canmlwyddiant y rhyfel mawr 1917 · 2017. 11. 10. · morgannwg, caerdydd, abertawe a merthyr, a fu...

36
HEDDLU DE CYMRU • SOUTH WALES POLICE CANMLWYDDIANT Y RHYFEL MAWR 1914 -1918 2 014 -2018 RHAG INNI ANGHOFIO COFIWN Â BALCHDER YN 2017 Y RHAI A FU FARW YN 1917 DYSGU • YMGYSYLLTU • COFIO 1917 DAN ARWEINIAD IWM

Upload: others

Post on 25-Jan-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • 1

    HEDDLU DE CYMRU • SOUTH WALES POLICE

    CANMLWYDDIANT Y RHYFEL MAWR

    1914-1918 2014-2018

    RHAG INNI ANGHOFIOCOFIWN Â BALCHDER YN 2017 Y RHAI A FU FARW YN 1917

    DYSGU • YMGYSYLLTU • COF IO

    1917DAN ARWEINIAD IWM

  • 1

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    Mae'r llyfryn eleni, sef y pedweryddyn ein cyfres flynyddol sy'n coffáurhai o'n heddluoedd rhagflaenol sefMorgannwg, Caerdydd, Abertawe aMerthyr, a fu farw yn ystod y rhyfel,yn sôn am ddigwyddiadau 1917.

    Roedd hon yn flwyddyn llawn colleda chaledi, hyd yn oed o ystyriedsafonau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Er eibod yn debygol mai Brwydr ySomme yn 1916 yw'r frwydr y mae'rrhan fwyaf o bobl yn ei chysylltu â'rrhyfel bellach, gwelwyd brwydroffyrnig iawn yn 1917 ynghyd âdigwyddiadau pwysig eraill fel yr adegy daeth yr Unol Daleithiau yn rhano'r rhyfel.

    Dechreuodd Trydedd Brwydr Ypres,neu Frwydr Passchendaele fel y'igelwir yn gyffredinol, ar 31Gorffennaf ac aeth yn ei blaen tan 10Tachwedd. Roedd yn frwydr ffiaidd,athreuliol a oedd yn waeth bythoherwydd y glaw trwm a'r môr ofwd. Mae'r delweddau o'r amodauhyn yn cyfleu erchyllterau’r RhyfelByd Cyntaf i'r dim.

    Cynhaliwyd digwyddiadauarwyddocaol i goffáu'r Frwydr ynystod 2017 yn cynnwys y digwyddiadger Cofeb Genedlaethol Cymru ynLangemark yn Fflandrys ac, yn yllyfryn hwn, rydym yn cofioswyddogion yr heddlu o'nheddluoedd rhagflaenol a fu farw oganlyniad i'r brwydro yn yr ardalhonno.

    Rydym hefyd yn talu teyrnged iswyddogion yr heddlu a gafodd eucydnabod am eu dewrder yn ystod yrhyfel, ac mae'n brofiad gostyngedig igofio'r peryglon roeddent yn euhwynebu a'r penderfyniad a'rgwroldeb a ddangoswyd ganddynt.

    Er i'r pethau hyn ddigwydd amsermaith yn ôl, maent yn dal i fod ynbwysig i bob un ohonom heddiw.Maent yn ein hatgoffa o ganlyniadauofnadwy rhyfeloedd a dioddefaintpobl yn sgil hynny.

    Fel mewn blynyddoedd blaenorol,rydym yn gobeithio y bydd y llyfrynhwn, a'r straeon personol a geirynddo, yn ein helpu i ddeall yr hyn awynebwyd gan ein rhagflaenwyr abydd yn deyrnged briodol iddynt.

    Peter Vaughan QPMPrif Gwnstabl, Heddlu De Cymru

    CYFLWYNIAD

    COFIWN BOB UN OHONYNT Â BALCHDER.YN ANGOF NI CHÂNT FOD.

  • 2

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    Mae'r Grŵp yn parhau â'i waith i

    ymchwilio i swyddogion yr heddlu o

    Dde Cymru a wasanaethodd yn ystod

    y rhyfel ac yn enwedig y rheini a

    wnaeth yr aberth eithaf. Mae'r

    cysylltiad a wnaed gyda theuluoedd,

    aelodau o'r cyhoedd a sefydliadau

    eraill yn rhan werth chweil o'r

    gweithgarwch ac mae'r broses o

    gynhyrchu ein llyfrynnau wedi cael

    ymateb cynnes a chadarnhaol

    ganddynt.

    Dyma grynodeb byr o'r hyn a

    ddigwyddodd yn 2017:

    • Mynychu Diwrnod PartneriaethCoffáu'r Rhyfel Byd Cyntaf

    Llywodraeth Cymru/ Amgueddfa

    Ryfel yr Ymerodraeth ym mis

    Ionawr. Roedd hwn yn

    ddigwyddiad ardderchog a gwerth

    chweil.

    • Ysgrifennwyd erthygl yn rhoimanylion y Prosiect ar gyfer

    Taflen Wybodaeth Rhaglen Goffa

    Llywodraeth Cymru ar gyfer

    2017.

    • Parhau i fynychu cyfarfodyddBwrdd Rhaglen Goffa

    Llywodraeth Cymru, dan

    gadeiryddiaeth yr Athro Syr Deian

    Hopkin.

    • Ymwelwyd â beddau neu

    gofebion er mwyn cofio

    swyddogion yr heddlu a fu farw

    drwy osod croesau neu dorchau

    coffa arnynt oddi wrth Heddlu De

    Cymru. Hyd yma, o'r 93 o

    swyddogion yr heddlu a fu farw

    yn ystod y rhyfel, mae 86 wedi'u

    coffáu yng Nghymru, Lloegr,

    Ffrainc a Gwlad Belg drwy

    ymweld â'u beddau neu gofebion.

    Fel bob amser, hoffwn ddiolch i'r

    sawl a gynorthwyodd gyda'r gwaith.

    Yn eu plith mae: aelodau Grŵp y

    Prosiect y mae eu henwau yn

    ymddangos ar gefn y clawr, Dr.

    Jonathan Hicks, Mr Gwyn Prescott,

    Mrs. Rhian Diggins o Archifau

    Morgannwg, Mr. Richard Davies,

    curadur Amgueddfa Gatrodol y

    Cymry Brenhinol, Aberhonddu, a

    Chyrnol Tom Bonas, Dirprwy

    Gadfridog, y Gwarchodlu Cymreig,

    a'u harchifydd, Mr. Christopher

    Mooney.

    Diolch hefyd i Adran Argraffu

    Heddlu De Cymru ac yn enwedig i

    Peter Williams, dylunydd graffig, am

    eu cymorth wrth lunio'r llyfryn hwn.

    Fel y llynedd, mae dwy fersiwn o'r

    llyfryn ar gael: un fel copi electronig

    sydd ar gael yn Gymraeg ac Saesneg

    drwy'r dolenni canlynol:

    GRŴP PROSIECT Y RHYFEL BYD CYNTAF

  • 3

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    www.peoplescollection.wales/

    users/9665 a www.south-

    wales.police.uk/en/aboutus/

    museum/first-world-war-

    centenary/ a fersiwn arall, fyrrach,

    wedi'i hargraffu sydd hefyd ar gael yn

    y ddwy iaith.

    Gobeithio y bydd ein

    hymdrechion wrth gofnodi bywydau

    swyddogion yr heddlu o'n heddluoedd

    rhagflaenol a wasanaethodd yn ystod

    y rhyfel, yn cyfrannu rywfaint at

    gyflawni'r hyn a geir ar y sgrôl goffa a

    roddwyd i deuluoedd y rheini a fu

    farw:

    “Let those who comeafter see to it that hisname be not forgotten.”Gareth Madge OBECadeirydd,

    Grŵp Prosiect y Rhyfel Byd Cyntaf

    Milwr Prydeinig yn sefyll ger bedd un o'i gyd-filwyr gerPilckem, Trydedd Brwydr Ypres, 22 Awst 1917

    (© IWM Q2756)

  • 4

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    FREDERICK WILLIAM SMITHAROLYGYDDCWNSTABLIAETH MORGANNWGIS-GYRNOL BATALIWN 16 CATRAWD CYMRU

    URDD GWASANAETHNODEDIG

    GEORGE HENRY CLARKECYN GWNSTABL,CWNSTABLIAETH MORGANNWGRHINGYLL SWYDDOG CYFLENWIMAGNELFA 44408MAGNELAETH MAES BRENHINOL

    MEDAL YMDDYGIADNEILLTUOL

    ERNEST JAMESROLLINGSPC 597CWNSTABLIAETH MORGANNWGAIL IS-GAPTEN CORFFLU TANCIAU

    CROES FILWROL

    GEORGE EVAN SOANESCYN GWNSTABL 530,CWNSTABLIAETH MORGANNWGUWCH-RINGYLL CWMNI1607 AC AIL IS-GAPTENBATALIWN 6 CATRAWD CYMRU

    MEDAL YMDDYGIADNEILLTUOL

    1917 MEDALAU A CHROESAU DEWRDER

  • C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    WILLIAM PATRICKFITZGERALDPC 556CWNSTABLIAETH MORGANNWGRHINGYLL 20434 BATALIWN 15 CATRAWD CYMRU

    MEDAL FILWROL

    ALBERT EVANJOHNSONPC 542CWNSTABLIAETH MORGANNWGRHINGYLL 1795BATALIWN 1 Y GWARCHODLU CYMREIG

    MEDAL FILWROL

    THOMAS NORGATEPC 471CWNSTABLIAETH MORGANNWGPREIFAT 1889BATALIWN 1 Y GWARCHODLU CYMREIG

    MEDAL FILWROL

    WILLIAM LEWIS PUGHPC 726CWNSTABLIAETH MORGANNWGIS-GORPRAL 19273BATALIWN 3 GWARCHODLU'R GRENADWYR

    MEDAL FILWROL

    5

  • C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    13 EBRILL

    PC 319 WILLIAMJONES THOMASCWNSTABLIAETH MORGANNWGPREIFAT 1333 BATALIWN 1 Y GWARCHODLU CYMREIG

    GanedWilliam ar 5Chwefror1888, yn fab iJohn ac AnnThomas oFfermPantglas,LlanedeyrnyngNghaerdydd.Roedd ei dad

    o Lanedeyrn a ganed ei fam ynLlanisien.

    Gwasanaethodd William, yr oeddganddo dair chwaer a dau frawd,gyda Heddlu Dinas Caerdydd rhwng1907 a 1911. Yna, gweithiodd arfferm ei dad cyn ymuno âChwnstabliaeth Morgannwg ar 19Ionawr 1914.

    Fodd bynnag, ymddiswyddoddo'r heddlu ar 23 Ebrill 1915 acymunodd â'r fyddin ar 3 Mai ymMhen-y-bont ar Ogwr ac fe'i gwnaedyn Breifat 1333 ym Mataliwn 1 yGwarchodlu Cymreig. Ar yr adeg yrymunodd â'r fyddin, roedd yngwnstabl ym Mhorthcawl ac roedd

    yn un o bum swyddog yr heddlu ynoi wneud hynny.

    Aeth William i Ffrainc gyda'igatrawd ym mis Awst 1915 iwasanaethu ar Ffrynt y Gorllewin.Cafodd ei glwyfo ar faes y gad ymmis Hydref 1915 ond llwyddodd iwasanaethu eto.

    Ym mis Chwefror 1917,treuliodd William gyfnod yn yr ysbytyyn Ffrainc yn dioddef o dwymyn yffosydd, sef cyflwr a achoswyd gan yramodau oer, llaith ac afiach ynffosydd Ffrynt y Gorllewin. Ar 11Chwefror, cafodd ei drosglwyddo iLoegr ar y llong gleifion GrantullyCastle. Bu farw mewn ysbyty ynLlundain ar 13 Ebrill 1917.

    Mae William wedi'i gladdu ymmynwent Eglwys Sant Edeyrn ynLlanedeyrn.

    Mae bedd William wedi'i nodi gangarreg fedd gyffredin ComisiwnBeddi Rhyfel y Gymanwlad a chaiff eigoffáu hefyd ar garreg fedd gyfagos yteulu.

    Yn ogystal, caiff William ei gofioar Gofeb Ryfel Heddlu Morgannwgym Mhencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr.

    1917 RHESTR Y GWRONIAID

    6

  • 7

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    4 MAI

    PC MILTON HORACE WOODHEDDLU DINAS CAERDYDDPREIFAT 5841CORFFLU MEDDYGOL Y FYDDIN FRENHINOL

    Ganed Milton yn Dewsbury, SwyddEfrog, yn 1888.

    Yng nghyfrifiad 1911, roedd ynbyw gyda'i rieni, Harry a Zilpah(Hoyland gynt) yn Thomas StreetSouth yn Halifax. Roedd Harry oFanceinion a chafodd ei gyflogi felwarwsmon bwrw efydd ac roeddZilpah o Barnsley. Roedd Milton yn23 oed ar y pryd, ac yn gweithio felclerc mewn cwmni bragu.

    Gwasanaethodd Milton am dairblynedd yng Nghorfflu Meddygol yFyddin Frenhinol cyn ymuno âHeddlu Dinas Caerdydd ar 2 Mehefin1914. Fodd bynnag, dim ond amamser byr y gwasanaethodd cyn iddogael ei alw i wasanaethu fel milwrwrth gefn pan ddechreuodd y rhyfelym mis Awst 1914 pan ailymunoddâ'r Corfflu. Ymddengys o gofnodion yCorfflu i Milton wasanaethu, iddechrau o leiaf, gyda Chorfflu Rhif 3yr Ysbyty Cyffredinol a oedd yngNgogledd Ffrainc yn Rouen rhwngmis Awst a mis Medi 1914, ac yn StNazaire rhwng mis Medi a misTachwedd 1914. Wedi hyn, tan

    ddiwedd y rhyfel, roedd yn LeTreport ar arfordir Ffrainc, sydd tua30 km i'r gogledd-ddwyrain oDieppe. Mae'n bosibl i Miltonwasanaethu ym mhob un o'rlleoliadau hyn neu yn rhai ohonynt.

    Llong deithwyr fawr oedd yr SSTransylvania a weithredwyd gan yrAnchor Line, un o is-gwmnïau'rcwmni llongau Cunard. Cafodd eilansio ym mis Mai 1914 a phanddechreuodd y rhyfel, cafodd eichymryd gan y Morlys fel llong filwyr.

    Ar 3 Mai 1917, hwyliodd yTransylvania o Marseille i Alexandriayn yr Aifft yn llawn milwyr. Cafodd eihebrwng gan ddwy long ddistrywSiapaneaidd. Am 10am ar 4 Mai,cafodd y llong ei tharo gan dorpido adaniwyd o long danfor Almaenig panoedd tua dwy filltir a hanner o CapeVado ger Savona ar arfordir yr Eidal.

    Hwyliodd un o'r llongau distrywSiapaneaidd ochr yn ochr â'r llongddifrodedig a dechreuodd gymrydmilwyr oddi arni. Fodd bynnag, am10.20am, trawyd y Transylvania gandorpido arall a suddodd ar unwaith.Achubwyd llawer o'r rhai ar ei bwrddond collodd 10 aelod o'r criw, 29 oswyddogion y fyddin a 373 o filwyreu bywydau. Un o’r dynion hynnyoedd Milton.

    Cafodd y cyrff a ganfuwyd ynSavona eu claddu mewn llain

  • Yr SS Transylvania

    8

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    arbennig ym mynwent y dref.Claddwyd eraill mewn mynwentyddamrywiol yn yr Eidal, Ffrainc,Monaco a Sbaen.

    Mae Mynwent Tref Savona yncynnwys 83 o gyrff dynion a golloddeu bywydau ar y Transylvania. Caiff275 eraill o ddynion a fu farw yn ysuddiad, nad oes ganddynt feddi, eucoffáu ar Gofeb Savona. Mae enwMilton yn un o'r rhai a gofnodir arni.

    Roedd Milton wedi priodiFrances May Davies o Aberhondduym mis Rhagfyr 1915, a gwnaeth hi eioroesi, ynghyd â phlentyn yn ôladroddiad papur newydd

    Roedd Frances hefyd wedi caelcolled yn gynharach yn y rhyfel panladdwyd ei brawd, yr Is-gaptenWilliam J Davies, ar faes y gad ynFfrainc ar 5 Tachwedd 1916 tra'ngwasanaethu gyda'r Fagnelaeth MaesBrenhinol.

    Roedd enwau Milton a'i frawdyng nghyfraith ymysg y 32 o ddyniona gafodd eu coffáu ar feddrod aadeiladwyd yn The Watton,Aberhonddu.

    Caiff Milton ei goffáu hefyd arBlac Cofeb Ryfel Dinas Caerdydd yngNgorsaf yr Heddlu ym MaeCaerdydd.

  • 9

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    30 MAI

    PC 627 EVAN JONESCWNSTABLIAETH MORGANNWGSRHINGYLL 34478BATALIWN 10 CATRAWD CYMRU

    Roedd Evan ynhanu o Aberdârlle cafodd ei eniyn 1892, yn fabi David a SarahJones yroeddent ill dauhefyd wedi'ugeni yno.

    Erbyn adeg cyfrifiad 1911, roeddy teulu yn byw yn 42 CeridwenStreet yn Aberpennar. Roedd Evan,ei dad, a'i frodyr, John ac Isaac, i gydyn lowyr, roedd ei chwaer, Lizzie, ynwniadwraig ac roedd chwaer arall,Gwen, dal yn yr ysgol.

    Yn 1914, ymunodd Evan âChwnstabliaeth Morgannwg ac arddechrau'r rhyfel roedd wedi'i leoliyn Abercynon.

    Yn ddiweddarach, ymunodd â'rfyddin yng Nghatrawd Cymru. Roeddyn aelod o Fataliwn 10 a adwaenwydfel y "1st Rhondda", a'r "2ndRhondda" oedd Bataliwn 13 yGatrawd.

    Ffurfiodd y Bataliwn ran o Adran38 (Cymru) ac aeth Evan gyda nhw i

    Ffrainc ar 15 Rhagfyr 1915. Ym misGorffennaf 1916, cymerodd yBataliwn ran yn yr ymosodiad arGoed Mametz ar y Somme ac erbyndiwedd mis Mai 1917, gydag unedaueraill o'r Adran, roedd yn dal y llinellyng Ngwlad Belg o'r ffordd rhwngYpres a Pilckem i Boesinghe. Ynystod y cyfnod hwn, cafodd bataliwnEvan ac eraill y gwaith o adeiladuffosydd newydd yn yr ardal yn barodar gyfer ymosodiad Passchendaeleoedd ar droed. Yn anochel, denodd ygwaith hwn sylw'r Almaenwyr.

    Bu farw Evan o'i anafiadau ar 30Mai 1917. Cofnodwyd y farwolaethyn y Western Mail ar gyfer 28Mehefin:

    His commanding officer, writing tohis parents, says: “Your son wasshot by a sniper whilst performinga very important duty in No Man’sLand. It was my intention torecommend him for a commission.”

    Claddwyd Evan ym MynwentBard Cottage ger Boesinghe. Argyfer y rhan fwyaf o'r rhyfel, bupentref Boesinghe yn wynebu llinellflaen yr Almaen ar hyd camlas Yser.Roedd Bard Cottage yn dŷ ychydig ytu ôl i'r llinell ger pont o'r enw Bard'sCauseway. Crëwyd y fynwentgerllaw mewn safle cysgodol o danlethr uchel.Cafodd cyrff 1639 oddynion y Gymanwlad yn y RhyfelByd Cyntaf eu claddu neu eu coffáu

  • 10

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    yn y fynwent. Roedd llawer ohonynt,fel Evan o Adran 38 (Cymru). Maentyn cynnwys cydweithwyr Evan oGwnstabliaeth Morgannwg, ArnoldDickens. Ei gofiant ef a geir nesaf.

    Caiff Evan hefyd ei goffáu arGofeb Ryfel Heddlu Morgannwg.

    26 MEHEFIN

    PC 273 ARNOLD DICKENSCWNSTABLIAETH MORGANNWGIS-GORPRAL 24186BATALIWN 19 CATRAWD CYMRU

    Ganed Arnold yn Nhregatwg, y Barri,ar 12 Awst 1893, yn fab i Joseph a

    Mary Jane Dickens. Roedd ei dad oDaventry yn Swydd Northampton ynwreiddiol a ganed ei fam ym MerthyrDyfan, y Barri.

    Ar adeg cyfrifiad 1911, roeddArnold a'i rieni yn byw yn 83 GeorgeStreet, Dociau'r Barri. GwaithArnold, a oedd yn 17 ar y pryd, oeddhelpu ffitwyr a oedd yn atgyweiriollongau ac roedd ei dad yn weithiwrdociau. Hefyd ar yr aelwyd, roeddchwaer Arnold, Dorothy May, oeddyn 8 oed a'i frawd, Charles, oedd yn5 oed, ynghyd â'i dad-cu, IsaacDickens, a brodyr ei dad, Arthur,George a Frank.

    Ymunodd Arnold âChwnstabliaeth Morgannwg ar 1Rhagfyr 1913 ac ar ddechrau'r rhyfelym mis Awst 1914 roedd wedi'i leoliyn y Mwmbwls ger Abertawe.

    Ymddiswyddodd o'r heddlu ar 29Ionawr 1915 i ymuno â'r fyddin.Daeth yn aelod o Fataliwn 19Catrawd Cymru a chafodd eiddyrchafu yn Is-gorpral maes o law.

    Dynodwyd Bataliwn 19 yn"Arloeswyr Morgannwg", wedi'uhatodi i Adran 38 (Cymru), ac aethArnold gyda nhw i Ffrainc ym misRhagfyr 1915.

    Roedd arloeswyr yn filwyr a oeddyn gweithio ar amrywiaeth o dasgaufel palu ffosydd, gosod ac atgyweirio

    Mynwent Bard Cottage

  • 11

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    ffyrdd, adeiladu safleoedd amddiffyncryf ac ati. Roeddent yn gweithiomewn cydweithrediad â'r PeirianwyrBrenhinol ond roeddent hefyd yngweithredu fel milwyr traedychwanegol os oedd angen.

    Cefnogodd Bataliwn 19 yr Adranyn ystod ei hymosodiad ar Goed

    Mametz ym mis Gorffennaf 1916 acerbyn mis Gorffennaf 1917, roeddmewn lleoliad ger y gamlas yn Ypres.Roedd yn cymryd rhan yn yparatoadau ar gyfer y frwydr fawr afyddai'n dechrau ar ddiwedd misGorffennaf a alwyd yn DrydeddBrwydr Ypres (neu Passchendaele).

    Arloeswyr yn symud bonion coed yn barod ar gyfer gosod llwybrau (© IWM Q 8401)

  • 12

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    Fodd bynnag, ni chymeroddArnold ran yn y frwydr ei hun ganiddo gael ei ladd ar faes y gad ar 26Mehefin 1917 o ganlyniad i sielio'rgelyn (mae Rhestr y GwroniaidCwnstabliaeth Morgannwg yn nodi'rdyddiad yn anghywir fel 26 Mai).

    Claddwyd Arnold ym mynwentBard Cottage ynghyd â'i gydweithiwro Heddlu Morgannwg, Evan Jones.Fel yntau, caiff Arnold hefyd ei goffáuar Gofeb Ryfel Heddlu Morgannwg

    24 GORFFENNAF

    PC 293 WILLIAM SYPHASCWNSTABLIAETH MORGANNWGMAGNELWR GWEITHREDOL21519MAGNELFA WARCHAE 56MAGNELAETH Y GARSIWNBRENHINOL

    Roedd Williamyn ŵr o SwyddGaerloyw aaned ynAldsworth syddyn y Cotswoldsa thua 10 milltiro Cirencester.

    (Mae'r cyfenw a nodir ar ei gyfer ynamrywio rhwng "Syphas" a "Syphus").

    Fe'i ganed ar 12 Ebrill 1885, a'idad oedd Daniel Syphas, a oedd ynhanu o Chipping Norton, a'i famoedd Edith Jane, a oedd hefyd oAldsworth.

    Erbyn 1901 a chyfrifiad yflwyddyn honno, roedd y teulu'n bywyn Stratton, pentref ger Cirencester.Cafodd tad William waith fel bugail arfferm leol. Erbyn hynny, roeddWilliam yn 15 oed a hefyd yngweithio yn y diwydiant ffermio felaradrwr.

    Rywbryd ar ôl 1901, ymddengys iWilliam ymuno â'r fyddin gan fod

    Bedd Arnold ym Mynwent Bard Cottage

  • 13

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    adroddiadau papur newydd ar adegei farwolaeth yn cyfeirio ato fel milwrwrth gefn.

    Sut bynnag, erbyn 1908, roeddwedi symud i Dde Cymru gan iddoymuno â'r Great Western RailwayCompany ar 27 Ionawr y flwyddynhonno. Dim ond am gyfnod byr ybu'n gweithio gyda nhw fel porthorym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yna ynLlantrisant, cyn iddo ymddiswyddo ar29 Mai 1908.

    Y diwrnod canlynol, ymunodd âChwnstabliaeth Morgannwg a bu'ngwasanaethu yng Nghwm Tawe. Aradeg cyfrifiad 1911 roedd yn byw fellletywr yng ngorsaf yr heddlu ynYstalyfera, gyda'r Rhingyll ThomasBrown a'i wraig a'u tri o blant.

    Erbyn dechrau'r rhyfel ar 4 Awst1914, roedd William wedi'i leoli ymMhentre yn y Rhondda, a chan ei fodyn filwr wrth gefn, cafodd ei adalw i'rFyddin ar unwaith.

    Gwasanaethodd William gydaMagnelaeth y Garsiwn Brenhinol acym mis Gorffennaf 1917, roeddgyda'i Fagnelfa Warchae 56. Roedd yruned hon wedi bod yn gwasanaethuyn Ffrainc ers mis Chwefror 1916 acroedd ganddi bedwar gwn howitsermawr.

    Ar 24 Gorffennaf 1917, roedd yfagnelfa wedi'i lleoli gerKruisstraathoek, pentref sawlcilometr i'r de-orllewin o Ypres yngNgwlad Belg, ac ar adeg panwnaethant wynebu sielio trwm ylladdwyd William.

    Mae William wedi'i gladdu ymMynwent ac Estyniad MilwrolNewydd Dickebusch ger Ypres.Sefydlwyd y Fynwent FilwrolNewydd ei hun ym mis Chwefror1915 a chafodd ei defnyddio hyd atfis Mai 1917. Wedi hynny,defnyddiwyd yr Estyniad tan fisIonawr 1918.

    Mynwent ac Estyniad Dickebusch gydabedd William ar yr ochr chwith yn y tublaen

  • 14

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    Mae William yn un o 547 oddynion a fu farw yn y Rhyfel BydCyntaf sydd wedi'u claddu yn yrEstyniad. Mae ei garreg fedd yncynnwys yr arysgrif:

    “In God’s good time we shall meet again.”

    Mae cofnodion ComisiwnBeddau Rhyfel y Gymanwlad yn nodiei fod yn fab i "Daniel and Edith JaneSyphas, of East End, Fairford, Glos."

    Caiff William ei goffáu hefyd arGofeb Ryfel Heddlu Morgannwg.

    1 AWST

    PC 43 RICHARD DREWHEDDLU DINAS CAERDYDDPREIFAT 60557BATALIWN 13 CATRAWD CYMRU

    Roedd Richard yn hanu o FerthyrTudful lle cafodd ei eni yn 1895, ynfab i William a Mary Jane Drew, yroeddent ill dau hefyd wedi'u geniyno.

    Ar adeg cyfrifiad 1911 roedd yteulu yn byw yn 12 Baden Terrace,Penyard, Merthyr. Erbyn hynny,roedd tad Richard wedi marw acroedd gan ei fam, a oedd yn weddwyn 38 oed, bum plentyn yn byw gydahi. Richard oedd enillydd cyflog yteulu yn 16 oed ac roedd yn gweithiofel glöwr/torrwr. Roedd eichwiorydd, Florence, Gertrude a

    Dorothy yn 14, 12 a 10 oed yn ydrefn honno ac roedd ei frawd,William John, yn 6 oed.

    Mae cofnodion UndebCenedlaethol y Dynion Rheilfforddyn dangos ym mis Ionawr 1914 bodRichard wedi dod yn aelod o'r gangenym Merthyr gan ei fod wedi'i gyflogifel porthor ar y rheilfordd. Ar 2Tachwedd 1914, ymunodd â HeddluDinas Caerdydd cyn iddo ymuno â'rfyddin a dod yn aelod o Fataliwn 13(Rhondda 2) Catrawd Cymru.

    Erbyn mis Gorffennaf 1917,roedd y Bataliwn, fel rhan o Adran 38(Cymru) ar y llinell flaen ger Ypres acar 31 Gorffennaf, roedd yn rhan oymosodiad yr Adran ar GefnenPilckem, sef cam cyntaf TrydeddBrwydr Ypres. Mae'n debygol mai ynystod yr ymladd rhwng 31Gorffennaf a 2 Awst y cafodd RichardMae cofnodion y fyddin yn dangosmai tybiedig oedd ei farwolaeth. Ynamlwg, ni ddaethpwyd o hyd i'wgorff erioed gan nad oes ganddounrhyw fedd hysbys a chaiff ei goffáuar Gofeb Porth Menin. Mae'n un o54,000 o enwau milwyr Prydeinig a'rGymanwlad ar y Gofeb.

    Roedd yn 22 oed ac fe'igoroeswyd gan ei fam.

    Caiff Richard ei goffáu hefyd arBlac Coffa Heddlu Dinas Caerdyddyng Ngorsaf yr Heddlu ym MaeCaerdydd.

  • 15

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    13 AWST

    PC 715 REGINALD CHARLESCWNSTABLIAETH MORGANNWGUWCH-RINGYLL CWMNI 32501BATALIWN 16 CATRAWD CYMRU

    Ganed Reginald yngNghasnewydd, Sir Fynwy yn 1891.Roedd yn fab i Francis Charles a'iwraig Elizabeth, yr oeddent ill dauhefyd wedi'u geni yng Nghasnewydd.

    Cafodd Reginald ei fedyddio ynEglwys Sant Marc yng Nghasnewyddar 21 Mai 1891.

    Erbyn 1911, roedd Reginald ynbyw gyda'i frawd, Henry a'i wraig,Bertha, yn Redland Street yngNghasnewydd. Roedd Henry yngweithio fel saer ac roedd Reginaldyn labrwr mewn cwmni nwy.

    Yn ddiweddarach yn 1911,ymunodd Reginald â ChwnstabliaethMorgannwg a chafodd ei leoli ymMaesteg maes o law.

    Mae pennawd y llun hwn o Amgueddfa Ryfel yr Ymerodraeth yn nodi "Battle of PilckemRidge. Stretcher bearers struggle in mud up to their knees to carry a wounded man tosafety near Boesinghe, 1st August 1917” (© IWM Q5935)

  • 16

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    Yn 1915, priododd ReginaldEvelyn Hodges yng Nghaerdydd acyn ddiweddarach y flwyddyn honno,ganed eu mab, Reginald John.

    Ar ôl dechrau'r rhyfel, gadawoddReginald yr heddlu ac ymunodd â'rfyddin yng Nghaerdydd. Cafodd eiosod ym Mataliwn 16 (DinasCaerdydd) Catrawd Cymru ac aethgyda'r Bataliwn i Ffrainc fel rhan oAdran 38 (Cymru) ym mis Rhagfyr1915.

    Mae'n amlwg bod Reginald ynuchel ei barch gan ei fod wedi cael eiddyrchafu'n uwch ringyll cwmni yn ypen draw ac mae cofnodion yndangos ei fod yn uwch ringyllcatrawd pan fu farw.

    Collodd y Bataliwn nifer o filwyryn ystod ei ymosodiad ar GoedMametz ar 7 Gorffennaf 1916 acerbyn haf 1917 roedd y Bataliwn,ynghyd ag unedau eraill o AdranCymru, mewn sefyllfa i gymryd rhan

    Mynwent ac Estyniad Cymunedol Abbeville

  • 17

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    yn Nhrydedd Brwydr Ypres. Nidyw'n amlwg pryd y cafodd Reginald eianafu ar faes y gad ond digwyddoddhynny efallai yn ystod Brwydr CefnenPilckem rhwng 31 Gorffennaf a 2Awst pan roddodd Bataliwn 16gymorth i fataliynau eraill oedd ynrhan o ymosodiadau ar yrAlmaenwyr.

    Sut bynnag, bu farw Reginald o'iglwyfau ar 13 Awst yn Abbeville syddar y brif ffordd rhwng Paris aBoulogne tua 80 cilometr i'r de oBoulogne. Hwn oedd safle sawlysbyty milwrol yn ystod y Rhyfel BydCyntaf.

    Mae Reginald wedi'i gladdu yn yFynwent ac Estyniad Cymunedol ynAbbeville sy'n cynnwys 1754 ogladdedigaethau o'r Rhyfel BydCyntaf. Mae cofnodion ComisiwnBeddau Rhyfel y Gymanwlad yn nodimai ef oedd "...husband of E.M.Charles, of 14, Adare St, OgmoreVale, Glam.”

    Mae carreg fedd Reginald yncynnwys yr arysgrif canlynol gan eiwraig:

    “The blow was bitter, the shocksevere, to part with one we lovedso dear.”

    Caiff Reginald ei goffáu hefyd arGofeb Ryfel Heddlu Morgannwg.

    15 AWST

    PC 30 FRANK COFFEYHEDDLU BWRDEISTREFABERTAWECORPRAL 266406BATALIWN 8 CATRAWD CYMRU

    Ganed Frank yn Paddington ynLlundain yn 1890 ac erbyn 1911roedd yn gwnstabl yn HeddluBwrdeistref Abertawe.

    Mae cyfrifiad y flwyddyn honnoyn dangos ei fod wedi'i leoli yn yr

  • 18

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    Frank yw'r ail o'r dde yn yr ail res - yr unig un heb fwstash!

    Orsaf Heddlu Ganolog yn Abertawe.Bu farw dau swyddog yr heddlu aralla enwyd yn y cyfrifiad ac a oeddwedi'u lleoli yno o ganlyniad i'r rhyfel- PC Jack Randall Birch a laddwyd arfaes y gad yn 1916 a PC Patrick Sheaa fu farw yn 1919 o salwch a gafoddyn ystod ei wasanaeth yn y rhyfel.

    Yn 1911, roedd Frank yn un ogarfan o swyddogion yr heddlu oAbertawe a anfonwyd i'r Rhondda ihelpu Cwnstabliaeth Morgannwg ynystod y streic glo yno a oedd yncynnwys y terfysgoedd ynNhonypandy, fel y dangosir yn yffotograff.

    Yn 1915, priododd Frank ag EllenPoole o'r Gangen Gwirfoddolwyr ynSt Thomas, Abertawe. Roeddganddynt un plentyn, sef mab o'r enwWilliam, a wasanaethodd ynddiweddarach yng NghwnstabliaethMorgannwg ac roedd yn swyddogyng Nghatrawd Cymru yn ystod yrAil Ryfel Byd.

    Nid yw'n hysbys pryd yrymunodd Frank â'r fyddin, ond mae'nymddangos iddo wasanaethu iddechrau ym Mataliwn 6(Morgannwg) Catrawd Cymru. Un ofataliynau'r Fyddin Diriogaethol oeddhwn ac ym mis Mai 1916, fe'i gwnaed

  • 19

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    yn fataliwn yr arloeswyr gydag Adran1 a pharhaodd i wasanaethu ar Ffrynty Gorllewin hyd at fis Tachwedd1918.

    Rywbryd, o bosibl ar ddechrau1917, trosglwyddwyd Frank i Fataliwn8 Catrawd Cymru a oedd hefyd yn uno fataliynau'r arloeswyr.

    Symudodd y Bataliwn iFesopotamia (Irac erbyn heddiw) o'rAifft ym mis Chwefror 1916 ar ôlgadael Penrhyn Gallipoli ynghyd âmilwyr Prydeinig eraill ym mis Rhagfyr1915.

    Fel y nodwyd yn flaenorol yngnghofiant Arnold Dickens, darparoddyr arloeswyr lafur trefniedig i helpu'rfyddin ac yn enwedig y PeirianwyrBrenhinol ond ar adegau, byddent yngweithredu fel milwyr traedychwanegol os oedd angen.

    Chwaraeodd y Bataliwn ran lawn,fel arloeswyr ac fel milwyr traedychwanegol, yn cefnogi Adran 13drwy gydol yr ymgyrch ymMesopotamia, a chafodd grynlwyddiant ym mis Mawrth 1917 panoresgynnwyd Baghdad, pencadlysByddin Twrci ym Mesopotamia, ganluoedd Prydain.

    Yn ymgyrch Mesopotamia, bufarw 116 o ddynion o'r Bataliwn oachosion eraill heblaw brwydro.Roedd Frank yn un ohonynt

    oherwydd bu farw o effeithiau gwresyn yr ysbyty yn Baghdad ar 15 Awst.

    Mae Frank wedi'i gladdu ymMynwent Rhyfel Baghdad (Porth yGogledd) Comisiwn Beddau Rhyfel yGymanwlad. Fe'i sefydlwyd ym misEbrill 1917 a chaiff 4,160 o filwyr yGymanwlad a fu farw yn y Rhyfel BydCyntaf eu coffáu ynddi. Mae'r beddauyn cynnwys rhai yr Is-gadfridog SyrStanley Maude, Pencadlywydd ByddinYmgyrchol Mesopotamia, a fu farw ogolera ym mis Tachwedd 1917.

    Caiff Frank ei goffáu hefyd arGofeb Ryfel Heddlu BwrdeistrefAbertawe yng Ngorsaf Ganolog yrHeddlu yn Abertawe.

    4 MEDI

    PC 59 PERCY JOHN MARKSHEDDLU DINAS CAERDYDDIS-GORPRAL 1345BATALIWN 1 Y GWARCHODLU CYMREIG

    Gŵr o Wlad yrHaf oedd Percya aned ynTaunton yn1895. Roedd ynfab i ErnestFrank Marks aaned yn

    Axminster yn Nyfnaint a'i wraig Kate,a oedd hefyd yn hanu o Taunton.

  • 20

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    Ar adeg cyfrifiad 1911 roedd yteulu yn byw yn Llaethdy'r Priordy,Obridge, Taunton. Roedd tad Percy ynlaethmon hunangyflogedig ac roeddPercy, a oedd yn 15 oed bryd hynny,yn gweithio gyda'i dad yn y busnesllaethdy. Yr aelodau eraill o'r teulu aoedd yn byw ar yr aelwyd, yn ogystal âPercy a'i fam a'i dad oedd chwioryddPercy, Florrie (13 oed) a GertrudeKate (7 oed), ynghyd â'i frodyr, Archie(9 oed), a Cecil Thomas (3 oed).Roedd cefnder Percy, George WilliamHenry Thorn, oedd yn 21 oed, yn bywgyda'r teulu ac roedd hefyd yngweithio ym musnes llaethdy Ernest.

    Yn 1914, gadawodd Percy Tauntona'i waith yn y llaethdy i fod yn swyddogyr heddlu yn Heddlu Dinas Caerdyddac ymunodd ar 6 Tachwedd. Roeddwedi'i leoli yn ardal y Sblot yn y Ddinascyn gadael yr heddlu i ymuno â'r fyddinyn y Gwarchodlu Cymreig a oeddnewydd gael ei sefydlu yn Caterhamyn Surrey ar 30 Ebrill 1915.

    Aeth Percy gyda'r Bataliwn iFfrainc ar 17 Awst 1915 a chymeroddran yn y cyfraniad ar Ffrynt yGorllewin, er enghraifft ym MrwydrLoos yn 1915 ac ym Mrwydr y Sommeyn 1916 fwy na thebyg. Cafodd Percyei ddyrchafu yn Is-gorpral ar 15Chwefror 1916.

    Erbyn mis Medi 1917, roedd yBataliwn wedi cipio ffosydd llinell flaen

    yn sector Langemark yng Ngwlad Belgyn ystod Trydedd Brwydr Ypres. Oganlyniad i ymosodiad lluoedd Prydainyn yr ardal, ymatebodd yr Almaenwyrdrwy danio magnelau.

    Mae'r cofnodion swyddogol yndangos y cafodd Percy ei ladd ar faes ygad ar 4 Medi 1917 o ganlyniad isielio'r gelyn.

    Roedd y Taunton Courier andAdvertiser ar gyfer 26 Medi 1917 yncynnwys adroddiad manwl am Percyac yn dyfynnu llythyr a ysgrifennwyd atei dad gan ei ringyll:

    “Dear Mr. Marks,-Just a few lines toinform you of the death of your son.Corpl. Marks and myself were verygood chums, because we belong tothe same battalion and cametogether on this job. All the boysmiss him because he was socheerful. He always had a smile onhis face, and I miss him very much,because he was one of the bestNCO’s I had under me. The way hemet his death was by a shelldropping right on top of the dug-out,killing one NCO and three men.They were killed outright and buriedbeneath the dug-out. I was outdigging for him last night and thismorning and I shall do my best as asoldier and a pal to see that your sonand the others are buried properly. Ifthere is anything you would like to

  • 21

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    know I shall be only too pleased tohelp you. Your son was a goodsoldier and a brave one as well.Please accept the sympathy of allthe boys and myself in your greatloss.-D. J. Richards, Sergt.”

    Mae'n amlwg bod RhingyllRichards, neu bobl eraill, wedillwyddo i ddod o hyd i gorff Percy,gan ei fod wedi'i gladdu ym MynwentNew Irish Farm. Mae'r fynwent i'rgogledd-ddwyrain o Ypres ac fe'idefnyddiwyd am y tro cyntaf felmynwent rhwng mis Awst a misTachwedd 1917. Cafodd ei henwi arôl fferm gerllaw yr oedd y milwyr yn

    ei galw yn "Irish Farm". Fe'idefnyddiwyd eto yn ystod y rhyfel achafodd ei hehangu’n sylweddol pansymudwyd beddau yno o faesehangach y gad ger Ypres ac ofynwentydd llai yn yr ardal.

    Heddiw, mae 4719 o filwyr yGymanwlad a wasanaethodd yn yRhyfel Byd Cyntaf wedi'u claddu neueu coffáu yn y fynwent. Mae 3271 o'rcladdedigaethau yn anhysbys.

    Caiff Percy ei goffáu hefyd ar BlacCofeb Ryfel Heddlu Caerdydd yngNgorsaf yr Heddlu ym MaeCaerdydd.

    Mynwent New Irish Farm

  • C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    17 MEDI

    PS 310 JAMES ROBERT ANGUSCWNSTABLIAETH MORGANNWGIS-GYRNOL GWEITHREDOLBATALIWN 11 CYFFINWYR DE CYMRU

    Ganed James Robert Angus ynDumfries yn yr Alban yn 1871.(Ymddengys bod cofnod yr heddluamdano, sy'n nodi iddo gael ei eni ynAberhonddu yn 1872, yn anghywir).

    Roedd ei dad, oedd hefyd o'renw James, o Aberdeen,ac roedd ei fam, Emma(Hopkins gynt), oAberhonddu.

    Erbyn adegcyfrifiad 1881,roedd y teulu ynbyw yn 24 JohnStreet,Aberhonddu.Hefyd yn ycartref ar y pryd,yn ogystal âJames a'i rieni,roedd brawd

    James, FrederickWilliam James Angus, aoedd ddwy flynedd ynhŷn na James, a'ichwaer, Kate, a oedd ynflwydd oed bryd hynny.

    Hefyd, roedd mam-gu James, AnnHopkins.

    Yn y cyfrifiad hwnnw, nodir mailabrwr cyffredinol oedd galwedigaethtad James. Fodd bynnag, mae'namlwg o adroddiadau dilynol yn ypapur newydd sy'n sôn am James,bod ei dad wedi bod yn y fyddin achaiff ei ddisgrifio fel cyn-filwr ynrhyfel y Crimea. Roedd hefyd wedi'ileoli fel uwch-ringyll ym mhencadlysCyffinwyr De Cymru ynAberhonddu.

    Ymddengys i James benderfynudilyn ôl troed ei dad yn y fyddin, acymunodd â Gwarchodlu'r Grenadwyrar 16 Mehefin 1890. Ar ei ffurflenardystio, nodir mai telegraffydd oeddgalwedigaeth James.

    Ar adeg cyfrifiad y flwyddynganlynol, roedd James ym MaricsChelsea yn Llundain gyda Bataliwn 3Gwarchodlu'r Grenadwyr.

    Gwasanaethodd James am dairblynedd gyda'r Gatrawd cyn gadael yfyddin er mwyn ymuno âChwnstabliaeth Morgannwg ar 5Mehefin 1893. Yna, gwasanaethoddfel swyddog yr heddlu am fwy nachwe blynedd cyn ymddiswyddo ar29 Rhagfyr 1899 er mwyn ailymunoâ'i hen gatrawd lle y gwasanaethoddyn Rhyfel De Affrica (1899-1902).

    Ar ôl ei wasanaeth yn y rhyfel,gadawodd y fyddin ac ailymunodd â

    22

    (Drwy ganiatâd caredig Amgueddfa Gatrodol y Cymry Brenhinol)

  • C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    Chwnstabliaeth Morgannwg ar 2Awst 1902. Yn ystod ei wasanaethgyda'r heddlu, cafodd ei leoli yn yBarri ymysg llefydd eraill. Yn 1911, aradeg cyfrifiad y flwyddyn honno,roedd yn rhingyll ac yn byw yngngorsaf yr heddlu yn Abercynongyda'i wraig Edith (Prosser gynt), aoedd o Dreharris, a'i ddau fab, StuartProsser oedd yn 5 oed, a Colin Jamesoedd yn ddwyflwydd oed. RoeddJames ac Edith wedi priodi yn 1903.

    Yn ogystal â'i ddyletswyddaugyda'r heddlu, roedd James yn aelodo dîm rygbi Heddlu Morgannwg pangafodd ei sefydlu gyntaf yn 1897.Roedd hefyd yn chwarae i dîm cricedyr heddlu.

    Maes o law, ymddiswyddoddJames o'r heddlu ac, ynghyd â llawero swyddogion yr heddlu eraill oForgannwg, ymunodd â Bataliwn 16(Dinas Caerdydd) Catrawd Cymru achafodd ei ddyrchafu i reng is-gapten ym mis Ionawr 1915.

    Aeth James gyda'ifataliwn i Ffrainc ar 5Rhagfyr 1915, fel rhan oAdran 38 (Cymru) acerbyn hynny, roeddwedi'i ddyrchafu yngapten ac erbyn misMai y flwyddynganlynol roedd ynuwchgapten.

    Yn ystod ei gyfnod gyda'rBataliwn, gwasanaethodd James gydachyn swyddog yr heddlu arall oForgannwg, sef F.W. (Fred) Smith addaeth yn Brif Swyddog y Bataliwnyn 1916 ac yn aml, byddai James ynrheoli'r Bataliwn yn ei absenoldeb.Roedd Fred Smith, fel James, hefydwedi bod yn aelod o dîm rygbiHeddlu Morgannwg.

    Ar 7 Gorffennaf 1916, cymeroddy Bataliwn ran yn yr ymosodiad arGoed Mametz yn ystod Brwydr ySomme pan laddwyd llawer o'rmilwyr, a phan roddodd James gyfrifda ohono'i hun gyda'i ddewrder a'isgiliau arwain.

    Yn 1917, ynghyd â gweddillBataliwn 16, cymerodd James ranyng ngham cyntaf Trydedd BrwydrYpres, Brwydr Cefnen Pilckem, panroddodd y Bataliwn gyfrif da ohono'ihun.

    Ar 6 Awst 1917,trosglwyddwyd James iFataliwn 11 Cyffinwyr DeCymru a oedd hefyd ynrhan o Adran Cymru acar 15 Awst,cadarnhawyd eiddyrchafiad i Is-gyrnolGweithredol a oedd ynrheoli'r Bataliwn. Felly,ef oedd yn ei reoli ynystod ail gam Trydedd

    Brwydr Ypres, a alwyd ynJames yn ystod ei gyfnod yn chwarae rygbi

    23

  • 24

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    Frwydr Langemark, pan fu'n rhaid i'rBataliwn, ynghyd ag unedau eraill oAdran Cymru, frwydro mewnamodau gwlyb ac anodd.

    Ar ddechrau mis medi 1917,symudodd Adran Cymru o Ypres iArmentieres yng ngogledd Ffrainc gery ffin â Gwlad Belg. Yn anffodus, yno ybu farw James, tra'n gwasanaethugyda'i fataliwn.

    Am tua 8 a.m. ar 17 Medi, aethJames i nofio yn afon Lys. Gwelodddau filwr o'i Fataliwn ei fod yn cael

    anhawster ond yna roedd ynymddangos fel petai popeth yn iawn adechreuodd nofio yn ôl at y lan lle yraeth i mewn i'r afon yn y lle cyntaf.Fodd bynnag, dechreuodd gaelanhawster eto ac, er gwaethafymdrechion y ddau filwr, suddodd odan wyneb y dŵr a boddodd. Cafoddei gladdu yn ddiweddarach yr undiwrnod.

    Mae James wedi'i gladdu ynErquinghem-Lys sef pentref tua 1.5kmo Armentieres.

    James (heb helmed) yng Nghefnen Pilckem(Drwy ganiatâd caredig Amgueddfa Gatrodol y Cymry Brenhinol)

  • 25

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    Mae estyniad y fynwent yncynnwys 558 o gladdedigaethaumilwyr y Gymanwlad o'r Rhyfel BydCyntaf a 130 o gladdedigaethauAlmaenig.

    Cafodd gwasanaeth James ynystod y Rhyfel ei gydnabod ganGadlywydd Syr Douglas Haig,Pencadlywydd Byddin YmgyrcholPrydain, a soniodd amdano mewnadroddiadau ar 9 Ebrill 1917 ac ar 7Tachwedd 1917.

    Caiff James ei goffáu hefyd arGofeb Ryfel Heddlu Morgannwg ymMhen-y-bont ar Ogwr.

    Cyn i'r Rhyfelddod i ben,wynebodd yteulu Angusdrasiedi arall. Ar13 Awst 1918,lladdwyd naiJames, yr Is-gapten RoyAngus, mab

    brawd James, Frederick WilliamJames Angus a'i wraig Mary Elizabetho Gasnewydd, o'i anafiadau tra'ngwasanaethu gyda'r Awyrlu Brenhinola oedd newydd gael ei sefydlu ynFfrainc. Roedd yn 23 oed.

    Y groes wreiddiol ar fedd James (drwy ganiatâd caredig Amgueddfa Gatrodol y Cymry Brenhinol)(chwith) a bedd James ym mis Mai 2013 gyda chroes goffa Heddlu De Cymru

    Roy Angus

  • 26

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    19 TACHWEDD

    PC 535 THOMAS THOMASCWNSTABLIAETH MORGANNWGCORPRAL 32796BATALIWN 16 CATRAWD CYMRU

    Roedd Thomas yn hanu o bentrefLlandygái, ger Bangor yng ngogleddCymru. Cafodd ei eni yno ar 1 Ebrill1894, yn fab i William ac ElizabethThomas. Roedd William yn hanu obentref Llanllechid gerllaw ac roeddElizabeth hefyd wedi'i geni ynLlandygái.

    Ymddengys bod Thomas yn un ochwech o blant ac roedd ganddoddau frawd a thair chwaer. Yn 1911,roedd y teulu'n byw yn 37 FriarsRoad ym Mangor, ac roedd Thomasyn gweithio fel labrwr iard llechi ar ypryd.

    Fel llawer o ddynion o ogleddCymru yn ystod rhan gyntaf yrugeinfed ganrif pan ddaeth cyflogaetha oedd yn gysylltiedig â chwarelallechi yn fwy peryglus, ymddengys iThomas ar ryw adeg symud i ddeCymru a chael ei gyflogi yn ydiwydiant glo cyn i gofnodion yrheddlu ddangos mai glöwr oedd eialwedigaeth. Ymunodd âChwnstabliaeth Morgannwg ar 4 Mai1914 a chafodd ei leoli yn y

    Mwmbwls ger Abertawe ynddiweddarach.

    Ar 6 Awst 1915, gadawoddThomas yr Heddlu ac ymunodd â'rfyddin yn Abertawe fel Preifat 32796i ddechrau ym Mataliwn 16 (DinasCaerdydd) Catrawd Cymru.Roeddent yn rhan o Adran 38(Cymru) a aeth i Ffrainc ym misRhagfyr 1915. Yn y pen draw cafoddei ddyrchafu'n gorpral.

    Ym mis Tachwedd 1917, roedd yBataliwn wedi meddiannu ffosydd ynHouplines ger Armentieres ynFfrainc.

    Mae cofnodion swyddogol yndangos y bu farw Thomas ar faes ygad ar 19 Tachwedd 1917 ac mae'ndebygol mai yn ystod y tanio gan ygelyn y cyfeirir ato yn y DyddiadurRhyfel y digwyddodd hyn.

    Mae Thomas wedi'i gladdu ymMynwent Filwrol Cite Bonjean ynArmentieres yng ngogledd Ffrainc tua14 km o Lille.

    Mae'n cynnwys 2132 ogladdedigaethau milwyr yGymanwlad o'r Rhyfel Byd Cyntaf.Caiff Thomas ei goffáu hefyd arGofeb Ryfel Heddlu Morgannwg a'rGofeb Ryfel ym Mangor.

  • 27

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    23 TACHWEDD

    PC 609 ARTHUR HOPKINSCWNSTABLIAETH MORGANNWGPREIFAT 202671BATALIWN 19 Y FFIWSILWYR BRENHINOLCYMREIG

    Ganed Arthur yngNghaerdydd ar9 Gorffennaf1894, yn fab iThomas acElizabethHopkins.

    Cofnododdcyfrifiad 1911 fod y teulu'n byw ynMichaelstone Mill, Michaelstone-Le-Pit, Dinas Powys, ger Caerdydd.Roedd tad Arthur yn ffermwr ac ynfeili ystâd ac roedd Arthur, a oedd yn17 oed erbyn hynny, yn cael ei gyflogifel prentis saer. O ran brodyr Arthur,roedd Phillip, 22 oed, yn labrwrcyffredinol, roedd William, 20 oed,yn gynorthwyydd groser, roeddFrederick Thomas, 18 oed, yndorrwr coed, ac roedd Ivor, 16 oed,yn gweithio ar fferm, gyda'i dadmae'n debyg.

    Ar 8 Awst 1914, ymunoddArthur â Chwnstabliaeth Morgannwgac, ymhen amser, cafodd ei leoli ymMelincrythan ger Castell-nedd cyn

    gadael yr heddlu ar 25 Mehefin 1915er mwyn ymuno â'r fyddin ynAbertawe a dod yn aelod o'rFfiwsilwyr Brenhinol Cymreig.

    Gwasanaethodd gyda Bataliwn 19y Gatrawd a ffurfiwyd ym misMawrth 1915 fel bataliwn "Bantam"sef un a oedd yn cynnwys dynionislaw'r taldra gofynnol yn bennaf.Daeth yn rhan o Frigâd 119 Adran 40ac aeth i Ffrainc ym mis Mehefin1916.

    Roedd Brwydr Cambrai, addechreuodd ar 20 Tachwedd 1917,yn ymosodiad pwysig gan Brydain ynerbyn safleoedd Amlaenig yn yr ardali'r de-ddwyrain o Arras yng ngogleddFfrainc. Roedd Cambrai ei hun ynben rheilffordd pwysig ac ynbencadlys i Fyddin yr Almaen. Roeddy frwydr yn nodedig gan mai dynapryd y gwelwyd defnydd ymgasgledigo danciau am y tro cyntaf, 476ohonynt. Er y llwyddiannau ar ydechrau, erbyn i'r frwydr ddod i benar ddechrau mis Rhagfyr roeddbyddin yr Almaen wedi llwyddo i ail-gipio llawer o'r diriogaeth a gollwyd.Lladdwyd, anafwyd neu collwyd44,000 o ddynion Prydeinig.

    Yn ystod y frwydr, cymeroddBataliwn 19 ran yn yr ymosodiad arGoed Bourlon fel rhan o Frigâd 119.

    Ar fore 23 Tachwedd, symudoddy milwyr ymlaen gan ymosod drwy

  • 28

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    darth. Bu ymladd agos a ffyrnig wediiddynt gyrraedd y coed.

    Ar ôl tair awr o ymladd, roedd yBataliwn wedi cyrraedd pengogleddol y coed erbyn dechrau'rprynhawn. Yn ddiweddarach,gwrthymosododd yr Almaenwyr acer gwaethaf yr ymladd pellach ganunedau eraill dros y diwrnodaudilynol, yn y pen draw, bu'n rhaid iBrydain dynnu'n ôl.

    Yn ystod yr ymladd ar 23Tachwedd y cafodd Arthur ei ladd arfaes y gad.

    Brawd Arthur, William, oeddPreifat 12774 ym Mataliwn 9Catrawd Swydd Dyfnaint a chafoddei ladd ar faes y gad ar 30 Medi 1915.Nid oes ganddo unrhyw fedd hysbysa chaiff ei goffáu ar Gofeb Loos.

    Nid oes gan Arthur chwaithunrhyw fedd hysbys a chaiff ei goffáuar Gofeb Cambrai. Mae wedi'i lleoliger pentref bach Louveraval 16 km i'rde-orllewin o Cambrai. Mae'r Gofebyn cynnwys enwau mwy na 7000 ofilwyr o Brydain a De Affrica a fufarw yn ystod Brwydr Cambrai acnad yw eu beddau yn hysbys.

    Caiff Arthur a William eu coffáuhefyd ar Gofeb Ryfel Dinas Powys achaiff Arthur ei goffáu hefyd ar GofebRyfel Heddlu Morgannwg ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

    27 TACHWEDD

    PC 704 JOHN EVANSCWNSTABLIAETH MORGANNWGPREIFAT 6031BATALIWN 2 Y GWARCHODLU GWYDDELIG

    Ganed John ynYnysybwl gerPontypridd ymmis Ebrill 1889.Roedd ei dad,Edward WilliamEvans, ynwreiddiol oFachynlleth acroedd ei fam,

    Mary Ann, hefyd wedi'i geni ynYnysybwl.

    Saer maen oedd Edward ymMhwll Glo yr Arglwyddes Windsoryn Ynysybwl. Fe'i hagorwyd yn 1886ac, yn sgil hynny, adeiladwyd llawer odai yn yr ardal ar gyfer glowyr a'uteuluoedd. Parhaodd y pwll glo igynhyrchu glo tan iddo gau yn 1988.

    Roedd John yn un o bump o blantac roedd ganddo ddau frawd a dwychwaer.

    Ar adeg cyfrifiad 1911 roedd yteulu yn byw yn 22 Thompson Villas,Ynysbwl. Roedd John, 22 oed, wedi'igyflogi fel glöwr/torrwr.

    Yn 1912, gadawodd John ydiwydiant glo ac ymunodd â

  • 29

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    Chwnstabliaeth Morgannwg. Arddechrau'r rhyfel yn 1914 roeddwedi'i leoli yn Llandaf ar gyrionCaerdydd.

    Ar 20 Tachwedd 1914, ymunoddJohn â'r fyddin yng Nghaerdydd adaeth yn Breifat yn y GwarchodluGwyddelig, ac ymunodd â'rGwarchodlu yn ei Bencadlys ynCaterham yn Surrey ar y diwrnodcanlynol.

    Ar ôl cyfnod o hyfforddiant,hwyliodd o Southampton i Ffrainc ar1 Ebrill 1915 ac ymunodd â'r gatrawdar 27 Ebrill. Treuliodd gyfnod byr arymlyniad â'r Peirianwyr Brenhinol ynystod mis Gorffennaf cyn dychwelydi'r Gwarchodlu Gwyddelig. Yn y pendraw, gwasanaethodd John yn AilFataliwn y gatrawd.

    Mae cofnodion y fyddin yndangos iddo gael ei anafu ar faes ygad ar 18 Medi 1916 pan oedd yGwarchodlu Gwyddelig yn ymladd ynystod Brwydr y Somme. Ymddengysi John gael anafiadau i'w wyneb ac, arôl triniaeth gychwynnol yn Ffrainc,cafodd ei drosglwyddo i Loegr.

    Yn y pen draw, dychwelodd igyflawni dyletswyddau llinell flaen ynFfrainc ar 4 Tachwedd 1917 ond, ynanffodus, ychydig dros dair wythnosyn ddiweddarach, fe'i lladdwyd arfaes y gad ar 27 Tachwedd.

    Ar y dyddiad hwnnw, cymeroddBataliwn 2 y Gwarchodlu Gwyddelig,fel un o unedau Brigâd Gwarchodlu 2Adran y Gwarchodlu, ran mewnymosodiad ar Goed Bourlon aphentref cyfagos Fontaine-Notre-Dame fel rhan o Frwydr Cambrai (addisgrifiwyd eisoes yng nghofiantArthur Hopkins).

    Nid oedd yr ymosodiad, er i'rmilwyr ymladd yn ddewr achyflawni'r rhan fwyaf o'u hamcanion,yn ddigon cryf, yn wynebgwrthymosodiadau diwyro yrAlmaen, i ddal gafael ar y tir aenillwyd. Lladdwyd llawer o filwyr, acfelly, yn y pen draw, bu'n rhaidtynnu'n ôl. Roedd bataliwn Johnwedi'i arwahanu oddi wrth y lluoeddcyfagos a chafodd drafferth fawrwrth geisio tynnu'n ôl. Roedd wedicolli nifer fawr o filwyr erbyn iddoddychwelyd i'w safle gwreiddiol.

    Fel Arthur Hopkins, caiff John eigoffáu ar Gofeb Cambrai ac ar GofebRyfel heddlu Morgannwg.

  • 30

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    1 RHAGFYR

    PC 578 RONALD EVANSCWNSTABLIAETH MORGANNWGPREIFAT 2961ATALIWN 1 Y GWARCHODLU CYMREIG

    Roedd Ronaldyn fab i Herberta Mary Evans.Roedd ei dad ynhanu oBraunton ynNyfnaint aganed ei fam yngNghaerdydd.

    Ganed Ronald ar 10 Mawrth1898 yng Nghaerdydd ac ar adegcyfrifiad 1911 roedd yn byw ynEgerton Street yn ardal Treganna oGaerdydd. Roedd tad Ronald ynringyll yn Heddlu'r Ddinas(ymddengys iddo gael ei ddyrchafu'nArolygydd yn ddiweddarach), acroedd ei frawd, Herbert, 17 oed,wedi'i gyflogi fel clerc masnachol.Roedd Ronald, 13 oed, yn dal i fod ynyr ysgol ynghyd â'i chwaer, BrendaMuriel, a aned yn 1903. Pan oedd ynbyw yn Nhreganna, arferai Ronaldfynd i Eglwys Fethodistaidd Wesleyar Cowbridge Road East.

    Ar 25 Mawrth 1916, ymunoddRonald â Chwnstabliaeth Morgannwg

    pan oedd yn 18 oed a chafodd ei leoliyn Nociau'r Barri. Fodd bynnag, dimond am ychydig fisoedd y bu'ngwasanaethu gyda'r heddlu cynymddiswyddo ar 28 Gorffennaf 1916er ymuno â'r fyddin. Yn y Barri ygwnaeth hynny.

    Ymunodd Ronald â Bataliwn 1 yGwarchodlu Cymreig, ac erbyn misRhagfyr 1917, roedd gyda'r bataliwnym Mrwydr Cambrai.

    Ar 1 Rhagfyr, gorchmynnwydBrigâd Gwarchodlu 3, yr oedd ybataliwn yn rhan ohoni, i gipiopentref Gonnelieu ger Cambrai.Mewn amodau tywyll a niwlog,ychydig ar ôl 6.30am, ymosododd yGwarchodlu Cymreig ar y dde gydaBataliwn 4 Gwarchodlu'r Grenadwyrar y chwith.

    Wrth iddynt ymosod ar y gefneno flaen Gonnelieu, cafodd y bataliwnei atal gan danio gynnau peirianttrwm o safleoedd Almaenig achollwyd llawer o fywydau.

    Yna, ymddangosodd un tanc ganymosod ar y safleoedd Almaenig. Oganlyniad, dechreuodd yr Almaenwyrildio ac yna manteisiodd yGwarchodlu Cymreig ar y cyfle iruthro ymlaen a chipio'r gefnen.

    Llwyddodd Gwarchodlu'rGrenadwyr i ymladd eu ffordd ibentref Gonnelieu ond gwnaethantgyrraedd fel yr oedd yr Almaenwyr

  • C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    yn ymgynnull i ymosod eu hunain.Gan fod nifer fwy o Almaenwyr,tynnodd y Grenadwyr a'rGwarchodlu Cymreig yn ôl.

    Caiff yr olygfa yn ystodymosodiad y Gwarchodlu Cymreig, achanlyniadau hynny, eu disgrifio ynhanes y gatrawd yn ystod y RhyfelByd Cyntaf:

    “The scene was beyond anythingthat had ever been met with. Theground was thick with dead andwounded men; curses and groansand shouts mingled with thehurricane crackle of the machineguns. And then in the weird light ofstar-lights in the foggy dawn acrowd of men began to streamdown the hill..... They were thewounded.....

    All the wounded were brought in bymidday, and only the line of deadremained to speak for thevalour of the men.”

    Dechreuwyd yr ymosodiad ar ybryn gan 370 o ddynion o'r Bataliwn.Syrthiodd 248 o ddynion yn ystod yrychydig funudau cyntaf. Bu farw 57 oddynion yn y fan a'r lle.

    Roedd Ronald yn un o'r rhai a fufarw. Roedd yn 19 oed.

    Fel llawer, gormod o lawer, nidoes ganddo fedd hysbys. Caiff eigoffáu ar Gofeb Cambrai ynghyd â'igydweithwyr o GwnstabliaethMorgannwg, Arthur Hopkins a JohnEvans. Caiff Ronald, fel hwythau,hefyd ei goffáu ar Gofeb RyfelHeddlu Morgannwg.

    Ronald a John Evans yn caeleu coffáu gan Heddlu De

    Cymru yng NghofebCambrai, 17 Ebrill 2015

    31

  • 32

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    9 RHAGFYR

    PC 477 EDWARDPRICE EVANSCWNSTABLIAETH MORGANNWGPREIFAT 3704BATALIWN 1 Y GWARCHODLU CYMREIG

    Yn ôl cofnodion yr heddlu, ganedEdward ym Mhencraig, Sir Faesyfed ar23 Mai 1876, er bod "Soldiers Died inthe Great War" yn nodi mai ynPembridge, Swydd Henffordd ycafodd ei eni.

    Mae cyfrifiad 1901 yn dangos bodEdward wedi'i leoli yng ngorsaf yrheddlu yn Rhisga, Sir Fynwy, lle roeddyn gwnstabl yr heddlu. Caiff hyn eigadarnhau yng nghofnodion HeddluMorgannwg amdano sy'n nodi iddowasanaethu â Chwnstabliaeth SirFynwy cyn ymuno â'r heddlu hwnnw.

    Ar 11 Ebrill 1903, ymunoddEdward â Chwnstabliaeth Morgannwgac mae cyfrifiad 1911 yn dangos ei fodef, a swyddogion yr heddlu eraill,wedi'u lleoli yng ngorsaf yr heddlu yngNghwm Ogwr.

    Wedi hynny, gwasanaethoddEdward yn Nhonypandy lle yrymunodd â'r fyddin ym mis Ionawr1917, ar ôl ymddiswyddo o'r heddlu ar26 Ionawr.

    Ymunodd Edward â Bataliwn 1 y

    Gwarchodlu Cymreig, ac yn ystod eigyfnod gyda'r bataliwn hwnnw y bufarw o'i anafiadau ar 9 Rhagfyr 1917 ynYsbyty Cyffredinol Rhif 5, ger Rouenyng ngogledd Ffrainc.

    Roedd Edward yn 41 pan fu farw.Yn ôl cofnodion y fyddin, cafoddEdward ei anafu yn ei ysgwydd ar 28Tachwedd 1917 pan oedd ei uned yngNghoed Bourlon ger Cambrai.

    Mae Edward wedi'i gladdu ynMynwent ac Estyniad St. Sever ynRouen. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf,roedd llawer o ysbytai a chyfleusteraumeddygol eraill wedi'u lleoli yn Rouen.Claddwyd y rhan fwyaf o'r rhai a fufarw yn yr ysbytai hynny ym mynwentdinas St. Sever ac, ym mis Medi 1916,bu'n rhaid adeiladu estyniad. Mae'r ailyn cynnwys 8348 o gladdedigaethaumilwyr y Gymanwlad o'r rhyfel. Maecydweithiwr Edward o GwnstabliaethMorgannwg, PC 292 Arthur Pugh, a fufarw ar 2 Medi 1916, wedi'i gladdu ymmynwent y ddinas. Gwasanaethoddhefyd gyda Bataliwn 1 y GwarchodluCymreig. (Gweler llyfryn Heddlu DeCymru ar gyfer 1916).

    Caiff Edward ei goffáu hefyd arGofeb Ryfel Heddlu Morgannwg.

    Cafodd perthnasau agosaf milwyra fu farw yn ystod y Rhyfel blac a sgrôlyn coffáu eu haberth. Byddent hefydwedi cael llythyr gan y Brenin yn nodi:

  • 33

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    Mynwent ac Estyniad St. Sever

    “I join with my gratefulpeople in sending youthis memorial of abrave life givenfor others in theGreat War.”

    Dangosirffotograff o'rplac mewnperthynas agEdward acenghraifft o'r sgrôly byddai ei deuluwedi'i chael a fyddaiwedi cynnwys ei enw,rheng a chatrawd.

    (Drwy ganiatâd caredig Mr Lyndon Davies)

  • 34

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    Atodiad i Lyfryn 1914

    Pan gafodd ein llyfryn ar gyfer 1914ei lunio, ni chafodd y manylion mewnperthynas â PC Clarke eu cynnwysoherwydd credid ar gam ei fod wedimarw yn 1917. Fodd bynnag, maeein hymchwil wedi cadarnhau y bufarw yn 1914. Oherwydd diffyg lle, niallwn gynnwys ei fanylion llawn yn yfersiwn hon o'n llyfryn ond maent i'wgweld yn y fersiwn electronig sydd argael drwy'r gwefannau y cyfeiriwydatynt yn gynharach.

    26 MEDI

    PC 86 THOMAS JOHN CLARKEHEDDLU BWRDEISTREFMERTHYR TUDFULIS-GORPRAL 8114BATALIWN 1 CYFFINWYR DE CYMRU

    Lladdwyd PCClarke ar faes ygad ar 26 Medi1914 ac nid oesganddo unrhywfedd hysbys.Caiff ei goffáu ar

    y gofeb yn La Ferte-sous-Jouarre ynFfrainc ac ar y panel coffa yngNgorsaf yr Heddlu ym Merthyr.

    Mae Grŵp Prosiect Heddlu De Cymru yn cynnwys Gareth Madge (Cadeirydd), Danny Richards, Robin Mellor, Peter Wright, Paul Wood, Daryl Fahey, Allison Tennant, Coral Cole, Alan Fry ynghyd â

    Philip Davies o Gymdeithas Ffrynt y Gorllewin.

    I gysylltu â'r Grŵp, e-bostiwch [email protected] ac Argraffwyd gan Adran Argraffu Heddlu De Cymru. Cyf Argraffu: 2034/1917

    www.heddlu-de-cymru.police.ukwww.southwalespolicemuseum.org.uk

    DAN ARWEINIAD IWM

  • 35

    C A N M L W Y D D I A N T Y R H Y F E L M A W R • 19 1 7

    Cofeb Genedlaethol Cymru, Langemark, Fflandrys