ydy fy mhlentyn yn barod i gael ei adael ar ei ben ei hun? · 2015. 12. 14. · ichi ei adael,...

18
Ydy fy mhlentyn yn barod i gael ei adael ar ei ben ei hun? Canllawiau gwybodaeth

Upload: others

Post on 31-Mar-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Ydy fy mhlentyn yn barod i gael ei adael ar ei ben ei hun? · 2015. 12. 14. · ichi ei adael, gwnewch yn siŵr mai am gyfnod byr yn unig y bydd hynny. • Os ydych chi’n gadael

Ydy fy mhlentyn yn barod i gael ei adael

ar ei ben ei hun?

Canllawiau gwybodaeth

Page 2: Ydy fy mhlentyn yn barod i gael ei adael ar ei ben ei hun? · 2015. 12. 14. · ichi ei adael, gwnewch yn siŵr mai am gyfnod byr yn unig y bydd hynny. • Os ydych chi’n gadael

01

Beth sydd yn y canllaw

Mae pob teulu’n wahanol. Felly gwnewch y canllaw hwn yn bersonol i chiGallwch wneud nodiadau arno, ei addasu i’ch amgylchiadau chi, a thorri’r adran ar y cefn i ffwrdd i’w roi ar eich oergell - beth bynnag sy’n

gweithio i chi.

All fy mhlentyn neu fabi aros gartref ar ei ben ei hun? 03

Bod ‘yn gyfrifol’ 05

Sut mae’ch plentyn yn teimlo? 07

Rheolau’r tŷ 09

Beth os oes angen gofal plant arna i? 10

Dewis gofal plant 11

Gwirio gwarchodwr 12

Gyda phwy alla i siarad? 13

Rydym yma ichi 24/7 14

Tra byddaf i ffwrdd: taflen i’w thorri allan a’i chadw Atodiad

Canllaw gwybodaeth yr NSPCC

Page 3: Ydy fy mhlentyn yn barod i gael ei adael ar ei ben ei hun? · 2015. 12. 14. · ichi ei adael, gwnewch yn siŵr mai am gyfnod byr yn unig y bydd hynny. • Os ydych chi’n gadael

Wrth i’ch plentyn fynd yn hŷn, yn aml bydd eisiau mwy o annibyniaeth arno. Ond sut allwch chi wneud yn siŵr ei fod yn ddiogel pan nad yw gyda chi?

Ar ryw adeg, bydd yn rhaid i bob rhiant dreulio amser oddi wrth eu plentyn. Mae gwaith, apwyntiadau ac ymrwymiadau teuluol yn gallu golygu bod yn rhaid ichi fod mewn llawer o lefydd. Efallai fod angen seibiant arnoch chi hefyd a chael amser i chi eich hun yn unig.

Gall y canllaw hwn eich helpu i benderfynu beth sydd orau i’ch plentyn, ei baratoi ar gyfer bod yn y tŷ ar ei ben ei hun, a gwneud yn siŵr ei fod yn ddiogel.

02

Mae’ch plentyn yn dibynnu arnoch chi i’w ddiogelu, a chi sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr ei fod yn hapus, yn ddiogel ac yn cael gofal da pan nad ydych chi ar gael.

Cofiwch

Ydy fy mhlentyn yn barod i gael ei adael ar ei ben ei hun?

Page 4: Ydy fy mhlentyn yn barod i gael ei adael ar ei ben ei hun? · 2015. 12. 14. · ichi ei adael, gwnewch yn siŵr mai am gyfnod byr yn unig y bydd hynny. • Os ydych chi’n gadael

03

Wrth feddwl am adael eich plentyn gartref, y peth cyntaf i’w ystyried yw ei oed a’i aeddfedrwydd. Ydy’ch plentyn yn ddigon hen i aros gartref ar ei ben ei hun? Ac am faint? Cofiwch, i blentyn ifanc, gall hanner awr deimlo’n hir iawn.

Yn bwysicach na dim, mae angen ichi ystyried dymuniadau a theimladau’ch plentyn.

All fy mhlentyn neu fabi aros gartref ar ei ben ei hun?

Canllaw gwybodaeth yr NSPCC

Hoff stori

Page 5: Ydy fy mhlentyn yn barod i gael ei adael ar ei ben ei hun? · 2015. 12. 14. · ichi ei adael, gwnewch yn siŵr mai am gyfnod byr yn unig y bydd hynny. • Os ydych chi’n gadael

04

All fy mhlentyn neu fabi aros gartref ar ei ben ei hun?

Dydy’r gyfraith ddim yn pennu’r oedran ar gyfer gallu gadael plentyn ar ei ben ei hun.

Ond mae yn erbyn y gyfraith gadael plentyn ar ei ben ei hun os yw hynny’n rhoi’r plentyn mewn perygl.

Tarwch olwg ar y cwestiynau ar dudalen

saith i’ch helpu i feddwl am sut y byddai’ch plentyn yn

ymdopi heboch chi.

Beth ydy esgeulustod?

Gall rhieni gael eu herlyn am esgeulustod os byddant yn gadael plentyn ar ei ben ei hun mewn ffordd a fydd yn debygol o achosi niwed i iechyd neu ddioddefaint diangen.

Mae esgeulustod yn cynnwys methiant ar ran rhieni i ddiwallu anghenion sylfaenol eu plentyn, fel darparu bwyd a dillad cynnes, peidio ag ymateb i’w anghenion emosiynol, neu adael plentyn ar ei ben ei hun yn rheolaidd.

Mae esgeulustod yr un mor ddifrifol â mathau eraill o gamdriniaeth oherwydd gall yr effeithiau fod yn niweidiol ac yn barhaol.

Mae pob plentyn yn wahanol, ond dilynwch y cyngor hwn i gadw’ch plentyn yn ddiogel.

• Peidiwchbythâgadaelbabi neu blentyn ifanc ar ei ben ei hun yn y tŷ, nid am ychydig funudau hyd yn oed - ni waeth a yw’n cysgu neu’n effro. Mae’r rhan fwyaf o ddamweiniau’n digwydd yn y cartref, a phlant o dan 5 oed sydd fwyaf tebygol o gael eu brifo.

• Hydynoedosyw’chplentyn bron yn 12 oed, efallai nad yw’n ddigon aeddfed i ymdopi ag argyfwng. Os oes raid ichi ei adael, gwnewch yn

siŵr mai am gyfnod byr yn unig y bydd hynny.

• Osydychchi’ngadaelplentyn hŷn ar ei ben ei hun, gwnewch yn siŵr ei fod yn hapus â’r trefniant ac yn gwybod pryd a sut i gysylltu â chi a’r gwasanaethau brys.

• Osyweichplentynodan16 oed, ni ddylai gael ei adael ar ei ben ei hun dros nos.

• Dysgwcheichplentynbeth i’w wneud petai problem yn codi. Cadwch eich ffôn symudol wrth law a gwnewch yn siŵr fod eich plentyn yn gwybodyrhif.Hefyd,gadewch restr o bobl rydych yn ymddiried ynddynt, pobl y gall y plentyn fynd atynt neu eu ffonio, rhywun fel cymydog neu berthynas. Gallwch ddefnyddio’r adran torri allan yng nghefn y llyfryn hwn i’ch helpu gyda hyn.

Ydy fy mhlentyn yn barod i gael ei adael ar ei ben ei hun?

Page 6: Ydy fy mhlentyn yn barod i gael ei adael ar ei ben ei hun? · 2015. 12. 14. · ichi ei adael, gwnewch yn siŵr mai am gyfnod byr yn unig y bydd hynny. • Os ydych chi’n gadael

05

Mae rhai plant yn hoffi manteisio ar bob cyfle i ddangos eu bod yn gallu ymddwyn fel oedolyn. Efallai y byddant hefyd yn awyddus iawn i fod ‘yn gyfrifol’ am y tŷ. Ond ar eu pennau’u hunain, bydd angen iddynt wybod sut i ymdopi â gwahanol sefyllfaoedd. A chofiwch - gall cyfnod byr deimlo’n oes i blentyn ifanc sy’n wynebu argyfwng.

Bod ‘yn gyfrifol’

Canllaw gwybodaeth yr NSPCC

Page 7: Ydy fy mhlentyn yn barod i gael ei adael ar ei ben ei hun? · 2015. 12. 14. · ichi ei adael, gwnewch yn siŵr mai am gyfnod byr yn unig y bydd hynny. • Os ydych chi’n gadael

y trydan yn diffodd?

rydych chi i ffwrdd am gyfnod hirach na’r disgwyl?

tap yn torri a dŵr yn gorlifo yn y stafell ymolchi?

rhywun dieithr yn cnocio ar y drws?

y plentyn yn teimlo’n llwglyd ac angen paratoi bwyd?

Beth os bydd y canlynol yn digwydd...

06

Meddyliwch sut y maent yn ymddwyn mewn sefyllfaoedd eraill. Ydy’ch plentyn yn dilyn eich cyfarwyddiadau chi gartref? Ydy’ch plentyn yn gyfrifol ac yn aeddfed yn yr ysgol?

Yna meddyliwch sut y byddai’n ymdopi ag unrhyw beth annisgwyl. Gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi’ch hun a byddwch yn realistig am sut y mae’ch plentyn yn debygol o ymateb.

Ydych chi wedi gweld ein cyngor magu plant ar-lein?

Fe welwch lawer o adnoddau defnyddiol i’ch helpu gyda llawer o bethau, fel cadw’ch plentyn yn ddiogel gartref, ac ar-lein. Ewch i nspcc.org.uk/parenting

Rhowch gynnig ar wahanol sefyllfaoedd. Gofynnwch i’ch plentyn beth fyddai’n ei wneud. A fyddai’r sefyllfa yn achosi pryder neu straen? Siaradwch â’ch plentyn am y pethau hyn yn rheolaidd, mewn ffordd sy’n addas i’w oedran. Drwy gael y sgyrsiau hyn yn aml, cewch ddarlun gwell yn ddigon buan o’r hyn y bydd eich plentyn yn gallu ymdopi ag ef.

Ydy fy mhlentyn yn barod i gael ei adael ar ei ben ei hun?

Page 8: Ydy fy mhlentyn yn barod i gael ei adael ar ei ben ei hun? · 2015. 12. 14. · ichi ei adael, gwnewch yn siŵr mai am gyfnod byr yn unig y bydd hynny. • Os ydych chi’n gadael

07

Mae’n bwysig iawn cael gwybod sut mae’ch plentyn yn teimlo am fod adref ar ei ben ei hun. Gwrandewch ar unrhyw bryderon sydd ganddo a gofyn beth fyddai’n gwneud iddo deimlo’n hapusach. I ddechrau’r sgwrs, gallech roi cynnig ar y cwis hwn gyda’ch gilydd.

Sut mae’ch plentyn yn teimlo?

1 Dwi’n poeni am...

2 Dwi ddim yn siWr beth fyddwn i’n ei wneud...

petawn yn cael fy ngadael am amser hirach nag y gwnaethon ni gytuno arno

Canllaw gwybodaeth yr NSPCC

pe na fyddwn yn gallu cysylltu â thi

petai rhywun yn dod at y drws

petai argyfwng yn codi

Page 9: Ydy fy mhlentyn yn barod i gael ei adael ar ei ben ei hun? · 2015. 12. 14. · ichi ei adael, gwnewch yn siŵr mai am gyfnod byr yn unig y bydd hynny. • Os ydych chi’n gadael

08

Os ydych chi wedi siarad â’ch plentyn am aros yn y tŷ ar ei ben ei hun a’r ddau ohonoch yn teimlo ei fod yn barod, gwnewch rai archwiliadau terfynol. Gall helpu i dawelu ofnau’r ddau ohonoch. Cofiwch - ddylech chi byth adael plentyn gartref ar ei ben ei hun os nad yw’n hapus i gael ei adael.

Rhai gwiriadau diogelwch i’w hystyried:

• Ydy’rlarymautân,cloeonaffenestri’ngweithio’n iawn?

• Aoessetsbâroallweddiargael?

• Aoesunrhywbethynrhwystro’chplentyn rhag cael bwyd neu ddefnyddio’r stafell ymolchi?

3 Unrhyw beth arall?

4 Byddai’n ddefnyddiol petai...

• Aoesunrhywbethogwmpasaallainiweidio neu frifo eich plentyn?

• Aoesganeichplentynfforddo gysylltu â chi?

• Pwysy’nbywgerllawygallymddiriedynddynt a chysylltu â nhw am help?

• Bethallwchchieiwneudileihauunrhywberyglon? (Meddyliwch am bethau fel cyllyll miniog, alcohol neu feddyginiaethau a lle maent yn cael eu cadw.)

Cofiwch Estynnwch yr amser yr ydych yn gadael eich plentyn ar ei ben ei hun yn raddol.

Ydy fy mhlentyn yn barod i gael ei adael ar ei ben ei hun?

Page 10: Ydy fy mhlentyn yn barod i gael ei adael ar ei ben ei hun? · 2015. 12. 14. · ichi ei adael, gwnewch yn siŵr mai am gyfnod byr yn unig y bydd hynny. • Os ydych chi’n gadael

09

Rheolau’r tŷ Mae’n syniad da cytuno ar ambell i reol tŷ sy’n addas i oed ac aeddfedrwydd eich plentyn cyn ei adael ar ei ben ei hun yn y tŷ. Siaradwch â’ch plentyn am yr hyn sy’n iawn a ddim yn iawn a llunio rhestr efallai o’r hyn rydych yn penderfynu arno.

Sut bydd eich plentyn yn treulio’i amser?

Os ydych chi’n fodlon i’w ffrindiau alw heibio, cytunwch ar y terfynau. Faint o ffrindiau fydd yn cael dod heibio?

Wrth bwy y dylai ddweud?

Os yw eich plentyn yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gyhoeddi ei fod ar ei ben ei hun yn y tŷ, gallech chi ddychwelyd i barti mawr yn y tŷ, neu westeion annerbyniol. Felly byddwch yn glir ynghylch pwy ddylai gael gwybod.

Sefydlwch gynllun.

Cytunwch ar yr hyn y dylai eich plentyn ei wneud os bydd yr annisgwyl yn digwydd. Er enghraifft, os bydd eich plentyn yn arogli nwy neu’n syrthio ac yn brifo - a fyddai’n gwybod beth i’w wneud?

Dylech adolygu rheolau’r tŷ yn rheolaidd wrth i’ch plentyn fynd yn hŷn.

Canllaw gwybodaeth yr NSPCC

Page 11: Ydy fy mhlentyn yn barod i gael ei adael ar ei ben ei hun? · 2015. 12. 14. · ichi ei adael, gwnewch yn siŵr mai am gyfnod byr yn unig y bydd hynny. • Os ydych chi’n gadael

10

Efallai y byddwch yn penderfynu nad yw eich plentyn yn barod i aros yn y tŷ ar ei ben ei hun. Neu efallai y bydd achlysur yn codi pan fyddwch allan yn rhy hwyr, neu am ormod o amser, i adael eich plentyn ar ei ben ei hun.

Beth os oes angen gofal plant arna i?

Efallai y cewch eich temtio i adael i frawd neu chwaer hŷn ofalu am blentyn iau, ond gallai hynny fod yn anodd os yw’r plentyn iau yn wael neu os bydd rhywbeth annisgwyl yn digwydd.

Dyma’r amser y bydd angen help arnoch gyda gofal plant. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio rhywun 16 oed a hŷn bob amser. Diolch byth, mae digon o opsiynau ar gael.

“Roedd clwb ar ôl ysgol fy mhlant yn grêt - yn hwyl iddyn nhw ac yn dawelwch meddwl i fi.”

Mattdad Lucy, 10 ac Alex, saith oed

Ydy fy mhlentyn yn barod i gael ei adael ar ei ben ei hun?

Page 12: Ydy fy mhlentyn yn barod i gael ei adael ar ei ben ei hun? · 2015. 12. 14. · ichi ei adael, gwnewch yn siŵr mai am gyfnod byr yn unig y bydd hynny. • Os ydych chi’n gadael

11

Mae dewis y math iawn o ofal plant yn dibynnu ar oedran y plentyn a beth sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n gyfforddus. Gall hefyd ddibynnu ar pryd yr ydych ei angen ac a oes angen i’r gofalwr wneud pethau fel codi’r plant o’r ysgol.

Dewis gofal plant

• Gallteuluaffrindiaurydychyneuhadnabod ac yn ymddiried ynddynt eich helpu. Efallai fod gennych ffrindiau mewn sefyllfa debyg a allai rannu’r baich neu neiniau a theidiau sy’n byw gerllaw.

• Maecylchoeddgwarchodynwych,gyda rhieni’n cymryd eu tro i warchod plant aelodau’r cylch rydych yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt. Gallech ymuno â chylch wrth eich ymyl, neu sefydlu un gyda chymdogion a rhieni eraill rydych yn eu hadnabod drwy ysgol eich plentyn.

• Maemeithrinfeyddfelarferyngofaluam blant hyd at oedran ysgol.

• Maegwarchodwyrplantyngofaluamblant o amrywiol oedrannau yn eu cartref eu hunain.

• Maeclybiauarôlysgolyncynnigawrneu ddwy o weithgareddau hwyliog

Rhai opsiynau

Os oes gennych blentyn rhwng dwy a phedair oed, efallai y gallwch gael gofal plant am ddim gan y llywodraeth. Ewch i gov.uk/freechildcare i gael rhagor o wybodaeth.

mewn amgylchedd diogel o dan oruchwyliaeth. Siaradwch â’ch ysgol am yr hyn sydd ar gael.

• Gallasiantaethaugwarchodhelpuosbydd angen help arnoch yn achlysurol. Efallai nad yw gwarchodwr nad yw’n dod o asiantaeth wedi cael yr un archwiliadau cefndir, ac felly efallai y bydd angen gofyn ychydig o gwestiynau cyn ei hurio. Mae asiantaethau gwahanol yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol a gall prisiau y maent yn eu codi amrywio.

Canllaw gwybodaeth yr NSPCC

Page 13: Ydy fy mhlentyn yn barod i gael ei adael ar ei ben ei hun? · 2015. 12. 14. · ichi ei adael, gwnewch yn siŵr mai am gyfnod byr yn unig y bydd hynny. • Os ydych chi’n gadael

12

Os ydych chi’n ystyried defnyddio gwarchodwr nad ydych yn ei adnabod yn dda iawn, efallai y bydd angen ichi ystyried a fydd yn gallu gofalu am eich plentyn tra byddwch i ffwrdd.

Gwirio gwarchodwr

Does dim byd yn y gyfraith yn pennu isafswm oed gwarchodwr. Ond rydym yn argymell defnyddio rhywun sy’n 16 oed neu hŷn. Efallai nad yw gwarchodwyr iau yn ddigon aeddfed - neu heb yr awdurdod - i fod yn gyfrifol.

Ydy’r gwarchodwr yn gofalu am fwy nag un plentyn? Neu blentyn ag anghenion cymhleth? Meddyliwch am yr hyn y gall ddelio ag ef ar ei ben ei hun.

Ydy’r gwarchodwr yn brofiadol? Sut y byddai’n delio â rhywbeth fel eich plentyn yn gwrthod mynd i’r gwely?

Mae’n syniad da cael sgwrs â’ch gwarchodwr i ddechrau. Ac yn ddelfrydol, dewch â’r gwarchodwr a’r plentyn at ei gilydd i weld sut y maent yn bwrw ymlaen.

Dylech bob amser ddilyn eich greddf. Os oes rhywbeth nad yw’n teimlo’n iawn, does dim rhaid ichi barhau â’r trefniant. Siaradwch â’ch plentyn ac os yw’n anhapus â rhyw warchodwr, dewch o hyd i rywun arall.

Ydy fy mhlentyn yn barod i gael ei adael ar ei ben ei hun?

Page 14: Ydy fy mhlentyn yn barod i gael ei adael ar ei ben ei hun? · 2015. 12. 14. · ichi ei adael, gwnewch yn siŵr mai am gyfnod byr yn unig y bydd hynny. • Os ydych chi’n gadael

13

Gyda phwy alla i siarad? Mae babanod a phlant ifanc iawn yn dibynnu arnoch chi

Mae pob rhiant yn teimlo o dan straen o bryd i’w gilydd. Os bydd angen cyngor a chefnogaeth arnoch chi neu rywun rydych yn ei adnabod, mae’n bwysig cael help yn gynnar. Gallwch siarad â’ch bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu feddyg teulu ac mae sawl grŵp ac elusen yn gallu helpu hefyd.

Daliwch ati i siarad wrth i’ch plentyn dyfu

Panfyddeichplentynyntyfuacyndodynfwy annibynnol, bydd angen iddo ddysgu mwy am aros yn ddiogel pan na fydd gyda chi. Daliwch ati i siarad ac ateb unrhyw gwestiynau a fydd ganddo.

Gall ffrindiau, teulu a rhieni eraill hefyd gynnig clust i wrando. Mae yna fudiadau gwych sy’n gallu rhoi cymorth a chyngor hefyd.

Mae Family Lives yn rhoi cymorth a chefnogaeth ar bob agwedd ar fagu plant a bywyd teuluol, ac mae’n cynnal Parentline. 0808 800 2222familylives.org.uk

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yng Nghymru yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth ac arweiniad ar bob agwedd ar ofal plant a gwasanaethau plant a phobl ifanc. familyinformation.org.uk

Mae gan RoSPA wybodaeth i rieni ar ddiogelwch yn y cartref. 0121 248 2000rospa.com

Gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor ar faterion fel hawliau rhieni yn y gwaith. citizensadvice.org.uk

Canllaw gwybodaeth yr NSPCC

Page 15: Ydy fy mhlentyn yn barod i gael ei adael ar ei ben ei hun? · 2015. 12. 14. · ichi ei adael, gwnewch yn siŵr mai am gyfnod byr yn unig y bydd hynny. • Os ydych chi’n gadael

14

Rydym yma ichi 24/7

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon, mae croeso i chi gysylltu â ni.

GalleinharbenigwyrarlinellgymorthyrNSPCCwrando ar unrhyw bryderon sydd gennych am adael eich plentyn ar ei ben ei hun, neu unrhyw benderfyniadau anodd rydych yn eu hwynebu.

Efallai hefyd fod darllen y canllaw hwn wedi gwneud ichi feddwl am blant eraill sydd yn cael eu gadael ar eu pennau’u hunain. Cysylltwch â ni os ydych yn poeni am unrhyw agwedd ar eu diogelwch, a gallwn helpu.

Ffoniwch 0808 800 5000

E-bostiwch [email protected]

Neu siaradwch â ni ar-lein yn nspcc.org.uk/help

Ydy fy mhlentyn yn barod i gael ei adael ar ei ben ei hun?

Page 16: Ydy fy mhlentyn yn barod i gael ei adael ar ei ben ei hun? · 2015. 12. 14. · ichi ei adael, gwnewch yn siŵr mai am gyfnod byr yn unig y bydd hynny. • Os ydych chi’n gadael

Torrwch yma, ei lenwi a’i gadw’n

ddiogel.

Page 17: Ydy fy mhlentyn yn barod i gael ei adael ar ei ben ei hun? · 2015. 12. 14. · ichi ei adael, gwnewch yn siŵr mai am gyfnod byr yn unig y bydd hynny. • Os ydych chi’n gadael

Tra byddaf i ffwrdd Dyddiad

Byddaf allan am... Byddaf yn ôl erbyn...

CoFiwch

Enw:

Ffôn:

Enw:

Ffôn:

Enw:

Ffôn:

Enw:

Ffôn:

Rhifau pwysig

Page 18: Ydy fy mhlentyn yn barod i gael ei adael ar ei ben ei hun? · 2015. 12. 14. · ichi ei adael, gwnewch yn siŵr mai am gyfnod byr yn unig y bydd hynny. • Os ydych chi’n gadael

Cwestiwn y mae’n rhaid i bob rhiant ei wynebu

©N

SP

CC

20

15

. Elu

sen

gofr

estr

edig

yng

Ngh

ymru

a L

loeg

r 21

64

01

. Yr A

lban

SC

03

77

17.

J2

01

51

12

1.

Pan ddaw’r amser i adael eich plentyn ar ei ben ei hun, pa mor fuan yw rhy fuan?

Pa un a yw’n aros ar ei ben ei hun am awr neu ddwy neu am gyfnod hirach - sut mae’r plentyn yn teimlo am y peth? Sut allwch chi sicrhau bod eich plentyn yn ddiogel?

Mae’r canllaw hwn yn cynnwys cyngor,

awgrymiadau ac adnoddau ymarferol

i’ch helpu i wneud penderfyniadau

sy’n iawn i’ch plentyn chi.