national dance company wales autumn 2015 programme

20
Programme Rhaglen 2015 Hydref Autumn ndcwales.co.uk ndcwales #ndcwales

Upload: ndc-wales

Post on 23-Jul-2016

225 views

Category:

Documents


6 download

DESCRIPTION

Programme details for National Dance Company Wales's Autumn 2015 which includes information on Tuplet, A Mighty Wind and Walking Mad. Plus interviews with the creator of A Mighty Wind and Artistic Director Caroline Finn. Programme in both Welsh and English.

TRANSCRIPT

Page 1: National Dance Company Wales Autumn 2015 Programme

ProgrammeRhaglen

2015HydrefAutumn

ndcwales.co.ukndcwales #ndcwales

Page 2: National Dance Company Wales Autumn 2015 Programme

At NDCWales we are passionate about dance and dancing. We offer a wide range of activities for those who want to Learn, Explore and Dance.

Yng NgDCCymru, rydym yn teimlo’n angerddol ynghylch dawns. Rydym yn cynnig ystod eang o weithgarwch ar gyfer y rheini sy’n dymuno Dysgu, Archwilio a phrofi Dawns.

Find out more through our GET INVOLVED programme at Er mwyn dod i wybod rhagor ynghylch ein rhaglen YMWNEUD ewch i ymweld â ndcwales.co.uk

Explore

ARCHWILIWCH

Dance

dAWNS

DYSGU

LEARN

Get Involved Cyfrannwch

...more about dance through our bespoke workshops and interactive matinees.

...Dysgwch ragor ynghylch dawns trwy ein gweithdai wedi eu teilwra’n arbennig a perfformiadau matinée rhyngweithiol.

...dance through our additional events such as open rehearsals and post show talks.

...ddawns trwy ddigwyddiadau ychwanegol megis ymarferion agored a sgyrsiau yn dilyn perfformiadau.

...at all different levels of age and ability.

...ar bob lefel gallu ac oedran.

Page 3: National Dance Company Wales Autumn 2015 Programme

Fel Cyfarwyddwr Artistig a Phrif Weithredwr newydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru hoffem estyn croeso mawr i chi i’n rhaglen ddawns fywiog ar gyfer Tymor yr Hydref. Rydym ill dau wedi symud i Gymru yn ddiweddar er mwyn gweithio gyda’r cwmni nodedig hwn o ddawnswyr a staff. Rydym yma oherwydd ein bod yn dymuno creu dawns newydd gwefreiddiol, a chysylltu gyda chynulleidfaoedd ym mhob cwr o Gymru, led-led y DU a thramor.

Mae gennym Dymor hydref hynod gyffrous sy’n cynnwys dau ddarn bendigedig sy’n bodoli eisoes gan Alexander Ekman a Johan Inger ochr yn ochr â gwaith newydd gan y coreograffydd Belgaidd ifanc, Jeroen Verbruggen. Mae’r rhaglen mor amrywiol o ran ei ieithwedd goreograffaidd a’i chynllun gweledol nes ein bod yn teimlo’n sicr fod ynddo yn bendant “rhywbeth at ddant pawb”, a gobeithiwn yn fawr y bydd yn ennyn cywreinrwydd a dyhead i weld y cwmni unwaith eto.

Ar y gweill hefyd mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. Byddwn yn mynd ar daith i theatrau mawr a bach ym mhob cwr o Gymru, led-led y DU ac yn rhyngwladol. Ond rydym ni o’r farn na ddylai dawns fod wedi ei gyfyngu i theatrau. Rydym eisiau creu prosiectau unigryw er mwyn rhoi cyfle i gymunedau fedru dawnsio drostynt eu hunain tra’n gweithio gyda’n dawnswyr a’n coreograffwyr, a’n bwriad yw creu gweithiau dawns ar gyfer yr awyr agored (os fydd y tywydd yn caniatáu!) a chreu dulliau cyffrous er mwyn galluogi pobl i fedru cael gafael ar ddawns ar-lein.

Cadwch mewn cysylltiad trwy ymuno â’n rhestr ddosbarthu, ynteu dilynwch ein hysbysiadau trwy’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn cael gwybod am ein cynlluniau wrth iddynt ddatblygu.

Mwynhewch y sioe! Paul, Prif Weithredwr Caroline, Cyfarwyddwr Artistig

As the new Artistic Director and Chief Executive at National Dance Company Wales we welcome you to our vibrant Autumn Season programme.

We have both recently moved to Wales to work with this outstanding company of dancers and staff. We’re here because we want to create thrilling new dance, and engage audiences in all corners of Wales, across the UK and overseas.

We have an exciting Autumn season which includes two delightful existing pieces from Alexander Ekman and Johan Inger alongside a brand new work from the young Belgian choreographer, Jeroen Verbruggen. The programme is so diverse in both its choreographic language and visual design that we feel sure that there is truly ‘something for everybody’, and hope that it will spark a curiosity to see the company again.

We also have some ambitious plans for the future. We will be touring theatres large and small in every corner of Wales, across the UK and internationally. But we don’t think dance should be restricted to theatres. We want to create one-off projects to give communities the chance to dance themselves whilst working with our dancers and choreographers, and we’re planning to create dance work for the outdoors (when the weather allows it!) and engineer exciting ways for people to access dance online.

Stay in touch by joining our mailing list, or signing up to our social media alerts to follow our plans as they develop.

Enjoy the show! Paul, Chief Executive Caroline, Artistic Director

Welcome Croeso

ndcwales.co.uk @ndcwales #ndcwales15 3

Page 4: National Dance Company Wales Autumn 2015 Programme

Tuplet I’ve worked with rhythm in many of my pieces… it’s a huge part of my work. Alexander Ekman

Page 5: National Dance Company Wales Autumn 2015 Programme

Choreography / Coreograffi: Alexander Ekman

Choreographer’s Assistant / Cynorthwydd y Coregoraffydd: Ana Lucaciu

Music and Sound / Cerddoriaeth a Sain: Mikael Karlsson, featuring / yn cynnwys Fly Me To The Moon, performed by / wedi ei berfformio gan Victor Feldman from the album / o’r albwm Jazz at Ronnie Scott’s

Lighting Design / Cynllun golau: Amith A. Chandrashaker

Costume Design / Cynllunio gwisgoedd: Nancy Haeyung Bae

Costume Maker / Creu gwisgoedd: Louise Edmunds

Costume Assistants / Cynorthwywyr gwisgoedd: Angharad Spencer, Rebecca Hayes, Gregory Rostek, Llinos Griffiths

6 dancers / dawnsiwr

18 minutes / munud

Alexander Ekman’s works are known for their clever ideas, fast-paced choreography and abundance of humour. He has created 35 works to date, performed worldwide by companies such as the Boston Ballet, Nederlands Dans Theater, Sydney Dance Company, Vienna and Les Ballets de Monte Carlo.

Ekman creates unique performances in collaboration with different disciplines and regularly designs the set and costumes as well as jointly composing the music for his creations. Tuplet was originally made for Cedar Lake Dance Company using a score created with the dancers’ own rhythmic impulses and employing their bodies as percussion instruments. We are delighted to be the first European company to perform this work.

Mae gweithiau Alexander Ekman yn adnabyddus oherwydd y syniadau clyfar, y coreograffi chwim a’r hiwmor cyforiog sy’n ganolog iddynt. Mae wedi creu 35 o weithiau hyd yma sy’n cael eu perfformio led-led y byd gan gwmnïau megis Bale Boston, Nederlands Dans Theater, Cwmni Dawns Sydney, Vienna a Les Ballets de Monte Carlo.

Mae Ekman yn creu perfformiadau unigryw mewn cyd-weithrediad ag amrywiol ddisgyblaethau ac mae’n cynllunio’r set a’r gwisgoedd yn gyson ac yn cyd-gyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer ei greadigaethau. Lluniwyd Tuplet yn wreiddiol ar gyfer Cwmni Dawns Cedar Lake gan ddefnyddio sgôr wedi ei greu o ddyheadau rhythmig y dawnswyr eu hunain a ddefnyddia eu cyrff fel offerynnau taro. Rydym wrth ein bodd o fod y cwmni Ewropeaidd cyntaf i berfformio’r gwaith hwn.

Alexander Ekman

“ I’ve worked with rhythm in many of my pieces… it’s a huge part of my work. When I make a piece I want it to be about something, a very clear subject or a concept, so I thought it was time to dedicate a whole piece to rhythm.”

“ I believe in honesty on stage and if a dancer is having an experience on stage themselves… I actually try and get the dancers to have more of an experience rather than performing the work.”

“ I think the size of the company creates a very relaxed working atmosphere, and it’s fun and when I have fun, I create well and I want to create, so I start to make changes and it becomes more fresh… every time I re-set the work it becomes new because the dancers are the piece… that’s the beauty of it, I get to see the same piece but it changes because it’s alive.”

More from the Choreographer Mwy oddi wrth y Coreograffydd

© T

M R

ives

ndcwales.co.uk @ndcwales #ndcwales15 5

Page 6: National Dance Company Wales Autumn 2015 Programme

World Premiere / Perfformiad cyntaf led-led y byd

A Mighty Wind

I see my piece as a poem, which plays with themes of the winds and overcoming things or trying to erase things like little sections of memories. Jeroen Verbruggen

Page 7: National Dance Company Wales Autumn 2015 Programme

Choreography / Coreograffi: Jeroen Verbruggen

Sound Design by / Cynllun y Sain gan: James Kennedy

Works by / Gweithiau gan: And So I Watch You From Afar, Enemies, Sound Effects Library, Diamanda Galas, Natalia Paruz, Because of Ghosts, Diabologum and/a Suicide. Full list of artists on our website Ceir rhestr llawn o’r artistiaid ar ein gwefan

Lighting Design / Cynllun y Golau: Ben Ormerod

Design Consultant / Ymgynghorydd cynllunio: Suzi Dorey

Costume makers / Gwneuthurwyr gwisgoedd: Amy Barrett, Louise Edmunds & Angharad Spencer

8 dancers / dawnsiwr

28 minutes / munud

Belgian choreographer Jeroen Verbruggen studied at the Royal Belgian Ballet School of Antwerp, and went on to win a scholarship to study with the National Ballet School of Canada.

In 2001 Vebruggen took second place at the Eurovision Young Dancer with his solo Hyperballad. Verbruggen joined the Royal Ballet of Flanders in Antwerp from 2001-2003 before dancing with Ballet d’Europe as first soloist. During his time with Ballet d’Europe, Verbruggen created a number of works for choreography evenings, Belgian national television, and the Monaco dance forum.

In 2012 Jeroen created his first full piece on Les Ballets de Monte Carlo, Kill Bambi, which was made in collaboration with the Parisian fashion house On aura tout vu. In 2013 Jeroen was nominated by the prestigious Rolex Arts Initiative and in November 2014, he presented his first full length evening with his interpretation of a new Nutcracker for Le Ballet du grand theatre de Genève.

A Mighty Wind is Jeroen’s first UK commission.

Astudiodd y coreograffydd Belgaidd Jeroen Verbruggen yn ysgol Fale Frenhinol Belg yn Antwerp, a mynd rhagddo i ennill ysgoloriaeth er mwyn astudio gydag Ysgol Fale Genedlaethol Canada. Yn 2001 dyfarnwyd yr ail safle i Vebruggen yng Nghystadleuaeth Dawnsiwr Ifanc Eurovision gyda’i waith unawd Hyperballad.

Ymunodd Verbruggen â Bale Brenhinol Fflandrys yn Antwerp rhwng 2001 a 2003 cyn dawnsio gyda Ballet d’Europe fel ei unawdydd blaenaf. Yn ystod ei gyfnod gyda Ballet d’Europe, creodd Verbruggen nifer o weithiau ar gyfer nosweithiau coreograffiadd, teledu cenedlaethol Gwlad Belg, a Fforwm Ddawns Monaco.

Yn 2012 creodd Jeroen ei waith cyflawn cyntaf gyda Les Ballets de Monte Carlo, Kill Bambi, a grëwyd mewn cyd-weithrediad â’r Ty Ffasiwn o Baris On aura tout vu. Yn 2013 enwebwyd Jeroen gan Fenter Gelfyddydol uchel ei bri Rolex Arts ac ym mis Tachwedd 2014, cyflwynodd ei noson gyflawn gyntaf gyda’i ddehongliad newydd o Nutcracker ar gyfer Le Ballet du grand theatre de Genève.

A Mighty Wind yw comisiwn cyntaf Jeroen yn y DU.

“ A Mighty Wind in my eyes can be many things. I think that first of all it’s something bigger than ourselves that we want to overcome; or try to beat; but a mighty wind can also be just, a mighty wind. Also, in terms of the music for the piece, A Mighty Wind can also relate to the loudness of the rock music. I see my piece as a poem, which plays with themes of wind and overcoming things, or trying to erase things such as little sections of memories.

“ We are trying to give a modern rock feeling as a style of the piece. I want the public to enjoy it even if they don’t necessarily understand everything; to be touched by it. I want them to go with the music and have a good time as if they’re watching a concert.”

Jeroen Verbruggen

More from the Choreographer Mwy oddi wrth y Coreograffydd

ndcwales.co.uk @ndcwales #ndcwales15 7

Page 8: National Dance Company Wales Autumn 2015 Programme

Walking Mad The famous Boléro from Ravel with its sexual, almost kitschy history was the trigger point to make my own version. Johan Inger

Page 9: National Dance Company Wales Autumn 2015 Programme

Choreography / Coreograffi: Johan Inger

Choreographer’s Assistant / Cynorthwydd y Coreograffydd: Karl Inger

Music / Cerddoriaeth: Maurice Ravel: Boléro for orchestra (1928) & Arvo Pärt, Für Aline

Lighting Design / Cynllun y Golau: Erik Berglund

Costume Design / Cynllun y Gwisgoedd: Johan Inger

Costume Realisation / Crëwyr y Gwisgoedd: Llinos Griffiths

9 dancers / dawnsiwr

22 minutes / munud

Swedish Chorogragher Johan Inger completed his dance training at the Royal Swedish Ballet School and at the National Ballet School in Canada. He danced with the Royal Swedish Ballet in Stockholm from 1985 to 1990, before leaving to join Nederlands Dans Theater 1 where he stayed until 2002. During this time he made various works for the company developing his choreographic talent.

He left NDT in 2003 to take on the artistic leadership of Cullberg Ballet in Stockholm, making various choreographies for the company, until leaving to devote himself entirely to his choreography in 2008. His works have been commissioned by numerous ballet companies around the world, as well as maintaining a longstanding creative relationship with Nederlands Dans Theater with whom he holds the position of Associate Choreographer.

Cwblhaodd y coreograffydd o Sweden Johan Inger ei hyfforddiant dawns yn Ysgol Fale Frenhinol Sweden a’r Ysgol Fale Genedlaethol yng Nghanada. Rhwng 1985 a 1990 bu’n dawnsio gyda Chwmni Bale Brenhinol Sweden yn Stockholm. Yn 1990 ymunodd â Nederlands Dans Theater I a bu yno tan 2002. Ers hynny mae Inger wedi llunio amrywiol weithiau ar gyfer Nederlands Dans Theater gan feithrin ei ddoniau coreograffig.

Ymadawodd â Nederlands Dans Theater er mwyn ysgwyddo arweinyddiaeth artistig Cullberg Ballet yn Stockholm yn 2003, a lluniodd amrywiol ddarnau o goreograffi ar gyfer y cwmni hwnnw. Yn 2008 daeth Inger â’i gyfarwyddiaeth artistig i ben er mwyn ymroi’n llwyr i goreograffi. Comisiynwyd gweithiau oddi wrtho gan amrywiol gwmnïau bale led-led y byd, ac mae’n llunio coreograffi’n gyson ar gyfer Nederlands Dans Theater lle mae’n Gydymaith Goreograffydd.

“ The famous Boléro from Ravel with its sexual, almost kitschy history was the trigger point to make my own version. I quickly decided that it was going to be about relationships in different forms and circumstances. I came up with the idea of a wall that could transform the space during this minimalistic music and create small pockets of space and situations. Walking Mad is a journey in which we encounter our fears, our longings and the lightness of being.”

Johan Inger

More from the Choreographer Mwy oddi wrth y Coreograffydd

© U

rban

Jör

én

ndcwales.co.uk @ndcwales #ndcwales15 9

Page 10: National Dance Company Wales Autumn 2015 Programme

Jeroen Verbruggen

In rehearsalsMewn ymarferion

National Dance Company Wales have commissioned Jeroen Verbruggen to create his first UK piece, A Mighty Wind. We caught up with Jeroen during rehearsals to find out more...

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi comisiynu Jeroen Verbruggen i greu ei ddarn cyntaf ar gyfer y DU, A Mighty Wind. Cawsom air gyda Jeroen yn ystod ymarferion er mwyn dod i wybod rhagor...

Page 11: National Dance Company Wales Autumn 2015 Programme

How would you describe A Mighty Wind? A Mighty Wind in my eyes can be many things. I think that first of all it’s something bigger than ourselves that we want to overcome; or try to beat; but a mighty wind can also be just, a mighty wind. Also, in terms of the music for the piece, A Mighty Wind can also relate to the loudness of the rock music. I see my piece as a poem, which plays with themes of wind and overcoming things, or trying to erase things such as little sections of memories.

A Mighty Wind has a very different style to the rest of the programme. What influenced this?We wanted to create something that would complement this programme. The energy of the dancers was just asking for something heavier, and we felt that they would lend themselves well to rock music. I wasn’t really sure if Wales has windy days, I know for sure it has rainy days, but when I arrived here and saw the location near the water I was feeling that this piece could really fit in with Wales and the UK. I also found out that Wales has this alternative ‘rocky’ culture, so it felt even clearer for me that we should go for a rocky mighty wind.

We are trying to give a modern rock feeling as a style of the piece. I want the public to enjoy it even if they don’t necessarily understand everything; to be touched by it. I want them to go with the music and have a good time as if they’re watching a concert.

Sut fuasech chi’n disgrifio A Mighty Wind? Yn fy llygaid i gall A Mighty Wind fod yn nifer o bethau. Yn gyntaf oll rwy’n meddwl ei fod yn rhywbeth mwy na ni’n hunain yr ydym yn dymuno ei oresgyn; ynteu ceisio ei guro; ond gall gwynt nerthol fod yn hynny hefyd, sef gwynt nerthol. Yn ogystal, yng nghyswllt y cerddoriaeth ar gyfer darn, A Mighty Wind gall gyfeirio at pa mor swnllyd yw cerddoriaeth roc. Rwy’n gweld y darn fel darn o farddoniaeth, sy’n chwarae gyda’r themâu sydd yn cael eu cysylltu â gwynt a goresgyn pethau, ynteu geisio dileu pethau megis darnau bach o atgofion.

Mae gan A Mighty Wind arddull gwahanol iawn i weddill y rhaglen. Beth ddylanwadodd ar hyn? Roeddem yn dymuno creu rhywbeth a fyddai’n cyd-fynd â’r rhaglen. Roedd egni’r dawnswyr yn galw am rhywbeth trymach, ac roeddem yn teimlo y byddent yn ymgodymu yn dda gyda cherddoriaeth roc. Doeddwn i ddim yn sicr rhag blaen os oedd Cymru’n cael diwrnodau gwyntog, er mod i’n gwybod ei fod yn sicr yn cael diwrnodau glawog, ond pan gyrhaeddais yma a gweld y lleoliad ar lan y dŵwr roeddwn i’n teimlo y byddai’n ffitio i’r dim â Chymru a’r DU. Deuthum i wybod hefyd bod gan Gymru ddiwylliant ‘roc’ amgen felly daeth yn amlycach fyth i mi y dylem fynd am wynt rociog nerthol.

Rydym yn ceisio rhoi ymdeimlad o roc modern fel yr arddull i’r darn. Rwyf eisiau i’r cyhoedd ei fwynhau, hyd yn oed os nad ydynt o reidrwydd yn deall pob peth; i gael eu cyffwrdd ganddo. Rwy’n dymuno iddynt gael eu cludo gan y gerddoriaeth a chael amser da, fel pe buasent yn gwylio cyngerdd.

11

Page 12: National Dance Company Wales Autumn 2015 Programme

Sut ydych chi’n gweithio yn yr ystafell ymarfer ac yn creu darn?Rwy’n gweithio gyda delweddau yn aml iawn. Rwy’n creu fframwaith o ddelweddau ar fy nghyfer fy hun y mae angen i mi ei baratoi rhag blaen ac at ddibenion ymchwil. Rwy’n darllen ynghylch pethau, megis pam a sut y byddai cerddoriaeth yn cysylltu gyda’r darn hwn. Mae’n wybodaeth fanwl, ond dim ond at fy nibenion i, ac nad oes angen i mi ei rannu gyda’r byd, ond mae’n bwysig ei fod yn gwneud synnwyr i mi, y coreograffydd. Yna gyda’r ffrâm yna wedi ei gosod mae’r hyn sy’n cael ei osod o’i fewn yn gwbl agored ac yn digwydd yn y foment. Rwy’n ceisio peidio â pharatoi gormod rhag blaen gan mai’r peth allweddol yw gweithio gyda’n gilydd. Er bod gennyf i syniad ynghylch yr hyn yr wyf yn dymuno ei gael o fewn y ffrâm, mae’n parhau’n agored a gall hyd yn oed neges y darn esblygu hefyd.

Rwy’n llawn edmygedd o’r dawnswyr, eu hewyllys a’u hegni. Mae’n beth bendigedig i goreograffydd weld dawnswyr yn mwynhau’r hyn y maent yn ei wneud ac yn cael amser da. Maent yn rhoi llawer o ysbrydoliaeth i mi ac yn sicrhau nad ydym yn mynd yn sownd. Mae’n beth bendigedig cael cyfnewid cyfartal rhwng artistiaid. Yn y gorffennol, fel coreograffydd ifanc, rwyf wedi arfer gweithio gyda chwmnïau mwy clasurol ac roeddwn yn llawn cyffro wrth geisio gweld sut y medrwn weithio gyda chwmni dawns cyfoes gan eu bod yn llawn symudiadau. Yn wir mae’r cwmni hwn yn gallu symud go iawn!

How do you work in the rehearsal room and create a piece? I work a lot with images. I create a frame of images for me which I need to prepare before and to research. I read about things, like how and why music would be connected to this piece. It’s all detailed information for me only that I do not need to share with the world, but it’s important that it make sense for me, the choreographer. Then with those set frames whatever goes in there is completely open and happens in the moment. I tried not to come here too prepared as it’s about working together. Although I do have an idea of what I want within that frame, it’s still open and even the message of the piece might evolve too.

I’m really impressed with the dancers, their will and their energy. It’s a beautiful thing for a choreographer to see dancers enjoying what you are doing and having a great time. They also give me a lot of inspiration and we don’t get stuck. It’s a really nice equal exchange between artists. Previously I am used to working with more classical companies as a young choreographer and I was really excited to see how I could work with a more contemporary dance company as they are real movers. Yes, this company can really move!

As a dancer I was an energy ball and this is definitely present in my work

Page 13: National Dance Company Wales Autumn 2015 Programme

Do you feel that you have started to create a style for your choreography yet? As a dancer I was an energy ball and this is definitely present in my work. I’m still working out my own style as a young choreographer but I tend to take the basics from classical ballet for example and then go against those set rules. I try to make a completely different set of rules for each piece. I try not to repeat myself too much and I love to challenge myself. That’s why for example, I have never touched rock music before. It’s a challenge for me not to get too get carried away in that rock energy. So each piece always has a different aesthetic but others, and now even me, can sometimes see a distinct style emerging.

Ydych chi’n teimlo eich bod chi wedi dechrau creu arddull ar gyfer eich coreograffi eto? Fel dawnsiwr roeddwn i’n llawn egni ac mae hyn yn sicr yn bresennol yn fy ngwaith. Rwy’n dal i weithio ar fy arddull fy hun fel coreograffydd ifanc ac yn tueddu defnyddio’r hanfodion ym male clasurol ac yna dorri’r rheolau pendant rheini. Rwy’n ceisio creu set o reolau cyflawn gwahanol ar gyfer pob darn. Rwy’n ceisio peidio ag ail-adrodd fy hun yn ormodol ac wrth fy modd yn herio fy hun. Dyna pam er enghraifft nad wyf erioed wedi cyffwrdd â cherddoriaeth roc. Mae’n her i mi beidio â chael fy llesmeirio gan egni’r roc hwnnw. Felly mae gan bob darn estheteg gwahanol ond mae eraill, a mi hyd yn oed bellach, weithiau’n gweld arddull benodol yn dechrau ei amlygu ei hun.

13

Page 14: National Dance Company Wales Autumn 2015 Programme

Caroline FinnI am thrilled to be joining National Dance Company Wales at such an exciting time. I feel so fortunate to be working with a company of dancers who are not only exceptionally versatile but also hungry and curious to perform work which is both physically challenging and emotionally fulfilling.

Myself and the entire team here at NDCWales are excited and eager to take the company to new artistic heights and to bring exceptional dance to a wider audience in Wales, the rest of the UK and abroad.

Rwyf wrth fy modd o fod yn ymuno â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ar adeg mor gyffrous. Rwy’n teimlo’n ffodus iawn o fod yn gweithio gyda chwmni o ddawnswyr sydd nid yn unig yn hynod amryddawn ond hefyd yn llawn cywreinrwydd ac awch ar gyfer perfformio gweithiau sydd nid yn unig yn gorfforol heriol ond yn emosiynol foddhaol hefyd.

Rwyf i a’r tîm cyfan yma yn CDCCymru yn awr yn llawn cyffro ac yn awyddus i symud y cwmni i entrychion celfyddydol newydd ac i gyflwyno dawns nodedig i gynulleidfa ehangach yng Nghymru, gweddill y DU a thramor.

Meet the Artistic Director Dewch i gyfarfod â’r Cyfarwyddwr Artistig

Page 15: National Dance Company Wales Autumn 2015 Programme

We are already planning a variety of works and collaborations which can be performed in both mid and large scale venues as well as less conventional performance spaces in order to ensure that as many people as possible have access to the work that we do.

As a choreographer I am hugely looking forward to creating the first of many new works on the company for the Spring Tour 2016. I am already sure that these dancers will fully embody the highly physical, theatrical and often darkly comical aspects of my work. I’m excited to challenge and be challenged by these artists in the studio, so that we can maximise the potential and accessibility of the work that we bring to our audiences.

Diversifying and remodeling our engagement work means that we can look forward to working more closely with a much broader spectrum of participants in terms of age, ability and backgrounds. As well as our ever-growing opportunities for young dancers already in training, such as our Associates programme, we have new plans afoot for taking dance into more schools across Wales and the UK. We want to find more relevant ways to connect to the students and their curriculum through dance and to reach out to wider communities, especially those which may not normally have access to dance.

Lastly, we are very excited to be launching the first of our Residency opportunities in November. This will give independent Wales based artists a week of rehearsal/research time in one of our beautiful and well-equipped studios at the Dance House as well as mentorship and/or technical or administration advice.

We hope you are as excited about these new possibilities and developments as we are, and we look forward to seeing you on tour, at one of participation sessions or to welcome you to our home, The Dance House.

Rydym eisoes yn cynllunio amrywiaeth o weithiau a chyd-weithiau y gellir eu perfformio mewn lleoliadau canolig a mawr eu maint yn ogystal â pherfformiadau mewn llefydd llai confensiynol er mwyn sicrhau bod cynifer o bobl â phosib yn medru gweld y gwaith a wnawn. Fel coreograffydd rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn hefyd at greu’r cyntaf o nifer o weithiau newydd o fewn y cwmni ar gyfer Taith Wanwyn 2016. Gwn eisoes y bydd y dawnswyr hyn yn llwyr ymgorffori’r elfennau tra corfforol, theatrig ac yn aml yr elfennau tywyll-ddoniol yn fy ngwaith. Rhan o’r cyffro i mi yw cael herio a chael fy herio gan yr artistiaid hyn yn y stiwdio, fel bod modd i ni fanteisio i’r eithaf ar botensial a hygyrchedd y gwaith y byddwn yn dod gerbron ein cynulleidfaoedd.

Bydd cyflwyno amrywiaeth ac ail-fodelu ein gwaith estyn allan yn golygu y bydd modd i ni edrych ymlaen hefyd at weithio’n agosach gyda sbectrwm tipyn ehangach o gyfranogwyr o ran oedran, gallu a chefndiroedd. Yn ogystal â’n cyfleoedd ar gyfer dawnswyr ifanc sydd eisoes dan hyfforddiant, ac sy’n ehangu’n gyson, megis ein rhaglen Gymdeithion, mae gennym gynlluniau newydd ar y gweill i fynd â dawns i ragor o ysgolion led-led Cymru a’r DU. Rydym eisiau dod o hyd i ffyrdd mwy perthnasol o gysylltu gyda’r myfyrwyr a’u cwricwlwm trwy ddawns ac estyn allan at gymunedau ehangach, yn arbennig felly’r rhai hynny nad oes ganddynt gyswllt â dawns fel arfer.

Yn olaf, rydym yn llawn cyffro o fod yn lansio’r cyntaf o’n cyfleoedd Preswyl ym mis Tachwedd. Bydd hyn yn rhoi cyfle i artistiaid annibynnol sydd wedi eu lleoli yng Nghymru gael wythnos o amser ymarfer/ymchwil mewn stiwdio brydferth sydd â darpariaeth ragorol o ran offer o fewn y Ty Dawns yn ogystal â derbyn cyngor mentor ac/ynteu gyngor technegol ynteu weinyddol.

Gobeithiwn eich bod chi’n rhannu ein cyffro parthed y posibiliadau a’r datblygiadau newydd hyn, ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn ystod ein taith, yn un o’n sesiynau estyn allan ynteu at eich croesawu i’n cartref, y Ty Dawns.

I’m excited to challenge and be challenged by these artists in the studio...

ndcwales.co.uk @ndcwales #ndcwales15 15

Page 16: National Dance Company Wales Autumn 2015 Programme

Joseba

The Company Y Cwmni

Camille Lee

Angela

Ed

Elena

MathieuJosef

Josie

Matteo

David

Page 17: National Dance Company Wales Autumn 2015 Programme

Lee Johnson Rehearsal Director / Cyfarwyddwr Ymarfer

Lee oversees the quality of performances and the development, wellbeing and management of the dancers as well as working closely with the participation team to ensure the company has a strong and enriching engagement programme. As a performer, choreographer and rehearsal director Lee has worked with companies including Sydney Dance Company, National Dance Company Wales and LINK Dance Company. Highlights as a performer include working with Ohad Naharin, Christopher Bruce, Stephen Petronio and Nigel Charnock, and touring extensively throughout Wales, Europe, and Australia. Lee was most recently Rehearsal Director for Sydney Dance Company, under the artistic direction of Rafael Bonachela. Prior to this, Lee worked with NDCWales as House Choreographer and Rehearsal Director, creating repertoire They Seek to Find the Happiness They Seem and Purlieus which was a World Stage Design 2013 finalist and voted a Telegraph Top 15 highlight.Lee sy’n goruchwylio safon perfformiadau a datblygiad, lles a rheolaeth y dawnswyr ac yn ogystal mae’n gweithio gyda’r tîm estyn allan er mwyn sicrhau bod gan y cwmni raglen estyn allan gref a gwerthfawr.Fel perfformiwr, coreograffydd a chyfarwyddwr ymarferion, mae Lee wedi gweithio gyda chwmnïau megis Cwmni Dawns Sydney, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Chwmni Dawns LINK. Ymhlith ei huchafbwyntiau fel perfformiwr mae’n cyfrif gweithio gydag Ohad Naharin, Christopher Bruce, Stephen Petronio a Nigel Charnock, ac mae wedi teithio’n helaeth led-led Cymru, Ewrop ac Awstralia. Yn fwyaf diweddar gweithiodd Lee fel Cyfarwyddwr Ymarferion ar gyfer Cwmni Dawns Sydney, dan gyfarwyddyd artistig Rafael Bonachela. Cyn hynny gweithiodd Lee fel Coreograffydd Trigiannol a Chyfarwyddwr Ymarferion CDCCymru, gan lunio repertoire They Seek to Find the Happiness They Seem a Purlieus a gyrhaeddodd rownd derfynol Cynllun Llwyfan y Byd 2013 a’i bleidleisio ym 15 Uchaf uchafbwyntiau’r Telegraph.

Camille Giraudeau Originally from Oxford, Camille joined NDCWales in August 2011 as an apprentice as part of the MA programme at London Contemporary Dance School. Camille attended Arts Educational School before studying at Trinity Laban Conservatoire of Music and Dance, where she graduated in 2011 with a first class degree in dance. Camille started dancing professionally for the company in 2012 and is currently on the KND Performance Mentoring Programme. Yn wreiddiol o Rydychen, ymunodd Camille â CDCCymru ym mis Awst 2011 fel prentis ac fel rhan o raglen MA Ysgol Ddawns Gyfoes Llundain. Mynychodd Camille yr Ysgol Addysgu Gelfyddydol cyn astudio yng Nghonservatoire Cerdd

a Dawns Trinity Laban gan raddio oddi yno gyda gradd dosbarth cyntaf mewn dawns yn 2011. Dechreuodd Camille ddawnsio’n broffesiynol ar gyfer y cwmni yn 2012 ac ar hyn o bryd mae’n rhan o Raglen Fentora Perfformio KND.

Josef Perou Born in Sussex, Josef trained at Laban and Central School of Ballet graduating in 2008. During his final year he performed in Pinocchio and Faeries by Will Tuckett for ROH2 as well as touring with Ballet Central. He toured with Bare Bones in 2009 and later that year joined Phoenix Dance Theatre. He was a member of Henri Oguike Dance Company from spring 2010 to spring 2011, as well as reviving Faeries. Josef returned to Phoenix as a Guest Artist in the summer and joined NDCWales in August 2011. Josef is on the KND Performance Mentoring Programme.Yn enedigol o Sussex, hyfforddwyd Josef yn Laban a’r Ysgol Fale Ganolog gan raddio yn 2008. Yn ystod ei flwyddyn derfynol, perfformiodd yn Pinocchio a Faeries gan Will Tuckett ar gyfer ROH2 yn ogystal â theithio gyda Ballet Central. Bu ar daith gyda Bare Bones yn 2009 ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno, ymunodd â Theatr Ddawns Phoenix. Roedd yn aelod o Gwmni Dawns Henri Oguike rhwng gwanwyn 2010 a gwanwyn 2011, yn ogystal ag ail-greu Faeries. Dychwelodd Josef at Phoenix fel Artist Gwadd yn yr haf, ac ymunodd â CDCCymru ym mis Awst 2011. Mae Josef yn rhan o Raglen Fentora Perfformio KND.

Matteo Marfoglia

Originally from Pesaro, Italy, Matteo trained at the Accademia Nazionale Di Danza in Rome and graduated from Rotterdam Dance Academy. From 2007 to 2011 Matteo worked in Introdans having performed pieces by Jiri Kylian, Lightfoot & Leon amongst others. In 2010 Matteo won second prize at the Certamen Internacional De Coreografia Burgos, New York, for his choreography Just A Breath. In 2012 he danced in the multi-disciplinary project Nierka in London, directed by Tupac Martir and choreographed by Fernando Hernando Magadan. Matteo joined NDCWales in May 2012. Yn wreiddiol o Pesaro, yn yr Eidal, hyfforddwyd Matteo yn yr Accademia Nazionale Di Danza yn Rhufain a graddio o Academi Ddawns Rotterdam. Rhwng 2007 a 2011 gweithiodd Matteo yn Introdans gan berfformio darnau gan Jiri Kylian, a Lightfoot & Leon ymhlith eraill. Yn 2010 dyfarnwyd yr ail wobr i Matteo yn y Certamen Internacional De Coreografia Burgos, Efrog Newydd, am ei goreograffi Just A Breath. Yn 2012 dawnsiodd yn y prosiect aml-ddisgyblaethol Nierka yn Llundain, dan gyfarwyddyd Tupac Martir a’r coreograffi gan Fernando Hernando Magadan. Ymunodd Matteo â CDCCymru ym mis Mai 2012.

ndcwales.co.uk @ndcwales #ndcwales15 17

Page 18: National Dance Company Wales Autumn 2015 Programme

Mathieu Geffré Mathieu studied modern dance from 2001 to 2006 at the Conservatoire National Supérieur de Musique et de Danse de Paris. After graduating he danced for several choreographers in France. In January 2009 he joined Dansgroep Amsterdam under the artistic direction of Itzik Galili and Krizstina De Chatel. In July 2011, Mathieu started dancing for Noord Nederlandse Dans and in August 2012 he joined National Dance Company Wales. Alongside the works created as part of Alternative Routes programs, Mathieu was commissioned to create a piece for Monmouthshire Youth Dance Company in 2014 and a site specific work with the company as part of Artes Mundi 6 exhibition at National Museum Cardiff. Astudiodd Mathieu ddawns fodern rhwng 2001 a 2006 yn y Conservatoire National Supérieur de Musique et de Danse de Paris. Ar ôl graddio bu’n dawnsio ar gyfer sawl coreograffydd yn Ffrainc. Ym mis Ionawr 2009 ymunodd â Dansgroep Amsterdam dan gyfarwyddyd artistig Itzik Galili a Krizstina De Chatel. Ym mis Gorffennaf 2011, dechreuodd Mathieu ddawnsio ar gyfer Noord Nederlandse Dans ac ym mis Awst 2012 ymunodd â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Ochr yn ochr â’r gweithiau a greodd fel rhan o raglenni Alternative Routes, comisiynwyd Mathieu i greu darn ar gyfer Cwmni Dawns Ieuenctid Sir Fynwy yn 2014 ac yn fwyaf diweddar gwaith penodol i leoliad ar gyfer ei gyd-ddawnswyr o’r Cwmni fel rhan o berfformiadau awr ginio Artes Mundi 6 yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd.

Joseba Yerro Izaguirre Originally from Pamplona, Spain, Joseba trained at the Institut del Teatre in Barcelona, graduating in 2011, that same year he was awarded the first Prize at the National Dance Competition in Castellón. Joseba danced with IT Dansa Jove Companyia from 2011 – 2013 under the artistic direction of Catherine Allard. As a freelancer, he has also performed works by Israel Aloni & Lee Brummer and Ronald Wintjens & Stefan Ernst. Joseba joined National Dance Company Wales in July 2014. Yn wreiddiol o Pamplona, Spaen, hyfforddwyd Joseba yn yr Institut del Teatre in Barcelona, gan raddio yn 2011, yr un flwyddyn ag y dyfarnwyd iddo’r wobr gyntaf yn y Gystadleuaeth Ddawns Genedlaethol yn Castellón. Dawnsiodd Joseba gyda IT Dansa Jove Companyia rhwng 2011 a 2013 o dan gyfarwyddyd artistig Catherine Allard. Fel perfformiwr llawrydd, mae wedi perfformio gweithiau hefyd gan Israel Aloni a Lee Brummer a Ronald Wintjens a Stefan Ernst. Ymunodd Joseba â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yng Ngorffennaf 2014.

Àngela Boix Duran

Originally from Barcelona, Spain, Àngela trained at Ballet Conservatoire for 5 years and later joined IT Dansa Companyia in July 2010 where she was directed by Catherine Allard. In July 2012 she worked at Noord Nederlandse Dans, performing many pieces by Stephen Shropshire. In 2010 Àngela won first prize for her contemporary dance piece in the Castellón National Dance contest. Àngela joined NDCWales in summer 2013. Yn wreiddiol o Farselona, Sbaen, hyffoddwyd Àngela yn y Ballet Conservatoire am 5 mlynedd ac yn ddiweddarach ymunodd â’r IT Dansa Companyia ym mis Gorffennaf 2010 lle bu iddi gael ei chyfarwyddo gan Catherine Allard. Yn Ngorffennaf 2012 gweithiodd yn Noord Nederlandse Dans, gan berfformio nifer o ddarnau gan Stephen Shropshire. Yn 2010 enillodd Àngela y wobr gyntaf am ei darn o ddawns gyfoes yng nghystadleuaeth Ddawns Castellón National. Ymunodd Àngela â CDCCymru yn ystod hydref 2013.

Elena Thomas Originally from Nancy, North East France, Elena trained at Ecole Nationale Superieure de Danse de Marseille and the Conservatoire National Superieur de Musique et de Danse de Lyon. Straight from training she started performing with Jeune Ballet Conservatoire National Superieur de Lyon. In 2007 Elena spent 5 months with Europa Danse before joining Ballet National du Rhin where she performed works by Mathieu Guillaumon, Jo Strømgren, Alexander Ekman amongst others. In 2009 she moved to Spain to work with La Mov’ in Zaragoza where she was introduced to Company Chameleon when they choreographed on the company. Elena joined Company Chameleon in 2012 before moving to National Dance Company Wales in December 2013. Yn wreiddiol o Nancy, gogledd ddwyrain Ffrainc, hyfforddwyd Elena yn yr Ecole Nationale Superieure de Danse de Marseille a’r Conservatoire National Superieur de Musique et de Danse de Lyon. Yn syth wedi cwblhau ei hyfforddiant dechreuodd berfformio gyda’r Jeune Ballet Conservatoire National Superieur de Lyon. Yn 2007 treuliodd Elena 5 mis gyda Europa Danse cyn ymuno â Ballet National du Rhin lle perfformiodd weithiau gan Mathieu Guillaumon, Jo Strømgren ac Alexander Ekman ymhlith eraill. Yn 2009 symudodd i Spaen er mwyn gweithio gyda La Mov’ yn Zaragoza ac yno cafodd ei chyflwyno i Company Chameleon pan y bu iddynt lunio coreograffi gyda’r Cwmni. Ymunodd Elena gyda Company Chameleon yn 2012 cyn symud i ymuno â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ym mis Rhagfyr 2013.

Page 19: National Dance Company Wales Autumn 2015 Programme

Ed Myhill Apprentice Dancer / Prentis Ddawnsiwr

Ed joins NDCWales for a year long apprentice from this Autumn. From London, Ed grew up in Leeds and went to Hammond Secondary School in Chester, followed by three years at Rambert School of Ballet and Contemporary Dance. Bydd Ed yn ymuno â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn yr Hydref am flwyddyn o brentisiaeth. Yn wreiddiol o Lundain, magwyd Ed yn Leeds ac aeth i Ysgol Uwchradd Hammond yng Nghaer, cyn treulio tair blynedd yn y Rambert School of Ballet and Contemporary Dance.

Josie Sinnadurai Apprentice Dancer / Prentis Ddawnsiwr

Josie grew up in Brecon and was a student of Mid-Wales Dance Academy for 6 years as well as being a National Dance Company Wales Associate. She trained at London Contemporary Dance School (LCDS), graduating with a first class BAHons degree in 2015.Magwyd Josie yn Aberhonddu a bu’n ddisgybl yn Academi Dawns Canolbarth Cymru am 6 blynedd yn ogystal â bod yn Aelod o Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru am dair blynedd. Cafodd ei hyfforddi yn y London Contemporary Dance School (LDCS) gan raddio â gradd BA anrhydedd dosbarth cyntaf yn 2015.

The Company / Y CwmniArtistic Director / Cyfarwyddwr Artistig: Caroline Finn

Chief Executive / Prif Weithredwr: Paul Kaynes

Rehearsal Director / Cyfarwyddwr Ymarfer: Lee Johnston

Technical Director / Cyfarwyddwr Technegol: Nia Thomson

Programme Manager / Rheolwr Rhaglennu: Kelly Twydale

Marketing and Engagement Manager / Rheolwr Marchnata ac Estyn Allan: Suzanne Carter

Finance & Operations Co-ordinator / Cydlynydd Cyllid a Gweithrediadau: Jane Thomas

Technical Stage Manager / Rheolwr Llwyfan Technegol: Adam Cobley

Chief Technician / Prif Dechnegydd: Leighton Thomas-Burnett

Programme Co-ordinator / Cyd-lynydd y Rhaglen: Julia Gay

Marketing and Engagement Assistant / Cynorthwydd Swyddfa a Chyfranogi: Megan Pritchard

Additional thanks to Barbara Leith and Welsh National Opera. Diolch pellach i Barbara Leith a Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru.

David Pallant Originally from Farnham, Surrey, David trained at Central School of Ballet, London before specialising in contemporary dance at the Conservatoire National Supérieur de Musique et de Danse de Paris. In 2011 he joined Oper Graz, Austria, working with choreographers including Natalia Horecna, Itamar Serussi, James Wilton and Dong Jie. In 2013 he moved to Heidelberg, Germany and performed for two years with the Nanine Linning Dance Company. Yn wreiddiol o Farnham, Surrey, cafodd David ei hyfforddi yn y Central School of Ballet, Llundain cyn arbenigo mewn dawns gyfoes yn y Conservatoire National Supérieur de Musique et de Danse de Paris. Yn 2011 ymunodd â Oper Graz, Awstria, gan weithio gyda choreograffwyr yn cynnwys Natalia Horecna, Itamar Serussi, James Wilton a Dong Jie. Yn 2013 symudodd i Heidelberg, yr Almaen a pherfformiodd am ddwy flynedd gyda’r Nanine Linning Dance Company, gan greu a pherfformio ei waith ei hun hefyd yn ystod y cyfnod hwn.

ndcwales.co.uk @ndcwales #ndcwales15 19

Page 20: National Dance Company Wales Autumn 2015 Programme

Thank you for comingDiolch am ddod

@NDCWales #NDCWales15

ndcwales.co.uk 029 2063 5600

National Dance Company Wales gratefully acknowledges support from: Arts Council of Wales, Welsh Government, A Space in the City, Flight Link Wales Airport Shuttle Service, The Foyle Foundation, Wales Millennium Centre, and London Contemporary Dance School.

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cydnabod yn ddiolchgar gefnogaeth: Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru, A Space in the City, Gwasanaeth Cludo Awyrenfa FlightLink Wales, Sefydliad Foyle, Canolfan Mileniwm Cymru ac Ysgol Ddawns Gyfoes Llundain.

Photography / Ffotograffiaeth: Rhys Cozens & Fariyodd

Design / Dylunio gan: Limegreentangerineŵ 11650