november newsletter / cylchlythr tachwedd
DESCRIPTION
Cardigan Castle Monthly Newsletter Cylchlythr Misol Castell AberteifiTRANSCRIPT
Castell Aberteifi
Cardigan Castle
Yn y rhifyn yma
—————
Included in this
issue
1. Nodyn wrth y
Cyfarwyddwr
Note from the Director
2. Ymweliad Ffagl
Gobaith
Beacon of Hope Visit
3. Blanced yr Eisteddfod
Eisteddfod Blanket
4. Llwyddiant i’r
darlithoedd
Talks Success
5. Taith i Gydweli
Trip to Kydweli
6. Aelodaeth i’r
Ymddiriedolaeth
Membership to the Trust
7. Print o Shane Wiliams
wedi’i arwyddo
Shane Williams limited
edition signed portrait
5. Digwyddiadau
Events
Gair wrth y Cyfarwyddwr
Mae prosiect £11m Castell Aberteifi wedi gweld
llawer o ddatblygiadau yn ystod y 3 mis diwethaf
gyda chynlluniau bellach ar y gweill i benodi cwmni
adeiladu i’r prif adnewyddiadau i ddechrau ym mis
Ionawr 2013. Mae cytundeb y rownd gyntaf ar gyfer
adnewyddu wal y castell yn mynd yn ei flaen yn dda
gyda dathliad cyn y Nadolig wedi’i gynllunio ar gyfer
pan fydd y piler cyntaf yn dod lawr.
Mae'r gwaith a wnaed gan y llu o wirfoddolwyr
ymroddedig wedi bod yn wych gyda'r targed 3
mlynedd o godi £150,000 cyfatebol gan y gymuned
leol eisoes yn croesi'r £60,000. Da iawn i bawb sydd
wedi gweithio mor galed ar y mentrau i godi arian
amrywiol.
Mae'r prosiect wedi cael ei ddatblygu gyda
chefnogaeth llawer o gyllidwyr sydd wedi cyfrannu i
alluogi elusen Ymddiriedolaeth Cadwraeth
Adeiladau Cadwgan i sicrhau dyfodol safle Castell
Aberteifi. Mae'r ymddiriedolaeth elusennol yn awr yn
awyddus i wahodd mwy o bobl sydd â diddordeb i
chwarae rhan yn natblygiad y safle sy'n anelu at
ddod â dros 33,000 o ymwelwyr newydd i'r ardal y
flwyddyn. Bydd cynllun aelodaeth newydd yn
caniatáu i bobl o bell ac agos i ddod â'u doniau
gwerthfawr i gynorthwyo'r tîm staff trwy ffurfio is-
bwyllgorau newydd i ganolbwyntio ar weithgareddau
fel Safle Adeiladu a Datblygiadau, Marchnata a
Dehongli, Masnachol a Masnachu, Aelodaeth a
Gwirfoddoli, Addysg & Allgymorth ac yn olaf is-
bwyllgor i sicrhau agoriad mawreddog a chofiadwy
yng Ngwanwyn 2014.
Mae prosiect Castell Aberteifi yn cynnig y cyfle i
bobl leol gymryd rhan mewn prosiect dan arweiniad
y gymuned a fydd yn denu ymwelwyr o bob cwr o'r
byd i glywed am yr etifeddiaeth a threftadaeth
unigryw Castell Aberteifi a'r sawl haen o hanes sydd
wedi’u lleoli o fewn muriau'r Castell.
Cris Tomos, Cyfarwyddwr Dros Dro
Note from the Director
The £11m Cardigan Castle project has seen a great
deal of developments over the past 3 month with
plans now in hand to appoint the main renovation
contractor company to start in January 2013. The first
round contract for the castle wall is progressing well
with a pre-Christmas celebration planned for when the
first stanchion is to be removed.
The work undertaken by the army of dedicated volun-
teers has been tremendous with the 3 year target for
raising the £150,000 match funding from the local
community already crossing £60,000. Well done to all
who have worked so hard on the various fundraising
initiatives.
The project has been developed with the support of
many funders who have contributed to enable the
Cadwgan Building Preservation Trust charity to se-
cure the future of the Cardigan Castle site. The chari-
table trust is now eager to invite many more interested
people to play a part in the development of the site
which aims to bring in over 33,000 new visitors to the
area per annum. A new membership scheme will al-
low people from near and far to bring their valuable
talents to assist the staff team with forming new sub-
committees to focus on activities such as Site Con-
struction & Developments, Marketing & Interpretation,
Commercial & Trading, Membership & Volunteering,
Education & Outreach and finally a sub-committee to
ensure a memorable grand opening in the spring of
2014.
The Cardigan Castle project offers the opportunity for
local people to participate in a community led project
that will draw in visitors from across the world to hear
of the unique legacy and heritage of the Cardigan
Castle site and the many layers of history housed
within the castle walls.
Cris Tomos, Interim Director
Rhifyn
Tachwedd
November
01
Cysylltwch / Contact:
YCA Cadwgan BPT,
CASTELL ABERTEIFI,
2 Green Street,
Aberteifi, SA43 1JA
01239 615131
Blanced yr Eisteddfod
Mae blanced thema’r
Eisteddfod sydd wedi’i
gwneud â llaw yn teithio o
amgylch y dref. Ar ôl cymryd
naw mis i’w gwau gyda thros
40 o wirfoddolwyr yn cwrdd
am sesiynau wythnosol mae’r
gorchudd unigryw bellach
wedi'i chwblhau. Yn ystod yr
wythnosau diwethaf mae
wedi teithio o Brethyn
Cartref, i Pendre Art, i Theatr
Mwldan cyn cyrraedd pen ei
thaith ar stondin Ffair y
Castell Dydd Sadwrn.
Bydd Maer tref Aberteifi, y
Cynghorydd Catrin Miles yn
tynnu’r raffl ac yn cyhoeddi
enillydd lwcus y flanced ar
stondin y Castell ar Riw’r
Grosvenor Dydd Sadwrn yma
yn Ffair Aberteifi. Bydd
gwobrau eraill yn cynnwys
print Aneurin Jones a Meirion
Jones yn ogystal â blanced
Gymreig wedi'i gwneud yn
lleol.
Mae'r darn trawiadol yma o
waith llaw yn cael ei roi
mewn raffl i’w ennill am £1 yn
unig i godi arian tuag at Apêl
£150,00 Castell Aberteifi.
Mae tocynnau raffl ar gael i'w
prynu o Gastell Aberteifi,
Theatr Mwldan, stondin Ffair
y Castell neu ffoniwch 01239
615131.
Ffagl Gobaith yn
ymweld â'r Castell
Yn dilyn darlith mis
diwethaf gan Hedydd
Jones, un o
ymddiriedolwyr Cadwgan,
gwnaeth Ffagl Gobaith,
elusen sy'n darparu cysur
ymarferol a chefnogaeth
nyrsio i rai sydd â salwch
marwol neu salwch sy'n
cyfyngu bywyd yng
Ngheredigion, ymweld â
Chastell Aberteifi. Ar y
27ain o Fedi fe wnaeth
Rhian Medi, Swyddog
Addysg y Castell fynd â’r
grŵp ar daith o amgylch y
safle ac fe wnaeth y grŵp
ddweud eu bod wedi
mwynhau eu hunain yn
fawr iawn, yn enwedig y
daith addysgiadol. Rydym
yn edrych ymlaen at
weithio gydag elusen
Ffagl Gobaith ac
elusennau eraill y
gymuned yn y dyfodol.
Beacon of Hope visit
the Castle
Following a talk last
month by Hedydd Jones,
a trustee of Cadwgan
Building Preservation
Trust, Beacon of Hope
Group a charity that pro-
vides immediate comfort
and on-going practical
and nursing support to
people with terminal and
life limiting illness in
Ceredigion visited Cardi-
gan Castle. On the 27th
of September Rhian Medi
the Education and Out-
reach Officer at the Cas-
tle took the group on a
tour of the site and those
involved said that they
very much enjoyed them-
selves especially the in-
formative tour. We look
forward to working with
the Beacon of Hope char-
ity and other charities in
the community in the fu-
ture.
Eisteddfod Blanket
Cardigan Castle's handcraft-
ed Eisteddfod themed blan-
ket is touring the town. Hav-
ing taken nine months to knit
with over 40 volunteers pitch-
ing in at weekly sessions the
unique covering is now com-
plete. During the past few
weeks it has been travelling
the town from Brethyn Cartref
to Pendre Art to Theatr Mwl-
dan, before reaching the end
of its tour at our Fair Day
stall.
The Mayor of Cardigan, Cllr
Catrin Miles will draw the raf-
fle and announce the lucky
winner of the Eisteddfod
Blanket at the Castle's Cardi-
gan Fair day stall located on
Grosvenor Hill this Saturday.
Other prizes will include an
Aneurin Jones and Meirion
Jones print, and a locally
made Welsh blanket.
The stunning piece of Welsh
handiwork is being raffled at
just a £1 per ticket to raise
funds for the £150k Cardigan
Castle Appeal. Raffle tickets
are available to buy from
Cardigan Castle, Theatre
Mwldan, the Castle’s Fair
Day stall or call 01239
615131.
Dechreuodd darlithoedd y Castell
adeg y Pasg 2012 gan barhau
bob dydd Mawrth drwy gydol
tymor yr ysgol, gyda'r nod o godi
£1000 tuag at Apêl ofynnol
Castell Aberteifi. Yn ystod yr
hydref a'r gaeaf, mae'r sgyrsiau
yn, ac wedi cael eu cynnal ar
Ddydd Mawrth 1af bob mis yn y
Gymraeg neu’n ddwyieithog ac ar
3ydd dydd Mawrth bob mis yn
Saesneg. Mae’r trafodaethau’n
amrywio o ffocws ar y Castell a
Dyffryn Teifi, hanes canoloesol a
morol, ymwelwyr yr 19eg ganrif, i
ddaeareg, modrwyo adar, cyfraith
yr 19eg ganrif yn ogystal â
diweddariadau ar y prosiect o
adnewyddu’r Castell.
Cynhaliwyd sgwrs ddiddorol iawn
gan Helen Palmer, Archifydd y Sir
ar 'Lythyrau Llantood' ar yr 16eg o
Hydref, a bydd y dyddiad yma yn
cael ei ddathlu fel y dyddiad y
cyrhaeddodd y darlithoedd eu
targed o godi £1000 tuag at yr
apêl.
Hoffai gwirfoddolwyr y Castell
ddiolch i bob un o'r 16 siaradwr
hyd yn hyn ac i’r rhai sydd wedi
trefnu ymuno â ni yn ystod y
misoedd nesaf. Heb eu help nhw
ni fyddai hyn yn bosibl.
Mae'r gwirfoddolwyr yn parhau i
godi arian ar gyfer y gronfa
gymunedol a bydd y sgwrs nesaf
yn cael ei chynnal ar ddydd
Mawrth 20 Tachwedd gan Ginny
Lowe. Mae'r sgyrsiau yn cael eu
cynnal yn Nhŷ Castell, Stryd
Werdd am 7.30pm, am £5 yn
cynnwys lluniaeth ysgafn a gwin.
Darlithoedd y Castell
yn cyrraedd £1000
tuag at yr apêl
Grŵp Archifo
Mae Grŵp Archifo
gwirfoddolwyr y Castell yn
cael ei ffurfio yn y dyfodol
agos. Bydd y grŵp yn trafod y
dulliau gorau o ymchwilio,
darganfod sut i edrych ar ôl
archifau a llawer mwy. Bydd
hon yn ffordd wych i ddysgu
sgil newydd (neu i barhau i
ddefnyddio sgiliau sydd
gennych eisoes), a chael hwyl
gyda grŵp neis o bobl.
Rhowch wybod i Gwenllian os
oes gennych ddiddordeb
mewn ymuno â'r grŵp. Mae
gan y castell archifau diddorol
o wahanol gyfnodau yn ei
hanes cythryblus. Drwy ymuno
â'r grŵp archif gallwch ddysgu
mwy am hanes y castell ac am
hanes lleol. Bydd y gwaith o
fudd i brosiect y castell, gallwn
gyfri’r amser a dreulir fel
amser gwirfoddol gan symud
gam arall yn nes at y targed!
gwenllian.cadwganbpt@
btconnect.com
Archiving Group
A Castle Volunteers’ Archiving
Group is to be formed in the
near future. The group will
discuss the best methods of
researching, find out how to
look after archives and much
more. This will be a great way
to learn a new skill (or contin-
ue to use a skill you already
have), and have fun with a
nice group of people.
Please let Gwenllian know if
you would be interested in
joining the group. The castle
has many interesting archives,
from different stages in its tur-
bulent history – by joining the
archive group you can learn
more about the castle’s story
and about local history. The
work will be of benefit to the
castle project, so we can
count the time spent as volun-
teer time and move another
step closer to the target!
gwenllian.cadwganbpt@
btconnect.com
Cardigan Castle Talks began
Easter 2012 and continued every
Tuesday throughout the school
term, with the aim of raising
£1000 towards the required Car-
digan Castle Appeal. During this
autumn and winter, the talks
have and are being held on the
1st Tuesday of every month in
Welsh or bilingually and the 3rd
Tuesday of every month in Eng-
lish. Talks have ranged from a
focus on the Castle and the Tivy
Valley’s medieval and maritime
history, to 19th century visitors,
geology, bird ringing, 19th centu-
ry law as well as past and pre-
sent updates on the Castles Ren-
ovation Project.
A fascinating talk by Helen Palm-
er, the County Archivist on the
'Llantood Letters' was held on the
16th of October, a date that will
be celebrated as it was also the
date the talks reached their aim
of raising £1000 towards the ap-
peal.
The Castle Volunteers would like
to thank all the 16 speakers to
date and those who are booked
to join us in the coming months
as without their help this would
not be possible.
The volunteers are
continuing to raise
money for the Com-
munity Fund and the
next talk is due to be
held on Tuesday 20
November by Ginny
Lowe. The talks are
held at Ty Castell,
Green St at 7.30pm,
at £5 with wine and
light refreshments.
Castle Talks reach
£1000 towards
appeal
Taith i Gydweli
Gwnaeth gwirfoddolwyr,
staff, ymddiriedolwyr a
ffrindiau ymweld â Chastell
Cydweli yr ar daith i
ddarganfod mwy. Cawsom
lawer o hwyl felly
gwnewch yn siŵr eich bod
yn cofrestru’ch diddordeb
ar gyfer y daith nesaf.
Kidwelly Trip
Volunteers, staff, trustees
and friends visited
Kidwelly Castle last week
on a fact finding mission.
We had a blast so make
sure you register your in-
terest for the next trip.
Bydd cam nesaf y gwaith torri
coed yn parhau yn yr wythnosau
nesaf a fydd yn caniatáu llawer
mwy o olau ar y safle, bydd y
cam hwn yn cael ei gwblhau
erbyn canol mis Rhagfyr. Mae’r
gwaith plannu hefyd yn mynd yn
ei flaen yn ardal y berllan gyda
phedwar coeden afalau
treftadaeth Cymraeg o’r ardal yn
cael eu plannu. Rydym wedi
croesawi Josh Philips o Ysgol
Uwchradd Aberteifi yma ar
brofiad gwaith a bydd yn helpu
Kevin ein Prif Arddwr yn yr ardd.
The next phase of the tree felling
works will continue in the next
few weeks allowing a lot more
light onto the site, this phase will
be completed by mid December.
Planting work is also continuing in
the orchard area with four
regional Welsh heritage apple
trees being planted. We have
Josh Philips from Ysgol
Uwchradd Aberteifi here on work
experience helping Kevin our
Head Gardener.
Yn yr ardd In the garden
Digwyddiadau
Tachwedd 10
Ffair a marchnad Aberteifi
Dewch i ymweld â'n stondin sydd wedi’i leoli ar Riw’r
Grosvenor ar Ddiwrnod Ffair Aberteifi. Dewch i glywed mwy
am ddatblygiadau’r Castell a chamau nesaf y prosiect. Bydd
Blanced yr Eisteddfod yn cael ei harddangos yn ogystal â
phrint o Shane Williams sydd ar werth.
Tachwedd 20
Ginny Lowe, Darlithoedd y Castell. Tŷ Castell, Stryd Werdd,
Aberteifi. 7.30pm. £5.
Tachwedd 22
Cwis
Mae ein cwis tafarn misol yn cael ei gynnal yn y Llew Du,
Aberteifi am 7.30pm. Mae mynediad yn £5 y tîm a dim mwy
na 4 mewn tîm. Croeso i bawb, felly dewch draw i roi cynnig
ar ennill y wobr!
Rhagfyr 10
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol YCA Cadwgan BPT
Rhagyr 15
Ffair Nadolig
Ffair Nadolig / Ras hwyl thema’r Nadolig – gwisgwch i fyny
ac ymunwch yn y ras hwyl i weld os allwch chi ennill y
gystadleuaeth gwisg ffansi! Fe fydd gwobr am y wisg orau,
felly beth fyddwch chi - carw neu Sion Corn ...?
Rhagyr 19
Tad Cunanne, Darlithoedd y Castell. Tŷ Castell, Stryd
Werdd, Aberteifi. 7.30pm. £5.
Dyddiad i’w gadarnhau
Tynnu’r pileri i lawr.
Events
November 10
Cardigan Fair and Market
Come and visit our stall located on Grosvenor Hill on Cardi-
gan Fair Day. Find out more about the developments at the
castle and the next steps for the project. The hand-knitted
Eisteddfod Blanket will be on display so you can see the
amazing craft-work for yourself as well as a signed print
portrait of Shane Williams that is for sale.
November 20
Ginny Lowe, Castle talks at Tŷ Castell, Green St at 7.30pm
£5
November 22
Quiz
Our monthly pub quiz is being held at the Black Lion, Cardigan at 7.30pm. Entry is £5 per team and no more that 4 people per team. Everyone is welcome, so come along and try for the prize!
December 10
YCA Cadwgan BPT Annual General Meeting.
December 15
Christmas Fair
Christmas Fair / Christmas Themed fun run – dress up to join
in the fun run and see if you can win the fancy dress compe-
tition! There’ll be a prize for the best dressed, so what will
you be – a reindeer or Santa Claus …?
December 19
Father Cunanne, Castle talks at Tŷ Castell, Green St at
7.30pm £5
Date to be confirmed
Stanchion removal.
Ymaelodwch ag elusen
Cadwgan
Mae Ymddiriedolaeth Cadwraeth
Adeiladau Cadwgan yn gofyn am sylfaen
aelodaeth gynhwysol er mwyn helpu
gwneud Castell Aberteifi a’r adeiladau
cysylltiedig ar y safle 2 erw, yn un o’r
atyniadau mwyaf i dwristiaid yng
Nghymru. Mae hyn yn golygu cynnwys
pobl o wahanol sgiliau a phrofiadau.
Allech chi gyfrannu?
Bydd aelodaeth yn parhau am flwyddyn
galendr, neu bydd ceisiadau a wneir ar
ôl 1 Medi, yn parhau hyd at 31 Rhagfyr y
flwyddyn ganlynol. Y gost flynyddol fydd
£10 (gwerth £12.50 i'r Ymddiriedolaeth
ar gyfer ymgeiswyr sy'n gallu ticio'r blwch
Cymorth Rhodd).
Oes gennych chi ddiddordeb?
Cysylltwch â swyddfa’r Castell ar 01239
615131 / [email protected]
neu lawrlwythwch y ffurflen o’r wefan
www.cardigancastle.com.
Os gwelwch yn dda, gallwch chi
ddychwelyd y ffurflenni aelodaeth erbyn
21Tachwedd.
Dyddiad i'r dyddiadur: Dydd Llun 10fed o
Ragfyr. Bydd y Cyfarfod Cyffredinol
Blynyddol yn agored i bawb yn y
gymuned a bydd yn gyfle gwych i
ddarganfod mwy am y prosiect a sut y
gallwch gymryd rhan.
Become a member of Cadwgan
Charity
Cadwgan Building Preservation Trust
requires an inclusive membership base
to help make Cardigan Castle and asso-
ciated buildings on its 2 acre site, a ma-
jor tourist attraction in Wales. This
means including people of varying skills
and experiences. Could you contribute?
Membership will run for a calendar year,
or for applications made after 1 Septem-
ber in a year membership will run up to
31 December in the following year. The
annual cost will be £10 (worth £12.50 to
the Trust for applicants able to tick the
Gift Aid box).
Interested? Please contact the office on
01239 615131 /
[email protected] or down-
load the application form from our web-
site www.cardigancastle.com.
Please return membership forms by 21st
November as membership applications
will need to go to the trustees' meeting
the following week.
Date for the diary: Monday 10th Decem-
ber. The AGM will be open to everyone
in the community and will be a great op-
portunity to find out more about the pro-
ject and how you can get involved.
Shane Williams MBE
Mae argraffiad cyfyngedig nawr ar gael o brint paentiad olew David Griffiths. Wedi ei arwyddo gan Shane
Williams, mae’r copi 40 x 30 modfedd yma yn argraffiad cyfyngedig;
dim ond 100 sy’n bodoli.
Archebwch heddiw, mae printiau tebyg gan David Griffiths wedi bod yn fuddsoddiad da!
Copi wedi arwyddo â ffrâm £350
Copi wedi arwyddo heb ffrâm £320
Now Available, limited edition David Griffiths oil painting print. Signed by Shane Williams, this 40 x 30 inches copy is a limited edition; only 100 exist in the world.
Place your order today! Similar prints by David Griffiths have proved a great investment!
Framed signed copy £350
Unframed signed copy £320