y selar - tachwedd 2004

16
BAND NEWYDD, GWYNEBAU CYFARWYDD! SIBRYDION SIBRYDION YDY’CH HOFF ALBYM CHI O 2004 YN CYRRAEDD DEG UCHAF Y SELAR ? TU MEWN YR ANHREFN . MATTOIDZ . FRIZBEE . GOGZ . WINABEGO A LLAWER MWY ! RHIFYN 1TACHWEDD 2004 AM DDIM!

Upload: y-selar

Post on 06-Apr-2016

254 views

Category:

Documents


10 download

DESCRIPTION

Y rhifyn cyntaf erioed o'r Selar sy'n cynnwys Sibrydion, Mattoidz, Frizbee, Gogz Winabego a llawer iawn mwy

TRANSCRIPT

Page 1: Y Selar - Tachwedd 2004

BAND NEWYDD,GWYNEBAUCYFARWYDD!

SIBRYDIONSIBRYDION

YDY’CH HOFF ALBYMCHI O 2004 YN

CYRRAEDD DEGUCHAF Y SELAR ?

TU MEWN YR ANHREFN . MATTOIDZ . FRIZBEE . GOGZ . WINABEGOA LLAWER MWY !

RHIFYN 1TACHWEDD 2004

AMDDIM!

Page 2: Y Selar - Tachwedd 2004

4

Page 3: Y Selar - Tachwedd 2004

SWN MAWRY SIBRYDION810 ALBWM

20044GOLYGYDDOL

11H

elo, a chroeso i’r Selar,

cylchgrawn newydd sbon

am gerddoriaeth Gymraeg. Ein

bwriad ni yma yn Y Selar yw

darparu cylchgrawn hynod

ddiddorol, o’r safon uchaf

posib, i lenwi’ch pennau gwag

chi gyda pob math o straeon,

newyddion, adolygiadau a

chyfweliadau am unrhyw un

neu beth sy’n gysylltiedig â

cherddoriaeth Gymraeg,

Tu mewn i gloriau godidog y

rhifyn yma fe gewch chi

gyfweliad gyda’r Sibrydion,

band y byddwch chi’n sicr o

glywed mwy amdanynt yn y

flwyddyn newydd. Cewch

hefyd weld os ydy eich hoff

albwm chi o 2004 yn cyrraedd

10 uchaf Y Selar, ac os ydych

chi wedi bod mewn gig ym mis

Hydref a methu cofio diawl o

ddim, mae’n debygol iawn y

bydd un o sbeis Y Selar wedi

bod yno hefyd, yn aros yn

eiddgar gyda’i beiro’s i

werthuso’r cyfan a’ch hatgoffa.

Rydyn ni’n chwilio am fwy o

gyfranwyr, felly os oes gennych

ddiddordeb mewn cyfrannu i’r

Selar mewn unrhyw ffordd,

cysylltwch a ni, mae’r manylion

i gyd ar waelod y dudalen hon.

Mwynhewch weddill y

cylchgrawn, mae’n rhaid i fi

fynd nawr, mae’r gwaith yn

dechrau’n barod ar rhifyn mis

Ionawr....wel...fyddai nol o

Barbados ddiwedd Rhagfyr ok ?!

Saff !

WELAI CHI FLWYDDYN NESA !Y GOLYGYDD

Cynhyrchwyd gan gwmni RASAL Cyf, ariannwyd gan grant gan y Cyngor Llyfrau Cenedlaethol.

GOLYGYDDOwain Morgan-Jones

IS-OLYGYDDLlinos Wyn

CYFRANWYROwain Llyr, Lynsey Anne,

Hefin Jones, Non Tryfil,

Trystan Pritchard, Geraint,

Shon Williams, Rhys Wynne,

Alun Chivers,

Y SELAR 3

MATTOIDZ

YR ANHREFN

WINABEGO

GOGZ

TEXAS RADIO BAND

LLYFU TIN

... YN Y SELAR

GIGS!OS DIO’N GACHU DIO DDIM YMA! CYFWELIAD ECSGLIWSIF

^

Y SELAR YN GLUSTIAU I GYD

FFOTOGRAFYDD: OWAIN LLYR

OS AM ANFON DEMO, LLYTHR, NEU UNRHYW BETH ARALL, Y CYFEIRIAD YW :

Y Selar, Llawr Un, Canolfan Sain, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd LL54 5TG

NEU E-BOSTIWCH [email protected]

NEU EWCH I’N GWEFAN WWW.YSELAR.COM

LLUN CLAWR: SIBRYDION

^

Page 4: Y Selar - Tachwedd 2004

7

8

9

10

2004DYDW I DDIM YNCREDU FODANGENPWYSLEISIO PAMORLLWYDDIANNUSA CHYFFROUSYDI HI YN Y SINROC GYMRAEGAR HYN O BRYD.RHYDDHAWYDRYW 35 ORECORDIAUELENI GYDAMWY AR YGORWEL, I’WGYMHARU GYDALLAI NA 10ALBWM LLYNEDD.MAE’R SIN YNDIPYN MWY IACHA CHYSTADLEUOLERBYN HYN ADYNA PAMROEDD HI’NSYNIADYSGRIFENNU AMDDEG O’RALBYMS (NIDBOCS SETS!)GORAU SYDDWEDI EURHYDDHAUELENI. PLESEROEDD CAEL YTRAFFERTH IDDEWIS Y 10UCHAF GAN FODCYMAINT OALBYMSSAFONOL WEDI’URHYDDHAU.

BLW

YDDY

NO

SWN!

4 Y SELAR

10 ALBYMGORAU

HIRNOS - FRIZBEE

RECODIAU CÔSH

Albwm gyntaf y band newydd yma yw ‘Hirnos’.

Heb os, ‘Big Leaves’ yw dylanwad pennaf y band

yma ac yn anffodus mae ambell drac gan Frizbee yn

rhy debyg i ganeuon fel ‘Meillionen’. Ond, er hynny,

rydw i'n dal i fwynhau ‘Hirnos’. Mae’n albwm syml

a melodig iawn. Un o fy ffefrynnau yw ‘Da ni Nol’,

a chredaf y gall y gân yma fod mor boblogaidd a ‘Ty

ar y mynydd’ gan ‘Maharishi’.

Mae’n amlwg fod yna frwdfydedd a thalent yma,

a hyderaf y bydd erbyn eu halbym nesaf bydd gan

Frizbee ei steil pendant eu hunain.,

MIWSIG I'CH TRAED A MIWSIG I'CH MEDDWL

- LO CUT A SLEIFAR

BOOBYTRAP

Dyma ni, hanes yn cael ei greu unwaith eto ar

ffurff hip hop Cymraeg i herio grwpiau eraill. Mae

Steffan Cravos yn ffigwr amlwg sydd, ar hyd y

blynyddoedd, wedi herio'r system mewn modd

deallus drwy ei rapio, ond mae Curig Huws yn

newydd i berfformio fel rapiwr a dyma sy'n

gwneud y prosiect yma mor ddiddordol.

Un peth wnaeth i mi wenu oedd cychwyn

direidus yr albwm. Mae'n bleser gweld fod comedi

wedi dychwelyd i'r sîn a hynny law yn llaw â’r

pynciau dwys sydd hefyd yn cael eu trafod ar yr

albwm. Mae’n amlwg fod Cravos yn parhau i

herio'r system yn ‘Sefyll fel un’ tra bod Curig yn

delio a phynciau mwy arwynebol fel ‘Ffwcio Dy

Ffrind’. Dydw i ddim yn dweud mai dyma fy hoff

albwm hip hop ond credaf ei fod yn CD pwysig

sy'n angerddol a didwyll gyda digonedd o

agwedd.

GIGS, CHIPS, A ‘TRIP’ MEWN TACSI

MAES B / TACSI

Crewyd yr albwm aml-gyfrannog yma gan Maes-

B a chylchgrawn Tacsi yn Eisteddfod Casnewydd.

Mae’r albwm yn amserol iawn ac yn swnio fel

cyfanwaith yn hytrach na chasgliad gan fod nifer

o bytiau gan ‘Y Lladron’ sy’n glynu’r holl beth at

ei gilydd mewn modd direidus a chlyfar. Mae’r

grwpiau sydd wedi’u dewis i ymddangos ar yr

albwm ar binacl y sîn; a phawb yma yn haeddu

eu lle. Mae’r casgliad yn cynnwys traciau

cynfyngedig gan ‘Jakokoyak’, ‘Poppies’, ‘Mwsog’,

‘Ashokan’ a ‘Y Lladron’.

BLAEN TROEDAR -

MC SAZIMUNDO

RECODIAU DOCKRAD

Dyn digon rhyfedd yw Deian ap Rhisiart neu ‘MC

Saizmundo’, mae ganddo syniadau dwys ac

angerddol am yr iaith a materion sy'n effeithio'r

ddynol ryw. Un peth sy'n sicr yw bod yna dalent

tu cefn i'r geiriau pwrpasol sy'n cael eu rapio dros

gerddoriaeth ffafriol, ddychanol mewn mannau.

Mae'r albwm yn gampwaith yn ei ffordd fach ei

hun, ac yn tynnu hip hop Cymraeg i gyfeiriad

gwahanol. Ein herio ni yw nod yr albwm. Mae

Saizmundo wedi syrffedu ar fywyd cliché Cymreig

ac ar waith sâl S4C yn y Siberia Cymraeg; mae

Saizmundo eisiau "disgyn i fewn i goma" wrth

wylio'r "Sioe Gelf a Croma", ac yn barnu George

Bush yn ‘Pwy s'isio bod yn fawr?’

Rydw i’n amau eich bod chi naill ai yn hoff iawn

o Saizmundo neu yn ei gasau, ond parch sydd

gen i tuag ato am fod yn ddigon hyderus i godi ei

lais a herio.

6

5

^

Page 5: Y Selar - Tachwedd 2004

8

Y SELAR 5

� LYNSEY ANNE

Baccta Crackin' Texas Radio BandRecordiau Slacyr

1

Heb os nac oni bai, Baccta Crackin' yw

fy hoff albwm i eleni. Dyma'r albwm

sydd wrth ymyl y stereo ac sy'n cael ei

chwarae yn amlach nag unrhyw CD

arall yn fy nghasgliad. Mae Baccta'

Crackin' yn amrywiol ac yn drifftio o

ganeuon pop i ganu gwlad amgen a

chaneuon y blues. Mae hyn i gyd yn

cymysgu’n berffaith gyda seicadelia

Gorky’s-aidd, geiriau od a s[n

unigryw y Texas Radio Band. Un o fy

hoff ganeuon yw “Push & Shove”

(newyddion diweddaraf ar dudalen11)

Mae’r gytgan fachog yn byggar am

lynnu yn eich meddwl – ond dwi’n

gaeth i’r dôn a methu stopio gwrando

arni. Mae’r albwm yn cynnwys yr hen

ffefrynnau ‘Fideo Hud’ a ‘Love is

Informal’, ynghyd â chaneuon dwys a

hudol fel ‘Father's Only Son’ a ‘Kilos’.

Yr albwm yma sy'n haeddu'r wobr

am albwm y flwyddyn mewn unrhyw

seremoni wobrwyo cerddoriaeth

Gymraeg.

6

5

HENO - RYLAND TEIFI

KISSIAN

Un o'r cryno ddisgiau sydd heb dderbyn digon o

glod yw ‘Heno’ gan Ryland Teifi. Dyma dalent

sy’n symud o un steil cerddorol i steil arall yn

ddidrafferth. Mae'r gerddoriaeth yn arbennig, mae

yma rywbeth at ddant pawb a 'dwi wrth fy modd

yn clywed mandolins!

Mae'r geiriau’n bwrpasol ac yn creu delweddau

sy'n cydfynd a'r gân yn berffaith. Mae cyfnod

Ryland allan yn Iwerddon yn dylanwadu’n amlwg

ar ei gerddoriaeth.

I mi, mae'r CD yn amrywiaeth prydferth iawn

ac mae'n bleser gwrando arni. Mae

uchafbwyntiau'r CD yn cynnwys ‘Si Hei’ a ‘Stori

ni’ - mae'r ddwy yn tynnu ar eich hemosiynau ac

yn ddigon i ddod â deigryn neu ddau i lygaid

unrhyw soffdi fel fi!

KENTUCKY AFC - KENTUCKY AFC

BOOBYTRAP

Roedd album Kentucky AFC yn un hir-

ddisgwyliedig gan mai dyma'r grwp sydd wedi

bod ar binacl y sîn ers iddyn nhw ennill 5 gwobr

yng Ngwobrau Roc a Phop Radio Cymru llynedd.

Ar ôl cyfres o gigs cofiadwy a llwyddiant amlwg

yn y sîn, roeddwn i’n ‘fodlon’ iawn o weld yr

albwm yn cyrraedd y siopau. Un peth sy’n sicr

yw bod sain ac awyrgylch byw y band wedi ei

drosglwyddo’n wych i’r albwm. Albwm amrwd

ydyw, heb ormod o 'bolish' - onid dyma yw

Kentucky AFC?

Mae'r traciau amrywiol yn cynnwys yr holl

ffefrynnau fel ‘1’1, ‘Outlaw’ a hefyd fersiwn byw

o'r gân a ddenodd sylw i'r band yn y lle cyntaf,

‘Bodlon’.

4

3

UN TRO YN Y GORLLEWIN - PEP LE PEW

RECORDIAU SLACYR

Dyma ail albwm yr hip hopwyr o Borthmadog.

Mae’n fwy amrywiol, o well ansawdd a thipyn

fwy safonol na’r albwm gyntaf. Mae dylanwad

canu gwlad amgen a ffilmiau’r cowbois yn amlwg

ar glawr ac ar arddull y CD. Mae’r albwm yma yn

gyfanwaith clodwiw yn hytrach na chasgliad o

ganeuon.

Mae ffefrynnau sydd wedi cael eu perfformio yn set

Pep le Pew ers peth amser yn ymddangos ar y CD

gan gynnwys ‘Smocio’r Bush’, ‘Mwngrals’ a ‘Y

Werin Bobl’. Mae yma rywbeth at ddant pawb, o

hip hop i pync i roc a riffs gitâr tebyg i ‘The

Darkness’. Mae’n wir dweud nad fi yw’r ffan hip

hop mwyaf o bell ffordd ond nid hip hop yn unig

sydd ar fwydlen Pep le Pew, mae gan y band lawer

iawn mwy i’w gynnig.

TRAFFIG - GWILYM MORUS

Yn cael ei gymharu i lais Nick Drake, mae Gwilym

Morus( Drymbago) wedi derbyn clod mawr am ei

berfformiadau unigol. Prosiect unigol yw’r

rhyddhad 7 trac yma sy’n cynnwys ambell i

glasur fel ‘Ym Mhont-y-Pridd’. Mae Gwilym yn

ysgrifennu tipyn o farddoniaeth ac mae hyn yn

amlwg yn ei ffordd gelfydd, sensitif o drîn geiriau.

Mae Gwilym yn rhan annatod o ddatblygiad ochr

acwstig/gwerinol/gwlad y sîn ar hyn o bryd

ynghyd ag artistiaid eraill fel Alun Tan Lan.

Mae'n biti nad yw'r CD mor gyfarwydd â hynny i'r

gynulleidfa ehangach gan nad ydyw wedi’i

ryddhau yn swyddogol. Cawn ddisgwyl ymlaen

felly at glywed ei albwm newydd (dan yr un teitl)

fydd yn cael ei rhyddhau yn y flwyddyn newydd. 2

ADERYN PAPUR - ALUN TAN LAN

RASAL

Un o’r artistiaid sydd wedi denu cryn dipyn o

sylw eleni yw Alun Tan Lan. Daeth yr artist yma

fel bollt i'r sîn roc Gymraeg gan lwyddo, mewn

amser byr, i greu dilyniant ac ennyn parch i'w

gerddoriaeth ddwys, werinol ei naws. Ei albwm

gyntaf yw ‘Aderyn Papur’ ac mae’n CD syml ac

effeithiol, Mae'r ffaith fod cyn aelod y ‘Cyrff’ a

‘Catatonia’, Mark Roberts, wedi cytuno i

gyfrannu at yr albwm - ynghyd a’i chyd-

gynhyrchu gyda’r cynhyrchydd o fri Toni

Schiavone - yn glod mawr i Alun. Mae'r albwm

yn cynnwys fersiwn ei hun o glasur Y Cyrff,

‘Pethau Achlysurol’. Mae'r synau’n llifo i’w gilydd

ac mae hon yn albwm fydda’ i’n dal i wrando arni

mewn blynyddoedd i ddod.

Page 6: Y Selar - Tachwedd 2004

P’nawn sul eithriadol o braf yn haf ’98. Eistedd

ar lawnt yn Nolgellau yn dioddef o gur pen

beiblaidd ar ôl penwythnos o’r Sesiwn Fawr.

Holi pwy oedd y band ar y llwyfan ymysg y

mwydro, oherwydd fod y gân yma yn dda iawn.

Mae’r nesa’n wych hefyd, a’r nesa. Tiwns hollol

fachog, unionsyth, pur, hefo gitârs tynn ond budur

tu ôl i lais cwbl eithriadol esmwyth. Rhain oedd y

caneuon oddi ar yr ep’s ‘Ethel’, ‘Lux’ ac ‘Ystafell

Goch’ ar ben perlau coll bellach fel ‘Y Mighty John

Holmes’ ac ‘Evil Kneivel’, a hyd heddiw does yr un

band wedi rhoi gymaint o slap swnllyd o bleser llwyr

annisgwyl ar fy ngwep gwybodus a phrofiadol. Ac

mae’n eithaf gorffwyll fod y band yma’n mynd ers

blynyddoedd a finnau’n eu hanwybyddu.

Yn syml, does na neb sy’n naddu tiwns mor

fachog a Nar (wel, oce, bosib bod gan Texas Radio

Band rywbeth i’w ddweud am hynny erbyn heddiw

ond anghofiwn amdanyn’ nhw am y tro). Mae pob

cân yn felodi hynod gofiadwy. A Nar, ynghyd â’r

diafol wrth gwrs, sy’n dal y tiwns gorau.

Does dim enghraifft well na ‘Lux’. Mae’r sengl o

’96 i’w weld yn mynd am tua £40 ar e-bay bob hyn

a hyn. Yn meddu ar riff gogoneddus, i safonau Nar

hyd yn oed, mae’n berwi o b[er ac ing a jysd yn

rocio i’r eithaf. Daeth Lux rhwng y caset (yndi, mor

bell yn ôl a hynna) ‘Ystafell Goch’

a’r cd ‘Ethel’, ill dau hefyd yn

weithiau rhagorol. Mae’r grwp

bellach yn dechrau denu’r

dilyniant haeddianol yn dilyn

albwm ’02

‘Dewch i Ddawnsio gyda Nwshgi, Shnwgli a Dr

Raulbic’, ( sy’n cynnwys y clasuron byw

‘Gofodgarwyr’ a ‘Meddyg Beryg’ ) sydd heb os yn

cynyddu yn sgîl lawnsio ‘Narmagedon’.

Mae’u halbwm ddiweddaraf ‘Narmagedon’yn

llwyddo i gyfleu’n well na’r un arall eu s[n byw

eithriadol. Mae’r cyfuniad o gitars blaen Gwern a

Dylan yn gefndir p[erus a chynhyrfus i lais llyfn

bendigedig Hefin, gyda thraciau fel ‘Reu’, ‘Rocio’n

Hun i Gysgu’, ‘Curlew Tew’ yn fy marn bach

amherthnasol i yn naddu clasur o albwm.

LLYFU TINBOB RHIFYN BYDD Y SELAR YN RHOI CYFLE I SIWPYR FFANDDWEUD WRTH Y WLAD BETH SYDD MOR UFFERNOL O DDA AMEI HOFF FAND. YN Y RHIFYN HWN HEFIN JONES SY’N GWTHIO’IDAFOD RHWNG BOCHAU TIN AELODAU NAR :

SLOT

SEBO

NI

TIWNS HOLLOL FACHOG, UNIONSYTH,PUR, HEFO GITARS TYNN OND BUDUR TUÔL I LAIS CWBL EITHRIADOL ESMWYTH

6 Y SELAR

Ers nos Wener, Hydref 1af mae cyfres newydd o gigs yn cael eu cynnal yn

Nhafarn y C[ps, Aberyswyth. Mae nosweithiau ‘naws’ yn cael eu trefnu gan

Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar nos Wener cyntaf pob mis. Owain

Schiavone sy’n trefnu ‘naws’, a’r rheswm dros sefydlu’r noson ?

“Dwi wedi ei gweld yn biti nad oes gigs Cymraeg yn cael eu trefnu yn Aber

yn gyson. Gyda ‘naws’ rydym yn gobeithio cynnal gigs o safon uchel a rhoi

rhywbeth i ddilynwyr cerddoriaeth yr ardal edrych ymlaen amdano pob mis”

Mi fydd y ‘naws’ nesaf ar y 3ydd o Rhagfyr, gyda Radio Luxemburg, Kenavo a

Frizbee, fydd yn lawnsio eu e.p. newydd ‘Lennonogiaeth’ hefyd.

Gallwch hefyd ddarllen am ‘naws’ yn y ffansîn sy’n cael ei gynhyrchu i gyd-

fynd a’r noson, sydd hefyd ar gael ar y wê.

AM FWY O WYBODAETH AM NAWS, NEU’R FFANSÎN EWCH I WWW.CYMDEITHAS.COM

3 HOFF GAN –

1. LUX2. GOFODGARWYR3. ROCIO’N HUN I GYSGU

TEIMLO ‘NAWS’ NOSON NEWYDD

CLAWR GORAU’R FLWYDDYN DIM DOWT

LLUN

GAN

JOHN

GRIF

FITH

S

GYDA’CH GILYDD NAWR :

”MAE’N HWYL I FOD YN Y

Y.M.C.A.!”

18 awr ar ôl sgwennu’r frawddeg ola’ dw i’n gweld Nar yn

chwarae yn Noson ‘Naws’ yn y C[ps Aberystwyth. Mae’r

ffaith yma yn fy ngwneud i’n llawen. A galwch fi’n Guto

os na fydd pawb arall yn y Cwps yn llawen hefyd. HJ

Page 7: Y Selar - Tachwedd 2004

YR ANHREFNMAE’R BASDADSBLIN YN ÔL ...

Mae nhw wedi bod yna.

Mae nhw wedi prynu’r

crys-T, ei wisgo fe

unwaith, sychu’u tine gyda fe

cyn ei rhoi i rhyw roadie tew ei

wisgo am weddill y daith.

Nawr, ddeng mlynedd ar ôl

iddynt chwalu, mae’r gr[p

pync arloesol Yr Anhrefn yn

mynd i dynnu’r gitars, y

siacedi lledr, a’r vests o’r

cwpwrdd dan stâr a dechrau

chwarae unwaith eto. Mae’r

triawd a ddaeth yn enwog

drwy Brydain ag Ewrop nôl yn

yr wythdegau a’r nawdegau

cynnar wedi bod yn ymarfer yn

rheolaidd, ac yn ôl Rhys Mwyn

“y plan ydi dechre recordio yn

y flwyddyn newydd, a

gobeithio neud taith theatrau

tua Hydref 2005, gan gynnwys

stwff newydd yn ogystal â

stwff off Hen Wlad fy Mamau,

ag ambell i cover version Meic

Stevens neu Jarman.”

Ond wrth i hen fandiau

ddod yn ôl ag ail afael ynddi,

mae’n rhaid gofyn a oes

unrhyw beth ganddynt ar ôl

i’w gynnig. Beth allwn ni

ddisgwyl gan Anhrefn 2004

felly?

Rhys: “Rhaid bod yn onest i

lle wyt ti heddiw, yn ein hoed

ni, 40’au, dydy Angry Young

Men ddim yn mynd i weithio.

Ond dwi’n teimlo os yw’r

caneuon yn y back catalogueyn ddigon da, yna mae modd

ail wampio. Fyddwn ni’n mynd

am feel mwy acoustic,

unplugged yn hytrach na pync

roc.”

Gyda sôn hefyd am lyfr

‘Hanes yr Anhrefn’ a Cd o’u

goreuon, gig Coffa John Peel

yn ogystal â’r daith theatrau

mae’n edrych yn debygol y

bydd yr aeliau enwocaf ym

myd cerddoriaeth Cymru,

ynghyd ag ambell i wyneb

arall cyfarwydd yn ôl cyn hir,

mor belled a bod popeth yn

cwympo i’w le yn drefnus i’r

Anhrefn.

LLUN

GAN

JOHN

GRIF

FITH

S

“ y plan ydi dechre recordio

yn y flwyddyn newydd”

BAND O’R 80AU CYN IDDYN

NHW DDYFEISIO LLUNIAU LLIW

yn

’r

Page 8: Y Selar - Tachwedd 2004

CYFW

ELIA

D

8 Y SELAR

SIBRYDIONSWN MAWR

GEIRIAU A LLUNIAU: OWAIN LLYR^

^

Page 9: Y Selar - Tachwedd 2004

“DWI’N CLYWED SIBRYDION, ANAWR MA’N DOD YN GLIR …”

Dyma’r geiriau cyntaf ar sesiwn gyntaf band

newydd Cymraeg; Sibrydion. Ma’ nhw ‘di

chwarae dwy gig, ac ar wahan i’r sesiwn C2, a

sesiwn fyw ar Bandit, dyw'r band heb ryddhau

unrhyw beth eto.

O fâs mochaidd y gân ‘Dafad Ddu,’ i ‘Mynd

Drwy’r To,’ cân piano drist a thywyll, a swagro

lolfaol ‘Rhedeg i Ffwrdd,’ sy’n disgyn i drobwll o

harmoniau a gitar flaen hudolus, mae’r band

yma’n swnio’n brofiadol, yn aeddfed, yn gwybod

yn iawn be’ ma’ nhw’n ei wneud.

Dyw hyn ddim yn syndod pan sylweddolwch chi

bod dau o’r grwp yn gyn-aelodau o Big Leaves.

Cyfeiriaf at Meilir ac Osian Gwynedd.

“AI HYN YW RHEOLAETH?AI HYN YW FFYDD?”

Fel yw’r arfer gyda chyfweliadau roc, rwy’n

cyfarfod Mei ac Osh ychydig ddyddiau cyn

‘deadline’ Y Selar, Rwy’n weddol ffyddiog bod y

grwp yn hapus i wneud cyfweliad, ond er

gwaetha’ negeseuon ffôn a text, yr unig ymateb

‘dwi ‘di ei gael mor belled yw text wrth Dan

‘Fflos’ Lawrence, gitarydd amryddawn Sibrydion;

“Gret. Ond well i ti siarad da Mei ac Osh – nhw

sy’n trefnu pethe.”

Rwy’ wedi cyrraedd y pwynt o ystyried hongian o

gwmpas tai yr aelodau, ond yn anffodus, neu

efallai yn ffodus, ‘sdim syniad ‘da fi ble ma’

nhw’n byw. Yna daw’r eiliad dyngedfennol pan

ma’ Mei yn ateb y ffôn, ac yn cytuno i gyfarfod

am gyfweliad ychydig ddyddiau yn hwyrach.

Felly, pan ‘dwi’n cerdded i mewn i Westy’r Clive,

yng Nghaerdydd, ma’ ‘na ychydig eiliadau o

bryder pan ‘dwi’n sylweddoli bod dim sôn am

Meilir nac Osian Gwynedd. Mae’r Sibrydion yn

dal i fod yn ysbrydion, yn cuddio yn y cysgodion.

( Co fe off ‘to ! - gol )

Mae’r pryder yn parhau am rhyw funud tan i mi

gael gafael ar Mei, a darganfod bod y ddau ‘di cael

eu galw bant i symud offeryn. Fel sy’n digwydd,

yn amlwg, i gerddorion prysur. Awr yn

ddiweddarach mae Meilir ac Osian wedi cyrraedd,

ac mae’r tri ohonom yn ystafell gefn bar y

gwesty, wedi encilio rhag y pêl- droed a’r cwis

tafarn sy’n cystadlu am lefelau s[n yn yr ystafell

flaen.

“O’N I’N MEDDWL BOD FY MHENWEDI FFRWYDRO.”

Reit, gwers hanes gyflym. Bu Osian a Meilir

Gwynedd yn un hanner o’r ddau fand mwyaf

erioed i ddod o Waunfawr, ger Gaernarfon, gyda

Rhodri Siôn a Kevin Tame, y ddau aelod arall o

Beganifs a Big Leaves, Ond fel ma’ popeth da yn

ei wneud, daeth cyfnod y Big Leaves i ben.

Osh: “Oeddan ni ‘di ‘neud cymaint ag oeddan

ni’n gallu ‘neud rili ... ‘di bod yn byw yn pocedi’n

gilydd am rhyw chwe mlynedd erbyn diwedd.

Oedd o’n waith caled, yn waith oeddan ni’n

fwynhau ar y pryd, ond, ma bob dim da yn

gorfod dod i ben rhywbryd ... Yn sbio ‘nôl 'da ni’n

reit falch rili am be naethon ni.”

Y SELAR 9

“DERE A STORI I FI AM Y SIBRYDION” DYNA’R BRIFF GAFODD OWAIN LLYR

DRI MIS CYN I’R RHIFYN CYNTAF O Y SELAR FYND I’R WASG. BYTHEFNOS

YN ÔL GLANIODD Y STORI AR DDESG Y GOLYGYDD. DIAWL O STORI DDA,

OND BÔLS! STORI AM YSBRYDION OEDD HI. DYMA’R AIL GYNNIG :

^ ^

Page 10: Y Selar - Tachwedd 2004

Wedi chwalfa Big Leaves, cychwynodd Meilir ac Osian gr[p arall,

gyda Kevin Tame, o’r enw Third Light, tra bod Rhodri Siôn yn

canolbwyntio ar actio. Rhyddhawyd sengl ar ddiwedd 2003,ac

yna aeth pethau’n dawel. Mae Kev Tame yn brysur y dyddiau yma

yn helpu rhedeg bwyty/ oriel y Capsule yng Nghaerdydd.

Felly dyma Mei ac Osh yn cychwyn gr[p newydd, Sibrydion.

Cafwyd ymateb da i’r gig Eisteddfod, yn TJ’s, ac roedd yr ail gig,

(yng Nghlwb y Toucan) yn ddi-drefn, ond yn fywiog gyda naws

fod rhywbeth newydd, cyffrous ar dro. Ymdrech ddigon teg o

ystyried bod y band ond wedi ymarfer un waith gyda’i gilydd, a

bod y drymiwr heb droi lan am y gig cynta’! Slacyrs !

Osh: “O’n i ddim yn y gig, achos o’dd Mei ‘di trefnu fo tra bo’ fi

ar fy ngwyliau !”

Nagyw hynny’n meddwl bod Osh, yn dechnegol, ddim yn aelod

cychwynnol o’r band?

CYFW

ELIA

D

Mei: “Hy, hy, hy ...ydi ... hy,... in theoryde ... na be da ni’n trio’n gneud ydi

bildio pethe’n slo bach i fyny, cychwyn

heb Osh ella a jyst bits o’r drym

machine, wedyn defnyddio dryms go

iawn yn gig y Toucan, oedd Osh efo ni’r

adeg yna. Felly oedd ganddon ni 3-

piece, wedyn 4-piece, ac ella ‘nawn ni

ddyblu fo ar gyfer y gig nesa, neu treblu

fo, neu beth bynnag ...”.

Felly, ar hyn o bryd (ond gall hyn

newid cyn y gig nesa’ ) aelodau’r band

yw; Osian Gwynedd; Meilir Gwynedd,

Daniel ‘Fflos’ Lawrence, a John

‘Catfish’ Thomas. Osh sy’n

canolbwyntio ar y drymiau, tra bod

Mei a Fflos yn rhannu’r dyletswyddau

gitar, Mei ac Osh yn rhannu'r

dyletswyddau allweddellau a Catfish

yn chwarae bâs, gyda Mei yn canu ...

mwy na thebyg.

Mae Dan Lawrence, sef Fflos, o

Aberystwyth yn gyn-aelod o’r grwpiau

Y Felan Fawr ac Albert Hoffman, ac mae

e’ hefyd yn chwarae gitar gyda Ryland

Teifi. Mae John ‘Catfish’ Thomas hefyd

yn hen law, wedi chwarae gitar ‘pedalsteel’ i’r Big Leaves, yn ogystal â

chwarae gyda bandiau megis y Super

Furry Animals a The Thrills.

Felly pa fath o berthynas sy’ ‘da’r

ddau ohonoch chi yn y band? Ydych

chi’n cwmpo mas, o gwbwl, fel y

brodyr Gallagher?

Mei: “Na, dwi’n meddwl bod o’n iach

i 'gwmpo mas,' fel ti’n ddeud, jyst bo’

chi’n gallu glynu at eich gilydd pan

ma’n cyfri’ de ... ‘dan ni’n dallt ein

gilydd yn ddigon da, neu faswn ni

heb ddechrau’r prosiect yma, ti’n

gwbod be dwi’n feddwl?”

Beth yw’r cynllun ‘da chi, o ran gigs?

Chi ‘di chwarae dau gig llwyddiannus,

y’ch chi’n golygu chwarae’n fyw yn

amlach ?

Osh: “ Y plan ar hyn o bryd ydi

recordio albym, dwi'n meddwl ma’

dyna’r peth pwysica’ i’r Sibrydion.

Ma’ gynnon ni rhyw bymtheg i ugain

cân yn barod, sy’ yn y broses o gael

eu ‘neud. Dwi’n meddwl bod o’n

bwysig i ti gael dy record gynta’ de...

'da ni’n gobeithio rhyddhau hwnna’

yn y flwyddyn newydd, tua Mawrth,

Ebrill, Mai ffor’ ‘na, a wedyn chwarae

gigs o gwmpas hwnna’. ‘Da ni ddim

yn mynd i brynu transit, na dim byd

fel ‘na, dim ar hyn o bryd. Dim bod

ni ddim am chwarae gigs, jyst bod y

caneuon yn cael blaenoriaeth, dyna

'di'r ffocys jyst rwan.”

O’r 15 neu 20 cân sydd ‘da chi, pwy

sy’ ‘di eu hysgrifennu nhw?

Mei: “Ma o jyst rhwng ni’n dau fwya’...

dan ni’n ‘sgwennu caneuon yr un

ffordd oedden ni arfer ‘neud, ond yn

trio’u recordio nhw mewn ffordd hollol

wahanol, a gweithio mewn ffordd sy’

ddim yn dibynnu ar system, achos bod

ni mewn stiwdio, ac yn gorfod

defnyddio’r amser, ella’n dechrau gyda’r

melodi a’r drymiau, a gweithio o

fan’na, trio pethau gwahanol.”

O le ddaeth yr enw

Sibrydion?

Mei: “Dwi’n licio fo achos

tydi o ddim yn golygu un

peth, ma’n gallu golygu lot o

betha, a dwi’n meddwl mai

chwarae ydan ni ar y syniad

o Sibrydion... datblygu o

rhywle, a fath o tyfu’n

organic.”

Pan o’ch chi’n chwarae yn y

Toucan oedd ‘da chi deimlad

eitha’ slac oedd efallai ddim

‘di bod yn eich bandiau

cynt...

Mei: “Ma o’n fath o awyr

iach yndi, oeddan ni ond ‘di

cael rhyw awr o ymarfer y

noswaith cynt, ond oedd

pawb yn gwybod be i neud,

er bo ni dal i ddysgu wrth

ein gilydd, a fydd o’n neis

trïo gwneud stwff gwahanol,

rhai gigs efo band mawr, a

rhai gigs acwstig. Yr

uchelgais efo’r band ydy

peidio mynd yn ‘predictable,’

i wneud yn siwr bod dim un

gig yr union ‘run fath. Mae’r

elfen ‘na o chaos mewn gig

yn eitha’ pwysig.”

"RHEDEG I FFWRDD, DI MYNDRHY BELL ..."

Mae'r gân 'Rhedeg i Ffwrdd,'

yn stori sydd â gwraidd

dywyll, wedi'i hysgrifennu

am ddamwain car gafodd

Mei yng Ngorllewin Cymru.

Mae’n gân sy’n diffinio’r

Sibrydion - creu caneuon

sy’n pwysleisio

prydferthwch pob eiliad, ac

sy’n ein hannog ni i

ddyfalbarhau ag i edrych

ymlaen at yr antur nesaf.

10 Y SELAR

“MAE’R ELFEN YNA O CHAOS

MEWN GIG YN EITHA PWYSIG”

G

Page 11: Y Selar - Tachwedd 2004

Ichi selogion gigs Cymru mae’n siwr

fod gweld dyn dros ei chwe troedfedd

gyda gwallt hir yn fflachio torchmewn i speaker yn olygfa gyfarwydd.

Sam Durrant yw dyn yma. Mae e wedi

bod yn gweithio fel peirianydd sain gyda

rhai o enwau mwyaf byd cerddoriaeth

Cymru ers blynyddoedd, ond yn awr mae

am fynd yn ol i’w wreiddiau recordio yn

hytrach na’r perfformiadau byw.

Mae Sam wedi sefydlu stiwdio newydd

yn Rachub, ger Bethesda, ac mae’n

gobeithio denu llwythi o artistiaid i’w

stiwdio wedi iddo ei agor yn swyddogol.

Tra bod llawer o artistiaid bellach yn

gallu prynu cyfrifiadur digon p[erus i

recordio’i stwff ei hunain yn eu cartrefi,

mae Sam yn ffyddiog bod digon alw o hyd

am stiwdio broffesiynol, gan ei bod yn well

gan lawer o gerddorion gael rhywun arall i

wneud y gwaith peiriannu drostynt.

Sam “Dydy’r stiwdio ddim wedi agor eto

ond ... mor belled, rydw i wedi bod yn

recordio sesiynnau prawf gyda Maharishi

a Red Nature, rydw i hefyd wedi gwneud

sesiwn byw i Bandit gyda MC Saizmundo

a NAR. Profodd NAR fod y stiwdio’n

100% sound proof, gan eu bod yn fand

mor uffernol o swnllyd!”

Mae Stiwdio Un yn defnyddio system

recordio Protools, desg gymysgu

Americanaidd Mackie a hen beiriant tap

analog “i’r audio purists allan yna!” yn

ogystal a llwythi o offerynnau gwahanol a

llwythi o degannau eraill. Mae’r stiwdio ar

ddwy lawr gyda’r ystafell rheoli ar y llawr

uchaf a’r stiwdio ei hun ar y lefel isa’.

Mae’r lle wedi ei addurno’n chwaethus

ag mae yna deimlad cynnes, cartrefol i’r

lle. Mae’r soffa yn y ‘stafell rheoli yn un

o’r mwyaf yn y Byd, ag yn sicr yn ddigon

mawr i bob band eistedd yn gyfforddus

arni, hyd yn oed holl aelodau Anweledig

ochr yn ochr, heblaw am Arwel Trombôn

wrth gwrs!

Teg dweud y bydd hi’n ‘FFordd Hir Nôl’ i’r Gogz yn y dyfodol

agos wrth iddynt symud i fyw at ei gilydd i d] yn Stafford. Mae’r

band sydd bellach yn bedwarawd ar ôl i Pierce, y gitarydd

talentog ymuno, yn symud i Stafford fel ei bod yn haws iddynt

gyrraedd eu gigs yn ninasoedd mawr Lloegr, ond hefyd ddigon

agos i ddod ‘nôl i Gymru i gael ambell i ginio dydd Sul, neu lond

bag o ddillad glân! Mae’r band wedi bod yn brysur yn gigio’i o

amgylch Prydain ers peth amser bellach ac wedi chwarae yn

Lerpwl, y Camden Festival, Llundain ac maent yn ymddangos yn

y Limelight festival ym Manceinion ym mis Rhagfyr. Mae’r Gogz

yn gweithio ar ganeuon newydd ond, ar hyn o bryd does dim

cynlluniau pendant i rhyddhau CD. www.gogz.co.uk

RHY DDIOG I FYND I LOEGR I WELD GOGZ?! EWCH I ...

CLWB IFOR BACH, CAERDYDD AR DACHWEDD Y 13EG

4 ALLS, CAERNARFON AR DACHWEDD Y 27AIN

STIWDIO NEWYDDYN AGOR:

Ffordd Hirach Nôl!GOGZ

YSTAFELL RHEOLI STIWDIO UN

LLWYTH O FOTYMAU, UN HIPPI!

STIWDIO UN

AM FWY O WYBODAETH AM STIWDIO UN

[email protected],uk

Ar ôl i fyd cerddoriaeth Cymru gael ei ysgwyd i’w seiliau yn dilyn ymadawiad sydyn

y T.R.B. mae’r band hynod dalentog yn ôl. Wrth iddynt ymlacio ynghanol recordio

fideo i’r gân ‘Chwaraeon’ fe gefais y cyfle i ddal lan gyda’r hyn oedd yn digwydd ym

myd y T.R.B.

Tra bod Mini wedi dilyn Michael Owen a mynd i slochian sangria yn Sbaen mae’r

band wedi bod yn gweithio ar ganeuon newydd fydd yn y pen-draw yn ffurfio’u

halbwm nesaf. Mae ganddynt o leiaf ddeuddeg cân newydd eisioes, a bydd rhain yn

cael eu perfformio yn y gig cyntaf iddyn

chwarae mewn misoedd, yng Nghlwb Ifor

Bach, Nos Calan. Yn ôl Squids mae’r

caneuon newydd yn “lot mwy focused,

achos ni di cal lot mwy o amser i feddwl a

datblygu.”

Mae’r T.R.B. hefyd am rhyddhau sengl

vinyl 7” o Push and Shove ar y cyd rhwng

recordiau Slacyr a label annibynnol Bee

and Smoke Records, Llundain, fydd yn cael

ei rhyddhau ddiwedd mis Tachwedd.

Am fwy o wybodaeth ewch i

www.slacyr.co.uk. neu

www.texasradio.co.uk

TEXAS RADIO BAND

Y SELAR 11

Page 12: Y Selar - Tachwedd 2004

GIGS

MIS

HYD

REF 0

4

12 Y SELAR

GWENER 15TH O HYDREF

Roedd yr Adam and Eve dan ei sang nos Wener

ar ddechrau Tyrfe Tawe, ac roedd y dorf yn rocio

i s[n band lleol, Niem gyda'u cymysgedd

eclectig o jazz a hip-hop. Dilynodd FflurDafydd, o'r Panics gynt, gyda'i band, i greu

awyrgylch bl[s-aidd i'r noson.

Wedyn croesawyd Neil Rosser yn ôl i'w filltir

sgwâr. Roedd pawb yn cyd-ganu i'r hen

ffefrynnau sydd â geiriau wedi'u hysbrydoli gan

Abertawe. I gloi'r noson, roedd y Brawd Houdini

ar ei orau a chafodd y dorf wledd o glywed y

goreuon yn steil unigryw Meic Stevens.

Dechrau gwych i [yl newydd Abertawe.

SADWRN 16TH O HYDREF

Symudodd hwyl yr [yl

Ddydd Sadwrn i

'Subterranea', seler 'No Sign

Wine Bar'. Dechreuodd y

diwrnod yn werinol gyda Y

Bachgen Glas a Mari Lwydond fe boethodd pethau

erbyn y nos ac roedd y lle'n

rocio go iawn! Anelwyd y

nos at stiwdants yn bennaf,

gyda rapio gan Lo-Cut aSleifar, bopio gan Frizbee a

rocio caled Kentucky AFC,

Y gwesteion arbennig oedd

Bob Delyn a'r Ebillion a

roddodd wefr i'r dorf gyda

chymysgedd o draciau

Cymraeg a Llydaweg.

GWYL TYRFE TAWE, ABERTAWE

15,16,17 HYDREF 04

Gig Sebon arall yn y brif ddinas. Yn gynta, Radio

Luxembourg. Amhosib peidio’u cymharu efo Mozz,

am fod hanner y band yn gyn-aelodau. Yn parhau

sdeil Mozz o roc 60/70au, mae ganddyn nhw lawer o

riffs ardderchog. Er hyn, teimlaf fod y caneuon yn

gyfres o riffs, ac nad oes digon o felodiau nac

amrywiaeth. Mozz heb y tiwns, ond rhaid rhoi amser

iddynt ddatblygu, hwn oedd ei hail gig erioed!

Kenavo, band rap o Aberystwyth. Cefais fy siomi

gan berfformaid Kenavo yn y ‘Sdeddfod, ond roedd

heno yn welliant mawr. I mi, y traciau trwm sydd yn

gweithio orau, roeddynt ar eu gorau gyda’r gitars yn

uchel. Dwi ddim yn teimlo fod y traciau mwya ffynci yn

gweithio cystal. Mae rapio Cynan Llwyd yn dda ac fe

roddodd berfformiad egnïol. Mae yna botensial mawr

fan hyn, i feddwl mae ond 14 mlwydd oed yw e!

Dau Cefn. Band anghyfarwydd i mi ac mae’n anodd

disgrifio’i cerddoraieth nhw. Trip-hop / dawns /

breakbeat? Roedd y gerddoriaeth yn sicr yn swnio’n

dda, ac dwi eisiau gwrando ar ei halbym newydd.

Gydag ond dau berson ar y llwyfan, mae hi’n job

anodd i ddal diddordeb y gynulleidfa, a lleihau wnaeth

y niferoedd. Byddai mwy o ymdrech i gysylltu ‘da’r

gynulleidfa ar ran y canwr wedi helpu.

Nid y gig gore, ond yn dangos yr amrywiaeth sydd

ein sîn roc y dyddie ma, a photensial mawr gan ddau

fand ifanc.

� Geraint

Mae torf wedi ei fesur yn

y degau yn medru bod yn

fendith. Yn fendith

oherwydd fod torf o 60

yn medru cadw’n ddistaw

a gwrando, ia, gwrando ar

y gerddoriaeth. Radical. A

phetai rhywun wedi

meiddio fy styrbio ar

ganol perfformiad Gwilym

Morus byddent wedi bod

yn hynod lwcus i ddianc !

Yn syml, distawrwydd

llethol a sylw diamod yw’r

hyn mae Mr Morus yn ei

haeddu ac yn deilwng

ohono, gan ei fod, yn

syml, yn hyfryd.

Medrid dweud rhywbeth

tebyg am Alun Tan Lan

wrth gwrs, ac oherwydd ei

gigio di-baid dwi wedi ei

weld yn amlach na fy

adlewyrchiad flwyddyn

yma. Arbennig, fel arfer. O

safonau hynod wych

arferol Gabrielle Twenty

Five roedd heno, os caf

feiddio, yn siomedig.

Methodd y waldiwr a dod

felly dyma gario peiriant

drymio hefo hwy i’w drio.

Nhw fyddai’r cyntaf i

ddweud fod yr arbrawf

wedi bod yn fethiant, yn

enwedig a hwythau wedi

arfer chwarae’n wefreiddiol

heb unrhyw ddrymiwr.

� Hefin Jones

Mae’n siwr mai funk ydy’r gair agosaf i

ddisgrifio’r s[n unigryw mae Drumbago

yn ei wneud y dyddiau yma. Yn sicr

mae’n fachog ac yn cael y dorf i symud

yn ddifael. A da o beth oedd hynny wrth

i res o wynebau llwm gerdded i mewn ar

ôl i’w breuddwydion gael eu chwalu yn

Stadiwm y Mileniwm wedi colli yn erbyn

Gwlad P[yl. Mae’n syndod fel mae proffil

Drumbago wedi codi dros y flwyddyn

ddiwethaf ac efallai mai nhw, nawr sy’n

ddeiliaid ar deitl ‘Band mwyaf cyffrous

Cymru’ wrth i sglein Pep le Pew bylu

rywfaint. Fe gafodd Aaron PLP wahoddiad

i’r llwyfan i ychwanegu ei gyfraniad ei

hun a doedd Cravos ddim am adael i’r

noson basio heb gael cynnig ei slant ei

hun ar bethau. Mwy o collaboration odd

y noson hon gyda pawb yn helpu ei

gilydd yn hytrach na thair set ar wahan,

a hynny ond yn adio at y naws

danddaearol a geir dan waliau tynn y

Toucan. Mae Ummh fel pe bai nhw wedi

cael deffroad o’r gwyll ers diwedd y

90’au. Ond dydy ei beats acid jazz yn sicr

ddim at ddant pawb. Gwyneth Glyn oedd

y trydydd cyfranydd swyddogol a hi

gychwynodd y noson. Efallai mai blin ar

ôl gweld breuddwyd bêl-droed arall yn

cael ei chwalu oeddwn i, ond dwi di

gweld digon ar y steil folky yma o’r blaen.

� Trystan Pritchard

DRUMBAGO, UMMH, GWYNETH GLYN

TOUCAN, CAERDYDD 13/10/04

TY NEWYDD SARN 15/10/04

GABRIELLE TWENTY FIVE, GWILYM MORUS, ALUN TAN LAN

RADIO LUXEMBURG, KENAVO A DAU CEFN

NOSON SEBON CLWB IFOR BACH

16/10/04

^

SUL 17TH O HYDREF

Roedd pawb yn barod am barti erbyn Dydd

Sul a dyna a gafwyd yn Nh] Tawe gyda

Mattoidz a Huw Chiswell. Setiau acwstig

oedd gan y ddau yma mewn awyrgylch eitha'

tawel. Aeth Mattoidz o 'Tan y Tro Nesa' i'w

sengl newydd, 'Y Dyn Telesales' i brofi'u bod

nhw'r un mor wych ag arfer yn acwstig. A

beth all dyn ddweud am Huw Chiswell?

Taith o'r dyddiau cynnar hyd heddiw, o 'Y

Cwm' i 'Gadael Abertawe'. Diwedd ffantastig i

dridiau o gerddoriaeth amrywiol a rhywiol!

� Alun Chivers

LLUN GAN MARTIN ROBERTS

Page 13: Y Selar - Tachwedd 2004

Rhai rhyfedd yw Maharishi. Yn medru

adegau o hyfrydwch anfarwol, neu rocio

diguro, neu adegau hirfaith o ddiflastod

aruthrol undonnog, anodd ydi darogan eich

noson yn eu cwmni. Hefo Pala a Bob yn

cefnogi roedd amrywiaeth ar yr arlwy yn sicr.

Yn agor roedd Pala ac roedden nhw’n

wirioneddol wych, y rocars a’r hedbangyrs

hyd yn oed yn disgyn i lesmair ar diwns

clyfar, hapus y band a llais prydferth

Branwen. Os oedd presenoldeb Aled Eryr ar

y bâs (gyda rôl yn hongian yn ddifater o’i

geg a’i wallt yn doreth fel arfer) yn gymorth i

hynna Duw a wyr, ond, heb os, tynged Pala

yw plesio lot o bobl lawer o weithiau. Saff.

Bob. Roedd Bob mor uchel nes fod haen o’r

dorf yn ffendio hi’n anodd eu dioddef. Ar ôl

eu perfformiad arbennig fis neu ddau nôl

hefo Nar ac Eryr, roedd hen edrych ymlaen,

ond dydi ei droi fyny i unarddeg ddim yn

syniad da bob tro. Roedd y cario trwm yn ei

gwneud hi’n llawer anoddach i’r riffs a’r

tiwns rhagorol, amlygu eu hunain. Ond er

hynny, pync o’r radd uchaf, tynn, ac yn

llawn agwedd.

Cafwyd yr olygfa arferol o’r llawr ddawns

yn llenwi i T] ar y Mynydd, cyn gwagio’r un

mor ddisymwth, yng nghanol perfformiad

Maharishi. Nid fod hynny ynddo’i hun yn

feirniadaeth – dydi Maharishi ddim yn fand

dawnsio. Ymddangosiad solet a hoel graen

ymarfer yn amlwg, ond bosib fod s[n y

gitars yn cario gormod ar y traciau uwch,

gan wneud iddo ymddangos yn flerach, fel yr

oedd efo Bob. Cymysgedd llwyddianus o’r

hen a’r newydd yn gwneud ffans yn hapus,

ond nid oedd ymysg setiau mwyaf cofiadwy

y flwyddyn.

Tri band cymharol newydd ac amhrofiadol oedd yma

heno, Fenks ennillwyr Brwydr y Bandiau eleni,

Bechdan Jam efo’u pync/metal/roc a Mattoidz sy’n

pori o’r un cae i raddau helaeth.

Roedd Fenks yn dynn, yn amlwg yn mwynhau

chwarae o flaen cynulleidfa’r brifddinas, ond mymryn

yn ddi-gyfeiriad, yn parhau i chwilio am steil eu

hunain. Fe ddaw.

Bechdan Jam efo caneuon eitha’ syml yn rocio efo set

ddwyieithog, ôl ymarfer ar y chwarae a dylanwad y Foo

Fighters yn treiddio drwyddo. Tro Tom Cruise, sori, Hefin

Mattoidz, oedd gorffen y noson mewn steil, ac fe

wnaeth gyda set llawn egni gan fand sy’n edrych yn

deilwng o gymryd lle anrhydeddus yn llinach bandiau’r

Gorllewin fel Dom a Jess. Diffyg anthem gofiadwy yw’r

broblem ar hyn o bryd, efallai, ond mae ganddynt

syniadau a dawn i adael argraff barhaol ar y sîn.

� Shôn Williams

Noson siomedig oedd hi i'r trefnwyr, ond

gwledd o noson i’r ychydig selogion oedd yno!

Alun Tan Lan a’i fand oedd yn cychwyn y

noson yn perfformio deunydd o'i albwm

newydd. Ac er ma’ chwarae i neuadd

chwarter llawn oedden nhw, roedd eu

perfformiad yn wych!

Creodd Billy Thompson sw^n electrig

anhygoel ar ei ffidil yn ei solo i 'Aderyn Papur',

uchafbwynt a diwedd eu set.

Perfformiad da unwaith eto gan Elin Fflur a'r

band, gyda phresenoldeb Elin yn llenwi'r

neuadd ac yn denu grwpiau o ddawnswyr at

flaen y llwyfan. Chwaraeodd y band i'w

cynulleidfa gan ymateb yn fodlon i geisiadau

am ffefrynnau fel 'Dim gair' ac 'Y llwybr lawr i'r

dyffryn'.

Dyma’r tro cyntaf i Amy Wadge a'i band

berfformio ym Mangor, a'r tro cyntaf i minnau

eu clywed yn fyw. Er iddi wneud yn amlwg

nad oedd hi'n hapus gyda'r diffyg

gwrandawiad, parhaodd gyda'i set. O ferch

sy'n ddim mwy na phum troedfedd o daldra,

mae ganddi bresenoldeb ar lwyfan! Roedd ei

chaneuon a'i ymadroddion yn deimladwy, a'i

pherfformiad ar y cyfan yn dda iawn.

Bechod am y diffyg cefnogaeth, ond roedd

hi'n braf cael sbario ciwio i fynd i'r lle chwech

a'r bar!

� Non Tryfil

AMY WADGE, ELIN FFLUR, ALUN TAN LAN

CLWB Y RAILWAY, BANGOR 26/10/04

MAHARISHI, BOB, PALA

CLWB RYGBI PWLLHELI - 22/10/04

Y SELAR 13

MATTOIDZ, BECHDAN JAM, FENKS

CLWB IFOR BACH - 23/10/04

LO-CUT A SLEIFAR, RUFFSTYLZ, MCSAIZMUNDO

ABRI, CLWB Y TOUCAN, 29/10/04

Anodd erbyn hyn yw dychmygu bywyd heb Abri, ac

roedd gwledd hip hopaidd o’n blaenau heno. Wedi i

lan sdâr y Toucan lenwi ychydig, fe gafodd y

ffyddloniaid brofiad ysbrydol arall gan y parchedig

amharchus, MC Saizmundo. Roedd yn ymosodol a

bywiog fel arfer.

Nesaf ar y llwyfan oedd Ruffstylz, sy’n rapio mewn

arddull hip hop Prydeinig pendant. Roedd y rapiwr yn

disgwyl cynulleidfa tipyn mwy bywiog nag y cafodd

dwi’n credu, er i fi fwynhau ambell i gân, roedd gormod

o rantio a dim digon o guriadau at fy nant i.

Felly roedd yn dipyn o ryddhad gweld Lo-Cut a

Sleifar yn dod i’r llwyfan i gloi’r noson. Er mod i’n un

o ffans mwyaf Y Tystion, doeddwn i erioed wedi

gweld Lo-Cut a Sleifar yn chwarae’n fyw o’r blaen.

Sicrhaodd y cyfuniad o’u rapio chwim a chrafu gwych

DJ Monkey fod y mwyafrif o’r dorf ar eu traed yn

dawnsio erbyn diwedd y noson.

� Rhys Wynne [email protected]

MMMM ... ALLAI WELD PAM BOD

ELIN YN LLENWI’R ‘STAFELL!

“RHAI RHYFEDD YW

MAHARISHI ... ANODD YDI

DAROGAN EICH NOSON

YN EU CWMNI. “

Page 14: Y Selar - Tachwedd 2004

WINABEGOHYDER BREGUSAr Dachwedd y 15fed, mae Winabego

yn lawnsio eu e.p. cyntaf, Hyder

Bregus ar label Rasal. Recordiwyd yr

e.p. yn stiwdio Bryn Derwen gyda

Dave Wrench a Dyfrig Evans.

‘Llawenydd Achlysurol’, ‘Dim

Cytundeb’, ‘Symud Mewn Gofod’,

‘Unarddeg Dyn i Lawr’ a ‘Lucifer’s

Lament’ yw’r caneuon sy’n

ymddangos ar yr e.p. Mae’r hogiau o

Wynedd wedi bod yn gigio’n gyson

ers ffurfio ond dyma’r cryno ddisg

gyntaf iddyn nhw rhyddhau o dan enw

Winabego. Enwyd y band ar ôl i Aled

y drymiwr fod yn sownd tu ôl i campervan am oriau, ar ei ffordd i lawr i’r

steddfod. Mae’r band sy’n rhestu Y

Pixies, Ffa Coffi, a Pavement fel eu

dylanwadau yn gobeithio recordio

sengl cyn y Nadolig i’w rhyddhau cyn

y Pasg, a recordio albwm newydd

erbyn Eisteddfod 2005. Mi fydd

‘Unarddeg Dyn i Lawr’ yn ymddangos

ar gryno ddisg aml-gyfrannog

Sesiynnau C2 fydd hefyd yn cael ei

rhyddhau ym mis Tachwedd.

Am fwy o fanylion am Winabego ewch

i www.rasal.net

14 Y SELAR

Mae’n dipyn o bwnc llosg yng Nghymru ers

blynyddoedd a ddylai bandiau Cymraeg ganu’n

ddwyieithog, ond, yn syml iawn, ’dyw Mattoidz

ddim yn becso o gwbl. Does dim angen dweud

bod gwir gerddoriaeth yn dod o’r galon, a ’dyw

deunydd Mattoidz ddim yn eithriad, o ‘Tan y

Tro Nesa’ ac ‘All Loved Out’ i ‘Drown In You’.

Byddech chi fel arfer yn meddwl am

Mattoidz fel band gweddol drwm, ond mae’n

nhw wedi dangos bod eu cerddoriaeth nhw’n

bur amrywiol o’i chymharu â’r mwyafrif o

fandiau Cymraeg. Dywed y prif leisydd Hefin

Thomas, “… ddechreuon ni fel band oedd jyst

yn gwneud stwff acwstig”.

Fel bob band arall, roedd hi’n anodd i’r bois

wneud enw iddyn’ nhw eu hunain yn

broffesiynol (enw sydd, mae’n debyg, yn golygu

‘hanner call a dwl’!). Does dim amheuaeth mai

eu gallu i chwarae amrywiaeth o gigs oedd yn

gyfrifol am eu dyrchafiad i’r uchelfannau. Dim

ots ble maen nhw’n perfformio nac i bwy, mae

ganddyn nhw rywbeth i bawb. Roedd hynny’n

amlwg yn gig Gwener y Grolsch yn y Abertawe

rhai wythnosau yn ôl. Aeth y dorf ar daith o’r

ysgafn i roc a rôl go ddifrifol.

Peth arall sy’n amlwg iawn yn eu deunydd

newydd yw eu bod wedi darganfod eu ‘roc’, ac

mae eu sengl diweddaraf, ‘Y Dyn Telesales’ yn

adlewyrchu hyn. Mae’n wahanol iawn i’w

caneuon blaenorol. Ym marn Gareth Delve,

aelod arall o’r band, “erbyn hyn, mae s[n

Mattoidz yn dod trwodd mwy”.

Gyda cherddoriaeth Gymraeg ar gynnydd,

mae bandiau cyfoes yn cael eu mesur wrth eu

safon mewn gigs. Wrth gwrs, mae gwerthu

CDs yn bwysig, ond gyda chynnydd yn y nifer o

gigs a gwyliau cerddorol yng Nghymru ar hyn o

bryd, dyma gyfle gwych i fandiau cymharol

newydd fel Mattoidz gymysgu a’u ffans.

Mae’n debygol y bydd Mattoidz yn

boblogaidd am gyfnod hir i ddod, ond wrth

iddynt berfformio ar lwyfannau ar hyd a lled y

wlad, chwaeth a diddordeb y dorf mewn

cerddoriaeth Gymraeg fydd yn penderfynnu

tynged bandiau ifanc fel y rhain.

Gyda’i halbwm gyntaf Hirnos wedi ei ryddhau ym mis Gorffennaf

ac wedi cyrraedd 10 uchaf Y Selar, saff dweud fod Frizbee wedi cael

dechrau da i’w gyrfa fel band. Mae’r band bellach am rhyddahu e.p.

newydd o’r enw ‘Lennonogiaeth’ a fydd yn cael ei lawnsio yn

noson ‘naws’ yn Aberstwyth ar y 3ydd o Rhagfyr.

Mi fydd y band hefyd yn mynd ar daith i hyrwyddo’r e.p. i:

FRIZBEEC

YFW

ELIA

D B

AC

H

MATTOIDZ - GIGIO FEL NYTARS!

EDRY

CH ‘M

LAEN

LENNONOGIAETH

Ashokan 2Ashokan

Mawredd Mawr, Octagon, Bangor - Tachwedd 18

Plas Coch, Bala, Tachwedd 19

Yr Albion, Llanrwst - Tachwedd 24

Clwb Rygbi, Bethesda - Tachwedd 26

Llanast Llanrwst - Tachwedd 27

Cwps, Aberystwyth (Lansio Lennonogiaeth) Rhagfyr 3

Clwb y Twr, Trefor - Rhagfyr 4

Clwb Rygbi, Dolgellau - Rhagfyr 11

Drill Hall, Machynlleth - Rhagfyr 17

Am fwy o wybodaeth am gigs neu newyddion ewch i

www.friz-b.co.uk

Yn dilyn ‘Diolch am ddal y Gannwyll’ mae albym newydd sbon ar

y gorwel. Recordiwyd yr ail albym ‘Ashokan 2’ gan Joe Gibb yn

stiwdio Mighty Atom yn Abertawe.

TAITH HYRWYDDO’R ALBYM NEWYDD I :

Nos Wener, Tachwedd 26ed – T] Tawe, AbertaweNos Sadwrn, Rhagfyr 11eg – Ystafell Clwyd, Theatr ClwydNos Fercher, Rhagfyr 17eg – Clwb Pêl Droed AberystwythNos Iau, Rhagfyr 18ed – Academi, Prifysgol BangorNos Wener, Rhagfyr 19 – Toucan, Caerdydd

Am fwy o fanylion ewch i www.dockrad.com neuwww.ashokan.cjb.net

DYDDIAD RHYDDHAU RHAGFYR 6ED 2004

� Alun Chivers

Page 15: Y Selar - Tachwedd 2004

Y SELAR 15

Oes gen ti syniad busnes?Gwna rywbeth am y peth!Rho gynnig ar dreialu syniadbusnes dy hun!

Ffatri Fenter

CYSYLLTA Â NI AM SGWRS ANFFURFIOL:

[email protected]

01970 63 65 65

Cyfle i dreialu dy syniad busnes

CYNGOR

CEFNOGAETHARIANNOL

CYMORTH

●Nos Fercher y 29ain o Fedi oedd hi ac roeddwn i’n mwynhau fy hun yn

iawn yn gwylio Tim Lovejoy and the Allstars ar Sky One. Rhaglen

ddigon di-fflach oedd hi, er bod y G.L.C. arni, ond roedd yr uchafbwynt

ar ei ffordd, y Super Furry Animals. Fe benderfynodd Lovejoy, fel anrheg

bach ychwanegol i ni’r Cymry, gael cyflwyniad Cymraeg i’r S.F.A. Pwy

well meddech chi i gyflwyno’r band na sylwebydd Cymraeg gemau

Cymru ar Sky, y pêl-droediwr amryddawn Iwan Roberts? Dyma fe’n

brasgamu’i ffordd i’r llwyfan a dechrau cyflwyno’r band.

Iwan: “Foneddigion a boneddigesa, [dechre

da, ma hyn yn hawdd]

rhowch groeso i’r Anifeiliaid ... ymmm

... [o shit, beth ddiawl yw super yn

Gymraeg eto?] ymmm ...[dwed

rhywbeth nei di, ti’n edrych fel twat]…

ymmm ... [brysia nei di, o

shit!]...ymmm... Awyrgylch Blewog!”

Da iawn ti Iwan ond tria gael ymarfer

tro nesa ie? O wel, o

leia mae’i eirfa fe’n well

na’i ddeintydd e!

Atebwch y cwestiwn syml ymaac os mai chi fydd yr enwcyntaf i gael ei dynnu mas owallt Alun Tan Lan yna chi bia’rblydi lot, syml !

REIT, BETH YW ENW IAWN YRAPAR MC SAIZMUNDO ?

Lot rhy hawdd! Nawr e-bostiwch yr ateb a’chmanylion [email protected] Rhagfyr 15fed.

CYSTADLEUAETHFAWREDDOG Y SELAR!

Mi fydd yr ennillydd yn cael ei gyhoeddi ar www.yselar.com arRhagfyr y 19eg. Hwyl Chiiiiiiiii! Ond os nad ydych ynllwyddiannus, prynwch y CD’s ar y we - www.sebon.co.uk(DVD Cmon Midffild! diolch i Sain)

Awydd ennill 10 albym orau 2004,yn ogystal â C’mon Midffild! 1-10ar DVD ?

AWYRGYLCH ... SUPER !

LLUNGAN

KMG

Page 16: Y Selar - Tachwedd 2004