contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/claw-booklet-2016-v1-cym.docx · web viewcymeradwyir gwariant...

56
CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL Cynnwys Contents Aelodaeth y Consortiwm Strwythur y Consortiwm Cynrychiolwyr Aelodau Bwrdd Consortiwm Awdurdodau Lleol Cymru Neges gan y Cadeirydd Grŵp Ynni CALlC Adroddiad Blynyddol Grŵp Rheoli Asedau ac Ystadau Grŵp Rheoli Perfformiad CALlC Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru Sefyllfa Ariannol Hanner Blynyddol 2015-16 Cyfansoddiad CALlC Gwobrau CALlC Enillydd Gwobr Prosiect y Flwyddyn CALlC Cymeradwyaeth Prosiect y Flwyddyn CALlC Cymeradwyaeth Prosiect y Flwyddyn CALlC

Upload: others

Post on 29-Mar-2020

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

Cynnwys

ContentsAelodaeth y Consortiwm

Strwythur y Consortiwm

Cynrychiolwyr Aelodau Bwrdd Consortiwm Awdurdodau Lleol Cymru

Neges gan y Cadeirydd

Grŵp Ynni CALlC

Adroddiad Blynyddol Grŵp Rheoli Asedau ac Ystadau

Grŵp Rheoli Perfformiad CALlC

Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru

Sefyllfa Ariannol Hanner Blynyddol 2015-16

Cyfansoddiad CALlC

Gwobrau CALlC

Enillydd Gwobr Prosiect y Flwyddyn CALlC

Cymeradwyaeth Prosiect y Flwyddyn CALlC

Cymeradwyaeth Prosiect y Flwyddyn CALlC

Page 2: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

Aelodaeth y Consortiwm

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Cyngor Dinas Caerdydd

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyngor Sir Ceredigion

Dinas a Sir Abertawe

Adeiladu Rhagoriaeth Cymru

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyngor Sir Ddinbych

Cyngor Sir y Fflint

Cyngor Gwynedd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Cyngor Sir Fynwy

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Cyngor Dinas Casnewydd

Cyngor Sir Penfro

Cyngor Sir Powys

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Cyngor Bro Morgannwg

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cyngor Sir Ynys Môn

Page 3: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

Pwyllgor Gweithredol yr Aelodau EtholedigCadeirydd: Y Cynghorydd Wyn J W Evans (Sir

Gâr)Is-gadeirydd: Y Cynghorydd Kevin Jones (Sir y

Fflint)

Vice Chair: Councillor Kevin Jones (Flintshire) Bwrdd y Swyddogion EnwebedigCadeirydd: Maria Jones (Sir Benfro)

Is-gadeirydd: Rob O’Dwyer (Sir Fynwy)

 Grŵp Llywio

Cadeirydd: Maria Jones (Sir Benfro)

Is-gadeirydd: Rob O’Dwyer (Sir Fynwy)

Mark Davies (Sir Gâr)Lyndon Griffiths (Ceredigion)Jane Wade (Bro Morgannwg)

Sion Evans (Sir Ddinbych)David Bradley (Powys)

 Grŵp Rheol Perfformiad

Cadeirydd Maria Jones (Sir Benfro)

 Grŵp Rheoli Asedau ac Ystadau

Cadeirydd: Jonathan Fearn

(Sir Gâr)

 Grŵp Cynnal

a Chadw Adeiladau

 Cadeirydd: Phil

Kenney (Sir Fynwy)

 

Grŵp Dylunio

 Cadeirydd: Jim Swabey

(Powys)

 Grŵp Ynni

 Cadeirydd: Will Pierce (Sir y Fflint)

Grŵp Mecanyddol a Thrydanol

Cadeirydd: Paul Colston

(Blaenau Gwent)

Strwythur y Sefydliad

Page 4: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

Cynrychiolwyr Aelodau Bwrdd CALlCCyngor Aelod

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Y Cynghorydd David White

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont Y Cynghorydd Mike GregoryCyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Y Cynghorydd David HardacreCyngor Dinas Caerdydd Y Cynghorydd Phil Bale

Cyngor Sir Caerfyrddin Y Cynghorydd Wyn J.W. Evans (Cadeirydd CALlC)

Cyngor Sir Ceredigion Y Cynghorydd Ellen ap GwynnY Cynghorydd Dafydd Edwards

Dinas a Sir Abertawe Disgwyl manylion

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Y Cynghorydd Dave CowansCyngor Sir Ddinbych Y Cynghorydd Julian Thompson-Hill

Cyngor Sir y Fflint Y Cynghorydd Kevin JonesCyngor Sir Gwynedd Y Cynghorydd Ioan Thomas

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful Y Cynghorydd Brendan ToomeyY Cynghorydd Chris Barry

Cyngor Sir Fynwy Y Cynghorydd Phil MurphyCyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd, Port Talbot

Y Cynghorydd Edward V.Latham

Cyngor Dinas Casnewydd Y Cynghorydd Gail Giles

Cyngor Sir Penfro Y Cynghorydd Rob LewisY Cynghorydd Jamie Adams

Cyngor Sir Powys Y Cynghorydd Garry Banks

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Y Cynghorydd Geraint HopkinsCyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen Y Cynghorydd John Cunningham

Cyngor Bro Morgannwg Y Cynghorydd Mrs Margaret R Wilkinson

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Disgwyl manylionCyngor Sir Ynys Môn Y Cynghorydd Kenneth P Hughes

Neges gan y Cadeirydd

Page 5: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

Mae’n bleser cyflwyno Adroddiad Blynyddol CALlC 2016 yn ei ddiwyg newydd.

Am flwyddyn arall eto rydym yn wynebu amserau heriol iawn mewn Llywodraeth Leol ac mae’r toriadau i gyllid y sector cyhoeddus yn parhau i roi pwysau aruthrol ar bob awdurdod lleol a phob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Er gwaethaf y pwysau ariannol hyn a’r dadleuon cyfredol ynghylch uno awdurdodau lleol, mae aelodau’r consortiwm yn dal i gynhyrchu canlyniadau arbennig.

Dengys yr adroddiad hwn unwaith eto faint o waith ardderchog a gyflawnwyd dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae’n brawf y gall gweithio gyda’n gilydd ar draws ffiniau helpu’n sylweddol i gyflawni prosiectau, sydd nid yn unig yn edrych yn dda, ond sydd hefyd yn ateb y diben ac yn rhoi gwerth yr arian gorau posib i drethdalwyr Cymru.

Mae dyluniad, caffael a chyflawniad llwyddiannus y prosiectau hyn yn dra dyledus i’r manteision a’r arbedion effeithlonrwydd a gyflawnir wrth i awdurdodau lleol fod yn rhan o Gonsortiwm Awdurdodau Lleol Cymru. Yng ngwir ysbryd cydweithio mae’r aelodau’n parhau i gefnogi’i gilydd, i rannu gwybodaeth, profiadau, arferion gorau ac adnoddau, fel y gwnaethant mor llwyddiannus am gynifer o flynyddoedd.

Yn ychwanegol at y prosiectau adeiladu o ansawdd uchel a gyflawnir ar draws y wlad, mae’n galonogol gweld y gwaith enfawr sy’n parhau o fewn Gweithgorau CALlC a gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill megis Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru.

Byddwn yn hoffi cymryd y cyfle hwn i ddiolch i’m holl gydweithwyr, yn swyddogion ac yn aelodau, am y cymorth a’r gefnogaeth a dderbyniais yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac edrychaf ymlaen at weithio ymhellach gyda hwy dros y flwyddyn i ddod wrth hybu CALlC a helpu i wella cyflenwi Gwasanaethau Eiddo yng Nghymru.

Ac yn olaf, diolch arbennig i gydweithwyr yn Rhondda Cynon Taf am groesawu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni a’n tywys o gwmpas Ysgol Gymunedol Aberdâr.

Y Cynghorydd Wyn Evans – Cadeirydd Aelodau Etholedig CALlC

Adroddiad gan Gadeirydd Bwrdd y Swyddogion Enwebedig

Page 6: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

Cydnabyddir yn gyffredinol y bydd yr amserau anodd a brofwyd gan gyllid y sector cyhoeddus dros y blynyddoedd diwethaf yn parhau yn y dyfodol agos. O ganlyniad i gyfyngiadau parhaus ar gyllid, bydd awdurdodau lleol yn archwilio hyd yn oed yn fwy gofalus y modd y caiff eu cyllidebau gostyngol eu gwario. Daw’r manteision a’r arbedion, felly, mewn amser a chost i awdurdodau lleol o fod yn aelodau o Gonsortiwm Awdurdodau Lleol Cymru (CALlC), wrth gydweithredu a gweithio gyda’i gilydd, yn bwysicach nag erioed. Mae CALlC yn sefydliad unigryw, sydd, ers ei sefydlu dros 50 mlynedd yn ôl, wedi gweithio i hyrwyddo arfer orau mewn rheoli eiddo awdurdodau lleol, er budd aelodau’i awdurdodau cyfansoddol.

Mewn blynyddoedd i ddod, ail-bwysleisir egwyddorion gweithio gyda’n gilydd, dysgu oddi wrth ein gilydd, lledaenu arfer orau, hyfforddiant ar y cyd ac ymateb fel un llais, fel yr ail-ffurfir llywodraeth leol mewn diwyg newydd. Ni chyfyngir cydweithredu i ’deulu’ llywodraeth leol yng Nghymru , ond fe’i lledaenir gan Gonsortiwm Awdurdodau Lleol Cymru i sefydliadau eraill o’r un anian - a deil y berthynas gyfredol gyda’r rheiny megis Llywodraeth Cymru, Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Gwerth Cymru, Ymddiriedolaeth Garbon Cymru ac Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru, yn ffrwythlon ac yn werthfawr wrth helpu i adnabod arfer dda a phrosiectau enghreifftiol, ac wrth hybu mentergarwch i wella cyflenwi gwasanaethau eiddo o fewn y sector cyhoeddus Cymreig.

Eleni, mae CALlC wedi parhau i weithio gydag Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru i gynhyrchu dangosyddion perfformiad rheoli-asedau ar draws pob awdurdod yng Nghymru. Diolch i Ana Harries am ei chyflwyniad rhyngweithiol, llawn gwybodaeth o’r adroddiadau ar gyfer 2014/15 yng Nghyfarfod y Gwanwyn eleni.

Yn y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi datblygu cysylltiadau gyda SPACES (y Gymdeithas ar gyfer Pensaernïaeth Gyhoeddus, Adeiladau, Peirianneg a Thirfesur - (SCALA a SCEME yn flaenorol). Roeddwn wrth fy modd i fod yn Llywydd gwahoddedigion SPACES yn ei Ginio Gwobrwyo yng Nghaerdydd yn Nhachwedd, ac roeddwn yn falch mai cyn Lywydd CALlC, Greg Keeling, yw’n gwestai yn ein Cinio Gwobrwyo yn 2015.

Mae gwefan CALlC ar ei newydd wedd yn dod yn gaffaeliad gwirioneddol i bob awdurdod. Diolch i’r Cadeirydd a’m rhagflaenodd, Rob O’Dwyer, a’i dîm am eu gwaith caled yn ei sefydlu. Mae un o’i phrif nodau – caniatáu cyfleoedd i rannu gwybodaeth a chydweithredu haws rhwng awdurdodau sy’n aelodau a’r Gweithgorau – yn dechrau cynhyrchu canlyniadau.

Mae BIM (Modelu Gwybodaeth am Adeiladau) yn ehangu yn ei ddefnydd. Mae cydweithredu CALlC gydag Ynni Cymunedol Cymru ar Arweinlyfr BIM Cymru Gyfan CALlC wedi cynhyrchu dogfen sy’n galluogi awdurdodau sy’n aelodau i gyflawni cysondeb yn eu gofynion, ac mae felly’n cynorthwyo ymgynghorwyr Cymru a’r gadwyn gyflenwi. Mae CALlC wedi comisiynu diweddariad o’r Llawlyfr - a bydd yn rhedeg sesiynau hyfforddiant pellach unwaith y bydd yn gyflawn.

BIM hefyd oedd thema Cyfarfod y Gwanwyn CALlC , a gynhaliwyd yn Llandrindod ym Mai. Rhoddodd gipolwg i’r hyn a ddaw yn bolisi Llywodraeth Cymru. Siaradodd Darren Gravel o Bouygues a Jason Jones Gyngor Sir Caerfyrddin am eu profiad o Fodelu Gwybodaeth am adeiladau. Diolch i’r ddau ohonynt am gymryd yr amser i ehangu dealltwriaeth swyddogion ac aelodau CALlC o’r pwnc.

Denodd Prosiect y Flwyddyn CALlC geisiadau o natur amrywiol ac o ansawdd uchel Mae’n glir bod awdurdodau’n derbyn yr her i gyflenwi prosiectau cyffrous, mentrus, cynaliadwy ac ysbrydoledig o fewn cyfyngiadau amgylchiadau

Page 7: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

ariannol llymach. Diolch i’r panel beirniadu ac i Mary Wrenn, Cyfarwyddwr Cymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru, am groesawu’r diwrnod beirniadu yn swyddfeydd y Gymdeithas yng Nghaerdydd.

Byddwn hefyd yn hoffi cymryd y cyfle hwn i ddiolch i aelodau Bwrdd y Swyddogion Enwebedig (BYSE)Grŵp Llywio am eu cefnogaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Byddwn hefyd yn hoffi cynnig fy niolch arbennig i Mark Davies, a ymddeolodd o Gyngor Sir Caerfyrddin yn y flwyddyn ddiwethaf, ac felly wedi gadael y Grŵp Llywio. Bydd pawb ohonom yma yng Nghonsortiwm Awdurdodau Lleol Cymru yn gweld ei eisiau.

Mae’r Grwpiau Llywio wedi bod yn brysur eto eleni, a byddwn yn hoffi diolch i Gadeiryddion pob Grŵp yn bersonol am eu gwaith caled. Mae Cadeiryddion y Grwpiau Llywio wedi darparu’u hadroddiadau’u hunain ar y tudalennau dilynol.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i Gadeirydd yr Aelodau Etholedig, y Cynghorydd Kevin Jones, a’r Is-gadeirydd, y Cynghorydd Edward Latham, am eu cymorth a’u cefnogaeth yn fy ail flwyddyn, a’r un olaf, fel Cadeirydd BYSE. Hoffwn ddymuno iddynt, ac i Gadeirydd nesaf BYSE, bob rhwyddineb wrth barhau â gwaith da CALlC.

Maria Jones, Cadeirydd Bwrdd y Swyddogion Enwebedig

Grŵp Mecanyddol a Thrydanol CALlC

Page 8: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

Roedd nifer dda wedi mynychu’r grŵp M&Th yn ystod y flwyddyn hon gyda sawl trafodaeth dda, agored a gonest ar amrywiol bynciau a’r hyn sy’n effeithio ar Awdurdodau Lleol yn yr amserau ariannol hyn.Mae caffael y B.I.M a’r NPS eto wedi bod yn destunau trafod ac rydym yn cael cyflwyniad B.I.M gan Joanne Larner. Mae tendr caffael NPS ar gyfer contractau M&Th newydd ei ddyfarnu a bydd yn ddiddorol gweld beth sydd gan y dyfodol ei gynnig a’r gost yn gysylltiedig â’r adroddiadau tendr.Yn Ebrill cawsom CPD diddorol iawn gan Viessmann ar unedau Gwres a Phŵer Cyfun (GaPhC) a dderbyniwyd yn wresog iawn gan yr holl fynychwyr. Canolbwyntiodd ar fanteision, maint, cymhwysiad a dyluniad GaPhC.Ym Mehefin, mewn cyfarfod â nifer dda wedi’i fynychu, rhoddodd systemau SAV gyflwyniad CPD ar system olrhain llwythi GaPhC. Roedd yn gyflwyniad diddorol iawn a sesiwn cwestiwn ac ateb dda yn dilyn. Ym Medi mynychodd Mikrofill gyfarfod a rhoddodd gyflwyniad CPD ar unedau Gwasgeddiad. Derbyniwyd y cyflwyniad hwn yn wresog iawn hefyd gan nifer fawr o fynychwyr Awdurdodau sy’n aelodau a dilynodd sesiwn cwestiwn ac ateb gadarn wedi’r cyflwyniad. Eleni yn dilyn cymeradwyaeth mae grŵp M&Th CALlC wedi diweddaru 20 o Fanylebau Modiwl Cynnal a Chadw a gellir dod o hyd i’r rhain ar wefan CALlC. Mae’r grŵp M&Th ar hyn o bryd hefyd yn adolygu ac yn ailysgrifennu’r Manylebau Mecanyddol a Lifftiau a bydd y fersiynau mwyaf diweddar hefyd ar gael yn fuan ar wefan CALlC. Mae Thorn Lighting yn dal i dalu’i arian ad-dalu i Gonsortiwm Awdurdodau Lleol Cymru yn seiliedig ar y fanyleb a’r defnydd o’u cynhyrchion gan aelodau’r Grŵp M&Th.Byddwn yn bersonol yn hoffi diolch i holl gynrychiolwyr yr Awdurdodau sy’n aelodau a fynychodd gyfarfodydd grŵp M&Th CALlC eleni a bydded i’r presenoldeb ardderchog barhau. Diolch arbennig i Alwyn Evans, ysgrifennydd ein grŵp, sydd mewn gwirionedd yn trefnu bron popeth sy’n ymwneud â’r grŵp. Diolch Galwyn ac rwy’n gobeithio y caiff yr holl aelodau fforwm grŵp CALlC yn ddiddorol iawn ac yn llawn gwybodaeth mewn nifer o ffyrdd ac fel fforwm ar gyfer cydweithredu clos, nid oes mo’i debyg.Fel grŵp teimlwn y rhoddir llai a llai o bwysigrwydd i’r grŵp M&Th gan y rhai mewn grym o fewn Llywodraeth Leol sy’n rhwystredig ar adegau. Dylid nodi hefyd, oni bai am M&Th ni fyddai ond adeiladau’n adfeilio. Hwyrach mai cerrig a phriddfeini yw corff adeiladau ond y grŵp M&Th yw’r Enaid. Mae amserau caled yn dal o’n blaenau ond fel dywed yr ymadrodd, mae’n rhaid brwydro tan y diwedd. Gobeithio i chi gyd gael blwyddyn dda ac rwy’n edrych ymlaen at gael cyfarfodydd rhagorol gyda fy nghydweithwyr yng nghyfarfodydd y grŵp M&Th y flwyddyn nesaf.

Paul Colston. Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Cadeirydd y Grŵp M&Th

Page 9: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

Grŵp Cynnal a Chadw Adeiladau CALlC

Mae Grŵp Cynnal a Chadw Adeiladau CALlC wedi parhau i fod yn weithredol a chyfarfod yn rheolaidd gyda phresenoldeb da yn y rhan fwyaf o’r cyfarfodydd.

Mae’r grŵp wedi parhau dan Gadeiryddiaeth Phil Kenney, Pennaeth Cynnal a Chadw, Cyngor Sir Fynwy gyda Paul Evans, Arweinydd Grŵp Rheoli Eiddo, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Simon Roberts, Rheolwr Rheoli Cyfleusterau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn parhau yn eu swyddogaethau fel Is-gadeirydd ac Ysgrifennydd yn y drefn honno. Trefnwyd y cyfarfodydd i ddilyn agenda safonedig i annog rhannu syniadau a dysgu o brofiadau aelodau’r grŵp ac maent fel arfer yn cynnwys cyflwyniad technegol sydd o ddiddordeb i aelodau’r grŵp. Mae cyflwyniadau diweddar wedi cynnwys:

Scott James, Swyddog Caffael, Cyngor Sir Fynwy yn siarad â’r grŵp ynghylch Consortiwm Pwrcasu Cymru -0 cynlluniau’r presennol a’r dyfodol: y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol - strwythur, ffurf a chynlluniau’r dyfodol; a sesiwn cwestiwn ac ateb ar bob agwedd o gaffael sy’n effeithio ar aelodau.

Hertel Solutions UK a Ken Ashley yn rhoi cyflwyniad ar ddatblygiadau newydd gyda legionella a’r gwersi a ddysgwyd.

Chris Davies o Crown Paints yn darparu cyflwyniad yn llawn gwybodaeth ar baent sy’n arafu tân a’i ddefnydd o fewn adeiladau cymunedol.

Stewart Britton, Rheolwr Datblygu Busnes IKP Roofing Systems yn rhoi cyflwyniad diddorol a llawn gwybodaeth ar ddefnydd systemau cymhwyso hylifau gwrth-ddŵr ar gyfer toeon gwastad.

Paul Evans a Phil Kenney yn rhoi adborth ar eu profiadau yn caffael ac yn rheoli Fframwaith cydweithredu mewn cynnal a chadw.

Y canlynol yw’r cyflwyniadau a drefnir ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol;

- Modelu Gwybodaeth am Adeiladau (B.I.M.)

- Biomas – Adborth ar berfformiad gosodiadau cyfredol a chostio oes gyfan.

- Diweddariad a hyfforddiant ar Sell2Wales.

- Legionella – Diweddariad y Person Cyfrifol a newidiadau i’r Cyfrifiad Blynyddol o Gynhyrchiant (CBoG).

- Cydymffurfedd Radon – Cyflwyniad ar y Diweddariad.

- Newidiadau i’r Rheoliadau Adeiladu (BREEAM)

Page 10: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

Bu’n thema gyffredin yn ein holl gyfarfodydd y derbynnir ein bod i gyd yn gweithredu mewn amserau anodd a heriol iawn gyda’r cyllidebau a’r lefelau staffio wedi’u cwtogi’n sylweddol. Mae llawer o aelodau’r grŵp bellach yn gyfrifol am wasanaethau eraill megis rheoli cyfleusterau, glanhau neu arlwyo. Ymddengys hefyd fod y duedd i gyfuno grwpiau cynnal a chadw adeiladau a grwpiau M&Th Awdurdodau’n parhau. Mae’r grŵp yn dal o’r farn y dylai’r grwpiau cynnal a chadw adeiladau a’r grwpiau M&Th gael perthynas fwy clos; cytunai pawb y byddai budd mewn ystyried naill ai uno’r grwpiau i gynyddu’r cysylltiadau a gweithio’n fwy cydweithredol neu efallai rannu dyddiadau cyfarfodydd gyda sesiynau bore a phrynhawn ar wahân. Mae posibiliad i’r sefyllfa economaidd anodd effeithio ar y niferoedd yn y grwpiau gyda llawer o’r aelodau hŷn yn ystyried ymddeol. Bydd yn rhaid i holl aelodau’r grwpiau wneud pob ymdrech i ddenu enwebiadau newydd o nifer o Awdurdodau a gwneir cynnydd pellach yn y gwaith hwn yn y dyfodol. Mae’r grŵp yn edrych ymlaen at y 12 mis nesaf gydag optimistiaeth newydd a gobeithir y bydd y presenoldeb da yn parhau ac y gellir cynnal rhwydweithio ysgogol.

Phil Kenney – Cyngor Sir Fynwy

Page 11: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

Grŵp Ynni CALlC

Adroddiad Blynyddol

Adroddiad Steve Keating, Cadeirydd Grŵp Ynni CALlC, Cyngor Sir Penfro.

Gwerthfawrogwyd yn fawr gyfraniad yr aelodau canlynol a wirfoddolodd i gydlynu dyletswyddau penodol yn ystod 2015/16:

Y Cadeirydd yn trosglwyddo’r awenau yng nghyfarfod Rhagfyr 2015: Will Pierce, CS y Fflint Trefnu cyflwyniadau: Paul Rossiter, CBS Caerffili Hyfforddiant Aseswyr Ynni Carbon Isel: David Powell, CBS Bro Morgannwg Lleoliadau Cyfarfodydd: Bethan Lloyd Davies, CS Ceredigion

Cynhaliwyd cyfarfodydd y Grŵp Ynni yn chwarterol yn ystod 2015/16 yn swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion, yn Aberaeron. Yn gyffredinol mynychai nifer dda’r cyfarfodydd hyn ac maent yn parhau i gynnwys ystod ehangach o gyrff cyhoeddus nag yn y blynyddoedd cynt. Yn ychwanegol at yr awdurdodau lleol, y rheiny sydd nawr yn mynychu’n rheolaidd yw Heddlu Gogledd Cymru, Llywodraeth Cymru, Re: Fit Cymru, Cymru Effeithlon (CE) Yr Ymddiriedolaeth Garbon, Partneriaethau Lleol, Y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC) Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant, a Salix Finance Cyf. (cwmni dielw a gyllidir gan y Llywodraeth Ganolog i weinyddu benthyciadau di-log ar gyfer prosiectau ynni effeithlon yn y sector cyhoeddus). Golyga’r gynrychiolaeth drawstoriadol o'r sector cyhoeddus i gyfarfodydd Grŵp Ynni CALlC ddod yn “siop un stop” ar gyfer rhannu gwybodaeth ac arfer orau ar y cyd.

Dilynwyd cyfarfodydd 2015/16 y Grŵp Ynni gan gyflwyniadau ar effeithlonrwydd ynni a dŵr. Y cyflwyniadau a dderbyniwyd gan y grŵp yn ystod 2015/16 oedd:

Rhagfyr 2015 - Ventrolla – Ffenestri cyfnod ynni effeithlon

Mawrth 2016 - Y Swyddfa Fesur a Rheoleiddio Wladol – Rheoliadau Rhwydwaith Gwres - OCUAIR – Delweddu Thermol & Delweddau o’r Awyr.

Mehefin 2016- Re: Fit Cymru - Contract Perfformiad Ynni fframwaith gwarantu arbedion - Gwresogyddion ZIP – Gwresogyddion dŵr twym ynni effeithlon ar bwynt defnydd.

Medi 2016- Ynni Glan – Gwres a Phŵer Cyfunedig (GaPhC) gan Gell Danwydd Hydrogen.

Page 12: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

Y pynciau pwysicaf a drafodwyd yng nghyfarfodydd 2015/16 oedd:

LlC Cymru Adnodd Effeithlon /Ymddiriedolaeth Garbon Cymru

Ailrymusodd penderfyniad Llywodraeth Cymru yn 2014 i newid strwythur a threfniadau llywodraethu Ymddiriedolaeth Garbon Cymru (YGC) drwy gyflenwi effeithlonrwydd ynni, gwastraff a dŵr drwy gyfrwng llwyfan newydd Cymru Adnodd Effeithlon (CAE). Mae CAE/YGC wedi mynychu pob cyfarfod ac wedi rhoi cyflwyniadau a diweddariadau ar y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf. Datblygodd a chyflenwodd YGC yn ogystal sawl gweminar ar destunau perthnasol. Roedd cynhadledd gyntaf Sector Cyhoeddus yr Ymddiriedolaeth Garbon ym Mhrifysgol Aberystwyth ym Mai 2016 yn llwyddiant mawr a chwmpaswyd y pynciau canlynol:

- Gweithredu Technoleg Carbon Isel: dichonoldeb, manyleb a chaffael technolegau effeithlonrwydd ynni a charbon isel, gweithio gyda’r sector preifat i sicrhau gwerth gorau a datrysiadau wedi’u selio i’r dyfodol;

- Ynni, Dŵr a Gwastraff: gwastraff i ynni, gwres o ynni, rheoli a rhwystro peryglon i gyflenwi gwasanaeth cyhoeddus;

- Ynni Lleol & Chymunedol: harneisio pŵer llywodraethau lleol a chyrff cyhoeddus i reoli perygl hinsawdd drwy ynni datganoledig;

- Ymgysylltu â Chymunedau: cyrraedd dinasyddion, myfyrwyr, cleifion, a defnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus i hybu arbedion effeithlonrwydd a gostyngiad mewn carbon.

Yn 2016 rhoddwyd estyniad o 12 mis i Ymddiriedolaeth Garbon Cymru (YGC) i gyflenwi gwasanaeth Rheolwr Cleientiaid Sector Cyhoeddus Cymru Adnodd Effeithlon (CAE) ac anelu at y canlynol:

- Datblygu cynllun cyflenwi newydd ar gyfer y 12 mis nesaf - Gwella’r gwasanaeth a’i wneud yn fwy strategol- Parhau i gefnogi effeithlonrwydd ynni a rhaglenni rheoli newidiadau, ynghyd â chael mynediad i gyllid

drwy Salix ac Invest 2 Save- Ffocws yn fwy na dim ar y terfyn, gan anelu at brosiectau graddfa fawr a chydweddu cefnogaeth gyda

Thwf Gwyrdd Cymru a Refit

LlC / Partneriaethau Lleol / Twf Gwyrdd Cymru

Comisiynwyd Partneriaethau Lleol (PLl) gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’i Rhaglen Twf Gwyrdd Cymru (TGC). Mae PLl yn gweithio’n brysur ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i gynyddu, cyflymu a datberyglu cyflenwi’r biblinell o brosiectau ynni adnewyddadwy ac arbedion effeithlonrwydd ynni’r sector cyhoeddus. Prif amcan y rhaglen yw cefnogi datblygu cynaliadwy yng Nghymru; drwy gynyddu buddsoddiad gwyrdd, lleihau allyriadau carbon, ehangu’r economi werdd a chynnal twf swyddi gwyrdd ledled Cymru.

Mae’r rhaglen yn cynnwys gwaith yn y meysydd canlynol:

- Darparu rheolaeth ymroddedig ar brosiectau a chymorth masnachol i gyrff sector cyhoeddus ym mhob Rhanbarth Cymreig;

- Cefnogaeth â chymhorthdal ar gyfer gweithredu Re: fit Cymru – rhaglen i gyflenwi ôl-osodiadau arbedion effeithlonrwydd ynni ar adeiladau graddfa fawr;

- Llawlyfrau, cyngor a chefnogaeth ar gyfer addasiadau arbedion ynni gwyrdd ar gyfer goleuo strydoedd;- Cefnogaeth i ddatblygu a chyflenwi rhwydweithiau gwres;- Help a chyngor gyda chyflenwi seilwaith cynhyrchu ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ynni solar, ynni

dŵr, gwynt ac ati; - Technolegau’r genhedlaeth nesaf megis cynhyrchu a defnyddio a storio ynni.

Page 13: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

Salix

Mae Salix yn darparu benthyciadau arbedion effeithlonrwydd ynni di-log gyda chefnogaeth LlC. Eleni mae’r cwmni wedi gweithio gyda Thwf Gwyrdd Cymru i gyfuno’r broses ymgeisio am gyllid ar gyfer holl brosiectau arbedion effeithlonrwydd ynni, ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd adnoddau o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru a gynigiwyd yn gynt drwy fodelau cyllid Salix and WG Invest 2 Save ar wahân. Bellach mae un broses ymgeisio syml sy’n cyfuno ffurflen gais, achos busnes a llawlyfr cydymffurfiaeth. Mae nifer o Awdurdodau Lleol Cymreig bellach yn manteisio ar y broses fenthyca sy’n golygu buddsoddiad o filiynau o bunnoedd mewn mesurau arbedion effeithlonrwydd.

Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC)

Cymerodd Awdurdodau Lleol fantais o fframweithiau caffael ynni a osodwyd yn eu lle gan y GCC i sicrhau gweithio cydweithredol a gwerth gorau am arian. Mae GCC yn gweithio gydag is-grŵp ynni GCC i ddatblygu’r gofynion ar gyfer Ebrill 2017 ymlaen ar gyfer Nwy, trydan HH a thrydan NHH. Rhai o’r amcanion hirdymor yw sicrhau bod caffael ynni yn cwrdd ag amcanion y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn cefnogi cyfleoedd ynni adnewyddadwy yng Nghymru megis Morlyn Bae Abertawe.

Rheoliadau Rhwydwaith Gwres

Mae’r grŵp wedi derbyn cyflwyniad a chymorth cyfredol gan y Swyddfa Fesur a Rheoliadau Wladol (SFRhW) ynghylch Rheoliadau’r Rhwydwaith Wres. Rhoddodd y cyflwyniad wybodaeth gefndirol ynghylch gorfodaeth, yr uchelgais parthed polisi ar gyfer mesur gwres a phrisio gwres ar gyfer Rhwydweithiau Gwres Rhanbarthol a Chymunedol lle byddai’n ddichonadwy’n dechnegol ac yn ymarferol. Mae’r rheoliadau’n gymwys i, er enghraifft, ferwedydd cymunedol mewn cyfadeilad tai gwarchod lle mae’r berwedydd hwnnw’n darparu gwres i aml-unedau annibynnol (mae’n rhaid i bob uned gael cegin, ystafell ymolchi ac ystafell wely i’w cynnwys).

Cynllun Effeithlonrwydd Ynni’r Ymrwymiad Lleihau Carbon (CEYYLlC)

Roedd yr Ymrwymiad Lleihau Carbon (YLlC) yn eitem ar agenda pob cyfarfod yn 2015/16, gan fod sawl awdurdod lleol yng Nghymru’n cymryd rhan yn y cynllun, ac fe effeithiwyd ymhellach yn ariannol ar bob un ohonynt gyda chynnwys goleuo stryd yn eu datganiadau allyriadau carbon. Trafodwyd diweddariadau, newyddion a goblygiadau rhwng aelodau yng nghyfarfodydd CALlC, yn arbennig y ffaith fod y cynllun i orffen yn 2018/19 yn dilyn adolygiad gan y Llywodraeth. Goblygiad anffodus hyn yw cynnydd yn nhreth Ardoll Newid yn yr Hinsawdd i adennill refeniw a gollwyd o ganlyniad i derfynu’r YLlC. Bydd yr Ardoll Newid yn yr Hinsawdd yn cynyddu’n sylweddol yn 2019.

Tystysgrifau Ynni I’w Harddangos (TYH)

Mae Tystysgrifau Ynni i’w Harddangos hefyd yn eitem reolaidd ar yr agenda am fod rhai o aelodau’r grŵp yn aseswyr cymwys ac mae angen iddynt fynd ar hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn flynyddol i gynnal eu cymwysterau, fel arfer ar ffurf cyflwyniad undydd gan ymgynghorydd CIBSE. Trefnodd Grŵp Ynni CALlC yr hyfforddiant hwn a’i gynnig i holl aelodau’r grŵp, nid yn unig i’r rheiny oedd yn aseswyr cymwys. Byddai Grŵp Ynni CALlC, felly, yn hoffi diolch i BONO am eu cymorth ariannol parhaus sydd wedi galluogi cynnal yr hyfforddiant.

Page 14: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

Cynhaliwyd yr hyfforddiant diwethaf ar 24ain Tachwedd 2015, a’r pwnc dan sylw oedd Strategaeth Ynni. Diolch o galon i David Powell yng Nghyngor Bro Morgannwg a drefnodd yr hyfforddiant.

Cod Cydbwyso a Setliad, P272/P322 – mesur bob hanner awr ar gyfer proffiliau trydan 05-08.

Mae Llywodraeth y DU wedi’i gwneud yn orfodol codi tâl ar holl fesuryddion trydan Trawsnewid Cerrynt (TC) yn nosbarth proffil 05-08 bob hanner awr. Nod “P272” yw gwneud i’r safleoedd hynny sy’n defnyddio trydan ar amserau brig ‘coch’ (Yn Gynnar yn y Bore nau’n hwyr yn y prynhawn, yn enwedig yn y gaeaf) dalu mwy am ddefnydd y rhwydwaith drydan yn ystod yr amserau hyn. Yn yr un modd bydd safleoedd yn talu llai wrth ddefnyddio trydan ar amserau heb fod yn rhai ‘brig’ neu’n amserau ‘gwyrdd’ (yn yr hwyr, yn y nos ac ar benwythnos). Mae’r llywodraeth yn gobeithio y bydd safleoedd yn dechrau lleihau’u defnydd o drydan ar amserau ‘coch’ ac o ganlyniad yn lleihau’r pwysau ar y grid trydan. Mae cyfle, felly, i safleoedd sy’n gweithredu ar amserau ‘coch’ leihau’u biliau ynni drwy ddefnyddio llai o bŵer ar yr amserau hynny (neu drwy osod peth offer a allai gynhyrchu pŵer ar-y-safle ar yr amserau ‘coch’ hyn, ac felly, leihau’r defnydd a’r costau uwch cysylltiedig). Yn yr un modd bydd defnyddio pŵer ar yr amserau ‘gwyrdd’ yn rhatach. Felly os oes unrhyw brosesau defnyddio trydan a allai weithredu yn ystod amserau ‘gwyrdd’ yn hytrach nag ar amserau ‘coch’, gellir gwneud arbedion.

Dangosyddion Perfformiad

Dymunai Uned Ddata Cymru (UDdC) ehangu manylion ar ddata a gasglwyd ar gyfer Dangosyddion Perfformiad Tystysgrifau Ynni I’w Harddangos (TYH) Rheoli Asedau. Mae’r grŵp wedi gweithio gydag Uned Ddata Cymru i sicrhau bod data’r Dangosydd Perfformiad a ddarparwyd yn hawdd eu rheoli a bod ganddynt ‘effaith gwaith isel’ ar aelodau’r grŵp ynni.

Bydd y DP cyfredol ar gyfer “Canran y newid yn sgôr y Tystysgrifau Ynni I’w Harddangos (TYH) o fewn adeiladau cyhoeddus yr awdurdod lleol sydd dros 1,000 o fetrau sgwâr” yn aros.

Yn ategu hyn mae UDdC nawr yn gofyn am y canlynol:

Nifer y TYH cyfradd A (Safleoedd dros 1000 m2 yn unig)

Nifer y TYH cyfradd B (Safleoedd dros 1000 m2 yn unig)

Nifer y TYH cyfradd C (Safleoedd dros 1000 m2 yn unig)

Nifer y TYH cyfradd E (Safleoedd dros 1000 m2 yn unig)

Nifer y TYH cyfradd F (Safleoedd dros 1000 m2 yn unig)

Nifer y TYH cyfradd G (Safleoedd dros 1000 m2 yn unig)

Bydd UDdC wedyn yn gofyn am un cyfrif syml pellach sef:

“Nifer yr adeiladau dros 1,000 o fetrau sgwâr gyda Thystysgrifau Ynni I’w Harddangos ym mandiau A i G”. Y meddylfryd yw bod hwn yn ddangosydd defnyddiol newydd o ganran y TYH cyfradd D100 neu well (h.y. yn well na’r sgôr cyfartalog cenedlaethol o D100) ym mhob Awdurdod.

Page 15: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

Prosiectau Ynni Adnewyddadwy

Pwnc o ddiddordeb arbennig yn ein cyfarfodydd diweddar yw datblygiad cynlluniau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach a graddfa fawr. Tynnwyd mwy o sylw at hyn pan gyhoeddodd y Llywodraeth yn nhymor yr hydref 2015 fod cymelliadau megis FIT a ROC yn cael eu cwtogi’n sylweddol. Y pwynt critigol oedd pan gyflwynwyd y newidiadau. Roedd rhai Awdurdodau ffodus wedi datblygu cynlluniau Solar, Gwynt a Dŵr yn llwyddiannus, ond mae nifer o Awdurdodau Cymreig yn gorfod gwneud dyfarniadau a phenderfyniadau ar fwrw ymlaen â datblygiadau gydag ad-daliadau wedi’u hymestyn. Ymchwilir opsiynau eraill i wella’r ad-daliadau megis gosod trydan yn breifat i adeiladau’r cyngor a/neu ddefnyddio batri i storio ynni i’w ddefnyddio’n hwyrach.

Diweddariadau’r Cyngor

Mae’r grŵp yn cynnal trafodaethau bord gron ynghylch y prosiectau presennol a gyflawnir ym mhob ALl gan ddefnyddio templed ‘diweddariadau’r aelodau’ a drosglwyddwyd o gyngyfarfod. Mae’r trafodaethau rhannu gwybodaeth yn werthfawr a gwnaed cais gan rai aelodau o’r grŵp bod mwy o amser yn cael ei neilltuo i’r drafodaeth dechnegol hon a’i bod yn cael blaenoriaeth mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. Gofynnir i aelodau sicrhau eu bod yn diweddaru templed ‘diweddariadau aelodau’ o gyngyfarfod er mwyn cadw’r wybodaeth yn gyfredol.

Steve KeatingCadeirydd, Grŵp Ynni.

Page 16: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

Adroddiad Blynyddol Rheoli Asedau & Grŵp Ystadau CALlC

Mae Rheoli Asedau a’r Grŵp Ystadau yn parhau i gynnal cyfarfodydd ar y cyd â Changen Gymreig Cymdeithas y Prif Syrfewyr Ystadau. Mae’r cysylltiad hwn ag arfer genedlaethol orau mewn rheoli eiddo yn helpu i ehangu cwmpas y Grŵp i faterion cenedlaethol a datblygu polisïau mewn mannau eraill yn y DU.

Mae gan y Grŵp gysylltiadau cryf â Llywodraeth Cymru a’r Gweithgor Asedau Cenedlaethol. Mae cyfarfodydd y Grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o’r holl awdurdodau lleol, ynghyd â chydweithwyr o’r Heddlu, Tân, Iechyd, y Gwasanaeth Prisio Rhanbarthol a Llywodraeth Cymru.

Roedd y pynciau a gyd-gysylltwyd gan y Grŵp yn ystod y flwyddyn yn cynnwys:

Pryderon ynghylch recriwtio, oherwydd anawsterau mewn denu staff i swyddi gwag mewn practis cyffredinol Cynllunio Rheoli Asedau Trosglwyddo Asedau Cymunedol – Cyfrannodd Aelodau at ganllawiau arfer orau a baratowyd gan Weithgor

Asedau Cenedlaethol Dangosyddion Perfformiad ar Draws y Sector Cyhoeddus – Cyfrannodd Aelodau at ganllawiau arfer orau a

baratowyd gan Weithgor Asedau Cenedlaethol

Mae’r Grŵp yn parhau i gynnal is-grwpiau penodol gan gynnwys rheoli ystadau diwydiannol, prisio asedau a rheoli marchnad

Gyda chyllid CALlC at ein gwasanaeth, rydym wedi ailsefydlu’n cyswllt cryf blaenorol gyda CIPFA ar gyfer CPD rheoli asedau ac ystadau ac mae 3 sesiwn brynhawn nawr wedi’u cyflwyno yn ystod y flwyddyn, gyda diweddariadau proffesiynol cyffredinol yn canolbwyntio ar 3 phwnc penodol:

Prisio Asedau Trosglwyddo Asedau Cymunedol Deddfwriaeth newydd yng Nghymru a’r DU

Jonathan Fearn, Cynullydd Grŵp Rheoli Asedau ac Ystadau CALlC

Grŵp Rheoli Perfformiad CALlC

Page 17: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

Mynychodd yr Uned Ddata gyfarfod CALlC BONO ym Mai 2016 er mwyn rhoi mewnbwn i aelodau ynghylch ymarfer meincnodi o 2014-15. Credai aelodau CALlC fod cyflwyno’r amod data ysgolion yn ystod y flwyddyn flaenorol wedi bod yn ddefnyddiol iawn a’i fod wedi caniatáu iddynt ddeall yn well gyflwr ysgolion ar draws Cymru a’r costau oedd yn gysylltiedig â’u cynnal. Yn ychwanegol at ledaenu dealltwriaeth drwy gyfrwng yr Hyb Meincnodi ac adroddiad yn seiliedig ar system feincnodi, fe gynhyrchodd yr Uned Ddata’n ogystal ffeithlun ar gyfer pob awdurdod a gyflwynodd rai o’u data allweddol (o gymharu â Chymru).

Cadwyd gwasanaethau’r Uned Ddata yng nghyfarfod CALlC BONO ym Mai 2016 i hwyluso datblygu, casglu, dilysu a lledaenu set ddata feincnodi Rheoli Asedau ar gyfer 2015-16. Dyma fydd degfed cyhoeddiad blynyddol set ddata feincnodi Rheoli Asedau.

Cyfarfu Gweithgor Rheoli Asedau CALlC â’r Uned Ddata yng Ngorffennaf 2016 i adolygu’r data, eu diffiniadau a’r adborth a dderbyniwyd o’r sesiwn CALlC BONO. O ganlyniad, gwnaed y gwelliannau canlynol i’r set ddata cyn 2015-16:

Cyflwynwyd 2 ddangosydd newydd (CAM108 a CAM110) i edrych ar y gwariant ar gynnal a chadw gofynnol yn ôl arwynebedd mewnol gros (AMG) y metr sgwâr ar gyfer ysgolion ac adeiladau eraill yr awdurdod lleol. Mae’r data hyn yn cael eu hagregu i gynhyrchu cyfanswm y gellir ei gymharu â data hanesyddol.

Cyflwynwyd 3 dangosydd newydd (CAM012, CAM014 a CAM016) i edrych ar y newid canrannol ar ffigur ôl-groniad cynnal a chadw flwyddyn ar ôl blwyddyn. Gofynnwyd am y data newydd hyn gan aelodau CALlC ym Mai.

Cyflwynwyd 1 dangosydd newydd (CAM126) i edrych ar nifer yr adeiladau dros 1,000 o fetrau sgwâr gyda Thystysgrifau Ynni I’w Harddangos ym mandiau A i G. Fe fyddwn yn casglu ac yn lledaenu gwybodaeth gyd-destunol yn gysylltiedig â’r data hyn.

Anfonwyd y ffurflenni casglu data i awdurdodau lleol yn Awst 2016 i’w dychwelyd ar ddydd Llun 31 Hydref 2016 trwy gyfrwng yr Hyb Meincnodi (www.benchmarkingwales.net ). Bydd adroddiad yn seiliedig ar system feincnodi a ffeithlun hefyd yn cael ei rannu gydag awdurdodau lleol ar y diwrnod hwn; byddant ar gael drwy gyfrwng adrannau ‘adroddiadau’ a ‘dogfennau’ yr Hyb Meincnodi.

Mae’r broses o adolygu canlyniadau a chymharu tueddiadau, ynghyd â pherfformiad arbennig, yn parhau fel mae awdurdodau’n defnyddio ‘r wybodaeth hon ar berfformiad i gynorthwyo gyda gwella cyflenwi gwasanaeth.

Page 18: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru

Mae Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru yn dal i fod yr unig sefydliad traws-sector, traws-bortffolio sy’n gwasanaethu’r diwydiant adeiladu yng Nghymru. Ein neges graidd yw annog y gadwyn gyflenwi gyfan i weithio fel

tîm, caffael yn gydweithredol ac ystyried effaith hirdymor cynlluniau adeiladu - oherwydd mai hon yw’r unig ffordd i gwrdd â thargedau’r llywodraeth ar ddatblygu cynaliadwy, rheoli gwastraff, lleihau carbon a manteision cymunedol.

Gan symud bellach yn ein pedwaredd flwyddyn ar ddeg, mae YCC wedi cyflenwi cannoedd o ddigwyddiadau, yn gynadleddau, gweithdai, seminarau ac adolygiadau gan gymheiriaid. Rydym yn rhannu gwybodaeth a dysgu drwy Glybiau Arfer Orau, grwpiau rhwydweithio a rhaglenni Arddangosiadol ac Enghreifftiol. Rydym yn ymgysylltu fwyfwy â llywodraeth a diwydiant nag ar unrhyw adeg arall. Bob wythnos mae’n newyddlen yn cyrraedd 5,000 o randdeiliaid ac rydym yn rhedeg dros 70 o ddigwyddiadau bob blwyddyn. Rydym wedi sicrhau cefnogaeth o dros werth miliwn o oriau dynol o feysydd ar draws yr amgylchedd adeiledig Cymreig ac yn amcangyfrif bod ein prosiectau Enghreifftiol wedi cynhyrchu dros £1 biliwn o werth i Gymru.

Ar hyn o bryd mae gennym 33 o brosiectau yn ein rhaglen Enghreifftiol sy’n cynrychioli £500 miliwn o fuddsoddiad ar draws sectorau yn amrywio o briffyrdd i ysbytai, ysgolion a chartrefi. Rydym yn gwybod o olrhain eu cynnydd y gall prosiectau Enghreifftiol ddyblu gwerth buddsoddiad, fel, ar gyfer pob £1 gaiff ei gwario buddsoddir bron £2 yn yr economi Gymreig.

Oherwydd dylanwad YCC ac adfocatiaeth arfer orau a chaffael cydweithredol gallwn weld y dystiolaeth bod ein rhanddeiliaid yn chwarae rhan bwysig yn adeiladu amgylchedd Cymreig gwell. Mae glynu at egwyddorion adfocatiaeth gydweithredol a gweithio fel tîm yn helpu’r diwydiant adeiladu Cymreig i arbed arian a mwyafu gwerth. Mae pob £1 rydym ni’n ei gwario yn y diwydiant adeiladu yn dyblu mewn gwerth, gan ddarparu manteision enfawr i gymunedau lleol a’r wlad yn gyffredinol - cyhyd ag y parhawn i gyflenwi prosiectau yn y modd cywir.

Cynhwysir ein tystiolaeth yn ein rhaglen Enghreifftiol ac fe’i harddangosir bob blwyddyn yn ein Gwobrau YCC. Mae’r prosiectau a ymgeisiodd am wobrau yn 2015 werth dros £400 miliwn i Gymru, ond mae’r gwerth yn nhermau gwerth i gymunedau a’r amgylchedd yn treiddio ymhellach o lawer. O’r cynlluniau ar y rhestr fer yn unig, mae YCC yn amcangyfrif y crëwyd bron i 800 o swyddi neu leoliadau gwaith., cefnogwyd 30 o elusennau, crëwyd pum maes parcio, cyflwynwyd 150 o sesiynau mewn ysgolion lleol a cholegau a hwyluswyd 130 o gymwysterau Bagloriaeth genedlaethol.

Defnyddir y dystiolaeth yn ddyddiol mewn dialog gyda’r llywodraeth, datblygwyr preifat, cynllunwyr, gwneuthurwyr polisi, a’r cyflenwad galw. Mae tîm YCC hefyd yn gweithio’n glos gyda chydweithwyr yn ICE (Sefydliad y Peirianwyr Sifil Cymru), ACE (Gwrthusiad Cyrhaeddiad a Hyfedredd), CITB (Bwrdd Hyfforddiant y Diwydiant Adeiladu), CECA Cymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil ynghyd â chydweithwyr yng Nghonsortiwm Awdurdodau Lleol Cymru, i enwi ond ychydig. Yn wir, drwy’n rhaglen barhaus o ddigwyddiadau ac ymchwil, mae allgymorth YCC nawr i’w gymharu ag allgymorth llawer o sefydliadau sy’n aelodau. Ynghyd â pherthnasau uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru ar y lefel uchad, mae gennym hefyd berthynas ragweithiol gydag ymgynghorydd adeiladu Llywodraeth y DU a chysylltiadau gyda chyrff diwydiant ehangach megis y Build UK - sydd nawr yn cefnogi menter Cwmpawd Gwyrdd YCC.

Bydd YCC 2016 yn parhau i herio prosesau caffael – gan hyrwyddo’r argymhellion i wella cyflawniad y sector adeiladu cyhoeddus yn yr adolygiad i mewn i Dim Troi Nôl – gan dynnu sylw at y modd y gall cartrefi carbon isel gael eu hadeiladu’n rhatach ac yn effeithiol, a dangos bod yn rhaid i reoli gwastraff fod yn elfen hanfodol o gynllunio a rheoli safle. Fel mae adeiladu yng Nghymru’n parhau i dyfu a ffynnu, felly hefyd mae angen i’n neges ynghylch arfer orau fod yn uwch, yn gyson ac yn fwy eglur nag erioed o’r blaen – wedi’u clymu i flaenoriaethau awdurdodau lleol a’r cymunedau a wasanaethant.

Page 19: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

Sefyllfa Ariannol Hanner Blynyddol 2015-16

1. CYFLWYNIAD

1.1 Pwrpas yr adroddiad hwn yw hysbysu Aelodau o’r sefyllfa ariannol hanner blynyddol ar gyfer 2015/2016.

2. SEFYLLFA ARIANNOL HYD AT FEDI 30 ain 2015

2.1 Seiliwyd y gyllideb wedi’i chymeradwyo ar gyfer 2015/16 ar ragolygon cyfanswm gwariant o £64,460, yn adlewyrchu’r gyllideb refeniw gyfredol a’r rhaglen waith fel nodwyd gan Fwrdd y Swyddogion Enwebedig.

2.2 Mae’r gyllideb hon yn darparu ar gyfer cyfraniad o 50% gan Gonsortiwm Awdurdodau Lleol Cymru i’r hyfforddiant CIBSE at lefel amcangyfrifedig o £2,000. Yn ychwanegol, mae darpariaeth ar gyfer adolygu cynnal a chadw a manylebau mecanyddol, ynghyd â’r cymhorthdal i B.I.M. (Modelu Gwybodaeth am Adeiladau).

2.3 Awgryma adolygiad o’r sefyllfa’n seiliedig ar wybodaeth monitro ariannol at ddiwedd Medi 2015 ac ymrwymiadau hysbys hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol y gallai gwariant fod yn is na’r targed ond bydd angen cadarnhau hyn dros y misoedd i ddod. Y rhagolygon ar hyn o bryd yw y bydd gwariant yn cael ei ariannu’n bennaf gan incwm aelodau o £33,860 a’r gweddill yn cael ei ddiwallu gan gyfraniad wedi’i gyllidebu o incwm Thorn Lighting.

2.4 Hyd ddiwedd Medi 2015, y sefyllfa wirioneddol yw gwariant llai o £3,111 fel yr amlinellir yn Atodiad A. Ni fu angen gostyngiad hud yn hyn a chyfarfyddir yn llawn â’r gwariant hwn gan incwm tanysgrifiadau blynyddol.

3. CRONFA AD-DALIADAU

3.1 Ar 1af Ebrill 2015 roedd £84,420 yn y Gronfa Ad-daliadau. Mae’r gyllideb wedi’i chymeradwyo’n rhagdybio gwarged posib o £14,610 i’w drosglwyddo i’r Gronfa Ad-daliadau ar ddiwedd y flwyddyn, gan adael gweddill o £99,030. Bydd y trosglwyddiad gwirioneddol yn dibynnu ar y sefyllfa alldro derfynol ac adroddir hyn yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gwanwyn.

4. TANYSGRIFIADAU BLYNYDDOL

4.1 Mae Atodiad B yn dangos lefel gyfredol yr incwm a godir gan danysgrifiadau aelodau. Caiff cyfraniadau blynyddol aelodau eu capio ar raddfa o £1,500 gan olygu incwm aelodaeth blynyddol ar gyfer 2015/16 o £33,860 ac mae hyn yn eithrio Heddlu Gogledd Cymru nad ydynt bellach yn aelodau.

Page 20: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

5. CYNALIADWYEDD ARIANNOL TYMOR HWY

5.1 Cymeradwywyd amcangyfrifon 2015/16 gyda’r nod o sicrhau y gellir sefydlu sefyllfa gyllidebol gynaliadwy ar gyfer blynyddoedd y dyfodol ac er mwyn cefnogi prosiectau penodol yn y dyfodol er budd gwasanaethau eiddo’r sector preifat ar draws Cymru.

5.2 Bydd cynhyrchu gwarged yn 2015/16 yn cyfrannu at y nodau hyn dwy gynyddu’r Gronfa Ad-daliadau sydd ar gael ar gyfer blynyddoedd y dyfodol.

6. ARGYMHELLION

6.1 Bod aelodau:

i) yn nodi’r sefyllfa ariannol hanner blynyddol

Gillian Brown Yn cynrychioli Trysorydd i’r Consortiwm

Page 21: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

Cyfansoddiad CALlC

Yn unol â Chymal 7.8 o Gyfansoddiad CALlC, mae angen i’r Grŵp Llywio a Bwrdd y Swyddogion Enwebedig adolygu’r Cyfansoddiad bob dwy flynedd a’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Y tro diwethaf i’r Cyfansoddiad gael ei gyflwyno i Aelodau Etholedig yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ar 7fed Tachwedd 2014 yn Abertawe - lle’r argymhellwyd gan Gadeirydd CALlC na ddylai fod unrhyw newidiadau i’r Cyfansoddiad. Cynigiwyd derbyn yr argymhelliad.

Amlinellir y Cyfansoddiad cyfredol, fel y’i cymeradwywyd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar y 7fed o Dachwedd 2014, ar y tudalennau canlynol.

Maria JonesCadeirydd Bwrdd yr Aelodau Enwebedig

Yn dod i rym o 7fed Tachwedd 2014

1.0 Amcanion

1.1 Amcanion Consortiwm Awdurdodau Lleol yng Nghymru yw:

(a) hyrwyddo a chefnogi gweithio ar y cyd rhwng awdurdodau sy’n aelodau a sefydliadau eraill.

(b) hyrwyddo rhagoriaeth mewn rheoli asedau eiddo, cyflenwi prosiectau a darparu gwasanaethau eiddo yn llywodraeth leol Cymru.

(c) cefnogi awdurdodau sy’n aelodau drwy ddarparu hyfforddiant, lledaenu arfer orau, cynhyrchu dogfennaeth safonol a chomisiynu ymchwil.

(d) cynrychioli buddiannau’r awdurdodau sy’n aelodau drwy sefydlu cysylltiadau gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a sefydliadau eraill.

(e) darparu trefniadau consortiwm ar gyfer caffael cynhyrchion a gwasanaethau adeiladu.

1.2

Wrth wneud hynny ac i’r dibenion hynny, bydd y Consortiwm yn ymgysylltu ac yn hyrwyddo lobïo’r Llywodraeth Ganolog ac eraill sy’n ddylanwadol yn y prosesau gwneud penderfyniadau fel yr effeithiant wasanaethau eiddo’r sector cyhoeddus. I gefnogi’i bersonél ei hun lle bo’n berthnasol ynghyd â’r awdurdodau lleol hynny sy’n ymuno â’r Consortiwm ("Awdurdodau sy’n Aelodau”), nod y Consortiwm yw darparu cyfleusterau ar gyfer ymchwil a datblygiad, hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus a lledaenu gwybodaeth ymhlith Awdurdodau sy’n Aelodau.

Page 22: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

2.0 Aelodaeth

2.1 Bydd aelodaeth lawn ar gael yn unig i’r holl Awdurdodau Lleol ar yr amod eu bod yn talu tanysgrifiad blynyddol i’w benderfynu o bryd i’w gilydd gan y Consortiwm (“y Tanysgrifiad”).

2.2 Cyfrifir y Tanysgrifiad gan y Consortiwm yn seiliedig ar gyfran o gyfanswm costau blynyddol y Grŵp Llywio (fel y diffinnir ym mharagraff 7) ac fe’i cyfrifir yn y fath fodd y bydd Pwyllgor Gweithredol yr Aelodau (fel y diffinnir ym mharagraff 3.1) yn ei gweld yn dda o bryd i’w gilydd.

2.3 Bydd aelodaeth gysylltiedig o’r Consortiwm ar gael i Lywodraeth Cynulliad Cymru, Awdurdodau Heddlu, Awdurdodau Tân, Cymdeithasau Tai, Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd, Prifysgolion a sefydliadau sector cyhoeddus eraill o’r fath a gymeradwywyd gan Gadeirydd y Consortiwm ac Is-gadeirydd Bwrdd y Swyddogion Enwebedig (fel y diffinnir ym mharagraff 4.1 isod).

2.4 Penderfynir defnydd gwasanaethau’r Consortiwm gan sefydliadau ar wahân i Awdurdodau sy’n Aelodau llawn a’r Aelodau Cyswllt a gymeradwywyd a ddisgrifir uchod gan y Grŵp Llywio a chodir tâl yn unol ag amgylchiadau pob cais.

2.5 Gallai unrhyw Aelodau sy’n dymuno terfynu’u haelodaeth o’r Consortiwm wneud hynny o unrhyw 31ain Mawrth mewn unrhyw flwyddyn ar yr amod llym eu bod wedi gwasanaethu heb fod yn llai na deuddeg (12) mis cyn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r Consortiwm.

3.0 Pwyllgor Gweithredol yr Aelodau Etholedig

3.1 Corff llywodraethol y Consortiwm fydd pwyllgor gweithredol (“Pwyllgor Gweithredol yr Aelodau”) a fydd yn cynnwys y canlynol:

(a) Mwyafswm o ddau (2) gynghorydd a enwebwyd gan bob un o’r Awdurdodau sy’n Aelodau llawn gyda’i gilydd ag un (1) bleidlais sengl i bob Awdurdod sy’n Aelod llawn.

(b) Caniateir i Aelodau Cyswllt fwyafswm o ddau (2) sylwedydd enwebedig i bob sefydliad.

(c) Gellid gwahodd sylwedyddion eraill o bryd i’w gilydd ar ddisgresiwn Cadeirydd Pwyllgor Gweithredol yr Aelodau. I fydd gan Aelodau Cyswllt na sylwebyddion yr hawl i bleidleisio.

3.2 Bydd Pwyllgor Gweithredol yr Aelodau yn cyfarfod o leiaf dwywaith y flwyddyn, un o’r cyfarfodydd hyn yn cynnwys Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Consortiwm ac fe’i cynhelir fel arfer yn ystod chwarter olaf y flwyddyn galendr.

3.3 Etholir Cadeirydd ac Is-gadeirydd Pwyllgor Gweithredol yr Aelodau mewn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i wasanaethu am gyfnod o ddwy (2) flynedd.

4.0 Pwyllgorau Swyddogion

4.1 Pwyllgor gweithredol swyddogion y Consortiwm fydd Bwrdd y Swyddogion Enwebedig, yn cynnwys un (1) swyddog a enwebir gan bob Awdurdod sy’n Aelod [a fydd o blith eu hunain yn dethol], sef y canlynol:

(a) Cadeirydd y Swyddogion

(b) Is-gadeirydd y Swyddogion

Page 23: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

(c) Trysorydd i’r Consortiwm (a allai hefyd fod yn gynghorydd allanol)

4.2 Bydd Bwrdd y Swyddogion Enwebedig yn cyfarfod heb fod llai na bob chwarter a bydd yn gweithredu, drwy gyfrwng y Grŵp Llywio, yr Amcanion a amlinellir ym mharagraff 1.0 a bydd yng nghyd-destun y rhain yn llywio, monitro ac yn arolygu’r Grŵp Llywio i’r fath raddau ag sydd yn rhesymol angenrheidiol.

4.3 Etholir Cadeirydd ac Is-gadeirydd Bwrdd y Swyddogion Enwebedig gan y Bwrdd i wasanaethu am gyfnod o ddwy (2) flynedd.

4.4 Enwebir y Trysorydd i’r Consortiwm gan Fwrdd y Swyddogion Enwebedig i’w gadarnhau gan Bwyllgor yr Aelodau Gweithredol.

4.5 Penderfynir y Gadeiryddiaeth, cyfansoddiad (gan gynnwys lle bo’n briodol ymwneud aelodau) a natur a rhychwant gweithgareddau gweithgorau swyddogion eraill (os ystyrir bod y rhain yn angenrheidiol i gynorthwyo’r Grŵp Llywio), gan Fwrdd y Swyddogion Enwebedig.

5.0 Cyllid

5.1 Paratoir amcangyfrifon incwm (gan gynnwys incwm o’r Gronfa Ad-daliadau, fel y diffinnir yng Nghymal 5.3 isod) a gwariant gan y Trysorydd i’r Consortiwm mewn ymgynghoriad â’r Grŵp Llywio a Bwrdd y Swyddogion Enwebedig, a chymeradwyir cyllideb yn seiliedig ar hynny gan Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Pwyllgor yr Aelodau Gweithredol (a dehonglir “y Gyllideb” a “Chyllidebol” yn yr un modd).

5.2 Awdurdodir y Grŵp Llywio, mewn ymgynghoriad â’r Trysorydd, i wario arian wrth gyflawni’i ddyletswyddau, yn unol â’r penawdau gweinyddol a gweithredol a amlinellir yn y Gyllideb. Bydd y Grŵp Llywio yn sicrhau bod ei Aelod â chyfrifoldeb am y pennawd/penawdau perthnasol gweinyddol a/neu weithredol yn arsylwi ac nid (yn rhwym wrth baragraff 7.5) yn gwario mwy na’r swm/symiau a ddyrannwyd yn y Gyllideb.

5.3 Bydd y Grŵp Llywio, mewn ymgynghoriad â’r Trysorydd, yn monitro incwm a dderbyniwyd oddi wrth Enwebwyr Cydrannol y Consortiwm a/neu weithredu systemau Constructio.com a ddatblygwyd ar-lein a fwriedir ar gyfer y dyfodol (y "Gronfa Ad-daliadau”). Caiff y Gronfa Ad-daliadau’i gwario ar gyfer datblygu gweithgareddau’r Consortiwm ar ddisgresiwn Bwrdd y Swyddogion Enwebedig. Cymeradwyir gwariant heb fod yn fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd gan Gadeirydd Bwrdd y Swyddogion Enwebedig mewn ymgynghoriad â Thrysorydd a Chadeirydd Pwyllgor Gweithredol yr Aelodau. Cymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau i atodi’r incwm o Danysgrifiadau ar gyfer gweithredu’r Consortiwm yn gyffredinol gan Bwyllgor Gweithredol yr Aelodau fel y bydd unrhyw weithgaredd sy’n fwy na’r Gyllideb neu’r gwariant arni (neu’r rhwymedigaeth a ysgwyddir parthed) unrhyw eitemau heb eu gosod yn y gyllideb gan y Grŵp Llywio.

6.0 Dirwyn i ben

Petai gweithgareddau’r Consortiwm yn dirwyn i ben, fe ysgwyddir gan / neu fe ddosberthir yr holl gostau gweddilliol neu’r rhwymedigaethau neu’r cyllid gwarged (gan gynnwys y Gronfa Ad-daliadau) i’r Awdurdodau hynny sy’n Aelodau llawn o’r Consortiwm ar adeg y dirwyn i ben, ac fe’u rhennir yn unol â’r Tanysgrifiad a dalwyd gan bob Awdurdod sy’n Aelod.

Page 24: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

7.0 Grŵp Llywio

7.1 Bydd Aelodau’r Pwyllgor Gweithredol yn dewis (neu fe all ddirprwyo Bwrdd y Swyddogion Enwebedig i ddewis os dymunant), ar yr adegau hynny ac yn ystod yr adegau hynny fel yr ymddengys yn addas yn ei ddisgresiwn, grŵp o saith (7) person o brofiad a chefndir fel y bydd yn briodol a fydd yn ffurfio grŵp llywio’r Consortiwm, (“y Grŵp Llywio”). Dyletswydd y Grŵp Llywio fydd cynorthwyo Bwrdd y Swyddogion Enwebedig wrth gyflawni’r ddyletswydd a neilltuwyd iddo gan baragraff 4.2 uchod, drwy gyflawni’r tasgau hynny a ddisgrifir ym mharagraff 7.6 isod, ac i’r diben hwn gallai Bwrdd y Swyddogion Enwebedig neilltuo i bob penodai i’r Grŵp Llywio haen benodol o gyfrifoldeb gyda’r bwriad y bydd penodeion o’r fath yn ysgwyddo cyfrifoldeb ymarferol dydd-i-ddydd y ddyletswydd honno, yn rhwym wrth y cyfyngiadau cyllidol a amlinellir yn y Gyllideb.

7.2 Bydd y Grŵp Llywio’n cyfarfod fel y bydd yn angenrheidiol mewn lleoliad a gytunir ar y cyd er mwyn adolygu perfformiad ei gyfrifoldebau ac adrodd nôl i Fwrdd y Swyddogion Enwebedig.

7.3 Bydd gan Fwrdd y Swyddogion Enwebedig yr hawl ar unrhyw adeg i benodi personél ychwanegol neu ddiswyddo personél presennol y Grŵp Llywio ar ei ddisgresiwn llwyr ei hun heb rybudd.

7.4 Caiff yr holl faterion a effeithia ar swyddogaeth a staffio‘r Grŵp Llywio eu monitro a’u hystyried gan Fwrdd y Swyddogion Enwebedig.

7.5 Cyfeirir rhag blaen unrhyw fater sydd angen sylw brys, neu unrhyw fater lle bydd angen tynnu ar unrhyw wariant neu rwymedigaeth (a) yn fwy na’r swm a gyllidebir felly yn y Gyllideb (b) na chyllidebir ar ei gyfer i Gadeirydd ac Is-gadeirydd Pwyllgor Gweithredol yr Aelodau ar gyfer eu cymeradwyaeth.

7.6 Swyddogaethau’r Grŵp Llywio (yn gweithredu’n gasgliadol neu drwy gyfrwng ei aelodau unigol yn unol â dosbarthiad y cyfrifoldeb), fydd:

7.6.1 cyflawni cyfarwyddiadau Bwrdd y Swyddogion Etholedig yn unol â pholisïau cyffredinol o’r fath gan Aelodau’r Pwyllgor Gweithredol i effeithio orau ar yr Amcanion;

7.6.2 sicrhau’r trefniadau pwrcasu mwyaf ffafriol parthed unrhyw drafodiadau a gymeradwywyd gan Fwrdd y Swyddogion Enwebedig;

7.6.3 darparu gwasanaethau ysgrifenyddol a gweinyddol i Fwrdd y Swyddogion Etholedig a grwpiau gwaith swyddogion eraill fel y penderfynir gan y Bwrdd;

7.6.4 cynrychioli’r Consortiwm ar bwyllgorau technegol rhyng-gonsortiwm a chyfarfodydd technegol eraill o’r fath fel y penderfynir gan fwrdd y swyddogion etholedig neu a gymeradwyir gan Gadeirydd Bwrdd y Swyddogion Etholedig;

7.6.5 paratoi, mewn ymgynghoriad â Bwrdd y Swyddogion Etholedig a’r Trysorydd, gyllideb flynyddol ddrafft yn dangos incwm a gwariant rhagamcanol. Y gyllideb ddrafft fydd y gyllideb honno a gyflwynwyd i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Pwyllgor Gweithredol yr Aelodau i’w cymeradwyo yn y modd a amlinellir ym 5.1 uchod;

7.6.6 rheoli cyllideb y Consortiwm yn effeithlon yn unol â’r cyfrifoldebau arbennig penodeion unigol y Grŵp Llywio a’r cyfyngiadau cyllidebol y gallent fod yn rhwym wrthynt;

7.6.7 cyflawni dyletswyddau o’r fath y gallai Bwrdd y Swyddogion Etholedig o bryd i’w gilydd eu pennu.

Page 25: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

7.7 Bydd Bwrdd y Swyddogion Etholedig, gyda chytundeb Pwyllgor gweithredol yr Aelodau, ddarparu gwasanaethau cefnogi fel mae’n angenrheidiol i ddatblygu gwasanaethau cymorth technegol y Consortiwm. Gwneir penodiadau ymchwil a datblygiad gan y Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd o fewn cyfyngiadau’r Gyllideb.

7.8 Adolygir y Cyfansoddiad bob dwy flynedd gan y Grŵp Llywio a Bwrdd y Swyddogion Etholedig a chyflwynir adroddiad i’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol dilynol.

Page 26: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

Gwobrwyon CALlC

Denodd Prosiect y Flwyddyn CALlC eleni ystod eang o gyflwyniadau oddi wrth aelodau. Yn ogystal ag arddangos prosiectau C Ysgolion yr 21ain Ganrif, cynhwysai’r cyflwyniadau amrywiaeth o fathau eraill o brosiectau. Gwnaeth yr amrywiaeth o brosiectau, y dulliau caffael a’r fethodoleg ddylunio, argraff ar y beirniaid.

Cynhwysai’r meini prawf y beirniadwyd y prosiectau yn eu herbyn Gynaliadwyedd, Ymgysylltu ac Ymgynghori, Iechyd a Diogelwch, Arloesi, Canlyniadau, Galluogwyr dros Newid, Effaith a Gwerth.

Enillydd Prosiect y Flwyddyn CALlC eleni oedd:

Ysgol Uwchradd y Rhyl (Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol Tir Morfa), Cyngor Sir Ddinbych.

Wedi’i dylunio gan AHR a’i hadeiladu gan Willmott Dixon, gwnaeth y cynllun hwn argraff ar y beirniaid gyda’i ymateb dyluniad arloesol i’r safle, ac fel datrysiad effeithlon a chost-effeithiol.

Mae’r prosiect yn cynnwys ysgol uwchradd 11,020m² â lle i 1,245 o ddisgyblion, a’r prosiect cyflawn yn £20.98 miliwn mewn gwerth.

Yn ychwanegol at yr enillydd ar y brig, cyflwynir dwy wobr o ganmoliaeth ar gyfer prosiectau a enillodd eu lle am agweddau penodol o’u dyluniad neu’u cyflenwad.

Cyflwynir gwobr o ganmoliaeth i:

Ysgol Gynradd Pontprennau, Cyngor Dinas Caerdydd

Wedi’i dylunio gan dîm dylunio mewnol Caerdydd ac wedi’i hadeiladu gan Morgan Sindall Construction and Infrastructure Cyf., mae’r prosiect £6.9 miliwn hwn yn cynnwys canolfan gymunedol sy’n bodoli eisoes i ffurfio ysgol gynradd 3,000m² â lle i 468 o ddisgyblion. Teimlai’r beirniaid ei bod yn haeddu canmoliaeth am ei defnydd arloesol o adeilad a fodolai eisoes, a ddefnyddir gan yr ysgol yn ystod y dydd, a gan y gymuned wedi oriau ysgol.

Cyflwynir ail Wobr Ganmoliaeth i:

Estyn ac Ailwampio Canolfan Hamdden Dinbych y Pysgod, Cyngor Sir Penfro.

Wedi’i dylunio’n fewnol gan benseiri, peirianwyr strwythurol a gwasanaeth, a syrfewyr meintiau Cyngor Sir Penfro, ac wedi’i hadeiladu gan WJG Evans a’i Feibion, fe adnewyddodd ac estynnodd y prosiect £1.42 miliwn hwn yn y Parc Cenedlaethol adeilad oedd wedi dyddio.

Teimlai’r beirniaid y gellid cyfiawnhau’r ganmoliaeth am brosiect trawsnewidiol ar gyfer y gymuned yn Ninbych y Pysgod, a gwnaeth gwerth yr arian a wireddwyd argraff arnynt tra cynhelid gweithgareddau’r ganolfan hamdden eisoes mewn bodolaeth drwy gydol yr amser.

Bydd manylion yr holl brosiectau a gyflwynwyd eleni ar gael ar wefan CALlC.

Page 27: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

Enillydd Prosiect y Flwyddyn CALlC

Cyngor Sir Ddinbych – Ysgol Newydd y Rhyl (Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol Tir Morfa)

Page 28: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

Enw’r Prosiect Ysgol Newydd y Rhyl (Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol TIr Morfa)

Lleoliad y Prosiect Grange Road, Y Rhyl, Sir Ddinbych

Pensaer AHR

Rheolwr y Prosiect Mott MacDonald

Peiriannydd/Peirianwyr Ramboll

Cost Syrfewyr Meintiau/Ymgynghorwyr Mott MacDonald

Clerc Gwaith/Goruchwylydd Cyngor Sir Ddinbych

Peiriannydd Strwythurol Ramboll

Peiriannydd Trydanol Ramboll

Peiriannydd Mecanyddol Ramboll

Cydgysylltydd Cleientiaid CDM / Prif Ddylunydd Cyngor Sir Ddinbych

Contractwr Willmott Dixon

Rheoli Adeiladu Cyngor Sir Ddinbych

Beth oedd cyfnod contract y prosiect? Cyfnod Adeiladu Hydref 2014 i Fawrth 2016Pryd dechreuodd y prosiect ar y safle? Hydref 2014Pryd ardystiwyd y prosiect i fod yn gyflawn (cyfnod a ganiateir rhwng 1 Gorffennaf 2013 a 30 Mehefin 2016)

Mawrth 2016

Beth yw gwerth cyflawn y prosiect? £20.98mBeth yw gwerth contract y prosiect? £20.98mArwynebedd mewnol gros y llawr 11,020m2 Math o waith (h.y. adeilad newydd/ailwampio) Adeilad NewyddMath o brosiect (h.y. ysgol, Canolfan hamdden, pont) Ysgol Uwchradd Nifer y disgyblion (os yw’n berthnasol) 1200 Ysgol Uwchradd y Rhyl ynghyd â 45 Ysgol Tir

MorfaLlwybr caffael Dylunio ac AdeiladuFfurf y contract NEC3 ECCA gasglwyd Dangosyddion Perfformiad Allweddol? DoBeth oedd sgôr BREEAM? Rhagorol (73%)A ddefnyddiwyd BIM? DoO dan ba fframwaith contractwr rhanbarthol (os o gwbl) y cyflenwyd y prosiect?

Amherthnasol

Page 29: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

Trosolwg Prosiect Mae Ysgol Newydd y Rhyl yn gyfleuster addysgol man eithaf y grefft i ddarparu’r cychwyn gorau posib i blant a phobl ifanc mewn lleoliad modern. Mae’r prosiect yn cynnwys datblygiad newydd tri llawr â lle i 1,200 o ddisgyblion o Ysgol Uwchradd y Rhyl. Mae’r adeilad hefyd yn darparu lleoliad ar gyfer 45 o ddisgyblion o ysgol gymunedol arbennig Ysgol Tir Morfa gerllaw.

Adeiladwyd y prosiect ar feysydd chwarae safle Ysgol Uwchradd y Rhyl gerllaw Canolfan Hamdden y Rhyl. Wedi gorffen yr adeilad newydd, dymchwelwyd hen Ysgol Uwchradd y Rhyl a darparwyd meysydd chwarae newydd.

Disgrifiad o dîm y prosiect a’r llwybr caffaelSicrhawyd y contract drwy Gontract Dylunio ac Adeiladu gyda Willmott Dixon fel y Prif Gontractwr. Cyflogwyd y tîm dylunio gan Willmott Dixon a’r Rheolwr Prosiect a’r Ymgynghorydd Costau yn cael eu cyflogi gan Gyngor Sir Ddinbych. Defnyddiodd y cynllun gontract NEC ECC Opsiwn A (cyfandaliad.

Penodwyd Willmott Dixon, ar ddull fesul cam, i ddatblygu’r astudiaeth ddichonoldeb a’r dyluniad manwl ac yn dilyn llofnodwyd y contract dylunio ac adeiladu a nodwyd y cyfnod adeiladu. Caniataodd y llwybr caffael i ethos bartneriaethu gael ei datblygu o’r cychwyn gyda’r dyluniad a’r gost yn cael eu datblygu mewn modd cydweithredol.

Beth sy’n gwneud y prosiect yn arbennig? Mae’r prosiect wedi darparu cyfleuster delfrydol i’r ysgolion. Fe’i cyflenwid drwy raglen gyfalaf addysg Cyngor Sir Ddinbych sy’n adlewyrchu ymddiriedaeth y Cyngor ym mhobl ifanc y Sir. Mae’n newyddion da i fyfyrwyr, athrawon a’r gymuned leol.

Mae’r ethos bartneriaeth drwy gydol prosiect y tîm wedi bod yn sylfaenol i gyflenwi’r cynllun yn llwyddiannus. Cyflawnwyd hyn drwy weithdy cydweithredu yn ymwneud â’r holl randdeiliaid yn gynnar yn y cam dylunio a gosododd hyn yr ysbryd ar gyfer y camau dilynol. Cofleidiodd digwyddiadau dathlu ar ddiwedd cyfnod allweddol, gan gynnwys torri a thocio tyweirch, y synnwyd o gyflawniad. Mae cyflenwi’r prosiect mewn amser ac o fewn y gyllideb yn brawf o’r ymdrech gydweithredol.

Mae’r manteision i’r gymuned a gyflawnwyd gan y prosiect yn arbennig. Darperir ffigurau allweddol yn adrannau perthnasol y cyflwyniad hwn ac maent yn cynnwys 71% o wariant lleol, 57% o gyflogaeth leol a 26 o weithdai ysgol. Mae’r prosiect wedi gwireddu gwaddol parhaol.

Claire Armistead, Pennaeth:

"Alla i ddim credu mai ni piau hon, mae’n rhyfeddol! Ni allwch gerdded drwy’r fan heb weld drwy bob ystafell ddosbarth, drwy bob ardal. Alla i ddim dychmygu gystal y cyflawnwyd hyn, mae tu hwnt i’m breuddwydion!”

Page 30: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

CynaliadwyeddMae cynaliadwyedd yn gydran hanfodol prosiect Ysgol Newydd y Rhyl. Darperir enghreifftiau isod ar gyfer pob un o dair colofn cynaliadwyedd.

Cynaliadwyedd Amgylcheddol

Mae’r adeilad newydd yn cynnwys nodweddion i gyflawni costau gweithredol isel dros gylch oes yr ysgol, tra caiff allyriadau carbon eu lleihau ar yr un pryd. Mae’r ysgol newydd yn defnyddio biomas i gynhyrchu 80% o’r galw am wresogi blynyddol yr ysgol a 280 metr sgwâr o ddefnydd ffotofoltaidd i gynhyrchu trydan; pob un yn lleihau’r galw am danwydd ffosil. Mae’r dyluniad yn ennill cyfradd ‘Rhagorol’ BREEAM a chyfradd allyriadau adeiladu 25% yn is na’r gyfradd darged allyriadau.

Cynaliadwyedd Cymdeithasol

Mae mentrau cymdeithasol wedi cynnwys rhaglenni hyfforddiant, ymgysylltu â’r gymuned a phrosiectau cymunedol. Mae’r prosiect wedi croesawu 31 o ymweliadau safle gan ddisgyblion, y gymuned leol a rhanddeiliaid ac wedi ymgymryd â 26 o weithdai ysgol sy’n gysylltiedig â’r Cwricwlwm Cenedlaethol.

Cynaliadwyedd Economaidd

Mae mewnfuddsoddi wedi bod yn ganolbwynt allweddol y prosiect. Arddangosir hyn wrth i fusnesau lleol o fewn Sir Ddinbych ac o fewn radiws o 30 milltir o’r safle ymgymryd â 71% o werth contract y prosiect. Crëwyd 10 swydd newydd gan y prosiect gyda chefnogaeth y gadwyn gyflenwi.

Strategaeth ymgysylltu ac ymgynghori Mae strategaeth gydlynus ymgysylltu rhanddeiliaid wedi ychwanegu gwerth sylweddol at y prosiect, o’r cysyniad dylunio i’w gwblhau. Fel rhan o’r broses briffio, aethpwyd â’r holl randdeiliaid, gan gynnwys athrawon a disgyblion o’r ddwy ysgol, ar gyfres o ymweliadau astudio cyn cydweithredu ag aelodau’r tîm dylunio i ddatblygu’u datrysiad unigryw eu hunain. Datblygwyd palet o ddeunyddiau ategol yr adeilad drwy gydweithredu parhaus gyda disgyblion a ddymunai gyfleu ethos modern ac uchelgeisiol. Rhoddwyd ystyriaeth i bob manylyn, hyd yn oed lawr i ddatblygu gwisg ysgol newydd.

Defnyddiwyd strategaeth ymgysylltu ac ymgynghori â’r gymuned a oedd yn strategaeth gynhwysol, er mwyn ennyn synnwyr o berchnogaeth a balchder bro yn y cyfleusterau newydd a hyrwyddo’r ysgol newydd i ddenu disgyblion y dyfodol a defnydd cymunedol. Mae hyn wedi cynnwys cynghorwyr lleol, cymdogion a phreswylwyr ehangach gan ddefnyddio cyfryngau megis rhwydweithio cymdeithasol, digwyddiadau cyhoeddus a grwpiau cydgysylltu cymunedol. Mae’r cynllun ar hyn o bryd yn cefnogi prosiect cymunedol gydag Ysgol Tir Morfa a fydd yn caniatáu i’r ysgol ymestyn allan i’w chymuned mewn modd llawer mwy cynhwysol.

Eisoes bu cynnydd enfawr mewn ceisiadau am le yn yr ysgol gan arddangos gwelliannau sylweddol yn yr arlwy academaidd i fyfyrwyr Ysgol Uwchradd y Rhyl ynghyd ag Ysgol Tir Morfa.

Page 31: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

GwerthMae’r ffaith i’r prosiect ennill ‘Rhagorol’ gan BREEAM yn brawf i’r gwerth a gyflawnwyd mewn effeithlonrwydd, dulliau adeiladu a lleihau’r defnydd o adnoddau. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

EffeithlonrwyddMae cyd-leoli Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol Tir Morfa yn hyrwyddo effeithlonrwydd drwy rannu’r defnydd o’r adnoddau addysgu, y staff a’r gwasanaethau cymorth. Datblygwyd y dyluniad i fwyafu’r cyfleoedd hyn tra cynhelir ethos yr ysgolion unigol.

Dulliau Adeiladu Cynaliadwy Dyluniwyd ffabrig yr adeilad i fod yn hynod effeithlon. Mae’r haen allanol yn cynnwys gwaith brics a gorchudd sgrin law yn cael ei chefnogi gan inswleiddio, atalfa anwedd a system SFS. Roedd yr adeiladwaith yn caniatáu cyflawni tyndra tywydd mewn cyfnod byr gyda manteision i’r rhaglen adeiladu tra roedd hefyd yn cyflawni tyndra aer llym a gwerthoedd inswleiddio U. Gosodwyd ffenestri allanol cyn i haen allanol y brics gael ei chwblhau gan ganiatáu masnach fewnol i ddatblygu wythnosau’n gynt na gyda dulliau adeiladu traddodiadol.

Lleihau’r Defnydd o AdnoddauDangosir ffocws y prosiect ar leihau’r defnydd o adnoddau yn ystod adeiladu gan faint y gwastraff a ddargyfeiriwyd o dirlenwi:Gwastraff Adeiladu - cynhyrchwyd 1,823 o fetrau ciwbig - 97% wedi’i ddargyfeirio o dirlenwiGwastraff Dymchwel - cynhyrchwyd 1,622 o fetrau ciwbig - 98% wedi’i ddargyfeirio o dirlenwiGwastraff Cloddio - cynhyrchwyd 4,460 o fetrau ciwbig - 100% wedi’i ddargyfeirio o dirlenwi.

TRT & Manteision CymunedolFfocws allweddol y prosiect fu creu cyfleoedd ar gyfer pobl leol, cefnogi prentisiaethau newydd, cyfleoedd hyfforddiant a swyddi, gwario’n lleol drwy’r gadwyn gyflenwi a chysylltu’r ysgolion â’r gymuned ehangach. Nod y prosiect yw gadael gwaddol parhaol yn yr ardal.

Mae ffigurau’r manteision cymunedol ar gyfer hyfforddeion a phrentisiaethau ar y prosiect yn cynnwys:

Pobl leol a gyflogwyd – ymgymerwyd â 57% o werth y gwaith a gyflawnwyd gan bobl leol o fewn Sir Ddinbych ac o fewn radiws o 30 milltir i’r safle.Prentisiaethau masnach ar gyfer pobl ifanc ac oedolion - 91 wythnos o brentisiaethau.Profiad gwaith a hyfforddiant - 94 wythnos o hyfforddiant/brofiad gwaithMentora – 44 awr o fentora ar gyfer myfyrwyr lleol, hyfforddeion a Busnesau Bach a Chanolig.

Enghraifft o’r prosiect yn cofleidio hyfforddiant a recriwtio targedig yw’r berthynas a ddatblygwyd rhwng Willmott Dixon ac Evadx; gwneuthurwr gwaith dur o Fae Cinmel yng Ngogledd Cymru. Darparodd Evadx y ffrâm ddur ar gyfer Ysgol Newydd y Rhyl ac maent ers hynny wedi cefnogi Willmott Dixon ar ddilyniant o brosiectau lleol proffil uchel. Cyflwynwyd Gwobr Partner y Flwyddyn Cadwyn Gyflenwi Gogledd Cymru i Evadx gan Willmott Dixon yn 2016

Page 32: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

ArloesiMae’r adeilad yn arddangos nifer o nodweddion arloesol yn ei ddyluniad gan gynnwys:

Mae atriwm canolog yn croesawu ymwelwyr i galon yr adeilad, yn gwasanaethu nid yn unig fel y fynedfa a’r cyntedd, ond hefyd fel neuadd berfformio, ardal giniawa, gofod cylchdroi a chymdeithasu. Gellir cadw ar wahân gyfleusterau cymunedol o fewn yr ardal hon i’w chyrchu gan y cyhoedd y tu allan i oriau ysgol.

Mae’r dyluniad yn arddangos ‘dysgu drwy arddangos’. Gellir gweld parthau dysgu o’r brif fynedfa, gyda phob parth â’i fynedfa benodol ei hun o’r atriwm canolog ac yn cyfleu’i hunaniaeth unigryw drwy frandio a lliw.

Trefnir pob pwnc o gwmpas gofod ymneilltuo canolog yn cynnwys gofodau dysgu anffurfiol ynghyd â loceri a gofod storio. Denir golau naturiol i mewn i bob un o’r gofodau canolog hyn drwy oleuadau to mawr.

Mae’r ysgol wedi’i datblygu i gynnwys Ysgol Tir Morfa mor agos â phosibl tra darperir ardal ddiogel i ddisgyblion pan fyddant ei hangen. Mae dyluniad y dirwedd yn creu amgylchedd allanol cynaliadwy sy’n ysgogi dysgu ac yn hyrwyddo ffordd o fyw egnïol.

Lleihawyd symud gwastraff dymchwel o’r safle drwy’i ailddefnyddio, er enghraifft, o fewn draeniad y caeau chwarae.

Prosiect Canmoliaeth y Flwyddyn CALlC

Page 33: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

Cyngor Dinas Caerdydd – Ysgol Gynradd Pontprennau

Enw’r Prosiect Ysgol Gynradd Pontprennau Lleoliad y Prosiect Heol Pontprennau, Pontprennau, Caerdydd, CF23 8LL

Pensaer Mian Saleem (Cyngor Dinas Caerdydd)Rheolwr y Prosiect Mian Saleem ( Cyngor Dinas Caerdydd)Dylunydd Mewnol Jessica Venn ( Cyngor Dinas Caerdydd)Cost Syrfewyr Meintiau/Ymgynghorwyr Daniel Evans ( Cyngor Dinas Caerdydd)Clerc Gwaith/Arolygydd Martin Webb ( Cyngor Dinas Caerdydd)Peiriannydd Strwythurol Haydn Griffiths ( Cyngor Dinas Caerdydd)Peiriannydd Trydanol Jeff Townsend ( Cyngor Dinas Caerdydd)Peiriannydd Mecanyddol Jonathan Gibbens ( Cyngor Dinas Caerdydd)Cydgysylltydd Cleientiaid CDM / Prif Ddylunydd Stella Saunders ( Cyngor Dinas Caerdydd)Contractwr Morgan Sindall Construction & Infrastructure Cyf..Rheoli Adeiladu Cyngor Dinas Caerdydd

Page 34: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRUBeth oedd cyfnod contract y prosiect? 68 WythnosPryd ddechreuodd y prosiect ar y safle? 5 Rhagfyr, 2014Pryd ardystiwyd y prosiect i fod yn gyflawn (cyfnod a ganiateir rhwng 1 Gorffennaf 2013 a 30 Mehefin 2016)

6 Ebrill, 2016

Beth yw gwerth cyflawn y prosiect? £6.9mBeth yw gwerth contract y prosiect? £6.9mArwynebedd mewnol gros y llawr 3000 metr sgwâr Math o waith (h.y. adeilad newydd, ailwampio) Adeilad newydd yn bennaf gyda rhai addasiadau mawr

a gwaith ailwampio i Ganolfan Gymunedol bresennol Pontprennau

Math o brosiect (h.y. ysgol, Canolfan hamdden, pont) Ysgol a Chanolfan Gymunedol Niferoedd y disgyblion (os yn berthnasol) 420 ynghyd â 48 Lle Meithrin yn Cyfateb i Amser Llawn Llwybr caffael Cystadleuaeth Fechan dan Gytundeb Fframwaith

SEWSCAP Ffurf y contract Contract Dylunio ac Adeiladu JCT 2011 A gasglwyd Dangosyddion Perfformiad Allweddol? DoBeth oedd sgôr BREEAM? Cyflawnodd cam Dylunio a Chaffael BREEAM 77%.

Cesglir data credyd wedi-cwblhau. Cyflawnir lleiafswm o 70% fel rhan o’r gofynion a gytunwyd.

A ddefnyddiwyd BIM? NaddoO dan ba fframwaith contractwr rhanbarthol (os o gwbl) y cyflenwyd y prosiect?

Cytundeb Fframwaith SEWSCAP

Disgrifiad o dîm y prosiect a’r llwybr caffaelRoedd tîm y prosiect yn cynnwys Prosiectau mewnol, adran Dylunio a Datblygiad (PDD) Cyngor Caerdydd sydd ag arbenigedd ac adnoddau i ddarparu siop un stop ar gyfer gwasanaethau rheoli dylunio a phrosiect i’r holl feysydd gwasanaeth y Cyngor gan gynnwys Addysg, Cymunedau a Thai, Hamdden ac Adfywio Cymdogaethau, Rheoli Gwastraff a Digwyddiadau.

Sicrhawyd y prosiect ar sail Dylunio ac Adeiladu o fewn cystadleuaeth fechan dan Gytundeb Fframwaith SEWSCAP gan ddefnyddio contract Dylunio ac Adeiladu JCT wedi’i ddiwygio.

Trosolwg ProsiectRoedd y prosiect yn rhan o Raglen Trefnu Ysgolion yr 21ain Ganrif a ariannwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cyfrannu at ddyhead Cyngor Caerdydd i ddarparu cyfleoedd dysgu o ansawdd i blant yn y ddinas.

Y brîff ar gyfer y prosiect oedd datblygu ysgol gynradd newydd mynediad dau ddosbarth i ddisgyblion yng nghymuned Pontprennau yng ngogledd ddwyrain Caerdydd. Amcan allweddol y prosiect oedd cysylltu ac integreiddio’r ysgol newydd gyda Chanolfan Gymunedol Pontprennau oedd eisoes yn bodoli ac wedi’i lleoli o fewn y safle, er mwyn mwyafu’i defnydd ar gyfer yr ysgol yn ystod y dydd ac ar gyfer y gymuned wedi oriau ysgol.

Page 35: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRUBeth sy’n gwneud y prosiect yn arbennigMae’r prosiect yn brawf o werth dyluniad da ac mae’n enghraifft sy’n arddangos sut gall meddwl creadigol newid cyfyngiadau safle i mewn i gyfleoedd dylunio. Cyfarfu’r prosiect hwn â sawl sialens cyn dwyn ffrwyth; bu’n rhaid herio topograffi’r safle ac roedd brîff uchelgeisiol i gyflenwi cyfleuster addysgol/cymunedol integredig y gellid ei ddefnyddio fel enghraifft o arfer dda ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol.- Mae’r safle’n gyfyngedig iawn ac yn goleddfu’n serth gyda gwahaniaeth mewn lefel o oddeutu 10 metr rhwng y FFL (a bennwyd gan y ganolfan gymunedol a oedd yno eisoes) a lefel uchaf y tir. Mae’r dyluniad adeiladu lefel ar wahân yn defnyddio dull darbodus torri a llanw gan leihau proses symud pridd o’r safle. Cysylltir prif gorff yr adeiladau drwy gyfrwng pont wydr ble lleolir y llyfrgell/ardaloedd adnoddau yn ganolog ac ardal chwarae rannol dan do o dano. I fynd i’r afael â’r newidiadau mewn lefelau, cynyddwyd uchder nenfwd yr ystafell ddosbarth sy’n rhoi cyfle i gynyddu’r golau naturiol, yr elfen agored a’r synnwyr o ofod i’r tu mewn. - Integreiddir llethrau heriol y safle ac fe’u dylunnir i ddarparu dysgu allanol ac ardaloedd cynefinoedd bywyd gwyllt gan gynnwys amffitheatr awyr agored, seddi rhenciog a wal ddringo. -Er bod y prif dalwyneb yn wynebu eiddo preswyl cymdogion, mae’r datblygiad yn parchu’u preifatrwydd heb unrhyw gyfaddawd i’r dyluniad drwy drefnu’r adeilad yn ofalus gan greu ystafelloedd dosbarth yn wynebu’r iard. - integreiddio hanfodol yr ysgol newydd a’r ganolfan gymunedol sydd eisoes yno gan fwyafu’r defnydd addysgol a’r defnydd cymunedol.- menter uchelgeisiol i gorffori toiledau disgyblion cynllun agored arloesol gan ganiatáu arolygaeth oddefol i fynd i’r afael â bwlian posib ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.- Ardaloedd ymneilltuo hyblyg ar gyfer pob blwyddyn ysgol.

CynaliadwyeddDatblygir y prosiect hwn o’i gychwyn i’w derfyn â chynaliadwyedd yn ganolog iddo, gan ganolbwyntio’n benodol ar ei gyfraniad amgylcheddol..- CymdeithasolYmchwiliodd arfarniad opsiynau ddymchwel neu integreiddio’r ganolfan gymunedol a oedd yno eisoes. Wedi ymchwilio i nifer o opsiynau a thrafodaethau gydag ystod o randdeiliaid, y farn yn y pen draw oedd cysylltu ac integreiddio’r ganolfan gymunedol bresennol i’r ysgol newydd gan fwyafu’i defnydd a chreu’r budd cymunedol mwyaf.- EconomaiddMae bodolaeth neuadd gymunedol ganolog fawr wedi cael gwared â’r angen a’r gost o adeiladu neuadd ysgol ar wahân. O ganlyniad, mae mwy o gyfleusterau ar gyfer defnydd cymunedol ar ôl oriau ysgol o fewn yr ysgol gan gynnwys ystafelloedd dosbarth, stiwdio ddawns a thoiledau, gan wneud defnydd o’r cyfleusterau yn ystod y dydd a darparu ar hyd y flwyddyn at fudd pennaf cymuned Pontprennau.- AmgylcheddolMae’r prosiect yn un Rhagorol gan BREEAM. Tynnwyd sylw at y safle fel cynefin addas ar gyfer nifer o rywogaethau a warchodir: pathewod, nadredd, adar magu ac ystlumod porthi. Mae’r ystyriaeth hon wedi bod ar flaen y gad mewn unrhyw ddyluniad a datblygiad cyffredinol y prosiect. Gadewir yr ardaloedd (yn y rhan uchaf o’r safle) a nodir fel cynefin posib fwy neu lai heb eu haflonyddu a dyluniwyd a gweithredwyd proses o blannu brodorol i greu ardaloedd pontio rhwng ardaloedd y cynefinoedd sydd yno eisoes a’r ardaloedd lle mae’r plant yn chwarae ac yn ymchwilio.

Strategaeth ymgysylltu ac ymgynghoriO ganlyniad i natur gymhleth y brîff, roedd nifer o sesiynau ymgysylltu rhwng PDD,Addysg, Ysgol, Llywodraethwyr, Cymunedau, ardaloedd gwasanaethu Hamdden a Pharciau, Cyfoeth Naturiol Cymru ac ati drwy gydol y prosiect cyfan. Yn ychwanegol, a gyda chymorth Morgan Sindall, cynhaliwyd digwyddiadau ymgynghori gyda gwleidyddion lleol, Priffyrdd a Thrafnidiaeth a’r Grŵp Ymgynghorol ar Gydraddoldeb er budd preswylwyr a rhanddeiliaid eraill â diddordeb.Aseswyd cynigion y cynllun hefyd gan Heddlu De Cymru ac esblygodd y dyluniad i’w wobrwyo ag achrediad

Page 36: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU‘Diogelu drwy Ddylunio’.O ganlyniad i ddiddordeb ystod eang o randdeiliaid, er mwyn ennill dilysrwydd annibynnol,yn ystod cysyniad a datblygiad y dyluniad, ystyriwyd amrywiaeth o opsiynau dylunio yng nghyfnod cynnar y cynllun ac fe’u cyflwynwyd i Banel Adolygu Comisiwn Dylunio Cymru (CDC) ar gyfer dau adolygiad ar wahân. Drwy’r broses adolygu trafodwyd nifer o faterion yn benodol i’r safle i fynegi barn ar yr opsiynau a gyflwynwyd. Cydnabu’r panel y brîff heriol a’r cyfyngiadau safle anodd a dynodasant opsiwn a ffefrir a dygwyd hwn ymlaen. Yn dilyn yr ail adolygiad yn ystod y cyfnod dylunio datblygedig, trafodwyd sawl ystyriaeth allweddol gyda’r panel ac fe’u cynhwyswyd i gyfoethogi’r cynigion ymhellach.

ArloesiUn o’r agweddau allweddol y tu ôl i gyflenwi’r prosiect yn llwyddiannus oedd ewyllys da a chynhyrchiant gwaith cydweithredol y rhanddeiliaid a grybwyllwyd yn flaenorol o gychwyn y prosiect i’w derfyn. Yn dilyn penodi Morgan Sindall, parhaodd y cydweithredu hwn i’r safle a thrwy gydol y cyfnod adeiladu.Roedd arloesedd y toiledau cynllun agored yn fater tyngedfennol a amgylchynwyd gan ddadlau ac a arweiniodd at gynnal nifer o gyfarfodydd gyda’r Ysgol a’i llywodraethwyr, gan eu hargyhoeddi yn y pen draw bod hon yn fenter fuddiol a gwerthfawr a fyddai’n ffurfio’n gadarnhaol ymddygiad plant cyn symud ymlaen i’r ysgol uwchradd.

Yn ystod y cyfnod adeiladu, ymgysylltwyd â’r plant ysgol drwy roddi ymarfer iddynt i ddylunio logo ysgol newydd a murluniau. Roedd ymateb y plant yn amrywiol ac yn ddiddorol gan gynhyrchu nifer o wahanol syniadau roeddent yn frwd i’w gweld yn cael eu cynnwys yn eu hysgol newydd. Gan gymryd ysbrydoliaeth a syniadau o waith celf y plant, dyluniwyd y logo ysgol newydd a’r murluniau ac fe’i profwyd yn ymarfer tra llwyddiannus a arweiniodd at deimlad o berchnogaeth i’r plant a’r teimlad iddynt fod yn rhan hanfodol o’r broses ddylunio. Mabwysiadwyd logo’r plant hefyd yn y wisg ysgol.

GwerthCyflawnwyd y targedau allweddol canlynol yn llwyddiannus,

Page 37: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU- o werth sef £7m y contract, gwariwyd 88% ar fusnesau a leolwyd yng Nghymru a gwariwyd 81% o hwn ar Fusnesau Bach a Chanolig a leolwyd yng Nghymru.-dargyfeiriwyd 84% (12, 600 o dunelli) o wastraff o dirlenwi.- defnyddiwyd 5% o ddeunyddiau a ailgylchwyd ar y safle.- arbedwyd 30 metr ciwbig o ddŵr drwy fenter i leihau’r defnydd o ddŵr. - cyflawnwyd yn gyffredinol 20% o ostyngiad mewn costau tanwydd cludiant. Yn ychwanegol mae holl elfennau thermol yr adeilad yn hynod effeithlon yn cynnwys ffenestri gwydr triphlyg, gwresogi dan lawr a swm sylweddol o elfennau adnewyddadwy a osodwyd i wneud yr adeilad yn dra effeithlon o ran ynni. Cyfradd yr Amgylchedd Cynllunio a Chefn Gwlad – A.

TRT & Buddiannau CymunedolCyflawnwyd y targedau allweddol canlynol yn llwyddiannus,- £40, 000 mewn cyfraniadau o fath arall gan gynnwys y cyfraniad o fath arall a wnaed mewn llafur.- £500 a wnaed mewn cyfraniad nawdd mewn arian - 30 wythnos o brentisiaethau wedi’u cwblhau.- 26 wythnos o hyfforddeiaethau wedi’u cwblhau.- 3 lleoliad/phrawf gwaith i Raddedigion wedi’u cwblhau..- 5 person a leolwyd yng Nghymru a fu’n ddi-waith am fwy nag 20 wythnos yn flaenorol wedi’u cyflogi gan y contractwr neu’r isgontractwyr‘Lapiwyd’ dyluniad yr ysgol o gwmpas canolbwynt y ganolfan gymuned a lledaenwyd yr un ethos i ymgysylltu ymwneud a chyfranogiad eithaf y gymuned mewn cyfleoedd cyflogaeth, gan eu cyfyngu i’r gymuned cyn belled ag yr oedd yn bosibl.

Page 38: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

Prosiect Canmoliaeth y Flwyddyn CALlC

Page 39: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRUCyngor Sir Penfro – Estyniad ac Ailwampio Canolfan Hamdden Dinbych-y-Pysgod

Enw’r Prosiect Estyniad ac Ailwampio Canolfan Hamdden Dinbych-y-Pysgod

Lleoliad y Prosiect Heol y Gors, Dinbych-y-Pysgod, Sir Benfro SA70 8DU

Pensaer CSP (Barry McCann)Rheolwr y Prosiect CSP (Maria Jones)Peiriannydd/Peirianwyr CSP (Peter Francis)Cost Syrfewyr Meintiau/Ymgynghorwyr CSP (Peter Parnell)Clerc Gwaith/Arolygydd CSP (Chris Pratt)Peiriannydd Strwythurol CSP (Neville Jones)Peiriannydd Trydanol CSP (Ceri Poole)Peiriannydd Mecanyddol CSP (Meirion Robinson)Cydgysylltydd Cleientiaid CDM / Prif Ddylunydd WJG Evans a’i FeibionContractwr CSP (Andrew Underwood)Rheoli Adeiladu Bullock Consulting (Sian James)

Beth oedd cyfnod contract y prosiect? 94 wythnos

Page 40: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRUPryd ddechreuodd y prosiect ar y safle? 1 Medi 2014Pryd ardystiwyd y prosiect i fod yn gyflawn (cyfnod a ganiateir rhwng 1 Gorffennaf 2013 a 30 Mehefin 2016)

20 Mehefin 2016

Beth yw gwerth cyflawn y prosiect? £1.462MBeth yw gwerth contract y prosiect? £1.308MArwynebedd mewnol gros y llawr Adeilad newydd 252m²; ailwampio 650m² Math o waith (h.y. adeilad newydd, ailwampio) Adeiladu estyniad i ac ailwampio Canolfan Hamdden

oedd yno eisoes, a’r gwaith allanol cysylltiedig cyflawn.Math o brosiect (h.y. ysgol, Canolfan hamdden, pont) Canolfan Hamdden Niferoedd y disgyblion (os yn berthnasol) AmherthnasolLlwybr caffael Tendr cyfnod-sengl traddodiadol Ffurf y contract JCT INTERMEDIATE BUILDING CONTRACT (IC)A gasglwyd Dangosyddion Perfformiad Allweddol? DoBeth oedd sgôr BREEAM? AmherthnasolA ddefnyddiwyd BIM? Naddo (ond hwn oedd prosiect Revit cyntaf y tîm

dylunio mewnol)O dan ba fframwaith contractwr rhanbarthol (os o gwbl) y cyflenwyd y prosiect?

Amherthnasol

Trosolwg Prosiect Yn sefyll o fewn Parc Cenedlaethol arfordir Penfro, lleolir Canolfan Hamdden Dinbych-y-Pysgod ar gylchffordd Iron Man Wales ac mae’n darparu cyfleusterau chwaraeon a hamdden ar gyfer de Sir Benfro. Cychwynnodd y cyfleusterau presennol yn y 1960au ac fe ychwanegwyd atynt mewn 2 gyfnod pellach yn ystod y 70au a’r 80au. Roedd yr adeilad yn dameidiog ac yn hen ffasiwn, ac roedd angen gofod llawr ychwanegol ac ailwampio llwyr i’w ddwyn i fyny i safonau modern a darparu cyfleusterau’r unfed ganrif ar hugain. Roedd yn rhaid cyflawni’r prosiect ar gyllideb gyfyng, gan fod mwyafswm cyllideb wariant Sir Benfro’n cael ei gyfeirio at ei Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Heblaw am y pwll nofio, mae’r prosiect wedi creu ystafelloedd ffitrwydd man eithaf y grefft ynghyd â gofodau wedi’u hailwampio’n llwyr sydd nawr yn ffurfio ystafell gymunedol, caffi a llyfrgell.

Roedd canolfannau hamdden Sir Benfro hefyd ymhlith yr adeiladau a gyflawnai waethaf yn y sir yn nhermau defnyddio ynni – gan gynnwys, yn drist, y canolfannau hamdden a adeiladwyd o’r newydd yn ddiweddar, a sicrhawyd fel prosiectau dylunio ac adeiladu. Roedd y tîm dylunio mewnol yn benderfynol y byddai’i strategaethau goddefol a gweithredol amgylcheddol yn gwneud yr adeilad hwn yn ganolfan hamdden a fyddai’n cyflawni orau yn y sir; cafodd yr amcan hwn ei gyflawni.

Mae’r ystafelloedd ffitrwydd wedi’u hawyru’n naturiol yn bennaf, a’r aer yn cael ei gyflwyno drwy ddwythellau a gynorthwyir yn fecanyddol pan gyrhaedda’r tymheredd bwynt penodol. Pe na bai hyn yn ddigonol i gynnal gofyniad y cleient o 18ºC, mae’r ffenestri’n cau’n awtomatig ac oerir yr awyru mecanyddol. Dangosodd y modelu thermol hyn yn digwydd ar ychydig iawn o ddiwrnodau yn y flwyddyn, ac yn wir mae hyn wedi digwydd yn unig yn Awst hyd yn hyn – sy’n gyflawniad o ystyried y bu’n rhaid lleoli’r ystafelloedd ffitrwydd ar ochr ddeheuol yr adeilad o ganlyniad i gyfyngiadau safle.

Disgrifiad o dîm y prosiect a’r llwybr caffael

Page 41: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRUDyluniwyd ailwampio ac estyniad y Ganolfan Hamdden yn Ninbych-y-Pysgod a’i rheoli’n gyflawn gan dîm adeiladu mewnol yng Nghyngor Sir Penfro. Gan ddefnyddio Contract Adeiladu Canolradd JCT, tendrwyd y prosiect yn gystadleuol a’i ddyfarnu i’r sawl sy’n tendro isaf ei bris.Beth sy’n gwneud y prosiect yn arbennig Mae’r prosiect wedi troi’r ganolfan hamdden i mewn i gyfleuster cymunedol allweddol yn Ninbych-y-Pysgod,

gan gynnwys Llyfrgell Fit4Life a gofodau cymunedol yn ogystal â darpariaeth ar gyfer cylch chwarae a chaffi. Mae wedi cyflenwi ystafelloedd ffitrwydd man eithaf y grefft, fel estyniad i’r adeilad sydd yno eisoes, a gaiff ei

awyru’n naturiol ar bob un ac eithrio ychydig ddiwrnodau’r flwyddyn , gan ostwng yn sylweddol ôl troed carbon y ganolfan.

Arhosodd y ganolfan hamdden ar agor drwy gydol y gwaith, a arweiniodd at ddull cyflawni’n raddol a chydweithredu clos rhwng y contractwr, y tîm dylunio a rheolwyr y ganolfan hamdden, tra cynhaliwyd ffrwd incwm y Gwasanaethau Hamdden.

Cynaliadwyedd Cymdeithasol:

- Mae’n atgyfnerthu synnwyr o gymuned ac mae’n hyrwyddo iechyd a ffitrwydd yn Ninbych-y-Pysgod drwy allbost ‘ffitrwydd’ y llyfrgell leol.

- Ysgogodd y prosiect gyflogaeth yn yr ardal drwy benodi prif gontractwr lleol a’u Buddiannau Cymunedol a strategaeth TRT.

Amgylcheddol:- Mae’r prosiect wedi lleihau effaith amgylcheddol y cynllun drwy estyn ac ailwampio’r adeilad sydd eisoes

yno gyda deunyddiau cynaliadwy, tra defnyddiant oleuo ac awyru naturiol, ynghyd â chysgodi solar, i leihau’r defnydd o awyru mecanyddol ac awyru a oerir yn artiffisial.

Economaidd:- Mae’r prosiect o fudd i’r economi leol drwy gefnogi busnes arlwyo lleol bychan a chylch chwarae.- Ers ailagor, mae aelodaeth y ganolfan hamdden wedi treblu bron, gan felly ddwyn incwm i mewn i’r

awdurdod lleol.

Strategaeth ymgysylltu ac ymgynghoriGan fod y prosiect yn gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol, ymgysylltodd y cleientiaid a’r tîm dylunio, y cynllunwyr a’r cyhoedd/defnyddwyr yn gynnar yn y prosiect. Roedd hyn yn hynod bwysig o gofio’r awydd i leoli allbost llyfrgell y tu allan i’r canol tref daearyddol. Lleolwyd busnes arlwyo a chylch chwarae yn yr adeilad yn ogystal, ac felly roedd goblygiadau ar 2 fusnes bach lleol a olygai eu bod hwy - ynghyd â rheolaeth y ganolfan hamdden - â rhan yn rhaglennu ac adeiladu’n raddol yn gynnar yn y cynllun.

Defnyddwyr - hysbyswyd unigolion, ysgolion a chlybiau ynghylch y cynllun ar hyd y daith fel eu bod yn ymwybodol o wneud gwaith yn raddol ac unrhyw gau rhannau ar draws y ganolfan - boed y rheiny’n rhai bychain - a fyddai’n angenrheidiol. Gweithiodd y contractwr yn agos hefyd gyda rheolwyr y ganolfan hamdden i leihau ymhellach y ‘dirywiad’ a ragwelwyd y tu hwnt i’r hyn a gynlluniwyd yn wreiddiol yn y cyfnod tendro.

Arloesi Strategaethau awyru goddefol a gweithredol – a ddisgrifiwyd mewn man arall – sydd wedi lleihau’n sylweddol

ddefnydd ynni’r ganolfan, tra ehangwyd yr arwynebedd llawr.

Page 42: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU Creu cyfleuster ‘cymuned iach’ wirioneddol gyda phwyslais ar fuddiannau iechyd y tu hwnt i’r rhai amlwg sy’n

gysylltiedig â chanolfannau hamdden – e.e. llyfrgell a chaffi bwyta’n iach Fit4Flife – gall beicwyr brynu credydau fel y gallant gael seibiant tra maent yn ymarfer, heb fod angen cario arian parod!

Roedd y ffurf a’r deunyddiau a ddefnyddiwyd i adeiladu yn golygu y gellir cyflawni dymchwel y pwll nofio yn y dyfodol ac ychwanegu pwll yn ei le tra cedwir gweddill y cyfleuster yn weithredol. Gall muriau allanol ddod yn furiau mewnol mewn unrhyw ehangu a disodli’r pwll yn y dyfodol, o ganlyniad i’r dewis o strwythur a deunyddiau cwmpas allanol.

Gwerth Tra nad oed d angen asesiad BREEAM, dyluniwyd elfen adeilad newydd y prosiect gan ddefnyddio

strategaethau dylunio cynaliadwy. Cynhwysai’r rhain ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy, manylu ar gyfer aerglosrwydd da, dyluniad awyru goddefol, cysgodi allanol thermol i leihau gorwresogi, defnyddio deunyddiau gyda mas thermol uchel a deunyddiau gyda chost cylch oes isel.

Cynhwysai’r elfen ailwampio ddisodli’r hen oleuadau a’r hen ferwedydd a lyncai ynni yn y neuadd chwaraeon, â goleuadau a berwedyddion newydd effeithlon.

Ar y safle, defnyddiodd y contractwr y gadwyn ar gyfer llafur a deunyddiau, gan fonitro’n weithredol a lleihau effaith y safle drwy ostyngiad yn y swm o wastraff na ellid ei ailgylchu a’r defnydd o ddŵr.

Targedwyd ‘milltiroedd teithio i’r safle’ gan y contractwr fel modd o leihau ôl troed carbon gweithgareddau’r safle. Gyrrwyd y rhan fwyaf o’r gweithlu uniongyrchol i’r safle mewn bysiau mini o’u pencadlys a leolir yn Sir Benfro.

TRT & Buddiannau Cymunedol Cyfatebai mynediad i hyfforddeion newydd, prentisiaid a hyfforddeion eraill i 217 o wythnosau lle cafodd

gweithwyr eu talu. Mae’r contractwr yn ŵr BBaCh lleol, ac mae’n cyflogi gweithlu unionyrchol mwy na’r rhan fwyaf o’r

contractwyr mwy sy’n gweithio yn Sir Benfro. Roedd mwyafrif yr isgontractwyr - gan gynnwys yr is-gontractau mwyaf yn y maes mecanyddol a thrydanol - yn lleol i Sir Benfro.

Mae enghreifftiau o Fuddiannau Cymunedol a TRT yn cynnwys:- Cymerwyd 4 cydbrentisiaeth ymlaen oddi wrth Cyfle, gan roi i bobl ifanc amrywiaeth o brofiadau gweithio

ar safle. - Ymgysylltodd y rheolwr safle â Choleg Castell-nedd, gan ganiatáu i 14 o fyfyrwyr gael profiad gwaith ar y

safle. - Rhedwyd 127 o gyrsiau hyfforddiant ar gyfer y staff a fodolai yno eisoes, ac 8 cwrs hyfforddiant ar gyfer

staff newydd. - Rhoddwyd £7,500 i’r gymuned leol mewn arian ac mewn llafur o fath arall.

Page 43: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU

Page 44: Contentsclaw.torfaen.gov.uk/.../01/CLAW-Booklet-2016-V1-Cym.docx · Web viewCymeradwyir gwariant sy’n fwy nag ugain mil (£20,000) o bunnoedd neu ddefnydd o’r Gronfa Ad-daliadau

CONSORTIWM AWDURDODAU LLEOL CYMRU