swyddog partneriaethau awdurdodau lleol (hylendid bwyd)...yr asiantaeth safonau bwyd: pecyn ar gyfer...
TRANSCRIPT
Swyddog Partneriaethau
Awdurdodau Lleol (Hylendid
Bwyd)
2
Teitl y Swydd Swyddog Partneriaethau Awdurdodau Lleol (Hylendid Bwyd) 2 Rôl: 1 x Parhaol, 1 x Penodiad Cyfnod Penodol (2 flynedd – gyda'r posibilrwydd o fod yn swydd barhaol)
Ystod cyflog £33,625 – £42,031 (Cenedlaethol) Ar gyfer unigolion sy'n newydd i'r Gwasanaeth Sifil, y cyflog dechreuol fydd yr isafswm cyflog ar gyfer y swydd. Fodd bynnag, gellir cytuno ar gyflog cychwynnol uwch yn amodol ar sgiliau a phrofiad. Bydd cyflog Gweision Sifil presennol yn cael ei gyfrifo yn unol â rheolau'r adran ar drosglwyddo/tâl wedi dyrchafiad. Sylwer nad oes cynnydd awtomatig o fewn yr ystod cyflog a hysbysebir. Rydym ni'n adolygu ein cyflog yn flynyddol yn unol â Pholisi Tâl y Gwasanaeth Sifil.
Lleoliad Caerdydd (ynghyd â rhywfaint o weithio gartref) neu yn y Cartref ac yn gallu teithio'n rheolaidd yn unol ag anghenion busnes (ac aros dros nos o bosibl)
Buddion Pensiwn hael, lleiafswm o 25 diwrnod o wyliau blynyddol (yn codi i 30 ar ôl 5 mlynedd), gweithio hyblyg, cynlluniau disgownt a chymhelliant.
3
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd: Pecyn ar gyfer Ymgeiswyr
Amdanom ni
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru wedi ymrwymo i wella diogelwch a safonau bwyd a bwyd anifeiliaid ac i ddiogelu iechyd y boblogaeth mewn perthynas â bwyd. Ei nod yw bod y cyhoedd yng Nghymru yn ymddiried ynddi fel y ffynhonnell fwyaf dibynnol o gyngor a gwybodaeth am fwyd, gan roi blaenoriaeth i fuddiannau defnyddwyr yng Nghymru gydag unrhyw benderfyniadau polisi.
Diolch am eich diddordeb yn y swyddi Swyddogion Partneriaethau Awdurdodau Lleol (Hylendid Bwyd) yn yr ASB yng Nghymru. Rydw i'n chwilio am unigolion proffesiynol ac uchelgeisiol i ymuno â'r tîm.
Rydw i wedi bod yn yr ASB ers dros 5 mlynedd ac wedi mwynhau fy amser yn gweithio i sefydliad blaengar, modern a gwerth chweil. Rwy'n Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd Siartredig ac mae gen i brofiad o weithio mewn amrywiaeth o feysydd iechyd yr amgylchedd mewn llywodraeth leol.
Yn ystod fy nghyfnod yn yr ASB, rydw i wedi bod yn rhan o ystod o brosiectau cyffrous ac wedi elwa o'r cyfleoedd dysgu a datblygu rhagorol sydd ar gael i staff.
Os oes gennych chi'r cymhwyster, y sgiliau a'r profiad ar gyfer
y swydd hon, byddwn i wir yn croesawu'ch cais i ymuno â'm
tîm yn yr ASB. Edrychaf ymlaen at weld eich cais yn dod i law.
Y Tîm
Daniel Morelli Rheolwr y Bartneriaeth ag
Awdurdodau Lleol
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd: Pecyn ar gyfer Ymgeiswyr
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd: Pecyn ar gyfer Ymgeiswyr
Fel Swyddog Partneriaethau Awdurdodau Lleol, chi fydd y prif bwynt cyswllt rhwng yr ASB a swyddogion awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae awdurdodau lleol yn bartneriaid allweddol wrth gyflawni amcanion yr ASB.
Mae partneriaethau Awdurdodau Lleol yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu a chynnal perthynas waith agos gydag awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae hyn yn bwysig er mwyn sicrhau bod gan awdurdodau lleol fynediad parod at gefnogaeth a chyngor mewn perthynas â chyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, Codau Ymarfer Cyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid, y Cytundeb Fframwaith a chanllawiau a gyhoeddir yn ganolog. Mae angen perthynas agos hefyd i sicrhau bod datblygiad polisi'r ASB yn cael ei lywio gan brofiad o gyflenwi. Yn gyffredinol, mae gofyn sicrhau cysondeb wrth ddehongli a gweithredu deddfwriaeth ledled Cymru.
Fel Swyddog Partneriaethau Awdurdod Lleol (Hylendid Bwyd), byddwch chi'n gyfrifol am sicrhau bod gan awdurdodau lleol fynediad parod at gefnogaeth a chyngor mewn perthynas â chyfraith bwyd, Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd, Cytundeb Fframwaith a chanllawiau a gyhoeddir yn ganolog i sicrhau y caiff gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd eu gweithredu’n effeithiol ac yn seiliedig ar risg. Byddwch chi hefyd yn cyfrannu at ddatblygu a gweithredu mentrau polisi ar draws ystod eang o feysydd gwaith, gan gynnwys rheoli diogelwch bwyd, sefydliadau cymeradwy, hylendid pysgod cregyn, cosbau gorfodi yn ogystal â rhaglenni gwaith allweddol, megis prosiectau a ariennir gan yr ASB ar gyfer awdurdodau lleol sydd wedi'u hanelu at wella cydymffurfiaeth busnesau bwyd.
Yn ogystal â meddu ar gymhwyster proffesiynol a gydnabyddir yn y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd ar gyfer cynnal rheolaethau hylendid bwyd swyddogol, bydd gennych chi ddealltwriaeth gynhwysfawr ac ymarferol o gyfraith bwyd a'r system reoleiddio ar gyfer cyflwyno rheolaethau swyddogol. Bydd angen i chi hefyd fod â sgiliau cyfathrebu rhagorol a phrofiad amlwg o weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid i gyflawni amcanion busnes. Mae sefydlu a chynnal partneriaethau agos gyda swyddogion awdurdodau lleol yn hanfodol er mwyn cyflawni'r rôl hon yn effeithiol.
Prif gyfrifoldebau'r rôl
• Sefydlu a chynnal perthynas waith agos ac effeithiol gyda swyddogion awdurdodau lleol ar bob lefel i sicrhau bod amcanion cyffredin yn cael eu cyflawni'n gyson ar draws Cymru.
• Rhoi cymorth a chyngor o ddydd i ddydd i awdurdodau lleol ar faterion gorfodi, gan gynnwys dehongli a gweithredu deddfwriaeth, y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd, canllawiau'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd statudol a chanllawiau eraill a gyhoeddir yn ganolog.
• Cyfrannu at ddatblygu polisi'r ASB gan sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hystyried, rhoi mewnbwn i'r Tîm Rheoli Gweithredol a phapurau Bwrdd yr ASB a chymryd rhan yng nghyfarfodydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC), yn ôl yr angen.
• Chwarae rôl allweddol wrth sicrhau y caiff canfyddiadau archwiliadau awdurdodau lleol yr ASB eu gweithredu mewn ffordd gyson, effeithiol, effeithlon a chymesur.
• Cyfrannu at ddatblygu ac adolygu'r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd, canllawiau a gwybodaeth mewn perthynas â bwyd a sicrhau bod polisïau'r ASB sy'n ymwneud â meysydd gwaith perthnasol yn cael eu cyfathrebu'n effeithiol i awdurdodau lleol yng Nghymru.
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd: Pecyn ar gyfer Ymgeiswyr
• Cynorthwyo i gydlynu ymweliadau archwilio'r Comisiwn Ewropeaidd a gwledydd eraill â Chymru, gan gysylltu â swyddogion awdurdodau lleol a chydweithwyr yr ASB wrth baratoi ac yn ystod archwiliadau, ac mewn unrhyw weithgarwch dilynol i fynd i'r afael ag unrhyw argymhellion.
• Darparu cymorth gorfodi a chymorth technegol i gydweithwyr mewn ymateb i hysbysiadau o ddigwyddiadau.
• Ymgysylltu â chydweithwyr yn yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban a phobl eraill sydd â diddordeb e.e. awdurdodau lleol, y diwydiant, cydweithwyr mewn adrannau llywodraethol eraill i sicrhau bod rheolaethau swyddogol ar fwyd yn effeithiol, yn seiliedig ar risg ac yn gymesur.
• Bod yn gyfoes â datblygiadau deddfwriaethol, technegol a phroffesiynol sy'n berthnasol i fwyd.
• Cyfrannu at baratoi cyflwyniadau a rhoi cyngor i Weinidogion Cymru a phwyllgorau perthnasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac ymateb i ohebiaeth gan Weinidogion.
• Cyfrannu at anghenion busnes cyffredinol yr ASB yng Nghymru trwy gymryd rhan mewn gweithgorau a chyfarfodydd mewnol ac allanol, rhoi cyflwyniadau i grwpiau a sefydliadau ar bynciau perthnasol yn ôl yr angen, a chynorthwyo i drefnu a chyflwyno seminarau ac arddangosfeydd.
• Rhoi gwybodaeth a chyngor proffesiynol ar faterion sy'n gysylltiedig â bwyd i gydweithwyr yr ASB, awdurdodau lleol, adrannau eraill y llywodraeth a Gweinidogion Cymru.
• Cyfrannu at ddatblygu a gweithredu Cynllun Strategol yr ASB, Cynllun Busnes Lefel Uchel Cymru a'r Cynllun Tîm.
• Goruchwylio a rheoli staff o fewn y tîm sy'n is na gradd SEO.
Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr, efallai y bydd gofyn bod yn hyblyg a newid ar gyfer
anghenion busnes.
7 Yr Asiantaeth Safonau Bwyd: Pecyn ar gyfer Ymgeiswyr
Ein pwrpas Rydym ni'n adran annibynnol o'r llywodraeth sy'n gweithio ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Rydym ni’n sicrhau bod bwyd yn ddiogel, ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Cliciwch i ddarganfod rhagor am ein strategaeth.
Ein gwerthoedd Cynhyrchodd ein staff chwe gwerth sy'n
cynrychioli pwy ydym ni, sut yr ydym ni'n ymddwyn
a sut yr ydym ni'n trin ei gilydd. Caiff y gwerthoedd
hyn eu cynrychioli gan yr acronym ASPIRE yn Saesneg, fel a ganlyn:
Atebol (Accountable) – Rydym ni'n cymryd cyfrifoldeb am ein gweithredoedd a gallwn
ddwyn ein gilydd i gyfrif
Wedi ein cefnogi (Supported) – Mae gennym ni'r sgiliau, yr adnoddau a'r gefnogaeth i
gyflawni ein rolau yn effeithiol
Proffesiynol (Professional) – Rydym ni'n gymwys ac yn hyderus yn ein gallu i gyflawni'r
safonau proffesiynol uchaf
Arloesol (Innovative) – Rydym ni'n ystwyth, yn ddeinamig ac yn flaengar yn ein hymagwedd
at gyflawni canlyniadau
Gwydn (Resilient) – Rydym ni'n addasu yn gyflym ac yn effeithiol i newidiadau cyflym
Wedi ein grymuso (Empowered) – Gallwn arwain a gwneud penderfyniadau sy'n gwella ein canlyniadau busnes
Cyfleoedd gyrfa Rydym ni'n falch o'n hanes cadarn wrth annog staff i ddatblygu eu gyrfaoedd. Rydym ni'n annog ac yn disgwyl i'n staff ymgymryd â hyfforddiant a datblygu, ac rydym ni’n cynnig cyfleoedd gyrfa rhagorol o fewn yr ASB a rhwydwaith ehangach y Gwasanaeth Sifil.
9 Yr Asiantaeth Safonau Bwyd: Pecyn ar gyfer Ymgeiswyr
Mae angen cyflwyno ceisiadau drwy glicio ar y botwm 'Gwneud cais nawr' (Apply
now) o fewn y brif hysbyseb. Bydd yn eich tywys at y ffurflen gais, lle gallwch chi
nodi'r holl wybodaeth angenrheidiol.
Mae'r swydd wag hon yn defnyddio 'Proffiliau Llwyddiant' y Gwasanaeth Sifil ac fe gewch eich
asesu yn erbyn elfennau Technegol, Profiad ac Ymddygiadau'r Fframwaith.
Meini prawf Manyleb Person a asesir wrth sifftio a chyfweld
Meini prawf a asesir wrth lunio rhestr fer
Yn ystod y cam sifftio, byddwn ni'n llunio rhestr fer yn erbyn y meini prawf hanfodol a nodir isod
ac ar dudalen 10. Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi'n glir (gydag enghreifftiau), o fewn eich
datganiad addasrwydd, sut rydych chi'n bodloni pob un o'r meini prawf. Dylai eich datganiad
addasrwydd (dim mwy na 1200 o eiriau) hefyd fanylu ar yr hyn sy'n eich denu i'r rôl.
Os bydd nifer fawr o geisiadau'n dod i law, efallai y cynhelir sifft gychwynnol gan ddilyn y prif faen
prawf hanfodol a nodir yn unig.
Meini Prawf Hanfodol
Technegol • Cymhwyster proffesiynol cydnabyddedig sy'n bodloni gofynion Cod Ymarfer
Cyfraith Bwyd (Cymru) ar gyfer perfformio rheolaethau swyddogol (prif faen
prawf hanfodol)
Profiad
• Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar ardderchog, y gallu i gyflwyno syniadau a
gwybodaeth gymhleth yn glir ac yn gryno
Cais Sifft Cyfweliad
• Hanes eich gyrfa
• Cymwysterau
• Datganiad addasrwydd
• Rhoi ymgeiswyr ar restr
fer i'w cyfweld yn erbyn
y meini prawf hanfodol
a dymunol a
hysbysebwyd
• Cyfweliad panel yn asesu
elfennau Technegol ac
Ymddygiad
10 Yr Asiantaeth Safonau Bwyd: Pecyn ar gyfer Ymgeiswyr
• Profiad ymarferol amlwg, a dealltwriaeth gynhwysfawr ogyflwyno hysbysiadau
cyfreithiol, casglu tystiolaeth, paratoi achosion i'w herlyn a chymhwyso
gwybodaeth i gydymffurfio â gofynion Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth
Droseddol 1984
• Profiad amlwg o gymryd cyfrifoldeb dros gyflawni canlyniadau o ansawdd uchel
i derfynau amser tynn heb lawer o oruchwyliaeth
• Sgiliau trefnu profedig, gan gynnwys y gallu i flaenoriaethu llwythi gwaith a
chydbwyso gofynion sy'n gwrthdaro i fodloni terfynau amser
• Profiad o weithio mewn partneriaeth ag ystod o randdeiliaid i greu a chynnal
perthynas waith gadarnhaol, broffesiynol lle mae'r ddwy ochr yn ymddiried yn
ei gilydd
Meini Prawf Dymunol
Technegol • Aelodaeth o gorff proffesiynol perthnasol a thystiolaeth o ymrwymiad i
ddatblygiad proffesiynol parhaus
Profiad
• Profiad o orfodi cyfraith hylendid bwyd mewn sefyllfa awdurdod lleol
• Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig
Bydd ymddygiadau ond yn cael eu hasesu yn y cyfweliad – nid oes angen i chi ddarparu
datganiadau Ymddygiad yn eich cais
Asesiad yn y cyfweliad
Gwahoddir ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer i gyfweliad. Bydd y broses ddethol olaf yn cynnwys
cyfweliad yn eich asesu yn erbyn yr Ymddygiadau isod ar lefel 3 (SEO) Fframwaith 'Proffil
Llwyddiant' y Gwasanaeth Sifil.
Ymddygiadau
• Gweld y Darlun Cyflawn
• Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
• Cyfathrebu a Dylanwadu
• Gweithio Gyda'n Gilydd
• Datblygu Hunan ac Eraill
• Cyflawni'n Brydlon
11 Yr Asiantaeth Safonau Bwyd: Pecyn ar gyfer Ymgeiswyr
Amserlen ddisgwyliedig Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 26 Chwefror 2019 (23.59)
Sifft: Wedi'i gynllunio ar gyfer 27/28 Chwefror a 1 Mawrth 2019
Cyfweliadau: Wedi'u cynllunio yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 11 Mawrth 2019 yng Nghaerdydd.
Ymholiadau Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach neu os oes angen eglurhad ar unrhyw bwyntiau,
cysylltwch â:
Daniel Morelli, Rheolwr y Bartneriaeth ag Awdurdodau Lleol, drwy anfon e-bost at:
neu Sue Milligan, Rheolwr Adnoddau, ar [email protected]
Rhagor o wybodaeth
Mae rhagor o fanylion am yr ASB, a'n gwaith, i'w gweld ar www.food.gov.uk/cy
Gallwch glywed gan ein staff sut beth yw gweithio yn ASB Cymru: Cymraeg | Saesneg
Rhagor o wybodaeth am yr ASB 13
Pan fyddwch chi'n cyflwyno'ch cais ar-lein, byddwch yn cael neges i gadarnhau
hynny. Os na fyddwch chi’n cael y neges hon neu os ydych chi'n cael unrhyw
broblemau wrth gyflwyno'ch cais, anfonwch e-bost at
[email protected] a bydd aelod o'r Tîm Recriwtio yn delio
â'ch ymholiad. Cofiwch gynnwys cyfeirnod a theitl y swydd yn y llinell bwnc.
Os ydych chi'n ymgeisydd sy'n dymuno
gwneud cais o dan ein Cynllun Cyfweliad
Gwarantedig, gwnewch yn siŵr eich bod yn
nodi hyn yn y ffurflen gais. Os bydd angen
unrhyw addasiad arnoch i'ch helpu chi i
gyflwyno eich cais, anfonwch e-bost at
bydd aelod o'r Tîm Recriwtio
yn delio â'ch cais.
Bydd ymgeiswyr sy'n llwyddo yn y cyfweliad,
fel rhan o'r broses sgrinio cyn cyflogi, yn
destun gwiriad ar y Gronfa Ddata Twyll
Mewnol. Bydd y gwiriad hwn yn rhoi
gwybodaeth am weithwyr sydd wedi'u
diswyddo am droseddau twyll neu
anonestrwydd. Mae'r gwiriad hwn hefyd yn
berthnasol i weithwyr sy'n ymddiswyddo
neu'n gadael fel arall cyn cael eu diswyddo
am dwyll neu anonestrwydd pe bai eu
cyflogaeth wedi parhau. Gwrthodir
cyflogaeth i unrhyw ymgeisydd y mae ei
fanylion yn cael eu cadw ar y Gronfa Ddata
Twyll Mewnol.
Caiff ymgeiswyr llwyddiannus eu dethol i'r
Gwasanaeth Sifil yn ôl teilyngdod, ar sail
cystadleuaeth deg ac agored, fel yr amlinellir
yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y
Gwasanaeth Sifil.
Os ydych chi o'r farn nad yw'ch cais wedi cael
ei drin yn unol ag Egwyddorion Recriwtio
Comisiwn y Gwasanaeth Sifil a'ch bod am
wneud cwyn, dylech anfon e-bost at Jo
Bushnell, Pennaeth Pobl a Datblygiad,
Asiantaeth Safonau Bwyd drwy:
[email protected] yn y lle cyntaf. Os
nad ydych chi'n fodlon â'r ymateb a gewch
gan yr Asiantaeth, gallwch gysylltu â
Chomisiwn y Gwasanaeth Sifil.
Gellir dod o hyd i wybodaeth fanylach ar
wefan Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.
Rydym ni'n cydymffurfio â'r holl
ddeddfwriaeth berthnasol i ddiogelu data fel
rhan o'n proses recriwtio. Cymerwch gip ar
ein hysbysiad preifatrwydd sy'n rhoi gwybod
i chi pam ein bod ni'n gofyn am ddata
personol yr ymgeisydd, yr hyn yr ydym ni'n ei
wneud ag ef ac am ba hyd yr ydym ni'n
cadw'r wybodaeth.