cynllun busnes 2019/20 - equalityhumanrights.com  · web viewyr un fath â chyrff cyhoeddus...

25
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cynllun Busnes 2019/20

Upload: letuyen

Post on 02-Jul-2019

212 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Cynllun Busnes 2019/20 - equalityhumanrights.com  · Web viewYr un fath â chyrff cyhoeddus eraill, mae ein cyllideb ar gyfer y cyfnod 2017-20 wedi lleihau fel rhan o Adolygiad Gwariant

Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Cynllun Busnes 2019/20

Page 2: Cynllun Busnes 2019/20 - equalityhumanrights.com  · Web viewYr un fath â chyrff cyhoeddus eraill, mae ein cyllideb ar gyfer y cyfnod 2017-20 wedi lleihau fel rhan o Adolygiad Gwariant

Cynllun Busnes 2019/20 Cynnwys

Cynnwys

Cyflwyniad 3

Ein mesurau llwyddiant ar gyfer 2019/20 5

Gweithgaredd corfforaethol 14

Dyrannu’r gyllideb a’r adnoddau 16

Cysylltiadau 18

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau DynolCyhoeddwyd: Ebrill 2019

Page 3: Cynllun Busnes 2019/20 - equalityhumanrights.com  · Web viewYr un fath â chyrff cyhoeddus eraill, mae ein cyllideb ar gyfer y cyfnod 2017-20 wedi lleihau fel rhan o Adolygiad Gwariant

Cynllun Busnes 2019/20 Cyflwyniad

Cyflwyniad

Eleni rydym wedi cyhoeddi Cynllun Strategol newydd sy’n gosod allan yn glir y blaenoriaethau ar gyfer ein gwaith yn y blynyddoedd sydd i ddod. Mae hefyd yn adnabod yr effaith yr ydym yn ceisio ei chael yn yr hirdymor wrth gyflawni ein gorchwyl, a osodwyd gan Senedd y DU, sef herio gwahaniaethu, hyrwyddo cyfle cyfartal ac amddiffyn a hyrwyddo hawliau dynol.

Yn seiliedig ar dystiolaeth ac ymgynghoriad â rhanddeiliaid, mae’r Cynllun Strategol yn nodi’r nodau a’r amcanion y byddwn yn mesur ein heffaith yn eu herbyn. Mae’r Cynllun Busnes hwn ar gyfer 2019/20 yn adnabod y gweithgareddau allweddol ar draws ein rhaglen waith lle rydym yn bwriadu cyflawni newid mesuradwy eleni. Mae ein ffordd o weithio yn golygu bod gorfodaeth ac ymgyfreitha yn ganolog ym mhopeth a wnawn. Y mesurau a amlygwn yn y Cynllun Busnes hwn yw’r rhai y byddwn yn adrodd arnynt yn ein Hadroddiad Blynyddol a’n Cyfrifon i ddangos effaith ein gwaith.1

Rydym yn gweithio ar draws Prydain, gan adnabod cyfleoedd i hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng nghyd-destunau penodol Cymru, Lloegr a’r Alban. Mae ein pwyllgorau ar gyfer Cymru a’r Alban yn ein helpu i adnabod y cyfleoedd hyn a gwneud yn fawr ohonynt. Yn yr Alban, cylch gwaith Comisiwn Hawliau Dynol yr Alban yw hyrwyddo hawliau dynol ac annog pobl i ddilyn yr arferion gorau o ran hawliau dynol yn y meysydd datganoledig.

Mae’r Cynllun Busnes hwn yn amlinellu sut y byddwn yn dyrannu ein hadnoddau eleni yn nhermau cyflawni ein nodau. Cydnabyddwn yr angen i wneud hyn mewn ffordd hyblyg er mwyn ymateb i gyfleoedd a heriau a ddaw i’r amlwg yn ystod y flwyddyn. Disgwylir i’r flwyddyn hon fod yn gyfnod o newidiadau cyfreithiol, economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol mawr.

Byddwn yn sefydlu strwythur cryfach i sicrhau bod gennym y gallu i gyflawni ein Cynllun Strategol newydd. Bydd hyn yn cynnwys creu timau gorfodi a chydymffurfio newydd i ganolbwyntio ar ddefnyddio ein pwerau unigryw a hefyd cryfhau ein galluogrwydd o ran polisi a strategaeth a blaenoriaethu dysgu a datblygu yn ein holl dimau.

1 Rhoddir fframwaith llawn ein dangosyddion perfformiad allweddol ar ein gwefan

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau DynolCyhoeddwyd: Ebrill 2019

Page 4: Cynllun Busnes 2019/20 - equalityhumanrights.com  · Web viewYr un fath â chyrff cyhoeddus eraill, mae ein cyllideb ar gyfer y cyfnod 2017-20 wedi lleihau fel rhan o Adolygiad Gwariant

Cynllun Busnes 2019/20 Ein mesurau llwyddiant ar gyfer 2019/20

Ein mesurau llwyddiant ar gyfer 2019/20

Defnyddio ein pwerau unigryw i gynnal y system o amddiffyniadau cydraddoldeb a hawliau dynol

I gyflawni ein nod craidd ac ar draws ein holl nodau blaenoriaeth, byddwn yn defnyddio ein pwerau gorfodi ac ymgyfreitha i herio arferion gwahaniaethol neu dorri hawliau.

I gefnogi cyflawni ein nod craidd sef cynnal cyfreithiau cydraddoldeb a hawliau dynol cryf, byddwn yn defnyddio ein pwerau ymgyfreitha a gorfodi lle gwelwn dorcyfraith amlwg, rhwystrau systematig neu achosion difrifol o fynd yn groes i hawliau unigolion. Dangosir isod ein mesurau gweithgareddau a llwyddiant yn y maes hwn.

Hefyd, o ran ein hamcanion blaenoriaeth eraill, byddwn yn defnyddio sbectrwm llawn ein hofferynnau cydymffurfio a gorfodi yn gadarn er mwyn gyrru gwelliannau. Wrth wneud archwiliadau, llunio cytundebau ffurfiol ac anffurfiol, cynnal ymchwiliadau ac ymgyfreitha, byddwn yn gweithredu yn gyflym i adnabod ymddygiad anghyfreithlon a mynd i’r afael ag ef a byddwn yn defnyddio ymgyfreitha strategol i gryfhau ac egluro’r gyfraith.

Newidiadau canolraddol – yr effaith a ddymunwn

Gweithgaredd – beth a wnawn yn 2019/20

Mesuriadau llwyddiant – beth mae arnom eisiau ei gyflawni yn 2019/20

Mae ein hachosion cyfreithiol yn egluro a chryfhau’r gyfraith o ran cydraddoldeb a hawliau dynol, a/neu yn cefnogi’r canlyniadau rydym yn eu ceisio o ran ein nodau blaenoriaeth.

Cefnogi, ariannu, ymyrryd neu ddwyn yn ein henw ni, achosion sy’n hyrwyddo ein nodau.

50 achos strategol.

Bydd 70% o’r achosion lle rydym yn cefnogi unigolion yn gwrthdroi polisi neu benderfyniad gwahaniaethol neu dor-hawliau; a/neu yn creu budd cadarnhaol i’r cyhoedd.

Mae sefydliadau sector Defnyddio ein holl bwerau Bydd 90% yn cyflawni

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau DynolCyhoeddwyd: Ebrill 2019

Page 5: Cynllun Busnes 2019/20 - equalityhumanrights.com  · Web viewYr un fath â chyrff cyhoeddus eraill, mae ein cyllideb ar gyfer y cyfnod 2017-20 wedi lleihau fel rhan o Adolygiad Gwariant

Cynllun Busnes 2019/20 Ein mesurau llwyddiant ar gyfer 2019/20

Newidiadau canolraddol – yr effaith a ddymunwn

Gweithgaredd – beth a wnawn yn 2019/20

Mesuriadau llwyddiant – beth mae arnom eisiau ei gyflawni yn 2019/20

cyhoeddus a phreifat yn ymwybodol o’n pwerau gorfodi ac sy’n eu rhwystro rhag peidio â chydymffurfio.

gorfodi perthnasol (e.e. ymchwiliadau, rhybuddion gweithred anghyfreithlon, cynlluniau gweithredu a chytundebau). Bydd hyn yn cynnwys gorfodi o dan Reoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symundol).

canlyniad cadarnhaol, h.y. polisi yn cael ei ddileu neu’i ddiwygio neu benderfyniad yn cael ei wrthdroi.

13 o weithgareddau gorfodi yn arwain at ymchwiliad adran 20 neu gytundeb ffurfiol adran 23.

Nod Craidd

Mae cyfreithiau cydraddoldeb a hawliau dynol cryf yn amddiffyn pobl ac mae data yn dangos beth sy’n digwydd i bobl yn ymarferol

Mae gennym rôl unigryw i’w chwarae wrth gynnal a chryfhau’r system sy’n diogelu cydraddoldeb a hawliau dynol.

Byddwn yn canolbwyntio ar y fframwaith cyfreithiol sy’n cefnogi cydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain, gan weithio tuag at roi Deddf Cydraddoldeb 2010 ar waith yn llawn, i gryfhau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a sicrhau bod y gyfraith yn diogelu hawliau dynol yn gryfach. Byddwn hefyd yn ceisio llenwi bylchau yn y data sy’n dangos a yw pobl yn profi gwahaniaethu, anghydraddoldeb neu doriad o’u hawliau.

Newidiadau canolraddol – yr effaith a ddymunwn

Gweithgaredd – beth a wnawn yn 2019/20

Mesuriadau llwyddiant – beth mae arnom eisiau ei gyflawni yn 2019/20

Cynhelir neu cryfheir cyfreithiau cydraddoldeb a hawliau dynol.

Dylanwadu ar lywodraethau i gryfhau dyletswyddau penodol Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, gan oleuo adolygiad Llywodraeth yr Alban a chefnogi Llywodraeth Cymru i alinio a gwella’r dyletswyddau sydd ar gyrff cyhoeddus Cymru.

Bydd cynigion i ddiwygio dyletswyddau penodol yng Nghymru ac yn yr Alban yn adlewyrchu ein hargymhellion.

Agorir trafodaethau ystyrlon â Llywodraeth y DU ynghylch yr angen am newid yn Lloegr.

Rhybuddir llywodraethau a seneddau am risgiau syrthio yn ôl ac am

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau DynolCyhoeddwyd: Ebrill 2019

Page 6: Cynllun Busnes 2019/20 - equalityhumanrights.com  · Web viewYr un fath â chyrff cyhoeddus eraill, mae ein cyllideb ar gyfer y cyfnod 2017-20 wedi lleihau fel rhan o Adolygiad Gwariant

Cynllun Busnes 2019/20 Ein mesurau llwyddiant ar gyfer 2019/20

Newidiadau canolraddol – yr effaith a ddymunwn

Gweithgaredd – beth a wnawn yn 2019/20

Mesuriadau llwyddiant – beth mae arnom eisiau ei gyflawni yn 2019/20

Dylanwadu ar unrhyw gynigion i ddiwygio diogelwch cydraddoldeb a hawliau dynol mewn deddfwriaeth allweddol i fynd i’r afael ag unrhyw leihad yn yr hawliau hyn wrth i ni adael yr UE.

gyfleoedd i wella gwarchodaeth gyfreithiol dros gydraddoldeb a hawliau dynol. Maent yn ymateb i’r rhain

Mae’r bylchau yn y data presennol yn lleihau a gellir dadansoddi data yn ôl nodweddion gwarchodedig.

Gweithio gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a pherchnogion data llywodraeth i fynd i’r afael â bylchau yn y data, gan gynnwys dylanwadu ar y cwestiynau yng nghyfrifiadau 2021 yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Caiff ein strategaeth bylchau mewn data ei chyhoeddi a’i hyrwyddo i gynulleidfaoedd perthnasol.

Bydd cynigion ar gyfer y cyfrifiad yn adlewyrchu ein cyngor o ran casglu data, yn benodol am gyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd a Sipsi, Roma a Theithiwr.

Cryfheir mecanweithiau atebolrwydd ar gyfer cydymffurfio â safonau hawliau dynol rhyngwladol.

Dylanwadu ar Sylwadau Terfynol y Cenhedloedd Unedig trwy gymryd rhan yn archwiliad y DU ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig yn Erbyn Artaith a chyflwyno adroddiad cysgodol ar y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol, ac adrodd ar gynnydd ar hawliau dynol mewn adroddiad canol tymor ar gyfer Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol y DU.

Bydd argymhellion y Cenhedloedd Unedig yn adlewyrchu o leiaf 50% o’r pryderon hawliau dynol yr ydym yn eu hamlygu yn ein hadroddiadau.

Nod Strategol 1: Sicrhau na rwystrir cyfleoedd bywyd pobl gan rwystrau sydd yn eu ffordd

Credwn, os rhoddir cyfle teg i bawb, y byddwn ni i gyd yn ffynnu.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau DynolCyhoeddwyd: Ebrill 2019

Page 7: Cynllun Busnes 2019/20 - equalityhumanrights.com  · Web viewYr un fath â chyrff cyhoeddus eraill, mae ein cyllideb ar gyfer y cyfnod 2017-20 wedi lleihau fel rhan o Adolygiad Gwariant

Cynllun Busnes 2019/20 Ein mesurau llwyddiant ar gyfer 2019/20

Nod Blaenoriaeth 1: Caiff pobl ym Mhrydain fynediad cyfartal i’r farchnad lafur a chânt eu trin yn deg yn y gwaith

Newidiadau canolraddol – yr effaith a ddymunwn

Gweithgaredd – beth a wnawn yn 2019/20

Mesuriadau llwyddiant – beth mae arnom eisiau ei gyflawni yn 2019/20

Caiff bylchau cyflog eu datgelu a bydd cyflogwyr yn rhoi ar waith gynlluniau gweithredu penodol, mesuradwy sy’n seiliedig ar dystiolaeth i fynd i’r afael â rhwystrau wrth recriwtio, cadw a dyrchafu staff.

Gorfodi’r Rheoliadau Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau a dylanwadu ar gyflogwyr i gyhoeddi cynlluniau gweithredu.

Bydd 100% o’r cyflogwyr perthnasol yn adrodd ffigurau bwlch cyflog rhwng y rhywiau erbyn Awst 2019.

Caiff 100 o’r cyflogwyr sydd â’r data mwyaf annhebygol yn ystadegol eu herio i wireddu neu newid eu hadroddiadau.

Bydd llywodraethau yn rhoi ar waith fesurau i fynd i’r afael â ffactorau sy’n creu bylchau cyflog, yn y gweithle a hefyd ar lefel cymdeithas.

Dylanwadu ar sefydliadau perthnasol i roi ar waith ein hargymhellion ar gyfer mynd i’r afael â bylchau cyflog, rhwng y ddau ryw, gwahanol ethnigedd ac anabledd.

Gweithio gydag adrannau a thimau allweddol y Llywodraethau, gan gynnwys yr Uned Gwahaniaethu Hil a Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth, i ddylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth i fynd i’r afael â bylchau cyflog.

Bydd unrhyw gynigion mewn perthynas ag adrodd ar fylchau cyflog yn adlewyrchu ein hargymhellion.

Cryfheir deddfau sy’n gweithredu ar aflonyddu rhywiol yn y gweithle ac yn ei atal.

Datblygu a rhannu canllawiau technegol/cod ymarfer ar atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle ac ymateb iddo.

Ymateb i ymgynghoriad / ymgyngoriadau Llywodraeth y DU ar faterion aflonyddu rhywiol yn y gweithle.

Caiff cod ymarfer statudol ei osod o flaen Senedd y DU neu ei gyhoeddi a’i hyrwyddo fel canllawiau technegol.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau DynolCyhoeddwyd: Ebrill 2019

Page 8: Cynllun Busnes 2019/20 - equalityhumanrights.com  · Web viewYr un fath â chyrff cyhoeddus eraill, mae ein cyllideb ar gyfer y cyfnod 2017-20 wedi lleihau fel rhan o Adolygiad Gwariant

Cynllun Busnes 2019/20 Ein mesurau llwyddiant ar gyfer 2019/20

Nod Blaenoriaeth 2: Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn cefnogi cynhwysiant economaidd a chymdeithasol pobl anabl a phobl hŷn

Dyma faes newydd y byddwn inni ganolbwyntio arno yn strategol a bwriedir i’n gwaith yn 2019-20 sicrhau gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa a’r cyfleoedd i newid pethau.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau DynolCyhoeddwyd: Ebrill 2019

Page 9: Cynllun Busnes 2019/20 - equalityhumanrights.com  · Web viewYr un fath â chyrff cyhoeddus eraill, mae ein cyllideb ar gyfer y cyfnod 2017-20 wedi lleihau fel rhan o Adolygiad Gwariant

Cynllun Busnes 2019/20 Ein mesurau llwyddiant ar gyfer 2019/20

Newidiadau canolraddol – yr effaith a ddymunwn

Gweithgaredd – beth a wnawn yn 2019/20

Mesuriadau llwyddiant – beth mae arnom eisiau ei gyflawni yn 2019/20

Caiff torcyfraith ei herio yn effeithiol.

Rhoi ar waith brosiect gwaith achos adran 28 i gefnogi unigolion sy’n profi toriadau o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 mewn perthynas â thrafnidiaeth gyhoeddus, gan ddefnyddio’r wybodaeth i ddylanwadu ar ein gwaith polisi.

Cefnogir o leiaf 25 achos gan ddatrys problemau i’r unigolion.

Newidir polisïau ac arferion cyrff yn y diwydiant, mewn perthynas â darparu addasiadau rhesymol, er mwyn bodloni anghenion defynyddwyr yn well.

Gweithio gyda’r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd a chyrff eraill yn y diwydiant, ledled y DU, i sicrhau bod canllawiau diwygiedig i ddarparwyr trafnidiaeth yn adlewyrchu yn llawn ein safbwynt.

Sefydlu rhwydweithiau rhanddeiliaid cryf â chyrff allweddol yn y diwydiant.

Bydd rheolaethwyr a chyrff trosolwg perthnasol yn cytuno i ddiwygio a chyflwyno canllawiau clir, mewn perthynas ag addasiadau rhesymol, sy’n adlewyrchu arferion gorau a’n cyngor.

Bydd rhanddeiliaid yn chwarae rhan weithredol wrth ddatblygu gweithgareddau i’r dyfodol.

Mae ystyriaethau cydraddoldeb yn ganolog wrth gynllunio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.

Gweithio gyda llywodraethau’r DU, Cymru a’r Alban a chyrff yn y diwydiant i sicrhau bod ystyriaethau cydraddoldeb a hygyrchedd yn cael sylw llawn wrth roi ar waith strategaethau trafnidiaeth allweddol.

Bydd llywodraethau’r DU, Cymru a’r Alban yn mireinio’r ffordd y maent yn rhoi eu strategaethau trafnidiaeth ar waith gan adlewyrchu ein cyngor a’n safbwynt.

Nod Strategol 2: Sicrhau bod gennym seiliau cryf i adeiladu cymdeithas arnynt sy’n fwy cyfartal ac sy’n parchu hawliau

Mae arnom eisiau gweld egwyddorion rhyddid, tosturi a chyfiawnder yn realiti ledled Prydain.

Nod Blaenoriaeth 3: Gall pobl gael unioni cam y maent wedi’i ddioddef a derbyn prawf teg yn y system cyfiawnder troseddol

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau DynolCyhoeddwyd: Ebrill 2019

Page 10: Cynllun Busnes 2019/20 - equalityhumanrights.com  · Web viewYr un fath â chyrff cyhoeddus eraill, mae ein cyllideb ar gyfer y cyfnod 2017-20 wedi lleihau fel rhan o Adolygiad Gwariant

Cynllun Busnes 2019/20 Ein mesurau llwyddiant ar gyfer 2019/20

Newidiadau canolraddol – yr effaith a ddymunwn

Gweithgaredd – beth a wnawn yn 2019/20

Mesuriadau llwyddiant – beth mae arnom eisiau ei gyflawni yn 2019/20

Caiff rheolau ynghylch mynediad at gymorth cyfreithiol mewn achosion gwahaniaethu eu diwygio yn unol â’n hargymhellion.

Cwblhau ein hymchwiliad i gymorth cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr a’n hymchwil gysylltiedig yn yr Alban, gydag argymhellion clir ar gyfer newidiadau.

Bydd y cyrff y bydd argymhellion ein hymchwiliad a’n hymchwil yn eu targedu yn ymrwymo i weithredu mewn ymateb iddynt.

Gwneir mecanweithiau i unioni toriadau Deddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Hawliau Dynol 1998 yn fwy hygyrch ac effeithiol.

Dylanwadu ar lywodraethau’r DU a’r Alban fel y byddant yn cyflwyno gofyniad i gofnodi data ynghylch achosion gwahaniaethu a dylanwadu ar wasanaethau llysoedd y DU a’r Alban fel y byddant yn casglu data ar nodweddion gwarchodedig defnyddwyr y llysoedd.

Caiff ein hargymhellion eu hystyried a’u mabwysiadu gan y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb yn adroddiad ei ymchwiliad.Bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Mawrhydi a Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd yr Alban yn ymrwymo i gasglu data yn well.

Caiff arferion a gweithdrefnau yn y system cyfiawnder troseddol eu gwella i sicrhau prawf teg i bobl anabl.

Cwblhau ein hymchwiliad i sut mae pobl â chyflyrau iechyd meddwl, namau gwybyddol a chyflyrau niwro-amrywiol, gan gynnwys awtistiaeth ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), yn cael eu trin yn y system cyfiawnder troseddol.

Bydd y cyrff a dargedir gan argymhellion ein hymchwiliad yn eu hystyried ac ymrwymo i weithredu mewn ymateb iddynt.

Caiff rhwystrau rhag cyfiawnder i fenywod a genethod sydd wedi goroesi trais eu hamlygu a’u lleihau.

Gwaith polisi a gorfodi yn yr Alban ar faterion mynediad at gyfiawnder.

Bydd cynigion ar bolisi ac arfer ym maes cyfiawnder troseddol yn adlewyrchu ein cyngor ar ddileu’r gofyniad am dystiolaeth ategol mewn achosion trais, rheithfarn ‘nis profwyd’ ac ar gyfiawnder sifil ar gyfer goroeswyr trais rhywiol.

Gall mwy o bobl gael hyd i gyngor o ansawdd da ynghylch gwahaniaethu a hawliau dynol.

Parhau i ddarparu gwasanaeth Cefnogi Cynghorydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau

Bydd cynrychiolwyr y sector cyngor yn nodi bod ganddynt fwy o allu i gynghori ar faterion

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau DynolCyhoeddwyd: Ebrill 2019

Page 11: Cynllun Busnes 2019/20 - equalityhumanrights.com  · Web viewYr un fath â chyrff cyhoeddus eraill, mae ein cyllideb ar gyfer y cyfnod 2017-20 wedi lleihau fel rhan o Adolygiad Gwariant

Cynllun Busnes 2019/20 Ein mesurau llwyddiant ar gyfer 2019/20

Newidiadau canolraddol – yr effaith a ddymunwn

Gweithgaredd – beth a wnawn yn 2019/20

Mesuriadau llwyddiant – beth mae arnom eisiau ei gyflawni yn 2019/20

Dynol a chlinigau cyngor i gyrff yn y sector cyngor.

gwahaniaethu a hawliau dynol.

Nod Blaenoriaeth 4: Bydd y system addysg yn hyrwyddo perthnasau da ag eraill a pharch at gydraddoldeb a hawliau dynol

Dyma faes newydd y byddwn yn canolbwyntio arno yn strategol a bwriedir i brif ran ein gwaith yn 2019-20 sicrhau gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa a’r cyfleoedd i newid pethau.

Newidiadau canolraddol – yr effaith a ddymunwn

Gweithgaredd – beth a wnawn yn 2019/20

Mesuriadau llwyddiant – beth mae arnom eisiau ei gyflawni yn 2019/20

Newidir mecanweithiau trosolwg i fynd i’r afael yn well ag eithriadau gwahaniaethol.

Cefnogi adolygiad o fframweithiau arolygu blynyddoedd cynnar ac ysgolion.

Bydd newidiadau i fframweithiau arolygu yn ystyried ac adlewyrchu ein cyngor.

Newidir pynciau’r cwricwlwm i adlewyrchu’r angen i hyrwyddo cydraddoldeb, perthnasau da a hawliau dynol.

Dylanwadu ar newidiadau sy’n digwydd ar hyn o bryd ac a fydd yn digwydd yn y dyfodol i gwricwla yng Nghymru a’r Alban.

Bydd unrhyw gynigion arfaethedig i newid cwricwla yng Nghymru a’r Alban yn cael eu trafod ac yn adlewyrchu ein cyngor.

O ganlyniad i argymhellion ein hymchwiliad, bydd cyrff cyhoeddus yn cyflwyno mecanweithiau gwell i fynd i’r afael ag aflonyddu hiliol a brofir gan staff a myfyrwyr.

Cwblhau ein hymchwiliad i aflonyddu hiliol mewn prifysgolion, gan roi argymhellion clir.

Bydd y cyrff cyhoeddus a dargedir gan argymhellion ein hymchwiliad yn ystyried y rhain ac yn ymrwymo i weithredu mewn ymateb iddynt.

Nod Strategol 3: Amddiffyn hawliau pobl yn y sefyllfaoedd mwyaf bregus

Mae pobl yn y sefyllfaoedd mwyaf bregus mewn perygl arbennig o ddioddef gwahaniaethu a thorri eu hawliau dynol.

Nod Blaenoriaeth 5: Bydd y rheolau a’r arferion ar gyfer mynd i sefydliadau, eu gadael a derbyn triniaeth ynddynt yn parchu safonau cydraddoldeb a hawliau dynol

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau DynolCyhoeddwyd: Ebrill 2019

Page 12: Cynllun Busnes 2019/20 - equalityhumanrights.com  · Web viewYr un fath â chyrff cyhoeddus eraill, mae ein cyllideb ar gyfer y cyfnod 2017-20 wedi lleihau fel rhan o Adolygiad Gwariant

Cynllun Busnes 2019/20 Ein mesurau llwyddiant ar gyfer 2019/20

Newidiadau canolraddol – yr effaith a ddymunwn

Gweithgaredd – beth a wnawn yn 2019/20

Mesuriadau llwyddiant – beth mae arnom eisiau ei gyflawni yn 2019/20

Caiff trefniadau diogelu eu cryfhau o safbwynt cyfraith a pholisi er mwyn atal pobl sy’n rhannu rhai nodweddion gwarchodedig neu sydd â risg arbennig o fod yn fregus rhag cael eu cadw’n gaeth neu eu hamddifadu o’u rhyddid yn anghymesur.

Dylanwadu ar ddiwygiadau gan Lywodraeth y DU i ddeddfwriaeth a pholisi ar gadw mewnfudwyr yn gaeth a diwygiadau gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban i ddeddfwriaeth a pholisi ar iechyd meddwl a galluedd meddyliol.

Caiff diwygiadau i gyfraith a pholisïau’r DU a’r Alban ar fewnfudiad, iechyd meddwl a galluedd meddyliol eu hystyried a bydd unrhyw newidiadau yn adlewyrchu ein cyngor.

Llai o arferion anghyfreithlon neu amhriodol (gan gynnwys defnyddio grym ac arwahanu) sy’n torri hawliau dynol neu hawliau pobl sy’n rhannu rhai nodweddion gwarchodedig mewn sefydliadau.

Cwmpasu a lansio ymchwiliad i’r mecanweithiau cofnodi, monitro ac atebolrwydd mewn perthynas â defnyddio grym ac arwahanu mewn dalfeydd a sefydliadau, ac effeithiolrwydd mecanweithiau cwyno unigol, gyda chefnogaeth gan reoleiddwyr, arolygiaethau ac ombwdsmyn perthnasol.

Bydd cyrff sydd â chyfrifoldeb mewn perthynas â defnyddio grym ac arwahanu yn ymrwymo i gymryd rhan yn yr ymchwiliad.

Bydd rheoleiddwyr, arolygiaethau ac ombwdsmyn perthnasol, yn canolbwyntio’n mwy ar gydraddoldeb a hawliau dynol yn eu hadroddiadau.

Lle bo’r mesuriadau llwyddiant a geisiwn yn ymwneud â dylanwadu ar eraill, byddwn yn mesur ein heffaith trwy adnabod datganiad gan y cyrff hynny sy’n adlewyrchu cefnogaeth i’n safbwynt ni.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau DynolCyhoeddwyd: Ebrill 2019

Page 13: Cynllun Busnes 2019/20 - equalityhumanrights.com  · Web viewYr un fath â chyrff cyhoeddus eraill, mae ein cyllideb ar gyfer y cyfnod 2017-20 wedi lleihau fel rhan o Adolygiad Gwariant

Cynllun Busnes 2019/20 Gweithgaredd corfforaethol

Gweithgaredd corfforaethol

Pobl / seilwaith

Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein timau. Byddwn yn rhoi ein strategaeth Pobl a Seilwaith ar waith, gan sicrhau y gallwn wneud yn fawr o ymroddiad ein cydweithwyr i’w gwaith, gan roi iddynt yr amgylchedd a’r offer i wneud eu swyddi a’r sgiliau, yr wybodaeth a’r gefnogaeth i ffynnu yn y gwaith.

Eleni byddwn yn:

gwella ein swyddfa yn Llundain i greu amgylchedd gwaith hyblyg a gwneud gwelliannau mewn llefydd eraill

buddsoddi yn y sgiliau a’r wybodaeth y mae ar ein pobl eu hangen i gyflawni ein Cynllun Strategol newydd

cwblhau ein hadolygiad o’n holl bolisïau a phrosesau adnoddau dynol, gan gyflwyno dull integredig fydd yn ein gwneud yn gyflogwr sy’n esiampl i eraill

buddsoddi ymhellach yn ein cyfleusterau TGCh a fideo-gynadleddau i ganiatáu gweithio o bell a gweithio symudol mwy hwylusl; cyflwyno systemau adnoddau dynol, cyflogres a gwaith achos cyfreithiol newydd; a chyflwyno meddalwedd i wneud pob cyfarfod yn ddi-bapur, a

chyflwyno ein strategaeth Cynhwysiant ac Amrywiaeth, gan ei chefnogi gyda thargedau i gynyddu amrywiaeth ein gweithlu a helpu pawb o’n cydweithwyr i gyrraedd eu potensial; a pharhau i fonitro ein bylchau cyflog a chymryd camau priodol i fynd i’r afael â hwy.

Bydd y newidiadau hyn yn cefnogi ein hamcanion cydraddoldeb, a nodwyd yn ein Cynllun Strategol. Cyhoeddir ein strategaethau Pobl a Seilwaith a Chynhwysiant ac Amrywiaeth ar wahân a bydd y rhain yn cynnwys targedau ar gyfer cynrychiolaeth yn ôl rhyw, hil ac anabledd, lle bo angen, fesul swyddfa a lefel. Byddwn hefyd yn cyhoeddi ein hadroddiadau Bwlch Cyflog ac Amrywiaeth Gweithlu blynyddol.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau DynolCyhoeddwyd: Ebrill 2019

Page 14: Cynllun Busnes 2019/20 - equalityhumanrights.com  · Web viewYr un fath â chyrff cyhoeddus eraill, mae ein cyllideb ar gyfer y cyfnod 2017-20 wedi lleihau fel rhan o Adolygiad Gwariant

Cynllun Busnes 2019/20 Gweithgaredd corfforaethol

Cyfathrebu ac ymgysylltu

Mae ein rôl fel darparwr gwybodaeth yn allweddol i’n pwrpas. I gefnogi ein Hamcanion Cydraddoldeb, byddwn yn adolygu ein mecanweithiau ymgysylltu â rhanddeiliaid gyda’r nod o sicrhau eu bod yn hygyrch. Byddwn yn sicrhau bod yr wybodaeth a gawn trwy gysylltu’n rheolaidd â rhanddeiliaid yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn cael ei hymgorffori mewn prosesau priodol ar gyfer gwneud penderfyniadau.

Eleni byddwn yn:

adnewyddu ein gwefan er mwyn iddi ddarparu profiad o’r radd flaenaf ar gyfer defnyddwyr. Bydd yn rhoi gwybodaeth glir a chywir, mewn ffordd ddiddorol a hygyrch, gan gwrdd â’r safonau yn y rheoliadau hygyrchedd, a

chyflwyno dull newydd o ddarparu gwybodaeth fanylach am ein gwaith cydymffurfiad a gorfodi.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau DynolCyhoeddwyd: Ebrill 2019

Page 15: Cynllun Busnes 2019/20 - equalityhumanrights.com  · Web viewYr un fath â chyrff cyhoeddus eraill, mae ein cyllideb ar gyfer y cyfnod 2017-20 wedi lleihau fel rhan o Adolygiad Gwariant

Cynllun Busnes 2019/20 Dyrannu’r gyllideb a’r adnoddau

Dyrannu’r gyllideb a’r adnoddau

Staff a gwariant

Nifer ein staff yn 2019/20 yw 206 a chyfanswm ein cyllideb yw £18.551m, gan gynnwys arian adnoddau sef £17.431m (£12.376m gweinyddol a £5.055m rhaglenni), dibrisiant sef £0.60m ac arian cyfalaf sef £0.52m.

Dros gyfnod yr Adolygiad Gwariant presennol, rydym wedi parhau i gyflawni’r arbedion sydd eu hangen, gan sicrhau ar yr un pryd bod ein rhaglen waith yn cael effaith.

Ffigur 1 Ein rhagolygon gwariant 2018/19 a’r gyllideb 2019/20

  rhagolygon alldro 2018/19 (£,000)

cyllideb 2019/20 (£,000)

Gweinyddol 12,785 12,376Rhaglenni 5,004 5,055Cyfanswm 17,789 17,431Cyfalaf 350 520Gweinyddol (dibrisiant) 450 600

 Sylwer: DEL = Terfyn Gwariant Adrannol

Cyflawni gwerth am arian

Yr un fath â chyrff cyhoeddus eraill, mae ein cyllideb ar gyfer y cyfnod 2017-20 wedi lleihau fel rhan o Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU a wnaed yn Hydref 2015. Yn 2019/20 byddwn yn parhau i sicrhau ein bod yn cyflawni gwaith sy’n cael gwir effaith a’n bod yn rheoli ein sefydliad a’n hadnoddau yn effeithiol.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau DynolCyhoeddwyd: Ebrill 2019

Page 16: Cynllun Busnes 2019/20 - equalityhumanrights.com  · Web viewYr un fath â chyrff cyhoeddus eraill, mae ein cyllideb ar gyfer y cyfnod 2017-20 wedi lleihau fel rhan o Adolygiad Gwariant

Cynllun Busnes 2019/20 Dyrannu’r gyllideb a’r adnoddau

Ffigur 2 Ein dyraniad arian yng nghyfnod Adolygiad Gwariant 2017-20

Cyllideb 2017/18

(£,000)

2018/19

(£,000)

2019/20

(£,000)

Gweinyddol 13,735 12,828 12,376

Rhaglenni 5,610 5,321 5,055

Cyfanswm 19,345 18,149 17,431

Cyfalaf 520 520 520

Gweinyddol (dibrisiant)

600 600 600

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau DynolCyhoeddwyd: Ebrill 2019

Page 17: Cynllun Busnes 2019/20 - equalityhumanrights.com  · Web viewYr un fath â chyrff cyhoeddus eraill, mae ein cyllideb ar gyfer y cyfnod 2017-20 wedi lleihau fel rhan o Adolygiad Gwariant

Cynllun Busnes 2019/20 Cysylltiadau

Cysylltiadau

Mae’r cyhoeddiad hwn ac adnoddau cydraddoldeb a hawliau dynol cysylltiedig ar gael ar ein gwefan.

Gellir anfon cwestiynau a sylwadau ynghylch y cyhoeddiad hwn i: [email protected]. Croesawn eich adborth.

I gael gwybodaeth am gael hyd i un o’n cyhoeddiadau mewn fformat amgen, cysylltwch â: [email protected] .

Cewch ein newyddion diweddaraf a gwybodaeth am ddigwyddiadau a ch yhoeddiadau trwy gofrestru am ein he-newyddlen .

Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Cydraddoldeb (EASS)

I gael cyngor, gwybodaeth neu arweiniad am faterion cydraddoldeb, gwahaniaethu neu hawliau dynol, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Cydraddoldeb, gwasanaeth di-dâl ac annibynnol.

Ffôn 0808 800 0082

Ffôn Testun 0808 800 0084

Oriau 09:00 i 19:00 (dydd Llun i ddydd Gwener)10:00 i 14:00 (dydd Sadwrn)

Post FREEPOST EASS HELPLINE FPN6521

© 2019 Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Cyhoeddwyd Ebrill 2019

ISBN: 978-1-84206-795-6

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau DynolCyhoeddwyd: Ebrill 2019