sut i riportio troseddau casineb

12
RHESWM PAM DDYLECH CHI SUT I RIPORTIO TROSEDDAU CASINEB

Upload: stonewall-cymru

Post on 01-Apr-2016

222 views

Category:

Documents


0 download

DESCRIPTION

 

TRANSCRIPT

Page 1: Sut i Riportio Troseddau Casineb

RHESWM PAM DDYLECH CHI

SUT I RIPORTIO TROSEDDAU CASINEB

Page 2: Sut i Riportio Troseddau Casineb

1 PEIDIWCH Â DIODDE’N DAWELHyd yn oed yn yr unfed ganrif ar hugain, mae pobl yn dal i gael eu cam-drin neu’n wynebu ymosodiadau, dim ond achos eu bod nhw’n hoyw, yn ddu, yn Fwslim, yn drawsrywiol, yn anabl ... Os oes rhywun yn gweiddi arnoch chi, yn eich bygwth, yn eich curo, yn fandaleiddio eich car neu yn eich twyllo am arian, mae eich targedu dim ond achos eich bod yn wahanol yn anghyfiawn, ac mae angen ei atal.

OS YDYCH CHI WEDI CAEL EICH TARGEDU, MAE’R CANLLAW YMA YN DWEUD WRTHYCH:

• sut y cewch eich diogelu• ble i fynd am gymorth• sut a pham y dylech ei riportio (hyd yn oed os nad

ydych chi’n poeni rhyw lawer)

Page 3: Sut i Riportio Troseddau Casineb

2 BETH YW ‘TROSEDD CASINEB’ BETH BYNNAG?Yn y bôn, mae ‘trosedd casineb’ yn golygu y bydd rhywun yn gallu cael dedfryd drymach os byddan nhw’n troseddu yn eich erbyn oherwydd eich hil, eich cyfeiriadedd rhywiol, eich crefydd, eich hunaniaeth rhywedd neu’ch anabledd.

Does dim rhaid i chi brofi eu bod nhw’n eich casáu chi, dim ond eu bod nhw’n elyniaethus. Os bydd achos yn mynd i’r llys, bydd y barnwr neu’r ynadon yn ystyried a oedd yr unigolyn yn elyniaethus tuag atoch chi oherwydd eich bod yn Sikh, yn ddall, yn Bwyliad neu beth bynnag (neu am eu bod nhw’n meddwl eich bod chi) cyn penderfynu ar y ddedfryd.

Page 4: Sut i Riportio Troseddau Casineb

3 GRYM GEIRIAU …Gobeithio ein bod ni i gyd yn gwybod y dylen ni riportio trais corfforol, ond mae llawer o bobl yn profi aflonyddu neu gam-drin geiriol ac yn ei ddiystyru. Mae geiriau’n gallu bod yr un mor niweidiol, ac mae’n gallu arwain at rywbeth gwaeth.

Mae hefyd yn gallu bod yn drosedd. Felly os clywch chi ddieithryn yn annog pobl eraill yn gyhoeddus i gasáu pobl hoyw, neu os bydd cymydog yn aflonyddu arnoch gan fod gennych anabledd dysgu, neu gydweithiwr yn postio sylwadau gwrth-Semitaidd ar eich tudalen Facebook, riportiwch nhw.

Page 5: Sut i Riportio Troseddau Casineb

4 PAM TRAFFERTHU?Dyma’r gwir: fydd yr heddlu ddim yn gallu gwneud dim byd am bobl ac achosion oni bai eu bod nhw’n gwybod amdanyn nhw. Rydyn ni i gyd yn gwybod y gallai’r unigolyn sy’n gweiddi sylwadau gwrth-Semitaidd, trawsffobaidd neu hiliol ar y stryd heddiw fod yn gwneud rhywbeth mwy difrifol yn y dyfodol os ydyn nhw’n credu y byddan nhw’n gallu osgoi cael eu cosbi. Os nad yw’r heddlu’n gwybod beth sy’n digwydd, fyddan nhw ddim yn gallu atal pethau rhag gwaethygu. Felly dywedwch wrthyn nhw.

Hyd yn oed os nad ydych chi’n siwr a yw’n drosedd mewn gwirionedd.

ˆ

Page 6: Sut i Riportio Troseddau Casineb

5 PWY FFONIWCH CHI?Os ydych chi’n teimlo eich bod chi mewn perygl brys, ffoniwch 999 (stopiwch ddarllen y canllaw yma a ffoniwch yr heddlu ar unwaith!).

Os nad yw’n fater brys, gallwch chi ffonio’r heddlu drwy ddeialu 101 unrhyw amser o’r dydd neu’r nos.

Gwnewch yn siwr eich bod chi’n dweud wrthyn nhw eich bod chi’n credu bod y digwyddiad yn drosedd casineb, ac esbonio pam eich bod chi’n teimlo hyn. Wnaeth y drwgweithredwyr ddweud neu wneud rhywbeth i wneud i chi feddwl ei fod? Gawsoch chi eich targedu yn rhywle penodol – y tu allan i’ch Mosg, neu’n agos i’ch safle Teithwyr, er enghraifft? Neu a oedd rhywbeth arall? Beth bynnag yw e, gwnewch yn siwr bod yr heddlu yn ei nodi!

ˆ

ˆ

Page 7: Sut i Riportio Troseddau Casineb

6 PAID Â BOD OFNMae’n deg dweud bod yr heddlu wedi gwneud camgymeriadau yn y gorffennol, felly mae’n bosibl eich bod yn poeni na fyddan nhw’n cymryd troseddau casineb o ddifrif. Ond erbyn heddiw does dim modd i’r heddlu eich trin chi’n annheg oherwydd eich bod chi’n Asiaidd neu’n lesbiad neu beth bynnag.

Mewn rhai ardaloedd mae swyddogion arbennig ar gyfer edrych i mewn i droseddau casineb, felly os hoffech chi, gofynnwch a allwch chi siarad ag un. Mae’n bosibl bod ganddyn nhw swyddog cymunedol penodol hefyd, er enghraifft swyddog cyswllt LHDT.

Page 8: Sut i Riportio Troseddau Casineb

7 AC OS NAD YDYCH CHI AM FYND AT YR HEDDLU …Mae ffyrdd eraill o riportio’r hyn sydd wedi digwydd. Mae gwefan arbennig ar gyfer riportio troseddau casineb (yn ddienw os hoffech chi) yn www.reporthate.victimsupport.org.uk.

Os dymunwch chi, mae’r wefan yn gallu pasio’r wybodaeth ymlaen at yr heddlu er mwyn iddyn nhw ymchwilio i’r achos.

Neu siaradwch â rhywun arall rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw, fel eich gofalwr, eich gweithiwr cymdeithasol, eich athro neu eich rheolwr.

Page 9: Sut i Riportio Troseddau Casineb

8 CAEL CYMORTHUnwaith y byddwch wedi riportio trosedd, fe ddylech chi glywed gan Gymorth i Ddioddefwyr. Maen nhw’n helpu gyda phethau ymarferol fel cloeon sydd wedi torri, neu’n gallu cynnig rhywun i chi siarad â nhw.

Os bydd rhywun yn cael eu cyhuddo, fe ddylech chi glywed gan eich Uned Gofal Tystion leol. Eu gwaith nhw yw eich cefnogi chi yn ystod yr achos, ac fe fyddan nhw’n gallu ateb unrhyw gwestiynau fydd gennych.

Page 10: Sut i Riportio Troseddau Casineb

9 APELIO YN Y LLYSOs bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn mynd â’ch achos i’r llys, byddan nhw’n ceisio gwneud pethau mor hawdd â phosibl i chi. Efallai y byddan nhw’n gadael i chi roi tystiolaeth o’r tu ôl i sgrin neu drwy gyswllt fideo, neu’n rhoi cyfyngiadau ar y cyfryngau os ydych chi’n poeni am gael eich adnabod.

Efallai y bydd modd i chi ddefnyddio dolen sain neu gyfieithydd os bydd angen un arnoch chi, neu gael rhywun i’ch helpu chi i ateb y cwestiynau yn y llys os oes gennych anabledd dysgu.

Gofynnwch i’ch cyswllt yn yr Uned Gofal Tystion am ‘fesurau arbennig’.

Page 11: Sut i Riportio Troseddau Casineb

10 PEIDIWCH Â BOD OFN GWNEUD CWYNMae angen adborth ar gyrff cyhoeddus er mwyn gwneud gwelliannau – dim ond os byddan nhw’n gwybod bod pethau’n mynd o’i le y byddan nhw’n gallu gwneud pethau’n well – a bydd ganddyn nhw broses ar gyfer ymdrin â chwynion (a byddan nhw’n ei chyhoeddi yn y dderbynfa neu ar eu gwefan). Felly os nad ydych chi’n hoffi’r ffordd mae’r heddlu neu bobl eraill yn eich trin, nodwch enw’r unigolyn neu ei rif adnabod.

Os ydych chi wedi cael profiad da gyda’r heddlu, dywedwch wrth bobl. Bydd hyn yn rhoi hyder i bobl fynd at yr heddlu os ydyn nhw’n profi trosedd casineb.

Page 12: Sut i Riportio Troseddau Casineb

Felly, i grynhoi … Mae cael eich targedu oherwydd eich bod yn wahanol yn annerbyniol. Mae riportio pob digwyddiad yn helpu’r heddlu i ddelio â drwgweithredwyr. Mae’n hawdd ac yn llai arswydus na mae pobl yn ei feddwl.

Ffoniwch 999 mewn argyfwng

Ffoniwch 101 i siarad â’ch heddlu lleol

Riportiwch ddigwyddiadau ar-lein yn www.reporthate.victimsupport.org.uk

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

stonewallcymru.org.uk @StonewallCymru

08000 50 20 20

victimsupport.org.uk @VictimSupport

08456 121 900

Dyluniwyd gan www.soapbox.co.uk