rhifyn 10 / medi 2019 y cliciadur - cynnal.co.uk · 3 cer amdani cer amdani bwyd i’r adar...

8
Y Cliciadur Newyddion i Ysgolion Cynradd Cymru Y Cliciadur Rhifyn 10 / Medi 2019 Newyddion i Ysgolion Cynradd Cymru Awduron: Haf Llewelyn, Mali Williams Golygydd: Karen MacIntyre Huws TUDALEN 5 CALAN GAEAF Arferion Calan Gaeaf yng Nghymru TUDALEN 7 TUDALEN 8 TYRD I DRAFOD Yn y rhifyn yma y testun trafod yw Feganiaeth. BLE GAWN NI FYND HEDDIW..? Beth sydd ymlaen dros yr wythnosau nesaf? EISTEDDFOD LLANRWST Fuest ti yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst tybed? Er gwaetha’r tywydd roedd yr Eisteddfod yn llwyddiant mawr a’r croeso gan Sir Conwy yn un cynnes. Dyma’r hanes gan Hari o Langernyw, pentref agos iawn at y Maes: Hawlfraint? TAITH GRETA Mae Greta Thunberg, y ferch ifanc sydd wedi bod yn ymgyrchu dros faterion yr amgylchedd, wedi cyrraedd America ar ôl taith bythefnos o hyd ar gwch o’r enw Malizia II. Bydd Greta yn mynd i ddwy gynhadledd ar newid hinsawdd yn America. Roedd Greta yn gwrthod teithio o’i chartref yn Sweden ar awyren na llong fawr oherwydd eu bod yn llygru’r amgylchedd, felly cafodd le ar gwch hwylio bychan. Nid oedd y daith yn un foethus o gwbl gan nad oedd toiled, cawod na chegin ar y cwch ac roedd yn wynebu perygl stormydd ar fôr yr Iwerydd! Roedd trydan y cwch yn cael ei gynhyrchu gan dyrbinau gwynt a phaneli solar felly nid oedd unrhyw ôl-traed carbon i’r daith (nid oedd yn gwneud unrhyw ddrwg i’r amgylchedd). ARGYFWNG YN YR AMASON? ARGYFWNG YN YR AMASON? Mae tanau enfawr yn llosgi yn fforest law yr Amason, ym Mrasil ac mae gwyddonwyr yn rhybuddio y gall achosi niwed mawr i’r amgylchedd. Mae’r tanau mor fawr fel y gallant gael eu gweld o’r gofod! Yn ogystal â bod yn gartref i nifer fawr o wahanol anifeiliaid a phlanhigion mae fforest law yr Amason yn bwysig iawn i’r aer yr ydym yn ei anadlu, gan ei fod yn troi nwy carbon deiocsid yn ocsigen. Erbyn hyn mae byddin Brasil yn helpu i geisio diffodd y tanau ac mae arweinwyr y byd, gan gynnwys Boris Johnson Prif Weinidog Prydain, wedi gaddo rhoi arian i helpu’r achos. Nid oes neb yn siŵr sut ddechreuodd y tanau ac mae rhai yn credu eu bod wedi cael eu cynnau yn fwriadol gan bobl oedd eisiau clirio’r fforest law ar gyfer tyfu cnydau fel olew palmwydd. Llun gan Anders Hellberg (Wikimedia) Llun gan Seth Whales Roedd pawb yn ein hysgol, sef Ysgol Bro Cernyw, wedi cyffroi'n fawr iawn pan glywon ni fod y Steddfod yn dod i Sir Conwy ac i Lanrwst! Roedd 'na lawer o waith paratoi a bu pawb yn helpu i gasglu arian. Roedd llawer wedi rhoi baneri ar eu tai ac roedd llwyth o bosteri ‘Croeso i’r Eisteddfod’ ym mhobman – roedd pob man yn lliwgar! Uwchben y dref roedd yna hyd yn oed arwydd anferth yn dweud ‘LLANRWST’ fel yr un yn ‘Hollywood’! Yn ystod wythnos yr Eisteddfod fe aethon ni i’r Maes bob dydd ond un ac er bod hi’n bwrw glaw weithiau fe wnaeth hynna ddim stopio ni i gael hwyl gyda’n ffrindiau wrth grwydro o gwmpas. Roedden ni wrth ein boddau yn croesawu'r Eisteddfod i Lanrwst, roedd yr holl arwyddion o gwmpas y lle yn cŵl a phobman yn edrych mor lliwgar. Yn fwy na dim roeddwn yn hoffi fod pawb yn mwynhau eu hunain yn ein hardal ni. Ni’n edrych ymlaen yn barod i gael wythnos yn Eisteddfod Tregaron blwyddyn nesaf!

Upload: others

Post on 16-Jan-2020

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Rhifyn 10 / Medi 2019 Y Cliciadur - cynnal.co.uk · 3 Cer Amdani Cer Amdani BWYD I’R ADAR Gyda’r gaeaf ar y gorwel mae’n bwysig cofio am roi help llaw i’r adar dros y misoedd

Y CliciadurNewyddion i Ysgolion Cynradd CymruY Cliciadur

Rhifyn 10 / Medi 2019

Newyddion i Ysgolion Cynradd Cymru

Awduron: Haf Llewelyn, Mali Williams Golygydd: Karen MacIntyre Huws

TUDALEN 5

CALAN GAEAFArferion Calan

Gaeaf yng Nghymru

TUDALEN 7

TUDALEN 8

TYRD I DRAFOD Yn y rhifyn yma y testun trafod yw

Feganiaeth.

BLE GAWN NI FYND HEDDIW..?

Beth sydd ymlaen dros yr wythnosau

nesaf?

EISTEDDFOD LLANRWSTFuest ti yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst tybed? Er gwaetha’r tywydd roedd yr Eisteddfod yn llwyddiant mawr a’r croeso gan Sir Conwy yn un cynnes. Dyma’r hanes gan Hari o Langernyw, pentref agos iawn at y Maes:

Hawlfraint?

TAITH GRETAMae Greta Thunberg, y ferch ifanc sydd wedi bod yn ymgyrchu dros faterion yr amgylchedd, wedi cyrraedd America ar ôl taith bythefnos o hyd ar gwch o’r enw Malizia II. Bydd Greta yn mynd i ddwy gynhadledd ar newid hinsawdd yn America. Roedd Greta yn gwrthod teithio o’i chartref yn Sweden ar awyren na llong fawr

oherwydd eu bod yn llygru’r amgylchedd, felly cafodd le ar gwch hwylio bychan. Nid oedd y daith yn un foethus o gwbl gan nad oedd toiled, cawod na chegin ar y cwch ac roedd yn wynebu perygl stormydd ar fôr yr Iwerydd! Roedd trydan y cwch yn cael ei gynhyrchu gan dyrbinau gwynt a phaneli solar felly nid oedd unrhyw ôl-traed carbon i’r daith (nid oedd yn gwneud unrhyw ddrwg i’r amgylchedd).

ARGYFWNG YN YR AMASON?

ARGYFWNG YN YR AMASON?

Mae tanau enfawr yn llosgi yn fforest law yr Amason, ym Mrasil ac mae gwyddonwyr yn rhybuddio y gall achosi niwed mawr i’r amgylchedd. Mae’r tanau mor fawr fel y gallant gael eu gweld o’r gofod! Yn ogystal â bod yn gartref i nifer fawr o wahanol anifeiliaid a phlanhigion mae fforest law yr Amason yn bwysig iawn i’r aer yr ydym yn ei anadlu, gan ei fod yn troi nwy carbon deiocsid yn ocsigen. Erbyn hyn mae byddin Brasil yn helpu i

geisio diffodd y tanau ac mae arweinwyr y byd, gan gynnwys Boris Johnson Prif Weinidog Prydain, wedi gaddo rhoi arian i helpu’r achos. Nid oes neb yn siŵr sut ddechreuodd y tanau ac mae rhai yn credu eu bod wedi cael eu cynnau yn fwriadol gan bobl oedd eisiau clirio’r fforest law ar gyfer tyfu cnydau fel olew palmwydd.

Llun gan Anders Hellberg (Wikimedia)

Llun gan Seth Whales

Roedd pawb yn ein hysgol, sef Ysgol Bro Cernyw, wedi cyffroi'n fawr iawn pan glywon ni fod y Steddfod yn dod i Sir Conwy ac i Lanrwst! Roedd 'na lawer o waith paratoi a bu pawb yn helpu i gasglu arian.

Roedd llawer wedi rhoi baneri ar eu tai ac roedd llwyth o bosteri ‘Croeso i’r Eisteddfod’ ym mhobman – roedd pob man yn lliwgar! Uwchben y dref roedd yna hyd yn oed arwydd anferth yn dweud ‘LLANRWST’ fel yr un yn ‘Hollywood’!

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod fe aethon ni i’r Maes bob dydd ond un ac er bod hi’n bwrw glaw weithiau fe wnaeth

hynna ddim stopio ni i gael hwyl gyda’n ffrindiau wrth grwydro o gwmpas.

Roedden ni wrth ein boddau yn croesawu'r Eisteddfod i Lanrwst, roedd yr holl arwyddion o gwmpas y lle yn cŵl a phobman yn edrych mor lliwgar. Yn fwy na dim roeddwn yn hoffi fod pawb yn mwynhau eu hunain yn ein hardal ni.

Ni’n edrych ymlaen yn barod i gael wythnos yn Eisteddfod Tregaron blwyddyn nesaf!

Page 2: Rhifyn 10 / Medi 2019 Y Cliciadur - cynnal.co.uk · 3 Cer Amdani Cer Amdani BWYD I’R ADAR Gyda’r gaeaf ar y gorwel mae’n bwysig cofio am roi help llaw i’r adar dros y misoedd

2

Medi

16

Medi

16

DYDDIAU I’R DYDDIADURDiwrnod Owain Glyndŵr Mae'r dyddiad yn cael ei nodi am mai dyma'r diwrnod y daeth Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru yn y flwyddyn 1400. Mwy am hyn ar waelod y dudalen yma.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn lansio ymgyrch MIRI MES 2019. Os ydy dy ysgol di am gymryd rhan yn y cynllun mae’n rhaid cofrestru gyda [email protected] a chasglu'r mes cyn y 23ain Hydref.

Am fwy o wybodaeth cer i wefan - https://naturalresources.wales/guidance-and-advice/business-sectors/education-learning-and-skills/acorn-antics/?lang=cy neu edrych ar Y Cliciadur Rhifyn 4.

MIRI MES 2019

Medi

21 Mae 21ain Medi wedi ei nodi gan y Cenhedloedd Unedig fel diwrnod o heddwch trwy'r byd. Y gobaith ydy y bydd pob gwlad yn cadw'r diwrnod hwn yn ddiwrnod lle na fydd dim brwydro'n digwydd.

Diwrnod Heddwch y Byd

Medi

22 Beth am i ti a dy deulu wneud heddiw yn ddiwrnod cerdded neu feicio?

Diwrnod di-gar y byd

Medi

26 Diwrnod i ddathlu'r holl ieithoedd amrywiol sy'n cael ei siarad trwy wledydd Ewrop. Sawl iaith fedri di ei siarad? Mae siarad ieithoedd gwahanol yn bwysig iawn gan ein bod yn gallu siarad gydag amrywiaeth o bobl a hefyd dod i ddeall mwy am eu gwledydd, eu bywydau a'u diwylliant.

Diwrnod Ieithoedd Ewrop

Medi

29 Yn aml ar ddiwedd Medi byddwn yn cael tywydd braf a mwyn, byddwn yn galw'r cyfnod hwn o dywydd braf yn Ha' Bach Mihangel gan ei fod yn aml yn digwydd o gwmpas dyddiad gŵyl Mihangel. Ers talwm ar Ddiwrnod Sant Mihangel roedd gweision a morynion yn cael eu cyflogi.

Figan: person sydd ddim yn bwyta na defnyddio cynnyrch anifail.

Diwrnod Sant Mihangel

Hydref

3 Thema'r diwrnod eleni yw Negeseuon - beth am i ti fynd ati i farddoni? At bwy fyddet ti'n danfon neges a beth fyddai'r neges honno? Byddai Y Cliciadur wrth ei fodd yn clywed dy neges di, felly dos ati i farddoni.Mae mwy am y Bardd Plant Cymru newydd ar dudalen 4.

Diwrnod CenedlaetholBarddoniaeth

Tachwedd

1 Mwy am Figaniaieth ar dudalen 6.Diwrnod Figaniaeth y byd

Tachwedd

5 Cofia gadw’n ddiogel!Noson Tân Gwyllt

DATHLU WYTHNOS OWAIN GLYNDŴRYdych chi'n dathlu wythnos Owain Glyndŵr yn eich ysgol chi?Mae 16eg Medi yn cael ei gofio fel Diwrnod Owain Glyndŵr a bydd nifer o bobl trwy Gymru yn dathlu trwy chwifio'r faner goch a melyn, sef baner Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru. Cafodd Owain Glyndŵr ei

gyhoeddi'n dywysog ar 16eg Medi, 1400.Dechreuodd gwrthryfel Glyndŵr ar 19eg Medi 1400 yn Rhuthun lle'r oedd Reginald de Grey, gelyn mawr Glyndŵr yn rheoli. Bu bron i'r dref gyfan gael ei

llosgi'n ulw. Am 15 mlynedd wedyn bu Glyndŵr a'i filwyr yn brwydro yn erbyn byddin Lloegr gan ennill a cholli nifer o frwydrau gwaedlyd ar hyd a lled Cymru. Beth am chwilio am hanes Glyndŵr yn dy ardal di?

• gwenoliaid yn hel ar wifrau yn barod i hedfan yn ôl i Affrica,

• dail y coed yn newid lliw,• aeron, ffrwythau, cnau a mes ar y coed

a'r llwyni, • bydd rhai anifeiliaid bach yn chwilio am

le i gysgu dros y gaeaf, ond os byddwch yn sylwi ar dwmpath o ddail wedi ei guddio, peidiwch â mynd i'w godi na'i symud, efallai bod draenog bach yn swatio yno a bydd eisiau llonydd.

GWAITH DITECTIFMae tymor yr hydref yma ac mae byd natur yn dangos ei hun gyda lliwiau anhygoel ym mhobman. Dos allan i chwilio am arwyddion o'r hydref.

Page 3: Rhifyn 10 / Medi 2019 Y Cliciadur - cynnal.co.uk · 3 Cer Amdani Cer Amdani BWYD I’R ADAR Gyda’r gaeaf ar y gorwel mae’n bwysig cofio am roi help llaw i’r adar dros y misoedd

3

CerAmdaniCerAmdani

BWYD I’R ADARGyda’r gaeaf ar y gorwel mae’n bwysig cofio am roi help llaw i’r adar dros y misoedd oeraf. Dyma syniad ar gyfer gwneud gwledd i’r adar yn dy ardd neu yn yr ysgol.

• Moch coed• Hadau adar (gellir eu cael yn

rhad o siop leol)• Braster (lard)• Llinyn• 2 bowlen• Cyllell neu lwy

Byddi di angen:

RHYBUDD LLANASTGwna’n siŵr dy fod yn gorchuddio’r bwrdd neu gweithia y tu allan. Os wyt ti’n cael braster ar dy ddwylo gelli di ei olchi i ffwrdd gyda dŵr poeth a sebon.

!

Rho’r braster mewn powlen a’i gymysgu nes ei fod yn eitha’ meddal. Mae’n well peidio ei ddefnyddio yn syth o’r oergell neu bydd yn galed.

1

Rho’r peli yn yr oergell neu eu gadael y tu allan iddynt galedu ychydig.

5

Mae’r peli yn barod ar gyfer yr adar. Gelli di eu hongian ar frigau’r coed neu eu rhoi ar fwrdd adar. Bydd yr adar wrth eu boddau!

6

Rho’r llinyn ar ben y mochyn coed a’i glymu yn sownd ar gyfer ei hongian.

Gan ddefnyddio cyllell neu lwy rho’r braster dros y mochyn coed gan ei wthio i mewn rhwng y pigau.

2 3

Gelli di ddenu adar gwahanol trwy ddefnyddio gwahanol fathau o hadau adar. Mae teulu’r titw yn hoffi hadau blodau haul neu bysgnau (peanuts) tra mae’r robin goch yn hoffi cymysgedd gyda phry genwair neu fwydod ynddo. Mae’r braster yn y peli yn rhoi egni i’r adar.

Rho’r mochyn coed gyda’r braster drosto yn yr hâd adar a’i rolio o gwmpas nes bod yr hadau yn glynu wrth y braster.

4

AM YSBRYD!'Paid a sefyll yn rhy agos at yr ochr Buddug!' Roedd y gwynt yn chwipio'r niwl i mewn o'r môr, ar ben hen fryngaer Geltaidd Tre’r Ceiri.'Pam dod yma heddiw?' cwynodd Buddug. Gwyliodd ei modryb Manon yn brasgamu yn ei blaen, ei sgert hir yn cydio yn y creigiau, ei gwallt fflamgoch yn chwyrlïo yn y gwynt yn union fel brenhines Geltaidd! 'Mae heddiw yn ddydd yr hen ŵyl Geltaidd, Samhain, Calan Gaea' ac rydan ni'n mynd i hela ysbrydion!' meddai.

Aeth iâs o ofn i lawr cefn Buddug. 'Edrych!' meddai Manon gan aros ynghanol cylch mawr o gerrig, 'Dw i'n meddwl mai yn fan hyn fyddai'r pennaeth yn byw, ac ar noson Galan Gaea' fel heno mi fyddai pawb yn eistedd rownd y tân yn sôn am arwyr oedd wedi eu lladd mewn brwydrau, ac yn gobeithio y bydden nhw'n cael cip eto ar ambell un.''Pam?' holodd Buddug. Doedd hi ddim eisiau gweld ysbryd neb, diolch yn fawr. 'Bydden nhw eisiau clywed am arwyr, pobl fel y frenhines Boudica, brenhines yr Iceni - Buddug, dy enw di! Roedd hi'n arwres go iawn. Yna ar noson Galan Gaea', roedd y Celtiaid yn credu fod y llen rhwng byd y marw a byd y byw yn deneuach. ' Aeth cryndod i lawr cefn Buddug wedyn. Doedd fan hyn ddim y lle i fod ar b'nawn Calan Gaea' felly, a'r nos yn nesu.'Be dachi'n 'neud?' holodd Manon tra'n eistedd ar y garreg

ar ganol y cylch a'i llygaid ar gau. Roedd pob man yn dawel, dawel a dim ond sŵn y gwynt trwy'r creigiau. Roedd yn niwl yn cau amdanynt gan lapio'r cerrig mewn blanced wen.'Shh!' meddai Anti Manon, 'Glywi di'r llais yna? Mae rhywun yn galw!' Tawelodd Buddug. Gallai glywed y gwylanod i lawr am y môr yn crïo ac oedd, roedd sŵn arall, sŵn llais yn galw o'r niwl. 'Budduugh, Budduugh...' Arhosodd Buddug yn hollol llonydd. Fedrai hi ddim symud modfedd. Roedd sŵn arall hefyd, clecian fel carnau ar gerrig, fel

sŵn y ceffylau rhyfel yn dod yn ôl i'r fryngaer. 'Budduugh!' meddai'r llais eto. Rhuthrodd Manon ar ei thraed a rhoddodd Buddug sgrech. Neidiodd siâp gwyn enfawr i ganol y cylch.'WAA!' 'Be oedd yna?' gofynnodd Buddug wedi iddyn nhw gyrraedd y llwybr. Arhosodd y ddwy i syllu i fyny yn ôl tua'r fryngaer. 'Ydach chi'n meddwl mai ysbryd un o arwyr y Celtiaid oedd yna go iawn?' holodd Buddug wedyn. 'Arwr, gwlanog efallai' meddai Anti Manon gyda gwên, 'ond nid o fyd y meirwon.. Mee!'

Page 4: Rhifyn 10 / Medi 2019 Y Cliciadur - cynnal.co.uk · 3 Cer Amdani Cer Amdani BWYD I’R ADAR Gyda’r gaeaf ar y gorwel mae’n bwysig cofio am roi help llaw i’r adar dros y misoedd

4

LLWYFANLLWYFANDrama Llenyddiaeth

Cerddoriaeth

Barddoniaeth

Teledu

Celf

Enw: Helo! Fy enw i yw Gari Jones, ond mae pawb yn fy adnabod i fel Gari Gwallt!

Swydd: Triniwr a steilydd gwallt. Rydw i hefyd erbyn hyn yn gyflwynydd ac ymchwilydd radio yn Sbaen (lle dw i'n byw erbyn hyn).

Lleoliad gwaith: Dw i'n gweithio yn Abir sydd tua 5 milltir o Benidorm, yn Sbaen.

Pethau gorau am y gwaith:Yn syml - creu! Dw i wrth fy modd yn cael y profiad o gwblhau steil a chodi calon y cwsmer gan wneud iddyn nhw deimlo fel model. Cofiwch mai'r peth cyntaf mae rhywun yn ei weld wrth edrych arnoch yw eich gwallt. Dyna eich coron!

Pethau sydd ddim mor dda am y gwaith: Gorfod gweithio mewn tymheredd poeth! Dwi yn yfed tua 3 litr o ddŵr y diwrnod ac mae hynny'n bwysig iawn yma. Er mod i wrth fy modd gyda'r edrychiad gorffenedig tydi gorfod codi am 5:00 y bore i wneud gwalltiau ar gyfer

priodas, neu ar set teledu ddim yn hwyl.

Beth wnaeth i ti fynd i wneud y gwaith yma? Pan ro’n i’n yr ysgol roedd yna ambell i wers digon diflas ond roeddwn i wrth fy modd gyda gwersi Drama, Cerdd a Gwyddoniaeth. Ie - Gwyddoniaeth, mae'n bwysig wrth drin gwallt - rydych yn trin a chymysgu cemegau bob dydd, gan gymysgu lliwiau ac ati.

Tip: Ceisiwch fynd ar brofiad gwaith i salon er mwyn i chi gael profiad o'r gwaith a meddwl os mai dyna fyddech chi'n hoffi ei wneud yn y dyfodol. Ewch i goleg i gael eich hyfforddi ac yna ewch ar gyrsiau i roi mwy o syniadau i chi ar steilio a lliwio.

Dal i ddysgu sydd ei angen yn y gwaith yma. Rydw i'n 44 oed ac yn dal i fynd ar gyrsiau er mwyn cadw i fyny â'r ffasiwn ddiweddaraf.

Pob lwc a mwynhewch! Adios Amigos - Gari Gwallt.

GWAITH A GYRFAOEDDGari Jones (Gari Gwallt)

BARDD PLANT CYMRU NEWYDD:

Ar y 1af o Fedi, 2019 bydd Gruffudd yn dechrau ei rôl newydd fel Bardd Plant Cymru. Daw Gruffudd o Bwllheli ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Wrth edrych ymlaen at y gwaith dywedodd:

“Mae hi’n fraint anhygoel i mi gael fy mhenodi fel Bardd Plant Cymru 2019-21. Mae barddoniaeth wastad wedi bod yn rhan bwysig o ‘mywyd i ers i mi fod yn sgriblo cerddi gwirion yng nghefn fy llyfr mathemateg yn yr ysgol gynradd! Does dim yn rhoi mwy o fwynhad i mi na gweld llond ystafell o blant yn chwerthin wrth wrando ar gerdd.”Wrth fyfyrio ar ei chyfnod fel Bardd Plant Cymru 2017-19, dywedodd Casia Wiliam:“Mi fydd fy mywyd yn fwy tawel a thipyn tlotach wrth i’r antur hon ddod i ben, ond yn bendant mae antur fawr yn aros am holl blant Cymru. Does gen i ddim amheuaeth y bydd Gruff yn

fardd plant hwyliog ac annwyl, fydd yn saff o ysgogi cerddi ysgubol ym mhob cwr o’r wlad.”

Caiff Cynllun Bardd Plant Cymru ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru a’i gefnogi gan Cyngor Llyfrau Cymru, Llywodraeth Cymru, S4C ac Urdd Gobaith Cymru.Am ragor o wybodaeth am gynllun Bardd Plant Cymru, gan gynnwys sut i wneud cais i Gruff ymweld â’ch ysgol chi, ewch i www.barddplant.cymru.

GRUFFUDD OWEN

Page 5: Rhifyn 10 / Medi 2019 Y Cliciadur - cynnal.co.uk · 3 Cer Amdani Cer Amdani BWYD I’R ADAR Gyda’r gaeaf ar y gorwel mae’n bwysig cofio am roi help llaw i’r adar dros y misoedd

PWYSO A MESUR

5

Sialens ychwanegol:Meddyliwch am 3 cwestiwn rhifedd i ofyn i ffrind sydd yn defnyddio’r wybodaeth yn y tabl uchod.

Rhaid i chi wirio eich atebion cyn eu rhoi i’ch ffrind cofiwch!

ANTI DOT YN DWEUD

POS PONTYDD

Mae nifer o bobl erbyn hyn yn penderfynu nad ydynt am fwyta cynnyrch anifail - maen nhw am fwyta diet figan. Dyma ddwy farn wahanol. Be’ wyt ti'n feddwl?

Be' ydi dy farn di?

Tyrd i drafod..Tyrd i drafod..

Wyt ti’n gweld darllen yn anodd weithiau? Dyma rai tips am be’ elli di wneud os wyt yn cael trafferth darllen rhywbeth:

Ateb y Pos Pontydd : Naw Pont Menai

Menai (neu Borth)Enw’r Bont

Hyd mewnmetrau

Llun

Hafren Akashi-Kaikyo Golden Gate Xihoumen

417 988 3,911 1,290 1,650

© Nathan Holth,HistoricBridges.org Llun gan pyzhou Llun gan Glabb

Sawl Pont Menai fyddai’n gallu ffitio ar Bont Akashi-Kaikyo? .............. (Ateb ar waelod y dudalen)

Dw i'n credu bod dilyn diet figan yn well i fy nghorff ac i'r blaned. Mae ffermio anifeiliaid i gynhyrchu bwyd yn greulon gyda nifer o'r anifeiliaid yn cael eu cadw mewn llefydd anaddas. Mae gormod o anifeiliaid fel gwartheg a defaid hefyd yn cynhyrchu nwyon sydd yn gwneud niwed i'r blaned.

Dw i o'r farn fod bwyta diet amrywiol yn well i fy iechyd. Mae'n anodd cael digon o brotîn trwy beidio bwyta bwyd fel cig, llaeth, caws ac wyau. Dw i'n credu fod llosgi tanwydd a thrafnidiaeth yn gwneud mwy o niwed i'r blaned nac anifeiliaid.Dwi hefyd yn credu fod ffermydd fel arfer yn gofalu'n dda am eu hanifeiliaid ac yn eu cadw dan amodau glân a diogel.

Dal ati!Dydy pawb ddim yn deall wrth ddarllen pethau am y tro cyntaf. Weithiau mae angen darllen brawddeg ddwy waith, neu dair gwaith (neu ddeg gwaith!) cyn eu deall.

Geiriau anodd. Paid â thorri dy galon wrth weld un gair anodd. Weithiau rwyt yn gallu darllen a deall gweddill y frawddeg a does dim ots os nag wyt yn deall un gair!

Dewis llyfr addas. Dewis llyfr sydd yn addas i ti. Does dim ots beth mae pawb arall yn dy ddosbarth yn ei ddarllen. Os wyt yn methu darllen mwy na tua 5 gair ar un dudalen efallai dy fod angen dewis llyfr ychydig yn haws.

Gofyn am help. Paid â bod ofn gofyn am help gan athro neu athrawes, staff eraill yr ysgol, ffrind, rhiant neu aelod arall o’r teulu.

Ymarfer. Fel popeth arall bydd dy ddarllen yn gwella wrth i ti ymarfer. Mae darllen am 10 munud bob dydd yn syniad gwych i wella dy sgiliau. Dwyt ti ddim yn mynd i wneud cynnydd wrth osgoi darllen!

Dyslecsia:Oeddet ti’n gwybod fod rhai pobl sydd â’r cyflwr dyslecsia yn ei chael yn anodd darllen? Mae’n ddiwrnod dyslecsia ar 4ydd Hydref.Ond dydi pawb sydd yn cael trafferth darllen ddim yn dioddef o ddyslecsia.

Page 6: Rhifyn 10 / Medi 2019 Y Cliciadur - cynnal.co.uk · 3 Cer Amdani Cer Amdani BWYD I’R ADAR Gyda’r gaeaf ar y gorwel mae’n bwysig cofio am roi help llaw i’r adar dros y misoedd

TI’N SEREN!

6

DAN Y CHWYDD WYDR PONTYDD

FIGANIAETH

Beth yw Pont Grog? (Suspension Bridge)Ar bont grog mae pileri bob ochr gyda rhaff neu gadwyn wedi eu crogi neu eu hongian rhyngddynt. Gall ffordd, rheilffordd neu lwybr cerdded wedyn gael ei hongian o’r rhaffau neu’r cadwyni. Mantais pont grog dros bont bwa (arch) yw’r ffaith y gall fod yn hir iawn a gall fod yn uchel iawn. Gall gael ei hadeiladu dros ddyffryn dyfn neu dros ddŵr, a chael digon o le i longau tal fynd oddi tani.

Pontydd Crog CymruUn o’r peirianwyr enwocaf yn Oes Fictoria oedd Thomas Telford a ddyluniodd Bont Menai a Phont Conwy yn 1826. Mae Pont Menai (neu Bont y Borth i rai) erbyn hyn yn un o Safleoedd Treftadaeth y Byd ac yn olygfa enwog iawn rhwng Ynys Môn a thir mawr Cymru. Pont grog enwog arall yng Nghymru yw Pont Hafren a godwyd yn 1966. Mae'n cysylltu De Cymru â Lloegr dros afonydd Gwy a Hafren.

© Nathan Holth, HistoricBridges.org

© Nathan Holth, HistoricBridges.org

PONT MENAI

PONT CONWY

PONT HAFREN

Pontydd Crog y BydPont Grog hira'r byd yw'r Akashi-Kaikyo yn Siapan sydd yn 3,911 metr. Un o’r pontydd crog enwocaf yn y byd yw'r 'Golden Gate Bridge' yn San Francisco, UDA sydd yn mesur 1,280m o hyd. Gyda hyd o 1,650m Pont Xihoumen yn China yw'r ail-hira’n y byd.

Efallai fod rhai ohonoch wedi bod yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst ac wedi ymweld â’r Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg yno. ‘Darganfod’ oedd prif thema’r pentref eleni ac yn sicr roedd digonedd i’w ddarganfod yno! Un o weithgareddau poblogaidd Grŵp Peirianneg a Gwyddoniaeth Gogledd Cymru yn y pentref oedd adeiladu pont grog. Y sialens oedd trefnu darnau'r bont yn gywir er mwyn adeiladu pont oedd yn ddigon cryf i bobl allu cerdded ar ei thraws.

PileriCadwyni/rhaffauLlwybr/

ffordd

Enw: Siwan Williams

Oed:13Mae aelodau fy nheulu i'n bwyta pethau gwahanol! Mae Dad yn bwyta popeth ond mae Mam, Nain ac Anti Rhian yn dilyn diet figan. Mae fy mrawd, fy chwaer a finne'n bwyta pysgod ond da ni wedi dewis peidio bwyta cig na chynnyrch llaeth.

Pam bod yn figan? Mae Mam, Nain ac Anti Rhian yn credu bod byw bywyd fel figan yn fwy llesol i'w cyrff, yn lleihau creulondeb yn y byd ac yn well i'r amgylchfyd.

Beth mae'n ei olygu? Dydy Mam, Nain na Anti Rhian ddim yn bwyta bwydydd sy'n dod oddi wrth anifeiliaid ac maen nhw'n osgoi gwisgo dillad ac esgidiau lledr. Mae hyn yn golygu mai bwydydd sy'n dod o blanhigion mae nhw'n eu bwyta e.e., llysiau, ffrwythau, cnau, hadau, perlysiau, salad a grawn cyflawn. Pan fyddan nhw'n prynu bwyd o'r archfarchnad maen nhw'n edrych yn ofalus ar

y labeli - mae'n syndod faint o fwydydd sy'n cynnwys llaeth buwch.Beth mae figaniaid yn ei fwyta fel arfer? Mae Mam yn trio sicrhau ein bod yn cael amrywiaeth dda o fwydydd ffres. Da ni'n gwneud pitsas ein hunain adre' gyda chaws figan arbennig. Dw i'n hoff iawn o basta ac mae Anti Rhian yn gwneud saws pasta sydd llawn llysiau a hadau - mae'n flasus dros ben. Da ni'n bwyta cawl cartref yn aml a dwi'n hoffi mynd a brechdanau efo fi i'r ysgol oherwydd does dim dewis eang o bethau ar gael i mi yn y cantîn yn yr ysgol ar hyn o bryd.

Ydy o’n anodd bod yn figan? Mae'n anodd mynd i barti pen-blwydd oherwydd yr holl ddanteithion melys llawn hufen a gelatin ond dwi'n gallu gwneud cacen sbwng figan

blasus iawn! Pan oeddwn i'n fach roeddwn i'n cael hufen iâ buwch yn achlysurol ac roeddwn yn dioddef efo pigyn yn fy nghlust wedyn! Diolch byth mae hufen ia Swedish Glace yn fendigedig ac mae Ben and Jerry's a Magnum efo pethau da i figaniaid erbyn hyn! Mae mwy o bobl yn arbrofi ac yn trio bwydydd figan felly mae mwy o bethau ar gael yn y siopau erbyn hyn. Mae Nain ac Anti Rhian wedi bod yn figaniaid ers dros 30 o flynyddoedd ac mae'n llawer haws iddyn nhw fwyta allan y dyddiau yma gan fod llawer mwy o ymwybyddiaeth o figaniaeth.

Page 7: Rhifyn 10 / Medi 2019 Y Cliciadur - cynnal.co.uk · 3 Cer Amdani Cer Amdani BWYD I’R ADAR Gyda’r gaeaf ar y gorwel mae’n bwysig cofio am roi help llaw i’r adar dros y misoedd

7

GWIBIO TRWYAMSERGWIBIO TRWYAMSER

PRYD?

BETH?

PRYD?

BETH? C A L A N G A E A F

a1 f T A HC W E D D

500: Dewi Sant (Rhifyn 1)1136: Cestyll Cymru (Rhifyn 3)1859: Trychineb Y Royal Charter (Rhifyn 8)

1867-1934: Marie Curie (Rhifyn 7)1912: Cyrraedd Pegwn y De (Rhifyn 6)1914: Cadoediad Dydd Nadolig yn y ffosydd (Rhifyn 5)

1942-1945: Anne Frank (Rhifyn 9)1948: Sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd (Rhifyn 4)1960au: Chwyldro’r Chwedegau (Rhifyn 2)

ERTHYGLAU A DYDDIADAU MEWN RHIFYNAU BLAENOROL O'R CLICIADUR

CALANGAEAF

Byddai llawer o bentrefi yng Nghymru yn gwneud coelcerth fawr oedd yn ganolbwynt i ddathliadau Calan Gaeaf. Roedd pobl y pentref yn canu ac yn dawnsio ac yn mwynhau eu hunain o amgylch y tân. Un arferiad oedd cael hyd i garreg, ysgrifennu eich enw arni ac yna ei thaflu i ganol y tân. Y bore wedyn, byddai pobl yn chwilio trwy ludw'r tân i gael hyd i’r garreg eto - roeddent yn credu fod lwc ddrwg yn dod i unrhyw un nad oedd yn gallu cael hyd i’w henw.

Calan Gaeaf yw’r enw ar ddiwrnod cynta’r gaeaf yng Nghymru, sef 1af Tachwedd. Y noson cynt yw Noson Calan Gaeaf neu Ysbrydnos, pan oedd pobl erstalwm yn credu fod ysbrydion yn gallu dod i’r ddaear yn enwedig wrth groesffordd, camfa neu fynwent!

Mae llawer ohonom ni heddiw yn dilyn arferion Calan Gaeaf neu Halloween o America, sef gwisgo i fyny, addurno tai, goleuo pwmpen a mynd o dŷ i dŷ yn casglu fferins (trick or treat). Ond mae arferion Calan Gaeaf yng Nghymru yn mynd yn ôl yn llawer pellach, rhai i gyfnod y Celtiaid.

SAMHAIN

Cynnau tân ac adeiladu coelcerthi:

Ysbryd Calan Gaeaf traddodiadol arall yng Nghymru yw’r Ladi Wen, dynes frawychus oedd yn gwisgo gwisg wen. Yn ôl y storïau roedd hi’n ymddangos yn ystod y noson er mwyn cipio plant oedd wedi bod yn ddrwg!

Mae’n debyg fod y Ladi Wen, fel yr Hwch Ddu Gwta wedi cael eu dyfeisio gan rieni i geisio gwneud yn siŵr fod eu plant yn ymddwyn yn dda ac yn dod adref yn gynnar ac yn ddiogel ar y noson dywyll hon!

Y Ladi Wen Er bod y traddodiad hwn yn mynd yn ôl i Oes y Celtiaid, mae'r arferiad yma yn parhau i gael ei chwarae hyd heddiw. Mae pobl yn rhoi afal i arnofio ar ddŵr mewn casgen neu bowlen ac mae’n rhaid ceisio ei ddal gyda’ch dannedd! Ers talwm, yn ôl y traddodiad merched oedd yn gwneud hyn a’r cyntaf i ddal yr afal fyddai'r cyntaf i briodi!

Twco Fale

Roedd y Celtiaid yn dathlu gŵyl o’r enw Samhain ar yr un adeg a’n Calan Gaeaf ni. Roedd Samhain yn nodi diwedd hanner golau'r flwyddyn a dechrau'r hanner tywyll (haf a gaeaf). Roedd y Celtiaid yn credu bod y ffin rhwng byd y byw a’r marw yn denau iawn ar y noson yma a bod ysbrydion yn gallu teithio i’r ddaear.

Yn ystod y dathliad yma roedd y Celtiaid yn croesawu ysbrydion da

eu hynafiaid (ancestors) i’w cartrefi ac yn dychryn ysbrydion drwg oddi yno drwy wisgo

dillad a mygydau (masks). Byddai cynnau tân, gwledda a lladd anifeiliaid fferm hefyd yn rhan o’r dathliadau. Mae rhai o’r

traddodiadau yma wedi parhau ar hyd y canrifoedd.

Un o'r straeon a'r traddodiadau sy’n cael ei gysylltu â Chalan Gaeaf yw'r Hwch Ddu Gwta. Ysbryd oedd hwn oedd yn ymddangos ar ôl i’r goelcerth losgi neu weithiau'n eistedd ar ben camfa ac yn ceisio bwyta unrhyw un oedd ddim yn ddiogel yn ei wely! Byddai plant yn rhedeg am adre’ gan weiddi:

Adre’, adre’ am y cynta’:Hwch Ddu Gwta a chipio’r ola’!

Yr Hwch Ddu Gwta:

Page 8: Rhifyn 10 / Medi 2019 Y Cliciadur - cynnal.co.uk · 3 Cer Amdani Cer Amdani BWYD I’R ADAR Gyda’r gaeaf ar y gorwel mae’n bwysig cofio am roi help llaw i’r adar dros y misoedd

8

Yn dilyn oriau o ymarfer yn y gampfa gyda'i dad, Martin, roedd yn rhaid i Celt nofio 200 medr, reidio beic am 8 milltir ac yna rhedeg 2 filltir. Camp a hanner! Go dda ti Celt.Gofynnodd Y Cliciadur i Celt am ei gynlluniau i'r dyfodol.'Wel hoffwn i wneud triathlon eto, blwyddyn nesa' efallai. O'dd e'n deimlad da a fi'n falch iawn o allu codi arian i ffrind arbennig.'Unrhyw uchelgais arall Celt?'Byddwn i wir yn hoffi bod yn mascot i Manchester United neu Abertawe, neu mascot i dîm pêl droed Cymru wrth gwrs gan mai dau o fy arwyr ydi Gareth Bale a Daniel James! '

Bydd dau rifyn o'r Cliciadur yn ymddangos ar Hwb bob tymor. Bydd y rhifyn nesaf ar gael ar ddydd Llun 18fed Tachwedd. Cofia gysylltu drwy e-bostio [email protected] - byddwn wrth ein boddau yn clywed dy farn a dy syniadau.

BLE GAWN NI FYND HEDDIW...?

Mae gwyliau'r haf yn teimlo'n bell iawn i ffwrdd erbyn hyn. Ond gyda'r hydref ar ddod mae digon o bethau difyr i'w gwneud yng Nghymru.

Mae'r gwyliau ha' yn teimlo'n bell iawn i ffwrdd erbyn hyn, ond gyda'r hydref ar ddod, mae digon o bethau difyr i'w gwneud yng Nghymru trwy'r flwyddyn. Mae'r Cliciadur wedi bod yn ymchwilio:

TRIATHLON

2

Os buest ti ar ymweliad a'r Eisteddfod yn Llanrwst eleni, efallai i chi weld rhaffau a rhwydi yn hongian o'r coed mewn coedwig wrth ymyl y Maes. Dyma Zip World Fforest, Betws y Coed. Lle gwych i fod yn wyllt!

Glanhau traethau Sain Ffagan

Zip World Fforest

1

16

Traeth Bae Langland, Abertawe,Dydd Sadwrn, 21ain Medi.

2 Traeth Harlech, Dydd Sadwrn, 21ain Medi.

3 Traeth Pensarn ger Abergele,Dydd Sul, 22ain Medi.

4 Traeth Aber Mawr ger Abergwaun,Dydd Sul, 22ain Medi.

Am fwy o fanylion ac i gofrestru clicia ar - https://www.mcsuk.org/beachwatch/greatbritishbeachclean

2

53

4

Mae Y Cliciadur hefyd am longyfarch Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan ar ennill statws Amgueddfa'r Flwyddyn 2019 trwy wledydd Prydain. Beth am ymweld? Mae'r mynediad am ddim ac mae cymaint i'w weld yno.

5

6

Llun gan Seth Whales

Llun gan Rudi Winter

TAIR CAMP CELT!

Daw'r gair Triathlon o'r iaith Groeg sef:treis - triathlos - cystadleuaeth

Rhedeg Seiclo Nofio

Rhaid bod yn heini a ffit iawn i gymryd rhan mewn triathlon. Mae'n rhaid medru:

Mae'n rhaid gwneud y tair camp un ar ôl y llall heb gymryd hoe yn y canol!

Dyna yn union bu Celt Edwards 7 oed o Ysgol y Frenni, Crymych yn ei wneud.Roedd Celt yn awyddus i godi arian at elusen Syndrom Pitt Hopkins i helpu ei ffrind Owen. Cafodd Celt ei noddi i wneud y triathlon ac mae wedi codi dros £2,000 yn barod! Mae Celt yn mwynhau chwaraeon, yn arbennig pêl-droed a rygbi ac mae'n chwarae i dîm pêl-droed dan 8 Sir Benfro.