ombwdsmon gweinyddiaeth iechyd cymru · 2004. 11. 19. · hydref 18 2004 2. ein rÔl prif rôl...
TRANSCRIPT
-
Ombwdsmon Gweinyddiaeth Iechyd Cymru
Adroddiad Blynyddol 2003-2004
-
ISBN 0 7504 3507 0 Hydref © Hawlfraint y Goron 2004Dyluniwyd gan yr Uned Graffeg G/166/04-05 INA-15-16-019 Cysodwyd gan y Gwasanaethau Prosesu Testun
Rhagymadrodd
Mae Ombwdsmon Gwasanaeth Iechyd Cymru yn ymchwilio i gwynion a wnaed gan neu arran pobl sydd wedi dioddef oherwydd triniaeth neu wasanaeth anfoddhaol a ddarparwyd gan,neu ar ran, y GIG.
Ni all yr Ombwdsmon ond ymchwilio i gwynion yn erbyn darparwyr gofal iechyd preifat osmai’r GIG a dalodd am y driniaeth.
Yr Ombwdsmon presennol yw Adam Peat. Mae’n gwbl annibynnol ar y GIG a LlywodraethCynulliad Cymru, ac mae ei wasanaethau ar gael am ddim.
-
OMBWDSMON GWASANAETH
IECHYD CYMRU
ADRODDIAD BLYNYDDOL 2003-2004
Rhoddwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chyhoeddwyd ganddynt dan Baragraff 7 Atodlen 10 Deddf
Llywodraeth Cymru 1998 ar 18 Hydref 2004.
-
CynnwysTudalen
1. ADRODDIAD GAN YR OMBWDSMON GWASANAETH IECHYD 1
2. GWASANAETH OMBWDSMON O’R RADD FLAENAF I GYMRU 3
ATODIADAU
A. CWYNION A GAFWYD Y FLWYDDYN 1994/5 I 2003/4 5
B. BAICH GWAITH 2003-04 7
C. CRYNODEBAU O ACHOSION NODWEDDIADOL 13
-
Fe’m penodwyd ynGomisiynyddGwasanaeth IechydCymru (Ombwdsmony Gwasanaeth Iechyd)yn Nhachwedd 2003,yn olynydd i AnnAbraham, sy’n dal ifod yn GomisiynyddGwasanaeth Iechyd dros Loegr ac ynOmbwdsmon Seneddol.
Dyma’r tro cyntaf y daliwyd swyddOmbwdsmon Gwasanaeth Iechyd Cymru arwahân i’r un ar gyfer Lloegr. Ar ôlcydymgynghori gan Brif Weinidog y CynulliadCenedlaethol ac Ysgrifennydd GwladolCymru, penderfynwyd y dylid uno’r gwahanolswyddi Ombwdsmon sy’n gwasanaethu poblCymru yn un swydd, yn debyg i un yrOmbwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus drosyr Alban. Bydd angen deddfwriaeth sylfaenol iwneud hynny ac, ar hyn o bryd, rhagwelir yceir hynny yn sesiwn y Senedd yn 2004-05.Mae cyfle, er hynny, i gymryd llawer o gamauymarferol tuag at uno cyn cael deddfwriaeth.Gyda’r bwriad hwnnw, rwyf wedi fy mhenodihefyd yn Ombwdsmon Llywodraeth LeolCymru, a chyhoeddwyd yn bendant wrth fymhenodi fy mod yn ddarpar OmbwdsmonGwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Gyda golwg ar hynny, rwyf wedi rhoi lleblaenllaw yn ystod fy misoedd cyntaf yn yswydd i’r gwaith o gynllunio’r broses o newida dechrau ei rhoi ar waith. Diolchaf yngynnes i Ann Abraham, nid yn unig am eigwasanaeth nodedig i Gymru fel fy
rhagflaenydd, ond am yr holl gymorthymarferol y mae hi a’i staff wedi’i roi i mi ersimi ddod i’r swydd. Mae’r tîm bach o staff yngNghaerdydd sy’n gwasanaethu OmbwdsmonCymru yn dibynnu erioed ar Swyddfa’rOmbwsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechydam ei wasanaethau canolog. Rwyf ynddiolchgar i Ann am gytuno i wneud cytundeblefel gwasanaeth fel y gall y cymorth hwnnwbarhau am gyfnod dros dro. Mae’rddarpariaeth o gyngor clinigol arbenigol ar ycyd yn arbennig o bwysig.
Mae’n amlwg i mi ers y cychwyn y byddai’rbwriad i greu gwasanaeth Ombwdsmon mwyunedig i Gymru yn gofyn am ddwyn at eigilydd y ddau grwp o staff sy’n fyngwasanaethu fel Ombwdsmon GwasanaethIechyd ac fel Ombwdsmon Llywodraeth Leolmewn swyddfa newydd - ar hyn o bryd,maent tua 20 milltir oddi wrth ei gilydd, ganfod y grwp cyntaf yng nghanol Caerdydd a’rail ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ar ôlymgynghori â staff, rwyf wedi penderfynu ybydd y swyddfa newydd ar gyrion Pen-y-bontar Ogwr, yn agos i gyffordd traffordd Pen-coed. Mae’r swyddfa newydd yn cael ei chodiar hyn o bryd ac rydym yn debygol o gaelsymud i’n cartref newydd ym misoedd cyntafy flwyddyn nesaf.
Er bod cydleoli staff yn angenrheidiol fel camcyntaf, mae’n amlwg nad yw hynny’n ddigonohono’i hun i sicrhau gwasanaeth mwyintegredig. Er bod y statudau sy’n rheoli rôl yddwy swydd Ombwdsmon yr wyf yn eu dalyn awr yn debyg iawn, mae gwahaniaethau oran arferion a gweithdrefnau yn nulliau
1
1Adroddiad ComisiynyddGwasanaeth Iechyd Cymru
-
gweithredu presennol y ddau grwp o staff ybydd yn rhaid eu datrys. Y cam cyntaf oedddod â’r holl staff o’r ddau gorff at ei gilydd iystyried ein gweledigaeth o’r math owasanaeth y dylai gwasanaeth Ombwdsmonunedig geisio ei ddarparu i bobl Cymru, ofewn y fframwaith polisi a sefydlwyd drwybapurau ymgynghori Llywodraeth CynulliadCymru. Mae’r weledigaeth honno wedi’idiffinio yn rhan gyntaf yr adroddiad hwn.
Y camau nesaf a gymerwyd, drwy weithgoraua oedd hefyd yn cynnwys staff o’r ddau gorff,oedd dyfeisio un fframwaith ar gyfermethodoleg ymchwil a fydd yn gwireddu’rweledigaeth honno, a phennu ein gofynion amdechnoleg gwybodaeth a systemau eraill i’whategu. Bydd y fframwaith hwnnw’n seiliedigar y gwersi y gallwn eu dysgu o’r dullgweithredu arloesol a oedd eisoes yn cael eiragbrofi yng Nghaerdydd pan ddeuthum i’mswydd, lle y mae’r mwyafrif helaeth o’rcwynion a dderbynnir yn cael eu trin ynffurfiol fel ymchwiliad o’r cychwyn. Maehynny’n gwahaniaethu oddi wrth y dulltraddodiadol o wneud ymholiadau helaeth amgŵyn cyn penderfynu a ddylid ymchwilio iddi.
Dyfeisiwyd y cynllun peilot ganStan Drummond. Ymddeolodd Stan arddiwedd y flwyddyn, ac yntau wedi arwain ytîm yn rhagorol am sawl blwyddyn felRheolwr Ymchwiliadau. Rwyf yn dra diolchgariddo ef am ei gymorth a’i gyngor doeth ynystod fy misoedd cyntaf Fel Ombwdsmon.
Mae’r holl newidiadau a wnaed eisoes neusydd yn yr arfaeth wedi peri i’r cyfnod hwnfod yn un pryderus, yn ogystal â bod yn uncyffrous, i’m staff, fel y gellid disgwyl. Rwyf ynddiolchgar iddynt hwy am eu gwydnwch a’uhymroddiad. Maent wedi cynnal safonauuchel wrth fynd ymlaen â’n llwyth achosionpresennol yn ystod y flwyddyn a aeth heibiogan ymwneud yr un pryd â chynllunio ar gyfery gwasanaeth yn y dyfodol. Ceir crynodebauo rai o’r achosion a drafodwyd, sy’n cynnigblas o waith yr Ombwdsmon, ar y tudalennausy’n dilyn.
ADAM PEATHydref 18 2004
2
-
EIN RÔL
Prif rôl Ombwdsmon GwasanaethauCyhoeddus Cymru yw ymchwilio i gwynion agyflëir iddo gan aelodau o’r cyhoedd am yffordd y maent wedi cael eu trin gan gorffcyhoeddus. Cynhelir ymchwiliad annibynnol adiduedd i’r cwynion, ac os caiff cwyn eichadarnhau, bydd yr Ombwdsmon yn dweudbeth ddylai’r corff cyhoeddus ei wneud ermwyn unioni’r cam â’r achwynydd a bydd ynpwysleisio’r angen i’r corff hwnnw wella safonei wasanaethau yn y dyfodol. Bydd hefyd ynhyrwyddo arferion gweinyddu da a safonauymddygiad uchel drwy ymchwilio i honiadaubod aelodau o awdurdodau cyhoeddus weditorri côd ymddygiad eu hawdurdod euhunain. Caiff y gwersi a ddysgwyd oymchwiliadau eu cyhoeddi, ynghyd â’r rheiny addysgwyd gan Ombwdsmyn eraill.
EIN BLAENORIAETHAU OSAFBWYNTGWASANAETHAU
1. Gwasanaeth ar gyfer yr aelodunigol o’r cyhoedd
Mae’r Ombwdsmon yn disgwyl i gyrffcyhoeddus drin pobl yn deg, â pharch acmewn ffordd effeithiol. Pan fo pobl yntybio eu bod wedi cael eu trin ynannheg, mae’n rhaid i’r gwasanaethombwdsmon ddarparu dull sydd ar gaelyn rhwydd er mwyn iddynt gael cyfleueu cwyn. Mae’n rhaid cynnalymchwiliad annibynnol a diduedd, ac oscaiff y gŵyn ei chadarnhau, mae’n rhaidunioni’r cam mewn ffordd deg.
Er mwyn ei gynorthwyo i ddarparugwasanaeth o’r radd flaenaf, mae’rOmbwdsmon yn awyddus i bob aelodo’i staff fod yn frwdfrydig ac iddynt fodwedi derbyn yr hyfforddiant cywir igwrdd ag anghenion y gwasanaeth acateb gofynion y cyhoedd.
2. Allgymorth/Ymwybyddiaeth
Ychydig iawn o syniad, os o gwbl, syddgan gyfran fawr o’r boblogaeth amfodolaeth y gwasanaeth Ombwdsmon -ac mae ganddynt lai fyth o syniad am yrhyn y gallai ei wneud ar eu rhan os byddangen.
Rydym oll yn ymwybodol bod arnomangen dod o hyd i ffyrdd o sicrhau body gwasanaeth Ombwdsmon ar gael ynymarferol i aelodau o’r gymdeithas sy’nagored i niwed ac yn ddifreintiedig, gangynnwys cymuned pobl dduon alleiafrifoedd ethnig sydd yn aml yn caeleu gwthio i’r cyrion yn yr ystyr nad ywnegeseuon yn cael eu hanelu’n benodolatynt.
3. Ymchwiliad diduedd aceffeithiol
Pan ei bod yn briodol cynnal ymchwiliadffurfiol, bydd swyddogion yrOmbwdsmon yn gwneud hynny mewnffordd ddiduedd a thrylwyr, er y bydd yrOmbwdsmon yn awyddus i ddatrys ymater cyn gynted â phosib. Er mwyngwneud hyn, bydd y gwasanaeth y maeef yn ei arwain yn rheoli’i adnoddau’n
3
2GWASANAETH OMBWDSMONO’R RADD FLAENAF
-
effeithiol, ac yn mynd ati’n egnïol iwerthuso perfformiad gan arddelsafonau uchel.
4. Datrysiad anffurfiol
Pan fo hynny o gymorth, ceisir datrysiadanffurfiol a chyflym ar gyfer unrhywachwynydd, cyn belled nad yw hyn ynniweidiol i fudd enhangach y cyhoedd.
5. Sicrhau unioniad priodol
Pan fo’r Ombwdsmon yn cadarnhaucwyn, bydd yn mynd ati’n egnïol i geisiounioniad sy’n gymesur â’r cam a wnaedâ’r achwynydd.
6. Bod yn effro i oblygiadauehangach
Pan eu bod wrthi’n ymchwilio i gŵyn,bydd swyddogion yr Ombwdsmon yngyson yn effro i’r posibilrwydd nad ywhwn yn achos unigol ac y gallai unigolioneraill fod wedi dioddef mewn ffordddebyg. Os felly, bydd yr Ombwdsmonyn mynd ati i geisio unioniad tebyg i’rbobl hynny.
7. Hyrwyddo arferion gweinydduda
Pan fo ganddo’r pŵer i wneud hynny, acer mwyn sicrhau gwell gwasanaeth argyfer y dinesydd unigol, bydd yrOmbwdsmon yn rhoi cyngor ynghylcharferion gweinyddu da i gyrff sydd ofewn ei awdurdodaeth. Gwneir hyn yngynnil ac ar ôl ymgynghori â’r cyrff dansylw yn unig, gan elwa ar brofiadau yngNghymru a hefyd ar brofiadau gydachynlluniau ombwdsmon eraill.
Bydd yr Ombwdsmon yn sicrhau ycynhelir ymchwiliadau trylwyr ondcymesur i honiadau am dorri’r côdymddygiad ar gyfer aelodau awdurdodaulleol.
4
-
Ffigur 1 - Cwynion a gafwyd y flwyddyn 1994-95 i 2003-04
5
ACWYNION A GAFWYD YFLWYDDYN 1994/5 I 2003/4
0
50
100
150
200
250
2003-042002-032001-022000-011999-001998-991997-981996-971995-961994-95
-
6
-
7
BBAICH GWAITH Ffigur 2 - Baich gwaith yn y flwyddyn
2003-04 2002-03
Gwaith sgrinio
Cwynion ac Ymholiadau a dducpwyd ymlaen 35 15Cwynion a gafwyd 209 180Ymholiadau a gafwyd 23 17
CYFANSWM Y BAICH GWAITH SGRINIO 267 212
CanlyniadauAnymchwiliadwy
Achosion Gofal Parhaus a gyfeiriwyd yn ôl neu eu anfon i CP 54 0Ateb ymholiad 21 18Nid o fewn yr awdurdodaeth 11 14Dim angen gweithredu 6 4Tynnu'n ôl 0 2Cyfeirio’n ôl a chau 6 6Cyn pryd - camau lleol heb eu dihysbyddu 57 72
Cyfanswm 155 116
Ymchwiliadwy
Dim camau ffurfiol 37 30Rhoi cyngor i’r corff perthnasol 6 11Y corff perthnasol yn cytuno ar gamau pellach 3 5Penderfynu cynnal ymchwiliad 47 18Cyfanswm 93 64
CYFANSWM Y PENDERFYNIADAU SGRINIO 248 180
Achosion sgrinio a gariwyd ymlaen 19 32
Gwaith ymchwilio
Ymchwiliadau a dducpwyd ymlaen 13 18Ymchwiliadau newydd a ddechreuwyd 47 18
CYFANSWM YR YMCHWILIADAU A GWBLHAWYD 11 23
Ymchwiliadau a gariwyd ymlaen 49 13
-
Nodiadau: Nifer yr achosion sgrinio a gariwyd ymlaen o 02-03 yw 32 a nifer y rhai a dducpwyd ymlaen yw 35.Y rheswm am hynny yw bod 3 achos a gafodd eu clirio a'u cyfrif yn adroddiad y flwyddyn ddiwethafwedi'u hailagor a'u gwneud yn destun ymchwiliad eto ar ôl cael sylwadau pellach gan yr achwynydd.
Cawsom gyfanswm o 57 o gwynion ynghylch gofal parhaus yn y flwyddyn. Cariwyd 10 o gwyniondrosodd o'r flwyddyn cynt. Ymchwiliwyd i 8 o'r cwynion hynny ac mae 4 wedi'u rhoi o'r neilltu wrthddisgwyl canlyniad yr achosion yr ymchwilir iddynt ar hyn o bryd. Cafodd un achos ei gario ymlaen.
Mae nifer yr ymchwiliadau newydd a ddechreuwyd yn cynnwys 6 ymchwiliad 'yn yr hen ddull' a 41 addechreuwyd o dan y weithdrefn newydd.
8
-
Ffigur 3 - Cwynion sydd wedi'u datrys 2003-04
9Co
rff
Iech
ydP
en
de
rfyn
uC
orf
fie
chyd
yn
Rh
oi
cyn
gor
Ach
osi
on
go
fal
Ach
osi
on
era
ill
Cyf
answ
m y
cyn
nal
cytu
no
ar
i’r
corf
fp
arh
aus
we
di’
u
we
di'u
dat
rys
Cw
ynio
n
ymch
wil
iad
gam
au p
ell
ach
pe
rth
nas
ol
cyfe
irio
’n ô
l n
eu
I C
P
Aw
durd
od Ie
chyd
Bro
Taf
2
24
Bwrd
d Ie
chyd
Lle
ol C
aerd
ydd
23
16
Bwrd
d Ie
chyd
Lle
ol B
ro M
orga
nnw
g1
34
Bwrd
d Ie
chyd
Lle
ol M
erth
yr T
udfu
l1
12
Bwrd
d Ie
chyd
Lle
ol R
hond
da C
ynon
Taf
11
13
Aw
durd
od Ie
chyd
Dyf
ed P
owys
12
3Bw
rdd
Iech
yd L
leol
Sir
Gae
rfyr
ddin
0Bw
rdd
Iech
yd L
leol
Cer
edig
ion
11
Bwrd
d Ie
chyd
Lle
ol S
ir B
enfr
o1
1Bw
rdd
Iech
yd L
leol
Pow
ys
12
25
Aw
durd
od Ie
chyd
Gw
ent
13
4Bw
rdd
Iech
yd L
leol
Bla
enau
Gw
ent
11
Bwrd
d Ie
chyd
Lle
ol C
aerf
fili
12
3Bw
rdd
Iech
yd L
leol
Sir
Fyn
wy
22
Bwrd
d Ie
chyd
Lle
ol C
asne
wyd
d1
12
Bwrd
d Ie
chyd
Lle
ol T
or-fa
en
11
Iech
yd M
orga
nnw
g H
ealth
0Bw
rdd
Iech
yd L
leol
Pen
-y-b
ont
ar O
gwr
41
5Bw
rdd
Iech
yd L
leol
Cas
tell-
nedd
/Por
t Tal
bot
22
4Bw
rdd
Iech
yd L
leol
Abe
rtaw
e1
21
4A
wdu
rdod
Iech
yd G
ogle
dd C
ymru
13
15
Bwrd
d Ie
chyd
Lle
ol Y
nys
Môn
0Bw
rdd
Iech
yd L
leol
Con
wy
55
Bwrd
d Ie
chyd
Lle
ol G
wyn
edd
22
Bwrd
d Ie
chyd
Lle
ol S
ir D
dinb
ych
33
Bwrd
d Ie
chyd
Lle
ol S
ir y
Ffli
nt1
41
6Bw
rdd
Iech
yd L
leol
Wre
csam
33
-
10
Co
rff
Iech
ydP
en
de
rfyn
uC
orf
fie
chyd
yn
Rh
oi
cyn
gor
Ach
osi
on
go
fal
Ach
osi
on
era
ill
Cyf
answ
m y
cyn
nal
cytu
no
ar
i’r
corf
fp
arh
aus
we
di’
u
we
di'u
dat
rys
Cw
ynio
n
ymch
wil
iad
gam
au p
ell
ach
pe
rth
nas
ol
cyfe
irio
’n ô
l n
eu
I C
P
Ym
ddir
iedo
laet
h Br
o M
orga
nnw
g 1
34
Ym
ddir
iedo
laet
h C
aerd
ydd
a'r
Fro
320
23Y
mdd
irie
dola
eth
Sir
Gae
rfyr
ddin
22
Ym
ddir
iedo
laet
h C
ered
igio
n a
Cha
nolb
arth
C
ymru
14
5Y
mdd
irie
dola
eth
Siro
edd
Con
wy
a D
inby
ch1
34
Ym
ddir
iedo
laet
h G
ofal
Iech
yd G
wen
t 8
27
17Y
mdd
irie
dola
eth
Gog
ledd
-ddw
yrai
n C
ymru
11
46
Ym
ddir
iedo
laet
h G
ogle
dd M
orga
nnw
g2
13
6Y
mdd
irie
dola
eth
Gog
ledd
-orl
lew
in C
ymru
33
Ym
ddir
iedo
laet
h Si
r Be
nfro
a D
erw
en2
46
Ym
ddir
iedo
laet
h Po
ntyp
ridd
a R
hond
da1
23
Ym
ddir
iedo
laet
h A
bert
awe
110
11Y
mdd
irie
dola
eth
Felin
dre
11
2Y
mdd
irie
dola
eth
Gw
asan
aeth
au A
mbi
wla
ns
Cym
ru1
Ail
Gam
y W
eith
dref
n G
wyn
o9
110
Med
dygo
n Te
ulu
142
1127
Dei
ntyd
dion
44
Erai
ll0
Dim
/Anh
ysby
s3
1215
CY
FAN
SWM
533
655
111
228
-
Ffigur 4 - Cwynion yn ôl meysydd gwasanaeth a phwnc
11
Po
b a
gwe
dd
ar d
rin
iae
thgl
inig
ol
Can
iatâ
d i
ro
i tr
inia
eth
Cyf
ath
rebu
(ysg
rife
ne
dig
ac a
r la
far)
Agw
ed
d y
staf
f,
chyf
rin
ach
ed
d
Apw
ynti
adau
,o
ed
i a
chan
sio
De
rbyn
, rh
ydd
hau
ath
rosg
lwyd
do
Eid
do,
treu
liau
ach
osta
ucl
eifi
on
Cofn
od
ion
pe
rso
no
l (ga
n g
ynn
wys
rh
ai
me
ddy
gol
a rh
ai'n
ym
wn
eud
â
chw
ynio
n)
Cym
ho
rth
ion
ac o
ffe
r,
cyfa
rpar
,ad
eil
adau
Tra
fod
cwyn
ion
Aw
durd
od
Iech
yd(h
eb
law
trad
od
cwyn
ion)
Tyn
nu e
nw
o r
estr
me
ddy
gte
ulu
Gw
asan
aeth
d
irpr
wyo
ac
ymw
eli
adau
Cyf
answ
ma
gefn
ogw
yd(y
n l
lwyr
neu
'nrh
ann
ol)
Cyf
answ
mn
asce
fno
gwyd
Cyf
answ
m
Cla
f me
wn
ol m
ew
n y
sbyt
yw
ed
i'u c
efn
ogi
he
b e
u ce
fno
gi
Cla
ff a
llan
ol m
ew
n y
sbty
tw
ed
i'u c
efn
ogi
he
b e
u ce
fno
gi
AD
dAB
me
wn
ysb
yty
we
di'u
cef
no
gih
eb
eu
cefn
ogi
Iech
yd m
ed
dw
lw
ed
i'u c
efn
ogi
he
b e
u ce
fno
gi
Mam
ola
eth
we
di'u
cef
no
gih
eb
eu
cefn
ogi
Am
biw
lans
we
di'u
cef
no
gih
eb
eu
cefn
ogi
Gw
asan
aeth
au m
ed
dygo
l cyf
fre
din
ol
we
di'u
cef
no
gih
eb
eu
cefn
ogi
Gw
asan
aeth
au d
ein
tyd
do
l cyf
fre
din
ol
we
di'u
cef
no
gih
eb
eu
cefn
ogi
Iech
yd c
ymun
ed
ol
(he
b e
i gy
nn
wys
me
wn
cat
ego
ri a
rall)
we
di'u
cef
no
gih
eb
eu
cefn
ogi
Ail
Gam
y W
eit
hre
fn G
wyn
ow
ed
i'u c
efn
ogi
he
b e
u ce
fno
gi
Era
ill
we
di'u
cef
no
gih
eb
eu
cefn
ogi
Cyf
answ
m a
gef
no
gwyd
Cyf
answ
m n
a ch
efn
ogw
yd
Cyf
answ
m
11
1
11
1
11
1
34
74
11
11
2
11
1
44
4
11
1
51
91
16
61
1
1 19
1
2 220
4
pre
ifatr
wyd
d,ur
dd
as a
-
12
-
Ymddiriedolaeth GIG Gofal IechydGwent
Methu diagnosio canser ycoluddyn; a’r modd yr oedd yCynullydd wedi trafod y gŵyn.
Crynodeb o’r achos
Derbyniwyd Mr K i Ysbyty BrenhinolGwent ar 4 Ebrill 2000 fel achos brys,ar gais ei feddyg teulu, gan ei fod wediprofi poen yn ei abdomen ers deufis abod honno wedi gwaethygu. Nodwydbod lwmpyn yn yr abdomen. Fe’irhyddhawyd o’r ysbyty ar 6 Ebrill, a’rdiwrnod wedyn cadwodd apwyntiad clafallanol a oedd wedi’i drefnu cynt i gaelsgan uwchsain. Yn y sgan, gwelwyd bodlwmpyn islaw’r iau, ac awgrymodd yradiolegydd y dylid ystyried gwneudarchwiliad ag enema bariwm. Ar25 Ebrill, atgyfeiriwyd Mr K gan eifeddyg teulu at lawfeddyg ymgynghorol,gan egluro ei fod yn profi dolur rhydd arhwymedd bob yn ail, yn gwaedu o’rrhefr ac yn colli pwysau. Holoddynghylch y posibilrwydd o ganser ycoluddyn. Gwelodd y llawfeddygymgynghorol Mr K ar 26 Mai, wedi i’rmeddyg teulu ysgrifennu eto ar 10 Maigan ofyn am adolygiad brys. Cynhaliwydsigmoidosgopi hyblyg ac ni welwyd dima oedd yn annormal. Cafodd Mr Kenema bariwm hefyd, y dywedodd yradiolegydd ymgynghorol ei fod ynnormal. Ar 20 Mehefin, ysgrifennodd yllawfeddyg ymgynghorol at feddyg teuluMr K gan roi diagnosis o lid y
diferticwlwm. Ar 13 Gorffennaf,derbyniwyd Mr K i ysbyty gwahanol lley cafodd lawdriniaeth frys am ganser ycoluddyn. Bu farw’r mis Mai dilynol, oganlyniad i ymlediad y canser. Cyn iddofarw, cwynodd Mr K am y methiant iddiagnosio canser y coluddyn. Wediiddo farw, aeth ei wraig ymlaen â’r gŵyndrwy ofyn am adolygiad annibynnol.Ystyriwyd ei chais gan Gynullydd yrYmddiriedolaeth, a gafodd adroddiadclinigol annibynnol a oedd yn bwrwamheuaeth ar rai agweddau o’r driniaetha gafodd Mr K. Trosglwyddodd yCynullydd yr adroddiad i’rYmddiriedolaeth, i rannu ei gynnwys âMrs K, ond, yn Hydref 2001,ysgrifennodd cyfarwyddwr meddygol yrYmddiriedolaeth at Mrs K gan ddweudbod yr adroddiad clinigol annibynnol yncyd-fynd â’r farn yr oedd yrYmddiriedolaeth wedi’i datgan eisoes.Pan aeth Mrs K ar ôl y mater gyda’rCynullydd, gwrthododd gais gan Mrs Kam adolygiad annibynnol, gan na fyddai’ncyflawni dim ychwanegol.
Dyfarniad
Roedd aseswyr proffesiynol yrOmbwdsmon o’r farn bod yr archwiliadag enema bariwm ar 13 Mehefin wedidangos lwmpyn a gamddehonglwyd felgweddillion ysgarthol. Ni feirniadodd yrOmbwdsmon y camgymeriad hwnnwgan fod yr aseswyr wedi’i hysbysu bodcyfradd gwallau gydnabyddedig wrthddiagnosio canser y coluddyn ar sail
13
CCRYNODEBAU O ACHOSIONNODWEDDIADOL
-
archwiliadau o’r fath, ac roedd yrannormaleddau yn Mr K yn gymharolanniffiniol. Er hynny, roedd yr aseswyro’r farn hefyd na ddylai’r llawfeddygymgynghorol fod wedi dibynnu’n gyfangwbl ar ganlyniadau’r archwiliadau drwysigmoidosgopi ac enema bariwm. Gannad oedd y rhain yn cyd-fynd â’r sganuwchsain, roedd yn ddyletswydd arnoadolygu hanes clinigol Mr K. Pe byddaiwedi gwneud hynny, gallai fod wedigofyn am sgan CT neu golonosgopi acmae’n bosibl y byddai’r rhain, yn eu tro,wedi canfod y canser. Felly, cefnogoddyr Ombwdsmon y gŵyn. Roedd yrOmbwdsmon wedi canfod diffygionhefyd yn y modd yr oedd y Cynullyddwedi trafod y gŵyn. Er bod y Cynullydda’r Ymddiriedolaeth wedi gweithredu’nddidwyll i geisio datrys y gŵyn, nid oeddy gweithdrefnau yr oeddent wedi’u dilynyn unol â gweithdrefn gwyno’r GIG acnid oeddent ond wedi ychwanegu atanfodlonrwydd Mrs K
Gwneud iawn
Cytunodd yr Ymddiriedolaeth i atgoffa’rllawfeddyg ymgynghorol am yr angen iroi sylw i’r holl dystiolaeth glinigolberthnasol wrth benderfynu ar ddullgweithredu, ac i ystyried o ddifrif sawlargymhelliad arall a wnaed gan aseswyrproffesiynol yr Ombwdsmon. Ni wnaedunrhyw argymhellion ynghylch y moddyr oedd y Cynullydd wedi trafodcwynion oherwydd, ers y digwyddiadauyn yr achos hwn, roedd y materionhynny wedi’u cymryd o ofal yrymddiriedolaethau eu hunain.
Ymarferwr cyffredinol yn ardal BwrddIechyd Lleol Conwy
Methiant i ymweld â chlaf a’iarchwilio
Crynodeb o’r achos
Ffoniodd Mrs B wasanaeth meddygonteulu y tu allan i oriau gyda’r nos ar 9Gorffennaf 2001 gan fod gwaed yn codio fan y clwyf a oedd gan ei gŵr, a oeddyn ymadfer ar ôl llawdriniaeth ar ygalon. Roedd Mrs B wedi rhoirhwymyn ar y briw, ond roedd yn dal ifod yn bryderus a gofynnodd am ifeddyg teulu ddod i weld ei gŵr.Siaradodd â meddyg teulu dros y ffôn achymerodd ef y manylion. Nid oedd ymeddyg teulu yn credu bod angenymweld â’r cartref ond dywedodd, osoedd Mrs B yn dal i fod yn bryderus, ydylai ddod â’i gŵr i’r ganolfan gofalsylfaenol mewn ysbyty lleol. Roedd MrB yn amharod i fynd i’r ysbyty gan ei fodwedi cael MRSA yno o’r blaen.Cwynodd Mrs B wedi hynny i’rgwasanaeth y tu allan i oriau agofynnodd hefyd am adolygiadannibynnol, a wrthodwyd.
Dyfarniad
Ar sail cyngor gan ei gynghoryddproffesiynol, roedd yr Ombwdsmon o’rfarn, er bod y gwaedu o glwyf Mr B ynamlwg yn achosi pryder i Mrs B, fod ymeddyg teulu wedi cymryd y manylionmewn modd rhesymol ac wedi nodibod y gwaedu’n gymharol fach a’i fodwedi dod i ben 30 munud cyn i Mrs Bffonio’r gwasanaeth y tu allan i oriau.Cytunodd â’i gynghorydd fod barn ymeddyg teulu, sef bod y camau agymerodd Mrs B o ran padio a lapio’rclwyf dros nos yn ddigonol, yn ymateb
14
-
rhesymol. Nododd hefyd fod Mrs Bwedi cael ei chynghori i fynd â’i gŵr iysbyty pe byddai mwy o waedu ynddiweddarach, a bod y meddyg teulu yngwybod bod Mr B i fod i weld ei feddygteulu ei hun y diwrnod wedyn. Rhwngpopeth, roedd yr Ombwdsmon o’r farnbod y cyngor a roddodd y meddyg teuluyn rhesymol yn yr amgylchiadau ac nichefnogodd y gŵyn.
Tri meddyg teulu mewn practis yn ardalcyn-Awdurdod Iechyd Dyfed Powys
Methu diagnosio tyfiant niweidiolyn yr ymennydd dros gyfnod o 14mis
Crynodeb o’r achos
Aeth Miss G i weld y meddygon teuluyn eu practis ar 25 Gorffennaf 1997, ganei bod yn profi cur pen a oedd yngysylltiedig â chyfog ac anhwyldercyffredinol. Fe’i cynghorwyd gan ymeddyg teulu cyntaf i gymrydpoenladdwyr ac i ddod yn ôl i’w weldos nad oedd yn gwella. DychweloddMiss G ar 27 Gorffennaf a gweld ailfeddyg teulu, gan gwyno, ar ben ysymptomau blaenorol, am boen y tu ôli’w llygad dde. Nododd yr ail feddygteulu fod ymylon y disgiau yng nghefn eillygaid yn ymddangos yn niwlog, ond nichymerodd gamau pellach ar hynny ganei fod yn credu eu bod yn amrywiolynarferol. Aeth Miss G i weld y meddygteulu cyntaf ymhen blwyddyn ar14 Awst 1998, gan ddweud eto fodganddi gur pen ‘meigrynaidd’ a phoen ytu ôl i’r llygad dde. Archwiliodd ymeddyg teulu cyntaf lygaid Miss G ondni allai ganfod unrhyw annormaledd ynei llygaid ac eithrio’r ymylon niwlog i’rdisgiau a oedd fel yr oeddent y flwyddyn
cynt. Dywedodd wrth Miss G amgymryd poenladdwyr a dod yn ôl i’wweld. Daeth Miss G yn ôl i’r practis ar18 Awst a gwelodd drydydd meddygteulu a ragnododd feddyginiaeth atfeigryn gan ei fod o’r farn mai hynnyoedd achos ei chur pen. Fodd bynnag, ytro hwn roedd Miss G wedi cwyno amsymptomau tebyg i’r ffliw, diffyg teimladar ochr chwith ei hwyneb a smotiau oflaen ei llygaid. Ar 20 Awst, aeth Miss Gi weld optegydd, a archwiliodd ei llygaida mesur dyfnder cwpanau ei disgiauoptig. Ni wnaed sylw am ymylon niwlogy disgiau. Pan aeth Miss G yn ôl i weldy trydydd meddyg teulu ar 24 Awst,dywedodd ei bod yn teimlo ychydig ynwell. Fodd bynnag, ar 7 Medidychwelodd Miss G i weld yr ail feddygteulu a gymerodd samplau gwaed i’wprofi, ar ôl nodi’r symptomauychwanegol, ac ysgrifennodd lythyratgyfeirio arferol at niwrolegydd mewnysbyty lleol. Gan ei bod yn dal i gwynooherwydd cur yn ei phen, aeth Miss Gyn ôl i bractis ei hoptegydd ynddiweddarach ym mis Medi a gweloddail optegydd. Ar ôl ei harchwilio, canfu’roptegydd fod papiloedema dwyochrolarni, ar sail y ffaith bod dyfnder ycwpanau wedi lleihau erbyn hynny.Atgyfeiriodd yr optegydd Miss G yn ôli’r ail feddyg teulu ar unwaith gan eihysbysu bod papiloedema ar Miss G.Trefnodd yr ail feddyg teulu i Miss Ggael ei derbyn i’r adran niwroleg mewnysbyty rhanbarthol lle y canfuwyd, ar ôlgwahanol archwiliadau, fod gan Miss Gdyfiant o fath arbennig o ffyrnig yn eihymennydd. Er cyflawni dwylawdriniaeth ar wahân, bu farw Miss Gar 12 Ebrill 2001.
15
-
Cwynodd Miss G i’r practis yn gyntafam y driniaeth a gafodd ond, wrth i’whanhwylder waethygu, ni allai ddilyn ymater. Wedi iddi farw, fodd bynnag,ymgymerodd Mr G, ei thad, â’r gŵyn.Gan ei fod yn anfodlon ar ymateb ymeddygon teulu, a chasgliadau paneladolygu annibynnol a oedd wedi’igynnull i ystyried y gŵyn, gofynnodd i’rOmbwdsmon ymchwilio.
Dyfarniad
Barnodd aseswyr meddygon teulu yrOmbwdsmon fod cyngor y meddygteulu cyntaf ar 25 Gorffennaf 1997 ynbriodol ar gyfer ymgynghoriad cyntaf.Roedd yr aseswyr hefyd o’r farn nadoedd y camau a gymerodd y meddygteulu cyntaf ar 14 Awst 1998 ynafresymol gan ei fod wedi nodi bodymylon niwlog y disgiau wedi aros ynddigyfnewid ers yr ymgynghoriad cynt,ac na fu adroddiad am gur pen am fwyna blwyddyn. Credai’r aseswyr ei bodyn rhesymol i’r meddyg teulu cyntafdrafod yr ymgyflwyniad hwn fel problemnewydd a bod y camau a gymerodd ynbriodol o’r herwydd. Rhoddodd yraseswyr ystyriaeth ofalus iawn hefyd i’rcamau a gymerodd yr ail feddyg teulu ar27 Gorffennaf 1997; cafwyd cyngorhefyd gan asesydd opthalmig. Roedd yrasesydd opthalmig o’r farn nad ywymylon niwlog ar ddisgiau yn dangospapiloedema o reidrwydd, er nad ydyntyn amrywiolyn arferol, ond teimlai eubod yn arwydd digon difrifol a ddylaifod wedi arwain at ymchwil bellach.Barn yr aseswyr meddygon teulu ar yllaw arall oedd ei bod yn rhesymol ifeddyg teulu beidio ag atgyfeirio claf osoedd yn ffyddiog yn ei fedrau a’i brofiadei hun wrth ddelio â sefyllfa glinigolbenodol a theimlent, felly, nad oedd yn
afresymol iddo beidio ag atgyfeirioMiss G bryd hynny. Nid oedd unrhywdystiolaeth bod unrhyw fath obapiloedema yn bresennol yn 1997 acategwyd hynny gan sawl dangosydd aawgrymai, ar sail tebygolrwydd, fod barnyr ail feddyg teulu yn un deg. Roedd ydangosyddion hynny’n cynnwys:methiant Miss G i roi gwybod amunrhyw gur yn ei phen yn y cyfnodrhwng Gorffennaf 1997 ac Awst 1998;ymddangosiad digyfnewid ymylon ydisgiau yn Awst 1998; ac, yn hollbwysig,y ffaith na nodwyd unrhyw annormaleddpan archwiliwyd llygaid Miss G ganoptegydd dros flwyddyn ynddiweddarach, yn Awst 1998. Roedd yraseswyr meddygon teulu hefyd yn credubod yr ail feddyg teulu, pan welodd MissG ym Medi 1998, wedi penderfynu’nbriodol fod yr arwyddion newydd acychwanegol a gyflwynwyd yn galw amgynnal sawl prawf ymchwiliadol ynogystal ag atgyfeiriad cyffredin atniwrolegydd. Mae’r aseswyr o’r farnbod y dull gweithredu hwn yn unrhesymol er eu bod yn teimlo y buasaiailarchwilio disgiau optig Miss G brydhynny’n beth doeth. Ynghylch mater yddau ymgynghoriad â’r trydydd meddygteulu ar 18 a 24 Awst, roedd aseswyr yrOmbwdsmon o’r farn ei bod ynrhesymol i’r meddyg teulu ymchwilio i’rposibilrwydd o ddiagnosio meigryn, ondbod y symptomau a ddisgrifiwyd ganMiss G wedi dod yn rhai arwyddocaolac, oherwydd hynny, y buasai’n rhesymolcymryd camau pellach. Penderfynodd yrOmbwdsmon fod y driniaeth addarparwyd gan y practis o safondderbyniol, at ei gilydd. Penderfynoddgefnogi’r gŵyn, dim ond i’r graddau ybuasai’n rhesymol i’r trydydd meddygteulu ystyried camau pellach yng ngolwg
16
-
y symptomau a gyflwynodd Miss G ar18 Awst 1998 ac na wnaeth yr ailfeddyg teulu ailarchwilio ei llygaid ar 7Medi 1998. Pwysleisiodd yrOmbwdsmon nad oedd wedi canfodunrhyw dystiolaeth i ddangos, pebyddai’r meddygon wedi cymryd ycamau uchod, y byddai’r tyfiant a oeddgan Miss G wedi’i ganfod yn gynharacho lawer.
Gwneud iawn
Ymddiheurodd yr ail a’r trydyddmeddyg am y diffygion cyfyngedig aganfu’r Ombwdsmon. Ers y gŵyn hon,mae’r practis wedi paratoi canllawiaumwy cynhwysfawr ar ddelio â chur penac mae bellach yn gallu atgyfeiriocleifion i gael sganiau yn uniongyrchol.Mae’r trydydd meddyg teulu bellachwedi ailwerthuso ei ddull o reoli curpen gyda’r cymhorthion ychwanegolhyn.
Ymarferwr cyffredinol yn ardal BwrddIechyd Lleol PowysCyn-Awdurdod Iechyd Dyfed Powys
Datgelu manylion meddygolcyfrinachol; trafod cŵyn mewnmodd annigonol
Crynodeb o’r achos
Gwnaed cais gan Mr A, a oedd yn brifofalwr am ei fam oedrannus, ar 11Hydref 2001 am gopi o’i chofnodionGwasanaethau Cymdeithasol. Ar ôlderbyn y copi, darganfu fod rheolwrgofal ei fam wedi cwrdd â’i feddyg teuluar 24 Medi 1998, a’u bod wedi cyfnewidgwybodaeth am ei iechyd meddyliol.
Cwynodd Mr A wrth ei feddyg teulubod gwybodaeth gyfrinachol wedi’i
rhannu â’r rheolwr gofal yn ddiarwybodiddo ef a heb ei ganiatâd. Ar y dechrau,gwrthododd y meddyg teulu ystyriedcŵyn Mr A o fewn y practis, achyfeiriodd y mater i’r AwdurdodIechyd. Ar ôl cael cyngor gan yrAwdurdod Iechyd, ysgrifennodd ymeddyg teulu at Mr A, a oedd yn dal ifod yn anfodlon ac a ofynnodd amadolygiad annibynnol. Cyfeiriodd yCynullydd y mater yn ôl i’w benderfynuymhellach yn lleol a chyfarfu Mr A â’rmeddyg teulu ac aelodau eraill y practis.Ar ôl y cyfarfod, gwnaeth Mr A gais etoam adolygiad annibynnol, ondgwrthododd y Cynullydd y cais ganddweud bod y practis wedi torri ei‘Ddyletswydd Cyfrinachedd’, ond nadoedd wedi gwneud hynny’n faleisus, ondyn hytrach er mwyn dal yn briodol at ei‘Ddyletswydd Gofal (ar y Cyd)’.
Dyfarniad
Ym marn asesydd proffesiynol yrOmbwdsmon, er ei bod yn amlwg bod ymeddyg teulu wedi datgelu gwybodaethi reolwr gofal Mrs A yn ddiarwybod iMr A a heb ei ganiatâd, roedd ynbriodol gwneud hynny y tro hwnnw ganfod cryn bryder ar y pryd ynghylchcyflwr meddwl Mr A a’r effaith y gallaihynny ei gael ar ei fam a oedd yn dradibynnol ar Mr A. Ni chefnogodd yrOmbwdsmon y gŵyn hon.
Fodd bynnag, roedd o’r farn bod ymeddyg teulu wedi gweithredu cyn prydwrth gyfeirio’r gŵyn i’r AwdurdodIechyd, heb geisio ei datrys mewn rhywfodd yn lleol, drwy gynnal cyfarfod, erenghraifft, ar y cychwyn. Panysgrifennodd Mr A at y meddyg teulu yngyntaf, ni eglurodd ba wybodaeth ycredai ei bod wedi’i datgelu, ac ni
17
-
wnaeth y meddyg teulu gofnod o’isgwrs â’r rheolwr gofal yn nodiadauMr A. Hefyd, bu oedi o dri mis cyn i’rAwdurdod Iechyd roi’r cyngor yr oeddy meddyg teulu wedi gofyn amdano.Roedd y meddyg teulu yn cydnabod nadoedd y modd yr oedd wedi trafod ygŵyn yn gwbl foddhaol.
Gyda golwg ar weithredoedd yCynullydd, roedd yr Awdurdod Iechyda’r Cynullydd yn cydnabod ei fod wedimynd y tu hwnt i’r rôl a ragwelwyd yn yweithdrefn gwyno drwy gynnig ei farn eihun am deilyngdod y gŵyn yn hytrachnag ystyried a oedd sail i’w hystyriedymhellach drwy banel adolyguannibynnol. Cefnogodd yrOmbwdsmon y gŵyn hon gan ddweudei bod yn afresmyol i’r Cynullydd roi eifarn ef yn lle barn panel adolyguannibynnol.
Gwneud iawn
Ymddiheurodd y meddyg teulu a BwrddIechyd Lleol Powys, fel y corff olynol iAwdurdod Iechyd Dyfed Powys, i Mr Aam y modd anfoddhaol y trafodwyd eigŵyn. Cytunodd y meddyg teulu i lynu’ndynn wrth y weithdrefn gywir yn ydyfodol. Roedd yr Ombwdsmon ynfodlon gadael y mater ar hynny. Ganfod gweithdrefn gwyno newydd wedi’ichyflwyno ers hynny gan y CynulliadCenedlaethol, a honno’n cynnwystrefniadau diwygiedig ar gyfer trafodceisiadau am adolygiad annibynnol, niwnaeth yr Ombwdsmon unrhywargymhelliad mewn cysylltiad â dulltrafod y Cynullydd.
Meddyg teulu yn ardal Bwrdd IechydLleol Caerdydd
Asesiad annigonol o fenyw a oeddyn dioddef gan emboledd ar yrysgyfaint
Crynodeb o’r achos
Ar 13 Rhagfyr 2001, ddeng niwrnod arôl ei rhyddhau o’r ysbyty ar ôlllawdriniaeth i agor y groth, llewygoddMrs H gan gwyno ei bod yn fyr eihanadl a bod pwysau ar ei brest. Aethmeddyg teulu i’w gweld, a threulioddamser byr yn ei harchwilio. Y cwbl addywedodd wrthi oedd y dylai ddisgwyltroeon felly ar ôl cael llawdriniaeth fawr.Roedd Mrs H yn dal i deimlo’n wael a’rbore wedyn ffoniodd am ambiwlans. Bufarw cyn cyrraedd yr ysbyty. Canfuwydyn ddiweddarach mai emboledd ar yrysgyfaint oedd achos ei marwolaeth.Cwynodd teulu Mrs H fod y meddygteulu wedi methu adnabod arwyddionemboledd ar yr ysgyfaint a bod eiasesiad o gyflwr Mrs H yn annigonol.
Dyfarniad
Roedd yn ymddangos bod Mrs H ynymwybodol o’r risgiau a ddeuai yn sgîlllawdriniaeth fawr a’i bod wedi cymrydgofal priodol, gan ei bod yn dal i wisgohosanau gwrththrombotig. Gwadodd ymeddyg teulu fod ei archwiliad o Mrs Hyn annigonol a dywedodd ei fod wedichwilio’n benodol am thrombosis mewngwythiennau dwfn ac emboledd ar yrysgyfaint, gan fod y risg o’u cael ynhysbys, er mwyn gallu eu diystyru.Dywedodd nad oedd wedi canfodunrhyw symptomau clir o’r naillanhwylder na’r llall a chredai fod Mrs Hwedi llewygu o ganlyniad i orymdrechuyn rhy fuan ar ôl y llawdriniaeth. Fodd
18
-
bynnag, roedd yr asesydd clinigol o’rfarn, er bod rhai arwyddionnodweddiadol o thrombosis mewngwythiennau dwfn neu emboledd ar yrysgyfaint nad oeddent yn amlwg, nadoedd y meddyg teulu wedi gwneuddigon neu wedi gofyn cwestiynaudigonol i allu diystyru’r anhwylderauhynny neu esbonio’r ffaith ei bod wedillewygu yn briodol. Roedd yn credu, arsail y wybodaeth a oedd ar gael i’rmeddyg teulu, y dylasai fod yn fwygofalus a bod wedi derbyn Mrs H i’rysbyty ar gyfer ymchwiliad pellach.Cefnogodd yr Ombwdsmon y gŵyn.
Gwneud iawn
Yn ystod yr ymchwiliad, cadarnhaodd ymeddyg teulu ei fod wedi newid eiarferion wrth ymdrin ag achosion posiblo emboledd ar yr ysgyfaint, a’i fodbellach yn mabwysiadu trothwy prawf ismewn achosion o’r fath, gan fod yn fwyparod i dderbyn achosion amheus i’rysbyty. Ymddiheurodd am y diffygion aganfuwyd gan yr Ombwdsmon.
Ymddiriedolaeth GIG Gofal IechydGwent a Bwrdd Iechyd Lleol Powys (feldarparwr Gwasanaethau AdolyguAnnibynnol yng Nghymru)
Oedi wrth atgyfeirio claf,camweinyddu rhestr aros, methurhoi eglurhad digonol, a’r trafod ary gŵyn wedyn yn ystod y brosesAdolygu Annibynnol.
Crynodeb o’r achos
Cwynodd Mr J fod ei fab, Mr J y Mabwedi’i hysbysu gan gofrestryddorthopedig mewn ymgynghoriad ar11 Medi 2002, fod arno angen sgan MRIo’i ymennydd; cytunodd y cofrestrydd i
farcio’r cais am sgan yn un brys.Dywedodd Mr J hefyd fod ei fab wedi’ihysbysu y câi ei atgyfeirio i adranniwroleg yr ysbyty. Pan holodd Mr J ynddiweddarach am amseriad y sgan, fe’ihysbyswyd bod yr atgyfeiriad wedi’iisraddio fel ei fod yn un cyffredin ac nafyddai ei fab yn cael y sgan tanChwefror 2003. Pan wnaethymholiadau pellach, dywedwyd wrtho ygellid rhoi ei fab ar restr cansladau fel ygellid ei sganio yn gynt. Ym mis Hydrefcadarnhaodd yr ysbyty fod Mr J y Mabyn dal i fod wedi’i restru i’w weld ymmis Chwefror. Wedi iddo ddatgan eianfodlonrwydd â’r sefyllfa hon,dywedwyd wrth Mr J am ffonio’n ôl ynddiweddarach yr un diwrnod a phanwnaeth hynny cynigiwyd apwyntiadoherwydd canslad i’w fab ar18 Tachwedd a derbyniwyd hwnnw. Arôl cael sgan, cadwodd Mr J y Mabapwyntiad pellach ar 4 Rhagfyr adywedodd y cofrestrydd wrtho eto ybyddai’n ei atgyfeirio i’r adran niwroleg.Ar 29 Ionawr ysgrifennodd yr adranniwroleg at Mr J y Mab gan gadarnhau eifod ar ei rhestr aros ac y câi ei weldymhen chwech i wyth mis. Ar12 Chwefror cwynodd Mr J wrth yrYmddiriedolaeth am y modd yr oedd yrYmddiriedolaeth wedi trafod atgyfeiriadei fab ar gyfer sgan o’r ymennydd a’iatgyfeiriad i’r adran niwroleg. Ar27 Mawrth, dywedwyd wrth Mr J ganbrif weithredwr yr Ymddiriedolaeth nafyddai’r niwrolegydd yn gweld ei fab tanfis Rhagfyr 2003. Holodd Mr J ynghylchyr anghysondeb yn yr amseroedd aros aroddodd yr Ymddiriedolaeth.Cadarnhaodd rheolwr cyfarwyddiaeth ybyddai’r amser aros yn 11-13 mis.Cytunodd y rheolwr i ymchwilio i’ranghysondeb ac i ailgysylltu ag ef. Ni
19
-
chlywodd Mr J ddim ymhellach oddiwrth yr Ymddiriedolaeth. Oherwyddhynny, gofynnodd am adolygiadannibynnol o’i gŵyn ar 19 Ebrill, ganfynegi pryder ynghylch yr oedi cyn i’wfab gael ei weld gan yr adran niwroleg, aholi a oedd ei fab wedi’i roi yn is ar yrhestr aros oherwydd y gŵyn.Ysgrifennodd yr adolygydd lleyg at Mr Jar 19 Awst, gan ei hysbysu ei fod wedipenderfynu peidio â chynnal panel iystyried ei bryderon.
Dyfarniad
Hysbyswyd yr Ombwdsmon gan eigynghorydd proffesiynol fod y modd yroedd y cofrestrydd wedi rheoli gofalMr J y Mab yn rhesymol, a’i bod ynbriodol sicrhau y byddai hollganlyniadau’r profion ar gael cynatgyfeirio claf i arbenigaeth arall. Arfater unrhyw oedi wrth gyfeirio Mr J yMab i’r adran niwroleg, daeth yrOmbwdsmon i’r casgliad ei bod ynbosibl bod atgyfeiriad posibl i’r adranniwroleg wedi’i grybwyll yn ystod yrymgynghoriad ym mis Medi, ond ei fodyn dueddol i gredu bodcamddealltwriaeth ynghylch y gwahanolrannau yn y broses atgyfeirio. Canfu’rOmbwdsmon na fu unrhyw oedi wrthatgyfeirio Mr J y Mab i’r adran niwrolegym mis Medi 2002 ac felly nichefnogodd yr agwedd honno ar y gŵyn.Roedd Mr J hefyd yn bryderus am eifod ef wedi gorfod ymyrryd i sicrhauapwyntiad cansledig er mwyn i’w fabgael y sgan. Canfu’r Ombwdsmondystiolaeth i ddangos mai’r rheswm amhynny oedd bod teulu Mr J y Mab wediffonio cynifer o weithiau fel bod adegapwyntiad cansledig wedi’i chynnig.Atgoffwyd yr Ymddiriedolaeth gan yrOmbwdsmon o’r annhegwch a allai godi
mewn system sy’n cynnig modd i glafgael ei weld yn gynt dim ond am fodrhai wedi cyflwyno sylwadau’n barhausar ei ran. Gyda golwg ar y wybodaethanghyson a roddwyd i Mr J, eglurodd yrYmddiriedolaeth fod y llythyr aanfonwyd i Mr J y Mab ar 29 Ionawrwedi’i yrru drwy gamgymeriad. Roeddy llythyr arferol dan sylw wedi’i anfon atsawl unigolyn arall yn ogystal â Mr J. Niallai’r Ymddiriedolaeth egluro pam nadoedd wedi trosglwyddo’r wybodaethhon i Mr J ond roedd yn derbyn nadoedd wedi gwneud hynny. Felly, nichafodd yr Ombwdsmon fod Mr J yMab wedi’i gosibi oherwydd ei gŵyn. Erhynny, yng ngolwg methiant yrYmddiriedolaeth i egluro’r mater neu ihysbysu Mr J ac eraill am y ffaith bodllythyr wedi’i anfon drwy gamgymeriad,cefnogodd yr agwedd hon ar y gŵyn. Ynolaf, mae’r Ymddiriedolaeth wedi derbynbod oedi wedi bod wrth ymateb i Mr Jar ei gŵyn ac wedi derbyn ei bod ynbriodol ymddiheuro am hynny.Cefnogodd yr Ombwdsmon yr agweddhon ar y gŵyn.
Teimlai Mr J fod oedi afresymol wedibod wrth i’r adolygydd lleyg ystyried eigais am banel adolygu. Fodd bynnag, arôl ystyried y dogfennau’n ofalus, daethyr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd yradolygydd lleyg yn bersonol gyfrifol amyr oedi. Canfu’r Ombwdsmon fodrhywfaint o’r oedi’n ganlyniad i’r modd ytrafodwyd cais Mr J ar y dechrau cynpenodi’r adolygydd lleyg. Profwyd oedihefyd wrth gael cyngor clinigol.Mynegwyd pryder gan yr Ombwdsmonfod yr ysgrifenyddiaeth adolygiadauannibynnol wedi methu rhoi gwybod iMr J am yr oedi, ac felly cefnogodd yragwedd hon ar y gŵyn.
20
-
Gwneud iawn
Ymddiheurodd yr Ymddiriedolaeth â’rysgrifenyddiaeth adolygiadau annibynnoli Mr J am y diffygion a nodwyd ynadroddiad yr Ombwdsmon. Cytunoddyr Ymddiriedolaeth i adolygu’r arferionyr oedd yn eu dilyn wrth weinyddu eisystem apwyntiadau i sicrhau y bydd yndeg â’r holl gleifion ac yn gyson âchanllawiau’r Cynulliad Cenedlaethol.Cytunodd yr Ymddiriedolaeth i roimesurau ar waith fel y bydd unrhywanghywirdeb mewn llythyrau yn ydyfodol yn cael ei gywiro’n brydlon, ac iystyried mesurau i atgoffa staff am yrangen i sicrhau y bydd achwynwyr yncael esboniadau priodol. Cytunodd yrysgrifenyddiaeth adolygiadau annibynnoli ymchwilio i ddulliau o sicrhau y byddpob achwynydd yn cael gwybod am hynteu cwynion o fewn cyfnod rhesymol.
Ymddiriedolaeth GIG Siroedd Conwy aDinbych
Methiant i sicrhau presenoldebstaff yr Ymddiriedolaeth mewngwrandawiad o banel adolyguannibynnol.
Crynodeb o’r achos
Roedd Mr Q, a oedd yn cael ei drin ynyr ysbyty am anhwylder ar ei frest, wedillewygu ar 12 Medi 2000. Dilynwydgweithdrefnau i’w ddadebru gan nyrsysa staff meddygol cyn ei drosglwyddo i ailysbyty lle y bu farw. Ar y pryd, roedd yrymgynghorydd a oedd yn gyfrifol amofal Mr Q dramor ar wyliau. Wrthddilyn cŵyn ynghylch triniaeth Mr Q,darganfu ei ferch, Mrs R, fod meddyg ynyr ail ysbyty wedi cofnodi bod ei thadwedi llewygu ar ôl tagu ar barasetamol.Cododd Mrs R y mater hwn gyda’rYmddiriedolaeth ond roedd yn anfodlon
ar ei hymateb a gofynnodd am adolygiadannibynnol, a gynhaliwyd ar11 Gorffennaf 2001. Ni fu’rymgynghorydd yn bresennol, ac ynadroddiad y panel a gyhoeddwyd ar11 Tachwedd 2001 nodwyd bodcwestiynau perthnasol na ellid eu gofynoherwydd ei absenoldeb ac nad oedd ypanel yn gallu cyflawni ei ddyletswyddaufel y dymunasai. Cwynodd Mrs R wrthyr Ombwdsmon am fethiant yrymgynghorydd i fod yn bresennol yngngwrandawiad y panel adolyguannibynnol.
Dyfarniad
Canfu’r Ombwdsmon fod adroddiad ypanel adolygu annibynnol wedi peri iMrs R gredu bod yr ymgynghoryddwedi gwrthod bod yn bresennol yngngwrandawiad y panel, a bod yrYmddiriedolaeth wedi methu sicrhau eibresenoldeb, ond nid oedd hynny’n wir.Roedd cadeirydd y panel wedi teimlo ybyddai’r ymgynghorydd, a sawl aelodarall o staff yr Ymddiriedolaeth, wedigallu cyfrannu at drafodion y panel.Roedd ysgrifenyddiaeth yr adolygiadannibynnol wedi gwahodd yr aelodaustaff hyn, drwy reolwr gwasanaethaucleifion yr Ymddiriedolaeth, i fod ynbresennol yn y gwrandawiad, ond bu’nanodd iawn cael dyddiad a oedd yngyfleus i bawb a wahoddwyd. Yn ydiwedd, er mwyn sicrhau dyddiadcynnar i’r gwrandawiad, cytunodd ycadeirydd i gynnal y panel ar 11Gorffennaf, gan fod hynny’n gyfleus i’rholl staff a oedd wedi ymwneud ynuniongyrchol â Mr Q ar 12 Medi.Gwaetha’r modd, roedd yrymgynghorydd bryd hynny ar wyliau aoedd wedi’u trefnu o flaen llaw ac niallai fod yn bresennol. Rhoddodd yrymgynghorydd a’i ysgrifennydd wybod 21
-
i’r rheolwr gwasanaethau cleifion ac iswyddog yr adolygiad annibynnol na allaifod yn bresennol, ond nithrosglwyddwyd y wybodaeth honno o’rcadeirydd, a gymerodd fod yrymgynghorydd wedi gwrthod bod ynbresennol. Ni allai’r Ombwdsmonbennu pwy a oedd yn gyfrifol am ymethiant i gyfathrebu. Daeth i’rcasgliad, fodd bynnag, fod y diffygeglurder a manylder a gafwyd gyda’rgwahanol negeseuon rhwng yrymgynghorydd, y cadeirydd a swyddogyr adolygiad annibynnol wedi cyfrannuat yr hyn a oedd, yn y diwedd, ynadroddiad anfoddhaol.
Gwneud iawn
Cytunodd yr Ymddiriedolaeth iymddiheuro i Mrs R am y diffygioncyfathrebu yr oedd yr Ombwdsmonwedi’u canfod. Ni wnaeth yrOmbwdsmon unrhyw argymhelliad argyfer y dyfodol oherwydd, erbyncyhoeddi ei hadroddiad, roedd cam yradolygiad annibynnol yn y weithdrefngwyno wedi peidio â bod yn gyfrifoldebi’r ymddiriedolaethau eu hunain.
Ymddiriedolaeth GIG Gogledd-ddwyrain Cymru
Rheoli annigonol ar anaf i’r pen athrafod y gŵyn yn amhriodol.
Crynodeb o’r achos
Daeth mab Mrs G o hyd iddi yn y gwelyar 2 Mehefin 2001, a hithau mewncyflwr y gellid ei deffro ohono, ond bodcyfog o’i chwmpas. Credai ei bod wedicael codwm y noson cynt. Dros y ddauddiwrnod nesaf sylwodd nad oedd eifam yn ymddwyn mewn modd arferol a’ibod mewn dryswch ar brydiau. Ar
4 Mehefin aeth â hi i’r adranddamweiniau ac achosion brys(ADdAB) yn Ysbyty Wrecsam Maelor.Gwnaeth nyrs flaenoriaethu gofnod i’rperwyl y gallai Mrs G fod wedi caelcodwm, ei bod mewn dryswch arbrydiau, a’i bod wedi cael anaf i’whysgwydd. Archwiliwyd Mrs G ynddiweddarach gan uwch feddyg tŷ (UFT)a gofnododd ei bod ‘yn cysgu llawer’,bod ganddi glais y tu ôl i’r glust a henwaed yng nghorn y glust. Nododdhefyd fod Mrs G yn effro ac yn galluymgyfeirio o ran ‘amser, lle a pherson’ abod iddi Sgôr Coma Glasgow o 15.Trafododd yr UFT achos Mrs G gydagymgynghorydd yr ADdAB abenderfynodd ei rhyddhau. Dywedwydwrthi am ddod yn ôl i glinig toresgyrnyr ysbyty drannoeth, fel y gallai gaeltriniaeth i’r anaf i’w hysgwydd. Yn yclinig toresgyrn, trefnodd y staff i gaelsgan CT ar frys, a gwelwyd drwy hynnyfod ganddi doriad yn ei phenglog agwaedlif cysylltiedig ar yr ymennydd, ycafwyd llawdriniaeth lwyddiannus arnowedyn.
Cwynodd Mrs G wrth yrYmddiriedolaeth am yr oedi wrth eithrin, a dywedwyd wrthi mewn cyfarfodag ymgynghorydd yr ADdAB ei fod ynymddiheuro am beidio â sylwi ar ygwaedlif ond na allai addo na fyddaihynny’n digwydd eto. Roedd Mrs G yndal i fod yn anfodlon a gofynnodd amadolygiad annibynnol. Wrth ystyried eichais, cymerodd Cynullydd yrYmddiriedolaeth gyngor clinigolannibynnol, a ddangosodd fod yrarwyddion o doriad gwaelodol yn ybenglog wedi’u cofnodi yn nodiadau’rADdAB ac y dylai hynny fod wedi ysgogicamau pellach. Er hynny, gwrthododd
22
-
gais Mrs G am adolygiad annibynnol ganna chredai y byddai’n dod ag unrhywbeth newydd i’r golwg.
Dyfarniad
Dangosodd yr ymchwiliad fod yrymgynghorydd wedi penderfynurhyddhau Mrs G am ei bod yn effro acyn gallu ymgyfeirio, ac am fod y codwmwedi digwydd dros 48 awr ynghynt.Fodd bynnag, nid oedd wedi gweldMrs G yn bersonol ac nid oedd ynamlwg beth yn union a ddywedwyd yn ydrafodaeth rhyngddo ef a’r UFT. Ycyngor a roddwyd gan asesyddproffesiynol yr Ombwdsmon oedd ydylai’r dangosyddion clinigol o doriadgwaelodol yn y benglog a welwyd panddaeth Mrs G i’r ADdAB fod wediysgogi camau pellach. Canfu’rOmbwdsmon fod methiant o rancyfathrebu wedi bod rhwng yr UFT a’rymgynghorydd, a oedd wedi arwain atoedi wrth roi diagnosis a thriniaeth iMrs G am yr anaf i’w phen. Cefnogoddy gŵyn fod staff wedi methu diagnosioac ymchwilio i anhwylder Mrs G mewnmodd priodol. Hefyd, cefnogodd yrOmbwdsmon gŵyn bod y Cynullydd,drwy wrthod cais Mrs G am adolygiadannibynnol, wedi methu rhoi sylwpriodol i’r cyngor clinigol a gafodd.
Gwneud iawn
Cytunodd yr Ymddiriedolaeth i roi arwaith sawl argymhelliad a wnaed ganasesydd proffesiynol yr Ombwdsmon iymateb i ddiffygion a ganfuwyd yn yrymchwiliad. Y rhain oedd: gwella’rcyfathrebu rhwng y nyrs flaenoriaethua’r meddyg sy’n archwilio; cofnodiasesiad o amgylchiadau cymdeithasol adomestig y cleifion yn y cofnodion
achos clinigol fel mater o arfer; cofnodibod cyfarwyddiadau ysgrifenedig amanaf i’r pen wedi’u rhoi yng nghofnodionyr achos; rhoi cyfarwyddyd ysgrifenedigi feddygon sy’n gweithio yn yr ADdAB inodi a ddylai cleifion ag anaf i’r pen gaeleu hatgyfeirio ar gyfer ymchwiliadaupellach.
Primecare (Healthcall Medical ServicesCyfyngedig cynt)
Methiant honedig i ddiwalluanghenion meddygol yn ddigonol
Crynodeb o’r achos
Rhyddhawyd Mr P o ofal seibiant mewnysbyty lleol ar 16 Mehefin 2001. Y dyddSadwrn canlynol, cysylltodd ei ofalwyryn y Gwasanaethau Cymdeithasol â’rgwasanaeth dirprwyo dros feddygonteulu (Healthcall) pan gawsant ei fodheb feddyginiaeth. Daeth y meddyg aralwad, a oedd wedi’i leoli mewnCanolfan Gofal Sylfaenol y câi galwadaueu trosglwyddo iddi, i weld Mr P ichwilio am ei feddyginiaeth. Chwilioddy fflat ond ni allai ddod o hyd i ddim, agadawodd am fod arogleuon drwgoherwydd yr amgylchiadau gwael yn yfflat yn codi cyfog arno. Yn gynnar ynoson honno, ffoniodd merch Mr P,Mrs L, yr oedd y GwasanaethauCymdeithasol hefyd wedi cysylltu â hi, ymeddyg ar alwad ynghylchmeddyginiaeth Mr P. Gwrthododd ymeddyg a oedd ar alwad roipresgripsiwn gan nad oedd ganddogofnod o feddyginiaeth Mr P a’i fodwedi’i hysbysu bod ganddo gyflenwad ofeddyginiaeth i barhau am fis. GwnaethMrs L alwadau ffôn pellach i Healthcall,y ward y cafodd ei thad ei ryddhauohoni a llinell ffôn argyfwng ysbyty. Am
23
-
8.00pm rhoddodd y meddyg ar alwadbresgripsiwn ond roedd Mrs L yn dal ifod yn bryderus gan na wyddai bafeddyginiaeth yr oedd Mr P wedi’igymryd eisoes y diwrnod hwnnw. Panwrthododd y meddyg ar alwad roicymorth pellach, cysylltodd Mrs L â’rgwasanaeth ambiwlans. Cwynodd Mrs Lynghylch gweithredoedd y meddyg aralwad ond er iddi gwrdd â’r meddygteulu yr oedd Mr P wedi cofrestru ag efa rheolwr cwynion yr Awdurdod Iechyd,roedd yn dal i fod yn anfodlon. Panwrthodwyd ei chais am adolygiadannibynnol, cwynodd wrth yrOmbwdsmon.
Dyfarniad
Credai Mrs L nad oedd y meddyg aralwad wedi gwneud unrhyw beth iddatrys sefyllfa Mr P ac na fyddai wedigwneud dim oni bai ei bod hi wediymyrryd. Fodd bynnag, dangosodd yrymchwiliad fod y meddyg ar alwad wedigwneud cryn ymdrech i gael gwybodbeth oedd anghenion Mr P o ranmeddyginiaeth. Ar ôl ymweld â fflat MrP roedd wedi mynd yn ôl i’r GanolfanGofal Sylfaenol ac wedi gwneudgalwadau ffôn i geisio cael gwybod o baysbyty yr oedd Mr P wedi’i ryddhau.Roedd Mrs L wedi ffonio ynghylchmeddyginiaeth ei thad cyn iddo allu dodo hyd i’r ysbyty iawn. Er na allai’rOmbwdsmon fod yn sicr o’r hyn addywedwyd yn ystod sgwrs Mrs L â’rmeddyg ar alwad, na’r modd y’idywedwyd, roedd yn amlwg bod ysiarad a fu rhyngddynt wedi mynd ynannifyr, yn enwedig ar ôl i’r meddyg aralwad wneud sylwadau am amgylchiadaubyw Mr P. Gwnaeth aseswyr yrOmbwdsmon adolygiad o’r camau yroedd y meddyg ar alwad wedi’u cymryd
a chanfu ei fod wedi darparu gofal osafon dda. Daeth i’r casgliad nad oedd yberthynas annifyr â Mrs L wedi amharuar ymdrechion y meddyg ar alwad iddiwallu anghenion Mr P amfeddyginiaeth. Ni chefnogodd y gŵyn.Fodd bynnag, gwahododd y meddyg aralwad i ailystyried ei ddull o weithreduac i beidio â chodi ei lais hyd yn oed osoedd dan bwysau.
Ymarferwr deintyddol cyffredinol(YDC) yn ardal BILL Sir FynwyCyn-Awdurdod Iechyd Gwent
Y modd y tynnwyd enw menywoddi ar restr yr YDC
Crynodeb o’r achos
Yng Ngorffennaf 2002, dywedwyd wrthMrs J gan Awdurdod Iechyd Gwent fodei henw wedi’i dynnu oddi ar restr eiYDC. Cwynodd wrth yr YDC fod ycamau a gymerodd yn amhriodol gan eibod eisoes wedi rhoi gwybod i’wdderbynnydd ei bod yn bwriaducofrestru mewn man arall. CwynoddMrs J hefyd am y driniaeth a gafodd yn ypractis. Wrth ymateb, dywedodd yrYDC wrth Mrs J ei bod wedi’idatgofrestru gan y byddai’n well iddigeisio triniaeth mewn man arall, ahithau’n amlwg yn anfodlon ar y moddyr oedd y practis yn gweithredu.Cafodd Mrs J wybod yn ddiweddarachfod yr YDC wedi dweud ar un achlysurmewn llythyrau i’r Awdurdod Iechydynghylch ei chŵyn, ei bod yn rhywunsarhaus ac ar achlysur arall ei bod ynymosodol. Cwynodd Mrs J amamgylchiadau tynnu ei henw oddi arrestr yr YDC, yn enwedig ei bod wedi’idisgrifio fel rhywun sarhaus acymosodol heb gael cyfle i wneudunrhyw sylwadau ynghylch hynny.
24
-
Dyfarniad
Canfu’r Ombwdsmon fod dealltwriaethwahanol gan yr YDC a’r AwdurdodIechyd o’r gweithdrefnau a oedd i’wdilyn pan oedd deintydd am dynnu enwrhywun oddi ar ei restr ar unwaith, fel ydigwyddodd yn achos Mrs J. Yn unol âchyngor Cymdeithas DdeintyddolPrydain, roedd yr YDC wedi defnyddioffurflen FP18 i hysbysu’r AwdurdodIechyd am y bwriad i dynnu’r enw, ondroedd staff yr Awdurdod Iechyd yncredu mai dim ond i dynnu enw gan roitri mis o rybudd y dylid defnyddioffurflen FP18. Yn wahanol i achos lle’roedd enw rhywun i’w dynnu ar unwaith,nid oedd y weithdrefn olaf yn ei gwneudyn ofynnol i’r Awdurdod Iechyd geisiobarn Mrs J; ac ni roddodd yr YDCunrhyw eglurhad iddi am dynnu ei henwam nad oedd y Rheoliadau Deintyddolyn mynnu ei fod yn gwneud hynny. Oganlyniad, ni chafodd Mrs J unrhyw gyflei gyflwyno sylwadau am y penderfyniadi’w datgofrestru. Ym marn yrOmbwdsmon, er nad oedd yn ofynnoli’r YDC roi eglurhad i Mrs J, roedd danymrwymiad i wneud hynny. Canfu hefydfod yr YDC a’r Awdurdod Iechyd ill dauwedi methu cyfleoedd i ddatrys ywahanol ddealltwriaeth a oeddganddynt; a chydnabu’r YDC fod eigyfeiriad at Mrs J fel un ‘sarhaus’ yn wallwrth gopïo. Roedd wedi bwriadudweud ‘ymosodol’. Cefnogwyd y gŵyngan yr Ombwdsmon. Er hynny, canfufod y wahanol ddealltwriaeth a oeddgan yr YDC a’r Awdurdod Iechyd ynganlyniad i ddiffyg eglurder yn ycanllawiau cenedlaethol.
Gwneud iawn
Anogodd yr Ombwsmon LywodraethCynulliad Cymru i roi gwedd eglurachar y canllawiau perthnasol. Cytunoddyr YDC i feddwl ynghylch yr achos acystyried sut y gallai ymdrin yn well âsefyllfa debyg yn y dyfodol. Cytunodd yBILL i wahodd Mrs J i roi ei disgrifiad hio’r digwyddiadau ac i atodi hynny i’rffurflen FP18 a gyflwynwyd gan yr YDC.
Ymarferwr cyffredinol yn ardal BwrddIechyd Lleol Sir Ddinbych Bwrdd Iechyd Lleol Powys fel darparwrgwasanaethau Adolygiad Annibynnol
Delio â chwyn mewn fforddannigonol, adolygydd lleyg yngweithredu'n anghywir trwy fynnubod cwynwr yn cwrdd agYmarferwr Cyffredinol
Crynodeb o’r achos
Ffoniodd Mr D feddygfa ei feddyg teuluar 10 Mai 2003 i ofyn am bresgripsiwnparhaus ar gyfer ei dabledi pwyseddgwaed. Yn dilyn yr hyn a ddisgrifiodd yn'diatribe' gan y derbynnydd, rhoddodd yffôn i lawr. Ychydig ddiwrnodau'nddiweddarach, derbyniodd lythyr gan eifeddyg teulu yn beirniadu ei ymddygiadac yn gofyn iddo fod yn fwy cwrtais yny dyfodol.
Cwynodd Mr D wrth ei feddyg teulu acwrth y Bwrdd Iechyd Lleol am dôn yllythyr. Cynigiodd y meddyg teuluwedyn gwrdd â Mr D, ond gwrthododd,gan ofyn am adolygiad annibynnol.Cyfeiriodd yr adolygydd lleyg y gŵyn ynôl i'w datrys yn lleol, gan annog Mr D igwrdd â'i feddyg teulu. Unwaith eto,gwrthododd Mr D gwrdd â'r meddygteulu, oni fyddai ei dwrnai yn cael mynd
25
-
gydag ef i'r cyfarfod. Ymatebodd yradolygydd lleyg trwy ddweud wrth MrD, unwaith yn rhagor, i gwrdd â'rmeddyg teulu, gan ddweud na fyddai'nystyried ei gais am adolygiad annibynnolhyd nes iddo wneud hynny.
Dyfarniad
Canfu'r Ombwdsmon bod cwyn Mr Dwedi ei delio â hi mewn fforddanfoddhaol. Er bod canllawiau'rCynulliad Cenedlaethol ynghylch delio âchwynion yn awgrymu y gall cyfarfodfod yn gyfrwng defnyddiol i ddatryscwyn, mae'n ei gwneud hi'n amlwg nadyw hyn yn orfodol. Pan wrthododdMr D gwrdd â'r meddyg teulu, nid oeddhyn yn dileu dyletswydd y meddyg teului ymateb i'r gŵyn. Cefnogodd yrOmbwdsmon y gŵyn ar y sail bod ymeddyg teulu dal heb roi ymateb llawn iMr D oddeutu 8 mis ar ôl iddi gael eigwneud.
Mewn perthynas ag ymddygiad yradolygydd lleyg, beirniadodd yrOmbwdsmon ef am awgrymu fwy nagunwaith y dylai Mr D gwrdd â'r meddygteulu pan oedd Mr D wedi ei gwneudhi'n amlwg ei fod yn anfodlon gwneudhynny. Cefnogodd yr Ombwdsmon ygŵyn, gan fod canllawiau'r CynulliadCenedlaethol yn dweud nad oes unrhywreidrwydd ar y cwynwr i fynd i gyfarfod.
Gwneud iawn
Argymhellodd yr Ombwdsmon bod ymeddyg teulu yn ymateb yn llawn i gŵynMr D.
Argymhellodd hefyd bod yr adolygyddlleyg yn sicrhau ei fod yn glynu wrth ycanllawiau a gyhoeddir gan y CynulliadCenedlaethol ac y dylai Bwrdd IechydLleol Powys sicrhau bod adolygwyr lleygyn gwbl ymwybodol o'r canllawiau.
26
-
27
Cyfrifon
Mae set lawn o gyfrifon ar gael fel dogfen ar wahân. Gellir cael copi o’r ddogfen hon gan y rheolwrbusness ar 01656 673236.
Gellir cael rhagor o wybodaeth a thaflen am sut i gwyno gan:
Ombwdsmon y Gwasanaeth Iechyd I Gymru5ed LlawrTŵr y BrifddinasHeol y Brodyr LlwydionCaerdyddCF10 3AG
Ffôn: 0845 601 0987E-bost:[email protected]: www.ombudsman.org.uk
-
Nodiau
28