gwybodaeth i ymgeiswyr sy’n byw ac yn gweithio yng ... · web view1. cefnogi cydweithwyr addysg a...

7
‘Cyfle gwych i ddatblygu a thyfu’n broffesiynol fel arweinydd mewn rhwydwaith o gymheiriaid ysbrydoledig’ Cyn-fyfyriwr Extend Diben Engage yw mynd ati i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad. Mae Extend yn cefnogi ein nod i ddatblygu arweinwyr y dyfodol yn sectorau'r celfyddydau a diwylliant sy’n adlewyrchu amrywiaeth y DU Gwybodaeth i ymgeiswyr sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru a’r Alban: rhaglen Hydref – Rhagfyr 2020 Nodwch os ydych chi’n preswylio ac yn gweithio yn Lloegr y dylech gyfeirio at y dogfennau canllaw ar wahân y gellir eu cael drwy wefan Engage. Cynnwys: 1. Cyflwyniad i Engage 2. Sut i ymgeisio ar gyfer Rhaglen Arweinyddiaeth Extend Hydref – Rhagfyr 2020 3. Cefndir y rhaglen 4. Nodau’r rhaglen 5. Pam ymgeisio ar gyfer Extend 6. Beth mae cyfranogwyr yn ei ddweud am Extend? 7. Beth mae cyflogwyr yn ei ddweud am Extend? 8. Dyddiadau cyflenwi’r rhaglen 9. Beth yw elfennau allweddol Extend? 10. Meini prawf cymhwysedd 11. Meini prawf dethol 12. Costau 1. Cyflwyniad i Engage

Upload: others

Post on 30-Jan-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

‘Cyfle gwych i ddatblygu a thyfu’n broffesiynol fel arweinydd mewn rhwydwaith o gymheiriaid ysbrydoledig’

Cyn-fyfyriwr Extend

Diben Engage yw mynd ati i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad. Mae Extend yn cefnogi ein nod i ddatblygu arweinwyr y dyfodol yn sectorau'r celfyddydau a diwylliant sy’n adlewyrchu amrywiaeth y DU

Gwybodaeth i ymgeiswyr sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru a’r Alban: rhaglen Hydref – Rhagfyr 2020

Nodwch os ydych chi’n preswylio ac yn gweithio yn Lloegr y dylech gyfeirio at y dogfennau canllaw ar wahân y gellir eu cael drwy wefan Engage.

Cynnwys:

1. Cyflwyniad i Engage

2. Sut i ymgeisio ar gyfer Rhaglen Arweinyddiaeth Extend Hydref – Rhagfyr 2020

3. Cefndir y rhaglen

4. Nodau’r rhaglen

5. Pam ymgeisio ar gyfer Extend

6. Beth mae cyfranogwyr yn ei ddweud am Extend?

7. Beth mae cyflogwyr yn ei ddweud am Extend?

8. Dyddiadau cyflenwi’r rhaglen

9. Beth yw elfennau allweddol Extend?

10. Meini prawf cymhwysedd

11. Meini prawf dethol

12. Costau

1. Cyflwyniad i Engage

Engage yw’r prif rwydwaith eiriolaeth a hyfforddiant ym maes addysg orielau gydag o ddeutu 800 o aelodau yn y DU ac ar draws 270 o sefydliadau celfyddydau gweledol. Ewch i wefan Engage i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn a wnawn.

Mae rhaglen Extend bellach yn ei degfed flwyddyn, a chaiff ei llywio gan ymrwymiad i rymuso gweithwyr addysg a dysgu proffesiynol er mwyn iddynt allu dylanwadu ar ddatblygiad y sector a helpu i sicrhau bod dysgu’n cael ei wreiddio mewn sefydliadau celfyddydol a diwylliannol. Mae Extend yn rhychwantu ffurfiau celfyddydol ac yn croesawu ymgeiswyr sy’n gweithio yn y celfyddydau, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau a lleoliadau threftadaeth.

2. Sut i ymgeisio ar gyfer Rhaglen Arweinyddiaeth Extend Hydref – Rhagfyr 2020

Eleni byddwn yn rhedeg dwy raglen gyda chyfanswm o 30 yn y garfan. Bydd y gyntaf yn rhedeg rhwng Hydref a Rhagfyr 2020 a’r ail rhwng Ionawr a Mawrth 2021. Mae’r deunyddiau hyn yn berthnasol i raglen Hydref - Rhagfyr 2020.

Er mwyn ymgeisio, yn gyntaf hoffem ni i chi gwblhau ffurflen fer yn mynegi diddordeb. Ni ddylai gymryd mwy nag ychydig funudau i’w chwblhau. Er bod croeso i chi fynd yn syth at y ffurflen gais os ydych chi’n dewis, mae cwblhau’r ffurflen mynegi diddordeb yn eich galluogi i wneud cais am alwad i drafod y broses ymgeisio ac unrhyw ymholiadau eraill a allai fod gennych chi am Extend.

Gellir cael y ffurflen gais a’r ffurflen mynegi diddordeb drwy wefan Engage. Cyflwynir y cais drwy ffurflen gais ysgrifenedig a dylech hefyd anfon CV cyfredol. Os nad ydych chi’n gallu defnyddio ffurflen ysgrifenedig, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ni’n siŵr y gallwch ymgeisio ar fformat arall.

Dyddiad cau ceisiadau i raglen Hydref – Rhagfyr 2020 yw 1700 ar 14 Medi 2020.

3. Cefndir y rhaglen

Datblygwyd Extend mewn ymateb i ddiffyg cynrychiolaeth staff dysgu ac addysg mewn rolau arwain yn sectorau’r celfyddydau a diwylliant. Cyllidwyd y rhaglen beilot gan y Cultural Leadership Programme a Creative Scotland; mae rhaglenni wedi hynny wedi’u cyllido gan Arts Council England, Creative Scotland a Chyngor Celfyddydau Cymru. Ewch i wefan Engage am ragor o wybodaeth gefndir, ynghyd â bywgraffiadau o garfannau diweddar Extend.

4. Nodau’r rhaglen

1. Cefnogi cydweithwyr addysg a dysgu yng nghanol eu gyrfa yn sectorau'r celfyddydau a diwylliant i ddatblygu ar eu telerau eu hunain, er mwyn ymgymryd â rolau a chyfrifoldebau arwain.

2. Cyfoethogi profiad y gynulleidfa a’r cyfranogwyr drwy gynyddu dylanwad cydweithwyr addysg a dysgu mewn gwaith datblygu a rhaglennu strategol yn sectorau'r celfyddydau a diwylliant.

3. Annog amrywiaeth eang o ymgeiswyr i Extend a chyfrannu at gynyddu amrywiaeth o ran arweinyddiaeth yn sectorau'r celfyddydau a diwylliant.

4.Ymholi a gwerthuso a yw cydweithwyr addysg a dysgu yn sectorau'r celfyddydau a diwylliant yn meddu ar nodweddion, rhinweddau neu sgiliau penodol sy’n cyfrannu at arweinyddiaeth yn y sector.

5. Pam ymgeisio ar gyfer Extend?

Extend yw’r unig raglen arweinyddiaeth sydd wedi’i chynllunio i ddiwallu anghenion penodol gweithwyr addysg a dysgu proffesiynol sy’n anelu at swyddi arweiniol yn sectorau’r celfyddydau a diwylliant.

Caiff Extend ei llywio gan ymrwymiad i rymuso gweithwyr addysg a dysgu proffesiynol er mwyn iddynt allu dylanwadu ar ddatblygiad y sector a helpu i sicrhau bod dysgu’n cael ei wreiddio mewn sefydliadau celfyddydol a diwylliannol.

6. Beth mae cyfranogwyr yn ei ddweud am Extend?

‘Mae gweithio gydag amrywiol gyfranogwyr o wahanol ffurfiau celfyddydol yn rhagorol - rwyf i wedi dod ar draws cymaint o bethau cyffredin rhwng fy ngwaith i yn y celfyddydau gweledol a chymheiriaid yn y theatr. Mae cael amser i adfyfyrio ar fy ymarfer presennol, yn dilyn cyflwyniadau yn y cyfnod preswyl a sgyrsiau gyda chymheiriaid yn wych.’

‘Dyma’r cwrs cyntaf i fi fod arno lle rwyf i wir wedi canolbwyntio a gwrando ar bopeth. Mae pob rhan wedi dysgu llawer am arweinyddiaeth i fi – gwybodaeth fydd gyda fi drwy gydol fy ngyrfa.’

‘Mae rhai syniadau wedi aros gyda fi a fy helpu i ymdrin â materion dydd i ddydd yn y gwaith; mae’r syniad o fod yn barod i ‘newid cyfeiriad’ yn arbennig o ddefnyddiol o ran sut rydych chi’n arwain a gallu gweld pryd yn union i wneud hyn.’

‘I fi, roedd ein sgwrs ar ‘werthoedd’ yn bwysig iawn ac yn taro tant gyda sgyrsiau yn fy sesiynau mentora am weithio drwy beth yw fy ngwerthoedd craidd personol. Ar hyn o bryd mae fy sefydliad yn mynd drwy newid yn y ffordd rydyn ni’n gweithio ac mae staff dysgu nawr yn fwy o ran o grwpiau rhaglennu. Bu’n ddefnyddiol iawn cael Extend ar waith ar yr un pryd â cheisio newid y ffordd rydyn ni’n gweithio fel sefydliad.’

Mae canlyniadau gwerthusiadau allanol ac adborth gan gyfranogwyr unigol yn dangos bod cyfraniadau cydweithwyr ar draws y DU yn agwedd hynod werthfawr o Extend. Mae cyfranogwyr hefyd yn dweud bod y cyfle i weithio gyda chydweithwyr ar draws amrywiaeth o ffurfiau celfyddydol yn arbennig o fuddiol.

7. Beth mae cyflogwyr yn ei ddweud am Extend?

Dywed cyflogwyr fod cyfranogi yn Extend yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i unigolion ac i’r sefydliadau lle maen nhw’n gweithio. Yn benodol, maen nhw’n sôn am y canlynol:

· Gwell dealltwriaeth a safbwynt ehangach ar arweinyddiaeth;

· Adnabod amrywiaeth o nodweddion a rhinweddau arwain/arweinwyr llwyddiannus;

· Deall a gwerthfawrogi cyd-destunau (gwleidyddol, polisi, ariannol ac ati) y mae eu sefydliadau yn gweithio ynddynt;

· Gwell hunanymwybyddiaeth a hunanhyder;

· Datblygu hyblygrwydd a chynnal dilysrwydd;

· Adnabod a rheoli newid angenrheidiol

8. Dyddiadau cyflenwi’r rhaglen

Bydd rhaglen Hydref - Rhagfyr 2020 Extend yn cynnwys sesiynau a addysgir mewn pedwar modiwl ar y dyddiadau canlynol:

Dydd Mawrth 27 Hydref

Dydd Gwener 30 Hydref

Dydd Mawrth 8 Rhagfyr

Dydd Gwener 11 Rhagfyr

Caiff y rhain eu cyflwyno o bell a’u hategu gyda gweithgaredd grŵp bach a gynhelir rhwng y sesiynau a addysgir. Cyn ymgeisio, gwnewch yn siwr eich bod ar gael ar y dyddiadau uchod.

9. Beth yw elfennau allweddol Extend?

Bydd y deunydd, a gyflwynir o bell gan arbenigwyr yn y maes, yn cynnwys:

· Cyflwyniad i wahanol arddulliau a moddau arwain mewn cyfnod o newid

· Archwilio eich ymarfer a chynllunio eich datblygiad personol eich hun i symud dysgu arweinyddiaeth Extend yn ei flaen

· Siaradwyr gwadd yn rhannu agweddau ar arweinyddiaeth yn y sectorau'r celfyddydau a diwylliant

· Sgiliau Coetsio ar gyfer Arweinyddiaeth a Chyfathrebu Uwch a gyflwynir gan Relational Dynamics First

· Sesiynau’n canolbwyntio ar Gyllid a Llywodraethu

· Y cyfle i archwilio eich dysgu a datblygu eich sgiliau coetsio mewn grwpiau dysgu bach o gymheiriaid ochr yn ochr â’r prif fodiwlau

Digwyddiad blynyddol i gyn-fyfyrwyr

Rydym ni’n awyddus i annog cymuned ddysgu ymhlith cydweithwyr a mentoriaid sydd wedi bod yn rhan o Extend. I’r perwyl hwn, bob blwyddyn cynhelir digwyddiad i’r garfan gyfredol, cyn-fyfyrwyr a mentoriaid Extend. Mae’r digwyddiad yn cynnwys cyfraniadau gan brif siaradwyr ynghyd ag elfennau a gyd-gynhyrchir ac a gyflwynir gan gyfranogwyr cyfredol Extend a chyn-fyfyrwyr y Rhaglen.

Gwerthuso

Caiff Extend ei gwerthuso’n allanol. Caiff dysgu ac astudiaethau achos Extend eu rhannu gan lywio modelu ar gyfer hyfforddiant arweinyddiaeth yn y dyfodol i gydweithwyr mewn rolau dysgu ac addysg yn y celfyddydau.

Disgwylir i gyfranogwyr Extend gymryd rhan lawn ym mhob elfen o’r Rhaglen fel y disgrifir uchod a rhannu eu profiadau gyda’r gwerthuswr allanol.

10. Meini prawf cymhwysedd

Mae ceisiadau ar agor i weithwyr proffesiynol yng nghanol eu gyrfa sy’n preswylio ac yn gweithio yng Nghymru neu’r Alban (cyflogedig neu hunangyflogedig) sydd yn:

· Gweithio yn sectorau'r celfyddydau a diwylliant mewn rôl addysg a dysgu, boed yn gyflogedig neu’n llawrydd

· Gallu ymrwymo’n llawn i bob elfen o’r Rhaglen (gweler y dyddiadau uchod)

· Gallu talu’r ffioedd yn gysylltiedig â’r Rhaglen (gweler y nodyn isod)

· Gallu darparu geirda gan gyflogwr neu gleient neu rywun arall sy’n gwybod am eu gwaith

11. Meini prawf dethol

Yr ymgeiswyr llwyddiannus fydd y rheini sy’n gallu dangos orau eu bod yn bodloni’r meini prawf dethol canlynol. Wrth lenwi eich ffurflen gais, dylech gadw'r rhain yn eich meddwl.

Bydd rhaid i ymgeiswyr ddangos:

· Bod ganddynt rywfaint o brofiad arwain – er enghraifft rheoli prosiect neu bobl (gallai hyn fod yn staff llawrydd, cyflogedig neu wirfoddol)

· Eu bod yn awyddus i symud i rôl arwain a / neu arwain newid yn y sector

· Eu bod wedi ystyried sut mae materion amrywiaeth a chydraddoldeb yn effeithio ar addysg, dysgu ac arweinyddiaeth

· Eu bod wedi ystyried beth maen nhw’n gobeithio ei ennill o gymryd rhan yn y Rhaglen

· Eu bod wedi sicrhau datganiad o gefnogaeth gan rywun sydd â gwybodaeth dda am eu gwaith

12. Costau

Cyfanswm ffi’r Rhaglen yw:

· £200 i gyfranogwyr sy’n preswylio ac yn gweithio yng Nghymru neu’r Alban

Caiff yr ymgeiswyr a ddewisir eu hanfonebu cyn gynted ag y byddant yn derbyn eu lle. Rhaid iddynt gadarnhau eu bod yn derbyn o fewn 7 diwrnod i gael y cynnig.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Extend cyn cyflwyno cais, fe’ch anogwn i gysylltu â Chydlynydd Extend, Dawn Cameron, ar 07753 748 038 / 0113 226 4064 neu drwy ebost [email protected].

Os hoffech gael y manylion ymgeisio mewn fformat arall, cysylltwch ag Engage ar 020 7729 5858 / [email protected]

Caiff Engage gefnogaeth gan: