pan mae dau neu dri wedi dod ynghyd yn fy enw efallai bod ...ers yr 1970au, roedd ar bwyllgor...

4
Y TYST PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 3 Ionawr 16, 2020 50c. NEGES FLWYDDYN NEWYDD HERIOL DYFRIG Wrth i gynulleidfaoedd eglwysi a chapeli leihau yn gyflym ac addoldai gau ar raddfa frawychus, mae Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb wedi annog aelodau i fod yn fwy arloesol a gweithredol wrth wynebu degawd newydd. Cafodd Neges Flwyddyn Newydd heriol y Parchg Dyfrig Rees sylw eang gan y wasg a’r cyfryngau. Fe wnaeth ymddangos ar wefannau newyddion, a bu’r Ysgrifennydd Cyffredinol yn traethu amdano ar ddwy o raglenni Radio Cymru. Dyma ddywedodd: ‘Ar hyd y canrifoedd mae’r ffydd Gristnogol wedi adnewyddu ei hun yn gyson trwy fod pobol yn barod i arloesi. Wrth i ni wynebu blwyddyn a degawd newydd, mae angen i ninnau hefyd fod yn barod i arloesi, neu wylio Cristnogaeth yn parhau i farw yn ein cymunedau, nes bod Cymru gyfan yn troi’n genedl a fydd bron yn hollol seciwlar. Mae’r gair arloesi yn gallu golygu “clirio neu garthu”. Wrth i nifer y ffyddloniaid fynd yn llai a theimlo baich cynnal eglwys yn drwm, oes modd ysgafnhau’r baich trwy glirio neu waredu rhai pethau sydd bellach yn ddibwys? Mae’r gair arloesi hefyd yn cynnwys yr elfen “loes”, ac fe all cael gwared â rhai hen bethau cyfarwydd achosi loes. Ond cymaint mwy fyddai’r loes petai’r achos yn dod i ben o ganlyniad i ddiffyg awydd, gweledigaeth a dewrder i arloesi tra bod cyfle gyda ni. Y newyddion da yw bod bron i 20,000 o aelodau a phlant yn cwrdd mewn capeli Annibynnol ledled Cymru o hyd. Beth am i ni, yn ein heglwysi, addunedu ar ddechrau blwyddyn newydd i wneud o leiaf un peth arloesol eleni? I chwilio am arweiniad yr Ysbryd wrth ystyried a thrafod beth all hynny fod, i bwyso ar nerth yr Ysbryd wrth ei weithredu, ac ar gysur yr Ysbryd os ydym yn methu. Fe allai’r arloesi ddod â bywyd newydd i’r achos, ond petaem ni’n methu, o leiaf ni fyddai hanes yn ein cofio ni fel y genhedlaeth na wnaeth hyd yn oed ymdrechu.’ Mae Kim Sang-Hwa yn gwybod bod Duw gyda hi bob amser, hyd yn oed pan mae’n cyfarfod yn gyfrinachol â Christnogion eraill yng Ngogledd Corea. Yr hyn nad oedd hi’n gwybod oedd a fyddai un o’r Cristnogion cyfrinachol eraill yn ei bradychu. ‘Mae gennym ni ddywediad yng Ngogledd Corea,’ meddai Sang-Hwa. ‘Pan mae tri ohonom yn cwrdd, mae un ohonom yn ysbïwr a bydd yn adrodd yn ôl i’r llywodraeth.’ Erledigaeth Ni all llawer o Gristnogion Gogledd Corea hyd yn oed ddweud wrth eu teuluoedd am eu ffydd. Ni sylweddolodd Sang-Hwa fod ei mam a’i thad yn gredinwyr hyd nes ei bod bron yn ei harddegau. ‘Ni allai fy rhieni rannu unrhyw straeon Cristnogol gyda ni fel plant. Mae’n rhy beryglus. Gallai plentyn fradychu ffydd ei rieni ar ddamwain. Weithiau mae athrawon hyd yn oed yn gofyn i blant ifanc ddatgelu gwybodaeth am eu rhieni. Byddai canlyniadau cael eich datgelu fel credadun yng Ngogledd Corea yn erchyll. Os yw’r llywodraeth yn canfod eich bod yn Gristion, mae’n debygol y cewch eich anfon i wersyll llafur. Nid yw’r mwyafrif o garcharorion byth yn gadael y gwersylloedd, ac y mae’r amodau’n waeth nag y gallwn eu dychmygu. Mae dilyn Iesu yn cymryd dewrder rhyfeddol yng Ngogledd Corea. Dyma’r lle mwyaf peryglus yn y byd i fod yn Gristion.’ Canfod Beibl Pan oedd hi’n 12 oed, daeth Sang-Hwa o hyd i Feibl cyfrinachol ei rhieni. ‘Fe wnes i daflu’r llyfr ar draws yr ystafell. Dychrynais a chefais ias oer i lawr fy nghefn. Meddyliais: “Brensiach, rydyn ni i gyd yn mynd i farw nawr.” ’ Mewn braw, rhoddodd y Beibl yn ôl yn ei le, heb ddweud dim wrth neb. Roedd gan Sang- Hwa ddewis eithriadol o anodd ei wneud. A ddylai wneud ei dyletswydd wladgarol a dweud wrth yr heddlu, neu a ddylai ddarganfod mwy am Gristnogaeth gan ei rhieni – a mentro ei bywyd ei hun? Y dewis anodd Wedi 15 diwrnod eithriadol o bryderus yn pendroni, yn llawn dewrder penderfynodd ofyn i’w thad am ei ffydd ac roedd yr ef yr un mor ddewr, yn rhannu gwirionedd Gair Duw gyda hi. Dyna pryd yr eglurodd newyddion da’r Efengyl i mi. Yn gyntaf, rhannodd am Adda ac Efa. Yna gofynnodd beth oedd yr anifail mwyaf peryglus, a dywedais wrtho mai’r neidr ydoedd. Cytunodd ac yna fe rannodd sut y daeth pechod i’r byd a sut mae angen prynedigaeth arnom. Hwn oedd y cyntaf o lawer o sgyrsiau a gawsom am y Beibl; am Dduw, Iesu a’r Efengyl.’ Wrth i’w thad siarad am y Beibl, roedd Sang-Hwa yn teimlo bod yr Ysbryd Glân ar waith. Yn y diwedd penderfynodd Sang- Hwa ddilyn Iesu. Roedd hi’n gwybod pa mor beryglus oedd hynny, ond roedd hi hefyd yn gwybod, wedi iddi gael ei argyhoeddi o wirionedd yr efengyl, mai hwn oedd y dewis roedd rhai ei wneud. Cynnydd Mae mwy a mwy o bobl Gogledd Corea yn gwneud yr un penderfyniad ag a wnaeth Sang-Hwa. Er gwaethaf y wladwriaeth ormesol a pheryglon enfawr bod yn grediniwr, mae yna eglwys danddaearol Pan mae dau neu dri wedi dod ynghyd yn fy enw ... efallai bod un yn ysbïwr parhad ar dudalen 2 Addaswyd o wefan opendoorsuk.org

Upload: others

Post on 02-Feb-2021

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Y TYSTPAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG

    Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 3 Ionawr 16, 2020 50c.

    NEGES FLWYDDYN NEWYDDHERIOL DYFRIG

    Wrth i gynulleidfaoedd eglwysi a chapeli leihau yngyflym ac addoldai gau ar raddfa frawychus, maeYsgrifennydd Cyffredinol yr Undeb wedi annog aelodaui fod yn fwy arloesol a gweithredol wrth wynebu degawdnewydd. Cafodd Neges Flwyddyn Newydd heriol yParchg Dyfrig Rees sylw eang gan y wasg a’rcyfryngau. Fe wnaeth ymddangos ar wefannaunewyddion, a bu’r Ysgrifennydd Cyffredinol yn traethuamdano ar ddwy o raglenni Radio Cymru. Dymaddywedodd:‘Ar hyd y canrifoedd mae’r ffydd Gristnogol wediadnewyddu ei hun yn gyson trwy fod pobol yn barod iarloesi. Wrth i ni wynebu blwyddyn a degawd newydd,mae angen i ninnau hefyd fod yn barod i arloesi, neuwylio Cristnogaeth yn parhau i farw yn ein cymunedau,

    nes bod Cymru gyfan yn troi’n genedl afydd bron yn hollol seciwlar. Mae’r gairarloesi yn gallu golygu “clirio neu garthu”.Wrth i nifer y ffyddloniaid fynd yn llai atheimlo baich cynnal eglwys yn drwm, oesmodd ysgafnhau’r baich trwy glirio neuwaredu rhai pethau sydd bellach ynddibwys? Mae’r gair arloesi hefyd yncynnwys yr elfen “loes”, ac fe all caelgwared â rhai hen bethau cyfarwydd achosiloes. Ond cymaint mwy fyddai’r loespetai’r achos yn dod i ben o ganlyniad iddiffyg awydd, gweledigaeth a dewrder iarloesi tra bod cyfle gyda ni. Y newyddionda yw bod bron i 20,000 o aelodau a phlantyn cwrdd mewn capeli Annibynnol ledledCymru o hyd. Beth am i ni, yn einheglwysi, addunedu ar ddechrau blwyddynnewydd i wneud o leiaf un peth arloesoleleni? I chwilio am arweiniad yr Ysbrydwrth ystyried a thrafod beth all hynny fod,i bwyso ar nerth yr Ysbryd wrth eiweithredu, ac ar gysur yr Ysbryd os ydymyn methu. Fe allai’r arloesi ddod â bywydnewydd i’r achos, ond petaem ni’n methu,o leiaf ni fyddai hanes yn ein cofio ni fel ygenhedlaeth na wnaeth hyd yn oedymdrechu.’

    Mae Kim Sang-Hwa yn gwybod bod Duwgyda hi bob amser, hyd yn oed pan mae’ncyfarfod yn gyfrinachol â Christnogioneraill yng Ngogledd Corea. Yr hyn nadoedd hi’n gwybod oedd a fyddai un o’rCristnogion cyfrinachol eraill yn eibradychu. ‘Mae gennym ni ddywediad yngNgogledd Corea,’ meddai Sang-Hwa. ‘Panmae tri ohonom yn cwrdd, mae un ohonomyn ysbïwr a bydd yn adrodd yn ôl i’rllywodraeth.’ErledigaethNi all llawer o Gristnogion Gogledd Coreahyd yn oed ddweud wrth eu teuluoedd ameu ffydd. Ni sylweddolodd Sang-Hwa fodei mam a’i thad yn gredinwyr hyd nes eibod bron yn ei harddegau. ‘Ni allai fyrhieni rannu unrhyw straeon Cristnogolgyda ni fel plant. Mae’n rhy beryglus.

    Gallai plentyn fradychu ffydd ei rieni arddamwain. Weithiau mae athrawon hyd ynoed yn gofyn i blant ifanc ddatgelugwybodaeth am eu rhieni. Byddaicanlyniadau cael eich datgelu fel credadunyng Ngogledd Corea yn erchyll. Os yw’rllywodraeth yn canfod eich bod ynGristion, mae’n debygol y cewch eichanfon i wersyll llafur. Nid yw’r mwyafrif ogarcharorion byth yn gadael ygwersylloedd, ac y mae’r amodau’n waethnag y gallwn eu dychmygu. Mae dilyn Iesuyn cymryd dewrder rhyfeddol yngNgogledd Corea. Dyma’r lle mwyafperyglus yn y byd i fod yn Gristion.’Canfod BeiblPan oedd hi’n 12 oed, daeth Sang-Hwa ohyd i Feibl cyfrinachol ei rhieni. ‘Fe wnes idaflu’r llyfr ar draws yr ystafell.

    Dychrynais a chefais ias oer i lawr fynghefn. Meddyliais: “Brensiach, rydyn ni igyd yn mynd i farw nawr.” ’ Mewn braw,rhoddodd y Beibl yn ôl yn ei le, hebddweud dim wrth neb. Roedd gan Sang-Hwa ddewis eithriadol o anodd ei wneud.A ddylai wneud ei dyletswydd wladgarol adweud wrth yr heddlu, neu a ddylaiddarganfod mwy am Gristnogaeth gan eirhieni – a mentro ei bywyd ei hun?Y dewis anoddWedi 15 diwrnod eithriadol o bryderus ynpendroni, yn llawn dewrder penderfynoddofyn i’w thad am ei ffydd ac roedd yr ef yrun mor ddewr, yn rhannu gwirionedd GairDuw gyda hi.

    Dyna pryd yr eglurodd newyddion da’rEfengyl i mi. Yn gyntaf, rhannodd amAdda ac Efa. Yna gofynnodd beth oedd yranifail mwyaf peryglus, a dywedais wrthomai’r neidr ydoedd. Cytunodd ac yna ferannodd sut y daeth pechod i’r byd a sutmae angen prynedigaeth arnom. Hwn oeddy cyntaf o lawer o sgyrsiau a gawsom am yBeibl; am Dduw, Iesu a’r Efengyl.’

    Wrth i’w thad siarad am y Beibl, roeddSang-Hwa yn teimlo bod yr Ysbryd Glânar waith. Yn y diwedd penderfynodd Sang-Hwa ddilyn Iesu. Roedd hi’n gwybod pamor beryglus oedd hynny, ond roedd hihefyd yn gwybod, wedi iddi gael eiargyhoeddi o wirionedd yr efengyl, maihwn oedd y dewis roedd rhai ei wneud.CynnyddMae mwy a mwy o bobl Gogledd Corea yngwneud yr un penderfyniad ag a wnaethSang-Hwa. Er gwaethaf y wladwriaethormesol a pheryglon enfawr bod yngrediniwr, mae yna eglwys danddaearol

    Pan mae dau neu dri wedi dod ynghyd yn fy enw ... efallai bod un yn ysbïwr

    parhad ar dudalen 2Addaswyd o wefan opendoorsuk.org

  • tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ionawr 16, 2020Y TYST

    Eglwys Gymraeg, Y Tabernacl, Yr AmwythigOedfa Ddatgorffori

    dydd Sadwrn 25 Ionawr 20202pm yn Lansdowne Road, Bayston Hill, Shrewsbury SY3 OHZ.

    Darperir lluniaeth wedi’r oedfa.I hwyluso’r trefniadau bwyd a fyddech mor garedig â chysylltu â

    William Morris Hughes gydag enwau cyn 17 Ionawr: 01286 612516

    Pan mae dau neu driwedi dod ynghyd yn fyenw ... efallai bod un yn ysbïwr – parhad

    enfawr sy’n tyfu. Mae elusenGristnogol Open Doors yn amcangyfrifbod rhwng 200,000 a 400,000 oGristnogion dirgel yn y wlad. Yn dristiawn, mae degau o filoedd o gredinwyrmewn gwersylloedd crynhoi.Mae Open Doors yn cynorthwyo

    mwy na 60,000 o Gristnogion GogleddCorea trwy gyfrannu bwyd, cymorthmeddygol brys a dillad gaeaf. Gwnânthyn trwy rwydweithiau cyfrinachol.Defnyddir yr un rhwydweithiau iddosbarthu Beiblau a llenyddiaethGristnogol. Meddai Sang-Hwa, ‘Mae’narwyddocaol iawn. Mae cariad Duw ynllifo trwy gredinwyr tuag at eraill. Trwyeich cefnogaeth, mae’r credinwyr cuddyn profi bod Duw yn eu caru ac yndarparu popeth angenrheidiol.’Mae Open Doors hefyd yn

    cynorthwyo Cristnogion o OgleddCorea sydd wedi dianc o’r wlad, trwyddarparu tai diogel yn Tsieina. Maetystiolaeth yr anfonir ysbiwyr o OgleddCorea i wledydd cyfagos er mwynherwgipio neu ladd unrhyw un sy’ngweithio gyda ffoaduriaid, yn enwedigCristnogion.

    A wnewch chi weddïo?Gweddïwch y bydd ffydd CristnogionGogledd Corea yn gref ac y byddganddynt wytnwch a dewrder iwynebu’r amodau caled y maent yn euprofi. Gweddïwch am dwf parhaus ynyr eglwys gudd. Gweddïwch drosGristnogion sy’n cael eu herlid ar hyd alled y byd. Am ragor o fanylion ewch ibori yn ar wefan yr elusen:www.opendoorsuk.org

    (Addaswyd o erthygl ar wefanopendoorsuk.org – cysylltwch gydagOpen Doors er mwyn cael eu llyfryn

    Cymraeg sy’n rhestru’r 50 gwladwaethaf yn y byd am erlid Cristnogion.)

    Yn ystod 2019 bu farw Glan Roberts,Caerdydd, un a fu dros y blynyddoedd yngefnogwr brwd i eglwysi Annibynnol ac yngymwynaswr mawr i Undeb yrAnnibynwyr Cymraeg. Cydymdeimlwngyda’i deulu yn eu profedigaeth ynenwedig gyda’i weddw Bethan Roberts. Ynei angladd, a gynhaliwyd yn Salem,Treganna, cymerwyd rhan gan yParchedigion Evan Morgan, Carys Ann athraddodwyd teyrnged iddo gan y Parch.Dr Alun Tudur. Credwn ei bod ynangenrheidiol i ni roi gair yn Y Tystamdano fel ei fod ar gof a chadw.Teyrngar, dibynadwy, brwdfrydig,

    manwl, gwybodus a phenderfynol – dymarai geiriau addas wrth geisio cloriannucymeriad Glan Roberts. Yr oedd yn hoffiawn o gael sgwrs hyd y diwedd a’i feddwlbywiog yn cofio manylion ac enwaudirifedi. Hoffai hel atgofion am ei dad yngnghyfraith a oedd yn gaptenllong yn ystod yr Ail Ryfel Bydac a aeth ar goll amflynyddoedd cyn dychwelyd ynôl yn fyw ac yn iach. Roedd ynbleser cael ymweld ag ef ynystod y blynyddoedd diwethafoherwydd ei fod mor sgyrsiol aphob amser yn werthfawrogolo bawb oedd yn ymweld ag efa Bethan.CefndirDeuai Glan yn wreiddiol oFfairfach yn un o dri phlentyn i Kit acElwyn Robert. Roedd ganddo ddwychwaer sef Olwen, a fu farw, a Haulwen.Cafodd addysg elfennol yn ysgol gynraddFfairfach ac yna yn ysgol uwchraddLlandeilo. Yna, bu’n brentis gyda chwmniHMR Burgess yn derbyn hyfforddiant acyn astudio yn y School of Mines andEngineering yn Nhrefforest. Yn y cyfnodhwn cyfarfu â Bethan a hynny yng nghapelSardis, Pontypridd. Roedd Bethan ar ypryd hefyd yn Nhrefforest ac fe briodasantym 1956. Ganed iddynt dri o blant sefAled, Elin a Catrin. Ym 1969 symudasant ifyw yng Nghaerdydd, gan ymgartrefu ymmhentref Radur. Yn y cyfnod hwn fe’uderbyniwyd yn aelodau yn eglwysannibynnol Ebeneser, Caerdydd, ganwneud llawer iawn o ffrindiau yno.GyrfaMaes o law daeth yn bartner yn HMRBurgess gan weithio ym Mhontypridd,Park Place,y Gyfnewidfa Lo ac yna’rCastle Buildings ar Womanby Street,Caerdydd. Arolygodd nifer o brosiectauadeiladu gan deithio’n fynych i gymoedd yde â’r het galed yn ei gar bob tro. Roedd ygwaith yn aml yn ymwneud âchymdeithasau tai oedd yn canolbwyntio arwella safon tai yn y cymoedd. Gweithiodd

    ar lawer o adeiladau gan gynnwysamlosgfa Llwydcoed yn Aberdâr ac feenillodd DlwsAurPensaernïaethyr EisteddfodGenedlaetholam yr adeiladhwnnw. Efhefyd oeddyn gyfrifolam addasucapel yTabernacl ymMhen-y-bont ar Ogwr pan weddnewidiwydyr addoldy hwnnw.CymwynaswrDefnyddiodd ei arbenigedd fel pensaerhefyd mewn cyd-destun gwirfoddol gan roiei amser a’i ddoniau i wasanaethu ac igynghori mudiadau ac unigolion. Bu’nweithgar gyda’r Eisteddfod Genedlaetholers yr 1970au, roedd ar bwyllgor safle’rmaes, yn mynd o amgylch Cymru yn dewis

    safleoedd addas. Bryd hynnyroedd yn waith mawr i osod yrhen bafiliwn yn ei le. Yn wir,oherwydd ei gyfraniad i’rEisteddfod y derbyniodd ywisg wen yn yr orsedd ynEisteddfod Llandeilo 1996.Roedd hwnnw’n achlysurpwysig iawn iddo.Cynorthwyodd i addasuCanolfan yr Urdd, ConwayRoad, Caerdydd. CefnogoddYsgol Gyfun Rhydfelen panbrynwyd hen ysgol Cwrt yCadno ganddynt a’i haddasu’n

    ganolfan maes i’r disgyblion. Roedd ynGymro i’r carn a safai yn ddi-ildio dros eiiaith a’i genedl. Bu hefyd yn ddiaconymroddedig yn eglwys Ebeneser,Caerdydd, a gwnaeth lawer iawn o waithpan symudodd y gynulleidfa o’r hen gapelyn Paradise Place i gapel yr AnnibynwyrSaesneg ar Heol Siarl ym 1977–8. Tros yblynyddoedd bu Glan yn weithgar iawngydag Undeb yr Annibynwyr, bu ar lawer obwyllgorau’r Undeb, yn fynychwr ffyddlono’r Cyrddau Chwarter a’r CyfarfodyddBlynyddol ac yn ymgynghoryddamryddawn yn arbennig felly yng nghyd-destun adeiladau a diogelwch.(Bydd ail ran y deyrnged hon yn y rhifyn

    nesaf o’r Tyst)

    Glan Roberts

    Amlosgfa Llwydcoed o'u gwefan

    Capel Crannog o wefanCymdeithas Hanes Dyfed

  • Ionawr 16, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYST

    Barn AnnibynnolAddewidion Duw

    Faint o addunedau blwyddyn newyddwnaethoch chi eleni? A faint ’dach chiwedi eu torri yn barod?

    Dw i heb wneud adduned flwyddynnewydd ers sawl blwyddyn bellachoherwydd dw i’n eu torri nhw llawer rhyhawdd. Fel arfer maen nhw un ai ynbethau reit ddibwys neu yn bethau dw i’nffeindio yn ofnadwy o anodd a hollolafrealistig i’w cadw!

    Gwahanol iawn ydi addewidion Duw.

    Ysgol SulErs mis Medi mae plant yr ysgol Sul ynSalem, Porthmadog, wedi bod yn creullyfryn bach o addewidion Duw. A’rddechrau bob tymor ysgol Sul mi fydda i’nhel tipyn o ddail (nid yn llythrennol), crafupen a myfyrio ar thema’r tymor. Mi fyddai’n teimlo baich cyfrifoldeb sicrhau fod pobplentyn y mae eu rhieni wedi ymddiriedynom i roi’r cychwyn gorau i’w plant yncael hynny, ac mae teimlo’r baichhwnnw’n beth hollol iawn.

    Ganol Awst cefais anrheg gan ffrindoedd wedi bod yn clirio hen lyfrau plant o’ratig, llyfr, un o hoff rai ei merch pan oeddhi’n blentyn sef Addewidion Duw oGynllun Portha fy Ŵyn o 2002, llyfr ynllawn o addewidion Duw i ni. Fel athrawesdda, mi rof waith cartref i chi er mwyn i chigael chwilio am rai o’r addewidion maeDuw yn ei gynnig i ni:Marc 9, adnod 23Diarhebion 3, adnod 5Eseia 41 adnod 10Philipiaid 4 adnod 13Philipiaid 4 adnod 19 Hebreaid 13 adnod 5 Rhufeiniaid 8 adnod 28 Bwriadau o HeddwchMae gen i addewid sydd wedi ei sgwennuar glawr fy Meibl ers 1987, adnod adderbyniais gan David Coffey yngnghynhadledd Bedyddwyr Ifanc y Byd,gan i mi ei fodio gymaint mae’r inc dubellach yn lliw porffor gwan:

    ‘Oherwydd myfi sy’n gwybod fymwriadau a drefnaf ar eich cyfer, medd yrArglwydd, ‘bwriadau o heddwch nid niwed, i roi ichwi ddyfodol gobeithiol.’ Jeremeia29:11

    Criw bach sydd yn ein hysgol Sul niond criw bach meddylgar ac ystyrlon o’igilydd. Criw bach sydd yn ddylanwad er ygorau ar yr eglwys yn eu ffordd eu hun.Mae brwdfrydedd afiaith ac egni’r criwbach yma’n heintus. Mae eu ffydd yn symliawn ac maen nhw’n ffrindiau efo IesuGrist. Pan dwi’n myfyrio ar Jeremeia 29

    DILYN LLINYN 3Rhagor o Bunhill Fields

    Roedd fy rhwystredigaeth yn cynyddu’nraddol oherwydd na allwn ganfod yr hyn ageisiwn. Nid oeddwn eto wedi dechrautyngu a rhegi o dan fy ngwynt ondmudferwai’r anniddigrwydd yn fymherfedd. Yr oeddwn dal ym mynwentenwog Bunhill Fields Islington, Llundainyn crwydro rhwng y beddau fel y gŵr yngngwlad y Geraseniaid.John OwenHeb fod ymhell oddi wrth fedd JohnBunyan (1628–88) yr oedd bedd JohnOwen (1616–83) y cynulleidfaolwr a’r

    diwinydd Piwritanaidd oedd o drasGymreig. Ym mhrif ddarlithfa Coleg Bala-Bangor y tu ôl i’r ddarllenfa yr oedd rhesurddasol o gyfrolau gwyn a gwyrdd oweithiau J. Owen. Roedd John Owen yn uno brif ddiwinyddion Calfinaidd yPiwritaniaid yn Lloegr. Dywed rhai mai efoedd y diwinydd Seisnig mwyaf erioedoherwydd miniogrwydd ei feddwl amanylder ei ddadansoddi. Fe’i ganed ynStadhampton yn Swydd Rhydychen ac feaeth i Goleg y Frenhines, yn Rhydychen(BA 1632, MA 1635). Yn y 1640au bu’ngaplan i Oliver Cromwell ac ym 1651 fe’ipenodwyd yn Ddeon Coleg Christ Church,Rhydychen. Ond cefnodd ar Anglicaniaethgan gofleidio Cynulleidfaoliaeth ac ym1662 fe’i gorfodwyd i adael yr EglwysAnglicanaidd. Bu’n awdur cynhyrchioliawn a’i lyfrau enwocaf oedd A Display ofArminianism (1642) a roddaiddiwinyddiaeth Arminaidd trwy’r felin; Ofthe Mortification of Sin in Believers (1656)a The Death of Death in the Death of

    Christ (1647). Yma, yn Bunhill ydaearwyd ei weddillion.Llyncu balchderOnd roedd un bedd yn arbennig yr oeddwnyn awyddus i’w weld ond ni allwn eiganfod er chwilio’n drylwyr. Felly, llyncaisfy malchder aceuthum draw atgeidwad yfynwent gansiarad gyda gŵrserchus o’r enwGonzales.Dywedais wrthofy mod yn chwilioam fedd Cymroo’r enw JamesHughes. Adnabu’renw ar unwaith,cipiodd eiallweddi adywedodd, ‘Let’sgo,’ gan fy atgoffao Kojak a’ilolipop.Brasgamodd ynegnïol gan fy nhywys, fel un o urddasolionmwyaf Llundain, trwy giât gloëdig i rywgysegr sancteiddiolaf.

    Cofeb John Bunyan yn Bunhill Fields

    Cofeb y Parch. James Hughes

    parhad ar y dudalen gefn

    adnod 11 dyma fydda i’n gweddïo amdanoi bob un o’r praidd bychan yma sef dyfodolgobeithiol yn llaw Duw.Ffydd fawrMae addewidion Duw wrth gwrs ar gyfer ypraidd bychan, sydd ychydig yn hŷnefallai? Mae yn hawdd iawn digalonni,‘Dim ond wyth oedd yn y capel bore ma.’Ond mi oedd yna wyth, yndoedd? Cefais yfraint o gael fy meithrin mewn eglwysFedyddiedig o rif bychan iawn panadewais i fynd i’r coleg yn nechrau’rwythdegau rhyw ddwsin o aelodau oeddiddi a thra bod pob capel arall wedi caumae’n parhau i gynnal fflam tystiolaeth –un fach, wan, ella – yn ardal Pentraeth,Ynys Môn.

    Mae yna lawer i’w ddweud am y praiddbychan, maent yn cynnig lle a chyfle iffydd fawr.

    Mae yna nodweddion i’r praidd bychanhyn, megis y pwyslais ar berthynasbersonol gydag eraill, pwyslais argyfrifoldeb personol, cyfle i rannucyfraniad personol ac yn sicr does dim llei hunanbwysigrwydd a does dim lle iguddio ynghanol praidd bychan. Beth fellyam yr addewid i’r praidd bychan arddechrau 2020: ‘ni adawaf i chi ynamddifad,’ ‘myfi a orchfygais y byd’ ac amhynny ‘nag ofnwch, braidd bychain; canysrhyngodd bodd i’ch Tad roddi i chwi’rdeyrnas.’

    Elen Vaughan Jones(Nid yw cynnwys y Barn Annibynnol o reidrwydd

    yn adlewyrchu safbwynt Undeb yr Annibynwyrna’r tîm golygyddol.)

  • Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Serol Print, Uned 13, Ystad Ddiwyd. Heol Milland, Castell-nedd, SA11 1NJ. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.

    Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd: Y Parchg Ddr Alun Tudur39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,Caerdydd, CF23 9BSFfôn: 02920 490582E-bost: [email protected]

    Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:Tŷ John Penri, 5 Axis Court, ParcBusnes Glanyrafon, Bro Abertawe

    ABERTAWE SA7 0AJFfôn: 01792 795888

    E-bost: [email protected]

    tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ionawr 16, 2020Y TYST Golygydd

    Y Parchg Iwan Llewelyn JonesFronheulog, 12 Tan-y-Foel,

    Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,LL49 9UE

    Ffôn: 01766 513138E-bost: [email protected]

    GolygyddAlun Lenny

    Porth Angel, 26 Teras PictonCaerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX

    Ffôn: 01267 232577 / 0781 751 9039

    E-bost: [email protected]

    Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen

    Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yrAnnibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim âchynnwys y Pedair Tudalen.

    Golygyddion

    Soar, NefynYn lled ddiweddar cafwyd y fraint ogroesawu gwraig ifanc yn gyflawn aelodyn Soar, Nefyn. Roedd Lleucu Jones wediymgartrefu yn Nefyn wedi iddi briodi âGavin a buan y daeth yn un ohonom ynSoar hefyd, gan fod yn bresennol yn yroedfaon a chefnogi gweithgareddau’r plant.Yn achlysurol, cynhelid gwasanaethau ar ycyd gyda’r ysgol Sul ac yn ddiweddar, bu iLleucu arwain un o’n hoedfaon gydag

    arddeliad gan wneud argraff fawr ar y planta’r oedolion. Un o blant EglwysBresbyteraidd Nefyn yw Lleucu a chafoddei magu ar fferm Tyddyn Uchaf.BedyddioDaeth llawenydd eto pan fedyddiwydmerch fach Gavin a Lleucu, sef Eila Mabli,ar foe Sul Diolchgarwch. Roedd Llew, ybrawd chwech oed, eisoes wedi cael ei

    Plant yr eglwys fu’n arwain yr oedfaChelsey (y fam fedydd), Gavin a Lleucu

    gyda Eila Mabli a Llew

    fedyddio. O flaen y bedydd arweiniwyd yroedfa gan blant yr ysgol Sul. Diolch ogalon i Beryl a Siân am eu hyfforddi a rhoio’u hamser prin fel mamau sydd hefyd yngweithio’n llawn amser.

    Yn ystod yr oedfa hefyd, derbyniwyddau aelod newydd arall sef WilliamHughes ac Elwyn Hughes ei fab, cynaelodau yn Eglwys yr Annibynwyr,Moreia, Llithfaen. Tri aelod newydd ofewn ychydig wythnosau! Mae’r drws yndal yn agored led y pen.

    Glenys Jones

    WesleaidWrth ruthro â’n gwynt yn ein dyrnau,sylwais ar feddrod y wraig hynod honnoSusannah Wesley (1669–1742) mam ydiwygwyr enwog Charles a John Wesley.Roedd hi’n fenyw ddeallus a sylweddol afu’n cynghori ei meibion yn ystod yDiwygiad Methodistaidd. Priododd hi âSamuel Wesley a ddaeth yn rheithorAnglicanaidd yn Epworth ond yn fynychroedd tyndra mawr rhyngddynt. Fe’ihystyrid yn Fadona Methodistaidd a’r gwiryw, yn ôl rhai haneswyr, oni bai amdani hini fyddai Methodistiaeth wedi datblygu. Feanwyd iddi 17 o blant a bu fyw degohonynt, saith o ferched a thri mab.Golygai maint ei theulu fod yn rhaid iddigael trefn haearnaidd wrth eu magu. Gan

    DILYN LLINYN 3Rhagor o Bunhill Fields – parhad

    mai ychydig iawn o gymorth yr oedd yn eigael gartref, yn enwedig gan ei gŵr oeddyn llyfrbryf, ac oherwydd euhamgylchiadau tlawd, roedd yn rheidrwyddarni fod yn eithriadol o drefnus er mwyncadw’r blaidd o’r drws. Yn ôl safonauheddiw ystyrir ei dulliau’n chwyrn ynenwedig pan oedd yn sôn am ‘goncroewyllys plant’. Yr oedd ganddi drefn fanwlar yr aelwyd, disgwyliai lawer gan y planta gweithredai strwythur o’u genedigaeth.Ond yn gefn i’r ddisgyblaeth yr oeddcariad a sylw mam. Pan oedd un o’r plantyn cyrraedd pump oed, byddai’n aildrefnuamserlen yr aelwyd er mwyn treulio dyddcyfan yn rhoi eu gwers ddarllen gyntafiddynt. Addasodd John a Charles Wesleyyn rhwydd o ysgol eu mam i ysgolion

    bonedd a choleg yn Rhydychen. Claddwydei gweddillion ym mynwent yrAnghydffurfwyr, Bunhill Fields ar 1 Awst1742. Cyrraedd y nodO’r diwedd safodd Gonzales yn stond gandynnu fy sylw, gyda’i law chwith, atgofgolofn fain o farmor tywyll. Ynysgrifenedig arni yr oedd y geiriau:

    ‘Adgof uwch angof.’Yma y gorwedd gweddillion

    Y PARCHEDIG JAMES HUGHES(Iago Trichrug),

    Esboniwr Gair Duw.Ganwyd Gorphenaf 3ydd, 1779.

    Bu farw Tachwedd 2il, 1844.‘Efe oedd gannwyll yn llosgi ac yn

    goleuo.’Cawn sôn mwy am Iago Trichrug wrthDdilyn Llinyn y tro nesaf.