mcc word template 2012 - monmouthshire county … · web viewhyrwyddo moeseg ac addysg gyrru ar ac...

16
Adroddiad Blynyddol Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy

Upload: others

Post on 16-Mar-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: MCC Word Template 2012 - Monmouthshire County … · Web viewHyrwyddo moeseg ac addysg gyrru ar ac oddi ar ffordd. Atgyweiriadau/cynnal a chadw rhagweithiol a gwirfoddol i hawliau

Adroddiad Blynyddol Fforwm Mynediad Lleol Sir FynwyIonawr 2016

Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy

Page 2: MCC Word Template 2012 - Monmouthshire County … · Web viewHyrwyddo moeseg ac addysg gyrru ar ac oddi ar ffordd. Atgyweiriadau/cynnal a chadw rhagweithiol a gwirfoddol i hawliau

CynnwysRheolaeth Fersiwn................................................................................................................2

Rhagair y Cadeirydd.............................................................................................................3

Adroddiad yr Ysgrifennydd.........................................................................................3

Adolygu'r Flwyddyn........................................................................................................4

1. Cynllun Gofal Mons Lane..............................................................................................4

2. Dargyfeirio M4 o amgylch Casnewydd.........................................................................4

3. A465 Gilwern i Frynmawr..............................................................................................4

4. Papur Gwyrdd Gwella cyfleoedd mynediad i'r awyr agored ar gyfer hamdden cyfrifol. 5

5. Deddf Teithio Llesol 2013..............................................................................................5

6. Adolygiad ROWIP.........................................................................................................5

7. Blaenoriaethu................................................................................................................5

8. Prosiectau a chyllid.......................................................................................................5

Gwaith a wnaed yn 2015..............................................................................................6

Rhaglen Waith y Dyfodol..............................................................................................7Rôl y Fforwm......................................................................................................................7

Cysylltiadau........................................................................................................................8

Atodiad 1: Aelodau'r Fforwm ................................................................................................................9

Atodiad 2: Rhaglen Waith y Dyfodol.....................................................................10

2

Page 3: MCC Word Template 2012 - Monmouthshire County … · Web viewHyrwyddo moeseg ac addysg gyrru ar ac oddi ar ffordd. Atgyweiriadau/cynnal a chadw rhagweithiol a gwirfoddol i hawliau

Rheolaeth FersiwnTeitl Adroddiad Blynyddol Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy

Diben Adroddiad Blynyddol

Perchennog Fforwm Mynediad Lleol

Cymeradwywyd gan Cymeradwywyd gan y Fforwm Mynediad Lleol 26 Ionawr 2016

Dyddiad Ionawr 2016

Fersiwn Rhif 1.0

Statws Terfynol

Cyhoeddwyd yn unol â Rheoliad 16 Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) 2001 gan yr Awdurdod Penodi, Cyngor Sir Fynwy, ar ran Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy.

3

Page 4: MCC Word Template 2012 - Monmouthshire County … · Web viewHyrwyddo moeseg ac addysg gyrru ar ac oddi ar ffordd. Atgyweiriadau/cynnal a chadw rhagweithiol a gwirfoddol i hawliau

Rhagair y CadeiryddMae'r adroddiad hwn yn cynnwys ail flwyddyn y fforwm presennol, 12 mis o 11 Tachwedd 2014.

Cefais fy ethol yn Gadeirydd a fy Nirprwy yw Anne Underwood. Yn ystod y flwyddyn ymddiswyddodd Andrew James. Roedd wedi gwneud cyfraniad sylweddol yn neilltuol yng nghyswllt mynediad i'r anabl. Rhoddir manylion aelodau presennol y Fforwm Mynediad Lleol yn Atodiad 1.

Ein Hysgrifennydd yw Matthew Lewis, Rheolwr Seilwaith Gwyrdd a Chefn Gwlad ac mae'r Swyddogion Mynediad Cefn Gwlad, Ruth Rourke a'r Ysgrifennydd Cofnodion Alan Clarke, hefyd yn mynychu cyfarfodydd. Mae'r Fforwm yn ffodus iawn i gael y lefel yma o gefnogaeth.

Fel y gwelwch o'r Adolygiad islaw, rydym wedi parhau i drafod, cynghori a rhoi sylwadau ar amrywiaeth o faterion. Mae gennym ystod eang o brofiad a gwybodaeth ymysg ein haelodau. Mae eu diddordebau yn cynnwys cerdded, seiclo, marchogaeth a mynediad i gerbydau. Mae pawb yn cytuno ar fuddion iechyd niferus mynediad i'r awyr agored ac i gefn gwlad. Caiff barn perchnogion tir hefyd eu cynrychioli’n gryf iawn.

Mynychodd Anne a finnau 16eg cyfarfod blynyddol Cadeiryddion ym mis Chwefror a bu Anne, Stella a finnau yng Nghynhadledd Flynyddol Fforymau Mynediad Lleol, ill dau yn Llanelwedd.

Daw cyfnod y Fforwm Mynediad Lleol presennol i ben ym mis Tachwedd 2016. Mae aelodau'n benderfynol i gyfrannu'n gryf yn ystod y cyfnod yma a gobeithiwn hysbysu mwy o bobl yn Sir Fynwy am waith y Fforwm ac am y cyfleoedd i fwynhau mynediad i'r awyr agored sydd mor bwysig i lesiant ein gwlad yn y dyfodol.

Richard DaviesCadeirydd

Adroddiad yr YsgrifennyddMae'r adroddiad hwn yn nodi cwblhau ail flwyddyn y Fforwm Mynediad Lleol presennol sy'n rhedeg hyd 11 Tachwedd 2016. Mae ymddiswyddiad Andrew James yn golygu fod gan y Fforwm nifer is na'r isafswm statudol o aelodau. Cysylltwyd gyda Chynghorau Tref a Chymuned i geisio enwebiadau pellach ond ni arweiniodd hyn at unrhyw ymholiadau. Oherwydd y cyfnod cyfyngedig sydd gan y Fforwm ar ôl, penderfynodd y Fforwm yn ddiweddar ofyn i mi ddechrau'r broses o recriwtio Fforwm newydd yn y Flwyddyn Newydd, er mwyn ceisio sicrhau parhad yng nghyfarfodydd y Fforwm.

Mae'r ymagwedd fwy ffurfiol at agendâu, adroddiadau a chyfarfodydd y Fforwm wedi parhau eleni a bu'n llwyddiannus wrth ganolbwyntio gweithgareddau'r Fforwm.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf cyfarfu'r fforwm ar 11 Rhagfyr 2014 yng Nghil-y-coed; 28 Ebrill 2015 yn Neuadd Sir, Brynbuga; 9 Mehefin 2015 ym Magwyr; 9 Medi 2015 a 17 Tachwedd 2015, y ddau yn Neuadd y Sir, Brynbuga. Yn ychwanegol mynychodd rhai o

4

Page 5: MCC Word Template 2012 - Monmouthshire County … · Web viewHyrwyddo moeseg ac addysg gyrru ar ac oddi ar ffordd. Atgyweiriadau/cynnal a chadw rhagweithiol a gwirfoddol i hawliau

aelodau'r Fforwm ymweliadau safle i archwilio gwaith yn y Graig Ddu ar Lwybr Arfordir Cymru, mewn cysylltiad gyda chynllun gofal arfaethedig Mons Lane ger Brynbuga ac ar lwybr arfaethedig yr M4 newydd ym Magwyr.

Y bwriad yw i'r fforwm barhau i gwrdd tua unwaith y chwarter fel y geilw busnes a bod rhaglen dreigl o eitemau gwaith yn ei lle.

Mae aelodau'r Fforwm yn parhau i gyfrannu at ddatrys a datblygu materion a pholisi mynediad cefn gwlad yn Sir Fynwy. Rydym yn ddiolchgar iawn am eu mewnbwn gwirfoddol ac am eu profiad a'u cyngor.

Matthew LewisYsgrifennydd

Adolygu'r FlwyddynDyma rai o'r materion y mae'r Fforwm wedi rhoi cyngor ac yr ymgynghorwyd arnynt:

1. Cynllun Gofal Mons Lane Rydym wedi parhau i drafod yn ofalus y cynllun ar y cyd rhwng y Sir a TreadLightly, sy'n cynrychioli defnyddwyr gyriant pedair olwyn (4WD) a beiciau modur cyfrifol yng nghefn gwlad. Gofynnwyd i'r Fforwm ystyried nifer o lwybrau posibl y gellir eu hagor gyda help gwirfoddolwyr TreadLightly. Mae'r rhain i gyd yn llwybrau gyda hawliau priffordd hanesyddol ond gan ystyried y gynnen y gall defnyddio 4WD ei ysgogi, rydym wedi gofyn am brosiect peilot ar 5 llwybr yn gyntaf. Caiff hyn ei drafod ymlaen llaw gyda chynghorwyr cymuned a pherchnogion tir yr effeithir arnynt. Ymwelodd aelodau â rhai o'r llwybrau a byddant yn monitro'r llwybr yn ofalus.

2. Dargyfeirio M4 o amgylch CasnewyddEr mai dim ond rhan fach o'r llwybr arfaethedig sydd yn Sir Fynwy, mae'n agos iawn at Fagwyr a gallai effeithio ar nifer o hawliau tramwy. Treuliodd aelodau ddiwrnod yn trafod y manylion ac yn cerdded y llwybr. Gwnaethom wedyn sylwadau ffurfiol i Lywodraeth Cymru. Byddwn yn parhau i fonitro a rhoi sylw wrth i'r cynllun manwl ddatblygu a rydym yn gweithio’n agos gyda Fforwm Mynediad Lleol Casnewydd. Rydym yn ffodus i gael gwybodaeth aelodau sy'n byw'n lleol ac ymunodd un o'r cynghorwyr lleol, Jessica Crook, â ni am y diwrnod

3. A465 Gilwern i FrynmawrMae'r Cyngor wedi gweithio'n galed iawn gydag awdurdodau lleol cyfagos i leihau effaith y gwelliannau ar fynediad cyhoeddus ar hyd y llwybr. Er bod rhan o'r tir o fewn Sir Fynwy, mae'n rhan o Fforwm Mynediad Lleol Bannau Brycheiniog ac maent wedi'n hysbysu ar bob cam ar yr hyn sy'n digwydd.

5

Page 6: MCC Word Template 2012 - Monmouthshire County … · Web viewHyrwyddo moeseg ac addysg gyrru ar ac oddi ar ffordd. Atgyweiriadau/cynnal a chadw rhagweithiol a gwirfoddol i hawliau

4. Papur Gwyrdd Gwella cyfleoedd mynediad i'r awyr agored ar gyfer hamdden cyfrifolBu hwn yn ymarferiad sylweddol a gofynnwyd i ymgyngoreion ystyried ystod eang o fodelau posibl ar gyfer mynediad yn amrywio o'r sefyllfa bresennol i fynediad heb gyfyngiad tebyg i'r hyn sy'n bodoli yn yr Alban a gwledydd Llychlyn. Cynhaliodd y Fforwm gyfarfod penodol i ystyried y goblygiadau a chyflwynodd y Cadeirydd ymateb yn adlewyrchu barn a sylwadau'r aelodau. Nid oeddem eisiau gweld newid sylweddol i'r system bresennol ond roeddem yn cefnogi ffyrdd o symleiddio prosesau cyfreithiol a gostwng costau. Cawsom gyngor rhagorol gan Matthew a Ruth a chefnogodd y Fforwm ymateb clir a chynhwysfawr y Sir.

5. Deddf Teithio Llesol 2013Mae'r Sir wedi cyhoeddi'r mapiau oedd eu hangen dan y Ddeddf yn dangos llwybrau presennol o fewn cymunedau yn Sir Fynwy gyda phoblogaeth o dros 2000 sy'n addas ar gyfer teithio llesol. Oherwydd cyfnod byr yr ymgynghoriad, nid yw'r Fforwm wedi cyflwyno ymateb i'r Sir gyfan. Yn hytrach, rhoddodd aelodau gyda gwybodaeth o'r cymunedau dynodedig sylwadau ar y llwybrau presennol a llwybrau newydd arfaethedig.

6. Adolygiad Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (ROWIP)Rydym wedi ystyried y canllawiau a roddodd Cyfoeth Naturiol Cymru i awdurdodau lleol ar gyfer adolygu'r ROWIP presennol a ddaw i ben yn 2017. Mae aelodau'n cefnogi barn y Sir na ddylai'r broses adnewyddu fod mor faith fel ei bod yn ein gadael heb ddogfen yn 2017. Bu cael ROWIP wedi paratoi'n dda yn help sylweddol i gael cyllid ar gyfer amrywiaeth o brosiectau ers 2007. Barn Aelodau yw y dylai'r cynllun newydd osod darlun clir o egwyddorion craidd gyda rhaglen waith dreigl fanwl. Mae consyrn y bydd cynnwys tir o fewn y Parc Cenedlaethol yn y cynllun yn arwain at ddatblygu a thrafodaeth faith gyda'r 8 awdurdod arall sydd hefyd yn ffurfio ardal y Parc. Gwnaeth y Cadeirydd ymateb byr i ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru.

7. BlaenoriaethuRydym wedi adolygu gweithrediad cynllun blaenoriaethu hawliau tramwy y Sir ac edrych ar effaith ar yr ôl-groniad o faterion hawliau tramwy. Fe wnaethom nodi'r dewisiadau anodd a ddaw yn sgil blaenoriaethu adnoddau cyfyngedig ac yn neilltuol effaith materion blaenoriaeth "is" ar lwybrau cymunedol lleol. Credai aelodau y dylid annog Cynghorau Cymuned a phobl leol i ddod yn fwy rhagweithiol. Cydnabu aelodau'r enghreifftiau da o hyn mewn rhannau o'r Sir a chytuno ei bod yn bwysig ceisio lledaenu'r neges yn fwy eang. Bydd y Fforwm yn parhau i dderbyn gwybodaeth ar nifer o faterion sydd ar ôl a'u blaenoriaethau.

6

Page 7: MCC Word Template 2012 - Monmouthshire County … · Web viewHyrwyddo moeseg ac addysg gyrru ar ac oddi ar ffordd. Atgyweiriadau/cynnal a chadw rhagweithiol a gwirfoddol i hawliau

8. Prosiectau a chyllidCawsom wybodaeth ar y gwahanol ffrydiau cyllid a phrosiectau gwella sy'n mynd rhagddynt, yn cynnwys y rhai a gefnogir gan Raglen Gwella Mynediad Arfordirol Cymru, y Grant Cynllun Gwella Hawliau Tramwy, Grant Llwybrau Cenedlaethol ar gyfer Llwybr Clawdd Offa a rhaglen gyfalaf y Cyngor ei hun.

Gwaith a wnaed yn 2015

Rhif

Eitem Yn y Cynllun Drafft neu

Ychwanegol

Pryd y Gwnaed

Aelodaeth

1. Ystyried lleoedd gwag aelodaeth

Adroddiad Blynyddol

Ychwanegol

Ydi

28 Ebrill 2015;9 Medi 2015;

17 Tachwedd 2015

11 Rhagfyr 2014

Cynllun Gwella Hawliau Tramwy

2 Ystyried gwethrediad y Cynllun Blaenoriaethu

Ystyried prosiectau/cyllid yn cynnwys grant ROWIP

Ydi

Ydi

11 Rhagfyr 2104; 28 Ebrill 2015

11 Rhagfyr 2014; 28 Ebrill 2015;

9 Mehefin 2015;9 Medi 2015

Ymgynghoriadau

3. Ystyried ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar wella cyfleoedd i fynediad i'r awyr agored ar gyfer hamdden cyfrifol;

Ymateb i ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru ar ddrafft ganllawiau ar Gynlluniau Gwella Hawliau Tramwy

Ydi

Ydi

9 Medi 2015

17 Tachwedd 2015

Prosiectau Arbennig

7

Page 8: MCC Word Template 2012 - Monmouthshire County … · Web viewHyrwyddo moeseg ac addysg gyrru ar ac oddi ar ffordd. Atgyweiriadau/cynnal a chadw rhagweithiol a gwirfoddol i hawliau

Rhif

Eitem Yn y Cynllun Drafft neu

Ychwanegol

Pryd y Gwnaed

4. Derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar y Cynllun Trafnidiaeth Lleol ac ymgynghoriad Teithio'n Llesol

Ystyried cynnig "Gofal Mons Lane"

Ystyried gwaith deuoli'r A465

Ystyried cynigion newydd yr M4 a'u heffaith posibl ar hawliau tramwy cyhoeddus

Ydi

Ydi

Ydi

Ydi

28 Ebrill 2015;17 Tachwedd 201511 Rhagfyr 2014;

28 Ebrill 2015;17 Tachwedd 2015

11 Rhagfyr 2104

9 Mehefin 2015;9 Medi 2015;

17 Tachwedd 2015

Rhaglen Waith y DyfodolAtodir rhaglen waith y Fforwm ar gyfer y dyfodol i'w ystyried yn ei gyfarfod ar 26 Ionawr 2016 yn Atodiad 2.

Rôl y FforwmMae Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a Pharciau Cenedlaethol sefydlu Fforymau Mynediad Lleol. Mae'r fforymau hyn yn cynghori Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol ac awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol ar ffyrdd y gellid gwella mynediad lleol.

Diben statudol y Fforymau yw cynghori ar wella mynediad y cyhoedd i dir ar gyfer dibenion hamdden awyr agored a mwynhad yr ardaloedd lle cawsant eu sefydlu. Mae'n rhaid i Fforymau Mynediad Lleol roi ystyriaeth i anghenion rheolaeth tir, harddwch naturiol, planhigion, anifeiliaid a nodweddion daearegol a ffisiograffigol.

Mae'n rhaid i'r cyrff dilynol roi ystyriaeth i unrhyw gyngor perthnasol a roddir gan y Fforymau Mynediad Lleol: Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, Awdurdodau Priffyrdd, Cyfoeth Naturiol Llywodraeth Cymru, ac am faterion yn ymwneud ag amddiffyn neu ddiogelwch, yr Ysgrifennydd Gwladol.

Mae'n rhaid i'r fforymau gael cydbwysedd rhwng: Defnyddwyr tir mynediad a hawliau tramwy lleol; a Tirfeddianwyr a defnyddwyr tir mynediad a thir gyda hawliau tramwy.

Caiff pobl gyda diddordebau eraill arbennig o berthnasol i'r ardal eu cynrychioli hefyd.

8

Page 9: MCC Word Template 2012 - Monmouthshire County … · Web viewHyrwyddo moeseg ac addysg gyrru ar ac oddi ar ffordd. Atgyweiriadau/cynnal a chadw rhagweithiol a gwirfoddol i hawliau

Dywed y Rheoliadau fod yn rhaid bod rhwng 12 a 22 aelod, yn cynnwys y Cadeirydd a'r Dirprwy. Yn ychwanegol gall y Cadeirydd wahodd unigolion a sefydliadau eraill i arsylwi a rhoi cyngor.

Caiff aelodau eu penodi gan yr Awdurdod sy'n penodi, yr Awdurdod Priffyrdd lleol neu Awdurdod Parc Cenedlaethol. Cyngor Sir Fynwy yw'r awdurdod sy'n penodi ar gyfer fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy sy'n cynnwys sir weinyddol Sir Fynwy y tu allan i ffiniau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'n cynnwys Ardal Harddwch Eithriadol Dyffryn Gwy o fewn y sir.

Mae tiroedd comin cofrestredig a 1657 cilomedr o hawliau tramwy cyhoeddus cofrestredig o fewn yr ardal. Mae hefyd ddarnau sylweddol o ffyrdd heb eu dosbarthu, sy'n gyfrifoldeb yr Adran Priffyrdd, llawer ohonynt heb wyneb.

Mae gan Gyngor Sir Fynwy ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gytundeb cyfrifoldeb dirprwyedig ar gyfer y rhan fwyaf o agweddau o reoli hawliau tramwy cyhoeddus o fewn y Parc Cenedlaethol.

Cysylltiadau

Ysgrifennydd Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy

Matthew LewisRheolwr Seilwaith Gwyrdd a Chefn GwladTwristiaeth, Hamdden a DiwylliantCyngor Sir FynwyBlwch SP 106Cil-y-coedNP26 9AN

Ffôn: 01633 644855E-bost: [email protected]

Mae agendâu, adroddiadau a chofnodion y Fforwm Mynediad Lleol ar gael ar galendr cyfarfodydd y Cyngor dan y dyddiadau priodol http://www.monmouthshire.gov.uk/home/local-democracy-and-councillors/council-meetings

9

Page 10: MCC Word Template 2012 - Monmouthshire County … · Web viewHyrwyddo moeseg ac addysg gyrru ar ac oddi ar ffordd. Atgyweiriadau/cynnal a chadw rhagweithiol a gwirfoddol i hawliau

Atodiad 1: Aelodau'r Fforwm

ENW DIDDORDEBAU

John ASKEW Gyrru 4x4. Hamdden awyr agored cynaliadwy. Hyrwyddo moeseg ac addysg gyrru ar ac oddi ar ffordd. Atgyweiriadau/cynnal a chadw rhagweithiol a gwirfoddol i hawliau tramwy i gerbydau. Darllen mapiau a chynghori defnyddwyr a grwpiau eraill. Cadw lonydd gwyrdd ar agor ac yn hylaw. Gwaith arolygu a sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn rhwydd ac yn cael ei diweddaru.

Jenny BARRELL Fel cerddwraig frwd, seiclwraig a marchogwraig, rwy'n credu'n gryf nad oes mwy o her na sicrhau y gall cenedlaethau'r dyfodol fwynhau ein hamgylchedd naturiol.

Pat BELSTEN Mae gennyf ddiddordeb yn "lles" cefn gwlad yn cynnwys y buddion iechyd i bawb; hefyd fel cominwr, mae gennyf ddiddordeb mewn tir comin.

Joanne BOLWELL Rwyf wedi sefydlu grŵp cerddwyr ac yn dewis llwybr misol i'w ddilyn. Sefydliad gynllun yn ysgol fy mab i annog disgyblion i gerdded yng nghefn gwlad a maes o law gwblhau Her Fawr y Mynydd Du.

Irene BROOKE Ffarmwraig gyda diddordebau mewn busnesau lleol a thwristiaeth. Cerddwraig frwd yn Sir Fynwy a rhannau eraill o Brydain. Cerdded cŵn, marchogwraig a ffotograffydd. Planhigion ac anifeiliaid cwm Angiddy. Aelod o'r CLA, NFU a Grwp Dolydd Sir Fynwy.

Paul CAWLEY Cadwraeth/datblygu Cors Magwyr GWT - yn ymwneud yn y prosiect llygod dŵr, arweinydd grŵp ieuenctid "byddin bywyd gwyllt" a darlithydd cefn gwlad. Aelod o Gyngor Cymuned Magwyr gyda Gwndy yn gwasanaethu ar eu gweithgor parciau a gofodau agored. Aelod o Gynghrair Amddiffyn Llifogydd Gwastatir Gwent yn ymgyrchu i liniaru risg llifogydd i Wastatir Gwent. Cadwraeth, saethu gêm, adar gwyllt.

Stella COLLARD Gwirfoddolydd a thywysydd gyda Chymdeithas Ddinesig Brynbuga, Cyfeillion Castell Brynbuga ac Amgueddfa Bywyd Gwledig Brynbuga. Cyd-olygydd Llwybr Tref Brynbuga. Tyddynwraig gyda llwybrau troed a safle bywyd gwyllt lleol sy'n mwynhau cerdded. Aelod o Grŵp Dolydd Sir Fynwy ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent.

Richard DAVIES (Cadeirydd)

Mae llawer o fy niddordebau yn ymwneud â defnyddio hawliau tramwy a thir mynediad. Mae hyn yn cynnwys cerdded, seiclo a rhedeg. Rwy'n gweithio gyda grŵp yn codi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer Water Aid, Hefyd gwella fy Nghymraeg, fy ngwybodaeth o hanes mwyngloddio a dilyn rygbi Cymru.

Andrew JAMES (ymddiswyddoddEbrill 2015)

Materion i'r anabl a chefn gwlad yn gyffredinol.

Allen THOMAS Cerdded cefn gwlad a bryniau. Cadw gwenyn. Criced a rygbi (edrych). Hawlio.

Anne UNDERWOOD (Dirprwy Gynghorydd)

Marchogwraig am y rhan fwyaf o fy mywyd, gwirfoddolwr gyda Chymdeithas Ceffylau Prydain i hyrwyddo a gwella darpariaeth mynediad i farchogwyr. Yn frwd iawn ar gerdded ac ymchwilio cefn gwlad. Hanes lleol, hybu iechyd, yoga.

Ann WEBB Cynghorydd Tyndyrn. Penodwyd fel cynrychiolydd y Cyngor Sir.

9

Page 11: MCC Word Template 2012 - Monmouthshire County … · Web viewHyrwyddo moeseg ac addysg gyrru ar ac oddi ar ffordd. Atgyweiriadau/cynnal a chadw rhagweithiol a gwirfoddol i hawliau

Atodiad 2: Rhaglen Waith y DyfodolEitem Cefndir Trefniadau AdroddEitemau safonol:Mesurau perfformiad Cynnwys mewn adroddiad diweddaru Adroddiad rheolaidd

i'r FforwmCyllid Cynnwys mewn adroddiad diweddaru Adroddiad rheolaidd

i'r FforwmYmgynghoriadau Ymatebion i Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Fynwy ac ymgynghoriadau

eraill fel bo angenAdroddiad i'r Fforwm

Gweithgorau:Llwybrau caniatâd Tir Gofal / Glastir

Adroddiadau fel bo angen Is-grŵp/Adroddiad i'r Fforwm

Datblygu/Cyllid Allanol/Teithio Lleol

Adroddiadau fel bo angen Is-grŵp/Adroddiad i'r Fforwm

Eitemau Rhaglen WaithHyfforddiant Cynhaliwyd sesiwn hyfforddiant ddechreuol ar 23 Medi 2014 yn Neuadd y Sir,

Trefynwy. Ailsesiwn i'w chytuno ar gyfer rhai a fethodd fynychu.Sesiynau hyfforddi

Papur Gwyrdd - Rhaglen Ddeddfu

Disgwyl ymateb i ymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd gan Lywodraeth Cymru Adroddiadau i'r Fforwm yn y dyfodol

Cynhyrchu Adroddiad Blynyddol Adroddiad terfynol y Fforwm cyfredol i'w baratoi ym mis Tachwedd 2016Cofnodion Priffyrdd a Hawliadau

Ystyried cynnydd a wneir ar adolygu gweithdrefnau, protocolau a chofnodion, yn cynnwys Gorchymyn Addasu Map Diffiniol, Rhestr Strydoedd, Cofnodion Priffyrdd a Chofnodion Map Diffiniol

Trafod cefndir mewn hyfforddiant/adroddiadau i'r Fforwm yn y dyfodol

System Blaenoriaethu Adolygu'r Fforwm ar 11 Rhagfyr 2014 a 28 Ebrill 2016 a bydd y Fforwm yn cynnal adolygiad cyffredinol ar weithrediad y system blaenoriaethu

Adroddiadau i'r Fforwm yn y dyfodol

Gwirfoddoli Diweddaru/adolygu Adroddiadau i'r Fforwm yn y dyfodol

10

Page 12: MCC Word Template 2012 - Monmouthshire County … · Web viewHyrwyddo moeseg ac addysg gyrru ar ac oddi ar ffordd. Atgyweiriadau/cynnal a chadw rhagweithiol a gwirfoddol i hawliau

Cyfoeth Naturiol Cymru Diweddariad Cyfoeth Naturiol Cymru Adroddiadau i'r Fforwm yn y dyfodol

Teithio Llesol Canlyniadau ymgynghoriad ar y map rhwydwaith presennol Adroddiadau i'r Fforwm yn y dyfodol

M4 newydd Ystyriaeth o'r Drafft Orchmynion i'w gyhoeddi ar 10 Mawrth 2016 (i gynnwys ystyried is-grŵp os bydd angen gyda Fforwm Mynediad Lleol Casnewydd)

Adroddiad i'r Fforwm yn y dyfodol

Cynnyrch a Gwefannau Cerdded

Ystyried ac adolygu'r sefyllfa bresennol Adroddiad i'r Fforwm yn y dyfodol

Cynllun Gwella Hawliau Tramwy

Gweithdrefnau ac amserlen ar gyfer ei adolygu Adroddiad i'r Fforwm yn y dyfodol

10