web viewmae sgrinio yn broses o nodi pobl sy'n ymddangos yn iach a all fod mewn mwy o berygl o...

23

Upload: duonghuong

Post on 06-Feb-2018

222 views

Category:

Documents


2 download

TRANSCRIPT

Page 1: Web viewMae sgrinio yn broses o nodi pobl sy'n ymddangos yn iach a all fod mewn mwy o berygl o glefyd neu gyflwr. Yna gellir cynnig gwybodaeth, profion pellach a
Page 2: Web viewMae sgrinio yn broses o nodi pobl sy'n ymddangos yn iach a all fod mewn mwy o berygl o glefyd neu gyflwr. Yna gellir cynnig gwybodaeth, profion pellach a

© 2016 Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru.Gellir atgynhyrchu deunydd yn y ddogfen hon o dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored

www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/ ar yr amod ei fod yn gywir ac nad yw’n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol) Cydnabyddiaeth i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael ei ddatgan. Mae hawlfraint y trefniant

teipograffyddol, dyluniad a gosodiad yn eiddo i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Teitl: Adroddiad Blynyddol Cymru Gyfan Adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru Rhagfyr 2016. ISBN 978-1-910768-37-2

Page 3: Web viewMae sgrinio yn broses o nodi pobl sy'n ymddangos yn iach a all fod mewn mwy o berygl o glefyd neu gyflwr. Yna gellir cynnig gwybodaeth, profion pellach a

Gwella ansawdd, cydraddoldeb ac effeithiolrwydd gwasanaethau gofal iechyd

Iechyd a llesiant gwell a llai o anghydraddoldebau iechyd

Adroddiad Blynyddol Cymru GyfanYr Adran Sgrinio

Iechyd Cyhoeddus Cymru Rhagfyr 2016

CynnwysCyflwyniad Tudalen 1Crynodeb Cymru Gyfan Tudalen 2-3Ymgysylltu ag eraill Tudalen 4-6Bron Brawf Cymru Tudalen 7Sgrinio Coluddion Cymru Tudalen 8Sgrinio Serfigol Cymru Tudalen 9Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru Tudalen 10Rhaglenni Sgrinio Mamau a Phlant Tudalen 11-13Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru Tudalen 13-14Rhagolwg Tudalen 15Rhagor o wybodaeth a chysylltiadau Tudalen 15

CyflwyniadMae sgrinio yn broses o nodi pobl sy'n ymddangos yn iach a all fod mewn mwy o berygl o glefyd neu gyflwr. Yna gellir cynnig gwybodaeth, profion pellach a thriniaeth briodol iddynt i leihau eu risg a/neu gymhlethdodau sy'n codi o'r clefyd neu'r cyflwr. Mae'r Adran Sgrinio yn cyflwyno'r saith rhaglen sgrinio genedlaethol yng Nghymru:

1. Bron Brawf Cymru2. Sgrinio Coluddion Cymru3. Sgrinio Serfigol Cymru4. Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru5. Sgrinio Clyw Babanod Cymru6. Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru 7. Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru

ac mae'n rheoli rhwydwaith clinigol Sgrinio Cyn Geni Cymru.

Mae'r Adran Sgrinio yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Iechyd Cyhoeddus Iechyd Cyhoeddus Cymru. Fel rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn ymrwymedig i'r weledigaeth o gyflawni Cymru iachach, hapusach a thecach. Rydym yn chwarae rôl benodol mewn dau o ymrwymiadau allweddol y sefydliad:

Yn ogystal, mae gan yr Adran rôl benodol wrth gyflawni blaenoriaeth strategol 6 Iechyd Cyhoeddus Cymru:

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno'r data diweddaraf sydd ar gael am y rhaglenni sgrinio dros flwyddyn ariannol 2015/2016. Mae'r naratif yn cynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â'r rhaglenni sydd wedi'i diweddaru ar adeg cyhoeddi, felly nid yw'n cwmpasu'r un amserlen yn union. Mae’r adroddiad yn adeiladu ar adroddiadau blaenorol yn ymwneud â data 2014/15. Mae'r holl ddata yn yr adroddiad wedi'u darparu gan yr Adran Wybodeg, Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Diogelu’r cyhoedd a gwella’n barhaus ansawdd, diogelwch ac effeithiolrwydd y gwasanaethau rydym yn eu darparu.

Page 4: Web viewMae sgrinio yn broses o nodi pobl sy'n ymddangos yn iach a all fod mewn mwy o berygl o glefyd neu gyflwr. Yna gellir cynnig gwybodaeth, profion pellach a

Crynodeb Cymru Gyfan Mae Adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru’n rheoli’r saith rhaglen sgrinio genedlaethol sy’n seiliedig ar boblogaeth yng Nghymru ac yn cynnal y Rhwydwaith Clinigol Sgrinio Cyn Geni. Mae targedau gofynnol ar gyfer y nifer a gaiff eu sgrinio/cwmpas yn cael eu pennu ar gyfer pob un o’r rhaglenni sgrinio ac eithrio Sgrinio Llygaid Diabetig (gweler yn ddiweddarach).

Tabl crynodeb

Tabl: Ffigurau'r nifer a gafodd eu sgrinio/cwmpas Cymru, 2015/16

Nifer sy’n gymwys/a

wahoddwyd

Nifer a brofwyd

Y nifer a gafodd eu

sgrinio/cwmpas

Newid o 2014/15

Y Nifer a gafodd brawf Sgrinio'r Fron-      isafswm safon 70% 144,529 102,815 72.5% +0.1%Y nifer a gafodd brawf Sgrinio Coluddion-      Targed 60% 281,082 152,794 54.4% +3.6%Cwmpas Sgrinio Serfigol-      Targed 80% 264,705 190,614 77.8% -0.2%Y nifer a gafodd brawf Sgrinio Ymlediadau-      Targed 80% 17,087 13,509 79.1% +4.7%Sgrinio Clyw Babanod -      Targed 95% 33,787 33,622 99.5% 0.0%

Adran Wybodeg, Iechyd Cyhoeddus Cymru.

* Y niferoedd a gyflwynodd ar gyfer sgrinio serfigol a sgrinio'r fron yw nifer y menywod a wahoddwyd ac a brofwyd yn 2014/15. Maent yn ymwneud â'r nifer gafodd prawf sgrinio'r fron yn y cylch diweddaraf, ac mae cwmpas sgrinio serfigol yn dangos cyfran y menywod 25-64 oed sydd wedi cael prawf ceg y groth yn y 5 mlynedd diwethaf.

Mae'r nifer sy'n derbyn sgrinio Clyw Babanod yn parhau'n uchel iawn. Mae'r nifer sy'n derbyn sgrinio coluddyn wedi dangos cynnydd sylweddol o gymharu â'r flwyddyn flaenorol (3.6%), ac mae cyfraddau sgrinio'r fron wedi cynyddu ychydig (0.1%). Dyma'r drydedd flwyddyn yn olynol lle rydym wedi gweld cynnydd yn y nifer sy'n derbyn sgrinio'r fron yng Nghymru. Er yr ymddengys y bu cynnydd yn y nifer a gafodd eu sgrinio am Ymlediad Aortaidd yn yr Abdomen, nid yw'n bosibl cymharu'r nifer a gafodd eu sgrinio yn 2015-16 â blynyddoedd blaenorol oherwydd bod y dull cyfrifo wedi newid. Gwelir gostyngiad bach yn y nifer a dderbyniodd sgrinio serfigol o gymharu â 2014-15.

Cyflawniadau allweddol yn 2016• Mae'r peilot Gwasanaeth Polypectomi Cymhleth yn lleihau'r angen am lawdriniaeth ar gyfer afiechyd anfalaen a ganfyddir gan Sgrinio Coluddion Cymru.• Mae astudiaethau peilot wedi dangos y gall allgymorth gofal sylfaen gynyddu'r nifer sy'n cael eu sgrinio o blith y rhai nad ydynt yn ymateb i'r gwahoddiad i sgrinio ar gyfer canser y coluddyn.•Mae gwybodaeth sgrinio reolaidd yn cael ei hanfon at feddygon teulu drwy GPUn.• Mae archwiliadau o ganolfannau sgrinio'r fron i bobl â nam ar y synhwyrau yn datgelu adborth pwysig ar sut i wella'r gwasanaeth a ddarperir.•Mae gwaith gwella gwasanaeth a ddygir ymlaen i 2016 wedi cynyddu nifer y clinigau asesu'r fron a'u heffeithlonrwydd. • Mae Sgrinio Serfigol Cymru yn parhau â'r broses o ehangu profi Feirws Papiloma Dynol yng Nghymru. Ym mis Hydref 2015, cwblhawyd y broses o gyflwyno'r prawf gwella Feirws Papiloma

Page 5: Web viewMae sgrinio yn broses o nodi pobl sy'n ymddangos yn iach a all fod mewn mwy o berygl o glefyd neu gyflwr. Yna gellir cynnig gwybodaeth, profion pellach a

Dynol, ac ym mis Mai 2016, cyflwynwyd Brysbennu Feirws Papiloma Dynol i fenywod â chanlyniadau ffiniol/gradd isel.• Ym mis Chwefror 2016, dechreuodd Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru sgrinio dynion yng ngharchar y Parc. • Ymunodd Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Ebrill 2016 a daeth yn wasanaeth pwysig a ddarperir gan yr Adran Sgrinio.

Anghydraddoldeb wrth Gymryd Rhan.

Mae anghydraddoldeb wrth gymryd rhan mewn sgrinio wedi'i ddangos ledled Cymru, gyda chyfranogiad ar gyfer yr holl raglenni sgrinio yn gostwng gyda chynnydd mewn amddifadedd. Mae’n ddiddorol nodi nad oes gwahaniaeth nodedig yn ôl amddifadedd yn y nifer a gafodd eu sgrinio ar gyfer y rhaglen sgrinio clyw babanod. Yn y rhaglen hon, mae'r nifer a gafodd eu sgrinio yn uchel ar draws yr holl grwpiau.

Adran Wybodeg, Iechyd Cyhoeddus Cymru.

O gymharu â 2014/15, mae'r cyfraddau derbyn ar gyfer y cwintel amddifadedd isaf o ran sgrinio'r Coluddyn wedi cynyddu yn 2015/16. At hynny, mae'r gwahaniaeth yn y cyfraddau derbyn rhwng y cwintelau uchaf ac isaf yn culhau. Gwelir tuedd i'r gwrthwyneb ar gyfer sgrinio'r fron a serfigol lle mae'r cyfraddau derbyn yn y cwintelau amddifadedd isaf wedi gostwng eleni ac mae'r bwlch y cwintelau uchaf ac isaf

wedi ehangu ychydig hefyd. Nid oes gwahaniaeth yn y cyfraddau derbyn ar gyfer Sgrinio Clyw Babanod.

Nid yw’n bosibl cymharu'r nifer a gafodd eu sgrinio ar gyfer ymlediadau aortig abdomenol a'r anghydraddoldeb wrth gymryd rhan â'r blynyddoedd blaenorol oherwydd bu newid yn y dull o gyfrifo cyfraddau derbyn dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn parhau'n flaenoriaeth allweddol inni yn yr Adran Sgrinio. Eir i’r afael â’r gwahaniaethau annheg hyn yn strategol ac yn weithredol gan weithio gyda phartneriaid a defnyddwyr gwasanaeth. Ymhelaethir ar hyn nes ymlaen yn yr adroddiad.

Gweithio gyda Byrddau IechydMae gan yr Adran Sgrinio Gytundeb Hirdymor gyda phob bwrdd iechyd ac mae hefyd yn prynu nifer o sesiynau ymgynghorol i gefnogi cyflwyno sgrinio'r fron, serfigol a choluddion. Ceir rhai pryderon ynghylch cynaliadwyedd mewn rhai o’r ardaloedd lle mae Byrddau Iechyd yn darparu gwasanaethau y mae’r Adran Sgrinio yn dibynnu arnynt. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys radioleg y fron, colonosgopi a gwasanaethau colposgopi, gwasanaethau labordy, a gwasanaethau patholeg, yn enwedig histoleg. Mae rhai problemau recriwtio mewn rhai disgyblaethau diagnostig allweddol, sy’n cyfyngu ar allu ac yn cael effaith ar y rhaglenni amrywiol. Gallai hyn beryglu cyflwyno sgrinio ac mae’n effeithio ar brydlondeb y gwasanaeth.

Page 6: Web viewMae sgrinio yn broses o nodi pobl sy'n ymddangos yn iach a all fod mewn mwy o berygl o glefyd neu gyflwr. Yna gellir cynnig gwybodaeth, profion pellach a

Ymgysylltu ag eraill am sgrinioYmgysylltu â’r boblogaeth gymwys am sgrinio

Gwybodaeth Gyhoeddus Eleni, gan ymateb i'r galw gan randdeiliaid, datblygodd y Tîm Ymgysylltu â Sgrinio daflen sgrinio newydd sy'n cyfuno gwybodaeth gradd am bob rhaglen sgrinio genedlaethol, ynghyd â manylion cyfeirio i gael rhagor o wybodaeth. Mae'r daflen hefyd yn cynnwys negeseuon allweddol ehangach am ffordd o fyw yn iachus i helpu i leihau'r risg o glefydau ac mae'n annog cymryd rhan mewn ‘sgyrsiau iach’.

Cafodd y daflen ei lledaenu i amrywiaeth eang o randdeiliaid yn ystod ymgyrch Sgrinio am Oes eleni ac mae ar gael ar ein gwefan Sgrinio am Oes mewn fersiynau Word a sain. Mae'r ddelwedd ganlynol yn dangos y Daflen Sgrinio'r Fron – mae taflenni sy'n ymwneud â rhaglenni eraill ar gael o'n gwefan.

(http://www.cervicalscreeningwales.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/1032/Generic%20Leaflet%20Welsh.pdf).

Tîm Ymgysylltu â Sgrinio

Rôl y Tîm Ymgysylltu â Sgrinio yw codi ymwybyddiaeth o sgrinio a hyrwyddo dewis hyddysg. Mae’r tîm yn gweithio ar draws yr holl raglenni sgrinio ac ar draws y boblogaeth gyfan, ond yn targedu ei ymdrechion at grwpiau a chymunedau lle rydym yn gwybod bod y nifer a gaiff eu sgrinio yn isel. Mae llawer o waith yn cael ei wneud i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn y gymuned, gyda phartneriaid sy’n cynnwys sefydliadau trydydd sector a Chymunedau yn Gyntaf. Mae enghreifftiau o brosiectau a gynhaliwyd yn y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys:

6

Sgrinio'r Fron am y Tro CyntafDros y blynyddoedd diwethaf mae Bron Brawf Cymru wedi gweld gostyngiad yn nifer y menywod sy'n derbyn sgrinio ar ôl cael eu gwahodd am y tro cyntaf, heb dystiolaeth glir o'r rhesymau am hyn. Cynhaliwyd prosiect ‘Tro Cyntaf’ Bron Brawf Cymru i nodi ffactorau posibl a all ddylanwadu ar benderfyniadau menywod i gymryd rhan mewn sgrinio.

Links to Key messages: Y fron Coluddion Serfigol Ymlediadau Aortig

Abdomenol Sgrinio Cyn Geni Smotyn Gwaed Newydd-

anedig a Sgrinio Clyw Babanod

Gwerthuswyd gwasanaethau ledled Cymru i nodi ffactorau sy'n dylanwadu ar bresenoldeb neu ddiffyg presenoldeb menywod yn y rownd bennaf o sgrinio. Mabwysiadodd yr astudiaeth ddull ansoddol gan ddefnyddio cyfweliadau lled-strwythuredig o 29 o fenywod 48-52 oed ledled Cymru. Ymhlith y rhwystrau posibl i bresenoldeb roedd: ofn y prawf, ofn yr anhysbys, embaras, a diffyg hyder o ran dibynadwyedd canlyniadau. Er bod y gallu i adnabod y brand ac ymwybyddiaeth gyffredinol am y gwasanaeth yn uchel, roedd gwybodaeth am y llwybr sgrinio a'r broses yn gyfyngedig iawn.

Page 7: Web viewMae sgrinio yn broses o nodi pobl sy'n ymddangos yn iach a all fod mewn mwy o berygl o glefyd neu gyflwr. Yna gellir cynnig gwybodaeth, profion pellach a

7

Ymgyrch Poster a Mat Diod Ymlediadau Gweithiodd y Tîm gyda Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru i ddatblygu Ymgyrch Poster a Mat Diod, a gynhaliwyd gyda chefnogaeth Undeb Rygbi Cymru (URC) yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Gwnaeth cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru a'r Llewod, JJ Williams, weithio gyda’r Tîm Ymgysylltu â Sgrinio i greu ffilm, a gwnaeth chwaraewr rhyngwladol presennol Cymru, Dr Jamie Roberts, roi ei gefnogaeth drwy ffilm ar wahân, gan gymeradwyo'r rhaglen ac annog dynion i fynd am sgan.

Screening for Life.

Cafodd y ffilmiau eu postio ar dudalen Facebook Sgrinio am Oes yn ystod y Gêm rhwng Cymru a'r Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ac yna drwy gydol y twrnamaint. Yn ogystal, mae'r ffilmiau wedi'u hymgorffori ar wefan Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol fel nodwedd hirdymor. Fel rhan o'r ymgyrch, cafodd posteri a matiau diod yn cynnwys gwybodaeth bwysig am sgrinio ymlediadau aortig abdomenol eu hanfon i 320 o glybiau rygbi ledled Cymru. Gwnaeth staff o'r Tîm Ymgysylltu â Sgrinio hefyd ymuno â staff Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol yng ngêm Cymru yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ym mis Chwefror.

Drwy gydol mis Gorffennaf, cynhaliodd y Tîm Ymgysylltu â Sgrinio ei bedwaredd ymgyrch ‘Sgrinio am Oes’ flynyddol.

Anfonwyd pecyn ymgyrch at dros 4,000 o randdeiliaid ledled Cymru, aeth dros 1,000 o bobl i ddigwyddiadau a chyrhaeddwyd dros 400,000 o bobl drwy'r ymgyrch cyfryngau cymdeithasol. I gynorthwyo thema eleni ‘chwalu rhwystrau’ datblygwyd cyfres o negeseuon cwestiwn ac ateb ar Facebook a'u lanlwytho drwy gydol y mis. Cafodd astudiaethau achos eu datblygu hefyd i ddangos pwysigrwydd mynd i gael eich sgrinio. Gwnaeth aelodau o'r cyhoedd a oedd wedi goresgyn rhwystrau personol ac wedi cael budd o sgrinio rannu eu straeon a chafodd y straeon hyn eu rhannu drwy gyfryngau cymdeithasol.

http://www.screeningforlife.wales.nhs.uk/hafan

Page 8: Web viewMae sgrinio yn broses o nodi pobl sy'n ymddangos yn iach a all fod mewn mwy o berygl o glefyd neu gyflwr. Yna gellir cynnig gwybodaeth, profion pellach a

Ymgysylltu â phobl sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth

Rydym yn awyddus i gasglu, dadansoddi a defnyddio adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth am eu profiad o sgrinio. Mae hyn yn ein helpu i wella’r gwasanaeth a ddylai, yn ei dro, helpu i gynyddu’r nifer sy'n cael eu sgrinio. Cesglir adborth drwy holiaduron, cwynion a chanmoliaethau a roddir mewn ffyrdd eraill a chesglir straeon cleifion hefyd. Mae straeon cleifion yn ddefnyddiol i’r rhaglenni ddysgu ganddynt ac maent yn helpu gydag ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth a phartneriaid eraill. Mae nifer o adnoddau ar y we ar gael i ddarparu gwybodaeth am sgrinio i grwpiau penodol o ddefnyddwyr gwasanaethau gan gynnwys pobl ag anableddau dysgu, gofalwyr, a phobl â nam ar y clyw. Daw'r ddelwedd ganlynol o ffilm “Youtube” ar ein gwefan sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain i hysbysu pobl â nam ar y clyw am y rhaglen sgrinio coluddion. (http://www.bowelscreening.wales.nhs.uk/gwybodaeth-hygyrch).

Hyrwyddwyr Sgrinio

Mae'r prosiect Hyrwyddwr Sgrinio yn fenter Cymru Gyfan sydd wedi'i datblygu gan y Tîm Ymgysylltu â Sgrinio. Nod y prosiect yw lleihau anghydraddoldebau iechyd a mynediad i raglenni sgrinio'r GIG yng Nghymru, yn benodol o fewn grwpiau lleiafrifol a gweithleoedd. Mae gweithredu'r rôl Hyrwyddwr Sgrinio yn cyd-fynd â chynllun strategol Iechyd Cyhoeddus Cymru 2015 - 2018 i weithio gyda’n chymunedau a'n partneriaid i wella iechyd y boblogaeth.

Er mwyn dod yn Hyrwyddwr Sgrinio, mae angen i unigolion ymgymryd â hyfforddiant ymwybyddiaeth o sgrinio a ddarperir gan y Tîm Ymgysylltu â Sgrinio. Mae'r hyfforddiant hwn wedi'i deilwra i anghenion y grŵp ac mae'n cymhwyso unigolion i gael eu cofrestru fel Hyrwyddwyr Sgrinio am ddwy flynedd. Mae'r hyfforddiant ymwybyddiaeth yn cwmpasu negeseuon allweddol am y rhaglenni sgrinio i oedolion a throsolwg o rôl yr Hyrwyddwr Sgrinio gan gynnwys syniadau am sut i ymgysylltu â'r gymuned am sgrinio.

Mae rhai o'n hyrwyddwr sgrinio wedi'u recriwtio o BAWSO (Cymdeithas Camu Allan i Fenywod Du), SBREC (Cyngor Cydraddoldeb Hiliol Bae Abertawe), WEN (Rhwydwaith Ethnig Cymru), Cymdeithas Tai Abertawe a Phrosiect Gofalwyr Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe, Pobl yn Gyntaf Caerdydd a Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi.

Ymgysylltu â Gweithwyr Proffesiynol am sgrinio

Mae ein partneriaid allweddol yn cynnwys gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol. Er bod eu rôl uniongyrchol mewn sgrinio’n amrywio rhwng rhaglenni (e.e. cynnal profion ceg y groth yn Sgrinio Serfigol Cymru o’i gymharu â derbyn canlyniadau yn Sgrinio Coluddion Cymru) mae rôl bwysig o hyd wrth godi ymwybyddiaeth ac ateb cwestiynau. Rydym yn gweithio i gryfhau ein cysylltiadau â chlystyrau gofal sylfaenol, gan weithio gyda'n partneriaid yn y Timau Iechyd Cyhoeddus Lleol, oherwydd bod ganddynt wybodaeth a chysylltiadau lleol.Fel rhan o’i ymdrechion i gryfhau cysylltiadau â Gofal Sylfaenol, mae Tîm Ymgysylltu â Sgrinio wedi datblygu Taflen Ffeithiau fanwl, wedi'i chynllunio i hysbysu Clystyrau Gofal Sylfaenol a rhoi'r newyddion a'r datblygiadau diweddaraf iddynt o'r Adran Sgrinio. Mae'r bwletin yn cael ei anfon yn chwarterol at dimau iechyd cyhoeddus lleol i'w ddosbarthu a'i drafod mewn cyfarfodydd Clwstwr lleol.

8

Page 9: Web viewMae sgrinio yn broses o nodi pobl sy'n ymddangos yn iach a all fod mewn mwy o berygl o glefyd neu gyflwr. Yna gellir cynnig gwybodaeth, profion pellach a

Bron Brawf Cymru Mae Bron Brawf Cymru yn parhau i adeiladu ar y perfformiad cryf a gyflawnwyd yn 2015. Yn dilyn gweithredu mamograffeg ddigidol yn 2013, mae hyd y rowndiau wedi gwella'n sylweddol. Mae hyn wedi'i gyflawni drwy gynllunio gofalus a sicrhau bod yr holl leoedd am apwyntiadau'n cael eu defnyddio'n effeithlon. Daw 11eg uned sgrinio'r fron symudol yn weithredol yn 2017, gan gynorthwyo ymhellach y targed hyd rownd 36 mis ac ychwanegu mwy o wytnwch i'r gwasanaeth.

Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi cyflawni'n gyson y targed pythefnos ar gyfer canlyniadau. Gall aros am ganlyniadau fod yn amser pryderus iawn a byddwn yn ceisio cyhoeddi canlyniadau cyn gynted â phosibl i leihau unrhyw bryder pellach sy'n gysylltiedig â chael mamograffeg sgrinio.Mae canlyniadau gwaith gwella’r gwasanaeth a gynhaliwyd yn 2015 i ystyried amseroedd aros ar gyfer asesu wedi'i barhau i 2016. Rydym wedi cynyddu nifer ac effeithlonrwydd y clinigau asesu a ddarparwn; mae hyn yn golygu nad yw menywod yn gorfod aros mor hir os bydd angen profion pellach arnynt yn dilyn mamogram annormal.

Mae'r nifer sy'n cael sgrinio mamograffeg yn parhau'n gyson. Mae Cymru yn rhagori ar y safon ofynnol o 70% ac mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos ychydig bach o gynnydd yn y ganran o fenywod cymwys sy'n cael eu sgrinio (72.5%) o gymharu â blynyddoedd blaenorol. Mae Bron Brawf Cymru yn adolygu'r safleoedd y mae ei hunedau sgrinio'r fron yn ymweld â hwy yn gyson er mwyn gwirio eu haddasrwydd i ddarparu mynediad cyfleus i fenywod. Ceir gwaith parhaus sy'n ystyried y rhwystrau a wynebir gan fenywod pan maent yn cael eu gwahodd i sgrinio'r fron am y tro cyntaf mewn ymdrech i wella'r nifer sy'n ymateb i'r gwahoddiadau cyntaf.

Un o’r heriau mwyaf a wynebir gan y gwasanaeth yw proffil oedran y gweithlu. Dylai cynllunio'r gweithlu ar gyfer gwasanaethau'r fron gael ei

flaenoriaethu ar draws Byrddau Iechyd wrth i staff profiadol iawn agosáu at oedran ymddeol.

9

Y nifer a gafodd eu sgrinio yng Nghymru (2015/16) : 72.5%

(Cymru 2014/15 – 72.4%)

Ffeithiau Allweddol

Nod: Nod y rhaglen sgrinio'r fron yw lleihau afiachusrwydd a marwolaeth o ganser y fron.

Poblogaeth Gymwys: Menywod 50-70 oed sy’n byw yng Nghymru ac wedi’u cofrestru gyda meddyg teulu

Prawf: Gwahoddir menywod cymwys am famogram (pelydr X o’r fron) bob tair blynedd.

Targed: Y safon ofynnol yw 70% o fenywod a wahoddir i gael eu sgrinio a’r targed yw 80%.

Page 10: Web viewMae sgrinio yn broses o nodi pobl sy'n ymddangos yn iach a all fod mewn mwy o berygl o glefyd neu gyflwr. Yna gellir cynnig gwybodaeth, profion pellach a

Sgrinio Coluddion Cymru Nid yw'r nifer a gafodd brawf sgrinio coluddion yn cyflawni'r targed 60% yng Nghymru, ac mae ymyriadau i fynd i’r afael â hyn wedi bod yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer y rhaglen eleni. Rydym wedi gweithio gyda thimau clwstwr gofal sylfaenol mewn tri Bwrdd Iechyd yng Nghymru i dreialu ffyrdd o annog pobl nad ydynt wedi dychwelyd eu pecyn prawf. Mae'r

cynlluniau peilot hyn wedi cynhyrchu data gwerthfawr a fydd yn llywio datblygiad ymyriadau yn y dyfodol. Mae’r graff uchod yn dangos y nifer o ran sgrinio coluddion ar gyfer 2015/16 yn ôl amddifadedd a hefyd yn ôl rhyw. Dengys fod y nifer a gafodd eu sgrinio yn is

ymhlith pobl fwy amddifad, ond hefyd bod y nifer a gafodd eu sgrinio yn gyson is ymhlith dynion ar draws pob grŵp. Mae'r nifer a gafodd eu sgrinio ar ei isaf ymhlith dynion yn y grŵp mwyaf amddifad a dyma’r un grŵp sydd fwyaf tebygol o gael canser y coluddyn. Golyga hyn mai’r rhai mwyaf tebygol o gael budd o sgrinio yw’r rhai lleiaf tebygol o gymryd rhan. Rydym wedi cyflwyno llythyr rhagarweiniol i ddynion, a anfonir cyn y gwahoddiad cyntaf i sgrinio'r coluddyn. Cafodd hyn ei lywio gan dreial ar hap wedi'i reoli mewn partneriaeth ag Ymchwil Canser y DU a ddangosodd welliant sylweddol o ran nifer y dynion a gafodd eu sgrinio pan gafodd llythyr ei anfon cyn y gwahoddiad i sgrinio.

Mae amseroedd aros colonosgopi wedi bod yn faes ffocws allweddol arall ac mae'r tîm Sgrinio Coluddion Cymru wedi gweithio'n agos gyda thimau'r Ganolfan Asesu Leol i leihau'r amser mae cyfranogwyr yn aros am golonosgopi i gydymffurfio â safon Sgrinio Coluddion Cymru, sef 28 diwrnod o'r adeg y bydd cyfranogwr yn cysylltu â Sgrinio Coluddion Cymru i drefnu apwyntiad asesu yn dilyn canlyniad prawf sgrinio positif hyd at adeg eu colonosgopi sgrinio. Mae amseroedd aros am golonosgopi wedi gwella'n sylweddol dros y deuddeg mis diwethaf. Mae Sgrinio Coluddion Cymru hefyd yn gweithio gyda Grŵp Gweithredu Endosgopi Llywodraeth Cymru i gynyddu gallu ac adnoddau ar gyfer endosgopi ledled Cymru.

Mae tîm prosiect wedi'i sefydlu i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gweithredu Prawf Ymgarthol Imiwnocemegol llinell gyntaf, ac mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn inni weithredu hyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Mae hwn yn ddatblygiad newydd cyffrous a fydd yn galluogi Sgrinio Coluddion Cymru i wella cyfraddau canfod canser a pholyp. Dangoswyd bod y prawf hwn yn gwella'n sylweddol y nifer sy'n cael eu sgrinio ac mae Sgrinio Coluddion Cymru wedi ymgysylltu â thimau Byrddau Iechyd Lleol i gynorthwyo wrth gynllunio i wella ymhellach o ran y gallu ac adnoddau colonosgopi gan ystyried gweithredu. Mae Asesiad Effaith Cydraddoldeb cyfranogol cyflym wedi'i gynnal i asesu effaith gweithredu prawf newydd ar garfanau amrywiol yn ein poblogaeth. Ein nod yw gallu gweithredu'r prawf newydd yn ystod 2018-19. Mae'r peilot Gwasanaeth Polypectomi Cymhleth wedi llwyddo i leihau'r angen am lawdriniaeth ar gyfer clefyd anfalaen a ganfyddir gan y rhaglen sgrinio wrth gynnig gwasanaeth teg ledled Cymru i gyfranogwyr. Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei integreiddio â'r rhaglen cyn bo hir ac yn dod yn amodol i rheolau perfformiad a sicrwydd ansawdd yn unol â fframweithiau Sgrinio Coluddion Cymru. Mae'r grŵp ymchwil a gwerthuso'r rhaglen yn parhau i gyfarfod ac mae'n datblygu cynlluniau ar gyfer astudiaethau ymchwil a gwerthuso. Mae llawer yn mynd rhagddynt ac mae rhagor wedi'u cynllunio eleni.

10

58.7%

44.2%

64.0%

45.1%

0%10%20%30%40%50%60%70%80%

Q1 - least deprived

Q2 Q3 Q4 Q5 - most deprived

Bowel Screening Uptake by Deprivation and Gender, Wales

2015/16

Male

Female

Y nifer a gafodd eu sgrinio yng Nghymru (2015/16) : 54.4%

(Cymru 2014/15 – 50.8%)

Ffeithiau AllweddolNod: Nod y rhaglen sgrinio coluddion yw lleihau afiachusrwydd a marwolaeth o ganser y coluddyn.Poblogaeth Gymwys: Dynion a menywod 60-74 oed sy’n byw yng Nghymru ac wedi cofrestru gyda meddyg teulu Prawf: Anfonir pecyn prawf at ddynion a menywod cymwys i’w gwblhau gartref, bob dwy flynedd.Targed: Y targed yw 60% o'r dynion a'r menywod a wahoddir i gymryd rhan mewn sgrinio.

Clip o'n fideo Youtube ar Sgrinio Coluddion (http://www.bowelscreening.wales.nhs.uk/gwybodaeth-hygyrch)

Page 11: Web viewMae sgrinio yn broses o nodi pobl sy'n ymddangos yn iach a all fod mewn mwy o berygl o glefyd neu gyflwr. Yna gellir cynnig gwybodaeth, profion pellach a

Sgrinio Serfigol Cymru

Mae cwmpas y nifer a gafodd sgrinio serfigol ledled Cymru’n agos iawn at y targed, sef 80%, sy’n golygu bod bron wyth o bob deg menyw yng Nghymru wedi cael eu sgrinio yn y pum mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, eleni bu gostyngiad bach, yn unol â’r duedd a welir mewn gwledydd eraill. Mae'r Rhaglen yn gweithio'n agos gyda'r cydlynwyr Iechyd a Llesiant yn y Byrddau Iechyd lleol i ystyried cyfleoedd i weithio drwy glystyrau meddygon teulu a phractisau unigol i gynyddu ymwybyddiaeth a mynediad yn y boblogaeth leol a chynyddu’r nifer y menywod sy'n mynd i gael profion sgrinio serfigol.

Mae amseroedd aros am ganlyniadau profion sgrinio wedi gwella ledled Cymru yn y deuddeg mis diwethaf.

Mae Sgrinio Serfigol Cymru yn parhau gydag ehangu profi Feirws Papiloma Dynol yng Nghymru. Ym mis Mai 2016, cyflwynwyd Brysbennu Feirws Papiloma Dynol risg uchel i fenywod â chanlyniadau ffiniol/gradd isel. Byddwn yn cyflwyno peilot o brofi sylfaenol Feirws Papiloma Dynol ledled Cymru ym mis Ebrill 2017. Bydd hyn yn darparu gwybodaeth i lywio'r cynllunio ar gyfer profi sylfaenol llawn Feirws Papiloma Dynol ledled Cymru. Mae'r cynllun peilot wedi'i fwriadu i gwmpasu 20% o'r menywod a wahoddwyd yn 2017/18. Mae hyn yn cyfateb i tua 28,000 o fenywod.

Mae Practisau Cyffredinol wedi'u gwahodd i wneud datganiad o ddiddordeb i gyfranogi yn y cynllun peilot. Bydd y cynllun peilot yn ceisio cynnwys practisau o bob rhan o'r tri rhanbarth yng Nghymru: y de-ddwyrain; y canolbarth a'r gorllewin; a gogledd Cymru. Bydd y model hwn yn ystyried gwahanol ddemograffeg ledled Cymru a bydd hefyd yn sicrhau bod pob uned Golposgopi yn cael ei chynnwys yn y cynllun peilot.

Yn dilyn penderfyniad Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU i gymeradwyo'r prawf Feirws Papiloma Dynol fel y prif brawf sgrinio serfigol, gofynnodd Llywodraeth Cymru i ni gynllunio ar gyfer ei weithredu yng Nghymru. Disgwylir i hyn ddigwydd yn 2018-19.

Clip o'n fideo youtube ar Sgrinio Serfigol

11

Ffeithiau AllweddolNod: Nod y rhaglen sgrinio serfigol yw lleihau nifer yr achosion o ganser serfigol a'r marwolaethau o ganlyniad iddo.Poblogaeth Gymwys: Gwahoddir menywod 25-49 oed bob 3 blynedd a gwahoddir menywod 50-64 oed bob 5 mlynedd.Prawf: Gwahoddir menywod cymwys i wneud apwyntiad am sgrinio serfigol yn eu meddygfa deulu neu eu clinig iechyd rhywiol.Targed: Y targed yw 80% o fenywod cymwys i gymryd rhan mewn sgrinio.

Cwmpas Cymru (2015/16) : 77.8%

(Cymru 2014/15 – 78.0%)

(http://www.cervicalscreeningwales.wales.nhs.uk/gwybodaeth-hygyrch)

Page 12: Web viewMae sgrinio yn broses o nodi pobl sy'n ymddangos yn iach a all fod mewn mwy o berygl o glefyd neu gyflwr. Yna gellir cynnig gwybodaeth, profion pellach a

Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru Lansiwyd Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru ym mis Mai 2013 a dyma’r ddiweddaraf o’r rhaglenni oedolion. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno data’r ail flwyddyn gyfan sydd wedi’u casglu a’u dadansoddi. Y nifer a gafodd eu sgrinio yn 2015/16 oedd 79.1%. Cyfrifir y ffigur drwy ddefnyddio diffiniad tebyg i'r Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cenedlaethol (Lloegr), h.y. un flwyddyn sgrinio ynghyd â thri mis. Y targed ar gyfer sgrinio yw 80%. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gynyddu'r nifer sy'n cael eu sgrinio, sy'n cynnwys digwyddiadau gan y Tîm Ymgysylltu â Sgrinio a staff Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol. Dylid nodi bod y dull o gyfrifo cyfraddau sgrinio wedi newid ers y flwyddyn flaenorol, i alluogi meincnodi yn erbyn rhaglenni eraill y DU, felly nid yw'n bosibl cymharu data sgrinio o 2015-16 yn uniongyrchol â'r data o'r flwyddyn flaenorol.

Gweithiodd y rhaglen mewn partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru yn ystod Twrnameint Rygbi'r Chwe Gwlad i godi ymwybyddiaeth o sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol. Roedd yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth yn cynnwys eitem newyddion ar ITV, erthyglau mewn papurau newydd lleol, fideos hyrwyddo ar wefan Sgrinio am Oes a dosbarthu posteri a matiau diod i phob clwb rygbi yng Nghymru. Cynyddodd ymwybyddiaeth o sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol 8.9% ar ôl yr ymgyrch.

Ym mis Mai 2015 agorwyd y rhaglen i hunanatgyfeiriadau. Mae hyn yn golygu y gall dynion dros 65 oed nad ydynt wedi cael eu sgrinio'n flaenorol ffonio eu swyddfa sgrinio leol a threfnu i gael eu sgrinio. Ym mis Chwefror 2016, dechreuodd y rhaglen sgrinio dynion yng ngharchar y Parc. Disgwylir y bydd sgrinio yn digwydd mewn carchardai eraill ledled Cymru erbyn diwedd 2016/17. Un o rannau allweddol y rhaglen yw atgyfeirio i wasanaethau fasgwlaidd diogel, effeithiol ar ôl canfod ymlediadau mawr neu fawr iawn. Mae Cymdeithas Fasgwlaidd Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn argymell trefnu gwasanaethau fasgwlaidd mewn rhwydweithiau mewn model prif ganolfan ac is-ganolfannau, ac mae Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru’n cefnogi’r model hwn. Cyn rhoi’r rhaglen sgrinio ar waith, cytunodd yr holl fyrddau iechyd y byddent yn gweithio tuag at ddatblygu tri rhwydwaith fasgwlaidd yng Nghymru: un yn y gogledd, un yn y de-

ddwyrain ac un yn y de-orllewin. Er nad oes yr un rhwydwaith wedi’i sefydlu’n llwyr eto, mae cynnydd yn amrywio ledled Cymru gyda rhai rhanbarthau rhwydwaith yn fwy aeddfed nag eraill.

Mae’r gwaith sy’n mynd rhagddo yn y rhaglen yn cynnwys: • Sicrhau ansawdd y tri rhwydwaith fasgwlaidd dewisol rhanbarthol i gynnwys cwblhau

holiadur hunanasesu ac ymweliadau safle • Cynnig sgrinio i ddynion mewn gofal hirdymor • Gwaith cymunedol gyda’r Tîm Ymgysylltu Sgrinio i godi ymwybyddiaeth o sgrinio

ymlediadau aortig abdomenol a hunanatgyfeiriadau.

12

Ffeithiau AllweddolNod: Nod y rhaglen sgrinio ymlediadau aortig abdomenol yw lleihau marwolaeth sy’n gysylltiedig ag ymlediadau aortig abdomenol.Poblogaeth Gymwys: Dynion 65 oed sy’n byw yng Nghymru ac wedi’u cofrestru gyda meddyg teulu Prawf: Gwahoddir dynion cymwys i gael prawf sgrinio uwchsain untro.Targed: Y targed yw i 80% o'r dynion a wahoddir gymryd rhan mewn sgrinio.

Y nifer a gafodd eu sgrinio yng Nghymru (2015/16) : 79.1%

(Cymru 2014/15 – 74.4%)**DS mae dulliau cyfrifo yn wahanol felly nid yw'n bosibl cymharu o flwyddyn i flwyddyn

Page 13: Web viewMae sgrinio yn broses o nodi pobl sy'n ymddangos yn iach a all fod mewn mwy o berygl o glefyd neu gyflwr. Yna gellir cynnig gwybodaeth, profion pellach a

Rhaglenni Sgrinio Mamau a PhlantMae'r tair rhaglen sgrinio Mamau a Phlant bellach yn cael eu rheoli fel un uned. Bu cryn dipyn o rannu arfer da a thrawsddysgu a thrawsweithio oherwydd bod y boblogaeth darged yr un fath. Un enghraifft o hyn yw'r profiad defnyddiwr gwasanaethau a darganfod sut mae menywod yn dymuno rhoi adborth am eu barn a'u profiadau i'r gwasanaeth i un pwynt cyswllt.

Sgrinio Cyn Geni CymruCynhelir Sgrinio Cyn Geni fel rhan o ofal cyn geni arferol a gyflwynir gan y Byrddau Iechyd. Mae Sgrinio Cyn Geni Cymru yn cynnal y Rhwydwaith Clinigol Sgrinio Cyn Geni ac yn gyfrifol am sefydlu polisïau, safonau a phrotocolau, ac mae byrddau iechyd yn gyfrifol am ddarparu’r gwasanaeth. Ceir polisïau, safonau a phrotocolau cyhoeddedig i gefnogi darparu sgrinio cyn geni yng Nghymru. Yn ogystal, ceir canllawiau ar gyfer gwahanol agweddau ar ofal cyn geni sydd wedi'u diweddaru ac ar gael yn http://www.antenatalscreening.wales.nhs.uk/professional/document/272915.

Dylid cynnig y sgrinio cyn geni canlynol i bob menyw sy’n byw yng Nghymru yn ystod pob beichiogrwydd; grŵp gwaed a gwrthgyrff, hepatitis B, siffilis, firws imiwnoddiffyg dynol, syndrom Down, sgan uwchsain beichiogrwydd cynnar (dyddio) a sgan uwchsain anomaledd ffetysol. Dylid cynnig sgrinio cyn geni ar gyfer clefyd y crymangelloedd a thalasaemia i bob menyw feichiog sydd mewn perygl uwch o gael plentyn sydd wedi effeithio gan naill gyflwr. Dylai’r holl fenywod sy’n fwy tebygol o gael canlyniadau sgrinio syndrom Down gael cynnig prawf diagnostig sy’n briodol i’w cyfnod beichiogrwydd.

Gwnaeth sgrinio ar gyfer rhagdueddiad i rwbela yn ystod beichiogrwydd ddod i ben ym mis Hydref 2016, ar ôl i Lywodraeth Cymru ofyn i'r Adran Sgrinio weithredu argymhellion y Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol. Cafodd Cylchlythyr Iechyd Cymru ei ryddhau ar 11 Awst yn nodi y byddai sgrinio rwbela cyn geni yn cael ei ddirwyn i ben. Gwnaed y gwaith hwn mewn partneriaeth â thîm Brechu ac Imiwneiddio Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cafodd grŵp aml-broffesiynol ei gynnull i weithredu dirwyn y rhaglen sgrinio i ben, a gweithiwyd yn agos ag Iechyd Cyhoeddus Lloegr i baratoi gwybodaeth i fenywod am frechu a brechau yn ystod beichiogrwydd. Bu'r prosiect hwn yn llwyddiannus yn ei ddull amlddisgyblaethol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Sgrinio Cyn Geni Cymru ystyried gweithredu profion DNA y Ffetws am ddim ar gyfer Sgrinio syndrom Down, Edwards, a Syndrom Patau (T16 ac 18).

13

Ffeithiau Allweddol

Cynhelir sgrinio cyn geni i ganfod cyflyrau difrifol diffiniedig sy'n bresennol yn y fam neu’r baban sy’n debygol o gael effaith andwyol ar iechyd y naill neu’r llall, a ble mae ymyriad ar gael ar ei gyfer ac y ceir cyfiawnhad dros hyn.

Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n cynnal Sgrinio Cyn Geni Cymru, y rhwydwaith clinigol a reolir ar gyfer sgrinio cyn geni yng Nghymru. Rôl y rhwydwaith yw sefydlu polisïau, safonau a fframwaith ar gyfer rheoli perfformiad sgrinio cyn geni.

Page 14: Web viewMae sgrinio yn broses o nodi pobl sy'n ymddangos yn iach a all fod mewn mwy o berygl o glefyd neu gyflwr. Yna gellir cynnig gwybodaeth, profion pellach a

Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig CymruMae sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig yn defnyddio sampl bach o waed a gymerir o sawdl y baban rhwng pumed ac wythfed diwrnod ei fywyd. Mae’r sampl gwaed yn cael ei sgrinio ar gyfer clefydau prin ond difrifol sy’n ymateb i ymyriad cynnar i leihau marwolaeth a/neu afiachusrwydd. Mae’r prawf sgrinio’n rhan o ofal ôl-enedigol rheolaidd.

Yng Nghymru, y cyflyrau sy'n cael eu sgrinio ar hyn o bryd yw isthyroidedd cynhenid, ffibrosis systig, anhwylderau crymangelloedd, ac anhwylderau metabolig etifeddol (Ffenylcetonwria, diffygiant dehydrogenas asyl-CoA cadwyn ganolig, asidwria glwtarig teip 1, homosystinwria, asidemia isofalerig a chlefyd wrin surop masarn). Un o’r heriau mwyaf i'r rhaglen yw ansawdd samplau smotyn gwaed a geir yn y labordy. Gwelwyd gwelliant cychwynnol yn dilyn gweithredu Safonau Newydd y DU yn 2015. Fodd bynnag, nid yw hyn wedi'i gynnal ac rydym wedi rhoi nifer o fentrau yn eu lle gyda'r Byrddau Iechyd, gan weithio drwy Benaethiaid Bydwreigiaeth, Arweinwyr Llywodraethu, Unedau Newyddenedigol ac Ymwelwyr Iechyd. Mae'r angen am ddiagnosis a thriniaeth gyflym ar gyfer y cyflyrau a brofir i atal canlyniadau difrifol yn golygu bod angen i'r holl samplau fod o ansawdd uchel i osgoi oedi a achosir gan yr angen i'w hailadrodd.

Ledled Cymru, mae oedi wrth dderbyn y sampl smotyn gwaed i'r labordy yn parhau'n bryder. Rydym yn parhau i weithio gyda phob un o'r Byrddau Iechyd i atgyfnerthu pwysigrwydd derbyn samplau i'r labordy yn brydlon. Mae'r amlenni arbennig a ddefnyddiwyd wedi'u hailddylunio ac maent bellach yn cynnwys geiriad arnynt i nodi'r angen i'w hanfon ar frys, ac rydym wedi darparu hyfforddiant i amrywiaeth o grwpiau staff gan gynnwys y Post Brenhinol.

14

Page 15: Web viewMae sgrinio yn broses o nodi pobl sy'n ymddangos yn iach a all fod mewn mwy o berygl o glefyd neu gyflwr. Yna gellir cynnig gwybodaeth, profion pellach a

Y nifer a gafodd eu sgrinio yng Nghymru (2015/16) : 99.5%

(Cymru 2014/15 – 99.5%)

Sgrinio Clyw Babanod

Mae'r nifer sy'n derbyn y rhaglen yn parhau'n uchel iawn. Cyhoeddwyd adroddiadau’n manylu ar ganfyddiadau adolygiadau sicrhau ansawdd a gynhaliwyd ledled Cymru. Cynhaliwyd Archwiliad Sicrhau Ansawdd fel rhan o Safonau Awdioleg Pediatrig Cymru a chaiff ei gyhoeddi ar ddechrau 2017. Cafwyd ymateb cadarnhaol iawn i'r gwaith hwn.

Mae datblygu Addysg a Hyfforddiant newydd yn parhau. Nid yw'r BTEC a oedd ar gael i sgrinwyr yn flaenorol yn cael ei gynnig bellach. Mae gwaith ar Ddiploma Sgrinio yn mynd rhagddo.

Mae'r gwasanaeth wrthi'n gweithio gyda Byrddau Iechyd i feincnodi gwasanaethau ac adnewyddu Cytundebau Hirdymor gan sicrhau bod tegwch yn cael ei gynnal ledled Cymru.

Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru

Mae Retinopathi Diabetig yn gymhlethdod diabetes a achosir gan niwed i'r pibellau gwaed bach yn y retina - y rhan o'r llygaid sy'n ‘gweld’ - o ganlyniad i lefelau uchel o siwgr yn y llif gwaed. Gall y pibellau gwaed gael eu

niweidio a dechrau gollwng, a all arwain at golli golwg os na fydd yn cael ei ganfod a'i drin. Efallai na fydd retinopathi diabetig yn arwain at symptomau amlwg hyd nes y bydd wedi datblygu'n sylweddol a phan fydd triniaeth yn debygol o fod yn llai effeithiol.

Mae Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru yn Wasanaeth Cymru gyfan wedi'i gynllunio i ganfod retinopathi diabetig ar gam cynnar cyn colli golwg, gan sicrhau triniaeth gynnar ac atal colli golwg. Comisiynwyd y Gwasanaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Gorffennaf 2002 fel rhan o raglen lleihau risg y Fenter Gofal Llygaid ac mae'n elfen bwysig o gyflawni'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes (FfGC, 2002). Yn wreiddiol, cafodd y rhaglen ei chynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, a chafodd ei throsglwyddo i'r Adran Sgrinio, Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 1 Ebrill, 2016.

15

Ffeithiau Allweddol

Nod: Nodi babanod â nam sylweddol ar y clyw sy’n ddigon difrifol i achosi anabledd neu bosibilrwydd o achosi anabledd. Mae cael gwybod yn gynnar yn golygu y gellir cynnig cefnogaeth a gwybodaeth o’r cychwyn cyntaf.

Cymhwysedd: Cynigir sgrinio i’r holl fabanod y mae eu mam yn byw yng Nghymru yn wythnos gyntaf eu hoes.

Targed: Y targed yw i 95% o'r babanod sy'n cael eu geni yng Nghymru gael sgrinio clyw babanod.

Page 16: Web viewMae sgrinio yn broses o nodi pobl sy'n ymddangos yn iach a all fod mewn mwy o berygl o glefyd neu gyflwr. Yna gellir cynnig gwybodaeth, profion pellach a

Dylai'r holl bobl â diagnosis wedi'i gadarnhau o ddiabetes sydd wedi'u cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru gael eu hatgyfeirio i'r gwasanaeth. Bydd cleifion sy'n bodloni'r meini prawf sgrinio yn cael eu gwahodd am sgrinio retinopathi o fewn 3 mis i gofrestru gyda Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru. Yn dilyn eu sgrinio cychwynnol, bydd y rhan fwyaf o gleifion yn cael eu had-alw yn flynyddol. Mae'r gwasanaeth yn seiliedig yn y gymuned, wedi'i gynllunio i roi mynediad rhesymol a theg i ddefnyddwyr gwasanaeth ledled Cymru. Mae sgrinio'r retina yn weithdrefn syml sy'n cymryd tua 40 munud. Mae timau sgrinio yn asesu addasrwydd ar gyfer sgrinio, ac yn mesur craffter gweledol y cleifion. Maent yn gweinyddu diferion llygaid i ymledu cannwyll y llygad, sy'n helpu i sicrhau bod delweddau o ansawdd uchel yn cael eu cynhyrchu. Yna mae ffotograffau digidol o'r retina yn cael eu cofnodi gan ddefnyddio camerâu arbennig a'u trosglwyddo i'r ganolfan graddio genedlaethol ar gyfer asesu. Caiff cleifion yr amheuir bod ganddynt retinopathi diabetig sy'n bygwth golwg eu hatgyfeirio i'w gwasanaeth llygaid ysbyty agosaf. Efallai y bydd y broses sgrinio hefyd yn canfod presenoldeb clefyd arall y llygaid heblaw am gyflwr diabetig sy'n ei gwneud yn ofynnol atgyfeirio i wasanaethau llygaid arbenigol. Bydd y claf, y meddyg teulu a gweithwyr iechyd perthnasol eraill yn cael canlyniadau'r sgrinio ar ôl cwblhau'r broses raddio. Mae sgrinio'r retina yn broses arbenigol ac nid yw'n cymryd lle'r profion llygaid a ddarperir gan optegydd y cleifion (Optometrydd) y dylent barhau i'w weld yn rheolaidd ar gyfer iechyd cyffredinol eu llygaid.

Ers ei sefydlu, mae Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru wedi sgrinio dros 1,600,000 o lygaid yn llwyddiannus, cofnodi 8,000,000 o ddelweddau retina digidol ac atgyfeirio 37,000 o gleifion, y nodwyd eu bod mewn perygl o golli eu golwg, i wasanaethau llygaid arbenigol. Cyflawnwyd y canlynol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf:

• Ailfrandio'r gwasanaeth o Wasanaeth Sgrinio Retinopatheg Diabetig Cymru i Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru..

• Mae gwaith parhaus i gytuno ar y diffiniad o gyfraddau sgrinio a newid y bwlch rhwng sgrinio yn unol â Phwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU dros y blynyddoedd nesaf.

16

Nod: Nod y rhaglen Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru yw lleihau morbidrwydd llygaid sy'n gysylltiedig â Diabetes.

Poblogaeth Gymwys: Unrhyw berson sydd wedi cael diagnosis wedi'i gadarnhau o ddiabetes ac sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu

Prawf: Gwahoddir cleifion i gael archwiliad sgrinio'r retina blynyddol.

Targed: Mae'r gyfradd sgrinio darged yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd.

Page 17: Web viewMae sgrinio yn broses o nodi pobl sy'n ymddangos yn iach a all fod mewn mwy o berygl o glefyd neu gyflwr. Yna gellir cynnig gwybodaeth, profion pellach a

RhagolwgMae datblygiadau allweddol a chynlluniau’r flwyddyn yn cynnwys: Ffocws parhaus ar gynllunio ar gyfer newidiadau mawr i wasanaethau i'w cynnal yn 2018-19

gan gynnwys profion sylfaenol Feirws Papiloma Dynol yn y Rhaglen Sgrinio Serfigol, Profion Ymgarthol Imiwnocemegol llinell gyntaf yn y Rhaglen Sgrinio Coluddion, bylchau rhwng sgrinio sy'n seiliedig ar risg yn Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru a phrofion cyn geni anfewnwthiol yn Sgrinio Cyn Geni Cymru.

Cynnal cyflawni safonau amseroldeb yn y rhaglenni. Gwella profiad y defnyddiwr gwasanaethau, ymgysylltu a'r nifer sy'n cael eu sgrinio. Gwella methu diogel ar gyfer Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru. Darparu trosglwyddo data electronig i feddygon teulu.

Rhagor o WybodaethMae rhagor o wybodaeth ac adnoddau ar gael drwy’r gwefannau a’r cysylltiadau allweddol a restrir.

Gwefan Sgrinio am Oes: www.screeningforlife.wales.nhs.uk Gwefannau Rhaglenni:

- Sgrinio Cyn Geni Cymru www.antenatalscreening.wales.nhs.uk - Bron Brawf Cymru www.breasttestwales.wales.nhs.uk - Sgrinio Coluddion Cymru www.bowelscreeningwales.org.uk - Sgrinio Serfigol Cymru www.cervicalscreeningwales.wales.nhs.uk - Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru

www.newbornbloodspotscreening.wales.nhs.uk- Sgrinio Clyw Babanod Cymru www.newbornhearingscreening.wales.nhs.uk - Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru

www.aaascreening.wales.nhs.uk - Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru - http://www.eyecare.wales.nhs.uk/drssw Gwefan Gweithwyr Proffesiynol Sgrinio (angen manylion mewngofnodi GIG Cymru

ar hyn o bryd): http://howis.wales.nhs.uk/screeningprofessionals

Mae’r negeseuon allweddol ar gael ar y gwefannau neu drwy’r dolenni hyn: Y fron Coluddion Serfigol

Ymlediadau Aortig AbdomenolSgrinio Cyn Geni Smotyn Gwaed

Newydd-anedig a Sgrinio Clyw Babanod Mae Pecyn Adnoddau Sgrinio am Oes ar gael drwy'r wefan neu drwy'r ddolen hon

Bydd mwy o ddata ar gyfer pob un o’r rhaglenni sgrinio ar gael ar wefannau’r rhaglenni yn yr adroddiadau ystadegol blynyddol. Mae data eraill sydd ar gael yn cynnwys

- Y nifer a gafodd eu sgrinio/cwmpas yn ôl bwrdd iechyd ac awdurdod lleol - y nifer a gafodd eu sgrinio/cwmpas yn ôl clwstwr meddygon teulu

Cysylltiadau allweddol:Dr Rosemary Fox, Cyfarwyddwr yr Adran SgrinioDr Sharon Hillier, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Adran SgrinioDr Sikha de Souza, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus

17

Yr Adran SgrinioLlawr 4, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Rhif 2 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BQFfôn: (029) 2022 7744 Minicom: (029) 2078 7907 E-bost: [email protected] Dolen i dudalen gysylltiadau’r wefan: http://www.screeningforlife.wales.nhs.uk/cysylltu-ni