mewn gofal, allan o drwbwl - prison reform trust...mewn gofal, allan o drwbwl sut y gellir...

36
Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r system cyfiawnder troseddol Adolygiad annibynnol a gadeiriwyd gan yr Arglwydd Laming

Upload: others

Post on 12-May-2020

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 1

Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r system cyfiawnder troseddol

Adolygiad annibynnol a gadeiriwyd gan yr Arglwydd Laming

   

       

       

       

   

 

Page 2: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 2

Rhagair 1

Crynodeb o’r canfyddiadau a’r argymhellion 5

1. Arweinyddiaeth gryf a phenderfynol ar lefel genedlaethol a lleol 7

2. Cymorth cynnar i blant a theuluoedd sydd mewn perygl 9

3. Rhianta da gan y wladwriaeth 10

4. Ymateb i blant o grwpiau lleiafrifol sydd mewn gofal 14

5. Atal, dargyfeirio ac adsefydlu 18

6. Cynorthwyo pobl ifanc sy’n gadael gofal 20

21 Atodiad Un: Concordatau ar amddiffyn plant sy’n derbyn gofal rhag eu troseddoli – egwyddorion sylfaenol

23 Atodiad Dau:

Aelodau’r adolygiad 23

Am yr adolygiad 24

Ffeithiau allweddol 26

Enghreifftiau o arferion da 28

Ôl-nodiadau 30

Diolchiadau 32

© Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai 2016

www.prisonreformtrust.org.uk/carereview

Llun y clawr: Locked in Rainbows, Uned Ddiogel Atkinson (Cartref Plant Diogel), Gwobr Canmoliaeth Uchel Pierce Brunt am Ddarlun (Ymddiriedolaeth Koestler)

ISBN: 978-1-908504-92-0

Argraffwyd gan: Conquest Litho

   

       

       

       

   

 

Page 3: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 1

Rhagair

Since July 2013 I have been to 16 schools and I have been in 15 different placements all around the country … All of my offending has been whilst in care.  

Aelod ifanc o banel yr adolygiad, 15 mlwydd oed, 25 Mehefin 20151

These children are in our care; we, the state, are their parents – and what are we setting them up for…the dole, the streets, an early grave? I tell you: this shames our country and we will put it right.

Y Gwir Anrhydeddus David Cameron AS, Prif Weinidog, Hydref 2015

Sefydlwyd yr adolygiad hwn i edrych ar y rhesymau dros orgynrychiolaeth plant mewn gofal, neu blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal, yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr, ac ar y ffordd orau o ddelio â hynny.

Mae’r nod o leihau nifer anghymesur y bobl ifanc sydd neu a fu mewn gofal cyhoeddus sy’n mynd ymlaen i’r ddalfa yn un canmoladwy. Rhaid herio a newid yr orgynrychiolaeth o blant sy’n derbyn gofal sydd o fewn y system cyfiawnder ieuenctid. Ond daw’n boenus o glir yn fuan iawn bod dechrau ar yr adeg y mae ymddygiad troseddol yn dod i’r amlwg yn rhy hwyr yn achos nifer mawr o bobl ifanc. Mae gwaith adferol ac adsefydlu’n hanfodol ond mae gwaith atal yn fwy cynhyrchiol a buddiol i’r person ifanc ac i gymdeithas ehangach. Yn y cyd-destun hwn, mae’n werth aros a myfyrio eto ar bwysigrwydd plentyndod yn natblygiad cymdeithasol ac emosiynol pob person ifanc.

Mae rhianta da yn golygu ymrwymiad gydol oes. Hyn sy’n gosod y sylfaen gadarn ar gyfer y bersonoliaeth unigryw sy’n datblygu ac yn troi ymhen amser, gobeithio, yn oedolyn bodlon. Yr hanfodion yw diogelwch, sefydlogrwydd, cariad anhunanol ac ymrwymiad di-ildio i roi i’r plentyn y dechrau gorau a gobaith am y dyfodol. Yn y cyd-destun hwn y mae plant ifanc yn meithrin hunanhyder, ymddiriedaeth, gwerthoedd personol a chymdeithasol ac optimistiaeth. Bydd colled, esgeuluso neu drawma yn y cyfnod cynnar hwn yn eu bywyd yn arwain yn aml at ganlyniadau llethol a pharhaus.

Dylid rhoi pwys mawr ar brofiadau bywyd cynnar. Dylai cymorth a chyfarwyddyd fod ar gael yn ystod beichiogrwydd a’r misoedd cyntaf o fod yn rhiant i bawb sydd â’u hangen. Mae manteision hirdymor clir i’w cael o adnabod problemau’n gynnar yn hytrach nag oedi nes bydd argyfwng yn codi. Mae er budd pawb ohonom fod cynifer o blant â phosibl yn cael eu galluogi i dyfu’n ddinasyddion bodlon a llwyddiannus sy’n parchu’r gyfraith a fydd yn esiampl i’r genhedlaeth nesaf. Mae gan bawb ran i’w chwarae yn hyn, ond mae lle arbennig i’r teulu ehangach. Mewn cyfnodau anodd, dylid cymryd camau i gynnwys aelodau eraill o’r teulu a’u hannog i helpu a chyfrannu yn eu gwahanol ffyrdd. Os caiff argyfwng ei drafod yn iawn, gall fynd heibio’n fuan a gellir adfer sefydlogrwydd. Wedi’r cwbl, mae nifer mawr o deuluoedd wedi mynd drwy’r profiad hwn heb gael cymorth gan y wladwriaeth. Gall hyn fod yn waith wrth fodd staff rheng flaen. Drwy weithio fel hyn mewn rhai awdurdodau lleol, mae nifer y plant sy’n cael eu derbyn i ofal wedi gostwng yn barod.

1

   

       

       

       

   

 

Page 4: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 2

Mae buddsoddi mewn plentyndod yn fwy na rhywbeth dymunol. Mae gwerth gwirioneddol iddo sy’n cyrraedd yn bellach na’r plentyn gan ei fod yn hwyluso lles cymdeithas yn y dyfodol. Os na roddir cymorth i’r plentyn ac, os yw’n bosibl, i’r teulu hefyd yn y cyfnod hwn, bydd hyn yn gostus i’r plentyn ac yn ddrud iawn i’r wladwriaeth. Ym mhob ffordd, mae’r pris yn uchel i bawb sy’n gysylltiedig. Mewn termau ariannol, mae’n costio mwy na £200,000 y flwyddyn i gadw person ifanc mewn cartref plant diogel a’r gost flynyddol am le mewn sefydliad troseddwyr ifanc yw tua £60,000.

Wrth gwrdd â nifer mawr o bobl ifanc mewn sefydliadau carcharol, fe welir yn glir iawn y bylchau yn eu datblygiad cymdeithasol ac yn eu haddysg sylfaenol. Ni ellir peidio â theimlo wrth glywed am eu profiadau a’r cyfyngiadau mawr ar eu cyfleoedd bywyd. Yn achos rhai, mae eu dicter, eu rhwystredigaeth, eu hanallu i’w mynegi eu hunain heblaw drwy ymddwyn yn heriol ac o bosibl yn ymosodol i gyd yn arwydd o fethiant, am ba reswm bynnag, yn eu blynyddoedd cynnar. Ac eto, o gael y cymorth priodol ar yr adeg iawn, mae’r gallu sydd gan nifer mawr o blant i newid ac i wrthsefyll amgylchiadau anodd yn rhywbeth i’w edmygu’n fawr.

Mae angen i’r staff yn y sefydliadau hyn fod â’r gallu i ddangos cymysgedd o sgiliau proffesiynol da a rhinweddau personol sylweddol. Maent yn haeddu cael hyfforddiant da, goruchwyliaeth briodol a chefnogaeth. Dylem ganmol yr hyn y maent yn ei wneud ar ran pob un ohonom, yn fwy na dim am mai ychydig iawn ohonom, a minnau’n un, a fyddai’n dewis ymgymryd â gwaith sydd mor ymestynnol ac, ar brydiau, mor dorcalonnus. Gall gwaith adferol fod yn anodd, yn feichus ac weithiau’n ddigalon. Ond mae’r adolygiad hwn wedi clywed sut y mae arferion da yn gallu creu canlyniadau ysbrydoledig.

Yr hyn sy’n hollol amlwg yw na all yr un gwasanaeth, wrth weithio ar ei ben ei hun, fod â gobaith cwrdd ag anghenion y bobl ifanc hyn neu eu teuluoedd. Mae gan bob un o’r prif wasanaethau cyhoeddus gyfrifoldeb clir a neilltuol o dan y gyfraith i gyflawni’r dyletswyddau a roddwyd iddynt gan Senedd y Deyrnas Unedig a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Un o’r dyletswyddau hynny yw gweithio mewn partneriaeth â phob un o’r gwasanaethau eraill. Dros y blynyddoedd clywyd am ormod o lawer o enghreifftiau o wasanaethau a oedd wedi methu â gweithio ar draws ffiniau sefydliadol wrth gyfnewid gwybodaeth ac yn eu hymarfer o ddydd i ddydd i ddiogelu a chynorthwyo plant sy’n agored i niwed. Rydym wedi gweld a chlywed am gydweithio rhagorol ac am dimau wedi’u cydleoli mewn lleoedd fel Leeds a Surrey sy’n dargyfeirio plant sy’n derbyn gofal rhag eu troseddoli’n ddiangen. Mae arferion da yn arwain at ganlyniadau ardderchog mewn ardaloedd eraill hefyd. Mae’n bryd eu gwneud yn arferion safonol ym mhob man.

Yn sicr, fe ddaeth yn bryd datgan yn glir y dylai perfformiad y swyddogion uchaf, a’u cyfnod yn eu swydd, gael eu barnu ar sail ansawdd ac effeithiolrwydd y gwaith dros blant, yn fwy na dim drwy lwyddiant y cydweithio da rhwng gwahanol wasanaethau. Nid yw hyn yn golygu y gall uwch-reolwyr adnabod pob plentyn sydd mewn gofal cyhoeddus. Ond rhaid disgwyl iddynt fod wedi gosod safonau ansawdd cadarn ac effeithiol a sefydlu mecanweithiau di-feth fel y bydd methiant a diffyg cyfeiriad posibl mewn gwasanaeth yn cael ei adnabod a’i unioni’n fuan. Er enghraifft, yn Leeds mae staff uwch ym mhob un o’r gwasanaethau allweddol yn cael adroddiad wythnosol am ddata fel niferoedd y plant sy’n absennol o’r ysgol, wedi’u derbyn i ofal, neu mewn lleoliadau carcharol. Yn ddiweddar, mae Ofsted wedi rhoi sgôr ‘rhagorol’ mewn asesiad o dair o fwrdeistrefi Llundain.

Rwyf yn ddyledus i’m panel o arbenigwyr am eu gwaith yn pennu cyfeiriad ac yn cyfrannu i’r adolygiad hwn. Yn benodol, rwyf am ganmol gwaith aelodau ifanc y panel y mae eu mewnwelediad a’u parodrwydd i gyfrannu o’u profiadau eu hunain o fod mewn gofal a’u hymwneud â’r system cyfiawnder troseddol wedi bod yn rhan o drafodaeth yr adolygiad o’r cychwyn. Yn y cyd-destun hwnnw yr ydym yn gwneud yr argymhellion ar gyfer newid sydd yn yr adroddiad hwn.

2

   

       

       

       

   

 

Page 5: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 3

Dyma’r canlyniadau yr ydym am eu gweld:

• Rhaid i’r gwaith gael ei hyrwyddo gan arweinyddiaeth gryf a phenderfynol ar lefel genedlaethol a lleol, gan ddefnyddio dull amlasiantaethol strategol i amddiffyn plant sydd mewn gofal rhag eu troseddoli. Rhaid seilio hyn ar well trefniadau ar gyfer casglu data er mwyn gwella gwasanaethau i blant a theuluoedd, yn enwedig y rheini sydd mewn perygl.

• Rydym am weld cymorth cyson, cynnar i blant a theuluoedd a, lle bo angen, rhianta da gan y wladwriaeth.

• Mae’n bwysig ymchwilio a rhoi sylw i anghenion grwpiau lleiafrifol o blant sy’n derbyn gofal sydd mewn perygl o ddod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol.

• Rhaid cael cydweithio mwy effeithiol rhwng teuluoedd, awdurdodau lleol, gwasanaethau troseddau ieuenctid, gwasanaethau iechyd meddwl i blant a’r glasoed, yr heddlu ac asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill a fydd yn arwain at gyfleoedd gwell o lawer i atal plant sy’n derbyn gofal rhag eu troseddoli a’u dargyfeirio oddi wrth y system cyflawnder troseddol lle bynnag y bo modd. Lle na ellir gwneud hyn, mae plant sy’n derbyn gofal yn haeddu cael cymorth priodol a thriniaeth deg ym mhob rhan o’r broses cyfiawnder troseddol.

• Yn olaf, mae pobl ifanc sy’n gadael gofal yn agored i niwed a rhaid iddynt gael cymorth mwy cyson

Fe fydd cefnogaeth eang i nodau’r adroddiad hwn. Rydym wedi amlinellu’r camau sydd i’w cymryd, a chan bwy, er mwyn sicrhau’r gwelliannau sydd eu hangen.

Ni ddylem oddef ymarfer gwael sy’n peryglu diogelwch plant ac yn tanseilio eu cyfleoedd bywyd. Eilbeth yw’r model sefydliadol i’r canlyniadau a sicrheir. Gwelwn ganlyniadau da mewn awdurdodau sydd â gweledigaeth gyffredin, uchelgeisiau clir ac ymrwymiad cadarn i alluogi plant sy’n agored i niwed i gyflawni pethau mawr. Nid oes rheswm pam na all arferion da profedig ddod yn arferion safonol ym mhob man.

Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Laming CBE DL

3

   

       

       

       

   

 

Page 6: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

Page

 

Page 7: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 5

Crynodeb o’r canfyddiadau a’r argymhellion  

 

Pan fydd y wladwriaeth yn cymryd drosodd y ddyletswydd o rianta plentyn rhywun arall, mae ganddi gyfrifoldeb cyfreithiol a moesol i fod yn rhiant da. Yn aml iawn bydd hyn yn galw am ymdrech benderfynol i wneud iawn am ddiffygion neu fethiant difrifol y rhianta y mae’r person ifanc wedi’i brofi’n gynharach. Mae’r methiannau hyn, am ba reswm bynnag y maent yn codi, yn gallu arwain at ddiffygion dwys, boed mewn addysg, sgiliau cymdeithasol neu ddatblygiad personol. Mae gwaith adferol yn dibynnu nid yn unig ar sgiliau ond hefyd ar ymrwymiad, uchelgais a phenderfyniad y staff, y gofalwyr a hefyd, o bosibl, aelodau’r teulu ehangach.

Bwriad yr adroddiad hwn yw hyrwyddo arferion da a sicrhau bod safonau ansawdd da yn cael eu profi bob dydd gan bob plentyn sy’n gorfod dibynnu ar y wladwriaeth am ei ddiogelwch, ei ddatblygiad priodol a’i hyder yn ei ddyfodol. Er bod y dasg yn galw am lawer o ymdrech gan bawb sy’n ymwneud â phob person ifanc, mae’n waith sy’n hanfodol ac yn gallu bod o fudd mawr i’r person ifanc ac i’r wladwriaeth. Diffyg cyfeiriad yw’r gelyn i’r elfennau da ym mywyd y person ifanc. Mae methiant yn gostus o safbwynt personol ac i’r wladwriaeth.

Mae’r adroddiad hwn yn dangos beth yn union y gellir ei gyflawni, o gael gweledigaeth glir, ymrwymiad i gydweithio’n amserol rhwng yr asiantaethau allweddol a chred yng ngwerth unigryw pob plentyn. Y newyddion da yw bod hyn yn cael ei gyflawni mewn rhai ardaloedd. Y peth lleiaf y gallwn ei wneud yw coleddu’r uchelgais hwn ar gyfer pob plentyn sydd yn ein gofal.

Mynd i’r afael â gorgynrychiolaeth plant sy’n derbyn gofal yn y system cyfiawnder troseddol Mae tua hanner y plant sydd yn y ddalfa ar hyn o bryd yng Nghymru a Lloegr wedi bod mewn gofal ar ryw adeg. Ar y lleiaf, mae hynny’n dweud wrthym ein bod yn colli cyfleoedd i drawsnewid bywydau ifanc, ac atal troseddu yn y dyfodol. Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio camau ymarferol i gymryd y cyfleoedd hynny. Mae wedi’i seilio ar yr hyn a ddywedwyd wrthym gan bobl ifanc sy’n adnabod y system o’r tu mewn, ar brofiad gweithwyr proffesiynol mewn nifer o asiantaethau sy’n gofalu amdanynt, ar arolwg unigryw o awdurdodau lleol a dadansoddiad newydd o dystiolaeth ystadegol ac ymchwil berthnasol.

Ein canfyddiadau:

• Nid yw 94% o blant sy’n derbyn gofal yng Nghymru a Lloegr yn mynd i helynt gyda’r gyfraith

• Er hynny, mae plant mewn gofal wedi’u gorgynrychioli’n sylweddol yn y system cyfiawnder troseddol ac yn y ddalfa, lle mae nifer mawr ohonynt yn cael profiad gwael iawn

• Mae plant mewn gofal sydd mewn perygl o droseddu ag angen cefnogaeth emosiynol ac ymarferol gyson gan eu gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill ac maent yn debygol o fod yn agored iawn i niwed pan fyddant yn gadael gofal.

Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o’r system gofal a’r system cyfiawnder troseddol wedi dweud wrthym:

• Bod eu gwahanu oddi wrth eu teulu biolegol yn eu brifo, fel y gellid disgwyl, a bod rhaid i’r system gofal wneud mwy i’w helpu i ddod i delerau â hyn

5

   

       

       

       

   

 

Page 8: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 6

• Bod newidiadau aml o ran pwy sy’n gofalu amdanynt, ble maent yn byw, i ba ysgol y maent yn mynd a phwy sy’n cynnig cefnogaeth emosiynol ac ymarferol yn amharu ar eu rhagolygon

• Y byddai cefnogaeth gan fentor cymheiriaid yn eu helpu

• Bod eglurder ynghylch yr hyn y gallant ei ddisgwyl gan y system gofal yn hanfodol, fel y mae’r gallu i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau

• Eu bod yn aml yn teimlo eu bod wedi’u hynysu a’u bod heb gefnogaeth ar eiliadau tyngedfennol, yn enwedig os ydynt yn gorfod ymddangos yn y llys neu dreulio amser yn y ddalfa

• Mae rhai pobl ifanc o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn teimlo eu bod yn profi stereoteipio negyddol ar sail eu hil, yn enwedig gan yr heddlu, ac nad yw eu hanghenion diwylliannol yn cael eu diwallu’n gyson gan wasanaethau gofal cymdeithasol plant.

Ond rydym hefyd wedi darganfod:

• Nad yw canran y lleiafrif o blant sy’n symud o ofal i’r system cyfiawnder troseddol yn anochel o uchel. Gellir ei lleihau – er enghraifft, o gymaint â 45% dros bedair blynedd yn Surrey, o ganlyniad i arferion lleol effeithiol;

• Bod arferion da yn gallu lleihau’n sylweddol y costau hirdymor sy’n codi pan fydd pobl ifanc yn cael eu tynnu i’r system cyfiawnder troseddol yn ddiangen – mae un astudiaeth wedi cyfrifo bod elw o £3.41 am bob £1 a fuddsoddir.

Ein hargymhellion Mae canfyddiadau ac argymhellion yr adolygiad yn ganlyniad i ymchwiliad trylwyr blwyddyn o hyd ac maent wedi’u bwriadu ar gyfer ymarferwyr yn ogystal â llunwyr polisi. Roedd yr adolygiad yn gallu manteisio ar gymorth panel cynghorol eang a oedd yn cynnwys arbenigwyr blaenllaw yn y maes, ymarferwyr profiadol ac, yn bwysicaf oll, plant a phobl ifanc sydd â phrofiad uniongyrchol o’r system gofal a’r system cyfiawnder troseddol.

Ar ôl cael 220 o gyflwyniadau ysgrifenedig, cynnal nifer o sesiynau i gymryd tystiolaeth lafar, cyfarfodydd ac ymweliadau, roedd cyfoeth eithriadol o brofiad a barn ar gael i ni. Mae cyfeiriadau manwl at y rhain yn adroddiad llawn yr adolygiad ac, os rhoddwyd caniatâd, byddant yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai ar ôl lansio’r adroddiad. Roeddem hefyd wedi comisiynu adolygiad llenyddiaeth gan Dr Jo Staines o Ganolfan Hadley ar gyfer Astudiaethau Mabwysiadu a Gofal Maeth sy’n crynhoi’r ymchwil sydd wedi’i chynnal yn y Deyrnas Unedig ac mewn gwledydd tramor ynghylch troseddoli plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal.

Gellir lawrlwytho adroddiad llawn yr adolygiad a’r adolygiad llenyddiaeth o wefan yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai: www.prisonreformtrust.org.uk/carereview

Oherwydd ymrwymiad personol y Prif Weinidog i drawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal, a’r adolygiadau cydredol a gomisiynwyd gan lywodraeth y DU o ofal preswyl a thriniaeth o bobl ifanc yn y ddalfa, mae hon yn adeg dyngedfennol i wrando ar y lleisiau sydd yn yr adroddiad hwn. Drwy ddilyn rhaglen ddiwygio gydlynol, wedi’i harwain o’r lefel uchaf, mae cyfle i wireddu’r weledigaeth sydd wedi’i mynegi gan y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru.

Mae’r crynodeb gweithredol hwn yn amlinellu’r camau ymarferol y mae angen eu cymryd yn ein barn ni i roi i blant mewn gofal yr amddiffyniad angenrheidiol y maent yn ei haeddu rhag eu tynnu’n ddiangen i’r system cyfiawnder troseddol. Mae ein canfyddiadau ac argymhellion, sydd wedi’u cynnwys o dan chwe chanlyniad arfaethedig, fel a ganlyn:

6

   

       

       

       

   

 

Page 9: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

Canlyniad Un: Arweinyddiaeth gryf a phenderfynol ar lefel genedlaethol a lleol sy’n hyrwyddo dull amlasiantaethol, strategol o amddiffyn plant mewn gofal rhag cael eu troseddoli

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 7

We need to make every effort to avoid the unnecessary criminalisation of children in care, making sure that the criminal justice system is not used for resolving issues that would ordinarily fit under the umbrella of parenting. We need to work with our partners to improve our understanding of the child in care to improve outcomes for them.

Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, 2015

It is essential that all councillors understand and contribute to the duty to safeguard and promote the welfare and education of children and young people looked after and to promote their achievements and raise their aspirations.

Cyn bennaeth ysgol

Mae plant sy’n derbyn gofal wedi’u gorgynrychioli’n sylweddol yn y system cyfiawnder troseddol. Mae hon yn broblem genedlaethol y gall ac y dylai llywodraeth ganolog a lleol, ac asiantaethau cyfiawnder troseddol lleol, wneud mwy i’w datrys. Ni fydd canran y plant mewn gofal sy’n cael ei throseddoli yn gostwng drwy hap a damwain. Mae angen arweinyddiaeth genedlaethol a lleol, ymrwymiad i arferion da, cydweithio a chydweithredu effeithiol a data dibynadwy i fesur perfformiad. Mae darpariaeth sylweddol eisoes mewn canllawiau statudol i awdurdodau lleol a ddylai amddiffyn plant sy’n derbyn gofal rhag eu troseddoli, ond nid yw’r gydymffurfiaeth â’r rhain yn gyson ac mae meysydd yn y canllawiau y mae’n rhaid eu cryfhau. Mae canllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron ar drin plant sy’n derbyn gofal yn fuddiol ond mae’r rhain hefyd yn cael eu cymhwyso’n anghyson, a dylid eu hymestyn. Prin yw’r canllawiau ar gyfer yr heddlu er bod Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yn darparu arweinyddiaeth. Lle ceir protocolau ar gydweithio rhwng asiantaethau lleol, nid ydynt yn cael eu dilyn ym mhob achos.

Felly rydym yn gwneud yr argymhellion canlynol.

1 – Darparu arweinyddiaeth genedlaethol

Rydym yn argymell ffurfio is-bwyllgor cabinet (Lloegr), neu gorff cyfatebol (Cymru), i ddarparu arweinyddiaeth genedlaethol ar amddiffyn plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal rhag eu troseddoli’n ddiangen drwy sicrhau bod cydweithio da, rheoleiddio priodol a chamau i ddatblygu polisi ar draws adrannau llywodraeth y DU, ac ar draws Llywodraeth Cymru, i fod yn esiampl i wasanaethau llywodraeth leol, a thrwy:7

1.1 Comisiynu a lledaenu concordat trawsadrannol ar amddiffyn plant sy’n derbyn gofal rhag eu troseddoli, i atgyfnerthu rhwymedigaethau statudol yr holl asiantaethau perthnasol a thynnu sylw at yr angen am weithredu ar y cyd:

(a) Dylai pob concordat ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, yr heddlu ac asiantaethau perthnasol eraill osod a chyflawni canlyniadau a gytunir yn lleol i leihau’r troseddoli ar blant a phobl ifanc mewn gofal, a gostwng y troseddu ganddynt;

7

   

       

       

   

 

   

       

   

 

Page 10: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 8

(b) Dylid datblygu’r ddau goncordat o fewn un flwyddyn. O fewn yr un cyfnod, dylid pennu unrhyw ddiwygiadau cyfatebol sydd eu hangen i ganllawiau statudol a’u cyflawni. Dylid pennu cyfnod pellach o ddwy flynedd ar gyfer eu gweithredu a chynnal adolygiadau rheolaidd ar ôl hynny Dylai’r ddau goncordat fod wedi’u seilio ar yr egwyddorion sydd wedi’u disgrifio yn Atodiad Un (t21).

1.2 Sicrhau bod safonau cyffredin yn cael eu gosod ar gyfer casglu, dadansoddi a chyhoeddi data am blant a phobl ifanc yn y system cyfiawnder troseddol sydd neu a fu mewn gofal fel y gall pob un ohonom gael gwell gwybodaeth am eu hanghenion;

1.3 Sicrhau bod mesurau arolygu ac asesiadau o berfformiad yn cael eu gosod sy’n mynd i’r afael â throseddoli, yn benodol:

(a) Mewn arolygiadau o awdurdodau lleol, cartrefi plant ac ysgolion gan yr arolygiaethau perthnasol, dylid mesur eu perfformiad yn benodol ar sail lefel yr ymwneud gan blant sy’n derbyn gofal â’r system cyfiawnder troseddol a chysondeb y cymorth gan awdurdodau lleol i blant sy’n derbyn gofal sy’n dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol, a dylid adrodd ar hyn yn rheolaidd.9 Yn achos awdurdodau lleol fe ddylai hyn gynnwys, er enghraifft, holi cyn arolygiadau am y nifer o weithiau y mae’r heddlu wedi’u galw allan yn y 12 mis blaenorol mewn perthynas â’r ymddygiad mewn cartref gofal gan unrhyw blentyn sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol hwnnw. Yn achos arolygiadau o gartrefi gofal unigol, dylid gofyn am wybodaeth ymlaen llaw ynghylch y nifer o weithiau y mae’r heddlu wedi’u galw allan yn y 12 mis blaenorol mewn perthynas â’r ymddygiad gan unrhyw blentyn yn y cartref gofal hwnnw.

(b) Mewn arolygiadau o wasanaethau cyfiawnder ieuenctid gan yr arolygiaethau perthnasol ynghylch iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a hyfforddiant plant, dylid hefyd mesur eu perfformiad yn benodol ar sail y canlyniadau i blant sy’n derbyn gofal.

1.4 Sicrhau bod systemau gwybodaeth sy’n rhedeg rhwng gwasanaethau gofal cymdeithasol plant a gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru ac yn Lloegr yn cael eu cydgyfeirio.

1.5 Sicrhau bod y corff awdurdodol sydd newydd gael ei gynnig ar gyfer gofal cymdeithasol plant yn Lloegr, wedi’i seilio ar y model ‘What works’10, yn gweithio ochr yn ochr â Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr i ledaenu gwybodaeth am yr arferion gorau ar amddiffyn plant mewn gofal, a’r rheini sydd ar fin cael eu derbyn i ofal, rhag eu troseddoli; ac y rhoddir ystyriaeth yng Nghymru i ddatblygu trefniadau tebyg.

2 – Cysoni arferion yr heddlu

Rydym yn argymell y dylai’r Swyddfa Gartref:

2.1 Cymell mabwysiadu a gweithredu protocolau heddlu rhanbarthol ledled Cymru a Lloegr i leihau nifer yr erlyniadau yn erbyn plant a phobl ifanc mewn gofal, wedi’u modelu ar sail protocolau Gwent a De-ddwyrain Lloegr;

2.2 Yn unol â chynnig y Grŵp Seneddol Hollbleidiol dros Blant11, adolygu Rheolau Cyfrif y Swyddfa Gartref a datblygu canlyniad newydd, gan ganiatáu i heddluoedd gofnodi ymddygiad lefel isel cysylltiedig â throseddu gan blant a phobl ifanc mewn ffordd sy’n sicrhau eu hatgyfeirio i asiantaeth les i ddelio â’r ymddygiad, nad yw’n creu cofnod troseddol ac na ellir ei ddatgelu drwy wiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd;

8

   

       

       

       

   

 

Page 11: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

Canlyniad Dau: Cydnabod y rôl bwysig sydd i gymorth cynnar ar gyfer plant a theuluoedd sydd mewn perygl

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 9

2.3 Drwy ymgynghori â’r Adran Addysg a Llywodraeth Cymru, comisiynu a chyhoeddi protocol cofnodi troseddau ar gyfer digwyddiadau mewn cartrefi gofal plant, yn debyg i’r protocol sydd ar waith ar gyfer ysgolion;

2.4 Ei gwneud yn ofynnol i gomisiynwyr heddlu a throseddu bennu disgwyliadau clir i heddluoedd ar gyfer cydweithio ag awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill i amddiffyn plant mewn gofal rhag cael eu troseddoli’n ddiangen. Dylai comisiynwyr heddlu a throseddu ystyried anghenion ac amgylchiadau plant sy’n derbyn gofal wrth gomisiynu gwasanaethau i ostwng troseddu yn eu hardal leol.

When I was two years old my Dad left and it messed my Mum’s head up. I’ve been in care since I was nine or ten. I first went into care when my Mum hospitalised my little sister, due to mental health.

Person ifanc 15 mlwydd oed

…natural parenting needs to be much more highly valued than it often is, with the recognition that this is a demanding vocation.

Cyn weithiwr cymdeithasol

...please look more at what happens to cause children to be brought into care in the first place. For example, at the research into Foetal Alcohol Syndrome Disorder and Attachment Disorder, brain-based development and the lasting psychological effects of neglect and abuse and rape.

Gweithiwr cymdeithasol cofrestredig

Yn achos bron dwy ran o dair o’r plant sydd mewn gofal, y prif reswm y maent yn derbyn gofal yw eu bod wedi’u cam-drin neu eu hesgeuluso. Mae cymorth cynnar i blant a theuluoedd yn chwarae rhan bwysig mewn amddiffyn plant a phobl ifanc mewn gofal, a’r rheini sydd ar fin cael eu cymryd i ofal, rhag eu troseddoli. Mae’r manteision economaidd o ddarparu gwasanaethau cymorth cynnar effeithiol wedi’u dangos gan yr Early Intervention Foundation. Mae cymorth i rieni mabwysiadol yn hanfodol hefyd. Rhaid i lywodraeth ganolog a lleol gydweithio i sicrhau bod y gwaith hanfodol hwn yn cael ei gynnal a’i ddatblygu.

3 – Darparu cymorth cynnar i blant a theuluoedd sydd mewn perygl

Rydym yn argymell y dylid cydnabod yn benodol ym mhob concordat ar amddiffyn plant sy’n derbyn gofal rhag eu troseddoli (gweler argymhelliad 1) y rôl bwysig sydd i gymorth cynnar i blant a theuluoedd mewn amddiffyn plant a phobl ifanc mewn gofal, a’r rheini sydd ar fin cael eu cymryd i ofal, rhag eu troseddoli. Dylai hyn gynnwys ymrwymiadau gan lywodraeth ganolog a lleol i gydweithio i sicrhau bod gwasanaethau cymorth cynnar ar gyfer amddiffyn plant a phobl ifanc rhag eu cam-drin, eu hesgeuluso a’u rhianta’n annigonol yn cael eu cynnal a’u datblygu.

9

   

       

       

   

 

       

   

 

Page 12: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

Canlyniad Tri: Mae rhianta da gan y wladwriaeth yn rhoi i blant mewn gofal y cyfle i ffynnu ac yn eu hamddiffyn rhag troseddoli

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 10

...the care system...truly saved my life. Menyw ifanc sydd â phrofiad o’r system gofal a’r system cyfiawnder troseddol14

Care needs to mean care. A child in the care of the state should be given the best possible home environment… I am sure there are individual examples of excellent care … but overall the state is failing children who have already been failed by their families. We fail to give them good quality family care and we punish them when they misbehave… Send them out of the care system with a criminal record and their future burden on society is assured.

Ynad wedi ymddeol a llywodraethwr ysgol

As professionals, we have to make damn sure that we replace or rebuild the family relationships that we are disrupting.

 Isabelle Trowler, Prif Weithiwr Cymdeithasol Plant a Theuluoedd yn Lloegr, tystiolaeth lafar, 10/09/15

Yn yr adolygiad hwn rydym wedi edrych ar y rhan y mae rhianta da gan y wladwriaeth (sy’n cael ei alw yn y canllawiau a’r rheoliadau ar gyfer Deddf Plant 1989 yn ‘rhianta corfforaethol’) yn ei chwarae wrth amddiffyn plant a phobl ifanc mewn gofal rhag eu troseddoli. Mae nifer o’r meysydd blaenoriaeth a nodwyd gennym wedi’u cynnwys yn y canllawiau a’r rheoliadau ar gyfer Deddf Plant 198916 ac yn y rheoliadau a chodau ymarfer a ddyroddwyd o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Fodd bynnag, mae tystiolaeth a gafodd yr adolygiad wedi dangos na cheir cydymffurfio cyson â’r rhain. Mae’r canllawiau’n dda at ei gilydd, er bod meysydd y dylid eu cryfhau. Fodd bynnag, nid yw’r canllawiau’n ddiben ynddynt eu hunain a’r unig ffordd o sicrhau eu bod yn cael yr effaith sydd ei angen yw eu rhoi ar waith ym mhob man ar lefel leol. Yn yr adran hon, rydym yn cynnig diwygiadau i’r canllawiau ac yn argymell bod darpariaethau allweddol yn cael eu hatgyfnerthu drwy eu cynnwys yn y concordat ar amddiffyn plant sy’n derbyn gofal rhag eu troseddoli (gweler argymhelliad 1).

4 –

Rydym yn argymell bod y mesurau canlynol yn cael eu cyflwyno i gryfhau arweinyddiaeth awdurdodau lleol er mwyn amddiffyn plant sy’n derbyn gofal rhag eu troseddoli’n ddiangen. Gellid gweithredu’r holl fesurau hyn, yn Lloegr, drwy ddiwygiadau i’r canllawiau a rheoliadau ar gyfer Deddf Plant 1989 (sydd i gael eu hadolygu nesaf yn Ebrill 2017), ac yng Nghymru drwy ddiwygiadau i’r codau ymarfer a ddyroddwyd ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol a threfniadau partneriaeth mewn perthynas â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014:

4.1 Rhaid datgan mewn canllawiau statudol fod yr awdurdod lleol yn chwarae rhan bwysig mewn delio â’r stigma y gall plant mewn gofal ei brofi, fel y nodwyd mewn ymchwil ac yn yr adolygiad hwn.17 Rhaid ei gwneud yn glir yn y canllawiau y dylai awdurdodau lleol hybu ymwybyddiaeth ymysg asiantaethau sy’n bartneriaid lleol iddynt ac eraill ynghylch anghenion, amgylchiadau a nodweddion plant sy’n derbyn gofal a herio stereoteipiau negyddol. Mae hyn yn hanfodol er mwyn galluogi plant, er enghraifft, i gael ‘wide range of opportunities to develop their talents and skills in order to have an enjoyable childhood and successful adult life’, fel y nodwyd yn y canllawiau a’r rheoliadau ar gyfer y Ddeddf Plant, a’u hamddiffyn rhag dod i gysylltiad yn ddiangen â’r system cyfiawnder troseddol.

10

   

       

       

 

   

       

   

 

Page 13: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 11

4.2 Mewn canllawiau statudol rhaid -

(a) Ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal cyfarfodydd strategol rheolaidd ar lefel uwch gyda’u partneriaid amlasiantaethol gyda’r nod cyffredin o wella canlyniadau i blant sy’n derbyn gofal, gan gynnwys eu hamddiffyn rhag eu troseddoli. Rhaid i hyn ddarparu ymrwymiad i rannu gwybodaeth, hybu arferion da a gwneud penderfyniadau ar y cyd am faterion sy’n effeithio ar blant sy’n derbyn gofal yn lleol.

(b) Disgrifio gwahanol weithgareddau y mae’n rhaid i awdurdodau lleol a’u partneriaid eu cwblhau’n rheolaidd i gyflawni eu cyfrifoldebau rhianta, gan gynnwys gofyniad:

(i) Bod cyfarwyddwyr gwasanaethau plant neu wasanaethau cymdeithasol yn cael gwybodaeth reolaidd, gywir am gynnydd yr holl blant ar ôl eu derbyn i ofal ac yn benodol am yr ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol gan blant sy’n derbyn gofal y maent yn gyfrifol amdanynt. Dylai cyfarwyddwyr gwasanaethau plant neu wasanaethau cymdeithasol grynhoi’r wybodaeth hon yn eu hadroddiadau rheolaidd i aelodau arweiniol gwasanaethau plant.

(ii) Bod cyfarwyddwyr gwasanaethau plant neu wasanaethau cymdeithasol yn sicrhau bod perthynas waith agos, gan gynnwys sianeli cyfathrebu cyflym ac effeithiol, rhwng eu hadran ac asiantaethau cyfiawnder troseddol lleol (gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid, yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y llysoedd a sefydliadau diogel) gyda’r nod cyffredin o sicrhau bod plant sy’n derbyn gofal yn cael eu hamddiffyn rhag eu troseddoli’n ddiangen lle bynnag y bo modd ac, os nad yw hyn yn bosibl, eu bod yn cael cymorth da a thriniaeth deg o fewn y system cyfiawnder troseddol. Rhaid i hyn gynnwys trefniadau i sicrhau bod eu hadran yn hysbysu asiantaethau cyfiawnder troseddol lleol yn ddi-oed pan ydynt yn gweithio gyda phlentyn sy’n derbyn gofal, yn darparu gwybodaeth am amgylchiadau’r plentyn ac unrhyw faterion sy’n ei wneud yn agored i niwed, a bod yr adran yn darparu’r cymorth sydd ei angen ar y plentyn hwnnw i helpu i sicrhau ei fod yn cael ei ddargyfeirio o’r system cyfiawnder troseddol lle bo modd ac, os nad yw hyn yn bosibl, i gynorthwyo’r plentyn ym mhob rhan o’r broses cyfiawnder troseddol.

4.3 Rhaid ei gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol:

(a) Yn recriwtio, hyfforddi a chynorthwyo oedolion ifanc sydd â phrofiad o’r system gofal i fod yn fentoriaid cymheiriaid ac i fod yn esiampl i blant a phobl ifanc mewn gofal. Mae hyn yn adlewyrchu consensws clir ymysg pobl ifanc a ddywedodd wrth yr adolygiad hwn y byddai cymorth o’r math hwn wedi rhoi cefnogaeth emosiynol ac ymarferol werthfawr iddynt a’u helpu i wneud gwell dewisiadau.

(b) Yn cynnal adolygiad trwyadl pan fydd unrhyw blentyn sy’n derbyn gofal yn cael ei symud dair gwaith neu fwy rhwng lleoliadau o fewn 12 mis a lle mae unrhyw symud rhwng lleoliadau’n digwydd ar ôl galw’r heddlu allan mewn perthynas ag ymddygiad y plentyn hwnnw, er mwyn cael gwybod pam y digwyddodd hyn a sut y gellir ei osgoi yn y dyfodol, a bydd y canlyniadau i adolygiadau o’r fath yn cael eu hadrodd yn rheolaidd i’r aelodau arweiniol dros wasanaethau plant.

11

   

       

       

       

   

 

Page 14: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 12

4.4 Mynegwyd pryder gan yr holl gyrff yng Nghymru yr oeddem wedi ymgynghori â nhw ynghylch nifer y lleoliadau y tu allan i’r awdurdod a oedd wedi’u trefnu yno gan awdurdodau yn Lloegr. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu nad oes trefniadau effeithiol i gynllunio a rhannu gwybodaeth ar gyfer nifer o’r lleoliadau hyn, ac y gall y ffactorau hyn gyfrannu at droseddoli plant sy’n derbyn gofal. Felly rydym yn argymell bod rhaid diwygio’r canllawiau statudol i Loegr er mwyn ymgorffori’r gofynion a bennwyd yng Nghod Ymarfer (Rhif 6) a ddyroddwyd mewn perthynas â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

5 – Gwella’r cydweithio rhwng gwasanaethau gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol plant ac asiantaethau cyfiawnder troseddol

Rydym yn argymell bod rhaid gweithredu’r mesurau canlynol yn Lloegr i wella’r cydweithio ar gyfer amddiffyn plant mewn gofal rhag eu troseddoli’n ddiangen. Gellir gwneud hyn drwy ddiwygiadau i Adran 8 o Gyfrol 2 o’r canllawiau a rheoliadau ar gyfer Deddf Plant 1989 pan gaiff ei hadolygu nesaf yn Ebrill 2017:

5.1 Rhaid i awdurdodau lleol gynnal cyfarfod panel ffurfiol, rheolaidd gyda’r heddlu lleol a phartneriaid eraill i adolygu amgylchiadau pob plentyn sy’n derbyn gofal ar yr arwydd cyntaf y gallai fod wedi dechrau troseddu, fel y gellir cymryd camau cynnar, penderfynol i’w ddargyfeirio o’r system cyfiawnder troseddol. Dylai hyn gynnwys camau priodol i rannu gwybodaeth a gwneud penderfyniadau ar y cyd lle bynnag y bo modd.

5.2 Rhaid i awdurdodau lleol ddarparu adnoddau, gan gynnwys hyfforddiant a chymorth drwy fforymau ymarferwyr, i sicrhau bod gofalwyr ym mhob lleoliad yn gallu cynnal datblygiad cymdeithasol y plentyn ac ymateb i ymddygiad heriol heb gynnwys yr heddlu’n ffurfiol. Mae hyn wedi’i wneud yn llwyddiannus mewn rhai ardaloedd drwy ymarfer adferol (gweler tudalen 28).

5.3 Rhaid ei gwneud yn ofynnol bod pob cartref plant, boed yn annibynnol neu’n cael ei redeg gan sefydliad cyhoeddus, yn datblygu ac yn gweithredu protocol gyda’r heddlu lleol, drwy ymgynghori â gwasanaethau gofal cymdeithasol plant, i leihau ymwneud ffurfiol gan yr heddlu â rheoli ymddygiad plant. Rhaid i’r dull o weithredu’r protocol gael ei fonitro gan y cyfarwyddwr gwasanaethau plant a’r aelod arweiniol dros wasanaethau plant.

5.4 Rhaid i awdurdodau lleol bob amser hysbysu asiantaethau cyfiawnder troseddol yn ddi-oed (gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid, yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y llysoedd, a sefydliadau carcharol) pan fydd plentyn sy’n derbyn gofal yn dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol.

5.5 Lle mae plentyn sy’n derbyn gofal wedi cael ei arestio, rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau o fewn cyfnod rhesymol fod y plentyn yn cael cymorth yn yr orsaf heddlu gan oedolyn priodol sy’n adnabod y plentyn, sy’n deall ei rôl ac yn gallu ei chyflawni, ac sydd heb wrthdaro buddiannau mewn perthynas â’r achos yn erbyn y plentyn.

5.6 Lle mae plentyn sy’n derbyn gofal yn ymddangos yn y llys, dylai fod yn ofynnol i weithiwr cymdeithasol y plentyn fod yn y llys gyda’r plentyn (yn hytrach na bod yn arfer da yn unig, fel y mae paragraff 8.41 o’r canllawiau’n nodi ar hyn o bryd). Os nad yw’r gweithiwr cymdeithasol yn adnabod y plentyn yn dda, yna rhaid i oedolyn arall, fel gofalwr neu aelod o’r teulu, sy’n adnabod y plentyn fod yn bresennol hefyd, ar yr amod bod hyn yn ddiogel ac er budd pennaf y plentyn, ac yn unol â dymuniadau a theimladau’r plentyn.

12

   

       

       

       

   

 

Page 15: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 13

5.7 Rhaid gosod terfynau amser byr ar gyfer y cyfnodau pryd y mae’n rhaid trosglwyddo gwybodaeth am blentyn sy’n derbyn gofal i asiantaethau eraill ar bob cam yn y broses cyfiawnder troseddol, gan gynnwys pan gaiff plentyn sy’n derbyn gofal ei roi mewn lleoliad carcharol. 5.8 Rhaid cwblhau’r cynllunio ar gyfer adsefydlu 21 o ddiwrnodau cyn rhyddhau plentyn sy’n derbyn gofal o’r ddalfa (gan ymestyn y terfyn amser presennol o 10 niwrnod gwaith) os bydd y cyfnod yn y ddalfa yn caniatáu hyn. Rhaid i’r llywodraethwr llywodraethu, y cyfarwyddwr neu bennaeth y sefydliad diogel hysbysu’r cyfarwyddwr gwasanaethau plant pan nad yw’r cynllunio ar gyfer adsefydlu wedi’i gwblhau o fewn y cyfnod hwn.

5.9 Rhaid i’r awdurdod lleol wneud pob ymdrech i hwyluso cymorth teuluol i’r plentyn ym mhob cam yn y broses cyfiawnder troseddol os yw hyn yn ddiogel ac er y budd pennaf i’r plentyn, ac yn unol â dymuniadau a theimladau’r plentyn.

Rydym yn argymell bod mesurau tebyg yn cael eu mabwysiadu yng Nghymru i ategu’r codau ymarfer presennol a ddyroddwyd mewn perthynas â Rhannau 6, 9 ac 11 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

6 – Cydnabod y rôl bwysig sydd i rianta da gan y wladwriaeth

Rydym yn argymell bod pob concordat ar amddiffyn plant sy’n derbyn gofal rhag eu troseddoli (argymhelliad 1) yn cydnabod yn benodol y rôl bwysig sydd i rianta da gan y wladwriaeth mewn amddiffyn plant a phobl ifanc mewn gofal rhag eu troseddoli. Rhaid i hyn gynnwys ategiad o’r angen i awdurdodau lleol gymryd y camau sydd wedi’u nodi isod:

6.1 Sicrhau bod pob plentyn mewn gofal yn cael ei drin gyda pharch a chydymdeimlad, yn cael ei hysbysu a’i gynnwys yn llawn mewn materion sy’n effeithio ar ei fywyd, ac yn cael cefnogaeth emosiynol ac ymarferol gyson gan ei brif ofalwr ac o leiaf un oedolyn dibynadwy arall. Gall fod yn weithiwr cymdeithasol, yn Ymwelydd Annibynnol neu’n weithiwr proffesiynol neu wirfoddol arall.

6.2 Sicrhau bod pob plentyn mewn gofal yn cael cymorth i feithrin a chynnal perthnasoedd cadarnhaol ag aelodau o’i deulu os yw hyn yn ddiogel, er budd pennaf y plentyn, ac yn unol â dymuniadau a theimladau’r plentyn.

6.3 Hwyluso a hybu mentora gan gymheiriaid ar gyfer plant a phobl ifanc mewn gofal gan oedolion ifanc sydd â phrofiad o’r system gofal ac sy’n gallu bod yn esiampl gadarnhaol.

6.4 Sicrhau ymatebion priodol i ymddygiad heriol heb gynnwys yr heddlu o reidrwydd. Mae rhan i’w chwarae yma hefyd gan yr heddlu a gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid.

6.5 Sicrhau bod lleoliadau gofal addas ar gael yn lleol i gwrdd â’r angen lleol a bod lleoliadau’n cael eu dewis drwy ymgynghori â phlant a phobl ifanc.

6.6 Sicrhau bod adolygiad trwyadl yn cael ei gynnal os yw plentyn wedi symud dair gwaith neu ragor rhwng lleoliadau o fewn 12 mis, a lle mae unrhyw symud rhwng lleoliadau’n digwydd ar ôl galw’r heddlu allan mewn perthynas ag ymddygiad y plentyn hwnnw er mwyn cael gwybod pam y mae hyn wedi digwydd a sut y gellir ei osgoi yn y dyfodol, a bod y canlyniadau i adolygiadau o’r fath yn cael eu hadrodd yn rheolaidd i’r aelod arweiniol dros wasanaethau plant. 13

   

       

       

       

   

 

Page 16: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

Canlyniad Pedwar: Bod anghenion a nodweddion plant sy’n derbyn gofal o grwpiau lleiafrifol yn cael eu hystyried wrth eu hamddiffyn rhag eu troseddoli

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 14

6.7 Sicrhau bod gofalwyr maeth a staff gofal preswyl yn cael hyfforddiant a chymorth digonol er mwyn hyrwyddo datblygiad cymdeithasol y plant, ymateb i ymddygiad heriol heb gynnwys yr heddlu’n amhriodol, a gwneud y lleoliad yn fwy sefydlog. Mae hyn wedi’i wneud yn llwyddiannus mewn rhai ardaloedd drwy ymarfer adferol (gweler tudalen 28).

6.8 Sicrhau bod plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal yn cael cymorth effeithiol i ffynnu mewn addysg ac mewn gweithgareddau adeiladol eraill. Rhaid i hyn gynnwys hyfforddiant i’r holl athrawon ynghylch yr anghenion ychwanegol a all fod gan blant sy’n derbyn gofal, yn rhan o’r hyfforddiant craidd i athrawon. 6.9 Mewn perthynas ag iechyd meddwl a lles emosiynol plant sy’n derbyn gofal, rydym yn argymell:

(a) Bod pob plentyn yn cael ei asesu gan weithiwr iechyd meddwl proffesiynol wrth ei dderbyn i ofal; (b) Y dylid cael rhagdybiaeth mai plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal fydd y flaenoriaeth gyntaf i wasanaethau iechyd meddwl nes byddant wedi’u hasesu’n llawn. Ar ôl hynny, dylid pennu blaenoriaeth ar sail angen clinigol. Dylai hyn fod yn rhan annatod o’r holl gontractau ar gyfer comisiynu gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed, a dylid cynnwys trefniadau i fonitro niferoedd yr atgyfeiriadau a’r cyfnod cyn yr asesiad cyntaf yn y broses monitro contractau.

Ni chafwyd gwybodaeth ddigonol eto am y berthynas rhwng ymwneud plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal â’r system cyfiawnder troseddol a’u hethnigrwydd, ffydd, rhywedd neu anabledd. Mae angen i’r holl asiantaethau perthnasol gymryd camau i gyflawni eu rhwymedigaethau o dan gyfraith cydraddoldeb ac i roi i blant sy’n derbyn gofal o grwpiau lleiafrifol yr amddiffyniad penodol rhag eu troseddoli sydd ei angen arnynt ac y maent yn ei haeddu.

Plant o grwpiau ethnig lleiafrifol Mae plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal sydd o gefndir pobl dduon neu grwpiau ethnig lleiafrifol eraill, a phlant a phobl ifanc sydd â ffydd Fwslimaidd, wedi’u gorgynrychioli yn y system cyfiawnder troseddol ac mae rhai pobl ifanc ethnig lleiafrifol yn teimlo eu bod yn destun gwahaniaethu, yn enwedig gan yr heddlu:

You are just not given a chance on the outside as a young black man - you are always judged negatively.

Person ifanc yn y ddalfa sydd â phrofiad o’r system gofal19

... Muslim young people suffer from negative stereotyping in society, the media, government policy and legislation... Those in care and the youth justice system are likely to be impacted by such stereotyping throughout their lives, before entering, during engagement in, and following exit from, care and/or the youth justice system.

Imkaan

14

   

     

   

       

       

       

   

 

Page 17: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 15

Merched Mae pryderon ynghylch y graddau y mae anghenion merched sy’n derbyn gofal yn cael sylw yn y system cyfiawnder troseddol am eu bod yn gyfran fach iawn o’r cyfanswm. Mae’n bosibl bod stereoteipio negyddol ar sail statws gofal ac ymwneud â throseddu’n cael ei waethygu o ganlyniad i’w rhywedd ac mae merched wedi dweud wrthym eu bod yn teimlo nad ydynt yn cael eu cymryd o ddifrif fel dioddefwyr troseddu:

I feel like we have a double standard, it’s not just with the police or social services, with the whole public sector... Like the police, if I’m in trouble or whatever, they’ll come there super quick, they bug me, they’ll run me down, they’ll call me names... Then, when I got robbed and called them, they were very willy-nilly...there was never an explanation of what actions exactly they were going to take.

Menyw ifanc sydd â phrofiad o’r system gofal a’r system cyfiawnder troseddol21

Plant ag anableddau, anawsterau dysgu ac anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu Rydym yn gwybod bod plant a phobl ifanc ag anableddau ac anhwylderau datblygu, anableddau dysgu, anawsterau dysgu ac anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu wedi’u gorgynrychioli yn y system gofal a’r system cyfiawnder troseddol. Mae tystiolaeth a roddwyd i’r adolygiad yn awgrymu nad oes digon yn cael ei wneud i adnabod anhwylderau ac anghenion o’r fath yn gynnar a sicrhau eu bod yn cael sylw er mwyn hybu datblygiad plant a’u hamddiffyn rhag eu troseddoli a’r risg o’u trin yn annheg yn y system cyfiawnder troseddol:

The lack of understanding about how [ADHD, ASD and Learning Disability], in particular ADHD can contribute towards both children coming into care and into custody – is grossly overlooked….

Seiciatrydd ymgynghorol plant a’r glasoed

Plant sy’n wladolion tramor Mae sylwadau a gyflwynwyd i’r adolygiad yn dangos ei bod yn bosibl bod gwasanaethau lleol yn ei chael yn anodd cwrdd ag anghenion iechyd meddwl plant sy’n ceisio lloches sydd wedi profi trawma eithafol a thrais. Mae hyn yn debygol o fod yn her gynyddol i awdurdodau lleol sy’n derbyn plant sydd ar eu pen eu hunain sy’n ffoi rhag ymladd yn y Dwyrain Canol. Mae’n ymddangos bod diffyg cymorth i blant sy’n derbyn gofal i ddatrys problemau sy’n ymwneud â’u statws mewnfudo. Mae’r adolygiad wedi cael sylwadau hefyd am annhegwch mewn achosion i allgludo gwladolion tramor oherwydd troseddu, lle na roddwyd dim neu nemor ddim sylw i gefndir y person a oedd i’w allgludo yn y system gofal:

Our view is not that the fact of [our client] being brought up in care should be determinative of the issue as to his deportation, but that having been brought up in care the Tribunal should have taken cognisance of that as a contributory factor to his criminality, and attached some weight to that fact.

Furthermore, he had already suffered a traumatic upbringing it seems even before he came to the UK, and that should have been recognised by social services, in order that his particular needs were appropriately addressed.

Cwmni cyfreithwyr

15

   

       

       

       

   

 

Page 18: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 16

Plant sydd wedi’u masnachu Cawsom adroddiadau bod plant sy’n derbyn gofal a gafodd eu masnachu yn parhau i gael eu herlid yn y wlad hon er gwaethaf yr amddiffyniadau cyfreithiol ac, fel y mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a’r Swyddfa Gartref yn cydnabod, yn mynd ar goll yn aml o ofal awdurdodau lleol ac yn cael eu masnachu eto. Mae ECPAT UK yn dweud bod gweithwyr proffesiynol ar draws y system cyfiawnder troseddol yn anymwybodol o’r broblem, bod eu dealltwriaeth o fasnachu’n wael ac mai prin yw eu gwybodaeth am ffyrdd o ymgysylltu â’r grŵp hwn. Ategwyd eu pryderon gan gyfreithiwr sy’n arbenigo mewn cynrychioli plant sydd wedi’u masnachu:

…In the UK we continue to criminalise exploited and trafficked minors, despite having legal protections ... I am currently being referred on average a case a week, the true scale of the problem is vast and victims of trafficking are being prosecuted daily throughout the UK..

. Many of my clients who have been prosecuted go missing within a week of being released from custody, from their foster placements and local authority care. There are issues with safeguarding, protection plans and lack of training and awareness surrounding human trafficking and the complexities of debt bondage…

Cyfreithiwr

7 – Ymateb i’r anghenion penodol sydd gan blant a phobl ifanc o grwpiau lleiafrifol sy’n derbyn gofal

7.1 Dylid cyhoeddi data yn rheolaidd am yr ymwneud gan blant sy’n derbyn gofal â’r system cyfiawnder troseddol a’u dadgyfuno’n glir ar sail ethnigrwydd, ffydd, rhywedd ac anabledd ac, os yw’n gymwys, y math o sefydliad carcharol lle mae plant yn cael eu dal.

7.2 Rydym yn croesawu’r adolygiad annibynnol gan David Lammy AS o’r driniaeth a’r canlyniadau sy’n dod i ran pobl dduon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol yn y system cyfiawnder troseddol, a gomisiynwyd gan y Prif Weinidog ac y disgwylir iddo gyflwyno ei adroddiad yng ngwanwyn 2017.25 Gyda chymorth yr Adran Addysg, Llywodraeth Cymru a Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr, fe ddylai adolygiad Lammy:

(a) Ystyried yn benodol y profiad a gafodd plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal sy’n bobl dduon neu o gefndiroedd ethnig lleiafrifol eraill yn y system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys y rheswm y mae mwy ohonynt yn y ddalfa ar gyfartaledd o’u cymharu â phlant eraill sy’n derbyn gofal;

(b) Dadansoddi’r data sydd ar gael, ar ôl eu dadgyfuno ar sail ethnigrwydd a chrefydd, a gwneud argymhellion ynghylch bylchau y mae angen eu llenwi er mwyn adnabod canlyniadau anghyfartal a’r rhesymau sylfaenol amdanynt, er mwyn sicrhau triniaeth gyfartal i’r holl blant a phobl ifanc, a mesur cynnydd.

7.3 Wrth bennu a monitro canlyniadau a gytunir yn lleol i amddiffyn plant a phobl ifanc mewn gofal rhag eu troseddoli (gweler argymhelliad 1), fe ddylai aelodau arweiniol yr awdurdodau lleol dros wasanaethau plant a gwasanaethau cymdeithasol, byrddau rhianta corfforaethol a Phrif Gwnstabliaid ganolbwyntio’n benodol ar

16

   

       

       

       

   

 

Page 19: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 17

(a) Cwrdd ag anghenion plant a phobl ifanc mewn gofal sy’n bobl dduon neu o grŵp ethnig lleiafrifol arall

(b) Cwrdd ag unrhyw anghenion sydd gan blant a phobl ifanc mewn gofal sy’n gysylltiedig â ffydd (c) Sicrhau bod y dull o drin plant a phobl ifanc mewn gofal yn sensitif i rywedd.

Y gofyniad sylfaenol fydd bod merched yn gallu cael cymorth a goruchwyliaeth gan staff a swyddogion benywaidd

(d) Cwrdd ag unrhyw anghenion ychwanegol sydd gan blant a phobl ifanc mewn gofal o ganlyniad i anableddau ac anhwylderau datblygu, anableddau dysgu, anawsterau dysgu ac anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu. Dylai hyn gynnwys hyfforddiant i sicrhau bod staff rheng flaen a swyddogion heddlu yn yr holl asiantaethau’n gallu adnabod ac ymateb i unrhyw anghenion posibl, gan sicrhau bod gwybodaeth am anghenion hysbys yn cael ei rhannu’n brydlon a phriodol a bod plant a phobl ifanc yn gallu cael cymorth ac unrhyw wasanaethau arbenigol sydd eu hangen i hybu eu datblygiad cymdeithasol, addysg a lles emosiynol a’u hamddiffyn rhag eu troseddoli.

(e) Cwrdd ag anghenion plant sy’n derbyn gofal sy’n dod o dan reolaeth fewnfudo. Y gofyniad sylfaenol fydd:

(i) Sicrhau blaenoriaeth i ddiwallu anghenion iechyd meddwl plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches, gan gydnabod amgylchiadau eu dyfodiad i’r Deyrnas Unedig

(ii) Helpu plant mewn gofal sy’n wladolion tramor i ddatrys unrhyw faterion sy’n ymwneud â’u statws mewnfudo

(iii) Sicrhau bod pobl ifanc sydd â phrofiad o’r system gofal y mae achos allgludo wedi’i ddwyn yn eu herbyn oherwydd troseddu yn cael cynrychiolaeth gyfreithiol yn yr achos hwnnw a bod gwybodaeth lawn yn cael ei darparu i’r tribiwnlys i sicrhau bod amgylchiadau eu dyfodiad i’r DU a’u profiadau yn y system gofal yn cael eu hystyried.

(f) Cwrdd ag anghenion plant sy’n derbyn gofal a all fod wedi dioddef o ganlyniad i fasnachu. Dylai hyn gynnwys camau i sicrhau eu bod wedi’u hadnabod fel dioddefwyr mor gynnar â phosibl ac yn cael eu hamddiffyn yn unol â deddfwriaeth a pholisi. Y gofyniad sylfaenol fydd:

(i) Bod yr heddlu:

(a) Yn crybwyll masnachu yng nghofnod y ddalfa/y broses derbyn i’r ddalfa

(b) Yn ymdrin â masnachu mewn adroddiadau am droseddu

(c) Yn rhannu gwybodaeth â heddluoedd eraill er mwyn osgoi erlyniadau newydd yn erbyn plant sy’n cael eu masnachu eto

17

   

       

       

       

   

 

Page 20: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

Canlyniad Pump: Atal, dargyfeirio ac adsefydlu effeithiol – rhaid cael cydweithio agos rhwng gwasanaethau gofal cymdeithasol plant, gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid, gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed, yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y llysoedd a’r ystad ddiogeledd

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 18

ii) Bod gwasanaethau gofal plant a gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid, yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, cyfreithwyr, ynadon, barnwyr a staff yn yr ystad ddiogeledd yn cael eu hyfforddi ynghylch sut i adnabod plant a all fod wedi’u masnachu a sut i ddiogelu’r plant hynny

iii) Bod y Swyddfa Gartref, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Bwrdd Cyfiawnder ieuenctid Cymru a Lloegr yn cydweithio i lunio canllawiau ar sut i adnabod dioddefwyr masnachu a sut i ddiogelu dioddefwyr posibl yn yr ystad ddiogeledd.

From my experiences it felt that I was in care so it was expected I got into trouble with the police, as I was bad news. I felt that children in care were treated differently in the youth justice system to someone who may live at home with their parents.

Oedolyn a dyfodd i fyny mewn gofal

Our Youth Panel took up this issue with the Crown Prosecution Service and the Local Authority, and we kept being given the reassurance that every case involving a looked-after child was reviewed according to a special protocol to weed out minor misdemeanours and only prosecute those cases which passed a ‘public interest’ test. And yet the young people continued to appear in court for throwing ice creams, kicking doors, squirting shower gel on carpets, using abusive language to staff.

Ynad sydd wedi ymddeol yn ddiweddar

Rhaid sicrhau bod cydweithio agos rhwng gwasanaethau gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol plant, gwasanaethau troseddau ieuenctid, yr heddlu ac asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill yn dod yn arfer safonol ledled Cymru a Lloegr er mwyn amddiffyn plant sy’n derbyn gofal rhag cael eu troseddoli. Drwy’r gwaith hwn, dylid ceisio sicrhau bod gofalwyr yn gallu helpu plant i ymddwyn mewn ffordd gymdeithasol dderbyniol a delio ag ymddygiad heriol heb gynnwys yr heddlu; bod plant sy’n derbyn gofal yn cael eu dargyfeirio o’r system cyfiawnder troseddol lle bynnag y bo modd; ac, os nad yw hyn yn bosibl, bod plant sy’n derbyn gofal yn cael cymorth da a thriniaeth deg ym mhob rhan o’r broses cyfiawnder troseddol a bod camau’n cael eu cymryd i atal aildroseddu. Cyflawnwyd hyn yn llwyddiannus mewn rhai ardaloedd drwy ymarfer adferol (gweler tudalen 28).

8 – Triniaeth deg a chymorth priodol i blant sy’n derbyn gofal gan asiantaethau cyfiawnder troseddol

8.1 Rhaid i’r holl asiantaethau cyfiawnder troseddol (gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid, yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y llysoedd a sefydliadau diogel) sicrhau, drwy gydweithio’n agos â gwasanaethau gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol plant, eu bod yn gwybod pa bryd y maent yn gweithio gyda phlentyn sydd mewn gofal, eu bod yn deall ffactorau sy’n ei wneud yn agored i niwed ac yn sicrhau drwy ddull strategol ac ymarferol fod plant sy’n derbyn gofal yn cael eu trin yn deg ac yn cael cymorth da ym mhob rhan o’r broses cyfiawnder troseddol.

18

   

       

       

 

 

   

       

   

 

Page 21: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 19

8.2 Ni ddylai’r heddlu gyf-weld plentyn yn y ddalfa, cyhuddo plentyn o drosedd na gweinyddu gwarediad y tu allan i’r llys, heb wybod a yw’r plentyn hwnnw’n derbyn gofal ac, os yw’r plentyn yn derbyn gofal, heb ymgynghori â’r awdurdod lleol sy’n rhiant iddo. Lle mae plentyn sy’n derbyn gofal wedi’i gyf-weld yn y ddalfa, ei gyhuddo neu wedi cael gwarediad y tu allan i’r llys heb gymryd y camau hyn, dylai fod yn ofynnol i’r heddlu egluro’r rhesymau i’r llys mewn unrhyw achos a geir wedyn.

8.3 Dylai Gwasanaeth Erlyn y Goron adolygu gweithrediad ei ganllawiau ar erlyn plant sy’n derbyn gofal sydd mewn gofal preswyl er mwyn ei fodloni ei hun bod y canllawiau’n cael eu dilyn yn gyson o ran eu cynnwys a’u hysbryd ym mhob achos ac, wrth wneud hyn, dylai ystyried ymestyn y canllawiau i gynnwys yr holl blant sy’n derbyn gofal.

8.4 Lle mae’n ymddangos nad yw canllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron ar drin plant sy’n derbyn gofal wedi cael eu dilyn wrth ddwyn achos, fe ddylai ynadon a barnwyr allu atal yr achos dros dro i ganiatáu i’r erlyniad a’r amddiffyniad gynnal trafodaeth y tu allan i ystafell y llys, er mwyn ceisio datrys y sefyllfa heb droi at achos llys ffurfiol.

8.5 Rydym yn manteisio ar y cyfle hwn i danlinellu’r egwyddor sylfaenol na ddylid byth defnyddio’r ddalfa ar gyfer plant a phobl ifanc os oes dewis arall ar gael, pa un a ydynt yn derbyn gofal neu beidio. Ar ben hynny:

(a) Lle nad oes dewis arall yn lle’r ddalfa, fe ddylai plant sy’n derbyn gofal, fel plant eraill, gael eu lleoli mewn unedau bach, lleol sydd wedi’u bwriadu i hyrwyddo eu lles seicolegol ac emosiynol. Rydym yn croesawu’r awgrym gan Charlie Taylor y bydd ei adolygiad o gyfiawnder ieuenctid, a gomisiynwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, yn cynnwys ailfeddwl sylfaenol ynghylch dalfeydd plant, gan gynnwys cau sefydliadau troseddwyr ifanc a sefydlu unedau bach sy’n rhoi pwys mawr ar les emosiynol ac addysg.

(b) Mae sylwadau a gyflwynwyd i’r adolygiad hwn ac ymchwil gan Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi, Inquest ac eraill yn dangos y gall plant sy’n derbyn gofal fod yn agored iawn i niwed tra byddant yn y ddalfa a’u bod yn aml yn cael profiad gwael iawn. Mae angen cynnal adolygiad trwyadl o ddarpariaethau carcharol i sicrhau bod anghenion plant sy’n derbyn gofal yn cael pob sylw yn y ddalfa, gan gynnwys anghenion am ddiogelu, adsefydlu a chynllunio ar gyfer ailsefydlu.

9 –

Dylai pob concordat ar amddiffyn plant sy’n derbyn gofal rhag eu troseddoli (gweler argymhelliad 1) danlinellu’r cyfrifoldeb sydd gan wasanaethau gofal cymdeithasol plant i gydweithio’n agos â gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid er mwyn:

9.1 Helpu plant sy’n derbyn gofal i gael eu dargyfeirio o’r system cyfiawnder troseddol a’r ddalfa lle bynnag y bo modd, gan gynnwys:

(a) Sicrhau bod y mater yn cael ei ddatrys heb achos llys os oes dewis arall ar gael

(b) Sicrhau lle bynnag y bo modd y bydd y plentyn yn gymwys i gael mechnïaeth ac y bydd yn gallu cydymffurfio ag amodau’r fechnïaeth

19

   

       

       

       

   

 

Page 22: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

Canlyniad Chwech: Mae pobl ifanc sy’n gadael gofal yn parhau i elwa o rianta da ac yn cael eu hamddiffyn rhag eu troseddoli

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 20

(c) Sicrhau bod dedfrydau amgen dibynadwy yn y gymuned yn cael eu cyflwyno i’r llys yn lle dedfryd o garchar, lle mae plentyn wedi’i gael yn euog o drosedd, oni bai mai’r ddalfa yw’r unig ganlyniad posibl.

9.2 Sicrhau mewn achosion lle mae plentyn wedi’i remandio neu ei ddedfrydu i’r ddalfa fod y plentyn yn cael cymorth da yn ystod ei gyfnod yn y ddalfa a bod cynllunio effeithiol ar gyfer ei ailsefydlu.

I feel like maybe if social services had not dumped me at the age of 16 and expect me to stand on my own two feet as a child, maybe I could of made different choices.

Person ifanc yn ymateb i’r adolygiad

.....It was less about ‘me leaving care’....and more about .... ‘care leaving me’ Person ifanc wedi’i ddyfynnu mewn sylwadau a gyflwynwyd gan Wasanaeth Cymorth

Ieuenctid Cyngor Sir Surrey a Heddlu Surrey

Yn rhy aml mae disgwyl i bobl ifanc sy’n gadael gofal ddod yn annibynnol yn ifanc heb gael digon o wybodaeth a chefnogaeth ymarferol ac emosiynol, fel eu bod mewn mwy o berygl o gael eu troseddoli. Dylid ymestyn mesurau presennol sy’n ceisio galluogi plant i aros mewn gofal nes eu bod yn barod i ddod yn annibynnol fel eu bod ar gael yn gyson ledled Cymru a Lloegr, a dylid cynnig rhagor o gymorth i’r rheini nad ydynt mewn addysg neu hyfforddiant. Pan fydd pobl ifanc yn gadael gofal, dylent gael gwybodaeth glir a chymorth digonol (ariannol, ymarferol ac emosiynol) i’w galluogi i ffynnu. Rydym yn croesawu’r rhaglenni ‘Staying Put’ a ‘When I am Ready’ sy’n caniatáu i bobl ifanc sydd wedi ymsefydlu mewn gofal maeth gael aros gyda’u gofalwyr maeth nes eu bod yn 21 oed.

10 – Gwella’r trefniadau ar gyfer adsefydlu plant sy’n derbyn gofal sydd wedi troseddu a chynorthwyo pobl ifanc sy’n gadael gofal

10.1 Lle mae plentyn wedi’i gael yn euog o drosedd bach, gan gynnwys plentyn sy’n derbyn gofal, dylid ystyried dileu’r cyfnod adsefydlu (neu ddatgelu) ar gyfer y trosedd hwnnw ar unwaith. Lle nad yw hyn yn bosibl, dylid cwtogi’r cyfnod adsefydlu a dileu’r trosedd o gofnod y plentyn yn 18 oed.

10.2 Gan fod y dystiolaeth o ymchwil yn dangos bod cysylltiad rhwng gadael gofal yn gynnar (yn 16 neu 17 mlwydd oed) a chanlyniadau gwael, rydym yn argymell ymestyn y trefniadau ‘Staying Put’ a ‘When I am ready’ sy’n cael eu darparu ar hyn o bryd ar gyfer plant sy’n derbyn gofal mewn gofal maeth fel eu bod yn cynnwys plant sy’n derbyn gofal sy’n gadael gofal preswyl a lleoliadau llety dros dro.

10.3 Rydym yn argymell bod cyfnod y cymorth i rai sy’n gadael gofal nad ydynt mewn addysg na hyfforddiant yn cael ei ymestyn o 21 o 25 mlwydd oed, fel y bydd yn cyfateb i’r cymorth i rai sy’n gadael gofal sydd mewn addysg neu hyfforddiant.

20

   

       

       

   

 

 

       

   

 

Page 23: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 21

Atodiad Un

 1. Dylai’r is-bwyllgor cabinet a’r corff priodol yn Llywodraeth Cymru gomisiynu a lledaenu

concordat ar amddiffyn plant sy’n derbyn gofal rhag eu troseddoli er mwyn helpu gwasanaethau gofal plant neu wasanaethau cymdeithasol lleol ac asiantaethau cyfiawnder troseddol i amddiffyn plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru a Lloegr rhag ymwneud yn ddiangen â’r system cyfiawnder troseddol. Bydd pob concordat yn ategu deddfwriaeth a chanllawiau statudol sy’n ymwneud â phlant mewn gofal a rhai sy’n gadael gofal.29

2. Dylid datblygu pob concordat o fewn un flwyddyn. O fewn yr un cyfnod, dylid pennu unrhyw ddiwygiadau cyfatebol sydd eu hangen i ganllawiau statudol a’u cyflawni. Dylid cael cyfnod pellach o ddwy flynedd ar gyfer gweithredu ac adolygiad rheolaidd ar ôl hynny.

3. Dylai pob concordat bennu disgwyliadau clir i aelodau arweiniol, byrddau rhianta corfforaethol a phrif gwnstabliaid ar gyfer cydweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau perthnasol eraill i osod nodau cyffredin a gweithredu protocolau ar gyfer cydweithio i amddiffyn plant mewn gofal rhag cael eu troseddoli. Mae asiantaethau perthnasol yn cynnwys darparwyr gofal, cyrff comisiynu iechyd, gwasanaethau iechyd, gwasanaethau addysg, Gwasanaeth Erlyn y Goron, llysoedd a sefydliadau diogel. Dylai’r trefniadau ar gyfer cydweithio gynnwys protocolau effeithiol i rannu data a fforymau rheolaidd.

4. Dylid hwyluso penderfynu ar y cyd gan awdurdodau lleol ac asiantaethau sy’n bartneriaid iddynt drwy banel penderfynu sy’n cynnwys cynrychiolwyr lefel uwch o’r awdurdod lleol, yr heddlu a gwasanaethau iechyd ac addysg. Byddai hyn ar gyfer yr holl blant ond byddai’n fecanwaith da ar gyfer sicrhau bod ffactorau sy’n berthnasol i blant sy’n derbyn gofal yn cael eu hystyried yn briodol.

5. Dylai pob concordat gydnabod y rolau pwysig sydd i gymorth cynnar ar gyfer plant a theuluoedd sydd mewn perygl ac i rianta da gan y wladwriaeth wrth amddiffyn plant sy’n derbyn gofal rhag eu troseddoli, a dylai amlinellu’r disgwyliadau ar gyfer awdurdodau lleol sydd wedi’u disgrifio yn argymhellion 3 a 6.

6. Dylid datblygu a gweithredu pob concordat drwy ymgynghori â phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o’r system gofal a’r system cyfiawnder troseddol, rhieni a gofalwyr, arweinwyr awdurdodau lleol ac ymarferwyr. Dylid cynnwys arweinwyr llywodraeth leol, gwasanaethau gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol plant, Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, comisiynwyr heddlu a throseddu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Cymdeithas yr Ynadon a chyrff comisiynu iechyd.

7. Dylid seilio pob concordat ar y safonau ansawdd ar gyfer gofal preswyl plant drwy hyrwyddo hyfforddiant ar gyfer yr holl ofalwyr, yr heddlu a’r gweithlu ehangach mewn gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol i blant er mwyn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc mewn ffordd gadarnhaol, gydymdeimladol a llawn parch, gan ddefnyddio dulliau ffurfiol ac anffurfiol o feithrin perthnasoedd ac ymdeimlad o berthyn i gymuned, hybu datblygiad cymdeithasol ac ymateb yn effeithiol i ymddygiad heriol, gan osgoi prosesau cyfiawnder troseddol ffurfiol lle bynnag y bo modd. Mae hyn wedi’i wneud yn llwyddiannus mewn rhai ardaloedd drwy ymarfer adferol (gweler tudalen 28).

21

   

       

       

       

   

 

Page 24: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 22

8. Dylid ei gwneud yn glir ym mhob concordat fod aelodau arweiniol, byrddau rhianta corfforaethol a phrif gwnstabliaid i sicrhau, wrth ddatblygu eu protocolau ar gyfer cydweithio i amddiffyn plant sy’n derbyn gofal rhag eu troseddoli, eu bod yn rhoi sylw i’r anghenion penodol sydd gan blant a phobl ifanc mewn gofal sy’n bobl dduon neu o grwpiau ethnig lleiafrifol eraill, a’r rheini sydd gan blant a phobl ifanc Fwslimaidd sydd mewn gofal. Dylai hyn gynnwys:

(a) Sicrhau bod plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal sy’n bobl dduon neu o gefndiroedd ethnig lleiafrifol eraill, a’r rheini sydd â ffydd Fwslimaidd, yn cael eu cynnwys mewn ymgynghori ar lefel unigol ac ar y cyd ar eu profiadau yn y system gofal a’r system cyfiawnder troseddol ac ar faterion sy’n effeithio arnynt, a defnyddio’r wybodaeth hon i helpu i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu a’u bod yn cael eu trin yn deg  

Cynnal dadansoddiadau rheolaidd o gydraddoldeb mewn perthynas â niferoedd a chyfrannau’r plant a phobl ifanc mewn gofal sy’n bobl dduon neu o grwpiau ethnig lleiafrifol eraill, a’r rheini sydd â ffydd Fwslimaidd, ac sy’n dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol a datblygu cynlluniau i ddelio ag unrhyw ddiffyg cyfrannedd  

Sicrhau bod staff a swyddogion heddlu yn dilyn proses datblygiad proffesiynol parhaus i herio stereoteipiau negyddol a sicrhau triniaeth deg i blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal sy’n bobl dduon neu o gefndiroedd ethnig lleiafrifol eraill, neu â ffydd Fwslimaidd  

Sicrhau bod plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal sy’n bobl dduon neu o gefndiroedd ethnig lleiafrifol eraill, neu â ffydd Fwslimaidd, sydd mewn perygl o gael eu troseddoli yn gallu cael cymorth a chyngor gan fentoriaid cymheiriaid a dod i gysylltiad â rhai a fydd yn esiampl iddynt o’u cymunedau eu hunain.

(b)

(c)

(d)

9. Wrth lunio’r protocolau hyn ar gyfer cydweithio, dylid ceisio sicrhau drwy ymgynghori â phlant a phobl ifanc, dadansoddiadau rheolaidd o gydraddoldeb, datblygiad proffesiynol parhaus a mentora cymheiriaid, fod y trefniadau ar gyfer amddiffyn plant a phobl ifanc mewn gofal rhag eu troseddoli yn sensitif i rywedd; yn benodol, bod merched mewn gofal yn cael eu hamddiffyn rhag camfanteisio rhywiol a bod stereoteipiau negyddol o ferched sydd wedi profi camfanteisio rhywiol yn cael eu herio.  Dylid ceisio sicrhau hefyd drwy’r protocolau hyn ar gyfer cydweithio, drwy ymgynghori â phlant a phobl ifanc, dadansoddiadau rheolaidd o gydraddoldeb a datblygiad proffesiynol parhaus, fod y trefniadau i amddiffyn plant a phobl ifanc mewn gofal rhag eu troseddoli yn rhoi pob ystyriaeth i anableddau plant a phobl ifanc a’u hanghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu. Bydd hyn yn galw am:

10.

(a) Hybu ymwybyddiaeth a hyfforddiant ymysg yr holl weithwyr proffesiynol sy’n dod i gysylltiad â phlant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal sydd mewn perygl o gael eu troseddoli, gan gynnwys gofalwyr, gweithwyr cymdeithasol, athrawon a gweithwyr iechyd proffesiynol, yn ogystal â’r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, cyfreithwyr, barnwyr ac ynadon a sefydliadau diogel  Pwrpas hyfforddiant o’r fath fydd sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn gallu adnabod anableddau ac anhwylderau datblygu sylfaenol posibl, anableddau dysgu ac anawsterau dysgu, ac anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, a sicrhau eu bod yn gwybod sut i ymgysylltu’n effeithiol â phlant a phobl ifanc sy’n dangos arwyddion o gyflyrau sylfaenol neu anghenion ychwanegol  Cyfathrebu mwy effeithiol rhwng yr asiantaethau gofal cymdeithasol, iechyd, addysg a chyfiawnder troseddol sy’n ymwneud â’r plentyn i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo ynghylch cyflyrau ac anghenion hysbys y plant a bod y wybodaeth hon yn cael ei hystyried wrth roi triniaeth i blant a phobl ifanc a gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt  Mwy o allu i gael gafael ar wasanaethau a chymorth arbenigol pan fo’u hangen.

(b)

(c)

(d) 22

   

       

       

       

   

 

Page 25: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 23

Atodiad Dau

Aelodau’r adolygiad  Cadeirydd Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Laming CBE DL

Aelodau’r adolygiad (yn nhrefn yr wyddor) Caroline Adams – Swyddog Staff y Portffolio Plant a Phobl Ifanc Cenedlaethol – Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yn cynrychioli Olivia Pinkney QPM, Prif Gwnstabl Hampshire John Bache – Dirprwy Gadeirydd – Cymdeithas yr Ynadon Sally Bartolo – Rheolwr Tîm Allgymorth Cymheiriaid – Tîm Addysg ac Ieuenctid – Awdurdod Llundain Fwyaf Tim Bateman – Prif Gynghorydd Polisi (Cyfiawnder Ieuenctid), Comisiynydd Plant Lloegr Ben Byrne – Cymdeithas Rheolwyr Timau Troseddau Ieuenctid (Lloegr) Stuart Carlton – Aelod Bwrdd – Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Plant Teresa Clarke – Llywodraethwr – Sefydliad Troseddwyr Ifanc EM, Swinfen Hall a Hyrwyddwr Plant sy’n Gadael Gofal NOMS Jeremy Crook – Cyfarwyddwr – Black Training and Enterprise Group Darren Coyne – Rheolwr Prosiect – Cymdeithas y Rhai sy’n Gadael Gofal Natasha Finlayson – Prif Weithredwr – Ymddiriedolaeth Who Cares? Shauneen Lambe – Cyfarwyddwr Gweithredol – Just for Kids Law Yr Arglwydd McNally – Cadeirydd – Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr Mary O’Grady – Cadeirydd – Rheolwyr TTIau Cymru Elizabeth Rantzen – Ymddiriedolwr – Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai Nigel Richardson – Cyfarwyddwr Gwasanaethau Plant – Cyngor Dinas Leeds Y Cynghorydd David Simmonds – Cadeirydd Bwrdd Plant a Phobl Ifanc Cymdeithas Llywodraeth Leol Enver Solomon – Cyfarwyddwr Tystiolaeth ac Effaith – National Children’s Bureau Dr Jo Staines – Cyfarwyddwr Rhaglen BSc Astudiaethau Plentyndod – Canolfan Hadley ar gyfer Astudiaethau Mabwysiadu a Gofal Maeth, Prifysgol Bryste Chris Stanley – Ymddiriedolwr – Michael Sieff Foundation Yr Athro Mike Stein – Athro Ymchwil – Uned Ymchwil Polisi Cymdeithasol, Prifysgol Caerefrog Y Farwnes Lola Young – Aelod o’r Meinciau Croes – Tŷ’r Arglwyddi

Yn ogystal â hyn, roedd wyth o bobl ifanc 14 i 23 blwydd oed, sydd â phrofiad o’r system gofal a’r system cyfiawnder troseddol, yn aelodau llawn o banel yr adolygiad.

Staff yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai a chymorth pro bono John Drew CBE (Ysgrifennydd i’r adolygiad o ofal) Justin Elder (Cynorthwyydd gweithredol) Juliet Lyon CBE (Cyfarwyddwr) Katy Swaine Williams (Cydgysylltydd yr adolygiad o ofal) Dr Pamela Storey (Ymchwilydd pro bono) (gynt o Uned Ymchwil Thomas Coram, Sefydliad Addysg, Prifysgol Llundain) Grace Wyld (Gwirfoddolwr)

23

   

       

       

       

   

 

Page 26: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 24

Am yr adolygiad Mae’r ymateb eithriadol i’r adolygiad hwn yn dangos cryfder y teimlad ymysg pobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol fel ei gilydd, y gallwn ac y dylem wneud yn well wrth helpu plant mewn gofal i gadw allan o drwbwl. Rydym yn ymuno â nhw yn ein galwad am roi blaenoriaeth uchel i amddiffyn plant mewn gofal rhag cael eu troseddoli, ar lefel genedlaethol a chan yr holl asiantaethau perthnasol. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod arweinyddiaeth gryf yn arwain at ganlyniadau pendant.

Cylch gorchwyl Yn Ebrill 2015 derbyniodd yr Arglwydd Laming wahoddiad gan yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai i gadeirio adolygiad annibynnol o blant sy’n derbyn gofal sydd yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr, ‘Keeping children in care out of trouble’. Lansiwyd yr adolygiad ym Mehefin 2015 gyda’r cwestiwn canolog hwn:

ystyried yr orgynrychiolaeth o blant mewn gofal, neu blant sydd â phrofiad o’r system gofal, yn y system cyfiawnder ieuenctid – pam, er enghraifft, er mai llai nag 1% o blant a phobl ifanc sy’n cael eu hymddiried i ofal awdurdodau lleol30, y mae un rhan o dair o’r bechgyn a 61% o’r merched yn y ddalfa yn rhai sydd, neu a fu, mewn gofal,31 – a gwneud argymhellion ynghylch sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc sydd mewn gofal neu sydd â phrofiad o’r system gofal, sydd mewn perygl o gael eu tynnu’n anorfod i’r system cyfiawnder ieuenctid.32

Cytunwyd y byddai’r adolygiad:  

a) yn cynnull grŵp o bobl ifanc sydd mewn gofal, neu a fu yn ddiweddar, i ymgynghori â nhw ar yr adolygiad, a thrwy gydol yr adolygiad, i sicrhau bod yr adolygiad yn elwa o’u mewnwelediad a gwybodaeth;

 b) yn gofyn am dystiolaeth gan blant a phobl ifanc, aelodau o deuluoedd a gofalwyr,

a chyrff proffesiynol perthnasol;  

c) yn gwneud cyfrif cywir o nifer y plant yn y ddalfa yng Nghymru a Lloegr sydd, neu a fu, mewn gofal;

 d) yn crynhoi’r ymchwil sydd wedi’i chyhoeddi, ac yn cael ei chynnal ar hyn o bryd, yn y maes hwn;

 e) yn casglu tystiolaeth o arferion da mewn gwledydd tramor;

 f) yn adnabod yr arferion gorau presennol yng Nghymru a Lloegr i gyfrannu i’r adolygiad;

 g) yn gwneud argymhellion i’w hystyried gan lywodraeth genedlaethol, gan gynnwys

ei Harolygiaethau;  

h) yn gwneud argymhellion i’w hystyried gan aelodau arweiniol awdurdodau lleol dros wasanaethau plant a gwasanaethau cymdeithasol ac asiantaethau perthnasol eraill;

 i) yn cyhoeddi ac yn lledaenu canfyddiadau ac argymhellion ac yn gweithio i sicrhau eu

bod yn cael eu gweithredu.

Roedd yr Arglwydd Laming wedi gwahodd amrywiaeth o uwch-ymarferwyr ac arbenigwyr ym meysydd gofal cymdeithasol plant a chyfiawnder ieuenctid i ymuno â phanel yr adolygiad (gweler tudalen 23). Mae aelodau panel yr adolygiad wedi cyfrannu o’u profiad a gwybodaeth sylweddol i gynghori’r adolygiad. Sefydlwyd grŵp ymgynghorol o blant a phobl ifanc hefyd a oedd yn cynnwys wyth aelod rhwng 14 a 23 blwydd oed, pob un â phrofiad o’r system gofal a’r system cyfiawnder ieuenctid, ac roedd y rhain hefyd yn aelodau o banel yr adolygiad.

24

   

       

       

       

   

 

Page 27: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 25

Gwaith rhwng Mehefin 2015 ac Ebrill 2016 Lansiwyd yr adolygiad gyda galwad am dystiolaeth ar 23 Mehefin 2015. Cafwyd llawer o sylw i’r lansio yn y cyfryngau, gan gynnwys 500 o wahanol storïau ar y cyfryngau darlledu a chafwyd 50 o gynigion o gymorth ac ymrwymiadau i ddarparu tystiolaeth ar y diwrnod cyntaf yn unig. Ers hynny cyflwynwyd mwy na 220 o sylwadau ysgrifenedig gan asiantaethau ac unigolion o bob math sydd â phrofiad personol neu broffesiynol o’r system gofal a’r system cyfiawnder troseddol.

Mae panel yr adolygiad yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, yr heddlu, ynadon, academyddion ac arbenigwyr eraill, yn ogystal â phlant a phobl ifanc a fu mewn gofal ac a fu mewn helynt gyda’r gyfraith. Roedd y panel wedi cwrdd yn rheolaidd rhwng Mehefin 2015 ac Ebrill 2016 i wrando ar dystiolaeth lafar a rhoi cyngor ar ganfyddiadau ac argymhellion. Roedd aelodau ifanc panel yr adolygiad wedi’u cynnwys yn y cyfarfodydd hyn ac roeddent hefyd wedi cynnal eu sesiynau gwaith ychwanegol eu hunain.

Roedd aelodau panel yr adolygiad wedi gwrando ar dystiolaeth lafar mewn cyfarfodydd ychwanegol ac yn ystod ymweliadau ag asiantaethau a sefydliadau, mewn cynadleddau cenedlaethol ac mewn fforymau rhanbarthol o ymarferwyr a llunwyr polisi. Cafwyd nifer o geisiadau gan unigolion i gwrdd â phanel yr adolygiad i sôn am eu profiadau personol o’r system gofal a’r system cyfiawnder troseddol. Derbyniwyd y ceisiadau hyn os oedd yn bosibl. Roeddem hefyd wedi cynnal tri grŵp ffocws gyda phobl ifanc yn y ddalfa ac yn y gymuned.

Yn Awst 2015, ysgrifennodd yr Arglwydd Laming at brif weithredwyr yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr i gael gwybod am niferoedd a chyfrannau’r plant sy’n derbyn gofal a oedd wedi troseddu neu a oedd yn y ddalfa, heb ystyried y cyfnod yr oeddent wedi bod mewn gofal (hynny yw, nid y rheini a fu mewn gofal am o leiaf 12 mis yn unig). Roedd mwy na 90 o awdurdodau lleol (60% o’r cyfanswm) wedi darparu’r data y gofynnwyd amdanynt ac mae’r rhain wedi’u dadansoddi ochr yn ochr â data o ffynonellau eraill a oedd ar gael.

Comisiynwyd aelod o’r panel, Dr Jo Staines o Ganolfan Hadley ar gyfer Astudiaethau Mabwysiadu a Gofal Maeth, Ysgol Astudiaethau Polisi, Prifysgol Bryste i lunio adolygiad llenyddiaeth annibynnol i’w roi gyda chanfyddiadau’r adolygiad hwn, gyda chymorth hael gan Ymddiriedolaeth Hadley.

Canfyddiadau ac argymhellion Ein man cychwyn oedd y dystiolaeth a gafwyd o’r holl ffynonellau hyn, a rhoddwyd pwyslais arbennig ar yr hyn a ddywedwyd wrthym gan blant a phobl ifanc mewn gofal a’r rheini sydd wedi gadael gofal yn ddiweddar. Nid yw ffrwyth y llafur hwn yn ymchwil academaidd nac yn ddogfen bolisi. Yn hytrach, mae adroddiad llawn yr adolygiad (y ceir crynodeb ohono yma) yn cyfleu barn a phrofiadau mwy na 260 o bobl sydd â phrofiad cyfredol neu flaenorol o dyfu i fyny yn y system gofal neu o weithio gyda phlant a phobl ifanc mewn gofal ac yn y system cyfiawnder troseddol, ac arbenigwyr eraill a sefydliadau sy’n gweithio mewn meysydd perthnasol. Lle cafwyd caniatâd, bydd y sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd i’r adolygiad yn cael eu darparu ar wefan yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai fel adnodd ychwanegol. Mae adolygiad llenyddiaeth annibynnol Dr Jo Staines, ‘Risk, adverse influence and criminalisation: Understanding the over-representation of looked after children in the youth justice system’ yn adnodd pellach i academyddion ac ymarferwyr.

25

   

       

       

       

   

 

Page 28: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 26

Ffeithiau allweddol  Plant sy’n derbyn gofal - nodweddion a chanlyniadau Roedd 75,155 o blant yn derbyn gofal ar 31 Mawrth 2015 yng Nghymru a Lloegr.

Mae mwyafrif y plant sy’n derbyn gofal – 61% yng Nghymru ac yn Lloegr – yn cael gofal gan y wladwriaeth o ganlyniad i gam-drin neu esgeuluso. Cyfran fach iawn o blant sy’n cael eu derbyn i ofal oherwydd ymddygiad sy’n gymdeithasol annerbyniol, 4% yng Nghymru a 2% yn Lloegr. Gallai’r categori hwn gynnwys troseddu.

Mae tri chwarter y plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru a Lloegr mewn gofal maeth. Plant a phobl ifanc sy’n byw mewn cartrefi plant (heb gynnwys rhai diogel), cartrefi gofal preswyl a hosteli yw 11% o’r cyfanswm yn Lloegr.

O’r holl blant mewn gofal yn Lloegr ar 31 Mawrth 2015, roedd 67% (46,690) wedi cael un lleoliad yn ystod y flwyddyn, 23% wedi cael dau leoliad a 10% wedi cael tri lleoliad neu ragor. Mae’r ffigurau ar gyfer Cymru’n dangos bod y sefyllfa ychydig yn fwy sefydlog, gan fod 71% (3,960) o blant wedi cael un lleoliad yn ystod y flwyddyn, 20% wedi cael dau leoliad a 9% wedi cael tri lleoliad neu ragor.

Yn 2015, roedd 14% o blant sy’n derbyn gofal yn Lloegr wedi ennill pum TGAU neu ragor ar radd A*-C neu gymhwyster cyfatebol, yn cynnwys Saesneg a mathemateg. Mae hyn yn cymharu â 53% o blant yn y boblogaeth gyffredinol a 15% o blant mewn angen.

Yn 2015, roedd angen addysgol arbennig gan 61% o blant sy’n derbyn gofal yn Lloegr, o’i gymharu â 50% o blant mewn angen a 15% o’r holl blant.

Mae iechyd emosiynol ac ymddygiadol yn destun pryder yn achos 37% o blant sy’n derbyn gofal yn Lloegr, a chredir ei fod yn ffinio â hynny yn achos 13% ychwanegol.

Plant sy’n derbyn gofal sydd o fewn y system cyfiawnder troseddol

Nid yw 94% o blant mewn gofal yn Lloegr yn mynd i helynt gyda’r gyfraith. Er hynny, mae plant mewn gofal yn Lloegr yn chwe gwaith yn fwy tebygol o gael rhybuddiad neu gollfarn am droseddu na phlant eraill.

Yn arolwg yr adolygiad o awdurdodau lleol, cafwyd ei bod yn bosibl bod plant mewn gofal sy’n dod i sylw’r heddlu yn wynebu mwy o risg o gael eu collfarnu yn hytrach na chael rhybuddiad o’u cymharu â phlant eraill.

Nid oes data dibynadwy ar niferoedd y plant sy’n derbyn gofal sydd yn y ddalfa. Ar sail data o nifer o ffynonellau, rydym wedi amcangyfrif y bydd tua 400 o blant sy’n derbyn gofal wedi’u cadw yn y ddalfa ar adeg benodol ac, o’r rhain, y bydd tua 100 wedi’u remandio; mae hyn ychydig yn llai na hanner y cyfanswm cyfredol o blant sy’n cael eu cadw yn y ddalfa.

Mae plant sy’n derbyn gofal sydd yn y ddalfa yn amlygu lefelau uwch o anghenion iechyd meddwl fel grŵp na phlant eraill sydd wedi’u carcharu, yn cael llai o gefnogaeth emosiynol ac ymarferol ac yn cael canlyniadau gwaeth mewn meysydd fel ymateb i gynlluniau cymhelliant ymddygiad a chynllunio ar gyfer ailsefydlu.

Yn yr arolwg diweddaraf gan yr Arolygiaeth Carchardai, roedd plant mewn canolfannau hyfforddi diogel a ddywedodd eu bod neu wedi bod o dan ofal awdurdod lleol:

26

   

       

       

       

   

 

Page 29: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 27

• Yn llai tebygol na’u cymheiriaid o ddweud eu bod yn cael ymweliadau gan eu teulu, gofalwyr neu ffrindiau o leiaf unwaith yr wythnos (34% o’i gymharu â 61%)

• Yn llai tebygol na’u cymheiriaid o ddweud eu bod yn gwybod ble y byddent yn byw ar ôl gadael y ganolfan (52% o’i gymharu â 89%)

• Yn fwy tebygol na’u cymheiriaid o ddweud eu bod wedi’u hatal yn gorfforol yn ystod eu cyfnod yn y ganolfan hyfforddi ddiogel (45% o’i gymharu â 29%)

• Yn fwy tebygol na’u cymheiriaid o ddweud eu bod yn teimlo eu bod wedi’u bygwth neu eu dychryn gan blant eraill tra oeddent yn y ganolfan (25% o’i gymharu â 10%).

Roedd bechgyn mewn sefydliadau troseddwyr ifanc a ddywedodd eu bod neu wedi bod o dan ofal awdurdod lleol:

• Yn ddwywaith yn fwy tebygol o gredu bod ganddynt anabledd (26% o’i gymharu â 13%)

• Yn fwy tebygol o lawer o gael eu cyhuddo o dramgwydd bach (59% o’i gymharu â 40%), o gael dyfarniad yn eu herbyn (74% o’i gymharu â 61%) ac o fod wedi’u hatal yn gorfforol (48% o’i gymharu â 36%)

• Wedi rhoi gwybod am fwy o broblemau iechyd emosiynol neu feddyliol ar gyfartaledd (37% o’i gymharu â 16%)

• Yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n anniogel ar adeg yr arolygiad (17% o’i gymharu â 11%) a’u bod wedi’u herlid gan aelod o staff (29% o’i gymharu â 22%)

• Yn llai tebygol o lawer o fod wedi cael un neu ragor o ymweliadau yr wythnos gan eu teulu a ffrindiau (23% o’i gymharu â 43%).

Ar sail data sydd heb eu cyhoeddi a ddarparwyd i’r adolygiad gan Fwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr, mae 44% o blant sy’n derbyn gofal sydd yn y ddalfa yn dod o gefndir lleiafrifol ethnig, sef rhagor nag unwaith a hanner yn fwy na’r gyfran o’r boblogaeth gyffredinol a’r boblogaeth sy’n derbyn gofal.

Cost lleoliadau gofal

Yn 2012-13, roedd awdurdodau wedi gwario £1.5 biliwn ar wasanaethau maethu ac £1 biliwn ar ofal preswyl.

Y gwariant blynyddol cyfartalog ar leoliad maeth ar gyfer plentyn yw £29,000-33,000; mae’n £131,000-135,000 ar gyfer lleoliad preswyl.

Gwariwyd £142.4 miliwn ar lety diogel i blant yn 2013-14.46 Mae hyn yn cymharu â £224 miliwn yn 2012-13.47 Mae cost gyfartalog flynyddol llety diogel yn 2013-14 yn ôl y math o leoliad fel a ganlyn: canolfan hyfforddi ddiogel, £187,000; cartref plant diogel, £209,000 a sefydliad troseddwyr ifanc i rai dan 18 oed, £60,000.

27

   

       

       

       

   

 

Page 30: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 28

Enghreifftiau o arferion da

Mae Cyngor Sir Surrey a Heddlu Surrey wedi gostwng niferoedd y plant sy’n derbyn gofal sydd yn y system cyfiawnder ieuenctid o flwyddyn i flwyddyn er 2011 drwy gydweithio strategol agos. Mae eu gwaith wedi’i seilio ar strategaeth amlasiantaethol i ostwng troseddu gan blant sy’n derbyn gofal, ynghyd â phrotocol rhyngasiantaethol, grŵp llywio a fforymau rheolaidd ar gyfer ymarferwyr, yn ogystal â rhaglen hyfforddi a datblygu amlasiantaethol helaeth ar ymarfer adferol, gan gynnwys hyfforddiant i ofalwyr maeth. Maent hefyd yn dweud bod cyfiawnder ieuenctid yn Surrey wedi’i drawsnewid, yn enwedig drwy gyflwyno’r Ymyriad Adferol Ieuenctid (YRI)49 a phenderfynu ar y cyd gan y gwasanaeth cymorth ieuenctid a’r heddlu. Mae gwerthusiad annibynnol wedi canfod bod £3.41 wedi’i arbed am bob £1 a fuddsoddwyd yn yr YRI ac wedi dod i’r casgliad bod:

the YRI reduced the unnecessary criminalisation of young people, reduced reoffending, provided better interventions for victims, improved victim satisfaction and reduced costs to the youth justice system.50

Mae Cyngor Dinas Leeds yn ceisio sefydlu dull adferol i’r ddinas gyfan, gan gynnwys gwasanaethau gwaith cymdeithasol plant yn ogystal â gwasanaethau plant ehangach, lleoliadau addysg a meysydd eraill mewn dull integredig o sicrhau gwell canlyniadau i blant a theuluoedd yn Leeds. Ymhlith y meysydd gwaith eraill y mae gwaith mewn partneriaeth â Chymdeithas y Rhai sy’n Gadael Gofal ar y rhaglen ‘Clear Approach’, sylw i’r rhaglenni ‘Best Start’ a ‘Early Help’ a Chynadledda i Grwpiau Teuluol a buddsoddi mewn ailuno teuluoedd, gan gynnwys y rhaglen ‘Multi-Systemic Therapy Family Integrated Transitions’. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben yn Hydref 2015, cafwyd gostyngiad yng nghanran y plant a phobl ifanc yn Leeds sy’n adnabyddus i’r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid a oedd yn derbyn gofal o 13% i 10.5%. Roedd hyn yn ostyngiad yng nghanran y plant sy’n derbyn gofal yn Leeds a oedd yn adnabyddus i’r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid, o 7.6% i 5.4%.

ŷ : Yn swydd Gaerlŷr, yn dilyn pryder ynghylch nifer y bobl ifanc sy’n dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder ieuenctid, oherwydd troseddu lefel isel yn bennaf, cyflwynwyd rhaglen cyfiawnder adferol rhwng 2007 a 2010 i sefydlu dull adferol yn holl gartrefi plant y sir, er mwyn galluogi staff y cartrefi i reoli camymddwyn lefel isel heb droi at yr heddlu.51

Mewn gwerthusiad annibynnol, cafwyd bod gostyngiad sylweddol yn y collfarnau ac yn y troseddau a gyflawnwyd gan blant a phobl ifanc y tu mewn a’r tu allan i gartrefi plant.52 Ceisir cynnwys cartrefi plant preifat yn y gwaith hwn yn y dyfodol.

: Mae cydweithio agos rhwng Heddlu Swydd Stafford a chartrefi gofal lleol wedi arwain at ostyngiad yn nifer yr achlysuron y mae plant sy’n derbyn gofal yn mynd ar goll yn yr ardal.53 Rydym yn gwybod bod hyn yn ffactor sy’n cyfrannu at droseddoli.54 Agwedd allweddol ar y gwaith hwn oedd dyrannu swyddog heddlu penodol i bob cartref preswyl, a’r disgwyliad iddynt ymweld â’r cartref fel rhan o’u dyletswyddau cyffredinol, pa un a oedd problem benodol neu beidio.

Gwent: Yng Ngwent mae protocol wedi’i gytuno a’i weithredu i leihau nifer y plant sy’n derbyn gofal a gaiff eu herlyn. Mae’r protocol wedi’i seilio ar hyfforddiant ar ddefnyddio dulliau adferol lle mae hyn yn ymateb diogel a phriodol i ymddygiad heriol gan blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal.

28

   

       

       

       

   

 

Page 31: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 29

Nod y protocol yw gostwng nifer y plant sy’n derbyn gofal a gaiff eu harestio am droseddau bach na fyddent wedi dod i sylw’r heddlu pe bai’r plant yn byw gartref gyda’u rhieni. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnig hyfforddiant a chymorth i ofalwyr maeth a staff unedau preswyl, a disgwylir y bydd hyn yn sefydlogi lleoliadau hefyd.

Norfolk: Yn Norfolk, mae nifer y bobl ifanc mewn gofal sy’n dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol wedi gostwng 52% ddwy flynedd ar ôl cyflwyno ymarfer adferol yn holl gartrefi plant y sir. Cyflwynwyd y cynllun yn 2009 a hyfforddwyd 100 o aelodau staff mewn ymarfer adferol. Roedd nifer y bobl ifanc mewn gofal a gyhuddwyd o gyflawni trosedd yn y ddwy flynedd dilynol wedi gostwng o 7.2% yn 2009 i 3.4% yn 2011.

Cafwyd gostyngiad o 23% yn y nifer o weithiau y cafodd yr heddlu eu galw allan yn y tair blynedd ar ôl cyflwyno ymarfer adferol mewn cartrefi gofal gan Gyngor Sir Swydd Hertford, o’i gymharu â’r tair blynedd blaenorol.

Waltham Forest, Llundain: Mae swydd sydd wedi’i hariannu ar y cyd gan y gwasanaeth plant sy’n derbyn gofal a’r gwasanaeth troseddau ieuenctid yn Waltham Forest yn sicrhau dull cydgysylltiedig clir o ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal sy’n adnabyddus i’r gwasanaeth troseddau ieuenctid. Mae deiliad y swydd hefyd yn adolygu plant sy’n derbyn gofal sydd ‘mewn perygl’ ac yn ceisio lleihau risg. Roedd y model hwn wedi’i nodi’n enghraifft o ymarfer da yn Arolygiad Sgrinio Ansawdd Byr yr Arolygiaeth Brawf yn 2015. Yn Waltham Forest, darparwyd hyfforddiant ar gyfiawnder adferol ar gyfer staff cartrefi gofal a gofalwyr maeth sy’n gofalu am blant sydd yng ngofal yr awdurdod lleol, er mwyn lleihau troseddoli. Mae’r gwasanaeth troseddau ieuenctid a’r tîm gofal cymdeithasol plant yn cydweithio i sicrhau cyfiawnder adferol gyda phobl ifanc a staff cartrefi gofal er mwyn lleihau nifer y lleoliadau sy’n methu. Cyflwynwyd swyddogion ymyrraeth adferol mewn ysgolion i leihau troseddoli ac absenoliaeth.

29

   

       

       

       

   

 

Page 32: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 30

1 Sesiwn tystiolaeth lafar, 25 Mehefin 2015 2 Araith y Prif Weinidog yng nghynhadledd ei blaid, Hydref 2015:

http://press.conservatives.com/post/130746609060/prime- minister-conference-speech-2015 3 Mae nifer o ganfyddiadau ac argymhellion yr adolygiad wedi’u hadlewyrchu yng ngofynion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig

ar Hawliau’r Plentyn a’i brotocolau. Mae rhai ohonynt wedi’u hadlewyrchu yng nghanfyddiadau’r Ymchwiliad Annibynnol i Weithrediad ac Effeithiolrwydd y Llys Ieuenctid 2014 a gadeiriwyd gan yr Arglwydd Carlile.

4 Mackie, A. et al. Youth Restorative Evaluation Summary Report (2014) GtD Social Impact Analytics 5 Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (2015) National Strategy for the Policing of Children and Young People, London: NPCC 6 Cyflwyniad 55 7 Dylai’r is-bwyllgor cabinet gynnwys cynrychiolwyr uwch-weinidogol o holl adrannau perthnasol y llywodraeth, gan

gynnwys yr Adran Addysg, y Swyddfa Gartref, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, yr Adran Iechyd a’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol.

8 Gweler Atodiad Un am ganllawiau pellach ar y concordat arfaethedig ar amddiffyn plant sy’n derbyn gofal rhag eu troseddoli. 9 Yr arolygiaethau perthnasol yw Ofsted (yn Lloegr) ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac Estyn (yng Nghymru). 10 Yr Adran Addysg (Ionawr 2016) Children’s social care reform: A vision for change, London: DfE 11 http://www.ncb.org.uk/media/1237461/one_year_on_report_-final_copy.pdf 12 Cyflwyniad 96 13 Cyflwyniad 10 14 Grŵp ffocws menywod ifanc, 7 Mawrth 2016 15 Cyflwyniad 20 16 Yr Adran Addysg (2015) The Children Act 1989 guidance and regulations. Volume 2: care planning, placement and case

review, London: DfE 17 Mae hyn wedi’i adlewyrchu hefyd yn argymhellion Cymdeithas y Rhai sy’n Gadael Gofal i lywodraeth sy’n nodi bod angen

‘cultural change in the understanding of, and responses to, looked after children and care leavers in the criminal justice system’: www.careleavers.com

18 Mae’r Cyngor Cyfiawnder Adferol yn egluro: “In any setting involving children and young people, restorative approaches teach an understanding of others' feelings and the ability to connect and communicate successfully. They enable young people to think for themselves about how to respond to challenging situations, and to build trust and develop more mature responses to a difficult situation...” (Cyflwyniad 139)

19 Cyflwyniad 208 - Black Training and Enterprise Group 20 Cyflwyniad 223 - Imkaan 21 Grŵp ffocws menywod ifanc, 7 Mawrth 2016 22 Cyflwyniad 47 23 Cyflwyniad 224 - Aylish Alexander Solicitors, ynghylch dyn ifanc o Congo a ddaeth i’r DU yn blentyn ifanc, a dechrau

troseddu pan oedd mewn gofal yn Lloegr. Maent yn ei gynrychioli mewn cais am ddirymu gorchymyn i’w allgludo i Congo oherwydd troseddu. Mae ei hanes yn adroddiad llawn yr adolygiad.

24 Cyflwyniad 212 - Philippa Southwell, Birds Solicitors 25 https://www.gov.uk/government/news/review-of-racial-bias-and-bame-representation-in-criminal-justice-system-announced 26 Gweler Rheolau’r Cenhedloedd Unedig ar gyfer Trin Menywod sy’n Garcharorion a Mesurau Digarchar ar gyfer Menywod sy’n Droseddwyr. 27 Cyflwyniad 76 28 Cyflwyniad 51 29 Mae canllawiau statudol i awdurdodau lleol yn Lloegr ar blant sy’n derbyn gofal a chyfiawnder ieuenctid yn cydnabod ei bod

yn fwy tebygol y bydd plant sy’n derbyn gofal yn cael eu troseddoli. Mae’r canllawiau’n datgan y dylai awdurdodau lleol weithredu’n strategol i hybu ymddygiad cadarnhaol ymysg plant sy’n derbyn gofal a all fod mewn perygl o droseddu a chymryd camau i’w dargyfeirio oddi wrth y system cyfiawnder troseddol. Maent yn argymell y dylai cartrefi plant wneud protocolau â heddluoedd lleol i atal plant sydd o dan eu gofal rhag cael eu troseddoli’n ddiangen. (Yr Adran Addysg (2014) Looked after children and youth justice. Application of the Care Planning, Placement and Case Review (England) Regulations 2010 to looked after children in contact with youth justice services, London: DfE) Mae’r egwyddorion hyn wedi’u hadlewyrchu yn y Canllaw ar Reoliadau Cartrefi Plant gan gynnwys y Safonau Ansawdd (Paragraff 8.5, yr Adran Addysg (2015) Guide to the Children’s Homes Regulations including the Quality Standards, London: DfE)

30 Yr Adran Addysg (2013) Children looked after in England year ending 31 March 2013, London: DfE; gwefan StatsCymru; a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (2013) Population estimates total persons for England and Wales and regions Mid-1971 to Mid-2012, London: ONS 30

   

       

       

       

 

   

 

Page 33: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 31

31 Kennedy, E. (2013) Children and Young People in Custody 2012-13: An analysis of 15-18-year-olds’ perceptions of their experiences in young offender institutions, London: HM Inspectorate of Prisons and Youth Justice Board.

32 Seiliwyd y cylch gorchwyl hwn ar yr ystadegau sydd wedi’u crybwyll uchod, sef y rhai diweddaraf a oedd ar gael ar adeg lansio’r adolygiad. Yn ei chanfyddiadau ar sail 774 o arolygon a gwblhawyd gan blant ym mhob canolfan hyfforddi ddiogel a sefydliad troseddwyr ifanc a arolygwyd rhwng 1 Ebrill 2014 a 31 Mawrth 2015, mae Arolygiaeth Carchardai EM wedi adrodd ers hynny fod mwy na hanner y plant mewn canolfannau hyfforddi diogel (52%) a bron dwy ran o bump y bechgyn mewn sefydliadau troseddwyr ifanc (38%) wedi dweud wrth yr Arolygiaeth eu bod neu wedi bod yng ngofal awdurdod lleol. Redmond, A. (2015) Children in Custody 2014-15: An analysis of 12-18-year-olds’ perceptions of their experience in secure training centres and young offender institutions, London: HMIP, YJB.

33 Os na nodwyd fel arall, mae’r ystadegau yn yr adran hon wedi’u codi o’r ffynonellau canlynol. Lloegr: yr Adran Addysg (2015) Statistical First Release SFR 34/2015, London: DfE; Cymru: Llywodraeth Cymru (2015) StatsWales, Children Looked After, Cardiff: Welsh Government

 

34 Lloegr – yr Adran Addysg (2015) Statistical First Release SFR 34/2015, London: DfE. Cafwyd newid bach yn y fethodoleg y flwyddyn hon, fel nad yw plentyn sy’n mynd ar goll o’r lleoliad a gytunwyd yn cael ei gyfrif bellach yn lleoliad ar wahân yn 2015. Er bod hyn yn golygu na ellir cymharu’r ffigurau ar gyfer 2015 yn union â blynyddoedd cynharach, nid yw’r canrannau a gafodd 1, 2, 3 neu ragor o leoliadau wedi newid nemor ddim o’u cymharu â blynyddoedd blaenorol: mae hyn yn awgrymu bod effaith y newid mewn methodoleg yn fach. Cymru – Llywodraeth Cymru (2015) StatsWales, Children Looked After, Cardiff: Welsh Government

 

35 Yr Adran Addysg (2016) Statistical First Release 11/2016. Oherwydd newidiadau yn y dull o gyfrifo’r ffigurau hyn, ni ellir eu cymharu â blynyddoedd cynharach.

 

36 Yr Adran Addysg (2016) Statistical First Release 11/2016  37 Yr Adran Addysg (2015) Children looked after in England (including adoption and care leavers), year ending 31 March 2015: additional tables, London: Department for Education. Mae’r ffigurau hyn wedi’u seilio ar yr holiadur ‘Strengths and Difficulties’. Dylid llenwi’r holiadur hwn ar gyfer pob plentyn sy’n derbyn gofal am o leiaf 12 mis ac sydd rhwng 5 a 16 mlwydd oed ar ddiwedd Mawrth. Yn 2015 roedd 36,140 o blant yn y cohort hwn ac roedd sgôr yr holiadur wedi’i dychwelyd ar gyfer 72% o’r plant hyn.  38 Yr Adran Addysg (2015) Statistical First Release SFR 34/2015, London: DfE  39 Arolwg yr adolygiad o awdurdodau lleol, Awst 2015 - Mawrth 2016; YJB Gateway to the Youth Justice System Chapter 1, Table

1.1 Flows through the youth justice system year ending March 2015  40 Gweler y sylwebaeth yn adroddiad llawn yr adolygiad. Gweler hefyd Redmond, A. (2015)  41 Redmond, A. (2015) Children in Custody 2014-15: An Analysis of 12-18 year olds' perceptions of their experience in

secure training centres and young offender institutions, London: HM Inspectorate of Prisons Ibid  

42 Ibid  43 Ibid  44 Adroddiad y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol, Children in Care, HC 787, Session 2014-15, 27 November 2014 45 Ibid 46 Y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (2015) Annual Report and Accounts 2014/15, London: Youth Justice Board 47 Y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (2013) Annual Report and Accounts 2012/13, London: Youth Justice Board 48 Hansard HC, 27 June 2013, c368W 49 Mae’r Ymyriad Adferol Ieuenctid yn warediad cyn mynd i lys sy’n ddewis yn lle’r rhybuddiad ieuenctid, y rhybuddiad

amodol ieuenctid ac erlyn ac mae disgrifiad ohono mewn stori am unigolyn yn yr adroddiad llawn. 50 Mackie, A. et al. Youth Restorative Evaluation Summary Report (2014) GtD Social Impact Analytics 51 Cyflwyniad 14 – Cyngor Sir Swydd Gaerŷr 52 Cyflwyniad 14; Knight, V. et al (2011) Evaluation of the Restorative Approaches Project in Children’s Residential Homes

across Leicestershire: Final Report 2011, Leicester: De Montfort University 53 Sesiwn tystiolaeth lafar, 10 Medi 2015 54 Gweler hefyd yr Adran Addysg (2014) Statutory guidance on children who run away or go missing from home or care,

London: Department for Education 55 Cyflwyniad 196 – Gwasanaeth troseddau ieuenctid Blaenau Gwent a Chaerffili  56 Community Care – Restorative justice cuts criminalisation and police intervention among looked after children. Wedi’i grybwyll yng Nghyflwyniad 139 – Cyngor Cyfiawnder Adferol  57 Littlechild, B. et al (2010) The introduction of restorative justice approaches in young people’s residential units: A critical

evaluation, London: University of Hertfordshire; wedi’i grybwyll yng Nghyflwyniad 139 – Cyngor Cyfiawnder Adferol

31

   

       

       

       

 

   

 

Page 34: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 32

Ni fyddai wedi bod yn bosibl cynnal yr adolygiad annibynnol hwn oni bai am y cymorth cychwynnol gan y J Paul Getty Junior Charitable Trust a chymorth hael gan yr Olswang Foundation, J Leon Charitable Trust, Hadley Trust, Persula Foundation, Warburg Pincus, AB Charitable Trust a rhoddion gan unigolion caredig.

Hoffem ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig a llafar i’r adolygiad. Rydym yn arbennig o ddiolchgar i’r rheini a rannodd eu profiadau personol o’r system gofal a’r system cyfiawnder troseddol a phrofiadau aelodau agos o’u teulu.

Rydym yn ddiolchgar i aelodau panel yr adolygiad am eu gwybodaeth a’u hymroddiad. Yn benodol, hoffem ddiolch i grŵp ymghynghorol y plant a phobl ifanc am ei gyfraniad mawr. Am eu cymorth yn helpu pobl ifanc i gymryd rhan yn yr adolygiad, rydym yn diolch i Darren Coyne o Gymdeithas y Rhai sy’n Gadael Gofal, Emma Corbett o Ymddiriedolaeth Who Cares?, Sally Bartolo a thîm allgymorth cymheiriaid Awdurdod Llundain Fwyaf, Greg Nicholas o Gyngor Caerdydd, Liz Ibeziako, Barnardo’s, The Big House Theatre Company, Black Training and Enterprise Group a HMPYOI Feltham.

Rydym yn ddyledus hefyd i Grace Wyld a Pamela Storey am roi’n wirfoddol o’u hamser a’u harbenigedd i helpu i ddrafftio’r adroddiad hwn, i Anne-Marie Day, i Anna Mears a James Vivian, ac i bawb a adolygodd y deunydd drafft. Rydym yn ddiolchgar i’r Esmée Fairbairn Foundation, Barrow Cadbury Trust, Google UK a Llywodraeth Cymru am ddarparu mannau cyfarfod.

Rydym yn diolch i Fwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr, Arolygiaeth Carchardai EM a’r Adran Addysg am helpu i ddadansoddi’r data ar blant sy’n derbyn gofal o fewn y system cyfiawnder troseddol, ac yn diolch hefyd i’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid am hwyluso sesiynau tystiolaeth yr adolygiad yng Nghynhadledd Cyfiawnder Ieuenctid 2015. Diolch i Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu am ein helpu i gasglu tystiolaeth oddi wrth heddluoedd drwy gyflwyniadau ysgrifenedig ac yn ei gynhadledd yn 2016 ar ymateb yr heddlu i blant a phobl ifanc. Rydym yn diolch i Penny Hall, Huw Gwyn Jones a Sarah Cooper o Lywodraeth Cymru am eu harbenigedd a’u cymorth ymarferol.

Yn olaf, rydym yn diolch i bawb a oedd wedi croesawu ymweliadau a chynnal cyfarfodydd gydag aelodau o banel yr adolygiad ac wedi cynorthwyo’r adolygiad mewn ffyrdd eraill: mae pob un ohonynt wedi helpu i wneud yr adroddiad hwn yn rym dros newid.

32

   

       

       

       

   

 

Page 35: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

Page

 

Page 36: Mewn Gofal, Allan o Drwbwl - Prison Reform Trust...Mewn Gofal, Allan o Drwbwl Sut y gellir trawsnewid cyfleoedd bywyd plant mewn gofal drwy eu hamddiffyn rhag ymwneud yn ddiangen â’r

care_review.qxp_care_review 23/05/2016 10:57 Page 34

Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai, 15 Northburgh Street, Llundain EC1V 0JR Ffôn: 020 7251 5070 Ffacs: 020 7251 5076 www.prisonreformtrust.org.uk Rhif cofrestru elusen 1035525 Rhif cwmni cyfyngedig drwy warant 2906362

Mae’r Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai yn elusen annibynnol yn y DU sy’n gweithio i greu system gosb sy’n gyfiawn, gwâr ac effeithiol. Mae’n gwneud hyn drwy ymchwilio i weithrediadau’r system; drwy roi gwybodaeth i garcharorion, staff a’r cyhoedd; a thrwy ddylanwadu ar y Senedd, llywodraeth a swyddogion o blaid diwygio.

Rhwng 2007 a 2012 roedd rhaglen Allan o Drwbwl yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai, gyda chymorth hael gan y Diana, Princess of Wales Memorial Fund, wedi gweithio gyda chryn lwyddiant i helpu i ostwng niferoedd y plant sydd yn y ddalfa yng Nghymru a Lloegr. O dan y rhaglen honno, roedd yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai wedi comisiynu ymchwil i farn plant sy’n derbyn gofal am y cysylltiadau rhwng gofal, troseddu a’r ddalfa. Yn 2015 lansiwyd adolygiad mawr gan yr elusen o dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Laming i ymchwilio i’r niferoedd anghymesur o blant mewn gofal a oedd yn y ddalfa ac i wneud argymhellion ar gyfer diwygio.

Mae adroddiad llawn yr adolygiad (y ceir crynodeb ohono yma) wedi’i baratoi gan Katy Swaine Williams, cydgysylltydd yr adolygiad, drwy ymgynghori â John Drew sy’n ysgrifennydd i’r adolygiad. Mae adolygiad llenyddiaeth wedi’i baratoi i gyd-fynd â’r adroddiad sydd ar gael oddi wrth yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai: ‘Risk, adverse influence and criminalisation: Understanding the over representation of looked after children in the youth justice system’ gan Dr Jo Staines, Canolfan Hadley ar gyfer Astudiaethau Mabwysiadu a Gofal Maeth, Ysgol Astudiaethau Polisi, Prifysgol Bryste.