hafan · web viewmae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i...

53
Chwaraeon Anabledd Cymru Mewn partneriaeth ag: Ymddiriedola eth Ysbryd 2012 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Pecyn Cais: YSGOGYDD POBL

Upload: others

Post on 08-Mar-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

Chwaraeon Anabledd Cymru

Mewn partneriaeth ag:

Ymddiriedolaeth Ysbryd 2012

Cyngor Bwrdeistref Sirol

WrecsamPecyn Cais:

YSGOGYDD POBL IFANC CODI ALLAN A BOD YN

EGNÏOL

Page 2: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u
Page 3: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

Tuesday, 19 September 2023

Annwyl Ymgeisydd,

Parthed: Swydd Ysgogydd Pobl Ifanc Codi Allan a Bod yn Egnïol: Wrecsam

Cyfeirnod: DSW/WCBC/002

Diolch am eich ymholiad diweddar mewn perthynas â’n swydd wag Ysgogydd Codi Allan a Bod yn Egnïol. Mae pecyn recriwtio ar gyfer y swydd wedi’i amgáu.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 20 Ionawr ac mae’r cyfweliadau wedi’u trefnu ar gyfer yr wythnos sy’n dechrau 27 Ionawr.

Dylid dychwelyd y ffurflen gais a’r ffurflen monitro cydraddoldeb at:

Michelle DaltryRheolwr Partneriaethau CenedlaetholChwaraeon Anabledd Cymru

Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy,

Gorllewin Ffordd Caer,

Queensferry

CH5 1SA

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses, mae croeso i chi fy ffonio ar y rhif a amlinellir isod. Edrychaf ymlaen at dderbyn eich cais cyflawn.

Dymuniadau gorau a chofion cynnes,Michelle Daltry

Michelle DaltryRheolwr Partneriaethau Cenedlaethol,Chwaraeon Anabledd CymruFfôn: 07918 716316

Page 4: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

Proses recriwtio a chyflogaeth Chwaraeon Anabledd CymruMae Chwaraeon Anabledd Cymru yn ceisio darparu proses recriwtio a phenodi agored ac eglur, sy’n deg i bawb, ac yn ystyried yr unigolion hynny a fydd yn dod â’r sgiliau, y wybodaeth a’r cymwyseddau gorau i’r swydd, ac yn ychwanegu at gwmpas Chwaraeon Anabledd Cymru (ChAC) fel sefydliad.

Mae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u nodi ym Mholisi Recriwtio Chwaraeon Anabledd Cymru 2016 (atodwyd wrth y pecyn hwn).

4 | P a g e

Page 5: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

Proses recriwtio ar gyfer Ysgogydd Codi Allan a Bod yn Egnïol

Gofynnir i chi lenwi Ffurflen Cais am Gyflogaeth (tudalennau 8-14 yn y pecyn hwn) yn amlinellu gwybodaeth sy’n berthnasol i’ch profiad a manylion am y swydd a amlinellir yn y Disgrifiad o’r Rôl (tudalennau 5-7 yn y pecyn hwn).

Rydym yn ymroi i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Os byddwch yn dweud wrthym fod gennych anabledd, gallwn wneud addasiadau rhesymol ar gyfer y cyfweliad, ac, os cynigiwn y swydd i chi, gwneir addasiadau ar gyfer eich trefniadau gwaith.

Rydym yn cynnig dewis i ymgeiswyr anabl i ofyn i’w cais gael ei ystyried dan delerau ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad (CGC). Er mwyn cael gwahoddiad i dderbyn cyfweliad/asesiad dan y cynllun hwn, dylech ddangos yn eich datganiadau ategol eich bod yn bodloni’r lleiafswm meini prawf ar gyfer y swydd, sef 60% o’r sgôr rhestr fer ar draws yr holl feini prawf hanfodol, oni bai am pan gytunwyd y bydd y sgôr canran hwn yn cael ei leihau.

Os hoffech ymgeisio dan y CGC, llenwch y ffurflen CGC yn y pecyn recriwtio hwn (gweler Atodiad 2).

Os nad ydych yn dymuno ymgeisio dan y CGC, ond bod angen i ni wneud addasiadau rhesymol ar gyfer y cyfweliad, a fyddech cystal â rhoi gwybod i ni am yr addasiadau hyn wythnos cyn dyddiad y cyfweliad.

Sylwer: nid yw cais dan y Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu swydd i chi. Yn y cyfweliad, yr ymgeisydd gorau fydd yn cael cynnig y swydd.

Hefyd, a fyddech cystal â dychwelyd y Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal (tudalennau 15-18 yn y pecyn hwn)? Sylwer bod y wybodaeth hon yn ddienw ac yn gyfrinachol. Dylech anfon y wybodaeth mewn amlen seliedig wedi’i marcio ‘Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal’ a’i chynnwys yn yr un amlen yr ydych yn ei defnyddio i ddychwelyd eich Cais am Gyflogaeth cyflawn i Chwaraeon Anabledd Cymru. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei thynnu o’ch Ffurflen Gyflogaeth pan gaiff ei derbyn ac fe’i defnyddir i archwilio prosesau a demograffeg Chwaraeon Anabledd Cymru trwy’r camau recriwtio.

Pan dderbyniwn eich Ffurflen Cais am Gyflogaeth, bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch a fydd eich enw’n cael ei roi ar y rhestr fer, ac felly’n cael eich gwahodd i gyfweliad.

Bydd y cyfweliad yn cynnwys:1. Cyflwyniad 10 munud o hyd 2. Trafodaeth anffurfiol â chydweithwyr Chwaraeon Anabledd Cymru a Wrecsam sydd ynghlwm â’r

rhaglen Codi Allan a Bod yn Egnïol (gall hyn gynnwys sesiwn cwestiwn ac ateb, rhoi gwybodaeth am y rhaglen Codi Allan a Bod yn Egnïol, rhannu profiadau ac ati)

Bydd penderfyniad ynghylch p’un a ydych wedi bod yn llwyddiannus yn eich cais am rôl yr Ysgogydd Codi Allan a Bod yn Egnïol yn cael ei wneud ar ôl cynnal yr holl gyfweliadau, a byddwn yn cysylltu â’r ymgeisydd sy’n mynd i gael ei wahodd i dderbyn y rôl dros y ffôn (neu trwy ddull arall os yw’n dymuno hynny), naill ai ar noson y cyfweliad neu ar y bore canlynol. Bydd ymgeiswyr nad ydynt wedi llwyddo y tro hwn yn cael

5 | P a g e

Page 6: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

gwybod yn ysgrifenedig, a byddant yn cael cynnig cyfle i drafod adborth gydag un o aelodau panel Chwaraeon Anabledd Cymru sy’n ymwneud â’r broses gyfweld.

DISGRIFIAD O’R RÔLYsgogydd Cymunedol Codi Allan a Bod yn Egnïol

Sylwer mai rôl ran-amser yw hon yn seiliedig ar 3 diwrnod yr wythnos (cytundeb 0.6)

Yn y swydd, adroddir i: Rheolwr Llinell Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Mae’r swydd yn cysylltu â: Rheolwr Partneriaethau Chwaraeon Anabledd Cymru

Lleolir yn: Swyddfeydd Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Diben y swydd: Bydd deiliad y swydd yn datblygu ac yn cefnogi chwaraeon anabledd a chyfleoedd am weithgareddau corfforol ar draws y Sir, ac yn cydlynu rhaglen Codi Allan a Bod yn Egnïol Ysbryd 2012, er mwyn buddio rhai o fenywod (anabl) mwyaf difreintiedig ac anweithredol Wrecsam. Ffocws y rhaglen bydd annog mwy o fenywod (anabl) i gymryd rhan mewn gweithgareddau (gan gynnwys gweithgareddau awyr agored) a fydd yn arwain at wella iechyd a lles.

Mae rhaglen Codi Allan a Bod yn Egnïol yn derbyn buddsoddiad o £4.5 miliwn ledled y DU er mwyn datblygu, cyflwyno a dysgu o ffyrdd arloesol o gynorthwyo pobl nad ydynt yn gwneud ymarfer corff i wneud gweithgareddau hamdden corfforol. Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn arwain partneriaeth gynhwysol a deinamig unigryw yng Nghymru a fydd yn gweld newid gwirioneddol mewn tair ardal Awdurdod Lleol yng Nghymru, a phymtheg lleoliad arall ledled y DU. Dewiswyd Wrecsam fel un o’r ardaloedd allweddol hyn.

CYFLOG: £12,880 (yn seiliedig ar £23,000 pa FTE). Pensiwn ar gael.

ORIAU GWAITH

21 awr yr wythnos – fodd bynnag, mae natur y swydd yn golygu y bydd yr oriau gwaith yn hyblyg ac yn cynnwys gwaith yn ystod y nosweithiau ac ar y penwythnos. Dyfernir amser i ffwrdd yn ei le am unrhyw oriau ychwanegol sy’n cael eu gweithio yn unol â’r gweithdrefnau a gytunwyd.

6 | P a g e

Page 7: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

PRIF GYFRIFOLDEBAU

• Bod yn gyfrifol am ddatblygu rhaglen ymarfer corff newydd cynhwysol i fenywod, gan weithio â darparwyr a chlybiau presennol yn y gymuned leol a sefydliadau chwaraeon gwirfoddol.

• Datblygu nifer o wyliau/digwyddiadau i ddathlu llwyddiant a rhannu dysgu’r rhaglen Codi Allan a Bod yn Egnïol.

• Mapio sefydliadau a arweinir gan ddefnyddwyr pobl anabl a hwyluso perthynas waith gyda phartneriaid cyflwyno allweddol.

• Ymgymryd â sesiynau ymgynghori rheolaidd a pharhaus â menywod er mwyn sicrhau bod anghenion menywod o bob gallu a chefndir, gan gynnwys grwpiau sy’n agored i niwed wedi’u targedu (anableddau, pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, cred, menywod a merched) yn cael eu cynnwys yn y rhaglenni gweithgareddau.

• Recriwtio a chefnogi arweinwyr ac eiriolwyr cymunedol a gwirfoddolwyr eraill i helpu wrth gyflwyno’r rhaglen.

• Hwyluso cyfleoedd hyfforddi marchnata a chynhwysol i ddarparwyr, arweinwyr benywaidd a gwirfoddolwyr ymarfer corff eraill sy’n helpu i gyflwyno’r rhaglen.

• Bod yn gyfrifol am oruchwylio a hyrwyddo’r rhaglen weithgareddau, gan weithio ochr yn ochr â darparwyr, arweinwyr ac eiriolwyr/gwirfoddolwyr cymunedol.

• Datblygu rhwydweithiau cymorth rhwng y darparwyr cyflwyno lleol, clybiau cymunedol ac asiantaethau eraill sy’n gweithredu yn y rhaglen Codi Allan a Bod yn Egnïol.

• Bod yn gyfrifol am gyflwyno mecanwaith monitro a gwerthuso a gytunwyd, a chasglu data priodol er mwyn mesur effeithiolrwydd y rhaglen Codi Allan a Bod yn Egnïol.

• Bod yn gyfrifol am y tasgau gweinyddol ac ariannol sy’n gysylltiedig â’r rhaglen Codi Allan a Bod yn Egnïol.

• Gweithio ar y cyd â phartneriaid lleol i sicrhau bod y Rhaglen Codi Allan a Bod yn Egnïol yn cyd-fynd ac yn cysylltu â chyfleoedd a rhaglenni chwaraeon ac ymarfer corff eraill sy’n gweithredu yn y sir.

• Cydweithio â phrosiectau Codi Allan a Bod yn Egnïol eraill er mwyn gwneud y gorau o’r dysgu. • Sicrhau bod Polisïau a Gweithdrefnau Chwaraeon Anabledd Cymru a’r Awdurdod Lleol, gan

gynnwys Diogelu Plant ac Oedolion sy’n Agored i Niwed a Lles, yn cael eu cyflwyno yn effeithiol. Gweithio ar y cyd â phartneriaid lleol i sicrhau bod y rhaglen Codi Allan a Bod yn Egnïol yn cyd-fynd ac yn cysylltu â chyfleoedd a rhaglenni datblygu chwaraeon ac ymarfer corff eraill yn y sir.

• Cyfleoedd Cyfartal ac Iechyd a Diogelwch.• Ymgymryd â chyfleoedd hyfforddiant datblygu proffesiynol parhaus priodol. • Hwyluso, cynllunio, cyflwyno a monitro cyfleoedd ymarfer corff ar gyfer ardaloedd cymunedol

wedi’u targedu yn unol â mentrau, targedau a blaenoriaethau lleol, cenedlaethol a ledled y DU. • Hwyluso, cynllunio a chefnogi cyflwyno a monitro gweithgareddau mewn partneriaeth â darparwyr

lleol a monitro targedau a blaenoriaethau. • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau sy’n gymesur â graddfa eich cyflog.

7 | P a g e

Page 8: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

MANYLEB Y PERSON

SGILIAU A NODWEDDION HANFODOL

DYMUNOL

ADDYSGGradd neu gymhwyster cyfwerth mewn Datblygu Chwaraeon a/neu Ymarfer Corff, neu ddisgyblaeth berthnasol

*

Cymhwyster Addysg Bellach neu gyfwerth mewn disgyblaeth sy’n berthnasol i chwaraeon

*

Gallu dangos tystiolaeth o sgiliau TG *PROFIADProfiad o weithgarwch cymunedol, datblygu chwaraeon, gwaith allgymorth, hyfforddi neu ddisgyblaethau perthnasol eraill

*

Profiad o weithio â grwpiau ymarfer corff cymunedol *Profiad o recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr, yn enwedig menywod neu bobl ddifreintiedig

*

Profiad o drefnu gweithgarwch cymunedol, digwyddiadau chwaraeon neu sesiynau hyfforddi

*

NODWEDDION PERSONOLSgiliau cyfathrebu perswadiol a hyderus *Sgiliau trefnu a chreu cyllidebau *Yn gallu ysgogi a bod yn frwdfrydig *Yn gallu gweithio ar ei liwt ei hun ac o dan bwysau *Ymrwymo i gyfleoedd cyfartal *Ymrwymo i ymgymryd â hyfforddiant pellach *Yn fodlon gweithio yn ystod oriau anghymdeithasol *ARALLYn gallu teithio o gwmpas y Sir *Yn gallu cyfathrebu yn y Gymraeg *

Rhagor o wybodaeth:Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Michelle Daltry, Rheolwr Partneriaethau, Chwaraeon Anabledd Cymru ar: 02920 334921 07918 716316 [email protected]

8 | P a g e

Page 9: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

Cais am Gyflogaeth

Dylech lenwi pob adran yn llawn; ni fyddwn yn derbyn CV.

Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfle cyfartal i bob un o’r staff a’r ymgeiswyr am swyddi. Ein nod yw creu amgylchedd gweithio lle gall pob un o’r unigolion wneud y defnydd gorau o’u sgiliau, yn rhydd oddi wrth wahaniaethu neu aflonyddwch, a ble mae pob penderfyniad yn seiliedig ar deilyngdod.

Nid ydym yn gwahaniaethu yn erbyn staff ar sail oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartner sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, credo neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol (nodweddion gwarchodedig).

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn gyflogwr Hyderus ag Anabledd ymroddgar.

Manylion y swyddSwydd y gwnaed cais amdano:

YSGOGYDD CODI ALLAN A BOD YN EGNÏOL

Lleoliad: Swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Rheswm dros wneud caisDefnyddiwch yr adran hon i roi gwybod i ni pam mae gennych chi ddiddordeb yn y swydd hon, pa fedrau a phrofiad sydd gennych a sut rydych yn bodloni’r pwyntiau ym manyleb yr unigolyn

Parhewch ar ddalen ar wahân os bydd angen

9 | P a g e

Page 10: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

Manylion Cyswllt:Enw: Cyfeiriad Post:

Cyfeiriad E-bost:

Rhif Ffôn Cyswllt:

Sut hoffech i ni gysylltu â chi? (h.y. trwy’r e-bost, dros y ffôn, testun, typetalk, yn ysgrifenedig, ac ati)

Cod Post:

Swydd bresennol neu ddiwethafTeitl y swydd: Cyflogwr:

Dyddiad dechrau: Cyfeiriad:

Cod post:

Dyddiad gadael:

Cyflog:

Buddion: Rhif ffôn:

Rheswm dros adael: Enw’r rheolwr llinell:

Cyfnod rhybudd: Swydd y rheolwr llinell:

Dyletswyddau a chyfrifoldebau:

10 | P a g e

Page 11: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

Hanes cyflogaethRhestrwch eich holl hanes cyflogaeth gan ddechrau â’ch swydd flaenorol. Esboniwch unrhyw fylchau.

Dyddiadau (o/tan)

Cyflogwr a lleoliad

Swydd a disgrifiad bras o’ch cyfrifoldebau Rheswm dros adael

Parhewch ar ddalen ar wahân os bydd angen

11 | P a g e

Page 12: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

AddysgYsgol Uwchradd Cymwysterau a lefelau a

gyflawnwyd

Coleg neu brifysgol Cymwysterau a lefelau a gyflawnwyd

Cyrsiau Cymwysterau

12 | P a g e

Page 13: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

Aelodaeth o gymdeithasau proffesiynol neu dechnegol Enw’r gymdeithas neu’r corff

Gradd aelodaeth Aelodaeth trwy arholiad/ymlyniad

Rhif aelodaeth

Geirdaon

Cyflogwr/coleg presennol/diwethaf Enw Cyfeiriad/adran Rhif ffôn/cyfeiriad e-bost

Cyflogwr blaenorolEnw Cyfeiriad/adran Rhif ffôn/cyfeiriad e-bost

13 | P a g e

Page 14: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

Diogelu data Gallai’r holl wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen hon, neu ran ohoni, gael ei chadw ar gyfrifiadur neu mewn ffurflen sy’n ei gwneud yn agored i’r Ddeddf Diogelu Data. Trwy lenwi’r ffurflen hon, rydych yn rhoi eich caniatâd i’r data uchod gael ei ddal a’i brosesu gan Chwaraeon Anabledd Cymru at ddibenion monitro cyfle cyfartal ac yn unol â chofrestriad Chwaraeon Cymru o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.

LlofnodRwyf yn ardystio, hyd eithaf fy ngwybodaeth, bod y wybodaeth sydd wedi’i chynnwys ar y ffurflen gais hon yn wir a chywir. Gellir cadw rhywfaint o’r data ar y ffurflen hon neu mewn ffurflen sy’n ei wneud yn amodol ar y Ddeddf Diogelu Data. Trwy lenwi’r ffurflen hon, rwyf yn rhoi fy nghaniatâd i’r data uchod gael ei gadw a’i brosesu gan Chwaraeon Anabledd Cymru at ddibenion monitro cyfle cyfartal.

Llofnod………………………………………………………….

Dyddiad………………………………………………………….……..

14 | P a g e

Page 15: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal

Dylech lenwi’r ffurflen a’i dychwelyd mewn amlen seliedig gyda’ch ffurflen gais i: Chwaraeon Anabledd Cymru, Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd. CF11 9SW.

Gwybodaeth Gyffredinol

Ydych chi’n perthyn i, neu’n ffrind agos i, unrhyw aelod o, neu swyddog Chwaraeon Anabledd Cymru?

Ydw Nac ydw

Os ydych, rhowch enw, perthynas, ac os yw’n berthnasol, yr adran lle caiff ef/hi ei gyflogi/chyflogi

Enw: …………………………………………………….. Perthynas: …………………………………………………………..

Swydd: ………………………………………………….

A ydych chi erioed wedi cael eich dyfarnu’n euog o drosedd o ganlyniad i achosion troseddol?

Ydw Yes NoOs ydych, rhowch fanylion am y drosedd, gan gynnwys y dyddiad a’r ddedfryd: ………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………..………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………..………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………..………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………..

Nid yw’n ofynnol i chi roi unrhyw wybodaeth am euogfarnau ‘a dreuliwyd’ o dan Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 oni bai fod y swydd wedi’i heithrio. Gallai peidio â datgelu euogfarnau arwain at gamau disgyblu neu ddiswyddo

Pa un yw eich dewis iaith?

Saesneg (llafar) Cymraeg (llafar) Iaith Ewropeaidd Arall (llafar)

Makaton Iaith Arwyddion Prydain

Mae’n well gennyf beidio â dweud

Arall (nodwch): ……………………………………………………………………………………………………………………….

Ydych chi’n defnyddio’r Gymraeg? (dewiswch bob un sy’n berthnasol)

Ydw (llafar) Ydw (ysgrifenedig) Ydw (darllen)

Dysgu Nac ydw Mae’n well gennyf beidio â dweud

15 | P a g e

Page 16: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

Gwybodaeth am gydraddoldebGofynnir i ymgeiswyr roi tic yn y blychau perthnasol isod i alluogi Chwaraeon Anabledd Cymru (ChAC) i fonitro ei Bolisi Cyfle Cyfartal. Argymhellir monitro yn ôl y codau ymarfer ar gyfer gwaredu gwahaniaethu ar sail rhyw, statws priodasol, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, a nam. Ni ddefnyddir y wybodaeth hon at unrhyw ddiben arall, a bydd yn cael ei thrin yn gyfrinachol.

I ba grŵp ethnig ydych chi’n perthyn?

Gwyn

Cymreig Seisnig Albanaidd Gwyddelig o Ogledd Iwerddon

Prydeinig

Gwyddelig

Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig

Unrhyw gefndir Gwyn arall, disgrifiwch: …………………………………………………………………………………

Grwpiau Ethnig Cymysg/Lluosog

Gwyn a Du Caribïaidd Gwyn a Du Affricanaidd Gwyn ac Asiaidd

Unrhyw gefndir Ethnig Cymysg/Lluosog arall, disgrifiwch: ………………………………………………………..

Asiaidd/Asiaidd Prydeinig

Indiaidd Pacistanaidd Bangladeshaidd Tsieineaidd

Unrhyw gefndir Asiaidd eraill, disgrifiwch: ………………………………………………………………………………….

Du/Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig

Affricanaidd Caribïaidd

Unrhyw gefndir Du/Affricanaidd/Caribïaidd arall, disgrifiwch: ……………………………………………………

Grŵp Ethnig Arall

Arabaidd

Unrhyw gefndir Grŵp Ethnig arall, disgrifiwch: ………………………………………………………………..……

Mae’n well gennyf beidio â dweud

Cyfeiriadedd Rhywiol

Sut byddech chi’n disgrifio eich cyfeiriadedd rhywiol?

Heterorywiol/strêt Dyn hoyw Mae’n well gennyf beidio â dweud

16 | P a g e

Page 17: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

Menyw hoyw/Lesbiad Deurywiol

Arall (Ysgrifennwch y disgrifiad rydych yn ei ffafrio): ……………..……………………………………………………..

17 | P a g e

Page 18: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

Anabledd/namMae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio ‘rhywun anabl’ fel unrhyw un sydd â nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a thymor hir ar ei (g)allu i wneud gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.

A ydych chi’n ystyried eich hun yn rhywun sydd â nam?

Ydw Nac ydw Mae’n well gennyf beidio â dweud

Os ydych, sut byddech yn disgrifio eich nam(au)?

Marciwch bob un o’r bylchau sy’n berthnasol i chi

Dall neu’n Rhannol Ddall Byddar neu’n drwm eich Clyw

Nam corfforol (ddim yn defnyddio cadair olwyn)

Nam corfforol (yn defnyddio cadair olwyn yn barhaol)

Nam corfforol (yn defnyddio cadair olwyn ar adegau)

Anabledd dysgu (e.e. Syndrom Down, ac ati)

Anhawster dysgu (e.e. Anhawster Cydsymud (Dyspracsia), Dyslecsia, ac ati)

Cyflwr Iechyd Meddwl (e.e. iselder, straen, ac ati)

Salwch tymor hir (e.e. canser, sglerosis ymledol, HIV+, ac ati)

Arall (nodwch): ………………………………………………………………. Mae’n well gennyf beidio â dweud

A oes yna unrhyw beth, fel eich darpar gyflogwr, y gallai fod angen i ni ei wybod neu’i roi ar waith i sicrhau eich bod yn cael eich cynorthwyo’n briodol yn y gweithle?

Oes NoOs oes, rhowch ragor o wybodaeth:………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………..………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………..………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………..………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………..

Dadansoddiad y CyfryngauI gynorthwyo â’n proses recriwtio, nodwch ble y gwnaethoch chi ddysgu am y swydd hon yn gyntaf:

Papur newydd Gwefan ChAC Gwefan Arall (nodwch): ………………………………………………..

Cymdeithas Chwaraeon Cymru Ar lafar Canolfan waith

18 | P a g e

Page 19: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

Rydym yn gwarantu cyfweliad i unrhyw un sydd ag anabledd y mae ei gais yn bodloni lleiafswm meini prawf y swydd. Yr hyn rydym yn ei olygu wrth ‘lleiafswm meini prawf’ yw bod angen i chi ddarparu tystiolaeth yn eich ffurflen gais sy’n dangos eich bod yn bodloni lefel y gallu sydd ei angen ar gyfer pob un o’r meini prawf yn gyffredinol , yn ogystal â bodloni unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiad a nodir yn hanfodol (mae’r lleiafswm meini prawf yn golygu’r galluoedd hanfodol a nodir yn hysbyseb y swydd).

Os ydych yn dewis defnyddio’r Cynllun Gwarantu Cyfweliad, a fyddech cystal â dychwelyd y ffurflen hon wedi’i llenwi gyda’ch ffurflenni cais?

Beth ydym yn ei olygu pan soniwn am ‘anabledd’?Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio ‘rhywun anabl’ fel unrhyw un sydd â nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a thymor hir ar ei (g)allu i wneud gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.

Sut gallaf ymgeisio?Os hoffech ymgeisio dan y Cynllun Gwarantu Cyfweliad, llenwch y datganiad isod a’i anfon ynghyd â’ch cais.

Byddwn yn ceisio darparu cymorth mynediad, cyfarpar neu gymorth ymarferol arall i sicrhau, os oes gennych anabledd, y gallwch gystadlu yn gyfartal â phobl nad oes anabledd ganddynt.

DATGANIADRwyf yn ystyried bod gennyf anabledd fel y diffinnir uchod, a hoffwn ymgeisio dan y Cynllun Gwarantu Cyfweliad

Mae angen y trefniadau arbennig canlynol arnaf er mwyn gallu dod i’r cyfweliad:

……………………………………………………………………………

……………………………………………………………………………………………………………………………………………………………

……………………………………………………………………………………………………………………………………………………………

………………………………………………………………………………

Enw: …………………………………………………………. Dyddiad: …………………………………………………….

Llofnod: …………………………………………………………. Cyfeirnod: DSW/WCBC/002

Dyddiad yr Asesiad Cychwynnol o’r Effaith ar Gydraddoldeb: 10 Ebrill 2016

Cynhelir yr Asesiad gan: Fiona Reid, Rheolwr Arloesi ChAC

Page 20: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

* Nid oes angen llofnod os ydych yn cyflwyno’r ffurflen yn electronig

BYDD UNRHYW DDATGANIAD FFUG O ANABLEDD ER MWYN CAEL CYFWELIAD YN ARWAIN AT ANNILYSU UNRHYW BENODIAD

Dyddiad yr Asesiad Cychwynnol o’r Effaith ar Gydraddoldeb: 10 Ebrill 2016

Cynhelir yr Asesiad gan: Fiona Reid, Rheolwr Arloesi ChAC

Page 21: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

Chwaraeon Anabledd Cymru

Polisi Recriwtio 2016

Dyddiad yr Asesiad Cychwynnol o’r Effaith ar Gydraddoldeb: 10 Ebrill 2016

Cynhelir yr Asesiad gan: Fiona Reid, Rheolwr Arloesi ChAC

Page 22: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

Cynnwy

s

1. Ymrwymiad i Amrywiaeth............................................................................................................2

2. Diben y Polisi.................................................................................................................................2

3. Cwmpas.........................................................................................................................................2

4. Egwyddorion Craidd......................................................................................................................2

4.1. Anabledd................................................................................................................................3

5. Y Weithdrefn Dewis a Recriwtio...................................................................................................4

5.1. Cynllunio................................................................................................................................4

5.2. Swydd-ddisgrifiad a Manylebau Personol..............................................................................4

5.3. Hysbysebu..............................................................................................................................4

6. Prosesu ceisiadau..........................................................................................................................5

6.1. Llunio rhestr fer.....................................................................................................................5

6.2. Dewis ar gyfer cyfweliad........................................................................................................6

7. Prosesau dewis.............................................................................................................................6

7.1. Y Broses Gyfweld...................................................................................................................6

7.2. Cysylltu â Chanolwyr..............................................................................................................7

7.3. Penodi....................................................................................................................................8

8. Cyfnod ymsefydlu.........................................................................................................................8

8.1. Rhaglen ymsefydlu.................................................................................................................8

8.2. Cyfnod prawf.........................................................................................................................9

9. Cadw yn y rôl ar ôl y cyfnod prawf...............................................................................................9

9.1. Ymrwymiad i Gadw...............................................................................................................9

Tabl 1: Ymrwymiad i Gadw............................................................................................................9

10. Terfynu cyflogaeth..................................................................................................................10

11. Monitro...................................................................................................................................11

12. Cyfrifoldeb...............................................................................................................................11

i | T u d a l e n

Page 23: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

Atodiad 1: Diagram Llif Polisi ChAC ……………………………………………………………………………..… 12

ii | T u d a l e n

Page 24: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

1. Ymrwymiad i AmrywiaethMae Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn ystyried bod amrywiaeth ynglŷn â chydnabod, parchu a gwerthfawrogi gwahanol brofiadau, canfyddiadau, diwylliannau, ffyrdd o fyw ac ymagweddau yn seiliedig ar aelodaeth o grwpiau sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig (gan gynnwys hil; ethnigrwydd; crefydd, ffydd neu gredo; rhyw; hunaniaeth rhywedd; cyfeiriadedd rhywiol; nam; statws priodasol; statws rhiant; oedran; ymlyniad gwleidyddol; a mamiaith).

Mae Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth gan ei bod yn galluogi trafodaeth, cynllunio, datblygiad ac arfer o ansawdd da; ac mae wedi ymrwymo i greu amrywiaeth yn y gweithle, tîm arwain (gan gynnwys Bwrdd), ac aelodaeth er mwyn meithrin ei lwyddiannau fel sefydliad creadigol, arloesol, dynamig a chynhwysol.

Nodir Polisïau gosod a llif ChAC yn Atodiad 1: Diagram Llif Polisi ChAC, ac mae’n amlygu’r ymagwedd y mae ChAC yn ei defnyddio ar gyfer amrywiaeth, tegwch a chydraddoldeb trwy ei bolisïau ac felly ei brosesau.

2. Diben y PolisiDiben y Polisi Recriwtio hwn yw sicrhau bod Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru bob amser yn ymgysylltu ag arfer recriwtio sydd:

yn diogelu ac yn amddiffyn lles unigolion sy’n ymwneud â rhaglen ChAC yn sicrhau amrywiaeth yn y gweithle yn rhoi proses ar waith sy’n cadw ac yn gwerthfawrogi staff trwy ymagwedd broffesiynol yn gyfiawn, yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn deg o ran proses

3. CwmpasMae’r Polisi hwn yn ymestyn i bob agwedd ar bolisi, gweithdrefn ac arfer sy’n gysylltiedig â dewis a recriwtio. Dylai holl staff Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru sy’n ymwneud â hysbysebu swyddi, dewis darpar gyflogeion a’u recriwtio, fod yn ymwybodol o’r Polisi, a sicrhau eu bod yn dilyn y prosesau a nodir ynddo. Y Cyfarwyddwr Gweithredol sydd â chyfrifoldeb am hyn yn y pen draw.

4. Egwyddorion Craidd Ymrwymiad i sicrhau mynediad at wybodaeth yn ymwneud â swyddi newydd yn y sefydliad,

prosesau dewis a recriwtio, ac mae penodi i’r rolau hyn yn agored i bawb, ac yn darparu profiad teg, cyfiawn ac effeithlon i bob ymgeisydd beth bynnag fo canlyniad y penodiad.

Bydd ymarferion recriwtio, llunio rhestr fer, dyrchafiad ac ymarferion dewis eraill fel dewis ar gyfer diswyddo yn cael eu gwneud ar sail teilyngdod, yn unol â meini prawf gwrthrychol sy’n osgoi gwahaniaethu. Bydd yr holl weithdrefnau o’r fath yn agored i Asesiad cychwynnol o’r Effaith ar Gydraddoldeb Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru.

Dyddiad yr Asesiad Cychwynnol o’r Effaith ar Gydraddoldeb: 10 Ebrill 2016

Cynhelir yr Asesiad gan: Fiona Reid, Rheolwr Arloesi ChAC

Page 25: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

Mae Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn credu bod gan bawb yr hawl i wneud cais am gyflogaeth, a chael swydd mewn sefydliad sy’n mynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, ac yn darparu diwylliant yn rhydd o wahaniaethu, aflonyddwch ac erledigaeth.

Bod amrywiaeth a thegwch yn cael eu gwerthfawrogi a’u dathlu’n glir o fewn Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru

Bydd penodiadau’n cael eu gwneud ar sail sgiliau a chymwyseddau unigol, bydd yr unigolyn mwyaf priodol ar gyfer y rôl yn cael ei benodi heb ymrwymiad. Bydd Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru bob amser yn rhoi cyfle i ymgeiswyr nodi arfer teg trwy gydol y broses dewis a recriwtio er mwyn sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfleoedd o ran dewis, cyfweld a phenodi.

Mae Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn gyflogwr Cadarnhaol ynglŷn â Phobl Anabl, a bydd yn gweithredu’n gadarnhaol pan fydd angen i hyrwyddo cyfleoedd i bob cymuned.

Bydd staff Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru sy’n cymryd rhan yn y broses dewis a recriwtio yn sicrhau bod y broses yn cael ei chynnal mewn modd cynhwysol, cyfiawn, proffesiynol, amserol ac ymatebol, a thrwy gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth gysylltiedig ar gyflogaeth a thegwch.

Bydd yr holl wybodaeth a data personol sy’n cael eu caffael trwy’r broses dewis a recriwtio yn cael eu trin yn gyfrinachol, ac yn unol â’r ddeddfwriaeth Diogelu Data, a Phrotocolau Rhannu Gwybodaeth Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru.

Mae cynnal arferion amlygu, gwneud cais, ac arfer gorau arferion recriwtio yn hanfodol, a bydd Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn sicrhau bod polisi a phrosesau yn cael eu diweddaru’n gyson, a bod y syniadau a’r ymagweddau newydd yn cael eu hadlewyrchu.

Yr allwedd i sicrhau amgylchedd diogel ar gyfer gweithgarwch corfforol, gan gynnwys chwaraeon, mewn cyd-destun adloniadol neu gystadleuol, yw sicrhau arferion dewis a recriwtio cadarn. Bydd arweiniad a deddfwriaeth sy’n gysylltiedig â diogelu a lles yn cael eu hadlewyrchu ym mhrosesau Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru.

Pan nodir, bydd staff Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn cael cyfle ar gyfer hyfforddiant cychwynnol a pharhaus sy’n berthnasol i ddewis a recriwtio.

Bydd yr holl ffurflenni, hysbysebion a gwybodaeth yn cael eu darparu yn Gymraeg a Saesneg, a bydd yr holl ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i wneud eu ceisiadau naill ai yn Gymraeg neu Saesneg.

Bydd yr holl fformatau amgen a hygyrch ar gyfer yr holl wybodaeth am recriwtio yn cael eu darparu lle mae angen.

4.1. Anabledd Os oes gennych nam neu’n caffael nam tra byddwch yn cael eich cyflogi gan Ffederasiwn

Chwaraeon Anabledd Cymru ac yn mynd yn anabl, rydym yn eich annog i ddweud wrthym am hyn er mwyn i ni allu eich cefnogi fel y bo’n briodol.

Os byddwch yn profi heriau yn y gwaith oherwydd nam, efallai yr hoffech gysylltu â’ch rheolwr llinell i drafod unrhyw addasiadau rhesymol a fyddai’n helpu i oresgyn yr heriau hyn, neu’u lleihau.

Dyddiad yr Asesiad Cychwynnol o’r Effaith ar Gydraddoldeb: 10 Ebrill 2016

Cynhelir yr Asesiad gan: Fiona Reid, Rheolwr Arloesi ChAC

Page 26: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

Efallai yr hoffai eich rheolwr llinell ymgynghori â chi a’ch ymgynghorydd/ymgynghorwyr meddygol ynghylch addasiadau posibl. Byddwn hefyd yn sicrhau bod Mynediad at Waith yn cael ei gefnogi.

Byddwn ni byth yn fwriadol yn defnyddio cyfleusterau neu adeiladau sy’n rhoi unrhyw un â nam dan anfantais o ran mynediad a rhyddid i symud yn y man hwnnw.

5. Gweithdrefn Dewis a RecriwtioMae nifer o gamau allweddol yn gysylltiedig â dewis a recriwtio staff i rolau newydd mewn ffyrdd diogel, amrywiol, cyfiawn a phroffesiynol. Mae’r Polisi hwn yn nodi’r prosesau hanfodion; mae’r manylion sy’n ategu pob cam wedi eu cynnwys ym Mhrosesau Recriwtio Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru.

5.1. Cynllunio Bydd y rôl newydd yn cael ei chyfiawnhau’n ffurfiol wrth y Pwyllgor Taliad Cydnabyddiaeth ac

Enwebiadau trwy’r Cadeirydd, ac yn cael ei chysylltu â chyfeiriad strategol craidd Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru gan bennu costau yn llawn ar ei chyfer. Wedyn, bydd y Pwyllgor Taliad Cydnabyddiaeth ac Enwebiadau yn penderfynu p’un a oes angen cyfeirio’r swydd at Fwrdd Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru.

Bydd recriwtio staff newydd yn seiliedig ar anghenion Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru ar gyfer sgiliau, gwybodaeth a chymwyseddau penodol, a bydd, yn ychwanegol, yn adlewyrchu ymrwymiad Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru i gynrychioli gweithlu amrywiol er mwyn darparu chwaraeon i bobl anabl, ar gyfer pawb sy’n dymuno cymryd rhan.

Bydd cynllunio’r holl ddeunyddiau (swydd-ddisgrifiad, manylebau personol), sy’n gysylltiedig â recriwtio, yn derbyn Asesiad cychwynnol o’r Effaith ar Gydraddoldeb, a bydd Asesiad llawn o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn cael ei gynnal yn ôl yr angen i sicrhau bod y rôl yn briodol a hygyrch i unrhyw ddarpar gyflogai.

5.2. Swydd-ddisgrifiad a Manylebau Personol Bydd Manyleb Bersonol ar gyfer y rôl yn cyd-fynd â phob Swydd-ddisgrifiad a fydd yn cynnwys

cyfeiriad eglur at y sgiliau, y cymwysterau, y wybodaeth a’r profiad hanfodol a manteisiol sy’n gysylltiedig â’r swydd.

Bydd nodi’r Manylebau Personol yn cael ei gymeradwyo gan y Cadeirydd (ar ôl yr Asesiad cychwynnol o’r Effaith ar Gydraddoldeb/Asesiad llawn o’r Effaith ar Gydraddoldeb) ac ni fyddant yn gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn grwpiau sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig.

5.3. Hysbysebu Bydd swyddi’n cael eu hysbysebu mewn adran amrywiol o’r farchnad lafur, a bydd Ffederasiwn

Chwaraeon Anabledd Cymru yn cymryd camau cadarnhaol i hysbysebu swyddi newydd yn y wasg, y cyfryngau neu mewn ffynonellau recriwtio eraill sy’n cael eu targedu at gymunedau y nodwyd eu bod yn rhannu nodwedd warchodedig (neu nifer o nodweddion gwarchodedig). Bydd pob swydd yn cael ei hysbysebu trwy bartneriaid (chwaraeon) sy’n canolbwyntio ar degwch, gan gynnwys:

Dyddiad yr Asesiad Cychwynnol o’r Effaith ar Gydraddoldeb: 10 Ebrill 2016

Cynhelir yr Asesiad gan: Fiona Reid, Rheolwr Arloesi ChAC

Page 27: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

o Sporting Equals – [email protected] Race Equality First (penodiadau wedi’u lleoli yng Nghaerdydd) –

[email protected] North Wales Regional Equality Network (penodiadau gogledd Cymru) -

[email protected] South East Wales Regional Equality Council (penodiadau de-ddwyrain Cymru) -

[email protected] Women in Sport – [email protected] Stonewall Cymru – [email protected] LGB&T Sport Cymru – [email protected] Pride Sport – [email protected] Age Cymruo Anabledd Cymru – [email protected] Anabledd Dysgu Cymru – [email protected] Y Ganolfan Byd Gwaith - https://jobsearch.direct.gov.uk/o Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol - [email protected]

Bydd pob rôl yn cael ei hysbysebu gan gynnwys datganiad ar amrywiaeth a thegwch a fydd yn amlygu’n ychwanegol bod Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn gyflogwr sy’n Gadarnhaol ynglŷn â Phobl Anabl, yn gyflogwr Ystyrlon, sydd wedi ymrwymo i Siarter Chwaraeon Cymru ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.

Bydd yr holl hysbysebu yn ddwyieithog, a bydd ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i ofyn am ragor o wybodaeth am y rôl, a chyflwyno eu cais mewn iaith a fformat sy’n gweddu orau i’w hangen.

Ni fydd hysbysebion yn stereoteipio nac yn defnyddio geiriad a allai atal grwpiau penodol rhag gwneud cais. Byddant yn cynnwys datganiad polisi byr ar gyfle cyfartal a bydd copi o’r polisi hwn ar gael ar gais.

Pan fo’n berthnasol ac yn briodol, bydd staff Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru sy’n cael eu hadleoli yn cael mynediad at swyddi cyn iddynt gael eu hysbysebu’n ehangach.

Bydd Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth Adsefydlu Troseddwyr.

Bydd angen i unrhyw staff sydd â rolau dros dro yn Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru, sydd wedyn yn cael eu hysbysebu fel swyddi parhaol, wneud cais am y swydd pan gaiff ei hysbysebu.

Mewn rhai sefyllfaoedd, gallai Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru ddefnyddio Asiantaeth Recriwtio i reoli’r broses dewis a recriwtio ar gyfer swyddi. Bydd Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn sicrhau bod unrhyw Asiantaeth Recriwtio a ddefnyddir yn dangos arfer gorau ynghylch amrywiaeth a thegwch.

Dyddiad yr Asesiad Cychwynnol o’r Effaith ar Gydraddoldeb: 10 Ebrill 2016

Cynhelir yr Asesiad gan: Fiona Reid, Rheolwr Arloesi ChAC

Page 28: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

Bydd Ffurflen Monitro Tegwch yn cyd-fynd â phob ffurflen gais, sy’n cael ei darparu ar wahân i’r brif ffurflen gais, ac yn gofyn am wybodaeth sy’n ymwneud ag aelodaeth i gymunedau sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig unigol neu luosog.

6. Prosesu ceisiadau6.1. Llunio rhestr fer Bydd yr holl ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o fewn 48 awr, yn y fformat y gwnaethant gyflwyno eu

cais, bod eu cais wedi ei dderbyn. Bydd rhestr fer yn cael ei llunio ar ôl y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, a bydd yn cynnwys o leiaf

2 unigolyn sy’n gysylltiedig â Chwaraeon Anabledd Cymru sy’n meddu ar y sgiliau, y wybodaeth a’r profiad perthnasol i wneud hyn.

Dylai’r rhestr fer gael ei llunio gan fwy nag un unigolyn gan gynnwys y personél adnoddau dynol, lle bo modd. Dylid adolygu ein gweithdrefnau recriwtio yn rheolaidd i sicrhau bod unigolion yn cael eu trin ar sail eu cyfatebiaeth yn erbyn gwerthoedd a nodwyd ymlaen llaw a maen prawf yn seiliedig ar gymhwysedd.

Bydd y rhestr fer yn cael ei chreu trwy fesur y wybodaeth a ddarparwyd o fewn y cais yn erbyn y meini prawf a nodwyd o fewn y rôl a’r fanyleb bersonol.

Fel cyflogwr Hyderus ag Anabledd ymroddgar, bydd yr holl bobl anabl sy’n gwneud cais am swydd o fewn y sefydliad yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf gofynnol.

Bydd y rhestr fer yn cael ei llunio dim mwy na 10 diwrnod ar ôl y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais.6.2. Dewis ar gyfer cyfweliad Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael 7 diwrnod gwaith o rybudd am ddyddiad y cyfweliad. Bydd yr holl ymgeiswyr sy’n cael eu gwahodd i gyfweliad yn cael eu hysbysu yn ysgrifenedig (neu

mewn fformat arall fel y gofynnir), a thrwy’r e-bost (os bydd cyfeiriadau e-bost ar gael), gyda gwybodaeth am ddyddiad, amser a lleoliad y cyfweliad, yn ogystal â manylion am unrhyw dasgau penodol y gallai fod angen iddynt eu paratoi, neu gyflwyniadau y gallai fod angen iddynt eu gwneud fel rhan o’r broses gyfweld.

Gallai Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru ddarparu dyddiadau cyfweld eraill o dan amgylchiadau esgusodol.

Os bydd ymgeiswyr wedi amlygu bod ganddynt unrhyw ofynion dysgu neu gyflwyno penodol, yna bydd ChAC yn cysylltu â’r unigolyn i weld pa offer neu adnoddau penodol (os o gwbl) sydd eu hangen, ac os bydd angen amser estynedig i gwblhau’r broses gyfweld.

Bydd yr holl addasiadau i’r broses gyfweld yn cael eu gwneud yn unol â disgresiwn Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru, yn unol â Pholisi Tegwch Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru, cyfle cyfartal, ac ar y cyd â’r ymgeisydd.

7. Prosesau dewis7.1. Y Broses Gyfweld

Dyddiad yr Asesiad Cychwynnol o’r Effaith ar Gydraddoldeb: 10 Ebrill 2016

Cynhelir yr Asesiad gan: Fiona Reid, Rheolwr Arloesi ChAC

Page 29: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

Ni ddylid gofyn i ymgeiswyr am swydd am eu hiechyd neu nam/anabledd cyn cynnig swydd iddynt. Mae yna eithriadau cyfyngedig y dylid eu defnyddio gyda chymeradwyaeth gan Adnoddau Dynol yn unig. Er enghraifft:

- Cwestiynau angenrheidiol i benderfynu a all ymgeisydd gyflawni rhan hanfodol o’r swydd (yn amodol ar unrhyw addasiadau rhesymol).

- Cwestiynau i benderfynu a yw ymgeisydd yn addas i fynychu asesiad neu unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod angen eu gwneud mewn cyfweliad neu asesiad.

- Cymryd camau cadarnhaol i recriwtio pobl anabl.

- Monitro cyfle cyfartal (ni fydd hyn yn rhan o’r broses gwneud penderfyniadau).

Pan fydd angen, gellir gwneud cynigion swyddi yn amodol ar sail archwiliad meddygol boddhaol. Bydd y broses gyfweld yn amrywio yn dibynnu ar natur y rôl y mae’r unigolyn yn ymgeisio amdani,

ond gallai gynnwys:- Trafodaeth sy’n cynnwys cwestiynau sy’n cael eu gofyn gan banel o unigolion sy’n

cynrychioli Chwaraeon Anabledd Cymru- Cyflwyniad gan yr ymgeisydd i’r panel- Tasg neu gyfres o dasgau, sy’n berthnasol i rôl y swydd sy’n cael eu gosod gan y panel, a’u

cwblhau o fewn cyfnod penodol. Gallai hyn ymgorffori gweithgarwch technegol, technolegol neu ymarferol

- Gweithgaredd grŵp, naill ai gydag ymgeiswyr eraill am yr un rôl, neu gydag unigolion a nodwyd i gwblhau’r gweithgaredd ar ran Chwaraeon Anabledd Cymru

Ni fydd cwestiynau’n cael eu gofyn i ymgeiswyr am swydd a allai awgrymu gwahaniaethu ar sail Nodwedd Warchodedig. Er enghraifft, ni ofynnir i ymgeiswyr a ydynt yn feichiog neu’n bwriadu cael plant. Ni fydd ymgeiswyr yn cael eu holi am faterion yn ymwneud ag oedran, hil, crefydd neu gredo, cyfeiriadedd rhywiol, neu ailbennu rhywedd heb gymeradwyaeth gan Adnoddau Dynol (a ddylai ystyried yn gyntaf p’un a yw materion o’r fath yn berthnasol ac y gellir eu hystyried yn gyfreithlon).

Mae’n ofyniad cyfreithiol i Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru sicrhau bod gan bob cyflogai hawl i weithio yn y DU. Ni ddylid gwneud rhagdybiaethau am statws mewnfudo ar sail ymddangosiad neu genedligrwydd amlwg. Rhaid i’r holl ddarpar gyflogeion, beth bynnag fo’u cenedligrwydd, allu dangos dogfennau gwreiddiol (fel pasport) cyn dechrau swydd, i fodloni deddfwriaeth mewnfudo bresennol. Mae’r rhestr o ddogfennau derbyniol ar gael gan Adran Fisâu a Mewnfudo y DU.

Bydd yr holl ymgeiswyr yn cael gwybod tua faint fydd y broses gyfweld yn para, ac amserlen ohoni, yn eu llythyr cychwynnol sy’n eu gwahodd i gyfweliad.

Byddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr ac yn cynnig y swydd iddynt, neu gydag adborth yn amlinellu pam nad oeddent yn llwyddiannus, cyn gynted ag y bo modd ar ôl y broses gyfweld. Os bydd nifer o ddyddiadau ar gyfer y broses gyfweld, bydd yr ymgeiswyr yn cael gwybod am y dyddiadau amrywiol, a byddant yn cael gwybod cyn gynted ag y bo modd ar ôl y cyfweliad terfynol.

Dyddiad yr Asesiad Cychwynnol o’r Effaith ar Gydraddoldeb: 10 Ebrill 2016

Cynhelir yr Asesiad gan: Fiona Reid, Rheolwr Arloesi ChAC

Page 30: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

7.2. Cysylltu â Chanolwyr Bydd unrhyw gynnig yn cael ei wneud yn amodol ar dderbyn geirdaon boddhaol, i gynnwys

geirdaon cymeriad ynghylch gonestrwydd ac uniondeb yn ogystal â geirdaon proffesiynol. Gofynnir am eirdaon cyn gynted ag y bydd Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru wedi derbyn

cadarnhad ysgrifenedig gan yr ymgeisydd llwyddiannus eu bod yn derbyn y swydd. Bydd Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn gofyn am o leiaf ddau eirda, ac mae’n RHAID i un

o’r rhain fod gan y cyflogwr diweddaraf. Bydd Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru bob amser yn defnyddio geirdaon, ac ni chaiff

unrhyw gynnig swydd ei gadarnhau yn derfynol nes derbynnir y geirdaon ac y gellir cadarnhau bod y wybodaeth a roddodd yr ymgeisydd llwyddiannus trwy’r broses gyfweld yn gywir.

Mae pob geirda yn gyfrinachol; fodd bynnag, gallai ymgeisydd ofyn am gael gweld y geirda a ddarperir gan ei ganolwr. Bydd Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn trefnu bod y wybodaeth hon ar gael i ymgeiswyr bob amser.

Os yw’r rôl yn cynnwys gweithgarwch rheoledig y mae angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar ei gyfer, bydd yr ymgeisydd yn cael gwybod bod Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn cadw’r hawl i ddiddymu eu cynnig o swydd os caiff lefelau amhriodol o risg eu hamlygu trwy eu prosesau Lles, neu os caiff Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru eu hatal yn gyfreithiol rhag defnyddio’r unigolyn mewn gweithgarwch rheoledig gan ei fod ar y rhestr waharddedig Oedolion neu Blant.

7.3. Penodi Ar ôl derbyn geirdaon priodol a chadarnhad gan yr unigolyn sydd wedi cael cynnig y rôl yn

Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cynnig dyddiad dechrau/bydd dyddiad dechrau yn cael ei gytuno, a bydd contract yn cael ei anfon at yr unigolyn i’w lofnodi.

Os bydd gofynion Mynediad at Waith, yna bydd ChAC yn gweithio gyda’r ymgeisydd llwyddiannus i sicrhau bod adnoddau a chymorth priodol yn cael eu darparu o ddechrau ei benodiad.

Dylid trin staff rhan-amser a staff cyfnod penodol yr un fath â staff amser llawn neu staff parhaol tebyg ac ni ddylai fod y telerau a’r amodau yn llai ffafriol ar eu cyfer (ar sail pro-rata lle bo’n briodol), oni bai fod cyfiawnhad dros eu trin yn wahanol.

8. Ymsefydlu8.1. Rhaglen ymsefydlu Mae Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn darparu rhaglen ymsefydlu gynhwysfawr a fydd

yn cael ei rheoli gan reolwr llinell yr aelod staff newydd. Bydd hyn yn cynnwys:» Ymgyfarwyddo â’r adeilad lle bydd yr aelod staff newydd yn gweithio» Gwybodaeth am allanfeydd tân ac argyfwng sy’n berthnasol i’r adeilad, a gofynion mynediad

y cyflogai newydd

Dyddiad yr Asesiad Cychwynnol o’r Effaith ar Gydraddoldeb: 10 Ebrill 2016

Cynhelir yr Asesiad gan: Fiona Reid, Rheolwr Arloesi ChAC

Page 31: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

» Ymgyfarwyddo â Llawlyfr Staff Chwaraeon Anabledd Cymru Ymgyfarwyddo â Pholisi Iechyd a Diogelwch Chwaraeon Anabledd Cymru

» Hyfforddiant cynhwysiant anabledd» Hyfforddiant Cydraddoldeb Cyffredinol (darperir trwy gysylltiadau allanol)» Gwybodaeth ac ymgyfarwyddo sy’n benodol i’r swydd» Rhaglen waith a datblygu rhaglen waith bersonol» Hyfforddiant Diogelu a Lles ac ymgyfarwyddo â Pholisïau Lles a phecynnau canllawiau

Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru » Ymgyfarwyddo â Pholisi Tegwch Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru » Rhaglen waith

8.2. Cyfnod Prawf Mae Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn defnyddio cyfnod prawf o chwe mis ar gyfer pob

penodiad newydd. Bydd cynnydd a pherfformiad yn erbyn nodweddion hanfodol y rôl (fel y nodwyd yn y manylebau personol) yn pennu p’un a fydd y cyfnod prawf yn cael ei ymestyn, neu p’un a yw’r cyfnod prawf yn cael ei gadarnhau a bod yr aelod staff yn cael swydd barhaol.

9. Cadw mewn rôl ar ôl y cyfnod prawf Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn cydnabod bod cadw staff o ansawdd da, effeithiol a

gwerthfawr yn hanfodol; ac mae’n hyrwyddo cysondeb o ran gweithio mewn partneriaeth, sy’n rheswm i fuddsoddi mewn hyfforddiant a dysgu proffesiynol parhaus, ac felly gweithlu cynyddol arloesol, hynod fedrus sy’n cael ei barchu.

Bydd anghenion hyfforddi’n cael eu hamlygu trwy arfarniadau staff rheolaidd. Bydd pob un o’r staff yn cael mynediad priodol at hyfforddiant i’w galluogi i wneud cynnydd yn y sefydliad, a bydd yr holl benderfyniadau am ddyrchafiadau yn cael eu gwneud ar sail teilyngdod.

Bydd cyfansoddiad y gweithlu a dyrchafiadau yn cael eu monitro’n rheolaidd i sicrhau cyfle cyfartal ar bob lefel o’r sefydliad. Pan fo’n briodol, bydd camau’n cael eu cymryd i adnabod a dileu rhwystrau na ellir eu cyfiawnhau a bodloni anghenion arbennig grwpiau sydd dan anfantais neu grwpiau nad oes cynrychiolaeth ddigonol ohonynt.

Caiff ein hamodau gwasanaeth, buddion a chyfleusterau eu hadolygu’n rheolaidd i sicrhau eu bod ar gael i bob un o’r staff a ddylai gael mynediad atynt ac nad oes unrhyw rwystrau anghyfreithlon rhag cael mynediad atynt.

9.1. Ymrwymiad i Gadw Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn cydnabod y bydd heriau arbennig i unigolion sy’n aelodau o

grwpiau sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig ynglŷn â’r amgylchedd gwaith. Yn ystod yr Asesiad cychwynnol o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar y polisi hwn, nodwyd yr ymrwymiadau canlynol (yn

Dyddiad yr Asesiad Cychwynnol o’r Effaith ar Gydraddoldeb: 10 Ebrill 2016

Cynhelir yr Asesiad gan: Fiona Reid, Rheolwr Arloesi ChAC

Page 32: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

gysylltiedig â heriau cyffredin a nodwyd) a pholisïau y cyfeirir atynt i amlygu sut y gellir cefnogi cadw staff trwy fynd i’r afael â’r heriau cyffredin hyn yn rhagweithiol.

Er mwyn sicrhau bod staff yn cael eu cadw, mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn ymrwymo i’r canlynol, ac mae ganddynt bolisi ar waith i gefnogi’r ymrwymiadau hyn:

Tabl 1: Ymrwymiad i Gadw

Ymrwymiad ChAC yn cefnogi Polisi ac Arferion

Ymagwedd hyblyg at arferion gwaith er mwyn sicrhau cydbwysedd rhwng ymrwymiadau personol ac ymrwymiadau gwaith

» Polisi Gweithio Hyblyg: Llawlyfr Staff 2016

Cymorth a strwythurau gweithle i gefnogi gofynion newydd neu barhaus ar gydweithwyr yn eu bywyd personol neu broffesiynol

» Polisi Absenoldeb oherwydd Profedigaeth: Llawlyfr Staff 2016

» Polisi Absenoldeb Tosturiol: Llawlyfr Staff 2016

» Polisi Gweithio Gartref: Llawlyfr Staff 2016» Polisi Amser o’r Gwaith ar gyfer Pobl

Ddibynnol: Llawlyfr Staff 2016» Polisi Mamolaeth: Llawlyfr Staff 2016» Polisi Tadolaeth: Llawlyfr Staff 2016» Polisi Mabwysiadu: Llawlyfr Staff 2016» Polisi Absenoldeb Rhiant: Llawlyfr Staff 2016» Polisi Straen: Llawlyfr Staff 2016

Mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu sy’n cefnogi datblygiad sgiliau personol a phroffesiynol

» Polisi Amser o’r gwaith ar gyfer Hyfforddi: Llawlyfr Staff 2016

» Dadansoddiad o Anghenion Hyfforddi Blynyddol

» Calendr Cyfleoedd i Hyfforddi Darparu amgylchedd gweithio cynhwysol, teg a

diogel sy’n rhydd o wahaniaethu» Polisi Chwythu’r Chwiban: Llawlyfr Staff 2016» Polisi Tegwch: Llawlyfr Staff 2016» Polisi Cwyno: Llawlyfr Staff 2016» Polisi Disgyblu: Llawlyfr Staff 2016

Lleoliadau gweithle hygyrch » Polisi Gweithio Gartref: Llawlyfr Staff 2016» 4 Swyddfa Ranbarthol (Canol De Cymru, De

Orllewin Cymru, Gogledd Ddwyrain Cymru a Gogledd Orllewin Cymru)

Ffyrdd o gyfathrebu’n agored » Polisi Chwythu’r Chwiban: Llawlyfr Staff 2016» Polisi systemau gwybodaeth a chyfathrebu

electronig: Llawlyfr Staff 2016 Mynediad at gymorth gwaith » Polisi Iechyd a Diogelwch: Llawlyfr Staff 2016

Mae Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn defnyddio ymagwedd lem at achosion o dorri’r polisi hwn, ac ymdrinnir ag achosion o’r fath yn unol â’n Gweithdrefn Ddisgyblu. Bydd achosion

Dyddiad yr Asesiad Cychwynnol o’r Effaith ar Gydraddoldeb: 10 Ebrill 2016

Cynhelir yr Asesiad gan: Fiona Reid, Rheolwr Arloesi ChAC

Page 33: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

difrifol o wahaniaethu bwriadol yr un fath â chamymddwyn difrifol a byddant yn arwain at ddiswyddo.

Os credwch eich bod wedi profi achos o wahaniaethu, gallwch godi’r mater trwy ein Gweithdrefn Gwyno neu drwy ein Polisi Gwrth-Aflonyddu a Gwrth-Fwlio fel y bo’n briodol. Os ydych yn ansicr pa un sy’n berthnasol neu fod angen cyngor arnoch ar sut i fwrw ymlaen, dylech siarad â’ch rheolwr llinell, neu, os nad yw hyn yn bosibl, y Cyfarwyddwr Gweithredol. Bydd cwynion yn cael eu trin yn gyfrinachol ac ymchwilir iddynt.

Rhaid peidio ag erlid na dial unrhyw aelodau o staff sy’n cwyno am wahaniaethu. Fodd bynnag, bydd achos o wneud honiad ffug yn fwriadol ac yn anonest yn cael ei drin fel achos o gamymddwyn ac ymdrinnir â’r achos o dan ein Gweithdrefn Ddisgyblu.

9. Terfynu cyflogaeth Byddwn yn sicrhau bod meini prawf a gweithdrefnau diswyddo yn deg a gwrthrychol ac nad ydynt yn

wahaniaethol mewn ffordd uniongyrchol nac anuniongyrchol. Byddwn hefyd yn sicrhau bod gweithdrefnau disgyblu a chosbau yn cael eu cymhwyso heb

wahaniaethu, p’un a ydynt yn arwain at rybuddion disgyblu, diswyddo neu gamau disgyblu eraill.

10. Monitro I sicrhau bod y polisi hwn yn gweithredu’n effeithiol, ac amlygu grwpiau sydd dan anfantais neu nad

oes cynrychiolaeth ddigonol ohonynt o bosibl yn ein sefydliad, rydym yn monitro grŵp ethnig, rhywedd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd ac oedran ymgeiswyr fel rhan o’r weithdrefn recriwtio. Darperir y wybodaeth hon yn wirfoddol ac ni fydd yn cael effaith niweidiol ar bosibilrwydd unigolyn i gael ei recriwtio nac unrhyw benderfyniad arall sy’n gysylltiedig â’i gyflogaeth. Caiff y wybodaeth ei thynnu o geisiadau cyn llunio rhestr fer, a’i chadw mewn fformat dienw at y dibenion a nodir yn y polisi hwn yn unig. Mae dadansoddi’r data yn helpu i ni gymryd camau priodol i osgoi gwahaniaethu a gwella cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Bydd yr holl brosesau recriwtio yn cael eu monitro trwy’r prosesau canlynol:- Ymdrin â’r holiadur gydag unigolion a benodwyd o ran y broses, y cymorth a’r arferion yn eu profiad

recriwtio yn Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru - Cymharu prosesau, arferion a pholisïau Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn erbyn rhai

sefydliadau eraill tebyg yn y DU, a chyrff anllywodraethol eraill o fewn chwaraeon Cymru- Gwirio pa mor gyfoes yw’r polisi a’r weithdrefn yn unol â deddfwriaeth ac arweiniad mewn

perthynas ag arferion recriwtio da a theg- Cymeradwyo’r polisi trwy ymgynghorwyr cyfreithiol Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru,

Dolmans- Ardystio a chymeradwyo’r Polisi Recriwtio bob blwyddyn gan Fwrdd Ffederasiwn Chwaraeon

Anabledd Cymru - Cwblhawyd Asesiad Cychwynnol o’r Effaith ar Gydraddoldeb (Ebrill 2016). Dyddiad yr adolygiad

nesaf: Ebrill 2017

Dyddiad yr Asesiad Cychwynnol o’r Effaith ar Gydraddoldeb: 10 Ebrill 2016

Cynhelir yr Asesiad gan: Fiona Reid, Rheolwr Arloesi ChAC

Page 34: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

11. CyfrifoldebCyfrifoldeb pob un o’r staff sy’n cymryd rhan mewn prosesau recriwtio yw sicrhau bod arfer gorau’n cael ei gadw trwy gydol cyfnod hysbysebu, penodi ac ymsefydlu pob aelod o staff newydd yn Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru; a sicrhau eu bod wedi’u paratoi’n briodol ac yn fedrus mewn meysydd arferion recriwtio a chyfle cyfartal. Cyfarwyddwr Gweithredol Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru sydd â chyfrifoldeb yn y pen draw am ba mor gyfoes a phriodol yw Polisi Recriwtio Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru, a’i gymhwyso.

Dyddiad yr Asesiad Cychwynnol o’r Effaith ar Gydraddoldeb: 10 Ebrill 2016

Cynhelir yr Asesiad gan: Fiona Reid, Rheolwr Arloesi ChAC

Page 35: Hafan · Web viewMae’r broses o adnabod yr angen am y rôl i benodi, monitro ac adolygu wedi’i nodi isod ar ffurf diagram. Mae rhagor o fanylion am bob cam o’r broses wedi’u

Atodiad 1: Diagram Llif Polisi Chwaraeon Anabledd Cymru

14 | T u d a l e n

Polisi Tegwch

Strategaeth Amrywiaeth

Gwerthoedd ac Ymddygiadau Corfforaethol

Polisïau ADSafonau PersonolCod GwisgTreuliauPolisi Absenoldeb oherwydd SalwchPolisi Dim YsmyguPolisi Camddefnyddio Sylweddau

Iechyd a DiogelwchPolisi ynghylch Problemau Teithio pan fydd Tywydd Garw Polisi Iechyd a DiogelwchPolisi Gyrru

LlesPolisi Chwythu'r ChwibanPolisi Diogelu a Lles PlantPolisi Diogelu a Lles Oedolion sydd mewn PeryglPolisi MamolaethPolisi TadolaethPolisi MabwysiaduPolisi Absenoldeb RhiantPolisi StraenPolisi Diogelu DataPolisi Absenoldeb oherwydd ProfedigaethPolisi Absenoldeb TosturiolPolisi Gweithio HyblygPolisi Gweithio GartrefPolisi Amser o'r gwaith ar gyfer Pobl Ddibynnol

TGPolisi Cyfryngau CymdeithasolPolisi Systemau Gwybodaeth a Chyfathrebu Electronig

CyflogaethPolisi RecriwtioRheolau DisgybluPolisi DisgybluPolisi CwynoGweithdrefn GalluPolisi DiswyddoPolisi YmddeolPolisi Amser o'r gwaith ar gyfer HyfforddiPolisi Amser o'r gwaith ar gyfer Dyletswyddau Cyhoeddus