uned dreialon abertawe - stu.swan.ac.uk · 3 blaenoriaethau strategol uned dreialon abertawe...

20
1 Uned Dreialon Abertawe Adroddiad Blynyddol

Upload: dinhnhan

Post on 18-Oct-2018

219 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Uned Dreialon Abertawe - stu.swan.ac.uk · 3 Blaenoriaethau Strategol Uned Dreialon Abertawe Cyflawni treialon graddfa fawr ac astudiaethau canfyddiadau a chyflawni effaith ymchwil

1

Uned Dreialon Abertawe

Adroddiad Blynyddol

Page 2: Uned Dreialon Abertawe - stu.swan.ac.uk · 3 Blaenoriaethau Strategol Uned Dreialon Abertawe Cyflawni treialon graddfa fawr ac astudiaethau canfyddiadau a chyflawni effaith ymchwil

Cydnabyddiaeth

Page 3: Uned Dreialon Abertawe - stu.swan.ac.uk · 3 Blaenoriaethau Strategol Uned Dreialon Abertawe Cyflawni treialon graddfa fawr ac astudiaethau canfyddiadau a chyflawni effaith ymchwil

1

Cynnwys Rhagair ................................................................................................................................................... 2

Yr hyn rydym yn ei wneud .............................................................................................................. 2

Blaenoriaethau Strategol Uned Dreialon Abertawe .................................................................. 3

Pwy ydym ni ...................................................................................................................................... 4

Crynodeb Lleyg .................................................................................................................................... 5

Crynodeb Gweithredol........................................................................................................................ 7

Pecynnau Gwaith (PG) ......................................................................................................................... 8

PG1: Datblygiad a rheolaeth yr uned ........................................................................................... 8

PG2: Datblygu astudiaethau newydd ........................................................................................... 9

PG3: Trosolwg o astudiaethau a ariannwyd .............................................................................. 10

PG4: Lledaenu ac ymgysylltu ...................................................................................................... 11

PG5: Meithrin capasiti ar gyfer ymchwil .................................................................................... 13

PG6: Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil ...................................................................... 14

Casgliadau ac Edrych i'r Dyfodol ..................................................................................................... 16

Casgliadau ....................................................................................................................................... 16

Edrych i'r dyfodol ........................................................................................................................... 16

Page 4: Uned Dreialon Abertawe - stu.swan.ac.uk · 3 Blaenoriaethau Strategol Uned Dreialon Abertawe Cyflawni treialon graddfa fawr ac astudiaethau canfyddiadau a chyflawni effaith ymchwil

2

Rhagair

Yr hyn rydym yn ei wneud Ariennir Uned Dreialon Abertawe (STU) gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Nod cyffredinol STU yw gwella iechyd pobl yng Nghymru a'r tu hwnt. Mae STU yn gweithio gyda'r GIG, cydweithwyr gofal cymdeithasol ac academaidd sydd am ddylunio, cynnal, dadansoddi ac adrodd ar y data o'r treialon clinigol ac astudiaethau eraill sydd wedi'u dylunio'n dda.

Mae ymrwymiad cryf STU i gynnwys cleifion a defnyddwyr gwasanaethau wrth ddatblygu a chyflwyno treialon yn parhau i fod yn allweddol. Gyda datblygiad y Pwyllgor Cyngor Poblogaeth ar gyfer Ymchwil, ein panel mewnol cynnwys y cyhoedd, mae STU wedi gallu ymgorffori ein hymrwymiad ymhellach i gynnwys cleifion a defnyddwyr gwasanaethau o'r cychwyn cyntaf wrth ddatblygu'r holl astudiaethau a threialon. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae STU wedi parhau i dyfu o ran ei phortffolio ymchwil a'i lefelau staffio. Mae STU yn hyderus bod y twf hwn wedi deillio o ffordd gynaliadwy drwy ffocws parhaus ar dreialon mewn gofal cynradd, gofal cyn-ysbyty a brys ac yn y rhyngwyneb rhwng gofal cynradd ac eilaidd. Mae STU yn arbennig o ymrwymedig i gynnal ymchwil mewn diabetes, gastroenteroleg, meddyginiaeth resbiradol, cardioleg ac iechyd meddwl. Mae STU hefyd yn gweithio yn y meysydd mesuriadau canlyniadau cleifion yr adroddwyd amdanynt a datblygiad treialon gan ddefnyddio ymagweddau 'e-dreialon' arloesol.

Cydymffurfiaeth Lywodraethol a

Rheoleiddiol

Ystadegau

Rheoli DataCostau

Penderfyniadau Methodolegol

"Mae gweithio gyda Kym ac STU wedi bod

yn agoriad llygad go iawn ynghylch

ymchwil a derbyn cymeradwyaeth ar gyfer

treialon. Mae Kym wedi bod yn fedrus ac yn

broffesiynol ac mae wedi bod yn hael ac yn

amyneddgar wrth fy helpu i ddeall popeth.

Atebodd pob un o’m cwestiynau. Mae wedi yn

brofiad gwobrwyol a hynod ddiddorol.”

-Susie Marques-Jones, Cynrychiolydd

Cleifion a'r Cyhoedd ar USTEKID

"STU yw'r Uned Dreialon ddynodedig ar gyfer

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau

Ambiwlans Cymru. Dros y blynyddoedd diwethaf,

mae'r cydweithio a'r gefnogaeth gan STU wedi

galluogi i Ymddiriedolaeth Gwasanaethau

Ambiwlans Cymru adeiladu ar ein capasiti ymchwil,

datblygu a chyflwyno portffolio ymchwil arloesol o

bwys rhyngwladol a dod yn wasanaeth ambiwlans

gweithredol ymchwil ar Gwasanaeth.“

- Nigel Rees, Pennaeth Ymchwil ac Arloesedd,

Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Page 5: Uned Dreialon Abertawe - stu.swan.ac.uk · 3 Blaenoriaethau Strategol Uned Dreialon Abertawe Cyflawni treialon graddfa fawr ac astudiaethau canfyddiadau a chyflawni effaith ymchwil

3

Blaenoriaethau Strategol Uned Dreialon Abertawe

”Mae cyfoeth o brofiad a gwybodaeth yn

STU ac mae perthynas waith agos

effeithiol rhwng STU a'r Bwrdd Iechyd, y

Noddwr a'r adran Ymchwil a Datblygu i

ddarparu cefnogaeth hollgynhwysol".

-Yr Athro Dean Harris, Llawfeddyg y Colon

a'r Rhefr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe

Bro Morgannwg (BIPABM)

"Mae STU wedi fy nghefnogi o'm cyfnod yn gwneud PhD i fod yn ymchwilydd annibynnol. Mae STU yn ymrwymedig i ddatblygu ymchwilwyr a

chyda chymorth STU, rwyf newydd gwblhau fy nhreial aml-ganolfan cyntaf a ariannwyd ac rwy'n gweithio ar fy Ngwobr Amser Ymchwil Glinigol."

-Dr Ceri Battle, Ffisiotherapydd Ymgynghorol

Gofal Critigol, PABM

“Mae STU yn cynhyrchu swm uchel o erthyglau ymchwil o ansawdd, y mae

sawl un ohonynt wedi cael eu dosbarthu'n bapurau REF tair neu

bedair seren. Gallai rhai allbynnau gael effaith sylweddol ar iechyd a

llesiant cleifion a'r cyhoedd neu olygu

newidiadau mewn arfer."

-Yr Athro Gareth Jenkins, Cyfarwyddwr Ymchwil,

Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe

”Mae gennym gysylltiad rheolaidd â'r holl staff perthnasol a chefnogaeth

brydlon a chymwys. Mae eu hymrwymiad i ymchwil diabetes yn

amlwg ac mae'r cysylltiadau ag Uned

Ymchwil Diabetes Cymru yn arbennig o werthfawr. Byddwn yn sicr yn gweithio

gydag STU eto.”

- Yr Athro Colin Dayan, Prifysgol Caerdydd

a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Denu a chefnogi treialon graddfa

fawr, a ariennir yn allanol o

safon ac astudiaethau trwyadl eraill

Cyflawni treialon graddfa fawr ac astudiaethau trylwyr eraill mewn da bryd

Lledaenu canfyddiadau a chyflawni effaith ymchwil uchel a dangosadwy

Adeiladu capasiti ar gyfer ymchwil

Page 6: Uned Dreialon Abertawe - stu.swan.ac.uk · 3 Blaenoriaethau Strategol Uned Dreialon Abertawe Cyflawni treialon graddfa fawr ac astudiaethau canfyddiadau a chyflawni effaith ymchwil

4

Pwy ydym ni

Page 7: Uned Dreialon Abertawe - stu.swan.ac.uk · 3 Blaenoriaethau Strategol Uned Dreialon Abertawe Cyflawni treialon graddfa fawr ac astudiaethau canfyddiadau a chyflawni effaith ymchwil

5

Crynodeb Lleyg

Pryd mae STU yn dechrau cymryd rhan mewn astudiaethau?

Mae STU yn dechrau cymryd rhan mewn astudiaethau pan fydd gan rywun sy'n gweithio yn y GIG neu Ofal Cymdeithasol y canlynol:

cwestiwn ac am wybod yr ateb

"syniad" am yr ateb i broblem ac am ei brofi.

Mae STU am glywed gan ymchwilwyr ar gyfnod cynnar datblygiad ymchwil i sicrhau eu bod yn cael y cymorth gorau posib a bod ymchwil yn diwallu anghenion y cyhoedd.

Fel uned dreialon, gall STU gymryd rhan mewn pob agwedd ar ymchwil:

ystyried cwestiynau i'w gofyn

dod o hyd i arian i gynnal astudiaethau

dylunio holiaduron ac astudio gwaith papur

casglu a dadansoddi data

cyfrifo costau astudiaethau

ymdrin â chyflenwyr

a llawer mwy…

Beth yw Uned Dreialon Abertawe?

Sefydlwyd STU ym Mhrifysgol Abertawe yn 2015. Ariennir STU gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (cangen ymchwil Llywodraeth Cymru). Mae'r arian hwn yn galluogi STU i gefnogi ymchwilwyr a datblygu eu syniadau ymchwil. Mae STU yn uno pobl i lunio'r ymchwil gorau posibl.

Mae STU yn rhan o grŵp o unedau treialon cofrestredig ledled y DU. Golyga hyn fod STU wedi profi'r canlynol:

mae wedi sefydlu'n dda i wneud ymchwil

mae ganddi'r staff cywir, sydd wedi'u hyfforddi i wneud ei gwaith

mae ganddi brosesau a strwythurau i sicrhau bod astudiaethau'n ddiogel

mae ganddi staff a systemau i sicrhau bod y data a gesglir yn ddibynadw

Mae'r term "ymchwil" yn cynnwys popeth o holiaduron i brofi gyffuriau. Nod ymchwil STU yw gwella triniaethau a gofal i'r cyhoedd. Mae STU yn cynnwys y cyhoedd wrth helpu i gynllunio ei hymchwil, gan dynnu sylw at farn y cleifion/cyhoedd. Yn y modd hwn, cynhelir yr ymchwil "gyda'r bobl" yn hytrach nag "i'r bobl".

Mae'r mathau o ymchwil iechyd yn cynnwys y canlynol: Treialon clinigol - wedi'u defnyddio mewn meddyginiaethau i gymharu mathau gwahanol o driniaethau gyda'r nod o ddarganfod a yw triniaeth neu weithdrefn newydd:

yn ddiogel

yn cynnwys sgil effeithiau

yn gweithio'n well (neu mor dda â'r) hyn sydd eisoes ar gael.

Ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol - wedi'i chynnal i ddeall sut i helpu pobl i reoli eu cyflyrau tymor hir e.e. efallai y bydd gofalwyr am wybod sut gallant helpu pobl i

fyw'n annibynnol am hwy.

DIOGELWCH

YN

GYNTAF

Page 8: Uned Dreialon Abertawe - stu.swan.ac.uk · 3 Blaenoriaethau Strategol Uned Dreialon Abertawe Cyflawni treialon graddfa fawr ac astudiaethau canfyddiadau a chyflawni effaith ymchwil

6

Sut mae STU yn gwneud gwahaniaeth?

Mae STU am wella darpariaeth gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae pawb yn gwybod bod y GIG a Gofal Cymdeithasol dan bwysau. Yn y cyfnod anodd hwn, gall ymchwil wir wneud gwahaniaeth a gall helpu i achub bywydau ac arbed arian. Mae STU yn helpu ymchwilwyr i wneud ceisiadau a fydd yn llwyddiannus wrth gaffael arian. Mae canlyniadau'r ymchwil yn darparu ymchwil sy'n gallu ein helpu i gynllunio gwasanaethau mwy effeithlon sy’n gweddu orau i anghenion pobl Cymru. Mae STU yn cyflawni hyn mewn dwy ffordd:

Mae aelodau'r cyhoedd yn cynllunio ac yn gwerthuso ymchwil ar bob cam. Mae hyn yn sicrhau bod ymchwil yn cael ei chynnal er budd y cyhoedd ac yn rhoi gwerth am arian.

Mae STU yn gweithio gydag ymchwilwyr i sicrhau bod canlyniadau'r astudiaethau'n cael eu cyflwyno'n ehangach. Mae staff STU yn mynychu cynadleddau a chyfarfodydd, gan siarad â'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch canfyddiadau ymchwil. Caiff adroddiadau STU eu cyhoeddi mewn cylchgronau a thrwy Twitter fel ffordd o siarad ag ymchwilwyr eraill a'r cyhoedd.

Pam mae ymchwilwyr yn dod i STU?

Mae STU yn helpu ymchwilwyr i wireddu eu syniadau. Mae STU yn gweithio gyda nhw i ddeall sut i ddarparutystiolaeth i ateb eu

cwestiynau. Mae STU yn helpu ymchwilwyr i ddatblygu disgrifiad o'r broblem ac i esbonio eu strategaeth i'w datrys. Yna gall STU weithio allan sut i ddylunio astudiaeth fel ei bod yn gweithio yn y byd go iawn yn y GIG ac yn y maes Gofal Cymdeithasol. Mae STU hefyd yn arwain ymchwilwyr drwy'r broses o sicrhau bod yr astudiaeth yn bodloni gofynion cyfreithiol a diogelwch. Mae'r ffordd hon o weithio, gydag STU darparu cyngor a chydlyniant ac ymchwilwyr yn dod â'u harbenigedd iechyd/gofal cymdeithasol, yn helpu ymchwilwyr i lunio astudiaeth ddiogel, berthnasol a llwyddiannus.

Page 9: Uned Dreialon Abertawe - stu.swan.ac.uk · 3 Blaenoriaethau Strategol Uned Dreialon Abertawe Cyflawni treialon graddfa fawr ac astudiaethau canfyddiadau a chyflawni effaith ymchwil

7

Crynodeb Gweithredol Rydym yn credu bod 2017-18 wedi bod yn flwyddyn hollbwysig yn natblygiad STU. Mae ein tîm wir wedi dod ynghyd ac mae'r holl weithgareddau, prosesau, a phersonél angenrheidiol i ymgymryd ag ymchwil o safon bellach wedi'u sefydlu'n llawn. Mae ein staff wedi gallu ymgymryd â mwy o hyfforddiant ac archwilio graddau uwch. Rydym hefyd wedi aseinio dyletswyddau rheoli llinell yn fwy eang ymhlith y staff gan ein galluogi i gynllunio ar gyfer newidiadau megis y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, Safonau'r Gymraeg, y Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd a thirwedd newidiol cymeradwyaeth ymchwil ac ymateb yn fwy deallusol iddynt. Eleni, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymchwilwyr sy'n troi at ein Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil am gyngor ac yn ceisio trefniadau partneriaeth ag STU. Eleni, rydym yn rhan o fwy na 30 o geisiadau am arian. Mae ein tîm Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil wedi cwrdd â chydweithwyr gofal cymdeithasol o sawl sefydliad gan gynnwys Gofal a Thrwsio Cymru, Gofal Croen Cymru a Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, gyda'r nos o ehangu ar ein portffolio gofal cymdeithasol. Bydd meithrin y perthnasau hyn yn flaenoriaeth allweddol dros y cyfnod nesaf. Mae ein tîm wedi bod allan yn gweithio gydag ymchwilwyr o Fyrddau Iechyd a sefydliadau Gofal Cymdeithasol ar draws de-orllewin Cymru a'r rhanbarth ehangach. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae presenoldeb cyfryngau cymdeithasol STU wedi tyfu ac mae gan gyfrifon @STU_Swan ac @RDCS_SWW bellach 400 o ddilynwyr ar Twitter, sydd i fyny o oddeutu 80 yn ystod y flwyddyn flaenorol. Dengys tystiolaeth o'n hymrwymiad i gynnwys y cyhoedd a chleifion gan ein panel PARC, sydd wedi ein galluogi i gefnogi ein cydweithwyr yn llawnach i sicrhau bod popeth mae STU yn ei wneud yn bodloni'r prawf hanfodol "dan arweiniad anghenion". Roedd hi'n foddhad mawr i ni weld canlyniadau gweithrediad y Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd fel meincnod ar gyfer yr astudiaethau ar bortffolio STU. Rydym ni, yn STU, wedi dylanwadu ar y ddeialog genedlaethol ynghylch ymchwil, a chafodd ein harbenigedd ei gydnabod mewn gwahoddiadau eleni i ymuno â sawl rhwydwaith sefydledig ledled y DU. Wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen, rydym wedi parhau i gyfrannu at bolisi ac arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae ein proffil wedi tyfu ac rydym wedi cadarnhau ein henw da er mwyn cyflawni astudiaethau effeithlon o safon. Greg Fegan Hayley Hutchings Athro Treialon Clinigol Athro Ymchwil Gwasanaethau Iechyd Cyd-Gyfarwyddwyr Uned Dreialon Abertawe Gorffennaf 2018

Page 10: Uned Dreialon Abertawe - stu.swan.ac.uk · 3 Blaenoriaethau Strategol Uned Dreialon Abertawe Cyflawni treialon graddfa fawr ac astudiaethau canfyddiadau a chyflawni effaith ymchwil

8

Pecynnau Gwaith (PG)

PG1: Datblygiad a rheolaeth yr uned Mae ffocws y pecyn gwaith yn ddeublyg: datblygiad a gwaith cynnal a chadw systemau sy'n sail i'r ymchwil yr ymgymerir â hi gan yr Uned, a'r strwythurau staffio a'r prosesau rheoli sydd ar waith i sicrhau bod y rhain o’r safon uchaf bob tro.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae

STU wedi gwneud y canlynol: STU yn ymrwymedig i ddatblygu sgiliau'r tîm cyfan:

Cadarnhawyd nad oes

angen ailgofrestru gydag

UKCRC nes 2020

Gwnaeth Claire O’Neill a Kym

Thorne gwblhau hyfforddiant

Rheolwyr Llinell Prifysgol

Abertawe ac maent yn

ymgymryd â mwy o

gyfrifoldebau rheoli llinell

Mae Nadim Bashir a Mihaela

Barbu wedi gweithio gyda

thimau Gwasanaethau a

Systemau Gwybodaeth Prifysgol

Abertawe i gyflwyno'r system

reoli data REDCAP

Rhoi Safonau'r Gymraeg

ar waith

Wedi ymateb i'r

Rheoliad Diogelu Data

Cyffredinol (GDPR)

Mae Claire Hurlow a Timothy

Driscoll wedi cefnogi

gweithredu'r System

Rheoli Dogfennau Q-Pulse

Mae Claire Evans a Claire O'Neill

wedi ymgymryd â

chyfrifoldebau ychwanegol ar

gyfer cyfrifo costau cynigion

ymchwil

Mae Timothy Driscoll

wedi ymgymryd â rôl

arweiniol wrth gefnogi

Uned Dreialon

Abertawe i gydymffurfio â

Safonau'r Gymraeg

Ymgymerodd Julie

Peconi â chyfrifoldebau rheolwr

treial ar DESCANT

Mae Amy Richards

wedi ymgymryd â

chynnal yr astudiaeth SAILOR o

ddydd i ddydd

Mae Vicky Davies yn gyfrifol am

drefnu digwyddiadau Uned

Dreialon Abertawe

Priodoli costau iechyd a gofal cymdeithasol Ymchwil a Datblygu

Arfer Clinigol Da

Llunio cynigion ymchwil llwyddiannus

Contractau

Diweddaru'r broses gymeradwyo

Uniondeb Ymchwil

GDPR

Safonau'r Gymraeg

Cronfeydd data gweinyddwr SQL Microsoft

Diogelu mewn Addysg Uwch

Gwnaeth Kym Thorne a Zoë

Abbott arwain ar Gynnwys y

Cyhoedd a Chleifion a

chadarnhau bod prosiectau a

arweinir gan Uned Dreialon

Abertawe'n bodloni'r holl

Safonau Cenedlaethol ar

gyfer Cynnwys y

Cyhoedd

Mae Gail Holland, Claire

Hurlow ac Amy Richards wedi

arwain ar ddatblygu safonau

gweithredu safonol i sicrhau

cydymffurfiaeth â

chyfarwyddeb treialon

clinigol yr UE a GDPR

Page 11: Uned Dreialon Abertawe - stu.swan.ac.uk · 3 Blaenoriaethau Strategol Uned Dreialon Abertawe Cyflawni treialon graddfa fawr ac astudiaethau canfyddiadau a chyflawni effaith ymchwil

9

PG2: Datblygu astudiaethau newydd Mae tîm Uned Dreialon Abertawe'n gweithio gydag ymchwilwyr newydd a phrofiadol i gyflawni'r pecyn gwaith hwn. Mae Uned Dreialon Abertawe wedi nodi themâu craidd ar gyfer ein portffolio ac mae gan bob aelod o'r tîm friff gwylio i nodi prosiectau a phartneriaid ymchwil posib. Yn ystod y flwyddyn 2017-2018, rydym wedi datblygu astudiaethau llwyddiannus, gan gynnwys:

USTEKInumab i bobl ifanc â math 1 Diabetes cynnar newydd (USTEKID)

Treial dichonolrwydd gosodiadau Ymyrraeth Amlganolfan Frys Naoxolone i fynd adref (TIME)

ECG Cyn-ysbyty (PHECG2)

Llwyddiant sylweddol mewn treialon:

Mae STU wedi cymryd rhan mewn sawl gwobr datblygu, gan gynnwys:

.

Cymrodoriaeth PhD Diabetes y DU: Amharu ar baradeim diagnostig ar gyfer diabetes beichiogrwydd gan ddefnyddio sbectrosgopi Raman yn seiliedig ar waed (£92,114)

Treial profi cyffuriau amlganolfan yw USTEKID sy'n profi'r defnydd o

gyffur o'r enw Ustekinumab wrth drin plant â diagnosis newydd o Fath 1 Diabetes. Sicrhaodd y tîm USTEKID £1,736,169 gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil

Iechydar gyfer y rhaglen Gwerthuso Effeithlonrwydd a Mecanwaith i wneud y

gwaith hwn a bydd proses recriwtio'n dechrau ym mis Medi 2018.

(Prif Arolygydd: Yr Athro Colin Dayan)

Astudiaeth amlganolfan yw

PHECG2 igymharu'r hyn sy'n

digwydd i gleifion sy'ncael ECG y tu allan i'r ysbyty o gymharu â'r sawl

nad ydynt yn derbyn un. Mae'r prosiect hwn yn adeiladu ar waith blaenorol gan y tîm hwb a bydd yn ceisio deall pam mae

pobl wahanol yn gwneud yn well na'i gilydd. Fe'i hariennir gan Sefydliad Prydeinig y Galon ac

mae'n werth £123,722 (Prif Arolygydd: yr Athro Tom Quinn)

Gwobr Amser Ymchwil Glinigol (CRTA) sy'n cefnogi Dr Ceri Battle sydd wedi cael ei hariannu am dair blynedd i ddatblygu ceisiadau ariannu ymchwil yn y maes ymchwil frys (£46,908)

Cymrodoriaeth PhD y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol: Yn amcangyfrif anghenion gofal cymdeithasol plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sydd mewn perygl o fod mewn gofal: Defnyddio data cysylltiedig anhysbys (£59,623)

Astudiaeth amlganolfan yw TIME sy'n profi a all y tîm gynnal treial

hap-brawf llawn i werthuso diogelwch, effeithiolrwydd clinigol a chost-

effeithiolrwydd dosbarthu Naloxone i fynd adref. Cynhelir yr astudiaeth hon mewn lleoliadau brys gyda phobl sydd mewn perygl o orddos opioid. Ariennir TIME

gan y Rhaglen Asesu Technoleg Iechyd Rhaglen sy'n werth £563,236 (Prif Arolygydd:

yr Athro Helen Snooks).

Page 12: Uned Dreialon Abertawe - stu.swan.ac.uk · 3 Blaenoriaethau Strategol Uned Dreialon Abertawe Cyflawni treialon graddfa fawr ac astudiaethau canfyddiadau a chyflawni effaith ymchwil

10

PG3: Trosolwg o astudiaethau a ariannwyd Mae'r pecyn gwaith hwn yn ymwneud â chyflwyno ymchwil a ariennir. Caiff y gweithgaredd hwn ei fonitro gan Reolwr STU sy'n gweithio gyda'r Swyddog Sicrhau Ansawdd sy'n adrodd i Dîm Gweithredol STU bob mis. Ar hyn o bryd, mae STU yn rhan o nifer o bartneriaethau cydweithio ymchwil sydd gyfwerth â £3,667,262 mewn gwobrau ariannol.

Ar hyn o bryd, mae gan STU 17

o astudiaethau, gan gynnwys 3 threial clinigol o Gynnyrch Meddygol Archwiliol (CTIMPs) ac 11 o Dreialon Hap-brawf gyda Rheolydd (RCTs). Mae gan STU 12 o brosiectau hefyd ar ei phortffolio:

Y Treialon Clinigol Cynnyrch Meddygol Archwiliadol rhyngwladol

Cyntaf mewn Dyn amlganolfan yw EE-ASI sy'n profi'r defnydd o nanoronynnau aur a roddir dan y croen gan ficronodwyddion i gyflawni imiwnotherapi â pheptid sy'n deillio o broinswlin mewn Diabetes Math I. Prif Arolygydd: Colin Dayan (Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r

Fro a Phrifysgol Caerdydd) - arian gan yr UE.

Astudiaeth amlganolfan yw DESCANT sy'n ystyried sut y gall cymhorthion cof a roddir i bobl â dementia cynnar eu helpu. Mae DESCANT wedi derbyn blwyddyn o estyniad ac mae'r tîm yn gweithio'n galed i recriwtio Ymddiriedolaethau GIG newydd i'r astudiaeth. Prif Arolygydd: David Challis (Prifysgol

Manceinion) estyniad ariannol gwerth £132,563.

Cysyniad sydd wedi ennill

gwobrau yw RAMAN-CRC

(MediWales 2016) sy'n seiliedig

ar ddisgleirio golau drwy samplau gwaed. Y syniad

yw bod gan gelloedd canser eu brig eu hunain y

gall ymchwilwyr chwilio amdanynt. Os bydd y

prawf yn ddigon cywir, gallai leihau nifer y

cyfeiriadau meddyg teulu ar gyfer colonosgopïau

(gan ddefnyddio camera i archwilio'r colon)

cleifion sy'n sôn am symptomau canser y colon a'r

rhefr. Prif Arolygydd: Dean Harris (PABM) gwerth

£130,327.

Mae HART yn cymharu dau ddull gwahanol o gau

clwyfau ar ôl llawdriniaeth i leihau'r perygl o

dorllengig endoriadol. Ariannwyd yr astudiaeth hon

gan yr HTA ac mae wedi derbyn estyniad i gwblhau'r

cyfnod dilynol o flwyddyn. Prif Arolygydd: Jared

Torkington (Bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro)

estyniad ariannol o £225,528.

Mae RAPID yn profi dichonolrwydd cynnal treial clinigol a chost- effeithiol llawn o barafeddygon

yn darparu meddyginiaeth lleddfu poen gynnar i gleifion sydd wedi torri eu cluniau. Mae torri'r glun yn hynod boenus ac yn gyffredin iawn mewn pobl hŷn a gall olygu treulio llawer o amser yn yr ysbyty. Gall rhoi meddyginiaeth lleddfu poen wneud gwahaniaeth i ba mor hir y mae pobl yn aros yn yr ysbyty. Prif Arolygydd: Nigel Rees (Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans

Cymru) gwerth £228,759.

Page 13: Uned Dreialon Abertawe - stu.swan.ac.uk · 3 Blaenoriaethau Strategol Uned Dreialon Abertawe Cyflawni treialon graddfa fawr ac astudiaethau canfyddiadau a chyflawni effaith ymchwil

11

PG4: Lledaenu ac ymgysylltu

Mae STU yn parhau i gyflawni astudiaethau o safon ac mae'n cyhoeddi canlyniadau i lywio arfer gorau clinigol a methodolegol (gweler allbynnau). Mae STU yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau i sicrhau ansawdd a safon yr ymchwil drwy roi sgyrsiau drwy wahoddiad a chyfrannu at weithdai ymchwil. Mae staff STU yn cyfrannu at y grwpiau a'r rhwydweithiau ymchwil canlynol.

Go

ve

rn

me

nt

an

d N

HS

Mae Alan Watkins yn aelod o'r Grŵp Gweithredol Ystadegau Mae Greg Fegan yn aelod o'r Grŵp Gweithredol Gwasanaethau Gwybodaeth a'r Grŵp Cyfarwyddwyr Uned Treialon Clinigol Mae Gail Holland yn mynychu'r Grŵp Gweithredol Sicrhau Ansawdd Mae Kym Thorne yn aelod o'r Grŵp Cynnwys ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd a Chleifion Mae Mihaela Barbu a Nadim Bashir yn mynychu'r cyfarfodydd Grŵp Gwasanaethau Gwybodaeth

Mae Greg Fegan yn aelod o'r Bwrdd ac yn aelod o Fwrdd Cyflawni GIG Cymru Mae Hayley Hutchings yn aelod o'r pwyllgor Ysgoloriaeth Ymchwil Iechyd PhD Mae Greg Fegan yn aelod o Bwyllgor Llywio Gwyddonol Cymru Doeth am Iechyd Mae'r tîm Cynllunio a Chynnal Ymchwil yn cyfrannu at ddigwyddiadau Cynllunio a Chynnal Ymchwil Cymru Gyfan

Pwyllgorau Moeseg

Ymchwil y GIG

Mae Alan Watkins a Gail Holland yn aelodau o REC3 Cymru

Pwyllgorau Ymchwil a Datblygu'r Bwrdd

Iechyd

Mae Claire O'Neill yn aelod o Gydbwyllgor Adolygu Astudiaethau PABM Mae Greg Fegan a Gail Holland yn aelodau Pwyllgor Ymchwil a Datblygu PABM Mae Kym Thorne yn aelod o Bwyllgor Ymchwil a Datblygu Hywel Dda

Mae Alan Watkins, Hayley Hutchings a Saiful Islam yn gweithredu fel Adolygwyr

Aca

de

mic

Mae Greg Fegan yn ymgynghorydd ystadegol

Cymerodd Hayley Hutchings ran yn y panel blaenoriaethu terfynol a oedd yn cael ei gefnogi gan Gynghrair James Lind

Archwilio Allanol Mae Hayley Hutchings, Alan Watkins a Greg Fegan yn gweithredu fel arholwyr ar gyfer graddau uwch yn Abertawe ac mewn prifysgolion eraill

Adolygwyr Cyfnodolion

Mae sawl aelod o staff yn gweithredu fel adolygwyr ar gyfer cyfnodolion academaidd a phroffesiynol o safon

Page 14: Uned Dreialon Abertawe - stu.swan.ac.uk · 3 Blaenoriaethau Strategol Uned Dreialon Abertawe Cyflawni treialon graddfa fawr ac astudiaethau canfyddiadau a chyflawni effaith ymchwil

12

Pu

bli

c E

ng

ag

em

en

t

Grŵp Cynnwys ac Ymgysylltu â Chleifion a'r

Cyhoedd

Gwnaeth Kym Thorne gyfrannu at arolygu Unedau Treialon Clinigol a gweithdy cwmpasu i ddatblygu pecyn cymorth Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd i ymchwilwyr (a arweinir gan Brifysgol Lerpwl)

Gwnaeth Zoë Abbott arwain ar lunio achos busnes ar gyfer estyniad i PARC, a gafodd ei gymeradwyo

Rhwydwaith Cynnwys Pobl

PARC ddaeth yn ail yn y categori "Stondin Mwyaf Diddorol" yng Nghynhadledd Cynnwys Pobl Flynyddol 2018

Diwrnod Treialon

Clinigol Rhyngwladol 2017

Cymerodd y tîm ran yn y dathliadau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ynghyd â PABM ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru Datblygodd Timothy Driscoll weithgaredd ar hap ni ddangos i'r cyhoedd sut caiff triniaethau eu dyrannu mewn treialon

Th

ird

Se

cto

r &

Ot

he

r

Mae Greg Fegan yn aelod o'r Grŵp Cynnwys ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd a Chleifion

Mae Hayley Hutchings yn gweithredu fel adolygwr

Mae Hayley Hutchings yn gweithredu fel adolygwr

Mae Gail Holland yn aelod o Tîm Ymgysylltu Byd-eang

Mae Claire O’Neill yn gweithredu fel adolygwr

Mae Claire O’Neill yn rhan o'r tîm a gyflwynodd gais llwyddiannus am Gymrodoriaeth PhD

Mae Julie Peconi yn aelod o'r bwrdd

Page 15: Uned Dreialon Abertawe - stu.swan.ac.uk · 3 Blaenoriaethau Strategol Uned Dreialon Abertawe Cyflawni treialon graddfa fawr ac astudiaethau canfyddiadau a chyflawni effaith ymchwil

13

PG5: Meithrin capasiti ar gyfer ymchwil Mae STU yn meithrin capasiti ar gyfer ymchwil yn ei thîm ei hun yn ogystal â'r GIG a sectorau gofal cymdeithasol ehangach. Mae STU (a'r tîm Cynllunio a Chynnal Ymchwil) yn gweithio gydag ymchwilwyr ar bob cam o'u gyrfaoedd i gymryd rhan mewn ceisiadau ariannu ymchwil..

Nod STU yw datblygu cronfa o arweinwyr ymchwil yng Nghymru erbyn:

goruchwylio myfyrwyr ymchwil sy'n astudio am raddau uwch;

cefnogi datblygiad staff (yn fewnol ac yn allanol);

cyfrannu at weithdai ymchwil sydd wedi'u targedu at staff y GIG.

Sbotolau ar Fyfyrwyr Ymchwil Ar hyn o bryd, mae Hayley Hutchings yn gweithio gydag 11 o fyfyrwyr PhD, y tynnir sylw at bedwar ohonynt isod. Yn 2018, bydd Claire O'Neill yn dechrau gweithio gyda'i myfyriwr cyntaf gydag arian gan Diabetes y DU.

Sarah Hughes – Therapydd Iaith a Lleferydd (presennol)

Tom Dobbs - Cofrestrydd Llawdriniaeth Blastig (presennol)

Laith Al Rubaiy – Gastroenterolegydd (cwblhawyd 2015)

Ceri Battle - Ffisiotherapydd (cwblhawyd yn 2012)

ennill un o ddwy ysgoloriaeth James Callaghan Prifysgol Abertawe

a sicrhau arian gan Gymdeithas Awdioleg Prydain a chyrraedd rhestr fer PABM

ar gyfer gwobr Ymchwil ac Arloesedd Prifysgol Abertawe

llunio 8 o gyhoeddiadau

ennill Cymrodoriaeth Hyfforddiant Academaidd Clinigol Cymru

ennill sawl grant ymchwil gan arianwyr gan gynnwys PABM

ennill Cymrodoriaeth Teithio Jill a Herbert Hunt o Brifysgol Rhydychen

llunio 29 o gyhoeddiadau

ennill Gwobr Amser Ymchwil Glinigol

ennill arian ar gyfer Ymchwil er Budd Cleifion a'r Cyhoedd ar gyfer treial dichonolrwydd STUMBL

llunio 49 o gyhoeddiadau

wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Ymchwil ac Arloesedd Prifysgol Abertawe

ennill sawl gwobr bwysig gan gynnwys Gastroenterolegydd Ifanc y Flwyddyn 2017

Cymdeithas y Gastroenterolegwyr

gweithio gyda'r Elusen Colangitis Bustlog Cynradd a'r Athro David Jones (Prifysgol Newcastle) i ddatblygu fersiwn fyrrach o'r mesur ansawdd bywyd PBC-40

llunio 30 o bapurau mewn cyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid, 14 o

adroddiadau achosion meddygol ac wedi ysgrifennu 3 llyfr ar y cyd

Page 16: Uned Dreialon Abertawe - stu.swan.ac.uk · 3 Blaenoriaethau Strategol Uned Dreialon Abertawe Cyflawni treialon graddfa fawr ac astudiaethau canfyddiadau a chyflawni effaith ymchwil

14

PG6: Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil Gwasanaeth cynghorol ymatebol yw Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil (RDCS) De-orllewin Cymru y mae modd i ymchwilwyr sy'n gweithio yn y GIG a Gofal Cymdeithasol sydd am gyflwyno cais am arian ymchwil gael mynediad iddo.

Arweinir y gwasanaeth gan Hayley Hutchings ac fe gafodd ei sefydlu i weithio gydag ymchwilwyr i ddatblygu ceisiadau ariannu o safon.

Eleni, mae'r RDCS wedi parhau i fodloni ei holl dargedau. Mae'r tîm yn parhau i weithio ar y cyd gyda chwaer sefydliadau, sef RDCS De-ddwyrain Cymru a RDCS Gogledd-orllewin Cymru i sicrhau cydraddoldeb gwasanaethau. Fel rhan o'n hymrwymiad i weithio ar y cyd, bu’r tîm yn gweithredu fel hwyluswyr yn y "Diwrnod Syniadau Cynnar" a gynhaliwyd gan Wasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil De-ddwyrain Cymru ym mis Mai 2017.

Mae ymchwilwyr sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn dueddol o fod yn ymchwilwyr cyfnod cynnar sy'n ymwneud â phrosiectau nad ydynt edi'u datblygu rhyw lawer eto.

Mae adborth am y gwasanaeth yn parhau i fod yn gadarnhaol:

Mae'r STU yn gneud y gwaith hwn mewn amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys cefnogaeth un i un i ymchwilwyr a digwyddiadau arddull gweithdai gan gynnwys digwyddiad blynyddol sy'n canolbwyntio ar gyflwyno cais am gynlluniau ariannu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae panel PARC y RDCS wedi bod yn hanfodol wrth helpu i ymgorffori Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd ym mhob cyflwyniad am arian ymchwil a wnaed gan ddefnyddwyr y Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal eleni. Mewn ychydig dan flwyddyn, mae PARC wedi cael ei gychwyn, ei ddatblygu a'i ail-gomisiyu

Mae ei ddyfodol wedi’i sicrhau gydag ymrwymiad gan dîm Cynnwys y Cyhoedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru am ei ariannu parhaus.

“Rydym wedi derbyn llawer o gefnogaeth ac arweiniad wrth lunio'n hastudiaeth ddylunio, sydd wir wedi rhoi budd i'r prosiect wrth i ni anelu at gyflwyno cais am arian yn yr

hydref." - Deb Fenlon, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

“Rydym wedi derbyn cefnogaeth ddefnyddiol ac addysgiadol gan STU wrth helpu i lunio'n hymchwil, darparu cyngor methodolegol ac ystadegol i feddwl am heriau i ariannu ymchwil ac wrth ddod o hyd i ffyrdd i oresgyn yr heriau hynny. Rydym mewn sefyllfa sy'n llawer yn well o ganlyniad i'r gefnogaeth

hon" - Charity Knight Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Y RDCS yn 2017/18:

Page 17: Uned Dreialon Abertawe - stu.swan.ac.uk · 3 Blaenoriaethau Strategol Uned Dreialon Abertawe Cyflawni treialon graddfa fawr ac astudiaethau canfyddiadau a chyflawni effaith ymchwil

15

Cyflawniadau ac Allbynnau Allweddol

Cyhoeddwyd 22 o bapurau

Sicrhawyd 2 gymrodoriaeth PhD

Cefnogwyd 12 o

raddau ymchwil

Gwobrwywyd 1

radd ymchwil

Cefnogwyd 13 o CI

Cyflwynwyd 32

o geisiadau grant gan STU

Rydym yn gweithio ar

£3,667,262 o wobrwyon ariannol

Ac yn rheoli'r grant EME

cyntaf a arweinir o

Gymru

Mae 90%* o

arian ymchwil yn aros yng Nghymru *ers 2015

Gweithiwyd gyda 6

sefydliad y GIG yng Nghymru

3 astudiaeth

ryngwladol Cwblhawyd adroddiadau

terfynol ar gyfer 2

astudiaeth

Cefnogwyd 68 o ymchwilwyr

gan y RDCS

Cyfradd lwyddiant o

33% hyd yn hyn o'r

RDCS

Cefnogwyd 6 digwyddiad ymchwil allanol

2 astudiaeth gyda

phartneriaid masnachol

Page 18: Uned Dreialon Abertawe - stu.swan.ac.uk · 3 Blaenoriaethau Strategol Uned Dreialon Abertawe Cyflawni treialon graddfa fawr ac astudiaethau canfyddiadau a chyflawni effaith ymchwil

16

Casgliadau ac Edrych i'r Dyfodol Casgliadau Mae STU wedi creu enw da fel partner ymchwil o ddewis ar gyfer y GIG yng Nghymru. Mae'r tîm wedi ymgymryd ag ymchwil o safon a fydd o fudd i boblogaeth Cymru yn y pen draw. Mae sail sgiliau STU wedi tyfu gyda dyfnder ychwanegol ym meysydd ystadegau, rheoli data a sicrhau ansawdd. Yn gyffredinol, mae wedi bod yn flwyddyn wych i STU, gyda datblygiadau sylweddol mewn derbyn grantiau, lledaenu astudiaethau, cynnwys y cyhoedd a datblygu'r brand RDCS.

Mae cydweithio parhaus â phartneriaid tymor hir yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Hywel Dda ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wrth wraidd y llwyddiant hwn.

Edrych i'r dyfodol Fel llawer o unedau treialon clinigol eraill, mae STU yn gweithio i ddod o hyd i ateb rheoli data hyblyg a chost-effeithiol. Bydd REDCap Cloud yn debygol o fod ar waith y flwyddyn nesaf a dylai gyflwyno arbedion amser a chostau. Bydd STU yn parhau i lobïo am welliannau i'r broses ar gyfer cytuno ar gontractau a chytundebau cydweithio, sy'n peri llawer o oedi ar hyn o bryd.

Mae ein portffolio Gofal Cymdeithasol yn tyfu gydag arian gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ar gyfer PhD ar "Blant sy'n Derbyn Gofal" Hayley Hutchings a thrwy waith Greg Fegan gyda Fiona Verity (Cyfarwyddwr Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru) ar astudiaeth Atal Ailfynediad i Ysbytai (PRISM) i Bobl â Salwch Meddyliol Dwys yn Nwyrain Affrica.

Yn ystod y 12 mis nesaf, caiff y treialon HART a DESCANT eu cwblhau; Dylai USTEKID fod wedi cofrestru ei gyfranogwyr cyntaf, bydd dau fyfyriwr ymchwil STU wedi graddio, a bydd cynllunio ar gyfer astudiaethau dilynol gan y timau RAPID a STUMBL ar waith.

Mae adborth ar y treial STUMBL yn dystiolaeth o'r cynnydd a wnaed gan STU ac mae'n argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol:

Mae STU yn falch o lwyddiant y RDCS gydag ymchwilwyr yn ei ystyried yn hanfodol wrth gyflwyno ceisiadau am arian:

Mae STU yn edrych ymlaen at ychydig flynyddoedd prysur iawn yn helpu i lunio cyflwyno gofal iechyd yn y dyfodol mewn meysydd megis diabetes paediatreg a chanser y colon a'r rhefr yn ogystal â thrawma, llawdriniaeth a gofal cymdeithasol.

“Yn fy marn i, dylai pawb yn Abertawe gael eu

llongyfarch am dreial da iawn. Mae wedi cael ei

gynnal mor dda fel bod brwdfrydedd enfawr ar

gyfer y treial llawn erbyn hyn. Yn GIG Lloegr, rydym

wir am i dreial STUMBL llawn gael ei gynnal. Nid wyf

yn meddwl y bydd recriwtio’n broblem ac rwy'n

meddwl y bydd yn creu enw da iawn i STU wrth

gynnal treialon mewn Meddyginiaeth Frys." - Fiona Lecky, Athro Clinigol Meddyginiaeth Frys

yn y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Gofal Cyflym a brys, ScHARR,

Prifysgol Sheffield, Ymgynghorydd Anrhydeddus mewn

Meddyginiaeth Frys yn Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Ysbyty

Brenhinol Salford a Chyfarwyddwr Ymchwil y Rhwydwaith

Archwilio ac Ymchwil Trawma

“Yn gyntaf, diolch yn fawr iawn i chi'ch dau am

bopeth rydych wedi'i wneud i gefnogi Andrew

a minnau wrth lunio'n grant. Mae'r ddau

ohonoch yn wych. Mae'r tîm yn deall y pwysau

amser y mae clinigwyr yn ei wynebu ac maent

wedi bod yn hynod ystyriol o hyn. Mae eu

mewnbwn wedi bod yn hanfodol i ddatblygiad

ceisiadau grant ac maent wedi mynd y tu hwnt

i'w dyletswyddau i ddarparu cefnogaeth. Ni

allaf argymell y gwasanaeth hwn yn fwy.” - Zoe Fisher, Seicolegydd Clinigol Bwrdd Iechyd

Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Page 19: Uned Dreialon Abertawe - stu.swan.ac.uk · 3 Blaenoriaethau Strategol Uned Dreialon Abertawe Cyflawni treialon graddfa fawr ac astudiaethau canfyddiadau a chyflawni effaith ymchwil
Page 20: Uned Dreialon Abertawe - stu.swan.ac.uk · 3 Blaenoriaethau Strategol Uned Dreialon Abertawe Cyflawni treialon graddfa fawr ac astudiaethau canfyddiadau a chyflawni effaith ymchwil