sylw ar adal wrecsam

16
Wrecsam Gwanwyn 2012 Sylw ar ardal Diwrnod 999 Cymunedau yn Gyntaf Hightown Hefyd yn y rhifyn hwn... Prosiect cynhwysiant ariannol gwobredig DVD ‘My home - every penny counts’ Preswylwyr gwobredig Preswylwyr Wrecsam yn ennill Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth a TPAS

Upload: sharon-buckley

Post on 29-Mar-2016

258 views

Category:

Documents


0 download

DESCRIPTION

Wales & West Housing Association's newsletter for the Wrexham area (Cymraeg)

TRANSCRIPT

Page 1: Sylw ar adal Wrecsam

WrecsamGwanwyn 2012

Sylw ar ardal

Diwrnod 999 Cymunedau yn Gyntaf Hightown

Hefyd yn y rhifyn hwn...

Prosiect cynhwysiant ariannol gwobredigDVD ‘My home - every penny counts’Preswylwyr gwobredigPreswylwyr Wrecsam yn ennill Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth a TPAS

Page 2: Sylw ar adal Wrecsam

2www.wwha.net

Sylw ar ardal Wrecsam – Gwanwyn 2012

Croeso i rifyn gwanwyn 2012 Sylw ar ardal Wrecsam

Plant yn mwynhau ymwelydd annisgwyl yn Niwrnod 999 Cymunedau yn Gyntaf Hightown

Nid oes angen i mi ddweud fod pawb ohonom yn parhau i wynebu amodau economaidd heriol iawn, ac yn awr yn fwy nag erioed, rydym yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau rhagorol i gwsmeriaid, cefnogi arloesi i gwrdd â galw, ac yn syml, mynd y fi lltir ychwanegol i helpu ein preswylwyr a’u cymunedau i helpu eu hunain.

Rydym yn ymroddedig i fod yn wyrdd, i helpu ein preswylwyr ymdrin â phroblemau yn ymwneud ag arian, a chael cymaint â phosibl ohonyn nhw i ddefnyddio’r we fyd eang. Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid amrywiol er mwyn helpu pobl i gael gwaith neu hyfforddiant, naill ai o’r newydd neu ailafael yn yr hyn roedden nhw’n ei wneud yn fl aenorol.

Yna, mae ein datblygiadau diweddaraf yn y busnes, gan gynnwys newyddion am ein rhaglen ddatblygu sy’n werth £101 miliwn, ein strategaeth newydd

ar Gyfranogiad Preswylwyr, a sut rydym yn mynd ati i hunanasesu. Ac rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu dweud wrthych chi ein bod ni wedi cael ein cydnabod fel sefydliad nid-er-elw gorau Cymru yn rhestr cwmnïau gorau 2012 y Sunday Times.

Felly, rydw i’n gobeithio y gwnewch chi roi pum munud o’ch amser i ddarllen y dafl en newyddion hon, ac y bydd yn ddefnyddiol ac yn addysgiadol yn eich golwg chi.

Yn olaf, rydym yn gwerthfawrogi eich adborth bob amser, felly peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni i ddweud wrthym beth yw eich barn ar ‘Sylw ar...’, y newyddion sydd ynddo, neu unrhyw agwedd arall ar ein busnes.

Anne HincheyPrif Weithredwr

Page 3: Sylw ar adal Wrecsam

3www.wwha.net

Sylw ar ardal Wrecsam – Gwanwyn 2012

Rhagor o gartrefi fforddiadwy i ardal WrecsamMae datblygu rhagor o gartrefi fforddiadwy, cynaliadwy o safon uchel i bobl Cymru yn un o’n blaenoriaethau pennaf, ac yn Wrecsam rydym yn llawn cyffro ein bod ni’n cydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gynllun £15 miliwn i ailddatblygu ardaloedd Kingsmills Road a Rivulet Road.

Bydd y datblygiad hwn yn darparu 147 tŷ a rhandy fforddiadwy â deiliadaeth gymysg i’r gymuned, gan gynnwys cartrefi penodol ar gyfer pobl hŷn, ynghyd â chanolfan gymunedol a chyfl euster meddygol. Rydym wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer cynllun Rivulet Road, a disgwylir un Kingsmills Road yn gynnar yn 2012. Mae disgwyl i’r gwaith ddechrau’n fuan, a’n nod yw y bydd y gwaith wedi ei gwblhau o fewn 18 mis.

Mae dymchwel ac ailadeiladu Canolfan Gymunedol Hightown yn rhan o ddatblygiad Kingsmills Road, a’r gwaith yn cael ei oruchwylio ar y cyd â’r pwyllgor rheoli presennol, ac mae aelodau newydd yn cael eu recriwtio ar hyn o bryd. Y bwriad yw y bydd y gymuned leol yn gwneud y ganolfan newydd yn fan bywiog sy’n cael ei ddefnyddio’n dda. Mae cyfarfodydd agored yn cael eu cynnal yn barhaus gyda’r pwyllgor a defnyddwyr y gwasanaeth, gyda’r un nesaf yn cael ei gynnal ar 27 Mawrth.

Rydym yn hyderus y bydd preswylwyr a chyfl enwyr lleol ar eu hennill yn uniongyrchol yn sgil y datblygiad hwn. Mae’r cyfl eoedd cyfl ogaeth a hyfforddi lleol a fydd yn cael eu creu yn cael eu hyrwyddo gyda’r datblygwr a phartneriaid i sicrhau’r budd mwyaf posibl i’r gymuned leol.

Gan fod disgwyl y bydd diddordeb mawr yn y datblygiad hwn, mae safl e blog wedi cael ei greu i roi gwybod i ddarllenwyr am ddatblygiadau.

Gellir gweld manylion ar http://hightownfl ats.com

Ailddatblygu Ysgol y Ponciau, Wrecsam

Bydd y cynllun hwn, a gwblhawyd yn ddiweddar ac sy’n werth £2.65 miliwn, yn darparu 15 o gartrefi teuluol newydd (tri byngalo a 12 tŷ) ynghyd â llety i gwrdd ag anghenion tai pump o bobl sydd ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig, a llety i’w gofalwyr hefyd.

Ysgol y Ponciau

Page 4: Sylw ar adal Wrecsam

4www.wwha.net

Sylw ar ardal Wrecsam – Gwanwyn 2012

...parhad

Mae rhaglen ddatblygu gyfredol WWHA, sy’n werth £101 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd, yn cynnwys prosiectau arloesol ar gyfer preswylwyr sydd ag awtistiaeth ac anawsterau dysgu, ynghyd â thai anghenion cyffredinol a chyfleusterau gofal ychwanegol. Mae’r rhaglen yn cael ei chefnogi gan £15 miliwn o grant tai cymdeithasol gan awdurdodau lleol sy’n bartneriaid â ni a chan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Pennaeth Datblygu WWHA, Nikki Cole: “Er bod y maes tai i deuluoedd yn rhywbeth y mae gan WWHA gryn brofiad ac arbenigedd ynddo, rydym hefyd yn cydweithio ag awdurdodau lleol ledled Cymru i gwrdd ag anghenion pobl leol sydd ag anawsterau dysgu ac awtistiaeth.

“Rydym yn edrych ymlaen at y cyfle i ddarparu atebion tai i gwrdd ag amrywiaeth eang o ofynion tai. Mae cyllid grant i gynorthwyo datblygu tai cymdeithasol newydd yn brin, ond er hynny, mae’r Gymdeithas wedi llwyddo i sicrhau cyllid er mwyn helpu i ddatblygu amrywiaeth o gyfleoedd ym maes tai yn yr ardaloedd lle’r ydym yn gweithredu.”

Parhau i fuddsoddi yn ein heiddoYn ystod chwe mis olaf 2011, fe wnaethom wario £5.7 miliwn ar ailwampio ein cartrefi ledled Cymru, ac rydym wrth ein bodd ein bod ni’n debygol o gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2012.

Rydym hefyd yn buddsoddi £1.2 miliwn yn rhagor mewn rhaglen fawr i adnewyddu ffenestri, gan gynnwys £209,000 yn ardal Wrecsam, a ddylai wneud ein cartrefi yn fwy cyfforddus, yn gynhesach, yn rhatach i’w gwresogi ac yn llai tebygol o fod angen gwaith cynnal a chadw drud yn y dyfodol agos.

Rydym wedi buddsoddi £1.3 miliwn yn adnewyddu ceginau mewn dros 400 o gartrefi, gan gynnwys mwy na deg yn ardal Wrecsam. Drwy Gymru gyfan, rydym wedi buddsoddi dros £600,000 yn ailwampio ystafelloedd ymolchi, pump ohonyn nhw yn Wrecsam, a hynny ar gost o £10,000. Fe wnaethom hefyd wario £116,000 yn rhagor ar waith arall, fel gosod wyneb newydd ar lwybrau, gosod ffensys ac atgyweiriadau cyffredinol eraill.

Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol

Mae WWHA wedi cael trafodaethau llwyddiannus gyda CAIS mewn ymgais i ddod o hyd i lety amgen â chymorth i breswyliwr yn ardal Wrecsam sydd â phroblemau iechyd meddwl ac a oedd yn methu a rheoli ei denantiaeth.

Roedd hysbysiad wedi cael ei roi i ddiweddu’r Denantiaeth Ddechreuol, ond cytunodd y Gymdeithas i beidio â chymryd camau cyfreithiol pe byddai modd dod o hyd i lety amgen.

Page 5: Sylw ar adal Wrecsam

5www.wwha.net

Sylw ar ardal Wrecsam – Gwanwyn 2012

Prosiect cynhwysiant ariannol gwobredig

Rydym yn falch o fod yn aelod o Bartneriaeth Cynhwysiant Ariannol Gogledd Cymru, sydd wedi ennill dwy wobr genedlaethol fawreddog yn ddiweddar am eu DVD ‘My Home…making every penny count’:

1. Gwobr Hyrwyddo Annibyniaeth 2011 – Gwobr Cynnwys Defnyddwyr Gwasanaeth 2011

2. Gwobr MoneyActionNet 2011

Mae’r DVD ‘My Home.. making every penny count’ yn cynnig dull arloesol o fynd i’r afael â materion ariannol o ddydd i ddydd y gallai tenant eu hwynebu wrth ddechrau ar denantiaeth gyda landlord cymdeithasol.

Mae’r ffilm yn archwilio’r dulliau ‘da’ a ‘drwg’ o ymdrin ag arian, ac yn amlygu peryglon cymryd agwedd

‘ddiofal’ at gyllid y cartref. Mae hefyd yn rhoi syniadau ymarferol ynghylch sut y gellir arbed arian ac osgoi dyledion.

Yn neilltuol, mae’n amlygu sgil effeithiau benthyca gan fenthycwyr anghyfreithlon a ffynonellau eraill o fenthyca ar gost uchel.

Mae’r DVD ar gael i bob preswyliwr tai cymdeithasol newydd yng ngogledd Cymru.

Mae gan y Bartneriaeth gynrychiolwyr o holl gymdeithasau tai gogledd Cymru:

• Cartrefi Cymunedol Gwynedd• Cartrefi Conwy• Cymdeithas Tai Clwyd Alyn• Cymdeithas Tai Gogledd Cymru• Cymdeithas Tai Clwyd• Cymdeithas Tai Eryri• Cymdeithas Tai Wales & West

Prosiect SARTHYng ngogledd ddwyrain Cymru, mae’r prosiect mynediad unigol at dai (SARTH) yn ceisio gwneud mynediad at dai cymdeithasol mor effeithlon, cyson a theg â phosibl.

Mae’n brosiect ar y cyd rhwng awdurdodau lleol Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, a Chymdeithasau Tai Gogledd Cymru, Tai Clwyd, Clwyd Alyn, Cartrefi Conwy a Wales & West.

Mae holl aelodau cyfredol y bartneriaeth wedi cytuno i gydweithio ar fframwaith cyffredin i ddyrannu tai

a rhoi cyngor, ynghyd â gosod nodau ac amcanion, yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol.

Yn y cyfamser, mae grŵp llywio’r prosiect wedi recriwtio swyddog datblygu’r prosiect, Nicholas Weatherall, sy’n cael ei gyllido ar y cyd gan yr holl bartneriaid ac sy’n dod dan ofal Cymdeithas Tai Wales & West, i gydlynu datblygu fframwaith ddyrannu gyffredin.

Mae’r prosiect yn bwriadu peilota’r fframwaith cyffredin yn 2013.

Page 6: Sylw ar adal Wrecsam

6www.wwha.net

Sylw ar ardal Wrecsam – Gwanwyn 2012

Take Ctrl

Mae Take Ctrl yn fenter cynhwysiant digidol sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o dechnolegau digidol, ynghyd â darparu hyfforddiant ar sut i’w defnyddio, fel modd o fynd i’r adael â chynhwysiant ariannol ledled gogledd Cymru.

Mae wedi cael ei dargedu’n benodol at dri o’r pedwar grŵp blaenoriaeth a nodwyd ym mhrosiect Cymunedau 2.0.

Fel mae’r teitl yn ei awgrymu, nod y prosiect yw galluogi pobl i wneud dewisiadau gwybodus a rheoli eu cyllid yn well. Y nod eithaf yw sicrhau fod allgau digidol, ariannol a chymdeithasol yn cael ei leihau; tryfalu’r dull o ddelio â’r tri pheth hyn, a sicrhau fod y sail resymegol ar gyfer defnyddio technolegau digidol i roi terfyn ar dlodi yn rhan ganolog o feddylfryd y rhai a gaiff fudd o’r prosiect – o dimau datblygu polisi cymdeithasau tai, staff rheng flaen a staff eraill, i’w tenantiaid, a’r gymuned ehangach yn wir.

Lluniwyd y cynnig gan gonsortiwm o aelodau o saith cymdeithas tai sy’n gwasanaethu gogledd Cymru – rhyngddyn nhw, mae gan y cymdeithasau stoc tai ar hyd a lled y gogledd, ac mae ganddyn nhw enw da am gydweithio’n

llwyddiannus ar fentrau tebyg.

Bydd y prosiect yn cael ei gynnal ledled gogledd Cymru.

Prif ran y prosiect yw’r syniad o gyflogi swyddog cynhwysiant digidol am gyfnod o ddwy flynedd, dan ofal WWHA, a byddai ei amser yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng y sefydliadau a’u tenantiaid perthnasol. Yn fras, bydd gwaith y swyddog yn ymgorffori cydlynu (ac weithiau darparu) hyfforddiant uniongyrchol a chodi ymwybyddiaeth; cywain gwybodaeth a chyfeirio pobl at wybodaeth sydd eisoes yn bod am dechnoleg ddigidol; dyfeisio a chadw at strategaethau marchnata a gwirfoddoli; meithrin cysylltiadau, a sefydlu sawl perthynas at y dyfodol.

Er mai menter dwy flynedd sy’n cael ei chynnig, o’r dechrau un mae’r partneriaid wedi bod yn ystyried ei gynaladwyedd, ac yn gweld hyn fel cam cyntaf prosiect llawer mwy cynhwysol a allai ymuno â phrosiectau sydd eisoes yn bod yn lleol, gan sicrhau partneriaid newydd o’r sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector, a chreu model ar gyfer delio ag allgau a allai gael ei ail-greu yn rhywle arall.

Page 7: Sylw ar adal Wrecsam

7www.wwha.net

Sylw ar ardal Wrecsam – Gwanwyn 2012

Gweithgareddau mentrus Sylvester Court

Mae grŵp o breswylwyr sydd newydd gael ei ffurfio wedi cael darn o dir yng nghynllun er ymddeol SylvesterCourt, Hightown, lle mae’r preswylwyr eisoes yn cynnal clwb cinio.

Maen nhw’n bwriadu datblygu’r tir i dyfu a chyflenwi cynnyrch i’r clwb cinio ac i’w werthu i’r preswylwyr yn y lle cyntaf.

Mae’r preswylwyr yn dweud eu bod nhw’n anelu at ddod yn fenter gymdeithasol yn y dyfodol, ar ôl mynd ar gwrs mentrau cymdeithasol yng ngwanwyn 2012 yn Trafford Hall. Bydd llysiau, ffrwythau, salad, perlysiau, planhigion a blodau yn cael eu tyfu gan breswylwyr a gwirfoddolwyr, a fydd hefyd yn gyfrifol am reoli’r

prosiect.

Mae’r grŵp yn galw eu hunain yn Grŵp Preswylwyr Gwirfoddolwyr Gardd Gymunedol Sylvester Court, ac mae’r aelodau wedi cael yswiriant drwy gynllun gan Lywodraeth Cymru a’r elusen Cadwch Gymru’n Daclus.

Mae Cadwch Gymru’n Daclus a gwirfoddolwyr o wasanaeth Prawf Cymru nawr yn helpu i glirio’r tir a sefydlu’r ardd. Mae Age Concern a Chymunedau yn Gyntaf Hightown hefyd yn cefnogi’r prosiect, ochr yn ochr â WWHA.

Mae rhai o aelodau’r grŵp hefyd yn bwriadu agor yr ardd pan fydd hi ar ei gorau, fel bod y gymuned leol ac ymwelwyr o fannau pellach draw yn gallu galw draw.

O’r chwith: Shane Hughes – Cadwch Gymru’n Daclus, Val Groves (un o breswylwyr Sylvester Court), Peter Whitaker (un o breswylwyr Sylvest-er Court), Raf – Prawf Cymru, Richard Purton – Prawf Cymru

Page 8: Sylw ar adal Wrecsam

8www.wwha.net

Sylw ar ardal Wrecsam – Gwanwyn 2012

Diwrnod 999 Cymunedau yn Gyntaf Hightown

Daeth dros 80 o breswylwyr i’r Diwrnod Cymunedol 999 a drefnwyd gan Gymunedau yn Gyntaf Hightown.

Roedd y gweithgareddau yn cynnwys paentio wynebau, castell neidio, trampolinau, bws hwyl y Gwasanaeth Tân, car yr heddlu, gweithgareddau chwarae, bad achub yr RNLI a llawer o stondinau gwybodaeth.

Fe wnaeth y preswylwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol wedi eu hanelu at ddysgu mwy am faterion diogelwch yn y gymuned, fel galwyr diwahoddiad, safonau masnach, diogelwch ar y ffordd, diogelwch yn y cartref, gwarchod cymdogaeth a hefyd dysgu mwy am waith y gwasanaeth tân, Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru, gwasanaeth alcohol a chyffuriau i bobl ifanc,

Cymorth i Ddioddefwyr, RNLI a’r Llu Awyr Brenhinol.

Dywedodd Pauline Vickers, Cydgysylltydd Cymunedau yn Gyntaf Hightown, “Braf iawn oedd gweld y preswylwyr yn mwynhau wrth ddysgu mwy am faterion diogelwch y gymuned.

“Cafodd pobl gyfle i eistedd mewn car heddlu, ymuno ar lein â Gwarchod y Gymdogaeth a threfnu gwiriad diogelwch tân yn y cartref, dysgu mwy am Gymdeithas Tai Wales and West, ynghyd â lliwio eu hwynebau a rhoi cynnig ar y castell neidio.

“Roedd adborth y preswylwyr yn hynod o gadarnhaol ac rydym wirioneddol yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a gawn gan ein hasiantaethau partner. Diolch.”

Swyddog Arian WWHA, Les Cooper, yn helpu plant lleol gyda chyngor ar arian

Page 9: Sylw ar adal Wrecsam

9www.wwha.net

Sylw ar ardal Wrecsam – Gwanwyn 2012

Preswylwyr gwobredig

Fe wnaeth rhai o breswylwyr stad Barracksfield yn Wrecsam ennill gwobr bwysig yn 2011 gan y Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid.

Cafodd Cymdeithas Tenantiaid Barracksfield Wobr Prosiect Cyfranogiad Tenantiaid 2011 am eu menter, a gododd dros £64,000 i adeiladu man gemau aml ddefnydd ar y stad yn Hightown.

Ac mae tri phreswyliwr wedi ennill gwobrau pwysig am eu hymdrechion yn ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth blynyddol.

Cafodd y garddwyr brwd, Andrew a Deana Taylor o Glos Scotts,

Marchwiail, Wrecsam, eu henwi fel enillwyr Gwobr Garddwyr Gorau Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2011, a noddwyd gan Bushmede Ltd, un o’r contractwyr sy’n bartneriaid i WWHA.

Bonnie Price, sy’n 23 oed, a enillodd ein Gwobr Dechrau o’r Newydd 2011, a noddwyd gan grŵp Graham, un arall o’r contractwyr sy’n bartneriaid i WWHA, am wyrdroi ei bywyd ar ôl brwydro yn erbyn iselder.

Roedd Sian Hope, un o breswylwyr Barracksfield, hefyd ar restr fer categori Gwobr Arwr Lleol David Taylor 2011, am ei hymroddiad a’i pharodrwydd i roi o’i hamser er budd eraill.

Rhai o breswylwyr Barracksfield, John Williams, Shannon, sy’n 6 oed, a Lauren, sy’n 15 oed, gyda Mair Edwards, Cymdeithas Tai Clwyd

Page 10: Sylw ar adal Wrecsam

10www.wwha.net

Sylw ar ardal Wrecsam – Gwanwyn 2012

Mae’r Gymdeithas newydd ddod â blwyddyn arall o berfformiad ariannol cryf i ben.

Yn gyntaf, fel rhan o fframwaith reoleiddio newydd Llywodraeth Cymru, cawsom radd pasio am farn hyfywdra ariannol, sef y radd uchaf sy’n cael ei dyfarnu, ac mae hynny’n dangos bod gennym ddigon o adnoddau i gwrdd ag ymrwymiadau busnes ac ariannol sydd gennym ar hyn o bryd ac a fydd gennym yn y dyfodol.

Yn ail, mae ein canlyniadau am y flwyddyn yn dangos gwarged a llif arian rhydd a chadarnhaol. Mae hyn wedi ein galluogi i fuddsoddi dros £30 miliwn dros y tair blynedd ddiwethaf yn ein cartrefi presennol i

wella ansawdd ein cartrefi.

Gyda £10 miliwn yn rhagor o fuddsoddiad ar y gweill eleni, rydym yn debyg iawn o gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn y dyddiad targed, sef 2012.

Yn barod, mae gennym £35 miliwn o fuddsoddiadau ar gyfer datblygiadau’r dyfodol. A ninnau wedi dechrau rheoli 165 cartref newydd eu datblygu yn ystod eleni yn unig, mae gennym gynlluniau i ddod â 600 yn rhagor i’n portffolio dros y 5 mlynedd nesaf. I wneud hyn, byddwn angen cyllid pellach, ac rydym yn gwneud cynnydd da at y nod, gyda geriad isel a phortffolio mawr o gartrefi o ansawdd uchel sydd heb eu sicrhau ar ein llyfrau.

Perfformiad ariannol cryf gan WWHA

Achub morgeisiMae ein cynllun achub morgeisi ynparhau i gael effaith gadarnhaol ar fywydau cymaint o ddeiliaid sydd mewn perygl o weld eu cartref yn cael ei adfeddiannu.

Rydym ymysg nifer prin o gymdeithasau sy’n gweithredu cynllun rydym yn ei gyllido ein hunain, nawr bod yr arian grant gan Lywodraeth Cymru wedi dod i ben.

Mae galw sylweddol o hyd am y gwasanaeth, ac rydym yn ymrwymedig i barhau â’r cynllun achub morgeisi er mwyn helpu i leihau digartrefedd.

Hyd yn hyn, rydym wedi buddsoddi dros £2 miliwn yn y cynllun.

Hyd heddiw, mae WWHA wedi:

• Prynu 31 cartref yn gyfan gwbl – lle mae’r preswylwyr wedi dod yn denantiaid i ni. Mae hyn yn cynnwys 3 cartref a brynwyd heb grant fel rhan o gynllun y talwyd amdano gan y Gymdeithas. Mae 4 teulu arall wedi derbyn cynnig o gymorth fel rhan o’r cynllun hwn.

• Cwblhau 26 benthyciad i alluogi’r preswylwyr i aros yn eu cartrefi fel perchnogion

Am ragor o wybodaeth ynghylch ein cynllun achub morgeisi, ffoniwch y rhif rhadffôn 0800 052 2526 Neu ewch i: www.wwha.net/OurServicesMortgageRescue/

Page 11: Sylw ar adal Wrecsam

11www.wwha.net

Sylw ar ardal Wrecsam – Gwanwyn 2012

Gwobrau yn grynoErs ein rhifyn blaenorol o ‘Sylw ar...’, rydym wedi ennill y gwobrau canlynol:

• Cwmnïau Gorau 2012 y Sunday Times. Yn 2012, enwyd WWHA fel sefydliad nid-er-elw gorau Cymru, gan gyrraedd yr 8fed safle, i fyny o safle 14 yn 2011.

Yn ogystal, ni oedd yr unig gymdeithas Tai o Gymru i gael gwobr tair seren y Cwmnïau Gorau – gwobr a chwenychir yn fawr.

“Rydw i wedi gwirioni ein bod ni wedi cael ein cydnabod fel sefydliad nid-er-elw gorau Cymru, ac ein bod ni ymysg y deg cwmni nid-er-elw gorau yn y Deyrnas Unedig. Mae cyrraedd y raddfa uchaf o dair seren yn wych,” meddai Anne Hinchey.

“Rydym yn ymfalchïo ein bod yn gwmni sy’n cael ei yrru gan werthoedd – bod yn deg, agored, cefnogol, effeithlon a chyfrifol – tuag at ein staff, yn ogystal â phawb rydym yn gweithio gyda nhw ac yn gweithio ar eu cyfer.

• Roeddem wrth ein bodd yn WWHA pan gawsom ein henwi ymysg y 30 Cwmni mwyaf caredig at deuluoedd yn y Deyrnas Unedig gan Working Families, sefydliad sy’n ymgyrchu dros gydbwysedd rhwng bywyd hamdden a gwaith. Roeddem yn un o ddau sefydliad o Gymru a gafodd le ar y rhestr, sy’n llawn cwmnïau o’r radd flaenaf.

• Fe wnaeth ein Prosiect Digartrefedd Rhagor o Ddewisiadau yn Stoneleigh Manor, ar y cyd â Chyngor Sir Powys, ennill Gwobr Comisiynu Da Hyrwyddo

Annibyniaeth 2011 Cymorth Cymru. Cafodd y prosiect hwn le ar restr fer Gwobr Tai Cymru CIH am ‘wneud y defnydd gorau o stoc.”

• Fe wnaeth Fforwm Cynhwysiant Ariannol Gogledd Cymru, yr ydym yn aelod ohono, ennill Gwobr 2011 Hyrwyddo Annibyniaeth Cynnwys Defnyddwyr y Gwasanaeth am y DVD My Home… ‘Making Every Penny Count’. Ers hynny, mae’r DVD wedi ennill ail wobr – Gwobr MoneyActionNet 2011 gan y darparwyr gwybodaeth am weithredu cymdeithasol, Lemos & Crane.

• Mae preswylwyr WWHA wedi cael dwy wobr gan TPAS Cymru. Fe wnaeth y grwpiau o Gwm Garw, Pen-y-bont ar Ogwr, a stad Barracksfield yn Wrecsam, ddod i’r brig mewn cystadleuaeth gref gyda grwpiau landlordiaid cymdeithasol eraill yng Nghymru.

• Cafodd ein Prosiect Adfywio Ecogyfeillgar ar Powell Road yn Sir y Fflint le ar restr fer Gwobr Tai CIH y Deyrnas Unedig am Gyflawniad Eithriadol yng Nghymru.

• Cafodd ein cynllun er ymddeol, Sydney Hall Court yng Nghei Connah, sy’n cael ei redeg gan y rheolwr cynllun Rob Holmes, ei gynnwys ar restr fer Gwobr Cartref Caredig i Anifeiliaid Anwes y Flwyddyn y Cinnamon Trust.

• Rydym wedi cael Safon Aur Ôl Troed Tai RSPCA.

Page 12: Sylw ar adal Wrecsam

12www.wwha.net

Sylw ar ardal Wrecsam – Gwanwyn 2012

Mentrau ecogyfeillgar

Rydym yn ymroddedig i fod yn wyrdd drwy ein holl sefydliad, ynghyd â chefnogi ein preswylwyr i allu mwynhau manteision niferus bod yn garedig i’r amgylchedd. Rydym hefyd newydd basio archwiliad blynyddol y Ddraig werdd, gan gyrraedd Lefel 2.

Rydym yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o brosiectau, dan arweiniad Owen Jones, ein Swyddog Amgylchedd a Chynaladwyedd.

Rydym wedi bod yn gosod Pympiau Gwres o’r Ddaear yng Nghlos Pontganol, Llangynidr, ynghyd â safl eoedd ychwanegol yng Nghrughywel, Llanfair Caereinion a’r Ffl int. Mae’r rhain yn brosiectau arloesol, sy’n mynd i gael effaith fawr ar helpu preswylwyr i arbed arian ar eu biliau ynni.

Mae rhai preswylwyr ym Maes yr Onnen, Crughywel, yn talu rhwng

£150 a £200 y mis ar eu biliau trydan, ac maen nhw nawr yn mynd i elwa ar ffenestri newydd, inswleiddio gwell a phympiau gwres o’r ddaear. Bydd camau pellach, fel tynnu eu cawodydd trydan a rhoi cawodydd cymysgu yn eu lle, hefyd yn helpu i leihau eu biliau.

Mae pympiau gwres o’r ddaear ymysg y systemau gwresogi dŵr domestig mwyaf cynaliadwy sydd ar gael ar hyn o bryd, a bydd preswylwyr ar eu hennill drwy gael rheolaeth well ar eu systemau gwresogi. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd gwneud hynny’n arbed arian iddyn nhw.

Yn y llun gwelir y twll turio cyntaf yng Nghlos Pontganol ar gyfer gosod pympiau gwres o’r ddaear.

Bydd un o’r 10 twll turio yn mynd tua 200 metr i lawr (tua 600 troedfedd).

Page 13: Sylw ar adal Wrecsam

13www.wwha.net

Sylw ar ardal Wrecsam – Gwanwyn 2012

Mae prosiectau eraill yn cynnwys:

• Newid tanwydd• Parhau i dreialu dyfeisiau

optimeiddio foltedd • Gweithio gydag Asiantaeth

yr Amgylchedd i ddatblygu cynlluniau llifogydd ar gyfer y cartrefi sydd gennym a allai gael eu heffeithio.

Rydym hefyd wedi buddsoddi dros £15,000 o’n Cronfa Amgylcheddol mewn 29 prosiect ledled Cymru. Mae’r rhain i gyd yn brosiectau dan arweiniad preswylwyr, sydd wedi gwneud cais am gyllid ar lawr gwlad.

Mae prosiectau yn cynnwys datblygu gerddi bioamrywiaeth, gosod gwelyau wedi’u codi ar gyfer plannu hygyrch, prynu hadau,

cyfarpar, tai gwydr a chyfarpar arall.

Rydym yn gweithio’n galed yn barhaus i sicrhau ein bod ni’n defnyddio ac yn ymgorffori technolegau sy’n garedig i’r amgylchedd lle bynnag y medrwn ni ym mhob agwedd ar ein datblygiadau newydd, ynghyd â’n rhaglenni ailwampio.

Er hynny, yn anffodus, mae ansicrwydd ynghylch cyllid wedi arwain at orfod oedi ein cynlluniau i osod paneli PV solar ar doeau ein cartrefi addas. Digwyddodd hyn yn sgil ffactorau y tu hwnt i’n rheolaeth, ac rydym ymysg nifer o ddarparwyr tai cymdeithasol eraill yn y Deyrnas Unedig sydd yn yr un sefyllfa.

Yn y llun, gwelir yr hen storfa fi niau yn Western Court, Pen-y-bont ar Ogwr, sydd wedi cael ei thrawsffurfi o erbyn hyn yn dŷ gwydr, diolch i gyfraniad o £200 gan Gronfa Amgylcheddol WWHA.

Page 14: Sylw ar adal Wrecsam

14www.wwha.net

Sylw ar ardal Wrecsam – Gwanwyn 2012

Uwchraddio sgiliau gyda Cymunedau 2.0 a Take Ctrl

Mynediad band eang Wi-fi i breswylwyr hŷn

Rydym yn ymrwymedig i ddarparu mynediad band eang WiFi ym mhob un o’n 100 o gynlluniau i bobl hŷn ledled Cymru o fewn y ddwy flynedd nesaf, gan fuddsoddi £1 miliwn yn y prosiect.

Rydym eisoes yn gweithio ar gynllun peilot yn Nhŷ Pontrhun, un o’n cynlluniau er ymddeol ym Merthyr Tudful, mewn partneriaeth â’r darparwr o Gymru, Boynes. Bydd pedair llinell, llwybryddion a chyfnerthyddion ar waith yn y cynllun o fis Mawrth 2012 ymlaen, gan alluogi pob preswyliwr i lwytho i lawr 1MG yr un. Bydd y gost i’r preswylwyr yn swm fforddiadwy iawn, sef £1 y cartref fesul wythnos.

Rydym hefyd yn cydweithio â nifer o bartneriaid i uwchraddio sgiliau unrhyw un o’n preswylwyr, beth bynnag fo eu hoedran neu eu profiad blaenorol, fel eu bod nhw’n gallu mwynhau manteision technoleg ddigidol.

Ym Merthyr Tudful, rydym yn gweithio gyda Cymunedau 2.0 ar brosiect Connect Merthyr. Mae hwn yn cefnogi pobl hŷn sydd eisiau dysgu sut i ddefnyddio amrywiaeth o blatfformau ar y rhyngrwyd, gan gynnwys e-bost, Skype, peiriannau chwilio, Twitter a YouTube. Mae hefyd

yn eu helpu i ddefnyddio amrywiaeth o gyfarpar digidol arall, gan gynnwys ffonau symudol, camerâu a chamerâu fideo.

Daeth Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt, ar ymweliad â’r prosiect yn ddiweddar, i weld dros ei hunan yr effaith anhygoel o gadarnhaol y mae’n ei gael ar ei gyfranogwyr hŷn. Yn ogystal, yng ngogledd Cymru, rydym yn cyflogi Jen Bailey, cydlynydd Prosiect Take Ctrl. Mae hon yn bartneriaeth rhwng saith cymdeithas tai, gan gynnwys WWHA. Am ragor o fanylion, ewch i: www.takectrl.org

Hunanasesu a chynllunio ar gyfer y dyfodolFel cymaint o gymdeithasau tai eraill, rydym yn cynnal ymarferion hunanasesu trylwyr i weld pa mor dda rydym yn perfformio, ac i’n helpu ni i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Rydym bob amser yn croesawu adborth adeiladol ynghylch unrhyw agwedd ar ein busnes, ein heiddo, neu’r gwasanaethau rydym yn eu darparu.

Am ragor o wybodaeth ynghylch ein cynlluniau a’n proses hunanasesu, ewch i: www.wwha.net/AboutUs/CorporateInformation/Performance/InspectionInformation

Page 15: Sylw ar adal Wrecsam

15www.wwha.net

Sylw ar ardal Wrecsam – Gwanwyn 2012

Cyfl eoedd cyfl ogaeth a hyfforddiantRydym yn parhau i gydweithio â’n contractwyr ac eraill i ddarparu gwaith a hyfforddiant i bobl yn nifer o’r cymunedau lle’r ydym yn gweithio.

Mae Donna Samuel yn un o ddau sydd wedi dychwelyd i weithio a gafodd swyddi parhaol gyda WWHA diolch i JobMatch, Pen-y-bont ar Ogwr. Yn ddiweddar, fe wnaeth Donna gyfarfod â Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones (yn y llun isod) mewndigwyddiad Iechyd a Lles lleol, a manteisiodd ar y cyfl e i egluro sut roedd dod o hyd i waith llawn amser wedi trawsnewid ei bywyd.

Mae nifer o’n contractwyr wedi cyfl ogi prentisiaid o ganlyniad i’r gwaith rydym yn ei gomisiynu. Mae enghreifftiau eraill o’r modd rydym yn cefnogi pobl i ddychwelyd i weithio yn cynnwys:

• Gweithio gyda JobMatch i hyfforddi dau Ymgynghorydd Ynni pwrpasol, a fydd yn lledaenu’r gair ymysg preswylwyr am sut i gael y bargeinion gorau ar danwydd a’r ffordd orau i dorri costau.

• Cefnogi ein contractwyr a chyfl enwyr i greu prentisiaethau mewn gwaith trydanol a gosod ffenestri.

• Creu lleoliadau gwaith drwy’r Ganolfan Byd Gwaith a Rhaglen Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau.

• Ac rydym yn ymchwilio i’r cyfl eoedd y gallem eu creu drwy ailgylchu.

Strategaeth Newydd ar Gyfranogiad Preswylwyr Rydym wedi diweddaru ein strategaeth ar Gyfranogiad Preswylwyr. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.wwha.net/NR/rdonlyres/6C6733C0-FA83-4302-912C-F846D2D3C68F/0/InTouchWinter20112.pdf

Neu, gallwch ddarllen y strategaeth lawn yn: www.wwha.net/NR/rdonlyres/10FD0DC5-E4DD-4B9C-9FC0-EF0F5A83AA1B/0/WHALTPS2011.pdf

Page 16: Sylw ar adal Wrecsam

16www.wwha.net

Sylw ar ardal Wrecsam – Gwanwyn 2012

Cate Porter, Rheolwr Tai (Anghenion Cyffredinol) 01352 [email protected]

Wales & West Housing Association is registered as a charitableassociation under the Industrial and Provident Societies Act 1965 No. 21114R

Cysylltiadauallweddol

Prif Swyddfa3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam,

Tremorfa, CaerdyddCF24 2UD

Ffôn: 0800 052 2526Ffacs: 029 2041 5380

Gwefan: www.wwha.net

Swyddfa’r FflintUned 2 Parc Busnes AcornAber Road, Y Fflint, Sir y FflintCH6 5YN

E-bost: [email protected]: 0800 052 5205Dilynwch ni ar @WWHA

Anne Hinchey, Prif Weithredwr029 2041 5335

[email protected]

Tony Wilson, Cyfarwyddwr Cyllid029 2041 [email protected]

Shayne Hembrow, Cyfarwyddwr Gweithrediadau029 2041 5362

[email protected]

STRATEGOL

Lynnette Glover, Pennaeth Tai029 2041 5365

[email protected]

Anne Caloe, Rheolwr Tai (Tai er Ymddeol / Tai â Chymorth)01352 736323

[email protected]

Mae Cymdeithas Tai Wales & West wedi ei chofrestru fel cymdeithas elusennol dan Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus 1965, Rhif 21114R

Nikki Cole, Pennaeth Datblygu029 2041 4093

[email protected]

Steve Porter, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo 029 2041 [email protected]

D AT B LY G U G WASA N A E T H AU E I D D O

TAI