y pynciau craidd – gorfodol · 2017. 11. 2. · hyn, rhaid cyflwyno dwy dasg ar gyfer y gwaith...

34

Upload: others

Post on 03-Feb-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • http://images.google.co.uk/imgres?imgurl=http://www.foothill.edu/career/images/careers.jpg&imgrefurl=http://www.foothill.edu/career/jobs.php&usg=__u_lmLX_ZiO2PLc6Jb05tYvgXnPA=&h=300&w=300&sz=43&hl=en&start=2&tbnid=zONzZOYjKg5yqM:&tbnh=116&tbnw=116&prev=/images?q=careers&gbv=2&hl=en&safe=active

  • 2

    Cynnwys Tudalen Cyflwyniad 3-4

    Pwnc Cymraeg 5

    Saesneg 6

    Mathemateg 7

    Gwyddoniaeth 8

    Addysg Gorfforol 9

    Arlwyo 10

    BAC: Canolradd a Sylfaenol 11

    Astudiaethau Busnes 12

    Astudiaethau Crefyddol 13

    Astudiaethau’r Cyfryngau 14

    Celf a Dylunio 15

    BTEC Adeiladu * 16

    Cerddoriaeth 17

    Chwaraeon – BTEC (Tystysgrif Gyntaf Lefel 2)*

    18

    AoPE ASDAN 19

    Daearyddiaeth 20

    Gofal Plant 21

    Dawns 22

    Drama 23

    Dylunio Technoleg – Deunyddiau Gwrthiannol

    24

    Celf a Thecstilau 25

    Electroneg 26

    Hamdden a Thwristiaeth 27

    Hanes 28

    Iechyd a Gofal Cymdeithasol 29

    Ieithoedd Modern (Ffrangeg, Sbaeneg)

    30-31

    TGCh 32

    Trin Gwallt a Harddwch (City and Guilds)*

    33

    Gwasanaethau Cyhoeddus BTEC (Lefel 2)*

    34

    Mae’r cyrsiau uchod i gyd ar lefel TGAU, heblaw am reiny a ddynodir â *.

  • 3

    DECHRAU YSTYRIED EICH DEWISIADAU YN 14 OED

    Dyma'ch dewis pwysig cyntaf fel disgybl ysgol uwchradd, sef dewis y pynciau y

    byddwch yn eu hastudio ym Mlynyddoedd 10 ac 11.

    Mae dewis y pynciau sydd yn eich siwtio chi yn holl bwysig:

    a) achos rydych yn fwy tebygol o fwynhau a llwyddo yn y pynciau sy'n gweddu

    i'ch diddordebau, eich sgiliau a'ch cryfderau personol chi, a

    b) gall eich dewis yn 14+ ddylanwadu ar y cyrsiau a'r yrfa y

    byddwch yn ei dilyn yn y dyfodol.

    CYRSIAU BLYNYDDOEDD 10 &11

    Mae'r pynciau / cyrsiau sydd ar gynnig yn cael eu rhannu yn ddau gategori:

    PYNCIAU CRAIDD (mae'n rhaid i chi astudio rhain) a PHYNCIAU SYLFAEN

    (medrwch ddewis rhwng rhain).

    Dyma'r PYNCIAU CRAIDD:

    Cymraeg, Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, TGCh Lefel 2. Bydd pawb yn

    astudio ar gyfer BAC Cymraeg hefyd. Mae Addysg Grefyddol ac Addysg

    Gorfforol hefyd yn orfodol, ond nid oes arholiad yn y gwersi statudol yma.

    Bydd y CYRSIAU SYLFAEN yn cynnwys rhain. (Fe fydd y rhestr derfynol yn

    dibynnu ar y niferoedd o ddisgyblion yn eich blwyddyn sy’n dewis pob pwnc. Ni

    fyddwn yn gallu rhedeg pwnc sydd heb ddigon o ddisgyblion.)

    Daearyddiaeth, Hanes, Addysg Grefyddol, Ffrangeg, Sbaeneg, Addysg Gorfforol,

    BTEC Chwaraeon (dwbl), Gwyddoniaeth Driphlyg, Celf, Cerddoriaeth, Dawns,

    Drama, Dylunio Technoleg (Deunyddiau Gwrthiannol) Arlwyo, Tecstilau,

    Electroneg, Astudiaethau'r Cyfryngau, Astudiaethau Busnes, Iechyd a Gofal,

    Gofal Plant, Technoleg Gwybodaeth (cwrs llawn), Twristiaeth a Hamdden, BTEC

    Adeiladu, Trin Gwallt, ASDAN AoPE, Gwasanaethau Cyhoeddus..

    Yn y llyfryn yma ac yn ystod ein Noson Ddewisiadau, cewch mwy o wybodaeth

    am y pynciau hyn i gyd.

  • 4

    Llwybrau Dysgu 14-19

    Mae’r cwricwlwm 14-19 yng Nghymru wedi’i drefnu ar ffurf Llwybrau Dysgu

    personol sy’n caniatáu i bob disgybl wneud y mwyaf o’i dalentau ac i gyrraedd ei

    botensial llawn yn ystod y cyfnod cyffroes yma. Ym Mlwyddyn 10 mae modd i chi

    ddewis cymysgedd o bynciau academaidd a galwedigaethol gan gynnwys

    cwricwlwm Cymhwyster Bagloriaeth Cymru (Y Bac), ac fe fydd rhai o’r pynciau yn

    cael eu darparu gan Golegau lleol neu drwy ein partneriaeth gydag Ysgol Gyfun

    Gwyr. Fe fydd eich llwybr personol yn caniatâi i chi gymryd y cam nesaf yn 16

    oed gan ddilyn cyrsiau yn y 6ed dosbarth, coleg neu ar hyfforddiant yn y

    gweithle. Fel rhan o’r Llwybrau 14-19 fe fyddwch yn cael cefnogaeth unigol gan

    eich Tiwtor Personol a fydd yn Anogwr Dysgu i chi. Wrth weithio’n agos gyda’ch

    Anogwr Dysgu fe fyddwch yn gallu cyrraedd eich potensial llawn ac fe fydd

    unrhyw broblemau’n cael eu hadnabod a’u datrys yn gynnar.

    Fe fydd rhai disgyblion yn astudio Gwyddoniaeth BTEC ac yn dewis 4 pwnc

    dewisol.

    Fe fydd rhai disgyblion yn astudio Gwyddoniaeth Ychwanegol (dwbl) ac yn dewis

    4 pwnc dewisol (gyda’r opsiwn i ddewis Gwyddoniaeth Driphlyg ar ôl trafod

    gyda’r athrawon Gwyddoniaeth)

    PWYSIG - Fe fydd pob disgybl yn gwneud ‘dewis agored’ yn y lle cyntaf ac yn

    dewis 4 pwnc sylfaen. Yna fe fyddwn yn edrych yn ofalus ar ddewisiadau pawb,

    ac ar ôl dadansoddi manwl fe fyddwn yn ffurfio’r colofnau. Dyma’r ffordd orau i

    sicrhau bod y mwyafrif o’r flwyddyn yn cael y nifer uchaf o ddewisiadau cyntaf.

    Fe fyddwn yn dweud wrthoch chi beth yw’r colofnau mewn da bryd ac fe fydd

    proses cynghori yn dechrau ar gyfer y nifer fach o ddisgyblion hynny sy’n gorfod

    addasu eu dewisiadau.

  • 5

    Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg

    Bydd y disgyblion yn dilyn dau gwrs o fewn y gwersi Cymraeg a bydd y gwaith ar gyfer y ddau gwrs yn ymestyn dros gyfnod o ddwy flynedd.

    Cymraeg (Iaith) Bydd y cwrs Cymraeg yn rhoi cyfle i’r disgyblion ehangu a datblygu ymhellach eu sgiliau llafar, darllen ac ysgrifennu fel eu bod yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn effeithiol ac yn hyderus, mewn ystod o sefyllfaoedd ac ar amrywiaeth o bynciau. Ceisir meithrin ynddynt agwedd gadarnhaol tuag at yr iaith a sicrhau eu bod yn cael mwynhad wrth drin, trafod a chreu yn y Gymraeg. Mae tair rhan i’r cynllun asesu:

    • Asesiad terfynol o waith llafar (arholiad) 30% • Asesiad terfynol o ddarllen ac ysgrifennu (arholiad) 40% • Asesiad o waith cwrs darllen ac ysgrifennu 30%

    Bydd angen gweithio’n gyson ar hyd y ddwy flynedd i gyflawni tair tasg ar gyfer y gwaith cwrs yn ogystal ag ymarfer cyson i baratoi tuag at yr asesiad llafar

    Llenyddiaeth Gymraeg Bydd y cwrs llenyddiaeth yn rhoi cyfle i’r disgyblion fwynhau ac ymateb i amrywiaeth o ddeunydd llenyddol a chyfryngol. Astudir un nofel a chasgliad o farddoniaeth ar gyfer yr arholiad ysgrifenedig. Yn ogystal â hyn, rhaid cyflwyno dwy dasg ar gyfer y gwaith cwrs ysgrifenedig, un yn ymateb i gyfrol o ryddiaith ac un arall yn ymateb i ddrama. Trafodir ffilm yn yr asesiad llafar allanol. Barddoniaeth: (Ieuenctid / Natur a Dynoliaeth / Pigo Cydwybod / Cymru a Chymreictod) Nofel: (Yn y Gwaed / Y Stafell Ddirgel / Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr / I ble’r aeth

    Haul y Bore? / Llinyn Trôns) Ffilm: (Dihirod Dyfed / Mynydd Grug (Te yn y Grug) / Tylluan Wen)

    Asesu: Mae tair rhan i’r cynllun asesu:

    • Asesiad terfynol o waith llafar (arholiad) 30% • Arholiad ysgrifenedig terfynol 45% • Asesiad o waith cwrs 25%

    http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/d/dc/Flag_of_Wales.svg

  • 6

    TGAU Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg Saesneg Iaith Arholiadau (60%)

    Uned 1 (1 awr 45 munud) 30% (ym mlwyddyn 11) Ymateb i ddarllen ffuglen ac ysgrifennu creadigol

    Uned 2 (1 awr 45 munud) 30% (ym mlwyddyn 11) Ymateb i ddarllen deunyddiau ffeithiol ac ysgrifennu ffeithiol Asesiadau dan Reolaeth (40%)

    Uned 3: Asesiadau dan Reolaeth 20%

    Ymateb i ddarllen deunydd ffeithiol(10%)

    Ysgrifennu creadigol neu ffeithiol (10%)

    Uned 4: Llafar (siarad a gwrando) 20% DAU asesiad

    Cyflwyniad estynedig unigol (10%)

    Trafodaeth grŵp (10%)

    Llenyddiaeth Saesneg Arholiadau (75%)

    Uned 1 (2 awr) 35% (Ionawr 2015) i. ‘Of Mice and Men’ John Steinbeck neu ‘To Kill a Mockingbird’

    Harper Lee ii. Dadansoddi a chymharu barddoniaeth anhysbys

    Uned 2 (2 awr) 40% (Mehefin 2015) i. Naill ai ‘A Christmas Carol’ Charles Dickens neu ‘Heroes’ Robert

    Cormier ii. Naill ai ‘Othello’ William Shakespeare neu ‘Blood Brothers’ Willy

    Russell neu ‘An Inspector Calls’ JB Priestley

    Asesiad dan Reolaeth (25%) Uned 3: Shakespeare a Barddoniaeth (detholiad CBAC) (4 awr) Traethawd yn archwilio thema gan gynnwys dadansoddiad o un o ddramâu Shakespeare a chasgliad o gerddi o ddetholiad CBAC.

  • 7

    MATHEMATEG Cynnwys pwnc

    - Rhif

    - Algebra

    - Geometreg a Mesur

    - Tebygolrwydd ac Ystadegaeth

    Haen Uwch a Sylfaenol : Cwrs llinol TGAU

    Papur 1 - heb gyfrifiannell 50% o’r cyfanswm.

    Papur 2 - gyda chyfrifiannell 50% o’r cyfanswm.

    Dim gwaith cwrs.

    Cyfleoedd Asesu Arholiad Dyddiad

    TGAU Mathemateg

    Tachwedd Bl.11

    Gellir ail eistedd arholiad TGAU Mathemateg Haf Bl.11.

    Haenau o Fynediad

    Bydd 2 haen o fynediad yn orgyffwrdd.

    Dewisir yr haenau o fynediad er mwyn

    sicrhau y bydd ymgeiswyr yn medru

    dangos cyrhaeddiad positif.

    Lefel Mynediad – Tystysgrif mewn Mathemateg

    Mae nifer o’r cyrsiau Mathemateg sydd ar gael ar hyn o bryd yn anaddas

    ar gyfer rhai o’r disgyblion. Felly, fe gynlluniwyd y gwaith arbennig yma er

    mwyn darparu sylfaen fathemategol sy’n briodol ar gyfer bywyd bob dydd

    a gofynion gwaith. Bydd y gwaith llafar, ymarferol a phrofion yn cyfrif am

    79% o’r marciau a’r arholiad am 21%.

    Haen Graddau

    Uwch A*, A, B, C, D

    Sylfaenol C, D, E, F, G

  • 8

    Gwyddoniaeth Beth yw gwyddoniaeth TGAU? - Mae tri chwrs gwahanol ar gael:

    Gwyddoniaeth ar wahân (Gwyddoniaeth Driphlyg) sef TGAU mewn: Bioleg, Cemeg a Ffiseg – fe fydd y rhan helaeth o’r disgyblion sy’n cymryd y cwrs yn gwybod eu bod eisiau cael swydd fel meddyg, milfeddyg neu wyddonydd. Mae’r cwrs cyfwerth â thair TGAU.

    Gwyddonaieth a Gwyddoniaeth ychwanegol – sef cwrs sy’n cynnwys modiwlau o Fioleg, Cemeg a Ffiseg – fe gwech gymhwyster sy’n werth dau TGAU Annibynol wrth astudio’r cwrs. Mae’r cwrs yn eich galluogi chi i astudio Bioleg, Cemeg neu Ffiseg ar gyfer Lefel A – felly nid yw’n eich rhwystro rhag cael swydd fel meddyg, milfeddyg neu wyddonydd yn y dyfodol. Mae’r cwrs yn gyfwerth â dwy TGAU. Gwyddoniaeth Galwedigaethol - cwrs sy’n cynnwys modiwlau o Fioleg, Cemeg a Ffiseg ac yn rhoi cymhwyster gwerth un TGAU. Mae’r cwrs yn eich galluog i astudio BTEC Gwyddoniaeth / Peirianneg lefel 3 ond bydd rhaid astudio pellach os ydych am astudio’r Gwyddorau i Lefel A.

    Pam astudio Gwyddoniaeth? Pwnc diddorol, ymarferol a chyffrous yw Gwyddonaieth – un sy’n datblygu eich sgiliau meddwl dros eich hunan. Gwyddoniaeth yw’r pwnc sy’n ceisio esbonio’r byd o’n hamgylch; o fewn y pwnc ceir:

    Cemeg – sy’n astudio adweithiau rhwng gwahanol gemegau

    Bioleg – sy’n astudio sut mae pethau byw’n gweithio

    Ffiseg – sy’n esbonio sut mae pethau fel trydan, grymoedd a goleuni’n gweithio. Mae pob un o’r uchod â’i gogwydd arbennig – ond maen nhw i gyd yn ceisio gwenud arbrofion i ddatblygu syniadau a phrofi rhagfynegiadau.

    Gwyddoniaeth a gyrfaodd Fel un o’r pynciau craidd, mae cyflogwr o bob math â diddordeb yn eich perfformiad yn y pwnc. Yn benodol, fodd bynnag, mae cynhwyster yn y gwyddorau’n hanfodol ar gyfer sawl gyrfa, er enghraifft: Meddygol – Ffisiotherapydd, nyrsio, gwyddonydd mewn labordy, ysbyty, meddyg, llawfeddyg, feryllydd ayyb. Perianneg – mecanyddol, geneteg, sifil, trydanol, plymio ayyb Cyffredinol – athro/awes, cyfrifydd, TGCh Gwyddonydd - biolegwr, micro fiolegwr, ffisegwr, seryddwr, cemegydd, ecolegydd, gofodwr a llu o feysydd eraill!

  • 9

    ADDYSG GORFFOROL T.G.A.U

    PAM ASTUDIO ADDYSG GORFFOROL ? Bwriad y cwrs yw annog disgyblion i fwynhau ac astudio Addysg Gorfforol yn bwrpasol. Mae’n gwrs cyffrous sy’n gosod sialens i bob disgybl i wella ei b/pherfformiad a dealltwriaeth yn y maes. Gofynnir i chi ddangos brwdfrydedd ac ymroddiad llawn tuag at y gwaith ymarferol a pharodrwydd i gymryd cyfrifoldeb i weithio’n annibynnol er mwyn gwella.

    CYNNWYS YSGRIFENEDIG = 40% 1. FFACTORAU SY’N EFFEITHIO AR BERFFORMIAD A

    CHYFRANOGIAD MEWN GWEITHGAREDDAU CHWARAEON A IECHYD

    2. DYLANWADAU CORFFOROL AR IECHYD, FFITRWYDD A PHERFFORMIAD

    3. DYLANWADAU SEICOLEGOL AR IECHYD, FFITRWYDD A PHERFFORMIAD

    4. DYLANWADAU TACTEGOL A THECHNEGOL AR IECHYD, FFITRWYDD A PHERFFORMIAD

    CYNNWYS YMARFEROL = 60% Cewch gyfle i ddewis pedwar gweithgaredd gwahanol – pob un

    gwerth 15% yr un.

    Rhaid i o leiaf dau weithgaredd fod fel perfformiwr, a dau arall naill ai fel perfformiwr, arweinydd neu ddyfarnwr.

    Cewch y rhyddid i gynnig eich arbenigedd! e.e.

    Opsiwn Esiampl 1 Esiampl 2 Esiampl 3 Esiampl 4

    1 Rygbi Sgïo Athletau Dawns – gwerin

    2 Ffitrwydd - Rhwyfo

    Pêl-Droed Pêl-Droed - Dyfarnu

    Rygbi

    3 Hoci Arweinydd - Hoci

    Gymnasteg Achub Bywyd

    4 Ffitrwydd – Codi Pwysau

    Dringo Golff Nofio

    ADDYSG GORFFOROL A GYRFAOEDD Bydd astudio'r cwrs yn helpu i’ch paratoi am amrywiaeth eang o swyddi sy’n ymwneud ag Addysg Gorfforol a chwaraeon e.e. gweithio mewn /rheoli canolfan hamdden neu glwb ffitrwydd ; hyfforddwr ffitrwydd personol ; athro ; yr heddlu ; gwasanaeth carcharau ; cynghorau chwaraeon ; dietegydd ; ffisiotherapydd ; analeiddiwr ; hyfforddwr ffitrwydd ; seicolegydd chwaraeon neu feiomecanydd mewn clybiau proffesiynol neu yn y sector gyhoeddus ; hyfforddwr gweithgareddau awyr agored neu hyd yn oed rheolwr mewn clwb proffesiynol!

  • 10

    TGAU Arlwyo

    Cynlluniwyd y cwrs hwn er mwyn cyflwyno’r disgyblion i’r diwydiant arlwyo. Gall unrhyw ddisgybl sydd a diddordeb mewn arlwyo astudio’r pwnc. Gall hefyd ddarparu sail i’r ymgeiswyr hynny sydd am astudio’r pwnc ymhellach. Bydd yna ymweliadau yn cael eu trefnu a chogyddion yn cael eu gwahodd i’r ysgol. Mae gwaith ymarferol yn rhan hanfodol o’r cwrs.

    CYNLLUN ASESU

    Uned 1 Sgiliau ymarferol paratoi , coginio a gweini bwyd.

    Gwaith cwrs Dau asesiad ymarferol (60%) Uned 2 Arlwyo, bwyd a’r cwsmer Arholiad Papur ysgrifenedig 1 ¼ awr (40%) Mae’r unedau yma yn canolbwyntio ar natur paratoi coginio a gweini bwyd yn y diwydiant arlwyo. Meysydd Astudio:

    Y diwydiant - bwyd a diod

    Swyddi, cyflogaeth a hyfforddiant

    Iechyd, diogelwch a hylendid

    Paratoi, coginio a chyflwyno bwyd

    Maeth a chynllunio bwydlenni

    Costio a rheoli cyfrannau

    Offer arbenigol

    Cyfathrebu a chadw cofnodion

    Ystyriaethau amgylcheddol

  • 11

    Mae Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster cyffrous i fyfyrwyr yng Nghymru sy'n ychwanegu dimensiwn newydd gwerthfawr at y pynciau a'r cyrsiau sydd ar gael eisoes i fyfyrwyr 14 i 19 mlwydd oed.

    Mae'n cyfuno sgiliau datblygiad personol â chymwysterau sy'n bodoli eisoes megis TGAU er mwyn ffurfio un dyfarniad ehangach sy'n cael ei werthfawrogi gan gyflogwyr ac yn y pen draw, prifysgolion.

    Sut y byddwch chi’n elwa o’r Bac Cymreig

    Mae’r Bac Cymreig yn cyfuno profiadau a phrosiectau a fydd yn eich helpu i ddatblygu fel unigolyn, a

    bydd yn eich arfogi ar gyfer eich camau nesaf - ar gyfer gwaith, prifysgol a bywyd. Mae’r cymhwyster

    yn profi eich bod wedi meithrin y Sgiliau Allweddol sy’n cael eu hystyried yn rhai pwysig gan gyflogwyr

    a phrifysgolion er enghraifft cyfathrebu, rhifedd a TGCh. Fe fyddwch hefyd yn cael cyfle i ddatblygu

    eich sgiliau gweithio mewn tîm, datrys problemau a gwella eich perfformiad. Mae’n dangos hefyd eich

    bod wedi ymestyn eich addysg bersonol a chymdeithasol, wedi ymgymryd â gwaith ymchwil, wedi cael

    profiad gwaith ac wedi cymryd rhan mewn prosiect cymunedol.

    Beth fyddwch chi’n ei wneud ar y cwrs Er mwyn cyflawni gofynion y cymhwyster rhaid i chi gwblhau Rhaglen Graidd o weithgareddau, ynghyd â’ch pynciau ‘Opsiynol’. Rydych chi’n cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol, oherwydd bod y pwyslais ar ddysgu drwy wneud. Dyma bum cydran y Rhaglen Graidd: • Sgiliau Allweddol – y Sgiliau Allweddol yw Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif, TGCh, Gweithio Ag Eraill, Datrys Problemau a Gwella eich Dysgu a’ch Perfformiad Eich Hun. Rydych chi’n datblygu’r rhain drwy eich Opsiynau a’r pedair cydran isod. • Cymru, Ewrop a’r Byd – eich cyfle i ddysgu mwy am Gymru a’i pherthynas ag Ewrop a’r byd. Mae hyn yn cynnwys modiwl iaith ar lefel sy’n addas i chi. • Addysg Gysylltiedig â Gwaith – mae hyn yn cynnwys gweithio gyda chyflogwr a chymryd rhan mewn gweithgaredd menter tîm i’ch helpu i ddeall sut y mae busnesau’n gweithio. • Addysg Bersonol a Chymdeithasol – mae’n eich helpu i archwilio materion yn y byd modern: teulu, iechyd, cydberthnasau, dinasyddiaeth a datblygiad cynaliadwy. Mae hefyd yn cynnwys gweithgarwch yn y gymuned leol. • Ymchwiliad Unigol – cyfle i ymchwilio pwnc o ddiddordeb i chi o’r opsiynau neu’r rhaglen Graidd.

    A yw’n golygu sefyll rhagor o arholiadau? Nid oes ‘arholiad’ Bagloriaeth Cymru ar wahân i’r arholiadau ar gyfer pynciau’r Opsiynau. Rydych yn casglu tystiolaeth o’ch cymhwysedd yn y Sgiliau Allweddol ac yn ei chyflwyno i gael ei hasesu. Rydych hefyd yn cyflwyno Ymchwiliad Unigol ar agwedd o’r Craidd (Cymru, Ewrop a’r Byd; Addysg Bersonol a Chymdeithasol; neu Addysg Gysylltiedig â Gwaith) sydd o ddiddordeb i chi.

    I fyfyrwyr Bl 10 mae’r Bac ar gael ar lefel Sylfaen neu Chanolradd, gan ddibynnu ar eich Llwybr Dysgu a’ch pynciau dewisol.

    Mae’r Bac Cymreig yn rhoi sgiliau byw i chi. Mae’n rhoi mwy o hyder i chi fel person.” Nick, Myfyriwr

  • 12

    Busnes Cymhwysol Pam Astudio Busnes Cymhwysol? Bydd y cwrs hwn yn galluogi myfyrwyr i wneud y canlynol:

    datblygu fel dysgwyr effeithiol ac annibynnol ac fel meddylwyr beirniadol a myfyriol â

    meddyliau ymofyngar;

    defnyddio agwedd ymofyngar a beirniadol i wahaniaethu rhwng ffeithiau a barn ac i

    adeiladu dadleuon a llunio barn wybodus;

    datblygu a chymhwyso eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth a’u sgiliau at faterion cyfoes mewn

    amrywiaeth o gyd-destunau cenedlaethol, lleol a rhyngwladol;

    deall yr amrywiaeth o safbwyntiau sydd gan randdeiliaid gwahanol mewn perthynas â

    gweithgareddau busnes ac economaidd;

    ystyried i ba raddau y gall gweithgaredd busnes ac economaidd fod yn foesegol a

    chynaliadwy.

    Asesiad:

    UNED TEITL PWYSIAD ASESU DULL ASESU

    1 Y Busnes a’i

    Amgylchedd

    60% Asesiad dan Reolaeth

    (o fewn y dosbarth dros 12 wythnos)

    2 Cyllid Busnes a Gwneud

    Penderfyniadau

    40% Papur Ysgrifenedig

    (Papur arholiad 90 munud)

    UNED 1: Y Busnes a’i Amgylchedd (Asesiad dan reolaeth - 60% o’r marc terfynol) Ar gyfer busnesau yn gyffredinol a busnes penodol byddwch yn ystyried:

    Sut mae busnesau’n eu trefnu eu hunain er mwyn cyflawni eu nodau a’u hamcanion?

    Sut mae perchenogaeth yn effeithio ar weithredu’r busnes?

    Yr amrywiaeth o nwyddau a gwasanaethau gwahanol sy’n cael eu cynnig.

    Meysydd swyddogaethol gwahanol fusnes, sut maent yn effeithio ar ei gilydd a sut maent

    yn cyfathrebu.

    Ffyrdd mae busnesau’n gwerthu eu cynhyrchion, sut maen nhw’n dewis lleoliadau, sut

    maen nhw’n cyflwyno a defnyddio technoleg newydd a sut y gallen nhw geisio cynhyrchu

    nwyddau a gwasanaethau yn gystadleuol heb niweidio’r amgylchedd.

    UNED 2: Cyllid Busnes a Gwneud Penderfyniadau (Arholiad – 40% o’r marc terfynol) Mae’r uned hon yn darparu cyflwyniad i wneud penderfyniadau a chyllid busnes.

    Byddwch yn edrych ar sut y gall busnesau fesur eu

    perfformiad drwy gadw cyfrifon a byddwch yn darganfod

    gwerth TGCh yn eu helpu nhw i reoli eu cyllid.

    Byddwch yn dysgu am systemau cofnodi syml, sut i

    ddehongli dogfennau ariannol a sut i nodi dewisiadau

    gwahanol i fusnesau wrth wynebu penderfyniadau

    ariannol.

  • 13

    Pa sgiliau fyddech yn eu hennill a datblygu wrth astudio Crefydd?

    Astudiaethau Crefyddol a gyrfa yn y dyfodol

    Mae cwrs Astudiaethau Crefyddol yn baratoad gwerthfawr ar gyfer unrhyw swydd lle mae

    angen deall pobl. Mae’r gallu i archwilio materion moesol y dydd, eu gwerthuso, ac yna

    defnyddio sgiliau hunan mynegiannol yn gymhwyster pwysig yn y galwedigaethau lle mae

    cyfathrebu’n effeithiol a chydymdeimladwy gyda’r cyhoedd yn hanfodol.

    Swyddi: Heddlu; Cyfreithiwr; Meddyg; Athro; Marchnata; Actor a llawer mwy.

    Y Cwrs:

    Yn ystod y ddwy flynedd bydd disgyblion yn cael y cyfle i astudio, archwilio a

    gwerthuso cred o o leiaf dwy grefydd ar nifer o faterion cyfoes o fewn yr

    unedau isod.

    Blwyddyn 10: Crefydd a Materion Bywyd (Arholiad 50%)

    Bydd yr unedau astudio yn cynnwys:

    1)Perthynas 2) A Yw’n Deg?

    3) Chwilio am Ystyr 4) Ein Byd

    Blwyddyn 11: Crefydd a’r Profiad Dynol (Arholiad 50%)

    Bydd yr unedau astudio yn cynnwys:

    1) Crefydd a Gwrthdaro 2) Crefydd a Meddygaeth

    3) Mynegiant Crefyddol 4) Awdurdod – Crefydd a’r

    Wladwriaeth

    Datblygu’r sgiliau

    meddwl uwch wrth

    ddatrys problemau

    moesol.

    Y gallu i ddeall a

    chyfathrebu ag

    ystod eang o bobl

    mewn ffordd

    gydymdeimladwy a

    phroffesiynol.

    Gallu archwilio i faterion y

    dydd, eu gwerthuso ac yna

    mynegi barn mewn ffordd

    cytbwys ac aeddfed.

    Y gallu i gyflwyno dadl gytbwys

    gan ddefnyddio gwybodaeth

    gadarn wrth fynegi eich barn.

    Ennill ddealltwriaeth o sut

    mae crefydd yn effeithio’n

    fawr ar ein cymdeithas a

    digwyddiadau byd-eang.

    “The fact that human civilisation is now so tightly knit that its every crisis sends ripples around the globe is one reason why the modern study of religion, with its emphasis on understanding rather than preaching is so important”

    -Professor Ninian Smart

  • 14

    Astudiaethau’r Cyfryngau

    ......Teledu ?....Papur newydd a Newyddion. . . ? ............Eisiau gwybod mwy . . .?

    Nodau’r cwrs: annog disgyblion i ddatblygu agwedd feirniadol ac ymchwiliadol i’r cyfryngau ystyried testunau amrywiol, cynulleidfaoedd a’r diwydiant cyfryngol meithrin sgiliau cyfathrebu perthnasol i astudiaeth o’r cyfryngau datblygu sgiliau technegol perthnasol i fyd y cyfryngau

    Cynnwys y cwrs: Mae’r cyfryngau’n elfen ganolog o fywyd modern Mae ganddynt rôl allweddol mewn darparu gwybodaeth am y byd, creu cyfleoedd i fasnach a chynnig pleser ac adloniant ar ffurfiau cyfryngol. Byddwch yn astudio amrywiaeth eang o gyfryngau gwahanol ac yn edrych ar gymhlethdodau’r berthynas rhyngddoch chi fel derbynydd/gwyliwr o gynnyrch cyfryngol ar lefel byd eang a’r cwmnïau sy’n eu cynhyrchu. Trwy wneud amrywiaeth o dasgau ysgrifenedig a phrosiectau ymarferol megis cynhyrchu ffilmiau, safwe a chylchgronau byddwch yn ystyried:

    sut mae testunau cyfryngol yn cael eu cynhyrchu er mwyn denu’r gynulleidfa, trwy astudio ystod eang o enghreifftiau megis papurau newydd, comigau, ffilmiau, teledu gemau cyfrifiadurol…... (nid oes testunau gosod)

    sut mae diwydiannau’r cyfryngau yn cael eu trefnu a’u rheoli, marchnata a hyrwyddo o fewn y cyfryngau, a materion yn ymwneud â phreifatrwydd yng nghyd-destun bywyd sêr.

    dylanwad y cyfryngau ar gynulleidfaoedd / defnyddwyr

    Sut mae’r cwrs yn cael ei asesu ? Gwaith Cwrs 60% Tri darn o waith ymarferol eu natur yn ymwneud â chynllunio a chynhyrchu testun cyfryngol

    Dau archwiliad ysgrifenedig yn edrych ar agweddau o genre, naratif neu gynrychiolaeth

    Arholiad Ysgrifenedig 40% Ymateb i ddau destun cyfryngol

    a) print b) seiniol – gweledol

    Un haen i bawb

  • 15

    Celf a Dylunio TGAU Ydych chi’n mwynhau gwaith Celf? Cwrs hyblyg a phleserus iawn yw’r cwrs Celf T.G.A.U. nad yw’n cynnwys arholiad ysgrifenedig! Bydd pob unigolyn yn cael y cyfle i ddarganfod ei gryfderau a’i ddiddordebau ei hun wrth weithio trwy’r uned waith. Mae’r pwyslais ar luniadu a chynhyrchu gwaith gwreiddiol. Nodau’r cwrs: Mae’r cwrs yn annog archwilio, arbrofi a mynegi fel ymateb i ymwybyddiaeth synhwyraidd o’r byd. Anogir pob unigolyn i ddatblygu ffurf bersonol ar fynegiant. Byddant hefyd yn datblygu amrywiaeth o gyfryngau ac offer. Trwy ymweld ag arddangosfeydd celf mewn orielau lleol byddant yn datblygu sgiliau gwerthfawrogi a beirniadu Celf ac yn sgìl hynny, yn mynegi ac yn llunio barn am eu gwaith eu hunain gan ddefnyddio geirfa gysylltiedig. Bydd yr ymgeiswyr hefyd yn meithrin yr ymwybyddiaeth a’r gallu i werthfawrogi Celf ac arteffactau eu diwylliannau eu hunain a diwylliannau eraill. Gyrfaoedd mewn Celf Gallech weithio o’ch stiwdio eich hun fel Arlunydd; dylunydd graffeg; arlunydd cerameg; arlunydd print; athro/athrawes; darlithydd; gweithio mewn orielau Celf neu yn feirniad Celf. Gwaith cwrs 60% Bydd y gwaith cwrs yn cynnwys un uned o waith parhaus a wnaed drwy gydol y cyfnod astudio sy’n darparu portffolio personol o bob ymgeisydd. Arholiad terfynol 40% Bydd yr arholiad terfynol yn dechrau ym mis Ionawr yn y flwyddyn arholi. Yn ystod yr arholiad, sy’n cael ei amseru a’i arolygu, mae’n rhaid i’r ymgeisydd gynhyrchu ei waith yn annibynnol a digymorth. Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr ddewis UN cwestiwn o’r detholiad a ddarperir. Caniateir chwe wythnos ar gyfer yr YMCHWIL a’r ASTUDIAETHAU PARATOADOL a neilltuir 10 awr ar gyfer y PRAWF DAN ORUWCHWYLIAETH. Cyfleoedd ar y cwrs Bydd yr ymgeiswyr yn cael cyfle i weithio ym mhob un o’r meysydd canlynol: lluniadu, peintio, colaj, printio graffigol, printio ffabrig, addurno dodrefn, cerameg, gwydr, gwaith tri dimensiwn, gwneud gemwaith a cherflunwaith. Bydd yr ymgeiswyr yn cwblhau uned o waith cwrs yn seiliedig ar arlunydd, dylunydd neu grefftwr neu ddiwylliant Celf neu fudiad penodol mewn hanes. Byddant hefyd yn cyfrannu at waith dosbarth drwy baratoi cyfran o waith gartref, a byddant yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn gweithdai a ddarperir gan grefftwyr lleol ar ôl ysgol a dros y penwythnos.

  • 16

    ADEILADU – BTEC Lefel 2 Mae'r cwrs BTEC yma yn rhoi cyfle i ddisgyblion sy'n mwynhau'r profiad o weithio'n ymarferol i ddatblygu ystod o sgiliau sydd a galw mawr amdanynt. Mae’r cwrs yn arwain at gymhwyster BTEC Lefel 2. Mae'r cwrs yn un ymarferol iawn a chewch gyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau ymarferol. Bydd eich gwaith yn cael ei asesu gan ddarlithwyr o Goleg Castell Nedd a Phort Talbot, ac mae llwybr gyrfa bendant medrwch ei ddilyn. Mae’r cwrs yn cynnwys sesiynau ymarferol a theori. Cynhelir y sesiynau ymarferol mewn gweithdai â’r holl gyfarpar gofynnol, ac aseswyr cymwysiedig sy’n asesu. Mae sesiynau theori yn rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth greiddiol i gefnogi sesiynau ymarferol. Gall gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus arwain at y Dyfarniad Adeiladu Uwch. Bydd manylion pellach ar gael gan ddarlithwr o Goleg Castell Nedd a Phort Talbot ar noson opsiynau Bryn Tawe.

  • 17

    CERDDORIAETH

    Mae Cerdd yn bwnc creadigol sy’n datblygu sgiliau perthnasol ar gyfer Perfformio, Cyfansoddi, Gwerthuso a recordio cerddoriaeth.

    Bydd myfyrwyr yn astudio ystod eang o arddulliau cerddorol poblogaidd, a byddant yn dysgu sut i ddefnyddio technoleg ym maes cerddoriaeth gyfoes

    Mae’r cynllun asesu mewn tair rhan

    Mae’r cwrs wedi’i seilio ar 4 maes astudiaeth.

    i) Cerddoriaeth yng Nghymru ii) Cerddoriaeth i’r Llwyfan a’r Sgrin iii) Esblygiad Cerddoriaeth iv) Ffurfiau ac Adeiledd Cerddorol

    Perfformio – 30% Disgwylir i bob disgybl ganu neu chwarae darn unigol, a

    pherfformio rhan unawd mewn ensemble; y cyfan i fod tua 5

    munud o hyd.

    Cyfansoddi – 30 % Rhaid i bob disgybl gyfansoddi 2 ddarn gwrthgyferbyniol tua 5

    munud o hyd. Bydd yr elfen yma yn cael ei ddatblygu yn y dosbarth fel y ffolio gwaith cwrs.

    Gwerthuso – 40% Dadansoddi a gwerthuso cerddoriaeth gan ddefnyddio termau

    cerddorol – un arholiad tua 1 ½ awr ar ddiwedd y cwrs

    Disgwylir i ddisgyblion gyfrannu at amryw o weithgareddau’r adran – Cynhyrchiadau, cyngherddau, Eisteddfodau a gweithgareddau sirol.

  • 18

    BTEC LEFEL 2 TYSTYSGRIF

    ESTYNEDIG MEWN CHWARAEON

    Hyd y cwrs : 2 flynedd

    Mae’r cwrs yn cyfateb i 2 TGAU : A*-C

    PAM ASTUDIO BTEC CHWARAEON??

    Mae’n gymhwyster galwedigaethol lefel 2 sydd yn benodol i chwaraeon, ac sydd yn adnabyddus yn

    genedlaethol.

    Bydd tystiolaeth asesu yn gallu cael eu cynhyrchu drwy amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys

    gwaith cwrs, asesiad yn y lle gwaith, chwarae rôl neu

    gyflwyniad llafar. Ni fydd rhaid sefyll arholiadau.

    Bydd y cwrs yn darparu gwybodaeth, deallusrwydd a sgiliau penodol sydd yn angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth o fewn y sector chwaraeon ee. arweinyddiaeth chwaraeon, diwydiant hamdden ac adloniant.

    Bydd y cwrs yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau a thechnegau, rinweddau personol ac agweddau angenrheidiol tuag at berfformiad llwyddiannus yn y byd gwaith.

    Bydd y cymhwyster o gymorth wrth symud ymlaen i astudio cymwysterau pellach – BTEC Cenedlaethol ym mlwyddyn 12/13 (cyfateb i 1 Lefel A).

    STRWYTHUR Y CWRS A DULLIAU ASESU

    CYNNWYS – 3 UNED ASESU

    UNED 1 – PROFI FFITRWYDD A HYFFORDDI

    Er mwyn pasio yr uned mae rhaid

    cyflwyno pob canlyniad dysgu ar

    gyfer yr uned.

    Mae’r meini prawf graddio yn

    cynnwys :

    Gradd sylfaenol : C TGAU Gradd deilyngdod : B

    TGAU

    Gradd anrhydedd : A/A* TGAU

    UNED 2 – GWEITHGAREDDAU AWYR AGORED AC ANTURUS neu CHWARAEON

    YMARFEROL

    UNED 3 – ANATOMEG A FFISIOLEG CHWARAEON

    UNED 4 - CYNLLUNIO A RHEDEG DIGWYDDIAD CHWARAEON

    http://www.bryntawe.swansea.sch.uk/english.htm

  • 19

    Award of Personal Effectiveness Levels 1 & 2

    Beth yw AoPE?

    Mae AoPE yn gymhwyster cydnabyddedig cenedlaethol sydd ar

    gael ar lefel 1, 2 a 3. Mae wedi ei anelu at ddisgyblion 14 – 19

    oed, sy’n darparu cwricwlwm amgen os oes angen.

    Y disgybl ei hun sydd yn dewis ei lwybr dysgu unigryw. Does

    dim arholiad ymhen cyflawni’r gwaith gan fod asesiad

    llwyddiant terfynol ar sail tystiolaeth portffolio 6 uned o waith

    a chynnwys heriau amrywiol ac asesiadau sgiliau penodol.

    Y Bwriad:

    Bwriad yr ystod wahanol o heriau yw hybu datblygiad pellach

    cyfathrebu, hunan ddysg, sgiliau meddwl ac ymchwiliol y

    disgyblion ac i’w paratoi ar gyfer y gweithle neu addysg uwch.

    Mae’n bosib galw ar brofiadau a chyfleoedd o fewn a thu allan

    i’r ysgol a hyn sydd yn ategu at hyblygrwydd y cymhwyster.

    Wrth gyflawni’r unedau, chaiff waith y disgybl ei gymedroli’n

    fewnol ac allanol gyson er mwyn cynhyrchu’r safonau

    asesiadau orau.

    Beth fydd rhaid ei gwneud?

    Disgwylir i’r disgyblion astudio 6 uned o waith ac yn hwn rhaid

    dangos medrusrwydd sgiliau personol ac mae pob uned

    gywerth a 10 awr o waith archwilio, gwaith ymarferol a

    choladu gwybodaeth a’i gofnodi.

    Gall yr heriau cael eu tynnu allan o waith pynciol gwersi

    ffurfiol y disgybl ond bwriad blaenaf astudio yn y modd hwn

    yw’r pwyslais ar y daith a gymer y disgybl yn ei h/astudiaethau.

  • 20

    PAM DEWIS DAEARYDDIAETH? “Geography is the subject which holds the key to our future”

    Michael Palin Mae Daearyddiaeth yn destun sy’n ennyn eich diddordeb mewn materion byd eang o bob math...

    Wrth ddewis Daearyddiaeth fel un o’ch cyrsiau TGAU byddwch yn dysgu ... … i ddeall yr amgylchedd... … i ddod i adnabod eich byd trwy waith maes ... … i wneud penderfyniadau doeth sy’n ystyried materion amgylcheddol a datblygiad yn gytbwys... … sut i ddatblygu ystod eang o sgiliau ... … i ddefnyddio cyfrifiaduron a thechnoleg eraill ... … i ddeall diwylliannau gwahanol ... … i w’bod lle mae llefydd ar y Ddaear ...

    Heb Ddaearyddiaeth ………….… dydych chi ddim yn unman! Y mae Daearyddiaeth yn ddefnyddiol ym mhob maes neu yrfa ond yn enwedig yn y canlynol: tirfesureg, daeareg, heddlu, addysg, hamdden, yr amgylchedd, peirianneg, y gyfraith, bancio, swyddi gweinyddol (gweler y poster uwchben drws yr Ystafell Ddaearyddiaeth). Os yr ydych yn bwriadu astudio Daearyddiaeth byddwch yn derbyn y manteision canlynol:- Byddwch yn cael y cyfle i ymweld â lleoedd arbennig i ddysgu am batrymau a phrosesau daeardyddol. Byddwch yn deall ac yn hyderus wrth fynegi barn ar faterion lleol, cenedlaethol yn ogystal â rhai byd eang. Byddwch yn parhau i ddatblygu sgiliau megis dadansoddi mapiau, ffotograffau diagramau a graffiau, a’r gallu i lunio barn personol cytbwys a’i esbonio’n eglur i eraill. Byddwch yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas ar lefel leol ac yn fwy eang, ac yn sylweddoli fod gan bobl gwahanol farn amrywiol a bod yna sawl ffordd o ddatrys problemau. Am wybodaeth bellach ar sut fyddai Daearyddiaeth yn opsiwn da i chi ac i ddarganfod mwy, mynnwch sgwrs gyda Mr Davies / Miss Kift a/neu ewch i wefan y ‘Geographical Association’ sef www.geography.org.uk

    Beth yw’r cwestiynau, materion a phroblemau mawr pwysig rydym yn gwynebu yn ein byd? Pam fod gan wahanol bobl

    safbwyntiau gwahanol ar sut i ddefnyddio’r amgylchfyd?

    Sut mae amgylcheddau’r Ddaear yn amrywio cymaint?

    Sut allwn wneud y Ddaear yn lle gwell i fyw ar gyfer pawb? Pam bod safonau

    byw yn amrywio cymaint ar draws y Ddaear?

    Sut ddylid defnyddio’r

    amgylchfyd?

    http://www.geography.org.uk/

  • 21

    Gofal Plant

    Nodau’r cwrs: Does dim gofynion ffurfiol ar gyfer cael mynediad i’r cwrs ond mae’n rhaid dangos diddordeb mewn gweithio â phlant ac mae angen sgiliau astudio a chyfathrebu cyffredinol er mwyn cwblhau’r asesiadau. Mae’r cwrs yma’n berthnasol ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifanc o 0 – 16 mlwydd oed mewn amgylchiadau gofal, dysgu a datblygiad plant e.e.

    Ysgolion a safleoedd cyn ysgol

    Ysbytai

    Gwasanaethau yn y gymuned e.e. Rhaglenni SureStart

    Gofal plant

    Meithrinfa

    Sector gofal

    Ar ôl llwyddo i gael eich cymwyster gallwch fynd i weithio â phlant o dan oruchwyliaeth e.e. fel cynorthwyydd dosbarth mewn ysgol, neu symud ymlaen i astudio ar gyfer cael cymhwyster Lefel 3.

    Cewch gyfle i astudio . . . Mae’r cwrs yn cynnwys aseiniadau ysgrifenedig a gweithgareddau ymarferol sy’n llawer o hwyl e.e. paratoi bwyd iachus, creu murlun ar gyfer y dosbarth, golchi babi, creu gêmau a.y.b. Fel rhan o’r cwrs byddwn yn ymweld â lleoliadau gofal plant er mwyn gweld sut maen nhw’n gweithredu o ddydd I ddydd. Mae siaradwyr gwâdd yn dod i siarad â ni er mwyn esbonio’r gwahanol gynlluniau sydd ar gael ym maes gofal plant e.e. Comisiynydd y plant, FlyingStart, Ymwelydd iechyd.

    Sut mae’r cwrs yn cael ei asesu?

    Mae’r cwrs yn cael ei hasesu trwy waith cwrs ac arholiad ar y diwedd.

  • 22

    Dawns Pam astudio TGAU Dawns?

    Cewch gyfle i ......

    goreograffio dawns eich hun

    ddatblygu eich techneg fel perfformiwr

    ddatblygu ffitrwydd corfforol

    astudio ystod eang o ddawnsfeydd ac arddulliau coreogaffig

    ddatblygu dychymyg a chreadigrwydd

    ymweld â’r theatr

    gymeryd rhan mewn gweithdai

    Amcanion y Cwrs

    Creu dawnsfeydd dychmygus sy’n dangos dealltwriaeth o arferion cyfoes a thradoddiadau’r gorffennol

    Perfformio, dehongli a throsglwyddo sgiliau technegol a mynegiannol ac arfer diogel trwy waith grŵp a pherfformiadau unigol.

    Cyfathrebu yn glir, drwy waith ysgrifenedig, y wybodaeth, dealltwriaeth a dirnadaeth addas i astudio dawns.

    Mewn gwaith ysgrifenedig dangos gwybodaeth o’r broses coreograffi a pherfformio gwaith eich hun neu waith proffesiynnol. Dadansoddi a chymharu gweithiau proffesiynol.

    Gwerthfawrogi arwyddocâd gwaith eich hun a gwaith proffesiynol

    Uned 1 Gwerthuso a gwerthfawrogiad o ddawns Papur Ysgrifenedig – awr o hyd

    50 marc- 20%

    Uned 2 Dawns Gosodedig Arholiad Ymarferol Perfformiad Unigol tua munud/ i funud a hanner o hyd

    30 marc – 20%

    Uned 3

    Perfformiad mewn grŵp neu bâr Tua 3 munud o hyd Asesiad dan amodau arholiad gan yr athro

    30 marc- 20%

    Uned 4 Coreograffi Tasg 1 Coreograffi perfformiad Unigol tua munud/ i munud a hanner o hyd Tasg 2 Coreograffi perffomiad unigol/deuawd/ dawns grŵp

    20 marc- 15% 40 marc- 25% Cyfanswm yr Uned 60 Marc 40%

    Gyrfau Posib Coreograffydd, perfforiwr, hyfforddi/ dysgu dawns, gwaith ieuencid, therapydd

    dawns, rhedeg cwmni dawns,arweinydd dawns yn y gymuned.

  • 23

    Drama

    Pam astudio TGAU Drama? Cewch gyfle i....

    greu drama eich hun;

    ddatblygu sgiliau actio;

    ddatblygu sgiliau technegol;

    ddysgu i gyfarwyddo;

    ymweld â’r theatr

    weithio fel rhan o dîm;

    ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu. Nodau’r Cwrs:

    Gwerthfawrogi llenyddiaeth ddramatig

    Mwynhau a dod i ddeall mwy am gyflwyniadau theatrig

    Dod yn ymwybodol o’r elfennau technegol sy’n cyfrannu tuag at gyflwyniadau theatrig, gan ddysgu ddefnyddio rhai o’r sgiliau hynny

    Arbrofi a datblygu sgilaiu dyfeisio, perfformio a gwerthuso

    Datblygu ystod eang o ffurfiau i fynegi syniadau a theimladau

    Uned 1 Tasg 1 Tasg 2

    Creu Perfformiad Ymarferol o Thema Benodol Creu darn o theatr fel grŵp a fydd naill a’i yn selideig ar ymarferwr drama neu arddull benodol. Adroddiad Gwerthuso’r Prosiect Ymarferol Ysgrifennu adroddiad o’r prosiect ymarferol, yn nhasg 1. Fe fyddwch yn disgrifio eich bwriad, ystyried sut ddatblygodd y gwaith a thrafod y perfformiad terfynol. Caiff y gwaith ei asesu dan amodau arholiad gan eich hathro.

    40% 20%

    Uned 2 Perfformiad o Destun Perfformio golygfa allan o ddrama gydnabyddedig.

    20%

    Uned 3 Arholiad Ysgrifenedig Ateb cwestiynau yn seliedig ar un ddrama osod. Gofynnir cwestiynau ar actio’r ddrama ac ar agweddau cynllunio technegol y ddrama. Fe fydd hefyd angen gwerthuso’r broses yn Uned 2 Hyd yr arholiad fydd 1 ½ awr. Cewch fynd â’r ddrama osod i’r arholiad gyda chi.

    20%

    Gyrfaoedd Posibl

    Actio, Cyfarwyddo, Dramodydd, Rhedeg Cwmni Drama, Therapydd Drama,Y Gyfraith,

    Cyfryngau, Gweithiwr Ieuenctid,Dysgu, cysylltiadau Cyheoddus

  • 24

    Deunyddiau Gwrthiannol Mae astudio Dylunio a Thechnoleg yn paratoi disgyblion ar gyfer bywyd mewn cymdeithas a ddaeth yn ddibynnol ar ddatblygiadau mewn technoleg. Mae’r maes llafur yn seiliedig ar y farn mai gweithgaredd ymarferol yw Dylunio a Thechnoleg, ac mai datblygu gallu’r ymgeiswyr i ddatrys problemau cynllunio trwy ddefnyddio gwybodaeth a sgiliau a ddysgwyd yn y pwnc yw’r nod. Fel rhan sylfaenol o’r cwrs bydd ymgeiswyr yn dadansoddi sefyllfaoedd, dylunio a gwneud cynhyrchion, a gwerthuso dyluniadau. Cynigir cyfle i weithio gydag amrywiaeth o ddeunyddiau gwrthiannol. Yn ystod y cwrs datblygir gallu creadigol ac arloesol y disgyblion. Mae hwn yn gwrs diddorol, cyffrous sydd yn datblygu sgiliau unigryw defnyddiol am fywyd.

    Gyrfaoedd posib: Hysbysebu, Dylunio cynnyrch, Dylunio celfi, Dylunio diwydiannol, Dylunio mewnol, Pensaernïaeth, Celfyddydau digidol, Dyluniwr graffigol, Technoleg CAD/CAM, Athro DT a nifer eraill.

    Yn ystod y cwrs bydd disgyblion yn: • dysgu amrywiaeth o sgiliau graffigol • dylunio amrywiaeth o syniadau i ddatrys problemau

    • dylunio a gwneud gwrthrychau gan ddefnyddio deunyddiau gwrthiannol • ymchwilio a chasglu gwybodaeth

    • dysgu sut i ddylunio mewn ffurf 2D a 3D wrth ddatblygu dyluniadau • cyflwyno syniadau trwy ddefnyddio cyfrifiadur(CAD) • dysgu sut i ddefnyddio peiriannau ac offer llaw

    • defnyddio offer ‘cynhyrchu trwy gymorth cyfrifiadur’(CAM) • creu modelau a phrototeipiau • dysgu am ddulliau cynhyrchu gwahanol • gwerthuso a dadansoddi cynnyrch • gwerthuso gwaith eu hunain ac eraill

    • cael profiad o wahanol swyddogaethau o fewn y diwydiant dylunio; cwsmer, dyluniwr, gwneuthurwr, rheolwr, defnyddiwr ayb

    CRYNODEB O’R ASESIAD

    Gwaith cwrs 60% Un prosiect sylweddol (30 awr yn ystod gwersi ym mlwyddyn 11) Arholiad 40% Un arholiad (2 awr) ar ddiwedd blwyddyn 10.

  • 25

    Celf a Thecstilau TGAU Oes diddordeb gennych mewn ffasiwn neu gynllunio i’r theatr? Efallai bod gennych ddiddordeb mewn cynllunio tecstilau i’r cartref? Bydd y cwrs TGAU Tecstilau yn cynnig sail gadarn a fydd yn ddefnyddiol i chi wrth ddilyn gyrfa gyffrous yn y diwydiant tecstilau a chynllunio ffasiwn, diwydiant sy’n tyfu. Gall y cwrs hefyd ddarparu amrywiaeth o brofiadau ar sail ymarferol a fydd yn rhoi’r cyfle i chi weithio gydag ystod eang o ddeunyddiau. Yn ystod y cwrs bydd disgyblion yn:

    Dysgu amrywiaeth o sgiliau graffigol.

    Cynllunio a gwneud cynnyrch gan ddefnyddio tecstilau ailgylchu.

    Ymchwilio a chywain gwybodaeth ac arbrofi drwy ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau.

    Medru dangos eu gallu i weithio’n ddau a thri dimensiynol.

    Cael y cyfle i gyflwyno’u syniadau drwy gynllunio’n gyfrifiadurol (CAD).

    Dysgu i ddefnyddio peiriannau ac offer llaw.

    Cael y cyfle i ddefnyddio offer gwneuthur cyfrifiadurol (CAM).

    Cynhyrchu prototeip a modelau.

    Dysgu am amrywiaeth o brosesau gweithgynhyrchu.

    Gwerthuso a dadansoddi cynnyrch.

    Gwerthuso gwaith.

    Cael profiad o’r amrywiaeth rolau o fewn dylunio a thechnoleg: cleient, cynllunydd, gwneuthurwr, defnyddiwr ac ati.

    CRYNODEB O’R ASESIAD Gwaith cwrs 60% Bydd y gwaith cwrs yn cynnwys un uned o waith parhaus a wnaed drwy gydol y cyfnod astudio sy’n darparu portffolio personol o bob ymgeisydd. Arholiad terfynol 40% Bydd yr arholiad terfynol yn dechrau ym mis Ionawr yn y flwyddyn arholi. Yn ystod yr arholiad, sy’n cael ei amseru a’i arolygu. Caniateir chwe wythnos ar gyfer yr YMCHWIL a’r ASTUDIAETHAU PARATOADOL a neilltuir 10 awr ar gyfer y PRAWF DAN ORUWCHWYLIAETH. Cyfleoedd ar y cwrs Bydd yr ymgeiswyr yn cael cyfle i weithio ym mhob un o’r meysydd canlynol: lluniadu, peintio, colaj, printio graffigol, printio ffabrig, addurno dodrefn, gwaith tri dimensiwn. Bydd yr ymgeiswyr yn cwblhau uned o waith cwrs yn seiliedig ar arlunydd, dylunydd neu grefftwr neu ddiwylliant Celf neu fudiad penodol mewn hanes. Byddant hefyd yn cyfrannu at waith dosbarth drwy baratoi cyfran o waith gartref, a byddant yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn gweithdai a ddarperir gan grefftwyr lleol ar ôl ysgol a dros y penwythnos. Mae gyrfâu posib yn cynnwys: Dylunydd ffasiwn, dylunydd tecstilau ar gyfer dodrefn mewnol, cynllunydd ffenestri siop, athro/darlithydd. Prynwr ffasiwn neu prynwr tecstilau ar gyfer siopau.

  • 26

    ELECTRONEG Nodau’r cwrs:

    Lluniwyd y cwrs i alluogi disgyblion i feithrin medrau, gwybodaeth a dealltwriaeth o electroneg fel eu bod yn aelodau hyderus o fyd technolegol ac yn gallu dangos dealltwriaeth o faterion i ymwneud ag electroneg. Bydd disgyblion yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o ddylunio cylchedau ac yna’n adeiladu a phrofi’r cynllun. Bydd disgyblion yn datblygu sgiliau i ymwneud â diogelwch/ymarferion da. Dylai ymgeiswyr fod â dealltwriaeth dda o Wyddoniaeth a Mathemateg.

    Cynnwys y cwrs

    Rhennir y cwrs yn 3 uned

    Modiwl E1 Darganfod Electroneg Systemau electroneg, is-systemau, cysyniad cylched, cylchedau synhwyro, cydrannau mewn cylchedau synhwyro, dylunio cylchedau synhwyro, cylchedau allbynnu, cylchedau switsio, cymhwyso deuodau, systemau rhesymeg gyfuniadol, mewnbynnau, cydrannau, cysyniadau cylchedau

    Modiwl E2 Systemau Digidol

    Cylchedau amseru, systemau dilyniannol, cylchedau rhyngwynebu, cyfathrebu analog, rhesymeg gyfuniadol, rhesymeg ddilynol, systemau rheoli rhaglenadwy

    Modiwl E3 Dylunio & Gwireddu System Electroneg

    Cynllunio, prototeip, profi a gwerthuso, profi systemau, cynhyrchu, gwerthusiad, dogfennaeth, diogelwch/ymarfer da

    Sut mae’r cwrs yn cael ei asesu? Arholiad Modiwl E1 (35%) Papur 1 awr i’w gwblhau ym Mlwyddyn 10

    (Mehefin) Asesiad ar sgrin drwy e-asesiad Arholiad Modiwl E2 (40%) Papur 1 awr i’w gwblhau ym Mlwyddyn 11

    (Tachwedd) Asesiad ar sgrin drwy e-asesiad

    Gwaith Cwrs Prosiect (25%) Ymgeisydd/athro yn cynllunio tasg dylunio.

    Ymgeisydd yn gwireddu ac yn ysgrifennu adroddiad ar ddatblygiad y dasg, Mae’r asesiad yn cael ei gyflawni yn gyfan gwbwl o dan oruchwyliaeth yr athro.

  • 27

    T.G.A.U. Hamdden a Thwristiaeth Pam astudio Hamdden a Thwristiaeth?

    Y diwydiant Hamdden a Thwristiaeth yw’r diwydiant mwyaf ar y blaned, ac mae’n un o’r

    diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn y Byd. Mae’r diwydiant yn cyflogi dros 1.5 miliwn o bobl

    yn y Deyrnas Unedig. Mae’n cynhyrchu miliynau o bunnoedd i economi’r

    Deyrnas Unedig. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cymryd rhan yng

    ngweithgareddau hamdden a thwristiaeth e.e. mynd i barc adloniant fel

    ‘Oakwood’ neu ‘Alton Towers’, neu dreulio pythefnos yng nghyrchfan lan y

    môr yn Sbaen.

    Gyrfaoedd a dilyniant i’r cwrs

    Gall y cymhwyster yma fod o gymorth wrth symud ymlaen i astudio

    cymwysterau pellach fel Teithio a Thwristiaeth Lefel U/UG. Mae’r cwrs

    hefyd yn darparu’r sgiliau hanfodol sydd angen ar gyfer gweithio o fewn

    y diwydiant hamdden a thwristiaeth. Dyma rhai o’r swyddi posib o fewn

    y diwydiant hamdden a thwristiaeth: - rheolwr gwesty, gweithio yn y

    diwydiant iechyd a phrydferthwch, swyddi sy’n ymwneud â

    gweithgareddau plant, swyddi o fewn y diwydiant chwaraeon a gweithio

    fel asiant deithio.

    Cyfleoedd

    O ganlyniad i natur a chynnwys y cwrs, mae’r rhan helaeth o’r gwaith ymchwil, gwaith

    dosbarth a’r asesiadau yn cael eu cwblhau ar gyfrifiaduron. Er mwyn datblygu dealltwriaeth

    o unedau penodol, mae yna nifer o ymweliadau lleol hefyd yn rhan o’r cwrs.

    Cynnwys y cwrs ac asesiad

    Mae yna pedair uned o fewn y cwrs T.G.A.U. Hamdden a Thwristiaeth:-

    Graddau Posib:- A* - G

    Uned Asesiad

    Uned 1

    Darpariaeth Hamdden a

    Thwristiaeth mewn ardal

    dewisol

    Asesiad o dan reolaeth (60%) Ymchwiliad o’r cyfleusterau hamdden sy’n cael eu ddefnyddio gan

    pobl yn yr ardal lleol, ynghyd a’r cyfleusterau a’r atyniadau sy’n

    apelio i ymwelwyr.

    Uned 2

    Cyrchfannau Hamdden a

    Thwristiaeth

    Arholiad allanol – 1½ awr (40%) Ymchwiliad i mewn i’r rhesymau pam fod pobl yn teithio i wahanol

    fathau o gyrchfannau twristiaeth o fewn y Deyrnas Unedig, Ewrop

    ac yn fyd - eang.

    Asesiadau T.G.A.U. Hamdden a Thwristiaeth

    Asesiad o dan reolaeth 60%

    Arholiad allanol 40%

  • 28

    PAM DEWIS HANES? Mae’r sgiliau byddwch yn eu datblygu drwy’r cwrs Hanes yn rhai gwerthfawr ar gyfer ystod eang o yrfaoedd a swyddi. Dyma rai o’r sgiliau fyddwch yn eu datblygu:-

    Hanes a gyrfa yn y dyfodol. Y mae hanes yn ddefnyddiol ar gyfer nifer o yrfaoedd gwahanol, gan gynnwys y gyfraith, yr heddlu, athro, hanesydd, newyddiaduraeth, y cyfryngau, arwerthwr, archeolegydd, cynllunydd gwisgoedd, llyfrgellydd, gwaith mewn amgueddfa, gwasanaeth sifil. Y Cwrs: Dyma flas ar unedau TGAU hanes: 1. Yr Almaen 1929 – 1947.(25%)

    A) Esgyniad y Natsïaid a’u dull o atgyfnerthu eu grym, B) Newidiadau ym mywyd yr Almaenwyr, C) Rhyfel a’i effaith ar fywyd yn yr Almaen. 2. De Affrica 1948 – 1994.(25%) A) Sefydlu apartheid a’i nodweddion, B) Gwrthwynebiad i Apartheid, Ch)Diwedd Apartheid. 3. Unol Daleithiau America, 1929 – 2000. (25%) A) Bywyd yn newid yn UDA, B) Newid mewn agwedd tuag at y cwestiwn hiliol yn UDA. 4. Gwaith Cwrs (25%) Mae’r gwaith cwrs yn werth 25% o’r asesiad terfynol, a bydd yn rhaid cyflwyno dau draethawd.

    Datblygu’r sgil o gyflwyno dadl gytbwys.

    Deall a gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol

    Trefnu, trafod a gwerthuso tystiolaeth o wahanol ffynonellau

    Deall llawer o’r hyn sy’n digwydd yn ein byd heddiw trwy ddeall y cyd-destun hanesyddol. Mynegi barn yn hyderus

    gan ddefnyddio tystiolaeth i gefnogi eich barn.

  • 29

    CWRS:

    TGAU mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

    (Sengl a Dwyradd)

    Amcan:

    Paratoi myfyrwyr ar gyfer symud ymlaen i gyflogaeth a hyfforddiant pellach yn y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol

    a blynyddoedd cynnar Cynnwys:

    Sengl Dwbl

    Uned 1: Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant

    Uned 1: Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant

    Uned 2: Datblygiad a thyfiant bodau dynol

    Uned 2: Datblygiad a thyfiant bodau dynol

    Uned 3: Cynnal Iechyd a Lles

    Uned 4: Hybu Iechyd a Lles

    Asesiad Sengl Asesiad Dwbl

    Uned 1: Asesiad o dan reolaeth –60% Uned 1: Asesiad o dan reolaeth –30%

    Uned 2: Papur arholiad - 1¼ - 40% Uned 2: Arholiad - 1¼ - 20%

    Uned 3: Arholiad - 1¼ - 20%

    Uned 4: Asesiad o dan reolaeth –30%

  • 30

    IEITHOEDD TRAMOR MODERN Pam astudio Ffrangeg i TGAU?

    Ffrainc yw’r wlad sy’n derbyn y nifer fwyaf o dwristiaid bob blwyddyn – mae’n croesawu miliwn o dwristiaid yn flynyddol! Siaredir Ffrangeg mewn dros 43 o wledydd ar draws y Byd. A wyddoch mai Ffrangeg yw’r iaith a ddysgir mwyaf ar ôl Saesneg? Mae Ffrangeg yn ogystal yn un o 2 iaith swyddogol y Cenhedloedd Unedig, y Cyngor Ewropeaidd, y Gemau Olympaidd… ac y mae’n brif iaith ym myd technoleg, busnes, cyfathrebu ac ymchwil meddygol. Ym marn rhai, nid oes yna le i Ieithoedd Modern yn ein gwlad ni... Dyma’r sefyllfa yng Nghymru :

    Mae 19% o gwmnïau’n colli busnes oherwydd prinder sgiliau iaith.

    Wyneba 20% o fusnesau anawsterau diwylliannol.

    Wrth fasnachu dramor wyneba 42% o gwmnïau rwystrau ieithyddol oherwydd methiant i gyfathrebu yn iaith y prynwr/gwerthwr

    Y CWRS TGAU FFRANGEG

    Cewch gyfle i ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu ymhellach.

    Astudir themâu byrlymus, hwylus e.e. twristiaeth, y cyfryngau, yr amgylchfyd…

    Byddwn yn defnyddio nifer o ddulliau dysgu, gan gynnwys Technoleg Gwybodaeth, Fideo gynadledda, Gemau Iaith, Chwarae Rôl ac ati.

    Asesu : Gwrando 20% Siarad 30% Darllen 20% Ysgrifennu : Gwaith Cwrs 30%

    Fel y gallaf weithio unrhyw le

    yn y byd

    Mae iaith fodern yn sgil a

    chymhwyster ychwanegol

    http://images.google.co.uk/imgres?imgurl=http://www.appliedlanguage.com/flags_of_the_world/large_flag_of_french_southern_and_antarctic_lands.gif&imgrefurl=http://www.appliedlanguage.com/flags_of_the_world/flag_of_french_southern_and_antarctic_lands.shtml&h=302&w=451&sz=3&tbnid=dAZKPh3ZdzpV2M:&tbnh=85&tbnw=127&prev=/images?q=french+flag&um=1&start=2&sa=X&oi=images&ct=image&cd=2

  • 31

    IEITHOEDD TRAMOR

    MODERN Pam astudio Sbaeneg i TGAU?

    Gyda 500 miliwn o bobl yn siarad yr iaith, Sbaeneg yw’r drydedd iaith y siaredir mwyaf yn y byd. Mae hefyd yn iaith swyddogol mewn pedwar cyfandir. Ym maes cyfathrebu rhyngwladol, Sbaeneg yw’r ail iaith a ddefnyddir mwyaf, ac mae hefyd yn iaith a chyfrwng swyddogol y Cenhedloedd Unedig. Rhaid cofio bod ein byd yn prysur-ddod yn amlieithog ac yn ôl ymchwilwyr iaith, y ddwy iaith allweddol i’r dyfodol yw Arabeg a Sbaeneg. Ac yn olaf, Sbaeneg yw un o’r ieithoedd estron hawsaf i ddysgu. Yn ôl rhai, dysgu a chyfieithu yw’r unig swyddi, ar gyfer y sawl sydd wedi astudio Ieithoedd, ond… Y meysydd lle mae graddedigion Ieithoedd 2010 yn gweithio

    Gwasanaethau busnes Gweithgynhyrchu Manwerthu Iechyd/Cymuned/Gwasanaeth y Gymuned Bancio/Cyllid Cludiant/Cyfathrebu Gweinyddiaeth gyhoeddus Addysg(heblaw am ddysgu) Gwestai/ Llety Meysydd eraill Meddygaeth/ Deintyddiaeth/ Milfeddygaeth Sefydliadau Rhyngwladol

    26.9% 12.7% 11.6% 11.1% 10.4% 9.4% 5.9% 5.3% 3.7% 2.8% 0.5% 0.2%

    Y CWRS TGAU SBAENEG

    Cewch gyfle i ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu ymhellach.

    Astudir themâu byrlymus, llawn hwyl e.e. twristiaeth, y cyfryngau, siopa, yr amgylchfyd…

    Byddwn yn defnyddio nifer o ddulliau dysgu, gan gynnwys Technoleg Gwybodaeth, Fideo gynadledda, Gemau Iaith, Chwarae Rôl ac ati.

    Asesu : Gwrando 20% Siarad 30% Darllen 20% Ysgrifennu = Gwaith Cwrs : 30%

    Fel y gallaf gyfathrebu â thrigolion

    o dramor

    Er mwyn cael y dewis mwyaf eang

    o swyddi

  • 32

    TGCh (Cambridge Nationals)

    Ystyr Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) yw unrhyw dechnoleg a ddefnyddir i

    roi neu ddod o hyd i wybodaeth neu i gyfathrebu. Ymysg yr enghreifftiau amlwg mae

    cyfrifiaduron, y Rhyngrwyd, e-bost, ffonau symudol, a hyd yn oed teledu a radio digidol.

    Mae’r cwrs cyffrous newydd yma (yn cael ei addysgu o fis Medi 2012) yn rhoi

    cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau TGCh a deall mwy am gyfrifiaduron a’i effaith

    ar ein bywydau pob dydd. Mae’n rhoi cyfle i chi:

    ddod yn ddefnyddwyr TGCh annibynnol a deallus, gyda’r gallu i wneud

    penderfyniadau gwybodus o’i defnydd ac i fod yn ymwybod ôl o’r goblygiadau i

    unigolion, sefydliadau a chymdeithas;

    ennill a gweithredu sgiliau creadigol a technegol, a gwybodaeth a dealltwriaeth o

    TGCh mewn ystod o gyd-destunau;

    datblygu atebion yn seiliedig ar TGCh i ddatrys problemau;

    datblygu eich dealltwriaeth o dechnoleg gyfoes a’r rhai sydd yn ymddangos a’r

    effaith cymdeithasol a masnachol;

    datblygu eich dealltwriaeth o faterion cyfreithiol, cymdeithasol, moesegol

    ac amgylcheddol sy’n codi â TGCh;

    adnabod bod potensial o beryglon wrth ddefnyddio TGCh,

    a datblygu arfer diogel a cyfrifol;

    datblygu’r sgiliau i gydweithio;

    gwerthuso systemau wedi ei seilio ar TGCh.

    Asesiad

    1

    Dealltwriaeth

    Systemau TGCh

    25%

    Papur arholiad allanol sy’n asesu eich gwybodaeth am TGCh

    a sut y defnyddir mewn cyd-destun y cartref, yr ysgol neu

    fusnes, gan gynnwys materion cyfreithiol, moesegol a

    diogelwch.

    2

    Defnyddio sgiliau TGCh i

    greu atebion busnes

    25%

    Asesiad ymarferol sy’n cynnwys portffolio o waith i dangos

    eich cyrhaeddiad i ddarganfod a dehongli gwahanol fathau

    o wybodaeth; defnyddio, datblygu a chyfathrebu

    gwybodaeth i gwrdd â phwrpas eich astudiaethau a

    chyflwyno canlyniadau eich gwaith. Byddwch yn defnyddio

    Word, Publisher, taenlen Excel, cronfa data Access a

    meddalwedd e-bost.

    3

    Creu cynnyrch

    rhyngweithiol wrth

    ddefnyddio elfennau amlgyfrwng

    25%

    Asesiad ymarfero lle bydd disgyblion yn gallu datblygu a

    dangos eu sgiliau creadigol dawnus trwy gyfuno elfennau

    amlgyfrwng i greu gwefan bywiog, egnïol neu ysgogol neu

    gynnyrch rhyngweithiol.

    4

    Creu

    delweddau digidol

    25%

    Asesiad ymarferol lle bydd disgyblion yn caffael y

    wybodaeth sylfaenol a sgiliau i'w galluogi i greu, golygu,

    gwella ac arbed gwahanol fathau o ddelweddau digidol.

    Mae’n bosib astudio cwrs craidd TGCh sy’n cynnwys gwaith tebyg i Uned 2

    Gelwir hwn yn gwrs TGCh Sgiliau Hanfodol Cymru.

  • 33

    Coleg Abertawe Rhaglenni 14-16 City and Guilds Trin Gwallt a Harddwch

    Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn? I rai sydd eisiau astudio’r diwydiant trin gwallt a harddwch.

    Nod y cwrs? Ennill gwybodaeth a sgiliau angenrheidiol ar gyfer y rhai sy’n dilyn gyrfaoedd yn y ddau ddiwydiant. Bydd gan bob myfyriwr fentor a fydd yn cynnig cyngor ar lwybrau gyrfa drwy gydol y rhaglen.

    Manylion astudio. Bydd y myfyrwyr yn dysgu egwyddorion sylfaenol technegau Trin Gwallt a Harddwch. Byddant yn gwerthfawrogi’r angen am iechyd a diogelwch staff a chwsmeriaid a hefyd byddant yn datblygu technegau gwasanaeth cwsmeriaid.

    Ble bydda i’n astudio? Lleolir y cwrs ar gampws Tycoch

    Pa gymwysterau a rinweddau sydd eu hangen arna i? Dylech fod yn gyfathrebwr da, meddu ar agwedd bositif a bod yn frwdfrydig iawn. Bydd angen i chi weithio fel aelod o dîm proffesiynol. Mae golwg personol da yn hanfodol.

    Beth yw’r rhagolygon gyrfa? Ar ôl ennill y cymhwyster, byddwch yn gallu symud ymlaen i raglenni lefel 1 neu 2, gallwch arbenigo mewn Trin Gwallt neu Harddwch fel prentis modern neu fyfyriwr llawn amser. Hefyd gallwch ddefnyddio’r sgiliau rydych wedi’u dysgu ar gyrsiau eraill sydd heb fod yn gysylltiedig â’r diwydiant Trin Gwallt a Harddwch. Bydd myfyrwyr llwyddiannus yn cael mynediad awtomatig i gynlluniau prentisiaeth y Coleg. Cyswllt Helen Lewis, Rheolwr 14-16, estyniad 4193 neu e-bost [email protected]

    mailto:[email protected]

  • 34

    Pam astudio Gwasanaethau Cyhoeddus? BTEC Tystysgrif lefel 2.

    Mae'r lefel 2 yn rhoi pwyslais ar waith cwrs a dim arholiadau. Mae'r

    cymhwyster yn galluogi disgyblion i chwilio am waith mewn ardal eang o

    alwedigaethau y sector cyhoeddus, fel Gweinyddiaeth Llywodraeth Leol, y

    Lluoedd Arfog, yr Heddlu, Heddlu Milwrol, y Gwasanaeth Carchardai, y

    Gwasanaeth Tân a Diogelwch.

    Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi'r cyfle i ehangu astudio y myfyrwyr mewn

    meysydd cysylltiedig sector cyhoeddus a'r byd gwaith. Mae'r cwrs yn galluogi

    myfyrwyr i ddatblygu sgiliau, technegau, nodweddion personol ac agweddau,

    sy'n hanfodol yn y sector Gwasanaethau Cyhoeddus.

    Mae'r cwrs yn datblygu menter myfyrwyr ac annibyniaeth a’u hunanreolaeth a

    hunan-arfarnu medrau trwy weithgareddau ymarferol amrywiol. Mae'r

    addysgu yn cael ei wella gan fewnbwn cryf gan y Sector Cyhoeddus ac

    ymweliadau.

    Strwythurau a dulliau o asesu’r cwrs?

    Mae'r myfyrwyr yn astudio un uned graidd ac un uned ddewisol. Caiff y cwrs

    ei asesu trwy asesu parhaus. Ar ddiwedd y cwrs mae’r graddau Llwyddo,

    Teilyngdod a Rhagoriaeth yn cael eu dyfarnu.

    Cynnwys

    Uned 1: Sgiliau Gwasanaeth Cyhoeddus

    Uned 2: Un uned o’r unedau dewisol canlynol:

    Cyflogaeth yn y Gwasanaethau Cyhoeddus lifrai

    Cyflogaeth yn y Gwasanaethau Di-Lifrau Cyhoeddus

    Cynllunio Gyrfa ar gyfer y Gwasanaethau Cyhoeddus.