob wrestling through the night offers us a glimpse into the wider story of his life of following the call of God. This unexpected meeting becomes a turning point in the story of Jacob’s life. He was alone and then finds himself accosted by a stranger who wants to fight. However tired Jacob may have been, he fights back and isn’t going to give in until he’s won! As the sun rose, and with his hip out of joint, realisation dawned and Jacob knew who he had been fighting with all night. He is blessed because he had striven and prevailed.

How did Jacob feel after the stranger had left him? What thoughts and feelings raced through his mind and body after this unsought for wrestling match? Practically, he built an altar, but emotionally and spiritually how was he, and who could he have turned to, to find wisdom and understanding from this experience?

Edrych tuag at yr Hen Destament Looking to the Old Testament

Ymgodymu? / Wrestling?16

Page 17: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Ymgodymu? / Wrestling?

Mae hanes Jacob yn ymgodymu fel petai’n torri ar draws llif hanes Jacob, ac eto efallai y’i gosodir ar y pwynt hwn am reswm. Cyn y digwyddiad hwn, rydym yn cyfarfod â dyn nad oedd bob amser yn ymddwyn ag anrhydedd a chariad. Ar ôl i hyn ddigwydd, rydym yn cyfarfod â dyn a oedd yn byw ei fywyd mewn ffordd wahanol iawn, bywyd a oedd wedi’i wreiddio yn Nuw.

Bydd adegau yn ein bywydau pan fyddwn ninnau hefyd wedi methu ag ymddwyn â chariad ac anrhydedd ar ddelw Crist, ac adegau eraill pan fyddwn wedi gwneud ein gorau i ddilyn ffordd Duw. Mae hanes Jacob yn ymgodymu’n ein hatgoffa nad yw ein taith drwy fywyd a chyda Duw bob amser yn hawdd, ac y byddwn ninnau hefyd yn wynebu heriau, gofidiau, pryderon ac weithiau gornestau ymgodymu.

Yn ei llyfr, Scarred by Struggle, Transformed by Hope, dywed Joan Chittister fod ‘ymgodymu’n dod â ni at drothwyon mewn bywyd pan fyddwn wedyn yn dod yn bobl newydd, weithiau’n waeth, yn aml yn well, ond bob amser yn wahanol’. I raddau helaeth, byddwn yn ysgrifennu geiriau ein stori ein hunain, eto bydd llawer o bethau’n dylanwadu ar y stori, megis ein hamgylchiadau, ein profiadau, ein credoau, aelodau’r teulu a chyfeillion a digwyddiadau yn y byd. Prin y bydd gwneud penderfyniadau o ddydd i ddydd yn golygu ymgodymu cyn darganfod yr ateb neu’r dewis cywir. Ar adegau eraill, fodd bynnag, yn arbennig mewn cysylltiad â materion pwysicach, materion, efallai, na ŵyr neb ond y ni amdanynt, neu rai rydym ond wedi ymddiried mewn un person arall amdanynt, gallwn wynebu gornest hirach na’r un noson a dreuliodd Jacob yn ymgodymu.

The story of Jacob wrestling seems to break into the overall flow of the story of Jacob, and yet maybe it is placed where it is for a reason. Before this, we meet with a man who didn’t always behave with honour and love. After this, we meet with a man whose life is lived out very differently, a life lived rooted in God.

There will be times in our lives when we too haven’t acted with Christ-like love and honour, and times when we try our best to follow the way of the God. The wrestling Jacob reminds us that our journey through life and with God, is not always easy, nor without its challenges, worries, concerns, and sometimes its wrestling matches.

In her book, Scarred by Struggle, Transformed by Hope, Joan Chittister writes that, ‘struggle brings us to cross over points in life after which we become new people, sometimes worse, often better, but always different.’ To a great extent we write the words of our own story, and yet it will be influenced by our circumstances, experiences, beliefs, family and friends, and world events. Often, day to day decision making will rarely involve a sense of wrestling before discovering the answer or right choice. At other times, though, particularly with more serious issues, ones perhaps only known to ourselves, or trusted and shared with another person, it may mean a longer wrestling match than the one night Jacob had.

Why do you think this wrestling match took place?

Pam ydych chi’n meddwl y digwyddodd yr ornest ymgodymu hon?

17

Page 18: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

In small groups, and then share with the whole group, consider the following questions of life we may wrestle with:

Trafodwch y cwestiynau canlynol, ynghylch pethau mewn bywyd y gallwn orfod ymgodymu â hwy, mewn grwpiau bach, yna rhannwch â’r grŵp cyfan:

Gall ymgodymu fod yn brofiad cadarnhaol ac yn un sy’n cyfoethogi’n bywydau. Gall hefyd fod yn brofiad poenus wrth i ni gael ein gorfodi i wynebu’n camdybiaethau ynghylch y byd a ni ein hunain. Mae Joan Chittister yn ysgrifennu, yng nghyd-destun ei ffydd, bod ‘ymgodymu â Duw yn rhan o hanfod bywyd.’ Drwyddo byddwn yn dysgu mwy am Dduw, mwy amdanom ein hunain a mwy ynghylch ein cyfrifoldeb tuag at bawb arall a’r greadigaeth gyfan.

Wrestling can be a positive and life enhancing experience. It can also be a painful encounter as we are forced to confront the illusions we may have about the world and our own selves. Joan Chittister writes that in regard of our faith, ‘wrestling with God is of the essence of life.’ Through it we learn more about God, more about ourselves, and more about our responsibility towards all people, all creation.

Ymgodymu? / Wrestling?

Dealing with times of transition - retirement, children leaving home, grandchildren, marriage, restricted mobility, reduced finances, job change, redundancy, moving home, ill health, becoming a carer, bereavement, etc.

The political and social world - which party to vote for, the effects of Brexit, other world leaders, concerns about the environment, fair-trade, recycling, closure of banks and post offices, lack of public transport, local government cuts, reduced facilities for all the ages, the homeless, those with addictions, etc.

The consequences of a global world - effects of natural disasters, the difference between rich and poor countries, world economics, acts of terrorism, war and conflict, destruction of land and national heritage, environmental concerns, etc.

Our faith, our relationship with God and the church - answering, or not, a call from God to serve, a sense of being tested by God, how to share faith with others, concerns about church buildings, concerns about the future of the church, etc.

What does our faith mean to us, or tell us, as we wrestle with the multi-cultural and multifaith nature of the world today?

Ymdrin ag adegau o newid mawr - ymddeol, y plant yn gadael cartref, wyrion, priodi, cyfyngu ar symudedd, gostyngiad mewn incwm, newid neu golli swydd, symud cartref, afiechyd, dod yn ofalwr, profedigaeth ac ati.

Y byd gwleidyddol a chymdeithasol - pa blaid i bleidleisio drosti, effeithiau Brexit, arweinwyr gwledydd y byd, pryderon ynghylch yr amgylchedd, masnach deg, ailgylchu, cau banciau a swyddfeydd post, prinder trafnidiaeth gyhoeddus, toriadau llywodraeth leol, gostyngiad mewn cyfleusterau ar gyfer pobl o bob oedran, y digartref, pobl sy’n gaeth i sylweddau ac arferion ac ati.

Problemau byd-eang - effaith trychinebau naturiol, y bwlch rhwng gwledydd cyfoethog a thlawd, economeg fyd-eang, terfysgaeth, rhyfel a gwrthdaro, dinistrio tir a threftadaeth genedlaethol, pryderon amgylcheddol ac ati.

Ein ffydd, ein perthynas â Duw a’r eglwys - ateb galwad Duw i wasanaethu, neu beidio, teimlo bod Duw yn ein profi, sut i rannu ein ffydd ag eraill, pryderon ynghylch adeiladau eglwysig, pryderon ynghylch dyfodol yr eglwys ac ati.

Beth mae ein ffydd yn ei olygu ni, neu beth mae’n ei ddweud wrthym, wrth i ni ymgodymu â natur amlddiwylliannol ac amlgrefyddol y byd heddiw?

18

Page 19: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Ymgodymu? / Wrestling?

Read through the passage from the Gospel of Matthew 5:1-12: the Beatitudes.

At that time: When Jesus saw the crowds, he went up the mountain; and after he sat down, his disciples came to him. Then he began to speak, and taught them, saying:

‘Blessed are the poor in spirit, for theirs is the kingdom of heaven. Blessed are those who mourn, for they will be comforted. Blessed are the meek, for they will inherit the earth.

Blessed are those who hunger and thirst for righteousness, for they will be filled. Blessed are the merciful, for they will receive mercy. Blessed are the pure in heart, for they will see God. Blessed are the peacemakers, for they will be called children of God. Blessed are those who are persecuted for righteousness’ sake, for theirs is the kingdom of heaven.

Blessed are you when people revile you and persecute you and utter all kinds of evil against you falsely on my account.

Rejoice and be glad, for your reward is great in heaven, for in the same way they persecuted the prophets who were before you.’

Darllenwch drwy’r darn hwn o Efengyl Mathew 5:1-12: y Gwynfydau.

Bryd hynny: Pan welodd Iesu y tyrfaoedd, aeth i fyny’r mynydd, ac wedi iddo eistedd i lawr, daeth ei ddisgyblion ato. Dechreuodd eu hannerch a’u dysgu fel hyn:

‘Gwyn eu byd y rhai sy’n dlodion yn yr ysbryd, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd. Gwyn eu byd y rhai sy’n galaru, oherwydd cânt hwy eu cysuro. Gwyn eu byd y rhai addfwyn, oherwydd cânt hwy etifeddu’r ddaear.

Gwyn eu byd y rhai sy’n newynu a sychedu am gyfiawnder, oherwydd cânt hwy eu digon. Gwyn eu byd y rhai trugarog, oherwydd cânt hwy dderbyn trugaredd. Gwyn eu byd y rhai pur eu calon, oherwydd cânt hwy weld Duw. Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw’n blant i Dduw. Gwyn eu byd y rhai a erlidiwyd yn achos cyfiawnder, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.

Gwyn eich byd pan fydd pobl yn eich gwaradwyddo a’ch erlid, ac yn dweud pob math o ddrygair celwyddog yn eich erbyn, o’m hachos i.

Llawenhewch a gorfoleddwch, oherwydd mae eich gwobr yn fawr yn y nefoedd, oherwydd felly yn wir yr erlidiwyd y proffwydi oedd o’ch blaen chwi.’

Edrych tuag at y Testament Newydd Looking to the New Testament

19

Page 20: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

In small groups consider this passage from the perspective of wrestling. Then share with the wider group.

There is the well known phrase ‘count your blessings’, but what does it really mean to be blessed? If counting your blessings what would you want to include? Blest, blessing and blessed refers to holiness, sacredness, being fortunate for what we have, and a seeking of God. Jesus tells us here what we are to do if we are to be blessed. These blessings are spiritual and yet have an outward action; our action comes from the heart and is born out of faith. To be blessed is to be rooted in God, to be in a prayerful relationship with God day by day.

To be blessed by God and to show blessings to others, does not take away from us the times of wrestling and struggle. To know that we are blessed and loved by God is the ground to hold us firm throughout any time of wrestling.

Mewn grwpiau bach, trafodwch y darn hwn o safbwynt ymgodymu. Yna trafodwch â’r grŵp cyfan.

Fe glywn bobl yn dweud yn aml ‘cyfrwch eich bendithion’, ond beth mae’n ei olygu o ddifrif i gael eich bendithio? Petaech chi’n cyfrif eich bendithion, pa fendithion fyddech chi’n eu cynnwys? Mae bendithio, bendith a chael eich bendithio’n cyfeirio at sancteiddrwydd, cysegredigrwydd, bod yn ffodus yn yr hyn sydd gennym, a cheisio Duw. Mae Iesu’n dweud wrthym yma beth ddylem ei wneud os ydym am dderbyn bendith. Er mai ysbrydol yw’r bendithion hyn, mae iddynt ganlyniadau ymarferol; daw ein gweithredoedd ninnau o’r galon ac maent wedi’u sylfaenu ar ffydd. Golyga bod dan fendith ein bod wedi’n gwreiddio yn Nuw a’n bod mewn perthynas weddigar â Duw o ddydd i ddydd.

Nid yw bod dan fendith Duw a bod yn fendith i eraill yn golygu na fyddwn yn wynebu adegau pan fyddwn yn ymgodymu ac yn gorfod brwydro. Gwybod bod Duw’n ein bendithio ac yn ein caru yw’r gwreiddiau a’n ceidw’n gadarn drwy unrhyw gyfnod o ymgodymu.

What would you call the blessing in your life?Beth fyddech chi’n ei ddweud yw’r fendith yn eich bywyd?

Is there any particular time when you have felt blessed by God?

A fu unrhyw adeg arbennig y bu i chi deimlo bod Duw’n eich bendithio?

Ymgodymu? / Wrestling?20

Page 21: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Read through the passage from the Gospel of John 11:45-53 and the plan to kill Jesus.

At that time: Many of the Jews, who had come with Mary and had seen what Jesus did, believed in him. But some of them went to the Pharisees and told them what he had done. So the chief priests and the Pharisees called a meeting of the council, and said, ‘What are we to do? This man is performing many signs. If we let him go on like this, everyone will believe in him, and the Romans will come and destroy both our holy place and our nation.’ But one of them, Caiaphas, who was high priest that year, said to them, ‘You know nothing at all! You do not understand that it is better for you to have one man die for the people than to have the whole nation destroyed.’ He did not say this on his own, but being high priest that year he prophesied that Jesus was about to die for the nation, and not for the nation only, but to gather into one the dispersed children of God. So from that day on they planned to put him to death.

There is a sense of wrestling throughout the Gospels as those who listen to Jesus decide whether he is speaking the truth of God, or whether his ideas are going to topple the status quo of political and religious life. Conversations took place behind closed doors and the plot to kill Jesus began to be formed.

As the leaves die and fall from the tree, they enter into the ground to nurture the ongoing life of the tree.

Wrth i’r dail farw a disgyn o’r goeden, maent yn mynd i mewn i’r pridd i faethu bywyd y goeden i’r dyfodol.

Darllenwch y darn o Efengyl Ioan 11:45-53 ynghylch y cynllun i ladd Iesu.

Bryd hynny: Daeth llawer o’r Iddewon, y rhai oedd wedi dod at Mair a gweld beth yr oedd Iesu wedi ei wneud, i gredu ynddo. Ond aeth rhai ohonynt i ffwrdd at y Phariseaid a dweud wrthynt beth yr oedd Iesu wedi ei wneud. Am hynny galwodd y prif offeiriaid a’r Phariseaid gyfarfod o’r Sanhedrin, a dywedasant: ‘Beth yr ydym am ei wneud? Y mae’r dyn yma’n gwneud llawer o arwyddion. Os gadawn iddo barhau fel hyn, bydd pawb yn credu ynddo, ac fe ddaw’r Rhufeiniaid a chymryd oddi wrthym ein teml a’n cenedl hefyd.’ Ond dyma un ohonynt, Caiaffas, a oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno, yn dweud wrthynt: ‘Nid ydych chwi’n deall dim. Nid ydych yn sylweddoli mai mantais i chwi fydd i un dyn farw dros y bobl, yn hytrach na bod y genedl gyfan yn cael ei difodi.’ Nid ohono’i hun y dywedodd hyn, ond proffwydo yr oedd, ac yntau’n archoffeiriad y flwyddyn honno, fod Iesu’n mynd i farw dros y genedl, ac nid dros y genedl yn unig ond hefyd er mwyn casglu plant Duw oedd ar wasgar, a’u gwneud yn un. O’r diwrnod hwnnw, felly, gwnaethant gynllwyn i’w ladd ef.

Mae yna ymdeimlad o ymgodymu drwy gydol yr efengylau wrth i’r rhai sy’n gwrando ar Iesu benderfynu p’run a yw yn llefaru gwirionedd Duw, ynteu a fydd ei syniadau’n dymchwel statws cwo’r bywyd gwleidyddol a chrefyddol. Bu trafod yn y dirgel a dechreuwyd llunio cynllwyn i ladd Iesu.

Edrych tuag at y Groes Looking to the Cross

How did you come to faith and belief in God?

What may need to ‘die and fall’ to ensure the ongoing life of the church?

Sut ddaethoch chi i gofleidio ffydd ac i gredu yn Nuw?

Beth allai fod angen ‘marw a disgyn’ i sicrhau bywyd yr eglwys yn y dyfodol?

Ymgodymu? / Wrestling? 21

Page 22: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Edrych tuag at y Goeden Looking to the Tree

From the discussions during this session:

On your own personal Tree:

O’r trafodaethau yn y sesiwn hon:

Ar eich Coeden bersonol eich hun:

In one colour, write on the tree those things which may cause a wrestling match in life and faith.

In another colour, write on the tree those things which are a blessing in life and faith.

In another colour, anything else of importance.

In one colour, write on the tree those things which you have wrestled with in faith.

In another colour, write on the tree those things which you have been blessed with in your life.

In another colour, anything else of importance.

Mewn un lliw, ysgrifennwch ar y goeden y pethau a allai achosi gornest ymgodymu mewn bywyd a ffydd.

Mewn lliw arall, ysgrifennwch ar y goeden y pethau sydd yn fendith mewn bywyd a ffydd.

Mewn lliw arall, ysgrifennwch unrhyw beth arall y credwch ei fod yn bwysig.

Mewn un lliw, ysgrifennwch ar y goeden y pethau rydych wedi ymgodymu â hwy mewn ffydd.

Mewn lliw arall, ysgrifennwch ar y goeden y pethau rydych wedi cael eich bendithio â hwy yn ystod

eich bywyd.

Mewn lliw arall, ysgrifennwch unrhyw beth arall y credwch ei fod yn bwysig.

22

Page 23: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Gweddi i gloi Closing prayer

God be in my wrestling,and bless to me your wisdom.

God be in my struggles,and bless to me your understanding.

God be in my daily life,and bless to me peace and hope.

God be in my heart,and bless to me courage to walk

with you during Lent.

Amen.

O Dduw, bydd gyda mi yn fy ymgodymu,a bendithia fi â’th ddoethineb.

O Dduw, bydd gyda mi yn fy mrwydrau,a bendithia fi â’th ddeall.

O Dduw, bydd gyda mi yn fy mywyd beunyddiol,a bendithia fi â’th dangnefedd a’th obaith.

O Dduw, bydd yn fy nghalon,a rhoi i mi’r dewrder i gyd-gerdded

â thi yn ystod y Grawys.

Amen.

Ymgodymu? / Wrestling? 23

Page 24: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

24

Page 25: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Rhoi?Giving?Ail Wythnos y Grawys The Second Week of Lent

25

Page 26: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Gweddi agoriadol Opening prayer

Rhoi? / Giving?

Diarhebion Proverbs

Effesiaid Ephesians

Y mae mwy o elw ynddi nag mewn arian,a’i chynnyrch yn well nag aur.

For her income is better than silver,and her revenue better than gold.

Rwyf yn gweddïo y bydd iddo ganiatáu i chwi,

yn ôl cyfoeth ei ogoniant, gryfder a nerth mewnol trwy’r Ysbryd.

Beth a allaf ei roi i ti, O Dduw?Rhoddaf i ti fy nghalon i’th garu’n ddyfnach

o ddydd i ddydd.Rhoddaf i ti fy nwylo i weithio yn dy enw.

Rhoddaf i ti fy llais i lefaru dros y rhai sydd heb lais yn y byd hwn.

Rhoddaf i ti o’m hincwm i gynorthwyo dy eglwys.

Rhoddaf i ti o gyfoeth dy ogoniant, y’m bendithiaist ag ef, yn dy wasanaeth.

Rhoddaf i ti yr hyn a allaf, drwy nerth dy Ysbryd sydd ar waith ynof.

Beth a allaf ei roi i ti, O Dduw?Ceisiaf roi mwy o amser i ti mewn gweddi.

Ceisiaf roi mwy o amser i ti wrth astudio dy air.

Ceisiaf rannu dy gariad croesawgar yn amlach.

Ceisiaf rannu’n fwy hyderus fy ffydd yn Iesu Grist.

Ceisiaf roi a rhannu pryd bynnag a lle bynnag y gallaf.

Ceisiaf roi a rhannu gan wybod fy mod yn gwneud hynny drwy

nerth dy Ysbryd sydd ar waith ynof.Amen.

What can I give to you, O God?I will give my heart to love you

more deeply day by day.I will give my hands to work in your name.

I will give my voice to speak for the voiceless in this world.

I will give from my income to support your church.

I will give of the riches of your glory blessed to me in service.

I will give what I can, through the power of your Spirit at work within me.

What can I give to you, O God?I will seek to give more time to you in prayer.

I will seek to give more time to you in study of your word.

I will seek to share more often the hospitality of your love.

I will seek to share more confidently my faith in Jesus Christ.

I will seek to give and share when and where I can.

I will seek to give and share knowing I do so through the power

of your Spirit at work within me.Amen.

I pray that, according to the riches of God’s glory,

you may be strengthened in your inner being with power through the Spirit.

26

Page 27: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Gweddi’r Arglwydd, a’i dilyn gan: Boed i Ras Duw fy nghysgodi, boed i Oleuni Duw fy arwain,

boed i Dangnefedd Duw fy amgylchynu,boed i Gariad Duw fod i mi’n obaith,

er mwyn dyfnhau fy ffydd a’m gweddïo drwy’r Grawys hwn.

Amen.

The Lord’s Prayer, followed by:May the Grace of God be upon me,

the Light of God be my guide,the Peace of God be around me,

the Love of God be my hope, to deepen my faith and prayer this Lent.

Amen.

Rhoi? Giving?

Un agwedd ar ein taith drwy’r Grawys yw elusengarwch. Drwy gydol y Beibl, gwelwn gyfeiriadau at roi neu ddegymu. Mae rhoi yn aml yn gysylltiedig â chyfrannu arian. Yn yr Hen Destament, disgwylir i bawb ddegymu ond yn y Testament Newydd daw degymu’n fwy o weithred ymwybodol ac yn fater o sylweddoli faint y dylem ninnau ei roi mewn diolchgarwch am gariad Duw tuag atom ni.

One aspect of our Lenten journey is that of almsgiving. Throughout the Bible we find references to giving, or tithing. Giving is often related to our monetary offering. In the Old Testament tithing was expected to be given by all but in the New Testament tithing becomes more of a conscious action and realisation of how much we should give because of God’s love for us.

What does it mean to be a giving person?Beth mae bod yn hael yn ei olygu?

How comfortable or not is it to think of giving in relation to money?

Pa mor gyffyrddus neu anghyffyrddus yw hi i feddwl am roi mewn perthynas ag arian?

What else may we give to God and God’s church?

Beth arall a allem ei roi i Dduw ac i eglwys Dduw?

Rhoi? / Giving? 27

Page 28: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Read through the passage from the Prophecy of Amos 4:1-5, where the prophet speaks to those who have lost their way.

Hear this word, you cows of Bashan who are on Mount Samaria, who oppress the poor, who crush the needy, who say to their husbands, ‘Bring something to drink!’ The Lord God has sworn by his holiness: ‘The time is surely coming upon you, when they shall take you away with hooks, even the last of you with fish-hooks. Through breaches in the wall you shall leave, each one straight ahead; and you shall be flung out into Harmon,’ says the Lord. ‘Come to Bethel-and transgress; to Gilgal-and multiply transgression; bring your sacrifices every morning, your tithes every three days; bring a thank-offering of leavened bread, and proclaim freewill-offerings, publish them; for so you love to do, O people of Israel!’ says the Lord God.

Darllenwch y darn o Broffwydoliaeth Amos 4:1-5, lle mae’r proffwyd yn annerch y rhai sydd wedi colli eu ffordd.

Clywch y gair hwn, fuchod Basan, sydd ym mynydd Samaria, sy’n gorthrymu’r tlawd ac yn treisio’r anghenus, sy’n dweud wrth eu gwŷr, ‘Dewch â gwin, inni gael yfed’: Tyngodd yr Arglwydd Dduw i’w sancteiddrwydd, ‘Fe ddaw, yn wir, ddyddiau arnoch pan ddygir chwi i ffwrdd â bachau, a’r olaf ohonoch â bachau pysgota. Ac ewch allan trwy’r bylchau, pob un ohonoch ar ei chyfer, ac fe’ch bwrir i Harmon,’ medd yr Arglwydd. ‘Dewch i Fethel a throseddu, i Gilgal a phechu fwyfwy; dygwch eich aberthau bob bore a’ch degymau bob tridiau; offrymwch aberth diolch o fara lefeinllyd, cyhoeddwch aberthau gwirfodd, a gwnewch hwy’n hysbys; canys hyn a hoffwch, bobl Israel,’ medd yr Arglwydd Dduw.

Pwy oedd Amos? Roedd yn byw tua deng milltir i’r de o Jerwsalem, a chredir efallai mai perchennog y defaid ydoedd yn hytrach na bugail (1:1). Dywed Amos nad yw’n broffwyd nac yn fab i broffwyd, ond yn lleygwr wedi’i alw gan Dduw (7:14) i lefaru yn erbyn yr anghyfiawnder cymdeithasol a’r trachwant a oedd wedi goddiweddyd y bobl. Tua 760CC y bu’n gweinidogaethu, a hynny ond am ychydig fisoedd yn ôl yr ysgolheigion. Mae’n galw ar y bobl i edifarhau a thrawsnewid eu bywydau. O neidio ymlaen sawl canrif, clywn broffwyd arall yn galw ar y bobl i edifarhau a thrawsnewid eu bywydau. Siaradai Ioan Fedyddiwr, fel Amos, heb flewyn ar ei dafod, gan alw am yr edifeirwch a fyddai’n arwain at adferiad Israel.

Erbyn amser Amos, roedd y bwlch rhwng y cyfoethog a’r tlawd wedi lledu, ac roedd gormes gymdeithasol wedi dod yn ei sgil. Llefarodd yn erbyn y cyfoethogion a geisiai gasglu mwy o gyfoeth heb boeni am neb ond amdanynt hwy eu hunain - hwy oedd y rhai oedd yn ‘gorthrymu’r tlawd ac yn treisio’r anghenus’ (4:1). Llefarodd yn erbyn cyflawni defodau crefyddol er mwyn ymddangosiad yn hytrach nac i fynegi unrhyw wir gred, ac yn erbyn y rhai a dreulient amser yn addoli wrth allorau duwiau eraill.

Mae Amos yn cyhoeddi sawl barn yn erbyn y bobl, ond mae ei lyfr a’i eiriau proffwydol yn diweddu mewn gobaith. Efallai’n wir y bydd y genedl yn wynebu

Who was Amos? He lived about ten miles south of Jerusalem, and it is thought that he could have been the owner of the sheep, rather than being a shepherd (1:1). Amos declares that he isn’t a prophet, nor the son of a prophet, but a lay person called by God (7:14) to speak out against the social injustice and greed that had overtaken the people. His ministry took place around 760BC, and according to scholars, it only lasted a few months. The call to the people is to repent and change their lives around. Jumping several centuries ahead, we hear another prophet calling the people to repent and turn their lives around. John the Baptist, like Amos, spoke with bluntness, seeking a change of heart that would lead to the restoration of Israel.

At the time of Amos, the divide between rich and poor had widened and along with it came social oppression. He spoke against the wealthy who sought to gather more riches with no regard for anyone except themselves; those ‘who oppress the poor, who crush the needy’ (4:1). He spoke against the religious practices that were for show rather than any true belief, and also against those who spent time worshipping at the shrines of other gods.

Amos offers a number of judgements on the people, but his book and his prophetic words end with hope. The nation may be destroyed, but there is a promise from God that all the people will ultimately be blessed. ‘“I

Edrych tuag at yr Hen Destament Looking to the Old Testament

Rhoi? / Giving?28

Page 29: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Mae ein byd ni heddiw’n wahanol iawn i fyd Amos - ond pa mor wahanol yw pethau mewn gwirionedd? Ysgrifennodd C.S. Lewis: ‘Buddsoddir egni rhyfeddol - adeiledir gwareiddiadau - dyfeisir sefydliadau rhagorol; ond bob tro mae rhywbeth yn mynd o’i le. Mae rhyw wall tyngedfennol bob amser yn sicrhau mai’r bobl hunanol a chreulon sy’n cyrraedd y brig ac mae popeth yn llithro’n ôl i drallod drylliedig.’ Mae’r geiriau hynny’n llefaru wrth y bobl y trigai Amos yn eu plith yn ogystal ag wrthym ninnau. Mae’r agwedd y cyfeirir ati’n dirymu cydwybod gymdeithasol, a’r gydwybod sydd o Dduw, sy’n ein hannog oll i weithredu er daioni mewn cymdeithas. Gan ddefnyddio darlun y goeden, os byddwn yn tynnu’r rhisgl, beth fydd y cylchoedd oddi mewn yn ei ddatgelu? Mae’r cylchoedd hynny’n dangos oed y goeden a’r modd y bu iddi oroesi drwy’r blynyddoedd bras a’r blynyddoedd llwm. Mae i eiriau Amos adlais i ninnau gan ein bod ninnau hefyd yn byw mewn byd sydd â gagendor cymdeithasol enfawr, byd y gred yn y ‘fi fawr yn gyntaf’, lle mae’r cyfoethogion yn dod yn fwy cyfoethog a’r tlodion yn mynd yn dlotach, yn hytrach nag mewn cymuned o gyd-gymorth a rhannu.

Safodd Amos yn ddewr gerbron y cyfoethog a’r grymus gan, yn y bôn, ‘ddweud y drefn’ wrthynt mewn geiriau na allent eu camddeall! Y broblem yw, a fu iddynt wrando o ddifrif? Gallem ofyn yr un cwestiwn heddiw. A ydym yn gwrando ar Dduw mewn gweddi, ac ar y rhai sydd mewn angen a cheisio rhoi a chynnig beth bynnag a allwn i’w cynorthwyo hwythau neu geisio newid agweddau’r rhai sydd mewn awdurdod?

distryw, ond mae addewid gan Dduw y bendithir yr holl bobl yn y pen draw. ‘“Fe’u plannaf yn eu gwlad, ac ni ddiwreiddir hwy byth eto o’r tir a rois iddynt,” medd yr Arglwydd Dduw’ (9:15). Cyn hynny, fodd bynnag, mae ganddynt lawer i’w ddysgu!

Our world today is very different to the world of Amos, or is it? C.S. Lewis wrote: ‘Terrific energy is expended - civilizations are built up - excellent institutions devised; but each time something goes wrong. Some fatal flaw always brings the selfish and the cruel people to the top and it all slides back into misery and ruin.’ This speaks to the people Amos was among as well as to us. This attitude removes the social conscience, and the conscience that is of God, which encourages us all to be active for the good within society.

Using the imagery of the tree, if we strip back the bark what will the inner rings reveal? The inner rings show the age of the tree and how it has survived the times of plenty and times of little. The words of Amos resonate for us because we too live in a world of great social divisions, of a belief in ‘self first’, where the rich get richer and the poor become poorer, rather than in a community of help and share.

Amos bravely stood in front of the rich and powerful, and basically ‘told them off’, and that in words which they couldn’t fail to not understand! The problem is, did they really listen? We could ask the same question today. Do we listen to God in prayer and to those in need and then seek to give and offer whatever we can to help, or to change the attitudes of those in positions of authority?

will plant them upon their land, and they shall never be plucked up out of the land that I have given them,” say the Lord your God’ (9:15). First, though, they have a lot to learn!

Read through the passage again. What may we learn through the words of Amos?

Darllenwch y darn eto. Beth allwn ni ei ddysgu drwy eiriau Amos?

Rhoi? / Giving? 29

Page 30: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

In small groups, and then share with the whole group, consider the following questions of life Amos raises:

Giving, from the context of Amos, is about justice and a true and real relationship with God and one another that leads to mutuality, equality and a faith that is aware - with action - of others’ needs. Amos gave all he had in faith, and with a large degree of risk, to do the work of God. Many across the world still face a risk if they reveal their Christian faith. Here, we are fortunate for we are given a freedom to worship and to be open in our faith. Yet, can we become too complacent, so that like in the case of those Amos spoke against, faith becomes secondary to the more material aspects of the world?

Mae rhoi, yng nghyd-destun Amos, yn ymwneud â chyfiawnder a pherthynas gywir a dilys â Duw ac â phobl eraill, sy’n arwain at gydbarchu, cydraddoldeb a ffydd sy’n effro i anghenion eraill ac sy’n ymateb yn ymarferol i’r anghenion hynny. Rhoddodd Amos y cyfan a feddai mewn ffydd, a chan wynebu gwir berygl, er mwyn gwneud gwaith Duw. Mae llawer o bobl ledled y byd heddiw’n wynebu perygl os byddant yn datgelu eu ffydd Gristnogol. Yma, rydym yn ffodus bod i ni ryddid i addoli ac i fod yn agored ynghylch ein ffydd. Ac eto, oni allwn ddod yn rhy hunanfodlon, fel y bobl y llefarodd Amos yn eu herbyn? Ac a allai ein ffydd ddod yn eilbeth i agweddau mwy materol y byd?

Mewn grwpiau bach, trafodwch y cwestiynau canlynol y mae Amos yn eu codi am fywyd. Yna trafodwch â’r grŵp cyfan:

Rhoi? / Giving?

Prophets today - could you be a prophet like Amos? To be a prophet is to have a calling from God - who are the prophets of the world today, within the church and within the secular world?

The material world of today - how as Christians do we support local businesses, and buy fairtrade products? What place does ethics have in your day to day life - banking, shopping for example? How

can we be less materialistic?

The millions that can be won today - what do you think of the millions that can be won from scratch

cards and lottery cards? Who really benefits?

The refugees, homeless, and those needing food banks today - where are they placed within

society? Are these the people who Amos was speaking out for? What more could we do,

individually or as a church, to give and offer help and support?

Our worship - Amos spoke against religious practice and ritual that was for show. What religious practice

or ritual enables you to deepen your faith in God? What does, or would, draw you into a deeper

relationship with God, and so enhance your giving to the church and community?

What can we do to ensure we do not become complacent in our faith and

relationship with God?

Proffwydi heddiw - a allech chi fod yn broffwyd fel Amos? Mae bod yn broffwyd yn golygu bod

wedi eich galw gan Dduw - pwy yw proffwydi’r byd heddiw, o fewn yr eglwys ac o fewn y byd seciwlar?

Y byd materol heddiw - sut ydym ninnau fel Cristnogion yn cefnogi busnesau lleol a phrynu

cynnyrch masnach deg? Pa le sydd i foeseg yn eich bywyd bob dydd - bancio a siopa, er enghraifft?

Sut allwn ni fod yn llai materol?

Y miliynau y gellir eu hennill heddiw - beth yw eich barn am y miliynau y gellir eu hennill o gardiau crafu a chardiau loteri? Pwy sy’n elwa o ddifrif?

Ffoaduriaid, pobl ddigartref, y rhai sydd angen defnyddio banciau bwyd heddiw - beth yw eu lle o fewn cymdeithas? Ai dyma’r bobl roedd Amos yn llefaru ar eu rhan? Faint mwy allwn ninnau ei wneud, yn unigol neu fel eglwys, i roi ac i gynnig

cymorth a chefnogaeth?

Ein haddoliad - llefarodd Amos yn erbyn arferion a defodau crefyddol gweigion. Pa arfer neu ddefod grefyddol sy’n eich galluogi i ddyfnhau eich ffydd yn Nuw? Beth sydd, neu beth fyddai, yn dyfnhau eich perthynas â Duw, ac felly’n hybu eich rhoi i’r

eglwys ac i’r gymuned?

Beth allwn ni ei wneud i sicrhau na fyddwn yn mynd yn hunanfodlon am ein ffyd a’n perthynas

â Duw?

30

Page 31: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Read through the passage from Gospel of Matthew 6:1-4 on true prayer and almsgiving.

At that time: Jesus said, ‘Beware of practising your piety before others in order to be seen by them; for then you have no reward from your Father in heaven. So whenever you give alms, do not sound a trumpet before you, as the hypocrites do in the synagogues and in the streets, so that they may be praised by others. Truly I tell you, they have received their reward. But when you give alms, do not let your left hand know what your right hand is doing, so that your alms may be done in secret; and your Father who sees in secret will reward you.

Darllenwch y darn o Efengyl Mathew 6:1-4 ar wir weddi ac elusengarwch.

Bryd hynny: Dywedodd Iesu, ‘Cymerwch ofal i beidio â chyflawni eich dyletswyddau crefyddol o flaen eraill, er mwyn cael eich gweld ganddynt; os gwnewch, nid oes gwobr i chwi gan eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd. Felly, pan fyddi’n rhoi elusen, paid â chanu utgorn o’th flaen, fel y mae’r rhagrithwyr yn gwneud yn y synagogau ac yn yr heolydd, er mwyn cael eu canmol gan eraill. Yn wir, rwy’n dweud wrthych, y mae eu gwobr ganddynt eisoes. Ond pan fyddi di’n rhoi elusen, paid â gadael i’th law chwith wybod beth y mae dy law dde yn ei wneud. Felly bydd dy elusen di yn y dirgel, a bydd dy Dad, sydd yn gweld yn y dirgel, yn dy wobrwyo.’ gwobr yn fawr yn y nefoedd, oherwydd felly yn wir yr erlidiwyd y proffwydi oedd o’ch blaen chwi.’

Edrych tuag at y Testament Newydd Looking to the New Testament

Rhoi? / Giving? 31

Page 32: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

In small groups consider this passage from the perspective of giving. Then share with the wider group.

In a similar way, Jesus echoes the words of Amos, in being very clear in what he thinks about those whose ‘piety’ and ‘almsgiving’ is seen or announced to all around. God knows what we give, God hears our prayers; we do not need to proclaim it to anyone else. When we look at giving in the Old Testament it referred to money given as a tithe, paid by everyone to support the priesthood and the poor. In the New Testament, there is a change, and monetary giving was to be given in response to the love of God in Jesus. Our giving evolves out of our faith, prayer and relationship with God.

When looking at our monetary giving, then that is between ourselves and God. However difficult it is for our churches to discuss money, we can’t ignore it; as our homes need financial outlay, so does our church. There are though many different ways of giving and not all them to do with the collection plate! We have the giftedness of our own self, the gifts and skills we can use to build up the church. During Lent we hear the call to ‘give up’ something, but it may be that instead we should give more of our time and ‘take up’ something which will deepen our faith, or comes out from our faith and so gives to others.

Naming and acknowledging what we cannot give can set us free to name and acknowledge what we can give. We cannot give, or give to, everything, but we can give something. The question is, ‘What may that be?’

Mewn grwpiau bach, trafodwch y darn hwn o safbwynt rhoi. Yna rhannwch â’r grŵp cyfan.

Mae Iesu’n adleisio geiriau Amos, gan fod yn eglur iawn ynghylch beth mae’n ei feddwl ynghylch pobl sy’n arfer eu ‘duwioldeb’ a’u ‘helusengarwch’ yng ngolwg pawb. Gŵyr Duw am bopeth rydym yn ei roi, ac mae Duw’n gwrando ar ein gweddïau; nid oes angen i ni wneud sioe o’r peth gerbron unrhyw un arall.

Pan edrychwn ar roi yn yr Hen Destament, gwelwn ei fod yn cyfeirio at gyfrannu arian degwm, a dalwyd gan bawb i gynnal yr offeiriaid a’r tlodion. Yn y Testament Newydd, gwelwn newid - byddai pobl yn rhoi’n ariannol mewn ymateb i gariad Duw yn Iesu. Deillia ein rhoi o’n ffydd, o’n gweddi ac o’n perthynas â Duw.

Mater rhyngom ni a Duw yw rhoi ariannol. Pa mor anodd bynnag yw hi i’n heglwysi drafod arian, ni allwn anwybyddu hynny - yn union fel mae angen gwario ar ein cartrefi, felly hefyd ein heglwys. Fodd bynnag, mae llawer ffordd o roi ac nid yw pob un yn gysylltiedig â’r casgliad! Gallwn roi ein hunain - y doniau a’r sgiliau y gallwn eu defnyddio i adeiladu’r eglwys. Yn ystod y Grawys clywn yr alwad i ‘hepgor’ rhywbeth, ond efallai y dylem yn hytrach roi mwy o’n hamser a gwneud rhywbeth ychwanegol a fydd yn dyfnhau’n ffydd, neu sy’n deillio o’n ffydd ac yn rhoi i eraill.

Gall enwi a chydnabod yr hyn na allwn ei roi ein rhyddhau i enwi a chydnabod yr hyn y gallwn ei roi. Ni allwn roi popeth na rhoi i bopeth, ond gallwn roi rhywbeth. Y cwestiwn yw, ‘Beth allai hynny fod?’

Think about your own gifts and skills - what are they? How can you encourage the giving of the

gifts and skills you can see in others?

How many ways do you ‘give’ to God because of your faith and being a member of your church? How comfortable are you with receiving from

God, or from others?

How many ways do you come to God in prayer?

Meddyliwch am y doniau a’r sgiliau sydd gennych - beth ydynt? Sut allwch chi annog eraill i roi o’r doniau a’r sgiliau rydych yn eu

gweld ynddynt hwy?

Mewn sawl ffordd ydych chi’n ‘rhoi’ i Dduw yn sgil eich ffydd a’ch aelodaeth o’ch eglwys? Pa mor gyffyrddus ydych chi â derbyn oddi wrth

Dduw, ac oddi wrth bobl eraill?

Ym mha ffyrdd ydych chi’n dod at Dduw mewn gweddi?

Rhoi? / Giving?32

Page 33: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Read through the passage from the Gospel of John 11:55-57, as Jesus is being hunted.

At that time: The Passover of the Jews was near, and many went up from the country to Jerusalem before the Passover to purify themselves. They were looking for Jesus and were asking one another as they stood in the temple, ‘What do you think? Surely he will not come to the festival, will he?’ Now the chief priests and the Pharisees had given orders that anyone who knew where Jesus was should let them know, so that they might arrest him.

The plotting and planning to capture Jesus continues. The chief priests and Pharisees were afraid of Jesus. He upset, so they believed, the status quo, and was perceived to be a threat to their way of life. The surprise for many will be that Jesus doesn’t hide himself away. He will be at the Passover festival. Not only will Jesus be present, but he will give of himself to ensure the ongoing work of God in the world doesn’t come to an end. From one ending a new beginning will rise up.

Darllenwch y darn hwn o Efengyl Ioan 11:55-57, sy’n sôn am erlid Iesu.

Bryd hynny: Yr oedd Pasg yr Iddewon yn ymyl, ac aeth llawer i fyny i Jerwsalem o’r wlad cyn y Pasg, ar gyfer defod eu puredigaeth. Ac yr oeddent yn chwilio am Iesu, ac yn sefyll yn y deml a dweud wrth ei gilydd, ‘Beth dybiwch chwi? Nad yw ef ddim yn dod i’r ŵyl?’ Ac er mwyn iddynt ei ddal, yr oedd y prif offeiriaid a’r Phariseaid wedi rhoi gorchmynion, os oedd rhywun yn gwybod lle’r oedd ef, ei fod i’w hysbysu hwy.

Mae’r cynllwynio a’r cynllunio i ddal Iesu’n parhau. Roedd yr Archoffeiriaid a’r Phariseaid yn ofni Iesu. Credent ei fod yn tanseilio’r drefn ac fe’i gwelent fel bygythiad i’w ffordd o fyw. Y syndod i lawer fydd na fydd Iesu’n cuddio. Fe fydd yn mynychu Gŵyl y Pasg. Nid yn unig y bydd Iesu yno, ond bydd yn aberthu ei hun er mwyn sicrhau nad yw gwaith Duw yn y byd yn dod i ben. O un diwedd bydd dechrau newydd yn codi.

Edrych tuag at y Groes Looking to the Cross

If asked, how would you describe, or tell someone, what your faith really means to you and about all that you have received,

been given, from God?

How open are you, and how confident are you, in sharing your faith with others?

Po gofynnid i chi, sut fyddech chi’n disgrifio, neu’n egluro i rywun, beth mae eich ffydd wir yn ei olygu i chi, ac yn disgrifio popeth rydych

wedi’i dderbyn yn rhodd gan Dduw?

Pa mor agored a pha mor hyderus ydych chi i rannu eich ffydd ag eraill?

Rhoi? / Giving? 33

Page 34: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Edrych tuag at y Goeden Looking to the Tree

From the discussions during this session:

On your own personal Tree:

O’r trafodaethau yn y sesiwn hon:

Ar eich Coeden bersonol eich hun:

Rhoi? / Giving?

In one colour, write on the tree those things which, as a church, we can ‘give’ to the wider world.

In one colour, write on the tree the gifts and almsgiving you can offer to the church and the

wider world.

In another colour, write on the tree your own prayer for justice and inclusivity in the church

and the wider world.

In another colour, anything else of importance.

In another colour, write on the tree places or people in need of justice and support.

In another colour, anything else of importance.

Mewn un lliw, ysgrifennwch ar y goeden y pethau hynny y gallwn ninnau, fel eglwys, eu ‘rhoi’ i’r byd

o’n cwmpas.

Mewn un lliw, ysgrifennwch ar y goeden y doniau a’r rhoddion y gallwch eu cynnig

i’r eglwys ac i’r byd.

Mewn lliw arall, ysgrifennwch ar y goeden eich gweddi eich hun am gyfiawnder a chynwysoldeb

yn yr eglwys a’r byd.

Mewn lliw arall, ysgrifennwch unrhyw beth arall y credwch ei fod yn bwysig.

Mewn lliw arall, ysgrifennwch ar y goeden leoedd neu bobl sydd angen cyfiawnder a chefnogaeth.

Mewn lliw arall, ysgrifennwch unrhyw beth arall y credwch ei fod yn bwysig.

34

Page 35: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Gweddi i gloi Closing prayer

God be in my giving, and bless to me your generosity.

God be in my praying, and bless to me your Holy Spirit.

God be in my justice seeking, and bless to me your courage.

God be in my heart, and bless to me the faith to walk with you during Lent.

Amen.

O Dduw, bydd gyda mi yn fy rhoi, a bendithia fi â’th haelioni.

O Dduw, bydd gyda mi yn fy ngweddïo, a bendithia fi â’th Ysbryd Glân.

O Dduw, bydd gyda mi wrth i mi geisio cyfiawnder, a bendithia fi â’th ddewrder.

O Dduw, bydd yn fy nghalon, a rhoi i mi’r ffydd i gyd-gerdded â thi yn ystod y Grawys.

Amen.

Rhoi? / Giving? 35

Page 36: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

36

Page 37: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Datguddio?Revealing?Trydedd Wythnos y Grawys The Third Week of Lent

37

Page 38: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Gweddi agoriadol Opening prayer

Datguddio? / Revealing?

Diarhebion Proverbs

Effesiaid Ephesians

Y mae’n fwy gwerthfawr na gemau,ac nid yw dim a ddymuni yn debyg iddi.

She is more precious than jewels, and nothing you desire can compare with her.

Rwyf yn gweddïo y bydd i Grist breswylio yn eich calonnau drwy ffydd,

wrth i chi wreiddio mewn cariad yn sylfaen i’ch bywyd.

Datguddia i mi, O Dduw,dy bresenoldeb ar waith yn fy mywyd,

dy bresenoldeb ar waith o fewn yr eglwys,dy bresenoldeb ar waith yn y byd.

Datguddia i mi, O Dduw,y cariad rwyf i’w rannu,

y ffydd rwyf i’w chyhoeddi,y ffordd rwyf i’w dilyn.

Datguddia i mi, O Dduw, drwy dymor y Grawys,

gymaint dyfnach y gallaf ymwreiddio yn dy gariad yn sylfaen fy mywyd.

gymaint mwy y gallaf geisio gemau fy ffydd,

gymaint mwy y gallaf ddeisyfu doethineb dy wirionedd,

fel y’i datguddiwyd yn Iesu Grist.Amen.

Gweddi’r Arglwydd, a’i dilyn gan:Boed i Ras Duw fy nghysgodi, boed i Oleuni Duw fy arwain,

boed i Dangnefedd Duw fy amgylchynu,boed i Gariad Duw fod i mi’n obaith,

er mwyn dyfnhau fy ffydd a’m gweddïo drwy’r Grawys hwn.

Amen.

Reveal to me, O God,your presence at work within my life,

your presence at work within the church,your presence at work within the world.

Reveal to me, O God,the love I am to share,

the faith I am to declare,the way in which I am to follow.

Reveal to me, O God through this season of Lent,

how much more I can be rooted and grounded in your love.

how much more I can seek out the jewels of my faith,

how much more I can desire the wisdom of your truth,

as revealed in Jesus Christ.Amen.

The Lord’s Prayer, followed by:May the Grace of God be upon me,

the Light of God be my guide,the Peace of God be around me,

the Love of God be my hope, to deepen my faith

and prayer this Lent. Amen.

I pray that Christ may dwell in your hearts through faith,

as you are being rooted and grounded in love.

38

Page 39: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Datguddio? / Revealing?

Datguddio? Revealing?

Ystyr datguddio yw dod â rhywbeth a fu’n guddiedig i’r amlwg. Yn y Beibl, datguddir natur Duw a’r ffordd y gellir dod i’w adnabod drwy’r geiriau a lefara’r proffwydi, drwy natur a pherson Iesu, a thrwy’r amryfal arwyddion, yr iacháu a’r gwyrthiau a all ddigwydd i bobl ac ym myd natur. Y datguddiad hwnnw a all ein tywys y tu hwnt i’r cyfyngedig a’r caeedig at bosibiliadau ehangach yr hyn a allai fod a’r hyn sydd yn Nuw.

Revealing is to bring out into the open something which may be, or was, otherwise hidden away. Within the Bible, revealing is about how God is and can be known by the words spoken through the prophets, through the being and person of Jesus, and the many signs, healings and miracles that take place within a person or through nature. A revealing that points us beyond all that is limited and contained to the wider possibility of all that could be, and through God, is.

What does the word ‘revealing’ mean to you?Beth mae’r gair ‘datguddio’ yn ei olygu i chi?

Who ‘revealed’ to you the way of faith?Pwy wnaeth ‘ddatguddio’ llwybr ffydd i chi?

How do you reveal to others that you are a Christian?

Sut ydych chi’n datguddio’r ffaith eich bod yn Gristion i eraill?

39

Page 40: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Read through the passage from the Prophecy of Isaiah 43:1-4, and the promise of God.

Thus says the Lord, he who created you, O Jacob, he who formed you, O Israel: ‘Do not fear, for I have redeemed you; I have called you by name, you are mine. When you pass through the waters, I will be with you; and through the rivers, they shall not overwhelm you; when you walk through fire you shall not be burned, and the flame shall not consume you. For I am the Lord your God, the Holy One of Israel, your Saviour. I give Egypt as your ransom, Ethiopia and Seba in exchange for you. Because you are precious in my sight, and honoured, and I love you, I give people in return for you, nations in exchange for your life.’

Darllenwch y darn hwn o Broffwydoliaeth Eseia 43:1-4, ynghylch addewid Duw.

Dyma’r hyn a ddywed yr Arglwydd a’th greodd, Jacob, ac a’th luniodd, Israel: ‘Paid ag ofni, oherwydd gwaredaf di; galwaf ar dy enw; eiddof fi ydwyt. Pan fyddi’n mynd trwy’r dyfroedd, byddaf gyda thi; a thrwy’r afonydd, ni ruthrant drosot. Pan fyddi’n rhodio trwy’r tân, ni’th ddeifir, a thrwy’r fflamau, ni losgant di. Oherwydd myfi, yr Arglwydd dy Dduw, Sanct Israel, yw dy waredydd; rhof yr Aifft yn iawn trosot, Ethiopia a Seba yn gyfnewid amdanat. Am dy fod yn werthfawr yn fy ngolwg, yn ogoneddus, a minnau’n dy garu, rhof eraill yn gyfnewid amdanat, a phobloedd am dy einioes.’

Datguddia Eseia eiriau Duw ac wrth iddo wneud hynny, mae’n datgelu dyfnder cariad Duw tuag at bob un ohonom. Dyma ddarn a all ddod yn weddi bersonol iawn, yn enwedig os gosodwn ein henw ein hun o’i fewn: ‘galwaf ar dy enw, eich enw; eiddof fi, eich enw, ydwyt’. Mae Duw’n ein galw’n werthfawr ac yn ogoneddus ac yn dweud ei fod yn ein caru. Nid yw Duw yn cuddio dim. Beth bynnag a ddigwydd yn ystod ein bywydau, mae Duw gyda ni.

Yn yr Hen Destament, mae’r gair Hebraeg am ‘datguddio’ yn golygu dadorchuddio a bod yn agored a gweladwy. Daeth y datguddiad hwnnw drwy’r proffwydi, a ddygai, fel y gwnaeth Eseia, eiriau Duw i bawb. Yn ogystal â’r gair llafar, bu hefyd nifer o arwyddion a ddatguddiai fod Duw ei hun gyda phobl Israel, er enghraifft, y dilyw a’r enfys yn yr wybren; y plâu a rhannu’r Môr Coch; iacháu gwahangleifion a rhoi nerth i oresgyn adfyd.

Yn ogystal, datguddiwyd presenoldeb ac amcanion Duw mewn gweledigaethau, megis gweledigaethau’r llinyn plwm a gwisgo’r esgyrn sychion â chnawd. Wrth i ni gyrraedd y Testament Newydd, gwelwn ddatguddio Duw yn llawnach ym mherson Iesu. Cyn hynny, dim ond Moses a ddaeth yn ‘agos’ at Dduw, wrth iddo siarad â Duw ar Fynydd Sinai a derbyn y Deg Gorchymyn.

Fesul tipyn, datguddiwyd a datguddir hunaniaeth Duw, y Duw sy’n ein caru’n ddiamod ac sy’n ein galw’n werthfawr.

Isaiah reveals the words of God and as he does so, he reveals the depth of the love that God has for each one of us. This is a passage that can become a very personal prayer, especially if we place our own name within it, ‘I have called you, your name, by name, you, your name, are mine’. God calls us precious, honoured and loved. God hides nothing. No matter what happens during our life, God is with us.

In the Old Testament, the Hebrew word for ‘reveal’ means to uncover, to be open and visible. This revealing came through the prophets, who like Isaiah brought to all God’s words. As well as the spoken word, a number of signs also revealed and identified God’s presence with the people of Israel. For example, the flood and the rainbow in the sky; the plagues and the parting of the Red Sea; the healing of lepers and the strength to overcome adversity.

Added to this God’s, presence and purpose was also revealed through visions, of plumb lines and putting flesh onto dead bones. As we come to the New Testament, God is revealed more fully in the person of Jesus. Before that time Moses was the only one to have come ‘close’ to God, as he spoke with God at Mount Sinai and received the Ten Commandments.

Little by little, God’s own self was and is revealed; God who gives us unconditional love, and calls us precious.

Edrych tuag at yr Hen Destament Looking to the Old Testament

Datguddio? / Revealing?

What does it feel like to know this depth of love from God?

Sut mae’n teimlo i adnabod y fath ddyfnder o gariad gan Dduw?

40

Page 41: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Efallai y bydd y modd yr ydym yn ymdrin yn weddigar â’r darn hwn o broffwydoliaeth Eseia yn dibynnu ar y ffordd y credwn y datguddir Duw i ni, y ddelwedd sydd gennym o Dduw, y modd rydym yn datguddio’n hunain i Dduw a’r ffordd rydym yn ein gweld ein hunain. Os ydym yn ei chael yn anodd caru ein hunain, gallwn ei chael yn anodd credu bod Duw wir yn ein caru ni. Beth yw eich delwedd o Dduw ac ohonoch eich hun? Efallai fod hynny’n gwestiwn nad ydych am ei ateb o flaen pobl eraill. Mae gennym oll berthynas â Duw, waeth pa mor agos neu pha mor bell mae hynny’n teimlo ar adegau. Fel gyda phob perthynas a chyfeillgarwch, mae angen treulio amser yn dod i adnabod y person arall, ac wrth i ni wneud hynny byddwn yn dechrau datgelu’n araf fwy am ‘pwy ydw i’. Bydd y cyd-destun y byddwn yn dod i adnabod rhywun ynddo hefyd yn effeithio ar faint y byddwn yn ei ddatgelu a faint y byddwn yn ei ‘guddio’. Er enghraifft, bydd cyfaill agos neu bartner yn gwybod llawer mwy amdanom, fel arfer, na chydweithiwr. Ac eto, faint ydym yn ei guddio amdanom ein hunain oddi wrth bobl eraill, oddi wrth Dduw ac oddi wrthym ein hunain? Gall fod llawer o achlysuron pan nad ydym yn datguddio agwedd arnom ein hunain oherwydd ein bod yn ansicr sut y byddai eraill yn adweithio, neu rhag ofn iddynt gamddeall neu anwybyddu’r hyn a ddywedwn. Os byddwn yn cuddio rhywbeth amdanom ein hunain, y ‘pwy ydw i’ - megis ein hamheuon a’n pryderon mewnol, ein meddyliau a’n teimladau, ein hiechyd neu’n hafiechyd - sut mae hynny’n effeithio ar ein perthynas â’r rhai rydym yn eu caru? Sut mae hynny’n effeithio ar ein perthynas â Duw, ac ar ein lles ysbrydol a meddyliol?

Mae’r gwaith celf sy’n cael ei arddangos yn y Gadeirlan yn un ffordd o gychwyn trafodaeth agored ynghylch materion iechyd meddwl. Yn anffodus, erys stigma o gwmpas afiechyd meddwl. Mae’n ymddangos bod iselder a straen ar gynnydd. Mae bywyd wedi prysuro a chyflymu, gan ddod â mwy o bwysau. Nid yw diwylliant a chymdeithas fwy unigolyddol sy’n rhoi ‘fi’ yn flaenaf yn gwarantu amgylchedd iach iawn. Gall hynny hefyd olygu bod pobl am guddio afiechydon fel iselder.

Mae’r darn o broffwydoliaeth Eseia’n cynnig gobaith. Gobaith yn Nuw, sydd gyda ni yn y tywyllwch yn ogystal â’r goleuni, sydd gyda ni drwy’r dyfroedd dyfnion a’r fflamau tân. Yr adegau pan rydym yn teimlo bod Duw ymhell i ffwrdd, ynghudd, yw’r adegau pan mae Duw’n agosach nag yr ydym yn sylweddoli.

How we approach this passage from Isaiah prayerfully may depend upon the way in which we believe God is revealed to us, our image of God, how we reveal ourselves to God and the image we have of ourselves. If we find it hard to love ourselves we may find difficulty in believing that we are truly loved by God. What is your image of God and of your own self? This may be a question you don’t want to answer in front of others. We all have a relationship with God, however close or distant that may feel to be at times. As with all of our various relationships and friendships, we need to spend time getting to know the other, and as we do this then we slowly begin to reveal more about the ‘who we are’.

The context in which we know someone will also affect how much we reveal, and how much we keep ‘hidden’. Close friends or a partner will know far more about us than perhaps a work colleague for example. Yet, how much do we seek to hide and keep covered about our own self, to ourselves, or from others, or before God? There may be many instances when we do not reveal an aspect of our own self, because we are unsure how others may react, or fear that they may misunderstand, or ignore what may be told. If we keep something about ourselves hidden, the ‘who we are’ - for example, our inner struggles and doubts, our thoughts and feelings, our health, our ill health, - how does that affect our relationships with those we love? How does that affect our relationship with God, and our spiritual and mental well-being?

The art work on display in the Cathedral is one way of revealing, and bringing into the open a conversation about mental health issues. Unfortunately, there is still a stigma surrounding mental ill health. Depression and stress appear to be on the increase. The pace of life within the world has increased, and brought with it extra pressure. A more individualistic culture and society which places self first does not necessarily mean a healthy environment. This too, can lead to illnesses such as depression being kept hidden.

The passage from Isaiah is one that gives hope. A hope in the God who is with us in the darkness as well as in the light, is with us through the deep waters and flames of fire. The times when God feels far away, hidden, are the times when God is closer than we realise.

Do you know anyone who suffers with mental ill health?

How did you react when you first heard about it?

Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n dioddef o afiechyd meddwl?

Beth oedd eich ymateb pan glywsoch am hynny gyntaf?

Datguddio? / Revealing? 41

Page 42: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

In small groups, and then share with the whole group, consider the following questions drawn out from the passage from Isaiah:

Revealing can be liberating, but it takes a degree of trust and a rootedness in understanding the self as well as being rooted in God. All relationships take time to build up trust, especially a trust where hidden truths can be revealed. This is true about our relationship with God as it is within all of our relationships. To reveal something that has been otherwise hidden takes courage. Can we listen to one another with the love of Christ and not judge or condemn?

Mewn grwpiau bach, trafodwch y cwestiynau canlynol sy’n seiliedig ar y darn o broffwydoliaeth Eseia. Yna rhannwch â’r grŵp cyfan:

Gall datguddio ryddhau pobl, ond mae’n gofyn ymddiriedaeth a dealltwriaeth gadarn o’r hunan yn ogystal â bod wedi ymwreiddio yn Nuw. Mae’n cymryd amser i feithrin ymddiried mewn unrhyw berthynas, yn enwedig y fath ymddiried lle gellir datgelu gwirioneddau cudd. Mae hynny’r un mor wir am ein perthynas â Duw ag y mae ynghylch pob perthynas a brofwn. Mae datgelu rhywbeth y buom yn ei guddio’n gofyn dewrder. A allwn ni wrando ar ein gilydd gyda chariad Crist, heb farnu na chondemnio?

Datguddio? / Revealing?

How would you describe the God you pray to too, in church and privately at home? What is your image of God? How does that affect the way in

which you come to God in prayer? Are the verses from Isaiah ones you could use in prayer, and add

your own name into them?

Within the world today - consider how much takes place behind closed doors. How much or how little do you really know about world and local politics

to ensure you are clear about how to vote, for example? How much do you understand about the structures and the decision making within

the church?

Think of all the things people may keep ‘hidden’. Why may this be so?

Consider the effects of mental ill health. How can the church and the health system help to create a deeper awareness of mental illness? How can you help? Think of yourself, or anyone you know who

suffers from depression or other mental illnesses - how could you help and support them, and ensure

them of God’s love?

Sut fyddech chi’n disgrifio’r Duw rydych yn gweddïo arno, yn yr eglwys ac yn breifat gartref? Beth yw eich delwedd o Dduw? Sut mae hynny’n effeithio ar y ffordd rydych yn agosáu at Dduw

mewn gweddi? A yw’r adnodau o broffwydoliaeth Eseia’n rhai y gallech eu defnyddio mewn gweddi,

gan roddi’ch enw chi ynddynt?

Ystyriwch faint sy’n digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig yn y byd heddiw. Faint ydych chi’n ei

wybod, neu ddim yn ei wybod, am wleidyddiaeth yn lleol a thrwy’r byd, er mwyn eich galluogi i

bleidleisio gyda hyder, er enghraifft? Faint ydych chi’n ei ddeall am strwythurau a phrosesau

gwneud penderfyniadau yn yr eglwys?

Meddyliwch am yr holl bethau y gallai pobl fod yn eu ‘cuddio’. Pam fyddent yn gwneud hynny?

Ystyriwch effeithiau afiechyd meddwl. Sut allai’r eglwys a’r gyfundrefn iechyd gynorthwyo i greu ymwybyddiaeth ddyfnach o afiechyd meddwl? Sut allech chithau fod o gymorth? Meddyliwch amdanoch eich hunain, neu am unrhyw un a

adwaenwch sy’n dioddef o iselder neu afiechyd meddwl arall. Sut allech chi fod o gymorth a bod

yn gefn iddo/iddi a’i sicrhau o gariad Duw?

42

Page 43: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Edrych tuag at y Testament Newydd Looking to the New Testament

Read through the passage from the Gospel of Matthew 13:45-46 about the pearl of great price.

At that time: Jesus said: ‘Again, the kingdom of heaven is like a merchant in search of fine pearls; on finding one pearl of great value, he went and sold all that he had and bought it.’

Darllenwch y darn o Efengyl Mathew 13:45-46 am y perl gwerthfawr.

Bryd hynny: Dywedodd Iesu, ‘Eto y mae teyrnas nefoedd yn debyg i fasnachwr sy’n chwilio am berlau gwych. Wedi iddo ddarganfod un perl gwerthfawr, aeth i ffwrdd a gwerthu’r cwbl oedd ganddo, a’i brynu.’

Datguddio? / Revealing? 43

Page 44: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

In small groups consider this passage from the perspective of revealing. Then share with the wider group.

The one who realises the value of the kingdom of heaven is willing to give everything to gain it, as does the merchant to buy the finest of pearls. This parable of Jesus, like all parables reveals a hidden meaning to those with ears to hear. We are not expected to sell all we have to follow the way of Jesus, but we are called to give of ourselves. To discover the ‘pearl of great price’, faith in Jesus, we are asked to open our hearts and lives to the presence and touch of the Spirit. It is to become vulnerable and honest before God, revealing all and not keeping anything hidden as we seek and follow the Christian path through life.

God is revealed to us in many different ways, ordinary and extraordinary. Each revealing given by God is a pearl of great price to deepen and enable our revealing to others the message and the story of God in Jesus Christ.

Mewn grwpiau bach, trafodwch y darn hwn o safbwynt datguddio. Yna rhannwch â’r grŵp cyfan.

Mae’r sawl sy’n deall gwerth teyrnas nefoedd yn fodlon rhoi’r cwbl i’w sicrhau, fel y mae’r masnachwr er mwyn prynu’r perl gorau. Mae’r ddameg hon o eiddo Iesu, fel pob dameg, yn datgelu neges gudd i’r sawl sydd â chlustiau i wrando. Ni ddisgwylir i ni werthu’r cyfan sydd gennym i ddilyn Iesu, ond fe’n gelwir i roi ein hunain. Er mwyn darganfod y ‘perl gwerthfawr’, sef ffydd yn Iesu, gofynnir i ni agor ein calonnau a’n bywydau i bresenoldeb a chyffyrddiad yr Ysbryd. Mae gofyn i ni ddod gerbron Duw yn fregus ac yn onest, gan ddatguddio popeth a heb gelu dim wrth i ni geisio’r ffordd Gristnogol drwy fywyd a’i dilyn.

Datguddir Duw i ni mewn llawer o wahanol ffyrdd, rhai’n gyffredin a rhai’n rhyfeddol. Mae pob datguddiad gan Dduw yn berl gwerthfawr a all ddyfnhau a nerthu ein gallu i ddatguddio neges a hanes Duw yn Iesu Grist i eraill.

What would you say are your moments of receiving a ‘pearl of great price’?

Beth fyddech chi’n ei ddweud fu’r adegau i chi dderbyn ‘perl gwerthfawr’?

Who revealed to you their faith which then encouraged you in your faith?

Pwy ddatguddiodd ei ffydd i chi gan ysgogi eich ffydd chithau?

Who helps you understand your encounters with God in prayer and life? Is this a spiritual

director, a member of the clergy of the church, or a trusted friend?

Pwy sydd yn eich cynorthwyo i ddeall eich ymwneud â Duw yn eich gweddi a’ch bywyd - ai

cyfarwyddwr ysbrydol, clerigwr yn yr eglwys ynteu gyfaill y gallwch ymddiried ynddo/ynddi?

Datguddio? / Revealing?44

Page 45: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Read through the passage from Gospel of Luke 21:25-33 concerning the signs to come. At that time: Jesus said, ‘There will be signs in

the sun, the moon, and the stars, and on the earth distress among nations confused by the roaring of the sea and the waves. People will faint from fear and foreboding of what is coming upon the world, for the powers of the heavens will be shaken. Then they will see “the Son of Man coming in a cloud” with power and great glory. Now when these things begin to take place, stand up and raise your heads, because your redemption is drawing near.’

Then he told them a parable: ‘Look at the fig tree and all the trees; as soon as they sprout leaves you can see for yourselves and know that summer is already near. So also, when you see these things taking place, you know that the kingdom of God is near. Truly I tell you, this generation will not pass away until all things have taken place. Heaven and earth will pass away, but my words will not pass away.’

Jesus speaks of all that will be revealed before his coming with power and glory. In the world of today many live in fear, in places of violence, or in places affected by natural disasters, as described in Luke’s Gospel. Yet, whilst these world events today may not herald the coming of God’s kingdom at this precise moment, they do call us to prayer and action.

As we wait for that day to come, we are to be alert and watchful. We are to listen to the words Jesus speaks, because no matter what happens, these are the words which reveal to us the love God has for us. Seasons come and go, but God is with us. This passage reminds us not to bury our heads in the sand, but to look at the reality of the world in which live, and to seek out the ways in which we can make visible, not hidden, God’s presence in our lives and in the life of the world.

Darllenwch y darn hwn o Efengyl Luc 21:25-33 ynghylch yr arwyddion sydd i ddod. Bryd hynny: Dywedodd Iesu, ‘Bydd arwyddion

yn yr haul a’r lloer a’r sêr. Ar y ddaear bydd cenhedloedd mewn cyfyngder yn eu pryder rhag trymru ac ymchwydd y môr. Bydd pobl yn llewygu gan ofn y pethau sy’n dod ar y byd; oherwydd ysgydwir nerthoedd y nefoedd. A’r pryd hwnnw gwelant Fab y Dyn yn dyfod mewn cwmwl gyda nerth a gogoniant mawr. Pan ddechreua’r pethau hyn ddigwydd, ymunionwch a chodwch eich pennau, oherwydd mae eich rhyddhad yn agosáu.’

Adroddodd ddameg wrthynt: ‘Edrchwch ar y ffigysbren a’r holl goed. Pan fyddant yn dechrau deilio, fe wyddoch eich hunain o’u gweld fod yr haf bellach yn agos. Felly chwithau, pan welwch y pethau hyn yn digwydd, byddwch yn gwybod fod teyrnas Dduw yn agos. Yn wir, rwy’n dweud wrthych, nid â’r genhedlaeth hon heibio nes i’r cwbl ddigwydd. Y nef a’r ddaear, ânt heibio, ond fy ngeiriau i, nid ânt heibio ddim.’

Mae Iesu’n sôn am yr hyn oll a ddatguddir cyn iddo ddod mewn gallu a gogoniant. Yn ein byd heddiw mae llawer o bobl yn byw mewn ofn, mewn lleoedd llawn trais a lleoedd yr effeithiwyd arnynt gan drychinebau naturiol, yn debyg i ddisgrifiad Efengyl Luc. Eto, er efallai nad yw’r digwyddiadau hyn yn y byd heddiw’n cyhoeddi dyfodiad teyrnas Dduw yn union syth, maent yn ein galw i weddïo ac i weithredu.

Wrth i ni ddisgwyl am y diwrnod hwnnw, rydym i fod yn effro ac ar ein gwyliadwriaeth. Rydym i wrando ar eiriau Iesu achos beth bynnag a ddigwydd dyma’r geiriau sy’n datguddio cariad Duw atom. Mynd a dod wna’r tymhorau, ond erys Duw gyda ni. Mae’r darn hwn yn ein hatgoffa i beidio â chladdu’n pennau yn y tywod ond i edrych ar realiti ein byd a cheisio ffyrdd i ddatguddio, yn hytrach na chuddio, presenoldeb Duw yn ein bywydau a bywyd y byd.

Edrych tuag at y Groes Looking to the Cross

What does this passage reveal to us at this point on our Lenten journey?

How can you reveal your faith in prayer?

How can you reveal your faith in action?

Beth mae’r darn hwn yn ei ddatguddio i ni ar y pwynt hwn yn ein taith drwy’r Grawys?

Sut allwch chi ddatguddio eich ffydd mewn gweddi?

Sut allwch chi ddatguddio eich ffydd mewn gweithredu?

Datguddio? / Revealing? 45

Page 46: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Edrych tuag at y Goeden Looking to the Tree

From the discussions during this session:

From the discussions during this session:

O’r trafodaethau yn y sesiwn hon:

O’r trafodaethau yn y sesiwn hon:

Datguddio? / Revealing?

In one colour, write on the tree areas of life which are kept hidden but could be revealed.

In another colour, write on the tree how the church may be able to offer help and support

to those with mental ill health.

In another colour, anything else of importance.

In one colour, write on the tree an area of your life, past or present, which you have kept hidden but

would like to reveal, or have revealed.

In another colour, write on the tree your own personal image of God.

In another colour, anything else of importance.

Mewn un lliw, ysgrifennwch ar y goeden rannau o fywyd a gedwir yn gudd ond y gellid eu datguddio.

Mewn lliw arall, ysgrifennwch ar y goeden ffyrdd y gallai’r eglwys gynnig cymorth a chefnogaeth i

bobl sy’n dioddef o afiechyd meddwl.

Mewn lliw arall, ysgrifennwch unrhyw beth arall y credwch ei fod yn bwysig.

Mewn un lliw, ysgrifennwch ar y goeden ran o’ch bywyd, heddiw neu yn y gorffennol, y bu i chi ei

guddio ond yr hoffech ei ddatguddio neu yr ydych wedi ei ddatguddio.

Mewn lliw arall, ysgrifennwch ar y goeden eich delwedd bersonol chi o Dduw.

Mewn lliw arall, ysgrifennwch unrhyw beth arall y credwch ei fod yn bwysig.

46

Page 47: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Datguddio? / Revealing?

Gweddi i gloi Closing prayer

O God, reveal to me your Love, and a faith to share that love with others.

O God, reveal to me your Word, and a faith to share that Word with others.

O God, reveal to me your Wisdom, and a faith to share that wisdom with others.

O God, be revealed within my heart, and bless to me the faith to walk with you during Lent.

Amen.

O Dduw, datguddia dy gariad i mi, a ffydd i rannu’r cariad hwnnw ag eraill.

O Dduw, datguddia dy Air i mi, a ffydd i rannu’r Gair hwnnw ag eraill.

O Dduw, datguddia dy ddoethineb i mi, a ffydd i rannu’r doethineb hwnnw ag eraill.

O Dduw, datguddia dy hun yn fy nghalon, a bendithia fi â’r ffydd i gydgerdded â thi drwy’r Grawys.

Amen.

47

Page 48: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

48

Page 49: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Perthyn?Belonging?Pedwaredd Wythnos y Grawys The Fourth Week of Lent

49

Page 50: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Gweddi agoriadol Opening prayer

Perthyn? / Belonging?

Diarhebion Proverbs

Effesiaid Ephesians

Yn ei llaw dde y mae hir oes,a chyfoeth ac anrhydedd yn ei llaw chwith.

Long life is in her right hand;in her left hand are riches and honour.

Rwyf yn gweddïo y bydd i chi gael eich galluogi i amgyffred ynghyd â’r

holl saint beth yw lled a hyd ac uchder a dyfnder cariad Crist.

Rwyt wedi fy ngalw, O Dduw, i’th ddilyn di, i ddod i berthyn,

mewn ffydd, i’th deulu di, yr Eglwys.Cynorthwya fi i ddeall gwir ystyr hynny.

Cynorthwya fi i ddeall gwir ystyr dyfnder dy gariad tuag ataf.

Cynorthwya fi i ddeall gwir ystyr yr amryfal ddoniau y bu i ti fy

mendithio â hwy.

Gan berthyn, mewn ffydd:Cynorthwya fi wrth i mi

geisio cynnig croeso i bawb.Cynorthwya fi wrth i mi

geisio rhannu dy gariad â phawb.Cynorthwya fi wrth i mi

geisio gweddïo’n ddyfnach dros bawb.

Gan berthyn, mewn ffydd:Cynorthwya fi i fyw fy mywyd â thangnefedd.Cynorthwya fi i fyw fy mywyd â llawenydd.

Cynorthwya fi i fyw fy mywyd â chariadtuag atat ti a’r holl greadigaeth.

You have called me O God, to follow you,to come and belong, in faith, to the family of your

Church.Help me to truly comprehend

what this means.Help me to truly comprehend the depth of your love for me.

Help me to truly comprehend the many gifts you have blessed to me.

Belonging, in faith:

Help me as I seek to offer a welcome to all people.

Help me as I seek to share your love with all people.Help me as I seek to pray

more deeply for all people.

Belonging, in faith:Help me to live my life with peace.

Help me to live my life with joy.Help me to live my life with love

for you and all creation.

I pray that you may have the power to comprehend, with all the saints, what is the breadth and length and

height and depth of God’s love.

50

Page 51: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Gweddi’r Arglwydd, a’i dilyn gan: Boed i Ras Duw fy nghysgodi, boed i Oleuni Duw fy arwain,

boed i Dangnefedd Duw fy amgylchynu,boed i Gariad Duw fod i mi’n obaith,

er mwyn dyfnhau fy ffydd a’m gweddïo drwy’r Grawys hwn.

Amen.

The Lord’s Prayer, followed by:May the Grace of God be upon me,

the Light of God be my guide,the Peace of God be around me,

the Love of God be my hope, to deepen my faith and

prayer this Lent. Amen.

Perthyn? Belonging?

Yn ddwfn o fewn pob un ohonom mae galwad, ac efallai angen, i berthyn. Yn y Beibl, roedd perthyn yn golygu bod yn rhan o bobl Israel, cenedl etholedig Duw. Gyda dyfodiad Iesu, dechreuwyd herio’r syniad hwnnw o berthyn, wrth iddo geisio pobl nad oedd ‘o’r Israel’. Mae’r gair ‘perthyn’ yn cynnwys cymhlethdod o ystyron ac emosiynau. Mae perthyn yn cyffwrdd â chraidd ein bod, a chraidd ein hiechyd. Gall perthyn fod yn brofiad cadarnhaol neu negyddol.

Rooted deep within us all is a call, and perhaps a need, to belong. Within the Bible, belonging was to be a part of the people of Israel, God’s chosen. With the coming of Jesus, then this sense of belonging began to be challenged, as he sought out people who were not ‘of Israel’. The word ‘belonging’ holds within it a complexity of meanings and emotions. Belonging touches our inner being, and our inner well-being. Belonging can be a positive or a negative experience.

What do you understand by the word ‘belonging’ within the context of your personal life?

Beth yw ystyr y gair ‘perthyn’ i chi yng nghyd-destun eich bywyd personol?

What do you understand by the word ‘belonging’ within the context of the world?

Beth yw ystyr y gair ‘perthyn’ i chi yng nghyd-destun y byd?

What do you understand by the word ‘belonging’ within the context of the church?

Beth yw ystyr y gair ‘perthyn’ i chi yng nghyd-destun yr eglwys?

Perthyn? / Belonging? 51

Page 52: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Read through the passage from the Book of Ruth 1:15-22 about beginning a new life.

In those days: Naomi said, ‘See, your sister-in-law has gone back to her people and to her gods; return after your sister-in-law.’ But Ruth said, ‘Do not press me to leave you or to turn back from following you! Where you go, I will go; where you lodge, I will lodge; your people shall be my people, and your God my God. Where you die, I will die - there will I be buried. May the Lord do thus and so to me, and more as well, if even death parts me from you!’ When Naomi saw that she was determined to go with her, she said no more to her.

So the two of them went on until they came to

Bethlehem. When they came to Bethlehem, the whole town was stirred because of them; and the women said, ‘Is this Naomi?’ She said to them, ‘Call me no longer Naomi, call me Mara, for the Almighty has dealt bitterly with me. I went away full, but the Lord has brought me back empty; why call me Naomi when the Lord has dealt harshly with me, and the Almighty has brought calamity upon me?’

So Naomi returned together with Ruth the Moabite, her daughter-in-law, who came back with her from the country of Moab. They came to Bethlehem at the beginning of the barley harvest.

Darllenwch y darn hwn o Lyfr Ruth 1:15-22 ynghylch dechrau bywyd newydd.

Yn y dyddiau hynny: Dywedodd Naomi, ‘Edrych, y mae dy chwaer-yng-nghyfraith wedi mynd yn ôl at ei phobl a’i duw; dychwel dithau ar ei hôl.’ Ond meddai Ruth, ‘Paid â’m hannog i’th adael, na throi’n ôl oddi wrthyt, oherwydd i ble bynnag yr ei di, fe af finnau; dy bobl di fydd fy mhobl i, a’th Dduw di fy Nuw innau. Lle y byddi di farw, y byddaf finnau farw ac yno y’m cleddir. Fel hyn y gwnelo’r Arglwydd i mi, a rhagor, os bydd unrhyw beth ond angau yn ein gwahanu ni. Gwelodd Naomi ei bod yn benderfynol o fynd gyda hi, ac fe beidiodd â’i hannog rhagor.

Aeth y ddwy ymlaen nes dod i Fethlehem; ac wedi iddynt gyrraedd, bu cyffro drwy’r holl dref o’u plegid, a’r merched yn gofyn, ‘Ai Naomi yw hon?’ Dywedodd hithau wrthynt, ‘Peidiwch â’m galw’n Naomi, galwch f lokvvvi’n Mara,9 oherwydd bu’r Hollalluog yn chwerw iawn wrthyf. Yr oeddwn yn llawn wrth fynd allan, ond daeth yr Arglwydd â mi’n ôl yn wag. Pam y galwch fi’n Naomi, a’r Arglwydd wedi tystio i’m herbyn a’r Hollalluog wedi dod â drwg arnaf?’

Fel hyn y dychwelodd Naomi o wlad Moab, a’i merch-yng-nghyfraith, Ruth y Foabes, gyda hi. Daethant i Fethlehem yn nechrau’r cynhaeaf haidd.

Roedd yn rhaid i Ruth wynebu’r her o benderfynu lle y perthynai o ddifrif. Ai gyda’i phobl ei hun, yn y lle y bu’n byw hyd farwolaeth ei gŵr? Ai gyda Naomi, ei mam-yng-nghyfraith, gan fynd i fyw mewn lle gwahanol? Mae Ruth yn gwbl benderfynol. Bydd yn byw ym Methlehem gyda’i mamyngnghyfraith. Nid dim ond dilyn Naomi a wnaeth Ruth, ond newid, a thrawsnewid, ei bywyd yn llwyr; deuai Duw Naomi yn Dduw i Ruth hefyd.

Daeth perthyn i olygu rhywbeth gwahanol i Ruth. Byddai un agwedd ar y perthyn hwnnw, ar fod ym Methlehem gyda Naomi, yn un na fyddai Ruth erioed wedi’i ddisgwyl. Yn llinach Iesu, ysgrifenna Mathew fod ‘Boas yn dad i Obed, a Ruth yn fam iddo, Obed yn dad i Jesse, a Jesse yn dad i’r Brenin Dafydd’ (1:5-6). Daeth Ruth, yr estrones a’r un nad oedd yn perthyn, nad oedd yn fodlon i’w mam-yng-nghyfraith deithio na byw ar ei phen ei hun, i berthyn i gyff teuluol Iesu.

Ruth faced the challenge of where she truly belonged. Was that to be with her own people, in the place she had lived until her husband died? Was it to be with Naomi, her mother-in-law, and to go and live in a different place? Ruth is adamant in her decision. Her life will be in Bethlehem with her mother-in-law. Ruth did not simply follow Naomi, but was willing to make a total transition, and transformation, in her life; the God of Naomi would also become the God for Ruth.

Belonging took on a new meaning for Ruth. One aspect of this belonging, of being in Bethlehem with Naomi, would be one that Ruth would never have expected. In the genealogy of Jesus, Matthew writes, ‘Boaz the father of Obed by Ruth, and Obed the father of Jesse, and Jesse the father of King David’ (1:5-6). Ruth, a foreigner and outsider, who would not let her mother-in-law travel or live alone, came to belong on the family tree of Jesus.

Edrych tuag at yr Hen Destament Looking to the Old Testament

Perthyn? / Belonging?52

Page 53: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Rhaid bod Ruth yn credu y byddai’n perthyn lle bynnag y byddai Naomi’n mynd. Rhaid bod Ruth yn teimlo’n ddiogel ac yn sefydlog yn ei pherthynas â Naomi i barhau i deithio gyda hi. Ar ôl cyrraedd Bethlehem, sefydlodd Ruth wreiddiau ei bywyd yno. Heb iddi wir sylweddoli hynny, dyma nid yn unig y lle roedd yn perthyn ond y lle y cafodd ei galw iddo gan Dduw.

Yn ei lyfr, Eternal Echoes: Exploring our Hunger to Belong, mae John O’Donohue yn ysgrifennu am berthyn fel rhywbeth sy’n ymwneud â chynhesrwydd, haelioni, rhyddid a ‘phresenoldeb byw ag angerddol yr enaid’(t. 3). Mae perthyn yn fwy na lle neu’r fan rydym yn byw, mae tu hwnt i’r bobl rydym yn eu hadnabod neu’r ‘pethau’ rydym yn berchen arnynt. Mae perthyn yn ymwneud mwy â dewis, hygrededd, hunanymwybyddiaeth, bod yn un â Duw mewn ffydd, byw mewn ffydd a chyfranogi mewn bywyd a dirnad ein rhan ni ynddo, pa mor fach neu fawr y bo honno.

Ysgrifennai John O’Donohue yng nghyd-destun ei gefndir mewn Ysbrydolrwydd Celtaidd yn Iwerddon. Ysgrifennai ynghylch y ffordd yr oedd coed i’r Celtiaid yn arbennig ac yn sanctaidd, a’r modd y gallwn ddysgu llawer am ein taith drwy fywyd drwy edrych ar y ffordd mae coed yn ymlwybro drwy dymhorau o dyfiant a chrebachu. Cyfeiriodd hefyd at y modd y mae’n rhaid i’n bywyd mewnol fod â dyfnder iddo os ydym i faethu’n hunain ac eraill.

Gall coeden ymestyn tuag at y goleuni, a goddef y gwynt, y glaw a’r storm, yn union oherwydd ei gwreiddiau. Mae doethineb y goeden yn cydbwyso’r llwybr i mewn a’r llwybr allan. Pan fyddwn yn ymwreiddio yn y ddaear, byddwn yn dewis o gyfoeth bywyd, ac mae angen i ni fod yn dyner ofalus lle’r aiff y gwreiddiau. Un o feini prawf allweddol hygrededd personol yw p’run a ydych yn perthyn i’ch bywyd eich hun ai peidio. Pan ydych yn perthyn ynddoch eich hun bydd gennych gydbwysedd a rhyddid. Hyd yn oed pan fydd storm dioddefaint neu ddryswch yn rhuo, ni fydd yn eich digartrefu. Hyd yn oed yn nhrowynt ansicrwydd bydd gennych ryw angor cadarn o’ch mewn. Bydd y gwreiddiau mewnol hynny’n eich galluogi i chi ddeall a dysgu oddi wrth y dioddef yn nes ymlaen. Gall gwir berthyn oddef cyfnodau alltudiaeth. (t. 213)

No doubt Ruth believed that she belonged wherever Naomi went. Ruth must have felt safe and secure in her relationship with Naomi to continue to travel with her. Once in Bethlehem, Ruth became rooted in life there. Without her really knowing, it was not only the place of her belonging, but also the place of her calling, by God.

In his book, Eternal Echoes: Exploring our Hunger to Belong, John O’Donohue writes about belonging being about warmth, generosity, freedom, liberation and ‘the living and passionate presence of the soul’ (p. 3). Belonging is beyond a place or where we live, it is beyond the people we know or the ‘things’ we have. Belonging is more about choice, integrity, self-awareness, being at one with God in faith, living in faith and partaking in life and discerning the part we are to play, however small or big.

John O’Donohue wrote from his background of Celtic Spirituality in Ireland. He wrote of the Celtic understanding and sense of trees being special and sacred, and the way we can learn much about our journey through life by looking to the way trees navigate their way through the seasons of loss and growth. Also, that our inner life has to have depth if we are to nourish our own selves and that of others.

The tree can reach towards the light, endure wind, rain and storm, precisely because it is rooted. The wisdom of the tree balances the path inwards with the pathway outwards. When we put down our roots into the ground, we choose from life’s bounty, we need to exercise a tender caution about where the roots should go. One of the vital criteria of personal integrity is whether you belong to your own life or not. When you belong in yourself, you have poise and freedom. Even when the storm of suffering or confusion rages, it will not un-house you. Even in the maelstrom of turbulence some place within you will still anchor you faithfully. These inner roots will enable you later to understand and integrate the suffering that has visited. True belonging can integrate the phases of exile. (p. 213)

Put yourself in the place of Ruth. Would you have stayed in the place you lived or would you

have gone with your mother-in-law?

Any thoughts or comments on this passage from John O’Donohue?

Meddyliwch eich bod yn sefyllfa Ruth. A fyddech chi wedi aros yn eich cartref ynteu a fyddech

wedi mynd gyda’ch mam-yng-nghyfraith?

A oes gennych unrhyw feddyliau neu sylwadau ar y darn hwn o waith John O’Donohue?

Perthyn? / Belonging? 53

Page 54: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

In small groups, and then share with the whole group, consider the following questions drawn out from the passage from the book of Ruth:

Mewn grwpiau bach, trafodwch y cwestiynau canlynol sy’n deillio o’r darn o lyfr Ruth. Yna trafodwch â’r grŵp cyfan:

Perthyn? / Belonging?

Mae elfennau cadarnhaol a negyddol i berthyn, ac ar y cyd â hynny deimladau o gael eich derbyn a chael eich gwrthod. Gall geiriau ac agweddau cadarnhaol yn ymwneud â pherthyn gynnwys rhoi, croesawu, caru, bywhau, cefnogi, caniatáu methu, derbyn, cyfrifoldeb, tangnefedd, hunanymwybyddiaeth, bod yn fregus. Ymhlith y geiriau ac agweddau negyddol mae cyfyngu, rheoli, tra-arglwyddiaethu, trachwant, meddiangarwch, meddiannu, camdrin, allgau, cyltiau/sectau. Gan ei bod yn dod o rywle arall, gallai Ruth yn hawdd fod wedi cael ei hallgau o’r gymuned y daeth i fyw ynddi, gan orfodi iddi deimlo nad oedd yn perthyn. Mae perthyn yn rhan allweddol o fod yn fod dynol - cael eich hoffi, teimlo bod eich angen, bod yn o ddefnydd. Yn ysbrydol, perthyn yw dyfnhau ein gwreiddiau yn Nuw, dyfnhau ein deall o’r ffydd y galwodd Duw ni iddi a dyfnhau ein cariad at yr hyn ydym, yr un a gerir gan Dduw.

There are both positive and negative elements within belonging, and alongside this, a sense of inclusion and exclusion. Positive words or attitudes related to ‘belonging’ can include - giving, welcoming, loving, life-giving, supportive, allowed to fail, acceptance, responsibility, peace, self awareness, vulnerability. Negative words or attitudes can include - constrictive, controlling, ruling, greed, possessiveness, ownership, abuse, exclusion, cult/sects. Coming from a different place, Ruth could easily have been excluded from the community she came to live in, enforcing a sense of not belonging. To belong is of the essence of being human - to be liked, to be wanted, to be useful. To belong, spiritually, is to deepen our roots in God, to deepen our understanding of the faith God has called us to, and to deepen our love for the person we are as loved by God.

In how many different ways do you ‘belong’, For example, to a church, interest group,

or place of work?

Who, within society today, may find it difficult to find a sense of belonging or acceptance?

Ym mha sawl ffordd wahanol ydych chi’n ‘perthyn’ - er enghraifft, i eglwys, grŵp diddordeb arbennig

neu weithle?

Pa fathau o bobl, o fewn cymdeithas heddiw, a allai ei chael yn anodd teimlo eu bod yn perthyn neu’n

cael eu derbyn?

Fel eglwys, sut ydym yn annog perthyn mewn ffydd ac yn dysgu a dangos hynny i’r rhai sy’n

ceisio ffordd Iesu?

A yw’n heglwysi’n groesawgar ac yn lleoedd y gall pobl deimlo eu bod yn perthyn iddynt?

Are our churches places of welcome and belonging?

As a church, how is a belonging in faith encouraged, taught or shown to those who

are seeking the way of Jesus?

54

Page 55: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Read through the passage from the Letter to the Ephesians 4:25 - 5:2, the rules for the new life.

Brothers and sisters: Putting away falsehood, let all of us speak the truth to our neighbours, for we are members of one another. Be angry but do not sin; do not let the sun go down on your anger, and do not make room for the devil. Thieves must give up stealing; rather let them labour and work honestly with their own hands, so as to have something to share with the needy. Let no evil talk come out of your mouths, but only what is useful for building up, as there is need, so that your words may give grace to those who hear. And do not grieve the Holy Spirit of God, with which you were marked with a seal for the day of redemption. Put away from you all bitterness and wrath and anger and wrangling and slander, together with all malice, and be kind to one another, tender-hearted, forgiving one another, as God in Christ has forgiven you. Therefore be imitators of God, as beloved children, and live in love, as Christ loved us and gave himself up for us, a fragrant offering and sacrifice to God.

Darllenwch y darn o’r Llythyr at yr Effesiaid 4:25 - 5:2, sef rheolau’r bywyd newydd.

Frodyr a chwiorydd: Gan hynny, ymaith â chelwydd! Dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog, oherwydd yr ydym yn aelodau o’n gilydd. Byddwch ddig, ond peidiwch â phechu; peidiwch â gadael i’r haul fachlud ar eich digofaint, a pheidiwch â rhoi cyfle i’r diafol. Y mae’r lleidr i beidio â lladrata mwyach; yn hytrach, dylai ymroi i weithio’n onest â’i ddwylo ei hun, er mwyn cael rhywbeth i’w rannu â’r sawl sydd mewn angen. Nid oes yr un gair drwg i ddod allan o’ch genau, dim ond geiriau da, sydd er adeiladaeth yn ôl yr angen, ac felly’n dwyn bendith i’r sawl sy’n eu clywed. Peidiwch â thristáu Ysbryd Glân Duw, yr Ysbryd y gosodwyd ei sêl arnoch ar gyfer dydd eich prynu’n rhydd. Bwriwch ymaith oddi wrthych bob chwerwder, llid, digofaint, twrw, a sen, ynghyd â phob drwgdeimlad. Byddwch yn dirion wrth eich gilydd; yn dyner eich calon, yn maddau i’ch gilydd fel y maddeuodd Duw yng Nghrist i chwi. Byddwch, felly, yn efelychwyr Duw, fel plant annwyl iddo, gan fyw mewn cariad, yn union fel y carodd Crist ni, a’i roi ei hun trosom, yn offrwm ac aberth i Dduw, o arogl pêr.

Edrych tuag at y Testament Newydd Looking to the New Testament

Perthyn? / Belonging? 55

Page 56: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

In small groups consider this passage from the perspective of belonging. Then share with the wider group.

In our journey of faith we are to be imitators of God as revealed to us in Jesus. What did belonging mean to Jesus? To discover his own sense of belonging meant he needed to embrace both the divine and the human; both elements of his personhood. To Jesus, belonging also meant he didn’t always meet the peoples’ expectations! Jesus didn’t follow the social norms of his day as he met with lepers, tax collectors and women. In the eyes of the religious and political authorities he upset their ‘status quo’; their control and power over the people. Jesus was led to death by those who could not, or refused to, belong to the way of peace and love that he taught. Belonging and being true to himself and his call from God, meant Jesus could do nothing else but follow, willingly, the journey laid out for him. We too are called to a belonging in God that asks us to be true to the person we are, and not be moulded by others into the person we are not to be.

Mewn grwpiau bach, trafodwch y darn hwn o safbwynt perthyn. Yna trafodwch â’r grŵp cyfan.

Ar daith ffydd rydym i ddynwared Duw fel y mae wedi’i ddatguddio i ni yn Iesu. Beth oedd perthyn yn ei olygu i Iesu? Er mwyn darganfod ei ymdeimlad yntau o berthyn bu’n rhaid iddo gofleidio’r dwyfol a’r dynol, y ddwy elfen i’w hunaniaeth. I Iesu, golygai perthyn hefyd na fyddai bob amser yn bodloni disgwyliadau pobl! Ni ddilynai Iesu reolau cymdeithasol arferol ei oes wrth iddo gymdeithasu â gwahangleifion, casglwyr trethi a merched. Yng ngolwg yr awdurdodau crefyddol a gwleidyddol roedd yn tanseilio eu trefn sefydledig, a’u rheolaeth a’u grym dros y bobl. Arweiniwyd Iesu i’w farwolaeth gan y rhai na allent, neu a wrthodent, berthyn i ffordd tangnefedd a chariad fel y dysgai ef amdani.

Golygai perthyn a bod yn driw iddo’i hun a’i alwad gan Dduw na allai Iesu wneud dim ond dilyn, yn ewyllysgar, y daith a osodwyd o’i flaen. Gelwir ninnau hefyd i berthyn, yn Nuw, sy’n gofyn i ni fod yn driw i’r hyn ydym ac i beidio â chael ein mowldio gan eraill i fod yn rhywun na ddylem fod.

Perthyn? / Belonging?

Oes yna unrhyw newidiadau yr hoffech chi eu gwneud er mwyn bod yn driw i’r hyn rydych i fod, i wir adnabod beth yw perthyn yn Nuw?

Oes yna unrhyw newidiadau y teimlwch fod angen i’r byd crefyddol a gwleidyddol eu

gwneud heddiw i sicrhau y gall pawb deimlo eu bod yn perthyn o fewn yr eglwys a’r gymuned ehangach - hyd yn oed os bydd rhai’n teimlo

bod hynny’n siglo’r ‘statws cwo’?

Are there any changes you feel the religious and political world of today needs to make to ensure that all can feel a belonging within the church and the wider community - even if to some it

upsets ‘the status quo’?

Are there any changes you would like to make to be true to who you are meant to be, to truly own

your belonging in God?

56

Page 57: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Read through the passage from Gospel of Luke 22:1-6, the betrayal of the offer of a new life.

At that time: The festival of Unleavened Bread, which is called the Passover, was near. The chief priests and the scribes were looking for a way to put Jesus to death, for they were afraid of the people. Then Satan entered into Judas called Iscariot, who was one of the twelve; he went away and conferred with the chief priests and officers of the temple police about how he might betray him to them. They were greatly pleased and agreed to give him money. So he consented and began to look for an opportunity to betray him to them when no crowd was present.

Did Judas feel as though he belonged within the wider group of disciples? Did he realise what the consequences would be when he first went to the chief priests and scribes? Yet, Judas was still greeted by Jesus with love. There are times when we too do or say something that takes us away from the closeness of God’s side. We still belong and we are not left alone, as through our repentance, our seeking forgiveness we know the offer a new life again. Our baptism, draws us into our belonging in God’s family. Through baptism we are all equal before God, and equally loved and accepted, whether or not we find that in our day to day lives. Baptism opens the door to a new life, a new belonging and a journey of surprises where we may at times betray our faith and at other times proclaim our faith.

Darllenwch y darn o Efengyl Luc 22:1-6 ynghylch bradychu’r cynnig o fywyd newydd.

Bryd hynny: Yr oedd gŵyl y Bara Croyw, y Pasg fel y’i gelwir, yn agosáu. Yr oedd y prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion yn ceisio modd i’w ladd, oherwydd yr oedd arnynt ofn y bobl. Ac aeth Satan i mewn i Jwdas, a elwid Iscariot, hwnnw oedd yn un o’r Deuddeg. Aeth ef a thrafod gyda’r prif offeiriaid a swyddogion gwarchodlu’r deml sut i fradychu Iesu iddynt. Cytunasant yn llawen iawn i dalu arian iddo. Cydsyniodd yntau, a dechreuodd geisio cyfle i’w fradychu ef iddynt heb i’r dyrfa wybod.

A oedd Jwdas yn teimlo ei fod yn perthyn i’r grŵp ehangach o ddisgyblion? A wyddai beth fyddai’r canlyniadau pan aeth gyntaf at yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion? Ac eto, gyda chariad y cyfarchodd Iesu ef serch hynny. Mae adegau pan fyddwn ninnau hefyd yn gwneud neu’n dweud rhywbeth sy’n ein pellhau oddi wrth Dduw. Rydym yn parhau i berthyn ac ni chawn ein gadael yn amddifad, a thrwy’n hedifeirwch ac o geisio maddeuant gwyddom y cynigir bywyd newydd i ni eto.

Mae ein bedydd yn ein dwyn i mewn i berthyn i deulu Duw. Drwy fedydd rydym oll yn gyfartal gerbron Duw, ac fe’n cerir a’n derbyn yn gyfartal, beth bynnag y teimlwn am hynny yn ein bywydau o ddydd i ddydd. Mae bedydd yn agor y drws i fywyd newydd, perthyn newydd a thaith yn llawn syndod, pan fyddwn weithiau’n bradychu’n ffydd ac ar adegau eraill yn cyhoeddi’n ffydd.

Edrych tuag at y Groes Looking to the Cross

How do you feel about the story of Judas and all he did?

What does your baptism mean to you?

Sut ydych chi’n teimlo am hanes Jwdas a’r hyn oll a wnaeth?

Beth mae eich bedydd yn ei olygu i chi?

Perthyn? / Belonging? 57

Page 58: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Edrych tuag at y Goeden Looking to the Tree

From the discussions during this session:

On your own personal Tree:

O’r trafodaethau yn y sesiwn hon:

Ar eich Coeden bersonol eich hun:

Perthyn? / Belonging?

In one colour, write on the tree positive elements about belonging to thank God for.

In another colour, write on the tree negative elements about belonging to bring into prayer.

In another colour, anything else of importance.

In one colour, write on the tree what belonging to God in faith means to you.

In another colour, write on the tree what baptism means to you.

In another colour, anything else of importance.

Mewn un lliw, ysgrifennwch ar y goeden elfennau cadarnhaol ynghylch perthyn i ddiolch

i Dduw amdanynt.

Mewn lliw arall, ysgrifennwch ar y goeden elfennau negyddol ynghylch perthyn i weddïo amdanynt.

Mewn lliw arall, ysgrifennwch unrhyw beth arall y credwch ei fod yn bwysig.

Mewn un lliw, ysgrifennwch ar y goeden beth mae perthyn i Dduw mewn ffydd yn ei olygu i chi.

Mewn lliw arall, ysgrifennwch ar y goeden beth mae bedydd yn ei olygu i chi.

Mewn lliw arall, ysgrifennwch unrhyw beth arall y credwch ei fod yn bwysig.

58

Page 59: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Gweddi i gloi Closing prayer

Thank you, O God, for my belonging in you,and the welcome you give to me.

Thank you, O God, for my baptism,and the acceptance of the ‘who I am’.

Thank you, O God, for my journey of faith,and the awareness of the gifts blessed to me.

Thank you, O God, for my belonging with you, and bless to me the faith to walk with you during Lent.

Amen.

Diolch i ti, O Dduw, am fy mherthyn ynot ti,ac am dy groeso i mi.

Diolch i ti, O Dduw, am fy medydd,ac am dderbyn yr hyn wyf fi.

Diolch i ti, O Dduw, am fy nhaith mewn ffydd,ac am gael bod yn ymwybodol o’r doniau y’m bendithiaist â hwy.

Diolch i ti, O Dduw, am fy mherthyn gyda thi, a bendithia fi â’r ffydd i gydgerdded â thi yn ystod y Grawys.

Amen.

Perthyn? / Belonging? 59

Page 60: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

60

Page 61: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Dyheu?Desiring?Pumed Wythnos y Grawys The Fifth Week of Lent

61

Page 62: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Gweddi agoriadol Opening prayer

Dyheu? / Desiring?

Diarhebion Proverbs

Effesiaid Ephesians

Ffyrdd hyfryd yw ei ffyrdd,a heddwch sydd ar ei holl lwybrau.

Her ways are ways of pleasantness,and all her paths are peace.

Rwyf yn gweddïo y bydd i chi wybod am y cariad hwnnw, er ei fod uwchlaw gwybodaeth. Felly dygir chwi

i gyflawnder, hyd at holl gyflawnder Duw.

O Dduw Dyhead, Cyfarwydda fy nghamau ar hyd

llwybr dy dangnefedd di.Cyfarwydda fy nghamau ar hyd

llwybrau sy’n hyfryd.Cyfarwydda fy nghamau ar hyd

llwybr dy gariad di.Cyfarwydda fy nghamau ar hyd

llwybrau gwirionedd.

O Dduw Dyhead,Cyfarwydda fy nghalon i’th

garu’n ddyfnach.Cyfarwydda fy ngeiriau i

lefaru’n eglurach amdanat.Cyfarwydda fy meddwl i weddïo’n fwy trugarog.

Cyfarwydda fy holl fod i’th ddilyn yn fwy ffyddlon.

O Dduw Dyhead,Cyfarwydda fi yn ffordd dy ddyhead di

drwy fy ngwasanaeth, fy ngweddi a’m bywyd.

Amen.

O God of Desire, Guide my steps along

your path of peace.Guide my steps along

ways that are pleasant.Guide my steps along

your path of love.Guide my steps along

ways that are true.

O God of Desire,Guide my heart to love

you more deeply.Guide my words to speak

of you more clearly.Guide my mind to

pray more compassionately.Guide my whole being to

follow you more faithfully.

O God of Desire,Guide me in the way of your desire

in and through my service, prayer and life.

Amen.

I pray that you come to know the love of Christ that surpasses knowledge,

so that you may be filled with all the fullness of God.

62

Page 63: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Gweddi’r Arglwydd, a’i dilyn gan: Boed i Ras Duw fy nghysgodi, boed i Oleuni Duw fy arwain,

boed i Dangnefedd Duw fy amgylchynu,boed i Gariad Duw fod i mi’n obaith,

er mwyn dyfnhau fy ffydd a’m gweddïo drwy’r Grawys hwn.

Amen.

The Lord’s Prayer, followed by:May the Grace of God be upon me,

the Light of God be my guide,the Peace of God be around me,

the Love of God be my hope, to deepen my faith and

prayer this Lent. Amen.

Dyheu? Desiring?

Gall y geiriau ‘dyhead’ a ‘dyheu’ fod ag ystyron cadarnhaol neu negyddol. Mae dyheu’n golygu dymuno, hiraethu a deisyfu ac mae hefyd yn amlygu’n gallu i wneud penderfyniadau ac i gydnabod bod canlyniadau i bob penderfyniad a wnawn. Yn negyddol, gall dyheu arwain at drachwant, meddiannu, rheoli ac anwybyddu teimladau pobl eraill.

The words desire, and desiring, can have both positive and negative meanings. To desire is to yearn, to long for, to wish for, and it also reveals our capacity to make choices and acknowledge that all decisions made have a consequence. Negatively, desiring can result in greed, in taking possession of, to have control over and have no regard for the other.

What are your first thoughts about the word ‘desiring’?

Beth yw eich meddyliau cyntaf am y gair ‘dyheu’?

What are your thoughts about desire in relation to faith?

Beth ydych chi’n ei feddwl am ddyheu mewn perthynas â ffydd?

What are your thoughts on desire of God within prayer?

Beth ydych chi’n ei feddwl am ddyheu am Dduw mewn gweddi?

Dyheu? / Desiring? 63

Page 64: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Read through the passage from the Song of Songs 2:8-14, of love following the beloved.

The voice of my beloved! Look, he comes, leaping upon the mountains, bounding over the hills. My beloved is like a gazelle or a young stag. Look, there he stands behind our wall, gazing in at the windows, looking through the lattice. My beloved speaks and says to me: ‘Arise, my love, my fair one, and come away; for now the winter is past, the rain is over and gone. The flowers appear on the earth; the time of singing has come, and the voice of the turtle-dove is heard in our land. The fig tree puts forth its figs, and the vines are in blossom; they give forth fragrance. Arise, my love, my fair one, and come away. O my dove, in the clefts of the rock, in the covert of the cliff, let me see your face, let me hear your voice; for your voice is sweet, and your face is lovely.

Darllenwch y darn o Ganiad Solomon 2:8-14 ynghylch cariad yn dilyn gwrthrych serch.

Ust! Dyma fy nghariad, dyma ef yn dod; y mae’n neidio ar y mynyddoedd, ac yn llamu ar y bryniau. Y mae fy nghariad fel gafrewig, neu hydd ifanc; dyna ef yn sefyll y tu allan i’r mur, yn edrych trwy’r ffenestri, ac yn syllu rhwng y dellt. Y mae fy nghariad yn galw arnaf ac yn dweud wrthyf, ‘Cod yn awr, f’anwylyd, a thyrd, fy mhrydferth; oherwydd edrych, aeth y gaeaf heibio, ciliodd y glaw a darfu, y mae’r blodau’n ymddangos yn y meysydd, daeth yn amser i’r adar ganu, ac fe glywir cân y durtur yn ein gwlad; y mae’r ffigysbren yn llawn ffigys ir, a blodau’r gwinwydd yn gwasgaru aroglau peraidd. Cod yn awr, f’anwylyd, a thyrd, fy mhrydferth.’ Fy ngholomen, sydd yn encilion y graig, yng nghysgod y clogwyni, gad imi weld dy wyneb, a chlywed dy lais, oherwydd y mae dy lais yn swynol, a’th wyneb yn brydferth.

Un o’r llyfrau mwyaf annisgwyl sydd i’w weld yn yr Hen Destament yw llyfr sy’n ymwneud â dyhead; dyhead sy’n synhwyrus ac weithiau’n erotig. Yn yr Hen Destament, ystyrir dyhead yn niwtral yn foesol oni bai ei fod wedi ei gysylltu â thwyll, pechod a drygioni. Ceir cyfeiriadau at ddyheu a chariad ond mae angen chwilio’n ofalus am y rheini. Yng Nghaniad Solomon, mynegir y dyheu mewn geiriau a delweddau. Dyma lyfr na sonir ynddo am Dduw ac eto mae wedi cyrraedd canon y Beibl! Mae hanes y cariadon yn datgelu dyhead dwys y naill am y llall, a defnyddir y greadigaeth gyfan i ddisgrifio’r cariad a’r dyhead hwnnw. Dyma lyfr sydd yn ymhyfrydu ym mhrydferthwch y corff, ond mewn ffordd wahanol iawn i’r hyn a welwn heddiw, pan fo siâp a delwedd y corff yn declyn yn nwylo’r cyfryngau i gyfleu ‘perffeithrwydd’ a chariad cysylltiedig â rhyw. Yng Nghaniad Solomon, nid pethau sydd ‘ar werth’ yw dyhead a’r corff, ond yn hytrach delweddau sy’n cyfleu annibyniaeth a’r dewis o rydd ewyllys i garu, i fod yn wrthrych dyhead ac i siarad o’r galon. Mae’n llyfr sy’n cyfleu mwy na dyhead corfforol - mae’n ddyhead am gyflawnder ac am i ddau fod yn un.

I rai, dyma lyfr efallai nad ydynt wedi edrych arno erioed, gall rhai pobl deimlo’n anghyffyrddus wrth ddarllen rhannau ohono ac i eraill bydd yn fodd i ddyfnhau eu gweddïau.

One of the most surprising books to be found in the Old Testament is a book on desire; a sensuous and at times erotic desire. In the Old Testament desire is kept morally neutral until it becomes associated to deceit, sin and evil. Desire and love may be alluded to but it needs hunting out carefully. In the Song of Songs, desire is present in word and imagery. It is a book where no mention of God is made, and yet it found its way into the canon of the Bible! The story of a lover and a beloved unfolds a deep and passionate desire for each other, and the whole of creation is used to describe that love and desire. This is a book that seeks out the beauty of the body, in a sharp contrast to the present day, where body shape and imagery is a media tool for ‘perfection’ and desire and love associated with sex. In the Song of Songs desire and the body are not commodities ‘on sale’, but rather emphasise independence and free choice - to love, to be desired and to speak from the heart. It is a book that reveals more than physical desire, a desire for wholeness and to be at one with another.

For some this may be a book that has never been looked at, for some the language used may lead to feeling uncomfortable when reading, for others it will be a way into deeper prayer.

Edrych tuag at yr Hen Destament Looking to the Old Testament

Dyheu? / Desiring?64

Page 65: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Mae Caniad Solomon yn llyfr a fyddai wedi ysbrydoli llawer o gyfrinwyr yr Oesoedd Canol, a fyddai wedi ceisio undod gweddigar ac ysbrydol dwfn â Duw, er enghraifft, Teresa o Afila, Richard Rolle, Iwlian o Norwich a Ioan y Groes. Roeddent oll, mewn ffyrdd gwahanol, yn ystyried perthynas â Duw yn berthynas llawn cariad a dyhead. Byddai bywyd o weddi yn eu harwain ar daith a fyddai’n dod â hwy’n agosach at galon a phresenoldeb Duw.

Mae’n debyg mai am ei gerdd ‘Nos Dywyll yr Enaid’ y mae Ioan y Groes (1542-1591) yn fwyaf adnabyddus. Mae’n defnyddio delweddau sy’n debyg i’r rhai a geir yng Nghaniad Solomon, yn rhinwedd y ffaith nad yw’n petruso ysgrifennu ynghylch ei brofiadau gan ddefnyddio ieithwedd synhwyrus dyhead a iaith emosiynau a theimladau. Credai po fwyaf y tyfem yng nghariad Duw, po fwyaf y byddem yn gallu byw yn unol â’r cariad hwnnw yn ein bywydau beunyddiol. Credai hefyd mai rhodd gan Dduw yw sancteiddrwydd y byddwn yn dod yn fwy ymwybodol ohono wrth dreulio mwy o amser mewn llonyddwch a gweddi gyda Duw. Po fwyaf y byddwn yn byw bywyd graslon, po fwyaf ‘sanctaidd’, po agosaf at Dduw, y deuwn.

Mae ‘Nos Dywyll yr Enaid’ yn darlunio profiadau’r awdur yn ystod cyfnod yn y carchar, ac eto fe’i hysgrifennwyd o safbwynt edrych yn ôl ar yr adeg honno, ar ôl i Ioan ddod i sylweddoli, pa mor dywyll bynnag y bu’r cyfnod hwnnw, bod Duw yn parhau’n bresennol drwy’r cyfan. Yn y pen draw, taith tuag at Dduw a chariad Duw yw’r nos dywyll, er iddi deimlo fel taith i’r gwrthwyneb! Dyna gariad efallai na fyddwn ninnau, fel Ioan y Groes, yn ei werthfawrogi nac hyd yn oed yn sylwi ei fod yno hyd y daw adeg pan fyddwn yn edrych yn ôl a myfyrio ar y profiad.

Gall y nos dywyll hefyd olygu dilyn dyhead ‘anghywir’ sy’n ein dwyn i ffwrdd oddi wrth gariad Duw. Gallwn ddyheu am wneud yr hyn rydym am ei wneud drosom ein hunain heb hidio am Dduw na’n ffydd. Golyga dilyn Duw, ac adnabod dyhead Duw ar ein cyfer ni, ein bod yn gweld y pethau sy’n amherffaith amdanom ac yn eu cydnabod. Golyga hefyd ofyn y cwestiwn, ‘Beth yw’r dyhead sy’n sail i’r cyfan rwyf yn ei ddweud neu’n eu wneud?’

Darllenwch y cyfieithiad isod o ‘Dark Night’ - addasiad (yn 2010) o’r gerdd gan Ioan y Groes, sy’n gwarchod hanfod ac ystyr y gwreiddiol ym mhob pennill. Cyfeiria’r ddau bennill gyntaf at fod yn y tywyllwch ac i ffwrdd oddi wrth ras Duw. Mae’r chwe phennill dilynol yn ymwneud â’r daith o geisio ac adnabod maddeuant a glanhad - yn synhwyrol ac yn ysbrydol - cyn bod undod â Duw yn bosibl. Mae Ioan y Groes yn deall y nos fel yr adeg y gall y cariad a gwrthrych ei serch gyfarfod a gwêl mai’r ‘nos dywyll yw ffydd, holl fywyd ffydd’ (John of the Cross: Classics of Christian Spirituality, t. 157).

The Song of Songs is a book that would have inspired many of the Medieval mystics who sought out a deep prayerful and spiritual union with God, for example, Teresa of Avila, Richard Rolle, Julian of Norwich, John of the Cross. They each, in different ways, saw a relationship with God as a relationship of love and desire. A life of prayer was a life journey which would take them closer to the heart and presence of God. John of the Cross (1542-1591) is probably best known for his poem ‘The Dark Night of the Soul’. The imagery he uses is similar to that of the Song of Songs, in that he isn’t afraid of writing of his experiences using a language of desire and sensuousness, emotions and feelings. He believed that the more we grow in the God of love, the more we will be able to live that love out in our daily lives. He also believed that holiness as a gift from God was something we become more aware of as we spent more time in stillness and prayer with God. The more we live out a life of grace the more ‘holy’ or close to God we will become.

‘The Dark Night’ explores his experience of a time in prison, and yet it is written from the perspective of looking back on that time, and from a belief that however ‘dark’ that time was, in looking back he realised that God was still with him. Ultimately the dark night is a journey to God, and the love of God, even if it feels just the opposite! It is a love that for us, like John of the Cross, may not be realised or accepted as being present until there comes a time of reflection and looking back.

The dark night, could also mean following a ‘wrong’ desire which takes us away from God’s love. Our desire could be to do what we want for ourselves with no reference to God or faith. To follow God, and to know God’s desire for us, is to meet with our imperfections and acknowledge them. It is also to ask ourselves the question, ‘What is the desire behind all that I do or say?’

Read through the ‘Dark Night’ - a re-writing (in 2010) of the poem by John of the Cross, but keeping its essence and meaning within each of the verses. The first two verses speak of being in the dark and away from the grace of God. The following six verses then, relate to the journey of seeking and knowing forgiveness and cleansing - sensory and spiritually - before the union with God is possible. For John of the Cross, the night is understood as meaning the time when the lover and the beloved can meet, and he sees that ‘the dark night is faith, the entire life of faith’ (John of the Cross: Classics of Christian Spirituality, pp. 157).

What are your initial thoughts on the Song of Songs?

Beth yw eich ymateb cychwynnol i Ganiad Solomon?

Dyheu? / Desiring? 65

Page 66: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Y Nos Dywyll The Dark Night

I’r nos dywyll honno, a’i hoerfel yn gafael, cariad sy’n dyheu i deimlo

- ac adnabod, dyma ras! Yn rhydd, af allan, ac ni wêl neb;

daw’r byd, a minnau, yn llonydd stond.Dwfn y trywana’r tywyllwch, ac eto

yn anwel y teithia i’m mewn, - ac adnabod, dyma ras!

Ynghudd dan orchudd y nos daw’r byd, a minnau, yn llonydd stond.

Yn y nos dywyllach na thywyllwch, yn ddirgel, lle roedd pawb yn ddall,

ni edrychais i’r dde na’r aswy heb smic o olau i gyfeirio ‘nhraed,

ond y tân ar aelwyd fy nghalon.Sicrach a chadarnach oedd golau’r fflamau hynny

na golau gwelw’r lloer a foddai yn y nos - cyfarwydd imi’r golau hwnnw,a’m harweiniodd yn dyner i’r lle

y disgwyliai Doethineb, yn unig, amdanaf.

O Oleuni Doethineb, Soffia.Ni all rhyfeddod gwawr gystadlu dim

â’r tân sy’n denu’r Cariad at yr Un a gâr,ynghyd mewn undod, yn geni

cynghanedd, tangnefedd a llawenydd trawsnewidiol serch.Cyfarfod mae’n cyrff, cofleidio, gorffwys, cysgu

ar fy mron, y naill i’r llall yn unig.Tangnefedd ddaw wrth im anwesu’r Un ynghwsg

a’r awel yn llifo drwy’r coedyn ein hanwesu ni’n dau’n cydorwedd.

Ymbletha’r awel lawr, lawr drwy frigau’r coed,wrth im godi rhwng fy mysedd wallt fy Nghariad,

yr awel yn bigiadau ar fy ngwddf,a’i fysedd synhwyrus

yn fy nhynnu tu hwnt i’r fi a adwaenwn.Ildiaf yn llwyr y fi a fu

a’m hwyneb mewn angof yn pwyso ar f ’Anwylyd.Saif popeth yn stond; dibwys yw popeth arall.

Gadawaf fy hunan, a’r holl feichiau fuyn angof, yno yn yr ardd.

Dyheu? / Desiring?66

Page 67: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Into that cold dark shrouding night, love yearning desires,

- and to know, this is grace! Free, as I go out, and no-one sees,

and all is becoming still, I am still.The darkness penetrates deep, and yet

masked, it journeys inward, - and to know, this is grace!

Covered by hiding darkness all is becoming still, I am still.

On that dark darkening nightenclosed in secrecy with no-one to see,

I looked neither to left or right, and there was no light to guide, make safe my steps

other than the fire lit within my heart.This burning light was more certain, sure,

than the fading light of the night moon - this light I knew well,

which gently led me to the place, whereWisdom waited for me, alone.

O Light of Wisdom, Sophia.The rising light of the dawn cannot compare

with the blaze that draws the Loved to the one Belovedtogether in unison, bringing harmony, peace and the joy of transforming love.

Our bodies meet, embracing, rest, asleepupon my breast, for each other alone.

There is peace as I caress the sleeping Oneand the breeze flowing through the trees

caress us both, where we lie.

The breeze weaves its way down from the tree tops,as I lifted the hair of my Beloved.

I felt its piercing touch upon my neck, its sensuous fingersdrawing me further beyond my own known self.

I put aside my whole existing selfforgetting all as my face rests against my Beloved.

All stands still; nothing else matters.I come out from myself, and no longer remembered,

leave my burdens, there in the garden.

Dyheu? / Desiring? 67

Page 68: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

In small groups, and then share with the whole group, consider the following questions drawn out from the passage from the Song of Songs:

Mewn grwpiau bach, trafodwch y cwestiynau canlynol sy’n seiliedig ar y darn o Ganiad Solomon. Yna rhannwch â’r grŵp cyfan:

Dyheu? / Desiring?

In the Song of Songs, the body is an object of beauty as well as desire. What questions does

this raise regarding how the body, and body image, is portrayed by the media?

Think about times that could be described as being a ‘dark night’ - for example, illness, mental ill health, job loss, grief, difficult decision making, arid prayer. What or who helped you through that

time? Where was the light and love of God?

Would you describe your relationship with God as one of desire? What is your image of God?

Think of the places in the world where the light of God’s love is needed.

How can the church support a positive teaching on desire and the love of God?

Mae Caniad Solomon yn dathlu prydferthwch y corff fel gwrthrych dyhead. Pa gwestiynau sy’n

codi o hynny ynghylch y modd y mae’r cyfryngau’n ymdrin â’r corff a delwedd corff?

Meddyliwch am yr adegau y gellid eu disgrifio fel ‘nos dywyll’ - er enghraifft, salwch, afiechyd meddwl, colli swydd, galar, gorfod gwneud

penderfyniad anodd, sychder mewn gweddi. Beth neu bwy fu’n gymorth i chi drwy adeg felly? Lle

roedd y goleuni a’r cariad a ddaw o Dduw?

A fyddech yn dweud eich bod yn dyheu am Dduw? Beth yw eich delwedd o Dduw?

Meddyliwch am y lleoedd yn y byd lle mae angen goleuni a chariad Duw.

Sut gall yr eglwys hybu dysgeidiaeth gadarnhaol ynghylch dyhead a’r cariad a ddaw o Dduw?

68

Page 69: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Read through the passage from the First Letter to the Corinthians 13:4-13 and the love which endures all things.

Brothers and sisters: Love is patient; love is kind; love is not envious or boastful or arrogant or rude. It does not insist on its own way; it is not irritable or resentful; it does not rejoice in wrongdoing, but rejoices in the truth. It bears all things, believes all things, hopes all things, endures all things.

Love never ends. But as for prophecies, they will come to an end; as for tongues, they will cease; as for knowledge, it will come to an end. For we know only in part, and we prophesy only in part; but when the complete comes, the partial will come to an end. When I was a child, I spoke like a child, I thought like a child, I reasoned like a child; when I became an adult, I put an end to childish ways. For now we see in a mirror, dimly, but then we will see face to face. Now I know only in part; then I will know fully, even as I have been fully known. And now faith, hope, and love abide, these three; and the greatest of these is love.

Darllenwch y darn o’r Llythyr Cyntaf at y Corinthiaid 13:4-13 am y cariad sy’n dal ati i’r eithaf.

Frodyr a chwiorydd: Mae cariad yn amyneddgar; y mae cariad yn gymwynasgar; nid yw cariad yn cenfigennu, nid yw’n ymffrostio, nid yw’n ymchwyddo. Nid yw’n gwneud dim sy’n anweddus, nid yw’n ceisio ei ddibenion ei hun, nid yw’n gwylltio, nid yw’n cadw cyfrif o gam; nid yw’n cael llawenydd mewn anghyfiawnder, ond y mae’n cydlawenhau â’r gwirionedd. Y mae’n goddef i’r eithaf, yn credu i’r eithaf, yn gobeithio i’r eithaf, yn dal ati i’r eithaf.

Nid yw cariad yn darfod byth. Ond proffwydoliaethau, fe’u diddymir hwy; a thafodau, bydd taw arnynt hwy; a gwybodaeth, fe’i diddymir hithau. Oherwydd anghyflawn yw ein gwybod ni, ac anghyflawn ein proffwydo ni. Ond pan ddaw’r hyn sy’n gyflawn, fe ddiddymir yr hyn sy’n anghyflawn. Pan oeddwn yn blentyn, fel plentyn yr oeddwn yn llefaru, fel plentyn yr oeddwn yn meddwl, fel plentyn yr oeddwn yn rhesymu. Ond wedi dod yn ddyn, yr wyf wedi rhoi heibio bethau’r plentyn. Yn awr, gweld mewn drych yr ydym, a hynny’n aneglur; ond yna cawn weld wyneb yn wyneb. Yn awr, anghyflawn yw fy ngwybod; ond yna, caf adnabod fel y cefais innau fy adnabod. Mewn gair, y mae ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn, yn aros. A’r mwyaf o’r rhain yw cariad.

Edrych tuag at y Testament Newydd Looking to the New Testament

Dyheu? / Desiring? 69

Page 70: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

In small groups consider this passage from the perspective of desiring. Then share with the wider group.

The passage from 1 Corinthians follows a similar pattern to the understanding of John of the Cross. Our life is a journey towards God, and a clearer ‘seeing’ of God. No matter how long we have held a Christian faith there is always more for us to learn and discover about God and ourselves in relation to God’s call to us.

Love endures everything, and as Paul writes, if we do not have love than whatever else we may have it is worth nothing. It is this depth of love that God desires for all creation. It is this all enduring love that Jesus revealed in his life, and as we remember as we move towards Holy Week, in his death.

In faith we are to reflect this love, and yet, in the reality of the world of today it can be extremely hard to hold in love all we see in the newspapers or on the TV screens. Our love, and our desire to love, has to come from the heart and through our faith. We are to hold up the light of God’s love even in the dark times.

Mewn grwpiau bach, trafodwch y darn hwn o safbwynt dyheu. Yna trafodwch â’r grŵp cyfan.

Mae’r darn hwn o 1 Corinthiaid yn dilyn patrwm tebyg i deithi meddwl Ioan y Groes. Taith tuag at Dduw yw ein bywyd, a thaith tuag at ‘weld’ Duw’n eglurach. Waeth pa mor hir y bu ini goleddu ffydd Gristnogol, mae yna bob amser ragor y gallwn ei ddysgu a’i ddarganfod am Dduw ac amdanom ein hunain yng nghyd-destun galwad Duw arnom. Mae cariad yn goddef i’r eithaf ac, fel yr ysgrifenna Paul, os nad oes gennym gariad, nid yw beth bynnag arall sydd gennym yn werth dim. Dyna ddyfnder y cariad a ddeisyfa Duw ar gyfer yr holl greadigaeth. Y cariad di-ildio hwnnw a ddatguddiodd Iesu yn ei fywyd ac, fel y cofiwn wrth i’r Wythnos Fawr agosáu, yn ei farw hefyd.

Rydym i adlewyrchu’r cariad hwnnw mewn ffydd, ac eto, yn y byd fel y mae heddiw gall fod yn anodd iawn i gynnal y cariad hwnnw yn wyneb y cyfan a welwn yn y papurau newydd ac ar y sgrîn deledu. Mae’n rhaid i’n cariad, a’n dyhead i garu, ddod o’n calonnau ar sail ein ffydd. Mae gofyn i ni adlewyrchu goleuni cariad Duw hyd yn oed ar yr adegau tywyll.

What does it mean to you to receive this enduring love from God,

and to live by it?

Has, and how has, your way of prayer changed over the years? Do you use different words, or

styles of prayer? Has your image of God changed?

Beth mae’n ei olygu i dderbyn y cariad hwn sy’n dal ati i’r eithaf oddi wrth Dduw ac i fyw

yn unol â hynny?

A yw eich ffordd o weddïo wedi newid dros y blynyddoedd? Os ydyw, a ydych yn defnyddio

geiriau gwahanol neu ddulliau gwahanol o weddïo? A yw eich delwedd o Dduw wedi newid?

Dyheu? / Desiring?70

Page 71: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Read through the passage from the Gospel of Matthew 26:6-13 about love shown in anointing.

At that time: While Jesus was at Bethany in the house of Simon the leper, a woman came to him with an alabaster jar of very costly ointment, and she poured it on his head as he sat at the table. But when the disciples saw it, they were angry and said, ‘Why this waste? For this ointment could have been sold for a large sum, and the money given to the poor.’ But Jesus, aware of this, said to them, ‘Why do you trouble the woman? She has performed a good service for me. For you always have the poor with you, but you will not always have me. By pouring this ointment on my body she has prepared me for burial. Truly I tell you, wherever this good news is proclaimed in the whole world, what she has done will be told in remembrance of her.’

Matthew and Mark (14:3-9) tell the same story of an anonymous woman who pours expensive ointment over Jesus. John (12:1-8) tells us that Mary pours ‘costly perfume of pure nard’ over the feet of Jesus, and then wipes them with her hair.

The imagery in both is one of intimacy, particularly in John’s Gospel. There is the desire of the woman to anoint Jesus, and she does not let the presence of the disciples stop her. The disciples see this anointing as a waste of money which could have been put to better uses. Jesus though, interprets this action of the woman very differently. She has prepared his body for burial. Jumping ahead in the Lenten story we know that there was no time for anointing at his death, and when the women came to the tomb, the resurrection had already taken place.

Love endures, and so too, Jesus says, will the story about the woman who anointed him.

Darllenwch y darn o Efengyl Mathew 26:6-13 ynghylch dangos cariad drwy eneinio.

Bryd hynny: Pan oedd Iesu ym Methania yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, daeth gwraig ato a chanddi ffiol alabastr o ennaint gwerthfawr, a thywalltodd yr ennaint ar ei ben tra oedd ef wrth bryd bwyd. Pan welodd y disgyblion hyn, aethant yn ddig a dweud, ‘I ba beth y bu’r gwastraff hwn? Oherwydd gallesid gwerthu’r ennaint hwn am lawer o arian a’i roi i’r tlodion.’ Sylwodd Iesu ar hyn a dywedodd wrthynt, ‘Pam yr ydych yn poeni’r wraig? Oherwydd gweithred brydferth a wnaeth hi i mi. Y mae’r tlodion gyda chwi bob amser, ond ni fyddaf fi gyda chwi bob amser. Wrth dywallt yr ennaint hwn ar fy nghorff, fy mharatoi yr oedd hi ar gyfer fy nghladdu. Yn wir, rwy’n dweud wrthych, pa le bynnag y pregethir yr Efengyl yma yn yr holl fyd, adroddir hefyd yr hyn a wnaeth hon, er cof amdani.’

Mae Mathew a Marc (14:3-9) yn adrodd yr un stori am ddynes ddienw sy’n tollti ennaint drud dros Iesu. Mae Ioan (12:1-8) yn dweud wrthym bod Mair yn tywallt ‘ennaint costfawr, nard pur’ dros draed Iesu, ac yna’n eu sychu â’i gwallt.

Mae’r delweddau yn y ddwy stori’n cyfleu anwyldeb ac agosatrwydd, yn enwedig yn yr hyn a ddywed Ioan. Dyhead y ddynes yw eneinio Iesu, ac nid yw am adael i bresenoldeb y disgyblion ei rhwystro. Mae’r disgyblion yn gweld yr eneinio fel gwastraff arian - arian y gellid bod wedi’i ddefnyddio at ddibenion gwell. Mae Iesu, fodd bynnag, yn dehongli ei gweithred mewn ffordd wahanol iawn. Mae hi wedi paratoi ei gorff i’w gladdu. Os edrychwn ymlaen yn stori’r Grawys, gwyddwn na fu amser i’w eneinio adeg ei farwolaeth, ac erbyn i’r merched ddod at y bedd i wneud hynny, roedd yr atgyfodiad eisoes wedi digwydd.

Mae cariad yn parhau, ac felly hefyd, medd Iesu, y bydd yr hanes am y ddynes a’i heneiniodd.

Edrych tuag at y Groes Looking to the Cross

What are your thoughts on this passage?

Is this a passage you could use for your own personal prayer, and to place yourself as the

woman who anoints Jesus?

Sut ydych chi’n ymateb i’r darn hwn?

A yw hwn yn ddarn o’r Ysgrythur y gallech ei ddefnyddio ar gyfer eich gweddïo personol, gan osod eich hun yn lle’r ddynes sy’n eneinio Iesu?

Dyheu? / Desiring? 71

Page 72: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Edrych tuag at y Goeden Looking to the Tree

From the discussions during this session:

On your own personal Tree:

O’r trafodaethau yn y sesiwn hon:

Ar eich Coeden bersonol eich hun:

Dyheu? / Desiring?

In one colour, write on the tree words to describe God.

In another colour, write on the tree thoughts on what the ‘dark night’ means.

In another colour, anything else of importance.

In one colour, write on the tree what you desire from God.

In another colour, write on the tree what God may desire from you.

In another colour, anything else of importance.

Mewn un lliw, ysgrifennwch ar y goeden eiriau i ddisgrifio Duw.

Mewn lliw arall, ysgrifennwch ar y goeden eich meddyliau ynghylch ystyr y ‘nos dywyll’.

Mewn lliw arall, ysgrifennwch unrhyw beth arall y credwch ei fod yn bwysig.

Mewn un lliw, ysgrifennwch ar y goeden yr hyn rydych yn dyheu amdano gan Dduw.

Mewn lliw arall, ysgrifennwch ar y goeden yr hyn y gallai Duw ei ddyheu amdano oddi wrthych chi.

Mewn lliw arall, ysgrifennwch unrhyw beth arall y credwch ei fod yn bwysig.

72

Page 73: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Gweddi i gloi Closing prayer

God of love and desire,may my prayer draw me ever closer into your presence.

God of love and desiremay my words and actions reflect your all enduring love.

God of love and desire,may my life be all you call and desire it to be.

God of love and desire,bless to me the faith to walk with you during Lent.

Amen.

O Dduw cariad a dyhead,boed i’m gweddïau fy nwyn yn fwyfwy agos at dy bresenoldeb.

O Dduw cariad a dyhead,boed i’m geiriau a’m gweithredoedd adlewyrchu

dy gariad di-ildio.

O Dduw cariad a dyhead,boed i’m bywyd fod yn unol â’th alwad a’th ddyhead di.

O Dduw cariad a dyhead,bendithia fi â’r ffydd i gydgerddedd â thi drwy’r Grawys.

Amen.

Dyheu? / Desiring? 73

Page 74: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Addo?Promising?Chweched Wythnos y Grawys The Sixth Week of Lent

74

Page 75: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Addo? / Promising?

Gweddi agoriadol Opening prayer

Diarhebion

Proverbs

Effesiaid

Ephesians

Y mae’n bren bywyd i’r neb a gydia ynddi,

a dedwydd yw’r rhai sy’n glynu wrthi.

She is a tree of life to those who lay hold of her;

those who hold her fast are called happy.

Rwyf yn gweddïo ar yr hwn sydd â’r gallu ganddo i wneud yn anhraethol well na dim y gallwn ni ei ddeisyfu

na’i ddychmygu, trwy’r gallu sydd ar waith ynom ni.

I pray to the One who by the power at work within us

is able to accomplish abundantlyfar more than all we can ask or imagine.

75

Page 76: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Addo? Promising?

Addo? / Promising?

The Gospel of John 12:12-19

At that time: The great crowd that had come to the festival heard that Jesus was coming to Jerusalem. So they took branches of palm trees and went out to meet him, shouting, ‘Hosanna! Blessed is the one who comes in the name of the Lord - the King of Israel!’ Jesus found a young donkey and sat on it; as it is written: ‘Do not be afraid, daughter of Zion. Look, your king is coming, sitting on a donkey’s colt!’ His disciples did not understand these things at first; but when Jesus was glorified, then they remembered that these things had been written of him and had been done to him. So the crowd that had been with him when he called Lazarus out of the tomb and raised him from the dead continued to testify. It was also because they heard that he had performed this sign that the crowd went to meet him. The Pharisees then said to one another, ‘You see, you can do nothing. Look, the world has gone after him!’

The crowds are out and lining the streets. Jesus is treated like a returning Olympian, pop star, or winning football team! Everyone, except a few, shout out in loud voices ‘Hosanna!’ They wave the branches from palm trees in welcome. What was going through the mind of Jesus? He rides into Jerusalem on a borrowed donkey. He comes as a servant not as a ruler. What was going through the minds of the disciples? They followed him, and they had brought the donkey to him and heard the shouts of welcome. What came next must have come as a great shock.

It is difficult to enter into a known story from a place of unknowing, to try and experience it all as it unfolds as if for the first time. To be rooted in God, is to seek afresh the story now promised to us, and the promise that the ending isn’t the end but a new beginning. But firstly, we need to make our journey with Jesus and his disciples through this week we call Holy.

Efengyl Ioan 12:12-19

Bryd hynny: Clywodd y dyrfa fawr a oedd wedi dod i’r ŵyl fod Iesu’n dod i Jerwsalem. Cymerasant ganghennau o’r palmwydd ac aethant allan i’w gyfarfod, gan weiddi: ‘Hosanna! Bendigedig yw’r un sy’n dod yn enw’r Arglwydd, yn Frenin Israel.’ Cafodd Iesu hyd i asyn ifanc ac eistedd arno, fel y mae’n ysgrifenedig: ‘Paid ag ofni, ferch Seion; wele dy frenin yn dod, yn eistedd ar ebol asen.’ Ar y cyntaf ni ddeallodd y disgyblion ystyr y pethau hyn, ond wedi i Iesu gael ei ogoneddu, cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig amdano, ac iddynt eu gwneud iddo. Yr oedd y dyrfa, a oedd gydag ef pan alwodd Lasarus o’r bedd a’i godi o blith y meirw, yn tystiolaethu am hynny. Dyna pam yr aeth tyrfa’r ŵyl i’w gyfarfod - yr oeddent wedi clywed am yr arwydd yma yr oedd wedi ei wneud. Gan hynny, dywedodd y Phariseaid wrth ei gilydd, ‘Edrychwch, nid ydych yn llwyddo o gwbl. Aeth y byd i gyd ar ei ôl ef.’

Mae’r tyrfaoedd allan ar hyd y strydoedd. Maent yn trin Iesu fel petai’n bencampwr Olympaidd, yn seren roc neu’n dîm pêl-droed buddugoliaethus! Mae pawb, heblaw carfan fach, yn bloeddio’n uchel ‘Hosanna!’ Maent yn chwifio canghennau palmwydd i’w groesawu. Beth oedd yn mynd drwy feddwl Iesu? Mae’n marchogaeth i mewn i Jerwsalem ar asyn wedi’i fenthyg. Mae’n dod fel gwas, nid arglwydd. Beth oedd yn mynd drwy feddyliau’r disgyblion? Roeddent wedi’i ddilyn, a hwy ddaeth â’r asyn iddo a chlywed y bonllefau o groeso. Rhaid bod yr hyn a ddigwyddodd wedyn wedi bod yn sioc fawr.

Mae’n anodd gwrando ar stori gyfarwydd fel pe na fyddech erioed wedi’i chlywed o’r blaen a cheisio profi’r digwyddiadau fel pe byddai am y tro cyntaf. Mae gwreiddio yn Nuw yn golygu cofleidio o’r newydd yr hen stori, a’r addewid nad darfod yw ei diwedd ond dechrau newydd. Ond yn gyntaf, mae angen i ni deithio gyda Iesu a’i ddisgyblion drwy’r wythnos a alwn yn Fawr.

76

Page 77: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Gweddi’r Arglwydd, a’i dilyn gan: Boed i Ras Duw fy nghysgodi, boed i Oleuni Duw fy arwain,

boed i Dangnefedd Duw fy amgylchynu,boed i Gariad Duw fod i mi’n obaith,

er mwyn dyfnhau fy ffydd a’m gweddïo drwy’r Grawys hwn.

Amen.

The Lord’s Prayer, followed by:May the Grace of God be upon me,

the Light of God be my guide,the Peace of God be around me,

the Love of God be my hope, to deepen my faith and

prayer this Lent. Amen.

Gweddi i gloi Closing prayer

77

Page 78: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Gwasanaethu?Serving?Dydd Iau Cablyd Maundy Thursday

78

Page 79: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Gwasanaethu? / Serving?

The Gospel of John 13:5-11

At that time: Jesus poured water into a basin and began to wash the disciples’ feet and to wipe them with the towel that was tied around him. He came to Simon Peter, who said to him, ‘Lord, are you going to wash my feet?’ Jesus answered, ‘You do not know now what I am doing, but later you will understand.’ Peter said to him, ‘You will never wash my feet.’ Jesus answered, ‘Unless I wash you, you have no share with me.’ Simon Peter said to him, ‘Lord, not my feet only but also my hands and my head!’ Jesus said to him, ‘One who has bathed does not need to wash, except for the feet, but is entirely clean. And you are clean, though not all of you.’ For he knew who was to betray him; for this reason he said, ‘Not all of you are clean.’

Peter looks at Jesus, with the beloved disciple leaning on his shoulder, and in the background a disappearing Judas. This is the Passover Meal, and yet? They move to the Garden. The soldiers come and take Jesus away. Peter thinks, stop, rewind, what is going on? What has happened this evening?

Efengyl Ioan 13:5-11

Bryd hynny: Tywalltodd Iesu ddŵr i’r badell, a dechreuodd olchi traed y disgyblion, a’u sychu â’r tywel oedd am ei ganol. Daeth at Simon Pedr yn ei dro, ac meddai ef wrtho, ‘Arglwydd, a wyt ti am olchi fy nhraed i?’ Atebodd Iesu ef: ‘Ni wyddost ti ar hyn o bryd beth yr wyf fi am ei wneud, ond fe ddoi i wybod ar ôl hyn.’ Meddai Pedr wrtho, ‘Ni chei di olchi fy nhraed i byth.’ Atebodd Iesu ef, ‘Os na chaf dy olchi di, nid oes lle iti gyda mi.’ ‘Arglwydd,’ meddai Simon Pedr wrtho, ‘nid fy nhraed yn unig, ond golch fy nwylo a’m pen hefyd.’ Dywedodd Iesu wrtho, ‘Y mae’r sawl sydd wedi ymolchi drosto yn lân i gyd, ac nid oes arno angen golchi dim ond ei draed. Ac yr ydych chwi yn lân, ond nid pawb ohonoch.’ Oherwydd gwyddai pwy oedd am ei fradychu. Dyna pam y dywedodd, ‘Nid yw pawb ohonoch yn lân.’

Mae Pedr yn edrych ar Iesu, a’r disgybl a garai’n pwyso ar ei ysgwydd, gyda Jwdas yn diflannu yn y cefndir. Dyma Wledd y Pasg, ac eto? Maent yn symud i’r Ardd. Daw’r milwyr a chipio Iesu ymaith. Mae Pedr yn meddwl, aros, cofio - beth sy’n digwydd? Beth sydd wedi digwydd heno?

Have you ever had your feet washed at a Maundy Thursday service

- what did it feel like?

What does it mean to you to receive the bread and wine of the Eucharist on this night?

A gawsoch chi olchi eich traed erioed mewn gwasanaeth Dydd Iau Cablyd

- sut oedd hynny’n teimlo?

Beth mae derbyn bara a gwin y Cymun heno’n ei olygu i chi?

Gweddi’r Arglwydd, a’i dilyn gan: Boed i Ras Duw fy nghysgodi, boed i Oleuni Duw fy arwain,

boed i Dangnefedd Duw fy amgylchynu,boed i Gariad Duw fod i mi’n obaith,

er mwyn dyfnhau fy ffydd a’m gweddïo drwy’r Grawys hwn.

Amen.

The Lord’s Prayer, followed by:May the Grace of God be upon me,

the Light of God be my guide,the Peace of God be around me,

the Love of God be my hope, to deepen my faith and

prayer this Lent. Amen.

79

Page 80: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Gwasanaethu? / Serving?

Beth sy’n digwydd? What is happening?

Y sgwrsio’n furmur tynera phrysurdeb paratoi’r pryd,

sawr cig oen a pherlysiau, bara a gwin, yn temtio’r chwant i flasu

Gwledd y Pasg.

Cofio ennill rhyddid ‘mhell yn ôl, rhyddidi addoli Duw a bod yn bobl iddo. A heddiw

yn ceisio dihangfa o gaethiwed eto;gan gadw lle i Elias, a disgwyl Mab yr Addewid,

y Meseia.

Y Meseia? Gwylio, rhyw feddwl a rhyfeddu,Iesu’n iacháu, pregethu, dysgu, gweini gwyrthiau.

Ai hwn yw’r Un? Tybed? Nage, erioed?Na, nid hwn. Nid dyn y lliain a’r dwr a’r golchi traed.

Nage, erioed?

‘Gwnewch fel y gwelsoch finnau’n gwneud,edrychwch, gwrandewch, gwnewch. Ni fyddaf yn eich cwmni lawer mwy.

Dewch, bwytewch. Cymerwch y bara hwn, yfwch o’r cwpan hwn, a gwnewch hyn er cof amdanaf.’

Medd Iesu.

‘Rydym yn un, ynghyd, yn gydradd, a galwaf ar bob un ohonoch, i fod yn was, a chlebran

fy hanes. Mae’n prysur nosi ‘nawr, a gwn beth wnewch. Cofiwch y byddaf gyda chwi

hyd byth.’

Geiriau bradychu, gwadu, angau, sy’n llithro o’i enau. A chariad, caru’n gilydd.

Beth yw ystyr hyn? Beth sy’n digwydd? Rhaid mynd, mae’n amser mynd. I lle?

Iesu?

Y sgwrsio’n furmur tynerar y ffordd i’r Ardd. Galwad i wylio a gweddïo.

Sori. Mi gysgais. Tawelwch, anesmwythyd yn y nos, ansicrwydd, ofn. Adlais cerddediad yn y tywyllwch.

Maen nhw yma.

Cusan. Cipio. Ei lusgo i ffwrdd.Beth wedyn, be’ wnawn ni?

80

Page 81: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Gwasanaethu? / Serving?

There’s a gentle hum of conversationbackground sounds of meal preparation,scents of lamb and herbs, bread and wine

tempting the appetite to partake in this Passover Meal.

Remembrance of long ago liberation, freedomto worship, and be the people of God, and nowstill seeking a way out from an occupied land;

with a place set for Elijah, awaiting the Promised One, the Messiah.

The Messiah? They have wondered and watched Jesus healing, preaching,

teaching, performing miracles.Is he the One, or not? Surely not?

He can’t be. He takes a towel and water, washes feet.Surely not?

‘Do as I have done, do as I do, listen and learn, for my time among you is drawing to a close.

Come and eat. Take this bread, drink this wine, and do this in remembrance of me.’

Jesus says.

‘We are as one, together, equal, and I callto each of you, to serve and share my story.

The night is darkening now, and I know what you will do. Know that I will always

be with you.’

Words of betrayal, denial, and death float across the room from his lips, and love too,

to love one another. What does this all mean?What is happening? It’s time to go, go where?

Jesus?

There’s a gentle hum of conversation downto the Garden, the call to watch and pray.

Sorry. I fell asleep. Silence, uneasy in the darkness, uncertain, afraid. Footsteps echo in the dark night.

They come.

A kiss, and they take him, drag him away.What now, what shall we do?

81

Page 82: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Marw?Dying?Dydd Gwener y Groglith Good Friday

82

Page 83: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

The Gospel of John 19:28-30

At that time: When Jesus knew that all was now finished, he said (in order to fulfil the Scripture), ‘I am thirsty.’ A jar full of sour wine was standing there. So they put a sponge full of the wine on a branch of hyssop and held it to his mouth. When Jesus had received the wine, he said, ‘It is finished.’ Then he bowed his head and gave up his spirit.

Efengyl Ioan 19:28-30

Bryd hynny: Yr oedd Iesu’n gwybod bod pob peth bellach wedi ei orffen, ac er mwyn i’r Ysgrythur gael ei chyflawni dywedodd, ‘Y mae arnaf syched.’ Yr oedd llestr ar lawr yno, yn llawn o win sur, a dyma hwy’n dodi ysbwng, wedi ei lenwi â’r gwin yma, ar ddarn o isop, ac yn ei godi at ei wefusau. Yna, wedi iddo gymryd y gwin, dywedodd Iesu, ‘Gorffennwyd.’ Gwyrodd ei ben, a rhoi i fyny ei ysbryd.

Marw? / Dying?

Reflect on the story of Good Friday. Think about the different people involved, their roles and

what they may have been feeling.

Think about Jesus on the cross, and his rootedness (faith) in God. How deeply rooted

in God are you?

Myfyriwch ar hanes Dydd Gwener y Groglith. Meddyliwch am y gwahanol bobl a oedd yn rhan

o’r digwyddiadau, eu rhannau yn yr hanes a’r hyn y byddent wedi’i deimlo.

Meddyliwch am Iesu ar y groes, a’i wreiddio (ei ffydd) yn Nuw. Pa mor ddwfn yw eich

gwreiddiau chi yn Nuw?

Gweddi’r Arglwydd, a’i dilyn gan: Boed i Ras Duw fy nghysgodi, boed i Oleuni Duw fy arwain,

boed i Dangnefedd Duw fy amgylchynu,boed i Gariad Duw fod i mi’n obaith,

er mwyn dyfnhau fy ffydd a’m gweddïo drwy’r Grawys hwn.

Amen.

The Lord’s Prayer, followed by:May the Grace of God be upon me,

the Light of God be my guide,the Peace of God be around me,

the Love of God be my hope, to deepen my faith and

prayer this Lent. Amen.

83

Page 84: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Y GoedenThe Tree

Coron o ddrain ar ei ben,a gwawd yr offeiriaid, milwyr, pobl,

a’r gri ‘Croeshoelier’ yn adlais rhwng y muriau,wrth hebrwng yr Un di-euog drwy’r strydoedd

i’w godi uwch y bryn yn wyneb pawb.

Coeden, wedi’i gweithio, ddeil ei baich gwerthfawr, fel bu i’w chwaer droi’n grud i’r baban gynt.

Staeniau ar ei boncyffion garwo’r corff sy’n crogi yno,

y chwys, a’r gwaed dywalltwyd.

Coeden, prydferthwch byw y greadigaeth, bellach yn dyst i lid didostur,

yn cofleidio angau. Dinoethwyd ei dail. Fel y Dyn a hoeliwyd, a glymwyd.

Yn marw.

Y drain yn trywanu’i ben,coron ddychan ‘Brenin yr Iddewon’, ac yntau

yn edrych i lawr, o gwmpas, a dweud,‘maddau iddynt’,

‘byddi gyda mi ym mharadwys’.

Coeden, wedi’i gweithio, yn dal ei baich gwerthfawr,ddaw’n groesfan cariad, wrth i’r Mab

ymddiried ei fam i’r un a gâr. Edrycha fry,offryma’i ysbryd i ddwylo Duw, ac eto,

‘pam y’m gadewaist’.

Coeden, prydferthwch byw y greadigaeth,bellach yn gyffyrddle olaf, wrth i fywyd

lithro’n drai o’i Awdur. ‘Mae syched arnaf’. ‘Gorffennwyd.’

Anadla Iesu, Fab Duw, ei anadl olaf.

Marw? / Dying?84

Page 85: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Marw? / Dying?

A crown of thorns adorns His head,ridiculed by priest, soldier, people,

the words ‘Crucify’ echo in the air, still, asOne who is innocent is led through the streets

and lifted high for all to see.

A tree, re-shaped, holds its precious load,as once its neighbour cradled a new born babe.

Stained now, its rough cut wood imprintedby the sweat of the body hanging there,

the outpouring of His blood.

A tree, beauty and life in creation becomes now, the witness of cruelty, the embracer of death. Stripped of its

foliage, as is the Man, nailed, tied,dying.

A crown of thorns pierces His head,the notice says ‘King of the Jews’, and He

looks down, looks around, and speaks,‘forgive them’,

‘you will be with me in paradise’.

A tree, re-shaped, holding its precious load,becomes a meeting place of love, as the Son

entrusted His mother to His beloved. Looking upcommends His spirit into the hands of God, yet,

‘why have you forsaken me’.

A tree, beauty and life in creation,becomes now the last touching place, as life

ebbs in the One it holds. ‘I am thirsty’. ‘It is finished’.

Jesus, Son of God, breathes his last breath.

85

Page 86: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Disgwyl?Waiting?Noswyl y Pasg Holy Saturday

86

Page 87: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Disgwyl? Waiting?

Disgwyl? / Waiting?

The Gospel of John 19:38-42

At that time: Joseph of Arimathea, who was a disciple of Jesus, though a secret one because of his fear of the Jews, asked Pilate to let him take away the body of Jesus. Pilate gave him permission; so he came and removed his body. Nicodemus, who had at first come to Jesus by night, also came, bringing a mixture of myrrh and aloes, weighing about a hundred pounds. They took the body of Jesus and wrapped it with the spices in linen cloths, according to the burial custom of the Jews. Now there was a garden in the place where he was crucified, and in the garden there was a new tomb in which no one had ever been laid. And so, because it was the Jewish day of Preparation, and the tomb was nearby, they laid Jesus there.

Efengyl Ioan 19:38-42

Bryd hynny: Gofynnodd Joseff o Arimathea ganiatâd gan Pilat i gymryd corff Iesu i lawr. Yr oedd Joseff yn ddisgybl i Iesu, ond yn ddisgybl cudd, gan fod ofn yr Iddewon arno. Rhoddodd Pilat ganiatâd, ac felly aeth Joseff i gymryd y corff i lawr. Aeth Nicodemus hefyd, y dyn oedd wedi dod at Iesu y tro cyntaf liw nos, a daeth ef â thua chan mesur o fyrr ac aloes yn gymysg. Cymerasant gorff Iesu, a’i rwymo, ynghyd â’r peraroglau, mewn llieiniau, yn unol ag arferion claddu’r Iddewon. Yn y fan lle croeshoeliwyd ef yr oedd gardd, ac yn yr ardd yr oedd bedd newydd nad oedd neb erioed wedi ei roi i orwedd ynddo. Felly, gan ei bod yn ddydd Paratoad i’r Iddewon, a chan fod y bedd hwn yn ymyl, rhoesant Iesu i orwedd ynddo.

What happens in your church on this day?Beth sy’n digwydd yn eich eglwys chi ar y dydd hwn?

Gweddi’r Arglwydd, a’i dilyn gan: Boed i Ras Duw fy nghysgodi, boed i Oleuni Duw fy arwain,

boed i Dangnefedd Duw fy amgylchynu,boed i Gariad Duw fod i mi’n obaith,

er mwyn dyfnhau fy ffydd a’m gweddïo drwy’r Grawys hwn.

Amen.

The Lord’s Prayer, followed by:May the Grace of God be upon me,

the Light of God be my guide,the Peace of God be around me,

the Love of God be my hope, to deepen my faith and

prayer this Lent. Amen.

87

Page 88: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Mae bywyd yn parhauLife goes on

Saif y coed yn gadarn lonydd. Ni chân yr adar yn nistawrwydd heddiw.Pobl, yng ngorffwys y Saboth, yn disgwyl.Dim smic, a’r arswyd wedi lladd pob llais:

Croes, corff, angau, claddu brysiog; acMae bywyd yn parhau.

Daw cymylau duon i ddwysáu cysgodioncoed, pobl, croes.

Troedio’n ofalus, yn ofnus, yn wyliadwrus ar lwybr drwy’r ardd at fedd parod,

i osod y corff i orffwys, cyn ei eneinio; ymaMae bywyd yn parhau.

Disgwyl, disgwyl, eiliadau, munudau, oriau.Diwrnod llethol ansicrwydd ac ofn.

Gwylio, a gwylio rhag y gwylwyr.Traed yn araf ddeffro, a’r meddwl yn cyflymu,symud, deall, gobeithio, addewid ar ffo; o hyd

Mae bywyd yn parhau.

Saif y coed yn gadarn lonydd.Y merched yn paratoi’r olewau a’r perlysiau.

Ynghudd mae dilynwyr yr Una fenthycodd fedd. Ynghudd hefyd

mae’r grym ar waith yn ddirgel, rywle yn y disgwyl; etoMae bywyd yn parhau.

Disgwyl? / Waiting?88

Page 89: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

The trees stand tall, and stillno birdsong disturbs the quietness of this day.

People, on the Sabbath rest, waitno sound, as voiceless stays the shock:

a cross, a body, a death, a quick burial; andLife goes on.

Darkening clouds shroud the outlineof trees, of people, of cross.

Feet tread with care, trepidation, watchfulnessacross a garden path to an unused tomb,to lay the body, ready for anointing; here

Life goes on.

Waiting, waiting as minutes, hours, pass.A stretched out day of uncertainty, fear.A watching, looking to see if watched,slowly, feet move, with speed the mind

moves, understanding, hope, promise flees; asLife goes on.

The trees stand tall, and still.The women prepare spices and oils.

Hidden, the followers of the One laidin the borrowed tomb. Hidden too, the

power at work within, where in the waiting; stillLife goes on.

Disgwyl? / Waiting? 89

Page 90: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

90

Page 91: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Byw?Living?Sul y Pasg Easter Day

Effesiaid

Ephesians

I Dduw bo’r gogoniant yn yr eglwys ac yng Nghrist Iesu, o genhedlaeth i genhedlaeth, byth bythoedd! Amen.

To God be glory in the church and in Christ Jesus to all generations,for ever and ever. Amen.

91

Page 92: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Byw? / Living?

Byw? Living?

The Gospel of John 20:1-10

At that time: Early on the first day of the week, while it was still dark, Mary Magdalene came to the tomb and saw that the stone had been removed from the tomb. So she ran and went to Simon Peter and the other disciple, the one whom Jesus loved, and said to them, ‘They have taken the Lord out of the tomb, and we do not know where they have laid him.’ Then Peter and the other disciple set out and went towards the tomb. The two were running together, but the other disciple outran Peter and reached the tomb first. He bent down to look in and saw the linen wrappings lying there, but he did not go in. Then Simon Peter came, following him, and went into the tomb. He saw the linen wrappings lying there, and the cloth that had been on Jesus’ head, not lying with the linen wrappings but rolled up in a place by itself. Then the other disciple, who reached the tomb first, also went in, and he saw and believed; for as yet they did not understand the Scripture, that he must rise from the dead. Then the disciples returned to their homes.

Efengyl Ioan 20:1-10

Bryd hynny: Ar y dydd cyntaf o’r wythnos, yn fore, tra oedd hi eto’n dywyll, dyma Mair Magdalen yn dod at y bedd, ac yn gweld bod y maen wedi ei dynnu oddi wrth y bedd. Rhedodd, felly, nes dod at Simon Pedr a’r disgybl arall, yr un yr oedd Iesu’n ei garu. Ac meddai wrthynt, ‘Y maent wedi cymryd yr Arglwydd allan o’r bedd, ac ni wyddom lle y maent wedi ei roi i orwedd.’ Yna cychwynnodd Pedr a’r disgybl arall allan, a mynd at y bedd. Yr oedd y ddau’n cydredeg, ond rhedodd y disgybl arall ymlaen yn gynt na Pedr, a chyrraedd y bedd yn gyntaf. Plygodd i edrych, a gwelodd y llieiniau yn gorwedd yno, ond nid aeth i mewn. Yna daeth Simon Pedr ar ei ôl, a mynd i mewn i’r bedd. Gwelodd y llieiniau yn gorwedd yno, a hefyd y cadach oedd wedi bod am ei ben ef; nid oedd hwn yn gorwedd gyda’r llieiniau, ond ar wahân, wedi ei blygu ynghyd. Yna aeth y disgybl arall, y cyntaf i ddod at y bedd, yntau i mewn. Gwelodd, ac fe gredodd. Oherwydd nid oeddent eto wedi deall yr hyn a ddywed yr Ysgrythur, fod yn rhaid iddo atgyfodi oddi wrth y meirw. Yna aeth y disgyblion yn ôl adref.

Daeth dydd yr addewid. Ymgodymu, rhoi, datguddio, perthyn, dyheu, addo, gwasanaethu, marw a byw - cawsant eu plethu oll ynghyd ym mherson Iesu. Daw pob un ohonom yn rhan o un cyfanrwydd wrth i ni ymroi i wreiddio yn Nuw; mewn gweddi, yn ein bywyd fel disgyblion ac fel dinasyddion y byd o’n cwmpas.

Mae gwreiddio yn Nuw yn broses barhaus, proses pan fyddwn yn clywed yr un hanesion sy’n ganolog i’n ffydd bob blwyddyn ar ein taith. Ond y gobaith yw y byddwn yn ystyried y straeon hynny gan geisio rhyw olwg newydd, rhyw ymdeimlad newydd o bresenoldeb Duw bob tro y byddwn yn gwrando arnynt.

The day of promise has arrived. Wrestling, giving, revealing, belonging, desiring, promising, serving, dying, waiting and living have been drawn together in the person of Jesus. Each one becomes a part of the greater whole as we seek to be rooted in God; in prayer, in discipleship and as participants in the life of the wider world.

To be rooted in God is an ongoing journey. A journey where we meet with the same stories of our faith each year, but hopefully come to these stories looking for new insight, and a renewed sense of the presence of God each time we spend time on these stories.

Reflect upon your own journey of faith, how have each of these elements of the Lent Course played

a part in rooting you deeper into God?

After this lent Course, what does it mean to you now, to be rooted in God?

Jesus sent Mary to proclaim the news of his resurrection. What might you be

sent out to do?

Ystyriwch eich taith mewn ffydd. Sut mae pob un o’r elfennau hyn yn y Cwrs Grawys wedi cyfrannu tuag

at ddyfnhau eich gwreiddiau yn Nuw?

Ar ôl dilyn y Cwrs Grawys hwn, beth mae gwreiddio yn Nuw yn ei olygu i chi bellach?

Anfonodd Iesu Mair i gyhoeddi newyddion da ei atgyfodiad. I wneud beth allai Iesu eich

anfon chi allan?

92

Page 93: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Byw? / Living?

Edrych tuag at y Goeden Looking to the Tree

On your own personal Tree:Ar eich Coeden bersonol eich hun:

Gweddi’r Arglwydd, a’i dilyn gan: Boed i Ras Duw fy nghysgodi, boed i Oleuni Duw fy arwain,

boed i Dangnefedd Duw fy amgylchynu,boed i Gariad Duw fod i mi’n obaith,

er mwyn dyfnhau fy ffydd a’m gweddïo drwy’r Grawys hwn.

Amen.

The Lord’s Prayer, followed by:May the Grace of God be upon me,

the Light of God be my guide,the Peace of God be around me,

the Love of God be my hope, to deepen my faith and

prayer this Lent. Amen.

In one colour, write on the tree three things which have helped, challenged or inspired you from the

readings in Holy Week.

In another colour, write on the tree three things which have helped, challenged or inspired you

from the whole of the Lent Course.

In another colour, anything else of importance.

Mewn un lliw, ysgrifennwch ar y goeden dri pheth sydd wedi eich cynorthwyo, eich herio neu eich ysbrydoli allan o ddarlleniadau’r Wythnos Fawr.

Mewn lliw arall, ysgrifennwch ar y goeden dri pheth sydd wedi eich cynorthwyo, eich herio neu

eich ysbrydoli o’r Cwrs Grawys ar ei hyd.

Mewn lliw arall, ysgrifennwch unrhyw beth arall y credwch ei fod yn bwysig.

93

Page 94: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Byw? / Living?

Mair yn yr ArddMary in the Garden

Wyt ti wedi atgyfodi? Wyt ti’n fyw?Ydy popeth wnest ti addo wedi digwydd?

Alla i dy gyffwrdd, gafael ynot ti?Sut wnes i ddim d’adnabod?

Des i’th eneinio di.Wyddwn i ddim a fyddwn i’n gallu symud y maen.

Roedd rhaid i mi ddod.Roedd rhaid i mi.

Wyt ti’n fyw? Wyt ti wedi atgyfodi?Dyma ti’n sefyll yn yr ardd.

Ti’n dweud fy enw.Dwi’n gwybod mai ti wyt ti.

Mae ‘nghalon i’n gorfoleddu.Dwi’n credu.

Be’ wna i nawr?Be’ wna i?

Wyt ti wedi atgyfodi? Wyt ti’n fyw?Mi wnaf be’ ti’n ofyn.

Mi ddweda i wrth bawb dy fod yn fyw.Fyddan nhw’n fy nghredu i?

Pam wnest ti fy newis i?Pam ddim un o’r lleill?

Mi a i.Mi af.

94

Page 95: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Byw? / Living? Byw? / Living?

Have you risen? Are you alive?Has all you promised taken place?

Can I touch you, hold you?How did I not recognise you?

I came to anoint you.I didn’t know if I could move the stone.

I had to come.I had to come.

Are you alive? Have you risen?Here in the garden you stand.

You speak my name.I know it is you.

My heart rejoices.I believe.

What shall I do now?What shall I do now?

Have you risen? Are you alive?I will do as you ask.

I will tell all that you are living.Will they believe me?

Why did you choose me?Why not one of the others?

I will go.I will go.

Byw? / Living? 95

Page 96: Gwreiddio yn Nuw? Rooted in God? › media › ... · tree that comes in path. We can use the image of a tree as a metaphor for our own selves and our own lives. We can look at different

Tŷ Deiniol, Clos y Gadeirlan, Bangor LL57 1RL01248 354999bangor@eglwysyngnghymru.org.ukbangor.eglwysyngnghymru.org.uk

Tŷ Deiniol, Cathedral Close, Bangor LL57 1RL01248 [email protected]