rnib on_ welsh …  · web viewblwyddyn yn ddiweddarach: safonau cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a...

41
Blwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau Adroddiad gan Action on Hearing Loss Cymru, RNIB Cymru a Sense Cymru, Rhagfyr 2014 1

Upload: hakiet

Post on 30-Jun-2018

219 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

Blwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau

Adroddiad gan Action on Hearing Loss Cymru, RNIB Cymru a Sense Cymru, Rhagfyr 2014

1

Page 2: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

Rhagair

Diwrnod hanesyddol i Gymru

Ym mis Rhagfyr 2013, lansiodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, y Safonau Gofal Iechyd Hygyrch ar gyfer Pobl sydd â Nam ar eu Synhwyrau yng Nghymru.

Roedd hwn yn ddiwrnod hanesyddol – Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i amlinellu’n eglur sut y byddai gwasanaethau’r GIG yn cael eu cyflenwi’n hygyrch i bobl sy’n fyddar, sy’n drwm eu clyw, sy’n ddall neu â golwg rhannol neu sydd â nam ar ddau synnwyr.

Dywedodd yr Athro Drakeford, “Mae’n rhaid i’r GIG fod yn hygyrch i bob grŵp, a bydd y safonau hyn - unwaith y cânt eu gweithredu’n llawn - yn helpu i fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n wynebu pobl sydd â nam ar y synhwyrau wrth gyrchu gwasanaethau iechyd, yn enwedig wrth helpu staff i allu adnabod cleifion sydd â nam ar eu synhwyrau a diwallu’u hanghenion.

"Mae’r Safonau Cymru Gyfan wedi’u llunio gan bobl sydd â nam ar eu synhwyrau, gan weithio’n gydweithredol â Llywodraeth Cymru, Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG a rhanddeiliaid allweddol eraill, a’r safonau yw’r cyntaf o’u math yn y Deyrnas Unedig.”

Mae’r Safonau’n amlinellu sut y byddai GIG Cymru’n cyflenwi’i ofynion i fodloni’r Ddeddf Cydraddoldeb ar gyfer pobl sydd â nam ar eu synhwyrau.

Felly, blwyddyn yn ddiweddarach, credai’r elusennau sy’n gweithio â phobl sydd â nam ar eu synhwyrau ei bod hi’n amserol adolygu cynnydd. Roedd arnom eisiau gofyn: pa effaith a gaiff y Safonau newydd ar fywyd pobl sydd â nam ar eu synhwyrau?

Casgliad y gwaith hwnnw yw’r adroddiad hwn, sy’n cynnwys ciplun o farn mwy na 100 o bobl yng Nghymru sydd â nam ar eu synhwyrau. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a roes eu hamser i rannu’u profiad o ddefnyddio’r GIG yng Nghymru.

Du iawn yw’r darlun a geir.

2

Page 3: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

Gwasanaeth heb urddas

Mae pobl sydd â nam ar eu synhwyrau yng Nghymru’n dal i adael ysbytai bob diwrnod, gan fod yn ansicr faint o feddyginiaeth y maent i fod i’w gymryd, ac yn ansicr pa gyngor a roddwyd iddynt.

Yn ein hysbytai, mae pobl yn dal i wynebu rhwystrau diangen oherwydd nam ar eu clyw a’u golwg. Pob diwrnod, mae cleifion yn parhau i deimlo na pharchir eu hurddas a bod eu hanghenion cyfathrebu’n cael eu hesgeuluso.

Yn ddi-os, rydym yn gweld rhywfaint o welliant gan fod Byrddau Iechyd yn treulio amser yn edrych ar eu gwasanaethau i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Gwyddom y byddai’r rhan fwyaf o weithwyr iechyd yng Nghymru’n arswydo rhag y syniad eu bod yn darparu gwasanaeth israddol i berson sydd â nam ar ei synhwyrau. Gwyddom fod arnynt angen ac eisiau cael yr offer i wneud eu gwaith yn y ffordd mwyaf diogel a phriodol.

Ond yn amlwg nid yw’r cynnydd a welsom yn ddigon.

Mae angen gweithredu

O’i roi’n syml – nid yw cleifion yn gweld y cynnydd mewn hygyrchedd a addawyd iddynt.

Dyma adroddiad sobreiddiol sydd angen sylw gan Lywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd a phob rhanddeiliad.

Mae angen blaenoriaethu a gweithredu’r ymrwymiad i godi safonau gofal i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau – a hynny’n gyflym.

Richard Williams, Cyfarwyddwr, Action on Hearing Loss CymruCeri Jackson, Cyfarwyddwr, RNIB CymruWayne Lewis, Pennaeth Gwasanaethau, Sense Cymru

3

Page 4: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

Canfyddiadau allweddol

Nid yw 91 y cant o gleifion sydd â nam ar eu synhwyrau’n ymwybodol o unrhyw welliannau yn y ffordd y mae gwasanaethau gofal iechyd yn cyfathrebu ac yn rhannu gwybodaeth â hwy.

Dim ond 1 o bob 5 o gleifion sy’n cael eu holi am eu hanghenion cyfathrebu a/neu wybodaeth gan wasanaethau gofal iechyd ledled lleoliadau gofal sylfaenol ac eilaidd, fel ei gilydd.

Dywedodd 58 y cant o atebwyr nad oeddent yn gwybod sut i adrodd am bryder neu gŵyn.

Rhagymadrodd

Yng Nghymru, amcangyfrifir fod colli clyw (1) yn effeithio ar 500,000 o bobl a bod 100,000 o bobl yn byw â cholli golwg, sydd ag effaith sylweddol ar eu bywydau dyddiol (2). Effeithir ar tua 18,850 o bobl yng Nghymru gan gyfuniad o golli golwg a cholli clyw, a adwaenir fel colli dau synnwyr neu fyddarddallineb(3), sy’n peri anawsterau â chyfathrebu, cael gafael ar wybodaeth a symudedd. Mae nam ar y synhwyrau’n neilltuol o gyffredin ymysg pobl hŷn: mae cynifer ag 1 o bob 9 o bobl dros 60 oed, ac 1 o bob 3 o bobl dros 85 oed, yn byw â cholli golwg (4); mae dros gan 70 y cant o bobl hŷn colled clyw (5); mae 62 y cant o’r boblogaeth sy’n fyddarddall dros 70 oed (6).

Gan fod llawer o bobl sydd â nam ar eu synhwyrau yn hŷn, bydd gan lawer gyflyrau meddygol eraill nad ydynt yn gysylltiedig â’r nam ar eu synhwyrau. Yn yr un modd, mae plant y mae’r nam ar eu synhwyrau’n gynhenid yn fwy tebygol o fod angen mewnbwn arbenigol gan amrywiaeth o wasanaethau, yn cynnwys gofal meddygol. Golyga hyn fod pobl sydd â nam ar eu synhwyrau’n ddefnyddwyr sylweddol ar wasanaethau iechyd yng Nghymru. Mae hi felly’n hanfodol bod gwasanaethau iechyd ledled y sbectrwm yn gallu amgyffred ac ymateb i anghenion gwybodaeth a chyfathrebu pobl sydd â nam ar eu synhwyrau.

Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn rhoi rheidrwydd ar wasanaethau gofal iechyd i wneud addasiadau rhesymol i sicrhau cydraddoldeb o ran cael gafael ar wasanaethau gofal iechyd ar gyfer pobl anabl. Yn ogystal â’r gofyniad cyfreithiol, mae yna resymau ymarferol pam y dylai gwasanaethau iechyd sicrhau’u bod yn diwallu anghenion gwybodaeth a

4

Page 5: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

chyfathrebu. Mae methu â chyfathrebu â phobl mewn ffordd y gallant ei deall, neu ddarparu gwybodaeth mewn fformat y gall claf ei ddarllen, yn gwastraffu amser ac arian ac mae’n rhoi cleifion mewn perygl. Gan hynny, croesawom Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Cyfathrebu a Gwybodaeth i bobl â Nam ar eu Synhwyrau sy’n darparu rhagor o ganllawiau penodol ar gyfer gwasanaethau iechyd ynghylch diwallu anghenion gwybodaeth a chyfathrebu pobl sydd â nam ar eu synhwyrau.

Flwyddyn ers cyhoeddi’r Safonau, gwnaeth Action on Hearing Loss Cymru, RNIB Cymru a Sense Cymru arolwg o’u defnyddwyr a oedd â phrofiad o ddefnyddio gwasanaethau iechyd i weld pa effaith y mae’r Safonau wedi’u cael ar brofiad pobl sydd â nam ar eu synhwyrau wrth ddefnyddio’r gwasanaethau hyn. Byddwn yn defnyddio’r adroddiad hwn i hysbysu gwaith y Grŵp Llywio Safonau Gofal Iechyd Hygyrch, yn cynnwys adroddiad blynyddol Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG (NHS CEHR) ar weithredu’r safonau.

Methodoleg Cafodd 120 o bobl sydd â nam ar eu synhwyrau’u holi, eu cyfweld neu gwnaethant gymryd rhan mewn grwpiau ffocws. Cafwyd ymatebion i’r arolwg gan bob un o’r saith o ardaloedd Byrddau Iechyd yng Nghymru. Cynhaliwyd cyfweliadau a grwpiau ffocws yn ne-ddwyrain Cymru yn bennaf, ac mae’r data a gafwyd yn adlewyrchu’r clystyru hyn.

Tabl 1: nifer o ymatebion o bob ardal Bwrdd Iechyd

Ardal Bwrdd Iechyd Nifer ymatebionBwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

34

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

10

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

15

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

27

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf 8Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda 5Bwrdd Addysgu Iechyd Powys 6Ni roddwyd manylion 15

Yn unol â’r Safonau, gofynnwyd i bobl a holwyd am eu profiad o ofal sylfaenol, gofal eilaidd wedi’i drefnu a gofal brys dros y 12 mis blaenorol.

5

Page 6: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

Roedd cwestiynau’n ymdrin ag a oedd cleifion wedi sylwi ar welliant cyffredinol yn y ffordd y mae gwasanaethau iechyd yn cyfathrebu ac yn rhannu gwybodaeth â hwy, gan roi sylw arbennig i:

p’un ai gofynnwyd i gleifion am eu gwybodaeth ac/neu’u hanghenion cymorth cyfathrebu a ph’un ai ddiwallwyd yr anghenion hyn ai peidio;

p’un ai oedd staff yn gallu cyfathrebu’n dda â hwy; yr amgylchedd ffisegol a sut yr effeithiai hyn arnynt.

Gofynnwyd hefyd i atebwyr am eu hymwybyddiaeth a’u profiad o’r broses gwyno. Mae copi o gwestiynau’r arolwg wedi’i atodi yn Atodiad 1.

Roedd nifer yr ymatebion i bob cwestiwn yn amrywio, gan nad oedd pawb wedi defnyddio gwasanaethau iechyd ym mhob maes gofal, a dibynnu ar y math o nam ar y synhwyrau, nid oedd rhai cwestiynau’n berthnasol.

6

Page 7: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

Canlyniadau

Gofal Sylfaenol

Adroddodd 86 y cant o gleifion â nam ar eu synhwyrau nad oedd dim gwelliant yn y ffordd y mae meddygfeydd meddygon teulu’n cyfathrebu ac yn rhannu gwybodaeth.

Mae’r adborth hwn yn siomedig iawn; mae’n ymddangos na wnaeth gweithredu’r safonau arwain at fawr iawn o newid. I lawer o bobl, eu meddyg teulu yw eu man galw cyntaf pan fo ganddynt broblem iechyd ddi-frys. Eto, mae’r adborth a dderbyniasom yn awgrymu bod yna rwystrau sylweddol yn dal i fodoli i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau rhag defnyddio gwasanaethau meddyg teulu.

Anghenion Gwybodaeth a Chyfathrebu

O’r rhai oedd angen gwybodaeth mewn fformat hygyrch dim ond 19 y cant ohonynt gafodd eu holi am eu anghenion gwybodaeth.

Ni wnaeth 76 y cant o bobl yr oedd arnynt angen wybodaeth mewn fformat hygyrch dderbyn gwybodaeth yn y fformat cywir.

“Mae fy meddyg teulu’n ymwybodol fy mod yn fyddarddall, fel y mae staff y practis yn ymwybodol. Nid ydynt wedi cynnig unrhyw fformatau gwahanol ac maent yn anfon llythyrau mewn ffont rhy fach i mi i’w ddarllen. Maent yn gwrthod defnyddio e-bost er fy mod wedi gofyn am hyn droeon.” Person byddarddall, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Mae gan bawb hawl i gael gwybodaeth mewn fformat sy’n hygyrch iddynt. Fodd bynnag, canfu’r arolwg hwn bod mwy na thri chwarter – 76 y cant – o atebwyr sydd angen gwybodaeth mewn fformat hygyrch heb gael y wybodaeth am eu cyflyrau yn y fformat cywir. Mae hyn yn effeithio’n arbennig ar bobl sydd wedi colli’u golwg.

Mae methu â chael gwybodaeth mewn fformat hygyrch yn tanseilio cyfrinachedd, trwy fod angen trydydd parti i gyfleu gwybodaeth i’r claf; gall hefyd danseilio lles ac annibyniaeth; er enghraifft, os na all y claf ddarllen taflen â chyngor dietegol neu ddarllen sut i gymryd meddyginiaeth yn gywir. Mewn grwpiau ffocws â phobl ddall ac â golwg

7

Page 8: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

rhannol, pwysleisiwyd y mater hwn. Er y cydnabuwyd efallai nad yw systemau Technoleg Gwybodaeth cyfredol wedi’u cynllunio i hwyluso cynhyrchu gwybodaeth mewn fformatau hygyrch, teimlid y gall meddygfeydd meddygon teulu fod yn fwy rhagweithiol wrth ddiwallu anghenion unigolion, fel e-bostio gwybodaeth neu gynyddu maint ffont ar ohebiaeth, ac y gellid gwneud hyn ar gost sydd ond ychydig yn ychwanegol. Fodd bynnag, yn yr hir dymor, mae’n rhaid chwilio am ffyrdd mwy cynaliadwy a systematig o rannu gwybodaeth mewn modd hygyrch.

Ni wnaeth 64 y cant dderbyn y gefnogaeth gyfathrebu y mae arnynt ei hangen wrth gael at ofal sylfaenol.

Mae Adroddiad Terfynol Grŵp Llywio Gofal Iechyd Hygyrch i Bobl sydd â Nam ar eu Synhwyrau (2011) yn pwysleisio bod cyfathrebu aneffeithiol â chleifion sydd â nam ar eu synhwyrau’n fater o ddiogelwch cleifion (7). O’r rheini a holwyd, gallwn gasglu bod bron dau o bob tri wedi bod mewn perygl potensial trwy beidio â derbyn y cymorth cyfathrebu priodol i’w galluogi i gymryd rhan mewn, ac i lwyr ddeall, eu hymgynghoriadau â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Ymwybyddiaeth y staff“Ar ymweliad diweddar â’r meddyg teulu, roedd arnaf angen gofyn i’r meddyg edrych arnaf i, ac nid ar sgrîn y cyfrifiadur wrth siarad. Pan ofynnwyd a oedd yna 'Hearing Alert' ar dudalen flaen fy nodiadau, yr ateb oedd ‘Na’! Mae e bellach wedi ychwanegu nodyn a gofynnais iddo ofalu gwneud hynny â chleifion eraill sydd â phroblem gyffelyb.” Person sydd â nam ar ei glyw a gwefusddarllenwr, Bwrdd Addysgu Iechyd Powys.

“Cwrteisi cyffredin yw llawer ohono; er enghraifft, rydych yn gweld gwahanol feddygon teulu a staff eraill pan ewch at y meddyg teulu ond dydyn nhw ddim yn cyflwyno’u hunain, dydyn nhw ddim yn dweud wrthych lle mae’r gadair pan ewch i mewn i’r ystafell, ac yn y blaen. Dim ond ‘Ie, sut y gallaf eich helpu chi?’” Person dall neu rannol ddall, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Cyfarfu 57 y cant o atebwyr o leiaf un aelod o staff nad oedd yn gallu cyfathrebu’n dda gyda nhw.

Mae gormod o bobl sydd â nam ar eu synhwyrau’n dal i deimlo nad yw staff yn cyfathrebu yn effeithiol gyda nhw. Mae cyfathrebu effeithiol rhwng staff a chleifion sydd â nam ar eu synhwyrau’n ddibynnol ar

8

Page 9: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

ymwybyddiaeth staff o anghenion cyfathrebu neilltuol y claf. Gallai darparu’r wybodaeth sylfaenol hon ar ffeiliau cleifion gan ddefnyddio system fflagio helpu i wella profiad cleifion i’r graddau y mae cleifion yn teimlo bod y staff i gyd yn gallu cyfathrebu’n dda â hwy oherwydd bod ganddynt y wybodaeth a’r offer i wneud hynny. Fodd bynnag, mewn grwpiau ffocws â phobl ddall ac â golwg rhannol, dywedodd rhai nad oedd y meddyg teulu, er bod eu dallineb wedi’i fflagio ar eu cofnod meddygol, fel petai wedi edrych ar y wybodaeth hon tan eu bod yn yr ystafell ymgynghori. Erbyn hynny, roedd hi eisoes yn rhy hwyr i gynnig rhywfaint o’r cymorth roedd arnynt ei angen; er enghraifft, gyda chadarnhau yn y feddygfa eu bod wedi cyrraedd am eu hapwyntiad, eu cael eu hunain i’r ystafell ymgynghori, canfod cadair yn yr ystafell (ac yn y blaen). Yn ychwanegol, gwnaeth adborth amlygu bod angen i systemau fod yn gallu fflagio pan fo ar glaf neu ofalwr nam ar ei synhwyrau a pha addasiadau sydd eu hangen.

“Mae fy nhad wedi bod yn anymwybodol bedair gwaith yn y flwyddyn ddiwethaf, ac roedd arno angen triniaeth frys ynghyd â thriniaeth ddilynol. Roedd arnaf angen cyfathrebu â staff meddygol yma a chael gwybodaeth. Nid dim ond ag apwyntiadau person byddar y mae a wnelo hyn, mae a wnelo fo hefyd â materion perthynas agosaf ” – Defnyddiwr Iaith Arwyddion Prydain, ni roddwyd y cyfeiriad.

Amgylchedd Gofal Sylfaenol

Rhoes 22 y cant wybod bod eu meddygfa wedi’i chynllunio’n wael i ddiwallu’u hanghenion.

“Mae’r feddygfa’n hygyrch iawn i rywun sydd ag anabledd corfforol, ond oherwydd graddau fy nallineb, mae’n amherthnasol i mi.” Person dall neu rannol ddall, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Dywedodd y mwyafrif llethol – 78 y cant – o atebwyr fod amgylchedd eu meddygfa naill ai’n dderbyniol neu’n addas i’w hanghenion fel person sydd â nam ar eu synhwyrau, ac roedd yna enghreifftiau o arferion da:

“Fel yr euthum at y dderbynwraig, gofynnodd imi a gâi hi helpu. Dywedais wrthi fod gennyf apwyntiad i gael pigiad rhag y ffliw. Cynigiodd fynd â mi at sedd. Wedyn, aeth ati i ffonio’r nyrs a dywedodd wrthi fod yn rhaid iddi ddod i fy nôl gan fy mod yn ddall. Ar ôl imi gael y pigiad, cynigiodd y nyrs fynd â mi at y prif ddrws.” Person dall neu â golwg rhannol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

9

Page 10: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

Fodd bynnag, yn amlwg mae yna waith i’w wneud er mwyn gwneud amgylcheddau meddygfeydd meddygon teulu’n hygyrch i bawb, ac nid oedd enghreifftiau o arferion da yn helaeth. Roedd hyn yn neilltuol o wir i atebwyr oedd yn ddall neu â golwg rhannol neu’n fyddarddall, a nodwyd fod llywio o amgylch amgylcheddau gofal iechyd yn bryder mawr, ac y gall eu rhoi mewn perygl.

“Mae’r meddyg teulu’n dod allan o’i hystafell fel cwcw, ac wedyn yn mynd yn ei hôl, ac wn i ddim ble mae hi wedi mynd nac i ble rwyf i fod i fynd.” Person dall neu rannol ddall, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

Roedd pryderon yn cynnwys diffyg rhybuddion clywedol yn ogystal â fawr ddim ymwybyddiaeth gan staff o’r angen am gymorth a thywys.

10

Page 11: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

Gofal Eilaidd

Dim ond 9 y cant o gleifion â nam ar eu synhwyrau a sylwodd ar welliant yn y ffordd y mae ysbytai’n cyfathrebu ac yn rhannu gwybodaeth â hwy am ofal arferol neu ofal wedi’i drefnu.

Anghenion gwybodaeth a chyfathrebu

“Cefais lawdriniaeth. Gofynnais am ddehonglwr; nid oedd y staff yn gwybod sut i gael gafael ar ddehonglwr. Dywedais wrthynt y gallwn eu rhoi mewn cysylltiad â dehonglwr. Ymhen hir a hwyr, ailgysylltodd y switsfwrdd gan ddweud y byddai nyrs CODA yn bresennol ar gyfer fy nerbyn ac ar gyfer y llawdriniaeth. Nid yw’r nyrs yn ddehonglwr cymwysedig (rwyf wedi’u cyfarfod o’r blaen). Pan gefais fy nerbyn a chael llawdriniaeth, nid oedd y nyrs CODA yno. Llofnodais y ffurflenni caniatâd ar gyfer llawdriniaeth, gan fethu â deall y jargon meddygol arnynt. Ni allwn ddeall y llawfeddygon cyn nac ar ôl llawdriniaeth.” Person byddar (ni roddwyd cyfeiriad).

Eto, roedd ymatebion i’n harolwg yn adleisio adroddiad y grŵp llywio yn 2011 o ran amlygu bod cyfathrebu effeithiol â chleifion sydd â nam ar eu synhwyrau’n fater o ddiogelwch cleifion, yn ogystal â bod ganddo’r potensial i fod yn drawmatig i’r claf. Fel mae profiadau ein hatebwyr yn tystio, gall cyfathrebu aneffeithiol gael goblygiadau difrifol, i’r claf ac i’r sefydliad iechyd, fel ei gilydd. Er enghraifft, y mater sylfaenol o allu claf i roi cydsyniad deallus:

“Nid yw hyd yn oed ffurflen llofnodi caniatâd byth yn y fformat sydd ei angen. Pan gewch staff i’w darllen ichi, mae’n ymddangos nad ydynt yn hoffi’i darllen hi ichi.” Person dall neu â golwg rhannol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Ni ofynnwyd i bron 4 o bob 5 o atebwyr oedd angen cymorth cyfathrebu am eu hanghenion.

Mae’r cynnig, neu’r trefniant, o gymorth cyfathrebu i bobl fyddar, trwm eu clyw a byddarddall yn anaml ac yn anghyson. Nododd rhai atebwyr hefyd fod yn rhaid iddynt agor y drafodaeth am gymorth cyfathrebu. Roedd nifer fechan o atebwyr yn ymwybodol o’u hawliau ac yn ddigon hyderus i allu gofyn amdanynt. Fodd bynnag, mae angen i gymorth

11

Page 12: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

cyfathrebu gael ei gynnig yn rhagweithiol i alluogi’r cleifion mwyaf agored i niwed wireddu’u hawliau a chynnal eu hurddas.

“Wnes i ddim gofyn am system ddolen clyw, fe wnes fustachu ymlaen.” Person sydd â nam ar ei glyw, Bwrdd Addysgu Iechyd Powys.

Mae’r canfyddiadau hyn yn adleisio adroddiad Amgylchedd Cleifion mewn Ysbytai 2013 gan Fwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned, a ganfu 33 lleoliad gwahanol mewn 22 o ysbytai lle nad oedd dolenni clyw wedi’u gosod neu lle nad oeddynt yn gweithio. Roedd y rhain mewn mannau ‘mynediad iechyd’ allweddol, fel prif fynedfeydd a derbynfeydd (8).

Mae yna sawl math o gymorth cyfathrebu – dehonglwyr, tywyswyr cyfathrebu a dolenni clyw, er enghraifft. Er bod bwcio dehonglwr neu weithiwr cymorth cyfathrebu’n cael eu sbarduno gan anghenion cleifion unigol, mae’n rhaid sicrhau bod dolenni clyw’n gweithio ac y gall staff eu gweithredu.

Ni ofynnwyd i 79 y cant o atebwyr oedd angen gwybodaeth mewn fformat hygyrch am eu hanghenion gwybodaeth.

“Hyd yn oed yn y clinig llygaid, ni ofynnodd neb imi am hyn.” Person dall neu â golwg rhannol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Gellid disgwyl bod gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes nam ar y synhwyrau’n deall ac yn rhagweld anghenion eu cleifion a’r rhwystrau sydd yn eu hwynebu wrth gael gwybodaeth. Eto, mae’r sylwadau a wnaed gan atebwyr yn awgrymu bod cleifion yn wynebu’r un diffyg ymwybyddiaeth a rhwystrau trefniadol mewn clinigau arbenigol ag y maent ledled gwasanaethau gofal iechyd. Mae angen i hyn newid; dylai clinigau nam ar y synhwyrau fod yn arwain y ffordd o ran darparu cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch.

Ymwybyddiaeth Staff

“Gwnaeth llawer o’r staff ymdrech pan ddywedais wrthynt fod fy nghlyw’n wael ond cefais yr argraff ryfedd mai po uchaf roeddent yn y sefydliad, po gyntaf roeddent yn anghofio.” Person â nam ar ei glyw, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

12

Page 13: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

“Mae fy nealltwriaeth i o’r hyn a ddywedodd meddygon yn y clinig wrthyf tua ‘hanner a hanner’.” Person byddarddall, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Er bod mwy na hanner – 56 y cant – atebwyr wedi adrodd bod y rhan fwyaf neu’r holl staff yn gallu cyfathrebu’n dda â hwy, canfu 7 y cant nad oedd yr un o’r staff yn gallu cyfathrebu’n dda â hwy.

Mae yna lawer i’w ganmol yn yr ystadegyn sy’n dangos y canfu mwy na hanner y rheiny a holwyd fod y rhan fwyaf neu’r holl staff yn gallu cyfathrebu’n dda â hwy. Fodd bynnag, mae’n destun pryder dybryd bod canran sylweddol o atebwyr wedi canfod bod o leiaf un aelod o staff yn methu â chyfathrebu’n dda â hwy.

Gwnaeth sylwadau atebwyr hefyd awgrymu mai yn y sgyrsiau pwysicaf hynny – rhwng yr ymgynghorydd a’r claf, lle mae gwybodaeth hanfodol am iechyd yn cael ei throsglwyddo – y mae cyfathrebu effeithiol yn chwalu. Mae yna oblygiadau pendant ar gyfer diogelwch cleifion yn hyn o beth. Mae angen darparu hyfforddiant mewn ymwybyddiaeth o nam ar y synhwyrau ar bob lefel, nid yn unig i’r rheini sy’n darparu gwasanaethau wrth y dderbynfa.

Amgylchedd Gofal Eilaidd

Credai 30 y cant fod dyluniad ysbytai’n wael a’i fod yn gwneud cyrchu gwybodaeth neu ganfod eich ffordd o amgylch yn anodd.

“Petawn yn gorfod canfod yr adran pelydr-X, ni fyddai gennyf glem.” Person dall neu â golwg rhannol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

Mae amgylcheddau sydd wedi’u dylunio’n wael yn rhwystr mawr i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau ac yn gwneud pobl sydd fel arall yn bobl annibynnol yn ddibynnol ar dywyswyr ac/neu aelodau’r teulu. Yn y grwpiau ffocws â phobl sydd wedi colli’u golwg, nodwyd bod canfod eich ffordd trwy ysbytai yn ffynhonnell sylweddol o straen, p’un ai’n mynychu ar gyfer eu hapwyntiad eu hunain, yn mynd gyda rhywun arall, neu’n ymweld â chyfaill neu berthynas. Dywedodd llawer y byddai’n amhosibl iddynt ymweld â’r ysbyty ar eu pen eu hunain.

Gellir erydu rhagor ar urddas os nad yw aelodau staff wedi derbyn hyfforddiant digonol i dywys cleifion yn effeithiol neu os nad ydynt yn cynnig cymorth.

13

Page 14: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

“Maent yn eich handlo chi, yn fy mhrofiad i. Mae’n ddiraddiol iawn.” Person dall neu â golwg rhannol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

“Dywedon nhw wrthai nad ydynt i fod i’m tywys, oherwydd iechyd a diogelwch, ac felly mae’n rhaid imi aros am borthor i ddod i fy nôl mewn cadair olwyn.” Person dall neu â golwg rhannol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

Gwnaeth ymatebion ac adborth gan grwpiau ffocws nodi ystod o faterion, megis systemau ticedu mewn clinigau nad oedd yn hygyrch i bobl sydd wedi colli’u golwg, arwyddion nad oeddynt yn ddigon eglur a dim Braille ar fotymau lifft. Awgrymodd atebwyr rai datrysiadau rhwydd ac ymarferol fyddai’n gwneud canfod eich ffordd trwy ysbytai’n haws:

“Mae’n rhaid imi fynd cryn bellter i fynychu’r clinig dermatoleg, ac ni allaf weld y rhifau a’r arwyddion ar y drysau/waliau oherwydd eu bod bob amser yn rhy uchel i mi allu mynd yn ddigon agos atynt, lle y gallwn mewn gwirionedd eu darllen. Prin y gallaf weld unrhyw bellter! Gallwn ei wneud ar fy mhen fy hun, serch hynny, petai’r rhifau ond yn is i lawr!” Person byddarddall, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Diwallu anghenion cleifion: enghraifft o ymarfer effeithiolMae Laura wedi ymweld ag Ysbyty Athrofaol Cymru amryw o weithiau yn y misoedd diwethaf, fel claf allanol ac fel claf preswyl, fel ei gilydd, am lawdriniaeth:

“O’r brig i’r gwaelod, roedd staff yn barod eu cymorth. Pan oeddwn yn aros yn yr ysbyty, gwnaethant yn sicr fy mod yn gwybod lle roedd yr ystafell ymolchi a lle roedd y gloch alw, ac felly os oedd arnaf angen mynd i’r tŷ bach, gallwn fynd yno ar fy mhen fy hun, ond byddai rhywun hefyd yn dod i weld a oedd arnaf angen cymorth. Byddent yn dod i gael golwg arnaf bob hyn a hyn, er mwyn gwneud yn sicr fy mod yn iawn ac i weld a oedd arnaf angen diod neu rywbeth – oherwydd, yn wahanol i bobl eraill, ni allaf fynd yn ôl ac ymlaen pan fydd arnaf angen rhywbeth.

“Yn y clinig, byddai nyrsys yn dod i ddweud wrthyf os oeddynt yn hwyr â’u gwaith, a lle roeddwn yn y ciw ac yn fy hysbysu’n rheolaidd am bethau wrth iddynt ddatblygu. Yn gyffredinol, byddent yn dod i roi gwybodaeth imi, yn hytrach na fy mod yn gorfod gofyn. Os oeddem yn gorfod aros yn hir, byddai un o’r nyrsys yn mynd â fi i lawr i ollwng fy nghi tywys ar y glaswellt, neu roi dŵr iddo hefyd. Os oeddwn yn cael

14

Page 15: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

sgan, ac roedd y ci’n gorfod aros y tu allan, yna byddai rhywun yn gwarchod y ci.

“Roedd y staff i gyd yn dda am fy nhywys pan oedd arnaf angen hynny, ac yn cynnig cymorth yn hytrach na fy mod yn gorfod gofyn.

“Roedd arnaf eisiau dweud ‘Diolch’ wrth yr holl staff, ond roedd hi’n ymddangos nad oedd yna unrhyw ffordd o gofnodi diolch!”

15

Page 16: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

Gofal Brys mewn Ysbyty

Dywedodd 16 o 24 o atebwyr y gallai’r holl neu’r rhan fwyaf o staff Damweiniau ac Achosion Brys gyfathrebu’n dda â hwy.

Dywedodd 10 o 13 o atebwyr y gallai’r holl neu’r rhan fwyaf o staff ambiwlans gyfathrebu’n dda â hwy.

Dim ond 26 o’r rheini a holwyd oedd wedi derbyn gofal brys neu ofal heb ei drefnu, naill ai yn yr Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys (A&E) a/neu drwy ddefnyddio ambiwlans, sef canran sylweddol is na’r rheiny sy’n defnyddio gofal sylfaenol neu ofal eilaidd wedi’i drefnu. Fodd bynnag, mae sylwadau’n awgrymu bod y rheini a dderbyniai ofal brys yn fwy tebygol o roi gwybod bod y rhan fwyaf neu’r holl staff yn gallu cyfathrebu’n effeithiol â hwy, o’i gymharu â’r ddau leoliad arall.

“Mae ganddynt fwy o amser un i un â chi ac maent yn agos... dydyn nhw ddim yn cael eu brysio gan eraill yn aros am eu gwasanaethau ac sy’n aros mewn rhes y tu ôl imi.” Person â nam ar ei glyw, Abertawe Bro Morgannwg.

Nid oedd yr un o’r cleifion yn cofio staff yn defnyddio canllaw cyfathrebu cyn mynd i’r ysbyty.

O ystyried natur sefyllfaoedd brys, mae’n bosibl bod y canllaw cyfathrebu cyn mynd i’r ysbyty wedi’i ddefnyddio heb i gleifion fod yn ymwybodol neu heb iddynt fod yn cofio’i fod wedi’i ddefnyddio. Fodd bynnag, dylid atgoffa staff Ambiwlans a Damweiniau ac Achosion Brys o’r holl gymhorthion ac hyfforddiant cyfathrebu sydd ar gael iddynt a defnyddio’r rhain ble y bo’n briodol.

16

Page 17: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

Pryderon a Chwynion

Ni wyddai 58 y cant o atebwyr sut i roi gwybod am bryder neu gŵyn.

O’r 11 yn y garfan oedd wedi rhoi gwybod am gŵyn, canfu 7 hi’n anodd.

“Geiriol yn unig. Gan fod yn fyddar fel perthynas agosaf [i glaf mewn ysbyty], hoffwn gael fy hysbysu am yr hyn fyddai’n digwydd i’m tad. Roedd yn rhaid imi gysylltu trwy fy mhlant sy’n oedolion sy’n gallu clywed. Dim tecst nac e-bost. Cysylltodd pobl cydraddoldeb â mi i anfon e-bost at dîm profiad cleifion. Ers hynny, ni chlywais ganddynt.” Person byddar, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Mae atebwyr yr arolwg hwn yn ei gwneud hi’n eglur bod deall y system adborth a chwynion ymhell o fod yn beth hawdd. Mae angen gwneud mwy o waith i godi ymwybyddiaeth ymysg pobl sydd â nam ar eu synhwyrau – fel cleifion eu hunain ac fel gofalwyr neu berthnasau i gleifion – o sut i godi pryder neu i roi gwybod am gŵyn.

Ni ddylai bod angen cefnogaeth ychwanegol – pa un a yw hynny trwy dderbyn gweithdrefnau cwyno mewn fformatau hygyrch, gallu gwneud cwynion yn eiriol, neu fod angen dehonglwr i wneud cŵyn – fod yn rhwystr rhag darparu adborth am wasanaethau. Mae hyn yn neilltuol o wir pan fo’r gŵyn o dan sylw yn ymwneud â’r rhwystrau y mae person sydd â nam ar ei synhwyrau’n eu wynebu wrth gyrchu gwasanaethau. Dylai byrddau iechyd brofi systemau adborth gyda phobl sydd â nam ar eu synhwyrau i sicrhau’u bod yn hygyrch ac y gall pobl ganfod gwybodaeth yn hawdd am sut i roi gwybod am bryderon a chwynion.

17

Page 18: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

Argymhellion

1. Mae’n rhaid i Fyrddau Iechyd gyflymu camau i weithredu’n llawn Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Cyfathrebu a Gwybodaeth i Bobl sydd â Nam ar eu Synhwyrau ledled pob gwasanaeth.

2. Dylai GIG Cymru, Byrddau Iechyd a sefydliadau ar gyfer pobl sydd â nam ar eu synhwyrau, megis Action on Hearing Loss Cymru, RNIB Cymru a Sense Cymru, ddechrau ymgyrch i godi ymwybyddiaeth cleifion sydd â nam ar eu synhwyrau o’u hawliau i gael addasiadau rhesymol mewn lleoliadau gofal iechyd. Dylai hyn gynnwys codi ymwybyddiaeth o’r weithdrefn gwyno.

3. Dylai gofal sylfaenol a gofal eilaidd weithredu hyfforddiant anwytho gorfodol sydd wedi’i ddatblygu gan Gomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG i staff ar bob lefel, yn cynnwys cydweithwyr lefel uwch.

4. Mae’n rhaid i leoliadau gofal sylfaenol weithredu ar y Safonau trwy brif ffrydio’r arfer o ofyn am namau ar y synhwyrau a chofnodi anghenion gwybodaeth a chyfathrebu ar gyfer cleifion newydd yn ogystal â diweddaru cofnodion ar gyfer cleifion cyfredol.

5. Dylai Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru alluogi gweithredu system rybuddio neu fflagio i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chynhyrchu’n awtomatig yn y fformat cywir a bod cymorth cyfathrebu ar gael ledled holl ardaloedd y Byrddau Iechyd.

6. Mae’n rhaid i ofal sylfaenol a gofal eilaidd weithredu’n syth i sicrhau bod holl amgylcheddau gofal iechyd yn hygyrch i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Mae’n rhaid i Fyrddau Iechyd gynnwys pobl sydd â nam ar eu synhwyrau wrth ddatblygu cynlluniau gweithredu i gyflawni hyn, sy’n rhoi manylion camau byrdymor a thymor hwy, fel ei gilydd.

7. Dylai Byrddau Iechyd brofi systemau ar gyfer rhoi gwybod am bryderon a chwynion gyda phobl sydd â nam ar eu synhwyrau i sicrhau bod systemau’n hygyrch, ac y gall pobl ganfod gwybodaeth yn hawdd am sut i roi gwybod am bryderon a chwynion.

Page 19: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

Cyfeiriadau(1) Action on Hearing Loss, adroddiad Hearing Matters, 2011.(2) Access Economics, Future Sight Loss UK 1: The economic impact of partial sight and blindness in the UK adult population, RNIB, 2009.(3) Robertson J, Emerson E. Estimating the Number of People with Co-occurring Vision and Hearing Impairments in the UK. Canolfan Ymchwil Anabledd, 2010.(4) Access Economics, Future Sight Loss UK 1: The economic impact of partial sight and blindness in the UK adult population, RNIB, 2009.(5) Action on Hearing Loss, adroddiad Hearing Matters, 2011.(6) Robertson J, Emerson E. Estimating the Number of People with Co-occurring Vision and Hearing Impairments in the UK. Canolfan Ymchwil Anabledd, 2010.(7) Gofal Iechyd Hygyrch i Bobl sydd â Nam ar eu Synhwyrau yng Nghymru, Adroddiad Terfynol y Grŵp Llywio, 2011. (8) Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru, Ymweliad Asesu Allanol Amgylchedd Cleifion mewn Ysbytai - Adroddiad Blynyddol 2013, 2013.

19

Page 20: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

Atodiad 1: cwestiynau’r arolwg

A yw gwasanaethau iechyd yn diwallu eich anghenion?

Ym mis Tachwedd 2013, lansiodd Llywodraeth Cymru safonau newydd ar gyfer gwasanaethau iechyd yng Nghymru i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion gwybodaeth a chyfathrebu pobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Mae hyn yn cynnwys: • Mae pobl sy'n fyddar neu sydd wedi colli eu clyw • Pobl ddall ac â golwg rhannol • Pobl sy'n fyddarddall neu sydd â chyfuniad o namau clyw a golwg sy’n achosi anawsterau o ran cyfathrebu, mynediad at wybodaeth a symudedd.Mae’r safonau cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch yn dweud: • Dylai meddygfeydd teulu ac ysbytai ofyn i chi am eich anghenion cyfathrebu a chofnodi'r wybodaeth hon • Dylai staff fod yn sensitif i'ch anghenion ac wedi’u hyfforddi i gyfathrebu'n effeithiol â chi • Bydd dehonglydd BSL neu dehonglydd llaw ar gyfer pobl fyddarddall fod ar gael os byddwch yn gofyn am un; • Bydd llythyrau apwyntiadau a gwybodaeth ychwanegol ar gael mewn fformat sy'n hygyrch i chi, megis print bras, Braille neu sain; • Dylai systemau dolen cael eu gosod, a dylai staff wybod sut i'w defnyddio; • Dylai ysbytai fod wedi’u goleuo'n dda, gydag arwyddion clir fel eu bod yn haws i chi ffeindio’ch ffordd o gwmpas; • Dylech allu gwneud neu newid apwyntiad drwy amrywiaeth o ddulliau, megis dros y ffôn, e-bost, negeseuon testun, ffonau testun ac arlein.

20

Page 21: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

Hoffem wybod a yw'r safonau wedi arwain at unrhyw welliannau i chi wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd. Cwblhewch y rhannau o'r arolwg hwn sy’n berthnasol i chi. Os hoffech chi roi enghreifftiau penodol o'ch profiadau, gwnewch hynny. Byddwn yn casglu'r wybodaeth hon ac yn ei chyflwyno fel adroddiad i Lywodraeth Cymru. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg neu os hoffech gymorth i gwblhau, cysylltwch â ni. Dychwelwch eich ymateb i'r arolwg erbyn 24 Hydref i:Tess Saunders RNIB Cymru, Cwrt Jones, Stryd Womanby, Caerdydd, CF10 1BRT. 029 20 82 8564E. [email protected]

Katie ChappelleAction on Hearing Loss Cymru, Ty Tudor, 16 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9LJT.029 2090 7516E. [email protected]

Catrin EdwardsSense Cymru, Ty Penderyn, 26 Stryd Fawr, Merthyr Tudful, CF24 8DPT. 0300 330 9280 Testun. 0300 330 9283E. [email protected]

Amdanoch chi: 1. Disgrifiwch eich colled synhwyraidd: • Dall / golwg rhannol • Byddar • Colled clyw • Byddarddall / colli dau synnwyr Ateb:

1a (cwestiwn eilaidd os atebwyd 'byddar' neu 'colli clyw' i gwestiwn 1) Pa ffordd sy’n well gennych gyfathrebu? • Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

21

Page 22: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

• Gan ddefnyddio system Dolen• Darllen Gwefusau • Cymorth Arwyddion Saesneg (Sign Supported English - SSE) • Arall

2. Beth yw eich cod post? Ateb:

Mae'r cwestiynau canlynol yn gofyn am eich golwg a / neu golli clyw. Ni fydd pob cwestiwn yn berthnasol i chi. Atebwch bob un o'r cwestiynau sy'n berthnasol i chi ac atebwch 'Ddim yn berthnasol' i gwestiynau nad ydynt yn berthnasol.

Ymweld â'ch meddyg teulu 3 Ydych chi wedi ymweld â’r meddygfa yn y flwyddyn ddiwethaf? • Ydw • Dim Ateb:

Os ateboch 'Ydw', atebwch Gwestiynau 4-10. Os ateboch 'Nac ydw', ewch yn syth i Gwestiwn 11.  4 Os oes angen gwybodaeth mewn fformat hygyrch arnoch, wnaeth unrhyw un ofyn sut yr hoffech dderbyn y wybodaeth? (Er enghraifft, llythyrau apwyntiad neu daflenni gwybodaeth mewn braille, drwy e-bost, mewn testun pwynt 20) • Do • Naddo • Ddim yn berthnasol Ateb: Sylwadau, neu enghreifftiau o’ch profiadau:

5 Os ydych, wnaethoch chi dderbyn gwybodaeth yn y fformat cywir? • Do• Naddo • Ddim yn berthnasol Ateb: Sylwadau, neu enghreifftiau o’ch profiadau:

22

Page 23: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

6. Os oes gennych anghenion cyfathrebu penodol, wnaeth unrhyw un ofyn i chi am y cymorth sydd angen arnoch? (Er enghraifft, a oes angen System Dolen, dehonglydd BSL, dehonglydd byddarddall, Siaradwr gwefusau, Tywysydd cyfathrebu arnoch) • Do• Naddo • Ddim yn berthnasol Ateb:

Os ateboch 'Do', efallai y byddwch am nodi pa fath o gymorth cyfathrebu sydd angen arnoch. Sylwadau, neu enghreifftiau o’ch profiadau:

7 Os gofynnoch chi am gymorth cyfathrebu, oedd y cymorth hwn ar gael i chi? • Oedd• Nacoedd• Ddim yn berthnasol Ateb: Sylwadau, neu enghreifftiau o’ch profiadau:

8. Ystyriwch staff y feddygfa: staff y dderbynfa, meddygon a nyrsys. Oeddent yn gallu cyfathrebu'n dda gyda chi? Gallech feddwl am sut mae staff y dderbynfa yn eich cyfarch ac yn rhoi gwybod i chi am amseriad eich apwyntiad, neu ystyriwch a yw gweithwyr iechyd proffesiynol yn sicrhau eich bod yn deall y wybodaeth a roddwyd i chi. Dewiswch y datganiad mwyaf addas: • Mae’r rhan fwyaf neu'r holl staff yn cyfathrebu'n dda gyda mi • Mae rhai staff yn cyfathrebu'n dda gyda mi • Does dim un o'r staff yn gallu cyfathrebu'n dda gyda mi Ateb: Sylwadau, neu enghreifftiau o'ch profiadau:

9. Ystyriwch adeilad y feddygfa a'i chynllun mewnol. Ydy’r feddygfa wedi’i osod allan mewn ffordd sy'n eich helpu i gael y wybodaeth rydych ei angen ac i ffeindio’ch ffordd o gwmpas yn hawdd? Gallech feddwl am yr arwyddion neu’r goleuadau, rhybuddion i roi gwybod i chi mai eich tro chi yw hi, lefel y sŵn cefndir, ymysg

23

Page 24: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

pethau eraill. Dewiswch y datganiad mwyaf addas: • Mae'r cynllun yn addas iawn at fy anghenion ac ni ellid ei wella • Mae'r cynllun yn eithaf da, ond gellid ei wella • Mae'r cynllun yn wael, sy'n ei gwneud yn anodd i mi ffeindio fy ffordd, neu i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnaf• Mae'r cynllun yn fy rhoi mewn perygl ac mae angen gwelliannau ar frys Ateb: Sylwadau, neu enghreifftiau o’ch profiadau:

10. Gan feddwl am eich profiadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ydych chi wedi sylwi ar unrhyw welliannau yn y ffordd y mae eich meddygfa’n cyfathrebu gyda chi? • Ydw • Nac yda• Ddim yn gwybod Ateb: Sylwadau, neu enghreifftiau o’ch profiadau:

Apwyntiadau ysbyty a gynlluniwyd o flaen llaw ac aros dros nôs mewn ysbytai

11 Ydych chi wedi aros dros nôs mewn ysbyty ar ôl cael gwybod am yr apwyntiad o flaen llaw neu wedi cael apwyntiad mewn clinig cleifion allanol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf? • Ydw • Nac ydwAteb:Sylwadau, neu enghreifftiau o’ch profiadau:

Os ydych wedi ateb 'Ydw', atebwch Gwestiynau 12-18. Os ydych wedi ateb 'Nac ydw', ewch i Gwestiwn 19.

12. Os oes angen gwybodaeth mewn fformat hygyrch arnoch, wnaeth unrhyw un ofyn sut yr hoffech dderbyn y wybodaeth? (Er enghraifft, llythyrau apwyntiad neu daflenni gwybodaeth mewn braille, drwy e-bost, mewn testun pwynt 20) • Do • Naddo

24

Page 25: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

• Ddim yn berthnasol Ateb: Sylwadau, neu enghreifftiau o’ch profiadau:

13. Os 'Do', a wnaethoch chi dderbyn gwybodaeth yn y fformat cywir? • Do • Naddo • Ddim yn berthnasol Ateb: Sylwadau, neu enghreifftiau o’ch profiadau:14. Os oes gennych anghenion cyfathrebu penodol, wnaeth unrhyw un ofyn i chi am y cymorth sydd angen arnoch? (Er enghraifft, a oes angen System Dolen, dehonglydd BSL, dehonglydd byddarddall, Siaradwr gwefusau, Tywysydd cyfathrebu arnoch) • Do• Naddo • Ddim yn berthnasol Ateb:

15. Os gofynnoch chi am gymorth cyfathrebu, oedd y cymorth hwn ar gael i chi? • Oedd• Nacoedd• Ddim yn berthnasol Ateb: Sylwadau, neu enghreifftiau o’ch profiadau:

16. Ystyriwch staff yr ysbyty: staff y dderbynfa, meddygon a nyrsys. Oeddent yn gallu cyfathrebu'n dda gyda chi? Gallech feddwl am sut wnaeth staff y dderbynfa eich cyfarch a roi gwybod i chi am amseriad eich apwyntiad, neu ystyriwch a wnaeth gweithwyr iechyd proffesiynol sicrhau eich bod yn deall y wybodaeth a roddwyd i chi. Dewiswch y datganiad mwyaf addas: • Roedd rhan fwyaf neu'r holl staff yn cyfathrebu'n dda gyda mi • Roedd rhai staff yn cyfathrebu'n dda gyda mi • Doedd dim un o'r staff yn gallu cyfathrebu'n dda gyda mi

25

Page 26: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

Ateb: Sylwadau, neu enghreifftiau o'ch profiadau:17. Ystyriwch adeilad yr ysbyty a chynllun y ward neu'r clinig. Oedd yr ysbyty wedi’i gosod allan mewn ffordd oedd yn eich helpu i gael y wybodaeth oedd angen arnoch neu yn eich helpu i ffeindio’ch ffordd o gwmpas yn hawdd? Gallech feddwl am yr arwyddion neu’r goleuadau, rhybuddion i roi gwybod i chi mai eich tro chi yw hi, lefel y sŵn cefndir, ymysg pethau eraill.Dewiswch y datganiad mwyaf addas: • Roedd y cynllun yn addas iawn at fy anghenion ac ni ellid ei wella

• Roedd y cynllun yn eithaf da ond gellid eu gwella • Roedd y cynllun yn wael, ac yn ei gwneud yn anodd i mi ffeindio fy ffordd neu i gael y wybodaeth roedd angen arnaf • Roedd y cynllun yn fy rhoi mewn perygl ac mae angen gwelliannau ar frys Ateb: Sylwadau, neu enghreifftiau o’ch profiadau:

18. Gan feddwl am eich profiadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ydych chi wedi sylwi ar unrhyw welliannau yn y ffordd mae ysbytai yn cyfathrebu â chi? • Ydw • Nac ydw • Ddim yn berthnasol Ateb: Sylwadau, neu enghreifftiau o’ch profiadau:

Gofal brys neu ofal yn yr ysbyty heb ei drefnu 19. Ydych chi wedi bod yn glaf mewn ward Damweiniau ac Achosion Brys yn ystod y flwyddyn ddiwethaf? • Ydw • Nac ydw Ateb:

Os ateboch 'Ydw', atebwch Gwestiynau 20-23. Os ateboch 'Nac ydw', ewch yn syth i Gwestiwn 24.

20. Wnaeth staff yr ysbyty ofyn i chi am eich colled synhwyraidd?

26

Page 27: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

• Do • Naddo • Ddim yn gwybod Ateb: Sylwadau, neu enghreifftiau o’ch profiadau:

21. Os ydych yn fyddar neu â nam ar y clyw, wnaeth y staff ddefnyddio canllaw (a elwir yn Ganllaw Cyfathrebu Cyn-Ysbyty) i'ch helpu chi i gyfathrebu â nhw? • Do• Naddo • Ddim yn berthnasol Ateb: Sylwadau, neu enghreifftiau o’ch profiadau:22. Ystyriwch staff Damweiniau ac Achosion Brys: staff y dderbynfa, meddygon, nyrsys ac ati. A oeddent yn gallu cyfathrebu'n dda gyda chi? Gallech feddwl am sut wnaeth staff y dderbynfa eich cyfarch a roi gwybod i chi am amseriad eich apwyntiad, neu ystyriwch a wnaeth gweithwyr iechyd proffesiynol sicrhau eich bod yn deall y wybodaeth a roddwyd i chi. Dewiswch y datganiad mwyaf addas: • Roedd rhan fwyaf neu'r holl staff yn cyfathrebu'n dda gyda mi • Roedd rhai staff yn cyfathrebu'n dda gyda mi • Doedd dim un o'r staff yn gallu cyfathrebu'n dda gyda mi Ateb: Sylwadau, neu enghreifftiau o'ch profiadau:

23. Ystyriwch adeilad yr ysbyty a cynllun y ward Damweiniau ac Achosion Brys. Oedd yr ysbyty wedi’i gosod allan mewn ffordd oedd yn eich helpu i gael y wybodaeth oedd angen arnoch neu yn eich helpu i ffeindio’ch ffordd o gwmpas yn hawdd? Gallech feddwl am yr arwyddion neu’r goleuadau, rhybuddion i roi gwybod i chi mai eich tro chi yw hi, lefel y sŵn cefndir, ymysg pethau eraill.Dewiswch y datganiad mwyaf addas: • Roedd y cynllun yn addas iawn at fy anghenion ac ni ellid ei wella

• Roedd y cynllun yn eithaf da ond gellid eu gwella • Roedd y cynllun yn wael, ac yn ei gwneud yn anodd i mi ffeindio

27

Page 28: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

fy ffordd neu i gael y wybodaeth roedd angen arnaf • Roedd y cynllun yn fy rhoi mewn perygl ac mae angen gwelliannau ar frys Ateb: Sylwadau, neu enghreifftiau o’ch profiadau:

24. Ydych wedi derbyn triniaeth gan staff ambiwlans yn ystod y flwyddyn ddiwethaf? • Ydw • Nac ydw Ateb:

Os ateboch 'Ydw', atebwch gwestiynau 25-27. Os ateboch 'Nac ydw' ewch yn syth i gwestiwn 28.25. Wnaeth staff yr ambiwlans ofyn i chi am eich colled synhwyraidd? • Do • Naddo • Ddim yn gwybod Ateb: Sylwadau, neu enghreifftiau o’ch profiadau:

26. Os ydych yn fyddar neu â nam ar y clyw, wnaeth staff yr ambiwlans ddefnyddio canllaw (a elwir yn Ganllaw Cyfathrebu Cyn-Ysbyty) i'ch helpu chi i gyfathrebu â nhw? • Do• Naddo • Ddim yn berthnasol Ateb: Sylwadau, neu enghreifftiau o’ch profiadau:

27. Oedd staff yr ambiwlans yn gallu cyfathrebu'n dda gyda chi? Dewiswch y datganiad mwyaf addas: • Gallai'r rhan fwyaf neu'r holl staff gyfathrebu'n dda gyda mi • Gallai rhai staff gyfathrebu'n dda gyda mi • Doedd dim un o'r staff yn gallu cyfathrebu'n dda gyda mi Ateb: Sylwadau, neu enghreifftiau o'ch profiadau:

28

Page 29: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

Cwynion ac adborth am wasanaeth iechyd28. Petai chi am gwyno am wasanaeth iechyd neu roi adborth, ydych chi’n gwybod sut i wneud hyn? • Ydw• Nac ydwAteb:

29. Ydych chi wedi cwyno neu roi adborth am wasanaeth iechyd yn y flwyddyn ddiwethaf? • Ydw • Nac ydwAteb:

Os ateboch 'Ydw', atebwch Gwestiwn 30. Os ateboch 'Nac ydw', ewch yn syth i Gwestiwn 31.

30. Pa mor hawdd oedd hi gwyno a rhoi adborth? • Hawdd • Roedd yn iawn, ond nid yn syml • Anodd Ateb: Sylwadau, neu enghreifftiau o’ch profiadau:

Effaith y safonau

31. Gan feddwl am eich profiadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ydych chi wedi sylwi ar unrhyw welliant yn y ffordd y mae gwasanaethau iechyd yn cyfathrebu â chi? • Ydw • Nac ydw • Ddim yn siŵr Ateb: Sylwadau, neu enghreifftiau o’ch profiadau:

Diolch yn fawr! Diolch i chi am eich amser wrth ymateb. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y safonau gwybodaeth a chyfathrebu hygyrch ym maes iechyd, neu os hoffech ddweud rhagor wrthym am eich profiad o ddefnyddio gwasanaethau iechyd darparwch eich manylion cyswllt, os gwelwch yn dda. Ni fyddwn yn rhannu eich

29

Page 30: RNIB on_ Welsh …  · Web viewBlwyddyn yn ddiweddarach: Safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Adroddiad gan Action on …

manylion a bydd ein harolwg yn aros yn ddienw pan gaiff ei gyhoeddi.

Enw: Dull cyswllt dewisol: Manylion cyswllt:

30