php3008: introduction to theories of therapeutic counseling  · web viewyn syml, dylech agor y...

58
LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH PGCertTHE LLAWLYFR Y RHAGLEN BLWYDDYN ACADEMAIDD 2018-2019 © Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol BangorTudalen 1 o 58

Upload: others

Post on 07-Sep-2019

3 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

PGCertTHE

LLAWLYFR Y RHAGLEN

BLWYDDYN ACADEMAIDD 2018-2019

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 1 o 41

Page 2: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

Cynnwys

Sut i ddefnyddio’r llawlyfr hwn ...................................................................................................... 4

Mae'r llawlyfr hwn yn enfawr! Oes rhaid i mi ei ddarllen i gyd?...............................................4

Ai 'myfyriwr' ynteu 'athro/athrawes' ydw i yn y llawlyfr hwn?...................................................4

Pam fod cymaint o acronymau a beth mae pob un ohonyn nhw'n ei olygu?..............................4

Rhagarweiniad i'r PGCertTHE....................................................................................................5Beth yw'r PGCertTHE ym Mhrifysgol Bangor?.....................................................................5Pam ei bod yn bwysig cwblhau'r PGCertTHE?......................................................................5

Staff y PGCertTHE......................................................................................................................6Pwy yw'r Cyfarwyddwyr Cwrs?..............................................................................................6Pwy yw fy Nhiwtor Personol?.................................................................................................7Pwy yw fy Ymgynghorydd Addysgu?....................................................................................7

Cydnabyddiaeth Broffesiynol......................................................................................................7Beth mae bod yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (HEA) yn ei olygu?.........................7Beth mae bod yn Athro/Athrawes Nyrsio Gofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) yn ei olygu?......................................................................................10

Manteision y PGCertTHE..........................................................................................................10Mae gen i gontract Ymchwil ac Addysgu - sut fydd cael PGCertTHE yn fy helpu i?..........10Mae gen i gontract Addysgu ac Ysgolheictod - sut fydd cael PGCertTHE yn fy helpu i?.. .11

Gofynion y Cwrs PGCertTHE...................................................................................................11Beth sydd raid i mi ei wneud ar y cwrs hwn?........................................................................11Beth yw hyd y cwrs?.............................................................................................................12Beth yw nodau'r rhaglen (Camau 1 a 2 gyda'i gilydd)?.........................................................12Beth yw deilliannau dysgu'r rhaglen (Camau 1 a 2 gyda'i gilydd)?......................................12Pam nad yw'r cwrs yn canolbwyntio'n benodol ar addysgu yn fy nisgyblaeth i?.................14Allaf i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg?.............................................................................14Sut ydw i'n cael cefnogaeth ar gyfer fy anghenion dysgu ychwanegol?...............................14Sut wna i ddod o hyd i amser i gwblhau'r cwrs?...................................................................14

Asesiadau PGCertTHE..............................................................................................................15Beth yw'r meini prawf asesu?................................................................................................15Sut mae'r llyfrau gwaith yn fy helpu gyda fy asesiadau?......................................................15Sut ddylwn i gyflwyno fy asesiadau?....................................................................................15Beth fydd yn digwydd os nad oes modd i mi orffen fy asesiadau cyn y dyddiad cyflwyno?...............................................................................................................................................16Sut fydd fy ngwaith yn cael ei farcio?...................................................................................16Beth sy'n digwydd os byddaf yn methu?...............................................................................17

Cwblhau'r PGCertTHE yn rhannol............................................................................................18A allaf gwblhau Cam 1 yn unig?...........................................................................................18Fedraf i fynd yn syth i wneud Cam 2?...................................................................................18

Apeliadau a Chwynion mewn perthynas â'r PGCertTHE.........................................................18Sut ydw i'n apelio yn erbyn penderfyniad am ganlyniad fy asesiadau PGCertTHE?...........18Beth ddylwn i ei wneud os oes gen i gwyn, pryder neu gwestiwn am y PGCertTHE?........19Sut mae fy nata'n cael ei ddiogelu?.......................................................................................20

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 2 o 41

Page 3: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

Cam 1 y PGCertTHE ........................................................................................................................... 22

Gofynion Cam 1 y Cwrs.................................................................................................................. 22Beth sydd raid i mi wneud?......................................................................................................... 22Beth yw nodau Cam 1?............................................................................................................... 22Beth yw Deilliannau Dysgu Cam 1?........................................................................................... 22

Cynefino, Gweithdai a Dyddiadau Cau Cam 1...............................................................................23Beth yw'r amserlen?.................................................................................................................... 23Beth fydd yn digwydd os byddaf yn colli'r sesiwn gynefino?.....................................................24Beth fydd yn digwydd os byddaf yn colli gweithdy?..................................................................25

Asesiad Cam 1................................................................................................................................. 25Beth ddylid ei gynnwys yn fy Mhortffolio Addysgu?.................................................................25Sut gallaf fod yn siŵr y bydd fy mhortffolio yn llwyddo?..........................................................26Sut ddylwn i fformatio fy mhortffolio?.......................................................................................26Faint o eiriau ddylwn i eu hysgrifennu ar gyfer fy mhortffolio?.................................................26Beth mae angen i mi ei roi yn yr adran Athroniaeth Addysgu?..................................................26Beth mae angen i mi ei roi yn yr adran Profiad Addysgu?.........................................................28Beth mae angen i mi ei roi yn yr adran Arsylwadau Addysgu?..................................................28Beth mae angen i mi ei roi yn yr adran Ymwneud ag Addysgu?................................................29Beth mae angen i mi ei roi yn yr adran Datblygiad Proffesiynol?..............................................30

Cam 2 y PGCertTHE ........................................................................................................................... 32

Gofynion Cam 2 y Cwrs.................................................................................................................. 32Beth sydd raid i mi wneud?......................................................................................................... 32Beth yw nodau Cam 2?............................................................................................................... 32Beth yw Deilliannau Dysgu Cam 2?........................................................................................... 32

Cynefino, Gweithdai a Dyddiadau Cau Cam 2...............................................................................33Beth yw'r amserlen?.................................................................................................................... 33Beth fydd yn digwydd os byddaf yn colli'r sesiwn gynefino?.....................................................34Gaf i gyflwyno fy mhapur yn gynharach yn y flwyddyn a chwblhau'r PGCertTHE ynghynt?...34

Asesiad Cam 2................................................................................................................................. 34Beth ddylid ei gynnwys yn y papur y byddaf yn ei gyflwyno?...................................................34Sut gallaf fod yn siŵr y bydd fy mhapur yn llwyddo?................................................................35Sut ddylwn i fformatio fy mhapur?.............................................................................................35Faint o eiriau ddylwn i eu hysgrifennu ar gyfer fy mhapur?.......................................................35

Pa fath o bapur sydd ei angen?........................................................................................................ 35Pam y dylwn i ysgrifennu ar gyfer cyfnodolyn addysgeg o fewn fy nisgyblaeth?......................36Sut mae dod o hyd i gyfnodolyn addysgeg o fewn fy nisgyblaeth?............................................36Gaf i gyflwyno fy mhapur addysgeg trwy gyfrwng y Gymraeg?................................................37Oes rhaid i fy mhapur addysgeg gael ei gyflwyno i'r cyfnodolyn a'i dderbyn ar gyfer ei gyhoeddi?.................................................................................................................................... 37Gaf i gydweithio gyda chydweithwyr ar fy mhapur?..................................................................37Pwy ddylid eu rhestru fel awduron os penderfynaf gyflwyno fy mhapur addysgeg?.................38Sut mae sicrhau y bydd fy ngwaith ar gael i gydweithwyr os na fyddaf yn cyhoeddi fy mhapur?.................................................................................................................................................... 38Gaf i gyflwyno ffurf arall o ymchwil/ysgolheictod yn hytrach na phapur?................................38Sut mae llenwi Ffurflen Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig?.........................38Pa Eirdaon a Llythyrau Argymell ddylwn i eu cynnwys?...........................................................38

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 3 o 41

Page 4: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

Sut i ddefnyddio’r llawlyfr hwn

Mae'r llawlyfr hwn yn enfawr! Oes rhaid i mi ei ddarllen i gyd?

Mae arnom eisiau sicrhau bod yr holl wybodaeth y byddwch ei hangen ar gael i chi mewn un lleoliad cyfleus er mwyn gallu cwblhau'r PGCertTHE. Bydd yr holl wybodaeth yn y llyfr hwn yn ddefnyddiol wrth i chi weithio trwy'r rhaglen. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y byddai darllen y cwbl o glawr i glawr braidd yn llethol. Felly, rydym wedi llunio'r llawlyfr fel cyfres o Gwestiynau Cyffredin ac rydym wedi creu rhestr gynnwys ryngweithiol a fydd yn ddefnyddiol i chi. Yn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth glicio ar y cwestiwn bydd y ddogfen yn neidio'n syth at yr wybodaeth y mae arnoch ei hangen.

Ai 'myfyriwr' ynteu 'athro/athrawes' ydw i yn y llawlyfr hwn?

Rydych yn fyfyriwr ac yn athro/athrawes! Dyna sydd mor wych am y PGCertTHE: byddwch chi'n cael profiad o fod yn fyfyriwr er mwyn dysgu sut i fod yn athro gwell/athrawes well. Fodd bynnag, at ddibenion eglurder yn y llawlyfr hwn, byddwn yn defnyddio'r term 'cyfranogwr' i gyfeirio at y rhai sy'n astudio ar y rhaglen PGCertTHE, er mwyn gallu defnyddio'r termau 'myfyriwr' ac 'athro/athrawes' yng nghyd-destun y gweithgareddau sy'n cael eu trafod. Yna byddwn yn cyfeirio at y staff academaidd sy'n eich cefnogi ar eich taith yn ôl teitl eu swyddi: Cyfarwyddwr Cwrs, Tiwtor Personol, Ymgynghorydd Addysgu, Marciwr, Arholwr Allanol, ac ati

Pam fod cymaint o acronymau a beth mae pob un ohonyn nhw'n ei olygu?

Fel yn achos llawer o sefydliadau proffesiynol, rydym yn defnyddio nifer o deitlau a labeli hir a chaiff y rhain eu cwtogi'n acronymau er mwyn hwylustod. Fodd bynnag, rydym yn deall bod y rhain yn ddryslyd ac yn rhwystredig os ydych yn cael trafferth deall eu hystyr! Yn y llawlyfr hwn, byddwn yn ceisio rhoi'r enw'n llawn ar ddechrau pob adran newydd gan eich atgoffa o'r acronym, ond bydd angen i ni ddefnyddio'r fersiynau byr ar adegau (fel arall byddai'r llawlyfr hyd yn oed yn hwy!). Defnyddiwch y canllaw canlynol i'ch helpu i ddeall y termau hyn:

AU = Addysg Uwch CELT = Canolfan Gwella Addysgu a Dysgu Prifysgol Bangor PGCertTHE = Tystysgrif Ôl-radd Addysgu mewn Addysg Uwch XVE4008 = Y modiwl Teaching and Learning in HE yw Cam 1 y PGCertTHE XVE4009 = Y modiwl Enhancing Academic Practice yw Cam 2 y PGCertTHE NMC = Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth HEA = Yr Academi Addysg Uwch Advance HEA = Asiantaeth sy'n cynnwys Yr Academi Addysg Uwch, yr Uned Her

Cydraddoldeb, a'r Sefydliad Arweinyddiaeth (sydd wedi uno â'i gilydd ers 2018) HEA = yr Academi Addysg Uwch yw'r teitl sy'n gysylltiedig â Chymrodoriaethau Disgrifydd 1 = Meini prawf ar gyfer dod yn Gymrawd Cyswllt Yr Academi Addysg

Uwch Disgrifydd 2 = Meini prawf ar gyfer dod yn Gymrawd Yr Academi Addysg Uwch A1, A2, A3, A4, A5 = Y pum maes gweithgaredd sydd wedi eu rhestru yn UKPSF K1, K2, K3, K4, K5, K6 = Chwe dimensiwn yr wybodaeth greiddiol a restrir yn UKPSF

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 4 o 41

Page 5: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

V1, V2, V3, V4 = Y pedwar gwerth proffesiynol a restrir yn UKPSF

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 5 o 41

Page 6: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

Tystysgrif Ôl-radd Addysgu mewn Addysg Uwch

Rhagarweiniad i'r PGCertTHE

Beth yw'r PGCertTHE ym Mhrifysgol Bangor?

Cymhwyster Lefel 7 yw’r PGCertTHE sydd wedi’i gynllunio i gwrdd â nodau academyddion cefnogi wrth iddynt ddatblygu sgiliau ymarferol a gwybodaeth theoretig er mwyn datblygu'n athrawon effeithiol mewn Addysg Uwch. Ceir pwyslais ar hyrwyddo dulliau blaengar o addysgu a dysgu ac ar ddatblygu academyddion i fod yn ymarferwyr adfyfyriol. Caiff y cymhwyster ei gefnogi gan Ganolfan Gwella Addysgu a Dysgu Prifysgol Bangor (CELT) a chaiff y cymhwyster terfynol ei ddyfarnu gan yr Ysgol Addysg. Mae’r rhaglen yn seiliedig ar Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig (UKPSF) felly bydd y myfyriwr graddedig llwyddiannus yn cael Cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch (HEA) (Mae Cam 1 yn golygu Cymrodoriaeth Gyswllt ac mae Cam 2 yn golygu Cymrodoriaeth). Mae'r rhaglen hefyd yn bodloni gofynion achredu'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) felly gall graddedigion llwyddiannus ym maes gofal iechyd dderbyn statws Athro/Athrawes Nyrsio Gofrestredig. Caiff y rhaglen hon ei llywio hefyd gan Gynllun Strategol Prifysgol Bangor a Strategaeth Dysgu ac Addysgu Bangor. Mae Cam 1 a 2 yn orfodol i staff a benodwyd ar gontractau addysgu academaidd ym Mangor sydd â llai na 3 blynedd o brofiad addysgu di-dor mewn Addysg Uwch neu sydd ddim eisoes yn Gymrodyr yr Academi Addysg Uwch. Mae’r rhaglen yn dilyn model dysgu yn seiliedig ar ymchwil weithredol er mwyn cefnogi datblygiad proffesiynol dechreuol a pharhaus staff sy'n addysgu ac yn cefnogi dysgu.

Pam ei bod yn bwysig cwblhau'r PGCertTHE?

Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl staff academaidd sy'n addysgu ac yn cefnogi myfyrwyr wedi'u hyfforddi ac yn gymwys i addysgu mewn AU. Mae hyn yn golygu y dylai fod gan unrhyw aelod o staff sydd â chyfrifoldebau addysgu neu gefnogi dysgu gymhwyster addysgu Addysg Uwch perthnasol neu gymrodoriaeth addysgu sydd wedi ei chydnabod yn genedlaethol. Mae hyn yn rhoi sicrwydd i'n myfyrwyr ein bod wedi ymrwymo i ragoriaeth addysgu ac, yn bwysicach fyth, ein bod yn darparu cyfleoedd datblygu proffesiynol i'n staff addysgu i wella eu harferion.

Os nad oes gennych y naill gymhwyster na'r llall ar hyn o bryd, yna dylech ddechrau gweithio tuag at fod yn 'gymwys i addysgu' trwy ddilyn un o'r llwybrau canlynol:

Os ydych wedi addysgu yn ddi-dor am o leiaf dair blynedd (neu os credwch fod gennych eisoes brofiad addysgu sylweddol) fel athro/athrawes mewn Addysg Uwch, yna gallech fod yn gymwys i wneud cais am Gymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch trwy'r Cynllun Cydnabod Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).

Os oes gennych lai na thair blynedd o brofiad addysgu neu os nad oedd eich profiad addysgu yn cynnwys gweithio mewn Addysg Uwch, yna dylech gwblhau'r PGCertTHE. Bydd hyn yn rhan orfodol o'ch cyfnod prawf os ydych wedi eich penodi ar gontract academaidd sy'n cynnwys dyletswyddau addysgu. Bydd cwblhau PGCertTHE yn rhoi cymhwyster ffurfiol mewn addysgu i chi YNGHYD Â Chymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch.

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 6 o 41

Page 7: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

Yn ogystal â'r pwyntiau uchod, os ydych yn ddarlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, yna mae'n rhaid i chi fod â statws nyrs gofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth er mwyn bod yn gymwys i addysgu nyrsio cyn-gofrestru. Mae’r cwrs hwn yn cwrdd â gofynion cael statws nyrs gofrestredig gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth felly mae'n hanfodol fod pob aelod staff sy'n addysgu yn y maes hwn yn cwblhau'r cwrs yn llawn.

Gweler isod ddiagram llif sy'n dangos y llwybrau trwy Fframwaith DPP Prifysgol Bangor:

Fe welwch fersiwn maint llawn o'r diagram hwn ar Blackboard.

----------------------------------------

Staff y PGCertTHE

Pwy yw'r Cyfarwyddwyr Cwrs?

Dr Rosanna Robinson yw Cyfarwyddwr Cwrs y PGCertTHE. Mae Rosanna yn Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol ac yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Mae ei swyddfa wedi'i lleoli yn yr Adeilad Coffa a'i chyfeiriad e-bost yw [email protected].

Dr Isabelle Winder yw Dirprwy Gyfarwyddwr Cwrs y PGCertTHE. Mae Izzy hefyd yn Ddarlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol ac yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Mae ei swyddfa wedi'i lleoli yn yr Adeilad Coffa a'i chyfeiriad e-bost yw [email protected].

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 7 o 41

Adolygu a Phanel

Adolygu a Phanel

Marcio a Bwrdd ArholiMarcio a Bwrdd Arholi

LlwyddoLlwyddo

Ddim yn Gymwys i Addysgu

PGCertTHE

Derbyn Cyfeirio

Methu

Marcio a Bwrdd Arholi

LlwyddoMethu

Methu

Dyfarnu PGCertTHE

Dyfarnu yn Gymrawd Cyswllt AAU

Cwblhau Cais i fod yn Gymrawd yn defnyddio

adnoddau ar-lein a chael mynediad at sesiynau cefnogi i gael adborth

ffurfiannolDerbyn Cyfeirio

Mwy na 3 blynedd o brofiad yn Addysgu neu'n Cefnogi Dysgu mewn AU

Llai na 3 blynedd o brofiad yn Addysgu neu'n

Cefnogi Dysgu mewn AU

Cwblhau Cais i fod yn Gymrawd Cyswllt yn defnyddio adnoddau

ar-lein a chael mynediad at sesiynau cefnogi i gael adborth

ffurfiannol

Cofrestru ar Blackboard ac edrych ar Fodlediad Cynefino

Seicoleg Addysgu mewn AUMynychu gweithdai a chasglu tystiolaeth ar

gyfer y portffolio

Dyfarnu 30 Credyd Academaidd

Cam 2XVE4009 Enhancing Academic Practice

Ysgrifennu Papur Addysgeg i gwblhau Llyfr Gwaith Cam 2

Dyfarnu yn Gymrawd AAU

Cyfres DPP ar gyfer Ymarferwyr Profiadol

Cam 1XVE4008 Teaching and Learning in HE

Mynychu gweithdai a chasglu tystiolaeth ar gyfer y portffolio er mwyn cwblhau Llyfr

Gwaith Cam 1

Cynllun Cydnabod DPP

Cymwys i Addysgu, ond yn ceisio Cydnabyddiaeth Broffesiynol

Page 8: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

Mae'r Cyfarwyddwr Cwrs a'r Dirprwy Gyfarwyddwr Cwrs ar gael i'ch cefnogi drwy'r rhaglen, a byddant ar gael yn ystod y gweithdai i ateb eich cwestiynau ac i roi arweiniad i chi.

Pwy yw fy Nhiwtor Personol?

Byddwch yn cael cefnogaeth fugeiliol gan naill ai'r Cyfarwyddwr Cwrs neu'r Dirprwy Gyfarwyddwr Cwrs. Cewch enw a manylion cyswllt eich Tiwtor Personol yn ystod sesiwn gynefino'r cwrs.

Bydd eich tiwtor personol yn gallu rhoi cefnogaeth unigol i chi os cewch unrhyw drafferthion personol, gan gynnwys rhoi estyniadau neu gyngor i chi ar amgylchiadau lliniarol. Bydd eich Tiwtor Personol hefyd yn gallu rhoi cyngor i chi am y cwrs PGCertTHE ac ar ddatblygu eich gyrfa addysgu.

Pwy yw fy Ymgynghorydd Addysgu?

Dylech geisio canfod Ymgynghorydd Addysgu a fydd yn barod i'ch arwain trwy'r broses o gwblhau'r PGCertTHE. Mae'n rhaid bod eich Ymgynghorydd yn gweithio i Brifysgol Bangor, yn athro/athrawes brofiadol yn eich disgyblaeth chi (ers o leiaf 3 blynedd), ac (o leiaf) yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i berson addas sydd wedi cytuno i fod yn Ymgynghorydd i chi, dylech roi gwybod i'r Cyfarwyddwr Cwrs. Y dyddiad cau ar gyfer rhoi gwybod i'r Cyfarwyddwr Cwrs am enw a manylion cyswllt eich Ymgynghorydd yw diwedd Wythnos 6. Bydd y Cyfarwyddwr Cwrs yn cadarnhau bod gan yr Ymgynghorydd yr ydych wedi ei ddewis gymwysterau a phrofiad priodol, a rhaid iddo/iddi gymeradwyo eich dewis yn ffurfiol cyn i chi ddechrau gweithio gyda'r Ymgynghorydd.

Bydd eich Ymgynghorydd yn eich cefnogi trwy gydol y cwrs, gan gynnwys rhoi cyfleoedd i chi ei arsylwi/ei harsylwi yn addysgu a dod i'ch arsylwi chi yn addysgu. Ni ddisgwylir i chi amserlennu cyfarfodydd â'ch Ymgynghorydd, ond dylai fod ar gael i gyfarfod â chi os hoffech drafod eich gallu cyffredinol wrth addysgu. Rhaid i'ch Ymgynghorydd hefyd ddarparu geirdaon i ddilysu eich ymarfer a chadarnhau sut rydych chi wedi bodloni deilliannau dysgu'r cwrs.

Bydd eich Ymgynghorydd Addysgu'n cael ei wahodd/ei gwahodd i weithdy i gael cyflwyniad i'r PGCertTHE ac i roi'r holl wybodaeth y bydd arno/arni ei angen i'ch cynghori chi yn ystod y cwrs. Bydd eich Ymgynghorydd Addysgu hefyd yn cael ei baru/ei pharu gydag academydd yn y Ganolfan Gwella Addysgu a Dysgu (CELT), a bydd y pariad hwnnw yn rhoi cefnogaeth barhaus iddo/iddi trwy gydol y broses. Er mwyn cefnogi ei ddatblygiad/ei datblygiad proffesiynol parhaus ymhellach, bydd yr Ymgynghorwyr hefyd yn cael ei wahodd/ei gwahodd i fod yn adolygwyr ar gyfer y Cynllun Cydnabod DPP (yn amodol ar gwblhau'r hyfforddiant angenrheidiol) a bydd yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw weithdai y bydd CELT yn eu cynnal i ymarferwyr profiadol.

----------------------------------------

Cydnabyddiaeth Broffesiynol

Beth mae bod yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (HEA) yn ei olygu?

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 8 o 41

Page 9: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

Advance HE yw'r corff cenedlaethol sy'n gyfrifol am hyrwyddo ansawdd addysgu ym mhrifysgolion y Deyrnas Unedig. Mae'r sefydliad hwn yn ymgorffori tri chorff sydd â chyfrifoldebau ar draws gwahanol rannau o'r sector: Yr Uned Her Cydraddoldeb (gan gynnwys ATHENA SWAN), y Sefydliad Arweinyddiaeth, a'r Academi Addysg Uwch. Maent yn cynnig ystod o wasanaethau proffesiynol, o ariannu ymchwil addysgeg i lywio polisi'r llywodraeth. Maent hefyd yn darparu amrywiol wasanaethau cydnabod ac achredu sy'n galluogi staff i ddatblygu'n broffesiynol. Mae un o'r llinynnau achredu'n rhoi cyfle i'r rhai sy'n gweithio mewn rôl addysgu a/neu gefnogi dysgu gael cydnabyddiaeth, yn dibynnu ar eu rôl a'u profiad, fel Cymrawd Cyswllt Cymrawd, Uwch Gymrawd, neu Brif Gymrawd Yr Academi Addysg Uwch. Gall unigolion gael y gydnabyddiaeth hon trwy wneud cais yn uniongyrchol i Advance HE, trwy gwblhau cwrs astudio sydd wedi'i achredu gan Advance HE, neu drwy ymgeisio trwy 'Fframwaith DPP' achrededig y brifysgol ei hun. Mae ceisiadau trwy gyrsiau astudio neu fframweithiau DPP achrededig y sefydliad yn galluogi'r Brifysgol i ddyfarnu Cymrodoriaethau'n lleol, gan olygu nad oes angen i unigolion wneud cais yn uniongyrchol i Advance HE. Ar hyn o bryd mae mwy na 100,000 o Gymrodyr achrededig i'w cael yn y Deyrnas Unedig.

Yn wreiddiol cafodd y syniad o sefydlu Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig (UKPSF) ei gynnig yn y Papur Gwyn The Future of Higher Education (2003), ac fe'i datblygwyd mewn ymgynghoriad â UUK, SCOP, a chyrff cyllido Addysg Uwch y Deyrnas Unedig. Cafodd ei adolygu yn 2011. Mae ansawdd addysgu yn ddangosydd pwysig o ran llwyddiant myfyrwyr ac mae'r fframwaith yn annog staff i ddefnyddio dull ysgolheigaidd o addysgu ac ymwneud â gweithgareddau addysgu. UKPSF yw'r fframwaith a ddefnyddir gan Advance HE ar gyfer asesu Cymrodoriaethau'r Academi Addysg Uwch.

Mae’r PGCertTHE ym Mhrifysgol Bangor wedi ei alinio'n benodol â Meysydd Gweithgarwch, Gwybodaeth Graidd a Gwerthoedd Proffesiynol yr UKPSF.

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 9 o 41

Page 10: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

Mae Cam 1 y PGCertTHE (modiwl XVE4008) yn bodloni meini prawf Disgrifydd 1 ar gyfer Cymrawd Cyswllt:

I. Ymwneud llwyddiannus gydag o leiaf ddau o'r pum Maes Gweithgaredd; II. Ymwneud llwyddiannus gydag addysgu ac ymarfer priodol sy'n gysylltiedig â'r Meysydd

Gweithgaredd hyn; III. Gwybodaeth a dealltwriaeth graidd briodol am o leiaf K1 a K2;IV. Ymrwymiad i Werthoedd Proffesiynol priodol wrth hwyluso dysgu pobl eraill; arferion

proffesiynol perthnasol, ymchwil pwnc ac ymchwil addysgeg a/neu ysgolheictod o fewn y gweithgareddau uchod;

V. Ymarfer proffesiynol perthnasol, ymchwil pwnc a/neu ymchwil addysgeg o fewn y gweithgareddau uchod

VI. Ymwneud llwyddiannus, lle bo'n briodol, â gweithgareddau datblygu proffesiynol sy'n gysylltiedig â chyfrifoldebau addysgu, dysgu ac asesu.

Dim ond os yw'r holl feini prawf uchod wedi'u bodloni a bod tystiolaeth o hynny yn asesiadau Cam 1 y gwneir ymgeisydd yn Gymrawd Cyswllt. Mae symud ymlaen i Gam 2 y rhaglen yn ddibynnol ar gwblhau Cam 1 yn llwyddiannus.

Mae Cam 2 y PGCertTHE (modiwl XVE4009) yn bodloni meini prawf Disgrifydd 2 ar gyfer Cymrawd:

I. Ymwneud llwyddiannus ar draws pob un o'r pum Maes Gweithgaredd;

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 10 o 41

Meysydd GweithgarwchA1 Dyfeisio a chynllunio gweithgareddau dysgu a/neu raglenni astudiaeth. A2 Addysgu ac/neu gefnogi dysgu. A3 Asesu a rhoi adborth i ddysgwyr A4 Datblygu amgylcheddau dysgu effeithiol a dulliau effeithiol o gynorthwyo a chyfarwyddo myfyrwyr. A5 Ymroi i ddatblygiad proffesiynol parhaus mewn pynciau/ disgyblaethai a’u pedagogeg, gan ymgorffori ymchwil, ysgolheictod a gwerthuso arferion proffesiynol.

Gwerthoedd ProffesiynolVI Parchu dysgwyr unigol a chymunedau dysgu amrywiol V2 Hyrwyddo cyfranogiad mewn Addysg Uwch a chyfle cyfartal i ddysgwyr. V3 Defnyddio dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a deilliannau ymchwil, ysgolheictod a datblygiad proffesiynol parhausV4 Cydnabod y cyd-destun ehangach y mae Addysg Uwch yn gweithredu o’i fewn, gan gydnabod y goblygiadau ar gyfer ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth GraiddK1 Y deunydd pwnc. K2 Dulliau priodol o addysgu, dysgu ac asesu yn y maes pwnc ac ar lefel y rhaglen academaidd K3 Sut mae myfyrwyr yn dysgu, yn gyffredinol a hefyd o fewn eu maes (meysydd) pwnc / disgyblaeth K4 Defnydd a gwerth technolegau dysgu priodol K5 Dulliau o werthuso effeithiolrwydd yr addysgu K6 Goblygiadau sicrhau ansawdd a gwella ansawdd ar gyfer ymarfer academaidd a phroffesiynol, gan ganolbwyntio’n benodol ar addysgu

Page 11: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

II. Gwybodaeth a dealltwriaeth briodol ar draws pob agwedd ar yr Wybodaeth Graidd;III. Ymrwymiad i'r holl Werthoedd Proffesiynol;IV. Ymwneud llwyddiannus ag ymarfer addysgu priodol sy’n gysylltiedig â’r Meysydd

Gweithgaredd;V. Ymgorffori ymchwil pwnc ac ymchwil addysgeg a/neu ysgolheictod yn llwyddiannus yn

y gweithgareddau uchod, fel rhan o ddull integredig o ymdrin ag ymarfer academaidd;VI. Ymwneud llwyddiannus mewn datblygiad proffesiynol parhaus yng nghyswllt addysgu,

dysgu, asesu a, lle bo’n briodol, ymarfer proffesiynol cysylltiedigDim ond os yw'r holl feini prawf uchod wedi'u bodloni a bod tystiolaeth o hynny yn asesiadau Cam 1 a Cham 2 gyda'i gilydd y gwneir ymgeisydd yn Gymrawd. Mae hyn yn golygu nad yw'n angenrheidiol dangos tystiolaeth o bob un o feini prawf Disgrifydd 2 yn asesiadau Cam 2 gan y gallai rhai ohonynt fod wedi'u dangos yn asesiadau Cam 1. Bydd yr aseswr yn ystyried yr holl dystiolaeth ar draws y rhaglen gyfan wrth ddyfarnu Cymrodoriaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am UKPSF, edrychwch ar y dogfennau sydd ar gael ar dudalen Blackboard PGCertTHE. Fe welwch gopi llawn o'r UKPSF a dogfen sy'n esbonio cyd-destun yr UKPSF. Mae'r ddogfen Dimensiynau'r Fframwaith yn rhoi arweiniad ar sut i ddangos eich ymwneud â'r Meysydd Gweithgaredd, sut i ddangos eich dealltwriaeth o'r Wybodaeth Graidd briodol, a sut i ddangos eich ymrwymiad i'r Gwerthoedd Proffesiynol. Yn olaf, rhaid i chi adolygu Cod Ymarfer y Gymrodoriaeth oherwydd bydd disgwyl i chi gydymffurfio â'r safonau hyn ar ôl cael y cymhwyster.

Bydd yr academydd sy'n asesu eich asesiadau terfynol fel rhan o'r PGCertTHE yn Gymrawd achrededig Yr Academi Addysg Uwch a bydd wedi cwblhau hyfforddiant a ddarperir gan y Brifysgol i adolygwyr Cymrodoriaethau'r Academi Addysg Uwch yn ystod y tair blynedd diwethaf. Bydd yr holl waith sydd wedi ei farcio wedyn yn cael ei archwilio gan arholwr allanol. Bydd yr arholwr allanol hwn hefyd yn Gymrawd achrededig yr Academi Addysg Uwch. Bydd yr academyddion hyn yn asesu eich gwaith yn unol â deilliannau dysgu'r modiwlau i benderfynu a ydych chi wedi bodloni meini prawf priodol Disgrifyddion yr UKPSF er mwyn cael cymrodoriaeth gyswllt Yr Academi Addysg Uwch.Beth mae bod yn Athro/Athrawes Nyrsio Gofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) yn ei olygu?

Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yw'r corff cenedlaethol sy'n gyfrifol am reoleiddio nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'r NMC yn darparu canllawiau a chodau ymddygiad ar gyfer ymarfer, yn ogystal â gosod safonau ar gyfer addysg a hyfforddiant.

Mae’r PGCertTHE ym Mhrifysgol Bangor wedi ei alinio'n benodol â gofynion yr NMC. Bydd cwblhau Cam 1 a Cham 2 yn llawn yn bodloni'r gofynion hyn a bydd graddedigion llwyddiannus yn cael statws Athro/Athrawes Nyrsio Gofrestredig gyda'r NMC. Bydd hyn yn eu gwneud yn gymwys i addysgu nyrsio cyn-gofrestru.

----------------------------------------

Manteision y PGCertTHE

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 11 o 41

Page 12: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

Mae gen i gontract Ymchwil ac Addysgu - sut fydd cael PGCertTHE yn fy helpu i?

Rydym yn cydnabod bod cyhoeddi ymchwil a denu grantiau yn bwysig i academyddion ar ddechrau eu gyrfa. Fodd bynnag, mae addysgu yn dal yn rhan bwysig o'ch contract ac mae'r PGCertTHE wedi ei gynllunio i'ch helpu i lwyddo yn y maes hwnnw.

Yn gyntaf, mae cymwysterau addysgu yn ychwanegiad y rhoddir pwys cynyddol arnynt fel rhan o CV academydd. Yn aml mae swyddi academaidd yn gofyn bod ymgeiswyr yn meddu ar gymhwyster neu'n ymrwymo i ennill cymhwyster yn ystod eu cyfnod prawf. Ar ben hynny, bydd meddu ar y cymhwyster hwn yn ddisgwyliedig ac yn elfen bwysig wrth wneud ceisiadau am ddyrchafiad yn y dyfodol yn achos contractau ymchwil ac addysgu.

Yn ail, mae'r PGCertTHE wedi ei gynllunio i'ch helpu i addysgu yn fwy effeithiol ac effeithlon. Bydd yn ffordd i chi ymgynefino ag agweddau ymarferol addysgu ym Mhrifysgol Bangor. Mae hyn yn golygu y dylai'r cwrs eich helpu o ran cyflawni tasgau addysgu beunyddiol, fel bod yr amser a dreuliwch ar y cwrs yn arbed amser i chi wrth wneud dyletswyddau addysgu go iawn. Er enghraifft, rhaid i bob cynullydd/trefnydd modiwl gwblhau ffurflen Sicrhau Ansawdd (QA) ar ddiwedd pob cwrs - yn hytrach na cheisio gweithio allan sut mae llenwi'r ffurflen hon ar eich pen eich hun, bydd ein gweithdy ni yn eich tywys trwy'r broses er mwyn sicrhau fod gennych y sgiliau i'w llenwi yn gyflym ac yn briodol nawr ac yn y dyfodol. Yna byddai modd i chi gynnwys y ffurflen QA hon yn eich portffolio fel enghraifft o Ymwneud ag Addysgu.

Yn drydydd, yn yr un ffordd ag y mae ymchwil yn hybu eich disgyblaeth academaidd, mae ysgolheictod mewn addysgu yn gwella ein gallu i addysgu myfyrwyr yn fwy effeithiol. Mae ail gam y PGCertTHE yn gyfle i ddysgu am ysgolheictod o'r fath a chyfrannu tuag ato. Wrth i chi ddarllen cyfnodolion addysgeg eich maes, byddwch yn dysgu mwy am y datblygiadau diddorol ym maes addysgu y mae eich cydweithwyr yn eich disgyblaeth chi yn eu gwneud. Yn yr ail gam cewch eich asesu ar ddarn o ysgolheictod addysgeg a gallai fod diben ychwanegol i hynny pe baech yn dewis cyflwyno eich gwaith i gyfnodolion. Gallai hyn godi eich proffil ymchwil ymhellach, neu gefnogi ceisiadau am ddyrchafiad yn y dyfodol gan ei fod yn dystiolaeth o ragoriaeth mewn addysgu ochr yn ochr â'ch rhagoriaeth ymchwil.Mae gen i gontract Addysgu ac Ysgolheictod - sut fydd cael PGCertTHE yn fy helpu i?

Mae addysgu yn rhan hanfodol o'ch contract ac mae'r PGCertTHE wedi ei gynllunio i ddarparu cyfleoedd i chi ragori.

Yn gyntaf, mae cymwysterau addysgu yn hollol hanfodol i'r rhai hynny sydd ar gontractau addysgu ac ysgolheictod. Bu cynnydd cyson dros y blynyddoedd diwethaf yn nifer y swyddi sy'n cael eu hysbysebu ar gyfer academyddion sy'n canolbwyntio ar addysgu, ond mae cymaint o gystadleuaeth am y swyddi hyn ag sydd am swyddi ymchwil a bellach mae'n arferol disgwyl fod gan ymgeiswyr gymhwyster addysgu. Bydd meddu ar y cymhwyster hwn hefyd yn ddisgwyliedig fel elfen hanfodol wrth wneud cais am ddyrchafiad yn y dyfodol yn achos contractau addysgu ac ysgolheictod.

Yn ail, mae'r PGCertTHE wedi ei gynllunio i'ch helpu i addysgu'n fwy effeithiol ac mae'n ffordd i chi ymgynefino ag agweddau ymarferol addysgu ym Mhrifysgol Bangor. Mae hyn yn golygu y bydd y cwrs yn rhoi sylfaen i chi mewn addysgu, fel bod modd i chi ganolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau ymhellach. Er enghraifft, rhaid i bob cynullydd/trefnydd modiwl gwblhau ffurflen Sicrhau Ansawdd (QA) ar ddiwedd pob cwrs - yn hytrach na threulio eich amser yn ceisio gweithio allan sut mae llenwi'r ffurflen hon ar eich pen eich hun, bydd ein gweithdy ni yn eich

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 12 o 41

Page 13: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

tywys trwy'r broses fel bod modd i chi ddefnyddio eich amser i adfyfyrio ynglŷn â sut mae gwella eich addysgu ar y cwrs i'r dyfodol. Yna byddai modd i chi gynnwys y cofnod adfyfyrio hwnnw yn eich ffurflen Sicrhau Ansawdd a'i ychwanegu at eich portffolio fel enghraifft o Ymwneud ag Addysgu.

Yn drydydd, mae ail gam y PGCertTHE yn gyfle i ddysgu am ysgolheictod addysgeg a chyfrannu tuag ato. Mae addysgu yn rhan enfawr o'ch swydd ar gontract addysgu ac ysgolheictod, ond mae ysgolheictod hefyd yn rhan o'r contract hwn. Yn yr ail gam cewch eich asesu ar ddarn o ysgolheictod addysgeg a byddem yn disgwyl bod y rhai hynny sydd ar gontract addysgu ac ysgolheictod yn ceisio cyflwyno eu gwaith i gyfnodolyn. Bydd hyn yn codi eich proffil ysgolheigaidd ac yn cefnogi ceisiadau am ddyrchafiad yn y dyfodol gan ei fod yn dystiolaeth o ragoriaeth mewn addysgu.

----------------------------------------

Gofynion y Cwrs PGCertTHE

Beth sydd raid i mi ei wneud ar y cwrs hwn?

Mae dau gam i'r PGCertTHE:

1. Bydd Cam 1 (modiwl XVE4008 Teaching and Learning in Higher Education) yn canolbwyntio ar agweddau ymarferol addysgu i'ch helpu i fod yn fwy effeithiol ac effeithlon wrth addysgu mewn Addysg Uwch. Bydd y cam hwn yn cynnwys gweithdai rheolaidd i gefnogi eich datblygiad a bydd y gweithdai hyn yn cael eu mapio yn ôl eich gweithgareddau academaidd ar draws y flwyddyn. Portffolio terfynol fydd asesiad y cam hwn sy'n dangos tystiolaeth o'ch profiad addysgu, a rhaid iddo gynnwys o leiaf 100 awr o addysgu neu gefnogi dysgu mewn Addysg Uwch (gan gynnwys 25 awr mewn cyswllt â myfyrwyr) ar fodiwlau mewn Addysg Uwch, sy'n ddarostyngedig i Weithdrefnau Sicrhau Ansawdd Prifysgol Bangor.

2. Bydd Cam 2 (modiwl XVE4009 Enhancing Academic Practice) yn canolbwyntio ar ymchwil addysgeg sy'n edrych ar ddulliau arloesol ac ar ddatblygu eich ymarfer addysgu ymhellach. Ysgolheictod annibynnol fydd y cam hwn a phapur academaidd fydd yr asesiad.

Beth yw hyd y cwrs?

Cynhelir Cam 1 y PGCertTHE dros un flwyddyn academaidd. Ni ellir symud ymlaen i Gam 2 nes y byddwch wedi cyflawni Cam 1 yn llawn.

Dylid cwblhau Cam 2 y PGCertTHE o fewn blwyddyn. Fodd bynnag, gellir cyflwyno'r gwaith ynghynt os yw'r cyfranogwr yn awyddus i gwblhau'r cymhwyster. Ar y llaw arall, gellir ymestyn y dyddiad cyflwyno hyd at ddwy flynedd pe bai angen.

Beth yw nodau'r rhaglen (Camau 1 a 2 gyda'i gilydd)?

Mae'r PGCertTHE yn rhoi hyfforddiant ymarferol i chi ar sut i addysgu mewn Addysg Uwch ynghyd â chyfle i ddatblygu'n broffesiynol o ran ysgolheictod addysgeg. Nodau'r cwrs hwn yw datblygu athrawon Addysg Uwch effeithiol ac arloesol trwy gyfrwng rhaglen academaidd,

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 13 o 41

Page 14: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

cynefino staff academaidd â systemau addysgu Addysg Uwch ym Mhrifysgol Bangor, a darparu cyfleoedd i athrawon Addysg Uwch ennill cydnabyddiaeth broffesiynol.

Mae deilliannau dysgu'r PGCertTHE wedi eu halinio ag UKPSF. Gallwch weld pa ddimensiynau a pha feini prawf ar gyfer y disgrifyddion sydd wedi'u halinio â phob deilliant dysgu trwy edrych ar Gwestiynau Cyffredin y Deilliannau Dysgu. Maent wedi eu halinio mewn modd sy'n sicrhau bod PGCertTHE yn cyflawni'r nod o ddarparu cyfleoedd i gael cydnabyddiaeth broffesiynol.

Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol bod rhai o'r deilliannau dysgu a'r meini prawf asesu yn rhagori ar ofynion yr UKPSF. Y rheswm am hyn yw bod cwblhau'r rhaglen hon hefyd yn arwain at gael tystysgrif academaidd ar lefel ôl-radd. Mae hyn yn golygu y dylai myfyrwyr sy'n cwblhau'r rhaglen hon fod wedi gwneud y nifer briodol o oriau ar y lefel academaidd briodol er mwyn dyfarnu cymhwyster 60 credyd ar Lefel 7. Mae'r gofynion ychwanegol hyn yn sicrhau bod PGCertTHE yn cyflawni'r nod o ddatblygu athrawon effeithiol ac arloesol trwy gyfrwng rhaglen academaidd. At hynny, mae strwythur y rhaglen a'r dysgu gyda chefnogaeth trwy gydol y cwrs yn sicrhau bod PGCertTHE yn cyflawni'r nod o gynefino staff ar ddechrau gyrfa addysgu mewn Addysg Uwch.

Beth yw deilliannau dysgu'r rhaglen (Camau 1 a 2 gyda'i gilydd)?

O gwblhau'r PGCertTHE, dylech fedru:

1. Ymwneud yn llwyddiannus ag addysgu ac arferion priodol sy'n gysylltiedig â dylunio a chynllunio gweithgareddau dysgu a/neu raglenni astudio

o UKPSF: Dimensiwn A1; Disgrifydd 1 I a II; Disgrifydd 2 I & IV

2. Ymwneud yn llwyddiannus ag addysgu ac arferion priodol sy'n gysylltiedig ag addysgu a chefnogi dysgu

o UKPSF: Dimensiwn A2; Disgrifydd 1 I & II; Disgrifydd 2 I & IV

3. Ymwneud yn llwyddiannus ag addysgu ac arferion priodol sy'n gysylltiedig ag asesu a rhoi adborth i ddysgwyr

o UKPSF: Dimensiwn A3; Disgrifydd 1 I & II; Disgrifydd 2 I & IV

4. Ymwneud yn llwyddiannus ag addysgu ac arferion priodol sy'n gysylltiedig â datblygu amgylcheddau dysgu effeithiol a dulliau o gefnogi a rhoi arweiniad i fyfyrwyr

o UKPSF: Dimensiwn A4; Disgrifydd 2 I & IV

5. Cymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol parhaus mewn pynciau/disgyblaethau a’u haddysgeg, gan ymgorffori ymchwil, ysgolheictod a gwerthuso arferion proffesiynol mewn perthynas ag addysgu, dysgu, ac asesu

o UKPSF: Dimensiwn A5; Disgrifydd 1 V & VI; Disgrifydd 2 I, IV, V, & VI

6. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth greiddiol briodol am ddeunyddiau pwnc eich disgyblaeth eich hun

o UKPSF: Dimensiwn K1; Disgrifydd 1 III; Disgrifydd 2 II

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 14 o 41

Page 15: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

7. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth greiddiol am ddulliau priodol o addysgu, dysgu ac asesu yn eich disgyblaeth eich hun

o UKPSF: Dimensiwn K2; Disgrifydd 1 III; Disgrifydd 2 II

8. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth greiddiol briodol am sut mae myfyrwyr yn dysgu, yn gyffredinol ac o fewn eich disgyblaeth chi

o UKPSF: Dimensiwn K3; Disgrifydd 2 II

9. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth greiddiol am ddefnydd a gwerth technolegau dysgu priodol

o UKPSF: Dimensiwn K4; Disgrifydd 2 II

10. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth greiddiol o ddulliau ar gyfer gwerthuso effeithiolrwydd yr addysgu

o UKPSF: Dimensiwn K5; Disgrifydd 2 II

11. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth am oblygiadau sicrhau ansawdd a gwella ansawdd ymarfer academaidd a phroffesiynol, gan ganolbwyntio’n benodol ar addysgu

o UKPSF: Dimensiwn K6; Disgrifydd 2 II

12. Hwyluso dysgu trwy ymrwymo i barchu dysgwyr unigol a chymunedau dysgu amrywiol o UKPSF: Dimensiwn V1; Disgrifydd 1 IV; Disgrifydd 2 III

13. Hwyluso dysgu trwy ymrwymo i hyrwyddo cyfranogiad mewn Addysg Uwch a chyfle cyfartal i ddysgwyr

o UKPSF: Dimensiwn V2; Disgrifydd 1 IV; Disgrifydd 2 III

14. Defnyddio dulliau ar sail tystiolaeth a deilliannau ymchwil, ysgolheictod a datblygiad proffesiynol parhaus fel rhan o ddull integredig o gyflawni ymarfer academaidd

o UKPSF: Dimensiwn V3; Disgrifydd 2 III, V & VI

15. Cydnabod y cyd-destun ehangach y mae Addysg Uwch yn gweithredu ynddo, gan gydnabod y goblygiadau ar gyfer ymarfer proffesiynol

o UKPSF: Dimensiwn V4; Disgrifydd 2 III

Pam nad yw'r cwrs yn canolbwyntio'n benodol ar addysgu yn fy nisgyblaeth i?

Mae ystod eang o bobl yn rhan o'r garfan sy'n cwblhau'r PGCertTHE ac mae hyn yn golygu na allwn deilwra'r cwrs yn llwyr i'ch disgyblaeth chi yn benodol. Gall hyn fod yn rhwystredig ar brydiau, yn enwedig os ydych yn teimlo nad yw rhai elfennau o'r cynnwys yn berthnasol i'ch ymarfer addysgu chi ar hyn o bryd. Fodd bynnag, cofiwch y gall eich sefyllfa newid gydag amser ac efallai y gwelwch y daw'r sgiliau yr ydych yn eu dysgu yn werthfawr os bydd eich ymarfer addysgu yn newid yn y dyfodol.

Rydym wedi ceisio gwneud y cwrs a'r asesiadau mor hyblyg â phosibl i sicrhau y gellir eu teilwra at anghenion pob academydd. Yn y cam cyntaf, mae rhyddid i chi ddewis y deg gweithdy sydd fwyaf perthnasol i'ch ymarfer addysgu. Yn yr ail gam, byddwch yn cynhyrchu papur ysgolheigaidd yn arddull benodol eich disgyblaeth eich hun. Mae'r hyblygrwydd hwn yn golygu

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 15 o 41

Page 16: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

y gallwch fod â rheolaeth dros yr hyfforddiant a gewch ar y cwrs er mwyn sicrhau ei fod yn eich helpu yn eich gwaith fel darlithydd, yn hytrach nag ychwanegu at eich llwyth gwaith.

Allaf i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg?

Mae'r cwrs hwn yn gweithio'n agos â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a chynigir llwybr clir ar gyfer astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd pob adnodd gwreiddiol (llawlyfr cwrs, llyfrau gwaith, ac ati) ar gael yn Gymraeg a bydd cyfres o sesiynau cyfatebol ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg (ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth). Gellir cyflwyno pob asesiad yn Gymraeg. Bydd marcwyr Cymraeg eu hiaith ar gael i asesu'r gwaith sy'n cael ei gyflwyno a rhaid i'r Arholwr Allanol fedru adolygu gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg. Gallwch hefyd ddewis Ymgynghorydd Addysgu Cymraeg ei iaith i'ch cefnogi trwy'r cwrs. Cysylltwch â'r Cyfarwyddwr Cwrs i roi gwybod yr hoffech astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Sut ydw i'n cael cefnogaeth ar gyfer fy anghenion dysgu ychwanegol?

Byddwch yn cael eich cofrestru'n swyddogol fel myfyriwr ar y cwrs hwn, felly bydd gennych hawl i gael mynediad at yr holl wasanaethau cefnogi sydd ar gael ym Mhrifysgol Bangor. Cysylltwch â'r Ganolfan Gwasanaethau Myfyrwyr i ddysgu mwy am y gefnogaeth sydd ar gael, gan gynnwys y gwasanaeth anabledd a'r tîm dyslecsia. Os oes angen cymorth dysgu ychwanegol arnoch i gwblhau eich asesiad, cysylltwch â'ch Tiwtor Personol i drafod opsiynau o ran estyniadau, ysgrifenwyr, darllenwyr, ac ati.

Sut wna i ddod o hyd i amser i gwblhau'r cwrs?

Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i sicrhau bod pob aelod o staff academaidd yn 'gymwys i addysgu' trwy naill fod â PGCertTHE neu Gymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch. Mae hyn yn golygu ein bod yn rhoi gwerth ar yr amser yr ydych yn ei dreulio'n cwblhau'r cwrs hwn ac/neu rydym yn cydnabod ei fod yn rhan bwysig o'ch datblygiad proffesiynol. Dylai eich ysgol academaidd gydnabod hynny, ac o gael Pennaeth yr Ysgol i gymeradwyo eich bod yn cwblhau'r cwrs dylai hynny sicrhau fod y cwrs yn cael ei ymgorffori yn rhan o'ch llwyth gwaith. Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â chael amser i gwblhau'r cwrs, dylech gysylltu â'r Cyfarwyddwr Cwrs.

----------------------------------------

Asesiadau PGCertTHE

Beth yw'r meini prawf asesu?

Bydd eich gwaith yn cael ei asesu yn defnyddio'r meini prawf canlynol:

Methu o Cyflwyniad anghyflawn gyda thystiolaeth ar goll ar gyfer rhai o feini prawf y

Disgrifyddo Dealltwriaeth a chymhwysiad annigonol yn rhai meysydd craidd o'r

gweithgarwch addysguo Bylchau mawr yn yr wybodaeth graidd am addysgu, dysgu ac addysgeg

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 16 o 41

Page 17: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

o Heb ddangos gwerthoedd proffesiynol sylfaenol

Llwyddo Ffiniolo Cyflwyniad cyflawn gyda dim ond y lleiafswm o dystiolaeth ar gyfer holl feini

prawf y Disgrifyddo Dealltwriaeth a chymhwysiad digonol ym mhob un o feysydd craidd y

gweithgarwch addysguo Rhywfaint o wybodaeth graidd am addysgu, dysgu ac addysgego Wedi dangos gwerthoedd proffesiynol sylfaenol

Llwyddoo Cyflwyniad cyflawn gyda thystiolaeth lawn ar gyfer holl feini prawf y Disgrifyddo Dealltwriaeth a chymhwysiad cadarn ym mhob un o feysydd craidd y

gweithgarwch addysguo Gwybodaeth graidd gadarn am addysgu, dysgu ac addysgego Dangos gwerthoedd proffesiynol da yn glir

Sut mae'r llyfrau gwaith yn fy helpu gyda fy asesiadau?

Cewch lyfr gwaith ar gyfer Portffolio Cam 1 a Phapur Cam 2 ar safle Blackboard PGCertTHE. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio'r llyfrau gwaith hyn i strwythuro a fformatio eich cyflwyniad. Lawrlwythwch y llyfr gwaith, llenwch yr adrannau fel y mae'r testun a amlygwyd mewn melyn yn eich cynghori, rhowch y gwaith yn y mannau perthnasol, a chyflwynwch y llyfr gwaith terfynol fel un darn o waith i'w asesu. Dylai pob adran o'ch cyflwyniad terfynol fod wedi eu cwblhau'n llawn ac ni ddylai gynnwys unrhyw destun wedi ei amlygu mewn melyn. Mae'r llyfrau gwaith hyn yn sicrhau eich bod wedi cynnwys yr holl gynnwys sy'n ofynnol, gan symleiddio strwythur eich gwaith, a gadael i chi ganolbwyntio ar gynnwys yn hytrach nag ar faterion yn ymwneud â fformatio.

Sut ddylwn i gyflwyno fy asesiadau?

Dylid cyflwyno portffolio Cam 1 a phapur Cam 2 yn electronig yn unig. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi sicrhau bod eich asesiad mewn un ddogfen. Dylid cyflwyno'n electronig ar Blackboard trwy borth cyflwyno Turnitin. Ni fydd y porth cyflwyno hwn ar gael i'w ddefnyddio hyd nes i chi lofnodi eich bod yn cytuno â'r Datganiad Asesu:

Rwy’n tystio mai fy ngwaith fy hun yw hwn, wedi ei gwblhau yn unol â rheoliadau'r Brifysgol a'r Ysgol ar lên-ladrad ac ymarfer teg. Cadarnhaf fy mod wedi darllen a deall yr adran yn fy llawlyfr myfyrwyr ar anonestrwydd academaidd. Mae'r holl ddata sydd wedi ei gynnwys yn y gwaith hwn yn gywir a chyflawn hyd eithaf fy ngwybodaeth. Ystyrir bod unrhyw waith sydd wedi ei gyflwyno ar borth cyflwyno'r asesiad hwn ar ddyddiad cau'r asesiad yn waith terfynol a chaiff ei farcio felly.

Fe welwch fod datganiad tebyg i'w gael hefyd ar dudalen gyntaf eich llyfr gwaith a rhaid i chi lofnodi yno hefyd i nodi eich bod yn cytuno. Ar ôl i chi glicio ar y ddolen y datganiad i ddangos eich bod yn cytuno, bydd y porth cyflwyno'n ymddangos er mwyn i chi gael cyflwyno eich portffolio. Bydd y porth cyflwyno'n aros ar agor ar ôl y dyddiad cau ar gyfer derbyn cyflwyniadau hwyr, ond bydd y cyflwyniadau hyn yn cael eu marcio a'u prosesu fel gwaith sydd wedi ei gyflwyno'n hwyr. Ar ôl i chi gyflwyno eich gwaith, gwnewch yn siŵr eich bod yn

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 17 o 41

Page 18: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

derbyn ac yn cadw'r dderbynneb a gewch trwy Turnitin - dyma eich tystiolaeth eich bod wedi cyflwyno'r gwaith rhag ofn yr aiff rhywbeth o'i le wrth brosesu eich cyflwyniad.

Dylech fod yn ymwybodol y bydd eich portffolio yn cael ei wirio am lên-ladrad drwy system Turnitin. Rhaid i chi fwrw golwg ar ganllawiau'r Brifysgol ar gamymddwyn academaidd i sicrhau nad oes cynnwys wedi ei lên-ladrata yn eich gwaith. Bydd deall y rheoliadau hyn yn eich helpu hefyd i osod a marcio asesiadau eich myfyrwyr. Fodd bynnag, mae angen inni dynnu eich sylw at y ffaith mai dim ond i waith sydd wedi derbyn credyd academaidd y mae rheolau hunan-lên-ladrad yn berthnasol. Mae'n berffaith iawn i chi gynnwys eich adnoddau addysgu neu waith arall yr ydych wedi'i gyhoeddi. Ar y llaw arall, byddai yn erbyn y rheolau i dorri a gludo darnau mawr o'ch portffolio Cam 1 i'w cyflwyno fel eich papur Cam 2.

Beth fydd yn digwydd os nad oes modd i mi orffen fy asesiadau cyn y dyddiad cyflwyno?

Os nad oes modd i chi gyflwyno eich asesiadau erbyn y dyddiad cyflwyno dylech gysylltu â'ch tiwtor personol. Bydd un o'r Cyfarwyddwyr Cwrs yn cael eu dynodi yn diwtor personol i chi, felly bydd modd iddo/iddi ystyried pa mor bosibl fyddai rhoi estyniad i chi ar gyfer cyflwyno'r papur.

Sut fydd fy ngwaith yn cael ei farcio?

Caiff Cam 1 y PGCertTHE ei asesu trwy bortffolio. Bydd y portffolio yn werth 100% o'r modiwl hwn a rhaid bod ei gynnwys yn rhoi sylw i bob un o ddeilliannau dysgu'r cam cyntaf. Cynlluniwyd yr asesiad hwn i gefnogi'r gwaith addysgu yr ydych eisoes yn ei wneud. Dim ond ar ôl llwyddo yng Ngham 1 y cewch symud ymlaen i Gam 2. I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at yr adran ar Gam 1 yn y llawlyfr hwn.

Caiff Cam 2 y PGCertTHE ei asesu trwy ddarn o ysgolheictod. Rhaid i'r ysgolheictod ganolbwyntio ar addysgu yn eich pwnc eich hun a rhaid iddo roi sylw i bob un o ddeilliannau dysgu'r ail gam. Bydd gofyn i chi gynhyrchu un papur yn arddull erthyglau ysgolheictod addysgeg eraill eich disgyblaeth eich hun. I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at yr adran ar Gam 2 yn y llawlyfr hwn.

Bydd marciwr eich asesiad yn academydd cymwys ym Mhrifysgol Bangor ac yn athro profiadol / athrawes brofiadol mewn Addysg Uwch. Bydd hefyd yn Gymrawd achrededig Yr Academi Addysg Uwch a bydd wedi cwblhau hyfforddiant a ddarperir gan y Brifysgol i adolygwyr Cymrodoriaethau'r Academi Addysg Uwch yn ystod y tair blynedd ddiwethaf. Bydd eich marciwr yn adolygu'r gwaith ar-lein ac yn llenwi'r cynllun marcio i nodi a ydych wedi llwyddo neu fethu ym mhob un o'r deilliannau dysgu. Mae'r cynllun marcio'n cynnwys y meini prawf marcio sy'n cyd-fynd â'r deilliannau dysgu a meini prawf disgrifyddion perthnasol yr UKPSF. Bydd eich marciwr hefyd yn rhoi adborth yn yr adran sylwadau i ddangos meysydd o ragoriaeth a meysydd ar gyfer gwelliant. Efallai y caiff adborth ychwanegol ei gynnwys hefyd fel sylwadau trwy gydol y portffolio, os teimla'r marciwr bod angen gwneud hynny. Yna bydd y Cyfarwyddwr Cwrs yn safoni'n fewnol a bydd y broses honno'n golygu craffu ar ddosbarthiad marciau pob portffolio ac adolygu sampl o waith wedi ei farcio. Bydd yr holl waith sydd wedi ei farcio wedyn yn cael ei roi i arholwr allanol i'w safoni'n allanol. Bydd yr Arholwr Allanol hwn hefyd yn (o leiaf) Uwch Gymrawd achrededig yr Academi Addysg Uwch. Bydd yr Arholwr Allanol yn craffu ar y marcio a'r adborth i benderfynu a yw'n asesu'r deilliannau dysgu a disgrifydd perthnasol yr UKPSF. Byddwch yn cael marc dros dro ac adborth ar y cam hwn, a

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 18 o 41

Page 19: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

dylai hynny fod o fewn pedair wythnos i'r dyddiad cyflwyno. Yna bydd eich marc terfynol yn cael ei gadarnhau yn y Bwrdd Arholi allanol.

Rhaid Llwyddo neu Lwyddo'n Ffiniol ym mhob elfen ac ym mhob un o'r deilliannau dysgu er mwyn llwyddo yn y modiwl. Cyfeiriwch at y meini prawf marcio ar ddiwedd y llyfr gwaith perthnasol i weld yn union beth fydd yn cael ei ystyried wrth asesu eich gwaith. Gallwch weld eich marc terfynol a'r adborth a gawsoch trwy Blackboard. Gan mai dim ond Llwyddo neu Fethu sy'n bosibl yn y portffolio, fe welwch sgôr rhifol o naill ai 100% neu 0% i ddynodi gradd Llwyddo/Methu gyffredinol.

Beth sy'n digwydd os byddaf yn methu?

Rhaid Llwyddo neu Lwyddo'n Ffiniol ym mhob elfen ac ym mhob un o'r deilliannau dysgu er mwyn llwyddo yn yr asesiadau. Os methwch yn unrhyw elfen neu ddeilliant dysgu, yna byddwch yn methu'r asesiad ac ni fyddwch yn llwyddo yn y modiwl.

Os byddwch yn methu unrhyw asesiad byddwch yn cael eich gwahodd i ailgyflwyno'r gwaith diwygiedig i'w ail-farcio ar ôl gwneud y newidiadau hanfodol a nodir yn yr adborth. Fel arfer, bydd gofyn i chi ailgyflwyno o fewn pedair wythnos i ryddhau'r marciau. Dylech ddarllen yn ofalus yr holl sylwadau'n ymwneud ag elfen a fethwyd er mwyn gwneud y newidiadau priodol ac ailgyflwyno'n llwyddiannus. Os ydych yn llwyddo gyda'ch gwaith diwygiedig ac os gellir ei brosesu trwy'r bwrdd arholi'r flwyddyn honno, yna byddwch yn gallu symud ymlaen neu raddio yn ôl yr arfer.

Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol efallai na chaiff gwaith sy'n cael ei ailgyflwyno ei farcio a'i brosesu mewn pryd ar gyfer y bwrdd arholi blynyddol yn yr un flwyddyn. Os yw eich gwaith yn waith ar gyfer Cam 1, yna byddwch yn gymwys i gofrestru dros dro ar yr ail gam yn syth ar ôl iddo gael ei farcio i'ch galluogi i ddechrau gweithio ar unwaith ar gwblhau'r PGCertTHE. Mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol, fodd bynnag, y bydd eich cofrestriad mewn achos o'r fath yn gofrestriad dros dro a gellir ei dynnu'n ôl os nad yw'r gwaith a ailgyflwynwyd yn cael marc llwyddo.

Os bydd eich gwaith diwygiedig yn cael marc methu yn unrhyw elfen neu ddeilliant dysgu, yna byddwch yn methu'r asesiad. Byddwch yn methu'r modiwl hwnnw, ond cewch eich gwahodd i gofrestru eto i gwblhau'r modiwl yn y flwyddyn academaidd nesaf ac i gyflwyno asesiad newydd ar ddiwedd y modiwl.

----------------------------------------

Cwblhau'r PGCertTHE yn rhannol

A allaf gwblhau Cam 1 yn unig?

Os ydych yn aelod staff academaidd, yna mae'n rhaid i chi gwblhau dau gam y PGCertTHE er mwyn cael Cymrodoriaeth lawn yr Academi Addysg Uwch.

Os ydych yn fyfyriwr PhD, yna gallwch ddewis cwblhau dim ond cam cyntaf y PGCertTHE a chael y nifer briodol o gredydau academaidd. Fodd bynnag, ni fyddwch yn cael y PGCertTHE a dim ond statws Cymrodoriaeth Gyswllt yr Academi Addysg Uwch y byddwch yn ei chael.

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 19 o 41

Page 20: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

Fedraf i fynd yn syth i wneud Cam 2?

Mae'n bosibl cael achrediad am ddysgu blaenorol (APEL/APL) a mynd yn syth i ail gam y PGCertTHE os ydych eisoes wedi cwblhau hyfforddiant sy'n bodloni deilliannau dysgu Cam 1 a datganiadau meincnod Cymrodoriaeth Gyswllt yr Academi Addysg Uwch. Fel arfer bydd hyn yn wir os ydych wedi cwblhau un o raglenni hyfforddi athrawon achrededig Prifysgol Bangor. Os ydych wedi cwblhau rhaglen i gael Cymrodoriaeth Gyswllt yn rhywle arall, wedi gwneud cais am Gymrodoriaeth Gyswllt yn uniongyrchol i Advance HE / Yr Academi Addysg Uwch, neu wedi cwblhau rhaglen gyfatebol ond heb gael Cymrodoriaeth Gyswllt, yna efallai y gofynnir i chi gwblhau proses fapio i ddangos eich bod wedi cwrdd â deilliannau dysgu cwrs Cam 1 Prifysgol Bangor YNGHYD Â darparu datganiad gan ganolwr yn rhoi sylwadau ar sut mae eich ymarfer yn cwrdd â'r UKPSF er mwyn cael Cymrodoriaeth Gyswllt. Cysylltwch â'r Cyfarwyddwr Cwrs i gael rhagor o wybodaeth.

----------------------------------------

Apeliadau a Chwynion mewn perthynas â'r PGCertTHE

Sut ydw i'n apelio yn erbyn penderfyniad am ganlyniad fy asesiadau PGCertTHE?

Dylid trafod pryderon am eich marc yn y lle cyntaf gyda'r Cyfarwyddwr Cwrs. Anfonwch eich pryderon yn ysgrifenedig (mewn llythyr neu e-bost) at y Cyfarwyddwr Cwrs a bydd yn cadarnhau ei fod/ei bod wedi eu derbyn o fewn dau ddiwrnod gwaith. Bydd y Cyfarwyddwr Cwrs yn ymchwilio i'r sefyllfa i gywiro unrhyw gamgymeriad, yn mynd i'r afael ag unrhyw gamddealltwriaeth, neu'n rhoi unrhyw gamau lliniarol ar waith fel y bo'n briodol.

Os nad ydych eisiau trafod eich pryderon gyda'r Cyfarwyddwr Cwrs neu os nad yw'r camau uchod yn arwain at ganlyniad boddhaol, yna dylech gyflwyno apêl ffurfiol drwy'r Brifysgol. Dylech gyfeirio at God Ymarfer Cwynion ac Apeliadau Prifysgol Bangor a'r Weithdrefn Cadarnhau ac Apelio. Mae'r dogfennau hyn yn rhoi canllawiau ar sut i gadarnhau pa wybodaeth oedd ar gael i'r bwrdd arholi a pha wybodaeth a ystyriwyd gan y bwrdd arholi a sut i apelio yn erbyn y penderfyniad a wnaed yn y bwrdd arholi. Hyd yn oed os nad ydych yn dymuno apelio ynglŷn â'ch marc, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ymgyfarwyddo â'r wybodaeth hon gan y bydd yn wybodaeth ddefnyddiol i chi wrth addysgu eich myfyrwyr eich hun.

Cam cyntaf y weithdrefn yw cadarnhau a oedd unrhyw wallau rhifyddol neu wallau ffeithiol eraill, unrhyw amgylchiadau lliniarol nad oeddynt eisoes wedi cael eu hystyried gan yr arholwyr, neu unrhyw ddiffygion/anghysonderau yn y modd y cynhaliwyd y weithdrefn, neu o ran y cyfarwyddiadau neu'r cyngor a roddwyd mewn perthynas â'r asesiadau. Sylwch mai dim ond ar sail un neu ragor o'r materion uchod y gellir apelio. Nid yw'r weithdrefn hon yn golygu bod myfyrwyr yn cael cwestiynu barn academaidd yr arholwyr. Er enghraifft, ni all myfyrwyr gwestiynu marc a roddwyd i waith cwrs dim ond oherwydd eu bod yn credu bod y marc yn rhy isel. Caiff apeliadau eu hystyried gan y Dirprwy Is-ganghellor (Addysgu a Dysgu) neu gan rywun a enwebir yn ei le er mwyn penderfynu a ddylid gwrthod yr apêl, ei chyfeirio yn ôl i'r bwrdd arholi er mwyn ei hailystyried, neu ei chyfeirio at Banel Apêl y Senedd. Cewch wybod yn ysgrifenedig beth yw canlyniad terfynol y weithdrefn hon a beth yw penderfyniad unrhyw fwrdd arholi sy'n cyfarfod o'r newydd neu'n ailymgynnull.

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 20 o 41

Page 21: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

Os byddwch yn parhau i fod yn anfodlon ar ôl dilyn y weithdrefn hon, yna gallwch anfon cwyn at Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol. Gallwch hefyd anfon eich pryderon at Advance HE os ydynt yn ymwneud â'u safonau a'u gofynion polisi, neu os na chafodd y broses achrededig ei dilyn fel y caiff ei nodi yn y llawlyfr hwn.

Beth ddylwn i ei wneud os oes gen i gwyn, pryder neu gwestiwn am y PGCertTHE?

Fel arfer dylid trafod cwynion, pryderon neu gwestiynau yn y lle cyntaf gyda'r Cyfarwyddwr Cwrs. Gofynnwch am gyfarfod trwy e-bostio'r Cyfarwyddwr Cwrs gan ddweud pryd rydych ar gael. Fel arall, anfonwch air i ddweud beth sy'n bod (trwy lythyr neu e-bost) at y Cyfarwyddwr Cwrs. Fe gewch gadarnhad o dderbyn eich llythyr neu e-bost o fewn dau ddiwrnod gwaith, er y gall gymryd mwy o amser i ymchwilio i'r mater a'i ddatrys. Bydd y Cyfarwyddwr Cwrs yn ymchwilio i'r sefyllfa i gywiro unrhyw gamgymeriad, yn mynd i'r afael ag unrhyw gamddealltwriaeth, neu'n rhoi unrhyw gamau lliniarol ar waith fel y bo'n briodol. Fel arall, os nad ydych yn dymuno trafod yr hyn sy'n bod gyda'r Cyfarwyddwr Cwrs, gallwch gysylltu â'r Rheolwr Gwobrwyo a Chydnabod Addysgu neu â Phennaeth yr Ysgol Addysg i gyflwyno eich cwyn, eich pryderon neu'ch cwestiynau.

Os nad ydych eisiau trafod yr hyn sy'n bod o fewn yr Ysgol neu os nad yw'r camau uchod yn arwain at ganlyniad boddhaol, yna dylech gyflwyno cwyn ffurfiol drwy'r Brifysgol:

Os yw'r mater yn ymwneud â'r rhaglen academaidd hon neu unrhyw wasanaeth arall a gynigir gan y Brifysgol, yna cyfeiriwch at God Ymarfer Cwynion ac Apeliadau Prifysgol Bangor a'r Weithdrefn Cwynion Myfyrwyr.

Os oes arnoch eisiau apelio yn erbyn canlyniad asesiad yna dylech gyfeirio at God Ymarfer Cwynion ac Apeliadau Prifysgol Bangor a'r Weithdrefn Cadarnhau ac Apelio.

Os yw'r mater yn gwyn am ymddygiad aelod o staff, yna trafodwch â'r Gofrestrfa Academaidd sut i gyflwyno cwyn i'r adran Adnoddau Dynol.

Os yw'r mater yn gwyn am ymddygiad myfyriwr arall, yna cysylltwch â'r Gofrestrfa Academaidd gan ddilyn Gweithdrefnau Disgyblu Myfyrwyr Prifysgol Bangor.

Hyd yn oed os nad ydych yn dymuno cwyno, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ymgyfarwyddo â'r wybodaeth hon gan y bydd yn wybodaeth ddefnyddiol i chi wrth addysgu eich myfyrwyr eich hun.

Caiff cwynion ffurfiol eu hystyried gan y Dirprwy Is-ganghellor (Addysgu a Dysgu) neu gan rywun a enwebir yn ei le er mwyn penderfynu a ddylid peidio â chymryd unrhyw gamau, a ddylid cynnig atebion posibl, neu a ddylid cyfeirio'r gwyn at y Pwyllgor Ymchwilio. Y Dirprwy Is-ganghellor fydd yn cadeirio'r Pwyllgor Ymchwilio a bydd dau aelod o'r Senedd, Llywydd Undeb y Myfyrwyr, ac Ysgrifennydd o'r Gofrestrfa Academaidd yn aelodau o'r pwyllgor. Fe gewch eich gwahodd i gyflwyno eich cwyn a gellir gwahodd tystion o'r cwrs i ymateb i'r gwyn. Nod y Pwyllgor yw cyflwyno argymhellion er mwyn mynd i'r afael â'r gwyn cyn gynted ag y bo modd. Fe gewch wybod yn ysgrifenedig beth yw canlyniad terfynol y weithdrefn hon. Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon, yna gallwch apelio yn erbyn y canlyniad a bydd yr Is-ganghellor yn ystyried eich cwyn. Gall yr Is-ganghellor ymchwilio i'r gwyn a bydd penderfyniad yr Is-ganghellor yn derfynol. Os byddwch yn parhau i fod yn anfodlon ar ôl dilyn y weithdrefn hon, yna gallwch anfon cwyn at Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol. Gallwch hefyd anfon eich pryderon at Advance HE os ydynt

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 21 o 41

Page 22: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

yn ymwneud â'u safonau a'u gofynion polisi, neu os na chafodd y broses achrededig ei dilyn fel y caiff ei nodi yn y llawlyfr hwn.

Sut mae fy nata'n cael ei ddiogelu?

Darllenwch y Datganiad Preifatrwydd isod yn ofalus i gael gwybodaeth fanwl am sut y byddwn yn defnyddio eich data.

Datganiad Preifatrwydd

Cedwir yr holl ddata yn y lle cyntaf gan Dîm y Cwrs yn yr Ysgol Addysg a chan y tîm Gwobrwyo a Chydnabod Addysgu yng Nghanolfan Gwella Addysgu a Dysgu (CELT) Prifysgol Bangor. Rheolir y data hwn yn unol â Deddf Diogelu Data 2018.

Gwaith wedi ei GyflwynoCaiff gwaith ei gyflwyno a'i adolygu'n electronig drwy'r rhaglen Turnitin sy'n rhan o amgylchedd dysgu rhithiol Blackboard. Bydd myfyrwyr yn gallu gweld canlyniadau ac adborth sydd wedi ei ychwanegu at y gwaith y maent wedi ei gyflwyno yn dilyn y dyddiad rhyddhau canlyniadau. Dylech fod yn ymwybodol y bydd y gwaith sydd wedi ei gyflwyno yn cael ei gadw gan Turnitin ar ran y Brifysgol, ac y defnyddir y data hwn i wirio am lên-ladrata yn y dyfodol. Bydd unrhyw ddata a gedwir gan Turnitin yn parhau'n eiddo i'r Brifysgol/myfyriwr ac mae Turnitin yn cydymffurfio â safonau diogelu data'r Unol Daleithiau, yr Undeb Ewropeaidd a'r Swistir. Gall myfyrwyr ddewis cyflwyno gwaith yn ddienw a gallant ofyn i'r gwaith gael ei ddileu o Turnitin ar ôl y Byrddau Arholi (cysylltwch â Chyfarwyddwr Cwrs y PGCertTHE i gael rhagor o wybodaeth). Gellir argraffu eich gwaith er mwyn ei ystyried yn y Byrddau Arholi a chan Grŵp Gwobrwyo a Chydnabod Addysgu'r sefydliad. Efallai y bydd eich gwaith yn cael ei rannu o fewn y sefydliad at ddibenion rheoli ansawdd ac yn achos unrhyw apêl. Gellir e-bostio eich gwaith at adolygwyr ac/neu arholwyr allanol fel bo'r angen er mwyn gallu dyfarnu'r gymrodoriaeth a sicrhau ansawdd y cynllun. Gellir rhannu eich gwaith hefyd ag Advance HE fel rhan o'u gweithdrefnau sicrhau ansawdd. Gellir cysylltu â rhai a gyflwynodd waith o safon eithriadol uchel i ofyn am gael defnyddio eu gwaith yn ddienw mewn hyfforddiant neu fel enghreifftiau ar gyfer myfyrwyr yn y dyfodol.

Data personol Mae data personol yn y cyd-destun hwn yn cyfeirio at eich enw, teitl, cyfeiriad e-bost, adran, categori cymrodoriaeth, dyddiad cymrodoriaeth, a chymwysterau cysylltiedig (e.e. PGCertTHE, TPHE). Bydd eich data personol yn cael ei gadw gan yr Ysgol Addysg a'r tîm Gwobrwyo a Chydnabod Addysgu wedi i chi gofrestru ar y rhaglen. Cedwir y data hwn drwy gydol cyfnod eich astudiaethau ac/neu eich cyflogaeth ym Mhrifysgol Bangor. Bydd y data personol hwn hefyd yn cael ei rannu o fewn Prifysgol Bangor at ddibenion diweddaru eich cofnod Adnoddau Dynol ac er mwyn rhoi gwybod i'ch adran a/neu i'ch rheolwr llinell am eich cymwysterau addysgu. Gall y tîm Gwobrwyo a Chydnabod Addysgu ddefnyddio'r wybodaeth hon hefyd i'ch gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau DPP, marcio neu adolygu pellach (heb unrhyw ymrwymiad). Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, anfonir eich data personol at Advance HE er mwyn iddynt ddyfarnu cymrodoriaeth i chi. Cedwir eich data wedyn ar eu cronfa ddata ar-lein a dim ond staff perthnasol HE Advance a'r cyswllt sefydliadol yn eich man gwaith fydd a mynediad ato.

Data dienw

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 22 o 41

Page 23: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

Bydd eich data'n cyfrannu at ystadegau sy'n nodi nifer y cymrodoriaethau/cymwysterau ar lefel adrannol a sefydliadol. Gellir defnyddio'r data hwn y tu allan i'r sefydliad, ond bydd yn ddienw ac ni fydd modd adnabod unigolion mewn unrhyw ffordd.

Mae gennych hawl i ofyn am weld eich data personol, i gywiro neu ddileu eich data, neu i gyfyngu ar y defnydd a wneir ohono. Fodd bynnag, dylech gofio y gall dileu data gael effaith gytundebol, gan na fydd gan y sefydliad unrhyw dystiolaeth o'ch cymwysterau addysgu. E-bostiwch y Cyfarwyddwr Cwrs a'r Rheolwr Gwobrwyo a Chydnabod Addysgu i gyflwyno unrhyw gais sy'n ymwneud â'ch data.

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 23 o 41

Page 24: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

Cam 1 y PGCertTHE

Gofynion Cam 1 y Cwrs

Beth sydd raid i mi wneud?

Er mwyn cwblhau Cam 1 y PGCertTHE, bydd disgwyl i chi fynychu digwyddiad cynefino, cymryd rhan mewn o leiaf ddeg o blith pymtheg o weithdai yn ystod y flwyddyn academaidd, a chynhyrchu portffolio o'ch profiadau addysgu.

Beth yw nodau Cam 1?

Mae Cam 1 y PGCertTHE yn rhoi hyfforddiant ymarferol i chi ar sut i addysgu mewn Addysg Uwch.

Un o nodau'r modiwl hwn yw rhoi cyfle ichi ennill cydnabyddiaeth broffesiynol gydag Advance HE trwy ddod yn Gymrawd Cyswllt Yr Academi Addysg Uwch. Mae'r deilliannau dysgu ar gyfer Cam 1 yn cwmpasu pob rhan o Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig (UKPSF) ar gyfer Disgrifydd 1, felly wrth basio'r cam hwn byddwch yn cael eich gwneud yn Gymrawd Cyswllt.

Fodd bynnag, mae'r deilliannau dysgu a'r meini prawf asesu yn rhagori ar ofynion yr UKPSF ar gyfer Disgrifydd 1. Gwneir hyn er mwyn cwrdd â nodau ychwanegol y modiwl sef datblygu athrawon Addysg Uwch effeithiol trwy gyfrwng rhaglen academaidd a chynefino staff â systemau addysgu Addysg Uwch Prifysgol Bangor. Mae cwblhau'r modiwl hwn yn arwain at ddyfarnu 30 credyd ar Lefel 7, felly mae'n rhaid i'r rhaglen gynnwys y nifer briodol o oriau astudio ar y lefel academaidd briodol.

Beth yw Deilliannau Dysgu Cam 1?

O gwblhau cam cyntaf y PGCertTHE, dylech fedru:

1. Ymwneud yn llwyddiannus ag addysgu ac arferion priodol sy'n gysylltiedig â dylunio a chynllunio gweithgareddau dysgu a/neu raglenni astudio

o UKPSF: Dimensiwn A1; Disgrifydd 1 I & II

2. Ymwneud yn llwyddiannus ag addysgu ac arferion priodol sy'n gysylltiedig ag addysgu a chefnogi dysgu

o UKPSF: Dimensiwn A2; Disgrifydd 1 I & II

3. Ymwneud yn llwyddiannus ag addysgu ac arferion priodol sy'n gysylltiedig ag asesu a rhoi adborth i ddysgwyr

o UKPSF: Dimensiwn A3; Disgrifydd 1 I & II

4. Cymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol parhaus mewn pynciau/disgyblaethau a’u haddysgeg, gan ymgorffori ymchwil, ysgolheictod a gwerthuso arferion proffesiynol mewn perthynas ag addysgu, dysgu, ac asesu

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 24 o 41

Page 25: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

o UKPSF: Dimensiwn A5; Disgrifydd 1 V & VI

5. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth greiddiol briodol am ddeunyddiau pwnc eich disgyblaeth eich hun

o UKPSF: Dimensiwn K1; Disgrifydd 1 III

6. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth greiddiol am ddulliau priodol o addysgu, dysgu ac asesu yn eich disgyblaeth eich hun

o UKPSF: Dimensiwn K2; Disgrifydd 1 III

7. Hwyluso dysgu trwy ymrwymo i barchu dysgwyr unigol a chymunedau dysgu amrywiol o UKPSF: Dimensiwn V1; Disgrifydd 1 IV

8. Hwyluso dysgu trwy ymrwymo i hyrwyddo cyfranogiad mewn Addysg Uwch a chyfle cyfartal i ddysgwyr

o UKPSF: Dimensiwn V2; Disgrifydd 1 IV

----------------------------------------

Cynefino, Gweithdai a Dyddiadau Cau Cam 1

Beth yw'r amserlen?

Dyma'r amserlen ddrafft ar gyfer cam cyntaf y PGCertTHE, ond edrychwch ar safle Blackboard y modiwl i weld yr wybodaeth ddiweddaraf:

Wythnosau Gweithgaredd

Wythnos 5 Cynefino: Cyflwyniad i Gam 1

Wythnos 6 Gweithdy: Materion ymarferol ynglŷn ag Addysgu mewn Addysg Uwch: Systemau, Gweithdrefnau, a Rheoliadau (gweinyddu)

Wythnos 7 Dyddiad cau ar gyfer rhoi gwybod i'r Cyfarwyddwr Cwrs pwy yw'r Ymgynghorydd Addysgu yr ydych wedi ei ddewis

Wythnos 8 Gweithdy: Athro/Athrawes, Cynghorydd, Cwnselydd, Rhiant... (gofal bugeiliol)

Wythnos 8 Gweithdy: Canllawiau i Ymgynghorwyr Addysgu (ymgynghorwyr addysgu yn unig sy'n mynychu)

Wythnos 10 Gweithdy: Asesu ac Adborth

Wythnos 12 Gweithdy: Unrhyw beth i gael bywyd hawdd... (technoleg gwybodaeth)

Wythnos 14 Gweithdy: Grŵp Mawr, Grŵp Bach (maint dosbarth)

Wythnos 16 Gweithdy: Dilysu Syniadau Newydd (dilysu modiwlau)

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 25 o 41

Page 26: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

Wythnos 22 Gweithdy: Sicrhau Ansawdd

Wythnos 24 Gweithdy: Sut mae eu Helpu i Ateb eu Cwestiynau nhw eu Hunain! (sgiliau astudio)

Wythnos 26 Gweithdy: Llais y Dysgwr (ennyn diddordeb myfyrwyr)

Wythnos 28 Gweithdy: Gwerthuso Boddhad Myfyrwyr (NSS, PTES, a PRES)

Wythnos 30 Gweithdy: Heriau Dysgu Byd-eang (rhyngwladoli)

Wythnos 32 Gweithdy: Addysgu ar gyfer Dysgu neu Addysgu ar gyfer Cyflogaeth? (cyflogadwyedd)

Wythnos 36 Gweithdy: Ymchwilio'r Dyfodol (goruchwylio ymchwil)

Wythnos 38 Gweithdy: Cefnogi Trawsnewidiadau (marchnata a recriwtio)

Wythnos 40 Gweithdy: Dyfodol Addysgu a Dysgu mewn Addysg Uwch

Y Flwyddyn Academaidd Nesaf

Wythnos 3 Sesiwn Gefnogi: Cwestiynau ac Atebion ac Adborth ar Ddetholiadau o'r Portffolio Drafft

Wythnos 4 Asesiad: Dyddiad cyflwyno Asesiad Portffolio Cam 1

Yr asesiadau'n cael eu dyrannu i farcwyr i'w marcio'n electronig

Wythnos 6 Asesiad: Marc Llwyddo/Methu ac adborth yn cael ei anfon at y Cyfarwyddwr Cwrs ar gyfer Safoni Mewnol

Wythnos 7 Asesiad: Y Cyfarwyddwr Cwrs yn gorffen y gwaith Safoni Mewnol (addasu marciau/adborth fel y bo'n briodol) a'r asesiadau'n cael eu hanfon at yr Arholwr Allanol ar gyfer Safoni Allanol

Wythnos 8 Asesiad: Yr Arholwr Allanol yn gorffen y gwaith Safoni Allanol (addasu marciau/adborth fel y bo'n briodol)

Asesiad: Rhyddhau'r canlyniad dros dro i'r cyfranogwyr

Wythnos 15 Bwrdd Arholi: Rhoi tystysgrifau ar ôl cadarnhau'r marciau'n derfynol yn y bwrdd arholi

Wythnos 21 Bwrdd Rhaglen: Efallai y caiff cynrychiolwyr o'r garfan myfyrwyr eu gwahodd i roi adborth

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn colli'r sesiwn gynefino?

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn mynychu'r sesiwn gynefino, gan mai dyma'r ffordd gyflymaf a'r ffordd hawsaf i chi gwblhau'r holl waith papur angenrheidiol, cael yr holl

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 26 o 41

Page 27: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

wybodaeth am y cwrs, a deall yn glir beth yn union y mae angen i chi ei wneud i gwblhau'r PGCertTHE. Fodd bynnag, rydym yn deall ei bod yn anorfod y bydd rhai yn methu bod yn bresennol neu y bydd rhai aelodau staff yn cyrraedd Bangor yn hwyrach yn ystod y flwyddyn academaidd. Mewn achos o'r fath, cysylltwch â'r Cyfarwyddwr Cwrs cyn gynted â phosibl. Os yw'n bosibl, bydd yn cyfarfod â chi i sôn wrthych beth oedd cynnwys y sesiwn a'ch rhoi ar ben ffordd ynglŷn â'r cwrs yn syth. Os nad yw'n bosibl trefnu cyfarfod, bydd y Cyfarwyddwr Cwrs yn eich cofrestru ar y safle Blackboard fel bod modd i chi gael mynediad at yr holl wybodaeth, a byddant yn trafod â chi er mwyn cwblhau'r holl waith papur ar gyfer cofrestru, ac yn sicrhau bod eich cwestiynau'n cael eu hateb dros e-bost.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn colli gweithdy?

Rydym yn argymell eich bod yn mynychu pob un o'r gweithdai, gan y byddant yn gymorth i chi wrth i chi addysgu trwy gydol y flwyddyn academaidd. Fodd bynnag, rydym yn sylweddoli bod eich amser yn werthfawr ac y gallai fod gennych ymrwymiadau eraill ar rai adegau o'r flwyddyn. Gyda hyn mewn golwg, does dim ond angen i chi fynychu deg o'r pymtheg gweithdy sy'n cael eu cynnig trwy gydol y flwyddyn er mwyn pasio'r cwrs. Mae hyn yn golygu y gallech golli ambell weithdy heb gael eich cosbi oherwydd ymrwymiadau eraill neu os ydych yn teimlo nad yw rhai elfennau o'r cynnwys yn berthnasol i'ch gwaith.

----------------------------------------

Asesiad Cam 1

Beth ddylid ei gynnwys yn fy Mhortffolio Addysgu?

Yng Ngham 1 byddwch yn cyflwyno un portffolio sy'n cynnwys pob un o'r canlynol:

Athroniaeth Addysgu Datganiad adfyfyriol yn canolbwyntio ar eich profiadau personol wedi ei gefnogi gan

ymchwil addysgeg gyfredol mewn perthynas ag addysgu a dysgu yn eich disgyblaeth eich hun.

Profiad Addysgu Ffurflen Profiad Addysgu sy'n rhestru'r holl brofiad addysgu a gawsoch wrth gwblhau'r

rhan hon o'r cwrs. Datganiad adfyfyriol yn canolbwyntio ar ddylunio, cynllunio, addysgu, cefnogi ac asesu

dysgu wrth gwblhau'r rhan hon o'r cwrs.

Adroddiadau Arsylwi Un ffurflen wedi ei llenwi gan ymarferydd profiadol yn arsylwi arnoch chi yn addysgu. Un ffurflen arsylwi wedi ei llenwi gennych chi yn arsylwi ymarferydd profiadol. Un ffurflen arsylwi wedi ei llenwi gennych chi yn arsylwi un o'ch cyfoedion ar y cwrs

PGCertTHE. Un ffurflen arsylwi wedi ei llenwi gan un o'ch cyfoedion ar y cwrs PGCertTHE yn eich

arsylwi chi'n addysgu.

Ymwneud ag Addysgu Mae angen o leiaf 5 darn o dystiolaeth i ddangos eich bod wedi ymwneud ag addysgu.

Dyma enghreifftiau: o Deunyddiau darlith arloesol a phodlediad o'r ddarlith honno neu adnoddau

gweithdy a gweithgareddau dosbarth wedi eu recordio;

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 27 o 41

Page 28: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

o Asesu gwreiddiol, gan gynnwys cwestiynau/cyfarwyddiadau, canllawiau, meini prawf marcio, a strwythurau cefnogi;

o Dulliau gwerthuso newydd a gynlluniwyd i asesu effeithiolrwydd eich dulliau addysgu, gwella cydbwysedd manylion-amser eich adborth, neu annog llais y myfyrwyr;

o Dogfennau sicrhau ansawdd neu ddilysu ar lefel rhaglen neu fodiwl ar gyfer cwrs newydd arloesol.

Datblygiad proffesiynol Ffurflen Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (mynychu gweithdy). Cynllun gweithredu ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus i'r dyfodol. Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig ar gyfer Addysgu mewn Addysg

Uwch. Geirdaon a Llythyrau Argymell (gan gynnwys geirda gan eich Ymgynghorydd Addysgu).

Sut gallaf fod yn siŵr y bydd fy mhortffolio yn llwyddo?

Rhaid i'ch portffolio gynnwys pob un o'r elfennau a restrir yn y llyfr gwaith a rhaid i'r elfennau hynny roi sylw i bob un o ddeilliannau dysgu Cam 1. Bydd hyn yn sicrhau fod gennych dystiolaeth ar gyfer pob rhan o Ddisgrifydd 1 yr UKPSF er mwyn cael Cymrodoriaeth Gyswllt. Dylech edrych ar y deilliannau dysgu ac ar y Ffurflen UKPSF yng nghefn llyfr gwaith y portffolio. Meddyliwch yn ofalus am beth y byddwch yn canolbwyntio arno yn yr adran athroniaeth addysgu a pha enghreifftiau y byddwch yn eu cynnwys yn yr adran ymwneud ag addysgu.

Sut ddylwn i fformatio fy mhortffolio?

Ceir llyfr gwaith ar safle Blackboard y PGCertTHE. Gallwch lenwi’r adrannau gwag a mewnosod cynnwys lle nodir a chyflwyno'r llyfr gwaith fel eich portffolio. Bydd hyn yn symleiddio'r broses o greu eich portffolio ac yn eich galluogi i ganolbwyntio ar y cynnwys yn hytrach nag ar y fformatio.

Faint o eiriau ddylwn i eu hysgrifennu ar gyfer fy mhortffolio?

Nid oes nifer penodol o eiriau wedi ei nodi ar gyfer eich portffolio, ond mae gwahanol adrannau'n cynnwys nifer geiriau bras i'ch helpu gyda'r gwaith. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod hyblygrwydd yn bwysig ac felly dylid ystyried y nifer geiriau fel canllaw yn hytrach na chyfyngiad.

Beth mae angen i mi ei roi yn yr adran Athroniaeth Addysgu?

Bydd arnoch angen cynnwys athroniaeth addysgu yn eich portffolio. Bydd yr athroniaeth addysgu yn cynnwys datganiad adfyfyriol yn canolbwyntio ar eich profiadau personol, eich credoau, a'ch gwybodaeth mewn perthynas ag addysgu a dysgu (tua 500 gair). Dylai eich datganiad roi syniad o'ch agwedd bersonol tuag at eich gwaith addysgu a chynnig tystiolaeth i ddangos pa mor effeithiol ydych chi fel athro/athrawes. Gan mai datganiad adfyfyriol ydyw, mae disgwyl i chi ei ysgrifennu yn y person cyntaf ac mae'n dderbyniol cyfeirio at eich barn a'ch

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 28 o 41

Page 29: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

teimladau eich hun. Dylai eich athroniaeth addysgu ddangos eich ymwneud ag ysgolheictod addysgeg er mwyn cwrdd â Deilliant Dysgu 4 a'ch gwerthoedd proffesiynol er mwyn cwrdd â Deilliant Dysgu 7 ac 8 (UKPSF: Dimensiwn A5, V1, a V2; Disgrifydd 1 IV, V, & VI).

Datganiad ysgrifenedig fydd eich athroniaeth addysgu yn adfyfyrio ynglŷn â sut rydych chi yn mynd ati i addysgu. Bydd fel arfer yn cynnwys eich barn bersonol am addysgu a dysgu effeithiol, wedi ei chefnogi gan enghreifftiau penodol o'ch profiad ac ymchwil empirig ym maes addysgeg. Yn aml gofynnir am ddatganiadau athroniaeth addysgu wrth wneud cais am swyddi academaidd. Mae ymchwil wedi dangos fod 57% o'r hysbysebion swyddi mewn chwe disgyblaeth academaidd wedi gofyn yn benodol am athroniaeth addysgu (Meizlish & Kaplan, 2008). Ar ben hynny, yn achos nifer o'r hysbysebion swyddi lle nad oedd gofyn am athroniaeth addysgu nodwyd mai'r rheswm am hynny oedd eu bod yn disgwyl i'r ymgeisydd gynnwys datganiad o'r fath fel mater o drefn.

Dylech fod â thystiolaeth i gefnogi eich datganiad ar ffurf profiadau personol. Gallai hynny gynnwys disgrifiadau o'ch gweithgareddau addysgu gyda thystiolaeth ar ffurf dyfyniadau gan fyfyrwyr, sgoriau gwerthuso ac ati. I wneud mwy o argraff, gallech gyfeirio at wobrau neu ganmoliaeth am addysgu. Mae ymchwil yn awgrymu fod rhai academyddion yn amheus o ddatganiadau addysgu hollol adfyfyriol a bod yn well ganddynt enghreifftiau pendant o ragoriaeth addysgu (Kaplan, Meizlish, O’Neal, & Wright, 2007). Dylech fod â thystiolaeth empirig i gefnogi eich datganiad sy'n dangos eich bod yn ymwneud ag addysgeg gyfredol. Byddem yn eich cynghori i beidio â chreu adolygiad llenyddiaeth, ond gallai cydnabod llenyddiaeth berthnasol yn gryno ddangos eich bod yn defnyddio ymarfer addysgu sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd y dull hwn yn amlygu'r ffaith eich bod yn mynd ati i ddefnyddio'r arferion mwyaf arloesol. Os ydych yn cynnwys cyfeiriadau yn eich athroniaeth addysgu, dylech eu cynnwys hefyd yn eich rhestr o gyfeiriadau ar ddiwedd y portffolio (nad yw'n cael ei gynnwys yn y cyfrif geiriau).

Ceisiwch sicrhau bod eich datganiad yn rhoi darlun cadarnhaol ohonoch. Does dim o'i le ar amlygu sut rydych wedi mynd i'r afael â phroblemau addysgu cyffredin, ond nid yw'n syniad da i fod yn orfeirniadol o'ch addysgu, o'ch addysg, neu o ddarlithwyr eraill yn eich datganiad addysgu. Meddyliwch am addysgu mewn modd holistaidd yn eich datganiad. Peidiwch â chanolbwyntio ar yr ystafell ddosbarth yn unig; meddyliwch hefyd am ddysgu annibynnol, gweithgareddau allgyrsiol, profiad myfyrwyr, gofal bugeiliol ac ati. Ceisiwch ddangos eich gallu i feddwl y tu hwnt i'r ffordd draddodiadol a chofleidio arloesedd yn eich dull o addysgu. Ystyriwch y cwestiynau canlynol yn eich datganiad:

Beth yw eich prif amcanion fel athro/athrawes? Beth yw’r heriau allweddol yn y broses addysgu a dysgu? Pa ddulliau sydd fwyaf effeithiol er mwyn llwyddo i gael myfyrwyr i ddysgu? Pam fod y dulliau hyn yn effeithiol a sut y mesurir pa mor effeithiol ydynt? Pam fod addysgu yn bwysig mewn Addysg Uwch?

I gael arweiniad ynglŷn â sut i ysgrifennu athroniaeth addysgu ac i weld enghreifftiau ar-lein o ddogfennau o'r fath, edrychwch ar y gwefannau canlynol: http://www1.umn.edu/ohr/teachlearn/tutorials/philosophy/start/index.htmlhttp://chronicle.com/article/How-to-Write-a-Statement-of/45133/http://www.apa.org/gradpsych/2005/11/teach.aspxFodd bynnag, cofiwch mai datganiad personol yw hwn felly dylai fod yn unigryw i chi a dylai osgoi ystrydebau cyffredin a geir mewn templedi ar-lein.

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 29 o 41

Page 30: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

Edrychwch ar safle Blackboard i gael rhagor o arweiniad ynglŷn â'r adran hon o'ch portffolio, gan gynnwys awgrymiadau ac esiamplau.

Beth mae angen i mi ei roi yn yr adran Profiad Addysgu?

Yn eich portffolio bydd arnoch angen cynnwys tystiolaeth eich bod wedi cwblhau'r nifer ofynnol o oriau addysgu ac wedi adfyfyrio ar eich profiad addysgu.

Tabl yn cofnodi eich gweithgareddau addysgu yw eich Ffurflen Tystiolaeth Profiad Addysgu (tua 500 gair). Rhaid i'r tabl hwn gyfrif am 100 awr o ymarfer a rhaid i o leiaf 25 o'r oriau hyn fod yn oriau cyswllt â myfyrwyr. Gall oriau cyswllt gynnwys darlithio, grwpiau bychan, gweithdai, seminarau, tiwtorialau ac ati. Gallant hefyd gynnwys mathau eraill o gyswllt â myfyrwyr, megis goruchwylio projectau, cyfarfodydd tiwtor personol ac ati. Hefyd, gall y 75 awr sy'n weddill gynnwys gwaith addysgu pan nad oes cyswllt uniongyrchol â myfyrwyr, megis ysgrifennu nodiadau dosbarth, cynllunio aseiniadau, marcio gwaith ac ati - mae'r math hwn o addysgu yn benodol yn berthnasol os yw'n dangos eich arloesedd (e.e. creu adnodd ar-lein newydd i gefnogi dysgu). Rhaid cwblhau'r holl oriau hyn tra byddwch wedi cofrestru ar y cam hwn o'r cwrs (ni allwch gyfrif oriau a wnaethoch mewn blynyddoedd academaidd blaenorol). Gallwch gynnwys addysgu na roddir credyd amdano, megis cynnal digwyddiadau hyfforddi, ond mae'n rhaid iddo gynnwys dysgwyr ar lefel Addysg Uwch a rhaid i'r cwrs fod yn ddarostyngedig i weithdrefnau sicrhau ansawdd Prifysgol Bangor. Cofiwch fod y Cyfarwyddwr Cwrs yn cadw'r hawl i gysylltu â'r adran a nodir yn eich ffurflen dystiolaeth er mwyn cael cadarnhad o'ch ymarfer. Caiff gwiriadau ar hap eu cynnal ac ni ddylid eu cymryd fel arwydd bod unrhyw bryderon wedi codi ynghylch dilysrwydd y gwaith. Dylai eich ffurflen profiad addysgu ddangos tystiolaeth o'ch meysydd dysgu trwy gwrdd â Deilliannau Dysgu 1, 2 a 3 (UKPSF: Dimensiwn A1, A2, A3; Disgrifydd 1 I & II).

Rhaid i'ch adran Profiad Addysgu hefyd gynnwys darn yn adfyfyrio ar eich addysgu ac yn canolbwyntio ar y profiadau a amlinellwyd yn y ffurflen dystiolaeth (tua 500 o eiriau). Bydd ymchwilio i ysgolheictod addysgu mewn Addysg Uwch yn gwella ansawdd y darn hwn o waith. Dylai'r darn sy'n adfyfyrio ar brofiad addysgu ddangos tystiolaeth o'ch ymwneud ag ysgolheictod i gwrdd â Deilliant Dysgu 4 a thystiolaeth o'ch dealltwriaeth am addysgu eich pwnc eich hun i gwrdd â Deilliannau Dysgu 5 a 6 (UKPSF: Dimensiwn A5, K1, K2; Disgrifydd 1 III, V, & VI).

Edrychwch ar safle Blackboard i gael rhagor o arweiniad ynglŷn â'r adran hon o'ch portffolio.

Beth mae angen i mi ei roi yn yr adran Arsylwadau Addysgu?

Mae arsylwi cyfoedion yn rhan allweddol o ddatblygiad proffesiynol parhaus pob academydd sy'n addysgu mewn sefydliadau Addysg Uwch ledled y Deyrnas Unedig. Mae ymchwil yn awgrymu fod cyswllt rhwng bod â chynllun effeithiol ar waith ar gyfer arsylwi cyfoedion a chynnydd yn hyder athrawon, gwell ymwneud rhwng staff a myfyrwyr, gwell ymdeimlad colegol ymhlith staff, a chynnydd o ran rhannu'r arferion gorau (Marshall, 2004; Bell & Mladenovic, 2008). Ar sail canfyddiadau ymchwil o'r fath, mae'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (2005) wedi rhoi anogaeth gref y dylid datblygu cynlluniau arsylwi cyfoedion ar draws y maes Addysg Uwch fel ffordd o wella ansawdd.

Bydd arnoch angen cynnwys tystiolaeth eich bod wedi ymwneud â'r broses o arsylwi cyfoedion yn eich portffolio. Dylai'r dystiolaeth gynnwys y canlynol:

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 30 o 41

Page 31: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

Un arsylwad o'ch ymarfer chi wedi ei lenwi gan ymarferydd addysgu profiadol. Un arsylwad o ymarferydd addysgu profiadol wedi ei lenwi gennych chi. Un arsylwad o fyfyriwr arall ar y cwrs PGCertTHE (un o'ch cyfoedion) wedi ei lenwi

gennych chi Un arsylwad o'ch ymarfer chi wedi ei lenwi gan fyfyriwr arall ar y cwrs PGCertTHE (un

o'ch cyfoedion)Sylwch fod yn rhaid i'r sesiynau arsylwi hyn ymwneud â gwaith dilys yn addysgu neu gefnogi dysgwyr mewn Addysg Uwch, ac ni allant ymwneud â sesiwn wedi ei hefelychu gyda dysgwyr ffug. Fodd bynnag, nid yw'r arsylwi wedi'i gyfyngu i gyd-destun darlithoedd yn unig: mae'n bosib i rywun eich arsylwi yn cyflwyno gweithdy, cynnal seminar, rhoi cefnogaeth ddysgu unigol, goruchwylio project, recordiad fideo o sesiwn ar-lein, ac ati.

O ran yr arsylwadau sy'n cynnwys ymarferydd profiadol, eich Ymgynghorydd Addysgu ddylai ddod i'ch arsylwi, a chithau'n ei arsylwi yntau/hithau. Mae eich Ymgynghorydd Addysgu mewn sefyllfa ddelfrydol i arsylwi ar eich ymarfer oherwydd ei fod/bod eisoes wedi ei gymeradwyo/ei chymeradwyo fel Ymgynghorydd i chi ac mae eisoes wedi cael arweiniad ar arsylwi ar gyfer y PGCertTHE. Fodd bynnag, os nad yw eich Ymgynghorydd Addysgu ar gael neu os ydych chi'n teimlo y byddech chi'n elwa o gael rhywun arall i'ch arsylwi, cysylltwch â'r Cyfarwyddwr Cwrs i gadarnhau bod y sawl a ddewiswch i'ch arsylwi yn briodol (yn ymarferydd profiadol sy'n deall y broses arsylwi a meini prawf Cymrodoriaeth Yr Academi Addysg Uwch, ac ati).

Dylid cynnwys y ffurflenni priodol yn eich portffolio fel tystiolaeth o arsylwi addysgu. Mae'r ffurflenni arsylwi addysgu'n cynnwys adran i chi adfyfyrio yn dilyn y sesiwn (tua 300 gair). Dyma gyfle i adfyfyrio ar sut y bydd y profiad o arsylwi yn gwella eich ymarfer addysgu yn y dyfodol. Dylech gwblhau'r adran hon bob amser. Os ydych yn cael eich arsylwi, yna dylech ystyried sut y bydd adborth yr arsylwr yn dylanwadu ar eich addysgu yn y dyfodol. Os ydych chi'n arsylwi rhywun arall, yna dylech ystyried a ydych wedi dysgu unrhyw beth drwy arsylwi a allai ddylanwadu ar eich addysgu chi yn y dyfodol. Wrth arsylwi cyfoedion, dylai'r ddau/ddwy ohonoch lenwi'r darn adfyfyriol (gan ysgrifennu paragraff neu ddau yr un efallai). Dylai eich adroddiadau arsylwi addysgu a'ch darn adfyfyriol ddangos rhai o ddeilliannau dysgu'r modiwl hwn a chewch eich annog i ystyried sut mae'r arsylwi'n dangos tystiolaeth o feini prawf Disgrifydd 1 yr UKPSF.

Edrychwch ar safle Blackboard i gael rhagor o arweiniad ynglŷn â'r adran hon o'ch portffolio.

Beth mae angen i mi ei roi yn yr adran Ymwneud ag Addysgu?

Bydd angen i chi gynnwys rhywfaint o dystiolaeth eich bod wedi ymwneud ag addysgu a dysgu yn eich portffolio. Nid oes nifer geiriau wedi ei nodi ar gyfer y rhan hon o'r portffolio. Yn hytrach, disgwylir y byddwch yn cynnwys dim llai na phum darn o dystiolaeth. Nid oes terfyn ar sawl darn o dystiolaeth y gallwch ei gynnwys.

Dyma elfen fwyaf hyblyg eich portffolio: mae gofyn i chi ystyried yn ofalus pa elfennau sy'n dangos eich gallu fel athro/athrawes mewn Addysg Uwch, gan fodloni hefyd rai o ddeilliannau dysgu'r cwrs a dangos tystiolaeth ar gyfer rhai o feini prawf Disgrifydd 1 yr UKPSF. Dyma gyfle hefyd i gywain portffolio o dystiolaeth o'ch rhagoriaeth addysgu y gellir ei ddefnyddio yn y dyfodol i ddangos eich llwyddiannau i ddarpar gyflogwyr neu i gefnogi cais am ddyrchafiad academaidd.

Dyma rai enghreifftiau o bethau y gallech eu cynnwys yn eich portffolio:

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 31 o 41

Page 32: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

Sleidiau darlith a nodiadau i gyd fynd â nhw, gyda recordiad panopto o'r ddarlith y gwnaethoch ei chyflwyno wedi ei ddilyn gan gofnod adfyfyriol o sut y byddech yn gwella'r dosbarth i'r dyfodol.

Adnoddau dosbarth yn cynnwys taflenni ac ymarferion y gwnaethoch chi eu cynllunio i'w defnyddio gyda grŵp bach neu mewn gweithdy, wedi eu cyflwyno ochr yn ochr ag adborth gan fyfyrwyr yn sôn am werth yr ymarfer a chofnod adfyfyriol o sut y byddech yn gwella'r dosbarth i'r dyfodol.

Asesiad arloesol yr ydych wedi ei greu a meini prawf marcio, wedi eu cyflwyno ochr yn ochr â'r deilliannau dysgu sy'n cael eu profi a chanlyniadau dienw'r garfan myfyrwyr gyda chofnod adfyfyriol o sut y gallech ddatblygu neu gymhwyso'r asesiad ymhellach yn y dyfodol.

Gwerthusiadau myfyrwyr o'r cwrs yr oeddech yn ei gefnogi ac enwebiad ar gyfer Cynorthwyydd Addysgu'r Flwyddyn yn y Gwobrau Addysgu dan Arweiniad Myfyrwyr, ynghyd â chrynodeb o'r dull addysgu a arweiniodd at yr enwebiad.

Ffurflen Sicrhau Ansawdd wedi ei llenwi ar gyfer un o'ch modiwlau, gan gynnwys cofnod cynhwysfawr yn adfyfyrio ar sut y bydd y cwrs yn cael ei ddarparu yn y dyfodol.

Ffurflen ddilysu wedi ei llenwi ar gyfer modiwl newydd yr ydych yn bwriadu ei gynnal yn y dyfodol, a sampl o gynnwys y modiwl megis asesiadau neu ddarlith.

Fodd bynnag, cofiwch nad yw'r rhestr uchod yn un gyflawn. Gallwch fod yn greadigol gyda'ch tystiolaeth, a'r prif feini prawf dros gynnwys rhywbeth fyddai:

1. A yw'n dangos eich gallu fel athro/athrawes mewn Addysg Uwch?2. A yw'n dangos sut rydych wedi bodloni un neu ragor o ddeilliannau dysgu Cam 1?3. A yw'n dangos tystiolaeth lawn o un neu ragor o feini prawf Disgrifydd 1 yr UKPSF?

Os gallwch ateb pob un o'r cwestiynau uchod yn gadarnhaol, yna gallai fod yn addas i'w gynnwys fel enghraifft yn yr adran hon o'r portffolio. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn ag addasrwydd enghraifft benodol ar gyfer eich portffolio, cysylltwch â'r Cyfarwyddwr Cwrs.

Edrychwch ar safle Blackboard i gael rhagor o arweiniad ynglŷn â'r adran hon o'ch portffolio.

Beth mae angen i mi ei roi yn yr adran Datblygiad Proffesiynol?

Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth eich bod wedi ymwneud â datblygiad proffesiynol parhaus eich pwnc/disgyblaeth eich hun ac addysgeg y pwnc hwnnw, gan ymgorffori ymchwil, ysgolheictod a gwerthusiad o arferion proffesiynol. Dylai'r dystiolaeth hon ddangos sut yr ydych wedi ymwneud â datblygiad proffesiynol parhaus mewn perthynas ag addysgu, dysgu ac asesu i gwrdd â Deilliant Dysgu 4 (UKPSF: Dimensiwn A5; Disgrifydd 1 V & VI).

Mae'r ffurflen Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus yn gofyn i chi ddangos eich bod wedi mynychu ac adfyfyrio am o leiaf ddeg digwyddiad hyfforddi sy'n canolbwyntio ar addysgu mewn Addysg Uwch (tua 1000 o eiriau). Fel arfer bydd y rhain yn cynnwys o leiaf ddeg o'r pymtheg gweithdy a gynhelir fel rhan o'r PGCertTHE, ond gellid hefyd gynnwys digwyddiadau hyfforddi ychwanegol, megis cynadleddau addysgu, digwyddiadau DPP, ac ati.

Rhaid i'ch Cynllun Gweithredu ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus gynnwys datganiad adfyfyriol yn amlinellu eich cynlluniau ar gyfer cael hyfforddiant a phrofiad addysgu mewn Addysg Uwch ar ôl cwblhau'r cwrs (tua 500 o eiriau). Mae datblygiad parhaus yn hanfodol er mwyn sicrhau bod eich ymarfer addysgu yn esblygu gyda chyd-destun newidiol Addysg Uwch a'i fod yn parhau'n gyfoes â thechnoleg newydd, arloesi a thystiolaeth. Er nad yw'n ofynnol

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 32 o 41

Page 33: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

cynnwys cyfeiriadau yn y darn adfyfyriol hwn, byddai tystiolaeth o ymchwil gweithredol i faes addysgu mewn Addysg Uwch yn gwella ansawdd eich gwaith. Gallai eich cynllun edrych ar y materion canlynol:

A ydych yn bwriadu cwblhau unrhyw gyrsiau hyfforddi athrawon yn y dyfodol (e.e. Cam 2 y PGCertTHE)?

A ydych chi'n bwriadu mynychu unrhyw seminarau/gweithdai/digwyddiadau sy'n canolbwyntio ar ddatblygu addysgu (e.e. y Gyfres DPP neu Gynhadledd Flynyddol CELT)?

Sut arall y gallech chi ddatblygu fel athro (e.e. sefydlu grwpiau datblygu addysgu yn eich adran)?

Rhaid i chi hefyd lenwi ffurflen UKPSF (tua 500 o eiriau). Mae'r ffurflen hon yn gofyn i chi fapio eich profiadau ar y cwrs hwn yn erbyn gofynion Disgrifydd 1 yr UKPSF ar gyfer Cymrodoriaeth Gyswllt. Dylai cwblhau'r modiwl yn llwyddiannus sicrhau eich bod wedi bodloni pob un o feini prawf Disgrifydd 1 y fframwaith, felly rydym yn argymell eich bod yn ymgyfarwyddo â'r ffurflen hon ar ddechrau'r cwrs fel bod modd i chi ddewis enghreifftiau o addysgu sy'n cwmpasu pob un o'r rhannau perthnasol.

RHAID i chi gynnwys geirda gan eich ymgynghorydd addysgu. Mae hon yn rhan hynod bwysig o'ch portffolio gan ei bod yn dilysu eich ymarfer. Rhaid i chi gyflwyno cynnwys eich portffolio i'ch ymgynghorydd addysgu pan wnewch gais am y geirda. Rhaid i'w geirda gadarnhau'n benodol bod eich portffolio'n adlewyrchiad teg a gonest o'ch ymarfer mewn modd sy'n bodloni gofynion Disgrifydd 1 yr UKPSF. Rhaid i'r geirda fod yn gwbl unigryw i chi (nid copi o dempled safonol) felly mae'n rhaid iddo gyfeirio at enghreifftiau o'ch ymarfer unigol chi. Yn yr adran hon gallwch hefyd gynnwys llythyrau eraill sydd yn cymeradwyo ac yn rhoi cydnabyddiaeth, megis e-byst gan gydweithwyr a myfyrwyr, dyfyniadau gan fyfyrwyr mewn gwerthusiadau modiwl, enwebiadau, gwobrau ac ati.

Edrychwch ar safle Blackboard i gael rhagor o arweiniad ynglŷn â'r adran hon o'ch portffolio.

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 33 o 41

Page 34: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

Cam 2 y PGCertTHE

Gofynion Cam 2 y Cwrs

Beth sydd raid i mi wneud?

Er mwyn cwblhau Cam 2 y PGCertTHE, bydd disgwyl i chi fynychu digwyddiad cynefino, ymchwilio a dewis cyfnodolyn addysgeg yn eich disgyblaeth eich hun, a chynhyrchu papur yn arddull ac yn fformat cyflwyniad i'r cyfnodolyn hwnnw.

Beth yw nodau Cam 2?

Mae Cam 2 y PGCertTHE yn rhoi cyfle ichi gael datblygiad proffesiynol mewn ysgolheictod addysgeg.

Un o nodau'r modiwl hwn yw rhoi cyfle ichi ennill cydnabyddiaeth broffesiynol gan Advance HE trwy ddod yn Gymrawd Yr Academi Addysg Uwch. Mae'r deilliannau dysgu ar gyfer Cam 2 (o'u cyfuno â'r deilliannau dysgu yr ydych eisoes wedi eu bodloni yng Ngham 1) yn cwmpasu pob rhan o Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig (UKPSF) ar gyfer Disgrifydd 2, felly wrth basio'r cam hwn byddwch yn cael eich gwneud yn Gymrawd.

Beth yw Deilliannau Dysgu Cam 2?

O gwblhau ail gam y PGCertTHE, dylech fedru:

1. Ymwneud yn llwyddiannus ag addysgu ac arferion priodol sy'n gysylltiedig â datblygu amgylcheddau dysgu effeithiol a dulliau o gefnogi a rhoi arweiniad i fyfyrwyr

o UKPSF: Dimensiwn A4; Disgrifydd 2 I & IV

2. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth greiddiol briodol am sut mae myfyrwyr yn dysgu, yn gyffredinol ac o fewn eich disgyblaeth chi

o UKPSF: Dimensiwn K3; Disgrifydd 2 II

3. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth greiddiol am ddefnydd a gwerth technolegau dysgu priodol

o UKPSF: Dimensiwn K4; Disgrifydd 2 II

4. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth greiddiol o ddulliau ar gyfer gwerthuso effeithiolrwydd yr addysgu

o UKPSF: Dimensiwn K5; Disgrifydd 2 II

5. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth am oblygiadau sicrhau ansawdd a gwella ansawdd ymarfer academaidd a phroffesiynol, gan ganolbwyntio’n benodol ar addysgu

o UKPSF: Dimensiwn K6; Disgrifydd 2 II

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 34 o 41

Page 35: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

6. Defnyddio dulliau ar sail tystiolaeth a deilliannau ymchwil, ysgolheictod a datblygiad proffesiynol parhaus fel rhan o ddull integredig o gyflawni ymarfer academaidd

o UKPSF: Dimensiwn V3; Disgrifydd 2 III, V & VI

7. Cydnabod y cyd-destun ehangach y mae Addysg Uwch yn gweithredu ynddo, gan gydnabod y goblygiadau ar gyfer ymarfer proffesiynol

o UKPSF: Dimensiwn V4; Disgrifydd 2 III

----------------------------------------

Cynefino, Gweithdai a Dyddiadau Cau Cam 2

Beth yw'r amserlen?

Dyma amserlen ail gam y PGCertTHE:

Dyddiadur Academaidd

Gweithgaredd

Wythnos 5 Cynefino: Cyflwyniad i Gam 2

Wythnos 9 Y dyddiad cyflwyno cynharaf posibl ar gyfer Asesiad Papur Cam 2

Y Flwyddyn Academaidd Nesaf

Wythnos 2 Sesiwn Gefnogi: Cwestiynau ac Atebion ac Adborth ar Ddetholiadau o'r Papur Drafft

Wythnos 4 Asesiad: Y dyddiad cyflwyno ar gyfer Asesiad Papur Cam 2

Yr asesiadau'n cael eu dyrannu i farcwyr i'w marcio'n electronig

Wythnos 6 Asesiad: Marc Llwyddo/Methu ac adborth yn cael ei anfon at y Cyfarwyddwr Cwrs ar gyfer Safoni Mewnol

Wythnos 7 Asesiad: Y Cyfarwyddwr Cwrs yn gorffen y gwaith Safoni Mewnol (addasu marciau/adborth fel y bo'n briodol) a'r asesiadau'n cael eu hanfon at yr Arholwr Allanol ar gyfer Safoni Allanol

Wythnos 8 Asesiad: Yr Arholwr Allanol yn gorffen y gwaith Safoni Allanol (addasu marciau/adborth fel y bo'n briodol)

Asesiad: Rhyddhau'r canlyniad dros dro i'r cyfranogwyr

Wythnos 15 Bwrdd Arholi (dyddiad i'w gadarnhau): Rhoi tystysgrifau ar ôl cadarnhau'r marciau'n derfynol yn y bwrdd arholi

Wythnos 21 Bwrdd Rhaglen: Efallai y caiff cynrychiolwyr o'r garfan myfyrwyr eu

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 35 o 41

Page 36: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

gwahodd i roi adborth

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn colli'r sesiwn gynefino?

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn mynychu'r sesiwn gynefino, gan mai dyma'r ffordd gyflymaf a'r ffordd hawsaf i chi gwblhau'r holl waith papur angenrheidiol, cael yr holl wybodaeth am y cwrs, a deall yn glir beth yn union y mae angen i chi ei wneud i gwblhau'r PGCertTHE. Fodd bynnag, rydym yn deall ei bod yn anorfod y bydd rhai yn methu bod yn bresennol. Mewn achos o'r fath, cysylltwch â'r Cyfarwyddwr Cwrs cyn gynted â phosibl. Os yw'n bosibl, bydd yn cyfarfod â chi i sôn wrthych beth oedd cynnwys y sesiwn a'ch rhoi ar ben ffordd ynglŷn â'r cwrs yn syth. Os nad yw'n bosibl trefnu amser cyfleus i gyfarfod, bydd yn eich cofrestru ar y safle Blackboard fel bod modd i chi gael mynediad at yr holl wybodaeth, a bydd yn trafod â chi er mwyn cwblhau'r holl waith papur ar gyfer cofrestru, ac yn sicrhau bod eich cwestiynau'n cael eu hateb dros e-bost.

Gaf i gyflwyno fy mhapur yn gynharach yn y flwyddyn a chwblhau'r PGCertTHE ynghynt?

Cynlluniwyd y PGCertTHE i redeg dros ddwy flynedd, ond gallwch ei gwblhau mewn llai o amser os dymunwch. Rhaid i chi gwblhau'r cam cyntaf dros gyfnod o flwyddyn oherwydd bydd arnoch angen mynychu gweithdai a fydd yn cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn gyfan. Mae'r ail gam hefyd wedi'i gynllunio i redeg dros flwyddyn. Fodd bynnag, gallwch ddewis cyflwyno eich papur yn gynharach yn y flwyddyn. Os oes arnoch eisiau cwblhau'r cwrs mewn cyfnod byrrach, yna efallai y byddwch eisiau dechrau gweithio ar eich papur yn ystod y cam cyntaf neu dros yr haf i sicrhau ei fod yn barod i'w gyflwyno cyn gynhared â phosibl yn ystod yr ail gam.

Dim ond wedi i chi gwblhau cam cyntaf y PGCertTHE yn llwyddiannus y cewch gofrestru ar gyfer yr ail gam. Ar ôl i chi gyflwyno eich portffolio Cam 1 yn Wythnos 4, bydd arnom angen pedair wythnos i farcio eich gwaith. Fe gewch eich cofrestru ar Gam 2 y PGCertTHE yn syth wedi i'ch portffolio dderbyn marc Llwyddo, felly dylech fod wedi cofrestru erbyn Wythnos 8 yn y semester cyntaf. Felly, Wythnos 9 Semester 1 yw'r cynharaf y cewch gyflwyno eich papur. Os ydych yn cyflwyno eich papur Wythnos 9 Semester 1, yna efallai y gallwn farcio'r gwaith a'i brosesu trwy'r bwrdd arholi a gynhelir ym mis Tachwedd yr un flwyddyn. Byddai hyn yn golygu y cewch eich tystysgrif PGCertTHE a Chymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch ynghynt.

Os ydych yn cyflwyno eich papur ar ôl Wythnos 9 Semester 1, yna ni fydd modd i ni brosesu eich cyflwyniad trwy'r bwrdd arholi a gynhelir ym mis Tachwedd yr un flwyddyn. Caiff y gwaith ei farcio a byddwch yn derbyn eich canlyniadau o fewn y pedair wythnos safonol, ond ni chaiff y graddau eu cadarnhau yn derfynol hyd y bwrdd arholi a gynhelir ym mis Tachwedd y flwyddyn ganlynol. Byddai hyn yn golygu y cewch eich tystysgrif PGCertTHE a Chymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch ar yr un pryd â phobl eraill yn eich carfan a gyflwynodd eu gwaith erbyn y dyddiad cyflwyno safonol.

----------------------------------------

Asesiad Cam 2

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 36 o 41

Page 37: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

Beth ddylid ei gynnwys yn y papur y byddaf yn ei gyflwyno?

Yng Ngham 2 dylech gyflwyno un darn o waith sy'n cynnwys pob un o'r canlynol:

Cyfnodolyn Addysgeg Nodi pa gyfnodolyn yr ydych wedi ei ddewis

Papur Addysgeg Papur academaidd sy'n adlewyrchu arddull, cynnwys, a fformat gwaith a gyhoeddir yn y

cyfnodolyn o'ch dewis (gan gynnwys crynodeb a rhestr o gyfeiriadau)

Ffurflen y Fframwaith Safonau Proffesiynol Ffurflen sy'n mapio tystiolaeth Cam 1 a Cham 2 yr UKPSF

Geirdaon a Llythyrau Argymell Geirda gan eich Ymgynghorydd Addysgu. Geirdaon a llythyrau argymell ychwanegol

Sut gallaf fod yn siŵr y bydd fy mhapur yn llwyddo?

Rhaid i'ch papur fod yn addas o ran arddull, cynnwys, a fformat ar gyfer y cyfnodolyn yr ydych wedi ei ddewis. Rhaid i chi sicrhau hefyd fod eich papur yn rhoi sylw i holl ddeilliannau dysgu ail gam y PGCertTHE. Bydd hyn yn sicrhau fod gennych dystiolaeth ar gyfer yr elfennau sy'n weddill o Ddisgrifydd 2 yr UKPSF er mwyn cael Cymrodoriaeth. Dylech edrych ar y deilliannau dysgu ac ar Ffurflen Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig yng nghefn llyfr gwaith y papur. Meddyliwch yn ofalus am yr hyn y byddwch yn canolbwyntio arno yn eich papur er mwyn sicrhau fod y cynnwys yn rhoi sylw i bob un o ddeilliannau dysgu Cam 2.

Sut ddylwn i fformatio fy mhapur?

Rhaid i chi ddewis cyfnodolyn addysgeg yn eich disgyblaeth eich hun a defnyddio arddull fformatio'r cyfnodolyn hwnnw ar gyfer eich papur. Yna dylid mewnosod y papur i'r llyfr gwaith a geir ar safle Blackboard PGCertTHE. Gallwch lenwi’r adrannau gwag a mewnosod y cynnwys lle nodir. Bydd hyn yn symleiddio'r broses o greu eich cyflwyniad ac yn eich galluogi i ganolbwyntio ar y cynnwys yn hytrach nag ar y fformatio.

Faint o eiriau ddylwn i eu hysgrifennu ar gyfer fy mhapur?

Nid oes cyfrif geiriau penodol ar gyfer eich papur, gan y dylai adlewyrchu gofynion y cyfnodolyn addysgeg yr ydych wedi ei ddewis. Fodd bynnag, ni fyddem yn disgwyl i'ch papur fod yn llai na 3,000 o eiriau a byddech yn eich cynghori yn erbyn ceisio ysgrifennu mwy na 10,000 o eiriau.

Pa fath o bapur sydd ei angen?

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 37 o 41

Page 38: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

Dylai eich papur addysgeg adlewyrchu arddull, fformat a chynnwys y cyfnodolyn yr ydych wedi ei ddewis. Mae hyn yn golygu bod hyblygrwydd o ran yr union fath o bapur sydd ei angen ar gyfer yr asesiad: gallech gyflwyno astudiaeth ymchwil empirig, adroddiad adfyfyriol, pwynt dadl, adolygiad llenyddiaeth ac ati. Cyhyd â'i fod yn addas i'w gyflwyno i'r cyfnodolyn hwnnw, yna dylai fod yn addas ar gyfer yr asesiad hwn. Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â dewis cyfnodolyn, pwnc, cynnwys, arddull ac ati, dylech gysylltu â'r Cyfarwyddwr Cwrs.

Pam y dylwn i ysgrifennu ar gyfer cyfnodolyn addysgeg o fewn fy nisgyblaeth?

Mae gan bron pob disgyblaeth academaidd a addysgir mewn Addysg Uwch gyhoeddiad cysylltiedig sy'n canolbwyntio ar addysgu o fewn y ddisgyblaeth honno. Mae'r cyfnodolion hyn yn cynnwys cyfraniadau gan eich cydweithwyr a'ch cyfoedion, felly mae'n debygol y byddant wedi cael eu hysgrifennu mewn arddull sy'n gyson â gwaith ymchwil o fewn eich maes. Er enghraifft, os yw'n draddodiad yn eich disgyblaeth academaidd chi i ymchwilio yn defnyddio dadansoddiadau data meintiol yna mae'n debygol y bydd y papurau addysgeg yn defnyddio dull tebyg. I'r gwrthwyneb, os yw'n draddodiad yn eich disgyblaeth academaidd chi i gyhoeddi adolygiadau adfyfyriol heb ddadansoddiadau ystadegol yna mae'n debygol y bydd y papurau addysgeg yn cael eu cyflwyno yn yr un modd. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi ddysgu dull hollol newydd o ymwneud ag ymchwil - does dim ond angen i chi ddefnyddio'r dull yr ydych eisoes yn gyfarwydd ag o er mwyn edrych ar sut mae addysgu eich pwnc eich hun. Mantais ychwanegol o ysgrifennu ar gyfer cyfnodolyn addysgeg yn eich maes eich hun yw y byddwch yn dysgu am ddulliau newydd o addysgu eich pwnc wrth ddarllen y cyfnodolyn addysgeg yr ydych wedi ei ddewis.

Sut mae dod o hyd i gyfnodolyn addysgeg o fewn fy nisgyblaeth?

Gweler isod restr o gyfnodolion addysgeg ar gyfer llawer o'r pynciau a addysgir ym Mhrifysgol Bangor. Os yw eich pwnc ar y rhestr, ewch ati i ddarllen rhai o'r papurau yn y cyfnodolyn hwnnw ar-lein i ddysgu am arddull a chynnwys yr hyn sy'n cael ei gyflwyno iddynt.

British Journal of Music Education (5000 o eiriau) Chemistry Education Research and Practice (7000 o eiriau) Computer Science Education (7000 o eiriau) International Journal of Electrical Engineering Education (3000 o eiriau) Journal of Biological Education (5000 o eiriau) Journal of Creative Writing Studies (10,000 o eiriau) Journal of Education for Business (4000 o eiriau) Journal of Geography in Higher Education (5000 - 8000 o eiriau) Journal of Social Science Education (10,000 o eiriau) Medical Science Educator (5000 o eiriau) The Modern Language Journal (8000 t- 10,000 o eiriau) Pedagogy: Critical Approaches to Teaching Literature, Language, Composition, and

Culture (10,000 o eiriau) Psychology Learning and Teaching (5000 o eiriau) Research in the Teaching of English (10,000 o eiriau) Teaching and Teacher Education (5000 - 9000 o eiriau) Teaching in Higher Education (7000 o eiriau) Teaching in Lifelong Learning (4000 eiriau) Teaching Philosophy (8000 o eiriau)

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 38 o 41

Page 39: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

The History Teacher (7000 o eiriau) The Law Teacher (6000 o eiriau) Cylchgrawn Cymru ar gyfer Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch (1000 - 10,000 o

eiriau) Mae gormod o gyfnodolion addysgeg i ni allu rhestru pob un, felly efallai y gwelwch nad yw eich pwnc chi ar y rhestr neu efallai y byddwch yn ymwybodol o gyfnodolyn sy'n fwy penodol i'ch maes. Fel arall, efallai na fyddwch yn hoff o arddull y cyfnodolyn ar y rhestr felly efallai y byddech yn dymuno chwilio am opsiwn arall. Gallwch fel arfer ddod o hyd i gyfnodolyn yn eich maes eich hun trwy wneud chwiliad Google Scholar am un o allweddeiriau eich pwnc ac yna'r gair 'pedagogy' neu 'teaching'. Mewn sefyllfa anghyffredin o fethu â dod o hyd i gyfnodolyn addysgeg yn eich disgyblaeth chi (neu os nad oes arnoch eisiau ysgrifennu ar gyfer y cyfnodolyn sy'n benodol i'ch disgyblaeth), yna gallwch ddewis ysgrifennu papur sy'n addas o ran arddull a chynnwys ar gyfer cyfnodolyn addysgeg cyffredinol. Mae rhai opsiynau cyffredinol wedi'u cynnwys yn y rhestr uchod.

Gaf i gyflwyno fy mhapur addysgeg trwy gyfrwng y Gymraeg?

Gallwch gyflwyno unrhyw ddarn o waith trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae hynny'n cynnwys y papur hwn. Mae Cylchgrawn Cymru ar gyfer Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch yn derbyn cyflwyniadau yn Gymraeg neu Saesneg, a gall eich erthygl ganolbwyntio ar eich disgyblaeth chi gan mai cyfnodolyn cyffredinol yw hwn. Fel arall, gallwch ddewis cyfnodolyn Saesneg ei iaith yn eich pwnc eich hun a chyflwyno erthygl sy'n adlewyrchu'r arddull a'r cynnwys, ond sydd wedi ei ysgrifennu yn Gymraeg. Pe baech eisiau cyhoeddi eich gwaith, gallech gyflwyno'r gwaith i'r cyfnodolyn ac anfon llythyr gyda'ch cyflwyniad at y golygydd yn eu hannog i ystyried cyhoeddi mewn iaith sy'n gynhenid i ran arall o Brydain.

Oes rhaid i fy mhapur addysgeg gael ei gyflwyno i'r cyfnodolyn a'i dderbyn ar gyfer ei gyhoeddi?

Rydym yn eich annog yn gryf i gyflwyno eich papur addysgeg i'r cyfnodolyn o'ch dewis. Bydd hyn yn sicrhau fod eich gwaith yn cael y gydnabyddiaeth briodol trwy roi cyhoeddiad ychwanegol i chi ei gynnwys yn eich CV. Os ydych ar gontract addysgu ac ysgolheictod, bydd y cyhoeddiad hwn yn dangos eich bod yn ymwneud ag ysgolheictod addysgeg a bydd hyn yn hanfodol mewn unrhyw gais a wnewch yn y dyfodol am ddyrchafiad. Os ydych ar gontract ymchwil ac addysgu, bydd hyn o fudd i chi hyd yn oed os nad oes modd cynnwys y cyhoeddiad yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil oherwydd gall gefnogi unrhyw gais a wnewch yn y dyfodol am ddyrchafiad trwy ddangos rhagor o ymwneud ag agwedd addysgu eich contract.

Fodd bynnag, nid yw'n ofynnol bod eich papur yn cael ei gyflwyno ac/neu yn cael ei dderbyn gan y cyfnodolyn er mwyn llwyddo yn y cwrs. Cyhyd â bod y papur o safon briodol i fod yn gymwys i'w gyflwyno yna dylai gael gradd llwyddo ar gyfer y PGCertTHE.

Gaf i gydweithio gyda chydweithwyr ar fy mhapur?

Dylech ymgynghori â'ch Ymgynghorydd Addysgu ynglŷn â'ch papur ac efallai y byddwch yn dymuno gweithio gydag ymarferwyr profiadol eraill. Mae hyn yn gwbl dderbyniol os mai chi yw prif ymchwilydd a phrif awdur y papur. Gall fod yn bosibl hefyd i gyfoedion ar y cwrs PGCertTHE gydweithio ar un project. Byddai disgwyl i broject ymchwil o'r fath fod yn fenter llawer mwy na'r hyn a ddisgwylid gan un

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 39 o 41

Page 40: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

ymchwilydd ar ei ben ei hun. Mae hyn yn berffaith iawn os yw'r ddau ohonoch yn bwriadu ysgrifennu papurau annibynnol sy'n dehongli canlyniadau'r ymchwil mewn ffyrdd unigryw. Ar y llaw arall, os ydych yn bwriadu cydweithio ar y papur ymchwil ei hun, yna dylech drafod eich syniadau gyda'r Cyfarwyddwr Cwrs er mwyn cael cymeradwyaeth cyn dechrau ar y gwaith er mwyn sicrhau y bydd y cyflwyniad terfynol yn darparu digon o dystiolaeth fel bod modd i'r ddau ohonoch lwyddo yn y cwrs.Pwy ddylid eu rhestru fel awduron os penderfynaf gyflwyno fy mhapur addysgeg?

Chi ddylai fod wedi eich rhestru fel awdur cyntaf unrhyw bapur addysgeg yr ydych yn ei gyflwyno i'w gyhoeddi. Os ydych wedi ymgynghori â'r Ymgynghorydd Addysgu neu'r Cyfarwyddwr Cwrs mewn unrhyw ffordd, yna byddem yn argymell eu bod hwythau hefyd yn cael eu rhestru fel awduron mewn modd sy'n briodol i'r cyfraniad a wnaethant. Efallai y byddech hefyd eisiau rhestru eich marciwr os cawsoch adborth gwerthfawr ganddo/ganddi ar eich asesiad a arweiniodd at wneud newidiadau sylweddol i'ch papur cyn ei gyflwyno i'w gyhoeddi. Yn yr un modd, rydym yn eich annog i restru unrhyw academydd arall sydd wedi cyfrannu at eich ymchwil addysgeg neu at greu'r papur, megis myfyrwyr, cynorthwywyr ymchwil, cyfoedion, cydweithwyr ac ati.

Sut mae sicrhau y bydd fy ngwaith ar gael i gydweithwyr os na fyddaf yn cyhoeddi fy mhapur?

Ein bwriad yw creu cadwrfa ar-lein o ymchwil addysgeg y PGCertTHE ar wefan Prifysgol Bangor. Os ydych yn dewis cyflwyno eich papur i'w gyhoeddi, yna byddwn yn cadw rhag rhyddhau eich gwaith ar y wefan hyd nes i ni gael caniatâd swyddogol gan y cyhoeddwr i wneud hynny. Fodd bynnag, os ydych yn dewis peidio â chyflwyno eich gwaith i'w gyhoeddi, rydym yn eich annog yn gryf i roi hawl i ryddhau eich papur ar y wefan yn lle hynny. Bydd hyn yn sicrhau bod eich ymchwil a'ch ysgolheictod ar gael i gydweithwyr gan annog lledaenu arferion a syniadau da.

Gaf i gyflwyno ffurf arall o ymchwil/ysgolheictod yn hytrach na phapur?

Efallai y byddai'n bosibl cyflwyno cyflwyniad ar gyfer cynhadledd yn hytrach na phapur ar gyfer yr asesiad hwn. Fodd bynnag, byddai angen bod y cyflwyniad ar gyfer cynhadledd yn cael ei gyflwyno ynghyd â thystiolaeth ysgrifenedig ar ffurf sleidiau, taflenni, recordiad, adborth gan y gynulleidfa, darn adfyfyriol am y digwyddiad ac ati. Byddai hynny'n sicrhau bod modd i'r cyflwyniad gael ei asesu gan ddau farciwr a'i adolygu gan arholwr allanol. Trafodwch eich bwriadau i wneud y math hwnnw o asesiad gyda'r Cyfarwyddwr Cwrs cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau y bydd modd i chi fodloni pob un o ddeilliannau dysgu'r cwrs.

Sut mae llenwi Ffurflen Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig?

Rhaid i chi hefyd lenwi ffurflen UKPSF. Mae'r ffurflen hon yn gofyn i chi fapio eich profiadau ar y cwrs yn erbyn gofynion Disgrifydd 2 yr UKPSF ar gyfer Cymrodoriaeth. Dylai cwblhau'r modiwl yn llwyddiannus sicrhau bod holl feini prawf Disgrifydd 2 y fframwaith wedi'u bodloni. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ymgyfarwyddo â'r ffurflen hon ar ddechrau'r cwrs fel bod modd i chi ddewis pwnc ar gyfer eich papur sy'n cwmpasu pob un o'r rhannau sy'n weddill.

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 40 o 41

Page 41: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  · Web viewYn syml, dylech agor y ddogfen yn Word, edrych drwy'r rhestr gynnwys nes dod o hyd i'ch cwestiwn, ac yna wrth

LLAWLYFR TYSTYSGRIF ÔL-RADD ADDYSGU MEWN ADDYSG UWCH

Pa Eirdaon a Llythyrau Argymell ddylwn i eu cynnwys?

RHAID i chi gynnwys llythyr argymell gan eich ymgynghorydd addysgu. Mae hon yn rhan hynod bwysig o'r gwaith y byddwch yn ei gyflwyno gan y bydd yn dilysu eich ymarfer. Rhaid i chi gyflwyno cynnwys eich portffolio Cam 1 a'ch papur Cam 2 i'ch ymgynghorydd addysgu pan wnewch gais am y geirda. Rhaid i'w geirda gadarnhau'n benodol bod eich asesiadau'n adlewyrchiad teg a gonest o'ch ymarfer mewn modd sy'n bodloni gofynion Disgrifydd 2 yr UKPSF. Rhaid i'r geirda fod yn gwbl unigryw i chi (nid copi o dempled safonol) felly mae'n rhaid iddo gyfeirio at enghreifftiau o'ch ymarfer unigol chi.

Yn yr adran hon gallwch hefyd gynnwys llythyrau eraill sydd yn cymeradwyo ac yn rhoi cydnabyddiaeth, megis e-byst gan gydweithwyr a myfyrwyr, dyfyniadau gan fyfyrwyr mewn gwerthusiadau modiwl, enwebiadau, gwobrau ac ati.

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 41 o 41