resources - gwneud i gyfeillgarwch weithio · 2019. 5. 11. · o adnabod emosiynau mewn eraill ac...

27
1 Gwneud i Gyfeillgarwch Weithio Cyfnod Sylfaen - CA3 Gwasanaeth Cynhwysiant Sir Benfro C Bullock Athrawes Ymgynghorol Cyflyrau Sbectrwm Awtistiaeth

Upload: others

Post on 01-Feb-2021

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • 1

    Gwneud i Gyfeillgarwch Weithio

    Cyfnod Sylfaen - CA3 Gwasanaeth Cynhwysiant Sir Benfro

    C Bullock Athrawes Ymgynghorol Cyflyrau Sbectrwm Awtistiaeth

  • 2

    Cynnwys Tudalen

    Cyflwyniad 3

    Gwerthusiad Disgybl 4

    Gwerthusiad Staff 5

    Beth yw Ffrindiau a Pham bod Pobl eu Heisiau? 6

    Ymddygiad Ffrind Da a Ddim Cystal 7

    Taflenni Gwaith, 2 8-9

    Gwneud Ffrindiau Newydd- Cyfarchion a Chyflwyniada 10

    Taflen Waith 11

    Gwneud Ffrindiau Newydd – Cadw’r Sgwrs i Fynd 12

    Enghreifftiau o Sgriptiau / Storïau Cymdeithasol 13

    Gwneud Ffrindiau Newydd – Pan Fydd Pethau’n Mynd o Chwith 14

    Adnabod Hapusrwydd a Thristwch Ynom Ni ein Hunain ac Eraill 15-16

    Taflenni Gwaith, 2 17-18

    Adnabod Dicter Ynom Ni ein Hunain ac Eraill 19

    Samplau o Raddfeydd 2 20-21

    Enghreifftiau o Sgriptiau / Storïau Cymdeithasol 22

    Taflen Waith 23

    Syniadau Arddangos 24

    I Gloi 25

    Dolenni i Rieni a Gweithwyr Proffesiynol 26

  • 3

    Cyflwyniad

    Mae llawer o ddisgyblion sydd ag Awtistiaeth ac anawsterau cyfathrebu yn cael trafferth datblygu

    perthynas. Er mwyn gwneud a chadw ffrindiau, mae angen gallu:

    o Cyfathrebu’n effeithiol

    o Deall rheolau sgwrs: Gwrando, osgoi monolog.

    o Deall ystyr iaith ddi-eiriau (iaith y corff, cyswllt llygaid ac ystumiau).

    o Bod yn ymwybodol o anghenion y person arall

    o Adnabod emosiynau mewn eraill ac ymateb yn briodol

    o Osgoi dweud neu wneud pethau sy’n tramgwyddo’r person arall

    o Rhannu diddordebau

    Yn aml, bydd plant sydd ag awtistiaeth yn cael trafferth â’r uchod i gyd. Gall fod yn anodd felly iddynt

    wneud a chynnal cyfeillgarwch a gall hyn beri pryder iddynt, yn enwedig os ydynt yn ymwybodol eu bod

    yn gwneud camgymeriadau’n gymdeithasol.

    Er mwyn galluogi disgyblion sydd ag awtistiaeth i fod â gwell siawns o wneud ffrindiau, mae’n bwysig

    cefnogi eu dealltwriaeth o emosiynau (beth ydynt, sut mae eu hadnabod ynddynt eu hunain ac mewn

    eraill a sut mae rheoli’r emosiynau hyn). Mae hefyd yn bwysig addysgu sgiliau sgwrsio a gwrando. Mae

    angen i weithwyr proffesiynol gofio hefyd y gall rhai disgyblion ymddangos fel petaent wedi deall sgil neu

    fel petaent yn ymdopi mewn rhai sefyllfaoedd neu leoliadau ond eu bod yn cael trafferth neu fel petaent

    wedi anghofio popeth mewn lleoliad neu sefyllfa arall. Gall fod yn anodd iddynt drosglwyddo sgiliau ac

    felly mae angen atgyfnerthu a chryfhau’r sgiliau a nodwyd uchod drwy addysgu neu ymarfer mewn

    gwahanol safleoedd.

    Mae’r pecyn hwn yn canolbwyntio ar sgiliau cyfeillgarwch a helpu disgyblion i ddeall beth sydd ynghlwm

    wrth wneud a chynnal cyfeillgarwch. Bydd rhai o’r gwersi/gweithgareddau yn gysylltiedig ag emosiynau a

    sgwrsio, ond efallai y bydd angen gwaith ychwanegol ar hyn cyn defnyddio’r pecyn hwn. Gallwch ddewis

    cyflwyno’r sesiynau mewn unrhyw drefn, yn ôl anghenion yr unigolion. Efallai y bydd rhai’n elwa ar

    ddechrau drwy ddysgu beth yw cyfeillgarwch, ac y bydd eraill yn ymdopi’n well os oes ganddynt sail mewn

    adnabod a deall emosiynau yn gyntaf – gallwch bob amser ddychwelyd ac ailadrodd yn nes ymlaen, bydd

    angen cyfnerthu’r sgiliau hyn. Dewiswch pa weithgareddau i’w defnyddio – chi sy’n adnabod eich plant

    orau. Yn yr un modd, dewiswch y modd cyflenwi gorau. Ar adegau, byddaf yn rhoi dewisiadau eraill, ond

    efallai y bydd angen i chi addasu’r dull cyflenwi neu wahaniaethu er mwyn sicrhau bod disgyblion yn deall.

    Gellir newid y deunydd er mwyn ei wneud yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o ddisgyblion Cyfnod Sylfaen -

    CA3.

    Dylai’r taflenni hunanwerthuso a gwerthusiad athro gael eu llenwi ar ddechrau ac ar ddiwedd y sesiynau er

    mwyn olrhain cynnydd ac amlygu unrhyw feysydd lle mae angen gwneud gwaith ychwanegol. Nid yw

    gwerthusiadau disgyblion yn hanfodol ond gallant fod yn ddiddorol oherwydd, ar adegau, gall eu

    canfyddiadau fod yn wahanol iawn i rai’r athrawon!

    Ysgrifennais y pecyn gydag addysgu 1:1 neu waith grŵp mewn golwg. Yn aml, mae angen rhywfaint o

    waith 1:1 dwys, neu, ni all ysgolion ryddhau grwpiau o ddisgyblion ac felly gwaith 1:1 yw’r unig ddewis.

    Gyda rhywfaint o’r gweithgareddau fel chwarae rôl, byddai’n well cael grŵp bach neu bartneriaid.

    Defnyddiaf y term ‘plant’ yn y pecyn, ond ar y cyfan gellir gwneud y gweithgareddau ar sail 1:1 neu gydag

    oedolyn fel partner yn ôl y gofyn.

  • 4

    *Ychwanegwch eich meini prawf gwerthuso eich hun os oes angen, yn y bylchau gwag yn y tabl

    Gwneud i Gyfeillgarwch Weithio - Gwerthusiad Disgybl

    Enw: Dyddiad

    YDW

    DDIM

    YN SIŴR

    NAC YDW

    Rwy’n gwybod beth mae ffrind da yn ei wneud

    Rwy’n gwybod beth na ddylai ffrind da ei wneud

    Rwy’n gwybod gwahanol ffyrdd o ddechrau sgwrs

    Rwy’n gwybod gwahanol ffyrdd o orffen sgwrs

    Rwy’n gwybod sut beth yw sgwrs dda

    Rwy’n gwybod sut beth yw sgwrs wael

    Rwy’n gwybod pan fyddaf yn hapus

    Rwy’n gwybod pan fydd eraill yn hapus drwy beth fyddan nhw’n ei ddweud

    Rwy’n gwybod pan fydd eraill yn hapus drwy beth fyddan nhw’n ei wneud

    Rwy’n gwybod pan fyddaf yn drist

    Rwy’n gwybod pan fydd eraill yn drist o’r hyn fyddan nhw’n ei ddweud

    Rwy’n gwybod pan fydd eraill yn drist o’r hyn fyddan nhw’n ei wneud

    Rwy’n gwybod pan fyddaf yn ddig

    Rwy’n gwybod pan fydd eraill yn ddig o’r hyn fyddan nhw’n ei ddweud

    Rwy’n gwybod pan fydd eraill yn ddig o’r hyn fyddan nhw’n ei wneud

    Rwy’n gwybod beth i’w wneud os fydd rhywun yn drist neu’n ddig

  • 5

    Gwneud i Gyfeillgarwch Weithio - Gwerthusiad Staff

    Enw’r Athro/Cynorthwyydd: Dyddiad Enw’r Disgybl:

    Ydy

    Cyfyngedig

    Nac ydy

    Sylw

    Yn gwybod beth mae ffrind da yn ei wneud

    Yn gwybod beth na ddylai ffrind da ei wneud

    Yn gwybod gwahanol ffyrdd o ddechrau sgwrs

    Yn gwybod gwahanol ffyrdd o orffen sgwrs

    Yn gwybod sut beth yw sgwrs dda

    Yn gwybod sut beth yw sgwrs wael

    Yn gwybod pan fydd yn hapus

    Yn gwybod pan fydd eraill yn hapus o’r hyn fyddan nhw’n ei ddweud

    Yn gwybod pan fydd eraill yn hapus o’r hyn fyddan nhw’n ei wneud

    Yn gwybod pan fydd yn drist

    Yn gwybod pan fydd eraill yn drist o’r hyn fyddan nhw’n ei ddweud

    Yn gwybod pan fydd eraill yn

    drist o’r hyn fyddan nhw’n ei wneud

    Yn gwybod pan fydd yn ddig

    Yn gwybod pan fydd eraill yn ddig o’r hyn fyddan nhw’n ei ddweud

    Yn gwybod pan fydd eraill yn ddig o’r hyn fyddan nhw’n ei wneud

    Yn gwybod beth i’w wneud os fydd rhywun yn drist neu’n ddig

    *Ychwanegwch eich meini prawf gwerthuso eich hun os oes angen, yn y bylchau gwag yn y tabl

  • 6

    Beth yw ffrindiau a pham bod pobl eu heisiau?

    • Nod: Helpu’r disgyblion i ddeall beth yw cyfeillgarwch a beth sydd ynghlwm wrtho.

    • Nod: Helpu’r disgyblion i ddeall pwysigrwydd cyfeillgarwch a pham bod pobl yn hoffi cael ffrindiau.

    Er bod llawer o ddisgyblion sydd ag awtistiaeth eisiau cyfeillgarwch, mae’n well gan rai eu cwmni eu hunain ac nid oes arnynt eisiau cyfeillgarwch neu ni allant ymdopi ag ef a phopeth a ddaw yn ei sgil. Mae’n bwysig eu sicrhau bod hynny’n iawn, ac mai eu dewis hwy ydyw.

    o Eglurwch i’r plant eich bod yn mynd i gael gwybod ychydig bach rhagor am gyfeillgarwch.

    Gofynnwch iddynt beth yw ystyr ‘cyfeillgarwch’ iddyn nhw. Trafodwch syniadau am beth yw ffrind a chreu map meddwl gan ddefnyddio’u geiriau nhw. Mae ffrind:

    ➢ Yn rhannu diddordebau/hobïau tebyg ➢ Yn gwrando ar beth yr ydych yn ei ddweud ➢ Yn mwynhau treulio amser gyda chi a chithau gydag ef neu hi

    ➢ Yn gallu eich helpu, yn cael hwyl gyda chi, yn chwarae gemau gyda chi ➢ Yn gallu gwneud gweithgareddau gyda chi/eich gwahodd i’w dŷ i chwarae ➢ Yn gwneud ichi chwerthin neu wenu

    o Holwch y disgyblion a oes ganddynt ffrind, ac os felly pwy, a nodi un eitem o’r rhestr neu’r map meddwl sy’n golygu eu bod yn ffrindiau. Efallai y bydd yn anodd i rai disgyblion feddwl am rywun. Os felly, gallech ofyn beth yn eu barn nhw yw’r pwynt gorau ar y rhestr / gwe neu ofyn iddynt ddisgrifio eu mam, tad, chwaer neu frawd, anifail anwes. Gan ddefnyddio eich gwybodaeth am y plentyn, cefnogwch y plentyn a’i arwain i ateb. Y peth pwysig yw ei annog i ystyried beth sy’n gwneud cyfaill da a beth sydd ynghlwm wrth hynny.

    o Dangoswch y clip You tube https://www.youtube.com/watch?v=wZHmsVRshwU Mae cyfres o glipiau teledu ‘notebook babies’ i blant awtistig sy’n cyfleu negeseuon am gyfeillgarwch a sgiliau cymdeithasol yn syml.

    o Gweithgaredd ychwanegol neu amgen. Anogwch y disgyblion i ysgrifennu neu gwblhau

    gweithgaredd dull cyfannu: Rydw i’n ffrindiau gyda ……….. Rydym yn ffrindiau oherwydd ......................................................................................................................... Rwy’n ffrind da oherwydd…………. Mae ef/hi yn ffrind da oherwydd………..

    https://www.youtube.com/watch?v=wZHmsVRshwU

  • 7

    Ymddygiad Ffrind Da a Llai Da

    • Nod: Helpu’r disgyblion i adnabod ymddygiad ffrind da

    • Nod: Helpu’r disgyblion i adnabod ymddygiad anghyfeillgar

    Efallai y bydd rhai plant sydd ag awtistiaeth yn cael trafferth deall sut gall eu hymddygiad effeithio ar eraill. Os bydd disgybl yn methu deall pam mae rhai ymddygiadau’n gallu achosi gofid i eraill, efallai bydd angen ychydig o waith ar emosiynau a theimladau.

    Gallai gêm gynhesu sy’n dangos cardiau neu glipiau cylchgrawn o fynegiannau wyneb fod yn ffordd ddefnyddiol o addysgu ychydig am emosiynau/teimladau. Dangoswch y cardiau a gofynnwch i’r disgyblion gopïo’r wynebau a thrafod beth allai’r teimlad fod.

    o Siaradwch â’r disgyblion am bwysigrwydd cyfeillgarwch er mwyn gweld a allant gofio

    rhai o’r pethau y mae ffrindiau’n eu gwneud gyda’i gilydd a pham ei bod yn dda cael ffrindiau.

    o Rhowch gopi o’r daflen Ymddygiad Ffrind Da/Nid fel hyn mae Ffrindiau’n Ymddwyn a

    chyfres o’r lluniau i bob disgybl. Gellid torri’r rhain allan gyda’r geiriau neu hebddynt, gan ddibynnu ar allu’r plentyn. Yn yr un modd, efallai y byddwch yn dewis defnyddio dim ond rhai o’r rhai a ddarparwyd neu’r cwbl. Mae mwy ar gael yn: http://www.sclera.be/en/picto/ ar gyfer ymddygiadau penodol.

    (Gallech lamineiddio rhai o’r rhain a rhoi Velcro neu Blutac arnynt er mwyn eu defnyddio at wahanol ddibenion ac i arbed amser/adnoddau)

    o Dewiswch enghraifft o ymddygiad da a ddim cystal a phenderfynwch, gyda chyfraniad y

    plant, ymhle i osod y cardiau/glynu’r symbolau. Wedyn, gan ddibynnu ar allu, rhowch gyfle iddynt weithio drwyddynt yn annibynnol a thrafod wedyn neu weithio drwy’r cardiau fesul un gyda’r grŵp, gan drafod i ble ddylent fynd a pham.

    o Os bydd disgybl yn dewis gosod symbol yn y lle anghywir, gofynnwch iddo egluro pam. Os nad yw’n gallu ddeall pam nad yw dweud ‘dos o’ma’, er enghraifft, yn iawn, efallai bydd angen trafod hyn rhywfaint. Gallai chwarae rôl helpu, modelu ymddygiad cywir, awgrymu dulliau amgen. Sut allem wneud hyn yn well?

    *Gallai ffotograffau yn lle symbolau fod yn fwy addas ar gyfer plant hŷn. Mae amryw o gwefannau sy’n darparu’r rhain neu gallai’r ysgol wneud ei rhai ei hun os y gall y disgyblion eu hactio’n ddiogel!

    http://www.sclera.be/en/picto/

  • 8

    Fel hyn mae ffrind DA yn ymddwyn

    NID fel hyn mae ffrindiau’n ymddwyn

  • 9

    pinsio gofalu am eraill dweud ‘dos o’ma’ helpu rhywun

    rhannu crafu siarad helpu gyda gwaith

    bwrw maddau dweud helo a hwyl fawr gweiddi

    cicio chwerthin gorfod bod yn gyntaf bob tro galw enwau ar bobl

    gwrando’n dda peidio â gadael i eraill chwarae taflu pethau cydio’n rhy dynn

  • 10

    Sut mae Gwneud Ffrindiau – Cyfarchion a Chyflwyniadau

    • Nod: Helpu disgyblion i ddatblygu sgiliau ymuno â chyfoedion

    • Nod: Archwilio gwahanol ffyrdd o gyfarch ffrindiau

    • Nod: Helpu disgyblion i ddeall sut y gallant wneud ffrindiau newydd

    Mae cyfnerthu’n hollbwysig ar gyfer y sgil hwn. Efallai bydd angen sgriptiau neu nodiadau atgoffa ar rai disgyblion i ddechrau. Bydd angen iddynt ‘roi cynnig’ ar eu cyfarchion a’u cyflwyniadau ar wahanol bobl, ar wahanol adegau ac mewn gwahanol leoedd er mwyn sicrhau trosglwyddo’r sgil. Bydd angen hefyd iddynt wybod beth i’w wneud os bydd pethau’n mynd o chwith. Gweler y sesiwn ddiweddarach.

    o Siaradwch â’r disgyblion am gyfarchion. Eglurwch eu bod yn bwysig oherwydd

    dyna sut y byddwn yn dweud wrth bobl eraill ein bod yn siarad â nhw. Maent hefyd yn bwysig am eu bod yn ffordd dda o ddechrau sgwrs a sgwrsio yw’r ffordd y byddwn yn siarad â ffrindiau ac yn rhannu diddordebau ac ati.

    o Cwblhewch fap meddwl o wahanol gyfarchion ar y bwrdd gwyn, gofynnwch i’r plant gyfrannu: Helo, Bore Da, Haia, Shwmae (enw)...

    o Drwy ddefnyddio’r cyfarchion hyn, eglurwch y bydd y person arall yn gwybod ein bod am siarad â nhw. Mae cael sgwrs a siarad â rhywun yn golygu siarad a gwrando ar y person arall. Meddyliwch am ffyrdd eraill o ddechrau sgwrs. Ar ôl i chi ddweud y cyfarchiad, am beth arall yr hoffech chi siarad? Efallai bydd angen i chi roi syniad cychwynol iddynt:

    - Gofynnwch gwestiwn iddynt: Sut wyt ti? Beth wnest di yn y wers Gelf? Beth wnest ti dros y penwythnos? Beth wyt ti’n ei wneud ar ôl yr ysgol?

    - Siaradwch am ddiddordeb cyffredin: Pwy yw dy hoff gymeriad? Pa gêm sy’n well gen ti?

    - Rhowch gompliment iddynt: Rwy’n hoffi dy fag, esgidiau, gwallt, bocs bwyd...

    o Gall y disgyblion nodi rhai syniadau am bynciau/dechrau sgwrs ar y daflen ganlynol.

    Os yw’n briodol, gallent chwarae rôl am hyn gydag un arall neu gydag oedolyn yn arwain ac yn modelu.

  • 11

  • 12

    Gwneud Ffrindiau Newydd – Cadw’r sgwrs i fynd

    Nod: Helpu’r disgyblion i ddeall natur ddwyffordd sgwrs Nod: Helpu’r disgyblion i ddeall sut mae cadw sgwrs i fynd Nod: Helpu’r disgyblion i ddod â sgwrs i ben yn briodol

    Efallai bydd y disgyblion angen help i gynnal sgwrs. Maent wedi dysgu sut mae dechrau sgwrs, ond ni ellir cymryd yn ganiataol y byddant yn gallu cadw sgwrs ddwyffordd i fynd. Bydd angen iddynt ddysgu sut mae gofyn cwestiynau, ond nid gormod, a gwrando ac ymateb yn briodol.

    o Gofynnwch i’r plant gyfarch ei gilydd, gan ddefnyddio gwahanol gyfarchiadau hyd nes y

    byddant yn methu meddwl am ragor. Wedyn, holwch a allant ailadrodd hyn, gan ddilyn y cyfarchiad â chwestiwn priodol neu ddechreuwr sgwrs.

    o Modelwch ddechrau sgwrs gydag oedolyn arall. - Helo Mrs X - Helo Mr S - Rwy’n hoffi dy esgidiau, ydyn nhw’n newydd?’

    -‘Ydyn’

    Gofynnwch i’r plant beth ddylai/allai ddigwydd nesaf? Mae angen i ni gadw’r sgwrs i fynd, sef mae’n rhaid i ni siarad ychydig, ond nid GORMOD, am ein hunain, gofyn ac ateb cwestiynau. Bwysicaf oll, mae angen i ni wrando’n ofalus er mwyn i ni wneud sylwadau perthnasol, peidio â siarad ar draws y person arall ac ateb yn gywir os y gofynnir cwestiwn i ni. Os gall y plant feddwl am syniadau ‘beth nesaf’, parhewch y gweithgaredd chwarae rôl gan gynnwys eu syniadau nhw. A weithion nhw? Os na, pam felly? Beth allai ei gwneud yn well sgwrs?

    Gofynnwch i’r plant wylio’n ofalus a modelwch sgwrs fer yn dangos sgiliau sgwrsio gwael: edrych i ffwrdd/ dylyfu gên yn arwydd o beidio â gwrando, siarad ar draws y person arall, rheoli’r sgwrs â monolog a/neu anwybyddu cwestiwn. Gofynnwch i’r plant ddangos beth oedd o’i le. Gallech wneud hyn eto, gan ofyn iddynt eich stopio pan fyddwch yn gwneud rhywbeth o’i le a dweud wrthych neu ddangos i chi sut mae gwneud yn iawn. Gallai mwy o iaith ac iaith gorfforol effaith uchel fod yn ddefnyddiol i ddisgyblion llai galluog/ieuengach.

    o Ewch drwy’r sgwrs eto – gan fodelu fersiwn dda! Ar y diwedd, dywedwch hwyl fawr a

    chwifiwch. Gofynnwch i’r disgyblion a sylwon nhw sut ddaeth y sgwrs i ben. Ailadroddwch os oes angen.

    o Gofynnwch i’r disgyblion awgrymu cynifer o ffyrdd eraill o ddweud hwyl fawr ag y gallant. o Gweler y sgript/stori ar y dudalen ganlynol. Gellid defnyddio hon gyda rhai plant i gefnogi eu

    rhyngweithio cymdeithasol. Gellir ei newid er mwyn ei gwneud yn addas ar gyfer anghenion unigol. Efallai bydd angen addasu’r iaith ychydig neu gellid ychwanegu lluniau neu symbolau.

    Ymarferwch sgiliau ymuno, cyfarch a ffarwelio wrth i gyfleoedd godi.

  • 13

    1. Cyfarch

    Pan fyddaf yn gweld fy ffrindiau yn yr ysgol, gallaf ddweud helo a gallaf chwifio. Gallaf

    ddweud helo ac yna enw’r person.

    Weithiau mae’n anodd dweud helo ond byddaf yn ceisio edrych ar wyneb fy ffrind a chwifio

    neu ddweud helo.

    Y rhan fwyaf o’r amser, bydd fy ffrindiau’n dweud helo neu’n chwifio arnaf pan fyddan

    nhw’n fy ngweld i.

    Gallaf geisio dweud helo a chwifio’n ôl pan fydd hyn yn digwydd.

    Mae pawb yn dweud helo wrth ffrindiau pan fyddan nhw’n eu gweld nhw.

    2. Pan fydd ymgais at ryngweithio’n methu

    Pan fyddaf yn gweld fy ffrindiau, gallaf siarad â nhw.

    Gallaf ddweud ‘sut wyt ti’ neu ofyn a allaf i chwarae gyda nhw.

    Gallaf wrando wedyn ar eu hateb.

    Weithiau bydd fy ffrindiau’n siarad mwy ac eisiau chwarae.

    Gallaf fwynhau siarad a chwarae.

    Weithiau efallai na fydd ffrindiau’n siarad â mi neu efallai byddan nhw’n dweud ‘dos o’ma’,

    a gallaf fi ddweud ‘iawn’ a cherdded i ffwrdd.

    Weithiau efallai na fydd fy ffrindiau eisiau siarad neu chwarae.

    Mae hyn yn iawn.

    Gallaf ddweud wrth fy athro neu gynorthwyydd a gallan nhw fy helpu i ddeall.

  • 14

    Gwneud ffrindiau newydd – Pan fydd pethau’n mynd o chwith

    Nod: Cyfnerthu’r ddealltwriaeth am ymddygiad priodol ac amhriodol mewn cyfeillgarwch Nod: Helpu disgyblion i ymdopi pan na fydd eu hymgeisiau at gyfeillgarwch yn llwyddiannus

    Gall sefyllfaoedd lle mae disgyblion yn methu a gweld arwyddion cymdeithasol neu’n camddeall sefyllfa beri i’w cyfoedion wrthod eu hymdrech i ryngweithio a bod yn gyfeillgar. Gall hyn wneud i’r disgybl deimlo’n ddryslyd, yn chwithig, yn ofidus ac efallai’n ynysig.

    Cynhesu: Casglwch ychydig o luniau o ymddygiadau/sefyllfaoedd ffrind da a ddim cystal. Gallent fod yn ffotograffau di-enw o sefyllfaoedd “byw” neu defnyddiwch ffotograffau am ddim neu glipiau celf sydd ar gael ar y we. Cofiwch wneud yn siwr bod y weithred yn y llun yn hawdd ei dehongli. Dyma rai syniadau ar gyfer sefyllfaoedd: • Rhywun yn cael anrheg • Rhywun yn sefyll ar droed rhywun arall • Tŵr a grëwyd o flociau tegan yn cael ei gicio drosodd • Rhywun yn cael ei anwybyddu gan eraill Anogwch y disgyblion i adnabod beth aeth o’i le cyn gweld a allant enwi’r emosiwn neu ddisgrifio gydag un neu ragor o eiriau sut y gallai’r sawl yn y llun fod yn teimlo a sut y gallai ymdopi â’r sefyllfa. Beth allech chi ei wneud petai hyn yn digwydd i chi? Beth fyddem yn ei ddweud wrtho am wneud petai hyn yn digwydd eto? Sut y byddem ni’n ymateb? Defnyddiwch hwn yn gyfle i annog eich grŵp neu unigolyn i feddwl a siarad.

    o Eglurwch, hyd yn oed pan fyddwn yn ymddwyn fel ffrind da, y gallwn yn dal wneud

    camgymeriadau neu efallai na fydd rhywun am siarad â ni na bod yn ffrind i ni. Mae hynny’n iawn.

    o Gofynnwch i’r disgyblion beth allent ei wneud pe byddent yn ceisio dechrau sgwrs neu gêm a bod y person arall yn eu hanwybyddu neu’n dweud wrthynt am fynd oddi yna. Cofnodwch y syniadau. Dywedwch wrthynt y gall weithiau fod yn ddefnyddiol dweud wrth oedolyn ac y bydd yr oedolyn o bosib yn gallu eu helpu i ddeall beth aeth o’i le.

    o Rhowch nifer (gan ddibynnu ar nifer y disgyblion) o sefyllfaoedd ar ddarnau o bapur, mewn jar, ac annog y disgyblion i ddewis un ar y tro. Dyma rai enghreifftiau, ‘Rydych yn ceisio siarad â disgybl, ond mae’n cerdded i ffwrdd’, ‘Rydych yn gofyn i rywun am gael ymuno yn ei gêm ond mae’n dweud ‘dos o’ma’, ‘Rydych yn cael sgwrs ac mae’r person arall yn mynd yn grac yn sydyn’.

    Anogwch drafodaeth, beth allent ei wneud, sut y byddent yn ymdopi â hyn. - Weithiau gallent ofyn i’r person arall pam? /am eglurhad, weithiau trafod y sefyllfa gydag

    oedolyn, weithiau dweud ‘iawn’ a cherdded i ffwrdd, - Efallai y bydd angen i chi esbonio beth i BEIDIO â’i wneud, h.y. dilyn y person arall, parhau i

    holi ac ati. Eglurwch y gallai hyn wneud y person arall yn fwy crac. Efallai mai eu bod wedi blino/angen ychydig o amser tawel.

    o Gall sgriptiau fod yn ddefnyddiol i rai disgyblion, yn enwedig y rhai hynny sy’n gwneud camgymeriadau o hyd wrth rhyngweithio’n gymdeithasol. Er enghraifft, y disgybl sy’n dyfal barhau er iddo gael ei wrthod neu sy’n rheoli gemau neu sgyrsiau’n ormodol. Gweler y dudalen flaenorol am enghraifft. Gellir ysgrifennu’r sgript fel drama i gefnogi anghenion plentyn unigol a’i hymarfer neu ei defnyddio i chwarae rôl yn debyg iawn i ddrama.

  • 15

    Adnabod Hapusrwydd a Thristwch Ynom Ni ein Hunain ac Eraill Nod: Adnabod yr emosiynau hapus a thrist ynddynt hwy eu hunain ac eraill drwy fynegiant yr wyneb ac iaith y corff. Nod: Deall beth i’w wneud pan fyddan nhw neu eraill yn teimlo fel hyn. Bydd hyn yn cymryd dwy sesiwn.

    Cynhesu – Cymerwch ddetholiad o fynegiannau wyneb o gylchgronau neu’r we. Cofiwch gynnwys rhai

    doniol, rhai wedi’u gorwneud. Gwnewch gardiau ohonynt neu dangoswch nhw ar fwrdd gwyn.

    Gofynnwch i’r plant ddewis (neu ddangos ar y sgrin) un ar y tro. Gofynnwch i’r plant feddwl am syniadau

    difyr am yr emosiwn: h.y. Gallai wyneb yn gwgu fod oherwydd ei fod wedi camu mewn baw gwartheg

    (Ble oedd ? Pam oedd e yno? Beth allai wneud nesaf?), gallai’r wyneb cyffrous fod oherwydd ei bod

    wedi ennill gwobr (Pa wobr? Beth fydd hi’n ei wneud â’r wobr?). Anogwch y disgyblion i siarad a rhannu.

    Mae gweithgaredd hwn yn dda ar gyfer gwaith grŵp a meithrin hunan-barch wrth iddynt rannu jôcs a

    chydweithio i ddatblygu’r ‘stori’ o gwmpas y cardiau.

    o Chwiliwch am glip o raglen deledu, cartŵn neu fideo Youtube sy’n dangos y cymeriadau’n

    hapus a thrist. Mae rhai o’r cartwnau’n arddangos yr emosiynau hyn drwy’r cartŵn cyfan!

    Efallai bydd plant hŷn yn gallu uniaethu mwy â rhaglenni neu gyfresi teledu plant fel Tracey

    Beaker. Gwyliwch y clip i gyd unwaith ac, wrth ei ailddangos, holwch a allant sylwi ar

    gymeriadau hapus a thrist. Sut maen nhw’n gwybod? Wynebau, geiriau, iaith y corff.

    o Rhowch ddau ddarn o bapur i’r disgyblion a gofyn iddynt dynnu llun o wyneb/person hapus

    ar y naill ac wyneb/person trist ar y llall – a’u lliwio yn eu dewis o liwiau. Gofynnwch i’r

    disgyblion edrych ar yr wyneb hapus. Gofynnwch iddynt sut maent yn teimlo pan fyddant

    yn hapus? Pa eiriau sy’n ei ddisgrifio? Sut olwg sydd ar eu hwyneb? Beth mae eu corff yn

    ei wneud (sgipio, neidio, tapio, siglo, bwrw pethau drosodd). Sut mae eu corff yn teimlo

    (ysgafn, cyffrous). Gofynnwch i’r disgyblion nodi eu disgrifiadau hwy a disgrifiadau pobl

    eraill. Gall y rhain fod yn rhyfedd a rhyfeddol, gyhyd â’u bod yn ystyrlon i’r disgyblion.

    Ailadroddwch ar gyfer yr wyneb trist.

    o Os oes amser, gallai’r disgyblion edrych drwy gatalogau a chylchgronau i ganfod lluniau o wynebau hapus a thrist. Gallent lynu’r rhain ar eu taflenni hapus a thrist.

    o Gan edrych ar y ffotograffau ar y dudalen ganlynol... Gofynnwch i’r disgyblion edrych arnynt

    (un ar y tro). A ydy’r person sydd yn y ffotograff yn hapus neu’n drist? Sut ydyn ni wybod?

    o Siaradwch am sut y byddwn yn gwybod a ydy rhywun arall yn hapus. Edrychwch ar daflenni

    hapus o’r sesiwn ddiwethaf (uchod). Sut byddai eraill yn gwybod ein bod yn hapus? Os ydym ni ac eraill yn hapus, mae popeth yn iawn.

    o Sut ydyn ni’n cydnabod ein bod yn drist? Dechreuwch drwy roi enghraifft – ‘Pan fyddaf yn

    drist, bydd fy nhalcen yn gwgu fel hyn neu fy ngheg yn troi am i lawr fel hyn’ (dangoswch

    iddynt) .Gofynnwch iddynt ddweud wrthych ddwy neu dair ffordd y byddant yn gwybod eu

    bod yn drist. Efallai y bydd angen eu hannog – sut mae’ch bol yn teimlo, sut olwg sydd ar

    eich wyneb. Defnyddiwch ddrychau i dynnu wynebau hapus a thrist.

    o Ysgrifennwch y tair ffordd y byddant yn gwybod eu bod yn teimlo’n drist. Gellir

    defnyddio’r rhain fel cardiau i ddangos/rhoi gwybod i eraill.

  • 16

    o Mae angen i ni sylweddoli pan fydd eraill yn drist. Gallwn ddysgu chwilio am gliwiau, fel

    ditectif. Edrychwch ar iaith eu corff (trafodwch, modelwch a nodwch), eu hwynebau

    (trafodwch, modelwch a nodwch), eu geiriau (beth maen nhw’n ei ddweud a sut maen nhw’n

    ei ddweud (edrychwch, modelwch, nodwch)

    o Gallai’r disgyblion ddefnyddio’r daflen nesaf i nodi eu cliwiau er mwyn adnabod tristwch

    mewn eraill

    o Beth i’w wneud pan fydd pobl yn drist. Soniwch sut y gallwn fod yn ffrindiau

    cymwynasgar ac, os gwelwn rywun trist yr olwg, siaradwch am yr hyn y gallwn ei wneud - gwnewch fap meddwl:

    - Gofynnwch iddynt a ydyn nhw’n iawn?

    - Dywedwch wrth athro neu gynorthwyydd os ydyn nhw’n dweud nad ydyn nhw’n iawn.

    - Dywedwch wrth athro neu gynorthwyydd os ydyn ni’n credu eu bod yn drist ond eu bod yn gwrthod siarad.

    - Ceisiwch godi eu calon

    - Gofyn a ydyn nhw eisiau chwarae ayb.

    o Pan fyddwn yn drist, sut ydyn ni’n gwybod hynny? Ailadroddwch. Anogwch y disgyblion i feddwl

    am dri pheth y gallent ei wneud i godi’u calon os ydynt yn drist yn yr ysgol a thri pheth i godi’u

    calon os ydynt yn drist gartref. Gellir ysgrifennu hyn ar gardiau, eu haddurno / lamineiddio a’u

    cadw i’w hatgoffa. Gallent edrych fel hyn:

    Os ydw i’n drist yn yr ysgol gallaf siarad â fy

    athrawes/athro neu (person

    arall sydd wedi’i enwi).

    Gallaf helpu fy hun i deimlo’n hapus eto drwy:

    • Chwarae fy hoff gêm

    • Edrych ar fy llyfr/cardiau/lluniau (diddordeb

    arbennig/hobi)

    • Gofyn i fy athrawes a gaf fi wrando ar fy ngherddoriaeth

  • 17

  • 18

    Pan fydd pobl yn drist gall eu hwynebau edrych fel hyn (tynnwch lun a’i labelu neu ysgrifennwch):

    Pan fydd pobl yn drist, gall eu corff edrych fel hyn (tynnwch lun a’i labelu neu ysgrifennwch):

    Pan fydd pobl yn drist, gall eu llais swnio fel:

    Gwaith Ditectif: Adnabod Tristwch

  • 19

    Adnabod Dicter Ynom Ni ein Hunain ac Eraill

    Nod: Adnabod pan fydd eraill yn ddig Nod: Gwybod beth i’w wneud pan fydd eraill yn ddig

    Nod: Adnabod pan fyddan nhw’n ddig

    Nod: Gwybod sut i reoli eu dicter

    Unwaith eto, dwy neu ragor o sesiynau, gan ddibynnu ar y disgyblion.

    Cynhesu: ‘Dilys yn Dweud’ – ar gyfer mynegiant wyneb ac iaith y corff. ‘Mae Dilys yn dweud, dangoswch wyneb dig neu dangoswch â’ch corff eich bod yn ddig’. Eglurwch a modelwch i ddechrau.

    Mae rhai disgyblion yn cael trafferth adnabod pan fyddant yn dechrau teimlo’n ddig. Gallant fod yn ddigyffro ac yn methu ag adnabod yr arwyddion ynddynt eu hunain eu bod yn dechrau teimlo’n ddig na sylwi ar sbardunau. Mae angen i ni geisio’u helpu i adnabod y sbardunau hyn ac arwyddion dicter yn ogystal â’u cefnogi i ganfod ffyrdd o dawelu eu hunain.

    Ni fydd rhai disgyblion yn gallu adnabod dicter mewn eraill. Efallai y bydd angen dysgu iddynt yr arwyddion i edrych amdanynt sy’n awgrymu bod person arall yn ddig ac efallai y bydd angen eu helpu i ddysgu sut mae ymateb... neu beidio!

    o Gofynnwch i’r disgyblion dynnu wynebau dig. Edrychwch yn y dig. Copïwch eich gilydd.

    Trafodwch sut olwg sydd ar ddicter.

    o Fel yn y sesiwn flaenorol, gall dangos clip YouTube neu gartŵn, neu glip teledu fod yn ffordd

    dda, weledol o ddechrau. Dangoswch glip sy’n dangos sbardun a ffrwydrad o ddicter. Gwyliwch y clip a’i drafod: Beth wnaeth y person yn grac? Sut ydyn ni’n gwybod eu bod yn grac? Beth allen nhw fod wedi’i wneud yn wahanol?

    (Bydd y math o glip a chwestiynau a ofynnir yn dibynnu ar oedran a gallu) o Gofynnwch i’r disgyblion gwblhau’r raddfa sydd ar y dudalen ganlynol neu cwblhewch hi gyda

    nhw. Efallai y bydd hyn yn cymryd ychydig o amser a thrafod, ac efallai y byddai’n ddoeth ei wneud fel ymarfer unigol yn hytrach na grŵp. Rwyf wedi llenwi’r rhain, ond dilëwch ac ychwanegwch wybodaeth sy’n BERTHNASOL I’R PLENTYN UNIGOL. Dylid defnyddio’u hiaith, eu disgrifiadau a’u mewnbwn hwy ble bynnag y bo modd.

    Gallwch ddewis pa fath o ffurflen i’w defnyddio, yn dibynnu ar oedran/gallu. Efallai y gall disgyblion mwy galluog fynegi sut y maent yn teimlo yn y tri chyfnod. Efallai y bydd rhai’n adnabod mwy na thri chyfnod a gallwch ychwanegu llinell! Efallai y bydd angen i chi arwain neu ymgynghori â rhieni ynglŷn â strategaethau tawelu neu efallai bydd y disgybl ei hun yn gwybod. Dylai’r ail ffurflen symlach hefyd ddefnyddio iaith y disgybl i ddisgrifio cyflyrau emosiynol ond gall y daflen hon gael ei defnyddio gan y disgybl i gyfathrebu â’r athro drwy amlygu os nad yw’n gallu cyfathrebu oherwydd trallod. Efallai bydd angen y ddwy ar rai disgyblion. Addaswch nhw ar gyfer anghenion unigol.

    o Gweler y stori gymdeithasol isod. Gallai rhai plant elwa. o Erbyn hyn mae’r disgyblion yn deall sut y maent hwy a’r grŵp yn ‘edrych’ pan fyddant yn ddig

    ac maent yn gwybod am rai strategaethau i’w helpu eu hunain Mae bellach angen iddynt ddysgu sut mae adnabod dicter mewn eraill. Gan ddefnyddio’r llun ar y daflen ymhellach ymlaen, gofynnwch i’r disgyblion nodi beth sy’n gwneud i’r ferch edrych yn ddig? Sut y gallwn ni wybod? Mynegiant yr wyneb? Sut lais fyddai ganddi?

    o Gofynnwch i’r disgyblion sut olwg fyddai ar iaith gorfforol ddig a thrafodwch: dwylo ar gluniau, troi i ffwrdd, dyrnau caeedig, wyneb coch/gên wedi’i chlensio. Gofynnwch i’r disgyblion geisio dynnu llun ei gilydd yn y blwch ar y daflen (neu gall yr athro/cynorthwyydd addysgu fodelu!)

    o Os y credwn fod rhywun yn grac, beth ddylem ni ei wneud? Gwnewch restr neu fap meddwl o’r

    hyn a ddywed y disgyblion.

    – Dweud wrth athro, cerdded i ffwrdd, rhoi’r gorau i wneud neu ddweud beth rydych yn ei ddweud, gwrando os yw’n siarad, cynnig cymorth ond gadael os bydd yn gwrthod, mynd i ffwrdd neu rywbeth tebyg. Mae chwarae rôl yn ddelfrydol yma wrth i’r disgyblion ymarfer gweld person ‘dig’ ac ymateb. Rhowch gynnig ar hyn ychydig o weithiau yn y grŵp.

  • 20

    Sut rydw i’n teimlo Beth allaf ei wneud

    PoethDig Yn grac y tu mewn Ysgwyddau’n uchel Dannedd wedi’u clensio

    o Dweud bod angen i mi fynd o Os na allaf ddefnyddio fy ngeiriau,

    mynd oddi yno o Cerdded i Ffwrdd o Mynd i fy lle tawel o Defnyddio fy ngherdyn amser tawel

    o Cyfrif fy anadlau

    Dechrau poethi

    Goglais yn y frest

    Bola tynn Anadlu’n fyrrach

    o Gofyn i’r athro a gaf fi fynd am dro

    o Cyfrif fy anadlau dwfn o Dweud wrth fy athro os oes

    rhywbeth yn fy ngwneud i’n grac

    o Dweud wrth fy athro fy mod angen

    amser tawel

    o Gwisgo fy nghlustffonau am 5 munud

    o Defnyddio fy nhegan i dynnu sylw a

    thawelu fy hun

    Llonydd Hapus

    Mae popeth yn iawn

    o Mwynhau teimlo’n hapus

  • 21

    Rydw i’n teimlo’n grac iawn Rydw i angen help i dawelu

    Mae rhywbeth yn fy mhoeni a dydw i ddim yn teimlo’n dda

    Rydw i’n dawel a hapus Mae popeth yn iawn

    Sut rydw i’n teimlo

  • 22

    Esiamplau o Straeon Cymdeithasol

    Dylid addasu’r rhain ar gyfer yr unigolyn. Defnyddiwch luniau neu symbolau a

    symleiddiwch y strori os oes angen hynny er mwyn dealltwriaeth a phrosesu.

    Gwnewch y stori’n bersonol gyda dewis y disgyblion eu hunain o strategaethau

    tawelu, pobl i siarad â hwy ac ati.

    Weithiau rwy’n teimlo’n ddig.

    Mae’n iawn teimlo’n ddig.

    Mae pawb yn teimlo’n ddig weithiau.

    Gallaf gofio i beidio â brifo eraill, peidio â brifo fy hun, a pheidio â thorri pethau.

    Weithiau, mae fy wyneb yn troi’n goch, fy nwylo’n cau, a rydw i eisiau sgrechian.

    Mae angen i mi feddwl am ffyrdd diogel o gael gwared ar fy nheimladau dig.

    Gallaf ddweud wrth rywun fy mod i’n teimlo’n ddig.

    Gallaf anadlu’n ddwfn.

    Gallaf wasgu rhywbeth meddal fel pêl neu obennydd.

    Gallaf stampio fy nhraed.

    --------------------------------------------------------------------------------------------------------------- Weithiau rwy’n teimlo’n ddig.

    Mae’n iawn teimlo’n ddig.

    Mae pawb yn teimlo’n ddig weithiau.

    Rwy’n gwybod fy mod i’n ddig pan

    Pan fyddaf yn teimlo’n ddig, gallaf (anadlu’n ddwfn 4 gwaith)

    Pan fyddaf wedi (anadlu’n ddwfn) gallaf fynd i siarad â’m hathro neu fy mam

    neu dad a dweud fy mod i’n teimlo’n ddig.

    Gallaf ddweud wrthynt ‘Rwy’n ddig’.

    Byddaf yn trio defnyddio fy llais tawel wrth siarad â’m hathro neu fy mam neu dad.

    Byddaf yn ceisio dweud wrthynt beth wnaeth i mi deimlo’n ddig.

    Bydd fy athro, mam neu dad yn ceisio fy helpu i ddeall y broblem a’m gwnaeth i’n ddig.

    Wedyn byddaf yn teimlo’n hapus a llonydd.

  • 23

  • 24

    Syniadau Arddangos ar gyfer yr Ystafell Ddosbarth

    Gwnewch goed cyfeillgarwch neu waliau cyfeillgarwch. Gall y disgyblion ysgrifennu ar ddail neu friciau beth sy’n gwneud ffrind da. Gallai disgyblion ieuengach lynu printiau llaw a ffotograffau ar y goeden/wal hefyd. Gellid hefyd arddangos lluniau, mapiau meddwl a straeon cymdeithasol.

    Syniad arall yw arddangos ‘Rysáit cyfeillgarwch da’ a gallai hyn ddangos powlen fawr a rhestr o gynhwysion. Gallai gwahanol becynnau a photeli gael gwahanol ‘gynhwysion’ ffrind da arnynt, a chael eu harddangos o gwmpas y bowlen.

  • 25

    I Gloi...

    Cofiwch gwblhau’r gwerthusiadau eto er mwyn gweld meysydd sydd wedi

    gwella, ac o faint. Efallai y bydd y gwerthusiadau’n dangos cynnydd mewn rhai

    mannau ond nid eraill ac mae hyn yn arwydd bod angen mwy o waith yn y maes

    hwnnw. Gellir ailadrodd, newid a threialu sesiynau mewn gwahanol leoliadau er

    mwyn sicrhau cyfnerthu’r dysgu.

  • 26

    Dolenni i Ysgolion

    http://www.tonyattwood.com.au/index.php?option=com_content&view=article&id=75:understand

    ing-and-teaching-friendship-skills&Itemid=181

    /https://carolgraysocialstories.com/social-stories/

    http://www.autism.org.uk/about/strategies/social-stories-comic-strips.aspx

    http://www.5pointscale.com/stuff_kari.htm

    Dolenni i Rieni

    http://www.autism.org.uk/about/communication/social-skills/young-children.aspx

    http://www.autismeducationtrust.org.uk/good-practice/written%20for%20you/parents-

    and-cares/pc%20personal%20and%20social%20development.aspx

    https://www.understood.org/en/friends-feelings/common-challenges/making-keeping-

    friends/at-a-glance-4-skills-for-making-friends

    http://www.autism-help.org/communication-autism-making-friends.htm

    http://www.tonyattwood.com.au/index.php?option=com_content&view=article&id=75%3Aunderstanding-and-teaching-friendship-skills&Itemid=181http://www.tonyattwood.com.au/index.php?option=com_content&view=article&id=75%3Aunderstanding-and-teaching-friendship-skills&Itemid=181https://carolgraysocialstories.com/social-stories/http://www.autism.org.uk/about/strategies/social-stories-comic-strips.aspxhttp://www.5pointscale.com/stuff_kari.htmhttp://www.autism.org.uk/about/communication/social-skills/young-children.aspxhttp://www.autismeducationtrust.org.uk/good-practice/written%20for%20you/parents-and-cares/pc%20personal%20and%20social%20development.aspxhttp://www.autismeducationtrust.org.uk/good-practice/written%20for%20you/parents-and-cares/pc%20personal%20and%20social%20development.aspxhttps://www.understood.org/en/friends-feelings/common-challenges/making-keeping-friends/at-a-glance-4-skills-for-making-friendshttps://www.understood.org/en/friends-feelings/common-challenges/making-keeping-friends/at-a-glance-4-skills-for-making-friendshttp://www.autism-help.org/communication-autism-making-friends.htm

  • 27

    Gwasanaeth Cynhwysiant Sir BenfroC Bullock Athrawes Ymgynghorol Cyflyrau Sbectrwm AwtistiaethCyflwyniadBeth yw ffrindiau a pham bod pobl eu heisiau?o Siaradwch â’r disgyblion am gyfarchion. Eglurwch eu bod yn bwysig oherwydd dyna sut y byddwn yn dweud wrth bobl eraill ein bod yn siarad â nhw. Maent hefyd yn bwysig am eu bod yn ffordd dda o ddechrau sgwrs a sgwrsio yw’r ffordd y byddwn yn siarad â...1. Cyfarch

    Pan fydd pobl yn drist gall eu hwynebau edrych fel hyn (tynnwch lun a’i labelu neu ysgrifennwch):