strategaeth gwaith carthu cynnal a chadw harbwr pwllheli · adroddiad gwaddodi ffeithiol a...

57
Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal a chadw Harbwr Pwllheli Adroddiad strategaeth wedi’i diweddaru Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016 Mae’r adroddiad hwn yn ystyried cyfarwyddiadau a gofynion penodol ein cleient. Nid yw wedi’i fwriadu ar gyfer unrhyw drydydd parti, ac ni ddylai unrhyw drydydd parti ddibynnu arno, ac ni ymgymerir â chyfrifoldeb i unrhyw drydydd parti. Rhif gwaith 236276-00 Ove Arup & Partners Ltd 4 Pierhead Street Glannau’r Brifddinas Caerdydd CF10 4QP Deyrnas Unedig www.arup.com

Upload: others

Post on 28-Jan-2021

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Cyngor Gwynedd

    Strategaeth gwaith carthu cynnal a chadw Harbwr Pwllheli

    Adroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Mae’r adroddiad hwn yn ystyried cyfarwyddiadau

    a gofynion penodol ein cleient.

    Nid yw wedi’i fwriadu ar gyfer unrhyw drydydd

    parti, ac ni ddylai unrhyw drydydd parti ddibynnu

    arno, ac ni ymgymerir â chyfrifoldeb i unrhyw

    drydydd parti.

    Rhif gwaith 236276-00

    Ove Arup & Partners Ltd

    4 Pierhead Street

    Glannau’r Brifddinas

    Caerdydd CF10 4QP

    Deyrnas Unedig

    www.arup.com

  • | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Document Verification

    Job title Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr Pwllheli

    Job number

    236276-00

    Document title Adroddiad strategaeth wedi’i diweddaru File reference

    Document ref

    Revision Date Filename 2015_Mar_Strategy_Report.docx

    Draft 1 10

    March

    2015

    Description First draft

    Prepared by Checked by Approved by

    Name PA KG/RG CW

    Signature

    Draft 2 25 Mar

    2015

    Filename 2015_Mar_Strategy_Report_Issue_V2.docx Description

    Prepared by Checked by Approved by

    Name PA RG CW

    Signature

    Issue 5 Jan

    2016

    Filename 2016_Jan_Strategy_Report_Issue_V3.docx Description

    Prepared by Checked by Approved by

    Name PA GM RG

    Signature

    Filename

    Description

    Prepared by Checked by Approved by

    Name

    Signature

    Issue Document Verification with Document �

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Cynnwys

    Tudalen

    1 Cyflwyniad 1

    2 Disgrifiad o’r strategaeth bresennol ac ardaloedd a ystyriwyd 2

    3 Cydlynu gyda strategaethau rhanbarthol 5

    3.1 Cynllun Rheoli Traethlin Gorllewin Cymru 2 5

    3.2 Prosiect Peilot Pwllheli 9

    4 Effaith Newid Hinsawdd 11

    5 Methodoleg ar gyfer datblygu’r strategaeth 13

    5.1 Adolygiad o’r wybodaeth bresennol 14

    5.2 Datblygu atebion 14

    5.3 Rheoli rhanddeiliaid 15

    6 Lefelau a lledau carthu’r dyluniad newydd arfaethedig 21

    6.1 Cymharu cyfeintiau carthu ar gyfer dyfnderau gwahanol 21

    6.2 Dyluniad carthu newydd arfaethedig 25

    7 Amlder y gwaith carthu a chyfeintiau disgwyliedig 26

    7.1 Cynnig ar gyfer ymgyrchoedd carthu 26

    7.2 Dadansoddiad o gyfraddau croniant hanesyddol a rhagolwg 27

    7.3 Cyfeintiau disgwyliedig o garthu’n flynyddol 28

    8 System garthu arfaethedig i’w defnyddio ym mhob ardal 29

    8.1 Mynedfa’r harbwr: 31

    8.2 Sianel ddynesu’r marina 32

    8.3 Basn y marina 32

    9 Strategaeth ar gyfer gwaredu deunyddiau 33

    9.1 Opsiynau tymor byr 33

    9.2 Opsiynau tymor canolig/tymor hir 35

    10 Mesurau ar gyfer lleihau cyfraddau croniant yn yr harbwr 36

    10.1 Opsiynau tymor byr 36

    10.2 Opsiynau tymor canolig/tymor hir 38

    11 Amcangyfrif o’r gost 39

    11.1 Cost carthu a amcangyfrifir y flwyddyn 39

    11.2 Gwaredu deunyddiau 40

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    12 Effaith ddisgwyliedig y mesurau arfaethedig a chydsyniadau gofynnol 40

    12.1 Mesurau tymor byr 40

    12.2 Mesurau tymor canolig/tymor hir 41

    13 Casgliadau a chamau nesaf 42

    Atodiadau

    Atodiad A

    Cyflwyniadau’r gweithdy ffocws technegol

    Atodiad B

    Lluniad 1001 – Dyluniad gwaith carthu

    Atodiad C

    Dyluniad amlinellol atgyfnerthu adeiledd y grwyn

    Atodiad D

    Rhagdybiaethau dyluniad amlinellol adeiledd y grwyn

    Atodiad E

    Cwmpas Deddf Harbwr Pwllheli

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 1

    1 Cyflwyniad

    Ar ddechrau’r 1990au, cychwynnodd yr Awdurdod Lleol bryd hynny, sef Cyngor Dosbarth Dwyfor, ar waith datblygu Harbwr Pwllheli i gynnwys marina â 400 o angorfeydd.

    Gwnaed y gwaith carthu cyfalaf gan long garthu torri a sugno ac roedd y peiriant o faint a olygodd bod gor-garthu sylweddol wedi’i wneud yn y sianel a basn y marina.

    Dros y cyfnod 1992-2007 cynhaliwyd rhaglen o garthu cynnal a chadw ar ffurfiau amrywiol mewn ardaloedd gwahanol o’r Harbwr, ac er 1997 trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am reoli gweithrediadau carthu o fewn y marina i Gyngor Sir Gwynedd. Yn Ionawr 2009 y paratowyd y Strategaeth Carthu fwyaf diweddar ar gyfer Harbwr Pwllheli i Gyngor Gwynedd.

    Ym mis Ebrill 2014 comisiynwyd Arup gan Gyngor Gwynedd i adolygu’r trefniadau carthu presennol yng ngolau amgylchiadau sy’n newid, ac i baratoi Strategaeth Gwaith Garthu Cynnal a Chadw, yn cynnwys asesiad o opsiynau ymarferol ar gyfer rheoli’r gwaith carthu cynnal a chadw a chynnig ar gyfer strategaeth gynaliadwy, yn cynnwys costau am y cyfnod 2015-2025.

    Mae’r newidiadau a grybwyllwyd yn cynnwys:

    • Datblygu a gweithredu’n barhaus Academi Hwylio Genedlaethol Cymru a Chanolfan Digwyddiadau ym Mhwllheli

    • Gweithredu gwaith carthu 2013/14, yn cynnwys adfer tir a thirweddu yn ardal yr harbwr

    • Cynllun Rheoli Traethlin Gorllewin Cymru 2 (SMP2)

    • Ffurfio’r Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol ar gyfer Pwllheli (Strategaeth Beilot Pwllheli ar Addasu i’r Newid yn yr Hinsawdd)

    • Newid yn yr Hinsawdd a chynnydd yn lefel y Môr

    • Deddfwriaeth berthnasol

    • Pwysau cyllidebol cynyddol yn wynebu awdurdodau lleol yng Nghymru (ac ansicrwydd ynghylch argaeledd cyllid gan Lywodraeth Cymru tuag at symud deunydd i Draeth Crugan)

    Ar ôl cyflwyno’r Strategaeth Ddrafft ym mis Mawrth 2015 cafodd ei adolygu gan Gyngor Gwynedd ac aelodau Pwyllgor yr Harbwr. Derbyniwyd y sylwadau ym mis Gorffennaf 2015, ac fe’u hymgorfforwyd yn y fersiwn derfynol hon o’r ddogfen.

    Yn yr un modd, darparwyd copïau o Adroddiad y Strategaeth Ddrafft ac Adroddiad Cysgod yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd i Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Mawrth 2015. Derbyniwyd sylwadau i’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a’r Strategaeth ym mis Awst 2015, ac yna cynhaliwyd telegynhadledd rhwng Cyngor Gwynedd, Arup a Cyfoeth Naturiol Cymru.

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 2

    Mae adroddiad yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd wedi’i newid o ganlyniad, ac fe’i rhoddwyd i Cyfoeth Naturiol Cymru fel Fersiwn Derfynol ym mis Rhagfyr 2015. Hon yw’r fersiwn derfynol o’r Adroddiad Strategaeth, yn cynnwys diwygiadau mewn perthynas â sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru.

    2 Disgrifiad o’r strategaeth bresennol ac ardaloedd a ystyriwyd

    Lluniwyd y strategaeth bresennol gan gwmni Marina Projects yn 2009, a’r prif faterion a ganfuwyd i fynd i’r afael â nhw gan y cynigion yn y strategaeth yw::

    - Nifer uchel y cyfyngiadau sy’n gwneud gweithgareddau carthu yn gymhleth a chostus.

    - Y prif groniant o fewn yr harbwr, wedi’i achosi gan y prosesau arfordirol ac nid gan ddeunyddiau wedi’u cludo gan lifoedd yr afonydd.

    - Pan ffurfiwyd y marina yn wreiddiol, roedd y brif Sianel Fynediad wedi’i gor-garthu yn sylweddol i greu mynediad i’r llong garthu. Creodd hyn ganfyddiad bod gan gychod pleser a oedd yn defnyddio’r harbwr ac wedi’u hangori yn y marina ffenestr fynediad well i’r llanw. Fodd bynnag, nid oedd y dyluniad gwreiddiol wedi rhagweld mynediad llanw llawn i’r marina (-3.00m islaw OD,-0.56m islaw CD, ar gyfer y fynedfa a’r Sianel Fynediad). Roedd lled y dyluniad arfaethedig ar gyfer y sianel yn hael iawn hefyd, gydag 80m.

    - Roedd dangosyddion clir hefyd bod Sianel Fynediad/Mynedfa lydan yn cynyddu lefel y croniant trwy’r holl Harbwr.

    - Roedd mannau dyfnaf y Sianel Fynediad wedi drifftio tuag at ochr allan y cromliniau ac nid yw’r marciau mordwyo yn dangos lleoliad y sianel ar hyn o bryd.

    - Roedd y dyfnder a gynlluniwyd ym masn y marina a ddefnyddiwyd mewn ymgyrchoedd carthu blaenorol wedi darparu dyfnder ychwanegol yn fwy na hynny oedd yn ofynnol ar gyfer y rhan fwyaf o gychod (-3m islaw CD).

    Prif amcan y strategaeth oedd lleihau’r gwaith carthu cynnal a chadw i’r lefel isaf sy’n ymarferol.

    Roedd y strategaeth yn cynnwys dylunio’r lefelau carthu diwygiedig arfaethedig ym masn y marina, wedi’u haddasu i’r drafft a oedd yn ofynnol ar gyfer y cychod oedd wedi’u hangori ym mhob ardal (-3.94m, -4.44m a -5.44m islaw OD; -1.5m, -2m a -3m islaw CD).

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 3

    Ffigur 1: Lefelau dylunio arfaethedig y strategaeth bresennol, yn cynnwys ardal y gwaith carthu cyfalaf newydd ar gyfer y WSAEC a wnaed yn 2014

    Dyma oedd y prif argymhellion a gynhwyswyd yn y strategaeth ar gyfer pob ardal garthu:

    - Parhau i gynnal arolygon hydrograffig yn flynyddol er mwyn deall y prosesau siltio yn y marina.

    - Dyheadau mwy hirdymor fyddai cynyddu’r dyfnder ym Mynedfa’r Harbwr a’r Sianel Fynediad i lawr i -3.50m OD (-1.06m CD) a’r lled o 25m i 30m, gan leoli’r sianel er mwyn adlewyrchu’r dŵr dyfnach naturiol.

    - Cadw’r dull carthu presennol ar gyfer Mynedfa’r Harbwr gan ddefnyddio peiriannau ar y tir, gyda deunydd sy’n cael ei godi naill ai’n cael ei bentyrru neu’i gludo’n uniongyrchol i ailgyflenwi’r traeth.

    - Ystyriwyd mai’r dull mwyaf priodol i garthu’r Sianel Fynediad a Basn y Marina oedd defnyddio llong garthu torri a sugno o faint priodol, gyda’r gwastraff a garthwyd yn cael ei ollwng i’r morlyn distyllu. Roedd y Sianel Fynediad yn brif flaenoriaeth yn yr ymgyrch carthu nesaf.

    - Adolygu sail y Cynllun Rheoli Traethlin presennol a diweddaru’r holl asesiadau a sicrhau Trwyddedau a Chydsyniadau priodol.

    - Cyflogi contractiwr addas i ymgymryd â’r gwaith carthu cynnal a chadw. Felly, nid ystyriwyd bod offer a oedd yn berchen i’r Cyngor yn addas mwyach ar gyfer gwasanaeth gweithredu yn Harbwr Pwllheli.

    Ers cynhyrchu’r strategaeth hon, mae Cyngor Gwynedd wedi:

    - ymgymryd â gwaith carthu’n flynyddol ym Mynedfa’r Harbwr er mwyn gwarantu mynediad y cychod i’r marina;

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 4

    - lefelu gwely’r Sianel Fynediad bob rhyw ddwy flynedd (gan alluogi symud mannau uchel a allai beri risg i fordwyo heb gynhyrchu deunydd i ddelio ag ef) a

    - chynnal ymgyrchoedd carthu cynnal a chadw ym Masn y Marina a’r Sianel bob rhyw 5 mlynedd.

    Cafodd yr ardaloedd a ystyriwyd yn strategaeth 2009 (Basn y Marina, y Sianel Fynediad a Mynedfa’r Harbwr, a ddangosir yn Ffigur 2) eu haddasu yn yr adroddiad Gwaddodi Ffeithiol a gynhyrchwyd gan Civil Engineering Solutions yn 2014 i wella cywirdeb ar ôl adolygu cwmpas data’r arolwg. Mae’r ardaloedd a ddefnyddiwyd yn y strategaeth hon wedi’u cydlynu â’r rhai diweddaraf hyn, ac yn yr un modd â’r strategaeth flaenorol, nid yw hyn yn cynnwys camau gweithredu ar gyfer yr harbwr mewnol.

    Ffigur 2: Cymerwyd y ddelwedd o Strategaeth 2009 yn dangos yr ardaloedd carthu a ystyriwyd

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 5

    Ffigur 3: Ardaloedd dadansoddi wedi’u haddasu

    3 Cydlynu â strategaethau rhanbarthol

    Mae un brif strategaeth ranbarthol y cynhyrchwyd y ddogfen hon i fod yn gyson â hi, sef Cynllun Rheoli Traethlin Gorllewin Cymru 2.

    Cynhyrchwyd Strategaeth Beilot Pwllheli ar Addasu i’r Newid yn yr Hinsawdd yn unol â’r SMP2 y soniwyd amdano, ond nid yw wedi’i mabwysiadu’n swyddogol gan Gyngor Gwynedd ar hyn o bryd fel ei strategaeth rheoli llifogydd. Mae ei chynnwys wedi’i ystyried yn yr astudiaeth hon fel argymhellion ar gyfer strategaethau tymor byr, tymor canolig a thymor hir mewn rheolaeth arfordirol.

    3.1 Cynllun Rheoli Traethlin Gorllewin Cymru 2

    Mae’r strategaethau sydd wedi’u cynnwys ym Mhrosiect Peilot Pwllheli yn gyson â’r ddogfen reoli ranbarthol hon sy’n asesu risg llifogydd ar hyd Arfordir Cymru ac yn llunio’r polisïau i fynd i’r afael â’r risgiau hynny i bobl a’r amgylchedd datblygedig a naturiol mewn modd cynaliadwy.

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 6

    Ffigur 4: Prosesau geomorffolegol traethlin cyffredinol (ffynhonnell SMP2)

    Mae’r drifft ar hyd glan Traeth Crugan yn tueddu bod tua’r dwyrain. Mae’r pen gorllewinol yn ardal o erydiad a dim ond y blaendraeth uwch sy’n ei gynnal. Mae’r ardaloedd o wely môr uwch i ben dwyreiniol Traeth Crugan yn tueddu cynnal croniad gwaddod yng nghanol y bae, ond gall hyn fod yn amrywiol, ac mae’r twyni’n agored i erydu. Mae Abererch yn tueddu bod yn ardal lle mae gwaddod yn gwahanu, gyda gwaddod yn symud i’r dwyrain ac i’r gorllewin. Gall fod cyfnodau o groniant.

    Ar sail y prosesau arfordirol hanfodol a ddisgrifir yn nogfen SMP2 (ac a ddangosir yn Ffigur 2) gallwn ddweud fod y brif ffynhonnell croniant yn yr harbwr yn arfordirol, a bod yr harbwr yn tueddu derbyn gwaddodion o Draeth Grugan ac Abererch.

    Mae Pwllheli yn ardal perygl llifogydd allweddol, a bydd y codiad yn lefel y môr yn cael effaith sylweddol ar ehangu risg a’r lefel risg.

    Mewn senario digyfyngiad (gan gymryd na fu unrhyw ymyrraeth yn yr ardal, a bod y gwaith yn yr harbwr, adeileddau eraill na gwaith amddiffyn rhag llifogydd erioed wedi’u gwneud) ymddygiad naturiol Abererch yw treiglo’n ôl. Mae’n ymddangos yn eithaf tebygol y byddai bylchu yn digwydd ac y byddai ardal Afon Erch yn ffurfio cilfach forol newydd. Yn absenoldeb adeileddau mynedfa’r harbwr, mae’r fynedfa yn debygol o ledu, gallai fod mwy o waddod yn cael ei symud i’r fynedfa a byddai mwy o erydu ar hyd Glan y Don wrth i siâp y lan hon newid.

    Mewn senario gwneud dim (cymerir na fyddai unrhyw fesurau amddiffyn pellach yn cael eu cymryd i reoli erydiad a phellter y draethlin yn ôl) mae’n debygol y byddai’r methiant neu’r bylchu cychwynnol yn nhwyni Abererch yn yr ardaloedd gerllaw’r amddiffynfa creigiau presennol i’r twyni. Byddai cyfnod o ail-addasu wedyn wrth i’r traeth ddatblygu wrth y brif fynedfa i’r dyffryn tu ôl i sefydlu system glannau llanw trai a fyddai’n tueddu dal y bae naturiol ymlaen. Fel

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 7

    y cyfryw, ni fyddai bylchu yn y rhan hon o’r bae yn niweidiol iawn i’r amddiffynfeydd naturiol ar hyd rhannau eraill ffurf y lan tuag ymlaen, ond byddai’n golygu colli rhan sylweddol o reilffordd a mwy o berygl llifogydd ar gyfer Abererch.

    Byddai rhywbeth tebyg yn digwydd i Draeth Crugan, lle byddai bylchu yn ffurfio mynedfa naturiol ar gyfer Afon Penrhos. Ar hyd Traeth y De / South Beach, byddai’r draethlin yn treiglo’n ôl gyda lefel y môr yn codi. O dan y senario hon, heb reolaeth, gallai’r twyni ddirywio dros amser. At ei gilydd, mae’r senario hwn ar gyfer yr ardal gyfan yn creu cyfle i ennill gwerth gwarchod natur sylweddol wrth i’r ardal gyfan ddychwelyd i gyfundrefn morfa heli sy’n gweithio fel rhwystr naturiol. Fodd bynnag, byddai colledion sylweddol iawn o ran seilwaith, difrod llifogydd i eiddo, colli’r cwrs golf, colli mordwyo i’r harbwr ac i gyfleusterau’r harbwr.

    Mae amddiffynfa rhan graidd y dref yn dibynnu ar gynnal amddiffynfeydd wrth y Cob a chynnal amddiffynfa rhag llifogydd arfordirol ar hyd Dyffryn Penrhos. Mae perygl llifogydd sylweddol hefyd, tra bod yr amddiffynfeydd hyn yn cael eu cynnal rhag llifogydd afonol. Mae perygl llifogydd yn y tymor hwy i weithrediad yr harbwr ac mae mordwyo i’r harbwr yn dibynnu ar reoli a charthu sianel yr harbwr.

    Ffigur 5: Proses geomorffolegol gysyniadol (detholiad o’r Geomorphological Baseline Report – fersiwn 15 ddrafft, Halcrow 2010)

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 8

    Ffigur 6: Proses geomorffolegol gysyniadol yn Abererch (detholiad o’r Geomorphological Baseline Report – fersiwn 15 ddrafft, Halcrow 2010)

    Os mai’r strategaeth oedd cynnal y rheolaeth bresennol, byddai dal y Linell ar hyd glan Traeth Crugan trwy gadw’r amddiffynfa linellol bresennol yn mynnu codi ac atgyfnerthu’r gwrthglawdd craig yn sylweddol. Bu angen atgyfnerthu ac ymestyn sylweddol ar yr amddiffynfa hon dros y 30 mlynedd diwethaf, a byddai dal angen gwneud hynny yn y dyfodol. Mae’r lan dan bwysau erydu sylweddol, a thros amser, gwelir hyn fel colli gwaddol cyffredinol a lled ar gyfer cadw gwaddod ar hyd y lan.

    Ar hyd Traeth y De caiff pen dwyreiniol y lan hon ei ddal yn naturiol gan bresenoldeb Carreg yr Imbill. Dengys tystiolaeth hanesyddol bod y rhan hon yn gymharol sefydlog.

    Y mannau allweddol sy’n peri pryder o ran rheoli perygl llifogydd yw’r rheilffordd a phentref Abererch. Fodd bynnag, y mater allweddol yw cynaliadwyedd rheoli’r blaen arfordirol. Yn ôl SMP2 byddai arferion rheoli cyfredol yn peri’r angen i ymestyn yr amddiffynfeydd presennol yn ochrol ar hyd y draethlin neu symud i reoli rhan fregus y draethlin fel pentir newydd. Ystyrir bod y ddau opsiwn yn anghynaliadwy yn y tymor hir.

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 9

    3.1.1 Cynigion ar gyfer mesurau tymor byr, tymor canolig a thymor hir

    Ar sail y senarios a ddisgrifiwyd, mae’r strategaeth arfaethedig gan SMP2 wedi’i chrynhoi yn y tabl isod, a gafwyd o Adran 4 y ddogfen, Ardal Arfordirol D PDZ13:

    Uned Bolisi Cynllun Polisi

    2025 2055 2105 Sylw

    Abererch HTL MR MR Yn amodol ar ystyriaeth genedlaethol o’r rheilffordd

    Glan Y Don HTL HTL HTL Caniatáu clustogfa ar gyfer ymddygiad naturiol y twyni

    Mynedfa Harbwr Pwllheli

    HTL HTL HTL

    Canol Pwllheli

    HTL HTL HTL Cynllunio gofodol ar gyfer posibilrwydd addasu hirdymor

    Traeth y De HTL HTL HTL

    Cwrs golff HTL MR MR

    Traeth Crugan

    HTL MR MR

    Tabl 1: Strategaethau tymor byr a thymor hir ar gyfer rheoli llifogydd yn ardal Harbwr Pwllheli, a gynigiwyd yn y SMP2

    HTL – Cadw’r Llinell

    MR – Adlinio Rheoledig

    3.2 Prosiect Peilot Pwllheli

    Cynnig ar gyfer cynllun rheoli llifogydd cynaliadwy i Bwllheli yw Prosiect Peilot Pwllheli, ac mae’n cyfuno gwaith amddiffyn strwythurol gyda mesurau rheoli llifogydd ehangach ac ystyriaethau amgylcheddol a chymdeithasol.

    Traeth Crugan ac Abererch yw’r prif amddiffyniad rhag llifogydd arfordirol ar gyfer ardal Pwllheli. Mae arwyddion o erydu ar hyd y twyni, yn enwedig yn Abererch, lle ceir mesurau amddiffyn fel gwrthgloddiau craig, ffensys twyni a physt llenni plastig. Mae’r pyst llenni plastig a osodwyd yn 2006 yn rhoi llinell amddiffyn osodedig a gynlluniwyd i bara 10 mlynedd. Gwnaed gwaith atgyweirio mawr i’r adeiledd hwn yn 2011 gan fod erydu sylweddol i’r dwyrain yn

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 10

    gynharach yn y flwyddyn. Roedd angen gwneud gwaith argyfwng yn 2014 ar safle carafannau Abererch Sands yn dilyn stormydd a ddigwyddodd yn ystod y gaeaf blaenorol. Ni wnaed unrhyw waith adfer traeth yn Abererch fel rhan o’r gwaith a wnaed yn ddiweddar.

    Mae deunydd carthu o’r harbwr wedi’i ddefnyddio i ailgyflenwi’r traeth ar lan Traeth Crugan hyd at 2013. Mae’r deunydd a osodwyd yn gweithio fel clustogfa rhwng wyneb y twyni ac wyneb erydu’r traeth.

    3.2.1 Perygl llifogydd arfordirol ym Mhwllheli

    Mae’n hysbys bod 90% o’r deunydd siltio yn Harbwr Pwllheli wedi deillio o’r arfordir ac yn cael ei gario gan y drifft arfordirol yn gyfochrog â Thraeth Crugan. Felly, mae adfer traeth gan ddefnyddio deunydd carthu o Bwllheli wedi bod yn cadw’r deunydd hwn yn y system naturiol.

    Er nad yw’r llanw wedi torri i mewn i Bwllheli eto, ac yn ôl y Prosiect Peilot tebygolrwydd bach sydd y bydd hynny’n digwydd, byddai’r canlyniadau i’r dref yn ddifrifol pe bai’n digwydd. Disgwylir y bydd y tebygolrwydd o gael llif llanwol yn cynyddu gydag amser, a chan ystyried fod y perygl yn seiliedig ar debygolrwydd a difrifoldeb y canlyniadau, bydd y risg yn cynyddu hefyd.

    Dynodwyd bod y twyni’n agored i fylchu yn Abererch o fewn y 5 mlynedd nesaf heb unrhyw reoli pellach, ac yn Nhraeth Crugan o fewn y 10-20 mlynedd nesaf (heb unrhyw reoli pellach).

    Felly bydd rheolaeth ddigonol ar y ddwy elfen hyn yn dod yn fwy hanfodol i Bwllheli dros yr amser.

    3.2.2 Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd i Bwllheli

    Argymhellion y Prosiect Peilot yn y tymor byr (rhwng 2005 a 2025) yw parhau â’r rheolaeth gyfredol ar amddiffynfeydd arfordirol ar Draeth Crugan ac Abererch er mwyn cynnal y lefelau amddiffyn cyfredol, a chynnal adeileddau rheoli ac ailgyflenwi ar y traeth yn Abererch.

    Yn y tymor canolig (rhwng 2025 a 2055) byddai adlinio rheoledig yn cael ei argymell ar y Cwrs Golff a Thraeth Crugan ac Abererch, a chodi lefel y mur ar hyd y Cob, Cei’r Gogledd a Morfa Carreg.

    Y dull rheoli yn y tymor hir (rhwng 2055 a 2105) fyddai cadw’r llinell ar gyfer Glan y Don, Harbwr Pwllheli a Mynedfa’r Harbwr, Canol Pwllheli a Thraeth y De, ac adlinio rheoledig ar y ddwy lan dywod, gan adael i’r broses arfordirol ddatblygu mewn ffordd reoledig.

    3.2.3 Cydlynu â Chynllun Gwaith Carthu Cynnal a Chadw Pwllheli

    Mae’n bwysig amlygu dylanwad yr SMP2 a’r argymhellion o’r Prosiect Peilot yn y strategaeth hon ar gyfer Gwaith Carthu Cynnal a Chadw. Efallai y bydd y deunyddiau sy’n cael eu carthu o’r fynedfa a’r sianel yn addas ar gyfer adfer y traeth yn Nhraeth Crugan ac Abererch, yn nhymor byr/canolig a thymor hir y strategaeth hon, gan mai’r ffrâm amser a fwriadwyd yw 10 mlynedd. Mae hyn yn galluogi cydlynu digonol gyda’r strategaeth ranbarthol.

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 11

    Gan fynd ymhellach na hynny, byddai angen opsiwn gwaredu cynaliadwy gwahanol, gan mai tuedd y twyni yw cilio a phe bai hyn yn digwydd mewn ffordd reoledig, ni fyddai angen unrhyw ddeunydd ychwanegol yn yr ardal hon.

    4 Effaith Newid yn yr Hinsawdd

    Dros y 100-200 mlynedd diwethaf, yn sgil gweithgareddau dyn yn ôl pob tebyg, mae’r tymheredd byd-eang wedi codi, a chysylltir hynny’n gyffredin â lefelau uwch o garbon deuocsid yn atmosffer y ddaear.

    Y prif effeithiau uniongyrchol yn sgil y newid yn yr hinsawdd ar ardaloedd arfordirol yw cynnydd yn lefel y môr, mwy o halwynedd a newidiadau mewn stormusrwydd. Wrth i dymereddau gynyddu’n fyd-eang, mae lefelau’r môr wedi codi hefyd.

    Os nad yw’r dyluniad yn ystyried y cynnydd yn lefel y môr gall gael effaith ar yr asedau a’r gweithgareddau yn y marina, yn enwedig llifogydd a thonnau’n gorlifo.

    Mae adroddiadau gwyddonol diweddar yn amcangyfrif y bydd lefel y môr yn fyd-eang yn codi rhwng 1 a 2m erbyn 2100. Ond mae’n bwysig nodi nad yw’r cynnydd yn lefel y môr yn gyson ledled y byd, ac nad yw amcangyfrifon lefel uchel yn ddefnyddiol ar gyfer dylunio seilweithiau.

    Mae 4ydd Adroddiad Asesu 2007 y Panel Rynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) ar newid yn yr hinsawdd yn gymeradwy yn gyffredinol, ac eithrio ei ragfynegiadau ar y cynnydd yn lefel y môr. Yn cael ei ystyried yn rhy isel yn gyffredinol, ystyriwyd bod y gwerthoedd a roddwyd (18cm i 59cm erbyn 2100 + 20cm ar gyfer ffactorau eraill fel rhew yn llithro) wedi dyddio bron ar unwaith o’r eiliad y cyhoeddwyd yr adroddiad. Yn wir, mae dau adroddiad diweddar (2009) wedi ceisio diweddaru’r wyddoniaeth yn adroddiad yr IPCC. Fodd bynnag, mae llawer o wledydd yn dal i ddefnyddio’r gwerthoedd hyn fel sail eu hargymhellion cenedlaethol gan y cytunwyd ar lawer o’r ymchwil a gynhwyswyd.

    Ond nid yw’r amcangyfrifon lefel uchel hyn yn arbennig o fuddiol ar gyfer dyluniadau gan fod ehangder eu hamrediadau yn dangos yr ansicrwydd presennol ynghylch beth allai ddigwydd yn y 100 mlynedd nesaf. Yr hyn sy’n amlwg yw bod y gwerthoedd yn tueddu mynd yn fwy gydag amser. Mae cymhariaeth rhwng mesuriadau lefel y môr dros y 10 mlynedd diwethaf a’r rhai a ragfynegwyd gan fodelau cynharach yn dangos fod cyfradd bresennol y newid yn lefel y môr ar derfyn uchaf yr hyn a ragfynegwyd. Er ei bod yn bosibl y bydd y gyfradd honno yn cydgyfeirio â’r gwerthoedd a ragfynegwyd, byddai’r gwerthoedd hyn yn awgrymu bod gwerthoedd y terfyn uchaf yn eithaf tebygol, tra’u bod yn annhebygol y bydd amcangyfrifon terfyn isaf yn gywir.

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 12

    Ffigur 7: Mae arsylwadau diweddar yn dangos bod lefelau’r môr a welwyd o fesurau llanw (glas) a lloerenni (coch) yn rhedeg gerllaw terfyn uchaf (llinell ddu) amcanestyniadau 2001 yr IPCC (arlliwio llwyd a llinellau du) ers dechrau’r amcanestyniadau ym 1990 (Rahmstorf et al. 2007)

    Mae’r gromlin goch yn dangos lefel flynyddol y môr er 1970 yn seiliedig ar fesurau’r llanw (mae’r llinell goch drwchus yn duedd aflinol). Mae’r gromlin las yn dangos lefel y môr o loeren o 1993 hyd at ddiwedd 2008; y llinell las drwchus yw’r duedd linol (3.2 mm/y flwyddyn) dros y cyfnod hwn. Er mwyn cymharu, mae amcanestyniadau adroddiad 2001 yr IPCC yn cael eu dangos (llinellau toredig ac amrediad ansicrwydd mewn llwyd).

    Mae’r rhan fwyaf o wledydd yn darparu arweiniad ar beth ddylid ei gynnwys mewn dyluniad er mwyn caniatáu ar gyfer cynnydd yn lefel y môr. Ar gyfer y DU, mae UKCIP (UK Climate Projections, 2009) yn rhoi amcanestyniadau o hinsawdd y dyfodol ar sail modelau byd-eang a rhanbarthol. Mae amrediad y scenario H++ ‘annhebygol iawn’ yn rhoi cynnydd o 93cm i ryw 190cm o gymharu â lefelau môr cymedrig ym 1990 erbyn diwedd yr 21ain ganrif.

    Yng Nghymru, mae Nodyn Cyngor Technegol (TAN)15, 2004 (diweddarwyd DAPau yn 2015), yn argymell ystyried lwfans o 5mm y flwyddyn dros fywyd unrhyw gynllun amddiffyn arfordirol, gan ystyried amcanestyniadau sy’n amcangyfrif y bydd cynnydd, o amgylch arfordir Cymru, yn yr amrediad 25 i 30 cm erbyn 2050, ychydig yn fwy yn y de nag yn y gogledd.

    Mae dogfen Strategaeth Beilot Pwllheli wedi defnyddio data hinsawdd Defra 2006 ar gyfer y modelau hydrolig, a gynhwysir yn y tabl canlynol:

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 13

    Cynnydd Net yn Lefel y Môr (mm/y flwyddyn) o gymharu â 1990

    1990 - 2025 2025 - 2055 2055 - 2085 2085 - 2115

    3.5 8.0 11.5 14.5

    Tabl 2: Cynnydd net yn lefel y môr a amcangyfrifwyd gan Defra (2006)

    Am y cyfnod sy’n cael ei ystyried yn y prosiect hwn (2015 -2025), gallai’r amcan gynnydd yn lefel y môr (rhwng 120mm a 175 mm) gael rhywfaint o effaith ar waith carthu cynnal a chadw yn Harbwr Pwllheli.

    Er y gallai’r cynnydd yn lefel gyfartalog y môr ddynodi y gall fod angen llai o waith carthu cynnal a chadw, mae astudiaethau eraill wedi cadarnhau hefyd y bydd Newid yn yr Hinsawdd yn cael effaith ar amlder ac arddwysedd stormydd ac uchderau tonnau (mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) yn awgrymu asesiad yn seiliedig ar gynnydd mewn uchderau tonnau a chyflymder y gwynt o +5 i -10%). Disgwylir i’r rhain gynyddu dros y cyfnod.

    Yn achos penodol gwaith carthu cynnal a chadw yn Harbwr Pwllheli, bydd hyn yn debygol o achosi cynnydd yn y deunydd sy’n cael ei gludo gan donnau yn gorlifo’r grwyn a chan y drifft arfordirol. Mae’r effaith hon yn sgil y newid yn yr hinsawdd yn anodd ei meintioli ar hyn o bryd, a chan ystyried y bydd yn cyferbynnu â’r cynnydd yn lefel y môr, nid yw’r gostyngiad sy’n gysylltiedig â’r un diwethaf wedi’i gynnwys yn y cyfrifiadau.

    5 Methodoleg ar gyfer datblygu’r strategaeth

    Mae’r ymagwedd at y comisiwn hwn yn un amlddisgyblaethol, yn cynnwys prosesau arfordirol, cyfyngiadau amgylcheddol, materion cymdeithasol a ffactorau economaidd. Prif amcanion y strategaeth hon yw:

    - Addasu’r cynllun carthu er mwyn optimeiddio costau ac ar yr un pryd darparu gwasanaeth digonol i ddefnyddwyr y marina.

    - Opsiynau cynaliadwy ar gyfer gwaredu deunyddiau carthu

    - Amlinellu dyluniad mesurau posibl er mwyn lleihau cyfraddau croniant yn yr harbwr.

    - Argymhellion ar gyfer systemau carthu.

    - Adolygu’r trwyddedau / cydsyniadau sydd eu hangen ar gyfer y mesurau arfaethedig.

    - Adolygu’r trefniadau carthu presennol ar sail y newidiadau a gyflwynwyd gan ddatblygu a gweithredu’n barhaus Academi Hwylio Genedlaethol Cymru a Chanolfan Digwyddiadau ym Mhwllheli, gweithredu gwaith carthu 2013/14, gan gynnwys adfer tir a thirweddu yn ardal yr harbwr, a Chynllun Rheoli Traethlin Gorllewin Cymru 2 (SMP2).

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 14

    5.1 Adolygiad o’r wybodaeth bresennol

    Fe wnaeth y tîm seilio’r cynigion a gynhwyswyd yn y strategaeth hon ar y wybodaeth a gawsant am sefyllfa bresennol Harbwr Pwllheli a’r prif faterion yn ymwneud â gwaith carthu cynnal a chadw o’r ymweliadau safle, a’r wybodaeth ganlynol a ddarparwyd:

    - Strategaeth carthu cynnal a chadw 2009 a hanes o weithgareddau carthu yn yr harbwr

    - Strategaeth Beilot Pwllheli ar Addasu i’r Newid yn yr Hinsawdd (2011), gan gynnwys yr adroddiad sylfaen geomorffolegol sy’n diweddaru’r wybodaeth am hydrodynameg yr ardal hon o’r arfordir.

    - Yr adroddiad Gwaddodi Ffeithiol a gynhyrchwyd gan Civil Engineering Solutions (2014).

    - Trefniant cyffredinol a Datganiad Amgylcheddol Academi Hwylio Genedlaethol Cymru a phrosiect y Ganolfan Digwyddiadau (2013).

    - Traeth Crugan - Astudiaeth Opsiynau Amddiffyn Arfordir Pwllheli (2008).

    - Arolygon hydrograffig a gynhaliwyd o 1997 i’r un ddiweddaraf, a gynhaliwyd ym mis Medi 2014 ar ôl yr ymgyrch carthu mwyaf diweddar.

    - Costau gwaredu carthu presennol.

    - Lluniadau geometreg o’r morlyn distyllu.

    - Rhestr o gychod sydd wedi’u hangori yn yr harbwr.

    - Deddf Harbwr Pwllheli 1983

    5.2 Datblygu atebion

    Cafwyd y dyluniad o gynllun carthu wedi’i ddiweddaru ar gyfer y marina trwy gymharu’r costau sy’n gysylltiedig â dyfnderau a lledau gwahanol, a chan ystyried yr effaith ar y mynediad i’r harbwr ar gyfer cychod o feintiau gwahanol.

    Ailystyriwyd y cyfraddau croniant blynyddol drwy gymharu’r arolygon hydrograffig o’r blynyddoedd gwahanol, ynghyd â’r cyfeintiau a garthwyd bob blwyddyn ac ym mhob ymgyrch, gan gael gwerthoedd wedi’u diweddaru sydd wedi’u defnyddio yng ngweddill y strategaeth.

    Yn seiliedig ar y wybodaeth a gafwyd o adroddiadau blaenorol, a ddarparwyd gan dîm rheoli’r harbwr, a’r adborth a gafwyd gan y rhanddeiliaid lleol, mae mesurau gwahanol ar gyfer gwaredu deunydd carthu, systemau ac amseriadau carthu, a mesurau i leihau croniant wedi’u dadansoddi a’u cynnig ar gyfer:

    - Y tymor byr: i’w weithredu mewn 3 blynedd neu lai.

    - Tymor canolig/hir: i’w weithredu mewn llai na 10 mlynedd.

    Mae’r dosbarthiad hwn yn seiliedig ar yr amserau a’r costau cynllunio disgwyliedig sy’n ofynnol i roi pob un o’r cynigion ar waith.

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 15

    Mae’r cysylltiad gyda Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn allweddol i bennu hyfywedd pob un o’r cynigion gan ystyried yr effeithiau posibl ar yr Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) a’r Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) sy’n amgylchynu’r harbwr, a’r astudiaethau ychwanegol sydd eu hangen i gyfiawnhau digonolrwydd y mesurau.

    5.3 Rheoli rhanddeiliaid

    5.3.1 Gweithdy â ffocws technegol

    Cynhaliwyd gweithdy â ffocws technegol ar 11 Gorffennaf 2014 ar safle’r Marina gyda rhanddeiliaid lleol ac aelodau o Bwyllgor yr Harbwr.

    Cafodd aelodau o Bwyllgor yr Harbwr, Berth Holders Association, bwrdd Plas Heli, Clwb Hwylio Pwllheli, tîm rheoli Hafan Pwllheli, a’r Gymdeithas Masnachwyr Morol eu gwahodd i’r gweithdy hwn; nid bod yn ymgynghoriad cyhoeddus oedd ei nod, ond yn hytrach esbonio amcanion y prosiect a’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yma, a chasglu adborth gwerthfawr gan randdeiliaid sydd â chysylltiad agos â gweithgareddau’r marina.

    Rhoddwyd cyflwyniadau ar y prif faterion i fynd i’r afael â nhw gan y strategaeth, yn ogystal â’r wybodaeth sydd ar gael am y prosiect a chynnydd y prosiect i’r rhai a fynychodd y sesiynau a oedd yn canolbwyntio ar destunau penodol.

    Mae copïau o’r cyflwyniadau wedi’u cynnwys yn Appendix A.

    Ffigur 8: Llun a dynnwyd yn ystod un o’r sesiynau gweithdy

    Mae’r prif gasgliadau o’r sesiynau gweithdy wedi’u crynhoi isod:

    Sesiwn 1: Cyflwyniad a’r problemau cyffredinol a wynebwyd

    Y diffyg cynllunio ymddangosiadol mewn ymgyrchoedd carthu blaenorol, lle dechreuwyd y gwaith carthu pan oedd lefelau gwely’r môr eisoes yn uwch na’r dyluniad. Mae angen sefydlu cyrhaeddnod i rybuddio am yr angenrheidrwydd am waith carthu.

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 16

    Dylid cydlynu amseriadau’r ymgyrchoedd gyda gweithgareddau’r marina (masnachol, hamdden, iardiau cychod, cynnal a chadw a chystadlaethau).

    Ar ddechrau gweithgareddau’r marina roedd yr harbwr wedi’i (gôr) garthu a chaniatawyd mynediad o’r môr am 24 awr, ond ar hyn o bryd ni all hynny ddigwydd ym mhob cyflwr llanw.

    Dywedodd fwyafrif o’r rhai a fynychodd y byddai’n ddymunol mynd yn ôl i’r sefyllfa wreiddiol. Felly, er enghraifft, gall ymwelwyr gael mynediad heb orfod cynllunio ymlaen llaw pa bryd fyddant yn gallu mynd i mewn i’r harbwr (fel ar hyn o bryd). Bydd hyn yn ffafriol hefyd i fuddsoddiadau lleol mewn Busnes yn yr Harbwr a’r Dref.

    Dywedodd y rhai a oedd yn bresennol hefyd fod yr offer yn fwy ac yn fwy effeithlon pan gafodd yr harbwr ei greu gyntaf (ar y cychwyn), ac roedd yn cael ei ddefnyddio’n fwy rheolaidd. Ar hyn o bryd nid yw’r ymgyrch carthu yn cael ei gynllunio’n flynyddol ac nid yw gwaith carthu’n cael ei wneud yn rheolaidd.

    Agwedd arall i’w gwella, yn ôl rhai o ddefnyddwyr y marina, fyddai dweud wrth y defnyddwyr am yr ymgyrchoedd carthu, a pha bryd a ble fyddai’r gwaith yn cael ei wneud.

    Disgwyliadau’r mwyafrif o’r mynychwyr yn y gweithdy ar gyfer y strategaeth newydd oedd ei bod yn hawdd ei deall i bawb, fel pob pawb yn gwybod beth yw’r disgwyliadau. Mae angen iddo fod yn ateb rhagweladwy a hwylus.

    Y gwelliant a ffefrir fyddai cynyddu’r amser mynediad sydd ar gael, hyd at 24/7 os yw’n ymarferol.

    Dylid cyhoeddi gwaith carthu yn gynnar (Chwefror / Mawrth) fel bod angorfeydd yn cael eu llenwi.

    Mynegodd y mynychwyr eu pryder hefyd ynglŷn â’r sylw gwael y mae’r marina wedi’i gael yn y wasg yn ddiweddar.

    Sesiwn 2: Opsiynau dyfnder carthu a’r gost gysylltiedig

    Ar ôl cyflwyno’r pedwar dewis arall a ddadansoddwyd, cynhaliwyd trafodaeth ar yr hyn yr oedd y rhanddeiliaid yn ei ffafrio, ar sail eu gwybodaeth am yr harbwr.

    O ran lefelau’r dyluniad, bwriadwyd eu perthnasu â defnydd yn y dyfodol neu ddefnydd posibl (maint cwch) yn hytrach na’r cwch modern presennol sydd â dyfnder o 2.5m.

    Ffafriwyd mynediad lletach, 30 metr yn lle 25 metr, i alluogi mynediad gwell i’r harbwr. A dylai’r ffocws fod ar ardaloedd anheddu allweddol – corneli ‘mewnol’ y sianel.

    Awgrymwyd opsiwn amgen, cynnal a chadw’n flynyddol, i gyflawni:

    - Ceg/Mynedfa – 30m o led.

    - Sianel – 4m Dyfnder Datwm Ordnans (gan ystyried Adeiladu i Fyny yn flynyddol 0.5m)

    - Basn – 5.5m Dyfnder Datwm Ordnans

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 17

    Dylai cost carthu gael ei dadansoddi yn erbyn incwm a gynhyrchir. Mae’n rhaid ystyried bod angorfeydd gwag ar hyn o bryd (oddeutu 110).

    Dylai’r lefelau a ystyriwyd yn y dyluniad fod yn seiliedig ar Lefel Gorllanw Isel. Mae angen i werthoedd yn yr adroddiad fod mewn data siart yn hytrach nag arolwg ordnans fel bod defnyddwyr yr harbwr yn gallu deall.

    Yn ystod y drafodaeth ynglŷn â mordwyedd a mynediad i’r harbwr, codwyd y pwynt y bydd angen i’r marciau mordwyo gael eu hadleoli ac y dylai’r fynedfa fordwyo gael ei newid gan fod problem gerllaw’r pentwr tywod.

    Sesiwn 3: Dull ac amseru gwaith carthu

    Deallwyd yn ystod y sesiwn hon mai Hydref i Fawrth yw’r amser gorau i wneud gwaith carthu, a’r dilyniant delfrydol yw:

    - Hydref – Rhagfyr Basn

    - Ionawr – Mawrth Sianel Ddynesu

    - Mawrth - Mynedfa

    Y tymhorau pan na fydd yn bosibl yw’r gwanwyn a mis Medi (pysgod yn symud i fyny ac i lawr yr afon).

    O ymgynghoriad blaenorol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, mae’n hysbys nad oes unrhyw amser delfrydol i garthu’r harbwr oherwydd y gorgyffwrdd rhwng tymhorau mudo ar gyfer rhywogaethau gwahanol.

    Deellir bod y cynnwrf yn dawelwch yn yr haf. Y dull carthu sy’n pennu’r amseru. Byddai chwistrellu dŵr yn un dull o lanhau’r sianel a’r fynedfa, gyda pheipiau i gefnogi hyn yn yr harbwr ei hun.

    Y dulliau carthu a ffefrir fyddai:

    - Torri a sugno ar gyfer Basn y Marina

    - Chwistrelliad posibl ar gyfer sianel a’r fynedfa. Mae chwistrellu wedi bod yn effeithiol iawn yn y gorffennol ar gyfer yr ardal o amgylch y lifft teithio, ond mae iddo ystyriaethau amgylcheddol y mae angen eu dadansoddi ymhellach.

    - Lefelu’r gwely sydd wedi bod yn digwydd drwy droi’r gwely yn ardal y sianel.

    Y prif rwystr ar y gyfundrefn garthu yw’r dull gwaredu. Mae dull chwistrellu yn well i’r tywod (bydd chwistrellu’r silt yn baeddu’r dŵr). Roedd ffrydio (jetting) i fyny’r sianel yn opsiwn i’w ystyried a’i drafod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.

    Y strategaeth a ffefrir yw ceisio lleihau faint o ddeunydd sy’n cael ei ddyddodi yn yr harbwr yn dilyn gwaith cynnal a chadw rheolaidd. Pe gellid lleihau’r gyfradd croniant o hanner, byddai’n hawdd cadw’r dyfnderau arfaethedig. Amcangyfrifir gan y tîm rheoli fod 7,000m

    3 o silt yn cael ei gludo i mewn i’r harbwr bob

    blwyddyn.

    Un syniad pwysig a ddatblygwyd yn ystod y gweithdy oedd diddordeb y cyhoedd i’r ymgyrch carthu hwn fynd yn ei flaen (budd economaidd i drigolion Pwllheli) a sut i gael cydbwysedd gyda’r materion amgylcheddol.

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 18

    Awgrymwyd ymgorffori hyn yn y strategaeth Llifogydd ac amddiffyn arfordirol ar gyfer Pwllheli er mwyn cael cyllid ar gyfer gwaredu’r gwaddod i gynnal yr amddiffynfa llifogydd (rhyddhau gwaddod yn ôl i’r system).

    Sesiwn 4: Opsiynau gwaredu deunydd carthu

    Mae dau ddeunydd ar wahân i’w hystyried ar gyfer eu gwaredu. Silt a thywod/graean.

    Cytunwyd y dylid ymchwilio ymhellach i ailddefnyddio’r deunydd.

    Roedd cynigion i gadw gwaredu deunyddiau o fewn yr harbwr. Er enghraifft, lledaenu’r silt sy’n cael ei dynnu trwy garthu, ar flaen y wal hyfforddi i academi. Llenwi’r ardal honno gyda silt (cefn yr ystâd ddiwydiannol).

    Cytunwyd gan y mwyafrif fod angen edrych ar achos y broblem ac nid y symptomau.

    Codwyd cwestiwn ynghylch perchenogaeth y deunydd yn cael ei garthu gan Ystâd y Goron, pe bai ailddefnyddio’r deunydd yn cael ei gynnig.

    Dyma’r cynigion a wnaed yn ystod y drafodaeth gyntaf hon: amaethyddiaeth, gwaredu yn y môr, defnyddio fel deunydd adeiladu, mewn rhwystr. Dylid osgoi ymdrin â deunydd ddwywaith, a gwelir cadw’r deunydd yn yr un system hydrograffig (e.e. adfer traethau) fel opsiwn cadarnhaol.

    Sesiwn 5: Lleihau croniant yn yr harbwr. Opsiynau peirianneg rhagarweiniol

    Cytunwyd bod angen ystyried y strategaeth hon o fewn darlun ehangach ar gyfer rheolaeth Amddiffyn Arfordirol dan arweiniad Cyngor Gwynedd, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru.

    Mae Trapiau Tywod/Trapiau Silt Afonydd yn syniad da, yn cael eu gwagio gan beiriant tyrchu ar y tir. Hefyd, pwmpio tywod ar gyfer adfer traethau (Mae’n dileu ymdrin â deunydd ddwywaith/goblygiadau cost/gwastraff).

    Pan adeiladwyd yr harbwr yn wreiddiol roedd yno swmp a gymerai’r silt a oedd yn teithio i lawr o’r afon, a gwnaed awgrym i adfer yr elfen honno. Awgrymwyd hefyd pwmpio tywod ar gyfer adfer traethau (Mae’n dileu ymdrin â deunydd ddwywaith/goblygiadau cost/gwastraff).

    Cytunwyd bod angen modelu yn y pen draw: Dylai’r Model ar gyfer gwahanol siapiau/gogwyddau i’r grwyn edrych ar yr effaith ar y safle carafannau (amddiffyn arfordirol).

    Roedd cynigion eraill a ystyriwyd yn cynnwys cynyddu brig y mur hyfforddi a’r grwyn, ac adeiladu adeileddau tanddwr yn y môr. Fel cam cyntaf dylid atgyweirio’r grwyn presennol i’w uchder gwreiddiol i weld a gaiff effaith well (fel y gwnaeth yn y gorffennol). Mae gofyn am uchder a fydd yn atal gorlifo drosto.

    Bydd camau pellach i ffurfwedd y grwyn yn mynnu modelu er mwyn gwirio’r effaith ar yr arfordir.

    Sesiwn 6: Cydsyniadau

    Cytunwyd y byddai angen trafod yn gynnar gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, hefyd, cyfleu dadl economaidd gadarn ar y buddion a ddaw i’r dref yn sgil gweithgareddau’r marina.

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 19

    Y cam cyntaf yw datblygu atebion cynaliadwy a thechnegol gadarn i’w cynnwys yn adroddiad y strategaeth, ac mae angen llunio’r achos busnes. Yna rhaid cynnal trafodaethau gyda phartneriaid allanol, fel Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae angen datblygu’r ateb terfynol ar sail cydweithredu.

    5.3.2 Cysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru

    Fel rhan o waith datblygu’r strategaeth, cynhaliwyd cyfarfod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar 14 Hydref yn swyddfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru ym Mangor. Dangosir y testunau a drafodwyd isod:

    Gwaredu deunyddiau yn y tymor byr.

    Gellid gwaredu rhan o’r deunydd wedi’i garthu y tu ôl i’r bwnd, yn yr un ffordd â deunydd wedi’i garthu o garthu cyfalaf Academi Hwylio Genedlaethol Cymru.

    Roedd gwaredu deunydd o waith carthu Academi Hwylio Genedlaethol Cymru (WNSAES) y tu ôl i’r bwnd, ac fel rhan o’r trwyddedu, yn fudd o ran bioamrywiaeth yr oedd angen ei sefydlu mewn ymateb i golli fflat llaid o dan yr ardal wedi’i byndio. Felly, un o amodau’r caniatâd cynllunio yw i’r deunydd sefydlog wedi’i garthu ddod yn ardal bywyd gwyllt. Gall fod angen trwydded gwaredu gwastraff ar gyfer gwaredu deunyddiau ychwanegol i ôl-lenwi’r ardal yn llwyr. Os yw’r gwaith carthu cynnal a chadw yn angenrheidiol i ddarparu gwasanaeth digonol i’r WNSAEC, gellid dal i ddefnyddio’r drwydded gyfredol a gafwyd ar gyfer y prosiect hwn.

    Adfer traethau.

    Mae nodweddion gofynnol y tywod yn dibynnu ar y traeth y bydd yn mynd iddo yn y pen draw. Gwrthodwyd deunyddiau o’r sianel ddynesu yn flaenorol i’w ddefnyddio ar draeth Abererch (roedd ei gynnwys mewn silt 17% yn uwch na hynny a ganiateir, sef 15%). Rhag ofn y bwriedir i unrhyw ddeunydd o waith carthu’r harbwr gael ei roi ar Draeth Crugan (lle mae’r tywod o fynedfa’r harbwr wedi cael ei ddefnyddio’n hanesyddol) neu draeth Abererch, bydd angen cynnal dadansoddiad penodol.

    Cadarnhawyd mai cyfrifoldeb Cyngor Gwynedd yw rheoli llifogydd ar Draeth Crugan, lle mae cyfrifoldeb amddiffyn arfordirol ar draeth Abererch yn cyfateb i Cyfoeth Naturiol Cymru.

    Mae’r ddwy lan wedi dioddef erydu dros y blynyddoedd diwethaf: cafodd yr ardal i’r Gorllewin o harbwr Pwllheli ei hadfer gyda deunyddiau wedi’u carthu gan Gyngor Gwynedd trwy fenthyciad gan Lywodraeth Cymru. Mae ardal ddwyreiniol y porthladd wedi bod yn destun mesurau amrywiol i leihau erydu, fel ffensys igam-ogam neu glawdd cobls. Yn 2000, derbyniodd yr ardal hon oddeutu 4,000m

    3 o dywod o’r pentwr stoc.

    Mae’r ardal a ystyrir o dan y Ddeddf Harbyrau yn cwmpasu rhan fawr o Draeth Grugan a phen gorllewinol traeth Abererch. Ni fydd gwaredu ar y traeth o fewn yr ardal a gwmpesir gan y Ddeddf Harbyrau yn mynnu trwydded forol yn y lle cyntaf, ond bu rhaid cadarnhau hyn gyda’r tîm Trwyddedau Morol yng Nghaerdydd. Cytunodd Arup i anfon llythyr at y tîm Trwyddedau Morol gyda’r ddeddfwriaeth berthnasol a’n hymagwedd at gynigion y strategaeth.

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 20

    Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn gyda’r tîm Trwyddedau Morol ym mis Tachwedd 2014, a chafwyd cadarnhad na fydd angen Trwydded Forol ar gyfer y cyfryw weithgareddau o fewn Ardal y Ddeddf Harbyrau.

    Mae graddfa ardal Deddf Harbwr Pwllheli wedi’i chynnwys er gwybodaeth yn Appendix E.

    Mae rhywfaint o waith atgyweirio yn cael ei wneud ar hyn o bryd ar draeth Abererch lle gall fod angen deunydd tywodlyd ychwanegol. Cytunodd Arup i gysylltu â Dafydd Roberts (Cyfoeth Naturiol Cymru) i ymholi ynghylch y posibilrwydd i waredu o leiaf rhan o’r deunydd yn y pentwr stoc ar draeth Abererch lle mae’r atgyweiriadau’n cael eu gwneud.

    Yn y tymor hir / tymor canolig, bydd gwaith carthu yn cael ei wneud yn flynyddol, felly, yn ddelfrydol, dylid gwneud gwaith adfer traethau yn yr un modd. Mae’r drwydded forol yn ddilys am 3 blynedd.

    Mae angen cadarnhau hyn trwy fonitro Traeth Crugan ac Abererch er mwyn osgoi gorlwytho’r system.

    Addasiadau i’r grwyn / uchder y mur hyfforddi.

    Ni fydd addasiad i lefel yr elfennau hyn yn mynnu trwydded forol yn y lle cyntaf (lleoliad o fewn ardal y Ddeddf Harbyrau). Mae’n rhaid i’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a gynhwyswyd yn y strategaeth bennu lefel effaith ddisgwyliedig y camau hyn ar yr ACA. I ba raddau allwn ni asesu hyn heb fodelu?

    Gwaredu deunyddiau: Creu cynefinoedd

    Yn ystod y cyfarfod, soniwyd y gallai rhai o’r strategaethau amddiffyn rhag llifogydd (y soniwyd amdanynt yn Strategaeth Beilot Pwllheli ar Addasu i’r Newid yn yr Hinsawdd) ar gyfer Afon Erch ac Afon Ddu fynnu creu ardaloedd cynefinoedd newydd.

    Cyfyngiadau i Chwistrellu Dŵr fel dull carthu

    Prif bryder Cyfoeth Naturiol Cymru yw diffyg dealltwriaeth dda o’r effaith ar yr ACA.

    Un darn pwysig iawn o wybodaeth yw’r cyfeintiau blynyddol disgwyliedig o ddeunydd i’w garthu o’r harbwr. Roedd Arup i allosod y gwerthoedd hanesyddol er mwyn cael cyfaint disgwyliedig blynyddol cyfartalog.

    Mae’r diffyg gwybodaeth sylfaenol yn yr ardal i werthuso effaith y gronynnau mewn daliant yn broblem ychwanegol. Gall y cymylogrwydd a achosir gan y dull carthu drwy chwistrellu dŵr (WID) fod yn debyg i hynny a achosir gan storm, ond ni ellir profi hynny ar hyn o bryd. Dywedwyd y byddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn mynnu bod Cyngor Gwynedd yn monitro lefelau cymylogrwydd yn y bae.

    Oherwydd yr ansicrwydd ynglŷn ag effaith y dull carthu drwy chwistrellu dŵr pe bai’n cael ei ddefnyddio yn y sianel, ystyrir ei bod yn fwy addas i barhau â gwaith lefelu’r gwely yn Sianel Ddynesu’r Marinau trwy droi’r gwely, dull sydd wedi’i ddefnyddio’n llwyddiannus hyd yma i wastatau ardaloedd uchel yn yr ardal.

    Gwaredu yn y môr

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 21

    Mae’r cais am leoliad newydd, y tu allan i’r ACA, ond yn agosach at Harbwr Pwllheli na’r ardal waredu yng Nghaergybi, yn ymarferol. Mae’n rhaid i Gyngor Gwynedd ystyried, os ydynt yn penderfynu bwrw ymlaen â hyn, y bydd awdurdodau porthladd eraill yn yr ardal yn cael defnyddio’r lleoliad gwaredu. Nid oes unrhyw gyfleusterau porthladd sy’n cynnal gweithgareddau carthu yn rheolaidd yn yr ardal.

    Roedd Arup i ofyn am wybodaeth ychwanegol am y broses gyflawn i dîm Trwyddedau Morol Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghaerdydd.

    Addasiadau i’r grwyn / cynllun y mur hyfforddi

    Ni fydd addasiad i’r elfennau hyn yn mynnu trwydded forol yn y lle cyntaf (lleoliad o fewn ardal y Ddeddf Harbyrau). Mae’n rhaid i’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a gynhwyswyd yn y strategaeth bennu lefel effaith ddisgwyliedig y camau hyn ar yr ACA. Ni fydd unrhyw fodelu’n cael ei wneud ar gyfer y strategaeth, ond gofynnir am hyn fel rhan o waith datblygu’r cynnig hwn.

    Camau nesaf a chydlynu gyda thîm Cyfoeth Naturiol Cymru

    Mae angen datblygu’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ochr yn ochr â’r strategaeth. Mae angen gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru am wybodaeth fanylach am y SAC. Pan fydd y strategaeth ddrafft wedi’i llunio, anfonir copi at Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnig sylwadau arni.

    6 Lefelau a lledau carthu’r dyluniad newydd arfaethedig

    6.1 Cymharu cyfeintiau carthu ar gyfer dyfnderau gwahanol

    Y prif bryder a fynegwyd gan y rhanddeiliaid yn ystod y gweithdy oedd y gostyngiad mewn amserau mynediad dros y blynyddoedd, yn sgil siltio yn cronni ar wely’r môr, o gymharu â’r dyfnderau cychwynnol ar ôl adeiladu’r marina.

    Mae dimensiynau’r sianel a’r dyfnderau a gyflawnwyd ar ôl y carthu cyfalaf cyntaf yn cyfateb i’r gor-garthu sydd ei angen am resymau ymarferol ac nid y dyluniad gwreiddiol.

    Mae’n rhaid i’r dyluniad arfaethedig (ar gyfer y fynedfa a’r sianel fynediad yn bennaf) fod yn gytbwys, gan roi mynediad digonol i ddefnyddwyr i’r marina, gyda chyfaint carthu derbyniol a chost ddilynol dderbyniol.

    Cymharwyd tri opsiwn ar sail materion gweithredol a chyfeintiau carthu.

    6.1.1 Ffactorau gweithredol: dyfnder y sianel

    Rhoddodd y rhestr o gychod sydd wedi’u hangori ym Mhwllheli wybodaeth am ddosbarthiad y drafftiau sydd eu hangen:

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 22

    Drafft cyfartalog y cychod ym Mhwllheli yw 1.5m, gyda 93% ohonynt yn llai na 2m neu’n gyfwerth â 2m. Mae gan 60% o’r cychod sydd wedi’u rhestru yn y marina ddrafft llai na 1.5m neu’n gyfwerth â 1.5m.

    Ffigur 9: Cyfyngiadau’r llanw ar gyfer Sianel Ddynesu’r Marina gyda dyfnder dyluniad o -3.0m OD (-0.56m CD).

    Dyma gasgliadau’r dadansoddiad o’r amrediad llanw yn Harbwr Pwllheli ar gyfer -3.0m OD (-0.56m CD) a -3.5m (-1.06m CD):

    - Ar gyfer dyfnder dyluniad o -3.0m OD (-0.56m CD) yn y Sianel Fynediad gallai’r cwch cymedrig (drafft ≤1.5m) gael mynediad i’r marina ryw 80% o’r amser. Gallai’r cychod â drafft ≤ 2.0m gael mynediad i’r harbwr dros 70% o’r amser.

    - Ar gyfer dyfnder dyluniad o -3.5m OD (-1.06m CD) yn y Sianel Fynediad gallai’r cwch cymedrig (drafft ≤1.5m) gael mynediad i’r marina ryw 90% o’r amser. Gallai’r cychod â drafft ≤ 2.0m gael mynediad i’r harbwr dros 80% o’r amser.

    Ffigur 10: Cyfyngiadau mynediad ar gyfer gorllanw uchel gyda dyfnder dyluniad o -3.0m OD (-0.56m CD)

    6.1.2 Ffactorau gweithredol: lled y sianel

    Roedd lled y sianel yn rhyw 80m ar ôl y carthu cyfalaf cyntaf ym 1991, oherwydd maint y cyfarpar a ddefnyddiwyd.

    Cwch y dyluniad fydd yr un â’r ail ddrafft mwyaf: B (trawst) 4.9m, L (lled) 13.1m a D (drafft) 2.7m.

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 23

    Mae’r lledau optimaidd, a argymhellir gan ganllawiau gwahanol ac sy’n seiliedig ar gwch y dyluniad a ystyriwyd, yn cael eu dangos mewn

    Safonau/ Argymhellion Lled y dyluniad a argymhellir (m)

    Safonau Awstralaidd (AS 3962 – 2001) 30.0

    30

    Dyluniad Adeileddau a Chyfleusterau’r Marina 30

    30

    Canllawiau ar gyfer Cyfleusterau Angori’r Marina 23

    23

    Dyluniad morgloddiau ar gyfer harbyrau cychod hwylio 36

    36

    Dyluniad Meini Prawf Cyfleusterau Unedig: Cyfleusterau Angori Cychod Bach 30.0

    30

    Arweiniad ar gyfleusterau a manyleb rheoli ar gyfer harbyrau cychod hwylio morol a marinas dyfrffyrdd mewndirol o ran gofynion defnyddwyr

    20-30

    Y Gymdeithasu Harbyrau Cychod Hwylio: Cod Ymarfer ar gyfer Dylunio, Adeiladu a Gweithredu Marinas a Harbyrau Cychod Hwylio Arfordirol a Mewndirol

    30

    Sefydliad y Peirianwyr Sifil: Dyluniad Carthu a Chanllaw Ymarfer

    32

    Ar sail yr argymhellion hyn a’r materion a godwyd yn ystod gweithdy’r rhanddeiliaid, byddai’n gymeradwy cynyddu lled y dyluniad o 25m i 30m. Mae’r lled hwn, wedi’i gyfuno â dyfnderau gwahanol a chynigion ar gyfer basn y marina, wedi’i gynnwys yn y dadansoddiad o opsiynau a ddisgrifir yn yr adran nesaf.

    6.1.3 Opsiynau dylunio a chyfeintiau carthu cysylltiedig

    Mae pedwar opsiwn wedi’u dadansoddi er mwyn cymharu’r gwelliannau mewn mordwyo a gweithrediad y marina yn erbyn y cyfeintiau gofynnol i’w carthu, sydd wedi’u disgrifio yn y tabl canlynol:

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 24

    Basn y Marina m OD (mCD)

    Dyfnder y fynedfa a’r sianel m OD (mCD)

    Lled y fynedfa a’r sianel (m)

    Opsiwn 1 Yr un fath â strategaeth

    2009

    Gweler Ffigur 1

    -3 (-0.56) 25

    Opsiwn 2 Yr un fath â strategaeth

    2009

    Gweler Ffigur 1

    -3 (-0.56) 30

    Opsiwn 2B Yr un fath â strategaeth

    2009

    Gweler Ffigur 1

    -3.5 (-1.06) 30

    Opsiwn 3 -5.5m (-3.06m) -3 (-0.56) 25

    Tabl 3: Opsiynau dylunio wedi’u dadansoddi

    Yr arolwg hydrograffig llawn diweddaraf a oedd ar gael pan wnaed y cyfrifiadau hyn (Mehefin 2014) oedd yr un a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2013. Cafodd y wybodaeth 3D hon ei chymharu â’r lefelau arfaethedig a chyflawnwyd y cyfeintiau carthu gofynnol i gyrraedd y lefelau hynny drwy ddefnyddio meddalwedd ACAD, Civils 3D.

    Mae’n bwysig pwysleisio bod y cyfeintiau a gafwyd yn yr adran hon wedi’u seilio ar arolwg hydrograffig a gynhaliwyd cyn yr ymgyrch carthu diweddaraf yn 2014, felly ni chafodd y cyfeintiau o’r ymgyrch hwn eu didynnu. At ddiben yr ymarferiad hwn, hynny yw cymharu’r opsiynau, ni chafodd y didyniad ei wneud, ac mae’r canlyniadau yn dal yn ddilys.

    Mae Opsiwn 1 yn cyfateb i’r dyluniad a gynigiwyd gan y Strategaeth o 2009, a dyma’r geometreg gyfredol a ddefnyddiwyd ar gyfer y carthu ym Masn y Marina a Sianel Ddynesu’r Marina. Byddai’n mynnu carthu rhyw 60,000 m³ ym masn y marina, a 2,000 m³ yn Sianel Ddynesu’r Marina.

    Mae Opsiwn 2 yn cynnig lledu’r sianel yn unig. Ystyrir bod y gwelliant mewn mordwyo yn isel, ac mae’r cyfaint i’w garthu yr un fath ag ar hyn o bryd i bob pwrpas.

    Mae Opsiwn 2B yn cadw’r dyluniad yn y bas, gan gynyddu’r dyfnder a’r lled yn Sianel Ddynesu’r Marina a Mynedfa’r Harbwr, gan ddarparu amodau gwell i’r mynediad o’r môr, a datrys rhai o’r problemau a ddisgrifiwyd gan ddefnyddwyr y

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 25

    marina. Mae’r cynnydd yn y cyfaint (a’r gost) yn rhyw 20% yn uwch na’r dyluniad cyfredol.

    Cynnig Opsiwn 3 yw gostwng yr holl lefelau ym masn y marina i lawr i -3.06m CD. Byddai hyn yn hwyluso’r gweithrediadau yn y basn ac yn gwneud angorfeydd yn fwy hyblyg. Ond y cynnydd yn y cyfaint i’w garthu yw 100%, sy’n gwneud yr opsiwn hwn yn anhyfyw.

    6.2 Dyluniad carthu newydd arfaethedig

    Fe’i seiliwyd ar y dadansoddiad a gynhaliwyd mewn adran flaenorol o’r adroddiad hwn. Cynigir addasu’r dyluniad carthu yn y modd canlynol:

    Cynnal y dyfnderau newidiol ym masn y marina, sy’n optimeiddio’r gwaith yn yr ardal honno, dyfnhau’r sianel i -3.5m OD (-1.06m CD) a’i lledu i 30m.

    Mae’r dyfnder a’r lled hynny yn cael eu hargymell ar gyfer mynedfa’r harbwr hefyd. Cyflawnir hyn yn barod trwy dynnu’r tywod sydd wedi’i ddyddodi yn y fynedfa gan gyfarpar ar y tir.

    Cyflawnwyd y cyfaint ychwanegol i’w garthu er mwyn addasu’r dyluniad i’r cynnig hwn, trwy gymharu’r lefelau arfaethedig gyda’r arolwg hydrograffig 3D a ddarparwyd ym mis Rhagfyr 2014 a gynhaliwyd ychydig ar ôl ymgyrch carthu 2014, a gynhwysodd yr ardal gyfan (Basn y Marina, Sianel Ddynesu’r Marina a Mynedfa’r Harbwr) a dyma’r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael wrth i’r adroddiad hwn gael ei gynhyrchu.

    Argymhellir gor-garthu clustogfa o ryw 300mm yn Sianel Ddynesu’r Marina a Mynedfa’r Harbwr, os bydd materion mordwyo (tebyg i’r rhai y soniwyd amdanynt gan y defnyddwyr yn y gweithdy) yn digwydd cyn ymgyrch y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, dylai’r gwelliannau i geometreg y sianel helpu i ddatrys y materion hynny.

    Dywedodd rai o aelodau Pwyllgor yr Harbwr eu bod yn ffafrio dŵr dyfnach yn Sianel Ddynesu’r Marina a Mynedfa’r Harbwr (hyd at 1.5m CD), i hwyluso mynediad i gychod mwy, i wneud y marina yn fwy deniadol i ddefnyddwyr newydd ac i achub y blaen ar ddyfnderau gofynnol yn y dyfodol. Gan ystyried cyfyngiadau’r harbwr, cynnig y strategaeth hon yw cynnal hynny fel amcan i anelu ato, i’w gynnwys yn y strategaeth yn y dyfodol, yn amodol ar welliant yn yr amodau ar gyfer gwaredu deunyddiau.

    Yn seiliedig ar hyn, y cyfeintiau carthu amcangyfrifedig i’w haddasu (y gwahaniaeth rhwng arwyneb yr arwyneb hydrograffig diweddaraf ac arwyneb dymunol y dyluniad) ar gyfer y dyluniad yw:

    - Basn y Marina: 5,648.49m³.

    - Sianel Ddynesu’r Marina: 3,306.61m³ (6,200m³ os ystyrir y glustogfa 300mm).

    - Mynedfa’r Harbwr: 611.74m³ (1,300 m³ os ystyrir y glustogfa 300mm).

    Mae lluniad rhif 1001, sydd wedi’i gynnwys yn Appendix B, yn dangos y dyluniad arfaethedig.

    Mae dyluniad y sianel wedi’i addasu i’r ardaloedd dyfnaf sydd wedi’u dadleoli tuag at ochr allan y troeon ger y ddynameg dŵr. Yn benodol, mae’r rhan o’r sianel

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 26

    o flaen gorsaf y bad achub wedi’i symud tua’r De. Yn y lleoliad hwnnw, mae rhan o’r polion crwn a ddefnyddiwyd ar gyfer angorfeydd wedi’u tynnu, gan alluogi adleoli’r sianel yn yr ardal ddyfnaf yn y rhan honno.

    Ffigur 11: Tynnu polion dur crwn, trefniant cyffredinol (2012)

    7 Amlder y gwaith carthu a chyfeintiau disgwyliedig

    7.1 Cynnig ar gyfer ymgyrchoedd carthu

    Cytunwyd yn ystod y gweithdy a sgyrsiau gyda thîm rheoli Harbwr Pwllheli fod cynnal un ymgyrch carthu ym masn y marina bob 5 mlynedd yn achosi tarfu mawr. Roedd angen adleoli’r holl gychod yn ystod wythnosau’r gwaith carthu er mwyn galluogi’r llong garthu i gyrraedd holl ardaloedd y basn.

    Cytunwyd y byddai gwaith carthu mwy rheolaidd, ac wedi’i gynllunio, yn well. Ar hyn o bryd, mae gwaith cloddion yn y fynedfa yn digwydd bob blwyddyn ar ôl stormydd y gaeaf, a chaiff gwely’r sianel ei lefelu bob dwy i dair blynedd.

    Y cynnig yw cynnal yr un gweithgareddau ar y cyd â gwaith ychwanegol ym masn y marina bob blwyddyn. Bydd y cyfeintiau i’w carthu yn is nag ymgyrchoedd blaenorol, a bydd yn galluogi defnyddio cyfarpar llai yn cael ei reoli gan staff yr Harbwr.

    Fel y soniwyd yn y gweithdy, yr amser gorau i wneud y gwaith carthu yw mis Hydref i fis Mawrth, gan ystyried arferion mudo’r pysgod a’r defnydd mwy a wneir o’r marina yn yr haf.

    Bydd defnyddio cyfarpar llai a symlach yn galluogi gwneud rhywfaint o waith carthu yn yr haf hefyd os bydd angen, gan roi mwy o hyblygrwydd i dîm gweithrediadau’r harbwr.

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 27

    7.2 Dadansoddiad o gyfraddau croniant hanesyddol a rhagamcan

    I bennu’r gyfradd croniant gyfartalog y flwyddyn a ddisgwylir yn ystod 10 mlynedd y strategaeth, cafodd 14 o arolygon hydrograffig a ddarparwyd gan Gyngor Gwynedd eu cymharu, ac ystyriwyd y gwahaniaeth mewn cyfeintiau.

    Mae’r ardaloedd a gafodd eu hystyried i gymharu’r arolygon olynol er mwyn cael y cyfraddau siltio yn cael eu dangos yn Ffigur 12 (cydlynwyd â’r ardaloedd o’r adroddiad Gwaddodi Ffeithiol a gynhyrchwyd gan Civil Engineering Solutions yn 2014) ac fe’u haddaswyd i’w cwmpasu gan bob un o’r arolygon, felly cymharwyd arwynebau cyflawn bob tro.

    Ffigur 12: Ardaloedd a ystyriwyd ar gyfer cyfrifo cyfeintiau siltio

    Dyma’r ardaloedd hynny:

    Basn y Marina: 81,086 m²

    Sianel Ddynesu’r Marina: 19,842 m²

    Mynedfa’r Harbwr: 23,623 m²

    Y cyfraddau siltio cronedig cyfartalog (cyfartaledd yr holl flynyddoedd blaenorol ar gyfer pob ymgyrch hydrograffig), a’r gymhariaeth gyda’r gwerthoedd a gafwyd yn yr adroddiad Gwaddodi Ffeithiol a gynhyrchwyd gan Civil Engineering Solutions (2014).

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 28

    Tabl 4: Siltio cronedig yn yr harbwr, yn ôl ardal

    7.3 Cyfeintiau carthu blynyddol disgwyliedig

    Y dyluniad a ystyriwyd yw’r un a ddisgrifiwyd yn Adran 6.2 ac a ddangosir yn lluniad rhif 1001, sydd wedi’i gynnwys yn Atodiad B.

    Mae ardaloedd y dyluniad yn cael eu dangos yn Ffigur 13 ac mae’r cyfeintiau disgwyliedig a fydd yn cynyddu lefel y gwely, yn seiliedig ar y siltio blynyddol, wedi’u cynnwys yn Tabl 5 isod.

    Ffigur 13: Ardaloedd y dyluniad arfaethedig

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 29

    Tabl 5: Cyfeintiau disgwyliedig i’w tynnu’n flynyddol o’r tair ardal dan ystyriaeth

    Mae cyfeintiau Basn y Marina a Sianel Ddynesu’r Marina i’w tynnu drwy

    dechnegau carthu (bydd gwaith lefelu’r gwely yn cael ei wneud pan fo angen i

    waredu mannau uchel). Bwriedir i’r deunyddiau o Fynedfa’r Harbwr gael eu

    tynnu gan gyfarpar ar y tir.

    8 System garthu arfaethedig i’w defnyddio ym mhob ardal

    Carthu ar ei ffurf sylfaenol yw’r weithred o dynnu deunydd o dan y dŵr. Fe’i defnyddir yn gyffredinol ar gyfer gweithgareddau adeiladu, gan greu dyfnderau mwy o ddŵr yn gyffredinol er mwyn gwella mordwyo a darparu ar gyfer cychod mwy. Yn achos Harbwr Pwllheli, y diben yw cynnal dyfnderau digonol er mwyn galluogi ymgymryd â’r gweithgareddau yn y marina mewn modd diogel.

    Ar gyfer unrhyw ymgyrch carthu, ceir nifer o gyfyngiadau sy’n gallu dylanwadu ar y prosiect, a thechnegau carthu digonol yn unol â’r amodau penodol:

    Cyfyngiadau posibl mewn ymgyrch carthu

    Lled sianel Gwasanaethau

    Tynfa Malurion/ deunydd estron (UXO)

    Math o waddod (tywod, silt, clai, clogfeini, craig)

    Adeileddau sensitif

    Cyfansoddiad cemegol (halogiad) Ardaloedd amgylcheddol sensitif (ACA/ AGA/ NHA/ silfeydd)

    Tywydd a chyflwr y môr Dyframaeth

    Amgylchedd gweithio (porthladd, harbwr, marina, ar y môr)

    Rhyngweithio gyda mordwyo arall, angorfeydd

    Deddfwriaeth, trwyddedau a chaniatadau

    Gwaredu’r deunydd

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 30

    Tabl 6: Cyfyngiadau posibl mewn ymgyrch carthu

    Ym Mhwllheli, mae’r systemau i’w defnyddio yn cael eu pennu gan natur y deunydd, y lleoliad (basn y marina, sianel ddynesu’r marina a mynedfa’r harbwr), y gost a’r effaith ar yr ACA.

    Gwnaed y gwaith carthu cyfalaf ym 1989 gan ddefnyddio llong garthu torri a sugno fawr.

    Mae mynedfa’r harbwr yn dioddef o ddrifft arfordirol (gorllewin i’r dwyrain) ac mae gofyn ei garthu’n rheolaidd. Ffurfiwyd y fynedfa gan long garthu torri a sugno ym 1989/90. Mae gwaith carthu wedi’i wneud yn flynyddol o beiriant ar y tir.

    Ni wnaed unrhyw waith carthu sylweddol yn y sianel fynediad ers iddi gael ei chreu hyd at y blynyddoedd diwethaf. Fe’i dyluniwyd i fod yn fynedfa 80m o led (rhy fawr ar gyfer maint y cychod) gyda dyfnder -3.00m islaw OD,-0.56m islaw CD. Mae croniant wedi lleihau dyfnderau a lled y sianel – mae dŵr dyfnach ar ochr allanol y tro. Mae dull carthu trwy droi’r gwely wedi’i ddefnyddio i symud mannau problemus lleoledig i fannau isel lleoledig o fewn yr harbwr.

    Ffurfiwyd basn y marina gan ddefnyddio carthu torri a sugno (carthu cyfalaf) a chafodd y deunydd wedi’i garthu ei bwmpio i’r lan ar gyfer gwaith adfer.

    Yn fuan ar ôl cwblhau’r marina, fe wnaeth ardal o ddyddodiad i’r gogledd o fasn y marina greu problemau gweithredol: dyddodiad trwm o dywodydd, graeanau a siltiau i’r gogledd o fasn y marina a chornel y gogledd orllewin. Argymhellwyd carthu’r ardal hon.

    1994 / 1995 - Gwnaed gwaith carthu cynnal a chadw yn y ddau fae gogleddol, a gwnaed gwaith carthu cyfalaf i’r gogledd o fasn presennol y marina i ddarparu capasiti ychwanegol i dderbyn deunydd erydu’r sianel o Afon Erch.

    Nid oedd angen unrhyw waith carthu hyd at y gaeaf 1999/2000. Ym1999 prynodd Cyngor Gwynedd ei gwch ei hun (llong garthu torri a sugno gludadwy, Nessie N8DX, a oedd yn berchen i’r Cyngor) a ddefnyddiwyd i wneud gwaith carthu rhwng 1999 a 2006.

    Cafodd y deunydd ei bwmpio i ardal wedi’i byndio (morlyn distyllu) - 225m o hyd ac â chapasiti o 22,000m3 yn yr harbwr. Ymgymerwyd â 6 o ymgyrchoedd carthu olynol rhwng 1999 a 2006 (yn gyffredinol, rhwng mis Hydref a mis Mawrth, ac yn para 3 mis yn gyffredinol).

    Ers cynhyrchu strategaeth 2009, mae Cyngor Gwynedd wedi:

    - gwneud gwaith carthu ym Mynedfa’r Harbwr (peiriant ar y tir) yn flynyddol i warantu mynediad y cychod i’r marina;

    - lefelu gwely’r Sianel Fynediad bob rhyw ddwy flynedd ac

    Pellter cludo Argaeledd peiriannau/ cyfarpar

    Cyllideb sydd ar gael

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 31

    - ymgymryd ag ymgyrchoedd carthu cynnal a chadw ym Masn y Marina a’r Sianel bob rhyw 5 mlynedd. Gwnaed hyn gan gontractiwr, gan i’r llong garthu fach a oedd yn berchen i Gyngor Gwynedd gael ei gwerthu.

    Ar sail gweithgareddau blaenorol a’n dealltwriaeth o’r materion gan ddefnyddwyr y marina, mae’r cynigion ar gyfer y dull carthu ar gyfer pob ardal fel a ganlyn:

    8.1 Mynedfa’r harbwr:

    Mae gwaddod a lleoliad yn briodol ar gyfer peiriant ar y tir neu beiriant arnofiol, fel carthwr hopran sugno llusg bach a allai gludo’r deunydd ar hyd yr arfordir a’i bwmpio i’r lleoliad defnyddio.

    Gan ystyried dyfnder a lled yr ardal weithio, ystyrir mai peiriant ar y tir yw’r system fwyaf digonol ar gyfer yr ardal hon o hyd.

    Yn ogystal, rhag ofn y caiff carthwr newydd bach ei brynu ar gyfer y gwaith ym masn y marina, gallai fod yn beiriant amlbwrpas a allai weithio o’r tir ac o’r dŵr yn yr ardaloedd gwahanol, yn debyg i’r un yn Ffigur 14 a Ffigur 15: Defnydd arall o garthwr amlbwrpas (gweithio mewn dŵr).

    Ffigur 14: Carthwr bach amlbwrpas (ar y tir)

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 32

    Ffigur 15: Defnydd arall o garthwr amlbwrpas (gweithio mewn dŵr)

    8.2 Sianel ddynesu’r marina

    Mae’r ardal hon wedi cael ei hail-lefelu bob rhyw 2-3 blynedd ers cyhoeddi strategaeth 2009. Torri’r gwely yw’r system a ddefnyddiwyd.

    Defnyddiwyd dull Carthu drwy Chwistrellu Dŵr (WID) i garthu ardal fach o amgylch cei’r lifft teithio, gyda chanlyniadau boddhaol. Ystyrir bod hon yn system addas i gynnal y lefelau yn y sianel, pan fydd wedi’i garthu i lawr i’r lefelau a ddyluniwyd.

    Disgwylir y bydd y cyfaint blynyddol i’w dynnu o’r sianel oddeutu 1,000m³.

    Caiff y defnydd o’r system hon ei bennu gan yr effeithiau posibl ar yr ACA a gofynion Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae ansicrwydd ynglŷn â’r materion hyn yn gwneud y dull Carthu drwy Chwistrellu Dŵr yn llai syml i’w ddefnyddio na thorri’r gwely, sef dull sydd wedi’i ddefnyddio ar gyfer lefelu’r gwely hyd yma, gyda chanlyniadau da a dim effaith yn yr ardal.

    Er nad yw’r dull Carthu drwy Chwistrellu Dŵr wedi’i gymeradwyo fel system ar gyfer sianel ddynesu’r marina, mae dull torri’r gwely, yn yr un amodau ag y cytunwyd yn flaenorol, i’w ddefnyddio i lefelu’r sianel. Mae goblygiadau defnyddio’r system hon ar gyfer yr ACA a’r ardal o gwmpas wedi’u hasesu yn yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a gynhyrchwyd ar gyfer y strategaeth hon.

    8.3 Basn y marina

    Ar hyn o bryd, mae’r gwaith carthu cynnal a chadw yn y basn yn cael ei wneud bod rhyw 4-5 mlynedd, ac mae Cyngor Gwynedd yn cael contractiwr allanol i wneud y gwaith.

    Mae’r cyfeintiau sydd i’w symud yn fawr ac mae’r amhariadau a achosir i ddefnyddwyr a rheolwyr (y mae angen iddynt adleoli’r holl gychod yn ystod yr ymgyrch er mwyn i’r contractiwr wneud y gwaith) yn bwysig.

    Os yw peiriant modern bach i’w gaffael gan Gyngor Gwynedd y gellir ei ddefnyddio gan staff yr harbwr o gael hyfforddiant syml, gall y gwaith gael ei wneud yn flynyddol, gan leihau’r cyfeintiau i ymdrin â nhw a’r tarfu i’r defnyddwyr, gan y gellid targedu ardaloedd gwahanol bob blwyddyn. Gallai’r gwaith gael ei gynllunio hefyd y tu allan i’r fframiau gwreiddiol (Hydref-Rhagfyr)

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 33

    pe bai’r offer ar gael yn barhaol yn yr harbwr, a gellid ei gydlynu gyda gweithgareddau eraill yn y marina.

    Mae amrywiaeth o beiriannau masnachol y gellir eu defnyddio at y diben hwn.

    Gallai’r llong garthu amlbwrpas Watermaster a ddangosir yn Ffigur 14: Carthwr bach amlbwrpas (ar y tir) a Ffigur 15: Defnydd arall o garthwr amlbwrpas (gweithio mewn dŵr) gael ei defnyddio hefyd fel peiriant ar y tir ar gyfer y cloddiadau ym mynedfa’r harbwr. Gellir gosod pwmp torri ar hon (pellter gollwng 1.5km) i wneud gwaith carthu ym masn y marina.

    Mae pympiau a reolir o bell yn addas hefyd ar gyfer y gwaith yn y basn, yn debyg i’r un yn Ffigur 14.

    Ffigur 14: System bwmpio a reolir o bell i symud solidau

    9 Strategaeth ar gyfer gwaredu deunyddiau

    9.1 Opsiynau tymor byr

    9.1.1 Basn y Marina

    Roedd deunydd carthu a oedd yn gysylltiedig ag Academi Hwylio Genedlaethol Cymru a’r Ganolfan Digwyddiadau (WNSAEV) yn cael ei waredu mewn ardal wedi’i byndio yn Harbwr Pwllheli.

    Yn gyntaf, mae’n ofynnol pennu’r capasiti sy’n weddill y tu ôl i fwnd yr amddiffynfa feini. Cynigir bod y deunyddiau sy’n cael eu carthu o fasn y marina yn y tair blynedd nesaf yn cael eu dyddodi yno.

    Bydd angen dyddodi’r deunydd yn y morlyn distyllu i sefydlogi, disbyddu a lleihau’r cyfaint cyn ôl-lenwi’r ardal tirweddu. Mae’r strategaeth yn cynnwys cost ymdrin ddwywaith â’r deunydd hwn i’w waredu (gweler Adran 11).

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 34

    Os nad yw cyfaint cyfunol y morlyn distyllu a’r ardal tirweddu y tu ôl i’r bwnd yn ddigonol, caiff opsiynau gwaredu ychwanegol eu hystyried, fel gwaredu ar safle tirlenwi neu yn y lleoliad gwaredu presennol yn y môr yng Nghaergybi.

    Mae nifer y safleoedd tirlenwi a fyddai’n derbyn deunydd o garthu yng Ngwynedd yn lleihau, ac nid yw’r deunydd sy’n deillio o garthu cyfalaf WNSAEV wedi’i dderbyn gan unrhyw safle tirlenwi yng Ngwynedd.

    Mae cofrestr y Sefydliad Rheoli Morol yn dangos mai’r ddau brif opsiwn a ddewisir gan borthladdoedd eraill yw tirlenwi a gwaredu yn y môr. Mae’r costau ar gyfer y tri opsiwn hyn wedi’u hasesu a’u cynnwys yn Adran 11.

    9.1.2 Sianel Ddynesu’r Marina a Mynedfa’r Harbwr

    Mae angen i’r pentwr stoc o dywod wrth Fynedfa’r Harbwr, ynghyd â’r deunyddiau a dynnwyd o’r fynedfa mewn blynyddoedd dilynol, gael eu symud. Mae deunydd y pentwr stoc presennol yn ffactor sy’n cyfrannu at groniant cyflym ym Mynedfa’r Harbwr.

    Mae’r deunydd hwn wedi’i ddefnyddio’n flaenorol mewn gweithgareddau adfer traeth ar hyd Traeth Crugan. Mae gwaith amddiffyn arfordirol a rheoli llifogydd ar Draeth Crugan yn gyfrifoldeb Cyngor Gwynedd, a Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n delio â glan Abererch. Mae’r ddwy lan wedi dioddef erydu yn y blynyddoedd diwethaf.

    Cafodd yr ardal i’r Gorllewin o harbwr Pwllheli ei hadfer gyda deunyddiau wedi’u carthu, trwy fenthyciad a gafwyd gan Lywodraeth Cymru.

    Mae ardal i’r Dwyrain o’r harbwr yn Abererch wedi bod yn destun mesurau amrywiol i leihau erydu, fel ffensys igam-ogam neu glawdd cobls. Yn 2000, derbyniodd yr ardal hon oddeutu 4,000m3 o dywod o’r pentwr stoc.

    Yn ddelfrydol, byddai’r deunydd o Fynedfa’r Harbwr yn parhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer adfer traethau, fel y nodi yn y strategaethau amddiffyn arfordirol yng Nghynllun Rheoli Traethlin Gorllewin Cymru 2 (SMP2), Prosiect Peilot Pwllheli a Thraeth Crugan - adroddiad Amddiffyn Arfordirol Pwllheli.

    Fel rhan o’r astudiaeth hon (gweler Adran 5.3.2) cynhaliwyd trafodaethau cychwynnol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â’r defnydd o ddeunyddiau o Fynedfa’r Harbwr neu Sianel Ddynesu’r Marina ar gyfer gwaith amddiffyn arfordirol. Trafodwyd hefyd y cymorth ariannol posibl gan Cyfoeth Naturiol Cymru i gludo’r deunydd i’w gyrchfan terfynol.

    Mae’r gofynion ar gyfer y tywod yn dibynnu ar nodweddion y traeth y bydd yn mynd iddo yn y pen draw. Gwrthodwyd deunyddiau o’r sianel ddynesu yn flaenorol i’w ddefnyddio ar draeth Abererch (roedd ei gynnwys mewn silt 17% yn uwch na hynny a ganiateir, sef 15%). Rhag ofn y bwriedir i unrhyw ddeunydd o waith carthu’r harbwr gael ei roi ar Draeth Crugan (lle mae’r tywod o fynedfa’r harbwr wedi cael ei ddefnyddio’n hanesyddol) neu draeth Abererch, bydd angen cynnal dadansoddiad penodol.

    Mae lefelau’r lan yn Abererch wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf. Digwyddodd difrod sylweddol i’r twyni yn ystod y stormydd gaeaf diweddar. Comisiynwyd cynllun cyfalaf o waith argyfwng i atgyfnerthu rhan 400m o’r twyni gyda physt plastig a cherigos. Chwalwyd yr amddiffynfa hon gan stormydd

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 35

    dilynol, gan adael wyneb fertigol o byst plastig. O ganlyniad, atgyfnerthwyd y twyni ymhellach gyda c. 7,000 o dunelli metrig o amddiffynfa feini, gan ymestyn yr amddiffynfa dros 700m i amddiffyn y safle carafanau cyfagos.

    Cyfaint amcangyfrifedig y pentwr stoc presennol yw 30,000m³, mae’n berchen i Gyngor Gwynedd ac ar gael i’w ddefnyddio gan Gyngor Gwynedd neu Cyfoeth Naturiol Cymru mewn gwaith amddiffyn arfordirol. Cynhaliwyd trafodaeth bellach gyda Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am y gwaith amddiffyn arfordirol argyfwng yn dilyn y stormydd gaeaf eithafol ar lan Abererch.

    Yn fyr, roedd yn gefnogol i waith adfer y traeth ar hyd Abererch, a byddai’n croesawu’r cyfle i ddefnyddio neu brynu’r ffracsiwn tywod o ymgyrchoedd carthu a’r pentwr stoc sydd ar gael.

    Roedd y mynediad i’r ardal yn Abererch yn wael, ar hyd ffordd B dosbarth isel drwy’r safle carafannau. Nid oedd y ffordd yn ddigonol ar gyfer peiriannau trwm. Y cynnig yw defnyddio ysgraff [barge] i gludo deunyddiau o’r pentwr stoc i Abererch. Gallai costau cludo fod oddeutu traean o gostau’r prosiect, a gallai’r rhain gael eu talu gan Cyfoeth Naturiol Cymru o bosibl, ond byddai angen cynnig mewnol am gefnogaeth Cymorth Grant.

    9.2 Opsiynau tymor canolig/tymor hir

    9.2.1 Sianel Ddynesu’r Marina a Mynedfa’r Harbwr

    Ystyrir bod defnyddio deunyddiau o Sianel Ddynesu’r Marina a Mynedfa’r Harbwr ar gyfer adfer traethau ac amddiffyn arfordirol yn dderbyniol fel rhan o’r strategaeth ar gyfer y cyfnod 2015 -2025, sef terfyn y tymor hir yn y strategaeth hon.

    Mae profion i’w cynnal ar y deunyddiau sydd i’w defnyddio er mwyn pennu digonolrwydd meintiau’r graen i’r cyrchfan a fwriedir. Mae hyn yn bwysig yn benodol i’r deunyddiau a dynnir o Sianel Ddynesu’r Marina, sydd â rhywfaint o gynnwys silt.

    Ond efallai mai dim ond mesur dros dro fydd hwnnw yn y tymor hwy, yn unol ag argymhelliad y Cynllun Rheoli Traethlin (SMP2) i newid o Cadw’r Llinell (HTL) i Adlinio Rheoledig (MR) yn yr ardal hon o 2025, ac mae angen ystyried hyn mewn strategaethau dilynol.

    9.2.2 Basn y Marina

    Heblaw am y deunyddiau yn deillio o Fasn y Marina, sy’n siltaidd yn bennaf ac yn anaddas ar gyfer adfer traethau, trafodwyd nifer o opsiynau yn ystod y gweithdy ac yn y cyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru.

    Gall y cais am leoliad newydd i Waredu ar y Môr, y tu allan i’r ACA, ond yn agosach at Harbwr Pwllheli na’r ardal waredu yng Nghaergybi ymddangos yn feichus o ran amser ac yn anodd ei gyflawni oherwydd gofynion amgylcheddol. Fodd bynnag, gallai’r opsiwn hwn fod yn hyfyw (mae angen asesiad manwl) a bydd yn gost-effeithiol yn y tymor hir am ei fod yn curo costau opsiynau tymor hir hyfyw eraill (tirlenwi a lleoliad gwaredu Caergybi) pan fydd y broses gwneud cais wedi dod i ben.

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 36

    Ond mae’n rhaid i Gyngor Gwynedd ystyried, os penderfynir bwrw ymlaen â hyn, y bydd awdurdodau porthladd eraill yn yr ardal yn cael defnyddio’r lleoliad gwaredu. Fodd bynnag, nid yw’n hysbys bod unrhyw gyfleusterau porthladd eraill yn cynnal gweithgareddau carthu yn rheolaidd yn yr ardal.

    Defnyddio deunydd wedi’i garthu ar gyfer creu cynefinoedd: Yn ystod y cyfarfod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, soniwyd y gallai rhai o’r strategaethau amddiffyn rhag llifogydd (y soniwyd amdanynt yn Strategaeth Beilot Pwllheli ar Addasu i’r Newid yn yr Hinsawdd) ar gyfer Afon Erch ac Afon Ddu fynnu creu ardaloedd cynefinoedd newydd. Fodd bynnag, nid ystyrir bod yr opsiwn hwn yn ateb cynaliadwy yn yr hir dymor gan ei fod yn dibynnu ar brosiectau unigol penodol na fyddant efallai yn cyd-daro â’r rhaglen garthu.

    10 Mesurau ar gyfer lleihau cyfraddau croniant yn yr harbwr

    10.1 Opsiynau tymor byr

    Mae rhai opsiynau wedi’u dadansoddi a’u trafod gyda defnyddwyr y marina. Ystyriwn mai opsiynau tymor byr yw’r rheiny gellir ymgymryd â nhw ar unwaith, ac a fyddai’n cael eu gweithredu o fewn cyfnod 3 blynedd. Y rheiny fyddai’r cynigion nad yw’n ofynnol cael Trwydded Forol ar eu cyfer, a’r rheiny y disgwylir na fyddant yn cael unrhyw effeithiau sylweddol tebygol ar y prosesau arfordirol a’r ACA.

    Mae effeithiau posibl yr opsiynau wedi’u hasesu ar wahân yn yr adroddiad Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd cysylltiedig, a fydd yn destun ymgynghori gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.

    Cynnig 1: Pentwr stoc tywod

    Mae’r pentwr stoc o dywod wedi’i garthu wedi’i osod yn agos iawn at fynedfa’r harbwr ar hyn o bryd. Heb amddiffyniad, gallai’r cludiant aeolaidd gyflymu’r broses siltio ym mynedfa’r harbwr.

    Mae’n fesur brys felly i symud y deunydd hwn o fynedfa’r harbwr. Mae trafodaethau cychwynnol wedi’u cynnal gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer prynu’r tywod, a dylai Cyngor Gwynedd fynd ar drywydd hynny.

    Yn ychwanegol at hynny, mae’r cynnig hwn yn gyson â’r strategaethau ar gyfer rheolaeth arfordirol sydd wedi’u cynnwys ym Mheilot Pwllheli.

    Cynnig 2: Trap tywod yn y sianel fynediad

    Mae hon yn system arferol i ddal gwaddodion mewn sianelau a basnau. Mae’n ardal ddyfnach sy’n galluogi i’r deunydd mewn daliant yn y dŵr i gael ei waddodi mewn ardal reoledig. Byddai’n dal y rhan fwyaf o’r tywod sy’n drifftio, gan atal Basn y Marina a’r Sianel Ddynesu rhag llenwi a siltio.

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 37

    Gall y system hon helpu i gynyddu’r cyfnodau rhwng ymgyrchoedd carthu, ond nid cyfanswm y cyfaint y mae angen ei garthu, naill ai i greu’r trap neu i gynnal y

    dyfnderau yn y marina, sy’n aros yr un fath.

    Ffigur 15: Diagram cynllunio yn dangos perfformiad y trap tywod

    Cynnig 3: Newidiadau i adeileddau mynedfa’r harbwr

    Mae grwyn rhesel cledrau pentarw byr i’r de o’r fynedfa i reoli’r deunydd drifft arfordirol. Lefel brig y grwyn rhesel cledrau pentarw yw +4.8m OD ar y man uchaf, a -3m OD ar y man isaf.

    Mae deunydd sydd wedi cronni wrth yr adeiledd yn creu ffynhonnell tywod a chlogfeini sy’n cael eu golchi i mewn i’r harbwr yn ystod stormydd, a’u dyddodi yn y Sianel Fynediad a Basn y Marina. Mae angen gwneud gwaith cynnal a chad war y grwyn ar hyn o bryd hefyd.

    Y cynnig tymor byr yw ychwanegu amddiffynfa feini yn y grwyn a chynyddu lefel brig y rhesel cledrau pentarw i ddarparu:

    • Amddiffyniad ychwanegol.

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 38

    • Lleihau deunydd yn gorlifo drosto, sy’n gallu cael ei olchi i mewn i’r Harbwr wedyn.

    Mae cynnig amlinellol wedi’i gynnwys yn Atodiad B i godi lefel adeiledd y grwyn uwchlaw’r ddaear bresennol i’r lefel a ystyriwyd ym 1985. Mae’r ddaear o amgylch y grwyn wedi cronni oddeutu 1.8 – 2m a dyma’r uchder ychwanegol i’w ddarparu i’r adeiledd.

    Ffigur 16: Toriad hir. Dyluniad gwreiddiol adeiledd y grwyn (1985)

    Gan fod hwn yn gam a gymerir o fewn y terfynau o dan Ddeddf Harbwr Pwllheli 1983, ni ddisgwylir y bydd yn ofynnol cael trwydded forol.

    Mae effeithiau posibl o’r opsiwn hwn wedi’u hasesu ar wahân yn yr adroddiad Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd cysylltiedig, a fydd yn destun ymgynghori gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.

    Ni ragwelir y bydd unrhyw effaith sylweddol debygol ar yr ACA o’r opsiwn hwn; yn bennaf gan y bydd lefelau’r grwyn uwchlaw’r ddaear yn cael eu hadfer i’w ddyluniad gwreiddiol, a bydd hyn ond yn effeithio ar ddeunyddiau sy’n cael eu cludo gan stormydd i mewn i fynedfa’r harbwr.

    Fodd bynnag, byddai hyn yn cael ei gadarnhau gan Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd penodol ar ôl cwblhau astudiaeth bellach a dyluniad manwl.

    10.2 Opsiynau tymor canolir/tymor hir

    Ar hyn o bryd, nid yw hyd y grwyn rhesel yn atal deunydd sy’n cael ei gludo gyda cherhyntau a thonnau rhag dod i mewn i’r Harbwr. Mae’n debygol y byddai estyniad i’r adeiledd hwn yn lleihau cyfaint blynyddol y deunyddiau sy’n cronni o fewn yr harbwr.

    Dylid asesu’r opsiwn hwn ar y cyd â chodi’r lefel frig. Heblaw hynny, dylid asesu’n ofalus yr effaith uniongyrchol y gallai estyniad o’r fath ei chael ar lan Abererch.

    Yn yr un modd, bydd angen i gamau gweithredu eraill, fel cynnwys adeileddau ychwanegol fel grwynau, gael eu hasesu’n fanwl drwy fodelu hydrolig, i bennu a ydynt yn dod â gwelliant mewn gwirionedd o ran cynnal lefelau ym mynedfa’r harbwr, ac unrhyw effaith ar y prosesau arfordirol.

    Bydd model hydrolig gyda manylion digonol hefyd yn helpu o ran deall sut mae’r mur hyfforddi yn perfformio o dan y prosesau arfordirol (lefelau siltio ar yr ochr cefn a mynychder gorlifo) a’r angen posibl i gynyddu ei lefel frig.

  • Cyngor Gwynedd Strategaeth gwaith carthu cynnal

    a chadw Harbwr PwllheliAdroddiad strategaeth wedi’i diweddaru

    | Cyhoeddi | 5 Ionawr 2016

    Tudalen 39

    Bydd y posibilrwydd o ehangu’r adeiledd grwyn presennol neu ychwanegu adeiladau eraill yn mynnu’r canlynol:

    - Asesiad o effaith y newidiadau hyn ar draeth Abererch trwy ddatblygu model hydrolig

    - Dilyn y prosesau amgylcheddol a ddisgrifiwyd yn yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd atodedig.

    - Dyluniad manwl o’r adeileddau newydd.

    11 Amcangyfrif o’r gost

    Mae costau wedi’u hamcangyfrif a’u hadolygu gan gontractwyr ac un gweithredwr tirlenwi (allan o Gyngor Gwynedd) am gostau blynyddol ar gyfer pob cynnig tymor byr a hirdymor. Mae’r amcangyfrifon hyn at ddibenion cynllunio’n unig; mae angen gofyn i gontractwyr am ddyfynbrisiau penodol ar gyfer pob gwaith.

    11.1 Cost carthu a amcangyfrifir y flwyddyn

    Units Quantity cost (£/unit) Estimated cost Annual cost

    0 MOB/DEMOBILIZATION (10 years of maintenance)

    0.1 Mobilization of the dredging equipment from UK yearly ud 10 £57,380.40 £573,804.00

    1.2 Demobilization of the dredging equipment from UK yearly ud 10 £28,690.20 £286,902.00

    ESTIMATED DREDGING COST (10 years contract maintenance) £860,706.00 £86,070.60

    Units Quantity cost (£/unit) Estimated cost Annual cost

    1 ANNUAL ESTIMATED DREDGING COST

    1.1 Dredge with small dredger of Marina Basin with direct pumping

    into stilling lagoon for dewatering. Allow for relocation of 30%

    of vessels

    m³ 6,911 £6.30 £43,539.30

    1.2 Re-profiling of channel of Marina Approach by ploughing day 5 £2,567.00 £12,835.00

    1.3 Excavation of Harbour Entrance with land based equipment:

    excavation of sand and gravel materials by mechanical digger

    and loading onto lorry or barge for disposal

    m³ 5,973 £4.50 £26,878.50

    ANNUAL ESTIMATED DREDGING COST £83,252.80 £83,252.80