hiliaeth - annibynwyro gyfraniad eto eleni, er bod ymuno yn yr opsiynau arferol yn amhosibl, ac ar...

8
Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 24 Mehefin 11, 2020 50c. Pianothon Cymorth Cristnogol Fiona Gannon a’r teulu Mae Wythnos Cymorth Cristnogol bob amser yn llawn gweithgareddau yng Nghlydach, ac rwy’n edrych ymlaen at y cyfle i gymdeithasu a chydaddoli, codi proffil yr elusen trwy gasglu tu allan i’r Co-op, a chlywed rhagor am waith Cymorth Cristnogol, sydd mor bwysig. Mae argyfwng Covid-19 wedi bod yn ddigon heriol i ni, ond dychmygwch sut brofiad fyddai wynebu perygl firws o’r math yma heb ddŵr glân, sebon, na modd yn y byd i gadw pellter oddi wrth eraill, fel sy’n wir mewn llawer o’r gwledydd tlotaf, heb sôn am wersylloedd ffoaduriaid? Synau’r berdoneg Roeddwn i’n awyddus i wneud rhyw fath o gyfraniad eto eleni, er bod ymuno yn yr opsiynau arferol yn amhosibl, ac ar ôl clywed am ymdrech Alan Cram a’i ‘cyclathon’ yn ôl ac ymlaen i Ystalyfera, fe ges i’r syniad o gynnal ‘pianothon’ lle byddwn i’n chwarae’r piano fwy neu lai’n ddi-dor am 12 awr ar 16 Mai, y dydd Sadwrn ar ddiwedd Wythnos Cymorth Cristnogol. Rwy’n dweud ‘fwy neu lai’ gan mod i wedi gwirio gyda Llywelyn a Bill (y mab a’r gŵr) cyn cychwyn y bydden nhw eu dau yn barod i fynd at y piano am sesiynau byr pan fyddai angen i mi gael hoe fach am resymau ymarferol, a chwarae teg i’r ddau, cytunon nhw’n barod iawn. Poster Paratôdd Bill y poster gwych sydd yn y llun, fe gychwynnais i dudalen ar y we, www.justgiving.com/fundraising/cymorth cristnogol-pianothon12awr , a chyn i mi droi, fe ddechreuodd yr arian lifo i mewn. Gofynnodd un ffrind am gynnal peth o’r digwyddiad yn fyw ar Facebook, gwnaeth un arall gais am ddarn penodol, ac fe ddatblygodd y cyfan yn rhyfeddol o gyflym. Hanner dydd Gyda’n bod ni’n byw o flaen y gamlas, fe benderfynon ni y bydden ni’n agor drysau’r patio led y pen ar hyd y 12 awr, fel bod unrhyw un oedd yn mynd heibio yn medru clywed y gerddoriaeth, ac roedd yn hyfryd cael bach o gymeradwyaeth o’r llwybr halio ambell waith. Ces i ymateb gwych hefyd i’r fideos byw ar-lein, gyda llawer iawn yn eu hoffi ac yn fy annog i ddal ati, a sawl cais arall am ddarnau penodol. Prif dasg Llywelyn yn ystod y dydd (pan nad oedd yn chwarae trwy ei ddarnau Gradd 2 i roi pum munud o seibiant i fi) oedd ffilmio’r clipiau byw, a rhoi gwybod i fi am unrhyw sylwadau oedd yn dod i mewn, ac fe wnaeth Bill, pan roddodd yntau hoe fach i mi, yn siŵr ei fod yn chwarae tipyn o ‘boogie-woogie’, fel bod fy nhraed yn dawnsio, rhag i mi gyffio ar ôl eistedd mor hir. Haelioni Yn y diwedd, aeth y 12 awr heibio yn syndod o gyflym, ac rwy’n eithriadol o ddiolchgar am garedigrwydd a haelioni pawb a gefnogodd y digwyddiad. Os ydych chi heb gael cyfle i wneud hynny eto, mae’r ddolen yn dal yn fyw, a bydd pob cyfraniad yn cael ei werthfawrogi’n fawr – diolch o galon! Hiliaeth Wrth i’r Tyst fynd i’r wasg yr wythnos hon y mae’r hanes trist yn brif stori ar raglenni newyddion am lofruddiaeth ffiaidd George Floyd dan ben-glin greulon aelod o’r heddlu. Yn sgil y digwyddiad hwnnw y mae protestio ffyrnig wedi bod yn yr Unol Daleithiau ac ar hyd a lled y byd yn erbyn yr hyn a ddigwyddodd ac yn erbyn hiliaeth o bob math ac arbennig hiliaeth tuag at bobl o dras Affricanaidd ac Asiaidd. Wrth ddarllen ar Trydar a chyfryngau tebyg y mae’n gwbl ddychrynllyd sut y mae rhai yn mynegi eu casineb tuag at bobl o hil wahanol. Mae’r casineb sy’n bodoli yn annealladwy ac annynol. Trist yw gorfod cydnabod fod hiliaeth yn fyw ac yn iach a’i fod yn George Floyd Photo: Prachatai / Flickr CC BY-NC-ND 2.0 parhad ar dudalen 2

Upload: others

Post on 21-Jan-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Hiliaeth - Annibynwyro gyfraniad eto eleni, er bod ymuno yn yr opsiynau arferol yn amhosibl, ac ar ôl ... gweinidogaethu a mentora dynion ifanc yn y ‘Third Ward’ yn Houston, sef

Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 24 Mehefin 11, 2020 50c.

Pianothon Cymorth CristnogolFiona Gannon a’r teulu

Mae Wythnos Cymorth Cristnogol bobamser yn llawn gweithgareddau yngNghlydach, ac rwy’n edrych ymlaen at ycyfle i gymdeithasu a chydaddoli, codiproffil yr elusen trwy gasglu tu allan i’rCo-op, a chlywed rhagor am waithCymorth Cristnogol, sydd mor bwysig.Mae argyfwng Covid-19 wedi bod ynddigon heriol i ni, onddychmygwch sut brofiad fyddaiwynebu perygl firws o’r mathyma heb ddŵr glân, sebon, namodd yn y byd i gadw pellteroddi wrth eraill, fel sy’n wirmewn llawer o’r gwledydd tlotaf, hebsôn am wersylloedd ffoaduriaid?Synau’r berdonegRoeddwn i’n awyddus i wneud rhyw fatho gyfraniad eto eleni, er bod ymuno ynyr opsiynau arferol yn amhosibl, ac ar ôlclywed am ymdrech Alan Cram a’i‘cyclathon’ yn ôl ac ymlaen i Ystalyfera,fe ges i’r syniad o gynnal ‘pianothon’ llebyddwn i’n chwarae’r piano fwy neulai’n ddi-dor am 12 awr ar 16 Mai, ydydd Sadwrn ar ddiwedd WythnosCymorth Cristnogol. Rwy’n dweud ‘fwyneu lai’ gan mod i wedi gwirio gydaLlywelyn a Bill (y mab a’r gŵr) cyncychwyn y bydden nhw eu dau yn barodi fynd at y piano am sesiynau byr panfyddai angen i mi gael hoe fach amresymau ymarferol, a chwarae teg i’rddau, cytunon nhw’n barod iawn. PosterParatôdd Bill y poster gwych sydd yn yllun, fe gychwynnais i dudalen ar y we, www.justgiving.com/fundraising/cymorthcristnogol-pianothon12awr, a chyn i midroi, fe ddechreuodd yr arian lifo imewn. Gofynnodd un ffrind am gynnalpeth o’r digwyddiad yn fyw arFacebook, gwnaeth un arall gais amddarn penodol, ac fe ddatblygodd ycyfan yn rhyfeddol o gyflym.Hanner dyddGyda’n bod ni’n byw o flaen y gamlas,fe benderfynon ni y bydden ni’n agor

drysau’r patio led y pen arhyd y 12 awr, fel bod unrhyw un oeddyn mynd heibio yn medru clywed ygerddoriaeth, ac roedd yn hyfryd caelbach o gymeradwyaeth o’r llwybr halioambell waith. Ces i ymateb gwych hefydi’r fideos byw ar-lein, gyda llawer iawnyn eu hoffi ac yn fy annog i ddal ati, asawl cais arall am ddarnau penodol. Prifdasg Llywelyn yn ystod y dydd (pan nadoedd yn chwarae trwy ei ddarnau Gradd2 i roi pum munud o seibiant i fi) oeddffilmio’r clipiau byw, a rhoi gwybod i fiam unrhyw sylwadau oedd yn dod imewn, ac fe wnaeth Bill, pan roddoddyntau hoe fach i mi, yn siŵr ei fod ynchwarae tipyn o ‘boogie-woogie’, fel

bod fy nhraed yn dawnsio, rhag i migyffio ar ôl eistedd mor hir. HaelioniYn y diwedd, aeth y 12 awr heibio ynsyndod o gyflym, ac rwy’n eithriadol oddiolchgar am garedigrwydd a haelionipawb a gefnogodd y digwyddiad. Osydych chi heb gael cyfle i wneud hynnyeto, mae’r ddolen yn dal yn fyw, a byddpob cyfraniad yn cael ei werthfawrogi’nfawr – diolch o galon!

HiliaethWrth i’r Tyst fynd i’r wasg yr wythnoshon y mae’r hanes trist yn brif stori arraglenni newyddion am lofruddiaethffiaiddGeorgeFloyd danben-glingreulonaelod o’rheddlu. Ynsgil ydigwyddiadhwnnw ymaeprotestioffyrnig wedibod yn yrUnolDaleithiau ac ar hyd a lled y byd ynerbyn yr hyn a ddigwyddodd ac ynerbyn hiliaeth o bob math ac arbennighiliaeth tuag at bobl o drasAffricanaidd ac Asiaidd. Wrth ddarllenar Trydar a chyfryngau tebyg y mae’ngwbl ddychrynllyd sut y mae rhai ynmynegi eu casineb tuag at bobl o hilwahanol. Mae’r casineb sy’n bodoli ynannealladwy ac annynol.

Trist yw gorfod cydnabod fodhiliaeth yn fyw ac yn iach a’i fod yn

George Floyd Photo: Prachatai /

Flickr CC BY-NC-ND 2.0

parhad ar dudalen 2

Page 2: Hiliaeth - Annibynwyro gyfraniad eto eleni, er bod ymuno yn yr opsiynau arferol yn amhosibl, ac ar ôl ... gweinidogaethu a mentora dynion ifanc yn y ‘Third Ward’ yn Houston, sef

tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mehefin 11, 2020Y TYST

Hiliaeth– parhad

gynhenid mewn rhai gwledydd a rhaisefydliadau. Mae’n frawychus gofyn ycwestiwn a yw hiliaeth o ryw fath ynbodoli ym mhob gwlad a chenedl? Yroedd George Floyd yn Gristion oargyhoeddiad ac yn cael ei adnabod felperson heddychlon oedd yngweinidogaethu a mentora dynion ifancyn y ‘Third Ward’ yn Houston, sef ardalgaled a difreintiedig. Ei lysenw oedd BigFloyd gan ei fod yn 6’ 6” ac roedd ynawyddus i dorri’r cylch cythreulig odrais yr oedd dynion ifanc yn rhanohono. Dywedodd Ronnie Lillard, sy’nperfformio hip-hop o dan yr enwReconcile, ‘Roedd yr hyn a ddywedaiwrth ddynion ifanc bob amser yncyfeirio at y ffaith fod Duw yn drech nadiwylliant y strydoedd. Credaf ei fod amweld dynion ifanc yn rhoi eu drylliau o’rneilltu gan gofleidio Iesu yn lle’rstrydoedd.’

Hoffem fynegi yn Y Tyst eingwrthwynebiad llwyr a chyfan gwbl ihiliaeth o bob math a’n tristwch o welddyn diniwed yn cael ei ladd gan yrheddlu. Ein dyletswydd fel Cristnogionyw codi ein llef yn erbyn anghyfiawnderffiaidd fel hwn gan fynnu cyfiawnderdros ein brodyr a’n chwiorydd. Codwnein lleisiau a gweithredwn yn erbyn pobmynegiant o hiliaeth sy’n dilorni eraill arsail eu hil. Dydy dweud dim, ddim ynddigon. Gweddïwn am newid ymmeddylfryd arweinyddion, mudiadau asefydliadau sy’n hyrwyddo hiliaeth. Unddynoliaeth ydym sydd wedi ei chreu arlun a delw Duw ac y mae i bob unigolynurddas a gwerth cydradd.

Alun Tudur (Ffynhonnell ffeithiau: Christianity

Today.)

Rhwydwaith dirgel DuwWel, dyma ni yn dal i fod ynghanolamser rhyfedd yn ein hanes ni. Nid oesyr un ohonom ni’n cofio cael y fathbrofiad mewn ffordd mor gyflawn allwyr. Pawb i gadw i’w cartrefi, am bahyd, nid ydym ni’n gwybod. Maerhywbeth apocalyptig am hyn i gyd. Mifydd 2020 yn flwyddyn i’w chofio. Ondcofiwch hefyd nad am byth y mae amfod fel hyn, daw hwn i ben, y mae amseri bob peth. Fe’n cynghorir i fod yn gall, ifeddwl am eraill, ond yn ein panic,weithiau, nid ydym ni’n ymddwyn ar eingorau. Gadewch i ni anadlu ... mewn ..allan ... gadewch i ni bwyllo, gadewch ini oedi, gadewch i ni feddwl am eingilydd ac ystyried beth sy’n bwysig yn ybywyd hwn ar y ddaear.Blagur cariadGan fod ein bywydau ni wedi’u troiwyneb i waered a bod disgwyl i ni gadwpellter cymdeithasol oddi wrth eingilydd, yr ydym ni’n gweld mewngwirionedd nad ‘pellter cymdeithasol’yw’r pellter ond yn hytrach, ‘pelltercorfforol’, oherwydd, dros yr wythnosaua aeth heibio, fe welson ein bod ni’n dali gysylltu â’n gilydd yn gymdeithasol,mewn ffordd rithiol yn hytrach. Daethoedfaon arferol i benam y tro, ac unrhywweithgareddcymdeithasol syddynghlwm â’nheglwysi ni. Ondedrychwch, maerhywbeth yn digwydd... Mae sawl un o’nheglwysi ni wedi bod yn siarad â’igilydd ac â’i haelodau ynglŷn â sut igynnal a chadw ein cymunedau ac maepethau ar waith ... y mae’r holl bethauhyn yn dda, yn dod â hwb i ni. Mae’nwanwyn ar fyd natur, ac fe welwnflaguro yn ein cariad a’n consyrn tuag atein gilydd.Ynysu nid ynysigMae sawl eglwys wedi cychwynrhwydweithiau rhithiol er mwyn cynnalaelodau hŷn a rhai bregus yn eu plith. Ynsydyn, mae pobl yn cysylltu mwy â’igilydd y tu allan i oedfa mewn amrywiolffyrdd ac ar blatfformau gwahanol. Maepobl yn codi’r ffôn ar ei gilydd i wneudy siŵr fod pawb yn iawn, maen nhw’nffonio er mwyn holi a gaiff pobl fynd arneges dros ei gilydd, oes angen helpgyda rhywbeth, neu dim ond i gaelsgwrs, ac mae hynny ynddo’i hun yn

beth da. Mae rhwydwaith ar waithymhob cymuned a phobl yn ystyriedbeth sy’n bwysig a pheth sy’nangenrheidiol. Rydym ni'n cadw llygadar ein gilydd, yn ofalus o’n gilydd. Ygwir yw mai’r hyn sy’n bwysig – hyd ynoed ynghanol yr holl hunanynysu, neuoherwydd yr hunanynysu – yw gwybodein bod ni’n dal i fedru cysylltu â’ngilydd, yn dal i wybod nad ydym ni arein pennau ein hunain.Gwe-gymunedauAc mae pobl yn mynd yn fwydychmygus yn eu ffyrdd o gysylltu â’igilydd. Fu’r we erioed mor bwysig. Ymae cymunedau yn cael eu creu ermwyn i ni fod gyda’n gilydd o hydbraich. Ffurfiwyd côr newydd sef Côr-ona ar Facebook, mae pobl yn ffilmio’uhunain yn canu ac yn rhannu dros ycyfryngau cymdeithasol. Y mae’r un pethyn wir am gymunedau eraill, yr ydymni’n estyn allan drwy ddefnyddiotechnoleg a chreu rhwydwaith rhithiol. AdnoddauMae Undeb yr Annibynwyr wedi bod yngweithio ar sicrhau bod gan boblfynediad at ddeunydd i’w cynnal dros ymisoedd anodd nesaf, o oedfaon i

fyfyrdodau, o emynau iweddïau ac adnoddaudysgu i blant, mae’r Undebyn bwriadu rhannu’r cyfandros ei gwefan, fel bodmodd i ni gadw mewncyswllt â’n gilydd, fel nadoes neb yn cael eu

hanghofio. Ewch i annibynwyr.cymru iddod o hyd i bob dim. Mae’r Tyst yngyfrwng rhannu gwerthfawr hefyd. TylwythYr ydym ni’n perthyn i’n gilydd, ynfrodyr ac yn chwiorydd – rydym ni’ndeulu. Yn yr amser dyrys hwn, rydymni’n cynnal ein gilydd ac yn caru’ngilydd, oherwydd fe garodd Duw’r bydnes iddo anfon ei unig anedig fab i’nhachub ni. Mi ganodd y bardd, WaldoWiliams yn ei gerdd ‘Brawdoliaeth’,mewn ffordd mor hollol ardderchog,mae’r gair olaf yn eiddo i Waldo:

Mae rhwydwaith dirgel DuwYn cydio pob dyn byw;Cymod a chyflawn weMyfi, Tydi, Efe.Mae’n gwerthoedd ynddo’n gudd, Ei dyndra ydyw’n ffydd;Mae’r hwn fo’n gaeth, yn rhydd.

Page 3: Hiliaeth - Annibynwyro gyfraniad eto eleni, er bod ymuno yn yr opsiynau arferol yn amhosibl, ac ar ôl ... gweinidogaethu a mentora dynion ifanc yn y ‘Third Ward’ yn Houston, sef

Gwers 39 – Sul, 21 Mehefin

‘Mae ffrydiau ’ngorfoledd yn tarddu’ (Caneuon Ffydd, 747)

SEFFANEIA

y mae’r ARGLWYDD dy Dduw yn dyganol,

yn rhyfelwr i’th waredu;fe orfoledda’n llawen ynot,a’th adnewyddu yn ei gariad;llawenycha ynot â chân.(Seffaneia 3:17; tud. 285 yn y Gwerslyfr)

Darllen: Seffaneia 1:3:9–20; Rhufein -iaid 8:12–17, 37–9

Gweddi:Ddiddanydd anfonedig nef,

fendigaid Ysbryd Glân,hiraethwn am yr awel gref

a’r tafod tân.

Erglyw ein herfyniadau prudd am brofi o’th rad yn llawn,

gwêl a oes ynom bechod cuddar ffordd dy ddawn.

Cyfranna i’n heneidiau tristorfoledd meibion Duw,

a dangos inni olud Crist yn fodd i fyw.

(Caneuon Ffydd, 593)

Sut rai ydych chi am ysgrifennucyfarchiad mewn cerdyn? Rwyf i’n eichael yn dasg lafurus, yn aml yn methucanfod be ydw i am ei ddweud. Nid fellyy mae hi yn y darlleniad o Seffaneia:mae’r cyfarchiad yn gorlifo o deimladgwirioneddol, cadarnhaol, yn hyfrydwchi’w ddarllen. Ond os ydych wedi darllengweddill y broffwyd oliaeth fer honmae’n annisgwyl, a dweud y lleiaf.

‘Gair yr ARGLWYDD, a ddaeth atSeffaneia fab Cushi, fab Gedaleia, fabAmareia, fab Heseceia, yn nyddiauJoseia fab Amon, brenin Jwda’ (1:1). Felhyn y cyflwyna’r proffwyd ei hun, a’rtebygrwydd yw ei fod yn orwyr i’rbrenin Heseceia ei hun (2 Brenhinoedd18:1d). Treuliodd ei febyd, breintiedig, odan ddau o frenhinoedd gwaethaf Jwda,Manasse ac Amon, a drodd galonnau’rbobl oddi wrth yr Arglwydd. Ond dawgair yr Arglwydd iddo yn nheyrnasiadJoseia, a ddaeth i’r orsedd yn wyth oed(2 Brenhinoedd 22) ac a oedd felly’ncydoesi â Habacuc a Jeremeia. Joseiaoedd yr un a ganfu Llyfr y Gyfraith yn ydeml ac a ddiwygiodd grefydd Jwda;mae’n gwneud synnwyr felly i feddwlfod y broffwydoliaeth yma wedi dodadeg mebyd y brenin hwn.

Nid yw’r penodau cyntaf yn dal dimyn ôl wrth gyhoeddi barn Duw ar Jwda a

Jerwsalem, ynghyd â gwledydd cyfagos.Ond, yr un pryd â’r farn, mae llwybrgwaredigaeth ar agor drwy geisiocuddfan yn yr Arglwydd (2:1–3).Sylwch, o 3:9 ymlaen, fel y mae eifwriadau llesol i’w cyflawni. O edrych ary broffwydoliaeth yn ei chyfanrwydd,gwelwn agwedd Tad at blentynanystywallt a’i gyfoedion. Rhaid eudwrdio a’u cosbi am eu hanufudd-dodffôl, ond mae ynddo faddeuant, nid ynunig i’w ffefryn, fel petai, ond i’wgyfoedion. A dyma hyfrydwch ycyfarchiad serchus yma: ‘Cân, ferchSeion; gwaedda’n uchel, O Israel;llawenha a gorfoledda â’th hollgalon, ferch Jerwsalem. Trodd yrARGLWYDD dy gosb oddi wrthyt, asymud dy elynion. Y mae brenin Israel,yr ARGLWYDD, yn dy ganol, ac nidofni ddrwg mwyach’ (3:14–15).

Fe â ymhellach yn awr:

Nac ofna, Seion, ac na laesa dy ddwylo;y mae’r ARGLWYDD dy Dduw yn dy

ganol, yn rhyfelwr i’th waredu; fe orfoledda’n llawen ynot, a’th adnewyddu yn ei gariad; llawenycha ynot â chânfel ar ddydd gfiyl. Symudaf aflwydd ymaith oddi wrthyt, rhag bod iti gywilydd o’i blegid.

Ar adeg pan na fedrwn fwynhau canumewn cynulleidfa, mor dda yw cael einhatgoffa fod Duw yn gorfoleddu ynomni yn llawen â chân. Gadewch iwirionedd a hyfrydwch y geiriau hyn lifodrosoch a mwydo i fêr eich enaid. FelTad mae’n gorfoleddu’n llawen ynom,am ein hadnewyddu yn ei gariad, ac ynwir yn canu’n llawen trosom. Glywsochchi gân y Tad drosoch ac ynoch?

a gwaredigion yr ARGLWYDD fydd yndychwelyd.

Dônt i Seion dan ganu,bob un gyda llawenydd tragwyddol;hebryngir hwy gan lawenydd a

gorfoledd,a bydd gofid a griddfan yn ffoi ymaith.

(Eseia 35:10)

Trafod ac ymateb:

1. Pam ei bod hi’n anodd cyhoeddi barnDuw heddiw?

2. Ystyriwch yr adnodau i’w darllen oRufeiniaid 8 ochr yn ochr â’r adran oSeffaneia. A yw’r ‘Abba! Dad’ ynatseinio o’ch mewn?

3. Myfyriwch ar y gwirionedd fod Iesuwedi dwyn y farn a oedd i ni, ermwyn i ni dderbyn y fraint o fod ynblant i Dduw. Fe fydd yr emynau hynyn gymorth: Caneuon Ffydd, 518,530, 747.

Mehefin 11, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

AR DAITH DRWY’R HEN DESTAMENTCanllaw ar gyfer astudiaeth a thrafodaeth mewn grfip bychan, gan gynnwys

gwers oedolion yr ysgol Sul neu fel deunydd myfyrdod personol(Seiliedig ar y gyfrol Geiriau Ffydd 3 gan y Parch. John Treharne,

sef gwerslyfr ysgol Sul yr oedolion am 2019/20)

Paratowyd gan y Parch. Hywel Rh. Edwards

LlythyrauOedfa deledu: gwerthfawrogiad

Annwyl Syr,

EISIAU CEFNOGAETH – PREGETHAR Y SUL

Undebau, enwadau a Chytûn wedicydgerdded ag S4C ers blynyddoedd aheb drefnu i gael pregeth ar y Sul, ondCoronafeirws wedi llwyddo mewn rhaidyddiau!

Fe roddodd fywyd newydd i’rbregeth, sy’n glanio bellach am un arddeg o’r gloch ar fore Sul ar aelwydyddCymru, a’r hen a’r methedig ynllawenhau am fendith y bregeth ar lawreu cartref.

Sianel yr ymdrechu, er mwyn ei chaelhi, fu hon. Pobol yn y carchar – acaberthu i’r eithaf er mwyn ei chael hi.

Bydded i’r bregeth gael cadw ei lle ary Sul ar S4C y dyfodol.

Gyda llawer o ddiolch,

Ithel Parri-RobertsHendy-gwyn ar Daf

––––––––––

Annwyl Olygydd,

Hoffwn ddiolch i’r Parch. John GwilymJones am ei erthygl ar y bardd EmilyDickinson. Roedd un o ymadroddionrhyfeddol E.D. yn gwneud i mi feddwl achofio am y rhai o blith gweithwyr yGIG sydd wedi colli eu bywyd ynein gwasanaethu yn ddiweddar –‘calvaries of love’. Ni allwn ond diolch achofio.

Yn gywir,

Dafydd F. JonesWrecsam

Page 4: Hiliaeth - Annibynwyro gyfraniad eto eleni, er bod ymuno yn yr opsiynau arferol yn amhosibl, ac ar ôl ... gweinidogaethu a mentora dynion ifanc yn y ‘Third Ward’ yn Houston, sef

Y manylion sy’n dal y dychymyg – yrhen wraig o flaen ei chartref cyn iddiymadael, y swyddog o’r fyddin oedd ynmethu ynganu enwau’r lleoedd, y dyn yffrwydrwyd ei gartref – maent i gyd ynatgofion o gymuned a ddadwreiddiwyd.

Dydi chwalu cymunedau o’r fathddim yn beth newydd, dim ond iddoddigwydd yng Nghymru, ac nidTryweryn mohono. Mae stori dristCapel Celyn wedi ennill ei phlwyf yngnghalonnau pobl Cymru. Dydi Epyntddim. Dyna pam, 80 mlynedd wedi’rChwalfa, y dylai Cymru fod yn cofioam y bennod enbyd hon yn ei hanes.

Roedd y fyddin â’i llygad ar Epynt(ystyr yr enw yw hynt, neu lwybr, yrebolion) ers y Rhyfel Byd Cyntaf, panwnaed y rhestr gyntaf o enwau’rffermydd. Ond ym Medi 1939, panddaeth yr Hillman Minx brown i fyny’rallt, yr hyn dynnodd sylw pobl oedd maimerch oedd y gyrrwr. Daeth swyddogo’r fyddin o’r car a mynd i’r ysgol. Gannad oedd yr athrawes yn lleol,gofynnodd i’r plant helpu’r swyddog.Chwarddodd y plant yn harti wrthglywed ymdrechion y swyddog iynganu Ffos yr Hwyaid, Gilfach yrHaidd, Cefnbryn Isaf a LlwyntegUchaf. Ond y swyddog gafodd y gairolaf. Erbyn mis Rhagfyr, roedd si ybyddai’n rhaid iddynt adael eu cartrefi.Roedd Epynt am gael ei droi’n faestanio i’r fyddin.

Am bedwar o’r gloch fore dyddNadolig 1939, cerddodd trigolion Epyntefo’u llusernau, rhai ar gefn ceffylau, iGapel y Babell, fel y gwnaethent erscanrifoedd, i’r gwasanaeth plygain.Buont yn canu tan doriad gwawr. Diaufod rhai wedi myfyrio lle y byddentymhen y flwyddyn; roedd yn amhosibldychmygu gadael. Y Babell oedd canoly gymuned fynyddig. Yma y deuent

deirgwaith ar y Sul. Yma y bedyddiwydeu plant, y priodwyd cariadon, ycladdwyd eu hanwyliaid. Dyma llecynhelid y gymanfa a’r eisteddfodflynyddol.

Drannoeth yr eisteddfod, ar Fawrth4ydd, y daeth y llythyr swyddogol gan yWestern Command. Roedd yn rhaid ideuluoedd 52 o ffermydd Epynt adaeleu cartrefi erbyn diwedd Ebrill.Anfonwyd ateb at y fyddin yn dweud ybyddai hynny ynghanol y tymor wyna,onid oedd modd ei ohirio? Mis yn unigyn hwy a gawsant. Nid oedd protest;roedd y gymdogaeth yn gegrwth.

Cymerodd y fyddin 30,000 o erwauyn Epynt, a bu raid i dros ddeucant obobl a phlant adael eu cartrefi. Erbyndiwedd Mehefin, ar fore niwlog, roeddyr olaf o’r teuluoedd yn gadael. Yr unpryd, roedd Caerdydd ac Abertawe yncael eu bomio’n ddidrugaredd gan yrAlmaenwyr. Sifir iawn ei fod ynachlysur trist, ond roedd Prydain yncael ei bygwth. Pa ddewis oedd?

Fe geisiodd Plaid Cymruwrthwynebu. Bu Gwynfor Evans a J. E.Jones yn ymweld â’r cartrefi danfygythiad a chawsant groesotywysogaidd. Yn anffodus, y diwrnod ytrafodwyd y mater yn y Senedd oedd ydydd y dewisodd Hitler i oresgynNorwy. Doedd dim gobaith. MeddaiJ. E. Daniel, “Mae Cymru yn fwydiamddiffyn o flaen Swyddfa RyfelLloegr nag oedd y Ffindir o flaenRwsia.” A hyd yn oed os oedd Epynt ynddiarffordd a gwledig, roedd yn safle obwys yn hanes Cymru. Roedd ycyfeiriad cyntaf at yr ardal yn LlyfrLlandaf yn 1135. Yma y mae cartrefWilliam Williams, Pantycelyn, aChefnbrith, cartref John Penry.

Fesul un ac un, gadawsant euffermydd, gan gredu y byddent yndychwelyd, unwaith y byddai’r rhyfelfelltith drosodd. Mae rhywun yncydymdeimlo’n arbennig â ThomasMorgan a ddeuai’n ddyddiol i Glandfiri gynnau tân ar yr aelwyd i arbed y llerhag tampio. Dywedodd y milwyrwrtho am beidio dod, ond dal ati awnaeth. Un dydd, roedd yn nesu at y fanpan ganfu fod Glandfir wedi diflannu.Roedd y fyddin wedi ffrwydro’rffermdy.

Yn raddol, fe wawriodd arnynt –doedden nhw byth yn mynd iddychwelyd i’r Epynt. Falle fod rhai yngwybod hynny o’r dechrau. Mynnoddun wraig fynd â drws y tª gyda hi;

doedd o ddim defnydd i neb arall.Penderfynodd Iorwerth Peate, pennaethSain Ffagan, fynd draw efo’i gamera ary diwrnod olaf i gofnodi’r achlysur.Wrth gefn Waunlwyd roedd lorriddodrefn yn brysur yn pacio. AethIorwerth Peate rownd i flaen y tª wedicael caniatâd i dynnu lluniau. Yno ygwelodd wraig 82 oed yn eistedd mewncadair freichiau, a dyma eiriau IorwerthPeate:

Nis anghofiaf byth: yno yr eisteddaifel delw gan syllu i’r mynydd-dir a’rdagrau’n llifo i lawr ei gruddiau.Fe’i ganesid yno, a’i thad a’i thaido’i blaen. Mae’n mynd heddiw adyma hi’n cronni i’w munudau olafyr olwg gyfoethog ar yr hen fynyddneu’n ail-gofio dyddiau ei heinioesyn yr hen dyddyn. ’Dwn i ddim: onddyna lle yr oedd ac ni welwn i onddagrau ei hing. Teimlwn fy modwedi torri ar sacrament a cheisiaisddianc yn dawel oddi yno. Ond fe’mgwelsai. Heb symud na llaw na phenna llygad, gwaeddodd arnaf: “Oble’r ych chi’n dod?” “O Gaerdydd,”meddwn innau. Wrth weld maiCymro oeddwn, ciliodd ysarugrwydd, ac amlhaodd y dagrau.“Fy machgen bach i,” ebe hi, “ewchyn ôl yno gynted ag y medrwch,mae’n ddiwedd byd yma.” Ac er fymod yn gwybod fod bomiau’rEllmyn yn disgyn ar Forgannwg ydyddiau hynny, gwyddwn mai hioedd yn iawn: yr oedd yn ddiweddar ei byd hi.

Y Llenor (1941)1

A fyddai Epynt wedi gallu cael eiachub? O ystyried yr hinsawddwleidyddol ym 1940, dwi’n amau’n

tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mehefin 11, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

‘Mae’n ddiwedd byd yma’ – pam dylem gofio80 mlynedd ers clirio Epynt

Cywain gwair yng Nghefnbryn Isaf(cartref David ac Ann Lewis,

hen dad-cu a hen fam-gu yr actoresNia Roberts)

Waunlwyd – yma, ar ddiwrnod’madael y teulu, y dywedodd y fam-guwrth Iorwerth Peate am fynd ar ei

union yn ôl i Gaerdydd am ei bod hi’n‘ddiwedd byd fan hyn’

(parhad ar y dudalen nesaf)

Page 5: Hiliaeth - Annibynwyro gyfraniad eto eleni, er bod ymuno yn yr opsiynau arferol yn amhosibl, ac ar ôl ... gweinidogaethu a mentora dynion ifanc yn y ‘Third Ward’ yn Houston, sef

fawr. Ac eto, yn wahanol i Gapel Celyn,nid yw’r tir wedi diflannu. Efallai fodgobaith o’i gael yn ôl ...

Ymwelais ag Epynt gyntaf ym 1992.Ro’n i wedi cael gwahoddiad ganGymdeithas y Cymod i siarad mewnrali yno, wedi iddynt gael caniatâd yngyntaf gan y fyddin. Er mawr gywilyddi mi, doeddwn i ddim wedi clywedhanes Epynt o’r blaen. Yr hyn a’mdychrynodd fwyaf oedd y pentref ffugyno, y FIBUA (Fighting in Built-upAreas). Wedi dymchwel y capel, yrysgol a’r ffermydd, cododd y fyddin,ym 1988, ffug bentref i ymarfer lladd.Mae yno ffug fynwent, credwch neubeidio, efo ffug feddi fel y gall y milwyrguddio tu ôl iddynt. Ddechrau’rnawdegau, gan mai yn Bosnia yr oedd y

brwydro’n digwydd, roedd hyd yn oedenwau Serbo-Croat ar y strydoedd. Nidtir cysegredig mohono bellach, ondmaes lladd.

Roedd teulu Glyn Powell ymysg yrhai gafodd eu troi o’u tai, onddychwelodd Glyn i Epynt. Nid o ddewis– roedd yn gwneud ei WasanaethCenedlaethol yn y pumdegau. RhyfelKorea oedd yn digwydd bryd hynny, adysgwyd Glyn i fod yn filwr ar dir eigyndeidiau. Mae bellach yn einawdegau, ac yn cofio’r amodau caled:cysgu ym muarth Ffos yr Hwyiaid,‘ynghanol y gwybed a’r dom defaid’. Eiofid o oedd fod calon CymreictodBrycheiniog wedi ei rhwygo.

Mae Glyn Powell a gweddill plantEpynt yn dal i ymgyrchu. Gan fod tir

Epynt wedi ei ddifetha am byth ganffrwydron, mae’n amhosibl ei ffermiobyth eto – mae gormod o wenwynynddo. Ac ers y nawdegau, yn hytrachna chilio, mae’r fyddin wedi perchnogimwy o dir yn yr ardal. Yma yrhyfforddwyd y milwyr fu’n ymladd ynAfghanistan ac Irac. Mae’n felltith sy’nparhau.

Ond hyd yn oed os na ellir cael y tiryn ôl, mae Glyn ac eraill yn benderfynolna chaiff yr hanes mo’i anghofio. Mae owedi trosglwyddo’r stori i Bethan eiferch, sydd wedi ei throsglwyddo i’wmerch hithau. Yn ddiweddar, sefydlwydtudalen Facebook o’r enw AtgofionEpynt, a phob dydd, tan ddiweddMehefin, mae enw un fferm a gollwydyn cael ei ddangos yn ddyddiol. Panoedd teuluoedd Epynt mewn angen ynyr hen ddyddiau, byddent yn gosodcyfnas wen o flaen y tª, a deuaicymdogion i’r adwy. Dwi’n ystyried ydudalen Facebook fel fersiwn fodern o’rgyfnas wen. Mae’n alwad am gymorth,mae’n gri o’r galon arnom i beidiogadael i Epynt fynd yn angof. Damegydyw, am gamddefnydd o dir, amdrechu cymdogaeth, am golli cymuned.Dylai fod ar faes llafur pob ysgol yngNghymru a thu hwnt.

Angharad Tomos

(Fersiwn lawnach o erthygl Saesneg aymddangosodd gyntaf ar wefanNation.Cymru)

Lluniau a chapsiynau drwy law EurosLewis.

1 Atgynhyrchwyd yn llyfr HerbertHughes, Mae’n ddiwedd byd yma.(Gwasg Gomer, 1997)

Mehefin 11, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Sioe stalwyni ar fynydd Epynt, 1930

Caroline Evans, tafarnwraig y Drovers(Tynymynydd) a Jack, ei mab, wrth

ddrws y dafarn

‘Mae’n ddiwedd byd yma’ (parhad)

Caniadaeth y CysegrSul, 14eg Mehefin7:30yb a 4:30yp

Y Parchedig R. Alun Evans sy’ncyflwyno Saith ar y Sul, is-gyfresCaniadaeth y Cysegr. Heddiw,cantorion capeli Bedyddwyr gogleddPenfro sy’n dewis eu hoff emynau ogymanfa a gynhaliwyd yng nghapelBlaenffos

Oedfa Radio Cymruam 12:00yp,14 Mehefin:

Aled Lewis Evans, Wrecsam.

Mae Radio Cymru wedi newid trefn yddarpariaeth grefyddol ar y Sul ers misEbrill, gyda’r arlwy yn edrych fel hynbellach:

7:30yb Caniadaeth y Cysegr12:00yp Yr oedfa12:30yp Bwrw Golwg16:30yp Caniadaeth y Cysegr

(ailddarllediad)

Sul, 14 Mehefin

Oedfa Dechrau CanuDechrau Canmolam 11:00yb

gyda’r Parch. Ddr. Alun Tudur,Caerdydd, yn arwain.

Dechrau CanuDechrau Canmolnos Sul am 7:30yh

(ailddarlledir y bore Sul canlynolcyn yr oedfa)

Yr wythnos yma cawn weld sut maecymunedau yn dod at ei gilydd mewnffyrdd gwahanol yn ystod y cyfnodyma. Byddwn yn treulio amser gydachymuned egnïol y Ffynnon ynLlandysul, a hefyd yn gweld sut maecymuned glòs Llanuwchllyn ynymgynnull i gyd-ganu emynau ar ystryd. Cawn hefyd fwynhau perfform -iad gan y mezzo-soprano Sian Meiniro Emyn yr Ynysu.

Page 6: Hiliaeth - Annibynwyro gyfraniad eto eleni, er bod ymuno yn yr opsiynau arferol yn amhosibl, ac ar ôl ... gweinidogaethu a mentora dynion ifanc yn y ‘Third Ward’ yn Houston, sef

• Dywed bron i hanner oedolion yDeyrnas Unedig (44%) eu bod yngweddïo

• Mae chwarter (24%) oedolion yDeyrnas Unedig yn dweud eu bod wedigwylio neu wrando ar wasanaethcrefyddol ers dechrau’r cyfyngiadauoherwydd y pandemig

• Mae dros hanner y rhai sy’n gweddïo(56%) yn cytuno bod gweddi yn newidy byd

Mae gweddi yn rhan hanfodol o fywyd i’rcyhoedd, gydag ychydig llai na hanneroedolion y Deyrnas Unedig (44%) yndweud eu bod yn gweddïo, ac ymhlith yrhai sy’n gweddïo, mae traean (33%) yndweud eu bod wedi gweddïo erscyfyngiadau COVID-19 oherwydd eu bodnhw’n credu ei fod yn gwneudgwahaniaeth. Dyna ganlyniadau arolwgbarn newydd o 2,101 o oedolion agynhaliwyd ledled Prydain gan SavantaComRes1 ar gyfer yr asiantaeth ddatblyguGristnogol Tearfund.

Gydag eglwysi ar gau oherwydd ycyfyngiadau ar gynulliadau o bobl, maemiloedd o eglwysi yn ffrydio’ugwasanaethau ar-lein. Mae chwarter(24%) oedolion y Deyrnas Unedig yndweud eu bod wedi gwylio neu wrando arwasanaeth crefyddol ers y cyfyngiadau (ary radio, yn fyw ar y teledu, ar alw neuwedi’i ffrydio ar-lein); mae hyn yn neidioi dri chwarter (76%) ymhlith eglwyswyrrheolaidd. Nid yw un o bob ugain ooedolion y Deyrnas Unedig (5%) sy’ndweud eu bod wedi gwylio neu wrando arwasanaeth crefyddol ers y cyfyngiadauerioed wedi bod mewn eglwys.

Mae traean (34%) oedolion y DeyrnasUnedig rhwng 18 a 34 oed yn dweud eubod wedi gwylio neu wrando arwasanaeth crefyddol ers y cyfyngiadau (ary radio, yn fyw ar y teledu, ar alw neuwedi’i ffrydio ar-lein); mae hyn yncymharu ag un o bob pump (19%) ooedolion dros 55 oed.

Er y gall rhai ystyried bod crefydd ynfwy deniadol i’r genhedlaeth hªn, mae’rymchwil yn dangos bod oedolion iau,18–34 oed, yn sylweddol fwy tebygol oddweud eu bod yn gweddïo’n rheolaidd(o leiaf unwaith y mis) nag oedolion 55oed a hªn (30% o’i gymharu â 25%).

O ran pynciau gweddi poblogaiddymhlith y rhai sy’n dweud eu bod yngweddïo, mae dros eu hanner (53%) yndweud eu bod wedi gweddïo drosaelodau’r teulu, mae chwarter (27%) wedigweddïo dros wasanaethau rheng flaen acmae un o bob pump (20%) yn dweud eubod wedi gweddïo dros rywun sy’n sâlgyda COVID-19. Dywed ychydig dros unrhan o chwech o’r rhai sy’n gweddïo

(15%) eu bod wedi gweddïo droswledydd eraill gyda COVID-19, gandynnu sylw at yr her i’r elusen Tearfundac eraill tebyg i annog mwy o bobl iweddïo dros faterion byd-eang.

Mae’r canfyddiadau newydd ar weddiyn datgelu cred gref yng ngrym gweddi isicrhau newid cadarnhaol yn y byd.Ymhlith y rhai sy’n gweddïo, dywed dwyran o dair (66%) eu bod yn cytuno bodDuw yn clywed eu gweddïau ac mae droseu hanner (56%) yn dweud eu bod yncytuno bod gweddi yn newid y byd. Maehanner y rhai sy’n gweddïo (51%) yncytuno’u bod wedi bod yn dystion iatebion i’w gweddïau eu hunain ac maedros ddwy ran o bump (43%) yn cytunobod eu gweddi yn newid bywydau poblsy’n byw mewn tlodi mewn gwledyddsy’n datblygu.

Dywed Dr Ruth Valerio, CyfarwyddwrEiriolaeth Byd-eang, Tearfund: ‘Mae’ngalonogol gweld faint o bobl y DeyrnasUnedig sy’n gweddïo yn ystod cyfnodmor heriol. Ein profiad yn Tearfund ywbod gweddi a gweithredu ymarferol ynmynd law yn llaw, ac maent ill dau ynffyrdd hanfodol o ymateb. Gydachyfraddau COVID-19 yn parhau i godiledled y byd, rydym yn galw ar fwy obobl i weddïo a gweithredu.’

Ochr yn ochr â gweddïo am y sefyllfa,mae Tearfund yn ymateb i’r pandemigCoronafirws ledled y byd drwy ddarparucymorth hylendid a glanweithdrahanfodol i leihau’r risg o gael yr haint.I ddarganfod mwy am waithTearfund ac i anfon rhodd, ewch iwww.tearfund.org/covidinfo.

Mae canfyddiadau eraill yr arolwg yncynnwys y canlynol:

• Bod chwarter oedolion y DeyrnasUnedig (26%) yn dweud eu bod yngweddïo’n rheolaidd (o leiaf unwaith ymis).

• Bod un o bob ugain (5%) o oedolion yDeyrnas Unedig yn dweud eu bod wedidechrau gweddïo yn ystod cyfnod ycyfyngiadau ond heb fod wedigweddïo o’r blaen.

• Ymhlith y rhai sy’n gweddïo, dywedbron eu hanner (45%) eu bod wedigweddïo ers y cyfyngiadau oherwyddeu bod yn credu yn Nuw; mae traeanyn credu bod gweddi yn gwneudgwahaniaeth (33%); mae chwarter(26%) yn dweud eu bod wedi gweddïoar adegau o argyfwng personol neudrasiedi; a dywed chwarter (24%) eubod wedi gweddïo er mwyn cael cysurneu i deimlo’n llai unig.

• Mae chwarter (25%) y rhai 18–24 oedsy’n gweddïo yn dweud eu bod wedigweddïo dros ymateb llywodraeth yDeyrnas Unedig i COVID-19; mae’rffigwr hwn yn fwy na’r ffigwr ar gyferpob grfip oedran arall (15% ar gyfer yrhai 25–64 oed a 23% ar gyfer yrhai 65+).

• Mae dynion yn sylweddol fwy tebygolna menywod i ddweud eu bod wedigwylio neu wrando ar wasanaethcrefyddol ers y cyfyngiadau (ar y radio,yn fyw ar y teledu, ar alw neu wedi’iffrydio ar-lein) (28% o’i gymharu â21%, yn y drefn honno).

• Ers y cyfyngiadau, mae un o bob pump(18%) o oedolion y Deyrnas Unedigwedi gofyn i rywun arall ddweudgweddi ac mae un o bob pump (19%) ooedolion y Deyrnas Unedig yn dweudeu bod wedi darllen testun crefyddolyn ystod y cyfnod.

• Y pum peth uchaf ar y rhestr i weddïoyn eu cylch yn ystod y cyfyngiadauymysg oedolion y Deyrnas Unedigsy’n gweddïo yw: teulu (53%),ffrindiau (34%), diolch i Dduw (34%),chi’ch hun (28%) a’r gwasanaethaurheng flaen (27%).

tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mehefin 11, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

‘Nesáu at Dduw sydd dda i mi’ – pobl Prydainyn chwilio am ffydd o dan gyfyngiadau Covid-19

Llun: Edrei Cueto/Tearfund

Gweddi wrth ddosbarthu 500o becynnau bwyd i deuluoedd bregus ynnghynghorau Algodonal a Santa Lucíayn Barranquilla, Colombia, fel ymateb

i’r pandemig Covid 19.

Cyfeiriad Golygydd Y PEDAIR TUDALEN

Huw Powell-Davies

neu Llifor, 60 Ffordd Rhuthun,Yr Wyddgrug, CH7 1QH

Anfonwch eich erthyglau, hysbysebiona.y.y.b. i’r cyfeiriad uchod.

Mae’r Pedair Tudalen Gydenwadol yncael eu cynnwys yn rhan o bapurauwythnosol tri enwad, sef Y Goleuad(Eglwys Bresbyteraidd Cymru), SerenCymru (Undeb Bedyddwyr Cymru) a’rTyst (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).

[email protected]

Page 7: Hiliaeth - Annibynwyro gyfraniad eto eleni, er bod ymuno yn yr opsiynau arferol yn amhosibl, ac ar ôl ... gweinidogaethu a mentora dynion ifanc yn y ‘Third Ward’ yn Houston, sef

Mehefin 11, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYST

GolygyddolCANMOLWN YNAWR Y PLU EIRA

Enw dilornus am ygenhedlaeth o boblifanc a anwyd tuathroad y ganrif honyw’r ‘Plu Eira’ – ysnowflake generation– sy’n cael eugwawdio ganunigolion, mudiadaua’r wasg asgell ddeam fod yn bobl ddi-asgwrn-cefn, orsensitif, diog a gwan.Does dim byd mwy bregus na phlueneira, ond mae miliynau o blu eira gyda’i

gilydd yn creu lluwchfeyddsy’n dod â phopeth istop. Dyna oedd bwriady ferch 17 oed, GretaThunberg, a llu o bobl

ifanc ar draws y byd syddam roi stop ar y modd mae

dynoliaeth yn creu’r llygredd sy’n difrodi’rblaned gan fygwth holl ddyfodol ein hil.Mae’r protestio hynny ei hun ar stopnawr, gan fod rhywbeth mwy pwerus fythwedi gorfodi dynoliaeth i oedi.Cyflwynwyd y mesurau llym i’n caethiwoni i gyd am wythnosau lawer yn bennafer mwyn gwarchod yr henoed a’r breguseu hiechyd. Yr eironi yw mai’r

genhedlaeth iau ac iach sy’n dioddeffwyaf, a nhw fydd yn talu’r pris mwyaf amflynyddoedd lawer i ddod.Cenhedlaeth mewn limboYstyriwn y difrod mawr sy’n digwydd yneu bywydau hwy. Fe darfwyd ar euhaddysg a pheryglwyd gobeithion nifer ofynd i goleg. I lawer, mae ffrindiau acathrawon ysgol fel ail deulu, ac mae collicwmni cyfeillion am fisoedd yn bethanodd dros ben, yn enwedig i’r rhai sy’ndod o aelwyd lle mae digofaint a cham-drin. A beth am gariadon ifanc fu’n byw arwahân am wythnosau, ac sy’n dal heb yrhawl i gofleidio a chusanu, a’r rhai syddwedi gorfod gohirio’u priodasau?

Pobl ifanc sy’n dioddef yr ergydeconomaidd fwyaf hefyd. Yn ôl ySefydliad Astudiaethau Cyllidol (yr IFS)mae pobl ifanc o dan 25 oed yn 2.5gwaith yn fwy tebygol o fod yn gweithiomewn sector sydd nawr ar gau. Ofnir ygallai diweithdra ymhlith pobl ifanc, sy’ntueddu i fod ar gyflogau isel ta beth, godii gymaint â dwy filiwn erbyn diwedd yrargyfwng hwn. Ar yr amser mwyaftyngedfennol yn eu bywydau, maecymaint o’n pobl ifanc mewn limbo.Tosturi a DewrderOnd ydy’r Plu Eira’n toddi yn wyneb yfath greulondeb a thrafferthion enbyd?Nac ydyn wir! Mae miloedd di-ri wedigwirfoddoli i helpu dosbarthu pecynnaubwyd i deuluoedd anghenus, yr henoeda’r sâl. Mae byddin ohonynt wedi mynd iweithio mewn cartrefi preswyl fel

Alun Lenny

gofalwyr. Mae llu o fyfyrwyr meddygolwedi camu fyny i nyrsio ar y linell flaen, iweithio shifftiau 12 awr, gan wisgo’r offerPPE trwm a phoeth am oriau heb fedrucymryd llwnc o ddŵr. Dyma genhedlaethsy’n arddangos ac yn gweithredu cariada thosturi yn eu gweithredoedd, gras agoddefgarwch o dan y gwaharddiad, ynogystal â dewrder a hunanaberth trwyfentro’u hiechyd, a hyd yn oed eubywydau, wrth ofalu am y rhai sy’ndioddef o’r haint. Rhinweddau CristnogolDyma’r rhinweddau sy’n cael euhyrwyddo gan Dduw yn Iesu Grist. Ernad yw’r mwyafrif llethol o’n pobl ifanc ynarddel crefydd ffurfiol, rhyw ddydd efallai,pwy ŵyr na fydd rhai yn dechrau holi acystyried tarddiad y rhinweddau sydd yneu calonnau’n barod? Rhyw ddydd,efallai, fe fydd yr ysbryd sydd eisoes arwaith yn agweddau a gweithredoeddcymaint ohonynt yn cael ei adnabod felyr Ysbryd Glân. Ac os ddigwydd hynny, fefydd cyfnod newydd yn agor yn hanesCristnogaeth yn ein gwlad ac yn y byd.Wedi’r cyfan, beth wyddom ni amgynlluniau ac amserlen Duw, yr hwn syddwedi galw pobl ifanc i’w wasanaethu arhyd yr oesoedd? Protestiodd y proffwydJeremeia na wyddai ‘pa fodd i lefaru,oherwydd bachgen wyf fi,’ ac 20 oedoedd Williams Pantycelyn pan gafodd eidröedigaeth. Ynghanol cyfnoddychrynllyd y Coronafirws, diolchwn iDduw am y Plu Eira. Hwy yw ein gobaithni ar gyfer y dyfodol. Alun Lenny

Newyddion o ogledd Maldwyn: Beth sy’n digwydd?Ar wahoddiad Y Tyst anfonaf air i’chhysbysu am yr hyn sy’n digwydd yngngogledd Maldwyn wrth ymdopi â’rsefyllfa bresennol a sut yr ydym wediaddasu ein ffordd o fyw ynghyd â’ngweithgareddau er mwyn atal y firwsdieflig hwn. Mae ein haelodau yn ygwahanol eglwysi yn y weinidogaeth froyn gwneud eu rhan yn y gymuned y maentyn rhan ohoni. Ardal amaethyddol yw’rgymdogaeth gyda phentrefi cymharol facho ran poblogaeth yw Llangynog, Pen-y-bont-fawr, Llanrhaeadr ym Mochnant,Llangedwyn, Llanarmon Dyffryn Ceiriog,Llansanffraid ym Mechain, Llanfechain,Llanwddyn a’r unig dref yw Llanfyllin ahonno eto yn gymharol fach o ranpoblogaeth. Mae yna nifer o’n haelodau ynweithwyr hanfodol fel nyrsys,gweinyddesau a gofalwyr yng nghartrefi’rhenoed a chartrefi nyrsio. Mae athrawonyn cynnal yr ysgolion i blant y gweithwyrhanfodol. Mae eu hymroddiad a’uhymdrechion yn ganmoladwy. Hefydsiopau bach y wlad a’r swyddfeydd postsy’n dal yn weithredol yn y cymunedaulleol ac felly yn arbed teithio milltiroeddi’r archfarchnadoedd pellach yn y trefi

mwy fel Croesoswallt a’r Trallwng. Mae ynaenghreifftiau o siopau bach yma yn dosbarthunegeseuon i’r rhai sydd yn gaeth i’w cartrefi.Mae’r elfen o gymwynasgarwch yn amlyguei hun mewn cymunedau gwledig fel yr oeddslawer dydd. Dyma rai o’r nodweddion aallai barhau ar ôl y cyfyngiadau presennol.Mae cynghorau cymunedol yr ardaloedd hynyn darparu cefnogaeth i’r rhai sy’n gaethgyda digon o wirfoddolwyr yn rhoi euhamser sydd yn cynnwys aelodaeth eglwysig.Ffôn a’u cysurantFel y gwyddom mae’r gwasanaethau yn yreglwysi wedi peidio â bod ac ni all ygweinidog fugeilio trwy ymweld ac felly ymae’r bugeilio yn digwydd trwy gysylltu ar yffôn yn bennaf. Mae llawer yn dweud wrthyfei bod yn colli oedfa ond yn llawenychu fodyna wasanaethau cyson bob dydd Sul, fel yroedfa fore Sul a Dechrau CanuDechrau Canmol aChaniadaeth y Cysegr arRadio Cymru. Fe wneir ysylw fod yr oedfa fore Sulyn dderbyniol iawn ac ynachlysur ychwanegol i’rarferol. Gobaith nifer yw gweld parhad i hyn

wedi’r cyfyngiadau. Yn ôl ycyfarwyddiadau ni chynhelir gwasanaethaubedydd na phriodasau ond maegwasanaethau angladdol yn hanfodol.Cynhelir hwy fynychaf ar lan y bedd, sy’nwahanol i’r arfer, gyda chyfyngiadau arnifer y galarwyr a all fod yn bresennol acwrth gwrs rhaid cadw pellter cymdeithasol.Rhaid gweinyddu gwasanaeth felly mewnffordd wahanol er mwyn cyfleucydymdeimlad heb y cysylltiad agosarferol.Y cyffredin anghyffredinWedi’r argyfwng fe fydd angen defnyddionifer o ffyrdd eraill o weithredu yn hytrachna’r arferol ac ni fydd ein ffyrdd oweinidogaethu yn union fel y bu cyn ycyfnod o’r aflwydd coronafirws. Mae ynanifer wedi colli eu bywyd yn yr ardal honond mae’r nifer yn gymharol fach ymMhowys. Efallai mai’r rheswm am hynnyyw fod cleifion Powys naill ai’n marwdros y ffin yn Swydd Amwythig, ysbytyBronglais, Aberystwyth neu ysbyty MaelorWrecsam. Felly mae’r marwolaethauhynny yn cael eu cofnodi tu allan i’r sir.

J Gwyndaf RichardsGweinidog Bro Dyffryn Tanat, Cain,

Efyrnwy a Llanarmon

Page 8: Hiliaeth - Annibynwyro gyfraniad eto eleni, er bod ymuno yn yr opsiynau arferol yn amhosibl, ac ar ôl ... gweinidogaethu a mentora dynion ifanc yn y ‘Third Ward’ yn Houston, sef

Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Serol Print, Uned 13, Ystad Ddiwyd. Heol Milland, Castell-nedd, SA11 1NJ. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.

Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd: Y Parchg Ddr Alun Tudur39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,Caerdydd, CF23 9BSFfôn: 02920 490582E-bost: [email protected]

Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:Ty John Penri, 5 Axis Court, ParcBusnes Glanyrafon, Bro Abertawe

ABERTAWE SA7 0AJFfôn: 01792 795888

E-bost: [email protected]

tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mehefin 11, 2020Y TYST Golygydd

Y Parchg Iwan Llewelyn JonesFronheulog, 12 Tan-y-Foel,

Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,LL49 9UE

Ffôn: 01766 513138E-bost: [email protected]

GolygyddAlun Lenny

Porth Angel, 26 Teras PictonCaerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX

Ffôn: 01267 232577 / 0781 751 9039

E-bost: [email protected]

Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen

Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yrAnnibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim âchynnwys y Pedair Tudalen.

Golygyddion

Ydy’r eglwys yn rhy ‘Sul-ganolog’? dipyn mwy nag ydyw i’w cyrraedddrwy’r addoliad rheolaidd ar y Sul. Fellyonid oes dadl gref dros ddweud bod yreglwys hon yn tyfu yn hytrach nadirywio?Crist ganologIddo fe, y broblem sylfaenol yw einsyniad traddodiadol ni o’r eglwys. Rydymwedi gosod oedfa’r Sul yn y canol gydagunrhyw weithgareddau eraill ar yrymylon, sy’n llai pwysig. Llawer gwellfyddai meddwl am yr eglwys fel Iesu yny canol, gyda’r oedfa yn cymryd ei lle felun o nifer o ffyrdd sy’n helpu pobl igysylltu eu hunain gydag Iesu, gan dyfuyn eu dealltwriaeth ohono fe a beth mae’ngolygu i fyw’r bywyd Cristnogol. Mae’ncydnabod nad yw pawb sy’n mynd i’rgrwpiau yn ymwybodol bod hyn yndigwydd, ond, meddai, mae ffilm deuluolfel Paddington er enghraifft, yn ein dysguam bwysigrwydd helpu ffoaduriaid. Maecanu mewn cyngerdd sy’n codi arian iChildline yn ffordd o ddangos cariad tuagat gymydog. Wrth gymryd rhan mewntrafodaeth gyda Mwslemiaid a chrefyddaueraill neu gyda phobl di-gred, rydym ynrhoi llais i’r byd-olwg Cristnogol. O gam i gamGellid dadlau mai camau bach digon

petrus ydynt ar y llwybr i fod yn ddisgybla does dim sicrwydd fod pawb yn mynd igerdded ymhellach, ond mae’n bosiblbydd rhai yn mentro. Yr hyn sy’ngyffredin yn y gweithgareddau a nodwyduchod yw eu bod yn cwrdd â phobl yn ypethau sydd o ddiddordeb iddyn nhw -ffilm, llyfrau, canu, cymdeithasu neugwrw! Dydyn nhw ddim yn mynnu bodpobl yn mabwysiadu ein patrwm ni oaddoli, patrwm sydd, gadewch i ni fod ynonest, yn mynd yn ôl canrifoedd, ac sy’ndefnyddio ffordd o gyfathrebu (y bregeth)sydd mewn gwrthgyferbyniad llwyr i’rffyrdd cyfoes o fyw ac o dderbyngwybodaeth.Cyfrwng i’r cyfryngwrFe fydd lle i’r oedfa addoli ar y Sulwastad wrth gwrs, er rwy’n amau bod ycyfnod hwn o dan ‘locdown’ ac oedfaonar Zoom a’r cyfryngau cymdeithasol wedigorfodi llawer ohonom i weld yposibiliadau o’u haddasu a’u newid o rancynnwys, lleoliad ac amser. Does ondgobeithio na fyddwn yn anghofio hynnypan ddaw pethe ’nôl i ryw fath onormalrwydd. Yn sicr mae unrhyw dwfynom fel cymunedau Cristnogol yn myndi ddibynnu i raddau helaeth ar sylweddolifod y cyfrwng yn ogystal â’r neges ynallweddol os ydym am gyflwyno’refengyl yn llwyddiannus i bobl yr 21ainganrif.

Robin Samuel

Cofio diwedd yRhyfel yn EwropFel rhan o’r diwrnod i gofio amddigwyddiadau Buddugoliaeth yn Ewrop(VE) pentref Creunant, Cwm Dulais,

gosodwyd henambiwlans o UnolDaleithiau’r Americay tu allan i gapelSaron a chafwyd tesbesial gan rhai o’raelodau gyda’ucymdogion ... o’r ardd wrth gwrs. Addurnwyd pentrefCreunant yn hardd gyda bunting ar y tai a baneri ynchwifio’n braf i gofio 75 o flynyddoedd ers diwedd yr AilRyfel Byd. Fe fwynhaodd Betty – 89 oed – aelod hynafeglwys Saron y te yn ei gardd a’r cyfle i gymdeithasu o bellgyda’i chymdogion.

W. Rhys Locke

Dyna deitl gogleisiol erthygl a ddarllenaisyn ddiweddar, ac mae’n rhaid dweud bodyr wythnosau diwethaf yma o dan‘locdown’ wedi dod â’r cwestiwn yn fywiawn. Diacon mewn eglwys gynulleidfaolyn Lloegr sy’n gofyn y cwestiwn, yndilyn diwrnod a gynhaliwyd ganddynt feleglwys i drafod sut allen nhw ddatblygueu gweithgaredd i estyn allan i’r gymunedleol. Mae’n werth nodi nad eglwys fawryw hon. Rhwng 15 ac 20 sy’n mynd i’roedfa ar fore Sul fel arfer, ac mae’rcyfartaledd oedran yn uchel. Swnio’ngyfarwydd? Os mai nifer y gynulleidfa ary Sul sy’n cyfrif, yna doesdim dwywaith bod einheglwys mewntrafferthion mawr, meddawdur yr erthygl, a chanfod y gynulleidfa’nheneiddio, go brin fod gennym lot oddyfodol. I gymaint o bobl, gan gynnwysllawer o aelodau’r eglwysi, maintcynulleidfa’r Sul sy’n penderfynu cyflwryr eglwys. Ond ai dyma’r unig safon syddi fesur llwyddiant neu fethiant eglwys?Mae’r erthygl yn mynd yn ei blaen i nodibod yr eglwys yn cynnal gweithgarwcharall ar wahân i’r oedfa reolaidd ar foreSul:Café Church – cymdeithas a thrafodaethanffurfiol dros frecwast ar fore Sul. Clwb Ffilm – pobl yn dod at ei gilydd iwylio ffilm boblogaidd gyfoes a thrafod ymaterion moesol a chymdeithasol sy’ncodi ohoni. Clwb Llyfr Beiblaidd - grŵp sy’n trafodllyfr diwinyddol poblogaidd.Diwinyddiaeth Tafarn – cwrdd mewntafarn i drafod diwinyddiaeth acathroniaeth yng nghwmni pobl o gredoaueraill a rhai di-gred.Just Sing – Côr Cymunedol yn canuystod eang o gerddoriaeth.Ymestyn allanYr hyn sy’n ddiddorol yw, er bod yniferoedd sy’n mynychu’rgweithgareddau hyn ddim llawer mwyna’r rhai sy’n mynd i’r oedfa ar fore Sul,eto mae dros hanner y bobl sydd ymmhob grŵp yn rhai sydd ddim yn myndi’r oedfa. Y gwir yw, medd yr awdur,mae’r posibiliadau i gyrraedd y gymunedehangach trwy’r gweithgareddau yma yn