nghymru - ageing well in wales...cynnydd: cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ac adnoddau newydd yn y...

26
1 Heneiddio’n Dda yng Nghymru Adroddiad ar Gynnydd Cam Dau'r Cynllun Gweithredu Mehefin 2017 Sicrhau bod Cymru’n wlad dda i fynd yn hŷn ynddi i bawb

Upload: others

Post on 26-Feb-2021

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Nghymru - Ageing Well in Wales...Cynnydd: Cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ac adnoddau newydd yn y Gwanwyn 2017 gan roi peth cyngor a chymorth i unigolion a chymunedau ar sut i ddatblygu

1

Heneiddio’n Dda yng

Nghymru

Adroddiad ar Gynnydd Cam Dau'r

Cynllun Gweithredu

Mehefin 2017

Sicrhau bod Cymru’n wlad dda i fynd yn

hŷn ynddi i bawb

Page 2: Nghymru - Ageing Well in Wales...Cynnydd: Cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ac adnoddau newydd yn y Gwanwyn 2017 gan roi peth cyngor a chymorth i unigolion a chymunedau ar sut i ddatblygu

2

Heneiddio’n Dda yng Nghymru

Adeiladau’r Cambrian // Sgwâr Mount Stuart // Caerdydd // CF10 5FL

029 2044 5030

http://www.ageingwellinwales.com/wl/home

E-bost: mailto:[email protected]

Twitter: @HeneiddioynDda

Page 3: Nghymru - Ageing Well in Wales...Cynnydd: Cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ac adnoddau newydd yn y Gwanwyn 2017 gan roi peth cyngor a chymorth i unigolion a chymunedau ar sut i ddatblygu

3

Rhagair

Ers ei lansio’n swyddogol ym mis Hydref 2014, mae

rhaglen pum mlynedd Heneiddio'n Dda yng

Nghymru wedi mynd o nerth i nerth. Dechreuodd

Gam Dau Heneiddio'n Dda ym mis Hydref 2016 ac

mae'r adroddiad hwn ar gynnydd y Cynllun

Gweithredu yn nodi sut yr ydyn ni'n gweithio gyda’n partneriaid strategol

i symud ymlaen â'r gweithredu hwn.

Rwyf yn falch gyda’r cynnydd a wnaed ar bob lefel o Heneiddio’n Dda.

Ar y lefel Ewropeaidd, mae’r statws Safle Cyfeiriol 4* yn sefydlu Cymru

fel un o’r gwledydd enghreifftiol yn Ewrop, drwy’r Bartneriaeth Arloesi

Ewropeaidd, ar Heneiddio’n Iach a Chadw’n Heini (EIP-AHA). Ar y lefel

strategol, mae partneriaeth sy’n tyfu o hyd (gyda dros 60 ar hyn o bryd)

yn cynnwys partneriaid ar draws y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol, ac

yn gynyddol, o'r sector preifat, yn gweithio ar weithredu ar draws y pum

thema flaenoriaeth.

Ar y lefel Awdurdod Lleol, mae cydweithwyr yn gweithio ar eu cynlluniau

Heneiddio’n Dda lleol ac yn gwneud cynnydd da mewn cydweithrediad â

phartneriaethau / asiantaethau eraill a phobl hŷn eu hunain. Ar y lefel

rhwydweithiau cymunedol, mae dros 1,300 o unigolion, gwirfoddolwyr a

500+ o grwpiau a sefydliadau bellach yn rhan o’r rhaglen Heneiddio'n

Dda ac yn gweithio ar eu hatebion cymunedol eu hunain i helpu i rymuso

a galluogi pobl hŷn i fyw bywydau iach a heini yn eu cymunedau.

Mae Heneiddio’n Dda hefyd yn cyd-fynd ag effaith deddfwriaeth bwysig

fel Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf

Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Fel llwyfan allweddol i

ddod â phartneriaid at ei gilydd i weithio tuag at ganlyniadau ataliol a

chynaliadwy i bobl o bob oed, rwyf hefyd wedi ymgysylltu â’r Byrddau

Gwasanaethau Lleol (PSB) ac wedi fy nghalonogi bod themâu

Heneiddio'n Dda allweddol wedi eu cynnwys yn eu hasesiadau drafft o

lesiant lleol, bod angen gwneud penderfyniadau gyda, ac nid dros, pobl

leol, a phwysigrwydd ystyried anghenion ac amgylchiadau pobl hŷn ar

wahân i rai iechyd a gofal cymdeithasol.

Page 4: Nghymru - Ageing Well in Wales...Cynnydd: Cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ac adnoddau newydd yn y Gwanwyn 2017 gan roi peth cyngor a chymorth i unigolion a chymunedau ar sut i ddatblygu

4

Yn ogystal, bydd Strategaeth ddiwygiedig Llywodraeth Cymru ar gyfer

Pobl Hŷn 2013-23 yn rhoi impetws ychwanegol i waith Heneiddio’n Dda

gan helpu i osod cyfeiriad strategol a sefydlu cymunedau cyfeillgar i oed

ar draws Cymru. Mae blaenoriaethau Heneiddio’n Dda’n parhau i gael

sylw helaeth yn y wasg leol a chenedlaethol gydag ymgysylltu helaeth

yn parhau â gwleidyddion ar bob lefel.

Mae Heneiddio’n Dda yng Nghymru’n parhau i fod yn fudiad

cenedlaethol ac rwyf wrth fy modd bod unigolion, grwpiau cymunedol,

mentrau cymdeithasol ac ystod eang ac amrywiol o bartneriaid o bob

sector ar draws Cymru yn ei gymeradwyo. Dangosodd y digwyddiadau

‘Dathlu Cymunedau’ ar ddiwedd 2016 y teimlad cadarnhaol, y

brwdfrydedd a’r ysfa sydd gan gydweithwyr i wneud mwy a symud

ymlaen drwy’r dull partneriaeth gyda phobl hŷn. Mae gan bawb rywbeth

i’w gynnig, a thrwy weithio gyda’n gilydd, tynnu sylw at arferion da a

chanfod atebion arloesol, effeithiol a chost isel, gall pawb wneud

cyfraniad sylweddol i iechyd a lles pobl 50+ oed yng Nghymru.

Wrth edrych i’r dyfodol, edrychaf ymlaen at wneud cynnydd pellach gyda

Cham Dau ac adeiladu ar lwyddiant y dull cydweithredol i sicrhau bod

Cymru’n lle da i bobl fynd yn hŷn ynddo i bawb.

Sarah Rochira Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru // Cadeirydd, Heneiddio’n Dda yng Nghymru

Page 5: Nghymru - Ageing Well in Wales...Cynnydd: Cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ac adnoddau newydd yn y Gwanwyn 2017 gan roi peth cyngor a chymorth i unigolion a chymunedau ar sut i ddatblygu

5

Llwyddiannau Cam Dau

Llwyddodd Heneiddio’n Dda i gyflawni’r canlynol yn ystod Cam Dau

(mae’r adran ar adroddiad cynnydd y Cynllun Gweithredu’n rhoi mwy o

fanylion am weithredu’r partneriaid strategol):

Ymgysylltu helaeth drwy ddigwyddiadau rhwydwaith ag unigolion,

grwpiau cymunedol a’r sector gwirfoddol a chyhoeddus ar draws

Cymru – i godi ymwybyddiaeth a chreu partneriaethau i weithio

tuag at amcanion Heneiddio’n Dda.

Cynhaliwyd dau ddigwyddiad ‘Dathlu Cymunedau’ llwyddiannus a

phroffil uchel ym Mangor (Tachwedd 2016) a Chaerdydd (Rhagfyr

2016). Denodd y digwyddiadau fwy na 250 o gyfranogwyr a

chymrodd ystod o bartneriaid Heneiddio’n Dda ran drwy

gyflwyniadau, cyfleoedd rhwydweithio a stondinau arddangos.

Mewnbwn i’r Tasglu Atal Codwm cenedlaethol newydd gan Iechyd

Cyhoeddus Darbodus - sy’n adeiladu ar waith Grŵp Cynghori

Arbenigol ar Atal Codwm y rhaglen Heneiddio’n Dda.

Mewnbwn i’r ymgyrch lwyddiannus ar ddechrau Chwefror i godi

ymwybyddiaeth o gwympo, a hyrwyddo’r ymgyrch ‘Sadiwch...i

gadw’n SAFF’ gyda Fferylliaeth Cymunedol Cymru a’u partneriaid.

Mewnbwn i’r Rhwydwaith Diwylliant Cyfeillgar i Oed, gan arwain at

amgueddfeydd ac orielau cyfeillgar i oed a dementia yng Nghymru.

Mewnbwn i strategaethau, adroddiadau a chynlluniau gweithredu

pwysig ar lefel genedlaethol, e.e. Grŵp Arbenigol Llywodraeth

Cymru ar Dai i Bobl Hŷn yng Nghymru a rhaglen Llywodraeth

Cymru ar Sicrhau Cynhwysiant Digidol: Fframwaith Strategol i

Gymru1 2, a chynnwys themâu Heneiddio’n Dda yn rhai o’r

asesiadau drafft o lesiant lleol a baratowyd gan y Byrddau

Gwasanaethau Cyhoeddus3 4 5.

1 http://gov.wales/docs/desh/publications/170213-expert-group-final-report-cy.pdf

2 http://gov.wales/docs/dsjlg/publications/comm/160316-digital-inclusion-strategic-framework-cy.pdf

3 https://www.ceredigion.gov.uk/SiteCollectionDocuments/CeredigionForAll/HSCWB/asesiad-llesiant-lleol-

ceredigion.pdf 4 http://www.abertawe.gov.uk/asesiadbgc

5http://www.cwmtafhub.org/KMS/dmart.aspx?strTab=PublicDMartComplete&PageContext=PublicDMart&Pag

eType=item&DMartId=105285&breadcrumb_pc=PublicDMartComplete&breadcrumb_pg=search&breadcrumb_pn=dmart.aspx&filter_Status=2

Page 6: Nghymru - Ageing Well in Wales...Cynnydd: Cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ac adnoddau newydd yn y Gwanwyn 2017 gan roi peth cyngor a chymorth i unigolion a chymunedau ar sut i ddatblygu

6

Parhau i ehangu’r rhwydwaith Heneiddio’n Dda o dros 1,300 o

unigolion sy’n cynrychioli dros 500 o sefydliadau.

Parhau i gefnogi rhwydwaith Heneiddio’n Dda Gogledd Cymru gan

ddod â phartneriaid allweddol ar draws y rhanbarth at ei gilydd i

weithio ar flaenoriaethau cyffredin ac i nodi arferion da.

Parhau i gefnogi cynlluniau Heneiddio’n Dda y 21 Awdurdod Lleol

6, gan roi cyngor a chymorth i gydgysylltwyr y Strategaeth Pobl

Hŷn a chydweithwyr mewn llywodraeth leol.

Gwaith pellach ar y wefan Heneiddio’n Dda, datblygu compendiwm

ar-lein o adnoddau defnyddiol ac arferion da7.

Cwblhau pum arweinlyfr i godi ymwybyddiaeth a darparu cymorth,

cefnogaeth a gwybodaeth ddefnyddiol: Cymunedau Cefnogi Pobl â

Dementia 8; Cymunedau Cyfeillgar i Oed9; Ymdopi ag Unigrwydd10;

Busnesau Cyfeillgar i Oed11; a sefydlu Clybiau Dysgu

Cymunedol12. Cynhyrchwyd cardiau post Busnes Cyfeillgar i Oed

hefyd fel bod pobl hŷn yn gallu ymgysylltu’n uniongyrchol â

busnesau lleol.

6 Mae Cynghorau Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful wedi cynhyrchu Cynllun Heneiddio’n

Dda Ar y Cyd 7 http://www.ageingwellinwales.com/wl/resource-hub

8 http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Pocket-Guide-to-Being-Dementia-Supportive-

cym.pdf 9 http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Creating-Age-Friendly-Communities-cym.pdf

10 http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Loneliness-pocket-guide-cym.pdf

11 http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Age-Friendly-Business-Guide-cym.pdf

12 http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Learning-Club-Guide-cym.pdf

Page 7: Nghymru - Ageing Well in Wales...Cynnydd: Cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ac adnoddau newydd yn y Gwanwyn 2017 gan roi peth cyngor a chymorth i unigolion a chymunedau ar sut i ddatblygu

7

Adroddiad ar Gynnydd Cam Dau'r

Cynllun Gweithredu

Cymunedau Cyfeillgar i Oed

Partner(iaid)

Arweiniol

Gweithredu

Creu Cymuned Gyfeillgar i Oed

Awdurdodau Lleol,

WLGA

Gweithio gydag Awdurdodau Lleol i ddatblygu’r cynigion ar

gyfer creu cymunedau cyfeillgar i oed yn y cynlluniau

Heneiddio’n Dda lleol, ôl-ddilyn eu hymrwymiadau yn

Natganiad Dulyn.

Cynnydd: Mae datblygiadau wedi bod mewn cymunedau ledled Cymru. Er

enghraifft:

- Gwaith pellach i sefydlu Abergwaun a Wdig (Sir Benfro) fel cymunedau

cyfeillgar i oed yn dilyn peilot WHO 13. Mae’r gwaith hwn wedi datblygu’n dilyn

bid y prosiect 'POINT Across Communities’ sy’n annog gwaith pontio rhwng

cenedlaethau a chyfnewid sgiliau bywyd a chyflogaeth rhwng pobl iau a hŷn.

- Yn Sir y Fflint, mae Coed-llai a Phontblyddyn wedi cychwyn ar broses o

ddatblygu cymunedau cyfeillgar i oed. Dyfarnwyd arian gan y Loteri Fawr i

symud ymlaen gyda’r gwaith gan roi hwb ychwanegol i’r gymuned. Daw'r

cyllid o brosiect ehangach i ddatblygu cymunedau cyfeillgar i oed yng nghefn

gwlad Cymru drwy brosiect Doethineb Gwledig Volunteering Matters Cymru14.

CADR, Strydoedd

Byw, Awdurdodau

Lleol

Cyflawni’r arolwg Walkability cyfeillgar i oed ar draws Cymru

gan ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru i ddeall pa mor

hawdd eu cerdded gan bobl yw eu cymdogaeth. Gwerthuso’r

canfyddiadau a nodi pa weithredu sydd i'w gyflawni gydag

Awdurdodau Lleol a phartneriaid allweddol.

13

http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Fishguard-Goodwick-Indicator-Report-cym.pdf 14

https://volunteeringmatters.org.uk/news/big-funding-big-project-shaping-rural-communities-support-older-people/

Page 8: Nghymru - Ageing Well in Wales...Cynnydd: Cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ac adnoddau newydd yn y Gwanwyn 2017 gan roi peth cyngor a chymorth i unigolion a chymunedau ar sut i ddatblygu

8

Cynnydd: Mae unigolion a chymunedau ar draws Cymru’n cymryd rhan yn yr

arolwg ac yn cyfrannu adborth defnyddiol ar y prif broblemau yn eu hardaloedd.

Bydd y gwaith o werthuso’r ymatebion wedi’i gwblhau erbyn yr Hydref 2017 ac yn

rhoi syniad o ba mor gyfeillgar i oed yw strydoedd Cymru a pha weithredu sydd ei

angen i’w gwneud yn haws eu cerdded.

Volunteering

Matters, Cynghrair

Henoed Cymru,

Cynghrair Pobl

Hŷn Cymru

(COPA),

Awdurdodau Lleol

Bydd Volunteering Matters, mewn partneriaeth â

Chydgysylltwyr Strategaeth yr Awdurdodau Lleol a Chynghrair

Henoed Cymru, yn datblygu Canllaw Cymru ar Ddatblygu

Cymunedau Cyfeillgar i Oed a Set Dangosyddion Cyfeillgar i

Oed ar gyfer Cymru. Mewn partneriaeth â COPA, cyhoeddi

canllaw byr i Gymunedau Cyfeillgar i Oed, llyfrau canllaw ar y

parthau WO a datblygu modelau arfer da ynghyd â chynllun

cydnabyddiaeth i ymgysylltu â phobl hŷn wrth wneud

penderfyniadau i oleuo cynlluniau gweithredu lleol.

Cynnydd: Cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ac adnoddau newydd yn y Gwanwyn

2017 gan roi peth cyngor a chymorth i unigolion a chymunedau ar sut i ddatblygu

cymunedau cyfeillgar i oed yn eu hardaloedd15 16. Mae cynllun wedi’i ddatblygu i

gydnabod arferion da ar draws Cymru o ran bod yn gyfeillgar i oed. Hefyd, mae’r

Ganolfan Arloesi ar Heneiddio ym Mhrifysgol Abertawe wedi cyhoeddi OPERAT

(Offeryn Asesu Preswyl Allanol Pobl Hŷn) i fesur pa mor dda y mae eu cymdogaeth

yn cwrdd ag anghenion pobl hŷn, a byddwn yn hyfforddi pobl hŷn ar sut i

ddefnyddio'r offeryn hwn17.

Datblygu Cymuned Gyfeillgar i Oed drwy drafnidiaeth

RNIB Cymru,

Cynghrair Henoed

Cymru

Mae nifer gynyddol o orsafoedd bws a thrên, a llwybrau teithio

heini ar draws Cymru, yn dod yn fwy cyfeillgar i oed fel bod

pobl hŷn, a rhai gyda nam ar eu synhwyrau, yn cael profiad

gwell fel cerddwyr a theithio ar y bws neu'r trên yn dod yn fwy

hygyrch iddynt.

Cynnydd: Caiff ei gydnabod yn gynyddol bod angen i drafnidiaeth gyfeillgar i oed

fod yn flaenoriaeth ar draws Cymru. Mae’r datblygiadau perthnasol yn cynnwys

ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu trafnidiaeth hygyrch a chyfeillgar i oed

15

http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Creating-Age-Friendly-Communities-cym.pdf 16

http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Age-Friendly-Business-Guide-cym.pdf 17

http://www.swansea.ac.uk/cy/canolfan-y-cyfryngau/ymchwil-diweddaraf/offerynnewyddafyddynhelpupoblhniraddioeucymuned.php

Page 9: Nghymru - Ageing Well in Wales...Cynnydd: Cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ac adnoddau newydd yn y Gwanwyn 2017 gan roi peth cyngor a chymorth i unigolion a chymunedau ar sut i ddatblygu

9

yn dilyn y cyhoeddiad gan Ysgrifenydd y Cabinet mewn digwyddiad gan Age Cymru

ym mis Rhagfyr 201618 19, ac mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Panel newydd

ar Drafnidiaeth Hygyrch.

Datblygu Cymuned Gyfeillgar i Oed drwy fannau agored ac adeiladau

Awdurdodau Lleol Mae nifer gynyddol o gymunedau, parciau lleol a mannau

gwyrdd ar draws Cymru’n dod yn fwy cyfeillgar i oed. Er

enghraifft, mae’r mannau hyn yn fwy hygyrch fel y gall pobl hŷn

aros yn gorfforol heini, yn cynnwys arwyddion da, toiledau

cyhoeddus boddhaol a digon o feinciau parc. I gefnogi

Awdurdodau Lleol dylid cyhoeddi mwy o ddeunyddiau cyfeillgar

i oed ar strydoedd, mannau gwyrdd a thrafnidiaeth.

Awdurdodau Lleol,

Llywodraeth

Cymru

Mae adrannau cynllunio a Chanllawiau Cynllunio Llywodraeth

Cymru wedi mabwysiadu dull cyfeillgar i oed fel bod pobl hŷn

yn byw mewn ardal fwy cynhwysol a hygyrch a’r

penderfyniadau a wneir yn ystyried eu hanghenion.

Cynnydd: Caiff ei gydnabod yn gynyddol bod angen i gynllunio cyfeillgar i oed fod

yn flaenoriaeth ar draws Cymru. Mae’r datblygiadau perthnasol yn cynnwys

ymgysylltu â chydweithwyr Awdurdod Lleol yn nigwyddiad y WLGA ym mis Ionawr

2017, a’r argymhellion yn adroddiad y Grŵp Arbenigol ar Dai i Bobl Hŷn Cymru20 i

weithio gydag awdurdodau cynllunio lleol i sefydlu cymdogaethau cyfeillgar i oed.

Yn ogystal, cynhyrchwyd cyhoeddiadau newydd cyfeillgar i oed ar strydoedd,

mannau gwyrdd a thrafnidiaeth, i’w cyhoeddi ddiwedd 2017 / dechrau 2018.

Datblygu Cymunedau Cyfeillgar i Oed a Chefnogol o Ddementia drwy

gyfranogiad cymdeithasol, parch a chynhwysiant cymdeithasol

Amgueddfa

Genedlaethol

Cymru, Croeso

Cymru, Cadw,

Cyngor

Celfyddydau

Cymru,

Mae nifer gynyddol o orielau, llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac

adeiladau chwaraeon lleol yn dod yn gyfeillgar i oed a

chefnogol o ddementia fel eu bod, ynghyd â digwyddiadau

diwylliannol a safleoedd treftadaeth, yn deall anghenion pobl

hŷn yn well, yn gynhwysol i oed ac yn rhoi cymorth perthnasol.

18

http://gov.wales/newsroom/transport/2016/141214infra/?skip=1&lang=cy 19

http://www.ageuk.org.uk/cymru/latest-news/age-friendly-transport-event/ 20

http://gov.wales/docs/desh/publications/170213-expert-group-final-report-cy.pdf

Page 10: Nghymru - Ageing Well in Wales...Cynnydd: Cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ac adnoddau newydd yn y Gwanwyn 2017 gan roi peth cyngor a chymorth i unigolion a chymunedau ar sut i ddatblygu

10

Cymdeithas y Prif

Lyfrgellwyr,

Chwaraeon Cymru

Cynghrair Henoed

Cymru,

Ymddiriedolaeth

Gofalwyr Cymru

Mae nifer gynyddol o fanciau, siopau a fferyllfeydd cymunedol

lleol yn dod yn fwy cyfeillgar i oed ac yn gallu deall ac ymateb

yn well i anghenion pobl hŷn gyda dementia, a’u gofalwyr, a

hefyd pobl sy’n byw gyda nam ar eu synhwyrau, drwy roi

cymorth perthnasol, gwasanaeth cynhwysol a thrwy eu cyfeirio

ymlaen yn briodol at wasanaethau eraill.

COPA Datblygu dull o ymgysylltu fel bod pobl hŷn yn gallu ymgysylltu

a siarad â busnesau lleol am fod yn gyfeillgar i oed.

Cynnydd: Datblygu ac ehangu’r Rhwydwaith Diwylliant Cyfeillgar i Oed, wedi’i

arwain gan Age Cymru, Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, a

lansiwyd yn Ebrill 2017. Cyhoeddwyd canllaw ar sut i fod yn fusnes cyfeillgar i oed

yn y Gwanwyn 2017 gan roi cyngor a chymorth ymarferol i fusnesau ar fod yn fwy

cyfeillgar i oed21. Hefyd yn y Gwanwyn 2017 cyhoeddwyd dull o ymgysylltu22fel bod

pobl hŷn yn gallu cysylltu’n uniongyrchol â busnesau.

21

http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Age-Friendly-Business-Guide-cym.pdf 22

http://www.ageingwellinwales.com/wl/business

Page 11: Nghymru - Ageing Well in Wales...Cynnydd: Cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ac adnoddau newydd yn y Gwanwyn 2017 gan roi peth cyngor a chymorth i unigolion a chymunedau ar sut i ddatblygu

11

Cymunedau Cefnogol o Ddementia

Partner(iaid)

Arweiniol

Gweithredu

Datblygu Cymuned Gefnogol o Ddementia ar lefel leol

Awdurdodau

Lleol, WLGA

Gweithio gydag Awdurdodau Lleol i ddatblygu’r cynigion i greu

cymunedau cefnogol o ddementia yn y cynlluniau Heneiddio’n

Dda lleol.

Cynnydd: Mae datblygiadau wedi bod mewn cymunedau ar draws Cymru. Er

enghraifft:

- Mae Cyngor Ynys Môn yn gweithio gyda Croesffyrdd Cymru i ddarparu

gwasanaethau pwrpasol wedi eu teilwrio i bobl sy’n byw gyda dementia.

Mae prosiect peilot yn profi model comisiynu cymunedol lle mae’r Awdurdod

Lleol yn cyflawni rôl hwyluso i helpu Mentrau Cymdeithasol a Chynghreiriau

Cymunedol i gomisiynu gwasanaethau’n uniongyrchol gan ddarparwyr gofal.

- Yn Llanelli mae partneriaid wedi adeiladu ar lwyddiant prosiectau cymunedol

drwy, er enghraifft, sefydlu marchnad gyfeillgar i ddementia gyntaf Cymru sef

‘Bywydau Bodlon’, gwasanaeth comisiynu seiliedig ar ganlyniadau. Mae’r

prosiect yn cynnwys cydgysylltwyr gwydnwch cymunedol sy’n gweithio gyda

darparwyr gofal cartref i gefnogi lleoliadau cyfeillgar i ddementia ar sail

anghenion a buddiannau’r unigolion.

- Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae Grŵp Iechyd a Llesiant staff y Cyngor

wedi noddi sesiynau ymwybyddiaeth o ddementia Alzheimer’s Society

Cymru i bob aelod o staff, gan fod llawer yn ofalwyr, neu'n adnabod rhywun

sy'n byw â dementia efallai, ac fel cyflogwr mawr mae hyn wedi codi

ymwybyddiaeth ymysg y gymuned.

- Mae Gwasanaeth Hamdden Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am redeg y cynllun

DementiaGo arloesol, sydd â'r nod o wneud gwahaniaeth corfforol a

meddyliol i'r rheini sy'n byw â dementia, a'r rheini sy'n gofalu amdanynt.

Mae'r cynllun yn rhedeg mewn pum canolfan ar hyn o bryd, ac mae

cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a

chymdeithasol yn y canolfannau.

- Mae Abertawe’n gweithio tuag at ennill statws fel dinas gyfeillgar i ddementia

ac mae gwaith tebyg yn cael ei wneud i ddatblygu’r Barri fel cymuned

gefnogol o ddementia (Bro Morgannwg).

Page 12: Nghymru - Ageing Well in Wales...Cynnydd: Cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ac adnoddau newydd yn y Gwanwyn 2017 gan roi peth cyngor a chymorth i unigolion a chymunedau ar sut i ddatblygu

12

- Yn 'rhanbarth' Gwent, mae'r pum Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus23, drwy

gysylltiadau â'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, yn gweithio gyda'i gilydd i

fabwysiadau achrediad sy'n ystyriol o ddementia drwy Alzheimer’s Society

Cymru. Mae'r achrediad yn cynnwys staff yn cael hyfforddiant

ymwybyddiaeth Ffrindiau Dementia, dynodi prif hyrwyddwr yn y sefydliad, a

hyrwyddo arferion sy'n ystyriol o ddementia. Hyd yma, mae 11,000 o bobl

wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth Ffrindiau Dementia, ac mae 200 o

bobl wedi hyfforddi fel hyrwyddwyr. Hefyd, Ysgol Uwchradd Gatholig Joseff

Sant yng Nghasnewydd yw'r gyntaf i gael ei hachredu fel ysgol ystyriol o

ddementia yng Nghymru.

Y Gymdeithas

Alzheimer

Cyflwyno canllaw Heneiddio’n Dda ar gymunedau cefnogol o

ddementia, ymgysylltu ag unigolion, gwirfoddolwyr a grwpiau

cymunedol lleol ar draws Cymru i roi cyngor a chymorth

ymarferol ar sefydlu cymuned gefnogol o ddementia leol.

Cynnydd: Mae unigolion a chymunedau ar draws Cymru wedi dangos cryn

ddiddordeb yn y canllaw24. Cynhaliwyd digwyddiadau rhwydwaith Heneiddio’n Dda

pellach ar gymunedau cefnogol o ddementia, y rhai diweddaraf yn Ninbych a

Phen-y-bont ar Ogwr ym mis Mawrth 2017.

Datblygu Cymuned Gefnogol o Ddementia gyda dull clir, strategol a

chydgysylltiedig ar lefel genedlaethol

Llywodraeth

Cymru

Datblygu Strategaeth Ddementia Genedlaethol newydd gyda

chamau gweithredu mesuradwy clir ar gyfer ystod o bartneriaid

fel bod Cymru’n lle gwell ar gyfer pobl hŷn sy’n byw gyda

dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

Cynnydd: Cyhoeddwyd y strategaeth ddrafft a pharhaodd yr ymgynghori arni tan

ddechrau Ebrill 201725. Disgwylir cyhoeddi’r strategaeth derfynol yn yr Hydref. Yn

'rhanbarth' Gwent, mae'r Bwrdd Dementia rhanbarthol wedi llunio strategaeth

dementia ddrafft er mwyn nodi sut bydd argymelliadau'r strategaeth dementia

genedlaethol yn cael eu cyflawni ar gyfer trigolion Gwent. Bydd y strategaeth

ranbarthol, a gefnogir gan Aelodau’r Cynulliad lleol, yn cynnwys cynllun gweithredu

yn nodi'r camau gweithredu i'w cyflawni, a bydd y strategaeth ranbarthol yn cael ei

23

Y pum Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yw: Casnewydd, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen a Sir Fynwy. 24

http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Pocket-Guide-to-Being-Dementia-Supportive-cym.pdf 25

https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/drafft-strategaeth-ddementia-genedlaethol

Page 13: Nghymru - Ageing Well in Wales...Cynnydd: Cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ac adnoddau newydd yn y Gwanwyn 2017 gan roi peth cyngor a chymorth i unigolion a chymunedau ar sut i ddatblygu

13

lansio ar y cyd â'r strategaeth dementia genedlaethol.

Datblygu Cymuned Gefnogol o Ddementia sy’n fwy diogel a mwy ymwybodol

o’r materion cymdeithasol sy’n effeithio ar bobl sy’n byw gyda dementia

Comisiynwyr

Heddlu a

Throseddu

Mae ‘Protocol Herbert’26 Heddlu Gwent wedi’i ddatblygu ar

draws holl heddluoedd Cymru i ddod o hyd yn gynt i bobl hŷn

sy’n byw gyda dementia mewn cartrefi gofal sy’n mynd ar goll.

Cynnydd: Mae Heddlu Gogledd Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref

Sirol Conwy, wedi rhedeg cynllun peilot i geisio ‘arbed munudau ac achub

bywydau' pan fydd preswylwyr cartrefi gofal yn mynd ar goll27. Mae Heddluoedd

Dyfed Powys a De Cymru hefyd yn cyflwyno’r cynllun yn eu hardaloedd hwy.

Datblygu Cymuned Gefnogol o Ddementia wrth i nifer gynyddol o unigolion

ddysgu am a chodi ymwybyddiaeth o ddementia er mwyn cefnogi pobl sy'n

byw gyda dementia'n well

Y Gymdeithas

Alzheimer

Mae’r prosiect Ffrindiau a Phencampwyr Dementia’n parhau i

ehangu ar draws Cymru fel bod gan unigolion a sefydliadau

ddealltwriaeth well o ddementia ac yn cael eu hannog i

weithredu’n lleol i wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl sy’n

byw gyda dementia, a’u gofalwyr.

Cynnydd: Mae nifer gynyddol o unigolion a sefydliadau’n cael eu cydnabod fel

Ffrindiau Dementia. Er enghraifft, derbyniodd tîm heddlu Prestatyn hyfforddiant ar

Ffrindiau Dementia, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yw’r sefydliad

cyfeillgar i ddementia cyntaf yng ngogledd Cymru a chyrhaeddodd Gwasanaeth

Ambiwlans Cymru’r rhestr fer yng Ngwobrau Cyfeillgar i Ddementia’r Gymdeithas

Alzheimer28 29 30. Gyda’r ffocws ar ofal person-ganolog, mae Gwasanaeth

Ambiwlans Cymru hefyd wedi cyflwyno ‘Dyma Fi’, offeryn syml ac ymarferol y gall

pobl sy’n byw gyda dementia, yn enwedig rhai sy’n cael trafferth cyfathrebu, ei

26

https://www.gwent.police.uk/cy/cyngor/cyngor/g-p-graffiti-talu-dirwy/pobl-sydd-ar-goll/protocol-herbet-byw-gyda-dementia/ 27

http://www.northwalessafeguardingboard.wales/missing-adult-scheme-launch-herbert-protocol/ 28

http://prestatynfriendly.co.uk/police/ 29

http://www.nwales-fireservice.org.uk/news/2017/1/12/north-wales-fire-and-rescue-service-becomes-first-dementia-friendly-organisation-in-north-wales/?lang=cy-gb 30

http://www.was-tr.wales.nhs.uk/Default.aspx?gcid=1345&pageId=2&lan=cy

Page 14: Nghymru - Ageing Well in Wales...Cynnydd: Cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ac adnoddau newydd yn y Gwanwyn 2017 gan roi peth cyngor a chymorth i unigolion a chymunedau ar sut i ddatblygu

14

ddefnyddio i ddweud wrth staff am eu hanghenion, eu dewisiadau, eu hoff a’u cas

bethau31. Ym Mhowys mae llwyddiant y fenter gymunedol Cymuned Gyfeillgar i

Ddementia Aberhonddu wedi arwain at lansio Dementia Matters in Powys32, fydd

yn cydgysylltu gweithredu gan y grwpiau cymunedol â gweithredu gan yr

Awdurdod Lleol a chyrff statudol ar draws y sir i rannu arferion da ac adeiladu ar

lwyddiant.

Datblygu Cymuned Gefnogol o Ddementia drwy gymorth, dealltwriaeth ac

empathi gwell mewn lleoliadau iechyd

Byrddau Iechyd

Lleol

Mae gofalwyr teuluol am bobl hŷn sy’n byw gyda dementia’n

gallu aros â’u perthynas yn yr ysbyty wrth i’w harbenigedd gael

ei gydnabod fel rhan graidd o'r tîm gofal. O’r herwydd bydd

unigolion sy’n byw gyda dementia’n gallu ymateb yn well i

driniaeth a bydd penderfyniadau gwell yn cael eu gwneud am

anghenion yr unigolyn a'r gofalwyr teuluol.

Cynnydd: Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi addo

cefnogi Ymgyrch John, sy’n cydnabod y rôl bwysig y mae gofalwyr yn ei chwarae

ym mywydau pobl sy’n byw gyda dementia (Chwefror 2017)33. Adlewyrchir

pwysigrwydd yr ymgyrch hefyd mewn adroddiad gan y Cyngor Iechyd Cymuned ar

‘Pobl Hŷn mewn Ysbytai Cymunedol: Osgoi Diflastod ac Unigrwydd34.

Datblygu Cymuned Gefnogol o Ddementia drwy fynediad gwell a mwy o

gyfranogi mewn chwaraeon a diwylliant

Y Gymdeithas

Alzheimer,

Sefydliad yr

Atgofion

Chwaraeon

Hyrwyddo ac ehangu’r dull Atgofion Chwaraeon35 ledled Cymru

fel bod gan bobl hŷn sy’n byw gyda dementia gyfleoedd gwell i

gymryd rhan mewn digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol ac

yn cael cymorth a chefnogaeth yn y gymuned drwy chwaraeon.

Cynnydd: Yn dilyn ymgynghori gyda phobl hŷn a darparwyr gwasanaethau lleol,

rhanbarthol a chenedlaethol, mae bidiau am gyllid bellach wedi eu cyflwyno gan

31

http://www.ambulance.wales.nhs.uk/assets/documents/20ee74ef-df2a-4936-9b27-a7c441063fa0635767021683586473.pdf 32

http://www.dementiamatterspowys.org.uk/ 33

http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/903/news/43952 34

http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/897/Older%20People%20in%20Community%20%20%20Hospitals%20Report%20%28Final%20Welsh%29%20December%202016.pdf 35

http://www.sportingmemoriesnetwork.com/

Page 15: Nghymru - Ageing Well in Wales...Cynnydd: Cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ac adnoddau newydd yn y Gwanwyn 2017 gan roi peth cyngor a chymorth i unigolion a chymunedau ar sut i ddatblygu

15

Sefydliad yr Atgofion Chwaraeon am brosiect pum mlynedd. Mae partneriaid

craidd prosiect Atgofion Chwaraeon Cymru’n cynnwys Clwb Criced Morgannwg a’r

Gymdeithas Alzheimer, a dangosodd lawer o glybiau chwaraeon proffesiynol ar

draws Cymru hefyd ddiddordeb yn y prosiect.

Page 16: Nghymru - Ageing Well in Wales...Cynnydd: Cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ac adnoddau newydd yn y Gwanwyn 2017 gan roi peth cyngor a chymorth i unigolion a chymunedau ar sut i ddatblygu

16

Atal Codwm

Partner(iaid)

Arweiniol

Gweithredu

Trechu a gwella atal codwm ar lefel leol

Awdurdodau

Lleol, WLGA

Gweithio gydag Awdurdodau Lleol i ddatblygu’r cynigion i atal

codwm yn y cynlluniau Heneiddio’n Dda lleol.

Cynnydd: Mae nifer o ddatblygiadau’n digwydd ar draws Cymru. Er enghraifft:

- Derbyniodd staff gofal cartref yn Sir y Fflint hyfforddiant ar ddefnyddio’r

Offeryn Asesu Risg o Gael Codwm (FRAT).

- Mae staff Cartrefi Gofal yn Abertawe’n derbyn hyfforddiant atal codwm ac yn

defnyddio’r Canllaw Atal Codwm.

- Mae Cydgysylltwyr Lles Cymunedol ym Mro Morgannwg yn gweithio gyda

Meddygon Teulu i gyfeirio pobl ymlaen at raglenni atal codwm.

- Mae peilot y Tîm Cymorth Cymunedol (CAT) yng Nghonwy a Sir Ddinbych

wedi helpu pobl a gafodd godwm yn y cartref36. O ganlyniad i’r peilot cafwyd

canlyniadau cadarnhaol fel aros llai am gymorth, llai o bwysau ar

gydweithwyr y Gwasanaeth Ambiwlans a llwybr mwy effeithiol at y

gwasanaeth atal codwm i rai sydd angen help arnynt ar ôl cael codwm.

- Mae Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf wedi gweithio â phartneriaid i gynhyrchu

Pecyn Adnoddau a Llawlyfr Ymwybyddiaeth o Gwympo. Yn dilyn peilot

llwyddiannus, mae sesiynau ymwybyddiaeth o gwympo’n cael eu cynnal

mewn partneriaeth â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Mae’r

cyfranogwyr yn mynd ar gwrs deg wythnos o roi gwybodaeth, addysgu ac i

roi cyngor ymarferol ar ymwybyddiaeth o gwympo.

- Mae digwyddiadau ymgynghori ar atal codwm yn cael eu cynnal ledled

Cymru.

Trechu a gwella atal codwm ar lefel genedlaethol

Llywodraeth

Cymru, Gofal

a Thrwsio,

Iechyd

Symud ymlaen gyda Thasglu Cenedlaethol Atal Codwm Gofal

Iechyd Darbodus Llywodraeth Cymru, dod â’r holl bartneriaid

perthnasol ynghyd i gydgysylltu ymdrechion ar atal codwm a

datblygu amcanion a chanlyniadau cyffredin i sicrhau dull

36

http://www.ambulance.wales.nhs.uk/Default.aspx?gcid=1359&pageId=2&lan=en

Page 17: Nghymru - Ageing Well in Wales...Cynnydd: Cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ac adnoddau newydd yn y Gwanwyn 2017 gan roi peth cyngor a chymorth i unigolion a chymunedau ar sut i ddatblygu

17

Cyhoeddus

Cymru, CSP,

Age Cymru,

Byrddau

Iechyd Lleol,

Gwella 1000

o Fywydau

cenedlaethol cyson o atal codwm ar draws Cymru.

Cynnydd: Cyfarfu’r Tasglu ym mis Ionawr 2017 fel rhan o’r digwyddiad Gofal

Iechyd Darbodus: Atal Codwm ar gyfer Pobl Hŷn gan Gwella 1000 o Fywydau37. Y

brif flaenoriaeth yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd i leihau’r risg o gael codwm

ymhlith pobl hŷn a datblygu llwybr rhannu data rhwng cyrff oddi mewn a’r tu allan

i'r GIG.

Gwella atal codwm drwy ddatblygu’r dull ‘Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif’

Gofal a

Thrwsio, Age

Cymru,

Ymddiriedola

eth GIG

Gwasanaeth

Ambiwlans

Cymru,

Gwasanaeth

Tân ac Achub

Mae asiantaethau a gwasanaethau sy’n mynd i mewn i gartrefi

pobl yn rhoi gwybodaeth a chyngor ymarferol ar atal codwm fel

bod pobl hŷn yn fwy ymwybodol o’r risg o gwympo ac yn gwybod

sut i helpu eu hunain.

Cynnydd: Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin

Bevan wedi lansio’r Gwasanaeth Ymateb i Godwm sydd eisoes wedi helpu mwy

na 200 o bobl a gafodd godwm38. Gyda phartneriaid allweddol, mae Gofal a

Thrwsio’n cymryd camau pellach i gyflwyno’r dull Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif

(MECC)39, ac mae’r Gwasanaethau Tân ac Achub ar draws Cymru hefyd yn

ymrwymedig i MECC ac i gefnogi pobl hŷn drwy eu rôl diogelwch cymunedol40 41 42.

37

http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/news/43788 38

http://www.was-tr.wales.nhs.uk/default.aspx?gcid=1375&pageid=2&lan=cy 39

http://www.careandrepair.org.uk/news/2016/10/27/my-pledge-to-help-prevent-falls/?text_size=1 40

http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/888/13.%20Emma%20Girvan.pdf 41

http://www.mawwfire.gov.uk/Cymraeg/cysylltiadau/Pages/CorporatePlan1722/Amcan-1.aspx

Page 18: Nghymru - Ageing Well in Wales...Cynnydd: Cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ac adnoddau newydd yn y Gwanwyn 2017 gan roi peth cyngor a chymorth i unigolion a chymunedau ar sut i ddatblygu

18

Gwella atal codwm drwy ddosbarthu canllawiau defnyddiol, pecynnau

cymorth a thrwy ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth

Iechyd

Cyhoeddus

Cymru, Age

Cymru,

Cymdeithas

Siartredig y

Ffisiotherapyd

dion

Mae’r ymgyrch ‘Sadiwch...i Gadw'n SAFF'43, y gwasanaeth Gwella

1000 o Fywydau44, y canllaw ar ‘Osgoi cwympo, baglu a llithro’45

a’r canllaw ‘Get Up and Go’46 i gyd yn cael eu hyrwyddo a’u

datblygu ar draws Cymru fel bod pobl hŷn yn fwy ymwybodol o’r

risg o gael codwm ac yn gwybod sut i helpu eu hunain. Datblygu

offeryn atal codwm ac ymyriad byr.

Cynnydd: Cynhaliwyd wythnos atal codwm lwyddiannus yn Chwefror 2017 i

dynnu sylw at yr ymgyrch ‘Sadiwch....i Gadw’n SAFF’47. Roedd yr wythnos yn

cynnwys nifer o bartneriaid a’r ffocws ar y prif negeseuon i leihau'r risg o godwm

ymhlith pobl hŷn: sef aros yn heini a chryf, dweud wrth rywun os byddwch yn

cwympo a bod yn ymwybodol o'r peryglon baglu yn eich cartref. Lansiodd

Fferylliaeth Gymunedol Cymru hefyd ymgyrch codi ymwybyddiaeth drwy gydol mis

Chwefror i dynnu sylw at y risg o gael codwm a sut i osgoi cwympo4849. Bydd y

Tasglu Cenedlaethol hefyd yn rhoi blaenoriaeth i ymyriadau drwy'r ymgyrch

'Sadiwch....i gadw'n SAFF'50.

Gwella atal codwm drwy ymgysylltu ac ymgynghori’n well â phobl hŷn mewn

lleoliadau iechyd

Byrddau

Iechyd Lleol

Mae gan wasanaethau lleol a chanolfannau gofal sylfaenol

ddealltwriaeth well o amgylchiadau pobl hŷn gan roi cymorth a

chefnogaeth fel eu bod yn llai tebygol o gael codwm.

Cynnydd: Mae nifer o ddatblygiadau’n digwydd ar draws Cymru. Er enghraifft mae

staff clinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn mynychu hyfforddiant

42

https://www.wao.gov.uk/sites/default/files/seminar_documents/Frequent_Users_Making_Every_Contact_Count.pdf 43

http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/news/43975 44

http://www.1000livesplus.wales.nhs.uk/falls 45

http://www.flvc.org.uk/wp-content/uploads/2013/07/Age-Cymru-Avoiding-slips-trips-and-falls-leaflet-Welsh.pdf 46

http://www.csp.org.uk/publications/get-go-guide-staying-steady 47

http://www.careandrepair.org.uk/cy/newyddion/falls-are-not-inevitable-part-growing-old/ 48

http://www.screeningforlife.wales.nhs.uk/news/43975 49

http://www.cpwales.org.uk/Contractors-Area/Public-Health-Campaign/Falls-Campaign/Contractor-Briefing-Letter.aspx 50

http://www.ageingwellinwales.com/wl/resource-hub/fp-resources

Page 19: Nghymru - Ageing Well in Wales...Cynnydd: Cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ac adnoddau newydd yn y Gwanwyn 2017 gan roi peth cyngor a chymorth i unigolion a chymunedau ar sut i ddatblygu

19

atal codwm gorfodol, ac ym mis Rhagfyr 2016 lansiwyd Llwybr Atal Codwm Ysbyty

Gogledd Cymru. Mae atal codwm yn parhau i fod yn flaenoriaeth gan Fwrdd

Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, gyda mwy o gyfleoedd i bobl hŷn gymryd rhan

yn y Rhaglen Ymarfer Otago51.

Gwella atal codwm drwy annog pobl hŷn i gymryd rhan mewn dosbarthiadau

ymarfer corff a chynlluniau iechyd, lles a chwaraeon

Iechyd

Cyhoeddus

Cymru, Age

Cymru,

WLGA,

Awdurdodau

Lleol

Mae’r Cynllun Atgyfeirio i Wneud Ymarfer Corff (NERS)52 sydd, yn

dilyn atgyfeiriad clinigol, yn helpu pobl hŷn i wella eu cryfder, osgo

a’u cydbwysedd a lleihau eu risg o gael codwm, yn cael ei

ddarparu gan gyfarwyddwyr NERS PSI Lefel 4 Arbenigol

Awdurdod Lleol yn unol â chanllawiau safonol seiliedig ar

dystiolaeth. Mae Age Cymru yn hyrwyddo ac ehangu eu

dosbarthiadau ymarfer corff Hyfforddiant Llai Heriol (LIFT) ar

draws Cymru er mwyn gwella gwydnwch pobl hŷn fel eu bod yn llai

tebygol o gwympo.

Cynnydd: Nid yw’r Llwybr Atal Codwm NERS ar gael ond yn dilyn atgyfeiriad gan

Weithiwr Iechyd GIG proffesiynol cymeradwy. Ar hyn o bryd mae’n cael ei gynnig

ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru heblaw am un, ac mae atgyfeiriadau’n

cynyddu’n raddol.

51

http://www.cardiffandvaleuhb.wales.nhs.uk/falls-prevention 52

https://wlga.wales/national-exercise-referral-scheme-ners

Page 20: Nghymru - Ageing Well in Wales...Cynnydd: Cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ac adnoddau newydd yn y Gwanwyn 2017 gan roi peth cyngor a chymorth i unigolion a chymunedau ar sut i ddatblygu

20

Cyfleoedd Dysgu a Chyflogaeth

Partner(iaid)

Arweiniol

Gweithredu

Gwella Cyfleoedd Dysgu a Chyflogaeth ar lefel leol

Awdurdodau

Lleol, WLGA

Gweithio gydag Awdurdodau Lleol i ddatblygu’r cynigion i greu

cyfleoedd dysgu a chyflogaeth yn y cynlluniau Heneiddio’n Dda

lleol.

Cynnydd: Mae nifer o ddatblygiadau’n digwydd ar draws Cymru. Er enghraifft:

- Mae’r ymgyrch codi ymwybyddiaeth ‘Simon yn Dweud’ yng Nghaerffili’n tynnu

sylw at y prif faterion perthnasol i bobl hŷn gan gynnwys datblygu eu sgiliau

ariannol a chael mwy i fanteisio ar eu hawliau ariannol53.

- Mae prosiect Cronfa Gymdeithasol Ewrop OPUS Cyngor Ynys Môn yn cynnwys

Mentor Person Hŷn i gysylltu gyda busnesau lleol a gwella rhagolygon

cyflogaeth pobl hŷn yn y gweithleoedd hyn.

- Darparu cyfleoedd i bobl hŷn yn Nhorfaen i ddychwelyd i'r gweithle drwy brosiect

Her Newydd WCVA, a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, er enghraifft

cyflwyno lleoliadau gwaith i unigolion â chwmnïau 'lletya', yn ogystal â

chyfleoedd hyfforddi a sgiliau wedi'u targedu drwy'r Cyngor.

- Yng Nghwm Taf, bydd Awdurdodau Lleol yn helpu i hyrwyddo busnesau

cyfeillgar i oed drwy ddeunyddiau a chyhoeddiadau codi ymwybyddiaeth.

Gwella Cyfleoedd Dysgu a Chyflogaeth drwy hyrwyddo gweithleoedd cyfeillgar i

oed ac amrywiol o ran oed a threchu gwahaniaethu ar sail oed yn y gwaith

Llywodraeth

Cymru, Busnes

yn y Gymuned,

TUC Cymru

Cyflwyno’r canllaw ar fusnesau cyfeillgar i oed gan Heneiddio'n

Dda, ymgysylltu â chyflogwyr ar draws Cymru a rhoi cyngor a

chymorth ymarferol ar sut i fusnes ddod yn fwy cyfeillgar i oed.

Cynnydd: Cyhoeddwyd y canllaw hwn yng Ngwanwyn 2017. Mae wedi cael ei rannu

â chyflogwyr o bob maint ar draws Cymru drwy’r rhwydweithiau Heneiddio’n Dda54.

Llywodraeth Annog cyflogwyr a gwasanaethau ar draws Cymru i ddatblygu

53

http://www.caerphilly.gov.uk/News/News-Bulletin/April-2016/Simon-Says-campaign-is-launched 54

http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Age-Friendly-Business-Guide-cym.pdf

Page 21: Nghymru - Ageing Well in Wales...Cynnydd: Cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ac adnoddau newydd yn y Gwanwyn 2017 gan roi peth cyngor a chymorth i unigolion a chymunedau ar sut i ddatblygu

21

Cymru gweithleoedd cyfeillgar i oed a threchu gwahaniaethu ar sail oed

drwy’r ymgyrch ‘Oes o Fuddsoddi’55 fel bod gan weithwyr a

cheiswyr gwaith hŷn fynediad gwell at gyfleoedd cyflogaeth.

Cynnydd: Mae Cam Dau yr ymgyrch hon ar y gweill a’r ffocws ar godi ymwybyddiaeth

cyflogwyr bod angen cadw gweithwyr hŷn ac annog cyflogwyr i fuddsoddi yn sgiliau eu

gweithlu. Gwnaed ymchwil i fuddsoddi mewn sgiliau a gweithwyr hŷn yn Chwefror

2017. Bydd yr ymgyrch yn parhau i ganolbwyntio ar greu proffil cadarnhaol yn y

cyfryngau ar gyfer buddsoddi mewn sgiliau a’r cyfraniad sydd gan weithwyr hŷn i’w

wneud. Roedd yr ymgyrch hefyd yn cysylltu â phartneriaid eraill yn ystod yr Wythnos

Sgiliau ar gyfer Gwaith ym mis Mai 201756, a lansiwyd ymgyrch benodol ar bobl hŷn

yn y cyfryngau hefyd yn ystod mis Mai 201757.

Gwella Cyfleoedd Dysgu a Chyflogaeth drwy ddarparu mwy a gwell mynediad at

gyfleoedd prentisiaeth

Llywodraeth

Cymru

Mae cyfleoedd prentisiaeth i bobl o bob oed yn cael eu datblygu.

Mae gweithredu i ddatblygu sgiliau pobl hŷn wedi’i gynnwys yn y

Rhaglen Cyflogadwyedd pob oed fel bod gan bobl hŷn fynediad

gwell at gyfleoedd cyflogaeth.

Cynnydd: Cafodd cyfleoedd i bobl hŷn fynd ar gyrsiau prentisiaeth sylw yn ystod

Wythnos Brentisiaethau Cymru ym mis Mawrth 201758. Bydd y Rhaglen

Cyflogadwyedd pob oed yn cael ei chyhoeddi yn yr Haf 2017 ac yn helpu i hyrwyddo

gweithluoedd amrywiol o ran oed, ymgysylltu â chyflogwyr i ganfod ffyrdd o gadw a

recriwtio gweithwyr hŷn ac yn adnabod pa sgiliau sydd eu hangen ar weithwyr hŷn

gan gynnwys sgiliau digidol, ariannol ac addysg gymunedol i oedolion.

Gwella Cyfleoedd Dysgu a Chyflogaeth drwy ddatblygu sgiliau digidol a chael

mwy o bobl i ddefnyddio gwasanaethau digidol

Llywodraeth

Cymru

Mae nifer gynyddol o bobl hŷn yn dod yn ddefnyddwyr digidol drwy

Fframwaith Strategol Cynhwysiant Digidol Cymru59 fel bod

ganddynt y sgiliau a'r hyder i fanteisio ar gyfleoedd dysgu a

55

https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/oes-o-fuddsoddi 56

http://www.sefydliaddysguagwaith.cymru/ein-gwaith/hyrwyddo-dysgu-a-sgiliau/wythnos-sgiliau-gwaith-14-21-mai-2017/ 57

http://gov.wales/newsroom/educationandskills/2017/170517-no-best-before-date-for-welsh-workers/?skip=1&lang=cy 58

http://gov.wales/topics/educationandskills/skillsandtraining/apprenticeships/?skip=1&lang=cy 59

http://gov.wales/topics/science-and-technology/digital/digital-inclusion/?skip=1&lang=cy

Page 22: Nghymru - Ageing Well in Wales...Cynnydd: Cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ac adnoddau newydd yn y Gwanwyn 2017 gan roi peth cyngor a chymorth i unigolion a chymunedau ar sut i ddatblygu

22

chyflogaeth.

Cynnydd: Bydd pobl hŷn yn parhau i elwa o gyfleoedd cynhwysiant digidol drwy

raglen Cymunedau Digidol Cymru60. Mae enghreifftiau diweddar yn cynnwys Prosiect

Doctor y Trydydd Sector yn Wrecsam a phrosiect Tai Newydd sy’n rhoi pecyn a

chymorth Technoleg Gwybodaeth i denantiaid tai yn Rhondda Cynon Taf a Bro

Morgannwg61 62.

Gwella Cyfleoedd Dysgu a Chyflogaeth drwy ddatblygu sgiliau ariannol,

cynllunio ariannol gwell a thrwy wella gwydnwch ariannol

Gwasanaeth

Cynghori

Ariannol,

Llywodraeth

Cymru

Mae nifer gynyddol o bobl hŷn yn gallu gofalu’n well am eu harian

drwy Strategaeth Galluedd Ariannol Cymru63 a Strategaeth

Cynhwysiant Ariannol Cymru64 ac yn gallu cynllunio’n well ar gyfer y

dyfodol, teimlo’n fwy hyderus am gynllunio ariannol ac yn fwy

gwydn o ran eu sefyllfa ariannol wrth fynd yn hŷn.

Cynnydd: Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda fforymau galluedd ariannol ar draws Cymru

yn Chwefror / Mawrth 2017 i drafod y prif faterion sy'n wynebu pobl hŷn. Mae gwaith

yn parhau ar gwrdd ag anghenion ariannol pobl hŷn drwy Gynllun Cyflawni

Cynhwysiant Ariannol Llywodaeth Cymru a gyhoeddwyd yn Rhagfyr 201665. Mae

ymarfer da ar lefel leol yn cynnwys prosiect ‘Cronfa Beth sy’n Gweithio’ newydd y

Gwasanaeth Cynghori Ariannol mewn partneriaeth ag Age Cymru Bae Abertawe66.

Bydd y prosiect yn cefnogi pobl 65+ oed yn Abertawe i fagu mwy o hyder wrth

gynllunio’n ariannol ac i ddeall sut i ddefnyddio gwasanaethau ariannol ar-lein, sut i

gynllunio ymlaen llaw a rheoli eu harian drwy ddigwyddiadau yn eu bywydau.

Gwella Cyfleoedd Dysgu a Chyflogaeth drwy ddatblygu sgiliau allweddol wrth

fynd yn hŷn

Sefydliad Dysgu

a Gwaith,

Llywodraeth

Datblygu ‘Canllaw i Heneiddio’n Dda’ fel bod pobl hŷn yn dod yn

fwy gwydn ac wedi eu paratoi’n well wrth fynd yn hŷn drwy ddysgu

sgiliau digidol, ariannol a lles.

60

http://cymunedaudigidol.llyw.cymru/diweddariadau/cyhoeddi-cefnogaeth-gwerth-2miliwn-ar-gyfer-cymunedau-digidol-cymru/ 61

http://cymunedaudigidol.llyw.cymru/ 62

http://cymunedaudigidol.llyw.cymru/ 63

https://prismic-io.s3.amazonaws.com/fincap-two%2F6c45246e-cbf9-4466-8c26-609e34ae7bc1_fincap+wales+full+strategy+welsh.pdf 64

http://gov.wales/topics/people-and-communities/communities/debt/?skip=1&lang=cy 65

http://gov.wales/docs/dsjlg/publications/comm/161214-delivery-plan-cy.pdf 66

http://www.ageuk.org.uk/cymru/swanseabay/news/mas-funding-won/

Page 23: Nghymru - Ageing Well in Wales...Cynnydd: Cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ac adnoddau newydd yn y Gwanwyn 2017 gan roi peth cyngor a chymorth i unigolion a chymunedau ar sut i ddatblygu

23

Cymru

Cynnydd: Mae trafodaethau ar y gweill gyda phartneriaid allweddol ynglŷn â’r gwaith

hwn gan ddisgwyl ei gyhoeddi erbyn diwedd 2017 / dechrau 2018.

Gwella Cyfleoedd Dysgu a Chyflogaeth drwy ddatblygu dysgu yn y gymuned a

dysgu i oedolion

Sefydliad Dysgu

a Gwaith,

Gwasanaeth

Gwirfoddol

Brenhinol,

Men’s Sheds, Y

Brifysgol

Agored, U3A

Cyflwyno’r canllaw i Heneiddio’n Dda ar sefydlu clwb dysgu

cymunedol, ymgysylltu â grwpiau cymunedol, gwirfoddolwyr ac

unigolion ar draws Cymru, darparu cefnogaeth a chymorth

ymarferol ar sefydlu grŵp cymunedol lleol drwy ddefnyddio’r sgiliau,

y wybodaeth a’r cyfleusterau sydd eisoes ar gael.

Cynnydd: Cyhoeddwyd y canllaw hwn yng Ngwanwyn 2017. Mae wedi cael ei rannu

ar draws Cymru drwy’r rhwydweithiau Heneiddio’n Dda 67.

Sefydliad Dysgu

a Gwaith, Y

Brifysgol

Agored,

darparwyr

addysg

Mae cymunedau a gwirfoddolwyr wedi eu cefnogi’n well ac yn

gwybod sut i sefydlu grwpiau dysgu cymunedol fel bod gan bobl

hŷn fynediad gwell at gyfleoedd sgiliau a dysgu lleol.

Cynnydd: Trafodwyd cyfleoedd i wella mynediad pobl hŷn at addysg yn y gymuned

yng nghynhadledd Addysg Oedolion y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn Nhachwedd

2016, gyda mwy o godi ymwybyddiaeth yn ystod Wythnos Addysg Oedolion fis

Mehefin 201768.

67

http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Learning-Club-Guide-cym.pdf 68

http://www.sefydliaddysguagwaith.cymru/ein-gwaith/hyrwyddo-dysgu-a-sgiliau/wythnos-addysg-oedolion/

Page 24: Nghymru - Ageing Well in Wales...Cynnydd: Cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ac adnoddau newydd yn y Gwanwyn 2017 gan roi peth cyngor a chymorth i unigolion a chymunedau ar sut i ddatblygu

24

Unigrwydd ac Unigedd

Partner(iaid)

Arweiniol

Gweithredu

Trechu unigrwydd ac unigedd ar lefel leol

Awdurdodau

Lleol, WLGA

Gweithio gydag Awdurdodau Lleol i ddatblygu strategaethau i

drechu unigrwydd ac unigedd yn y cynlluniau Heneiddio’n Dda lleol.

Cynnydd: Mae nifer o ddatblygiadau’n digwydd ar draws Cymru. Er enghraifft:

- Yn Sir y Fflint mae ‘map gwres' wedi'i greu i helpu i adnabod pobl mewn

perygl o fod yn unig, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Drwy weithio gyda

phartneriaid i ystyried cyfleoedd ar gyfer lliniaru / lleihau’r risg o unigrwydd,

defnyddir y map newydd ynghyd â gwybodaeth leol i helpu i gyfeirio

adnoddau at y rhai sydd fwyaf tebygol o fod angen cymorth a chefnogaeth

arnynt.

- Yn Sir Gâr, mae rhaglenni gweithgareddau wythnosol wedi eu datblygu i

drechu unigrwydd mewn cartrefi gofal preswyl a thai gofal ychwanegol, ac

mae gweithgareddau a chymorth tebyg wedi eu datblygu i helpu pobl hŷn

mewn tai gwarchod sydd mewn perygl o deimlo’n unig ac ynysig.

- Ers ei lansio yn Ionawr 2017 mae Awdurdodau Lleol yn Ne-Ddwyrain Cymru’n

gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar y prosiect ‘Ffrind i Mi',

sy’n helpu pobl sy’n teimlo'n unig neu'n ynysig drwy weithio mewn

partneriaeth, gwirfoddoli a gwasanaethau cyfeillio69.

Trechu unigrwydd ac unigedd drwy ddosbarthu canllawiau a phecynnau

defnyddiol a thrwy ymgyrchoedd

Ymgyrch

Trechu

Unigrwydd,

Gwasanaeth

Gwirfoddol

Brenhinol, Y

Groes Goch

Brydeinig,

Mae pecynnau, adnoddau a deunyddiau codi ymwybyddiaeth yn

cael eu hyrwyddo a’u datblygu ar draws Cymru fel bod pobl yn deall

anghenion ac amgylchiadau pobl hŷn yn well a phobl hŷn yn llai

tebygol o deimlo’n unig a chymdeithasol ynysig.

69

https://www.ffrindimi.co.uk/copy-of-home

Page 25: Nghymru - Ageing Well in Wales...Cynnydd: Cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ac adnoddau newydd yn y Gwanwyn 2017 gan roi peth cyngor a chymorth i unigolion a chymunedau ar sut i ddatblygu

25

Men's Sheds

Cynnydd: Mae’r Ymgyrch Trechu Unigrwydd yn darpru prosiect newydd ar draws y

DU i drechu unigrwydd drwy gydweithrediad cymunedol70. Bydd y prosiect yn

cynnwys cydgysylltydd dynodedig yn goruchwylio cynnydd yng Nghymru, yn ogystal

â chynlluniau peilot yn Sir Gâr a Sir Benfro. Hefyd, mae prosiect ‘Camau Cadarn’ y

Groes Goch Brydeinig / Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn parhau i helpu pobl

hŷn i adennill eu hannibyniaeth a’u gwneud yn llai agored i'r risg o unigrwydd71.

Trechu unigrwydd ac unigedd drwy ddatblygu strategaeth genedlaethol gyda

phartneriaid allweddol

Llywodraeth

Cymru

Mae trechu unigrwydd ac unigedd wedi’i adnabod fel blaenoriaeth

iechyd cyhoeddus drwy Strategaeth Genedlaethol fydd yn cyflwyno

mesurau i sicrhau bod pobl hŷn yn llai tebygol o deimlo’n unig a

chymdeithasol ynysig.

Cynnydd: Mae trafodaethau’n parhau ar ddatblygu Strategaeth Genedlaethol, i’w

cyhoeddi o bosib yn 2018. Cyn hynny, mae Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a

Chwaraeon y Cynulliad yn cynnal Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd72.

Trechu unigrwydd ac unigedd drwy ddatblygu cymorth yn y gymuned

Age Cymru Mae ystod eang o bartneriaid yn gweithredu ar hyn drwy

Bartneriaeth Cymru yn Erbyn Sgamiau (WASP)73 fel bod pobl hŷn

ac agored i niwed ar draws Cymru’n llai tebygol o ddioddef sgamiau

a throseddu ar stepan y drws.

Cynnydd: Bydd partneriaid WASP yn cynnal trafodaethau pellach ar y posibilrwydd

o gyhoeddi adroddiad effaith yn 2017 yn nodi’r hyn sydd wedi’i gyflawni ers lansio’n

ffurfiol ym mis Mawrth 2016. Gallai cyhoeddiadau pellach gynnwys canllaw ar ‘Sut i

osgoi sgamiau’ a bwriedir cynnal trafodaethau pellach ar wneud darn o waith ar y

cyd â Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad ar Bobl Hŷn a Heneiddio.

CADR, Cyflwyno canllaw Heneiddio'n Dda ar ymdopi ag unigrwydd,

70

https://www.biglotteryfund.org.uk/global-content/press-releases/uk-wide/130117_uk_local_neighbourhoods_inspired_tackle_loneliness 71

http://www.redcross.org.uk/About-us/Media-centre/Press-releases/Regional-press-releases/Wales-and-western-England/British-Red-Cross-and-Royal-Voluntary-Service-improve-the-independence-of-older-people 72

http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=16359

Page 26: Nghymru - Ageing Well in Wales...Cynnydd: Cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ac adnoddau newydd yn y Gwanwyn 2017 gan roi peth cyngor a chymorth i unigolion a chymunedau ar sut i ddatblygu

26

Gwasanaeth

Gwirfoddol

Brenhinol, Y

Groes Goch

Brydeinig

ymgysylltu â grwpiau cymunedol, unigolion a gwirfoddolwyr ar

draws Cymru, rhoi cefnogaeth a chymorth ymarferol i sicrhau bod

pobl hŷn yn fwy gwydn a llai tebygol o deimlo’n unig.

Cynnydd: Cyhoeddwyd y canllaw hwn yn y Gwanwyn 2017. Mae wedi’i rannu ar

draws Cymru drwy’r rhwydweithiau Heneiddio’n Dda 74.

Trechu unigrwydd ac unigedd drwy ddatblygu ac ehangu'r gwasanaethau

iechyd meddwl a chyfeillio

Llywodraeth

Cymru,

Byrddau

Iechyd Lleol

Drwy Law yn Llaw at Iechyd Meddwl: Cynllun Cyflawni75, mae gan

wasanaethau, gan gynnwys cynlluniau cyfeillio, ddealltwriaeth well

o effaith unigrwydd ac ynysu cymdeithasol ar iechyd meddwl fel bod

pobl hŷn yn llai tebygol o deimlo’n unig a chymdeithasol ynysig.

Cynnydd: Parhau i weithio ar y maes blaenoriaeth o ‘wella iechyd a lles pobl yng

Nghymru drwy leihau unigrwydd ac unigedd dieisiau’ gyda phartneriaid allweddol.

Cartrefi

Cymunedol

Cymru,

Arweinyddiaet

h Tai Cymru

Mae cymdeithasau tai a landlordiaid cymdeithasol yn deall y risg o

unigrwydd ac unigedd yn well gan roi cefnogaeth a chymorth fel

bod tenantiaid hŷn yn llai tebygol o deimlo’n unig a chymdeithasol

ynysig.

Cynnydd: Gweithredu’r ymrwymiadau i leihau unigrwydd ac unigedd yn adroddiad

Grŵp Arbenigol Llywodraeth Cymru ar Dai i Bobl Hŷn Cymru76. Hefyd ,mae

trafodaethau yn parhau gydag ategi ar botensial cyflwyno'r gwasanaeth Homeshare

i Gymru.

74

http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Pocket-Guide-to-Being-Dementia-Supportive-cym.pdf 75

http://gov.wales/topics/health/nhswales/plans/mental-health/?skip=1&lang=cy 76

http://gov.wales/docs/desh/publications/170213-expert-group-final-report-cy.pdf