datganiad cynllunio cryno - planning inspectorate · lliw a'u ffurf syml yn eu galluogi i...
TRANSCRIPT
Cyswllt Coedwig Brechfa Cyfeirnod Cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu EN020016
Datganiad Cynllunio Cryno
Mai 2015Cyfeirnod rheoliad: Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig)
2009 Rheoliad 5(2)(q)
Dat
gani
ad C
ynllu
nio
Cry
no 8
.1
Datganiad Cynllunio Cryno
2
Paratowyd y ddogfen gan AMEC Foster Wheeler
Manylion y ddogfen
Datganiad Cynllunio Cryno
3
Cynnwys
1 Cyflwyniad 5
1.2 Diben y datganiad Cynllunio 5
1.3 Prosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd 5
2 Y Datblygiad Arfaethedig 7
2.1 Cyflwyniad 7
2.2 Dylunio da 7
2.3 Mesurau lliniaru sy'n cael eu cynnwys yn nyluniad y cynllun 10
3 Yr angen am y Datblygiad Arfaethedig 12
4 Cydymffurfiaeth gyda Datganiadau Polisi Cenedlaethol 14
4.2 Y Datganiad Polisi Cenedlaethol Cyffredinol am Ynni (NPS EN-1) 14
4.3 Y Datganiad Polisi Cenedlaethol am Seilwaith Rhwydweithiau Trydan (NPS EN-5) 16
4.4 Casgliad 18
5 Cydymffurfiaeth gyda dogfennau polisi cynllunio lleol a chenedlaethol eraill
20
5.1 Cyflwyniad 20
5.2 Polisi cynllunio Cymreig 20
5.3 Polisi cynllunio lleol 22
6 Casgliad 23
Datganiad Cynllunio Cryno
4
Datganiad Cynllunio Cryno
5
1 Cyflwyniad
1.1.1 Mae'r adroddiad hwn yn fersiwn cryno ac mewn iaith syml o'r Datganiad Cynllunio,
sy'n rhai o gais PLC Western Power Distribution (WPD) (De Cymru) i'r
Ysgrifennydd Gwladol am Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) i adeiladu, i
weithredu ac i gynnal cysylltiad 132,000 folt (132kV) newydd o Is-orsaf Fferm
Wynt Gorllewin Coedwig Brechfa i'r rhwydwaith dosbarthu trydan sy'n bodoli
eisoes ger Llandyfaelog, 10 cilomedr i'r de o Gaerfyrddin.
1.2 Diben y datganiad Cynllunio
1.2.1 Diben y Datganiad Cynllunio yw dangos bod Cysylltiad Coedwig Brechfa (y
Datblygiad Arfaethedig) yn cydymffurfio gyda pholisi a deddfwriaeth y DU. Yn
ogystal, mae'n nodi polisi cynllunio lleol a Chymreig perthnasol y gallai gael ei
ystyried yn berthnasol ac yn bwysig, a hefyd, mae'n dangos sut y mae'r Datblygiad
Arfaethedig yn cydymffurfio gyda'r polisi hwn.
1.2.2 Mae Cysylltiad Coedwig Brechfa yn gysylltiad trydan 132kV a fydd yn dosbarthu
trydan o Fferm Wynt Gorllewin Brechfa, sydd wedi sicrhau caniatâd, i'r rhwydwaith
trydan ger Llandyfaelog. Bydd y cysylltiad yn 28.6 cilomedr o hyd.
1.3 Prosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd
1.3.1 Pasiwyd Deddf Cynllunio 2008 (y Ddeddf) er mwyn cyflymu'r broses o roi caniatâd
i brosiectau seilwaith mawr sy'n cael eu diffinio gan y llywodraeth fel rhai
'cenedlaethol eu harwyddocâd'. Mae modd i brosiect seilwaith cenedlaethol ei
arwyddocâd (NSIP) gynnwys gorsafoedd pŵer, llinellau trydan, ffermydd gwynt
neu ffyrdd mawr. Wrth geisio adeiladu a gweithredu seilwaith o'r fath, mae angen
i'r datblygwr ddeall a yw'r Ddeddf yn berthnasol i'r prosiect, a chaiff hyn ei gyflawni
trwy ennu a yw'n mynd y tu hwnt i gyfyngiadau neu drothwyon penodol. Yn achos
llinellau trydan, bernir bod cynigion i godi llinellau uwchben sy'n 132kV neu fwy am
bellter o 2 cilomedr neu fwy yn brosiectau seilwaith cenedlaethol eu harwyddocâd.
Datganiad Cynllunio Cryno
6
1.3.2 Felly, mae'r Datblygiad Arfaethedig yn destun gofynion y Ddeddf. Mae hyn yn
golygu bod angen sicrhau caniatâd trwy gyfrwng DCO yn hytrach na thrwy
gyflwyno cais cynllunio. Dyfarnir DCOs gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn hytrach
na'r awdurdod cynllunio lleol, sef Cyngor Sir Gâr (CSG) yn yr achos hwn.
1.3.3 Mae'r Ddeddf yn nodi nifer o weithdrefnau i'w dilyn wrth baratoi a chyflwyno cais
am DCO. Mae'r rhain yn cynnwys gofynion statudol i ymgynghori. Yn ogystal,
mae angen darparu gwybodaeth benodol er mwyn cyd-fynd â'r cais. Nid yw'r
Datganiad Cynllunio yn un o'r gofynion hyn, fodd bynnag, mae WPD o'r farn y
bydd y ddogfen o fudd i'r Ysgrifennydd Gwladol, CSG, ymgyngoreion a'r cyhoedd
wrth esbonio sut y mae'r datblygiad arfaethedig yn cydymffurfio gyda pholisi lleol a
chenedlaethol.
Datganiad Cynllunio Cryno
7
2 Y Datblygiad Arfaethedig
2.1 Cyflwyniad
2.1.1 Mae Datganiadau Polisi Cenedlaethol (NPS) o bwysigrwydd pennaf i'r broses o
wneud penderfyniadau pan ystyrir NSIPs. Y ddau ddatganiad sydd fwyaf
perthnasol i'r atblygiad Arfaethedig yw'r Datganiad Polisi Cenedlaethol Cyffredinol
am Ynni (EN-1) a'r Datganiad Polisi Cenedlaethol am Seilwaith Rhwydweithiau
Trydan (EN-5). Mae adrannau dilynol o'r crynodeb hwn yn nodi sut y mae'r
datblygiad yn cydymffurfio gyda'r canllawiau polisi yn y dogfennau hyn. Un o'r
gofynion allweddol yw y dylai'r datblygiad ddangos gwaith dylunio da. Mae'r adran
hon yn nodi sut y llwyddwyd i gyflawni hyn mewn perthynas â'r Datblygiad
Arfaethedig.
2.2 Dylunio da
Math o seilwaith
2.2.1 Mae'r Datblygiad Arfaethedig yn cynnwys cysylltiad 132kV. Dyma'r foltedd uchaf a
weithredir gan WPD ac mae'n angenrheidiol er mwyn dosbarthu'r trydan o Fferm
Wynt Gorllewin Coedwig Brechfa. Dull gweithredu WPD tuag at ddyluniad y
cysylltiad oedd y byddai'n cael ei gludo trwy gyfrwng llinell uwchben (OHL) yn
hytrach na chebl tanddaearol. Gwnaethpwyd y penderfyniad hwn yng ngoleuni
gofynion statudol WPD i ddarparu cysylltiad economaidd ac er mwyn cydnabod
cyngor y llywodraeth a roddir yn NPS EN-5, sy'n nodi nad yw llinellau uwchben yn
anghydnaws mewn egwyddor gyda dyletswydd statudol y datblygwr i ystyried
amwynder ac i leihau'r effeithiau gymaint ag y bo modd.
Dyluniad polion a thyrau
2.2.2 Y dewisiadau sydd ar gael i WPD yw cludo'r linell uwchben ar bolion pren neu
dyrau metel. Mae WPD wedi dewis defnyddio polion pren am y rhesymau dylunio
canlynol:
Datganiad Cynllunio Cryno
8
Mae polion pren yn nodwedd sy'n bodoli eisoes yn y tirwedd ac fe'u defnyddir
er mwyn dosbarthu trydan 11kV, 33kV a 132kV yn yr ardal dan sylw.
Mae polion pren yn ddeunydd organig, ac maent yn gydnaws mewn ffordd
weledol gyda thirwedd y caeau a'r coetiroedd ar hyd llawer o'r llwybr. Mae eu
lliw a'u ffurf syml yn eu galluogi i ymdoddi i'r tirwedd.
Mae angen ôl troed llai o faint ar bolion pren nag y mae ei angen ar dyrau
metel ac mae modd eu gosod mewn cloddiad yn uniongyrchol, heb orfod cael
sylfeini concrid.
Dyluniad polion pren
2.2.3 Ar ôl dod i'r casgliad mai polion pren sy'n cynrychioli'r math mwyaf priodol o
seilwaith o ran ystyriaethau dylunio, ystyriwyd a ddylai hon fod yn llinell polion
sengl neu'n linell polion dwbl (polion H) ran amlaf. Mae dyluniad lle y gwelir polion
sengl ran amlaf yn cynnig y manteision dylunio canlynol:
Mae polion pren sengl yn nodwedd gyffredin yn y tirwedd, gan gynnal llinellau
11kV, 33kV a 132kV. Mae polion telegraff yn nodwedd gyfarwydd yn y tirwedd
hefyd.
Mae polion pren sengl yn llai o faint na pholion dwbl, ac maent yn cael eu
hamsugno i'r tirwedd yn haws mewn ffordd weledol.
Mae gan bolion pren sengl ôl troed llai. Ar ôl eu hadeiladu, maent yn effeithio
ar ddarn llai o dir na pholyn dwbl.
2.2.4 Er y nodwyd mai polion pren sengl yw'r dewis a ffefrir o safbwynt amgylcheddol,
mae'r cysylltiad sy'n defnyddio polion sengl ran amlaf yn cynnwys polion dwbl
mewn lleoliadau penodol, er enghraifft o ganlyniad i'r angen am fwy o allu i
wrthsefyll gwyntoedd cryfion.
2.2.5 Bydd hyd y polion pren yn amrywio o 10m i 20m, ond bydd 2-2.5m ohonynt yn
cael eu claddu dan y ddaear.
Datganiad Cynllunio Cryno
9
Aliniad
2.2.6 Hysbyswyd y broses o ddewis yr aliniad gan ddealltwriaeth drylwyr o'r amodau
amgylcheddol sy'n bodoli yn yr ardal dan sylw, gan gynnwys presenoldeb
'lleoliadau sensitif' megis trefi a phentrefi, tirweddau a werthfawrogir, cynefinoedd
naturiol ac ardaloedd hanesyddol, yn ogystal â'r defnydd a wneir o'r tir ar hyn o
bryd a chynigion defnydd tir. Gwnaeth y broses ddethol ystyried coridorau amgen
ac yna, dewisiadau aliniad. Bernir bod aliniad y llwybr a ddewiswyd yn “lle sensitif”
(paragraff 4.5.1 NPS EN-1) oherwydd:
ei fod yn osgoi croesi aneddiadau, trefi a phentrefi;
mae'n osgoi croesi tirweddau dynodedig cenedlaethol neu ryngwladol megis
Parciau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Safleoedd
Treftadaeth y Byd;
mae'n osgoi croesi cynefinoedd dynodedig cenedlaethol neu ryngwladol ac
eithrio Afon Tywi (y caiff yr effeithiau arni eu lliniaru trwy ei chroesi dan y
ddaear);
mae'n osgoi croesi llwybrau cenedlaethol a llwybrau troed pell;
mae'n osgoi tir comin a meysydd pentref;
mae'n osgoi caeau chwarae, parciau a gerddi; ac
mae'n osgoi cyfleusterau twristiaeth.
2.2.7 Yn ychwanegol i drefniadau osgoi, bernir bod aliniad y llwybr a ddewiswyd yn lle
sensitif o ganlyniad i'r ffordd y mae wedi ceisio ymateb i gymeriad, tirffurf a
llystyfiant y tirwedd presennol (fel sy'n ofynnol gan NPS EN-5) a Rheolau Holford
(cyfres o ganllawiau cynllunio er mwyn dylunio llinellau uwchben).
Cebl tanddaearol
2.2.8 Mae WPD yn bwriadu defnyddio ceblau tanddaearol ar draws Dyffryn Tywi yn
hytrach nag OHL. Mae hyn oherwydd bod WPD wedi nodi bod Dyffryn Tywi yn
Datganiad Cynllunio Cryno
10
'bryder difrifol' mewn termau gweledol a thirwedd, fel bod mesurau lliniaru ar ffurf
gosod ceblau tanddaearol yn ofynnol. Bernir nad yw potensial effeithiau
amgylcheddol niweidiol sy'n deillio o'r gwaith o osod ceblau tanddaearol yn
sylweddol, ar yr amod bod mesurau lliniaru yn cael eu cymryd. Er bod y gost o
osod ceblau tanddaearol lawer yn uwch nag OHL, ni fernir eu bod mor sylweddol
fel eu bod yn arwain at gysylltiad nad yw'n talu.
2.3 Mesurau lliniaru sy'n cael eu cynnwys yn nyluniad y cynllun
2.3.1 Mae gosod ceblau tanddaearol ar draws Dyffryn Tywi yn enghraifft o fesur lliniaru
gan y prosiect. Fodd bynnag, mae cysyniad lliniaru wedi cael ei ymgorffori yn y
broses ddylunio gan gychwyn o'r ystyriaeth gynharaf o'r ardal dan sylw, y
dylanwadwyd ar ei detholiad gan ddymuniad i osgoi cymaint o ddynodiadau
rhyngwladol a chenedlaethol ag y bo modd.
2.3.2 Rhoddir y crynodeb canlynol o'r camau lliniaru a ymgorfforwyd:
Tabl 2.1 – Mesurau lliniaru a ymgorfforwyd yn y dyluniad
Gweithredu Camau lliniaru o ganlyniad
Cam 1 Nodi cyfyngiadau amgylcheddol posibl
Mapio gan ddefnyddio'r data sydd ar gael i'r cyhoedd o ddynodiadau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol er mwyn hysbysu'r broses o ddewis coridorau llwybrau, er enghraifft osgoi ardaloedd trwchus eu poblogaeth ac ardaloedd o werth uchel megis y parc cenedlaethol.
Cam 1 Gwaith maes Arolygon wedi'u targedu er mwyn nodi rhywogaethau y mae ganddynt y potensial o gael eu heffeithio gan y cysylltiad arfaethedig. Yn 2013, roedd hyn yn cynnwys adar gaeaf (elyrch a gwyddau) a arolygwyd yn Nyffryn Tywi. Yn dilyn hyn, osgowyd lleoliadau wrth ddewis coridorau'r llwybrau.
Cam 1 Ystyried ymatebion ymgyngoreion
Pan fo modd, osgowyd ardaloedd a ddefnyddir gan y gymuned neu ystyriwyd mesurau lliniaru ar eu cyfer, er enghraifft, arweiniodd lleoliad yr ambiwlans awyr at y cynnig i osod ceblau tanddaearol ar draws yr ardal y gallai gael ei heffeithio.
Datganiad Cynllunio Cryno
11
Cam 2 Gwaith maes Cynhaliwyd gwaith maes er mwyn ystyried lleoliad a phwysigrwydd derbynyddion amgylcheddol yng nghoridor y llwybr a ffefrir, gan geisio lleihau potensial effeithiau gymaint ag y bo modd trwy leoli dewisiadau aliniad.
Cam 2 Ystyried egwyddorion llwybro sylfaenol
Defnyddio rheolau Holford er mwyn cyfrannu at y broses o ddewis dewisiadau aliniad, osgoi tir uchel pan fo modd ac ardaloedd amgylcheddol sensitif.
Cam 2 Ystyried ymatebion ymgyngoreion
Roedd enghreifftiau o newidiadau i'r dyluniad yn cynnwys mabwysiadu dewis aliniad (A1) sy'n atal golygfeydd o Lwybr Arfordir Cymru. Dewis A4 yn lle A5 gan bod y potensial i lai o gymunedau gael eu heffeithio. Ailddiffinio C5 er mwyn osgoi coedfa breifat.
Cam 3 Gwaith maes Gwaith maes, gan gynnwys arolygon rhywogaeth a gynhaliwyd er mwyn hysbysu aliniad y llwybr. Osgowyd coed y mae ganddynt y potensial i gynnig safleoedd clwydo i ystlumod gymaint ag y bo modd, lleolwyd polion mewn ffordd ofalus er mwyn lleihau'r effaith ar gynefinoedd sensitif gymaint ag y bo modd, megis y gors yn Rhydargaeau a safle pingo yn Alltwalis, nodwyd bylchau sy'n bodoli eisoes mewn coetir ac fe'u dilynwyd, a byddai ceblau tanddaearol yn croesi Dyffryn Tywi, sy'n lleihau'r effeithiau gweledol ac ar y tirwedd gymaint ag y bo modd, gan leihau potensial trawiadau adar ar hyd dyffryn yr afon.
Ystyried ymatebion ymgyngoreion
Symudwyd polion ar hyd ffiniau caeau pryd bynnag y bo modd, symudwyd polion er mwyn lleihau effeithiau gweledol gymaint ag y bo modd a chynigiwyd y dylid monitro ansawdd y dŵr. Cyfyngwyd ar derfynau gwyriadau mewn lleoliadau penodol er mwyn lleihau'r tebygolrwydd y byddai angen gwneud gwaith ar goed. Byddai perthi yn Nyffryn Tywi yn cael eu trawsleoli yn hytrach na'u gwaredu yn barhaol. Byddai gwaith HDD yn cael ei wneud ar isafonydd Afon Tywi er mwyn gwaredu'r gofyniad am waith yn y cwrs dŵr. Symudwyd lleoliad amgaefa y gwaith tanddaearol y tu allan i ardal lle y ceir Perygl o Lifogydd.
2.3.3 Yn ychwanegol i waith lliniaru a ymgorfforwyd, mae proses EIA wedi nodi mesurau
eraill y dylid eu cymryd hefyd er mwyn lleihau potensial effeithiau sylweddol
tebygol yn yr amgylchedd. Darparir enghreifftiau o'r gwaith lliniaru hwn ym
Mhennod 4 y datganiad hwn.
Datganiad Cynllunio Cryno
12
3 Yr angen am y Datblygiad Arfaethedig
3.1.1 Mae'r Datblygiad Arfaethedig yn ofynnol er mwyn cysylltu fferm wynt y mae wedi
sicrhau caniatâd, gyda'r rhwydwaith trydan. Mae polisi ynni y DU yn neilltuo cryn
bwysigrwydd i'r broses o gynhyrchu ynni adnewyddadwy er mwyn lliniaru'r newid
yn yr hinsawdd a gwella diogelwch cyflenwad y genedl. At hynny, cydnabyddir
bod gan y manteision economaidd sy'n gallu deillio o brosiectau ynni
adnewyddadwy, a'r manteision cymunedol y gallent ddod yn eu sgil, y potensial i
fod yn sylweddol.
3.1.2 Caiff polisi ynni y DU ei gyfeirio gan ddeddfwriaeth genedlaethol ac Ewropeaidd.
Mae Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 y DU yn pennu targedau rhwymol er
mwyn lleihau allyriadau nwy tŷ gwydr, gan fynnu gostyngiadau o 26% o leiaf mewn
allyriadau CO2 erbyn 2020, (yn erbyn gwaelodlin o'r sefyllfa ym 1990).
3.1.3 Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru (LlC) yn ystyried bod cynhyrchu
trydan mewn ffyrdd adnewyddadwy yn allweddol er mwyn lleihau allyriadau CO2,
ac felly, er mwyn lliniaru'r newid yn yr hinsawdd. Mae Llywodraeth y DU wedi
cyhoeddi nifer o strategaethau a dogfennau polisi sy'n pennu pwysigrwydd ynni
adnewyddadwy i'r genedl.
3.1.4 Nid yw polisi ynni wedi cael ei ddatganoli i LlC, fodd bynnag mae'n cydnabod
pwysigrwydd ynni i les economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru, a'r
bygythiadau i'r lles hwnnw gan y newid yn yr hinsawdd. Mae LlC wedi nodi mewn
ffordd eglur ei hymrwymiad tuag at ffynonellau ynni adnewyddadwy fel ffordd o
fodloni'r rhwymedigaethau er mwyn lleihau allyriadau carbon, gan wneud hynny
mewn dogfennau megis Trywydd Ynni Adnewyddadwy Cymru 2008 a Chwyldro
Carbon Isel: Datganiad Polisi Ynni Cymru 2010 (EPS).
3.1.5 Mae'n eglur o'r cymorth polisi a ddarparir gan y llywodraeth ar bob lefel bod angen
cenedlaethol am ynni adnewyddadwy. Bydd y Datblygiad Arfaethedig yn
cynorthwyo'r broses o ddarparu ar gyfer yr angen hwn trwy gysylltu Fferm Wynt
Datganiad Cynllunio Cryno
13
Gorllewin Coedwig Brechfa, sydd wedi sicrhau caniatâd, gyda'r rhwydwaith trydan.
O'r herwydd, bydd yn cynorthwyo'r broses o gyflawni targedau y DU a thargedau
Cymru ynghylch defnyddio a chynhyrchu ynni adnewyddadwy, gan helpu i
sicrhau'r manteision amgylcheddol, economaidd a chymunedol cysylltiedig.
Datganiad Cynllunio Cryno
14
4 Cydymffurfiaeth gyda Datganiadau Polisi
Cenedlaethol
4.1.1 Ceir dau NPS, y dynodwyd y ddau ohonynt ar 19 Gorffennaf 2011, ac y maent yn
berthnasol i'r Datblygiad Arfaethedig. Y rhain yw'r Datganiad Polisi Cenedlaethol
Cyffredinol am Ynni (NPS EN-1) a'r Datganiad Polisi Cenedlaethol am Seilwaith
Rhwydweithiau Trydan (NPS EN-5).
4.2 Y Datganiad Polisi Cenedlaethol Cyffredinol am Ynni (NPS EN-1)
4.2.1 Mae Rhan 4 NPS EN-1 yn nodi canllawiau polisi cenedlaethol y dylai ceisiadau
seilwaith ynni gydymffurfio gyda nhw. O ganlyniad i'r angen am seilwaith sy'n
gysylltiedig ag ynni ar fyrder, mae'n nodi y dylai'r penderfynwr gychwyn gyda
“rhagdybiaeth o blaid rhoi caniatâd i geisiadau am NSIPs ynni.”
4.2.2 Mae Adran 4.2 NPS EN-1 yn darparu canllawiau ynghylch paratoi Datganiad
Amgylcheddol (ES). Mae'n nodi bod yn rhaid i'r holl gynigion am brosiectau sy'n
ddarostyngedig i'r Gyfarwyddeb Asesu Effeithiau Amgylcheddol Ewropeaidd
(85/337/EEC) gael ES sy'n cyd-fynd â nhw, ac sy'n disgrifio'r agweddau hynny ar y
cynllun y gallent gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd. Yn ogystal, cyfeirir at
ofyniad, pan fo hynny'n berthnasol, i ddarparu asesiad o botensial effeithiau
sylweddol ar safleoedd ecolegol a ddynodwyd ar lefel Ewropeaidd (HRA Asesiad
Rheoliadau Cynefinoedd)).
4.2.3 Mae WPD wedi paratoi ES, y cytunwyd ar ei gwmpas gydag ymgyngoreion
allweddol a'r Ysgrifennydd Gwladol trwy gyflwyno Adroddiad Cwmpasu ym mis
Gorffennaf 2014. Paratowyd HRA, a luniwyd trwy ymgynghori gydag
ymgyngoreion hefyd, ac mae'n cyd-fynd â'r cais.
4.2.4 Mae NPS EN-1 yn rhoi arweiniad i'r penderfynwr ynghylch yr hyn y dylid ei ystyried
wrth bennu pa mor dderbyniol yw cynnig datblygu. Mae materion yn cynnwys y
dewisiadau amgen a ystyriwyd gan yr ymgeisydd wrth baratoi dyluniad y
Datganiad Cynllunio Cryno
15
datblygiad, sut y llwyddwyd i sicrhau gwaith dylunio da, a gallu'r datblygiad i
wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd. Yn ogystal, mae angen ystyried ystyriaethau
iechyd, sylweddau peryglus a diogelwch er enghraifft, er nad yw'r holl ystyriaethau
o anghenraid yn berthnasol i bob math o seilwaith ynni. Yna, mae'r ddogfen yn
nodi nifer o effeithiau nodweddiadol y byddai disgwyl iddynt ddeilio o bob math o
NSIP sy'n gysylltiedig ag ynni. Mae'r rhain yn cynnwys y pynciau canlynol:
ansawdd yr aer ac allyriadau;
bioamrywiaeth a chadwraeth ddaearegol;
buddiannau amddiffyn a hedfan milwrol a sifil;
newid arfordirol;
llwch, aroglau, golau artiffisial, mwg, ager a phlâu pryfed;
risg llifogydd;
amgylchedd hanesyddol;
tirwedd a gweledol;
defnydd tir gan gynnwys mannau agored, seilwaith gwyrdd a Llain Las;
sŵn a dirgryndod;
cymdeithasol-economaidd;
traffig a thrafnidiaeth;
rheoli gwastraff; ac
adnoddau ac ansawdd dŵr.
4.2.5 Mae'r Datganiad Cynllunio yn rhoi sylw i'r ffordd y mae'r Datblygiad Arfaethedig yn
cydymffurfio gyda chanllawiau polisi a sefydlwyd dan yr isbenawdau pwnc. Wrth
ddangos cydymffurfiaeth, mae'n ystyried canlyniadau asesiadau a gynhaliwyd ac a
Datganiad Cynllunio Cryno
16
gyflwynwyd o fewn yr ES, sy'n dangos na fydd unrhyw effeithiau sylweddol yn
digwydd dan y rhan fwyaf o gategorïau amgylcheddol. Pan nodir effeithiau o'r
fath, yn achos tirwedd a gweledol a bioamrywiaeth (ecoleg), mae'r effeithiau
sylweddol naill ai wedi'u seilio ar safle neu maent yn lleol, ac nid ydynt yn ymestyn
ar draws y datblygiad cyfan.
4.2.6 Ar gyfer y rhan fwyaf o'r pynciau, cynigir mesurau lliniaru er mwyn sicrhau na fydd
unrhyw effeithiau sylweddol. Caiff llawer o'r gweithgarwch lliniaru hwn ei alw yn
'lliniaru a ymgorfforwyd' (gweler Tabl 2.1 uchod). Cynigir gwneud gwaith lliniaru
ychwanegol hefyd. Mae hyn yn cynrychioli camau gweithredu a sicrhawyd trwy
gyfrwng gofynion y DCO neu nodweddion rheoli eraill, ac mae'n cynnwys
cyfyngiadau o ran yr amser o'r flwyddyn y mae modd cynnal HDD dan Afon Tywi
(er mwyn diogelu pysgod sy'n silio), cyfyngiadau ar oriau gwaith (er mwyn diogelu
dyfrgwn a lleihau potensial effeithiau ar amwynder preswyl) a chyfyngiadau
ynghylch lleoli seilwaith gerllaw cyrsiau dŵr (er mwyn diogelu ansawdd dŵr).
4.2.7 Gyda dealltwriaeth o sensitifrwydd yr amgylchedd y byddai'r Datblygiad
Arfaethedig yn mynd trwyddo, y dulliau adeiladu arfaethedig, tebygolrwydd
effeithiau amgylcheddol sylweddol a'r gofynion a fydd mewn grym er mwyn rheoli
datblygiad, y casgliad y daethpwyd iddo yw bod y datblygiad arfaethedig yn
cydymffurfio gyda chanllawiau polisi sy'n ymddangos yn NPS EN-1.
4.3 Y Datganiad Polisi Cenedlaethol am Seilwaith Rhwydweithiau
Trydan (NPS EN-5)
4.3.1 Mae NPS EN-5 yn cynnig y brif sail ar gyfer penderfyniadau ynghylch ceisiadau
seilwaith rhwydweithiau trydan pan gaiff ei ddarllen gydag NPS EN-1. Mae'r
ddogfen yn darparu polisi perthnasol wrth ystyried ceisiadau ar gyfer
rhwydweithiau trydan sy'n ychwanegol i'r hyn a nodir yn NPS EN-1. Mae polisi
ynghylch effeithiau penodol technoleg yn cynnwys bioamrywiaeth a chadwraeth
ddaearegol, tirwedd a gweledol a sŵn a dirgryndod, yn ychwanegol i feysydd
magnetig a thrydan (EMF).
4.3.2 Mae polisi cadwraeth ddaearegol a bioamrywiaeth sydd ar gyfer rhwydweithiau
Datganiad Cynllunio Cryno
17
trydan yn benodol, yn canolbwyntio ar y potensial i adar mawr daro yn erbyn
OHLs, yn enwedig pan fo'r tywydd yn wael. Cynghorir yr ymgeisydd i ystyried
potensial yr effeithiau hyn fel rhan o broses EIA, a rhoddir awgrymiadau ynghylch
mesurau lliniaru. Cynhaliwyd arolygon adar gan WPD er mwyn cyfrannu at y
broses o leoli a dylunio'r Datblygiad Arfaethedig. Atodwyd gwybodaeth a
gyhoeddwyd i'r arolygon hyn a gwaith ymgynghori gyda sefydliadau perthnasol.
Nodwyd adar mawr y maent yn dueddol o daro yn eu herbyn ar hyd Dyffryn Tywi,
er nad oedd hyn yn agos iawn i'r llwybr a ddewiswyd. Mae gan benderfyniad WPD
i liniaru'r effeithiau tirlun a gweledol sylweddol sy'n deillio o gael OHL ar draws
Dyffryn Tywi, yn cynnig y budd eilaidd bod y potensial i adar daro yn ei herbyn
wedi cael ei waredu ac o ganlyniad, ni ragwelir unrhyw effeithiau sylweddol.
4.3.3 Mae polisi gweledol a thirwedd sy'n benodol i rwydweithiau trydan yn ystyried
priodoldeb OHLs yn y tirwedd a'r graddau y mae OHL yn cyd-fynd â dyletswydd
statudol yr ymgeisydd i ystyried amwynder. Cyfeirir ymgeiswyr at Reolau Holford
fel egwyddorion dylunio OHL priodol y dylid eu dilyn. Rhoddir cyngor am y
materion i'w hystyried wrth benderfynu ynghylch priodoldeb gosod ceblau
tanddaearol. Mae ôl-nodyn paragraff 2.8.8 yn berthnasol i'r cais hwn, sy'n nodi y
gall gosod ceblau tanddaearol, er nad yw'n rhywbeth sy'n gorfod sicrhau caniatâd
datblygu dan y Ddeddf ynddo'i hun, fod yn rhan o gynllun lle y caiff ei gynnig fel
mesur er mwyn lliniaru effeithiau niweidiol.
4.3.4 Mae WPD wedi rhoi ystyriaeth lawn i botensial effeithiau niweidiol ar y tirwedd o
ganlyniad i'r seilwaith OHL a gynigir. Rhannwyd yr ardal y byddai'r datblygiad yn
mynd trwyddi yn fathau o gymeriad tirwedd y prosiect ac aseswyd pob un am ei
sensitifrwydd i'r math o OHL a gynigir. Y casgliad y daethpwyd iddo yw bod
Dyffryn Tywi yn sensitif ac y byddai'n cael ei effeithio mewn ffordd sylweddol gan
OHL, fel y byddai gosod ceblau tanddaearol yn briodol. Yn ogystal, byddai gosod
ceblau tanddaearol yn cynnig manteision ecolegol o'u cymharu ag OHL, a
rhagwelwyd bod potensial effeithiau niweidiol ar archeoleg anhysbys wedi'i gladdu
yn isel, ac mae mesurau lliniaru mewn grym. Byddai gosod ceblau tanddaearol yn
cynyddu cost y Datblygiad Arfaethedig, ond mae WPD wedi dod i'r casgliad y
Datganiad Cynllunio Cryno
18
byddai modd sicrhau cydbwysedd priodol rhwng y gost a'i ddyletswydd statudol.
4.3.5 Mae NPS EN-5 yn cydnabod bod gan holl linellau trosglwyddo foltedd uchel y
potensial i gynhyrchu sŵn dan amodau penodol. Mae'n esbonio sut y mae modd i
sŵn gweithredol gael ei gynhyrchu a'r mesurau lliniaru y mae modd eu cymryd er
mwyn lleihau'r potensial y bydd effeithiau sylweddol yn digwydd. Cynghorir y
penderfynwr i sicrhau bod yr ymgeisydd wedi dilyn methodoleg asesu briodol ac
awgrymir nad yw'n debygol bod sŵn o OHL yn debygol o arwain at wrthod rhoi
caniatâd pan fydd mesurau lliniaru priodol mewn grym.
4.3.6 Mae WPD wedi ymgynghori mewn ffordd anffurfiol a thrwy gyfrwng y broses
statudol gyda'r awdurdod cynllunio lleol, CSG. Cynhaliwyd ymweliadau safle i
linell 132kV sy'n bodoli eisoes ac a weithredir gan WPD, a gwnaethpwyd
ymrwymiadau mewn perthynas â sicrhau ansawdd yn ystod gwaith cynhyrchu a
gwaith cynnal a chadw priodol. Mae CSG wedi cytuno y byddai effeithiau
sylweddol yn annhebygol o ddigwydd, ac yn dilyn hyn, cwmpaswyd ystyriaeth o
sŵn gweithredol o'r asesiad.
4.3.7 Mae NPS yn rhoi esboniad am fater EMF, gan esbonio sut y mae modd iddo
ddigwydd a'r effeithiau y gallent ddigwydd. Mae'n cyfeirio at safonau cyfredol y
diwydiant ac mae'n cydnabod nad yw cydbwysedd gwaith ymchwil gwyddonol dros
y degawdau wedi nodi cyswllt rhwng EMFs a chanser neu glefydau eraill. Yn yr
un modd, mae'n cydnabod nad oes fawr ddim o dystiolaeth bod cysylltiad cnydau,
anifeiliaid fferm neu ecosystemau naturiol gydag EMFs llinellau trosglwyddo yn
arwain at unrhyw ganlyniadau sylweddol ar lefel amaethyddol.
4.3.8 Mae WPD wedi dylunio cysylltiad a fyddai'n cyd-fynd yn llwyr gyda gofynion a
dderbynnir ynghylch pellteroedd cadw draw. Mae hyn yn golygu y bydd yn
cydymffurfio gyda chyfyngiadau sylfaenol ICNIRP 1998 a ddyfynnwyd gan NPS
EN- 5 fel rhai priodol.
4.4 Casgliad
4.4.1 Wrth ddylunio ac asesu'r effeithiau sy'n deillio o'r Datblygiad Arfaethedig wedi hyn,
Datganiad Cynllunio Cryno
19
mae WPD wedi rhoi ystyriaeth lawn i'r polisi sy'n ymddangos o fewn NPS EN-1 ac
EN-5. Mae wedi ystyried pa mor berthnasol yw gweithgarwch lliniaru fel yr
argymhellir yn y dogfennau hyn i gyd-destun y Datblygiad Arfaethedig, ac mae
wedi mabwysiadu gweithgarwch lliniaru o'r fath mewn nifer o achosion. Mae WPD
yn hyderus bod y Datblygiad Arfaethedig yn cydymffurfio gyda pholisi
cenedlaethol.
Datganiad Cynllunio Cryno
20
5 Cydymffurfiaeth gyda dogfennau polisi cynllunio
lleol a chenedlaethol eraill
5.1 Cyflwyniad
5.1.1 Rhaid gwneud cais am seilwaith ynni cenedlaethol ei arwyddocâd yn unol â'r
NSPs perthnasol, ac eithrio mewn amgylchiadau diffiniedig penodol. Mae modd
ystyried bod polisi arall hefyd, gan gynnwys polisi cynllunio lleol a Chymreig, yn
berthnasol ac yn bwysig hefyd wrth wneud penderfyniad. Mae'r Datganiad
Cynllunio yn nodi polisi y bernir ei fod yn berthnasol yn y cyd-destun hwn, y
rhoddir crynodeb ohono isod.
5.2 Polisi cynllunio Cymreig
5.2.1 Caiff polisi cynllunio Cymreig ei osod trwy gyfrwng Cynllun Gofodol Cymru 2008,
Polisi Cynllunio Cymru (PPW) a thrwy gyfrwng Nodiadau Cyngor Technegol
(TANs).
Cynllun Gofodol Cymru 2008
5.2.2 Mae Cynllun Gofodol Cymru 'Pobl, Lleoedd, Dyfodol' yn pennu fframwaith
strategol er mwyn tywys datblygiad ac ymyriadau polisi yn y dyfodol. Mae'n
integreiddio'r agweddau cenedlaethol ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol a
datblygiad economaidd, iechyd, trafnidiaeth a'r amgylchedd, gan weithredu
dyletswydd datblygu cynaliadwy LlC. Mae'r Datblygiad Arfaethedig yn eistedd o
fewn tair o blith chwe strategaeth ardal Cymru, a nodir yn y Cynllun. Mae'r
strategaethau hyn, Canolbarth Cymru, Sir Benfro- Yr Hafan a Bae Abertawe, yn
cynnwys blaenoriaethau sy'n ymwneud ag ynni adnewyddadwy, hwyluso sector
ynni sydd wedi arallgyfeirio neu fuddsoddi mewn seilwaith strategol. Bernir bod y
Datblygiad Arfaethedig yn cyd-fynd gyda'r blaenoriaethau hyn.
Polisi Cynllunio Cymru Rhifyn 7 2014
Datganiad Cynllunio Cryno
21
5.2.3 Mae PPW yn amlygu pwysigrwydd darparu a chynllunio ar gyfer datblygiad
cynaliadwy, gan nodi rhagdybiaeth o blaid datblygiad cynaliadwy. Mae'n darparu
canllawiau polisi cenedlaethol ynghylch amrediad o faterion sy'n cynnwys yr
amgylchedd naturiol, datblygu economaidd a seilwaith ymhlith pethau eraill.
5.2.4 Mae'r Datganiad Cynllunio yn nodi polisi perthnasol ym mhob pennod pwnc, gan
gadarnhau bod y Datblygiad Arfaethedig yn cydymffurfio. Mae'n nodi bod
darpariaeth seilwaith dosbarthu ynni yn rhan o un o'r 19 o amcanion datblygu
cynaliadwy a bennwyd gan LlC sy'n cydnabod bygythiad y newid yn yr hinsawdd i
Gymru hefyd, a rôl y system gynllunio er mwyn lleihau'r bygythiad hwn gymaint ag
y boi modd ac addasu i'r canlyniadau.
5.2.5 O ran yr amgylchedd naturiol, mae PPW yn nodi hierarchaeth dynodiadau
rhyngwladol, cenedlaethol a lleol, ac mae'n darparu canllawiau polisi ynghylch
ystyriaeth cynigion datblygu ym mhob un ohonynt. Mae'n cydnabod pwysigrwydd
dynodiadau tirwedd lleol megis Ardal Tirwedd Arbennig Dyffryn Tywi, ond mae'n
nodi na ddylai dynodiadau o'r fath atal datblygiad sy'n dderbyniol fel arall.
5.2.6 Mae Pennod 6 PPW yn nodi amcanion LlC ar gyfer cadwraeth yr amgylchedd
hanesyddol, a'i gwelliant, sy'n cynnwys archeoleg a henebion, adeiladau
rhestredig, ardaloedd cadwraeth, Safleoedd Treftadaeth y Byd a pharciau, gerddi
a thirweddau hanesyddol. Nodwyd presenoldeb neu absenoldeb pob un ohonynt
yn yr ardal dan sylw a chynhaliwyd asesiad o botensial effeithiau sylweddol yn
unol â chyngor ynghylch polisi. Byddai'r Datblygiad Arfaethedig yn cyd-fynd â
pholisi cenedlaethol ynghylch yr amgylchedd hanesyddol.
5.2.7 Mae Pennod 12 yn cydnabod bod darparu seilwaith digonol a phriodol yn hanfodol
er mwyn sicrhau datblygu cynaliadwy yng Nghymru. Mae'n cydnabod y bydd
angen seilwaith ychwanegol i rwydwaith y grid trydan er mwyn cynnal ffermydd
gwynt ar y tir yn Ardaloedd Chwilio Strategol LlC (y lleolir Fferm Wynt Gorllewin
Coedwig Brechfa yn SSA G), ac mae'n nodi y dylai awdurdodau cynllunio lleol
hwyluso datblygiadau grid o'r fath pan gaiff cynigion priodol eu cyflwyno.
Datganiad Cynllunio Cryno
22
Nodiadau Cyngor Technegol
5.2.8 Mae TANs yn ychwanegu at bolisi a ddarparir o fewn PPW a dylid eu darllen law
yn llaw ag ef. Mae'r Datganiad Cynllunio yn nodi saith TAN y gallent fod yn
berthnasol wrth ystyried y Datblygiad Arfaethedig, ac mae'r rhain yn cynnwys
TAN5 Cadwraeth Natur a Chynllunio, TAN8 Ynni Adnewyddadwy, a TAN15
Datblygu a Risg Llifogydd.
5.2.9 Mae WPD wedi ystyried y cyd-destun polisi a ddarparwyd gan y TANs ac mae hyn
wedi cyfrannu at gwmpas ac asesiad o'r effeithiau y gallent ddigwydd o ganlyniad
i'r Datblygiad Arfaethedig. Yn ogystal, mae TANs yn darparu canllawiau polisi
ynghylch gweithgarwch lliniaru addas ac mae hyn wedi cyfrannu at esblygiad y
prosiect. Bernir bod y Datblygiad Arfaethedig yn cydymffurfio gyda'r polisi a
ddarparwyd o fewn y TANs.
5.3 Polisi cynllunio lleol
5.3.1 Nodir polisi cynllunio lleol yng Nghynllun Datblygu Lleol (LDP) CSG, a
fabwysiadwyd ym mis Rhagfyr 2014. Mae'r LDP yn cynnwys nifer o bolisïau y
mae modd barnu eu bod yn berthnasol wrth ystyried y Datblygiad Arfaethedig.
Mae'r Datganiad Cynllunio yn darparu asesiad o'r cydymffurfiad gyda phob polisi
LDP unigol perthnasol. Mae'r rhain yn cynnwys materion megis y newid yn yr
hinsawdd, cludiant, diogelu mwynol, yr amgylchedd adeiledig a naturiol, y seilwaith
a'r amgylchedd naturiol.
5.3.2 Mae'r Datganiad Cynllunio yn dod i'r casgliad na fyddai'r datblygiad yn gwrthdaro
gyda pholisïau unigol neu gyda'r cynllun datblygu yn gyffredinol. Er yr adroddir am
effeithiau sylweddol i'r amgylchedd o fewn yr ES, mae'r effeithiau hyn yn digwydd
ar y safle neu'n lleol ac nid ydynt yn ymestyn ar draws y datblygiad cyfan. Dylai'r
gwaith lliniaru a gwella a gynigir gan WPD sicrhau bod modd adeiladu a
gweithredu'r Datblygiad Arfaethedig mewn ffordd foddhaol, gan ddosbarthu ynni
adnewyddadwy a chyfrannu at y broses o liniaru'r newid yn yr hinsawdd a
diogelwch y cyflenwad.
Datganiad Cynllunio Cryno
23
6 Casgliad
6.1.1 Mae'r ddogfen hon yn rhoi crynodeb o'r canfyddiadau a'r casgliadau a nodir yn y
Datganiad Cynllunio. Mae'n esbonio'r dull gweithredu a fabwysiadwyd gan WPD
er mwyn sicrhau bod y Datblygiad Arfaethedig yn dangos gwaith dylunio da. Yn
ogystal, mae'n dangos y graddau y mae ei angen er mwyn sicrhau dosbarthiad
ynni gwynt adnewyddadwy ar y tir, a sut y mae hyn yn cefnogi polisi a
rhwymedigaethau rhyngwladol, yn y DU ac ar lefel genedlaethol.
6.1.2 Mae'r ddogfen yn rhoi crynodeb o elfennau allweddol canllawiau o fewn
Datganiadau Polisi Cenedlaethol EN-1 ac EN-5. Mae'r datganiadau hyn yn
cynrychioli'r polisi cenedlaethol y mae'n rhaid i'r penderfynwr eu hystyried wrth
wneud penderfyniad ynghylch cais am seilwaith cenedlaethol ei arwyddocâd.
Gyda chymorth y casgliadau a wnaethpwyd ym mhenodau pwnc amrywiol yr ES,
mae WPD wedi dod i'r casgliad y bydd y Datblygiad Arfaethedig yn cydymffurfio
gyda pholisi cenedlaethol.
6.1.3 Gallai polisi Cymreig a pholisi lleol fod yn berthnasol wrth ystyried y Datblygiad
Arfaethedig. Mae'r polisi hwn yn cynnwys polisi cynllunio Cymreig ar ffurf Cynllun
Gofodol Cymru, Polisi Cynllunio Cymru a'r TANs, ynghyd â pholisi lleol ar ffurf LDP
CSG. Mae asesiad o'r gydymffurfiaeth gyda pholisi yn dod i'r casgliad y bydd y
Datblygiad Arfaethedig yn cynorthwyo nodau polisi i liniaru'r newid yn yr hinsawdd
ac i gynnig datblygiad cynaliadwy. Pan nodir effeithiau amgylcheddol, y casgliad a
wneir yw eu bod yn osgoi'r nodweddion hynny a ddisgrifir mewn polisi fel y rhai y
maent yn dangos y sensitifrwydd mwyaf, megis parciau cenedlaethol a henebion
rhestredig, ac y bydd y dynodiadau hynny lle y gwelir y potensial am effeithiau, yn
cael eu diogelu trwy gyfrwng cyfres gynhwysfawr o fesurau lliniaru. Y casgliad a
wneir yw bod y Datblygiad Arfaethedig yn cydymffurfio gyda pholisi cynllunio
Cymreig a pholisi cynllunio lleol