pris i’r cyhoedd £2.50 gan gyngor cefn gwlad cymru

50
C YMDEITHAS E DWARD L LWYD Y Naturiaethwr Cyfres 2 Rhif 15 Rhagfyr 2004

Upload: others

Post on 23-Oct-2021

3 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

CYMDEITHAS EDWARD LLWYD

Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward LlwydPris i’r cyhoedd £2.50

Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdalgan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr

Cyfres 2 Rhif 15 Rhagfyr 2004

cover_winter_2004 9/12/04 4:40 pm Page 1

Page 2: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

Cymdeithas Edward Llwyd

Sefydlwyd Cymdeithas Edward Llwyd yn 1978 a hi yw Cymdeithas GenedlaetholNaturiaethwyr Cymru. Enwir y Gymdeithas ar ôl Edward Llwyd, a anwyd yn 1660 ac a alwyd ynei gyfnod “y naturiaethwr gorau yn awr yn Ewrop”.Cymraeg yw iaith y Gymdeithas, ac y mae dros 1,200 o aelodau led-led Cymru a thu hwnt. Prifddibenion y Gymdeithas yw astudio byd natur, yn cynnwys planhigion, anifeiliaid a chreigiau, ganhyrwyddo ymwybyddiaeth o amgylchedd a threftadaeth naturiol Cymru ac ymgyrchu droseu gwarchod. Mae’r Gymdeithas yn:

• trefnu cyfarfodydd awyr-agored ym mhob rhan o Gymru, i astudio ac i gerdded• cynnal cyfarfodydd gwaith cadwriaethol• trefnu darlithoedd a chyfarfodydd cymdeithasol• cynnal pabell ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol• cyhoeddi Y Naturiaethwr ddwywaith y flwyddyn• cyhoeddi Cylchlythyr ddwywaith y flwyddyn• cyhoeddi llyfrau ar enwau Cymraeg creaduriaid a phlanhigion• cynnig grantiau (£600) bob blwyddyn am waith gwreiddiol ym myd natur• lleisio barn gyhoeddus ar faterion amgylcheddol• trefnu pris gostyngol gyda nifer o siopau dillad ac offer awyr agored

Mae aelodaeth yn agored i bawb o bob oed sydd â diddordeb ym myd natur.Dyma’r tâl blynyddol:Unigolyn - £12Teulu - £18I ymaelodi neu am ragor o fanylion cysylltwch â’r Ysgrifennydd Aelodaeth:Iwan Roberts, 3 Rhes y Rheilffordd, Rhuthun, Sir Ddinbych LL15 4LJ.

www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk

Clawr blaen:

Eira ar y celyn.

Clawr ôl:

Eirlysiau

Lluniau: Goronwy Wynne

Lluniau’r Clawr

cover_winter_2004 9/12/04 4:40 pm Page 2

Page 3: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

Golygydd: Goronwy Wynne, “Gwylfa”,Licswm, Treffynnon, Sir Fflint CH8 8NQ.

Cymdeithas Edward Llwyd 2004 – 05

Llywydd: Dafydd Davies

Cadeirydd: Harri Willliams

Is-gadeirydd: Ieuan Roberts

Trysorydd: Ifor Griffiths

Ysgrifennydd: Megan Bevan, “Y BlewynGlas”, Porthyrhyd, Sir GaerfyrddinSA32 8PR.

Ysgrifennydd Aelodaeth: Iwan Roberts,3 Rhes y Rheilffordd, Rhuthun,Sir Ddinbych LL15 1BT.

Y NaturiaethwrCyfres 2, Rhif 15, Rhagfyr 2004.

Cyhoeddir Y Naturiaethwr gan GymdeithasEdward Llwyd.

Dyluniwyd gan: MicroGraphics

Argraffwyd gan: Cambrian Printers

Mae hawlfraint pob erthygl yn eiddo i’r awdur.

Y NaturiaethwrCyfres 2 Rhif 15 Rhagfyr 2004

Cynnwystudalen

Gair gan y Golygydd 3Goronwy WynneRhaniadau’r Traeth 4Bethan Wyn JonesNaturiaetheg yn oes J. Lloyd Williams 8Dewi JonesCynhyrfiadau Seryddol 15Aled JonesPwy Oedd Griffith Evans? 18Rosemary E. SolbéEnglyn Harri 20

Ble mae’r Tir a’r Môr yn Cyfarfod 21Paul BrazierDychweliad Otanthus i Fôn? 22R. A. JonesAdfer Glaswelltiroedd 26Ieuan RobertsDiogelu Cymru Wledig 29W. Brian L. EvansNodiadau Natur 32Frances Cattanach Amaeth, Natur a Pholisi 33Gareth Edwards-Jones a Geraint HughesDod i nabod ein gilydd - John Lloyd Jones 36Dilys ParryBe ’di’r enw Cymraeg am...? 37

Llun Pwy? 38

Diolch, Dafydd 40

Wyddoch chi.........? 41

Llythyrau 42

Adolygiadau 43Y Dyn a Blannai GoedTegwyn ThomasCacwn yn y Ffa G.W.

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 1

Page 4: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

CynhaliwydCynhadledd FlynyddolCymdeithas EdwardLlwyd eleni yn NantGwrtheyrn, canolfan iaitha threftadaeth Cymru gerLlithfaen ym Mhen Llyn.Roedd mwy nag erioedo’r aelodau yno a chafwyd

penwythnos ardderchog o ddarlithoedd,crwydro a chymdeithasu. Roeddem ynfalch o longyfarch ein sylfaenydd, DafyddDavies, ar gyrraedd ei ben-blwydd ynbedwar ugain (gweler tud. 40)

Ers rhai blynyddoedd bu gan yGymdeithas is-bwyllgor yr Amgylchedd odan lywyddiaeth Arwel Michael a diolchwniddo ef a’i dîm am weithio mor galed.Bellach, penderfynwyd mai’r ffordd ymlaenoedd cael rhywun i’n cynrychioli ar gorffcenedlaethol sy’n canolbwyntio ar ac ynarbenigo ar broblemau cefn gwlad a’ramgylchedd a chyda’r adnoddau o ranpobl ac arian i ddwyn pwysau effeithiol llebo angen. Penderfynwyd ar yr YmgyrchDiogelu Cymru Wledig a’n cynrychiolyddyw Brian Evans a fu’n ysgrifennyddCymdeithas Edward Llwyd am nifer oflynyddoedd. Yn y rhifyn hwn, mae Brianyn egluro’r cefndir (gweler tud….)

Rydw i’n hoff o bori trwy hen rifynnau’rNorth Western Naturalist a gyhoeddwydrhwng 1926 ac 1955 o dan olygyddiaeth AA Dallman a fu’n byw yn Sir y Fflint amrai blynyddoedd. Yn rhifyn Mehefin 1936,sonia am yr arfer newydd o werthu rhedynyn ardal Dolgellau. Roedd nifer o ddynionbusnes o Lundain wedi sefydlu cwmni ynoyn cyflogi 16 o ferched lleol, gyda Mr ECynan Thomas yn rheolwr. Gwaith y

busnes oedd casglu gwahanol fathau oredyn oddi ar y mynyddoedd a’r clogwynia’u pacio i’w hanfon i’r trefi mawr. Mae’rgolygydd yn poeni ac yn gweld yr arferiadfel bygythiad i’r planhigion lleol.

Tybed a oes rhywun sy’n cofio’r busnesneu’n cofio rhyw sôn amdano. Os oes,cofiwch gysylltu.

Cefais lythyr diddorol oddi wrth BarrySmith o’r Fenni yn ddiweddar yn tynnu fysylw at erthygl mewn papur lleol yncyfeirio at y Madfall Ddwr Gribog (GreatCrested Newt, Triturus cristatus). Yn ystodcyfnod o ledu rhan o Ffordd Blaenau’rCymoedd, gosodwyd ffens blastig irwystro’r madfallod rhag crwydro o’ucynefin i ganol peryglon y ffordd. Mae’rcreaduriaid hyn yn brin ac mae angenrheolaeth gaeth i’w gwarchod.

Ers rhai blynyddoedd, bu ymgyrchlwyddiannus i warchod cynefin y Madfallyn ardal Cei Cona yn Sir y Fflint a hefydyn Rhuddlan – gweler erthygl AustinSavage yn rhifyn diwethaf y Naturiaethwr(Gorff. 2004 tud 4)

G.W.

3

Gair gan y GolygyddGoronwy Wynne, Gwylfa, Licswm, Treffynnon,

Sir Fflint, CH8 8NQ.

Ffôn: 01352 780689

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 3

Page 5: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

Mae yna gyfaredd i mi yn swn a symudy môr ac wrth wylio’r tonnau’n torri ar ytraeth, ac yn arbennig felly ar draethcreigiog. Mae’r amrywiaeth gewch chi arlan y môr yn fy synnu i fwy a mwy, ynenwedig o ystyried yr amgylchiadau a’rperyglon sy’n wynebu planhigion acanifeiliaid ar lan y môr.

Y peth cyntaf sy’n rhaid i bob planhigynac anifail sy’n byw ar lan y môr ei wneudydi addasu i fyw gyda’r llanw, ac mae’n wiri ddweud mai ymchwydd y llanw ydi’r prifddylanwad ar fywyd ar y traeth. Mae’nwybyddus wrth gwrs bod yna lanwddwywaith y dydd a bod llanw’n digwyddo ganlyniad i rymoedd disgyrchiant rhwngy lleuad a’r haul a’r moroedd ar wyneb yddaear. Rydyn ni’n gyfarwydd yngNghymru â dau lanw’r dydd, hynny ydidau lanw uchel a dau lanw isel. Pan fo’rmôr i mewn, rydym yn dweud ei bod hi’nbenllanw, a phan fo’r môr allan, mae’ndrai neu’n ddistyll. Ond mewn gwirioneddmae yna 12 awr a 35 munud rhwng dau

benllanw, sy’n golygu bod llanw rhyw 50munud yn hwyrach bob dydd. Mae hyn yngolygu na fydd yna ddau lanw mewn undydd ar ryw adeg yn ystod y mis. Rhag imi orfod gwneud gormod o symiau, mifydda i’n prynu’r ‘Liverpool and Irish SeaTide Table’ sy’n dangos i mi ar bob dydd obob mis yn union pryd mae’n benllanw aphryd mae’n ddistyll. Mae’r tabl hefyd ynrhoi uchder y llanw i mi ac mae’n dangospryd mae’r lleuad ar ei thyfiant, prydmae’n llawn, pryd mae ar ei gwendid aphryd mae’n lleuad newydd.

Gwyddom fod y lleuad yn cylchdroi ogwmpas y ddaear mewn tua wyth diwrnodar hugain. Pan fo’r lleuad yn llawn a phanfo lleuad newydd mae’r ddaear, y lleuad a’rhaul mewn un llinell ac mae effaithgrymoedd disgyrchiant y lleuad a’r haulgyda’i gilydd yn creu llanw gydachyrhaeddiad mawr, sy’n cael ei alw’nllanw mawr neu’n orllanw ac yn Saesnegyn ‘spring tides’. Felly, mae yna ddau lanwmawr bob mis. Ar adegau pan fo’r lleuadyn hanner llawn (naill ai ar ei thyfiant neuar ei gwendid) mae’r lleuad a’r haul yn

4

Rhaniadau’r TraethBethan Wyn Jones

Mae Bethan Wyn Jones yn enedigol o Dalwrn, Ynys Môn, ac yn dal i fyw yno. Graddiodd mewn Swoleg yn Aberystwyth a bu’n gweithio i’r BBC ym Mangor fel cynhyrchydd rhaglenni Natur a Gwyddoniaeth. Bellach,

mae’n gweithio ar ei liwt ei hun yn ysgrifennu a darlledu.

Y traeth ar ben llanw

Y traeth gyda’r môr ar drai

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 4

Page 6: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

groes gongl y naill i’r llall ac felly mae llaio effaith grym disgyrchiant ar wyneb yddaear, sy’n golygu yn ei dro fodcyrhaeddiad y llanw’n llai, a dyna prydmae marddwr, neu ‘neap tide’ yn Saesneg.

Mae’r ffaith mai cylchdro eliptigol syddgan y ddaear o gwmpas yr haul hefyd yneffeithio ar y llanw, a phan fo’r ddaearagosaf at yr haul mae grym disgyrchiant arei gryfaf; ym misoedd Mawrth a Medi maecyfuniad grymoedd yr haul a’r lleuad yngolygu y byddwn ni’n gweld llanw mawriawn yn ystod y cyfnodau yma, sef llanw’rgyhydnos.

Gan fod y llanw’n codi a threio’n gysonddwywaith bob dydd, mae’n golygu bodgwahanol rannau o draeth creigiog yn caeleu gorchuddio a’u dadorchuddio gan ymôr ar wahanol adegau o’r dydd. Wrthwylio’n rheolaidd dros gyfnod o amserdaeth gwyddonwyr sy’n astudio bywyd ymôr i sylweddoli bod modd defnyddiouchder y llanw ar gyfnodau arbennig, felcyfeirbwynt:

MHWS Mean High Cymedr y Water Springs Gorllanw Mawr

MHWN Mean High Cymedr Gorllanw’rWater Neap Marddwr

MLWN Mean Low Cymedr Trai’r Water Neap Marddwr

MLWS Mean Low Cymedr Trai’r Water Springs Gorllanw Mawr

MTL Mean Tide Level Cymedr Lefel y Llanw

Felly, dydi’r môr ddim yn golchi rhywlawer iawn dros yr anifeiliaid sy’n byw ynuchel i fyny ar y traeth mewn man sy’ncyfateb i linell cymedr y gorllanw mawr.Golyga hyn y gallant fod allan o’r dwr amgyfnodau gweddol faith. Ar y llaw arall,pur anaml mae’r anifeiliaid a’r gwymonsy’n cartrefu ar hyd y llinell lle mae cymedry gorllanw mawr ar drai heb gael eugorchuddio gan y môr.

Yn amlwg, mae’n rhaid i’r creaduriaida’r planhigion sy’n tyfu mewn gwahanolfannau ar y traeth nid yn unig ymgodymuâ lefel y llanw ond mae’n rhaid iddynthefyd allu ymgodymu â’r newid sy’ndigwydd yn y tymheredd, er enghraifft. Arddiwrnod poeth yn yr haf, gall ytymheredd ar y lan godi’n llawer iawnuwch na thymheredd y môr, a pheryglmawr arall wrth gwrs ydi iddynt sychu ynyr haul a’r gwynt, a marw. Mae’r moddmae anifeiliaid a phlanhigion yn ymateb i’rnewid hwn ar hyd y traeth, yn ogystal âchystadlu am fwyd a lle rhwng gwahanolgrwpiau yn arwain at greu haenau ar drawsy traeth. Oddi mewn i’r gwahanol haenauyma, mi welwch chi wahanol greaduriaid aphlanhigion yn ogystal ag anifeiliaid sy’nymdebygu i blanhigion.

Rydyn ni’n eithriadol o ffodus ym Mônfod gennym ni nifer o draethau creigioggodidog sy’n wych ar gyfer sylwi ar ygwymon yn eu gogoniant. Un o’mffefrynnau i ydi Porth yr Ynys ym Moelfre.Mae’r traeth yn ymestyn rhwng Trwyn

5

Rhan uchaf y traeth yn dangos y perfedd gwyrdd

Llain y diferion

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 5

Page 7: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

Grupyl ac Eglwys Siglen gyferbyn ag YnysMoelfre.

I weld traeth creigiog ar ei orau, maeangen i chi fynd yno pan fo’r llanw ar drai.Os bydd hi’n ben llanw, ac yn enwedig osbydd hi’n llanw mawr, welwch chi ddimbyd – dim byd, hynny ydi, ond môr! Fellyanelwch am y traeth pan fo’r llanw allancyn belled ag yr aiff o, ac mi synnwch at yrhyfeddodau sydd yno.

Yn fras mi fedrwch chi rannu unrhywdraeth creigiog yn bedair rhan: ym mhenucha’r traeth mae’r rhan sy’n cael ei galw’nllain y diferion, wedyn mae’r rhan ucha, y

rhan ganol, a’r rhan isaf un ydi’r un syddagosaf at y môr. Unwaith eto, a defnyddiomesur y bawd, mi fedrwch eu rhannu nhwyn ôl eu lliwiau - mae llain y diferion ynoren neu’n ddu, y rhan uchaf neu’r ffinarforol yn wyrdd; brown ydi lliw’r canol achoch sy’n nodweddu’r rhan isaf.

Mae angen cymryd gofal, fodd bynnag,gyda’r lliwiau hyn; dydyn nhw ddim felhyn bob amser, ond mae’n rhoi bras syniadi chi o raniadau’r traeth. Os edrychwch chio bell ar y traeth creigiog, mi welwch chi’rlliwiau yma’n eithaf clir, ond ar rai adegaumae modd i chi weld tyfiant gwyrdd yngnghanol yr haen frown, ac mae hynweithiau yn gallu achosi penbleth – nes ichi sylweddoli mai tyfu ar y gwymonbrown ei hun mae’r gwymon gwyrdd hwn.

Gyda llaw, mi ddylwn i bwysleisio nadydi’r rhaniadau hyn ar draws y traeth yncyfateb i’r cyfeirbwyntiau sy’n cael eu nodigan y llanw. Dyma’r pedair rhan:

Llain y diferion Splash zoneGlastraeth Littoral fringeCanol y traeth Eulittoral zoneLlain isarforol Sublittoral zone

6

Y rhan ganol yn dangos y gwymon brown

Rhan isaf y traeth yn dangos y môr wiail

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 6

Page 8: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

Mae’r glastraeth a chanol y traeth gyda’igilydd yn gwneud y llain arforol (littoralzone), ond yn amlach na pheidio mae pawbyn cyfeirio at y rhannau fel llain y diferion,y rhan werdd, y rhan frown a’r rhan gochneu lain y môr wiail.

Mae llain y diferion yn cael ei ffurfio, felmae’r enw’n awgrymu, wrth i ddiferion o’rheli gael eu golchi o’r môr gan y gwynt a’rtonnau. Dim ond pan fo hi’n benllanw arlanw mawr neu pan fo storm go egr neuwynt cryf o’r môr y bydd y môr yn golchidros y rhan hon o’r traeth. Cen o bobmath geir yma ond yn bennaf cen oren,melyn, gwyn a du. Mi gewch chi hefydambell i rywogaeth o’r gwichiad yma a’rgragen long, ar y ffin rhwng llain y diferiona rhan uchaf y traeth creigiog.

Yn y rhan uchaf, neu’r rhan werdd, felmae’r enw’n awgrymu y cewch chi hyd i’rgwymon gwyrdd fel letys y môr (Ulva) a’rperfedd gwyrdd (Enteromorpha). Mi gewchchi hefyd y gwichiaid (Littorina), y gragenlong (Chthamalus stellatus) a’r gwymonrhychog (Pelvetia canaliculata).

Yng nghanol y traeth, ac fel arfer dyma’rdarn mwyaf o draeth creigiog, y cewchchi’r rhan frown, ac yma y gwelwch chi’rmwyafrif o’r gwymon sy’n perthyn i urdd yFucales, sef y gwymon brown cyffredin.

Dyma gynefin y gwymon codog mân(Fucus vesiculosus), y gwymon danheddog(Fucus serratus), a’r gwymon troellog(Fucus spiralis), ac yma hefyd y cewch chihyd i’r gwymon codog bras (Ascophyllumnodosum). Mi ddowch chi hefyd ar draws yllygad maharen (Patella vulgata), ygwichiad (Littorina), y gragen long(Semibalanus balanoides), cragen y moch(Nucella lapillus) a’r top môr (Gibbula).

Y rhan isaf ydi’r rhan lle cewch chi’rgwymon coch, fel y delysg (Palmariapalmata), y gwymon cwrel (Corallinaofficinalis), a’r môr wiail - y Laminariaenfawr, sy’n lliw aur/brown cyfoethog. O’rgwymon coch yr un mwyaf adnabyddusmae’n siwr gen i ydi Porphyra umbilicalis,sef bara lawr neu’r llafan, er y medrwchddod ar draws hwn yn gyffredin mewnrhannau eraill o’r traeth.

Yng ‘Nghywydd y Maen Gwerthfawr’mae cyfeiriad at “chwilio gem a chaelgwymon!”

Fy hun rydw i’n credu mewn mynd ilawr i lan y môr i edrych ar raniadau’rtraeth, i fwynhau’r haul a’r heli, ac wrthchwilio ymhlith y gwymon, rydych chi’nsiwr o ddarganfod gemau!

7

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 7

Page 9: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

Gadewch i ni ddechrau drwy sôn amLili’r Wyddfa, arwyddlun ein Cymdeithas.Edward Llwyd a’i darganfu fel y gwyrpawb ohonom, ac oherwydd ei bod ynhynod brin ac mai dim ond yn Eryri ymMhrydain y mae’n tyfu, enynnoddddiddordeb cenedlaethau o naturiaethwyr.

Dilynodd sawl botanegydd ôl troedEdward Llwyd i’r mynyddoedd hyn dros yblynyddoedd, rhai gyda chyfarwyddyd gany gwr mawr ei hun. Bu’r meddyg RichardRichardson yn llysieua yma yng nghwmniEdward Llwyd a phan ddaeth JohannJacob Dillenius a Samuel Brewer yma yn1726, roedd ganddynt lythyr ganRichardson yn rhoi cyfarwyddyd iddynt blei fynd i gael gweld y planhigion mwyafdiddorol. Gellir dadlau bod y llythyr hwnyn rhagflaenydd i’r guide-booksdiweddarach.

Pan ddaeth Lewis Weston Dillwyn aDawson Turner yma ar ddechrau’rbedwaredd ganrif ar bymtheg wrthbaratoi’r llyfr The Botanist’s Guide toEngland and Wales (2 gyf.1805) dywedenty buasai’n dda ganddynt petai’r llythyrhwn yn eu meddiant ar y pryd, cymaintyw’r wybodaeth sydd ynddo.

Yn ystod mis Awst y daeth Dillenius aBrewer yma, yn llawer rhy hwyr i weld yrhan fwyaf o’r blodau alpaidd yn eublodau, ond astudio’r planhigion isel, felmwsogl, llysiau’r afu, a chen oedddiddordeb mawr Dillenius. Yn dilynymadawiad Dillenius cyn dechrau’r gaeaf,

arhosodd Brewer am y flwyddyn ganlynol(1727) gan aros ym Mangor a Nant Peris(Llanberis ei oes ef). Cadwai ddyddiaduro’i deithiau, ac er ei fod wedi darganfodllawer o’r planhigion alpaidd eraill yn ystody Mehefin hwnnw, ofer fu ei ymgais i ddodo hyd i’r lili fach, ac meddai:

Sat. June the 3rd. Mr Green andI went again to Trigfylchau insearch of Bulbosa alpina whichas yesterday proved fruitless, thowe observed the directions ofboth Dr Richardson’s letters[Roedd hyn cyn i’r enwau gaeleu newid gan Linnæus. Hen enwarall ar y lili oedd Anthericumserotinum, cyn penderfynuanrhydeddu’r darganfyddwr a’igalw yn Lloydia serotina].

Mae’r dyddiadur gwreiddiol ar goll, hydy gwn i, ond fe’i cyhoeddwyd yn 1930 oarysgrif a fu unwaith yn eiddo i HughDavies, awdur y Welsh Botanology. Mae’rarysgrif bellach ar gadw yn Adran Botanegyr Amgueddfa Genedlaethol.

Roedd gan J. Lloyd Williamsddiddordeb mawr yn hanes datblygiadBotaneg yng Nghymru ac mewn erthygl aysgrifennodd ar gyfer y Western Mail mae’nsôn am ddyddiadur Brewer.

Yn wir, erbyn blynyddoedd olaf yddeunawfed ganrif ychydig iawn a wyddaiym mhle yn union i gael gafael ar y lili,traddodiad yn unig oedd bod y lili yn arfertyfu ar glogwyni’r Twll Du uwchlaw Cwm

8

Agweddau ar Naturiaetheg yn oes J. Lloyd Williams

Dewi Jones

Darlith a draddodwyd yng Nghynhadledd Flynyddol Cymdeithas Edward Llwyd yn Nant Gwrtheyrn, 24 Medi 2004

Y mae Dewi Jones yn byw ym Mhenygroes, Dyffryn Nantlle, ac mae’n hoff o grwydro’r mynyddoeddac astudio’r planhigion Arctig-Alpaidd. Mae’n awdur nifer o lyfru a’i gyfrol ddiweddaraf yw

astudiaeth o fywyd a gwaith J Lloyd Williams: Naturiaethwr Mawr Môr a Mynydd.

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 8

Page 10: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

Idwal. Yr oedd yn arferiad cadw safleoeddo’r fath yn gyfrinach ac un o’r cyfryw rai awyddai am safle’r lili yn y Twll Du erbynyr adeg honno oedd y meddyg esgyrnOwen Rowlands, Blaen y Nant (1742-1817). Gwrthododd ddatgelu’r gyfrinacher bod nifer wedi ceisio cael y wybodaethganddo ac ni ddatgelodd ei gyfrinach nesoedd ar ei wely angau.

Mae’r ffaith nad yw’r lili yn ei blodauond am ryw gwta bythefnos yn ei gwneudhi’n anodd ei gweld. Rhaid mynd i’wchynefin ar yr union amser. Os byddwchyn rhy hwyr, y cwbl a welir yw tusw o ddailhirfain tebyg eu ffurf i frwyn ifanc. Dyma’rrheswm dros ei galw’n Brwynddail yMynydd, ond enw J. Lloyd Williams arnioedd Lili Eryri. Gellir dadlau bod hwn ynenw mwy addas, gan fod y lili yn tyfumewn mwy o gynefinoedd o amgylch yrWyddfa nac ar yr Wyddfa ei hun. EnwWilliam Morris o Fôn arni oedd YBryfedog, a Nionyn Bach oedd enw ewythrJ.Lloyd Williams a drigai yn Nant yBenglog. Gwelais y Lloydia yngNghlogwyn Du’r Arddu a ChwmglasMawr ar yr Wyddfa, ond ceir hi hefyd ar yGlyderau ac mae’n tyfu yng nghyffiniau’rYsgolion Duon ar y Carneddau.

Wrth fynd trwy bapurau a nodlyfrau J.Lloyd Williams yn y LlyfrgellGenedlaethol, cefais hyd i’w gofnodion yndisgrifio’r digwyddiad pan ddarganfu ef ylili am y tro cyntaf a hynny o ganlyniadiddo ollwng ei ysbienddrych i lawr yclogwyni.

Roedd wedi sgrialu at y clogwyni yngNghwm Idwal y diwrnod hwnnw ac fedynnwyd ei sylw gan glustog o dyfiantpinc. Wrth fynd yn nes ato gwelodd maisypyn o’r Gludlys Mwsoglyd ydoedd. Ynddamweiniol, llithrodd ei ysbienddrychopera (a gariai er mwyn cael gwell golwg arblanhigion nad oeddent o fewn cyrraedd) ilawr y creigiau ac aros ar silff gryn bellteryn is i lawr. Bu’n rhaid iddo ddringo ilawr i’w chyrchu. Wrth ddechrau dringo’nôl sylwodd ar flodyn bychan gwyn yn tyfumewn agen yn y graig yn uwch i fyny.Tynnodd ei ysgrepan a dringodd yn nes

ato a chanfu mai Lili’r Wyddfa ydoedd. Iwneud yn sicr dywed iddo ddefnyddio’idrywel a chrafu tafell o’r graig dan yblodyn yn rhydd, a gweld y bwlb a’rgwreiddiau.

Mae gweithred o’r fath yn swnio’nanghyfrifol iawn i ni heddiw o safbwyntcadwraeth. Erbyn hyn mae’r lili, ynghyd ânifer o blanhigion arbennig eraill, yn caeleu gwarchod gan ddeddf gwlad, ond roeddpethau’n dra gwahanol yn ystod yr oeshonno.

Cyhoeddodd J. Lloyd Williams erthyglhynod ddiddorol yn Y Ford Gron ynAwst,1933 o dan y penawd “Cripian ar ôlLili Eryri”. Ynddi mae’n honni iddoddarganfod safle newydd eto i’r lili, ondwn i ddim ym mhle mae’r safle hwnnw.Soniai am ei ewythr o Nant y Benglog, a

9

Lili’r Wyddfa Lloydia serotina

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 9

Page 11: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

oedd wedi bugeilio’r llethrau oddi amgylchar hyd ei oes. Tuedd ganddo oeddrhamantu am y Nionyn Bach, chwedlyntau. Yn ôl yr hen fugail, dim ond ar y 15Mai roedd y Nionyn Bach yn blodeuo acos am ei gweld ar ei gorau rhaid oeddmynd ati ganol dydd. Os am gyrraedd ati,rhaid oedd gollwng dyn i lawr tair o raffauchwarel ynghlwm i’w gilydd. Dywedaihefyd ei bod yn tyfu ar y Clogwyn Duymhen y Glyder mewn man lle nad oeddgolau dydd byth yn ei gyrraedd. Rhamanthollol eto, ond credai’r hen fugail bob gaira ddywedai; onid oedd yn flaenor parchusyng Nghapel yr Annibynwyr yn y Nant!

Gan fod J. Lloyd Williams yn arbenigwrar blanhigion Arctig-Alpaidd Eryri byddaillawer yn gofyn iddo eu harwain i weld yplanhigion prin. Yn yr hen amser, arwahân i gasglu llysiau meddyginiaethol,dau brif uchelgais oedd gan fotanegwyr: unoedd ffurfio casgliad o bob math o lysiaugwyllt, yn enwedig rhedyn, eu sychu a’ugwasgu a’u cadw mewn Herbariwm, ynunion fel casglu stampiau; y llall oeddgwybod trigfan pob llysieuyn prin, a gwellfyth gallu dweud ei fod wedi gweld yllysiau’n fyw yn y lleoedd hynny.

Roedd yn arferiad gan bob llysieuyddbryd hynny gario fasgwlwm, sef tunpwrpasol i gario planhigion. Codwyd pobllysieuyn yn ofalus o’r gwraidd a’i roi yn yfasgwlwm gyda mwsogl o’i amgylch i’wgadw’n ffres. Wedi cyrraedd gartrefbyddai’n mynd ati i wasgu a sychu’rplanhigion cyn eu gludo gyda stripiau obapur cul yn sownd ar ddolen lân o bapur.Ceid cyfarwyddyd ar sut i gyflawni’rgorchwyl hwn mewn hen lyfrau planhigion– tipyn o grefft.

Bu’r piser hwn (y fasgwlwm) hefyd yngyfrwng i lysieuwyr ddod i adnabod eigilydd allan yn y maes. Roedd fel bathodyniddynt ac yn sicr o godi sgwrs rhwng rhai ogyffelyb anian ac weithiau’n arwain atgyfeillgarwch a oedd i barhau am oes. Maellythyr yng nghasgliad J. Lloyd Williamssy’n cadarnhau iddo gyfarfod a llysieuyddo’r enw Cecil Prescott Hurst ymysg ycreigiau dan y Twll Du un tro ac i J. Lloyd

Williams roi sbesimen o Lili’r Wyddfaiddo. Y piser mae’n debyg wedi tynnusgwrs rhwng y ddau. Fel gwerthfawrogiadam hynny anfonodd Hurst sbesimen oEilun Briweg (Minuartia sedoides) o’rAlban i J. Lloyd Williams wedi’i gasglu oBen Lawers. Dyna’r arferiad bryd hynny.

Yn ôl ei gyfaddefiad ei hun, daeth J.Lloyd Williams yntau dan ddylanwad ychwiw gasglu ryfedd hon, ond cafoddryddhad ohoni mewn modd digonannisgwyl. Daeth ato fotanegydd a oeddnewydd gyhoeddi llyfr fflora sirol (catalogo enwau planhigion gwyllt unrhyw sir) aoedd am gael sbesimen o’r DduegredynenFforchog (Asplenium septentrionale), sy’nparhau i ffynnu mewn safleoedd o amgylchLlanrwst, cartref J. Lloyd Williams. Wrthgerdded yn ôl wedi codi rhai o’r rhedyn,cynigiodd J. Lloyd Williams fynd â’r dyndieithr i weld rhedynen brin arall a oedd yntyfu nid nepell o’r fan. Gwrthododd yntaugan ddweud bod ganddo sbesimen ohonoyn barod yn ei gasgliad. Sylweddolodd J.Lloyd Williams fod y diddordeb yn darfodyn rhai o’r casglwyr ffasiynol hyn cyngynted ag yr oedd ganddynt sbesimen yneu Herbariwm.

Yn ei dro cafodd ei gyflwyno drwygyfaill i Athro o Rydychen a fynnai gaelsbesimen o Lili’r Wyddfa. Uchelgais hwneto oedd cael gweld y planhigion yn eucynefin naturiol ac wrth gwrs codisbesimen ohonynt ar gyfer ei gasgliad.Cyfarfu’r ddau ger Ogwen Cottage. Daethyr Athro yn ei closed carriage a’r Cymro arei feic. Gofynnodd yr Athro drwy ffenestr ycarriage ym mhle roedd y blodyn yn tyfu, aphwyntiodd J. Lloyd Williams tuag at yclogwyni uchel a oedd ar y pryd wedi’ugorchuddio dan gymylau bygythiol.Cymerodd y dyn dieithr un olwg tua’r lle agorchmynnodd i’r gyrrwr gychwyn arunwaith yn ôl am Stesion Bangor ganddweud y deuai yn ôl y flwyddyn nesaf.

Felly y bu, a’r tro hwn roedd hi’nddiwrnod clir a chychwynnodd y ddautua’r clogwyni. Doedd gan y “Don” ddimesgidiau addas i ddringo mynyddoedd.Gwadnau llyfn esgidiau trefol oedd

10

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 10

Page 12: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

ganddo, ac fel yr âi’r llethr yn fwy serthllithrai yntau yn ei ôl ar y cymysgedd owair byr, tir wedi’i erydu a cherrig mân.Roedd o fwy ar ei ben ôl nac ar ei draed.Ychydig bellter cyn cyrraedd safle’r Lloydiadyma’r Athro yn sefyll yn stond. Roeddwedi’i barlysu’n llwyr gan y bendro.Gorweddai ar ei fol fel petai wedi fferrugan ofn ar y llethr a’i lygaid ynghau ganafael yn dynn yn unrhyw beth a allai gyda’ifigyrnau’n wyn. Ceisiodd J. Lloyd Williamsei ddarbwyllo, gan ei gysuro ei fod bron ofewn cyrraedd y lili, ond gwrthododd ynglir ac agor ei lygaid na symud yr unfodfedd ymhellach. Gorfu i J.LloydWilliams gyrraedd at y clogwyn a chodisbesimen iddo, a cheisio ei arwain i lawr ynôl i dir mwy gwastad, ac felly y bu. Wrthgwrs, ar ôl cyrraedd tir gweddol wastadroedd y Don yn teimlo’n eithaf gawr, onddyma un blodyn na allai frolio ei fod wedi’iweld yn tyfu yn ei gynefin - am fod eilygaid ynghau! Yn ystod yr wythnosganlynol roedd y stori wedi mynd ar led ogwmpas Rhydychen am ryw “MadWelshman” yn rhyfygu drwy arwain Athroparchus ar hyd clogwyni peryglus i weldrhyw flodyn prin.

Dyma oes a welodd y chwiw ryfedd ogasglu rhedyn a ledaenodd drwy’r wlad otua 1830 ymlaen. Hwn oedd ffefryn bobloes Fictoria. Dywedodd J. Lloyd Williamsei hun ei fod yn well ganddo yntau’r rhainna’r blodau lliwgar.

Roedd y bobl gyffredin hwythau yn elwao’r chwiw gasglu. Mae J. Lloyd Williamsyn sôn yn ei hunangofiant am ferchedLlanrwst yn gwerthu rhedyn fesul basgedyn y Stesion ar ddiwrnod Ffair Llandudno.Honnai rhai bod eu rhedyn hwy yn briniawn a dim ond yn wybyddus i’r gwerthwrac arferent fathu enwau eu hunain arnyntfel y “Prince of Wales Feathers”, ondroedd ambell aelod o’r dosbarth gweithiolyn dipyn o arbenigwr yn y maes. Soniai J.Lloyd Williams yn ei ddyddiaduron iddogyfarfod â chwarelwr yn Llanberis âchanddo gasgliad personol o wahanolredyn wedi’u casglu ei hun. Roedd rhai o’rtywysyddion mynydd yn arbenigo ac ynelwa drwy dywys ymwelwyr at safleoedd yrhywogaethau prin, neu drwy ddringo’rclogwyni i’w casglu ar eu rhan.

Dywedodd gwraig, a ddaeth i Eryri ardaith gasglu, mewn erthygl a gyhoeddoddyn anhysbys mewn cylchgrawn garddio yn1867, ei bod wedi llogi tywysydd botanegol

11

Y Llugwe Fawr Trichomanes speciosum (Killarney Fern), a’i chynefin, Moel yr Ogof.

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 11

Page 13: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

a weithiai yn Chwarel Dinorwig, ond hebei enwi. Cywilyddiai wrth glywed ganddosut yr ymdrechodd i addysgu ei hun mewnbotaneg a hithau wedi derbyn ei haddysgmor hawdd.

Here and there, amongst thevery poor, you meet with anature-formed botanist. I foundsuch a one and had to blushagain and again at my own poorand lazily-acquired attainments,as he explained to me, in brokenEnglish, through whatdifficulties he had climbed thetree of knowledge, his “dimSaesneg” and dim Latinstanding in his way at every step.

Drwy ymchwilio ymhellach, deallais maichwarelwr o’r enw Hugh Lewis oedd ybotanegydd hunan-addysgiedig hwn, ac fewyddai cystal ag unrhyw un am safleoedd yplanhigion prin.

Yna cofiais am yr awdures FictorianaiddElizabeth Gaskell wrth iddi roi disgrifiad owyddonwyr dosbarth gweithiol yn ei nofelMary Barton, a tale of Manchester life.Rhydd Mrs Gaskell ddisgrifiad gwych owehyddion cyffredin swydd Gaerhirfryn:

There are botanists among them,equally familiar with either the Linnæan orthe Natural system, who know the nameand habitat of every plant within a day’swalk from their dwellings; who steal theholiday of a day or two when anyparticular plant should be in flower, andtying up their simple food in their pockethandkerchiefs, set off with single purposeto fetch home the humble-looking weed.

Cawn bennill gan y bardd EbenezerElliott i grynhoi:

Learned he was; nor bird, norinsect flew, But he its leafy homeand history knew;Nor wild-flower decked therock, nor moss the well,But he its name and qualitiescould tell.

Gallai’r pennill hwn fod yn berthnasol idywysyddion a chwarelwyr Eryri ynogystal.

Os trowch i dudalen 153 o lyfrardderchog y diweddar William Condry arBarc Cenedlaethol Eryri ceir adroddiadhynod ddiddorol ganddo sy’n sônamdano’n crwydro’r mynyddoedd wrthwneud y gwaith ymchwil ar gyfer ei lyfr.Wrth baratoi ar gyfer noson o wersyllaallan dan y sêr meddai:

I unrolled my sleeping-bag by amurmuring stream and went tosleep ... thinking of the botanistJ. Lloyd Williams who, when ayoung schoolmaster here yearsago, found the Killarney Fern,Snowdonia’s rarest species ... Ithas not been seen since becausethe precise locality was neverrecorded; but it probably growsthere still in the spray and shadebehind some little waterfall. Sothere is a challenge!

Yn wir, yn ystod blynyddoedd hannercyntaf yr ugeinfed ganrif bu llawer ochwilio ar fynyddoedd cadwyn MoelHebog am y rhedynen brin hon addarganfu J. Lloyd Williams, a dyma’rstori.

Yn ystod ei gyfnod fel Prifathro YsgolGarn Dolbenmaen gwnaeth J. LloydWilliams ddarganfyddiad pwysig yn y maeshwn ac fe’i cyhoeddwyd yn y Journal ofBotany yn 1887:

In July last I found a very goodspecimen of Trichomanesradicans [Llugwe Fawr neuRedynen Cilarne, Trichomanesspeciosum bellach] growing in adamp hole near the top of arange of mountains. Notknowing the locality in whichthis fern was discovered before Icannot guarantee but that thisone is identical with it, and forthe same reason as that whichinduced the locality reported in1865 to be kept secret, I musttake the same precaution in thiscase. I may state, however, thatit was not found on any part ofSnowdon.

12

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 12

Page 14: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

Yn 1863, nid 1865, y gwnaed ydarganfyddiad cyntaf o’r Llugwe Fawr ynEryri. Tyfai’n gryf yn rhywle ar yr Wyddfaar un adeg, gyda rhai o’r ffrondau agasglwyd dros ugain modfedd o hyd, ondni wyr neb bellach ymhle’r oedd y saflehwn.

Mae’r Llugwe Fawr erbyn heddiw danwarchodaeth deddf gwlad a rhan helaetho’r mynydd-dir lle mae’n tyfu yn Safle oDdiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI).Mae’n rhaid iddi gael cyflenwad cyson owlybaniaeth ac nid yw’n hoff o ormod oolau dydd, felly ogofeydd bychain neuagennau tu cefn i raeadrau yw eu hoffgynefin.

Roedd darganfod planhigyn mor brinmewn safle newydd yn bluen yng nghap yllysieuydd ifanc, ac, o gofio’r casgluanghymedrol oedd yn bodoli bryd hynnyrhaid oedd cadw gwybodaeth o’r fath yngyfrinachol. Ond fe ddywedodd J. LloydWilliams wrth rywun yn Y Garn am eiddarganfyddiad gan ychwanegu y buasai’ncael swm digon taclus o arian am yrhedynen gan gasglwr neu feithrinwr. Panddychwelodd i’r safle yr eilwaith roedd yrholl redyn wedi diflannu.

Dywed yn ei hunangofiant nad oedd sônamdani’n ail-dyfu yn yr hen guddfan cyniddo ymadael â’r Garn am SouthKensington yn 1893. Ni welodd hi ynowedyn am 24 blynedd (1917), pan oedd ynddarlithydd ym Mangor. Roedd ynAberystwyth ers 1915! Mae tystiolaeth argael fodd bynnag bod J.E.Griffith, Bangorwedi codi deilen ohoni o’r safle hon yn1891, ac mae’r ddeilen honno ar gadw ynyr Amgueddfa Genedlaethol. Yn ôldyddiadur J.Lloyd Williams, dywedir maiyn 1922 y gwelodd ef hi wedi ailymddangos. Erbyn hynny, roedd yn dalCadair Fotaneg Prifysgol Cymru ynAberystwyth.

Gan nad oedd manylion wedi’ucyhoeddi am safle’r Llugwe Fawr roeddsawl botanegydd proffesiynol ac amaturwedi bod yn chwilio amdani oddi ar 1887.Fel y dywedais, llwyddodd J.E. Griffith igael ffrond ohoni, yn fwy na thebyg drwy

gyfarwyddiadau J.Lloyd Williams, ac mae’ncydnabod enw’r darganfyddwr ar dudalen165 o’i Flora of Anglesey & Carnarvonshirea gyhoeddwyd yn 1894/5.

I have seen this fern growing,undoubtedly wild, in one placeonly. This was first found byMr. J. Lloyd Williams. I refrainfrom giving the locality as it is sorare.

Yr unig gliw oedd ar gael am safle’rLlugwe Fawr oedd cyhoeddi enw’rmynydd, sef Moel Hebog, yn argraffiadaucynnar o’r Welsh Ferns (1940). Roedd poblfel Evan Roberts, Capel Curig wedi bodwrthi’n chwilio’n ddyfal, ond y duedd oeddmynd i chwilio ochr y mynydd yn groes i’rlle’r oedd y safle. Ond yn 1945cyhoeddodd J. Lloyd Williams y 4eddgyfrol o’i hunangofiant ac yn hwnnw cawnenw’r cwm, sef Cwm Llefrith. Y cliw yn yllyfr oedd bod J. Lloyd Williams weditrefnu i gyfarfod criw o fotanegwyr ar gyfertaith i Gwm Llefrith. Cyrhaeddodd y mancyfarfod hanner awr o flaen y lleill. O ranchwilfrydedd aeth i weld yr hen safle allonnodd drwyddo o weld bod y rhedynenwedi ail dyfu. Cymerodd un ffrond ohoniac aeth i lawr y mynydd i gyfarfod y lleill.Dangosodd y ffrond iddynt ond wnaeth oddim datgelu’r gyfrinach i’r un ohonynt lleyn union yr oedd yn tyfu. Yno y buontdrwy’r dydd yn llysieua. Aeth â’i gyfrinachgydag ef i’w fedd.

Wel, doedd dim dal erbyn hyn ar ychwilio wedi i’r cliw ymddangos yn y llyfr.Ceisiai pawb ddamcanu ym mhle y buasaiymwelwyr yn cyfarfod ar gyfer myndymlaen i Gwm Llefrith, ac yna amseru euhunain drwy gerdded hanner awr o’r fanhonno i fyny’r mynydd ac yn ôl. Ond, fel ydywedodd Bill Condry ni ddaeth unrhywun o hyd i’r safle hyd at 1966. Blwyddynar ôl cyhoeddi llyfr Bill Condry, sef 1967,daeth Gomer Hughes o hyd iddi ynddamweiniol wrth iddo chwilio am fwsogl,yn ôl pob sôn.

Ond nid dyna ddiwedd y stori, mae’rrhan nesaf ohoni yn rhoi tro annisgwyl arbethau ac yn creu tipyn o ddirgelwch.

13

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 13

Page 15: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

Rwan, dychmygwch weinidog parchusyn crwydro’n llechwraidd ar hyd llethrauMoel Hebog gan daflu ambell i olwg sydyndros ei ysgwydd rhag ofn bod rhywun â’ilygaid arno. Ei berwyl y diwrnod hwnnwoedd ail ymweld â safle rhedynen brin addarganfu ynghynt.

Thomas Pritchard Edwards oedd y gwrhwn, brodor o Gaerwys, “Caerwyson” i roiei enw barddol arno. Bu’n weinidog gyda’rWesleaid ym Mlaenau Ffestiniog a bu’nolygydd Y Rhedegydd o 1899 hyd at 1906.

Mae rhan Caerwyson yn stori’r LlugweFawr yn deillio o’r ffaith ei fod wedicyhoeddi erthygl sy’n dwyn y pennawd“Hamddenau ym myd adar a rhedyn” yn ycylchgrawn Cymru (coch) ym mis Mehefin1921. Yn yr erthygl hon, mae’n honni iddoweld y Llugwe Fawr yng Nghwm Llefrithddeufis o flaen J. Lloyd Williams. Gan nadoedd unrhyw fanylion wedi’u cyhoeddi amy safle yn gynharach na 1945 pangyhoeddwyd y 4edd gyfrol o hunangofiantJ. Lloyd Williams, mae’n rhaid derbynhoniad Caerwyson fel ffaith. Mae eiddisgrifiad o’r safle yn cyfateb i un J. LloydWilliams. Mae’r ddau yn dweud bod tuswo Dafod yr Hydd wedi tynnu eu sylw ac oganlyniad wedi eu hysgogi i chwilioymhellach, a hefyd mae’r ddau’n cytuno i’rsafle gael ei reibio’n ddiweddarach.

Mae’n rhaid derbyn bod y ddau wedigwneud yr un darganfyddiad fwy neu lai yngyfamserol, ond bod J. Lloyd Williamswedi penderfynu cyhoeddi’n syth, aChaerwyson wedi penderfynu cadw’rgyfrinach iddo ef ei hun hyd nes cyhoeddiei erthygl yn 1921.

Yr hyn sy’n ddiddorol am erthyglCaerwyson yw’r awgrym ei fod wedidarganfod safle arall i’r Llugwe Fawr yngNgheunant Llennyrch. Bûm yn chwilotaCeunant Llennyrch o dro i dro ac mae’rrhedynnau a enwir gan Caerwyson yn eierthygl yn dal i dyfu yno, ond welais iddim golwg o’r Llugwe Fawr. Pan ddaethFred Rumsey (Dr Rumsey bellach) yma ynfyfyriwr ifanc i gynnal ei arolwg argametoffyt y Trichomanes cafodd hyd i rai

yng Ngheunant Llennyrch, ond fel finnaudim un sboroffyt.

Honnai Caerwyson hefyd ei fod yn aelodo’r FLS (Cymrawd o’r GymdeithasLinneaidd), ond mewn ateb i lythyr aanfonais at y Gymdeithas i gadarnhau hynymddengys nad oes sail i’r honiad.

Un sylw a welais yn nodlyfrau J. LloydWilliams am Gaerwyson: “What a curiouscharacter C. is. A failed Indep. Preacher -but a born naturalist who tramps all overthe hills.” Mae’n debyg na chawn bythwybod popeth am yr hanes diddorol hwnbellach, ond erys ar feddwl llawer sy’n hoffo grwydro llethrau Eryri i sbrowta.

Mae bron i chwarter canrif wedi myndheibio ers i mi lwyddo i ddod o hyd i Lili’rWyddfa yn un o’i chynefinoedd yn Eryri, athua’r un faint o amser ers i mi ddarganfody Llugwe Fawr yn safle J. Lloyd Williams.Byddaf yn mynd o dro i dro ar bererindodi’r safleoedd hyn, ac mae’r wefr a brofaisflynyddoedd yn ôl yn parhau o hyd, o gaelsefyll yn yr union fan lle gynt y bu’rmawrion.

Ffynonellau a darllen pellach:

W.M. Condry, 1996 The Snowdonia National ParkCollins New Naturalist, London.

H.A. Hyde, 1931 Samuel Brewer’s Diary ad-argraffiad o adroddiad y B.E.C. 1930.

Dewi Jones, 1996 The Botanists and Guides ofSnowdonia Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst

Dewi Jones, 2002 “Nature-formed botanists:notes on some nineteenth century botanical guides ofSnowdonia” Archives of Natural History 29 (1): 31-50.

Dewi Jones, 2003 Naturiaethwr Mawr Môr aMynydd: bywyd a gwaith J. Lloyd Williams GwasgDwyfor, Pen y groes

Peter Rhind / David Evans (Ed.) 2001 The PlantLife of Snowdonia Gwasg Gomer, Llandysul.

Dawson Turner (Ed.) 1835 Extracts from theLiterary and Scientific Correspondence of RichardRichardson M.D., F.R.S. Yarmouth.

14

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 14

Page 16: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

Rhywbryd rhwng deg ac unarddeg o’rgloch nos Fawrth, Mawrth 13, 1781, yroedd William Herschel yn ei ardd ynedrych ar y sêr yn nhref Caerfaddon.Cerddor a ymddiddorai mewn seryddiaethoedd Herschel, ac o ganlyniad i’r hyn awelodd drwy ei delesgop y noson honnonewidiwyd cwrs ei fywyd yn llwyr a daethyn fyd-enwog.

Ers canrifoedd lawer yr oedd seryddwyrwedi bod yn gwylio’r pum planed‘glasurol’: Mercher, Gwener, Mawrth, Iaua Sadwrn yn ‘crwydro’ drwy batrymau’r sêrsefydlog - yn wir daw’r gair planed o’rGroeg planetes, sef crwydryn - ac erbyn yddeunawfed ganrif yr oeddynt yn medrurhagfynegi eu symudiadau yn rhyfeddol ofanwl. Ar y noson dyngedfennol yn 1781,wrth edrych ar sêr yng nghytser Gemini (YGefeilliaid) sylwodd Herschel fod un serenyn ymddangos yn wahanol rywsut i’w

chymheiriaid; newidiodd wydrau eidelesgop i gael gwell golwg arni, aphenderfynodd mai comed oedd y ‘seren’.Bedair noson yn ddiweddarach gweloddfod y ‘gomed’ wedi crwydro o’i llegwreiddiol ac ar ôl ei hastudio’n fanylach,sylweddolodd Herschel ei fod wedidarganfod planed newydd. Dilynoddanrhydeddau ac enwogrwydd, ac enwyd yblaned - wedi llawer o ddadlau - ynWranws.

Pan ddaw rhai o’r ‘crwydriaid’ -comedau neu blanedau - i sylwseryddwyr, y peth cyntaf a wneir yw mesuryn fanwl gywir eu lleoliadau ar nosweithiauclir olynol. Wedi cael o leiaf dri mesurmae’r mathemategwyr yn mynd ati igyfrifo’r cylchdro neu’r orbit er mwynmedru proffwydo yn union ym mhle ybydd y gwrthrych ar unrhyw adeg yn ydyfodol, neu ym mhle y bu yn ygorffennol. Yn y cyfnod cyn-gyfrifiadurolyr oedd gweithio manylion orbit, ganddefnyddio Deddf Atyniad CyffredinolNewton, wedi ei haddasu gan Laplace aceraill, yn waith anodd a chymhleth tu hwntac yn golygu trymwaith mathemategol.Mae’r ffaith fod grymoedd disgyrchol pobun o’r planedau, heb sôn am rym mawr yrHaul, yn effeithio, i raddau mwy neu lai, arsymudiadau pob un o’r lleill yn cymhlethupethau yn arw iawn.

Yn y blynyddoedd yn dilyn 1781 aethsymudiadau Wranws â bryd pob seryddwro bwys ym Mhrydain ac Ewrop, oherwyddgwrthodai’r blaned newydd ddilyn yrorbitau a luniwyd ar ei chyfer: yr oedd ynmynnu crwydro yn ôl rhyw fympwyondirgel.

15

Cynhyrfiadau SeryddolAled Jones

Yn enedigol o Benrhyndeudraeth, cafodd ei addysg yn Ysgol y Bermo ac ynabu’n gweithio am bedair blynedd a hanner yn yr Arsyllfa Frenhinol, Greenwichcyn graddio mewn mathemateg ym Mangor. Bu’n athro mathemateg yn ysgol

Glan Clwyd am 30 mlynedd ac yna’n gyfieithydd gyda Heddlu Gogledd Cymru.

W. Herschel (1738 - 1822)

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 15

Page 17: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

Sylweddolwyd yn bur gynnar, wrthchwilio drwy gatalogau sêr, fod Wranwswedi ei chofnodi pedair ar bymtheg oweithiau fel seren cyn i Herschelsylweddoli mai planed oedd hi. Yn 1690 ygwnaed yr arsylliad cyntaf o’r rhain ganJohn Flamsteed yn Greenwich. Yr oeddFlamsteed yn arsyllwr penigamp a’ifesuriadau yn rhai hollol ddibynadwy, onder cyfuno’r ‘hen’ arsylliadau a’r rhai‘diweddar’(ar ôl 1781) a gwneud pob matho gyfuniadau eraill, doedd dim yn tycio, acWranws yn gwrthod dilyn pob llwybr agynigid iddi.

Erbyn yr 1830au yr oedd ymddygiadanwadal y blaned newydd wedi parhau amddegawdau, a chynigiwyd pob math oresymau am hyn. Y mwyaf eithafol o’r‘rhesymau’ hyn oedd nad oedd deddfNewton yn gweithredu yn yr ardalbellennig hon - tuag ugain gwaith pellachna’r ddaear o’r Haul. Problem yn wir.

Yn y cyfamser, ar Fehefin 5 1819,ganed bachgen o’r enw John Couch Adamsyn Lidcot, fferm ym mhlwyf Laneast, saithmilltir o Launceston, Cernyw. Wedi iddogwblhau ei addysg yn yr ysgolion lleol,ymaelododd John yng ngholeg St Ioan,Caer-grawnt, a phan gyhoeddwydcanlyniad yr arholiadau terfynol - yMathematical Tripos - yn Ionawr 1843, yroedd ar ben rhestr y dosbarth cyntaf - ynSenior Wrangler. Enillodd dros 4,000 o

farciau, a’r agosaf ato - mathemategyddsylweddol iawn - wedi ennill llai na2,000. Ni fu erioed y fath lwyddiant ynhanes y Tripos. Ymhen llai na phythefnosyr oedd wedi ennill Gwobr Smith, ac yna,mewn byr o dro, etholwyd ef yn Gymrawdo’i goleg.

Ym Mehefin 1841 yr oedd Adams wediysgrifennu nodyn yn ei ddyddiadur yndweud ei fod wedi penderfynu ymchwilioar ôl graddio i afreoleidd-dra symudiadauWranws, er mwyn ceisio darganfod a ellideu priodoli i ddylanwad planed anhysbys ytu hwnt iddi, a phe gellid, dod o hyd iddi.Tasg anhygoel o anodd a chwbl amhosiblym marn mwyafrif llethol seryddwyrpennaf y cyfnod. Ond erbyn diwedd 1843- blwyddyn y Tripos - yr oedd Adamswedi llwyddo i gael ei ‘ateb’ cyntaf, atheimlai’n hyderus y medrai, gyda mwy owaith, ddweud yn union ym mhle y dylidchwilio am y blaned anhysbys.

Er mwyn grymuso ei ateb cyntaf, yr oeddAdams yn dymuno cael mwy o ffigurau gany seryddwyr proffesiynol, a gofynnodd iJames Challis, pennaeth Arsyllfa’r Brifysgol,a fyddai’n bosibl cael y mesuriadaudiweddaraf o’r Arsyllfa Frenhinol ynGreenwich. Wedi derbyn y ffigurau, yroedd y mathemategydd ifanc wedi datrysproblem Wranws i bob pwrpas ac yn barodi nodi’r union le yn yr awyr y ceid hyd i’rblaned bell a oedd yn ymyrryd â’isymudiadau. Noder y dyddiad: Medi 1845.

Mae’r hanes wedyn yn un o’r sgandalaumwyaf yn hanes seryddiaeth.Camddeallodd George Airy, prif seryddwry deyrnas, a phennaeth ArsyllfaGreenwich, yr hyn yr oedd Adams wedi eigyflawni. Ceisiodd Adams weld Airydeirgwaith i egluro ei waith a methu -Airy ar ei ffordd yn ôl o Ffrainc, Airy‘ddim gartref’ ac Airy ar ganol ei ginio, acAdams yn wr swil ac anymwthgar. Ond yny cyfamser yr oedd seryddwr o Ffrancwr,Urbain Jean-Joseph Le Verrier ar yr untrywydd. Yr oedd Le Verrier yn athrylithdigamsyniol ac yn seryddwr profiadol nawyddai ystyr y gair ‘swil’. Cyhoeddodd eiganlyniadau cyntaf yn ddi-oed.

16

J. C. Adams (1819 - 1892)

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 16

Page 18: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

Ysgrifennodd hefyd at Airy yn Greenwichym Mehefin 1846, a phan sylweddoloddhwnnw fod ffigurau Le Verrier yn cytunobron yn union â rhai Adams - a gawsaiwyth mis ynghynt - gofynnodd i JamesChallis yng Ngaer-grawnt fynd ati i chwilioam y blaned ddamcaniaethol.

Nid oedd Le Verrier yntau wedi caelfawr o sylw yn Ffrainc a gofynnodd i gyfailliddo yn Arsyllfa Berlin chwilio am yblaned, ac oherwydd bod ganddynt fapiaunewydd sbon o’r sêr (nad oeddynt wedicyrraedd Prydain), gwelwyd hi yno mewnbyr o dro ar Fedi 23, 1846 - o fewn dimi’r safleoedd yr oedd Adams a Le Verrier

wedi eu proffwydo. Pan gyhoeddwyd ynewydd, pentyrrwyd pob anrhydedd posiblar Le Verrier - yn hollol haeddiannol,oherwydd fe gyflawnodd y nesaf peth i’ramhosibl. Ond dim gair am Adams.

Pan sylweddolodd seryddwyr Lloegrbeth oedd wedi digwydd, a chyhoeddi wrthy byd fod Adams wedi darganfod lleoliad yblaned newydd flwyddyn o flaen LeVerrier, aeth pethau’n wenfflam rhwng ySaeson a’r Ffrancwyr. Pwy oedd yr Adamsbondigrybwyll ‘ma, na chlywsai neb sônamdano? Cafodd Airy fisoedd caled iawnoherwydd iddo fethu â chymryd Adams oddifrif, a thrwy hynny golli cyfle i ddwynanrhydedd i’w wlad. Yn wir, yr unig ddaua gadwodd yn dawel yn ystod y ffrae wylltoedd Adams a Le Verrier eu hunain, aphan ostegodd y storm daeth y ddau wronyn gyfeillion mawr, a’r edmygedd pennafyn amlwg iawn o’r ddeutu.

Mae’n werth nodi un hanesyn diddorol.Rhyw noson yn ystod cyfnod y chwilio yngNghaergrawnt, yr oedd Challis yn caelcinio wrth yr ‘uchel fwrdd’ yng Ngholeg yDrindod pan ddigwyddodd ddweud wrthgyfaill iddo ei fod newydd sylwi ar serenanarferol yr olwg oedd yn ‘dangos disg’.Oherwydd bod yr awyr yn dal yn glir,awgrymodd y cyfaill y dylid cael golwg arallar y seren, ac aeth y ddau am yr Arsyllfa.Pan sylweddolodd Mrs. Challis eu bodyno, mynnodd fod y ddau yn mynd i’r tyam baned o de. Pan aethant allan wedyn yroedd yr awyr wedi cymylu, a chollwydcyfle oes oherwydd y baned anffodushonno. Digwyddodd hyn bythefnos cyn ydarganfyddiad mawr yn Berlin!

Enwyd y blaned newydd, wedi llawer oddadlau (eto), yn Neptune*, a llawenyddyw gweld yn y nodyn ar Adams yn Le PetitLarousse: “fe ragfynegodd, drwy gyfrifo(par le calcul), ac ar wahân i Le Verrier,fodolaeth y blaned Neptiwn”. Parchwngoffadwriaeth dau a wnaeth ‘yr amhosibl’.

* ‘Neifion’ yw’r ffurf Gymraeg yn ôl ygeiriaduron, ond mae cysylltiad yr enw âhen dduw’r môr, Neptunus y Rhufeiniaid,yn un simsan ryfeddol. Mae ‘Neptiwn’ ynllawer mwy derbyniol.

17

G. B. Airy (1801 - 1892)

U. J-J. Le Verrier (1811 - 1877)

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 17

Page 19: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

Ganed Griffith Evans yn y Tymawr,Towyn, Meirionnydd ar 7 Awst 1835.Honnai ei dad ei fod yn perthyn i un o hendeuluoedd y sir honno a bod RobertVaughan, Hengwrt, ymhlith ei hynafiaid.Cafodd ei addysg gynnar yn yr YsgolBrydeinig, Bryncrug ac yna’n breifat. Bu’nddisgybl i John Pugh FRCS [‘Ioan ap HuwFeddyg’] yn Aberdyfi a Thowyn cyn myndi Goleg Brenhinol y Milfeddygon ynLlundain lle derbyniodd radd MRCVS yn1855. Bu’n gweithio fel milfeddyg ynBridgnorth am gyfnod ac ynapenderfynodd sefyll arholiad i ymuno â’rfyddin. Derbyniodd gomisiwn yn y RoyalArtillery ac fe’i anfonwyd i wasanaethauyng Nghanada. Yno, yn ninas Montreal,ymaelododd yn Adran Feddygol PrifysgolMcGill gan raddion yn MD, CM yn 1864.

Yn ystod ei blentyndod, roedd GriffithEvans wedi clywed pentrefwyr ei fro ynhonni bod y cryd oedd yn effeithio ar raiohonyn nhw’n cael ei achosi gan ymosgitos oedd yn magu yng nghorsydd yrardal. Defnyddiodd y syniad hwn yn eithesis meddygol, gan gyflwyno tystiolaeth aawgrymai mai clefyd heintus oedd y diciâu.Ar y pryd, ystyrid y syniad hwn yn uncyfeiliornus ond defnyddiodd Evansdystiolaeth a rhesymeg gadarn i gadarnhauei ddamcaniaeth.

Yn 1864, yn ystod Rhyfel CartrefAmerica, cyflwynodd ei hun trwy gyfrwngllythyr, i Dr Henry, llywydd SefydliadSmithsonian gan ofyn am ganiatâd iymweld â maes y gad. Cyn hynny, roedd y

Llysgenhadaeth Brydeinig yn Washingtonwedi’i sicrhau y byddai’r fath ganiatâd ynamhosibl i’w gael. Ond nid felly y bu athrefnodd y Dr Henry i Griffith Evansymweld â’r Ty Gwyn. Gwnaeth eiddiffuantrwydd a’i awydd anniwall i gaffaelgwybodaeth, argraff ar yr ArlywyddAbraham Lincoln a chyhoeddwydgorchymyn gan yr Arlywydd oedd yncaniatáu i Evans deithio lle mynnai cynbelled â’i fod yn fodlon cynnig ymgeleddmeddygol i unrhyw filwyr y deuai ar eutraws. Am ddwy flynedd, gwasanaethoddfel cynorthwy-ydd meddygol gyda Byddiny Gogledd.

Priododd ar ôl dychwelyd i Gymru yn1870 cyn symud i weithio fel milfeddyg i’rfyddin yn Ipswich. Yno, parhaodd i weithioar ei ymchwil meddygol yn y Clafdy. Yn1871, cafodd ei drosglwyddo i’r ArmyService Corps yn Woolwich gan astudioam gyfnod yn Ysbyty’r Coleg Brenhinol,yn yr Ysbyty Offthalmoleg Brenhinol(Moorfields) ac yn Ysbyty Llundain.

Pan gafodd ei anfon i wasanaethu yn yrIndia yn 1877, aeth â’r microsgop gorau yroedd modd ei brynu ar y pryd gydag ef. Eidasg gyntaf oedd astudio’r clefyd marwol(y sylweddolwyd yn ddiweddarach maianthracs oedd) oedd yn effeithio argeffylau’r Fyddin yn y Punjab a mannaueraill. Yma, daeth Evans i gredu’nddiysgog mai parasit yn y gwaed oedd yngyfrifol. Roedd hyn yn y flwyddyn cyn iPasteur gyhoeddi ei DdamcaniaethGermau yn 1878 a 12 mlynedd cyn i

18

Rydych chi’n sicr o fod wedi clywed am Koch a Pasteur ond a glywsoch chi am GriffithEvans? Profodd, cyn yr un o’r ddau ohonyn nhw y gall micro-organebau achosi clefydau.Cafodd ei ddarganfyddiad ei anwybyddu a bu’n rhaid aros am hanner can mlynedd cyn i’wwaith gael ei gydnabod.

Pwy Oedd Griffith Evans?Rosemary E. Solbé

Mae Rosemary Solbe yn athrawes / darlithydd sydd wedi ymddeol. Hi ywysgrifenyddes Cangen Gogledd Cymru o’r Sefydliad Bioleg

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 18

Page 20: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

Ragdybiaethau Koch (Koch Postulates)ymddangos yn 1890.

Yn ystod ei ymchwiliadau gwnaethEvans sylwadau am ymddangosiad ycorffilod mawr gwyn oedd yn nghorffilodgwyn y gwaed gan awgrymu y dylidymchwilio’n fwy manwl iddynt. Nilwyddodd, fodd bynnag, i arsylwi eu bodyn ffagocytig a gwyddonydd arall, sefMethchnikoff a lwyddodd i ddarganfodhynny yn 1884.

Yn 1880, anfonwyd Evans at ffin yPunjab i archwilio clefyd marwol arall oeddyn effeithio ar geffylau a chamelod. ‘Swra’oedd enw’r clefyd dan sylw ac effeithiai aranifeiliaid trwy wneud i’w cyhyrauddirywio. Ar ôl iddo archwilio gwaed yranifeiliaid a heintiwyd, daeth i’r casgliadmai parasit yn y gwaed oedd yn gyfrifol amy cyflwr hwn hefyd a gofynnodd amganiatâd i ddefnyddio’r gwaed heintus igeisio rhoi’r clefyd i anifeiliaid iach. Trwywneud hyn, roedd am brofi mai’r parasitoedd yn achosi’r clefyd a byddai hefyd yngallu astudio’r anifeiliaid yn ofalus wrth i’rclefyd ddechrau gafael ynddyn nhw.Cafwyd gwrthwynebiad cryf i’w fwriad ganmai swyddogaeth Evans oedd ceisiorhwystro clefydau ac nid eu hachosi. Ihyrwyddo ei achos, cyflwynodd Evanssleidiau microsgop o waed yr anifeiliaid aheintiwyd oedd yn dangos y micro-organebau a adwaenir heddiw felTrypanosoma evansi yn ‘heidio’, ondmynnai’r awdurdodau na allai presenoldebmicro-organebau yng ngwaed anifail bywachosi clefydau. Roedden nhw o’r farn body micro-organebau’n bresennol am fod yranifail mewn cyflwr afiach. Yn hytrach nasynio am Evans fel arloeswr, câi ei ystyriedyn wr ynfyd.

Dywedodd Dr Lewis, sef Cynorthwy-ydd Arbennig i Gomisiynydd Iechyd yLlywodraeth yn yr India, bod y micro-organebau a ddangosodd Evans iddo yndebyg iawn i rai yr oedd ef ei hun wedi’uharsylwi mewn llygod mawr (micro-organebau sydd bellach yn dwyn yr enwTrypanosoma lewisi) a bod y llygod yn iach.Ond nid yw’r dirywiad sy’n un o

nodweddion y clefyd hwn yn amlwg nesbydd yr haint wedi gafael o ddifrif. Serchhynny, aeth Evans ati i gynnal cyfres oarbrofion oedd yn ceisio peri i’r clefyd swraddatblygu mewn ceffylau a chamelod trwyddefnyddio gwaed oedd newydd ei dynnuo anifeiliaid heintiedig. Dangosodd hefyd,os bydd gwaed heintiedig yn cael ei adael isefyll am 20-24 awr, bod y micro-organebau’n diflannu ac na all y gwaedwedyn achosi’r clefyd.

Cyflwynodd ei adroddiad i’r CofnodMilfeddygol yn 1880 ond cafodd hwnnw eianwybyddu yn yr India. Fodd bynnag,roedd Evans wedi anfon copïau o’iadroddiad i Pasteur ac i Koch ac aeth yddau ati i ddatblygu ei waith. Yn Ewrop,hanner can mlynedd yn ddiweddarach,cafodd yr adroddiad ei gydnabod felcampwaith. Yn 1917, wrth siarad am eiwaith gyda chynulleidfa o’r byd meddygol,gofynnodd Evans iddyn nhw gofio bod eiadroddiad ….’wedi cael ei gyhoeddi bethamser cyn i Koch gyhoeddi eiRagdybiaethau’.

Ar ôl hynny, arbrofodd Griffith Evansgyda throsglwyddo’r clefyd o geffyl i gi ac

19

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 19

Page 21: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

yna i ast ac yna arsylwodd y parasit yn caelei drosglwyddo o ast oedd yn llaetha i uno’i chwn bach. Dychwelodd i Loegr yn1885 i barhau gyda’i ymchwil. Cafoddganiatâd i weld a ellid trosglwyddo’rTrypanosomau o lygoden fawr i fwnci ond,oherwydd cais gan y Frenhines Fictoria,diddymwyd ei drwydded am nad oedd yFrenhines yn cytuno gydag arbrofi aranifeiliaid.

Ymddeolodd Griffith Evans o’r fyddingyda phensiwn yn 1890 gan ymgartrefu ymMangor. Yma, agorodd bennod newydd ynei yrfa trwy dderbyn swydd fel darlithyddmewn Hylendid Milfeddygol yn AdranAmaethyddol Coleg Prifysgol Bangor. Buyn y swydd honno am ugain mlynedd.

O’r diwedd, yn 1913 cafoddgydnabyddiaeth am ei waith creadigol adisglair pan ddyfarnwyd Pensiwn am

Wasanaeth Nodedig iddo. Dilynwyd hynyn 1917 trwy ddyfarnu iddo Fedal MaryKingsley a gyflwynir i ‘WyddonwyrNodedig sydd wedi cyfrannu atddatblygiad Meddygaeth Drofannol trwywneud gwaith ymchwil gwreiddiol’.Derbyniodd radd DSc gan BrifysgolCymru yn 1919 ac fe’i gwnaed yn un oryddfreinwyr Bwrdeistref Dinas Bangor yn1931.

Bu farw yn Rhagfyr 1935.

Cyfeiriadau

Montgomerie R F (1935) Dr Griffith Evans: aGreat Veterinary Scientist 1835 – 1935. VeterinaryRecord, Awst 3 Cyfrol XV Rhif 31 t890-894

Ware J E (1966) The Life and Letters of GriffithEvans 1835 – 1935 (wyres Evans) Coleg PrifysgolCymru Bangor. Thesis MA (Hanes)

20

Yn Rhifyn 13, Rhagfyr 2003 o’r Naturiaethwr (tud. 9), mae ein Cadeirydd, HarriWilliams, yn cyfeirio at un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd ym mis Tachwedd1980, a hysbysebwyd fel ‘Creigiau a Mwynau Manod’.

Gwahoddodd Harri’r darllenwyr i lunio englyn yn cynnwys y llinell hon. Gan na fuymateb, aeth ef ei hun ati:

Creigiau a mwynau Manod – yn olionChwareli hen gyfnod;

Ai’r amcan oedd cael canfodIas y byw uwch esgus bod?

Englyn Harri

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 20

Page 22: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

Bu’n naw mlynedd i gyd – ond bellachmae gan Gymru’r cofnod mwyafcynhwysfawr yn Ewrop o’r hyn sy’n gorweddyn y rhimyn cul sydd rhwng y llanw isel acuchel o amgylch ein harfordiroedd.

Mae holl arfordir Cymru, sef 1,650 ofilltiroedd, wedi’i arolygu, gan ddod ag un obrosiectau mwyaf uchelgeisiol Cyngor CefnGwlad Cymru i ben. Mae timau o staff yCyngor wedi bod yn craffu ac yn ‘cymrydstoc’ o lan y môr ar lanw isel, yn mapio acyn cofnodi’r cynefinoedd, y planhigion a’ranifeiliaid y maent yn dod ar eu traws.

Aethpwyd â chrib mân dros bob milltiro’r arfordir yn ystod yr arolwg - drwy eigerdded ar hyd y glannau neu drwy hwylioar hyd ymyl y clogwyni a snorcelu i mewni’r lan. Mae’r arolwg wedi dangos bodbywyd o amgylch ein harfordiroedd hyd ynoed yn fwy trawiadol nag yr oeddem wedi’iddychmygu.

Dywedodd Paul Brazier, Arweinydd yTîm Arolwg Rhynglanwol: “Mae’rwybodaeth sydd ar gael i ni yn awr, dimond trwy wasgu botwm, yn werthfawr iawnyn barod. Rydym yn gwybod yn union llemae’r rhywogaethau prinnaf yn byw, neulle mae’r cymunedau mwyaf sensitif oblanhigion ac anifeiliaid i’w cael.

“Bydd y mapiau digidol newydd ynwerthfawr iawn yn y gwaith o gynghori’rllywodraeth, yr awdurdodau lleol a’rdatblygwyr ynglyn â chyfoeth y glannau, acyn arbennig wrth asesu effeithiau tebygolunrhyw ddatblygiadau newydd neu effaitholew ar y traethau.

“Er bod y dasg o gofnodi’r bywyd gwylltrhynglanwol wedi’i orffen, mae’r gwaith ynparhau. Y cam nesaf yw sicrhau bod ywybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor CefnGwlad.”

Mae’r arolwg wedi datgelu pethaudiddorol nid yn unig am ein bywyd gwyllt,ond hefyd rhai pethau cyffredinol am yrhyn sy’n digwydd o amgylch yr arfordir.Mae’r rhain yn cynnwys:• Lledaeniad y chwynnyn Sargassum

(Japanese wireweed) sydd fel arfer yn tyfuym Môr Tawel Asia. Mae’r gwymonhwn wedi lledaenu o Sir Benfro i YnysMôn mewn 5 mlynedd yn unig.

• Cafwyd hyd i enghreifftiau helaeth oriffiau’r llyngyren diliau, gwelyaumorwellt a chymunedau graean mwdlyd,i gyd yn gyfoethog mewn rhywogaethauac o bwysigrwydd cenedlaethol. Oganlyniad, byddant yn cael eu gwarchoda’u rheoli’n well.

• Yn Ynys Môn, cawsom hyd i ffurfanarferol o wymon codog bras sy’ndebyg i’r hyn a geir ar arfordir yr Albana’r seren glustog. Dyma’r lle mwyafgogleddol y gellir eu gweld yn y DU.

• Cafwyd hyd i sawl rhywogaeth estron oamgylch dociau Abertawe ac Aberafan.Mae’n debyg i’r rhain gyrraedd mewndwr balast neu ar eliau llongau a oeddyn pasio heibio.

21

Ble mae’r Tir a’r Môr yn CyfarfodMae Cymru ar y blaen yn y gwaith o wybod beth yn union sydd yno!

Tîm Arolwg y Glannau

Cyngor Cefn Gwlad Cymru

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 21

Page 23: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

Planhigion Coll Môn.

Soniwyd am arfordir gorllewin Mônunwaith fel “triongl Bermuda botanegol”(Robertson, 1996) gan fod cryn nifer oblanhigion prin a diddorol wedi mynd arddifancoll yno. Y mae’r difetha argynefinoedd yn egluro peth ar y collediontrist hyn. Diflannodd y Dyfrllys Meinddail,Potamogeton filiformis, Llyriaid-y-dwrArnofiol, Luronium natans, Lleidlys,Limosella aquatica, a nifer o rywogaethaueraill a fu gynt yn niferus wrth i’rllynnoedd oedd yno newid eu natur danddylanwad galwyni cyson o gemegau agwrtaith amaethyddol. Am y planhigionprin ar y ponciau creigiog (ee. MeillionenUnionsyth, Trifolium strictum, ac EurinllysCulddail, Hypericum linariifolium) mae’nberygl i’r rhain ddioddef oherwydd gorbori,llosgi a chodi tai. Roedd yma hefyd nifer ochwyn tir âr (yn cynnwys y BenboethGulddail brin iawn, Galeopsis segetum, aphlanhigion cynyddol brin fel GludlysAmryliw, Silene gallica, Gwylaeth-yr-oenMeinffrwyth, Valerianella dentata, Mwg-y-ddaear Dwysflodeuog, Fumaria densiflora,Mwg-y-ddaear Glasgoch, F. purpurea, PabiPenbigog, Papaver hybridum a’r PabiPenwrychog, P. argemone). Wrth i aredigbeidio y mae cynefin y rhain yn diflannu.

Efallai bod rhai o’r planhigion prin hynyn dal o gwmpas, heb eu gweld, neu wedidiflannu dros dro. Yn ddiweddar daeth yGorfrwynen, Juncus capitatus (Blackstock aJones, 1997) yn ôl i’r golwg a hefydCrafanc-y-frân Dridarn, Ranunculustripartitus (Lansdown, 1999 a WendyMcCarthy, sylw personol.). Mae hyn ynarwydd y gellir gobeithio ailddarganfodrhai planhigion byrhoedlog a disylw. Tybeda welir Hesgen Lom, Carex depauperata

eto? Gwelwyd honno ddiwethaf yn 1967.Gallai ei had fod ynghwsg neu gallai fod yntyfu mewn rhyw gilfach. Cofnodwyd hi o“hen chwarel” ger Caergybi (Ellis, 1983)ond yn ôl pob tebyg llecyn o dan ymorglawdd ym Mhorth y Felin (Rich &Birkinshaw, 2001) oedd hwnnw.

Gall bod nifer o golledion yn deillio o’rffaith bod llawer o gofnodi planhigion wedidigwydd yn gynnar ym Môn. CofnodwydTrewyn Swp-flodeuog, Lysimachiathyrsifolia, Bresychen Manaw Coincyamonensis is-rywogaeth monensis a MurwyllArfor, Matthiola sinuata, cyn diwedd yddeunawfed ganrif . Dichon y byddaimannau eraill lle ceir llu o blanhigion prinhefyd wedi meddu ar fwy fyth oblanhigion yn yr oes honno, pe byddairhywun wedi mynd ati i gofnodi’n fwymanwl. (ee. Penrhyn Dewi yn sir Benfro aChreigiau Stanner yn sir Faesyfed).

Wedi dweud hynny, erys dirgelwch amrai o’r colledion hyn, yn enwedig rai oblanhigion y twyni tywod a’r traeth fel yMurwyll Arfor Mattiola siunata aBresychen Manaw Coincya monensis.Collwyd hefyd Lysiau’r Llymarch,Mertensia maritima, ac yn ddiweddarEdafeddog y Môr, Otanthus maritimus, a’rMerllys Gwyllt, Asparagus prostratus er nafu i’w cynefinoedd gael eu difetha. DywedOliver Rackham (1986), ei bod yn anoddgweld sut y darfu am gymaint o’r rhain ganiddynt ddiflannu yn “aml yn rhy gynnarneu o’r llefydd na ddylent fod wedidiflannu ohonynt i egluro’r golled feldylanwad dynol. Ni chafwyd eglurhad pambod planhigion arfordirol fel Otanthusmaritimus . . . a Matthiola sinuata morhynod brin;” ac meddai (Rackham, 2003)

22

Dychweliad Otanthus i Fôn?R. A. Jones

Y mae’r awdur yn ecolegydd planhigion gyda’r Cyngor Cefn Gwlad yn Aberystwyth

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 22

Page 24: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

“ mae yna ddigon o gynefinoedd addas yndal ar ôl.”

Diflaniadau Edafeddog y môr

Roedd Edafeddog y môr yn un o’rplanhigion cyntaf o Gymru i gael sylw pangofnodwyd ef yn gyntaf yn yr ail ganrif arbymtheg (mewn llythyr ganThomas Glyn atThomas Johnson, 1630) – er nad cofnod oFôn oedd hwnnw. Nodwyd iddo fod ymMorfa Dinlle yn Arfon ond iddo ddiflannuoddi yno’n fuan wedyn (Johnson, 1633 a1641). Mae pob cofnod ohono wedi hynnyi’r gogledd o Afon Menai. Yn 1662gwelodd John Ray ddigonedd ohono yn ytywod ger “Abermeney-Ferry” (Ray, 1670).Ond byrhoedlog oedd, gan na chofnodwydmohono wedyn gan fotanegwyr a ymwelaiâ’r ardal.

Wrth gwrs nid yw’r ffaith nad oescofnod o unrhyw blanhigyn yn golygu eifod wedi diflannu. Ond efallai y gelliddehongli’r diffyg cofnod am Edafeddog ymôr o fan lle’r arferai fod yn gyffredin, felarwydd amlwg ei fod ar y gorau wedimynd yn brin iawn yn y fan honno. Yn1694 ymwelodd Edward Llwyd â’r glannauger Llanfaelog, ac yno nododd iddo weldMerllys Gwyllt, Asparagus prostratus (llythyrat Richard Richardson, Tachwedd 241696, ac a nodir gan Hugh Davies yn1813). Gan fod hynny tua’r un adeg â’rcofnod o Otanthus y mae’n arwyddocaol nachyfeiriodd Edward Llwyd at y planhigyn.Ond 30 mlynedd wedyn aeth botanegyddhynod arall, Samuel Brewer, i ochrauLlanfaelog i chwilio am yr Asparagus. Ynocanfu “for a mile together, great plenty ofGnaphalium marinum (= Otanthus)” – ondysywaeth dim Asparagus (Hyde, 1930).

Bu ryw anwadalwch cyffelyb yn hanes yddau blanhigyn hyn dros y cyfnod dilynol.Gellir gweld o ddyddiadau’r planhigionAsparagus a gasglodd, sydd bellach ynherbaria Yr Amgueddfa Genedlaethol a’rAmgueddfa Brydeinig, i Hugh Daviesymweld â Llanfaelog nifer o weithiaurhwng 1760 a 1799. Eto ymddengys na fuiddo hel un Otanthus, a dim ond cyfeiriadhanesyddol ato a geir ganddo a’r sylw“very scarce” yn y ‘Welsh Botanology’

(Davies, 1813). Yn y cyfamserailddarganfu Joseph Banks y planhigyn yn1773, ac mae planhigyn a gasglwyd ganLightfoot yn 1777 yn yr AmgueddfaBrydeinig, ond nid oes un enghraifft arallohono yn herbaria Prydain nac ynIwerddon nes i J.E. Griffith eiailddarganfod yn yr un lle yn 1894. Erhynny drwy’r cyfnod hwnnw casglwyd oleiaf ddwsin o blanhigion o Lanfaelog. Erbod lleoliad penodol yr Asparagus prostratuswedi ei ddynodi’n eithaf manwl, rhaid caelllygad craff i sylwi arno. Gellir casglu fellybod yna ddigon o sylwebyddion gwybodusyn troedio’r fan.

Trosglwyddo o bell a llwyrgolli

Mae’r diffyg cofnod o Otanthus yn ystody blynyddoedd yn fuan ar ôl ei ddarganfodyn awgrymu ei fod yn blanhigyn prin acysbeidiol yn Llanfaelog. Un ystyriaethddiddorol ydyw ei fod wedi bod yn mynda dod ar y mwyaf cyn y cofnod cyntafohono. Siawns na byddai Edward Llwyd obawb wedi sôn amdano yn 1694 petai yno,ond erbyn 1727 pan welwyd ef gan Breweryr oedd faint fynnir ohono “for a miletogether”. Dichon mai digwyddiadeithriadol oedd cofnod Brewer nid cyflwr

23

Edafeddog y Mor (Otanthus maritimus)

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 23

Page 25: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

arferol y planhigyn, a bod llanw a thrai’rplanhigyn ei hun yn ddibynnol ar lanw athrai go iawn ac yn rhan o batrwm odrosglwyddo had (neu bod amodauachlysurol ffafriol i’r had hwnnw daflu’nllwyddiannus).

Ychydig iawn a wyddys am had-gwsg yrOtanthus ond mae ffurf yr hedyn ei hun ynymdebygu i siacedi-bywyd addas i nofio arwyneb y môr. Ac mae enghraifft arall oailymddangos disymwth sy’n atgyfnerthu’rposibilrwydd o wasgar had o bellter. Ynystod y cyfnod pryd y gwelodd John Ray yrOtanthus yn Abermenai, teithiodd hefyd iGernyw a’i weld yno ar draeth gerPenzance. Diflannu oddi yno fu ei haneshefyd gan ddod i’r golwg drachefn yn1927, pryd y gwelwyd un planhigyn ohonogan R.A. Boniface.

Nid yw’n debygol yr arhosai hadplanhigyn ynghwsg am dros ddwy ganrif ahanner nac ychwaith fod planhigion wedillechu heb i neb eu gweld ar y traeth am yfath gyfnod. Ond ar un wedd efallai ei bodyn anodd credu y gallai hedyn o belltergyrraedd yr union fan o’i gludo gan y môrar droeon gwahanol. Ond ceir sylwadauperthnasol ar hadau dieithr a gludir o bellgan y môr gan E.C. Nelson (2000).Dengys bod tuedd i hadau o’r fathgyrraedd yr union le ar draethau - ynamlwg mae’r un nodweddion yn perthyn ihad y planhigion fel bo hynny hefyd yntueddu i’w gyrru i’r un mannau. Uneglurhad dros ymddangosiad mympwyolEdafeddog y Môr ydyw bod gofyn i’w eginmân gael cynefin lled-agored (gyda digon owlybaniaeth yn y ddaear) i fedru gafael,ond mae planhigion sy’n llwyddo’n goiawn yn cadeirio yn eu cilfach maes o law.Nid yw’n ymddangos bod had aeddfed ynhirhoedlog, felly mae parhad y planhigynyn ddibynnol ar y twyni’n chwalu acaildyfu ac, o bryd i’w gilydd, archwistrelliad o had newydd o’r tu allan.

Mae’r patrwm hwn yn cynnig ateb i’rcwestiwn ynglyn ag Otanthus a Matthiolasinuata, Mertensia maritima a Coincyamonensis (is-ryw monensis ). Dichon na fuiddynt ddiflannu drwy golli cynefin ond yn

hytrach am i fân newidiadau effeithio ar ycynefinoedd hynny ac effeithio’n andwyolar y poblogaethau bregus hyn. Gan fod yrhywogaethau hyn ar fin eu dosbarthiadnaturiol, mae’r cyswllt rhwng ffynonellau’rhad yn allweddol, ac os digwydd newidmewn cynefin cyfagos a allai fod ynffynonell i’r had, yna mae hynny hefyd yneffeithio ar dynged y cyfan oboblogaethau’r planhigion. Dim ond colliychydig o’r poblogaethau sydd yn rhaid, ichwalu’r gadwyn sy’n cynnal y gwead igyd. Er enghraifft gallai gormod (neu rhyychydig) o bori dros y gaeaf ar y twynitywod yn Wexford; gorgynaeafu gwymonar draethau Cernyw; newid yn y ffordd odorri moresg yn Niwbwrch neu godiplatfform newydd i fferi Abermenai, ollberyglu dyfodol y planhigion ar lannauMôr Iwerddon. Gallai’r un peth hefyd fodyn wir am Dafolen y Traeth, Rumexrupestris, Llaethlys Rhuddlas, Euphorbiapeplis, Ytbysen Arfor Lathyrus japonicus aceraill o blanhigion prin a diflanedig ytraethau. Yn yr un modd, gyda thrychfilodprin cynefinoedd ansefydlog, mae’r gallu iwasgaru’n gyson i gynefinoedd newydd ynhanfod parhad. Ac fel gyda rhywogaethauprin (felly hefyd gyda ieithoedd adiwylliannau lleiafrifol), os am barhau maegofyn iddynt gael mas critigol. O gollihwnnw mae’n anodd atgynhyrchu apharhau.

Edafeddog y môr ym Môn eto?

Aeth Otanthus yn brin ym Môn arddiwedd y ddeunawfed ganrif, tua’r unadeg ag y diflannodd o fannau eraill ymMhrydain ac Iwerddon. Bellach ‘does ynaddim digon o hadau’n cael eu cynhyrchuyn Wexford, yr unig leoliad sy’n weddill arlannau Môr Iwerddon, i allu ail- boblogi yrhen gynefinoedd. Er hynny, fel yr awgrymaRackham, mae cynefinoedd addas yn dal argael. Os nad oes llawer o gyfle - na dibenefallai - i geisio ailgyflwyno rhywogaethaucoll Môn (heblaw am rai chwyn tir âr),hwyrach bod dadl dros ailgyflwyno rhaiplanhigion yr arfordir. Byddai’n ddiddorolarbrofi gyda hadau wedi eu marcio (ganddefnyddio dynodi genetig i’w hadnabod)

24

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 24

Page 26: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

o’r unig safle sy’n weddill yn Iwerddon.Gellid defnyddio’r un technegau iblanhigion arfordirol coll eraill - er y byddaigofyn cyrchu hadau o fannau pellach ynachos rhai ohonynt. Ond pwy a wyr ?Hwyrach y gwelir dychwelyd ambellblanhigyn prin i draethau Môn. Yn ôlpatrwm pethau gallai traethau gorllewin yrynys fod yn lle da i chwilio.

Cyfeiriadau

Blackstock, T.H. & Jones, R.A. (1997) Juncuscapitatus Weigel (Juncaceae) rediscovered near itsoriginal locality in Anglesey (v.c. 52) Watsonia 21(3)

Davies, H. (1813) Welsh Botanology. Llundain.Ellis, R.G. (1983) Flowering Plants of Wales.

Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Caerdydd.Hyde, H.A. (1930) Samuel Brewer’s Diary: a

Chapter in the History of Botanical Exploration in NorthWales. Atodiad i Adroddiad i’r Botanical Society andExchange Club, 1930.

Johnson, T. (Ed.) (1633) Gerarde’s Herball orGeneral Historie of Plants. Ail argraffiad. Llundain.

Johnson, T. (1641) Mercurii Botanici Pars Altera.Llundain.

Lansdown, R.V. (1999) Survey to determine thestatus of Ranunculus tripartitus DC. in CCW West,Northwest and South Wales Areas. Adroddiad heb eiargraffu i Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Bangor.

Nelson, E.C. (2000) Sea Beans and Nickar Nuts:a handbook of exotic seeds and fruits stranded on beachesin north-western Europe. BSBI.

Rackham, O. (1986) The History of theCountryside. Dent.

Rackham, O. (2003) The Illustrated History of theCountryside. Weidenfeld & Nicholson.

Ray, J. (1670) Catalogus Plantarum Angliae.Llundain

Rich, T.C.G. & Birkinshaw, C.R. (2001)Conservation of Britain’s biodiversity: Carex depauperataWith. (Cyperaceae), Starved Wood-sedge. Watsonia 23 (3)

Robertson, J. (1996) Flowering Plants, Wales(Wildlife Reports) British Wildlife 7 (5)

25

Cerrynt y môrOtanthus maritimus (wedi goroesi)Otanthus maritimus (wedi diflanu)Lathyrus japonicus (wedi goroesi)Lathyrus japonicus (wedi diflanu)Matthiola sinuata (wedi goroesi)Matthiola sinuata (wedi diflanu)

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 25

Page 27: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

Yr hyn yw adfer glaswelltiroedd mewngwirionedd yw ceisio trawsnewid caeau lleceir ambell rywogaeth o laswelltamaethyddol yn unig (a rhywfaint o feilliongwyn), yn gymunedau sydd ag amrywiaethehangach o laswellt ac amrywiaethcyfoethog o blanhigion blodeuol. Hefyd,mae’n werth cofio, o safbwynt trychfil neufamal bach, y gall amrywiaeth yn strwythury planhigion fod yr un mor bwysig agamrywiaeth o ran rhywogaethauplanhigion. Felly, tra bo angen planhigionpenodol ar rai rhywogaethau i fagu neu ifwydo arnynt, efallai y bydd ar eraill angenglaswellt byr a chynnes yn yr haf neudwmpathau o laswellt garw i gysgodi yn ygaeaf.

Os ydych yn gadael cae heb wneud dimiddo, cewch gymysgedd sy’n newid yn araf;glaswellt bras sy’n drech na phopeth arallynghyd ag is-haen gedenog o henblanhigion marw, ac yna bydd yndatblygu’n brysgdir neu’n goetir. Gallaihynny fod yn dderbyniol mewn rhai

ardaloedd ond rydym yn cymryd mai’rbwriad yw creu cynefinoedd glaswelltiramrywiol hefyd.

Os am gael amrywiaeth o wahanolblanhigion mewn gardd, rydym yn ceisiodarparu’r pridd a’r amodau eraill fydd ynrhoi’r tyfiant llawnaf. Petaech yn caelcipolwg sydyn ar lyfr garddio neu gataloghadau byddech yn darganfod, yn anffodus,bod angen llecyn heulog â phridd llawnmaeth sy’n draenio’n rhwydd ar y mwyafrifo blanhigion.

Wrth gwrs, mae yna eithriadau, ondmae’r rhan fwyaf o arddwyr yn ei chaelhi’n anodd rhoi’r gorau o bopeth i’rplanhigion y maent wedi’u dewis, a hyd ynoed os ydynt yn llwyddo, mae’n rhaididdyn nhw wedyn fynd ati i docio’r rhaicryfaf fel na fyddant yn tyfu dros bob dimarall yn yr ardd. Yn baradocsaidd, rydymhefyd yn mynd ati i wrteithio lawnt acyna’n ei thorri’n fyr i’w chadw’n gwblunffurf a chael gwared ar blanhigion nadydym eu heisiau, megis dail tafol.

Mae hyn yn debyg i ffermio dwys lle maiglaswellt yw’r cnwd. Bydd y ffermwr ynlladd cynifer o rywogaethau ag sy’n bosibltrwy aredig ac yna’n hau mathau o laswelltsy’n gallu gwneud y defnydd gorau olefelau maeth (gwrtaith) uchel. Bydd yrhain yn drech nag unrhyw blanhigioneraill gan eu bod yn tyfu’n gyflym a’r rhainfydd y cyntaf i dyfu’n ôl ar ôl cael eu torri.

Felly, sut mae mynd ati? Mae einprofiad o arddio’n dangos y bydd y rhanfwyaf o blanhigion (ond nid pob un) yntyfu’n dda cyn belled â’u bod yn cael digono dd_r a phridd ffrwythlon o strwythur da

26

Adfer Glaswelltiroedd – Garddio Wyneb i Waered?

Ieuan Roberts

Ar Ffern Denmarc ym mhentref Betws Bledrws ger Llanbedr Pont Steffan, mae nifer o gadwraethwyr wedi sefydlu Ymddiriedolaeth yn dwyn yr enw

Shared Earth Trust

Caeau rhygwellt wedi’u rheoli’n ddwys ar fferm leol

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 26

Page 28: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

heb ormod o asid nac alcali. Mae hynhefyd yn wir am nifer o blanhigionglaswelltir a welir mewn gweirgloddiau aphorfeydd traddodiadol sy’n llawn llysiau.Mae hyn yn awgrymu y byddem yn gweldrhagor o flodau a rhywogaethau mwyamrywiol ar ein tir pe baem yn cynyddulefelau’r maeth ac yn gwella draeniad y tir.Ond mae hyn yn rhan o’r hyn y maeffermwr dwys yn ei wneud i gynhyrchu’reangderau gwyrdd sydd mor gyfarwydd!

Bron na ellir dweud bod adferglaswelltiroedd yn troi garddio traddodiadolwyneb i waered. Y peth cyntaf yr ydym ynceisio ei wneud yw gostwng lefelau maeth ypridd. Efallai bod hyn yn ymddangos ynafresymegol - rydym eisoes wedi dweud bodllawer o’r planhigion yr ydym am eu hannogyn gallu tyfu’n llwyddiannus mewn priddffrwythlon. Yr hyn sydd ar goll yn hyn igyd yw cystadleuaeth. Tra bydd y rhanfwyaf o rywogaethau yr ydym am eu hannogyn tyfu’n dda iawn os cânt fod ar eu pennaueu hunain mewn pridd ffrwythlon, bydderaill, megis rhygwellt amaethyddol, yntyfu’n well fyth ac maent yn tueddu i foddi’rgweddill a’u hatal rhag sefydlu yn y llecyntaf. Er hynny, bydd y rhywogaethau yrydym am eu hannog yn tyfu’n iawn danamodau llawer gwaeth ac yn ennill y blaenar y mathau amaethyddol barus! Rhaidnodi, fodd bynnag, y gall nifer orywogaethau glaswellt ‘traddodiadol’ megisbyswellt dyfu’n rhemp ar bridd ffrwythlonac nad oes unrhyw beth o’i le ar rygwellt fely cyfryw; diffyg amrywiaeth yw’r drwg.

Felly, mae’n rhaid i ni newidamodau’r pridd er mwyn rhoi cyfle i

rywogaethau llai grymus. Mae’n rhaid ini hefyd alluogi hadau i gyrraedd y priddac egino, a gallwn annog rhywogaethaueraill trwy atal draeniad i greu ardaloeddgwlypach.

Yn ffodus, mae ffordd syml o ostwngmaeth yn ogystal ag annog hadau i egino, ahynny trwy gynaeafu gwair yn eithaf hwyryn y tymor a pheidio â defnyddio gwrtaithna thail i ailgyflenwi’r maeth yr ydym yn eidynnu o’r tir. Erbyn diwedd misGorffennaf a mis Awst, bydd nifer oblanhigion gwyllt wedi dechrau dod i had.I nifer, gall lladd a sychu yn y cae orffen ybroses aeddfedu. Yn ystod y cyfnod hwn,caiff y gwair ei daflu o amgylch drosodd athrosodd gan beiriannau a bydd hyn yngwasgaru llawer o’r hadau sy’n bresennol.Mewn cyferbyniad, mae gwneud silwair felrheol yn golygu bod y cae’n cael ei dorrisawl gwaith gan ddechrau’n gynnar yn ytymor pan nad oes llawer o blanhigionwedi dod i had ac mae’r rhan fwyaf obeiriannau cynaeafu silwair modern i bobpwrpas yn ysgubo planhigion a llawer ofywyd gwyllt arall o’r cae yn lân.

Ar ôl lladd y gwair, hwyrach y gellir rhoianifeiliaid i bori’r adladd yn ddiweddarachyn y flwyddyn er mwyn tynnu rhagor ofaeth o’r tir ac agor a sathru’r glastir ihelpu planhigion newydd i dyfu o hadau.Os yw’r tir yn rhy arw neu’n rhy wlyb iwneud gwair, efallai mai rhoianifeiliaid i bori yw’r unig ffordd odynnu maeth o’r tir ond bydd hon ynbroses eithaf araf.

Bydd y lefelau maeth yn dal i ostwng yny blynyddoedd dilynol a bydd yrhywogaethau glaswellt mwy egniol yn llaibygythiol nag y buont. Bydd ychydig mwyo rywogaethau’n tyfu o hadau bobblwyddyn a bydd y planhigion hyn yn eutro yn dod i had. Felly, gall y brosesbarhau o flwyddyn i flwyddyn wrth i hadaugael eu cario o ardaloedd eraill gan ygwynt, gan adar neu gan famaliaid bach.Os yw’r tir yn addas, gellir atal draeniad ermwyn rhwystro glaswellt amaethyddol rhagtyfu a rhoi cyfle i ragor o rywogaethau tir

27

Cae wedi’i drawsnewid ar Fferm Denmarc ym mis Mehefin

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 27

Page 29: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

gwlyb sefydlu a chael mwy o amrywiaethyn gyffredinol.

Nid oes unrhyw ‘hadau blodaugwyllt’ wedi cael eu defnyddio arFferm Denmarc. Gwelwyd bod hwnwedi bod yn benderfyniad doeth gandeulu’r Taylors yn yr 1980au oherwyddmae’r rhan fwyaf o’r rhywogaethau mwydymunol wedi cyrraedd ohonynt eu hunainac mae’n ymddangos hefyd bod gwellcydbwysedd yn y cymunedau nag mewncaeau wedi’u hau, a geir mewn mannaueraill. Mae safleoedd eraill hefyd wedi bodyn llwyddiannus lle’r oedd hadau wedi’ucasglu o hen weirgloddiau lleol, ond ynamlach na pheidio, mae hau cymysgedd ohadau blodau gwyllt masnachol wediarwain at gymunedau planhigionanghytbwys sy’n cynnwys rhywogaethaudieithr o dramor.

Wedi i’r driniaeth hon barhau am rywbum mlynedd, ychydig iawn o’r rhygwelltbarus fydd yn weddill a bydd cyfuniad ofaeswellt, peiswellt, perwellt y gwanwyn arhonwellt y ci yn amlwg iawn yn y glastir.Dylai blodau melyn y melinydd a’r peradylymddangos a chydag amser ac wrth i’r tirfynd yn llai ffrwythlon, bydd codennaumegis meillion a meillion coch ynymddangos. Gall planhigion sy’n bwydo’nrhannol ar laswellt (hemiparaseitiaid) hefydddod i’r amlwg a helpu i leihauamlygrwydd y glaswellt ymhellach. Y gribellfelen a’r effros yw’r rhai mwyaf cyfarwyddo’r rhain a gallant ymledu’n aruthrol.

Ar ôl rhyw ddeng mlynedd o ostwnglefel y maeth yn gyson, bydd y cnwd gwairyn gostwng i fod oddeutu traean y lefelau

blaenorol neu lai. Fodd bynnag, mae’rffaith nad oes raid talu am wrtaith ac ailhadu yn helpu i wneud iawn am ygostyngiad a welwyd yn y cynnyrch.

Am ba hyd y dylid parhau â’r broseshon? Ar ôl rhywfaint o amser, mae’n syniadda ail gyflwyno pori fel rhan allweddol o’rcylch rheoli. Bydd hyn yn helpu i amrywiostrwythur y llystyfiant a fydd o fantais inifer o anifeiliaid diasgwrn cefn acanifeiliaid asgwrn cefn. Bydd brîd yranifeiliaid a ddefnyddir i bori yn ogystal âchyfraddau stocio a’r amseru i gyd yneffeithio ar ddatblygiad y glastir ac mae hynyn bwnc ynddo’i hun. Ar y cyfan, byddgwartheg a cheffylau yn rhoi glastir mwyamrywiol na defaid, ond mae’r dewis o frîdac amodau lleol bob amser yn arwyddocaol.

Fel gyda bron bob peth mewnamaethyddiaeth a chadwraeth, ni ellirdiffinio rheolau pendant ar gyfer adferglaswelltiroedd. Y dull gweithredu ‘gorau’bob amser fydd cymhwyso egwyddorionsylfaenol yng nghyd-destun gofynion sy’ngwrthdaro ag amodau lleol. Fodd bynnag,mae’r hyn y gellir ei gyflawni drwyrwystro’r gweithgareddau sy’n amlwg ynddinistriol, yn anhygoel. Fel y mae FfermDenmarc wedi dangos, gall hyn ffurfioecosystemau glaswelltir ffrwythlon yngyflym a gall cynnal y rhain trwy greucynefinoedd amrywiol eraill wneud y cyfanyn fwy effeithiol eto.

I gyflawni eu breuddwyd o greu tirweddcadwraethol, fel ymateb uniongyrchol i’rdirywiad trychinebus mewn cynefinoeddbywyd gwyllt a bioamrywiaeth yng nghefngwlad, prynwyd Fferm Denmarc, BetwsBledrws oedd yn cael ei ffermio’n ddwys.Yn 1987 sefydlwyd y ‘Shared Earth Trust’i ofalu am y prosiect ac i gynnal canolfanaddysgol i hyfforddi ac astudio’rnewidiadau. Dyma ddisgrifiad o’r gwaith onewid tir amaethyddol dwys i dir ofioamrywiaeth barhaol eang.

Gellir cysylltu â’r Ganolfan ar 01570493 358 a gweler http://www.shared-earth-trust.org.uk/cy/grassres.htm

28

Ysgyfarnog sy’n magu yn y glaswellt hir ar Fferm Denmarc.

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 28

Page 30: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

Mae’n siwr y byddai mwyafrifdarllenwyr Y Naturiaethwr yn gefnogol iunrhyw ymdrech i amddiffyn adnoddaunaturiol Cymru. Nifer llawer llai, midybiaf, sydd wedi cymryd camaugweithredol positif i’r cyfeiriad hwnoherwydd nad oes cyfle neu achos wedicodi yn eu bröydd neu yn eu bywydau bobdydd. Serch hynny, prin fod mis yn myndheibio heb i ni glywed am achos i bryderuam ein hamgylchedd naturiol mewn rhywran o Gymru neu’i gilydd.

Wrth gwrs, mae nifer o grwpiau ynbarod i gyfrannu at drafodaethau ac ichwarae rhan efallai mewn gwrthdystiadlleol. Yn anffodus, ac yn amlach napheidio, gwelir y gwrthwynebwyr yndechrau dan yr anfantais o ddiffyggwybodaeth am faterion technegol achynllunio ac mae’n cymryd amser i gasgluffeithiau a threfnu adnoddau. Ar y llawarall, bydd y datblygwr bygythiol yngyflawn arfog ac mae’n gallu canolbwyntioei ymdrechion i’r cyfeiriadau sy’n cyfrif.Fel rheol, bydd y fenter dan sylw wedi elwaeisoes ar gyngor cynllunwyr proffesiynol acfelly wedi cymryd sawl cam ymlaen cynbod yr ochr arall wedi gorffen diffinio’rachos.

Rydym yn sylwi mwy a mwy arddylanwad polisïau amgylcheddol ar einbywydau. Penderfynir a gweithredir ypolisïau hyn gan Lywodraeth Westminster,gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a chan yCyngor Sir lleol. Hefyd, gwelir dylanwadpolisïau’r Undeb Ewropeaidd arLywodraeth Prydain. Gwneir ymdrechion i

ymgynghori â’r sectorau y dylanwedirarnynt gan y newidiadau arfaethedig. Ond,ysywaeth, i’r byd y tu allan, mae’n buranodd canfod beth fyddai effaith yr hyn adrafodir. Rhaid wrth gefndir o wybodaetha phrofiad priodol cyn bod modd gweldpen draw yr ymresymu. Mae’n dilyn ybyddai mantais ddiamheuol gan fudiadsy’n gallu galw ar wasanaeth poblbroffesiynol brofiadol i fod ynymgynghorwyr i baratoi a dadlau’r achosmewn ymchwiliad cyhoeddus neu lys barn.

Yma yng Nghymru, mae gennym fudiadsydd wedi bod yn weithgar iawn dros yblynyddoedd i ddiogelu ein cefn gwlad.Sefydlwyd Ymgyrch Diogelu CymruWledig fel elusen genedlaethol yn 1928, abellach, mae’n fudiad cenedlaetholdylanwadol. Ei nod yw ceisio ennillcydbwysedd rhwng y ffenomena o newid apharhad sy’n gonglfeini bywyd cefn gwlad.Mae’n ceisio darganfod pa newidiadau ymae modd eu caniatáu heb iddyn nhwamharu ar yr hyn sy’n gwneud ein cefngwlad mor werthfawr. Ceisia YDCWddiffinio’r hyn sy’n rhaid ei wneud adylanwadu ar y rhai sy’n gwneud ypenderfyniadau’n lleol ac yn genedlaethol.Mewn nifer o achosion, bydd YDCW ynymateb i broblem gan ddefnyddio eiadnoddau mewnol ei hun neu drwygydweithredu â mudiadau eraill sy’nrhannu’r un egwyddorion. Mewn achosioneraill e.e. y dadleuon sy’n codi o’r tyndrarhwng amddiffyn tirwedd a datblygurhagor o dyrbinau gwynt, mae ganddynt yradnoddau i gyflogi ymgynghorwyr

29

Diogelu Cymru Wledig – pwy sy’n gwneud?

W. Brian L. Evans

Mae Brian Evans yn byw ym Mhenrhyn-coch ger Aberystwyth. Cyn ymddeol,bu ar staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bu’n Ysgrifennydd CymdeithasEdward Llwyd ac, ar hyn o bryd, mae’n aelod o’r Pwyllgor Gwaith ac yn

cynrychioli’r Gymdeithas ar Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 29

Page 31: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

arbenigol sy’n brofiadol iawn yn y maes acyn gwbl atebol i ddadansoddi manylion athueddiadau newydd ym myd polisïaucynllunio.

Mae’n ddiddorol nodi bod materion ynymwneud ag ansawdd dwr ac aer wedidenu sylw cwbl briodol dros yblynyddoedd ac erbyn hyn pasiwyd nifer oddeddfau a mesurau i gwrdd â’r problemaua achosodd bryder. Ond nid felly gydathirwedd. Ymhlith y rhesymau am hyn,mae’n debyg yw’r canfyddiad bodgwarchod y dirwedd yn syniad elitaidd.Hefyd, teimlir bod gwerthfawrogi’rdirwedd yn fater goddrychol ac nad oesmodd ei asesu trwy ddulliau gwyddonol.Ffurfiwyd Cytundeb Tirwedd (EuropeanLandscape Convention) gan GyngorEwrop er mwyn gwrthbwyso’r agweddaunegyddol hyn a hyrwyddo gwarchod, rheolia chynllunio tirwedd a threfnucydweithrediad Ewropeaidd ar faterionperthnasol. Mae YDCW wedi ymgymrydâ’r dasg o bwyso ar Lywodraeth yCynulliad i fabwysiadu egwyddorion yCytundeb yng Nghymru (fel yngNghatalonia a Wallonia) ac i ddwynpwysau ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig idderbyn yr egwyddorion yn llawn.

Dylanwad arall o Ewrop yw’rrheidrwydd i baratoi Cynllun Gofodol i

Gymru (Wales Spatial Plan) gan fod yrUndeb Ewropeaidd yn galw am y cyfrywbethau cyn cyfrannu arian at brosiectaupriodol. Cynigia’r Cynllun fframwaithstrategol y tu allan i’r gyfundrefn gynlluniodefnydd tir ond yn gyflenwol iddi. Anelir atsefydlu Cymru gynaladwy gyda fframwaithintegreiddiedig ar gyfer datblygiadcymdeithasol economaidd acamgylcheddol. Cyflwynwyd ateb ynddiweddar gan YDCW i ddrafftymgynghorol o’r ddogfen uchod achynhwysir ynddo nifer o sylwadauadeiladol. Gelwir yn arbennig amamddiffyn a chyfoethogi’r dirwedd yn lle’rpwyslais ar ‘gymodi galwadau cystadleuol’fel sy’n digwydd yn gyson trwy’r ddogfenwreiddiol. Rhaid i ni fod yn effro i bobbygythiad posibl yn y dyfodol sy’n seiliedigar eiriad amwys.

Y frwydr fwyaf hirwyntog a ymladdwydgan YDCW yn ddiweddar yw honno ynerbyn y tyrbinau gwynt. Erbyn 2004, mae36% o dyrbinau gwynt y Deyrnas Unedigar dir Cymru ac mae nifer o geisiadaucynllunio ychwanegol yn cael eu hystyried.Cred YDCW mai datblygiadau alltraethyw’r rhai sy’n fwyaf tebygol o fod yndderbyniol ac ar raddfa ddigonol i gwrdd âthargedau’r Cynulliad ar gyfer ynniadnewyddol. Dylid cyfyngu cynlluniau ar ytir i’r rhai nad sy’n amharu ar y dirwedda’r mwynhad ohoni.

Cyhoeddwyd dyfarniad ArolygyddYmchwiliad tua diwedd Haf 2004 yn erbyncodi’r tyrbinau hyn oherwydd eu heffaithdinistriol ar y golygfeydd dros y môr.Gwrthodwyd canlyniad yr ymchwiliadcostus hwn gan bwyllgor o’r Cynulliad acfelly, gellir disgwyl gwell trefn ar godi’rtyrbinau ger yr arfordir cyn bo hir iawn.

Gwelir mewn nifer helaeth o’r achosionhyn bod y canlyniad yn dibynnu yn y bônar ddehongliad o’r polisi cynllunio priodol.Daeth yn amlwg yn ddiweddar fod yLlywodraeth Ganol yn bwriadu cyfyngu aralluoedd cynghorau lleol i wrthod neu ilesteirio’r datblygiadau hynny y mae’rLlywodraeth yn eu ffafrio. Defnyddiwydrheol gyfleus i symud y penderfyniad am

30

Ardal Moel Famau yn y gwanwyn.

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 30

Page 32: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

ganiatáu’r datblygiad o safle tyrbinaugwynt Cefn Croes ger Aberystwyth oGymru i Lundain oherwydd i’r cynnyrchgael ei rhestru’n uwch na 50MW.Methodd y Cynulliad â galw amymchwiliad cyhoeddus er bod llawer owrthwynebiad i’r datblygiad yng Nghymru.Mae llaw’r Llywodraeth i’w gweld yn glirhefyd yn fersiwn drafft newydd y ddogfenholl bwysig PPS22 (Planning PolicyStatement 2) ar Ynni Adnewyddol. Yma,fel Egwyddor Allweddol 2 gwelir “… dylaicynlluniau gynnwys polisïau a ddyluniwyd ihyrwyddo ac annog yn hytrach nachyfyngu ar ddatblygu adnoddau ynniadnewyddol.”

Gall y sefyllfa parthed ynni adnewyddolnewid yn weddol gyflym os dawtechnolegau newydd i’r fei a chaniatáudatblygu dulliau neu beiriannau effeithiolyn gyflym. Yn wir, mae rhagolwg o’rffigyrau’n awgrymu’n gryf y byddai’n gwblbosibl cyrraedd targed y Cynulliad ar gyfer2010 gydag ynni alltraeth yn cyfrannucymaint ag 80% ohono. Os cywir hyn, nifyddai angen ychwanegu at y 512 tyrbingwynt sydd eisoes ar y tir neu sydd wediderbyn caniatâd cynllunio gan y byddant,yn ôl ffigyrau heddiw’n abl i gynhyrchu’r20% sy’n weddill. Ond, o ddarllenymhellach i brint mân y drafft newydd o’rPPS22, gwelir bod y Llywodraeth yn awryn ceisio symud pyst y gôl. Yn yr adranTargedau Rhanbarthol, datgenir “…. niddylid defnyddio’r ffaith bod potensial igynhyrchu cyfansymiau sylweddol o ynniadnewyddol o brosiectau alltraeth ynrheswm dros osod targedau is i brosiectauar y tir!” I’r mwyafrif ohonom, bydd ynewid hwn, o’i dderbyn, yn gwbl afresymolac yn erbyn ysbryd a dealltwriaeth o’rtargedau gwreiddiol a oedd yn cynnwyspob ffurf ar ynni adnewyddol.

Y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros yrAmgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad ynein Cynulliad yw Mr Carwyn Jones AC. Efsydd â’r cyfrifoldeb dros weithredupolisïau’r Llywodraeth bresennol.Amhosibl wrth gwrs yw plesio pawb acmae ganddo dalcen digon caled iberswadio ymgyrchwyr fel YDCW a’i

gefnogwyr ei fod yn rhannu eu syniadauam werthfawrogi a diogelu tirwedd Cymru.Nid yw wedi arfer ei hawl i alw cynllun imewn yn aml ac nid yw wedi gwneud hynyn achos Y Garreg Las. Ond, fe wnaethfelly yn lled ddiweddar yn achos TraethellScarweather yn y môr ger Porthcawl achynhaliwyd yr Ymchwiliad Cyhoedduscyntaf yn y DU i gynnig tyrbinau alltraetho’r fath.

Yn ystod 2003, cyhoeddwyd math oadroddiad ar ddatblygiadau yn RhaglenCynllunio’r Cynulliad yn dwyn y teitlCynllunio: cyflawni dros Gymru. Yn yradroddiad, ceir llawer o enghreifftiau o’rgwaith cynllunio sy’n cael ei gyflawni yngNghymru ac sy’n gwneud defnydd o’r tir.Dywed Mr Jones ei fod “yn awyddus igymryd camau ymarferol er mwyn gwellaethos a diwylliant y drefn gynllunio yngNghymru mewn modd radical.” Byddpawb yn dymuno pob llwyddiant iddo ynei awydd ac yn edrych ymlaen yn eiddgarat weld y datblygiadau radical hyn ganobeithio y byddant yn rhoi blaenoriaeth iamddiffyn prydferthwch cynhenid tirweddCymru.

Yn y cyfamser, mae’n rhaid i bob unohonom sydd am gadw’r gorau oadnoddau a thirwedd Cymru’n ddilychwynfod yn barod i wrthwynebu pob bygythiadyn effeithiol. Mae’n well gwneud y pethauhyn gyda’n gilydd. Ymgynghreiriwch fellyat y dyfodol!

31

Harddwch Dyffryn Clwyd

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 31

Page 33: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

Pryd welsoch chi ysgyfarnogddiwethaf?

Dangosodd arolwgyn 1998 eu bod ynlled gyffredin, ynenwedig ar diramaethyddol lle nadyw’r lefel stocio’n rhyuchel. Ond sylwodd yr Ymddiriedolaeth eu bod yn prinhau amnifer o resymau, gan gynnwys newid mewndulliau amaethu (troi tir glas yn dir âr);cnydio dwys; stocio uchel a hela. Osgwelsoch chi ‘sgwarnog, gadewch i niwybod ar 01248 351541 neu ar e-bost:[email protected]

Yn ôl Geoff Gibbs o Lanfairfechan,mae’r coed derw yng Ngwarchodfa NaturGenedlaethol Coedydd Aber yn gartref ilawer o adar diddorol, gan gynnwys yGwybedog Brith (Pied Flycatcher). Maecant o flychod nythu sy’n gartref i ryw 30pâr. Yn ystod 2004, cafodd dau fyfyriwrfu’n gweithio ar y safle gryn fraw o sylwibod rhywbeth yn difa’r wyau a’r cywionbron ym mhob nyth. Y gelyn yw’r wencisy’n gallu dringo coed yn hawdd achyrraedd y nyth drwy’r twll yn y blwchnythu. Sut gwyddom ni hyn? Gwelwyd unyn y fan a’r lle eleni a chafwyd problemdebyg gyda’r Titw Mawr yn SwyddRhydychen. Yn ôl Duncan Brown o’rCyngor Cefn Gwlad, roedd nifer ymamaliaid bychain yng Nghoedydd Aberyn isel iawn eleni gyda dim ond 3 (llygodbach a llygod pengrwn) mewn 98 trap aosodwyd am dair noson. Dyma’r nifer lleiafers pan ddechreuwyd trapio yn 1986 -

efallai bod gennym wenci hynod o farus yn2004! Gobeithio y bydd llawer mwy olygod y flwyddyn nesaf i ddatrys y broblem!

Mae’r Gymdeithas Mamaliaid ynchwilio am wirfoddolwyr ar gyfer ArolwgLlyg y Dwr (Water Shrew) yn ystod ycyfnod 1 Gorffennaf hyd at 30 Medi 2005.Llyg y Dwr yw un o famaliaid llaicyfarwydd Prydain ac ofnir ei fod ynprinhau. Mae Llyg y Dwr yn fwy na’r LlygCyffredin gyda ffwr tywyll ar ei gefn a’i folyn llwyd olau. Y mae’n greadur lled-ddyfrdrig, yn byw’n bennaf ar fângreaduriaid y dwr. Y gobaith yw y bydd yrarolwg yn rhoi’r wybodaeth sylfaenol i niynglyn â niferoedd Llyg y Dwr, pa fath ogynefin sydd arno ei angen a sut i’wwarchod. Ychydig a wyddom amdano (ynenwedig yma yng Nghymru) gan ei fod ynfychan a disylw a’i bod yn anodd dod ohyd i unrhyw arwyddion ohono mewntyfiant trwchus. Mae’r arolwg yn hawdd -defnyddio pibellau plastig gydag abwyd ogynrhon pryfaid ac yna llenwi ffurflensyml. Gosodir 4 pibell mewn llecyn addas(ar lan afon neu ffrwd neu mewn gwlypdir)a’u gadael yno am bythefnos. Yna, cesglir ypibellau gyda (gobeithio) thail/dom ycreaduriaid ynddynt ac anfonir samplau o’rtail at y Gymdeithas Mamaliaid i’wdadansoddi a’u hadnabod. Gofynnir amarchwiliad o bedwar safle fel hyn. Oshoffech ein helpu i ddeall mwy am ycreaduriaid diddorol hyn, gallwch gysylltuâ Dr Phoebe Carter ar 020 7350 neu âFrances Cattanach, CyfarwyddwrYmddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar 01248 351 541.

32

Nodiadau Natur - MamaliaidFrances Cattanach

Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

Ysgyfarnog. P’rud gwelsoch chi un ddiwethaf?

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 32

Page 34: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

Dros y 10-20 mlynedd diwethaf rydym igyd wedi hen arfer clywed am golledion ymmioamrywiaeth wrth i ddulliau ffermioddwysau. Ond beth mae hyn yn ei olygu?

Dechreuodd y trawsnewid go iawn ofabwysiadu dulliau dwys o ffermio yn ysaithdegau cynnar, wrth i gyfuniad obolisïau’r Llywodraeth, datblygiadautechnolegol a thywydd da arwain at nifer oflynyddoedd cynhyrchiol a llewyrchus iffermwyr ym Mhrydain. Y polisi ar y prydoedd cynnig cymorth ariannol hael iffermwyr i wella’u tir drwy ddraenio,dymchwel cloddiau ac ail-hadu henborfeydd. Ar yr un pryd ymddangosoddsawl technoleg newydd, a daeth nifer o’rpeiriannau a gysylltir ag amaethu modernyn gyffredin ar draws ffermydd Cymru.Oherwydd i Brydain ymuno â’r UndebEwropeaidd ac oherwydd nifer o hafausych, mae amryw o arferion ffermio a fu’ngyffredin tan hynny, wedi diflannu.

Tarddodd nifer fawr o broblemauamgylcheddol heddiw yng nghanol ysaithdegau yn sgil y newidiadauchwyldroadol hyn mewn dulliau amaethu.Mae rhai o’r problemau hyn yn cynnwysmaterion llosg cyfarwydd megis gwrtaith aphlaladdwyr yn llygru’r dwr, diflaniadcynefinoedd pwysig fel cloddiau achorsydd, a’r gostyngiad sylweddol yn niferrhai rhywogaethau adnabyddus o adar agloÿnnod byw. Ymddengys na roddirgymaint o bwyslais gan y cyhoedd arfaterion eraill o bwys a ddatblygodd o’rcyfnod hwn, megis y patrwm o gefnu ar

ffermio cymysg a pheidio â thyfu grawn aryr ucheldir. Arweiniodd y ddwy dueddhyn, yn ogystal â’r arfer o gymryd sawltoriad o silwair y flwyddyn yn hytrach nagwair, at greu unffurfiaeth yn y tirlun.Mae tystiolaeth gynyddol bellach mai’rnewidiadau sylfaenol hyn mewn defnyddtir ar raddfa eang yw gwraidd y broblem oostyngiad mewn bioamrywiaeth.

Tra bo’r cyfryngau wrth eu boddau gydastraeon sy’n awgrymu bod y cynnydd yn ydefnydd o blaladdwyr dros y 30 mlynedddiwethaf yn gysylltiedig â’r gostyngiad ymmhoblogaethau adar tir amaethyddol drosyr un cyfnod, mae hyn yn fwy na thebyg yneglurhad llawer rhy syml ac arwynebol.Awgryma cyhoeddiadau gwyddonoldiweddar mai’r newid o dyfu grawngwanwyn i fathau gaeaf yw’r prif achos amy gostyngiad a welwyd mewn sawlrhywogaeth o adar. Mewn system lle tyfirgrawn gwanwyn, gadewir sofl dros y gaeaf,sy’n ffynhonnell bwysig a phrin o fwyd i’radar. Dechreuodd y ddibyniaeth ar fathaugaeaf yng nghanol y saithdegau, panddatblygwyd mathau newydd o ffwng-laddwyr. Yn yr un modd, cysylltir y newido gynhyrchu gwair i silwair â’r gostyngiadyn nifer yr adar sy’n nythu ar y tir, megisRhegen yr Yd sydd bellach wedi diflannu oGymru serch bod yn bresennol hyd at ysaithdegau cynnar.

Prin y gallwn wneud cyfiawnder â’rcymhlethdodau uchod yn yr erthygl hon,ond rydym yn llwyr gredu bod y berthynasrhwng ffermwyr, eu tir a bioamrywiaeth yn

33

Amaeth, Natur a Pholisi: dysgu o’r gorffennol?

Gareth Edwards-Jones a Geraint Hughes

Gareth Edwards-Jones yw’r Athro Amaeth a Defnydd Tir o fewn yr YsgolGwyddorau Amaeth a Choedwigaeth, Prifysgol Cymru Bangor.

Geraint Hughes yw Rheolwr Canolfan Defnydd Tir Amgen yn yr Adran uchodar fferm yr Henfaes, Abergwyngregyn.

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 33

Page 35: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

llawer mwy cymhleth na’r hyn a bortreadirgan y cyfryngau. Yn anffodus, niadlewyrchwyd y cymhlethdodau hyn gan yrhai a ymgyrchodd dros newid cefngwladyn ystod yr wythdegau a’r nawdegau. Criddi-baid y grwpiau hyn oedd mai’r PolisiAmaeth Cyffredin (PAC) oedd i’w feio amy cyfan. Oherwydd bod y PAC yn cynnigcymorthdaliadau ar sail yr hyn agynhyrchwyd, honnai’r ymgyrchwyr bodffermwyr yn cael eu hannog i wthiocynhyrchiant i’r eithaf er mwyn mwyhau’relw. Yn ôl y ddadl hon, roedd cefn gwladyn cael ei ddifetha oherwydd polisiamaethu gwael.

Yn ystod y deuddeng mis diwethafrydym wedi bod yn dyst i un o’rdiwygiadau mwyaf sylfaenol yn y PAC,wrth i’r hen gyfundrefn o gynnigcymorthdaliadau ar sail cynhyrchiant gaelei olynu gan daliadau sydd wedi’u seilio aryr arwynebedd sy’n cael ei amaethu.Gobaith y gwleidyddion yw na fydd y PACar ei newydd wedd yn annog ffermwyr iddifrodi cefn gwlad er mwyn elw, gan ybydd y taliadau yng Nghymru o 2005ymlaen yn cael eu datblygu o fod ynseiliedig ar gynhyrchiant i fod yn ddibynnolar arwynebedd unedau ffermio. Ynddiddorol, dyma’r union bolisi y buymgyrchwyr yn brwydro amdano ersblynyddoedd. Felly, os oedd eu dadleuonynglyn ag effaith andwyol systemgymorthdaliadau yn y gorffennol yn wir,gallwn ddisgwyl gweld colledion mewnbioamrywiaeth yn dod i ben.

Yn anffodus, dydi pethau ddim morsyml â hynny, gan nad polisi yn unig sy’npenderfynu newidiadau yn nefnydd tir.Gwelir hyn yn glir pan gymherir achosioneraill o newidiadau yn nefnydd tir ar drawsy byd. Mae gwledydd mor amrywiol agAmerica, Zimbabwe, Slofacia ac Ynysoeddy Philipinos i gyd wedi dangos tueddiadautebyg yn natblygiad defnydd tir dros y 30mlynedd diwethaf, er gwaetha’r ffaith bodganddynt bolisïau amaeth gwahanol iawn.Maent i gyd wedi gweld gostyngiad yn ynifer o ffermydd cymysg, cynnydd mewnmecaneiddio, cynnydd yn y defnydd ofewnbynnau megis gwrtaith a phlaladdwyr,

ac, o ganlyniad, cynnydd yn lefelaucynhyrchiant.

Beth felly, er yr amrywiaeth yn ypolisïau, sy’n esbonio’r tebygrwydd a welirar draws y byd mewn patrymau defnyddtir? Credwn fod ffactorau eraill arwahân ibolisi yn gyfrifol am y newidiadau hyn,megis effaith yr economi byd-eang,datblygiadau technolegol ac agwedd athueddiadau defnyddwyr a phrynwyr.Credwn felly mai’r dylanwadau hyn sy’nnodweddu grymoedd y farchnad rydd, sy’ngyfrifol am y newidiadau a welwyd yn ydefnydd o dir ym Mhrydain ers ysaithdegau. Rydym o’r farn felly na fyddaddasu’r PAC mewn gwirionedd yn caelfawr o effaith ar wrthdroi’r newidiadau awelwyd yn nhirwedd a bioamrywiaethCymru dros y degawdau diwethaf.

Os cymerwn fod y dadansoddiad hwnyn wir, yna, er mwyn lleddfu effaithamaethu ar yr amgylchedd, mae angendelio â’r problemau hyn gyda’i gilydd ynhytrach na bob yn un. Mae hyn ynymarferol bosibl gyda materion megisaddysgu a dylanwadu ar agwedddefnyddwyr. Er enghraifft, gwelwydcynnydd sylweddol yn ddiweddar ynnealltwriaeth a chefnogaeth y cyhoedd tuagat gynyddu’r pwyslais o fewn cyfundrefnaucymhorthdal amaethyddol ar gadwraeth agwarchod yr amgylchedd, sy’n adlewyrchunewid sylfaenol ym meddylfryddefnyddwyr. Mae delio â’r ffactorau eraillyn dipyn anoddach os nad yn amhosibl arlefel Brydeinig. Mae’n annhebygol iawn erenghraifft y byddwn yn gweld Cymru a

34

Arbrofion tyfu Llin. Llun: Dr. Jim Dimmock

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 34

Page 36: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

gweddill Prydain yn cefnu ar y farchnadrydd fyd-eang. Yn yr un modd nid oesdisgwyl i ffermwyr orfod anwybyddudatblygiadau technolegol arloesol. Tra boffermwyr â’r awydd i wneud elw, byddgennym bob amser rai sydd a’u bryd arfabwysiadu’r dechnoleg ddiweddaraf ermwyn cynyddu allbwn, gostwng costau ahwyluso bywyd yn gyffredinol. Yn yr unmodd, tra bod gennym ddefnyddwyr sy’ndymuno dewis y bwyd rhataf mewn byd llemae cludiant rhyngwladol yn hwylus arhesymol, byddwn yn parhau i weithredu ofewn masnach fyd-eang.

Os yw’r dadleuon hyn yn wir, yna mae’nannhebyg iawn y gwelwn amaethyddiaeth achefn gwlad yn dychwelyd i’r cyfnod cyn ysaithdegau.. O ganlyniad mae cynlluniauamaeth-amgylchedd megis Tir Gofal yndebygol o ysgwyddo llawer iawn o’rcyfrifoldeb i hybu cadwraethamgylcheddol. Dros y degawd diwethafmae cynlluniau amaeth-amgylchedd wedicynyddu mewn pwysigrwydd yng ngolwgcadwraethwyr yn ogystal â ffermwyr sy’nddibynnol ar y cymorth ariannol. Er nasefydlwyd y cynllun cyntaf tan 1988, mae’ramser a’r egni gwleidyddol a fuddsoddwydyn y cynlluniau yn golygu bod hyd yn oedystyried cefn gwlad hebddynt ynymddangos yn rhyfedd a phechadurus.

Mae’n ddiddorol er hynny i orfodi’nhunain i feddwl am gefn gwlad rhywbrydyn y dyfodol heb y cynlluniau hyn. Nidoes amheuaeth na ddaw’r cyfnod oddibyniaeth ar gynlluniau megis TirCymen, Tir Gofal a Thir Cynnal i benrhyw dro, oherwydd mae hanes yn dangos

yn eglur nad oes yr un polisi yn parhau ambyth. Anodd yw rhagweld beth fydd unionachos tranc cynlluniau amaeth-amgylcheddyn y dyfodol, ond gall fod yn gysylltiedig ânewid mewn agweddau gwleidyddol achymdeithasol tuag atynt, neu o bosiblsylweddoli eu bod yn methu â chyflawni euhamcanion am gost resymol. Beth fydd ycamau nesaf pan ddigwydd hyn?

Mae’n bryd yn ein barn ni igadwraethwyr ddechrau meddwl am hyn.Un opsiwn y dylid ei ystyried yw caniatáucolledion bioamrywiaeth mewn rhaiardaloedd ehangach o gefn gwlad, ynarbennig lle mae ffermio dwys yn fwyafamlwg, wrth ddynodi tiroedd eraill mwypwrpasol yn warchodfeydd natur i’w rheoligan ganllawiau llymach. Byddai tir felly yncael ei ddefnyddio’n benodol ar gyfer un aicadwraeth neu ar gyfer ffermio, yn hytrachna cheisio cyfuno’r ddau fel sy’n digwyddnawr. Opsiwn arall a ragwelwn yn ydyfodol yw’r cyfleoedd i sefydliadauanllywodraethol (a’r Llywodraeth ei hun)brynu tir er mwyn ei reoli er budd bydnatur yn unig. Tra bo’r syniadau hyn ynymddangos yn rhyfedd i chi yn awr,ystyriwch beth fyddai ymateb ffermwr o’rflwyddyn 1905 i’r syniad o dalu amaethwyram beidio â thyfu cnydau - sef un obolisïau presennol yr Undeb Ewropeaidd odan y cynllun neilldir!

35

Amaethu:....ddoe ...heddiw

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 35

Page 37: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

Ganwyd John Lloyd Jones, golygyddCylchlythyr Cymdeithas Edward Llwyd, ynNowlais, Merthyr ond fel plant ficer plwyfGwynfe, Sir Gaerfyrddin, y ParchedigDavid Lloyd Jones, y cofir amdano ef a’ichwaer Mair yn aml. Mynychodd y ddauyr ysgol gynradd yng Ngwynfe ac ynaYsgol Ramadeg Llanymddyfri. Pansymudodd y teulu i Gilcennin, Ceredigion,daeth cyfle i flasu diwylliant y Cardi ynYsgol Uwchradd Aberaeron. Mae’n amlwgi’r ddwy fro Gymraeg gael dylanwad mawrar John oherwydd mae’n werinwr syddwrth ei fodd yng nghwmni pobl cefngwlad. Does ryfedd felly maiamaethyddiaeth oedd maes ei astudiaethyng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth.

Wedi graddio, treuliodd dair blynedd yncofnodi gweithgareddau fferm y Brifysgolcyn cael swydd darlithydd yng NgholegAmaethyddol Hampshire. Yno, cyfarfu â’iwraig Pauline. Dychwelodd i Gymru panagorwyd Coleg Sir Benfro, Hwlffordd - treffarchnad Seisnig ei naws ar y pryd. Yno,bu’n bennaeth yr adran amaethyddiaeth.Yn Gymro da, ei ddymuniad oedd codi eiddau fab i fwynhau breintiau ei blentyndodef. Roedd rhyddid cymuned wledig a’riaith yn flaenoriaethau wrth sefydlu cartrefnewydd i’w deulu. Aeth ati gyda niferbychan o rieni ifanc i sefydlu CylchMeithrin Cymraeg a ddatblygodd gydathreigl amser yn Ysgol GymraegGlancleddau gyda thua 200 - 250 o blantynddi erbyn hyn.

Cafodd yrfa lwyddiannus fel darlithyddfel y tystia ei gyn-fyfyrwyr. Wrthgydgerdded, peth cyffredin yw cael gyrrwrland rover neu dractor yn llusgo offerdrudfawr yn aros i gyfarch ‘Mr Jones’.Mae’r cysylltiad â’r ffermwr lleol yn fuddioliawn i un sydd mor barod i arwain

cyfarfodydd maes y Gymdeithas. Bu’nllywydd Ffederasiwn Clybiau FfermwyrIfanc Sir Benfro ac, fel gwerthfawrogiad o’iwasanaeth, fe’i gwnaed yn aelod oesanrhydeddus. Mae’r ffaith mai un rali’r siryn unig a gollodd ers 1962 yn arwydd o’iffyddlondeb i’r mudiad. Fe’i anrhydeddwydhefyd gan Undeb Cenedlaethol y Ffermwyrac am ei wasanaeth clodwiw iamaethyddiaeth yn Sir Benfro, cafodd‘Darian Goffa Idris Davies’.

Yn naturiaethwr wrth reddf, cafoddamser ar ôl ymddeoliad cynnar i ehangu eiddiddordeb mawr ym myd natur. Daethbysys bach yr arfordir i hwyluso cerddedLlwybrau Parc Cenedlaethol Arfordir SirBenfro lle mae cymaint o Brydeinwyr athramorwyr ymhlith yr ymwelwyr. Mae

36

Dod i ’nabod ein gilydd – John Lloyd Jones

Dilys Parry

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 36

Page 38: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

John yn genhadwr gwych, yn sgwrsio achyflwyno rhagoriaethau Cymru yn gynnil.Gwyr am bob twll a chornel bron, ond gallfod yn boen wrth ddisgwyl i ninnau gofioenw pob blodyn a glaswelltyn, hebanghofio’r ynysoedd bychain yn y bae a’rcopaon yn y mewndir. Gwae ni! Erbyn hyn,mae ganddo ddiddordeb newydd sefmadarch a chaws llyffant. Mor ffodus yw eidair wyres fach i gael taid i fynd â nhw i’rparc i edrych ar y madarch a thrysorau eraillbyd natur.

Gyda chyfoeth o iaith gyhyrog cefngwlad dwy fro Gymraeg ei ieuenctid yngefn iddo, aeth ati’n frwdfrydig i ddysguCymraeg i oedolion. Cyflwynoddgyfarfodydd maes Cymdeithas EdwardLlwyd iddyn nhw fel cyfle da i ymarfer euhiaith newydd wrth ddod i nabod Cymru’nwell. Gall John sy’n berson diymhongar adiymffrost ymhyfrydu mewn un orchestunigryw yn hanes Cymru. Ef yw’r unigddyn i sefydlu cangen o Ferched y Wawr.Wrth gefnogi diddordebau ei wraig,gwelodd fod angen cangen yn Hwlffordd abuan y gwireddodd ei freuddwyd. Eto,dyma gymell ei ddysgwyr i ymuno.

Heddiw, pan mae byw yn y wlad atheithio milltiroedd i’r gweithle yn y drefyn arferol, gall ymuno â gweithgareddau’rgymuned leol fod yn amhosibl neu o ddimdiddordeb. Nid felly John. Mae’n un ohoelion wyth cymdeithas Y Ddolen Arian

leol ac yn gefn i weithgareddau Sefydliad yMerched. Mae’n enillydd cyson yn ei sioeflynyddol ac yn bencampwr ar bobi bara.Mae cynnyrch ei ardd doreithiog hefyd yntynnu sylw’r beirniaid er mae’n cyfaddefbod ganddo restr o enwau Cymraeg ychwyn sy’n beiddio mentro i Lys Helyg.Diddordeb arall yw cofnodi enwau’r adar addaw heibio yn eu tro yn ogystal â mesur yglawiad dyddiol.

Heblaw am ei swydd fel golygydd yCylchlythyr i Gymdeithas Edward Llwyd,mae John hefyd yn ysgrifennydd Cymdeithasy Cymrodorion yn Hwlffordd ersblynyddoedd ac yn cyflawni’r cyfan ynddirwgnach bob amser. Hwyrach bod codi’nfore i fod ar y cwrs golff erbyn wyth a chlatsiopêl yn clirio’r rhwystredigaeth. Hyfryd oeddclywed am un o’r chwaraewyr yn dweud maipleser yw bod yn ei gwmni gan fod ganddoffeithiau newydd bob tro. Dichon maimadarch oedd dan sylw y tro hwnnw.

Mae chwilio am deithiau newydd yn eigwmni yn hwyl. Deuthum i adnabod SirBenfro yn well o safbwynt bywyd gwyllt,llenyddiaeth, hanes a daeareg. Gwn erbynhyn am un peth sy’n dân ar ei groen.Mae’n gas ganddo weld camsillafu neuiaith letchwith ar arwydd costus neuhysbysfwrdd. Ei ymateb yw ysgrifennu atyr awdurdod priodol yn ddi-oed. Ydidylanwad y Cardi yn gryfach na’r MynyddDu wedi’r cyfan?

37

Y mae Cymdeithas Fotangol Prydain(BSBI), wedi cytuno i dderbyn rhestrCymdeithas Edward Llwyd, PlanhigionBlodeuol, Conwydd a Rhedyn (2003) fel eirhestr swyddogol o enwau Cymraeg.

Mae’r rhestr yn cynnwys enwau |Lladin,Cymraeg a Saesneg pob un o’r 4,000 oblanhigion a geir ym Mrydain.

I’w gael oddi wrth:Tom Jones, Ty Capel Bethel, Golan,

Garndolbenmaen, Gwynedd, LL51 9YUPris £4.50. Drwy’r post £5.50.

Be ydi’r enw Cymraeg am…?

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 37

Page 39: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

38

Llun Pwy?

Pwy oedd hwn?Roedd yn hoff o gwn.Anfonwch eich sylwadau (yn fyr!), cyn diwedd Ebrill ’05.Bydd gwobr o lyfr am y cyfraniad gorau.

Gwr y goler gron yn y rhifyn diwethaf oedd R. S. Thomas.Cafwyd ymateb da. Mae’r wobr yn mynd i Ann OwenVaughan am ei hatgofion diddorol.

Bryn Gwylan, Llangernyw, Abergele, Conwy LL22 8PF

Annwyl Olygydd,Ar ôl troi i’r Naturiaethwr a dderbyniais

ddoe, roedd yn rhaid rhoi pwt ar bapur. Fyffrind R S Thomas yw gwr y goler gron.

Cyfarfum ag ef am y tro cyntaf panddechreuais ddysgu yn Ysgol Deunant,Aberdaron yn 1974. Roedd yn galw imewn i gynnal gwasanaeth i’r adran iau arfore cyntaf bob tymor. Nid oeddwn yn eiweld bryd hynny. Pan oeddwn yn caelmynd â’r plant allan am dro i astudio bydnatur, byddwn yn ei weld yn cerdded efo’rsbenglas o amgylch ei wddw â’i ben i fyny.

Mae’n debyg ei fod yntau wedi sylwiarnaf innau hefyd, allan yn yr awyr iach.Fe ddeallodd fod gennyf ddiddordeb ymmyd adar ar ôl bod ar Ynys Enlli gyda fyffrind Muriel a chael bod yng NghwmniPeter Hope Jones.

Yna, yn aml ar ddydd Sadwrn, byddai RS wedi trefnu ein bod yn mynd i chwilioam aderyn arbennig e.e. y barcud coch afinnau erioed wedi gweld un o’r blaen.Teithio i lawr am Dal-y-llyn a chael gweldun yn hedfan uwchben. Fe wnaethon nideithio a thrafeilio llawer man yngNghymru.

Rwy’n cofio i ni alw heibio Bill a PennyCondry yn Ynys Hir un tro a sôn am gaelhwyl! Roedd R S a Bill yn tynnu ar eigilydd a finnau â fy ngheg yn agored, ondroeddent yn ffrindiau mawr ac wedisicrhau’r Warchodfa yno i genedlaethau iddod i’w mwynhau.

Pwy ddywedodd deudwch ei fod ynddyn sych? Bob tro y teithiem yn y carbyddwn yn rowlio chwerthin a choeliwchchi fi mae’n cymryd llawer i hynny

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 38

Page 40: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

39

ddigwydd a finnau efo hiwmor sych PenLlyn.

Roeddem ill dau yn helpu efo’r papurbro Llanw Llyn. Bob chwarter roedd ynabwyllgor a byddai R S, Gareth Williams(ffrind arall a chymydog i R S) a finnau yncyd deithio a chael llawer o hwyl. Un tro,rwy’n cofio mynd efo fo i Uwchmynydd iwylio’r môr a recordio beth oedd yn pasioyn y Swnt. R S efo’i wallt yn chwythu ibobman a hen gôt laes ddu gydarhwygiadau y tu ôl iddi, amdano.

Pan oedd mam yn yr ysbyty yn ystod eichwe mis olaf, byddai R S yn gofyn “Pabryd ydych chi’n mynd i weld eich mameto?”

“Nos yfory”, meddwn.“Iawn, mi ddo i efo chi, dewch i fy nôl

ar ôl te”.Dim gofyn a oeddwn eisiau iddo fo

ddod ond dweud “rwy’n dod”. Dyna’rgwahaniaeth a dyna i chi gyfeillgarwch.Tydw i ddim yn cofio mynd na dod iFangor y noson honno er ei bod yn nosonfudur, niwl dopyn ac yn glawio. Pangyrhaeddis Sarn y Plas (ei gartref)rhoddodd arian i mi tuag at y petrol.Roedd ei gwmni wedi bod yn fwy nadigon, ond dyna fo, fel yna roedd o.

Ar ôl i mi briodi a symud i Langernyw,byddai yn galw yma ar ei dro, a mynd i

wylio adar. Roedd yn cael llawer o hwylefo’r plant.

Byddwn yn galw yno efo’r plant a chaelcroeso ganddo a Mrs Thomas. R S yngwneud paned ac estyn y bocs cacennauroedd newydd eu coginio. Sôn am flasus!Dro arall cael glasiad o siampên ysgaw.Mae’n chwith ar ôl ambell achlysur fel hynac arogl coed yn llosgi wrth gerdded imewn. Yna, gweld dau dedi yn eistedd argadair yn y siambr, titw yn dod i nôlbriwsion o’i law a’r plant yn dotio. MrsThomas yn diolch o galon am yr wyau,doedd dim eisiau eu difetha wir.

Fel roedd ei lyfrau’n dod o’r wasg,byddwn yn cael un wedi’i lofnodi. Felarfer, os doi un at y Nadolig byddai mewnpapur llwyd a llinyn. Yn rhyfedd niwnaethom erioed drafod ei farddoniaeth.

Roeddwn yn gwybod ei fod yn codi’ngynnar, mynd am dro ar hyd lôn Ty’nParc, yna adref i farddoni.

Galwais i’w weld ym Mhentrefelin rhywbythefnos cyn iddo ein gadael ac, er ei fodyn wantan, sôn am chwerthin a helatgofion wnaethom. Diolch am gael eiadnabod, un a fu’n ffrind ffyddlon i mi.

Yn gywir,Ann Owen Vaughan.

Beth am hysbysebu?Mae’r Naturiaethwr yn cyrraedd oddeutu 3,000 o ddarllenwyrddwywaith y flwyddyn.

Tudalen lawn £1001/2 tudalen £501/4 tudalen £25

Cysylltwch â’r swyddog hysbysebion: Mrs. Heulwen Bott, Orchard Croft,Hill Road North, Helsby, Cheshire WA6 9AF (01928) 723351neu â’r Golygydd.

12039_Text_Pages 9/12/04 4:35 pm Page 39

Page 41: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

40

Yn ystod cynhadledd flynyddolCymdeithas Edward Llwyd ym mis Medi2004, dathlwyd pen blwydd ein Sylfaenydda’n Llywydd, Dafydd Dafis yn 80 oed.Cyflwynwyd portread ohono gan yr arlunyddGareth Davies o ardal Llandeilo, i Dafydd arran y Gymdeithas gan Dewi Jones a nodwydyr achlysur gyda theisen/cacen arbennigwedi’i haddurno’n hardd â blodau gwyllt o’rpedwar tymor a phâr o ‘sgidiau cerdded!

Ar ran y Gymdeithas, estynnwn einllongyfarchiadau a’n dymuniadau da iDafydd a Joan – roedd yn bleser cael eucroesawu gyda’u tair merch a’u hwyres i’rcyfarfod.

Diolch, Dafydd

Y Ddau Ddafydd

Gwanwyn

Haf

Hydref

Gaeaf

Y deisen ben-blwydd

12039_Text_Pages 9/12/04 4:36 pm Page 40

Page 42: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

41

• Yn Nhregaron, mae arddangosfa o ffotograffau o Gors Caron i’w gweld yn OrielRhiannon. Gellir gweld y lluniau a dynnwyd gan Rachael Entwistle-Dvaies rhwng 10 a6 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, hyd y flwyddyn newydd.

• Y llynedd, aeth pobl i ymweld â chefn gwlad ac arfordir Cymru fwy nag 80 miliwn oweithiau. Mae pobl Cymru’n fwy tebygol na thrigolion Lloegr na’r Alban i fynd ardaith i gefn gwlad.

• Fis Gorffennaf diwethaf, gwelwyd haid o tua 40 o ddolffiniaid ger ynys Sgomer, SirBenfro. Nofiodd y dolffiniaid am tua 10 munud wrth ochr y cwch oedd yn cludoymwelwyr i’r ynys. Mae’n anarferol iawn eu gweld yn agos i’r lan.

• Yn ystod yr hydref eleni, ail gyflwynwyd Madfallod y Tywod (Sand Lizards) i’r twynitywod ar arfordir Cymru yn Sir Ddinbych. Diflannodd yr ymlusgiaid hyn o ogledd agorllewin Cymru yn ystod yr 1960au ond cawsant eu hail gyflwyno i dwyni Sir y Fflintrhyw ddeng mlynedd yn ôl a llwyddodd y cynllun.

• Cafwyd newydd da gan Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru yn ddiweddar. Maepoblogaeth y dyfrgi yn dal i gynyddu gyda chynnydd o 41% yn nifer y cofnodion rhwng1991 a 2002. Nodwyd y nifer mwyaf ar afonydd Cleddau, Teifi, Clwyd a Gwy.

Wyddoch chi………?

12039_Text_Pages 9/12/04 4:36 pm Page 41

Page 43: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

42

Yr Hen FicerdyCilcainYr WyddgrugHydref 2004-11-17

Annwyl GoronwyDiolch am y rhifyn diweddaraf o’r Naturiaethwr. Yn ôl fy arfer, cefais flas ar y cynnwys.Tybed a oes modd cael tipyn bach mwy o wybodaeth am yr awduron – eu gwaith, eucefndir ayyb? Byddai hyn yn rhoi mwy o’r cyd-destun a chefndir i’r erthygl.Unwaith eto, diolch am safon y cylchgrawn.Yn gywir,Delyth Williams.

Llys HelygPelcombHwlffordd20 Awst 2004

Annwyl GoronwyErbyn hyn ’rwyf wedi darllen Y Naturiaethwr o glawr i glawr ac wedi cael y pleser arferolo wneud hynny.Dau sylw cyffredinol – yn gyntaf, cân y gwcw. Roeddwn dros y blynyddoedd yn eichlywed yn gyson o’r ardd ond wedi methu ers peth amser. Serch hynny, llwyddais i’wchlywed yn 2003 ym Mynachlogddu wrth droed y Preselau wrth ymchwilio taith i’rGymdeithas. Clywais hi yn 2004 ar y llethrau uwchben Abercraf yng Nghwm Tawe ar uno deithiau Arwel Michael ar 8 Mai. Clywyd hi ddwywaith yn fuan ar ôl cychwyn ar ydaith ac yna tua’r diwedd – yr un gwcw efallai!Yn ail, fel aelod o’r clwb golff lleol, cefais flas ar erthygl Austin Savage. Ceir hefyd fannaudiddorol ar gwrs Hwlffordd fel yn Rhuddlan. Credwch neu beidio am y tro cyntaf yn fyoes, gwelais ddwrgi yn y gwyllt tra’n chwarae yn Hwlffordd. O flaen yr wythfed lawnt,mae llyn bach ac, un amser, roedd yn llawn pysgod. Bu hyn yn ddigon i ddenu dauddwrgi rai misoedd yn ôl ond ni fuont yno’n hir. Erbyn hyn, mae’r llyn yn ddi-bysgod a’rdwrgwn wedi dychwelyd i’r afon gyfagos mae’n debyg.Cofion gorau,John Lloyd Jones.

Llythyrau

12039_Text_Pages 9/12/04 4:36 pm Page 42

Page 44: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

43

Y Dyn a Blannai GoedJean Giono

Cyfieithiad Martin Davies

Gwasg Carreg Gwalch (2004)

61 tud. Clawr meddal. Lluniau du a gwyn.

ISBN 0-86-381 940 0

£4.95

Cyfieithiad neu addasiad o chwedl a leolir yn ucheldir de Ffrainc a geir yma ac agyhoeddir ar y cyd gan Coed Cadw (Woodland Trust) a Gwasg Carreg Gwalch fel rhan oymgyrch newydd a elwir Coed i Bawb. Amcan yr ymgyrch, meddir, yw ysbrydoli plant aphobl ifanc i ofalu am yr amgylchedd a hynny yn rhannol trwy anelu at blannu un goedenfrodorol ar gyfer pob plentyn dan 16 oed yng Nghymru. Nod clodwiw iawn wrth gwrs acamserol hefyd, mi gredaf, i ddadwneud y rhagfarn a’r casineb bron na ddywedwn, addaeth i’m cenhedlaeth i ynghlwm wrth yr holl blannu coed gan y ComisiwnCoedwigaeth yn y ganrif ddiwethaf, gyda’r coedwigoedd mawr undonog yn cymryd llecymdeithas werinol amaethyddol mewn sawl ardal yng Nghymru.Mae pwyslais yr ymgyrch hwn a lansiwyd yn hydref 2004 yn amlwg ar blannu coednaturiol brodorol, a da hynny. Rydw i’n sicr y cytunwn fod digonedd o le i blannucoedlannau yn hytrach na choedwigoedd a fyddai’n cyfoethogi ein tirlun a’n cymdeithasyng nghefn gwlad.Ond yn ôl at y llyfr! Stori ddychmygol ddamhegol sydd yma am hen fugail yn gwylio’ibraidd ar yr ucheldir ym Mhrofens ac yn mynd ati i gasglu a phlannu mes a hadauffawydd a choed brodorol eraill. Mae ganddo freuddwyd a gweledigaeth sut y gall hyn ailadfer y tirlun cymharol foel i gynnwys coedlannau llewyrchus, a hynny yn ei dro ynarwain at ail adfer poblogaeth a chymdeithas yn y sgerbydau o bentrefi. Mae eiymroddiad a’i ddycnwch yn arwain, dros rai degawdau, at lwyddiant, gyda’r tir sych adiffaith yn dod yn iraidd eto. Gwir a ddywedir yn y cyflwyniad - mesen ydi’r stori hon.Martin Davies yw cyfieithydd y stori ac mae’r arddull yn awgrymu mai dysgwr ydi o. Pobdiolch a chlod am hynny ond rydw i’n synnu braidd na fyddai mwy o olygu a chywirowedi’i wneud. Mae yma gryn dipyn o wendidau orgraff a chystrawen a’r cyfieithu ormodair am air yn hytrach na brawddeg a’i synnwyr.Ond mae’r rhagair i’r gyfrol gan Twm Morys yn stori ac yn farddoniaeth wych ynddo’ihun ac mae’r argraffu a’r dylunio hefyd yn ardderchog.

Tegwyn Thomas

Adolygiadau

12039_Text_Pages 9/12/04 4:36 pm Page 43

Page 45: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

Cacwn yn y FfaWil Jones Golygyddion: Duncan Brown a SiânShakespeare

Gwasg Carreg Gwalch; (Llyfrau Llafar Gwlad, 58)2004

96 tud. Clawr meddal

£5.00

Roedd llawer o aelodau Cymdeithas Edward Llwyd yn nabod ‘Wil Croesor’ - yn hoffohono ac yn ei edmygu fel naturiaethwr. Colled fawr fu ei farw sydyn ddwy flynedd yn ôl.Ar ôl bod yn athro ysgol am beth amser, bu Wil Jones yn gweithio am y rhan fwyaf o’i oesfel warden i’r Cyngor Cefn Gwlad (y Cyngor Gwarchod Natur cyn hynny). Yr oedd ynnaturiaethwr wrth reddf ac wrth ei fodd yn rhannu ei ddiddordeb ag eraill, ac fel y dywedJonathan Neal ac Alun Price yn eu cyflwyniad:

Da o beth fyddai i genhedlaeth newydd glywed ei neges, yn enwedig o gofio’r dueddheddiw i drafodaeth droi’n ddadl ac i garfanau neu unigolion lynu wrth eusafbwyntiau er mwyn sgorio pwyntiau hunanbwysig. Ni welwyd Wil erioed yn ceisiocystadlu â byd y ‘Fi Fawr’.

Cyfres o ysgrifau a geir yn y gyfrol wedi’u casglu ynghyd o dan benawdau’r pedwar tymor- rhyw hanner cant i gyd a phob un yn llenwi rhyw dudalen fwy neu lai. Yn adran y gaeaf,cawn ychydig o hanes yr uchelwydd a’r gelynnen, y dryw eurben, alarch y Gogledd a’rcyffylog ynghyd â thalp difyr o ‘ddyddiadur naturiaethwr dros gyfnod o fisoedd y gaeaf.’Yn ei gofnod am 21 Tachwedd, darllenwn: “Yng ngolau’r car roedd llawer o’r gwyfynErannis defoliaria, y blingwr, i’w gweld ar yr adain……. hwn oedd yn bennaf gyfrifol amflingo’r derw oll ym Mehefin a Gorffennaf pan oedd yn lindys. Rhyfeddach fyth …..ywbod yr iâr wrthi’n dringo’r coed i ddodwy’r wyau ar hyn o bryd; nid oes ganddi adenydd ihedfan.”Roedd diddordebau Wil Jones yn eang - y coed a’r blodau, yr adar a’r mamaliaid, ymwsoglau a’r pryfed. Ond, yn fwy na dim, roedd yn ecolegwr - gwelai’r berthynas rhwngyr holl greaduriaid a’i gilydd ac a’u cynefin a chawn ninnau’r fraint o gael cipolwg ar fydnatur drwy lygaid y gwladwr a’r gwyddonydd o Groesor.

G.W.

44

12039_Text_Pages 9/12/04 4:36 pm Page 44

Page 46: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

of Aberystwyth Ltd.

Offer Chwaraeon ac Antur

45

Dillad ac offer o safon ar gyfer…

• Sgio • Brigdonni • Sglefrio • Cerdded • Dringo • Mynydda • Sgi-fyrddio

Cofiwch fod gostyngiad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd.

40c Stryd Fawr, Aberystwyth SY23 1DE

01970 625453

12039_Text_Pages 9/12/04 4:36 pm Page 45

Page 47: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

46

Canolfan Arddangos Cenedlaethol Ogofeydd Cymru

Cwmtawe01639 730284

www.dan-yr-ogof-showcaves.co.uk

Dan-yr-Ogof

12039_Text_Pages 9/12/04 4:36 pm Page 46

Page 48: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

47

Gwesty Llyn EfyrnwyOs am westy cyfforddus, moethus, dewch yma.

Bwydlen ddiddorol a safonol iawn.Cymwysterau da i bartion preifat, cynadleddau a phriodasau.

Golygfeydd dramatig o’r llyn a’r mynyddoedd.Cyfle da i gerdded a mwynhau’r bywyd gwyllt.

Pob dymuniad da i’r Naturiaethwr

Gwesty Llyn EfyrnwyLlanwddyn

Sir Drefaldwyn SY10 0LYTel: 01691 870692Fax: 01691 870259

[email protected]

12039_Text_Pages 9/12/04 4:36 pm Page 47

Page 49: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

Cymdeithas Edward Llwyd

Sefydlwyd Cymdeithas Edward Llwyd yn 1978 a hi yw Cymdeithas GenedlaetholNaturiaethwyr Cymru. Enwir y Gymdeithas ar ôl Edward Llwyd, a anwyd yn 1660 ac a alwyd ynei gyfnod “y naturiaethwr gorau yn awr yn Ewrop”.Cymraeg yw iaith y Gymdeithas, ac y mae dros 1,200 o aelodau led-led Cymru a thu hwnt. Prifddibenion y Gymdeithas yw astudio byd natur, yn cynnwys planhigion, anifeiliaid a chreigiau, ganhyrwyddo ymwybyddiaeth o amgylchedd a threftadaeth naturiol Cymru ac ymgyrchu droseu gwarchod. Mae’r Gymdeithas yn:

• trefnu cyfarfodydd awyr-agored ym mhob rhan o Gymru, i astudio ac i gerdded• cynnal cyfarfodydd gwaith cadwriaethol• trefnu darlithoedd a chyfarfodydd cymdeithasol• cynnal pabell ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol• cyhoeddi Y Naturiaethwr ddwywaith y flwyddyn• cyhoeddi Cylchlythyr ddwywaith y flwyddyn• cyhoeddi llyfrau ar enwau Cymraeg creaduriaid a phlanhigion• cynnig grantiau (£600) bob blwyddyn am waith gwreiddiol ym myd natur• lleisio barn gyhoeddus ar faterion amgylcheddol• trefnu pris gostyngol gyda nifer o siopau dillad ac offer awyr agored

Mae aelodaeth yn agored i bawb o bob oed sydd â diddordeb ym myd natur.Dyma’r tâl blynyddol:Unigolyn - £12Teulu - £18I ymaelodi neu am ragor o fanylion cysylltwch â’r Ysgrifennydd Aelodaeth:Iwan Roberts, 3 Rhes y Rheilffordd, Rhuthun, Sir Ddinbych LL15 4LJ.

www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk

Clawr blaen:

Eira ar y celyn.

Clawr ôl:

Eirlysiau

Lluniau: Goronwy Wynne

Lluniau’r Clawr

cover_winter_2004 9/12/04 4:40 pm Page 2

Page 50: Pris i’r cyhoedd £2.50 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

CYMDEITHAS EDWARD LLWYD

Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward LlwydPris i’r cyhoedd £2.50

Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdalgan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr

Cyfres 2 Rhif 15 Rhagfyr 2004

cover_winter_2004 9/12/04 4:40 pm Page 1