uned 1
DESCRIPTION
Uned 1. Cefndir. Defnyddia Gareth Miles dri phrif gymeriad y ffilm sef Branwen, Kevin a Mathonwy, sy’n perthyn i’r un teulu, i gynrychioli brwydro mewn tair gwlad sef Iwerddon, Cymru a Bosnia. - PowerPoint PPT PresentationTRANSCRIPT
Defnyddia Gareth Miles dri phrif gymeriad y ffilm sef Branwen, Kevin a Mathonwy, sy’n perthyn i’r un teulu, i gynrychioli brwydro mewn tair gwlad sef Iwerddon, Cymru a Bosnia.
Ar y tudalennau canlynol fe welwch luniau llonydd ac ambell ddyfyniad sy’n cyfleu’r gwrthdaro a’r cefndir hanesyddol. Gallwch wneud ychydig o waith ymchwil pellach i sefyllfa drasig Iwerddon, y rhyfela gwaedlyd ym Mosnia, grŵp protest Cymdeithas yr iaith yn y 60au a’r 70au a chyfnod llosgi tai ha’.
Uned 1
Cefndir
Ystyr y lliwiauGwyrdd : Traddodiad Gweriniaethol/Catholigion
Oren: Traddodiad Unoliaethol/Protestaniaid
Gwyn: Cymodi
Beth ydi arwyddocâd lliwiau’r faner?
Iwerddon
Gogledd Iwerddon, rhan o’r wladwriaeth Brydeinig - Unoliaethwyr
Gweriniaeth Iwerddon - Gweriniaethwyr
Beth ydi arwyddocâd y rhaniad a ddangosir ar y map?
‘Fe ddaw y dydd, pryd yr unir Iwerddon. Mae’r IRA, y Llywodraeth a’r Teyrngarwyr i gyd yn euog o gyflawni erchyllterau yng Ngogledd Iwerddon ond dim ond y Llywodraeth all dorri’r cylch cythreulig.’
(Kevin)
Palmant yn ardal Brotestanaidd Shankill Road wedi’i beintio yn lliwiau Jac yr Undeb.
Protestwr Gweriniaethol wedi’i saethu yn ystod gorymdaith hawliau sifil Bloody Sunday 1972
http://www.flickr.com/photos/qbix08/3043819558
Baneri taleithiau Iwerddon
Sylwch ar rai o’r baneri hyn yn yr orymdaith agoriadol yn y ffilm.
http://www.flickr.com/photos/24842486@N07/3442884589/
Baner Hawliau Sifil
http://www.flickr.com/photos/90904124@N00/2892139860/
‘Mae ‘na frwydr werth ei hymladd yng Nghymru hefyd Branwen.’ (Kevin)
‘Dw i isho gneud rwbath. Faint o bobol Cymru sydd wir yn fodlon cwffio drosti?’ (Branwen)
‘What has pasifism ever done for Wales? A cheir llefaru’r geiriau, ‘Look how far we’ve had to go. But it’s a price worth paying for.’
Cymru
Mudiad Cymdeithas yr Iaith yn protestio yn y 60au.
Llun trwy garedigrwydd Casglu’r Tlysau - CulturenetBen Bore (Rhys)'s photostream
http://www.flickr.com/photos/benbore/105270463/
Ymgyrch Deddf Iaith NewyddCymdeithas yr Iaith.
Gwyrdd: traddodiad Mwslemaidd
Coch: traddodiad Serbaidd
Melyn: traddodiad Croasaidd
Gwyn: dim mwyafrif ethnig
Prydain yn rhan o luoedd heddwch Y Cenhedloedd Unedig
Bosnia - Rhaniadau Ethnig
Perry-Castañeda Library Map Collection
Trafodaeth Grŵp
Erbyn hyn rydych yn gyfarwydd â’r cefndir hanesyddol. 1.Ar sail eich gwaith ymchwil unigol ceisiwch grynhoi yn eich grwp ffeithiau perthnasol am gefndir hanesyddol Gogledd Iwerddon a bwriadau mudiadau protestio megis Cymdeithas yr Iaith. Cyflwynwch eich gwybodaeth i weddill y dosbarth. Amser: 10 munud. 2.Cyn i chwi astudio’r ffilm yn fanwl beth dybiwch chi yw bwriad Gareth Miles wrth ymdrin â chenedlaetholdeb?
3.Dywed John Lennon yn ei gân Imagine – ‘dychmygwch fyd heb grefydd’. Ai crefydd sydd wrth wraidd trafferthion Iwerddon a Bosnia? Defnyddiwch yr eirfa i’ch helpu wrth drafod:
Geirfa: Unoliaethwyr, Gweriniaethwyr, baner Jac yr Undeb, Gogledd Iwerddon, Catholigion, Protestaniaid, Cymdeithas yr Iaith, y fyddin Brydeinig, cenedlaetholwyr, annibyniaeth, cenedl, cenedlaetholdeb dreisgar, Cymry, Gwyddelod, teyrngarwyr, IRA, UDA, crefydd, diwylliant, iaith, rhyfel, terfysgaeth, gwrthdaro, cymod.
• Meini Prawf Asesu:• Crynhoi ffeithiau perthnasol yn glir• Cyfiawnhau eich barn gan ddefnyddio
tystiolaeth• Cydadweithio’n hyderus• Defnyddio geirfa briodol