llwyddo wrth ysgrifennu - bangor.ac.uk welsh for web.pdf · rheoli eich astudiaethau 27ain ionawr -...

15
LLWYDDO WRTH YSGRIFENNU Gweithdai’r Ganolfan Sgiliau Astudio Ionawr Mai 2016 Gwasanaethau Myfyrwyr CANOLFAN SGILIAU ASTUDIO Eich helpu i wneud y gorau o’ch astudiaethau

Upload: others

Post on 20-Oct-2019

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: LLWYDDO WRTH YSGRIFENNU - bangor.ac.uk welsh for web.pdf · Rheoli eich astudiaethau 27ain Ionawr - 2pm Alun A1.01 2il Chwefror - 2pm Alun A0.01 Mae’r gweithdy hwn wedi cael ei

LLWYDDO WRTH YSGRIFENNUGweithdai’r Ganolfan Sgiliau AstudioIonawr – Mai 2016

Gwasanaethau Myfyrwyr

CANOLFAN SGILIAU ASTUDIOEich helpu i wneud y gorau o’ch astudiaethau

Page 2: LLWYDDO WRTH YSGRIFENNU - bangor.ac.uk welsh for web.pdf · Rheoli eich astudiaethau 27ain Ionawr - 2pm Alun A1.01 2il Chwefror - 2pm Alun A0.01 Mae’r gweithdy hwn wedi cael ei

LLWYDDO WRTH YSGRIFENNU EICH HELPU I WNEUD Y

GORAU O’CH ASTUDIAETHAU02

GWEITHDAI SEMESTER 2 02

GWEITHDAI YSGRIFENNU ACADEMAIDD

03

YSGRIFENNU YMCHWIL A THRAETHAWD HIR

07

POENI AM ARHOLIADAU? 10

DYSGWCH FWY AM EIN HYMGYNGHORIADAUYSGRIFENNU

11

PEIDIWCH Â CHOLLI DIGWYDDIADAU ERAILL Y GANOLFAN A FYDD O GYMORTH

12

Cynnwys

Page 3: LLWYDDO WRTH YSGRIFENNU - bangor.ac.uk welsh for web.pdf · Rheoli eich astudiaethau 27ain Ionawr - 2pm Alun A1.01 2il Chwefror - 2pm Alun A0.01 Mae’r gweithdy hwn wedi cael ei

Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio’n gweithio ochr yn ochr â myfyrwyr ar bob lefel o astudiaeth isradd ac ôl-radd, ac yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, yn cynnwys:

• Apwyntiadau unigol ar sgiliau ysgrifennu ac astudio

• Sesiwn galw heibio Mathemateg ac Ystadegau

• Gweithdai sgiliau ysgrifennu, ymchwil ac arholiadau

• Ysgol ysgrifennu traethodau hir ôl-radd

• Grwpiau ysgrifennu PhD

• Canllawiau astudio ar-lein

Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio wedi llunio dwy raglen o weithdai ar draws Semester 2:

Cyfres Ysgrifennu Academaidd sy’n canolbwyntio ar ysgrifennu sy’n gysylltiedig ag aseiniadau, a Chyfres Traethawd Hir. Tua diwedd y semester cynhelir dau weithdy ychwanegol sy’n canolbwyntio ar y broses adolygu a rheoli arholiadau.

Mae ein gweithdai yn rhoi cyfle i archwilio arferion a strategaethau sy’n helpu i ddatblygu eich dealltwriaeth o ddisgwyliadau academaidd ac i wella ansawdd y gwaith rydych chi’n ei gynhyrchu. Mae sgwrsio yn ganolog i’n dulliau o ymdrin â thasgau. Mae’r gweithdai yn seiliedig ar dasgau, sy’n eich galluogi i ddysgu drwy wneud a chwestiynu.

Mae croeso i chi ddilyn y rhaglen gyflawn, neu ddewis o’r sesiynau hynny’n unig sy’n apelio atoch chi. Ailadroddir y gweithdai unwaith yn ystod yr wythnos ganlynol, gyda’r un deunydd. Edrychwn ymlaen i weithio gyda chi.

Gweithdai Semester 2

Eich helpu i wneud y gorau o’ch astudiaethau

studyskills.bangor.ac.uk

02D

IM A

NG

EN CO

FRES

TRU

Page 4: LLWYDDO WRTH YSGRIFENNU - bangor.ac.uk welsh for web.pdf · Rheoli eich astudiaethau 27ain Ionawr - 2pm Alun A1.01 2il Chwefror - 2pm Alun A0.01 Mae’r gweithdy hwn wedi cael ei

GWEITHDAI YSGRIFENNU ACADEMAIDD Ionawr – Mawrth 2016Hyd: 90 munud

Mae’r gyfres hon sy’n rhad ac am ddim, ac wedi’u hanelu’n bennaf at fyfyrwyr israddedig ond hefyd yn berthnasol i ôl-raddedigion, yn darparu cyfle ymarferol i archwilio materion sy’n ganolog i’r broses o ysgrifennu’n academaidd. Bwriad y gyfres yw darparu sylfaen gadarn ar gyfer ymdrin ag aseiniadau yn y dyfodol, drwy drin a thrafod pynciau megis rheoli eich astudiaethau, defnyddio ffynonellau a dulliau beirniadol o ddarllen ac ysgrifennu, a thrafod ffyrdd o gynhyrchu a threfnu eich syniadau.

I gael amlinelliad llawn o’r gweithdai ewch i’n gwefan: http://studyskills.bangor. ac.uk/digwyddiadau.php.cy Nid oes angen cofrestru.

Page 5: LLWYDDO WRTH YSGRIFENNU - bangor.ac.uk welsh for web.pdf · Rheoli eich astudiaethau 27ain Ionawr - 2pm Alun A1.01 2il Chwefror - 2pm Alun A0.01 Mae’r gweithdy hwn wedi cael ei

Rheoli eich astudiaethau27ain Ionawr - 2pm Alun A1.01

2il Chwefror - 2pm Alun A0.01

Mae’r gweithdy hwn wedi cael ei gynllunio i’ch helpu i feddwl yn strategol am y semester o’ch blaen, ac i ystyried cynllun ar gyfer rheoli eich amser.

Cael yr awen i lifo 4ydd Chwefror - 2pm LR3 Prif Adeilad y Celfyddydau

8fed Chwefror - 2pm Alun A1.06

Bwriad y gweithdy hwn yw rhoi hwb i’ch ysgrifennu drwy gyflwyno amrywiaeth o strategaethau ar gyfer cynhyrchu a chrisialu eich syniadau. Os ydych chi’n dueddol o ddileu mwy nag ydych chi’n ei ysgrifennu, neu’n syllu ar dudalen wag gan ddymuno nad oedd yn wag, yna bydd y gweithdy hwn o fudd i chi.

studyskills.bangor.ac.uk

WYTHNOS 15 WYTHNOS 1604

Page 6: LLWYDDO WRTH YSGRIFENNU - bangor.ac.uk welsh for web.pdf · Rheoli eich astudiaethau 27ain Ionawr - 2pm Alun A1.01 2il Chwefror - 2pm Alun A0.01 Mae’r gweithdy hwn wedi cael ei

Cymryd nodiadau a darllen i bwrpas18fed Chwefror - 2pm Prif Adeilad y Celfyddydau LR3

22ain Chwefror - 2pm Alun A1.06

Yn y gweithdy hwn byddwn yn ystyried yr hyn sydd angen i chi chwilio amdano wrth i chi ddarllen, ac archwilio ffyrdd o grisialu gwybodaeth o ddarlithoedd ar ffurf nodiadau.

WYTHNOS 17 WYTHNOS 18

Ysgrifennu brawddegau gwell10fed Chwefror - 2pm Alun A1.06

16eg Chwefror - 2pm Wheldon LT2

Mae’r gweithdy hwn yn rhoi sylw i wallau cyffredin wrth strwythuro brawddegau a llif eich gwaith, gan archwilio ffyrdd o olygu eich gwaith yn y modd mwyaf effeithiol. Dylai’r sesiwn hon fod o fudd os yw sylwadau adborth eich darlithwyr yn awgrymu bod angen i chi wella eich atalnodi a gramadeg.

Page 7: LLWYDDO WRTH YSGRIFENNU - bangor.ac.uk welsh for web.pdf · Rheoli eich astudiaethau 27ain Ionawr - 2pm Alun A1.01 2il Chwefror - 2pm Alun A0.01 Mae’r gweithdy hwn wedi cael ei

18fed Chwefror - 2pm Prif Adeilad y Celfyddydau LR3

22ain Chwefror - 2pm Alun A1.06

Aralleirio ac osgoi llên-ladrad24ain Chwefror - 2pm OSCRA Prif Adeilad y Celfyddydau

1af Mawrth - 2pm Alun A1.01

Mae’r gweithdy hwn yn edrych ar yr hyn a olygir wrth arfer da wrth ddefnyddio gwaith awduron eraill, ac mae’n cynnig nifer o ffyrdd i osgoi llên-ladrad. Rhoddir pwyslais penodol ar drafod ffyrdd o roi syniadau awduron eraill yn eich geiriau eich hun.

Sut i gryfhau eich dadl9fed Mawrth - 2pm Wheldon LT2

15fed Mawrth - 2pm Prif Adeilad y Celfyddydau LR3

Os yw sylwadau adborth eich darlithwyr yn nodi’r angen i ddatblygu eich dadl a gwneud eich gwaith yn llai disgrifiadol, yna dyma’r gweithdy i chi. Yn ystod y sesiwn byddwn yn archwilio ffyrdd o gyflwyno safbwynt, sut i fynegi barn sy’n dal dŵr a ffyrdd o roi dadl ar brawf.

studyskills.bangor.ac.uk

WYTHNOS 19 WYTHNOS 2006

Page 8: LLWYDDO WRTH YSGRIFENNU - bangor.ac.uk welsh for web.pdf · Rheoli eich astudiaethau 27ain Ionawr - 2pm Alun A1.01 2il Chwefror - 2pm Alun A0.01 Mae’r gweithdy hwn wedi cael ei

YSGRIFENNU YMCHWIL A THRAETHAWD HIRIonawr – Ebrill 2016Hyd: 90 munud

Mae’r gyfres hon sy’n rhad ac am ddim, ac wedi’u hanelu at fyfyrwyr sy’n ystyried eu traethawd hir yn ogystal â’r rhai sy’n paratoi ymchwil cefndirol, yn darparu cyfle ymarferol i: (a) ddatblygu eich targedau ymchwil, (b) i reoli eich ymchwil, (c) i ystyried dulliau o ymdrin ag adolygu ffynonellau, (ch) i lunio crynodeb, ac i (d) archwilio beth sy’n gwneud rhagarweiniad pwrpasol.

I gael amlinelliad llawn o’r gweithdai ewch i’n gwefan: http://studyskills.bangor. ac.uk/digwyddiadau.php.cy Nid oes angen cofrestru.

Diffinio eich Pwnc26ain Ionawr - 2pm Wheldon LT2

3ydd Chwefror - 2pm Alun A1.06

A yw bwriad eich ymchwil yn gyraeddadwy, a beth yw’r rhesymau dros ddilyn y trywydd hwnnw? Dyma ddau gwestiwn sy’n cael eu hystyried yn y gweithdy hwn wrth i ni weithio drwy’r broses o gynhyrchu cwestiwn ymchwil yn seiliedig ar eich pwnc dewisol chi.

WYTHNOS 15

Page 9: LLWYDDO WRTH YSGRIFENNU - bangor.ac.uk welsh for web.pdf · Rheoli eich astudiaethau 27ain Ionawr - 2pm Alun A1.01 2il Chwefror - 2pm Alun A0.01 Mae’r gweithdy hwn wedi cael ei

Cynllunio eich traethawd hir9fed Chwefror - 2pm Alun A1.01

17eg Chwefror - 2pm Alun A0.01

Mae’r gweithdy hwn yn edrych ar y syniad o ‘archwiliad ymchwil’ fel modd o nodi’r camau y bydd angen i chi eu cymryd i reoli eich prosiect ymchwil er mwyn ei gwblhau yn llwyddiannus.

Adolygu’r Llenyddiaeth23ain Chwefror - 2pm Alun A0.01

2il Mawrth - 2pm Alun A0.01

Yn y gweithdy hwn, rydym yn edrych ar bwrpas adolygiadau o lenyddiaeth gan ystyried hefyd sut mae’r adolygiad wedi ei leoli o fewn eich ymchwil. Rydym hefyd yn ystyried sut i lunio safbwynt awdurdodol tuag at y llenyddiaeth a sut i drefnu eich adolygiad yn y modd mwyaf effeithiol.

studyskills.bangor.ac.uk

WYTHNOS 16 WYTHNOS 1708

Page 10: LLWYDDO WRTH YSGRIFENNU - bangor.ac.uk welsh for web.pdf · Rheoli eich astudiaethau 27ain Ionawr - 2pm Alun A1.01 2il Chwefror - 2pm Alun A0.01 Mae’r gweithdy hwn wedi cael ei

WYTHNOS 18 WYTHNOS 19

Ysgrifennu Crynodebau8fed Mawrth - 2pm Alun A1.01

16eg Mawrth - 2pm Alun A0.01

Beth sy’n gwneud crynodeb da? Mae’r gweithdy yn bwriadu ateb y cwestiwn hwn drwy gymharu crynodebau o ystod o wahanol ddisgyblaethau.

Ysgrifennu Rhagarweiniadau 12fed Ebrill - 2pm Alun A1.01

20fed Ebrill - 2pm Alun A1.01

Mae’r gweithdy hwn yn edrych ar swyddogaeth rhagarweiniad ysgrifenedig a’r hyn a wna awduron wrth gyflwyno’u gwaith i ddarllenwyr.

studyskills.bangor.ac.uk

Page 11: LLWYDDO WRTH YSGRIFENNU - bangor.ac.uk welsh for web.pdf · Rheoli eich astudiaethau 27ain Ionawr - 2pm Alun A1.01 2il Chwefror - 2pm Alun A0.01 Mae’r gweithdy hwn wedi cael ei

POENI AM ARHOLIADAU? Mae gennym ddau weithdy sy’n canolbwyntio ar sgiliau adolygu a rheoli arholiadau.

Gwneud eich gorau mewn arholiadau13eg Ebrill - 2pm Alun A1.01

19eg Ebrill - 2pm Alun A0.01

Gall sefyll arholiadau fod yn brofiad brawychus. Cynhelir y gweithdy hwn i gyd-fynd â’r cyfnod adolygu ar gyfer arholiadau’r haf. Y nod fydd lleihau pryder a straen yr arholiadau drwy edrych ar dechneg a ffyrdd llwyddiannus o baratoi ar eu cyfer.

Adolygu munud olaf4ydd Mai - 2pm Alun A1.06

Bwriad y gweithdy hwn, a gynhelir i gyd-fynd â’r cyfnod arholiadau, yw ceisio lleihau rhywfaint o’r pryder sy’n deillio o sefyll arholiadau, drwy gynnig awgrymiadau ar gyfer adolygu munud olaf ac ar gyfer diwrnod yr arholiad ei hun.

10

Page 12: LLWYDDO WRTH YSGRIFENNU - bangor.ac.uk welsh for web.pdf · Rheoli eich astudiaethau 27ain Ionawr - 2pm Alun A1.01 2il Chwefror - 2pm Alun A0.01 Mae’r gweithdy hwn wedi cael ei

studyskills.bangor.ac.uk

Beth yw ymgynghoriad ysgrifennu? Mae ymgynghoriadau ysgrifennu yn gyfle i chi gyfarfod yn unigol am hyd at 50 munud ar y tro ag aelod o’n tîm ysgrifennu er mwyn trafod eich gwaith ysgrifenedig. Gallwch drefnu apwyntiad ar unrhyw adeg yn y broses ysgrifennu, ac mae croeso i chi drafod aseiniadau yr ydych wrthi’n gweithio arnynt a hefyd y rheiny sydd eisoes wedi’u hasesu. Rydym yn eich annog i ddod â’ch gwaith gyda chi i’n hymgynghoriadau.

Ein tîm ysgrifennu Mae ein hymgynghorwyr ysgrifennu yn cynnwys Ymgynghorwyr Astudio a hefyd Mentoriaid Ysgrifennu i Gyfoedion. Cyfoedion israddedig ac ôl-raddedig yw’r mentoriaid, sydd wedi’u recriwtio trwy gyfweliad ac sydd wedyn yn dilyn rhaglen hyfforddi drwyadl. Bernir bod 94% o’n sesiynau ymgynghori unigol yn werth 4 seren neu fwy, a dwy ran o dair yn ennill 5 seren.

Sut i drefnu ymgynghoriad Gallwch drefnu apwyntiadau ar-lein gan ddefnyddio’r ffurflenni archebu ar ein gwefan, neu ar y ffôn ar 01248 382689. Fel arall, galwch heibio’n bersonol i dderbynfa Rathbone. Mae sesiynau ymgynghori ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae sesiynau ymgynghori yn rhad ac am ddim ac yn hollol gyfrinachol.

www.bangor.ac.uk/studyskills

Dysgwch fwy am ein hymgynghoriadau ysgrifennu

E-BOST: [email protected] FFÔN: 01248 382689

WWW.BANGOR.AC.UK/STUDYSKILLS

Page 13: LLWYDDO WRTH YSGRIFENNU - bangor.ac.uk welsh for web.pdf · Rheoli eich astudiaethau 27ain Ionawr - 2pm Alun A1.01 2il Chwefror - 2pm Alun A0.01 Mae’r gweithdy hwn wedi cael ei

Peidiwch â cholli digwyddiadau eraill y Ganolfan a fydd o gymorth

Sesiynau galw heibio Mathemateg ac Ystadegau Mae’r gwasanaeth galw heibio ar gyfer mathemateg ac ystadegau yn gyfle i gwrdd â thiwtor yn unigol er mwyn trafod unrhyw anawsterau gyda mathemateg ac ystadegau y byddwch yn dod ar eu traws, a gofyn y math o gwestiynau y gallech fod yn gyndyn i’w gofyn i diwtor cwrs. Cewch gymorth gydag ymarferion, taflenni tiwtorial, hen bapurau arholiad, ac i ddefnyddio pecynnau ystadegol (Excel a SPSS). Os ydych yn cael anhawster deall y fathemateg, llunio damcaniaeth, dewis y prawf ystadegol cywir, neu ddehongli canlyniadau allbwn a grëwyd gan gyfrifiadur, galwch heibio yn ystod y tymor, yn Llyfrgell Deiniol.

Bob dydd Mawrth: 1:30 pm – 4:30 pm

Bob dydd Mercher: 10:30 am – 4:30 pm

Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac yn hollol gyfrinachol. Nid oes angen archebu eich lle.

Grwpiau ysgrifennu Rydym wedi bod yn cynnal grwpiau ysgrifennu ar gyfer myfyrwyr PhD ers y dechrau, ac rydym yn croesawu aelodau newydd i’r grŵp ysgrifennu, a hefyd unrhyw fyfyrwyr sydd ar lefelau astudio eraill. Mae ein grwpiau yn rhoi cyfle i rannu gwaith ysgrifenedig a chael sylwadau gan ffrindiau beirniadol, a rhoi ysgogiad ar gyfer yr ysgrifennu. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â grŵp, cofrestrwch eich diddordeb drwy ein gwefan.

Canllawiau astudio ar-lein Mae ein gwefan yn cynnwys amrywiaeth o ganllawiau astudio ar ysgrifennu a meysydd sgiliau eraill, o gyflwyniadau, i sgiliau arholiadau, a mathemateg ac ystadegau. Ewch ar-lein i weld canllawiau ysgrifennu traethodau, awgrymiadau ynghylch sut i osgoi llên-ladrad, a chyngor ar y grefft o olygu.

12

Page 14: LLWYDDO WRTH YSGRIFENNU - bangor.ac.uk welsh for web.pdf · Rheoli eich astudiaethau 27ain Ionawr - 2pm Alun A1.01 2il Chwefror - 2pm Alun A0.01 Mae’r gweithdy hwn wedi cael ei
Page 15: LLWYDDO WRTH YSGRIFENNU - bangor.ac.uk welsh for web.pdf · Rheoli eich astudiaethau 27ain Ionawr - 2pm Alun A1.01 2il Chwefror - 2pm Alun A0.01 Mae’r gweithdy hwn wedi cael ei