olympiad bioleg prydain · b. pilen niwclear allanol c. pilen niwclear fewnol d. pilen bothellog e....

23
Olympiad Bioleg Prydain 2010 Y rownd gyntaf Uchafswm sgôr – 100 61 – Medal aur 56 – Medal arian 51 – Medal efydd 47 – Cymeradwyaeth uchel 41 – Cymeradwyaeth

Upload: others

Post on 12-Jul-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Olympiad Bioleg Prydain · B. Pilen niwclear allanol C. Pilen niwclear fewnol D. Pilen bothellog E. Tonoplast 5. Mae cellfur bacteriol yn cyflawni’r holl swyddogaethau canlynol

Olympiad Bioleg Prydain

2010

Y rownd gyntaf

Uchafswm sgôr – 100 61 – Medal aur 56 – Medal arian 51 – Medal efydd 47 – Cymeradwyaeth uchel 41 – Cymeradwyaeth

Page 2: Olympiad Bioleg Prydain · B. Pilen niwclear allanol C. Pilen niwclear fewnol D. Pilen bothellog E. Tonoplast 5. Mae cellfur bacteriol yn cyflawni’r holl swyddogaethau canlynol

1. Mae pob un o’r canlynol yn ffactorau sy’n dylanwadu ar hylifedd pilenni, ac eithrio pa un? A. Nifer y bondiau dwbl yn y lipidau B. Tymheredd C. Symudiad anwadal lipidau D. Colesterol E. Protein 2. Pa un o’r datganiadau canlynol, neu gyfuniad o ddatganiadau, sy’n gywir yngl n â synthesis protein? 1. Dim ond trwy ribosomau sydd ynghlwm wrth y reticwlwm endoplasmig y mae synthesis protein yn digwydd. 2. Mae moleciwlau tRNA yn cludo asidau amino i ribosomau yn ystod synthesis protein. 3. Gall codon godio ar gyfer mwy nag un asis amino. A. 1 yn unig. B. 2 yn unig. C. 3 yn unig. D. 1 a 2 yn unig. E. 2 a 3 yn unig. 3. Yr esboniad gorau ar gyfer y datganiad “Mae ATP yn well na glwcos neu asidau brasterog fel ffynhonnell egni ar gyfer metabolaeth celloedd” yw: A. mae egni’n cael ei ryddhau’n gyflym B. mae mwy o egni’n cael ei ryddhau C. nid oes rhaid cael ATP ar gyfer resbiradaeth D. mae egni’n cael ei ryddhau mewn symiau bach y gellir ymdopi â nhw E. mae egni’n cael ei ryddhau’n barhaus 4. Mae’r reticwlwm endoplasmig yn estyniad o ba bilen? A. Pilen celloedd allanol / pilen unedol B. Pilen niwclear allanol C. Pilen niwclear fewnol D. Pilen bothellog E. Tonoplast 5. Mae cellfur bacteriol yn cyflawni’r holl swyddogaethau canlynol heblaw A. rhoi siâp a chadernid i’r gell B. bod yn safle gweithredu ar gyfer rhai gwrthfiotigau C. bod yn gysylltiedig â rhai symptomau clefyd D. diogelu’r gell rhag ffagosytosis E. helpu i adnabod y math o facteriwm 6. Sut mae cyanid (CN) yn achosi marwolaeth pethau byw? A. Trwy atal ffotosynthesis B. Trwy dorri moleciwlau protein i lawr C. Trwy atal ocsideiddio D. Trwy atal llif electronau drwy’r Gadwyn Cludo Electronau E. Trwy atal defnyddio cronfeydd egni wrth gefn 3

Page 3: Olympiad Bioleg Prydain · B. Pilen niwclear allanol C. Pilen niwclear fewnol D. Pilen bothellog E. Tonoplast 5. Mae cellfur bacteriol yn cyflawni’r holl swyddogaethau canlynol

7. Mae’r graff isod yn dangos cyniferydd resbiradol hadau blodau’r haul sy’n egino. Mae’r tabl yn dangos y prif fath o weithgarwch resbiradol ym mhwyntiau X, Y a Z ar y graff. Pa un o’r rhesi A-E sy’n dangos trefn gywir y gweithgareddau? X Y Z A Resbiradaeth anaerobig Resbiradaeth aerobig

brasterau Resbiradaeth aerobig carbohydradau

B Resbiradaeth aerobig carbohydradau

Resbiradaeth anaerobig Resbiradaeth aerobig brasterau

C Resbiradaeth aerobig carbohydradau

Resbiradaeth aerobig brasterau

Resbiradaeth anaerobig

D Resbiradaeth anaerobig Resbiradaeth aerobig carbohydradau

Resbiradaeth aerobig brasterau

E Resbiradaeth aerobig brasterau

Resbiradaeth anaerobig Resbiradaeth aerobig carbohydradau

8. Pa gyfuniad o’r datganiadau canlynol yngl n â phriodweddau organynnau sy’n gywir? 1. Mae mitocondria’n cynnwys eu DNA eu hunain 2. Mae lysosomau’n cynnwys sawl math o ensym 3. Mae gan hepatocytau organigyn Golgi sydd wedi datblygu’n dda 4. Mae ribosomau ynghlwm wrth yr RER bob amser A. 1, 2 a 3 B. 2, 3 a 4 C. 1, 2 a 4 D. 1, 3 a 4 E. Pob un 9. Mae’r holl foleciwlau isod, heblaw un, naill ai’n rhan o’r Gylchred Krebs neu’r Gadwyn Cludo Electronau mewn resbiradaeth aerobig. Pa un sydd ddim yn perthyn? A. NADH B. FADH2 C. NADPH D. Synthas ATP E. Ocsidas sytocrom

Page 4: Olympiad Bioleg Prydain · B. Pilen niwclear allanol C. Pilen niwclear fewnol D. Pilen bothellog E. Tonoplast 5. Mae cellfur bacteriol yn cyflawni’r holl swyddogaethau canlynol

10. Pa gyfuniad o’r datganiadau canlynol sy’n gywir? 1. Mae’r rhan fwyaf o gelloedd yn gallu cyflawni ffagosytosis. 2. Mae ffagosytosis yn defnyddio mwy o ronynnau mawr na phinocytosis. 3. Mewn unrhyw gyfnod penodol, mae cyfaint y deunydd endosytotig tua dwywaith cymaint â chyfaint y deunydd ecsosytotig. 4. Mae pinocytosis yn dewis a dethol moleciwlau yn unol ag anghenion y gell. 5. Gall endosytosis a gyfryngir gan dderbynnydd fod yn bwynt mynediad i feirysau. A. 1 a 4 B. 2 a 5 C. 1, 3 a 5 D. 2, 3 a 4, E. Pob un 11. Mae pob un o’r datganiadau canlynol yngl n â strwythur DNA yn gywir, ac eithrio pa un? A. Mae cyfanswm y niwcleotidau sytosin a gwanin yn gyfartal bob amser B. Mae basau pwrin yn paru â basau pyrimidin C. Mae wracil yn paru ag adenin D. Mae bondiau ffosffodiestr yn cysylltu â niwcleotidau cyfagos E. Bondiau hydrogen yw’r prif rymoedd sy’n cynnal strwythur helics dwbl 12. Mae’r gwaith o gynhyrchu bara, cwrw a gwin yn cynnwys eplesiad alcoholig glwcos i ethanol trwy furum. Pa gyfuniad o’r pum datganiad canlynol yngl n â’r broses hon sy’n gywir? 1. Mae burum yn cyflawni’r eplysiad hwn gan nad yw celloedd burum yn cynnwys mitocondria 2. Ar gyfer pob moleciwl o ethanol a gynhyrchir, caiff un moleciwl o CO2 ei esblygu 3. Cynhyrchiant net ATP yw dau foleciwl i bob moleciwl o glwcos a eplesir 4. Mae mwy na 80% o egni cemegol y glwcos yn cael ei ryddhau fel gwres 5. Mae glycolysis yn rhan annatod o’r eplysiad hwn A. 1, 2 a 3 B. 1, 2 a 4 C. 2, 3 a 5 E. 3, 4 a 5 13. Pe gallech gael gwared ar yr holl foleciwlau protein o bilen blasma cell (heb ddinistrio’r gell) yn sydyn, pa un o’r canlynol fyddech chi’n disgwyl ei weld yn digwydd? A. Byddai cludiant yr holl foleciwlau ar draws y bilen blasma’n dod i ben. B. Byddai cludiant y rhan fwyaf o ïonau ar draws y bilen blasma’n dod i ben. C. Byddai cyfanswm y colesterol yn y bilen blasma’n lleihau. D. Byddai asidau amino’n cyfuno’n gyflym ar y bilen blasma ac yn disodli’r proteinau coll. E. Byddai macromoleciwlau mawr yn tryledu allan o’r gell.

Page 5: Olympiad Bioleg Prydain · B. Pilen niwclear allanol C. Pilen niwclear fewnol D. Pilen bothellog E. Tonoplast 5. Mae cellfur bacteriol yn cyflawni’r holl swyddogaethau canlynol

14. Mae’r gwrthfiotig erythromysin yn gweithio trwy atal symudiad y ribosom ar hyd mRNA procaryotig. Os rhoddir erythromysin, pa un o’r effeithiau canlynol y gellid disgwyl ei weld yn syth mewn cell facteriol? A. Ataliad trawsgrifiad DNA i RNA B. Ataliad trosiad RNA i brotein C. Ataliad atgynhyrchiad DNA D. Ataliad trawsgrifiad rRNA yn unig E. Ataliad synthesis asidau amino 15. Pa un o’r canlynol sy’n adwaith “rhydwytho”? A. Na + H2O Na+ + HO- + ½H2 B. H2 2H+ + 2e- C. CH4 + O2 CH2O + H2O D. 2H2 + O2 2H2O E. Cl2 + 2e- 2Cl- 16. Pan fydd cell yn dangos plasmolysis cychwynnol: A. bydd y potensial d r ar ei werth lleiaf negyddol B. bydd y potensial pwysedd yn sero C. bydd y potensial toddyn yn uchel a chadarnhaol D. bydd y potensial toddyn yn uchel a negyddol E. bydd y potensial pwysedd yn uchel 17. Y rhannau o enyn nad ydynt yn codio ar gyfer protein yw: A. codonau B. clonau C. ecsonau D. intronau E. paratowyr 18. Pa un o’r prosesau canlynol sy’n amsugno egni rhydd (h.y. egni sy’n endergonig)? 1. Sefydlogiad nitrogen 2. Resbiradaeth 3. Ffotosynthesis 4. Cyflawni homeostasis A. 1 yn unig B. 1 a 2 C. 1, 3 a 4 D. 1 a 4 E. 3 a 4 19. Ar ba un o nodweddion canlynol asidau niwclëig y mae synthesis protein yn y gell yn dibynnu yn y pen draw? A. Mae DNA ar ffurf helics dwbl B. Mae’r basau DNA mewn dilyniant penodol C. Mae’r bondiau hydrogen rhwng y basau’n wan D. Mae RNA negeseuol yn un edefyn E. Mae DNA yn atgynhyrchu ei hun

Page 6: Olympiad Bioleg Prydain · B. Pilen niwclear allanol C. Pilen niwclear fewnol D. Pilen bothellog E. Tonoplast 5. Mae cellfur bacteriol yn cyflawni’r holl swyddogaethau canlynol

20. Gall microsgop electron (cydraniad 1nm) ddelweddu strwythurau sy’n llai na 100 nanometr. Pa strwythurau allech chi eu gweld gyda chymorth microsgop electron yn unig? 1. Wy broga 2. Cloroplast planhigyn 3. Gronyn feirws 4. Moleciwl protein 5. Y rhan fwyaf o facteria A. 1, 2 a 5 B. 2 a 3 C. 3 a 4 D. 3 a 5 E. 4 yn unig

21. Pa nodwedd sydd gan angiosbermoffytau, ond nad yw gan conifferoffytau?

A. Dail B. Hadau C. Sylem D. Blodau E. Stomata 22. Mae’r diagram isod yn crynhoi’r adweithiau dibynnol ar olau mewn ffotosynthesis. Beth sy’n digwydd yn X? A. ADP + Pi ATP B. NADP NADPH + H+ C. 2H2O O2 + 4H D. RuBP + CO2 2GP E. GP + ATP + NADPH TP 23. Mae crymedd tropig mewn gwraidd yn digwydd oherwydd: A. disgyrchiant yn dinistrio awcsin B. symudiad symiau gwahanol o awcsin i mewn i bob ochr o’r ardal dyfu C. cynhyrchiant symiau gwahanol o awcsin i lawr bob ochr o’r ardal dyfu D. anwythiad gwahanol ymatebion ar bob ochr i’r gwraidd, er bod yr awcsin wedi’i ddosbarthu’n gyfartal E. dinistriad awcsin ar ochr geugrwm ardal dyfu

Page 7: Olympiad Bioleg Prydain · B. Pilen niwclear allanol C. Pilen niwclear fewnol D. Pilen bothellog E. Tonoplast 5. Mae cellfur bacteriol yn cyflawni’r holl swyddogaethau canlynol

24. Pa un o’r effeithiau canlynol sy’n digwydd o ganlyniad i asid giberelig ac asid indol asetig? A. Anwythiad amylas alffa mewn gronynnau hadau B. Hyrwyddo estyniad celloedd C. Torri hunedd mewn hadau D. Gwrthdroi corachedd genetig E. Atal tyfiant blagur ochr 25. Cafodd darnau o wreiddiau eu trochi mewn toddiannau meithrin sy’n cynnwys sylffwr ymbelydrol fel 35SO4

2-. Cafodd un set ei hawyru a gyrrwyd swigod nitrogen trwy un arall. Mesurwyd cyfanswm y 35SO4

2- yn y gwreiddiau yn gyfnodol ac mae’r canlyniadau i’w gweld yn y graff isod:

O’r canlyniadau, y casgliad gorau yw: A. bod y nitrogen yn amharu ar gynhyrchiant ATP. B. bod trylediad goddefol 35SO4

2- yn digwydd rhwng y toddiannau a’r gwreiddiau. C. bod y cymeriant 35SO4

2- yn broses weithredol D. bod y cymeriant 35SO4

2- yn cynnwys prosesau gweithredol a goddefol E. bod y nitrogen yn amharu ar y cymeriant i raddau yn unig

26. Diod oer a llaethog sy’n gyffredin yn Sbaen yw Horchata. Fe’i gwneir o gloron planhigyn tebyg i hesgen o’r enw Chufa. Ystyr cloron yw:

A. terfynau mawr rhisomau neu stolonau sy’n arbenigo ar storio bwyd B. gwreiddiau mawr sy’n storio maetholion dros y gaeaf C. strwythurau gwreiddiau arbenigol a geir o dan ddaear D. term arall am fylbiau E. coesynnau chwyddedig arbenigol

27. Pa un o’r hormonau planhigion neu ddosbarthiadau hormonau planhigion canlynol sydd yn cael ei syntheseiddio’n bennaf ym meristemau apigol (coesynnau) planhigion? A. Ethylen. B. Asid absisig. C. Giberelin. D. Cytocinin. E. Awcsin.

Page 8: Olympiad Bioleg Prydain · B. Pilen niwclear allanol C. Pilen niwclear fewnol D. Pilen bothellog E. Tonoplast 5. Mae cellfur bacteriol yn cyflawni’r holl swyddogaethau canlynol

28. Pa un o’r strwythurau canlynol sy’n darparu maeth i gronyn paill yn ystod ei ddatblygiad yn y goden paill? A. Endosberm B. Niwcellws C. Brych D. Stomiwm E. Tapetwm 29. Mae’r graffiau’n cynrychioli effeithiau arddwysedd golau ar y cydbwysedd rhwng ffotosynthesis a resbiradaeth mewn planhigyn haul a phlanhigyn cysgod. Pa gyfuniad o’r datganiadau canlynol a gefnogir gan y wybodaeth a ddarperir? 1. Golau yw’r ffactor terfannol mewn planhigyn haul 2. Mae cynhyrchiant planhigion haul yn uwch na chynhyrchiant planhigion cysgod 3. Nid yw planhigion â phwynt cyfadfer isel yn gwneud defnydd effeithlon o arddwyseddau golau uchel 4. Mae cyfradd fetabolig sylfaenol planhigion haul yn uwch na chyfradd planhigion cysgod 5. Mae resbiradaeth yn digwydd tra bod y ddau fath o blanhigyn yn ffotosyntheseiddio A. 1, 2, 3 a 4 B. 1, 2 ,3 a 5 C. 1, 2, 4 a 5 D. 1, 3, 4 a 5 E. 2, 3, 4 a 5 30. Llifyn glas sy’n dadliwio wrth gael ei rydwytho yw indoffenol dichloroffenol (DCPIP). Ar ôl ei gymysgu â DCPIP, pa un o’r canlynol fyddai’n dangos y newid mwyaf mewn lliw? A. Cloroplastau arunig yn y tywyllwch; B. Cloroplastau arunig mewn golau; C. Echdyniad cloroffyl yn y tywyllwch; D. Cloroplastau wedi’u berwi yn y tywyllwch; E. Cloroplastau wedi’u berwi mewn golau.

Page 9: Olympiad Bioleg Prydain · B. Pilen niwclear allanol C. Pilen niwclear fewnol D. Pilen bothellog E. Tonoplast 5. Mae cellfur bacteriol yn cyflawni’r holl swyddogaethau canlynol

31. Mewn angiosbermau, y pigment sy’n gyfrifol am synhwyro hyd diwrnod yw: A. caroten B. cloroffyl C. sytocrom D. ffytocrom E. awcsin 32. Mewn ffotosynthesis, mewn planhigyn C4: A. Mae CO2 yn cael ei dderbyn gan y swbstrad RuBP a’i sefydlogi fel PGA B. Mae CO2 yn cael ei dderbyn gan y swbstrad RuBP a’i sefydlogi fel asid ocsaloasetig C. Mae CO2 yn cael ei dderbyn gan y swbstrad PEP a’i sefydlogi fel PGA D. Mae CO2 yn cael ei dderbyn gan y swbstrad PEP a’i sefydlogi fel asid ocsaloasetig E. Mae CO2 yn cael ei dderbyn gan y swbstrad PEP a’i sefydlogi fel RuBP 33. Gelwir y meinweoedd sy’n ffurfio edafedd hir, gwydn, megis coesyn deilen seleri, yn: A. epidermis B. colencyma C. sglerencyma D. parencyma E. ffloem 34. Mae gan redyn: A. ddail, coesynnau a gwreiddiau, ond dim blodau na hadau B. dail a gwreiddiau, ond dim coesynnau, blodau na hadau C. dail, coesynnau, gwreiddiau a hadau ond dim blodau D. dail ond dim coesynnau, gwreiddiau, hadau na blodau E. coesynnau, gwreiddiau ond dim blodau, hadau na dail 35. Pan fo sborau rhedyn yn disgyn ar dir llaith, gallant ddatblygu’n strwythurau bach siâp calon a fydd yn cynnwys: A. yr organau atgenhedlu gwrywaidd B. yr organau atgenhedlu benywaidd C. dim organau ategenhedlu, gan mai dyma’r cyfnod anrhywiol D. yr ogranau ategenhedlu gwrywaidd a benywaidd E. y genhedlaeth sboroffyt 36. Darperir y prif rwystr i hidlad hylif i mewn i gwpan Bowman gan y: A. podosytau B. capilari endotheliwm C. mandyllau D. pilen waelodol E. celloedd coch y gwaed 37. Byddai ysgogi’r nerf fagws i’r galon yn: A. cynyddu allbwn gwaed B. cynyddu cyfradd cyfangiad y galon C. lleihau cyfradd cyfangiad y galon

Page 10: Olympiad Bioleg Prydain · B. Pilen niwclear allanol C. Pilen niwclear fewnol D. Pilen bothellog E. Tonoplast 5. Mae cellfur bacteriol yn cyflawni’r holl swyddogaethau canlynol

D. lleihau’r pwysedd gwaed E. ysgogi’r systol atrïaidd 38. Mae tagellau pysgod d r hallt yn: A. colli d r trwy osmosis ac amsugno halen B. ennill d r trwy osmosis ac amsugno halen C. colli d r trwy osmosis ac alldaflu halen D. ennill d r trwy osmosis ac alldaflu halen E. alldaflu halen yn unig 39. Pa gyfuniad o’r datganiadau canlynol yngl n â chyhyrau sy’n gywir? 1. Mae ffilamentau trwchus yn cael eu ffurfio o fyosin yn bennaf. 2. Mae ffilamentau tenau’n cael eu ffurfio o actin yn bennaf. 3. Mae’r parth H yn cael ei ffurfio gan ffilamentau trwchus yn unig. 4. Mae band Z wedi’i leoli yng nghanol band I. 5. Mae actinin yn dal ffilamentau actin i ddisg Z. A. Pob un B. 2, 3, 4 a 5 C. 3, 4 a 5 D. 2, 3 a 5 E. 1, 2 a 3 40. Mae myocytau’n gelloedd sy’n gallu curo’n annibynnol, y tu allan i’r corff, os cânt gyflenwad o glwcos ac ocsigen. Mae’r celloedd hyn yn dod o: A. gyhyr B. y galon C. yr ymennydd D. protistau E. waliau rhydwelïau 41. Gellir disgwyl y bydd ïonau cyanid mewn crynodiadau isel iawn yn effeithio ar weithgarwch acson y nerfau trwy: A. leihau gweithgarwch y pwmp sodiwm B. atal symudiad y don dadbolaru C. atal neidiant D. newid athreiddedd y bilen acson E. lleihau gweithgarwch asetylcolin 42. Pa un o’r datganiadau canlynol yngl n â swyddogaeth yr afu sy’n anghywir? A. Mae’n syntheseiddio colesterol o asetyl Co A B. Mae’n cyflawni glwconeogenesis C. Mae’n metaboleiddio asidau amino, brasterau a charbohydradau D. Mae’n storio bustl, sy’n bwysig wrth emwlsio brasterau wrth dreulio bwyd E. Mae’n cynhyrchu proteinau plasma a heparin 43. Pa un o’r datganiadau isod yngl n â system nerfol mamaliaid sy’n gywir? A. Mae ysgogiadau nerfol synhwyraidd yn mynd i mewn i fadruddyn y cefn trwy’r gwreiddyn dorsal B. Mae ysgogiadau nerfol synhwyraidd yn mynd i mewn i fadruddyn y cefn trwy’r gwreiddyn fentrol

Page 11: Olympiad Bioleg Prydain · B. Pilen niwclear allanol C. Pilen niwclear fewnol D. Pilen bothellog E. Tonoplast 5. Mae cellfur bacteriol yn cyflawni’r holl swyddogaethau canlynol

C. Mae ysgogiadau nerfol echddygol yn mynd i mewn i fadruddyn y cefn trwy’r gwreiddyn dorsal D. Mae ysgogiadau nerfol echddygol yn mynd i mewn i fadruddyn y cefn trwy’r gwreiddyn fentrol E. Mae ysgogiadau nerfol echddygol yn gadael madruddyn y cefn trwy’r gwreiddyn dorsal 44. Mae’r lluniau canlynol yn dangos gwahanol rannau o system nerfol mamal wedi’i chwyddo i wahanol feintiau. Pa un o’r pum gr p isod sy’n dangos y drefn gywir o ran maint, gyda’r mwyaf yn gyntaf? A 4 3 1 2 B 3 1 2 4 C 4 1 3 2 D 2 1 3 4 E 4 2 1 3 45. Pa rai o’r nodweddion canlynol sy’n nodweddiadol o niwtroffil? 1. Mae’n agranwlosytig 2. Mae’n amlyncu bacteria trwy ffagosytosis 3. Dyma gell wen fwyaf cyffredin y gwaed 4. Dyma gell wen leiaf y gwaed 5. Mae ganddo gnewyllyn crwn cryno A. 1, 2 a 3 B. 1, 2, 3 a 5 C. 2 a 3 D. 2, 3 a 4 E. Pob un 46. Prif elfen plasma gwaed yw: A. Ca2+

B. CO2 C. O2 D. Wrea E. D r 47. Mae lymffocyt-B yn cynhyrchu a secretu gwrthgyrff. Felly, pa strwythur(au) o’i brotoplast a ddylai fod wedi datblygu’n dda? A. dim ond y reticwlwm endoplasmig llyfn B. dim ond y reticwlwm endoplasmig llyfn a’r organigyn Golgi C. dim ond y reticwlwm endoplasmig garw D. dim ond y reticwlwm endoplasmig garw a’r organigyn Golgi E. y reticwlwm endoplasmig garw, yr organigyn Golgi a’r lysosomau

Page 12: Olympiad Bioleg Prydain · B. Pilen niwclear allanol C. Pilen niwclear fewnol D. Pilen bothellog E. Tonoplast 5. Mae cellfur bacteriol yn cyflawni’r holl swyddogaethau canlynol

48. Mae’r olion Cymograff isod yn dangos y cyfangiadau a gynhyrchir gan gyhyr croth y goes broga pan gafodd y nerf clunol ei ysgogi ar wahanol amleddau a folteddau. Pa gyfuniad o ymatebion sy’n rhoi’r dadansoddiad gorau o’r set uchod o olion? Cyfnod gwrthsafol

absoliwt Y ddeddf “popeth neu ddim byd”

Cynnal tetanedd

A D D C B B D B C C C D D D C C E A D C 49. Pa un o’r newidiadau canlynol sy’n digwydd pan fo unigolyn yn ymgynefino ag uchderau uchel? A. Cyfradd y galon yn cynyddu B. Gallu’r ysgyfaint yn cynyddu C. Gallu’r gwaed i gludo ocsigen yn cynyddu D. Cyfaint y gwaed yn cynyddu E. Cyfradd anadlu’n cynyddu 50. Mae rhai metelau wedi’u cysylltu â gwahanol glefydau niwrolegol, gan gynnwys clefyd Parkinson a chlefyd Alzheimer. Pa fetelau sydd wedi’u cysylltu fwyaf â’r ddau glefyd hwn? Clefyd Parkinson Clefyd Alzheimer A Plwm Alwminiwm B Haearn Copr C Copr Haearn D Alwminiwm Haearn E Haearn Alwminiwm 51. Pa un o’r canlynol fyddai’n peri i’r arennau ailamsugno mwy o dd r? A. Cyfaint gwaed uwch B. Allbwn cardiaidd uwch C. Pwysedd gwaed is D. Crynodiad hormon gwrth-ddiwretig (ADH) is E. Lefelau aldosteron is 52. Mae llinyn gwreiddyn fentrol y pryf genwair yn cynnwys ffibrau mawr sy’n cyfrannu at ei ymateb dianc. Mae’r ymateb hwn yn dirywio os ailadroddir yr ysgogiad. Defnyddiwyd y trefniadau canlynol i ddod o hyd i’r pwynt neu’r pwyntiau lle mae’r system yn methu. O’r cyfuniadau isod, pa drefniant y gellid ei ddefnyddio’n fwyaf effeithiol i brofi’r damcaniaethau bod methiant yn digwydd? Ar synapsau rhwng y

niwronau synhwyraidd a’r ffibrau mawr.

Ar synapsau rhwng ffibrau mawr a niwronau motor.

Ar gysylltleoedd niwrogyhyrol.

A C A B B C D B C B A C D C B A E A B C

Page 13: Olympiad Bioleg Prydain · B. Pilen niwclear allanol C. Pilen niwclear fewnol D. Pilen bothellog E. Tonoplast 5. Mae cellfur bacteriol yn cyflawni’r holl swyddogaethau canlynol

53. Mae pob un o’r datganiadau canlynol yngl n ag ysgogiad nerfol yn gywir, ac eithrio pa un? A. Mae maint ysgogiad yr un fath bob amser B. Ar ôl un ysgogiad, mae yna gyfnod diddigwydd pan na ellir ailysgogi’r acson C. Gall ysgogiad nerfol symud ar hyd acson i un cyfeiriad yn unig D. Mae ganddo drothwy na ellir ei ysgogi oddi tano E. Potensial gorffwys acson yw - 70mV 54. Pa anifail fyddai’n cynhyrchu sylwedd gwastraff nitrogenaidd gyda’r hydoddedd isaf mewn d r? A. Glöyn byw B. Siarc C. Broga D. Arth wen E. Pysgodyn d r croyw 55. Pa un o’r canlynol sy’n enghraifft o system adborth negyddol? A. Po fwyaf y crafwch, po fwyaf y mae’n cosi, felly rydych yn crafu mwy fyth. B. Wrth i’r lefelau siwgr yn y gwaed gynyddu, caiff inswlin ei ryddhau, gan ysgogi celloedd i ddefnyddio siwgr. C. Wrth esgor ar blentyn, mae pwysau pen y baban ar geg y groth yn rhyddhau signal hormon sy’n cynyddu cryfder cyfangiadau yn y llwybr geni. D. Mae rhoi pwysau ar frêc y car wrth ddod i stop yn gyflym yn achosi momentwm ymlaen ar y gyrrwr, gan gynyddu’r pwysau ar y brêc. E. Mae cymhwyso cyffur dadbolaru i niwron yn achosi i’r bilen gyrraedd potensial trothwy sy’n agor y sianeli foltedd Na+. 56. Mewn aren mamal, beth sy’n achosi i dd r gael ei ailamsugno yn aelod disgynnol dolen Henle? A. Cludiant gweithredol halen allan o’r tiwbyn. B. Cynnydd yn osmolariti’r hylif neffron (hidlif). C. Trylediad halen allan o’r tiwbyn. D. Pwysedd gwaed uchel. E. Secretiad ïonau hydrogen o’r medwla arennol i mewn i’r tiwbyn. 57. Yng nghylchrediad y gwaed mewn mamaliaid, mae hylif gormodol sy’n aros mewn meinweoedd (hylif interstitaidd) yn cael ei: A. ddefnyddio i greu wrin. B. gwaredu ar ffurf chwys. C. draenio i ffwrdd gan y system lymffatig. D. ailamsugno i mewn i’r gwely capilari. E. amsugno gan gelloedd braster. 58. Pan fyddwch yn gwrando ar guriad calon rhywun trwy stethosgop, mae s n “lyb” meddalach y

n “lyb-dyb” mae’r galon yn ei wneud yn cael ei achosi gan ba un o’r gweithredoedd canlynol? A. Cau’r falfiau atriofentriglol (meitrol a theirlen). B. Cau’r falfiau cilgant (aortig ac ysgyfeiniol). C. S n gwaed yn byrlymu i mewn i’r atria. D. S n gwaed yn byrlymu i mewn i’r fentriglau. E. S n gwaed yn byrlymu i mewn i’r aorta.

Page 14: Olympiad Bioleg Prydain · B. Pilen niwclear allanol C. Pilen niwclear fewnol D. Pilen bothellog E. Tonoplast 5. Mae cellfur bacteriol yn cyflawni’r holl swyddogaethau canlynol

59. Pam mae math newydd o ffliw adar sy’n gallu achosi salwch difrifol mewn pobl yn peri pryder i lywodraethau ledled y byd? 1. Mae gan y bacteriwm sy’n achosi ffliw adar ymwrthedd i’r rhan fwyaf o wrthfiotigau. 2. Gall yr organeb sy’n achosi ffliw adar fwtanu fel y gall ledaenu o un person i’r llall. 3. Mae’r organeb sy’n achosi ffliw adar yn cael ei chludo gan adar gwyllt, a gall gael ei lledaenu ledled y byd wrth i adar fudo. 4. Gall yr organeb sy’n achosi ffliw adar gael ei lledaenu trwy fwyta cyw iâr wedi’i goginio. 5. Ni fydd brechlynnau’n gweithio yn erbyn y math o organeb sy’n achosi ffliw adar. A. 1, 2, 3, 4 a 5 B. 1 a 5 C. 2 a 3 D. 2, 3 a 4 E. 4 a 5 60. Mae gan glaf symptomau cawraeth. Ar ôl cyfres o brofion, deuir i’r casgliad ei bod hi’n debygol bod gan y claf diwmor ar ba un o’r strwythurau canlynol? A. Chwarren bitwidol B. Chwarren adrenal C. Chwarren thyroid D. Hypothalamws E. Chwarren barathyroid 61. Pan fo cerrynt o dd r o diwb capilari yn cael ei gyfeirio yn erbyn disg y protosoad mawr Stentor, mae’r anifail yn cyfangu’n gyntaf, cyn ehangu eto’n fuan. Y tro nesaf, yn hytrach nag ymateb i’r cerrynt, mae’n parhau â’i weithgareddau arferol yn syth. Mae’r patrwm ymddygiad hwn yn enghraifft o: A. gyflyru clasurol B. cyflyru gweithredol C. dysgu cudd D. dysgu atgyrchol E. cynefiniad (cyflyru negyddol) 62. Mae bwyta ysgarthion nos yn un o nodweddion cyffredin y gwningen. Pa ddatganiad sy’n rhoi’r disgrifiad gorau o fantais fiolegol yr arfer hwn? A. Mae’n sicrhau y gellir amsugno cynhyrchion treuliad sy’n mynd i mewn i’r colon. B. Mae d r yn cael ei gadw mewn anifail nad yw’n yfed llawer o dd r. C. Mae’n goresgyn problem ilewm byr. D. Ni fydd ysglyfaethwyr nos fel llwynogod yn gallu canfod eu hysglyfaeth. E. Mae’n sicrhau bod cymathiad yn gyflawn. 63. Fel arfer, prif effaith ymddygiad tiriogaethol mewn mamaliaid cymdeithasol yw: A. gwasgaru aelodau poblogaeth. B. hyrwyddo defnydd darbodus o’r bwyd sydd ar gael. C. rhannu llafur. D. atal rhyngfridio â grwpiau eraill. E. hyrwyddo sefydlu hierarchaeth.

Page 15: Olympiad Bioleg Prydain · B. Pilen niwclear allanol C. Pilen niwclear fewnol D. Pilen bothellog E. Tonoplast 5. Mae cellfur bacteriol yn cyflawni’r holl swyddogaethau canlynol

64. Mae patrymau ymddygiad anifeiliaid, lle mae unigolyn yn peryglu ei fywyd er lles aelodau eraill o’r gr p, yn cael eu galw’n allgarol. Credir bod ymddygiad allgarol yn cael ei ffafrio gan ddetholiad ceraint. Pa un o’r enghreifftiau canlynol na ellir ei briodoli i ddetholiad ceraint? A. Ymosodiad hunanladdol gan wenynen weithgar sy’n gwarchod ei chwch gwenyn B. Marchforgrug yn diogelu brenhines rhywogaeth o forgrug C. Cenawon llew yn cael eu hamddiffyn gan lewes NAD yw’n fam iddynt D. Crï aderyn yn rhybuddio unigolion eraill bod perygl gerllaw E. Yn wir, mae’n debyg bod yr holl batrymau ymddygiad uchod wedi codi o ganlyniad i ddetholiad ceraint 65. Mae ymchwilwyr wedi dangos ei bod yn well gan rugieir du benywaidd ifanc baru â gwrywod sydd wedi paru â benywod eraill. Pa un o’r canlynol nad yw’n rhagdybiaeth y gellir ei phrofi ar gyfer achosiad eithaf yr ymddygiad hwn? A. Mae copïo benywod eraill yn cyflymu’r broses o ddewis cymar ac yn gwneud y rugiar yn llai agored i ysglyfaethwyr B. Mae dynwared yn helpu grugieir benywaidd ifanc i ddysgu i adnabod nodweddion gwrywod a all wella addasrwydd C. Mae copïo benywod eraill yn cyflymu’r broses o ddewis cymar ac yn gwella addasrwydd grugieir benywaidd ifanc D. Mae rhai gwrywod yn sefyll mewn man yn agos at ganol y “lek” (ardal arddangos a charwriaeth) E. Mae grugieir du yn dewis eu cymheiriaid trwy gufuniad o ffactorau genetig ac amgylcheddol 66. Mae’r diagram isod yn dangos llinach teulu dynol lle nad oes gan yr unigolion sydd wedi’u lliwio’n dywyll unrhyw chwarennau chwys. Mae hwn yn gyflwr prin iawn. Pa un o’r canlynol fyddai’r casgliad gorau o’r data? A Mae mwtaniad wedi digwydd yn unigolyn P B. Mae’r alel mwtan ar gromosom X C. Nid yw’r alel normal yn gwbl drechol D. Mae’r alel mwtan yn enciliad awtosomaidd E. Mae’r alel mwtan ar gromosom Y 67. Mae’r siart llinach isod yn dangos grwpiau gwaed dau o blant a’u mam. Beth all gr p gwaed y tad fod? A. A yn unig B. A neu B C. A neu AB D. A, B neu AB E. A, B, AB neu O 68. Mae cell ddiploid yn cynnwys yr alelau R ac r ar un pâr o gromosomau homologaidd a’r alelau S ac s ar bâr arall o gromosomau homologaidd. Sawl cyfuniad o’r alelau hyn allai ymddangos yn y gametau ar ôl meiosis? A. 1 B. 2 C. 4 D. 8 E. 16

Page 16: Olympiad Bioleg Prydain · B. Pilen niwclear allanol C. Pilen niwclear fewnol D. Pilen bothellog E. Tonoplast 5. Mae cellfur bacteriol yn cyflawni’r holl swyddogaethau canlynol

69. Mae dau fath o’r gwyfyn brith Biston betularia i’w cael sy’n wahanol yn forffolegol, sef y math brith (typica) a’r math mwtan (carbonaria). Y math carbonaria yw’r mwyaf cyffredin mewn ardaloedd diwydiannol a’r math typica yw’r mwyaf cyffredin mewn ardaloedd gwledig. Pa un o’r canlynol sy’n rhoi’r esboniad lleiaf boddhaol o’r dosbarthiad hwn? A. Mae llygredd diwydiannol yn cynyddu amlder y mwtaniad B. Mae cyfradd goroesi’r math carbonaria yn uwch mewn ardal â llygredd diwydiannol C. Mae newidiadau yn y cynefin a achosir gan lygredd diwydiannol yn achosi detholiad yn erbyn typica D. Mae ysglyfaethu gan adar yn effeithio ar ddosbarthiad y ddau fath E. Mae newidiadau yn y cynefin a achosir gan lygredd diwydiannol yn cynyddu’r ysgyflaethu ar typica 70. Wrth ddefnyddio’r dechneg cipio-ailgipio i amcangyfrif maint poblogaeth anifail, pa un o’r canlynol fyddai’n arwain at amcangyfrif maint y boblogaeth yn rhy isel? 1. lefelau ysglyfaethu uwch ymhlith anifeiliaid wedi’u nodi o gymharu ag anifeiliaid heb eu nodi 2. denu mwy o anifeiliaid wedi’u nodi nag anifeiliaid heb eu nodi i’r trapiau 3. anifeiliaid heb eu nodi yn allfudo rhwng samplau 4. anifeiliaid yn ymfudo i’r ardal rhwng samplau 5. cyfradd marwolaethau uwch ond cymesur ymhlith anifeiliaid wedi’u nodi ac anifeiliaid heb eu nodi A. 1 a 2 B. 1 a 3 C. 2 a 3 D. 1 a 5 E. Pob un

Page 17: Olympiad Bioleg Prydain · B. Pilen niwclear allanol C. Pilen niwclear fewnol D. Pilen bothellog E. Tonoplast 5. Mae cellfur bacteriol yn cyflawni’r holl swyddogaethau canlynol

71. Pa ddatganiadau yngl n â mewnfridio sy’n gywir? 1. Mae mewnfridio’n cynyddu’r tebygolrwydd y bydd gan unigolion enciliad dwbl i alel anffafriol 2. Mae mewnfridio’n arwain at golli amrywiaeth genetig ymhlith unigolion o fath domestig 3. Daw gostyngiad mewn mewnfridio o ganlyniad i groesrywedd rhwng rhywogaethau digysylltiad 4. Mae mewnfridio’n hyrwyddo cadw nodweddion ffafriol 5. Mae mewnfridio’n cynyddu’r tebygolrwydd o nodweddion anffafriol A. 1, 2, 3 a 4 B. 1, 2 ,4 a 5 C. 1, 2 ,3 D. 1, 3 ,4 a 5 E. 1, 4 a 5 72. Pa ddatganiadau yngl n ag anhwylderau genetig mewn pobl sy’n gywir? 1. Mae amlder yr alel ar gyfer anemia cryman-gell yn uwch mewn poblogaethau brodorol mewn gwledydd gwlyb, trofannol gan ei bod yn fwy tebygol y bydd cludwyr yn goroesi malaria. 2. Mae dallineb lliw yn brin mewn menywod gan fod y cyflwr yn cael ei etifeddu’n enciliol a bod y genyn yn gysylltiedig â rhyw. 3. Mae syndrom Down yn digwydd pan fo tri chopi o gromosom 21 yn bresennol. 4. Mae anewploidiau, megis syndrom Down, yn ganlyniad i wallau yn nyblygiad DNA yn ystod cyfnod S. 5. Mae sberm sy’n cynnwys cromosom Y sy’n ffrwythloni ofwm (wy) nad yw’n cynnwys cromosom rhyw yn arwain at erthyliad naturiol. A. 1, 2, 3 a 4 B. 1, 2, 4 a 5 C. 1, 2, 3 a 5 D. 1, 3, 4 a 5 E. 2 ,3, 4 a 5 73. Mewn ffesantod, mae gwrywod yn fwy o faint ac mae ganddynt blu mwy lliwgar na benywod. Pa un o’r canlynol sydd fwyaf tebygol o esbonio’r gwahaniaethau hyn rhwng gwrywod a benywod? A. Detholiad naturiol B. Risg ysglyfaethu C. Dynwarediad D. Detholiad rhywiol E. Gwahaniaethau arbenigol rhwng y rhywiau 74. Pa un o’r canlynol sy’n rhoi’r disgrifiad gorau o’r “esgyll” sydd gan forloi, siarcod a phengwiniaid? A. Strwythurau homologaidd o ganlyniad i esblygiad dargyfeiriol. B. Strwythurau cydweddol o ganlyniad i esblygiad dargyfeiriol. C. Strwythurau homologaidd o ganlyniad i esblygiad cydgyfeiriol. D. Strwythurau cydweddol o ganlyniad i esblygiad cydgyfeiriol. E. Strwythurau homologaidd sy’n cynrychioli dosbarthiad monoffyletig.

Page 18: Olympiad Bioleg Prydain · B. Pilen niwclear allanol C. Pilen niwclear fewnol D. Pilen bothellog E. Tonoplast 5. Mae cellfur bacteriol yn cyflawni’r holl swyddogaethau canlynol

75. Pa un o’r canlynol sy’n enghraifft o esblygiad dargyfeiriol? A. Llygaid locustiaid ac adar duon B. Sgerbydau crwbanod a chimychiaid C. Adenydd chwilod duon ac ystlumod D. Adenydd chwilod duon ac adar E. Aelodau blaen colomennod a dolffiniaid 76. Mewn carnasiynau, mae genynnau sy’n codio ar gyfer lliw’r blodyn yn dangos perthynas trechedd anghyflawn. Mae blodau coch sy’n cael eu croesi â blodau gwyn yn cynhyrchu blodau pinc. Beth yw dosbarthiad disgwyliedig epil croes rhwng rhiant â blodau pinc a rhiant â blodau coch? A. Cymhareb o 1:1 rhwng coch a phinc B. Coch i gyd C. Pinc i gyd D. Cymhareb o 1:1 rhwng coch a gwyn E. Cymhareb o 1:2:1 rhwng coch a phinc a gwyn 77. Datblygodd cwmni cyffuriau bryfleiddiad newydd sy’n wenwynig iawn i fosgitos sy’n cario’r feirws West Nile. Yn sgil chwistrellu llawer o’r pryfleiddiad dros gyfnod o 10 mlynedd, gwelwyd gostyngiad sylweddol mewn poblogaethau mosgitos dros y pum mlynedd cyntaf, a chynnydd graddol mewn poblogaethau mosgitos dros y pum mlynedd nesaf. Beth yw’r esboniad mwyaf rhesymol dros effaith y pryfladdiad ar boblogaethau mosgitos? A. Achosodd y pryfladdiad fwtaniadau ffafriol yn y mosgitos a arweiniodd at ymwrthedd. B. Llwyddodd amrywiolion genetig mostitos ag ymwrthedd i’r pryfleiddiad i oroesi a throsglwyddo eu hymwrthedd i’w hepil. C. Daeth mosgitos o boblogaethau eraill mewn ardaloedd eraill i gymryd lle’r mosgitos a laddwyd gan y pryfleiddiad. D. Cymhellodd y pryfleiddiad wrthfiotigau i’r pryfleiddiad mewn rhai mosgitos, a chafodd y gwrthfiotigau hyn eu trosglwyddo i’w hepil. E. Aeth y cwmni cyffuriau ati i chwistrellu llai o bryfleiddiad yn yr amgylchedd. 78. Yn y pryf ffrwythau Drosophila melanogaster, mae’r alel llygaid gwyn yn gysylltiedig ag X ac yn enciliol. Beth fyddai canlyniad croes rhwng benyw â llygaid gwyn a gwryw â llygaid coch? A. Byddai’r canlyniad yn dibynnu ar genoteip y rhieni. B. Byddai gan bob benyw lygaid coch a phob gwryw lygaid gwyn. C. Bydd gan bob gwryw lygaid gwyn a bydd gan fenywod ddosbarthiad 1:1 llygaid coch i lygaid gwyn. D. Unrhyw gyfuniad o ryw a lliw llygaid E. Bydd dosbarthiadau benywod i wrywod a dosbarthiadau llygaid coch i lygaid gwyn yn 1:1, yn annibynnol ar ei gilydd. 79. O ba un o’r ffonomenau canlynol mae arsylwadau Darwin o binc Ynysoedd y Galapagos yn enghraifft wych? A. Aderyn sy’n methu â hedfan B. Esblygiad cydgyfeiriol C. Ymbelydredd addasol D. Rhywogaethu cydgynefinol E. Ecwilibriwm Hardy-Weinberg

Page 19: Olympiad Bioleg Prydain · B. Pilen niwclear allanol C. Pilen niwclear fewnol D. Pilen bothellog E. Tonoplast 5. Mae cellfur bacteriol yn cyflawni’r holl swyddogaethau canlynol

80. Prif fantais atgenhedlu rhywiol o gymharu ag atgenhedlu anrhywiol yw ei fod yn galluogi:

A. croesrywedd rhyngrywogaethol B. nodweddion enciliol i ymddangos yn ffenoteip yr epil C. esblygiad D. genynnau i gael eu had-drefnu’n annibynnol E. amrywiad genetig i gael ei gynnal

81. Ystyriwch dri genyn sy’n cael eu trefnu’n annibynnol mewn pobl: A, B ac C. Beth yw’r tebygolrwydd y bydd mam â’r genoteip AaBBCc a thad â’r genoteip AAbbCc yn cynhyrchu plentyn â’r genoteip AABbcc? A. 1/2 B. 1/4 C. 1/8 D. 1/16 E. 1/64 82. Pa un o’r datganiadau canlynol ynglyn ag atgenhedlu rhywiol sy’n gywir? A. Mae sborau’n cael eu cynhyrchu o ganlyniad i ymasiad dau gamet haploid. B. Mae epilion yr un fath â’u rhieni yn enetigol. C. Mae gametau diploid yn cael eu cynhyrchu trwy fitosis. D. Mae ffrwythloniad yn arwain at greu sygot diploid. E. Mae gametau gwrywod a benywod yn diploid. 83. Pa gyfuniad o’r datganiadau canlynol yngl n â genyn trechol awtosomaidd sy’n gywir? 1. Bydd yn arddangos ffenoteip mewn heterosygotau 2. Caiff ei drosglwyddo i’r holl epil o riant homosygaidd 3. Ni all gael ei gario ar gromosom Y 4. Ni all gael ei drosglwyddo o wrywod i wrywod A. 1, 2, 3 a 4 B. 1, 2 a 3 C. 2, 3 a 4 D. 1, 3 a 4 E. 1 a 2 yn unig 84. Pan gafodd planhigion deuhybrid Capsella (pwrs y bugail) eu rhyng-beillio, roedd gan 94% o’r epil gapsiwlau hadau siâp triongl, ac roedd gan 6% gapsiwlau hadau wyffurf. Beth yw genoteip planhigyn â chapsiwlau hadau wyffurf? A. AaBb B. AaBB C. Aabb D. aabb E. aaBB

Page 20: Olympiad Bioleg Prydain · B. Pilen niwclear allanol C. Pilen niwclear fewnol D. Pilen bothellog E. Tonoplast 5. Mae cellfur bacteriol yn cyflawni’r holl swyddogaethau canlynol

85. Mae’r llinach (gweler y ffigur) yn dangos etifeddiaeth ffurf brin o nychdod cyhyrol. Mae’n debyg bod y clefyd yn cael ei achosi gan fwtaniad ar un locws sy’n: A. enciliol, awtosomaidd B. trechol, awtosomaidd C. enciliol, cysylltiedig â chromosom X D. cysylltiedig â chromosom Y E. wedi’i leoli yn y genom mitocondriaidd 86. Mae torri a llosgi’n system amaethyddol a ddefnyddir mewn coedwigoedd glaw trofannol. Caiff ardal fach o goedwig ei chlirio o goed a’i hamaethu am 2 neu 3 blynedd. Yna, caiff ei gadael i adfer dros flynyddoedd lawer tra bod ardaloedd eraill yn cael eu hamaethu. NID yw’r dull amaethyddol yn addas ar gyfer amaethu ardaloedd mawr mewn coedwigoedd glaw. Pa un o’r canlynol yw’r rheswm gorau dros hyn? A. Mae’r tir yn agored i erydiad ac mae mwynau’n cael eu trwytholchi o’r pridd B. Mae llai o garbon deuocsid yn cael ei amsugno o’r atmosffer C. Mae carbon deuocsid yn cael ei ychwanegu at yr atmosffer trwy hylosgiad D. Llai o gynefinoedd ar gyfer gwahanol organebau E. Bydd llai o hwmws yn y pridd 87. Mewn llyn, cyfrifwyd mai’r gymhareb cynhyrchiant ffytoplancton i gynhyrchiant swoplancton y flwyddyn oedd 9.5:1. Sut mae’r ffigur hwn yn gyson ag egwyddorion trosglwyddo egni trwy ecosystem? A. Mae swoplancton yn anifeiliaid bach sy’n bwydo ar ffytoplancton. B. Mae tua 10% o egni’n cael ei drosglwyddo o ffytoplancton i swoplancton. C. Mae tua 90% o egni’n cael ei drosglwyddo o ffytoplancton i swoplancton. D. Mae egni’n cael ei golli ym mhob cam trosglwyddo mewn cadwyn fwyd. E. Mae swoplancton yn defnyddio’r egni ar gyfer resbiradaeth a thyfiant. 88. Gelwir cystadleuaeth rhwng aelodau o wahanol rywogaethau yn: A. rhyngrywogaethol, ac mae fel arfer yn llai dwys na chystadleuaeth mewnrywogaethol B. rhyngrywogaethol, ac mae fel arfer yn fwy dwys na chystadleuaeth mewnrywogaethol C. mewnrywogaethol, ac mae fel arfer yn llai dwys na chystadleuaeth ryngrywogaethol D. mewnrywogaethol, ac mae fel arfer yn fwy dwys na chystadleuaeth ryngrywogaethol E. mewnrywogaethol, ac mae fel arfer tua’r un dwyster â chystadleuaeth ryngrywogaethol 89. Mae pob un o’r graffiau A, B, C a D isod yn cynrychioli’r newidiadau ym mhoblogaethau dwy rywogaeth sy’n gysylltiedig mewn rhyw ffordd. Pa un o’r cyfuniadau canlynol sy’n cynrychioli’r effeithiau a nodir? Symbiosis

Cystadleuaeth nad yw’n ysglyfaethus

Parasitedd

Ysglyfaethu

A A C B D B A B C C C A B D C D B A D D E C B C A

Page 21: Olympiad Bioleg Prydain · B. Pilen niwclear allanol C. Pilen niwclear fewnol D. Pilen bothellog E. Tonoplast 5. Mae cellfur bacteriol yn cyflawni’r holl swyddogaethau canlynol

90. Mae’r cynnydd yn y Mynegai Amrywiaeth yn un arwydd bod olyniaeth fiolegol ar waith mewn ardal. Pa un o’r canlynol sy’n nodweddion olyniaeth a fyddai’n arwain at gynnydd yn y Mynegai Amrywiaeth?

1. Amgylchedd gelyniaethus cychwynnol 2. Mwy o gilfachau neu gynefinoedd 3. Cynnydd yng nghyfanswm yr hwmws sydd ar gael yn y pridd 4. Cynnydd yng nghyfanswm y mwynau yn y pridd 5. Amgylchedd sefydlog 6. Anifeiliaid yn pori A. 1, 2, 3, 4, a 5 B. 1, 3, 4, 5 a 6 C. 2, 3, 4 a 5 D. 2, 4, 5 a 6 E. 1, 2, 3 a 4 91. Mewn cadwyn fwyd sydd wedi’i hynysu oddi wrth rai eraill, pa un o’r canlynol (a fesurir mewn kJ m-2) yw’r mwyaf yn rhifol? A. Cynhyrchiant sylfaenol net mewn planhigion B. Cyfradd bwyta’r cigysydd cyntaf C. Cymathiad llysysyddion D. Resbiradaeth llysysyddion E. Cynnydd ym miomas planhigion. 92. Pa rai o’r prosesau canlynol sy’n digwydd yn ystod y cylch nitrogen? 1. Ocsideiddiad nitraid i nitraid trwy facteria gwreiddgnepynnau. 2. Llysysyddion yn bwyta protein planhigion. 3. Trawsnewidiad organebau marw i amonia gan ddadelfenyddion. 4. Trawsnewidiad cyfansoddion amoniwm i nitradau gan facteria dadnitreiddio. 5. Ocsideiddiad cyfansoddion amoniwm i nitraid gan facteria nitreiddio.

A. 1 a 2 B. 2 a 3 C. 3 a 4 D. 1, 2 a 3 E. 2, 3 a 5 93. Defnyddir gwahanol dermau i ddisgrifio ardaloedd neu ranbarthau lle deuir o hyd i organebau. Pa un o’r rhestri canlynol sy’n dangos y rhanbarthau hynny o’r mwyaf i’r lleiaf? A. tiriogaeth – ecosystem – biosffer – cynefin B. biosffer – ecosystem – cynefin – tiriogaeth C. tiriogaeth – cynefin – ecosystem – biosffer D. cynefin – tiriogaeth – ecosystem – biosffer E. biosffer – tiriogaeth - cynefin – ecosystem

Page 22: Olympiad Bioleg Prydain · B. Pilen niwclear allanol C. Pilen niwclear fewnol D. Pilen bothellog E. Tonoplast 5. Mae cellfur bacteriol yn cyflawni’r holl swyddogaethau canlynol

94. Pa un o’r canlynol fyddech yn disgwyl iddo fod yn absennol, neu’n brin iawn, mewn priddoedd asidig, sydd heb lawer o galsiwm? A. protosoaid B. malwod C. pryfed D. planhigion calchgas E. mwsoglau 95. Mae cylch bywyd glöyn byw y glesyn mawr yn dibynnu ar rywogaeth o’r morgrugyn coch, Myrmica sabuleti. Mae’r morgrug, sy’n ymateb i secretiad cemegol tebyg i’r hyn a gynhyrchir gan eu cynrhon eu hunain, yn rhoi lindys y glesyn mawr yn eu siambrau magu, lle mae’n bwydo’n rheibus ar gynrhon y morgrug. Disgrifir y berthynas rhwng y glöyn byw a’r morgrugyn fel: A. cyd-ddibyniaeth B. parasitedd C. allgaredd D. cydfwytäedd E. cystadleuaeth

96. Pa un o’r dosbarthiadau canlynol o anifeiliaid sy’n byw yn y môr yn unig? 1 Sêr môr a draenogod môr (Stellaroidea, Echinoidea) 2 Sglefrod môr (Cnidaria) 3 Mwsogl môr (Calcarea and Silicea) 4 Môr-lewys (Cephalopoda) 5 Cramenogion sydd wedi datblygu’n dda (Malacostraca – Crustacea, Astacus) A. 1 a 4 B. 2 a 3 C. 5 yn unig D. 1, 2 a 3 E. 2, 4 a 5 97. Pa un o’r canlynol sy’n nodweddiadol o ffyngau a bacteria? A. Dim cellfur. B. Gallu rhai rhywogaethau i gyflawni ffotosynthesis. C. Gallu rhai rhywogaethau i sefydlogi nitrogen. D. Prinder organynnau â philenni mewnol fel mitocondria. E. Gallu rhai rhywogaethau i i ffurfio perthynas symbiotig â phlanhigion. 98. Mae dwy organeb, A a B, o’r un urdd ond o wahanol deuluoedd. Felly, mae organebau A a B yn perthyn: A. i’r un genws. B. i wahanol ffyla. C. i’r un rhywogaeth. D. i’r un dosbarth. E. i wahanol deyrnasoedd.

Page 23: Olympiad Bioleg Prydain · B. Pilen niwclear allanol C. Pilen niwclear fewnol D. Pilen bothellog E. Tonoplast 5. Mae cellfur bacteriol yn cyflawni’r holl swyddogaethau canlynol

99. Yng nghylch bywyd y parasit malarïaidd (Plasmodium), pa un o’r camau canlynol a geir mewn organeb letyol ddynol? A. Sporosöit B. Troffosöit a merosöit C. Troffosöit, merosöit a gametosyt D. Sygot a gametosyt E. Sygot 100. Mae benywod siarcod, madfallod, nadroedd a rhai pryfed, sy’n cadw wyau sy’n llawn melynwy yn y llwybr atgenhedlu benywaidd am gyfnodau maith, yn cael eu disgrifio fel: A. dodwyol B. bywesgorol C. ymddeorol D. parthenogenetig E. microlecithal