social services department€¦  · web viewsdh. home care (independent) ste. meals on wheels sdm....

39
1 hyrwyddo iechyd, gofal cymdeithasol a dogfen strategol

Upload: others

Post on 11-Feb-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Social Services Department€¦  · Web viewsdh. home care (independent) ste. meals on wheels sdm. day ser comm bas in sdl. adaptions sfw. sheltered housing/support sds. residential

1

hyrwyddo iechyd, gofal cymdeithasol a lles i oedolion

dogfen strategol

Page 2: Social Services Department€¦  · Web viewsdh. home care (independent) ste. meals on wheels sdm. day ser comm bas in sdl. adaptions sfw. sheltered housing/support sds. residential

CYNNWYS

Ynghylch y ddogfen hon Tudalen 2Gwybodaeth ariannol Tudalen 4Tueddiadau demograffig Tudalen 6Rheoli perfformiad Tudalen 10Lle ydym am fod Tudalen 12Bwriadau comisiynu: gwasanaethau hirdymor a chefnogaeth ddwys Tudalen 13Bwriadau comisiynu: gwasanaethau byrdymor a dwysedd isel Tudalen 16Ystyriaethau pellach ar gyfer comisiynu strategol Tudalen 21Nodiadau Tudalen 24Atodiad A Tudalen 25

2

Page 3: Social Services Department€¦  · Web viewsdh. home care (independent) ste. meals on wheels sdm. day ser comm bas in sdl. adaptions sfw. sheltered housing/support sds. residential

YNGHYLCH Y DDOGFEN HON

Cyd-destun Strategol

Un o brif swyddogaethau sefydliad gofal cymdeithasol cyfoes yw comisiynu strategol. Mae hyn yn cynnwys caffaeliad gwasanaethau a ddarperir yn uniongyrchol yn ogystal â’r rheiny a brynir gan ddarparwyr gwirfoddol (gan gynnwys grwpiau a arweinir gan ddefnyddwyr), nid er elw a darparwyr preifat. Ceir amrywiaeth o wahanol ddiffiniadau ar gyfer comisiynu, a daw’r un a ddefnyddir amlaf o adroddiad y Comisiwn Archwilio yn 1997, sef:

Mae elfennau allweddol comisiynu strategol fel a ganlyn:

Sefydlu anghenion a blaenoriaethau. Ffurfio gwasanaethau. Rheoli ansawdd. Rheoli costau.

Nododd Cyd Adolygiad y Gwasanaethau Cymdeithasol, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2004, bod angen i ni:

Ganolbwyntio ar ganlyniadau gwell i ddefnyddwyr a gofalwyr. Godi proffil comisiynu a gwneud gwell defnydd o adnoddau er mwyn darparu mwy o wasanaethau gwell mewn economi gofal cymysg.

Mae’r cynllun comisiynu hwn yn ymateb yn rhannol i’r argymhellion a wnaed yn yr adolygiad hwnnw.

Dylid datblygu unrhyw strategaeth gomisiynu yng nghyd-destun gweledigaeth a blaenoriaethau lleol, cenedlaethol a’r Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer poblogaeth Wrecsam yn ei chyfanrwydd. Yn ôl y gyfraith, mae gofyn i Fwrdd Iechyd Lleol Wrecsam a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam weithio gyda phartneriaid i gymryd ymagwedd strategol tuag at fynd i’r afael ag anghenion iechyd, gofal cymdeithasol a lles trigolion Wrecsam. Mae’r Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles (Gofalu am ein Hiechyd 2005-8) yn disodli’r Cynllun Gofal Cymdeithasol, yn nodi anghenion a blaenoriaethau, yn gosod y cyfeiriad ar gyfer cynlluniau unigol megis cynlluniau comisiynu ac yn sicrhau y’i darperir drwy broses gynllunio unigol. Gan hynny, ffocws y cynlluniau comisiynu yn y byrdymor fydd addasu gwasanaethau presennol i fodloni canlyniadau a nodwyd i ddefnyddwyr a rheoli ansawdd a chostau. Rhaid darllen y ddogfen hon ochr yn ochr â’r Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles (SIGCaLl)

3

‘Y broses o nodi, sicrhau a monitro gwasanaethau i fodloni anghenion unigolion yn y tymor byr a’r tymor hir. Gan hynny, mae’n cynnwys yr hyn y gellir ei ystyried fel y broses o brynu yn ogystal â’r ymagwedd fwy strategol tuag at ffurfio’r farchnad ar gyfer gofal sy’n bodloni anghenion y dyfodol.

Page 4: Social Services Department€¦  · Web viewsdh. home care (independent) ste. meals on wheels sdm. day ser comm bas in sdl. adaptions sfw. sheltered housing/support sds. residential

Mae Grŵp y Rhaglen Pobl Hŷn (GRhPH) a Grŵp Rhaglen Iechyd Meddwl yr Henoed (GRhIMH) yn rhan o strwythur gynllunio’r SIGCaLl, a nhw sy’n gyfrifol am arwain cyfeiriad strategol gwasanaethau i bobl hŷn, ar y cyd â grwpiau anableddau dysgu a grwpiau gofalwyr. Mae’r grwpiau hyn wedi pennu cynlluniau gweithredu tair blynedd yn seiliedig ar flaenoriaethau a nodwyd yn ystod ymgynghoriadau â’r cyhoedd. Mae datblygu cynlluniau comisiynu gofal cymdeithasol sy’n nodi’r rhyngwynebu â gwasanaethau tai ac iechyd yn un o amcanion allweddol y SIGCaLl.

Mae’r ddogfen hon yn ffurfio rhan o’n hymateb i’r Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles a chynlluniau gweithredu’r gwasanaethau i bobl hŷn a iechyd meddwl yr henoed, ac fe’i arweinir gan ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd wrth ddatblygu’r SIGCaLl ac Adolygiad Gwerth Gorau gwasanaethau i bobl hŷn a gynhaliwyd rhwng 2000/1. Nod y ddogfen hon yw darparu gwybodaeth sylfaenol i ddefnyddwyr y gwasanaeth, darparwyr a phartneriaid comisiynu ynghylch ein bwriadau comisiynu ar gyfer y cyfnod o 2005 hyd 2008, a’r camau gweithredu arfaethedig ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ym mis Ebrill 2005 ac yn gorffen ym mis Mawrth 2006. Caiff y cynllun ei ddiweddaru yn 2006/7 ac ar ôl hynny, a chaiff cynlluniau gweithredu eu llunio’n flynyddol.

Cylch gwaith a chyfyngiadau

At ddibenion y cynllun hwn, diffinnir ‘pobl hŷn’ fel pobl 65 oed neu’n hŷn; bydd y cynllun hefyd yn amlinellu’r bwriadau ar gyfer ‘pobl hŷn’ â phroblemau iechyd meddwl a gwasanaethau i bawb sydd â dementia, waeth beth fo’u hoedran na’u hanableddau neu broblemau meddygol eraill. Ystyrir anghenion pobl dros 65 oed sydd ag anabledd dysgu sylfaenol hefyd.

Gweledigaeth

Rydym am weithio ar y cyd â gwasanaethau iechyd, tai, y sector gwirfoddol a darparwyr eraill i gefnogi pobl hŷn i’w galluogi i fyw’n annibynnol mor hir ag sy’n bosibl, mewn cartref o’u dewis nhw, ac i roi rôl weithredol i bobl hŷn yn eu cymunedau lleol. Yn ogystal â hynny, ymdrechwn i gomisiynu gwasanaethau cost effeithiol ac o ansawdd dda sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, adferiad ac ail-alluogi o fewn economi cymysg. Mae ein gweledigaeth yn gyson ag amcanion y Strategaeth Pobl Hŷn yng Nghymru.

Nododd Adolygiad Gwerth Gorau 2000/1 ar gyfer gwasanaethau i bobl hŷn, yr angen i gyflwyno ‘agwedd fwy ragweithiol ac ataliol tuag at…wasanaethau sy’n hyblyg ac yn fwy ymatebol i newidiadau o ran anghenion unigol’.

Mapio’r gwasanaeth

Rydym yn cydweithio â’n partneriaid i gynhyrchu map manwl a chynhwysfawr o wasanaethau i bobl hŷn. Mae’r atodiad atodedig yn rhoi manylion rhai o’r gwasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd.

4

Page 5: Social Services Department€¦  · Web viewsdh. home care (independent) ste. meals on wheels sdm. day ser comm bas in sdl. adaptions sfw. sheltered housing/support sds. residential

GWYBODAETH ARIANNOL

Cyllideb a gwariant

Yn 2005/6 rydym wedi caniatáu’r gwariant crynswth1 canlynol yn y gyllideb ar gyfer gwasanaethau i bobl hŷn:

5

Gofal Cartref - Uniongyrchol £3,866,956

Gofal Cartref - Annibynnol £564,656

Prydau Cymunedol £178,825

Gwasanaethau Dydd £622,794

Addasiadau £102,922

Tai/Cefnogaeth Cysgodol £1,034,575

(yn cynnwys Cwrt Brenhinol, Springfield a

Phlas yn Rhos)

Gofal Preswyl - Uniongyrchol £1,580,246

Gofal Preswyl/Nyrsio – Annibynnol £7,172,370

Cefnogaeth Ddomestig a Chymdeithasol £74,503

Cefnogi Pobl IMH £134,630

Page 6: Social Services Department€¦  · Web viewsdh. home care (independent) ste. meals on wheels sdm. day ser comm bas in sdl. adaptions sfw. sheltered housing/support sds. residential

Yn 2005/6, rydym wedi caniatáu’r gwariant canlynol yn y gyllideb ar gyfer gwasanaethau rheoli gofal i bobl hŷn2.

Er ein bod yn derbyn cyllideb sy’n uwch na’r cyfartaledd gan y Cyngor, o gymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, mae lefel isel y Grant Cefnogi Trethi yn arwain at ddyraniad sy’n llai na’r cyfartaledd i’r gwasanaethau. Y dyraniad ar gyfer pobl hŷn yw’r 18fed isaf. Byddai angen £2.4m ychwanegol i gyrraedd y gwariant cyfartalog.

6

Rheoli Gofal – Pobl Hŷn £824,514

Rheoli Gofal – Namau Corfforol/Synhwyraidd

£216,403

Therapi Galwedigaethol £674,744

Gwaith Cymdeithasol mewn Ysbytai £377,516

Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol – Pobl Hŷn £235,055

Page 7: Social Services Department€¦  · Web viewsdh. home care (independent) ste. meals on wheels sdm. day ser comm bas in sdl. adaptions sfw. sheltered housing/support sds. residential

TUEDDIADAU DEMOGRAFFIG

Poblogaeth

Mae rhagamcanion yn awgrymu:

Y bydd nifer y bobl hŷn 65 – 74 oed yn cynyddu 32% dros gyfnod o ugain mlynedd – yn Wrecsam mae hyn yn cyfateb i 3,434 o bobl ychwanegol.

Y bydd nifer y bobl 75 oed neu’n hŷn yn cynyddu 22.5% dros yr un cyfnod – sy’n cyfateb i 2,122 o bobl ychwanegol.

Mae pryderon y bydd y cynnydd yn niferoedd y boblogaeth hŷn yn digwydd ar yr un pryd â lleihad o 8.2% yn y nifer o ferched rhwng 35 a 55 oed. Mae hyn yn cynrychioli lleihad mewn grŵp oedran sy’n cynnwys nifer sylweddol o weithwyr gofal gwirfoddol a phroffesiynol.

Iechyd a Morbidrwydd

Cafwyd y manylion canlynol am drigolion Wrecsam yng Nghyfrifiad 2001 :

Dywedodd 14,455 o bobl bod eu hiechyd yn ‘wael’ (11%). Dywedodd 27,567 o bobl bod ganddynt afiechyd cyfyngol hirdymor (21.5%). Roedd 7467 o bobl yn sâl yn barhaol neu’n anabl (6%). Roedd 14,875 o bobl yn ofalwyr di-dâl (11.5%) – dengys ystadegau cenedlaethol y gallai hyn fod yn amcangyfrif rhy

isel. Roedd 3,391 o bobl yn darparu gofal di-dâl am dros 50 awr yr wythnos (3%).

Statws Economaidd

Yn 2000, nododd yr Adran Gwaith a Phensiynau bod:

7,945 o drigolion Wrecsam yn hawlio Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) (6%). 4,010 o bobl yn hawlio Lwfans Gweini (3%). Erbyn 2020, bydd 77% o bobl hŷn yn berchen-ddeiliaid ar eu cartrefi eu hunain.

7

Bydd y boblogaeth hŷn yn dangos y newid mwyaf amlwg o ran proffil dros yr ugain mlynedd nesaf. Erbyn 2024, bydd y grŵp dros 85 oed wedi cynyddu 60% o 2,500 i 4,000 o bobl. Ar hyn o bryd, mae’r grŵp hwn yn defnyddio tua 41% o’r adnoddau gofal

Page 8: Social Services Department€¦  · Web viewsdh. home care (independent) ste. meals on wheels sdm. day ser comm bas in sdl. adaptions sfw. sheltered housing/support sds. residential

Cyd-destun Cymru

Mae’r ffigyrau morbidrwydd a’r dangosyddion ‘ffordd o fyw’ yn awgrymu bod gennym boblogaeth sy’n fwy sâl ac yn llai heini yn gorfforol nag yn y rhan fwyaf o’r rhannau eraill o Gymru:

Mae gan Wrecsam gyfran uchel o bobl dros 65 oed sy’n dweud bod ganddynt afiechydon cyfyngol hirdymor (y cyfartaledd ar gyfer afiechydon cyfyngol hirdymor ymhlith pobl 65 neu’n hŷn yw 44.1% o ddynion a 39.8% o ferched yn Wrecsam o’u cymharu â chyfartaledd o 40.6% a 36.7% yn ôl eu trefn yng ngogledd Cymru).

Mae gan Wrecsam y lefelau gweithgarwch/ymarfer corff isaf ond dau yng Nghymru, felly mae pobl hŷn Wrecsam yn debygol o fod yn llai heini na phobl hŷn yn y rhan fwyaf o’r rhannau eraill o Gymru, ac felly maent yn debygol o fod angen gwasanaethau ynghynt.

Dementia

O ran anghenion iechyd meddwl pobl hŷn (gan gynnwys afiechydon organig ac anorganig), mae’n bwysig nodi bod newidiadau gweddol fychain yng nghynnydd y boblogaeth yn debygol o gynhyrchu cynnydd sylweddol o ran achosion o ddementia. Yn ôl adroddiad y Comisiwn Archwilio ‘Forget me Not’ (2000), mae dementia yn effeithio ar bron i 1 ym mhob 25 o bobl dros 65 ac 1 ym mhob 4 o bobl dros 85.

Mae’r Fframwaith Strategol ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn yn Sir y Fflint a Wrecsam (drafft 2003) yn amlinellu gweledigaeth, nodau ac amcanion gwasanaethau ac yn manylu ar y model disgwyliedig y gwasanaethau ar gyfer y grŵp hwn. Mae’r meysydd allweddol yr amlygir ar gyfer datblygiad yn ymwneud â:

Datblygu Gwasanaethau Gofal Cynradd Integreiddio Timau Iechyd Meddwl Cymunedol i Bobl Hŷn yn llawn ac yn ffurfiol Adolygu cyfleusterau i gleifion mewnol a chyfleusterau a leolir mewn ysbytai (ysbytai dydd ac ati) Ailgomisiynu adnoddau cymunedol (digomisiynu rhai gwasanaethau presennol ac ailfuddsoddi mewn canolfan adnoddau) Ailffocysu gwasanaethau dydd.

Yn fyr, mae’r strategaeth yn hyrwyddo moderneiddiad gwasanaethau gan roi mwy o bwyslais ar gynllunio strategol a’r angen i wella gwasanaethau. Mae’n nodi cyffredinrwydd rhagamcanol namau gwybyddol cymedrol neu ddifrifol ymhlith poblogaeth hŷn Wrecsam, fel a ganlyn:

8

65-74 oed 75-84 oed 85+ oedPoblogaeth Cyffredinrwydd Poblogaeth Cyffredinrwydd Poblogaeth Cyffredinrwydd Cyfanswm Cyffredinrwydd

2008 11,346 261 7,294 525 2,958 648 22,628 1,4342013 13,088 301 7,497 540 3,181 697 24,899 1,5372018 14,129 325 8,112 584 3,368 738 26,835 1,647

Page 9: Social Services Department€¦  · Web viewsdh. home care (independent) ste. meals on wheels sdm. day ser comm bas in sdl. adaptions sfw. sheltered housing/support sds. residential

Dibyniaeth

I gydnabod nifer cynyddol y bobl hŷn, a’r angen am wasanaethau o ganlyniad, comisiynwyd Grŵp Strategaeth Gofal Cymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i:

Archwilio ffurf bresennol y sector gofal; Cynghori ar ei ffurf yn y dyfodol a darparu fframwaith lle gall partneriaid allweddol gynllunio gyda’i gilydd i fodloni anghenion eu hardaloedd

lleol.

Mae adroddiad y grŵp, a gyhoeddwyd yn 2003, yn amlygu niferoedd cynyddol y bobl hŷn a fydd angen gwasanaethau yn y dyfodol a’u dibyniaethau a hefyd y pwysau llethol ar y gyllideb a fyddai’n cael eu profi pe byddai patrwm presennol y ddarpariaeth gwasanaeth yn parhau heb osteg.

Gan ddefnyddio fframwaith yr adroddiad, a dan fodelau presennol y gwasanaeth, erbyn 2020 byddai angen i Wrecsam ariannu 220 o leoedd ychwanegol mewn cartrefi gofal a darparu cefnogaeth i 665 o bobl ychwanegol yn eu cartrefi. Ar brisiau heddiw, byddai hynny’n hafal i gynnydd o £11,258,209 yn y gyllideb y byddai ei hangen3.

Mae’r adroddiad yn argymell y dylai awdurdodau gymryd camau brys ar unwaith i leihau dibyniaeth hirdymor ar y gwasanaeth drwy ddarparu gwasanaethau:

Mor gynnar â phosibl. Sy’n hyrwyddo adferiad. Sy’n uchafu annibyniaeth. A all gyflawni cydbwysedd priodol rhwng gwasanaethau cymunedol a gwasanaethau cartref gofal.

Mae hyn yn bryder arbennig i Wrecsam o ganlyniad i’r dangosyddion morbidrwydd, marwolaeth a ffordd o fyw:

Mae’r Gymhareb Marwolaeth Safonol ar gyfer Wrecsam yn awgrymu cyfraddau marwolaeth o 103 sydd ychydig yn uwch na’r cyfartaledd (gan awgrymu dibyniaeth hirach ar wasanaethau).

Mae ffigyrau morbidrwydd a dangosyddion ‘ffordd o fyw’ yn awgrymu bod gennym boblogaeth sy’n ‘fwy sâl’ ac yn llai heini yn gorfforol nag yn y rhan fwyaf o ardaloedd eraill yng Nghymru – yn debygol o fod oherwydd yr economi blaenorol a oedd yn seiliedig ar ddiwydiant.

Mae gan Wrecsam lefelau uchel o ysmygwyr ac yn gyffredinol mae ganddi gyfran uchel o bobl dros 65 oed sy’n dweud bod ganddynt afiechydon cyfyngol hirdymor (y cyfartaledd ar gyfer afiechydon cyfyngol hirdymor ymhlith pobl 65 neu’n hŷn yw 44.1% o ddynion a 39.8% o ferched yn Wrecsam o’u cymharu â chyfartaledd o 40.6% a 36.7% yn ôl eu trefn yng ngogledd Cymru).

9

Page 10: Social Services Department€¦  · Web viewsdh. home care (independent) ste. meals on wheels sdm. day ser comm bas in sdl. adaptions sfw. sheltered housing/support sds. residential

Mae dangosyddion ‘ffordd o fyw’ yn awgrymu bod gan Wrecsam y lefelau gweithgarwch/ymarfer corff isaf ond dau yng Nghymru. Mae’r lefel ymarfer corff isel yn arbennig o bwysig o ystyried bod merched, sy’n byw’n hirach yn gyffredinol, yn dueddol o ddioddef o ddiffyg cryfder/màs esgyrn llai (diffyg ymarfer corff yw un o’r pethau sy’n achosi hyn i gynnal dwysedd yr esgyrn, yn enwedig ar ôl y cyfnewid). Maent yn syrthio’n amlach ac yn dioddef anafiadau sy’n anablu o ganlyniad i hynny. Syrthio ac ofn syrthio yw un o’r pethau sy’n achosi i’r galw am ofal preswyl a gofal mewn ysbytai gynyddu.

Anghenion nad ydynt yn cael eu bodloni a bylchau yn y gwasanaeth

Mae gwybodaeth gan dimau rheoli gofal ac o ymgynghoriadau â’r cyhoedd, defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a budd-ddeiliaid allweddol eraill yn awgrymu bod gan wasanaethau'r diffygion canlynol:

Bylchau yn y ddarpariaeth gyffredinol mewn ardaloedd gwledig a ffiniol. Bylchau yn yr ystod o wasanaethau sydd eu hangen ar bobl hŷn sydd â phroblemau iechyd meddwl a phobl sydd â dementia. Gwasanaethau gofal ataliol a chanolraddol isddatblygedig gyda gwasanaethau sy’n aml yn ymateb i argyfyngau. Diffyg gwasanaethau arbenigol i bobl hŷn ag anableddau dysgu. Mae dewisiadau gofal byrdymor yn gyfyng – yn enwedig gwasanaethau yng nghartref yr unigolyn. Mae gwasanaethau dydd yr un mor gyfyng - nid ydynt yn ddigon symbylol ac nid oes unrhyw ganlyniadau clir i ddefnyddwyr y gwasanaethau

eu cyflawni. Ychydig iawn o ddefnydd o dechnoleg gynorthwyol – gallai datblygiad technoleg gynorthwyol arwain at lai o ddibyniaeth ar wasanaethau

traddodiadol a llai o ofynion o ran gweithlu. Diffyg gwybodaeth am wasanaethau ar ffurfiau hygyrch. Materion eraill

Lefel isel y gweithwyr â chymwysterau a’r trosiant uchel yn y farchnad gofal cartref (cyfyng) ar hyn o bryd. Wrth ddatblygu gwasanaethau tai â gofal ychwanegol, rhaid ystyried darparu tai mwy â daliadaeth gymysg (hawl i brynu a dewisiadau rhannu

perchenogaeth) a recriwtio gweithwyr cyffredinol i ddarparu cefnogaeth iechyd, gofal cymdeithasol a chefnogaeth â thenantiaeth. Mae angen rhoi mwy o ystyriaeth i effaith gofalu ar iechyd, incwm a lles y gofalwyr eu hunain yn asesiadau’r gofalwyr. Gall cynlluniau Cefnogi Pobl fod yn rhy ddrud i bobl nad ydynt yn hawlio budd-dâl tai, ac nid yw’r holl wasanaethau ar gael ar draws y

fwrdeistref sirol. Mae pobl hŷn yn aml yn dweud bod diffyg cymorth â garddio, glanhau a siopa yn eu gorfodi i adael eu cartrefi. Mae angen pennu ‘pris teg ar gyfer gofal’ er mwyn sicrhau sector cartrefi preswyl sicr a chadarn. Mae angen adolygu’r gwasanaeth Gofal a Thrwsio ac, yn arbennig, gallu’r gwasanaeth hwn o fewn y cynllun crefftwyr.

10

Page 11: Social Services Department€¦  · Web viewsdh. home care (independent) ste. meals on wheels sdm. day ser comm bas in sdl. adaptions sfw. sheltered housing/support sds. residential

RHEOLI PERFFORMIAD

Atborth gan ddefnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr

Mae atborth gan ddefnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr yn rhan allweddol o werthuso gwasanaethau. Rydym yn anfon holiadur blynyddol at hapsampl o’r rhain, ac yn cyhoeddi’r canlyniadau yn ein hadroddiadau monitro perfformiad chwarterol a blynyddol.

Fel rhan o’r Adolygiad Gwerth Gorau o wasanaethau i bobl hŷn, cynhaliwyd ymgynghoriad gan Starfish Consultants gyda defnyddwyr y gwasanaethau a defnyddwyr posibl. Gwelwyd dros 200 o ddefnyddwyr y gwasanaethau cymdeithasol, tai cysgodol a thai â gofal ychwanegol wyneb-yn-wyneb mewn cyfarfodydd grŵp. Cynhaliwyd cyfweliadau un ac un â 35 o ddefnyddwyr pellach a oedd yn derbyn pecynnau gofal dwys. Roedd hyn ar ben yr holiadur a ddychwelwyd gan bron i 300 o ddefnyddwyr y gwasanaethau cymdeithasol. Cafwyd llawer o sylwadau cadarnhaol gan yr ymatebwyr, yn enwedig ynghylch y gwasanaethau gofal cartref a’r gwasanaeth Trio, sy’n darparu gwasanaeth lleoliad dydd yn y gymuned. Mynegwyd pryderon ynghylch:

Diffyg dewis. Rhannu ystafelloedd mewn cartrefi preswyl. Diffyg eglurhad gan weithwyr proffesiynol ynghylch penderfyniadau. Diffyg staff a’r defnydd o staff anghyfarwydd. Diffyg gwybodaeth ddefnyddiol cyn i’r defnyddwyr fod angen y gwasanaethau.

Roedd yr ymgynghoriad â’r gofalwyr yn llai cynhwysfawr a chan hynny, rhaid bod yn ofalus â’r canlyniadau hyn. Roedd y gofalwyr yn llai bodlon â’r gwasanaethau na’r defnyddwyr eu hunain, a bu iddynt fynegi pryderon penodol ynghylch:

Diffyg gwybodaeth ddefnyddiol. Anawsterau wrth gael mynediad at wasanaethau. Yr hyfforddiant gwael sydd gan staff gofal cartref asiantaethau. Anawsterau wrth gael mynediad at wasanaethau glanhau. Diffyg dewis o ran gwasanaethau, yn enwedig gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn sydd ag afiechydon sy’n gysylltiedig â dementia. Aros yn hir am asesiadau ar gyfer offer ac addasiadau. Diffyg cefnogaeth bersonol i’w helpu i ymdopi.

Bydd y cynllun comisiynu a gweithgareddau comisiynu yn y dyfodol yn mynd i’r afael â’r pryderon hyn.

11

Page 12: Social Services Department€¦  · Web viewsdh. home care (independent) ste. meals on wheels sdm. day ser comm bas in sdl. adaptions sfw. sheltered housing/support sds. residential

Gwerthuso Perfformiad

Mae gennym ymagwedd sefydledig a soffistigedig tuag at reoli perfformiad, ac yn ddiweddar, rydym wedi integreiddio hyn â’n fframwaith cynllunio busnes. Dadansoddir data’n rheolaidd i weld beth yw ein perfformiad yn erbyn targedau lleol a chenedlaethol, ac mae hyn yn ein helpu i asesu p’un a ydym ar y trywydd iawn o ran gwella perfformiad. Defnyddiwn system ‘goleuadau traffig’ o ‘wynebau hapus’ i’n helpu i weld pa mor dda yr ydym yn perfformio.

Caiff perfformiad ei fesur yn ffurfiol bob chwarter, a’i feincnodi yn erbyn pob awdurdod yng Nghymru, ac yn arbennig, yr awdurdodau hynny yng Nghymru a Lloegr sy’n cyfateb orau i Wrecsam o ran demograffeg a daearyddiaeth – ein hawdurdod cymharol agosaf o ran pobl hŷn yw Dyffryn Morgannwg.

Roedd ein perfformiad hyd 31 Mawrth 2005 fel a ganlyn:

12

Dangosydd Strategol Cenedlaethol Dangosydd Craidd Mesur â Chanlyniad

RhanedigDangosydd

Perfformiad Lleol

Cyfeirnod Dangosydd Perfformiad Sut ydym yn perfformio? Gweithred

SCA/001

Nifer y trosglwyddiadau gofal a ohiriwyd am resymau gofal cymdeithasol i bobl 75 oed neu’n hŷn.

11 9.9Gohiriadau’n gostwng.

Gwella dewis ac argaeledd.

LleolAO/L1

Nifer yr oedolion sy’n defnyddio Taliadau Uniongyrchol. 25 31

Mae 9 o 31 o’r defnyddwyr yn bobl hŷn.

Sicrhau cydraddoldeb o ran mynediad.

SCA/002A

Nifer y bobl hŷn sy’n cael cymorth i fyw gartref. 72 1484 Tuedd waelodol yn

gostwng mymryn.Bydd y cynllun comisiynu yn mynd i’r afael â hyn.

SCA/002B

Nifer y bobl hŷn sy’n cael cymorth mewn cartrefi nyrsio/preswyl. 29 29.3

Cynnydd bach yn y niferoedd.

Buddsoddi mewn tai cysgodol â gofal ychwanegol.

LleolAO/L8

Nifer y bobl sydd ar restr aros y gwasanaeth therapi galwedigaethol. 60/9 48/2.55 Wedi gwella’n

sylweddol.Rydym yn cynyddu lefelau staffio ThG.

LleolAO/3.6a

Cost crynswth gofal i oedolyn mewn cartref nyrsio/preswyl yr wythnos.

£380-£420 £364 Ffioedd yn codi’n

araf.Pennu pris teg ar gyfer gofal.

LleolAO/L11

Cost yr uned ar gyfer gwasanaeth gofal cartref uniongyrchol. £20 £25 Cost yr uned yn rhy

uchel.Sefydlu targedau gwell o ran effeithlonrwydd.

LleolAO/L4

% gofal cartref a brynwyd gan y sector annibynnol. 20% 34% Wedi gwella’n

sylweddol.Cyrraedd 50% yn ystod 2005/06.

LleolAO/L5

% y bobl hŷn sy’n defnyddio gwasanaethau dydd a ddarperir yn allanol. 25% 40% Wedi gwella’n

sylweddol.Parhau i foderneiddio gwasanaethau dydd.

Targed

Canlyniad

StatwsGwneud yn dda

GwellaGellir gwella

Page 13: Social Services Department€¦  · Web viewsdh. home care (independent) ste. meals on wheels sdm. day ser comm bas in sdl. adaptions sfw. sheltered housing/support sds. residential

LLE YDYM AM FOD

Canlyniadau allweddol i bobl hŷn

Mae cyhoeddiad Sefydliad Joseph Rowntree, ‘Foundations’ sy’n seiliedig ar raglen ‘Older People Shaping Policy and Practice’ (JRF, York Publishing Services Ltd, 2004) yn casglu bod angen i wasanaethau gydnabod:

Bod angen i’r bobl hŷn eu hunain benderfynu mwy ar ddiffiniadau ansawdd. Pwysigrwydd cymunedau a sefydliadau cymunedol (cydlyniad cymdeithasol) i les unigolion. Bod angen i wasanaethau fod yn fwy hyblyg, ymatebol, addasadwy a chyfannol. Mai teulu, ffrindiau a rhwydweithiau cymdeithasol yw’r darparwyr cefnogaeth gorau i bobl hŷn.

Mae bywydau pobl hŷn yn ymwneud â mwy na gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae cludiant, diwylliant a chrefydd, tai, gwasanaethau hamdden, cwmnïaeth, mynediad at weithgareddau cymunedol a sefydlogrwydd ariannol i gyd yn bwysig o ran cynnal annibyniaeth a lles. Yn aml, y bobl hŷn eu hunain yw’r bobl allweddol a all wneud gwahaniaeth yn eu bywydau eu hunain ac ym mywydau pobl eraill.

Mae gwaith ymchwil wedi dod i’r casgliad bod mentrau sy’n annog hunanofal, sy’n hyrwyddo iechyd ac yn atal anafiadau ymysg pobl hŷn yn debygol o chwarae rhan bwysig wrth reoli ystod eang o gyflyrau. Bydd angen ystod o wasanaethau i leihau’r peryglon i annibyniaeth mewn perthynas ag arferion dyddiol pobl hŷn, eu cysylltiadau â’r gymuned a’u hymreolaeth – ac i fodloni ystod eang o anghenion.

Felly, yn ogystal â chynllunio strategol ar gyfer gwasanaethau iechyd, tai a gofal cymdeithasol prif ffrwd, bydd cynlluniau gweithredu Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles yn cydnabod cyfraniadau rhaglenni hamdden, hyrwyddo iechyd, atal afiechydon a rhaglenni diet a maethiad at annibyniaeth a lles pobl hŷn. Yn yr un modd, dylai hyrwyddo iechyd a chynnal lles corfforol, emosiynol/meddyliol ffurfio rhan gyfannol o ddarparu gwasanaethau gofal (argymhelliad Grŵp Strategaeth Gofal Cymru, 2003). Dylai’r cartrefi preswyl a’r gwasanaethau cartref dwys mwy traddodiadol ganolbwyntio ar rythmau ac arferion sy’n cynnal ymreolaeth unigolion â’u cysylltiad â’r gymuned. Ar yr un pryd, dylai’r gwasanaethau llai dwys (gwasanaethau prydau bwyd, preswyliad dydd, gofal byrdymor a gwasanaethau cefnogi tenantiaeth ac ati) fod â’r nod o alluogi unigolion i aros yn eu cartrefi; hyrwyddo annibyniaeth a chysylltiad â’r gymuned - gan ohirio’r angen i ddibynnu ar wasanaethau mwy dwys.

Yn fyr, mae angen ailfodelu’r ffordd y darperir gwasanaethau ar hyn o bryd yn y gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a thai ynghyd â gweithgarwch canlynol i ddatblygu’r gweithlu gan arwain at strategaethau contractio a gweithgarwch prynu sy’n canolbwyntio mwy ar ganlyniadau. Mae trafodaeth ar y gweill ar hyn o bryd mewn perthynas â’r angen i ddatblygu gweithwyr generig i asesu a darparu gwasanaethau.

13

Page 14: Social Services Department€¦  · Web viewsdh. home care (independent) ste. meals on wheels sdm. day ser comm bas in sdl. adaptions sfw. sheltered housing/support sds. residential

BWRIADAU COMISIYNU: GWASANAETHAU HIRDYMOR A CHEFNOGAETH DDWYS

Gofal Cartref, Tai a Chefnogaeth Tenantiaeth

Dymunwn gomisiynu ystod o wasanaethau i fodloni amrywiaeth o anghenion ar gyfer unigolion sy’n seiliedig ar ail-alluogi, adfer a gofal canolraddol. Rydym yn bwriadu comisiynu 50% o wasanaethau Gofal Cartref o’r sector annibynnol, gan wneud defnydd o strategaeth contractio fwy cost effeithiol na’r trefniadau prynu ar y pryd a geir ar hyn o bryd - mae hyn yn gynnydd o 20% ar oriau’r gwasanaethau a brynwyd yn 2004/5. Gan fod gan y sector annibynnol lefel gymharol isel o staff cymwys a throsiant uchel o ran staff ar hyn o bryd, bodlonir anghenion dibyniaeth uwch gan y gwasanaeth mewnol a fydd hefyd yn canolbwyntio ar ail-alluogi ac adfer.

Wrth i ni aros am ganlyniad y Ddadl Tai Genedlaethol i Bobl Hŷn a’r adolygiad lleol o Ddewisiadau Tai i Bobl Hŷn, mae ymgynghoriadau lleol yn awgrymu bod yn well gan bobl hŷn gynlluniau gofal ychwanegol yn hytrach na gofal preswyl (ymgynghoriad tai pobl hŷn, Ionawr 2005). Rydym yn ymwybodol o’r angen i ddarparu ystod o ddewisiadau tai i bobl hŷn â daliadaeth gymysg (wedi’u rhentu, perchnogion preswyl, prynu â chymorth a chynlluniau rhyddhau cyfalaf). Ymddengys bod safbwyntiau gwrthwynebol o fewn y Sir mewn perthynas â manteision pentref ymddeol a’r lefelau dymunol o integreiddiad i bobl hŷn o fewn cymunedau cymysg. Yn gyffredinol, ceir tystiolaeth bod angen tai dwy lofft hygyrch.

Mae cynllun tai cysgodol â chefnogaeth gwreiddiol Wrecsam yn Springfield wedi bod ar waith ers dros flwyddyn bellach, a bu’r fflatiau adfer (menter ar y cyd â gwasanaethau iechyd) yn llwyddiant ysgubol. Ar hyn o bryd, mae’r cynllun yn darparu 109 o oriau o gefnogaeth i denantiaid bob wythnos. Mae cynllun tai cysgodol arall â gofal ychwanegol yn cael ei ddatblygu yng Ngwersyllt, a bydd hwn yn bodloni safonau cartref gydol oes. Mae’r gwasanaethau tai a chefnogaeth gartref yn barod i ddechrau ar Gam 1 yr ailddatblygiad ac yn aros i’r gwaith adeiladu gael ei gwblhau. Disgwylir i’r ailddatblygiad fod yn barod erbyn hydref 2006, ac o hynny ymlaen, contractiwyd y gwasanaeth i ddarparu 94 awr o wasanaeth bob wythnos. Bydd datblygiad Cwrt Brenhinol yn rhoi cyfle i denantiaid â dementia i ddefnyddio technoleg gynorthwyol sydd â’r nod o gynnal eu hannibyniaeth mor hir ag sy’n bosibl, a bydd hyn yn ganmoliaeth i’r gwaith a wneir ar y cyd ar draws y sectorau gwirfoddol a statudol.

Mae model y gwasanaethau gofal ychwanegol a ddarperir yn Springfield a Chwrt Brenhinol yn cael ei adolygu ar hyn o bryd gyda chydweithwyr y Tîm Cefnogi Pobl. Darperir y gwasanaeth presennol o fewn canolfan sefydlog, ac rydym yn ystyried manteision cynllun cefnogaeth symudol a fyddai’n darparu gwasanaeth allgymorth i gynlluniau tai cysgodol eraill yn y fwrdeistref, gan wneud y defnydd gorau o’r gwasanaeth.

Mae’r gwasanaethau Gofal a Thrwsio, ynghyd â’r gwasanaeth crefftwr ychwanegol yn adnoddau gwerthfawr dros ben wrth helpu pobl hŷn i gynnal a chadw eu cartrefi er mwyn iddynt fyw’n gyfforddus ac yn ddiogel. Mae Cynllun Gweithredu’r Grŵp Rhaglenni i Bobl Hŷn ar gyfer 2005-8, a arweiniwyd gan ymgynghoriad cyhoeddus, yn nodi’r angen i adolygu’r gefnogaeth, y mynediad ar nawdd a roddir i Ofal a Thrwsio, er mwyn ystyried sut y gall y cynllun hwn gynnig mwy o gefnogaeth i bobl hŷn.

14

Page 15: Social Services Department€¦  · Web viewsdh. home care (independent) ste. meals on wheels sdm. day ser comm bas in sdl. adaptions sfw. sheltered housing/support sds. residential

Yn 2005/6 byddwn yn:

Cynyddu darpariaeth gwasanaethau gofal a chefnogaeth o fewn unedau tai cysgodol gan 18% (sy’n hafal i 20 awr o wasanaeth bob wythnos). Datblygu cytundeb lefel gwasanaeth gyda’r gwasanaeth mewnol ar gyfer 50% o’r gwasanaeth a gyllidebir i ddarparu gwasanaeth adfer arbenigol

a gwasanaethau ar gyfer y bobl hynny sydd ag anghenion cymhleth a dementia. Llunio contractau bloc gyda’r sector annibynnol i ddarparu o leiaf 2000 awr yr wythnos o ofal cartref. Darparu mewnbwn ar gyfer Adolygiad Strategol Wrecsam o Lety a Chefnogaeth Tai i Bobl Hŷn ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Nodi anghenion cefnogaeth tai pobl hŷn sydd ag anableddau dysgu.

Cartrefi Gofal a Chartrefi Gofal â Nyrsio

Rydym am sicrhau lefel ddigonol o wasanaethau o fewn cartrefi gofal a chartrefi gofal â nyrsio, sydd o ansawdd dda am bris rhesymol, sy’n bodloni anghenion presennol ac anghenion y dyfodol. I’r perwyl hwn, rydym yn profi pecyn offer a gomisiynwyd gan Gymdeithas Lywodraeth Leol Cymru gan yr economegydd, William Laing, fel ffordd o bennu ‘pris teg ar gyfer gofal’. Rydym yn cymhwyso’r model yn Wrecsam trwy gasglu sampl o gostau a gwariant lleol, gan y gallai’r rhain fod yn wahanol i’r model cenedlaethol. Wrth symud y fenter hon ymlaen, mae’r Cyngor a’r sector cartrefi gofal yn cydnabod y bydd angen cyrraedd cyfradd gytunedig dros gyfnod o flynyddoedd, gan ddibynnu ar ddyraniad nawdd ychwanegol gan LlCC.

Mae gwaith ymchwil lleol a gynhaliwyd yn ddiweddar wedi amlygu bod pobl yn symud i mewn i gartrefi nyrsio yn hwyrach yn eu bywydau nag yn y gorffennol, a’u bod yn fwy dibynnol wrth gyrraedd ac yn aros am gyfnod byrrach, ar gyfartaledd. Yn yr hirdymor, mae’n bosibl y gwnawn ystyried ein polisi o ran prynu gofal personol sylfaenol a gwasanaethau llety o fewn y sector gofal cartref, gan fod yn well gan bobl hŷn wasanaethau tai cysgodol â gofal ychwanegol, na gofal preswyl hirdymor. Rydym hefyd wedi nodi bod llai o bobl yn dewis symud i ddarpariaethau preswyl sylfaenol erbyn hyn, wrth i’r amrywiaeth o wasanaethau cartref a chymunedol gynyddu. Felly, mae angen i ni werthuso ein darpariaethau gofal preswyl ein hunain, yn sgil egwyddorion gwerth gorau a’r angen cynyddol i ryddhau adnoddau i’w buddsoddi mewn modelau eraill o ofal, megis canolfannau adnoddau a chyfleusterau gofal canolraddol. Mae angen buddsoddiad cyfalafol sylweddol ar y ddau gartref preswyl sydd ar ôl er mwyn iddynt fodloni anghenion y safonau gofal, gan redeg â chyfradd llenwi sy’n llai na’r optimwm, sydd felly â chost annerbyniol o uchel fesul uned. Trwy ail-fuddsoddi’r adnoddau hyn, gallwn gynnig gwell gwasanaethau i fwy o bobl.

Fodd bynnag, rhaid ystyried y duedd bresennol ochr yn ochr ag adroddiad y Strategaeth Gofal, sy’n awgrymu bod angen cynnal nifer y gwlâu sydd ar gael mewn cartrefi gofal er mwyn bodloni’r galw yn y dyfodol.

Dymunwn archwilio ymhellach i’w dewisiadau ar gyfer comisiynu gwasanaethau gofal nyrsio mewn cartrefi gofal, ar y cyd â’r Bwrdd Iechyd Lleol, yn enwedig yn sgil y rhagfynegiadau ynghylch cyfraddau dibyniaeth a chyffredinrwydd dementia ymhlith pobl 85 oed neu’n hŷn; yn ogystal â hynny, bydd angen ymchwilio ymhellach i’r angen am wasanaethau i bobl sy’n dioddef o ddementia yn gynnar yn eu bywydau gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol.

15

Page 16: Social Services Department€¦  · Web viewsdh. home care (independent) ste. meals on wheels sdm. day ser comm bas in sdl. adaptions sfw. sheltered housing/support sds. residential

Yn 2005/06, byddwn yn:

Dechrau ar raglen i leihau pryniant gofal preswyl gan 5% y flwyddyn am dair blynedd (sy’n hafal i 20 yn llai o leoliadau erbyn mis Mawrth 2006)6.

Pennu pris teg ar gyfer gofal i bobl hŷn mewn cartrefi gofal gyda’n partneriaid. Adolygu dyfodol gwasanaethau preswyl mewnol yn sgil anghenion a galw newidiol.

Gwasanaeth IMH Arbenigol

Yn fyr, mae’r ‘Fframwaith Strategol ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn yn Wrecsam a Sir y Fflint (drafft 2003)’ yn galw am foderneiddiad gwasanaethau, gan roi mwy o bwyslais ar gyd-gynllunio strategol a’r angen i wella gwasanaethau.

Yn 2005/6, byddwn yn:

Blocbrynu 6 gwely nyrsio mewn cartref gofal, ar y cyd â’r Bwrdd Iechyd Lleol. Nodi cynllun i brynu gwasanaethau gofal IMH byrdymor arbenigol. Datblygu manyleb ar gyfer gwasanaethau dydd a gweithio gyda budd-ddeiliaid i ddatblygu cynllun i flocbrynu gwasanaethau dydd i bobl hŷn

sydd ag anghenion iechyd meddwl a phobl iau sydd â dementia. Ymchwilio i’r defnydd o dechnoleg gynorthwyol i gefnogi pobl hŷn sydd ag anghenion iechyd meddwl i gynnal eu hiechyd drwy sicrhau

maethiad priodol. Pennu cynllun cydgomisiynu gyda gofalwyr pobl hŷn sydd ag anghenion iechyd meddwl a phobl iau sydd â dementia. Pennu trefn i werthuso dewisiadau ar gyfer canolfan adnoddau IMH gyda chydweithwyr y gwasanaethau iechyd.

16

Page 17: Social Services Department€¦  · Web viewsdh. home care (independent) ste. meals on wheels sdm. day ser comm bas in sdl. adaptions sfw. sheltered housing/support sds. residential

BWRIADAU COMISIYNU: GWASANAETHAU BYRDYMOR A DWYSEDD ISEL

Gwasanaethau’r Sector Gwirfoddol

Mae’r sector gwirfoddol yn chwarae rhan arwyddocaol yn y rhwydwaith o wasanaethau, ac yn arbennig yn narpariaeth gwasanaethau ataliol, a chan hynny, mae’n bartner allweddol yn natblygiad strategaethau comisiynu. Rydym yn gwbl ymwybodol o’r effaith y mae nawdd blynyddol yn ei gael ar sefydlogrwydd y sector ac ar y gallu i ddatblygu’n strategol. Mae gwasanaethau a ariannwyd drwy grantiau yn y gorffennol yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd, ac anelwn at fireinio manylebau gwasanaethau i bennu lefelau’r allbwn ac i ddarparu tystiolaeth o ganlyniadau gwell i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Gall gwasanaethau sy’n defnyddio cynorthwywyr gwirfoddol a gweithwyr gofal i gefnogi pobl hŷn ar ôl iddynt fod yn yr ysbyty, neu’r rheiny sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain ac sydd angen cymorth i arddio neu i wneud gwaith tŷ, ddangos gwelliannau yn lles yr unigolion, ac maent yn fwy tebygol o barhau’n annibynnol. Fodd bynnag, gyda’r pwysau cyson a roddir ar gyllidebau gwasanaethau, gallai’r gwasanaethau hyn brinhau’n hawdd. Mae angen i gynlluniau comisiynu sicrhau y cynhelir nawdd ar gyfer y gwasanaethau hyn lle bynnag y bo hynny’n bosibl, gan eu bod yn cynrychioli gwerth am arian ac yn cefnogi’r agenda ataliol.

Yn 2005/6, byddwn yn:

Adolygu pob gwasanaeth yn y sector gwirfoddol ac yn datblygu cytundebau newydd, yn unol â’n bwriadau comisiynu. Profi cydgytundebau a gwaith monitro gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer 5 mudiad gwirfoddol.

Gwasanaethau Cefnogi Pobl a Chefnogaeth Tai Lefel Isel

Mae gan Wrecsam nifer o wasanaethau a ariennir drwy’r cynllun Cefnogi Pobl, sy’n darparu cefnogaeth â thenantiaeth i bobl hŷn ac i bobl hŷn sydd â dementia – ceir manylion y rhain yng Nghynllun Gweithredol blynyddol Cefnogi Pobl. Mae gan y Tîm Cefnogi Pobl ddulliau o ganfod anghenion nad ydynt yn cael eu bodloni mewn perthynas â’r gwasanaethau hyn. Mae gan y contractau a reolir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ormod o ddefnyddwyr ar hyn o bryd, ac nid ydynt ar gael ar draws y fwrdeistref ym mhob achos. Ceir tystiolaeth bod angen buddsoddi ymhellach mewn gwasanaethau ataliol fel y rhain.

Rydym yn ymwybodol nad yw’r angen i gael gwasanaethau garddio i’r boblogaeth hŷn yn cael ei fodloni, ac yn aml, dyma’r prif reswm y mae unigolion yn gadael eu cartrefi hirdymor.

Yn 2005/6 byddwn yn:

Mapio’r angen am wasanaethau cefnogaeth tai a ddarperir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a bwydo’r wybodaeth hon i mewn i gynllun comisiynu Cefnogi Pobl (a elwir y Cynllun Gweithredol Cefnogi Pobl neu CGCP).

17

Page 18: Social Services Department€¦  · Web viewsdh. home care (independent) ste. meals on wheels sdm. day ser comm bas in sdl. adaptions sfw. sheltered housing/support sds. residential

Gofal Byrdymor (Seibiant)

Mae’r strategaeth gofal byrdymor ar gyfer oedolion iau yn arwain y ffordd o ran manylu’r bwriad o ddatblygu ystod o ddewisiadau o ran gwasanaethau o gefnogaeth lleoliad teulu i gyfnodau byr o fewn y sector cartrefi gofal. Gellir cymhwyso’r egwyddorion hyn i wasanaethau i bobl hŷn, gan adeiladu ar lwyddiant y gwasanaethau TRIO. Rydym yn poeni, i ddechrau, am sicrhau gwasanaethau seibiant byrdymor i bobl â dementia a phobl hŷn ag anghenion iechyd meddwl sy’n bodloni anghenion gofalwyr. Mae angen ymchwilio i ystod o ddewisiadau, gan gynnwys gofal byrdymor yng nghartrefi’r unigolion a gwerthuso manteision gwasanaeth gofalu dros nos. Mae angen darparu’r gwasanaethau hyn mewn modd sy’n bodloni canlyniadau a nodir gan y bobl hŷn eu hunain yn hytrach na’u hystyried fel seibiant i’r gofalwyr yn unig.

Yn 2005/6, byddwn yn:

Gwerthuso’r gwasanaeth gofalu dros nos. Cynyddu nifer y nosweithiau o seibiant a ddarperir i ofalwyr pobl hŷn.

Gwasanaethau Dydd, Cyfleoedd Hamdden a Dysgu Gydol Oes

Cydnabyddwn y gall unigedd cymdeithasol a theimlad o golli rôl mewn bywyd fod yn rheswm pam bo pobl hŷn yn gadael eu cartrefi eu hunain ac yn mynd i mewn i wasanaethau gofal hirdymor. Amlygodd astudiaeth ddiweddar o wasanaethau dydd ddiffyg o ran daliadaeth ystyrlon a dewislen gyfyngedig i’r boblogaeth hŷn, a gymhlethir ymhellach gan ddiffyg cludiant cymunedol hygyrch, dibynadwy a fforddiadwy. Nodir bod cludiant cymunedol yn elfen allweddol o ran sicrhau y gall pobl hŷn gael mynediad at y gwasanaethau cymunedol sydd ar gael. Er enghraifft, ystyrir nofio am ddim i bobl hŷn yn gam arwyddocaol ymlaen o ran hyrwyddo iechyd a lles, fodd bynnag, os yw pobl hŷn yn byw mewn llety cefnogol nad yw’n agos at wasanaeth bws, neu mewn ardaloedd gwledig lle nad oes cludiant cyhoeddus ar gael, nid ydynt yn gallu defnyddio’r gwasanaethau hyn. Mae’r Awdurdod wedi comisiynu astudiaeth o’r ddarpariaeth cludiant cymunedol mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ac Urban II ac yng Nghefn Mawr, a bydd yn paratoi adroddiad am ei ganfyddiadau yng ngwanwyn 2005.

Darperir y rhan fwyaf o wasanaethau dydd mewn canolfannau dydd a chartrefi preswyl. Nododd yr Adolygiad Gwerth Gorau yr angen i ymestyn y cynllun TRIO, gan gefnogi gwasanaethau cefnogaeth fyrdymor/ddydd gyda theuluoedd.

Mae angen i ni weithio â phobl hŷn i nodi ystod y gwasanaethau a’r cyfleoedd hamdden yr hoffent eu defnyddio ac i wella cyfleoedd gwirfoddoli a chyfleoedd dysgu gydol oes, a rhoi manylion y rhain yn y strategaeth gomisiynu.

Yn 2005/6, byddwn yn:

Gwerthuso gwasanaeth TRIO a chynyddu lefel y gwasanaeth 25% (sy’n hafal i 5 defnyddiwr gwasanaeth newydd). Dechrau adolygu gwasanaethau dydd i bobl hŷn. Datblygu manyleb gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau dydd yn y sector cartrefi gofal ar y cyd â’n budd-ddeiliaid.

18

Page 19: Social Services Department€¦  · Web viewsdh. home care (independent) ste. meals on wheels sdm. day ser comm bas in sdl. adaptions sfw. sheltered housing/support sds. residential

Gwasanaeth Prydau Bwyd

Bydd y Strategaeth Prydau Bwyd yn cynnwys manylion argymhellion i ddatblygu gwasanaethau prydau bwyd ‘poeth’ a phrydau ‘wedi’u rhewi’ ac yn amlygu’r angen i ddatblygu rhwydwaith i glybiau cinio - gyda’r nod o ddatblygu clwb cinio ym mhob cymuned. Bydd y strategaeth hefyd yn diffinio’r angen am wasanaeth ail-alluogi byrdymor i unigolion sydd angen magu sgiliau byw beunyddiol.

Yn 2005/6, byddwn yn:

Llunio contract i ddarparwr prydau wedi’u rhewi i ddosbarthu oddeutu 1,500 o brydau bwyd bob wythnos. Llunio contract i ddarparwr prydau poeth i ddosbarthu oddeutu 1,000 o brydau bwyd bob wythnos. Ailasesu anghenion yr holl ddefnyddwyr gwasanaeth sy’n derbyn pryd ar glud ar hyn o bryd, gan nodi’r rheiny sydd â’r potensial i’w hail-

alluogi a’u cyfeirio at y gwasanaeth gofal cartref am gefnogaeth ddwys fyrdymor yn ôl yr angen. Cefnogi datblygiad 2 glwb cinio newydd.

Offer, Addasiadau ac Atgyweiriadau

Mae awdurdodau lleol Wrecsam a Sir y Fflint yn ymuno ag Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Ddwyrain Cymru i ddatblygu cyd-storfeydd ar gyfer offer a chymhorthion – bydd hyn yn seiliedig ar gyllideb ac adnoddau rhanedig, gyda’r nod o greu gwasanaeth mwy hyblyg ac ymatebol sy’n gallu bodloni targedau’r Cynulliad o ran yr amser a gymerir i ddosbarthu offer. Mae’n bosibl y bydd y gwasanaethau Therapi Galwedigaethol ac Ymateb Brys yn ymuno â’r gwasanaeth integredig hwn hefyd.

Cydnabyddwn yr angen i fanteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan dechnoleg gynorthwyol i hwyhau’r angen i bobl hŷn fod yn ddibynnol ar wasanaethau dwys.

Yn 2005/6, byddwn yn:

Lleihau’r rhestr aros yn unol â Chynllun Gweithredu ThG. Penderfynu ar strwythur staffio’r storfa newydd. Cyflwyno technoleg gynorthwyol yn y cynllun tai cysgodol yng Nghwrt Brenhinol, Gwersyllt.

19

Page 20: Social Services Department€¦  · Web viewsdh. home care (independent) ste. meals on wheels sdm. day ser comm bas in sdl. adaptions sfw. sheltered housing/support sds. residential

Gofal Canolraddol a Chysylltiadau â Gwasanaethau Iechyd

Mae ‘gofal canolraddol’ yn cyfeirio at wasanaethau a fwriedir i lenwi’r bwlch rhwng gwasanaethau llym/ysbyty a’r cartref i bobl sydd angen y math o gefnogaeth sy’n cyfuno cyfraniadau meddygol a chymdeithasol. Mae gwasanaethau gofal canolraddol yn:

Hyrwyddo’r gwellhad gorau posibl yn dilyn salwch. Atal derbyniadau difrifol diangen mewn ysbytai. Cefnogi rhyddhad amserol. Gwneud y gorau o fyw’n annibynnol trwy gynnwys rhaglenni adfer fel rhan o’r pecyn gofal.

Cyfrannwn £2,000 y flwyddyn at gyllideb ranedig (£48,000 yn 2004/5) sy’n ariannu tri gwely preswyl byrdymor mewn cartref gofal yn Wrecsam, lle mae’r Tîm Ymateb Brys yn darparu rhaglen adfer ddwys. Daw llawer o’r arian ar gyfer y cynllun hwn o’r grant cydweithio arbennig a ddaw i ben ym mis Mawrth 2006. Bydd angen i’r Awdurdod ystyried ei fuddsoddiad parhaus yn y cynllun hwn a’r angen i ryddhau adnoddau i ymestyn gwasanaethau gofal canolraddol.

Mae’r gymuned Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cydweithio ar ymagwedd systemau cyfan i wasanaethau brys 24 awr a gomisiynir ar y cyd - mae’n bosibl y datblygir gwasanaethau gofal canolraddol fel rhan o’r strategaeth gyffredinol hon.

Ar hyn o bryd, rydym yn ystyried yr angen am ‘siop un stop’ neu ganolfan adnoddau i bobl â dementia a phobl hŷn sydd ag anghenion iechyd meddwl. Gallai hyn gydleoli gwasanaethau statudol a gwirfoddol ar gyfer yr unigolion dan sylw, o wasanaethau rheoli gofal, cefnogaeth iechyd a nyrsys cymunedol arbenigol i gyfleusterau dydd a seibiant preswyl byrdymor a gwasanaethau i ofalwyr.

Rydym yn bwriadu blocbrynu 6 gwely mewn cartref nyrsio i bobl hŷn ag anghenion iechyd meddwl ar y cyd â’r Bwrdd Iechyd Lleol dros gyfnod o ddwy flynedd. Defnyddir y rhain ar gyfer gofal nyrsio safonol neu anghenion gofal iechyd parhaus a mwy cymhleth. Ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, rydym yn bwriadu arfarnu manteision yr ymagwedd hon o gontractio gwaith a chyflwyno argymhellion i’r byrddau priodol am ymagwedd fwy cyfanwerthol tuag at sicrhau gwasanaeth IMH mewn cartrefi gofal. Dylai hyn gefnogi rhyddhad amserol cleifion o Ysbyty Maelor - gan leihau nifer y trosglwyddiadau gofal sy’n cael eu gohirio. Amlygir anghenion pobl hŷn ag anghenion iechyd meddwl a phobl â dementia yn natblygiad strategaeth gofal canolraddol.

Yn 2005/6 byddwn yn:

Adolygu’r gwasanaeth camu i fyny/lawr ac yn arfarnu’r canlyniadau ar gyfer defnyddwyr a gofalwyr sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth hwn. Cynnal lefel cyfartalog o 80% o ran y cyfradd llenwi mewn gwlâu camu i fyny/lawr. Cydlynu datblygiad rheolwr strategaeth gofal canolraddol drwy recriwtio rheolwr i’r Tîm Ymateb Brys ar gyfer ardal Wrecsam. Llunio cynllun gweithredu i ddatblygu gwasanaethau brys sydd ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

20

Page 21: Social Services Department€¦  · Web viewsdh. home care (independent) ste. meals on wheels sdm. day ser comm bas in sdl. adaptions sfw. sheltered housing/support sds. residential

Adfocatiaeth

Yn ddiweddar, derbyniodd Age Concern gogledd ddwyrain Cymru grant i ddatblygu gwasanaethau adfocatiaeth i bobl hŷn ar draws gogledd ddwyrain Cymru, ac mae’n cefnogi datblygiad strategaeth adfocatiaeth yn Wrecsam, sydd i’w gweithredu ym mis Ebrill 2006.

Yn 2005/6 byddwn yn:

Cyhoeddi ein strategaeth adfocatiaeth. Cefnogi datblygiad rhwydwaith adfocatiaeth ymhlith y darparwyr adfocatiaeth presennol yn Wrecsam.

Gofalwyr

Cydnabyddwn y rôl bwysig y mae gofalwyr pobl hŷn yn ei chwarae wrth eu cefnogi i aros gartref yn hirach, ac rydym yn ymroddedig i ddatblygu gwasanaethau sy’n cefnogi iechyd a lles y gofalwyr eu hunain. Dylid datblygu gwasanaethau i ofalwyr er mwyn cefnogi eu lles corfforol, meddyliol ac emosiynol, lleihau tlodi ac unigedd cymdeithasol a chefnogi gofalwyr i barhau i ofalu am eu perthnasau, os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Rydym hefyd yn ymwybodol bod pobl hŷn eu hunain yn gyfrifol am ofalu, naill ai trwy helpu eu teuluoedd â gofal plant neu ofalu am bartner neu berthynas arall. Rydym hefyd yn ymwybodol bod mwy o ddynion dros 65 oed yn ofalwyr anffurfiol – sy’n hollol groes i’r grwpiau oedran 64 ac iau.

Byddwn yn ymchwilio ymhellach i wasanaethau i ofalwyr mewn strategaethau a chynlluniau comisiynu i ofalwyr, fodd bynnag, rhoddir manylion gwasanaethau sydd â’r nod o roi seibiant i bobl hŷn oddi wrth arferion y cartref isod.

Yn 2005/6 byddwn yn:

Datblygu cynllun comisiynu ar y cyd ar gyfer gwasanaethau i ofalwyr. Cefnogi darparwyr i fesur eu gallu i gyflawni canlyniadau penodol i ofalwyr. Comisiynu gwasanaeth hwyluso i ofalwyr.

21

Page 22: Social Services Department€¦  · Web viewsdh. home care (independent) ste. meals on wheels sdm. day ser comm bas in sdl. adaptions sfw. sheltered housing/support sds. residential

YSTYRIAETHAU PELLACH AR GYFER COMISIYNU STRATEGOL

Meini prawf cymhwyster

Dan y Ddeddf Gofal Cymunedol a’r Ddeddf Cleifion ac Anabl Cronig, mae’n rhaid i ni asesu anghenion i ddarparu neu gomisiynu gwasanaethau i fodloni’r anghenion hynny sy’n bodloni meini prawf cymhwyster y Cyngor. Gallai'r cyngor osod ei lefel gymhwyster ar gyfer gwasanaethau yn unol â’i adnoddau. Mae Cyngor Wrecsam wedi gosod y meini prawf cymhwyster ar lefel sy’n sicrhau y darperir gwasanaethau i fodloni anghenion sy’n rhoi annibyniaeth allweddol, sylweddol neu gymedrol unigolion mewn perygl.

Rydym yn fwyfwy ymwybodol o’r buddsoddiad y bydd ei angen o ran adnoddau i gynnal y lefel gymhwyster bresennol ar gyfer gwasanaethau, a byddwn yn adolygu’r lefel gymhwyster yn gyson. Bydd y strategaeth gomisiynu yn canolbwyntio ar yr angen i ddatblygu gwasanaethau ataliol er mwyn lleihau’r tebygolrwydd o ddibyniaeth hirdymor ar wasanaethau yn y dyfodol o fewn y boblogaeth sy’n heneiddio (y bom amser ddemograffig).

Yn 2005/6 byddwn yn:

Adolygu lefel y cymhwyster ar gyfer gwasanaethau. Adolygu’r meini prawf cymhwyster yn unol â’r cyfarwyddyd diweddar ar Fynediad Teg i Wasanaethau Gofal ac Asesu Unedig.

Taliadau Uniongyrchol

Erbyn hyn, mae’r awdurdod yn gyfrifol am gynnig taliadau uniongyrchol i bobl hŷn ar gyfer rhai neu bob un o’r gwasanaethau y maent eu hangen i fodloni anghenion cymwys, a gall hefyd gynnig taliadau uniongyrchol i ofalwyr. Mae’r cynllun Taliadau Uniongyrchol yn Wrecsam yn cynnig cefnogaeth drydydd parti gan sefydliad annibynnol (AVOW) ac yn hybu’r cyfle i bobl hŷn reoli’r gwasanaethau y maent yn eu derbyn. Wrth i’r nifer sy’n defnyddio taliadau uniongyrchol gynyddu, bydd angen i ni ystyried digomisiynu gwasanaethau ei ddarparwyr i ryddhau’r refeniw sydd ei angen, a bydd angen i ni ehangu’r gefnogaeth drydydd parti.

Yn 2005/6 byddwn yn:

Cynyddu nifer y bobl hŷn a’r gofalwyr sy’n derbyn taliadau uniongyrchol o 25% (sy’n gyfwerth â 4 derbynnydd newydd).

22

Page 23: Social Services Department€¦  · Web viewsdh. home care (independent) ste. meals on wheels sdm. day ser comm bas in sdl. adaptions sfw. sheltered housing/support sds. residential

Amrywiaeth

Dangosodd Cyfrifiad 2001 bod dros 1400 o bobl o bob oedran yn Wrecsam o dras ethnig nad oedd yn Gymraeg nac yn Saesneg. Y grŵp ethnig mwyaf a gofnodwyd oedd pobl Indiaidd (237 o bobl). Mae cyfran lai o’r boblogaeth fudol yn debygol o fod dros 65 oed na’r boblogaeth Gymraeg/Saesneg. Mae’n annhebygol y bydd anghenion sylfaenol y grwpiau ethnig lleiafrifol yn wahanol i anghenion y boblogaeth letyol. Fodd bynnag, gallai’r ffordd y mae pobl am i’w hanghenion gael eu bodloni amrywio yn ôl eu diwylliant, ac mae gwaith ymchwil diweddar yn awgrymu y bydd angen trosglwyddo anghenion sy’n benodol i ddiwylliannau arbennig i alw am gefnogaeth gwasanaethau cymdeithasol. Credir bod 35 o ieithoedd ‘cyntaf’ yn Wrecsam.

Nid oes gennym gofnod defnyddiadwy o ethnigrwydd defnyddwyr ein gwasanaethau, ac mae angen rhoi peth sylw i sensitifrwydd diwylliannol ac ethnig gwasanaethau a gomisiynir.

Yn 2005/6 byddwn yn:

Cofnodi ethnigrwydd pob cyswllt newydd. Cwblhau asesiad effaith ar gyfer pob gwasanaeth a adolygir neu a gomisiynir o’r newydd. Gwella perfformiad mewn perthynas â chanran defnyddwyr y gwasanaeth/gofalwyr a oedd yn teimlo bod staff y gwasanaeth yn cymryd eu hil,

eu diwylliant neu eu crefydd i ystyriaeth – gyda tharged o 70%7.

Gofynion y gweithlu

Cydnabyddwn y bydd angen gweithlu mwy arnom i ymdrin â chynnydd yn nifer y bobl sy’n ddibynnol ar wasanaethau dwys. Hefyd, cydnabyddwn:

Bod nifer o’r gofalwyr cyflogedig ar hyn o bryd rhwng 35-55 oed. Yn gyffredinol, mae llai o unigolion yn ymuno â gweithlu’r gwasanaethau cymdeithasol. O ran ardal teithio i’r gwaith Wrecsam, mae’r sector gofal yn cystadlu am weithwyr â’r sectorau bancio, diwydiant a manwerthu. Y gyfradd ddiweithdra yn Wrecsam o ran pobl sy’n economaidd weithredol sy’n 16 oed neu’n hŷn yw 1.5%.

Rydym yn cydweithio â budd-ddeiliaid eraill yn y sectorau gwirfoddol, preifat, iechyd ac addysg i ddatblygu cynlluniau gweithlu a chynlluniau datblygu’r gweithlu. Cydnabyddwn y diffygion o ran cymwysterau galwedigaethol ymhlith staff yn y gwasanaethau rheoledig yn Wrecsam, ac rydym yn ystyried modelau i ail-ddylunio’r gweithlu wrth i ni symud tuag at weithwyr iechyd, gofal cymdeithasol a thai generig. Rydym hefyd yn ymwybodol o’r angen am weithgareddau hyfforddiant a datblygiad sydd eu hangen i newid pwyslais rhai gwasanaethau i’r ymagwedd ail-alluogi. Yn ogystal â hynny, cydnabyddwn ein rôl wrth gefnogi’r sector cyfan i fodloni’r safonau rheoli mewn perthynas â lefelau cymhwyster.

23

Page 24: Social Services Department€¦  · Web viewsdh. home care (independent) ste. meals on wheels sdm. day ser comm bas in sdl. adaptions sfw. sheltered housing/support sds. residential

Yn 2005/6:

Bydd cynlluniau datblygu pob gwasanaeth yn rhoi dadansoddiad manwl o anghenion y gweithlu. Bydd pob gwasanaeth newydd yn manylu anghenion y gweithlu. Byddwn yn rhoi Strategaeth Cyd-weithlu ar waith.

24

Page 25: Social Services Department€¦  · Web viewsdh. home care (independent) ste. meals on wheels sdm. day ser comm bas in sdl. adaptions sfw. sheltered housing/support sds. residential

NODIADAU

1. Gan mai pobl hŷn yw’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr gwasanaethau therapi galwedigaethol ac adfer, nodwyd cost lawn y gwasanaethau hyn a ddarperir i bob oedolyn yn y darlun hwn.

2. Cyfunwyd timau rheoli gofal i bobl hŷn ac i bobl ag anableddau corfforol a phroblemau synhwyraidd.3. Tybiaethau: Cartrefi gofal – cost crynswth yr wythnos ar gyfer gofal cartref preswyl/nyrsio o £364 yr wythnos, felly (220 o bobl * £364) * 52

wythnos = £4,164,140. Gofal cartref – y pecyn gofal cartref cyfartalog ym mis Chwefror 2004 oedd 10.3 awr staff yr wythnos [7,011 awr o wasanaethau i 681 o ddefnyddwyr] a chost yr uned ym mis Mawrth 2005 oedd £25. Pris disgwyliedig UKHCA ar gyfer sefydliadau a oedd yn bodloni’r holl ofynion gofal oedd £14.84. Gan dybio ymraniad o 50% o ran y ddarpariaeth (332 o ddefnyddwyr y gwasanaeth * ((10.3 * £25) * 52 wythnos)) + (333 o ddefnyddwyr y gwasanaeth * ((10.3 * £14.85) * 52 wythnos)) = £7,094,049.

4. Yn cynnwys defnyddwyr y larwm cymunedol – gan hynny, ceir cynnydd mawr yn y ffigwr a adroddwyd.5. Cyfanswm y bobl sydd ar y rhestr aros/nifer cyfartalog y misoedd y mae pobl yn aros am wasanaethau (ac eithrio Cynorthwywyr ThG).6. Gwaelodlin – roedd 410 o leoliadau’n cael eu hariannu ar 28 Chwefror 2005.7. Y targed yn 2004 oedd 60%.

25

Page 26: Social Services Department€¦  · Web viewsdh. home care (independent) ste. meals on wheels sdm. day ser comm bas in sdl. adaptions sfw. sheltered housing/support sds. residential

Atodiad A

Crynodeb o’r gwasanaethau sydd ar gael i bobl hŷn yn Wrecsam

Gwasanaeth DisgrifiadAge Concern Gogledd Ddwyrain Cymru

Cangen y sefydliad cenedlaethol sy’n darparu gwybodaeth, adfocatiaeth a chyngor am faterion sy’n ymwneud â phobl hŷn.

Cartrefi Preswyl a Nyrsio

Mae nifer o gartrefi gofal cofrestredig yn Wrecsam. Mae gwybodaeth ar gael gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol neu’r Arolygiaeth Cartrefi Gofal.Mae gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol ganllaw hefyd ar sut i ddewis gofal preswyl – mae hwn ar gael ar gais.

Chariotts Cynllun cludiant cymunedol sy’n darparu cludiant personol i bobl ag anableddau neu namau synhwyraidd.

Clybiau Cinio Cynhelir nifer o glybiau cinio ar draws y fwrdeistref sirol sy’n darparu pryd bwyd poeth a chyfle i gymdeithasu.

Croes Goch Brydeinig Yn darparu cerdyn argyfyngau i ofalwyr ac yn benthyca offer.Crossroads Yn darparu gwasanaeth cartref cofrestredig er mwyn caniatáu gofalwyr i gael seibiant.

Cymdeithas Alzheimer Yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i bobl sydd â dementia a’u gofalwyr. Mae gwasanaethau’n cynnwys gwasanaeth ymgyfeillio, cynllun adfocatiaeth a grantiau gofal.

Cymdeithas Strôc Wedi’i lleoli yn Ysbyty Maelor Wrecsam i gefnogi pobl sydd wedi dioddef strôc a’u teuluoedd.

Cynllun Adref o’r Ysbyty Cynllun y Groes Goch – mae’n darparu gwirfoddolwyr i gefnogi pobl hŷn pan gânt eu rhyddhau o’r ysbyty.

Cynllun Camu i Fyny/Lawr Yn darparu rhaglen adferiad byrdymor mewn cartref gofal er mwyn atal pobl rhag gorfod mynd i mewn i’r ysbyty a/neu hwyluso rhyddhad amserol – mwyafswm o 6 wythnos.

Cynllun Cefnogaeth Ddomestig a Chymdeithasol Un o fentrau Cefnogi Pobl sy’n darparu cefnogaeth tai.

Cynlluniau cefnogi tenantiaeth IM ac IMH Un o fentrau Cefnogi Pobl sy’n darparu cefnogaeth tai.

Fforwm Pobl Hŷn Mae’r Fforwm Pobl Hŷn yn cael ei hwyluso gan AVOW ac yn rhoi cyfle i bobl hŷn gyfarfod a siarad am faterion sydd o bwys iddynt.

Gofal a ThrwsioYn darparu cyngor a chymorth ymarferol i bobl hŷn sy’n ymwneud â gwaith trwsio ac adnewyddu tai ac addasiadau a gwasanaeth crefftwr i berchnogion preswyl hŷn.

26

Page 27: Social Services Department€¦  · Web viewsdh. home care (independent) ste. meals on wheels sdm. day ser comm bas in sdl. adaptions sfw. sheltered housing/support sds. residential

Gwasanaeth Disgrifiad

Gofal Cartref Mae ystod o gefnogaeth ar gael i helpu pobl yn eu cartrefi eu hunain ac mae’r rhain yn cynnwys gofal cartref yr awdurdod lleol ac asiantaethau gofal y sector annibynnol.

Gofal Dydd Mae amrywiaeth o ddarpariaethau gofal dydd ar gael gan gynnwys canolfannau dydd, cefnogaeth ddydd mewn cartrefi preswyl/nyrsio a TRIO sy’n darparu gofal dydd yng nghartref y teulu.

Gofal Nos Gofal nos a ddarperir yng nghartref yr unigolyn er mwyn rhoi seibiant i’w gofalwr.Gwasanaeth Adfer Namau Gweledol Gweithiwr adferiad sy’n darparu cefnogaeth i bobl sy’n methu gweld yn dda.

Gwasanaethau Therapi Galwedigaethol

Tîm yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol – yn gyfrifol am gwblhau asesiadau ar gyfer offer ac addasiadau.

Help the Aged Cangen sefydliad cenedlaethol sy’n codi arian ac yn darparu cyngor a gwybodaeth am faterion sy’n ymwneud â phobl hŷn.

NEWCIS (Gwasanaethau Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru)

Yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i ofalwyr.

Pryd ar Glud Yn darparu pryd bwyd poeth neu bryd wedi’i rewi.

Shopmobility Cynllun sy’n darparu cadeiriau olwyn modurol a rhai llaw a sgwteri i helpu pobl sydd ag anawsterau symud i siopa yng nghanol tref Wrecsam.

Tai CysgodolMae yna 23 o gynlluniau tai cysgodol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.Bydd cynlluniau Springfield a Chwrt Brenhinol (sydd i ddechrau yn 2006) yn darparu cefnogaeth ychwanegol.

Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol i Bobl Hŷn

Tîm Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cyfun sy’n cefnogi pobl hŷn sydd â phroblemau iechyd meddwl a’u gofalwyr.

Tîm Ymateb BrysTîm cyfun sy’n cynnwys nyrs, gweithiwr cymdeithasol, therapydd galwedigaethol a ffisiotherapydd a fydd yn darparu gofal dwys am hyd at 6 wythnos i atal pobl rhag gorfod mynd i mewn i’r ysbyty neu i’w helpu ar ôl iddynt ddod adref o’r ysbyty.

Ysbyty Dydd Helyg Wedi’i leoli ar safle Ysbyty Maelor Wrecsam – mae’n darparu asesiadau i bobl hŷn sydd â phroblemau iechyd meddwl.

27