ysgol gyfun dyffryn taf 1996 dewis...

32
LLAWLYFR LLWYBRAU DYSGU BLYNYDDOEDD 10/11 2018/2019 Ar gael ar ein gwefan: www.dyffryntaf.org.uk DYFFRYN TAF

Upload: others

Post on 23-Jan-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

LLAWLYFR LLWYBRAU DYSGU

BLYNYDDOEDD 10/11

2018/2019

Ar gael ar ein gwefan: www.dyffryntaf.org.uk

DYFFRYN TAF

Page 2: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

SUT GALL Y LLAWLYFR HWN

EICH HELPU Nawr, a chwithau ar drothwy Blwyddyn 10, rhaid gwneud llawer o benderfyniadau ynglyn â’ch dyfodol. Un o’r rhai anoddaf, mae’n bur debyg, yw penderfynu i ba gyfeiriad y bydd eich gyrfa yn eich arwain. Lluniwyd y llyfryn hwn i’ch helpu a gobeithio y bydd o gymorth i chi wneud y penderfyniadau cywir. Fe’ch argymhellir i’w ddarllen yn ofalus a’i drafod gyda’ch rhieni cyn i chi ddechrau dewis.

CYNNWYS

Sut gall y llyfryn hwn eich helpu Tudalen 2 Llythyr y Prifathro Tudalen 3 Dewis Pynciau 2018-2019 Tudalen 4 Blwyddyn 10 ac 11 Tudalen 5 Cyngor ac Awgrymiadau Tudalen 6 Gwasanaeth Gyrfaol Tudalen 7 Pynciau Gorfodol Tudalennau 8 - 15 Addysg Grefyddol Gyffredinol Tudalen 8 Addysg Bersonol a Chymdeithasol Tudalen 8 Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg Tudalen 9 Mathemateg Tudalen 10,11 Iaith Gymraeg/Ail Iaith Tudalen 12,13 Gwyddoniaeth Tudalen 14 Cymhwyster Bagloriaeth Cymru Tudalen 15 Pynciau Dewisol Tudalennau 16 - 30 Daearyddiaeth Tudalen 16 Hanes Tudalen 17

Ffrangeg Tudalen 18 Astudiaethau Crefyddol Tudalen 19

Astudiaethau Drama a Theatr Tudalen 20 Celf a Dylunio Tudalen 21 Cerddoriaeth Tudalen 22 Addysg Gorfforol Tudalen 23 Dylunio a Thechnoleg – Dylunio Cynnyrch Tudalen 24 Dylunio a Thechnoleg – Ffasiwn a Thecstiliau Tudalen 25 Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Tudalen 26 Cyfrifiadureg Tudalen 27 Tystysgrif Gyntaf BTEC Lefel 2 mewn Chwaraeon Tudalen 28 Tystysgrif Gyntaf BTEC Lefel 2 mewn Lletygarwch Tudalen 29 Tystysgrif Gyntaf BTEC Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Tudalen 30

2

Page 3: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn wedi cyrraedd cyfnod pwysig yn ei addysg. Daeth amser dewis pa bynciau mae am eu hastudio hyd at safon arholiad dros y ddwy flynedd nesaf. Lluniwyd y llyfryn hwn i roi gwybodaeth i chi am y gwahanol gyrsiau sydd ar gael. Dylai disgyblion gael cymaint o wybodaeth ag y gallant gan athrawon y pwnc a chan ddisgyblion eraill ym mlwyddyn 10 ac 11 ynglŷn â chynnwys y cwrs a gofynion gwaith cwrs neu asesiad dan reolaeth. Mae’n bwysig eich bod chi a’ch mab/merch yn gwneud penderfyniadau doeth er mwyn sicrhau bod y dewisiadau cywir yn cael eu gwneud. Dylid gwneud pob ymdrech і gadw ehangder a chydbwysedd yng nghwricwlwm pob disgybl. Ni ddylai ddisgyblion arbenigo yn rhy gynnar oherwydd gallai hyn gyfyngu ar ddewis gyrfa a dewisiadau astudio yn nes ymlaen. Byddwn yn edrych yn ofalus ar y pynciau a ddewisir er mwyn sicrhau nad yw disgyblion yn dilyn cwricwlwm rhy gul. Er mwyn sicrhau bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn cael y cyfle i astudio pynciau sydd at eu dant personol, byddwn yn cynnig dewis agored o bynciau. O’r wybodaeth hon, data hanesyddol ac argaeledd staff, crewyd strwythur dewisiadau. I gynorthwyo proses Llwybrau Dysgu eich plentyn mae nifer o ddyddiadau allweddol:

Yr wythnos yn dechrau 11eg Rhagfyr 2017 – Holl ddisgyblion Blwyddyn 9 yn derbyn llyfryn Llwybrau Dysgu a gwybodaeth am bynciau BTEC. Bydd ffurflenni nodi blociau opsiwn dros dro yn cael eu dosbarthu.

Dydd Llun, 18fed Rhagfyr 2017 – Pob ffurflen nodi blociau opsiwn i'w dychwelyd i’r Tiwtoriaid Dosbarth.

Dydd Llun, 15fed Ionawr 2018 – Dosberthir ffurflenni opsiwn ar gyfer pynciau Blwyddyn 10.

Dydd Mercher, 17eg Ionawr 2018 – Cyfarfod Rhieni Blwyddyn 9: cyfle i drafod dewisiadau pwnc gydag athrawon yn yr Ysgol. Mae'r Ymgynghorydd Gyrfaoedd hefyd wedi derbyn gwahoddiad i fynychu'r cyfarfod hwn a bydd ar gael ar gyfer ymgynghoriad os oes angen.

Dydd Mawrth, 23ain Ionawr 2018 – Dylid dychwelyd pob ffurflen opsiwn i'r Tiwtoriaid Dosbarth.

Mae’n holl-bwysig bod disgybl yn dewis pynciau ar sail yr yrfa yr hoffai ei dilyn a/neu ar sail diddordeb neu lwyddiant personol mewn pwnc arbennig. Peidiwch a gadael i ’ch mab/merch ddewis pwnc dim ond am fod ei ffrind wedi dewis y pwnc hwnnw..

Gobeithio y gwnewch chi bob ymdrech i ddod i’r cyfarfod ar 17fed Ionawr 2018 ac y bydd dewis eich mab/merch o bynciau yn help iddo/iddi ar ei daith/thaith i’r chweched dosbarth neu i barhau ag addysg bellach. Yn gywir

Mr D R Newsome OBE

Prifathro

3

Page 4: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

LLWYBRAU DYSGU AR GYFER BLWYDDYN 10 2018 - 2019

Mae Blwyddyn 10 yn dipyn o sialens o ran cwricwlwm yn Ysgol Dyffryn Taf. Yn hytrach na bod y pynciau i gyd yn orfodol, rydyn ni’n gallu cynnwys elfen o ddewis yn y system. Mae’r modd y trefnir hyn wedi’i amlinellu isod:

PYNCIAU GORFODOL Bydd pob disgybl (ar wahan i’r rhai hynny sy’n cael eu heithrio) yn astudio’r pynciau canlynol:

Saesneg )

Cymraeg )

Mathemateg )

Gwyddoniaeth )

Addysg Gorfforol )

Addysg Bersonol a Chymdeithasol/Astudiaethau Crefyddol )

Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ) Yn dilyn Adolygiad Llywodraeth Cymru o Gymwysterau, gwnaed newidiadau i'r Meysydd Dysgu ar gyfer Saesneg Iaith, y Gymraeg a Mathemateg. Mae Cymhwyster Bagloriaeth Cymru wedi'i ddiwygio a'i wneud yn fwy trylwyr. Bydd y cwricwlwm, y TGAU a Bagloriaeth Cymru ar ei newydd wedd, yn addysgu ac yn profi'r sgiliau sy'n cael eu hystyried, yn rhyngwladol, yn hanfodol i lwyddiant mewn astudio pellach a chyflogaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn annog pawb i fabwysiadu Bagloriaeth Cymru a fydd yn rhan o'r mesurau perfformiad ar gyfer Ysgolion Uwchradd ac a fydd felly yn bwnc gorfodol yn Nyffryn Taf.

Bydd pob disgybl yn ychwanegol yn dewis 3 pwnc allan o’r colofnau pynciau

dewisol. Rhoddir pump gwers pob pythefnos i bob pwnc. Wrth lenwi’r ffurflen berthnasol, mae’n hanfodol bod disgyblion yn ystyried yn ofalus yr hyn yr hoffen nhw ei wneud

oherwydd gallai fod yn anodd i newid dewisiadau yn nes ymlaen.

4

35 allan o 50 gwers bob pythefnos

Page 5: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

BLWYDDYN 10 AC 11

ARHOLIADAU ALLANOL Gallwch ddewis y mwyafrif o’ch pynciau allan o ddau gynllun gwahanol o arholiadau, y ddau dan weinyddiaeth Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru. Y cyntaf yw TGAU, yr ail yw Lefel Mynediad a fwriedir yn bennaf ar gyfer y disgyblion hynny nad yw TGAU yn addas iddynt.

TYSTYSGRIF GYFFREDINOL ADDYSG UWCHRADD (TGAU) Gellir crynhoi prif nodweddion yr arholiad TGAU fel a ganlyn:

● Nid yw asesu yn dibynnu ar arholiad yn unig; bydd y mwyafrif o bynciau hefyd yn cynnwys Asesiadau dan Reolaeth. Ymarferion dosbarth penodol yw’r rhain a fydd yn cael eu monitro gan athrawon ac sy’n disodli’r gwaith cwrs traddodiadol. Fel rheol mae hyn yn cyfrif am o leiaf 20% o farciau’r ymgeisydd.

● Bydd cwestiynau mewn papurau arholiad yn pwysleisio sgiliau deall neu defnyddio gwybodaeth i ddatrys problemau ac nid yn unig yr hyn y gellir ei gofio.

PRESENOLDEB Mae cyflwyno Asesiadau dan Reolaeth yn gofyn am lefel uchel o bresenoldeb gan fyfyrwyr rhag iddynt golli cyfran sylweddol o farciau yn yr arholiadau TGAU.

CYRSIAU GALWEDIGAETHOL Er mwyn ehangu’r dewisiadau ar gyfer myfyrwyr cynigir Cymwysterau Galwedigaethol, sef cyrsiau sy’n gysylltiedig yn fwy penodol â gwaith, mewn Lletygarwch, Chwaraeon a Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bydd cwblhau’r cyrsiau hyn yn llwyddiannus yn caniatáu dilyniant i gymhwyster Lefel 3.

Lefel 1 Lefel 2

Graddau TGAU G – D Graddau TGAU C – A*

System raddio BTEC

TGAU Gradd C Gradd B Gradd A/A*

BTEC Llwyddo Teilyngdod Rhagoriaeth

LEFEL MYNEDIAD Bwriedir y cyrsiau ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn cael eu gweld yn addas ar gyfer yr arholiadau TGAU. Fel yr arholiadau TGAU, seilir yr asesu ar waith cwrs, profion diwedd modiwl ac arholiadau.

5

Page 6: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

HELP

Cyngor ac

awgrymiadau

Pa mor addas yw’r pwnc ar eich cyfer chi?

Tuag at ba yrfaoedd

mae’r pwnc yn arwain?

Ydych chi wedi dewis yn ddoeth?

Pwy arall sy’n gallu

helpu?

Cysylltwch ag athro’r pwnc

Cysylltwch â’r Gwasanaeth

Gyrfaol

Gweler: 1. Pennaeth

Cynorthwyol/ Pennaeth Blwyddyn 7: Mrs D Phillips

2. Pennaeth yr Ysgol Ganol: Mrs A Rimmer

3. Swyddog Gyrfaoedd

4. Prifathro Cynorthwyol: Dr H Thomas

5. Prifathro Cynorthwyol: Mr G Smith

Gofynnwch i:

1. Eich rhieni 2. Y Prifathro neu’r Dirprwy

6

Page 7: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

Ymgynghorydd Gyrfaoedd

Angharad Williams

Mae eich Ymgynghorydd Gyrfaoedd yn yr ysgol

bob dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher

Ebost: [email protected]

7

Page 8: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

ADDYSG GREFYDDOL GYFFREDINOL

Yn ôl y gyfraith, sef Deddfau Addysg 1944 a 1988, rhaid dysgu Addysg Grefyddol mewn ysgolion. Bwriad y cwrs Addysg Grefyddol Gyffredinol yw cyfarfod ag anghenion y maes llafur y cytunwyd arno’n lleol ar gyfer cyfnod allweddol 4. Dylai disgyblion sy’n dymuno cael cymhwyster yn y pwnc ddewis TGAU Astudiaethau Crefyddol ym mloc dewisiadau’r Dyniaethau.

ABCh

Bydd pob disgybl yn cyfranogi o wersi Addysg Bersonol a Chymdeithasol unwaith yr wythnos gyda’ch tiwtor dosbarth. Byddwch yn archwilio testunau Addysg Iechyd, yr Amgylchedd, Dinasyddiaeth, Gyrfaoedd ac Ymwybyddiaeth Economaidd, yn ogystal â derbyn cyngor ynglyn â Sgiliau Astudio. Ceisiwn ddarparu gwybodaeth glir i chi, a’r cyfle i drafod agweddau a gwerthoedd mewn awyrgylch lle dangosir parch at wahanol safbwyntiau a lle byddwch yn cael eich hannog i wneud penderfyniadau deallus. Bwriedir y rhaglen ABCh i’ch helpu i ennill sgiliau cymdeithasol a sgiliau ymdopi pwysig sy’n hanfodol er mwyn datblygu perthynas bositif ac ystyrlon.

Mae Dyddiau Iechyd yn rhan bwysig o’r rhaglen ABCh.

8

Page 9: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

SAESNEG A LLENYDDIAETH SAESNEG

Bwrdd Arholi: CBAC

Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr ym Mlynyddoedd 10 ac 11 yn dilyn cyrsiau Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, gan ennill dau gymhwyster TGAU ar wahân. Bydd rhai myfyrwyr yn dilyn y cwrs TGAU Iaith yn unig. Bydd perfformiad myfyrwyr yn ystod Blwyddyn 9 yn penderfynu a fyddant yn astudio y ddau, neu ganolbwyntio yn unig ar TGAU Saesneg Iaith.

Bydd yr arholiadau TGAU Iaith yn cael eu eistedd yn Tachwedd neu Mehefin ym Mlwyddyn 11. Bydd arholiadau TGAU Llenyddiaeth yn cael eu eistedd yn ystod Blwyddyn 11.

Crynodeb o Asesiad TGAU Saesneg Iaith

Uned 1 – Llafaredd 20%

Tasg 1 (10%) – Cyflwyniad Unigol Ar Sail Ymchwil Tasg 2 (10%) – Ymateb a Rhyngweithio (Un drafodaeth grŵp)

Uned 2 – Darllen ac Ysgrifennu: Disgrifio, Naratif ac Esbonio

Arholiad 2 awr (40%)

Adran A (2055) – Darllen Deall o leiaf un testun disgrifio, un naratif ac un esbonio, gan gynnwys testunau di-dor a phytiog. Asesir y darllen drwy ystod o gwestiynau strwythuredig. Bydd yr adran hon hefyd yn cynnwys tasg golygu testun a fydd yn canolbwyntio ar ddeall testunau byr ar lefel gair, brawddeg a thestun.

Adran B (20%) – Ysgrifennu Un dasg ysgrifennu o ddewis o ddau. Gall fod naill ai'n dasg ddisgrifio, tasg naratif neu dasg esbonio. Bydd yr adran hon hefyd yn cynnwys tasg prawf ddarllen yn canolbwyntio ar ysgrifennu'n gywir.

Uned 3 – Darllen ac Ysgrifennu: Trafod, Perswâd a Chyfarwyddiadol

Arholiad 2 awr (40%)

Adran A (20%) – Darllen Deall o leiaf un testun trafod, un testun perswâd ac un cyfarwyddiadol,yn cynnwys testunau di-dor a phytiog. Asesir y darllen trwy gyfres o gwestiynau strwythuredig.

Adran B (20%) – Ysgrifennu Un dasg ysgrifenedig orfodol – trafod ac un dasg ysgrifenedig orfodol - perswâd.

Crynodeb o Asesiad TGAU Saesneg Llenyddiaeth

Uned 1 – Rhyddiaith a Barddoniaeth

Arholiad 2 awr (35%)

Adran A (21%) – Rhyddiaith Gwahanol Ddiwylliannau:Of Mice and Men (Steinbeck).

Adran B (14%) – Barddoniaeth Gyfoes: Cymharu cerddi na welwyd o'r blaen.

Uned 2 – Drama treftadaeth lenyddol a rhyddiaith gyfoes

Arholiad 2 awr (40%)

Adran A (20%) – An Inspector Calls (Priestley).

Adran B (20%) – Heroes (Cormier).

Uned 3 – Shakespeare and Welsh writing in English

Controlled Assessment (25%)

Adran A – Shakespeare (12.5%) – Romeo and Juliet.

Adran B – Llenyddiaeth Cymru yn yr Iaith Saesneg (12.5%) – Astudio a chymharu 2 neu 3 cerdd o flodeugerdd Llyfrgell Cymru Poetry 1900-2000: One Hundred Poets from Wales.

9

Page 10: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

MATHEMATEG – RHIFEDD A MATHEMATEG

Bwrdd Arholi: CBAC

Arholiadau

Rhifedd Mathemateg

Mae 3 haen mynediad ar gyfer y cymhwyster hwn: Haen Uwch: Graddau A * - C Haen Ganolradd: Graddau B - E Haen Sylfaenol: Graddau D - G Rhaid i ddysgwyr sydd wedi eu gofrestru ar gyfer y cymhwyster hwn eistedd dwy uned, naill ai sylfaen, ganolradd neu uwch, yn yr un gyfres arholiadau. Bydd y papur ysgrifenedig ar gyfer pob haen yn cynnwys nifer o gwestiynau byr a hir, strwythuredig ac anstrwythuredig a allai gael eu gosod ar unrhyw ran o gynnwys pwnc y fanyleb. Bydd rhai o'r cwestiynau hyn yn cynnwys gwahanol rannau sy'n asesu gwahanol agweddau ar rifedd, ond yn yr un cyd-destun. Gall rhan-gwestiynau amrywio o ran lefel y galw. Bydd rhai cwestiynau'n defnyddio asesu amlddewis.

Mae 3 haen mynediad ar gyfer y cymhwyster hwn: Haen Uwch: Graddau A * - C Haen Ganolradd: Graddau B - E Haen Sylfaenol: Graddau D - G Rhaid i ddysgwyr sydd wedi eu gofrestru ar gyfer y cymhwyster hwn eistedd dwy uned, naill ai sylfaen, ganolradd neu uwch, yn yr un gyfres arholiadau. Bydd y papur ysgrifenedig ar gyfer pob haen yn cynnwys nifer o gwestiynau byr a hir, strwythuredig ac anstrwythuredig a allai gael eu gosod ar unrhyw ran o gynnwys pwnc y fanyleb. Bydd disgwyl i ymgeiswyr sydd wedi eu cofrestru ar gyfer Mathemateg fod yn gyfarwydd â'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sy'n ymhlyg yn Mathemateg - Rhifedd. Gall cwestiynau gael eu gosod ar bynciau a restrir yn benodol yn cynnwys Mathemateg - Rhifedd. Bydd rhai cwestiynau'n defnyddio asesu amlddewis.

Uned 1

Arholiad Dim Cyfrifiannell Arholiad 1 awr 45 munud ar gyfer yr Haen Uwch a Chanolradd. 1 awr 30 munud ar gyfer Sylfaen.

Uned 1

Arholiad Dim Cyfrifiannell Arholiad 1 awr 45 munud ar gyfer yr Haen Uwch a Chanolradd. 1 awr 30 munud ar gyfer Sylfaen.

Uned 2

Arholiad Cyfrifiannell Arholiad 1 awr 45 munud ar gyfer yr Haen Uwch a Chanolradd. 1 awr 30 munud ar gyfer Sylfaen.

Uned 2

Arholiad Cyfrifiannell Arholiad 1 awr 45 munud ar gyfer yr Haen Uwch a Chanolradd. 1 awr 30 munud ar gyfer Sylfaen.

Mae'r dull o gyflwyno'r wybodaeth yn amrywiol ac yn cynnwys y syniadau o ddefnyddio a chymhwyso Mathemateg. Bydd disgyblion yn edrych ar ddatrys problemau a chymhwyso Mathemateg i gwestiynau ffwythiannol ac i broblemau bywyd go iawn. Mae angen Mathemateg ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi, ac ar gyfer mynediad i Addysg Uwch. Mae'n ofyniad ar gyfer gyrfaoedd mewn peirianneg, pensaernïaeth, adeiladu, nyrsio a meddygaeth, addysgu, gwyddoniaeth a diwydiant.

10

Page 11: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

Mewn llawer o yrfaoedd gan gynnwys Addysgu a Nyrsio mae'n ofynnol i

fyfyrwyr ennill gradd B mewn TGAU Mathemateg. Mae TGAU Mathemateg - Rhifedd a Mathemateg yn galluogi dysgwyr i wneud y canlynol:

Datblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o ddulliau, technegau a chysyniadau mathemategol sy'n angenrheidiol ar gyfer symud ymlaen i faes mathemateg neu ddisgyblaethau neu lwybrau cyflogaeth sy'n gysylltiedig â mathemateg.

Gwneud cysylltiadau rhwng meysydd gwahanol o fathemateg.

Dethol a defnyddio dulliau mathemategol mewn cyd-destunau mathemategol ac yn y byd go iawn.

Rhesymu yn fathemategol, llunio dadleuon a phrofion syml, a gwneud didwythiadau rhesymegol a rhesymiadau.

Datblygu a mireinio strategaethau ar gyfer datrys amrediad o broblemau mathemategol ac yn y byd go iawn.

Cyfleu gwybodaeth fathemategol ar amrywiaeth o ffurfiau.

Dehongli canlyniadau mathemategol gan ddod i gasgliadau sy'n berthnasol i'r cyd-destun a'u cyfiawnhau.

Cyfleu gwybodaeth fathemategol ar amrywiaeth o ffurfiau.

Graddio a dyfarnu Bydd yr haenau ar gyfer asesu y fanyleb hon fel a ganlyn: Haen Uwch A* - C Haen Ganolradd B - E Haen Sylfaenol D - G Mae cymwysterau TGAU yng Nghymru yn cael eu hadrodd ar raddfa wyth pwynt o A* i G, ac A* yw'r radd uchaf. Bydd cyrhaeddiad dysgwyr, na fyddant yn llwyddo i gyrraedd y safon isaf bosibl i gael gradd, yn cael ei gofnodi â'r llythyren U (annosbarthedig) ac ni fyddant yn derbyn tystysgrif. Rhaid i ddysgwyr sy'n cael eu cofrestru ar gyfer y cymhwyster hwn sefyll y ddwy uned naill ai ar yr haen Sylfaenol, yr haen Ganolradd neu'r haen Uwch, yn yr un gyfres arholiadau.

11

Page 12: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

CYMRAEG Bwrdd Arholi: CBAC

CYMRAEG IAITH TGAU

Cynnwys y Cwrs

Darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando ar iaith. Dysgu cyfathrebu’n effeithiol at amrywiol bwrpasau. Mae gwylio rhaglenni teledu a ffilmiau, trafodaethau grŵp a dosbarth a gwaith drama i gyd yn chwarae rhan hanfodol yn y cwrs. Byddwn yn eich annog i drafod materion cyfoes ac i fynegi eich barn ar lafar ac yn ysgrifenedig, a bydd rhaid i chi ddarllen yn eang a gwneud defnydd da o lyfrgell yr ysgol. Ceir cyfle hefyd i ddefnyddio’r cyfrifiadur.

Asesu

Uned 1: Asesiad Diarholiad (Llafar) 30%

Tasg 1 (15%) – Cyflwyniad Unigol Ar Sail Ymchwil (40 marc) Cyflwyniad unigold ar sail ymchwil a all gynnwys ymateb I gwetiynau ac adborth wedi’u seilio ar themâu gosod gan CBAC.

Tasg 2 (15%) – Ymateb a Rhyngweithio (40 marc) Tasg grŵp yn seiliedig ar sbardunau ysgrifenedig a/neu weledol a ddarperir gan CBAC i symbylu trafodaeth. Ar gyfer y ddwy dasg dyfernir hanner y marciau am gynnwys a threfn a’r hanner arall am gywair priodol, cywirdeb gramadegol ac ystod o strwythurau brawddegol.

Uned 2: Asesiad Allanol (Darllen ac Ysgrifennu; Disgrifio, Naratif ac Esbonio) 35%

(2 awr)

Adran A (15%) – Darllen (30 marc) Deall o leiaf un testun disgrifio, un naratif ac un esbonio yn cynnwys testunau di-dor a phytiog. Asesir y darllen drwy ystod o gwetiynau strwythuredig. Bydd yr adran hon hefyd yn cynnwys task golygu testun a fydd yn canolbwyntio ar ddeall testun byr ar lefel gair, brawddeg a thestun (2.5% o’r cymhwyster cyfan).

Adran B (20%) – Ysgrifennu (40 marc) Un dasg ysgrifennu o ddewis o ddau. Gall fod nail ai’n dasg ddisgrifio, tasg naratif neu dasg esbonio. Bydd yr adran hon yn cynnwys hefyd un dasg prawf ddarllen yn canolbwyntio ar ysgrifennu’n gywir (2.5% o’r cymhwyster cyfan). Dyfernir hanner y marciau yn yr adran hon am gyfathrebu a thren (ystyr, pwrpasau, darllenwyr a strwythur) a’r hanner arall am ysgrifennu’n gywir (iaith, gramadeg, atalnodi a sillafu).

Uned 3: Asesiad Allanol (Darllen ac Ysgrifennu: Trafod, Perswâd a Cyfarwyddiadol)

35% (2 awr)

Adran A (15%) – Darllen (30 marc) Deall o leiaf un testun trafod, un cyfarwyddiadol ac un perswâd, yn cynnwys testunau di-dor a phytiog. Asesir y darllen trwy gyfres o gwestiynau strwythuredig.

Adran B (20%) – Ysgrifennu (40 marc) Un dasg ysgrifenedig orfodol – trafod ac un dasg ysgrifenedig orfodol – perswâd. Dyfernir hanner y marciau yn yr adran hon am gyfathregu a threfn (ystyr, pwrpasau, darllenwyr a strwythur) a’r hanner arall am ysgrifennu’n gywir (iaith, gramadeg, atalnodi a sillafu). Mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr yng Nghymru eisiau pobl ifanc ddwyieithog sy’n gallu cyfathrebu’n dda ar lafar ac yn ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Cymraeg yn angenrheidiol ar gyfer gyrfâu yng Nghymru yn y cyfryngau, newyddiaduriaeth, dysgu a swyddi gweinyddol.

12

Page 13: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

CYMRAEG (AIL IAITH) TGAU Cynnwys y Cwrs

Siarad, gwrando, gwylio, darllen ac ysgrifennu Cymraeg; dyma’r sgiliau y byddwn ni’n ceisio eu datblygu yn ystod y cwrs. Bydd rhaid i chi weithio ar eich pen eich hun, mewn pâr ac mewn grŵp. Byddwch yn astudio tair thema eang:

1. Cyflogaeth. 2. Cymru a’r byd. 3. Ieuenctid.

Asesu

Uned 1: Ymateb ar lafar i ddeunydd gweledol Asesiad diarholiad: 6-8 munud (pâr) 9-12 munud (grŵp o dri) 25% o’r cymhwyster – 50 marc 1 dasg (10%) Siarad (15%) Gwrando Tasg pâr/grŵp o dri yn seiliedig ar sbardunau gweledol a ddarperir gan CBAC i symbylu trafodaeth. Bydd yr asesiad yn cynnwys dwy ran i’w cynnal yn y drefn ganlynol:

gwylio clip gweladwy (dwy waith) a llenwi taflen wrth wrando ar y symbyliad.

trafodaeth rhwng pâr/grŵp o dri ar yr hyn a wyliwyd.

Ni chaniateir i ddysgwyr ddefnyddio geiriaduron yn unrhyw ran o’r asesiad.

Uned 2: Cyfathrebu ag eraill Asesiad diarholiad: 6-8 munud (pâr) 9-12 munud (grŵp o dri) 25% o’r cymhwyster – 50 marc 1 dasg (20%) Siarad (5%) Gwrando Tasg pâr/grŵp o dri yn seiliedig ar sbardunau a ddarperir gan CBAC i symbylu trafodaeth.

Ni chaniateir i ddysgwyr ddefnyddio geiriaduron yn unrhyw ran o’r asesiad.

Uned 3: Adroddiadol, penodol a chyfawryddiadol Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud 25% o’r cymhwyster – 100 marc (15%) Darllen (10%) Ysgrifennu Tasgau ysgrifennu a thasgau darllen gydag ymatebion di-eiriau ac ysgrifenedig, yn cynnwys un dasg yn cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg a phrawf ddarllen.

Ni chaniateir i ddysgwyr ddefnyddio geiriaduron yn unrhyw ran o’r asesiad.

Uned 4: Disgrifiadol, creadigol a dychmygus Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud 25% o’r cymhwyster – 100 marc (10%) Darllen (15%) Ysgrifennu Tasgau ysgrifennu a thasgau darllen gydag ymatebion di-eiriau ac ysgrifenedig.

Ni chaniateir i ddysgwyr ddefnyddio geiriaduron yn unrhyw ran o’r asesiad. Bydd y cwrs yn datblygu eich hyder wrth gyfathrebu. Bydd hefyd yn eich galluogi i wneud defnydd ymarferol o'r iaith er mwyn cyfathrebu'n effeithiol yng nghymdeithas ddwyieithog yr 21ain Ganrif.

13

Page 14: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

GWYDDONIAETH

Bwrdd Arholi: CBAC

Mae'r fanyleb TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) CBAC yn darparu cwrs astudio sy'n eang, cydlynol, boddhaol a gwerthchweil. Mae'n annog dysgwyr i ddatblygu eu hyder mewn gwyddoniaeth ac i fod ag agwedd gadarnhaol tuag at y pwnc ac i gydnabod pa mor bwysig yw gwyddoniaeth yn eu bywydau bob dydd ac i'r gymdeithas.

Mae manyleb TGAU Gwyddoniaeth Gymhwysol (Dwyradd) CBAC yn defnyddio dull o ddysgu ac asesu gwyddoniaeth ar sail cyd-destunau. Mae'n darparu cwrs astudio ar gyfer dysgwyr sy'n eang, cydlynol, ymarferol, boddhaol a gwerthchweil.

Cynnwys y Cwrs

Faint o’r cwestiynau hyn fedrwch chi eu hateb?

Sut mae gwaed yn helpu i ymladd heintiau?

Beth ddylwn i wneud os yw person yn stopio anadlu?

Fedrwn ni wneud anifeiliaid a phlanhigion uwchraddol?

Beth yw DNA?

Beth mae fel a’r planedau eraill?

Beth sy tu fewn i atom?

Beth yw olew Môr y Gogledd a pham ei fod e mor ddefnyddiol?

Sut mae rocedi’n gweithio?

Sut gall Ffiseg esbonio nifer o weithgareddau byd chwaraeon?

Pa ddefnydd a wneir o donnau electromagnetig mewn meddygaeth?

Beth sy’n effeithio ar bin metal?

Beth ydy deunydd ‘smart’ a ble’ i defnyddir? Yn ystod y ddwy flynedd nesaf byddwch yn astudio un o’r cyrsiau canlynol:

TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) TGAU Gwyddoniaeth Gymhwysol (Dwyradd)

Asesu TGAU – Asesiad yn 90% arholiad a 10% gwaith cwrs. Haen Sylfaenol Graddau: G - C ac Haen uwch: Graddau D – A*.

14

Page 15: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

CYMHWYSTER BAGLORIAETH CYMRU

Profiadau newydd, paratoi gwaith, ymwybyddiaeth o materion gwleidyddol a

chymdeithasol, Gweithredu Cymunedol, datblygiad entrepreneuraidd ac

ymarfer sgiliau cyflogadwyedd.

Mae Bagloriaeth Cymru yn ychwanegu at gymwysterau sydd eisoes yn bodoli

ac yn gwneud pobl ifanc yn gweithwyr well.

Bydd y tair her yn golygu mynd ati i gefnogi sefydliadau elusennol, datblygu prosiectau a fydd o fudd i'n cymuned leol, meithrin syniadau busnes bach a chyfleoedd, gwella a mireinio sgiliau llythrennedd digidol, ac yn tyfu ymwybyddiaeth o faterion byd-eang a rôl y mae'n rhaid i ni chwarae rhan.

Sgiliau a fydd yn cael ei ddatblygu yn benodol yw: Llythrennedd, Rhifedd, Llythrennedd Digidol, Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau, Cynllunio a Threfniadaeth, Creadigrwydd ac Arloesi ac yn olaf Personol Effeithiolrwydd.

Byddwch yn derbyn cefnogaeth gan diwtor personol a fydd yn rhoi'r arweiniad sydd ei angen arnoch i'ch helpu i canolbwyntio.

Nid oes 'arholiad' Bagloriaeth Cymru yn ychwanegol at yr arholiadau ar gyfer y pynciau Opsiynau (TGAU). Rydych yn casglu tystiolaeth o'ch cymhwysedd yn yr heriau a Phrosiect unigol ac yn ei gyflwyno i'w asesu.

15

Mae CBC yn seiliedig ar dystysgrif her sgiliau (yr heriau a'r prosiect) ochr yn ochr â chymwysterau ategol (Cenedlaethol: TGAU Saesneg Iaith a Mathemateg TGAU - cymwysterau Rhifedd a 2 arall A * - C ar gyfer cenedlaethol ac A * - G ar gyfer Sylfaen). Rhaid i'r ddwy elfen cael ei gyflawni er mwyn cael y CBC llawn.

Beth yw ei werth?

Cenedlaethol: A* - C

Sylfaen: TGAU D / E

Page 16: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

DAEARYDDIAETH

Bwrdd Arholi: CBAC

Cynnwys y Cwrs Os ydych chi wedi mwynhau astudio Daearyddiaeth mor belled, yna byddwch yn siwr o’i fwynhau ym mlwyddyn 10 a 11. Rydym yn dilyn y cwrs TGAU sy’n bwrw golwg ar ystod eang o destunau sy’n berthnasol i’r byd modern:

Ydy rhyfeloedd dŵr yn bosib?

Allwn ni reoli llifogydd?

Beth sy'n cysylltu dinasoedd byd-eang?

Sut mae corwyntoedd a llosgfynyddoedd yn cael eu ffurfio?

Sut fydd HIV yn effeithio ar y boblogaeth sy’n byw i’r De o’r Sahara yn Affrica?

A fedrwn ni leihau tlodi byd eang?

Beth sy'n gwneud Arfordir Sir Benfro yn arbennig?

Sut gall fwyta cyw iar arwain at ddatgoedwigo fforestydd glaw?

Mae gwaith dosbarth, gwaith map, a teithiau maes i gyd yn eich helpu i astudio’r testunau hyn a thestunau eraill yn ogystal â datblygu eich sgiliau daearyddol a mathemategol. Os oes gennych ddiddordeb yn nigwyddiadau a phroblemau’r byd, bydd Daearyddiaeth yn eich helpu i wneud synnwyr o’r cyfan. Mae’r pwnc yn gymhwyster defnyddiol os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa ym myd cynllunio, yr amgylchedd, twristiaeth a hamdden, trafnidiaeth, amaethyddiaeth, coedwigaeth ac ati. Mae’n bwnc da i ehangu eich gwybodaeth o’r byd a’i bobl ac mae’n ddefnyddiol ar gyfer newyddiaduraeth, rheolaeth a sawl gyrfa arall.

Asesu Mae dau arholiad terfynol yn cyfrif am 80% o'ch marc TGAU. Mae'r 20% arall wedi'i seilio ar dasg asesiad dan reolaeth a fydd wedi'i seilio ar y broses gwaith maes.

16

Page 17: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

HANES

Bwrdd Arholi: CBAC

Cynnwys y Cwrs

Maes Llafur Hanes Modern Rydym wedi dewis cwrs Hanes yr 20fed ganrif ar gyfer disgyblion ac ynddo byddwn yn astudio ystod o destunau diddorol: cymysgedd o Hanes lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Ein bwriad yw datblygu nid yn unig gwybodaeth, ond hefyd sgiliau defnyddiol ar gyfer pob math o yrfa yn y dyfodol. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys: Ysgrifennu - Sut i gyflwyno dadl

- Sut i ddadansoddi pwysigrwydd ffactorau gwahanol - Sut i grynhoi

Dehongli - Deall gwahanol farnau TG - Defnyddio Edmodo a’r Wê Ymchwil - Dysgu darganfod atebion yn annibynnol

Mae’r testunau a astudir yn cynnwys:

Almaen y Natsiaid

Hanes Prydian 1930 - 1951

Hanes UDA 1929 - 2000 Mae’r sgiliau hyn yn ddefnyddiol iawn i’r rhai sy’n ystryried gyrfa yn y Gyfraith neu Weinyddiaeth neu Reolaeth. Mae’r mwyafrif o raddedigion Hanes yn dilyn gyrfâu yn y meysydd hyn yn ogystal â Chyllid.

Asesu

Uned 1 Arholiad 1 awr 25% o'r Cymhwyster

Dirwasgiad, Rhyfel ac Adferiad 1930-1951. Astudiaeth Fanwl – Cymru a’r safbwynt ehangach.

Uned 2 Arholiad: 1 awr 25% o'r Cymhwyster

Yr Almaen mewn cyfnod o Newid 1919-1939. Astudiaeth Fanwl – Hanes gyda ffocws Ewropeaidd/Byd.

Uned 3 Arholiad: 1 awr 15 munud 30% o'r Cymhwyster

Astudiaethau thematig o bersbectif hanesyddol eang. Newidiadau mewn Iechyd a Meddygaeth c.1340 hyd heddiw.

Uned 4 Asesiad dan Reolaeth wedi'i Asesu yn Fewnol 20% o'r Cymhwyster

Gweithio fel hanesydd. Testunau a drafodwyd yn flaenorol:

Jack the Ripper

Y Chwedegau Afieithus ym Mhrydain

Douglas Haig: Cigydd y Somme?

17

Page 18: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

FFRANGEG Bwrdd Arholi: CBAC

Pam cymryd Ffrangeg?

"Mae 73% o fusnesau ar draws y DU yn dweud eu bod angen gweithwyr sy'n gallu cyfathrebu mewn iaith dramor" (arolwg CBI 2011);

"Mae prinder yn y DU o bobl sy'n gallu cyfuno sgiliau iaith gydag arbenigeddau eraill fel Gwyddoniaeth - Peirianneg - Technoleg - Mathemateg";

"Mae mwy na 1/3 o'r cyflogwyr sydd ag angen sgiliau iaith yn cael eu gorfodi i recriwtio o dramor ..." (arolwg CBI 2011)

Cynnwys y Cwrs

Testunau TGAU

Mae'r cyd-destun ar gyfer dysgu'r iaith wedi'i drefnu o dan dair thema eang:

Hunaniaeth a diwylliant

Materion lleol, cenedlaethol,

rhyngwladol a byd-eang o

ddiddordeb

Astudio a chyflogaeth ar

hyn o bryd ac yn y dyfodol

Diwylliant Ieuenctid

Yr hunan a pherthynas

Technoleg a'r cyfryngau

cymdeithasol

Ffordd o fyw

Iechyd a ffitrwydd

Adloniant a hamdden

Arferion a Thraddodiadau

Bwyd a diod

Gwyliau a dathliadau

Y Cartref a'r Ardal

Mannau lleol o

ddiddordeb

Trafnidiaeth

Ffrainc a gwledydd sy'n

siarad Ffrangeg

Nodweddion a

phriodoleddau lleol a

rhanbarthol

Gwyliau a thwristiaeth

Cynaliadwyedd Byd-eang

Yr Amgylchedd

Materion cymdeithasol

Astudiaeth ar hyn o bryd

Bywyd ysgol/coleg

Astudiaethau

ysgol/coleg

Byd Gwaith

Profiad gwaith a

swyddi rhan-amser

Sgiliau a rhinweddau

personol

Swyddi a Chynlluniau ar

gyfer y dyfodol

Gwneud cais am

waith/astudio

Cynlluniau gyrfa

Asesu

Cydran 1: Siarad

Yn werth 25% o'r marc terfynol

Prawf Llafar: 7-9 munud (Haen Sylfaenol)

Prawf Llafar: 10-12 munud (Haen Uwch)

Tair Tasg:

Un chwarae rôl;

Trafod un cerdyn â llun;

Un sgwrs.

Ni chaniateir geiriaduron

Cydran 2: Gwrando

Yn werth 25% o'r marc terfynol

Yn para tua 35 munud (Haen Sylfaenol)

Yn para tua 45 munud (Haen Uwch)

Cynhelir yr arholiad ym mis Mai / Mehefin

yn ystod y prif gyfnod arholiadau

Mae pob cwestiwn yn Saesneg a rhaid i chi

ateb yn Saesneg

Ni chaniateir geiriaduron

Cydran 3: Darllen

Yn werth 25% o'r marc terfynol

Yn para tua 1 awr (Haen Sylfaenol)

Yn para tua 1 awr 15 munud (Haen Uwch)

Mae pob cwestiwn yn Saesneg a rhaid i chi

ateb yn Saesneg

Ni chaniateir geiriaduron

Cydran 4: Ysgrifennu

Yn werth 25% o'r marc terfynol ac wedi'i farcio gan CBAC

Yn para tua 1 awr 15 munud (Haen

Sylfaenol)

Yn para tua 1 awr 30 munud (Haen Uwch)

Ni chaniateir geiriaduron

18

Page 19: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

ASTUDIAETHAU CREFYDDOL

Bwrdd Arholi: CBAC

Cynnwys y Cwrs

Mae TGAU Astudiaethau Crefyddol yn gwrs newydd a chyffrous sy’n cynnig astudiaeth eang o grefydd. Yn ystod y cwrs dwy flynedd, astudir dau opsiwn:

1. Cristnogaeth 2. Athroniaeth Gristnogol a Moeseg 3. Astudiaethau o Grefydd y Byd

Bydd disgyblion yn archwilio rhychwant o faterion crefyddol, personol, moesegol, moesol ac athronyddol a gwahanol agweddau Crefydd tuag atynt e.e. Bywyd yr Iesu, Beth mae’n ei olygu i fod yn Gristion? Pererindod, Bodolaeth Duw, Drygioni yn y byd, Rhyfel a Gwrthdaro, Heddychiaeth, Y Gosb Eithaf, Llafur Plant, Datblygiad Cynaliadwy, Ewthanasia ac Erthylu. Mae cwrs mewn Astudiaethau Crefyddol yn baratoad defnyddiol ar gyfer unrhyw swydd pan fo angen dealltwriaeth o bobl. Mae’r gallu i archwilio materion moesol bob dydd, eu pwyso a’u mesur, ac yna gallu eich mynegi eich hun, yn siŵr o fod o fantais mewn swyddi lle mae cyfathrebu â’r cyhoedd yn hanfodol.

Asesu

Bydd rhaid i ddisgyblion arddangos eu gallu i:

Ddisgrifio, esbonio a dadansoddi, gan ddefnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth

Defnyddio tystiolaeth a dadleuon rhesymegol i fynegi a phwyso a mesur ymatebion personol, dirnadaeth ddeallus a gwahanol farnau.

Asesir disgyblion trwy gyfrwng tri bapur arholiad. Does dim gwaith cwrs.

19

Page 20: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

ASTUDIAETHAU DRAMA A THEATR

Bwrdd Arholi: CBAC

Cynnwys y Cwrs

Uned 1: Dyfeisio Theatr Asesiad di-arholiad: wedi’i asesu’n fewnol a’i safoni’n allanol 40% o’r cymhywster – 60 marc

Bydd dysgwyr yn cymryd rhan yn y gwaith o greu, datblygu a pherfformio darn o theatr wedi’i dyfeisio yn seiliedig nail ai ar waith ymarferwr theatr neu genre mewn ymateb i ysgogiad y bydd CBAC yn ei bennu.

Bydd dysgwyr yn cwblhau gwerthusiad ysgrifenedig o’r perfformiad wedi’i ddyfeisio o dan oruchwyliaeth ffurfiol.

Asesir dysgwyr naill ai ar actio neu ar ddylunio.

Uned 2: Perfformio Theatr Asesiad di-arholiad: wedi’i asesu’n allanol gan arholwr ymweld 20% o’r cymhwyster – 60 marc

Bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn perfformiad yn seiliedig ar ddau ddarn 10 munud o destun perfformiad o’u dewis.

Asesir dysgwyr naill ai ar actio neu ar ddylunio.

Uned 3: Dehongli Theatr Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud 40% o’r cymhwyster – 60 marc Adran A: Testun gosod Cyfres o gwestiynau ar un testun gosod wedi’i archwilio fel actor, dylunydd a chyfarwyddwr.

1984 (George Orwell) Adran B: Adolygiad o Theatr Fyw Un cwestiwn, o ddewis o ddau, sy’n gofyn am ddadansoddi a gwerthuso un cynhyrchiad theatre byw sy’n cael ei weld yn ystod y cwrs. Gall disgyblion ddewis astudio actio neu sgiliau dechnegol (goleuo neu sain) fel eu prif ffocws ar gyfer y cwrs TGAU. Mae drama yn gwrs difyr, creadigol a gwerth chweil sy’n helpu i ddatblygu cyfeillgarwch, hyder, cyfathrebu a sgiliau arwain. Rhowch gynnig arni! Cofiwch ‘Llwyfan yw’r Byd i Gyd’

20

Page 21: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

CELF A DYLUNIO

Bwrdd Arholi: CBAC

Cynnwys y Cwrs Mae'r cwrs yn gyffrous ac yn heriol. Mae'r gwaith a wneir ar gyfer TGAU yn dibynnu'n helaeth ar liniadu; felly bydd angen i ddisgyblion sicrhau eu bod yn ymarfer eu sgiliau lluniadu yn rheolaidd er mwyn datblygu eu sgiliau. Yna bydd eu darluniau yn cael eu datblygu'n ystod eang o syniadau a chyfryngau, gan gynnwys paent, print, collage, cerflunio, serameg a gwehyddu ac ati. Bydd y gwaith y mae disgyblion yn ei gynhyrchu drwy gydol eu cwrs TGAU yn cynnwys ymchwil a rhaid iddynt fod â chysylltiadau ysgrifenedig a gweledol â gwaith pobl eraill. Mae hyn yn cynnwys Artistiaid, gweithwyr Crefftau a Dylunwyr.

Gwaith Cwrs: 60%

Mae'r cwrs bellach yn cynnwys UN uned o waith cwrs. Bydd yr uned hon yn cael ei chyflwyno fel portffolio ac mae'n werth 60% o'r marc terfynol. Y disgyblion eu hunain fydd yn dewis gwaith ar gyfer eu portffolio. O fewn eu portffolio, bydd angen i ddisgyblion ddangos dealltwriaeth o'r pwnc / testun a ddewiswyd, drwy ymchwil sy'n cynnwys gwaith pobl eraill a dangos medrau mewn ystod eang o gyfryngau, yn 2D a 3D.

Arholiad Allanol: 40% Mae hwn yn werth 40% o'r marciau terfynol a'r Bwrdd Arholi sydd yn gosod y cwestiynau. Mae disgyblion yn cael tua 6 wythnos o amser paratoi ac yna byddant yn cael arholiad o 10 awr, i gynhyrchu canlyniad terfynol yn seiliedig ar eu gwaith paratoi.

Gyrfâu Mae yna nifer o yrfaoedd sy'n cynnwys ac yn deillio o astudio Celf. Mae'r rhain yn amrywio o Artistiaid Cain i Ddylunwyr, e.e. Dylunwyr Graffeg, Dylunwyr Ffasiwn ac ati, Therapi Celf, Dylunio Gwisgoedd a llawer o rai eraill.

Amlinelliad o'r Uned Fel rhan o'r cwrs TGAU bydd angen i ddisgyblion ddatblygu ystod eang o sgiliau. Ar ddiwedd y gwaith cwrs, bydd angen i ddisgyblion ddewis gwaith o'u huned i'w ddefnyddio mewn portffolio. Mae portffolio yn ffolder o waith sy'n dangos uned o waith ar ei orau. Dylai llyfrau braslunio gael eu cynnwys yn y ffolio hwn yn ogystal ag ystod dda o astudiaethau sy'n dangos sgiliau gyda deunyddiau a syniadau ar gyfer canlyniadau. Gall gwaith 3D gael ei gynnwys hefyd fel astudiaethau paratoi ar gyfer canlyniad terfynol. Bydd y portffolio yn cael ei gyflwyno ar gyfer eu TGAU mewn Celf ar ddiwedd y cwrs. Rhaid i'r gwaith sydd heb ei ddewis ar gyfer eu portffolio gael ei gadw'n ddiogel oherwydd efallai y bydd yr arholwr yn dymuno gweld y gwaith hwn hefyd.

Themâu

Bydd y disgyblion yn cael 16 thema a bydd angen iddynt ddewis UN thema ar gyfer eu huned gwaith cwrs. Gan fod lluniadu yn rhan fawr o'r cwrs, bydd disgwyl i ddisgyblion luniadu yn rheolaidd, a defnyddio lluniadu i ymchwilio, arsylwi ac archwilio syniadau ar gyfer eu huned o ddewis. Bydd angen iddynt edrych ar waith Artistiaid, gweithwyr Crefftau a Dylunwyr; yn weledol ac yn ysgrifenedig, defnyddio ystod eang o ddeunyddiau ac arbrofi i ddatblygu syniadau ar gyfer canlyniadau terfynol ar gyfer eu huned. Themâu: Amlddiwylliannedd, Emosiynau, Tymhorau, Yn agos, Gwrthdaro, Tirwedd/Amgylchedd, Byd Breuddwyd, Y tu mewn, Bywyd Dynol/Hunan/Hunaniaeth, Cartref, Anifeiliaid, Strwythur, Wedi anghofio, Dathliadau, Pobl a Pheiriannau a Chodi Sylw.

Deunyddiau ac Offer Bydd y rhan fwyaf o'r deunyddiau a'r offer sydd eu hangen ar gyfer y cwrs yn cael ei ddarparu ar eich cyfer gan yr Adran Gelf. Fodd bynnag, mae yna rai deunyddiau sylfaenol, y bydd angen i chi ddarparu i chi eich hun. Awgrymir y dylech gael: Ystod o bensiliau o ansawdd da, e.e. 2B, 4B, 6B; Detholiad o frwshys o wahanol faint, e.e. maint 2, 6, 10 pen crwn neu fflat; rhwbiwr meddal neu rwbiwr pwti; Llyfr braslunio, e.e. A5, A4, A3, yn dibynnu ar faint eich gwaith; Ffeil i gadw unrhyw gyngor neu daflenni gwybodaeth ynddi. Mae llyfrau braslunio yn cael eu defnyddio ar gyfer brasluniau a gwaith datblygu, yn enwedig casglu ymchwil ac arbrofi gyda deunyddiau a rhaid iddynt fod yn rhan annatod o'r uned gwaith cwrs.

21

Page 22: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

CERDDORIAETH

Bwrdd Arholi: CBAC

Cynnwys y Cwrs

Mae Cerddoriaeth ar lefel TGAU yn rhannu’n dair prif gategori ac mae angen rhywfaint o allu ymarferol:

Perfformio

Cyfansoddi

Gwerthuso Byddwch yn derbyn hyfforddiant ar un offeryn a disgwylir i chi ymarfer yn rheolaidd a chymryd rhan yn y gweithgareddau cerddorol o fewn yr ysgol. Trwy gydol y cwrs disgwylir i chi gyfansoddi amrywiaeth o waith. Disgwylir i chi gynhyrchu ffolio gyfansoddiadau sy’n cynnwys 2 ddarn ac yn para tua 5 munud. Byddwch yn astudio ystod o gerddoriaeth o’r meysydd canlynol:

Ffurfiau cerddorol a dyfeisiadau

Cerddoriaeth a’r gyfer ensemble

Cerddoriaeth a’r gyfer ffilmiau

Cerddoriaeth boblogaidd Bydd y cyfleoedd canlynol ar agor i chi os byddwch yn dewis TGAU Cerddoriaeth Technegydd Sain, Athro (Cynradd neu Uwchradd), Cerddor Proffesiynol, Therapydd Cerdd, Y Lluoedd Arfog.

Asesu Asesir eich sgiliau perfformio ar ffurf arholiad perfformio ym mis Mawrth (fel rheol) ym mlwyddyn olaf y cwrs. Disgwylir i chi berfformio darn unigol a gweithio yn rhan o ensemble. Mae elfen ymarferol y cwrs yn werth 35%. Bydd disgwyl i bob disgybl fynychu gwersi offerynnol/lleisiol i baratoi ar gyfer yr arholiad ymarferol. Asesir eich ffolio gyfansoddi gan eich athro cerddoriaeth ac fe’i safonir gan safonwr allanol. Mae’r elfen hon yn werth 35%. Fe arholir eich sgiliau gwrando hefyd drwy gyfrwng un bapur 1 awr a hanner ar ddiwedd y cwrs. Mae’r elfen hon yn werth 30% o’r marc terfynol.

22

Page 23: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

ADDYSG GORFFOROL

Bwrdd Arholi: CBAC

Cynnwys y Cwrs Uned 1: Cyflwyniad i Addysg Gorfforol Arholiad Ysgrifenedig 2 awr 50% o'r cymhwyster / 100 marc Asesir dysgwyr drwy amrywiaeth o gwestiynau atebion byr a chwestiynau estynedig. Bydd y cwestiynau'n seiliedig ar ysgogiadau clyweledol a ffynonellau eraill. Uned 2: Y Cyfranogwr Gweithredol mewn Addysg Gorfforol Asesiad di-arholiad 50% o'r cymhwyster / 100 marc Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu fel perfformiwr mewn tri gweithgaredd gwahanol yn o leiaf un gamp unigol, un gamp tîm ac un arall. Bydd un o'r gweithgareddau hyn yn brif weithgaredd a bydd rhaglen ffitrwydd bersonol yn gysylltiedig â'r gweithgaredd hwn. Ar ôl i chi gwblhau'r cwrs TGAU Addysg Gorfforol yn llwyddiannus mae dewis o ddilyn cwrs lefel A / UG Addysg Gorfforol yn yr Ysgol. Gall cymwysterau yn y pwnc hwn arwain at yrfaoedd mewn Hamdden, Gwyddor Chwaraeon a Meddygaeth Chwaraeon

23

Page 24: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

DYLUNIO A THECHNOLEG –

DYLUNIO CYNNYRCH

Bwrdd Arholi: CBAC

Cynnwys y Cwrs

Mae cwrs mewn Dylunio a Thechnoleg yn cynnig cyfle unigryw yn y cwricwlwm i ymgeiswyr ddarganfod a datrys problemau go iawn trwy ddylunio a gwneud cynhyrchion neu systemau mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau yn ymwneud â’u diddordebau personol. Mae Dylunio a Thechnoleg yn datblygu sgiliau rhyngddisgyblaethol yr ymgeiswyr, pob un o’r chwe Sgil Allweddol, eu gallu i feddwl mewn ffordd ddyfeisgar ac arloesol, eu creadigedd a’u hannibyniaeth. Mae’r fanyleb wedi’i seilio ar y farn mai gweithgaredd ymarferol yn ei hanfod yw Dylunio a Thechnoleg sy’n gofyn i’r ymgeiswyr gyfuno sgiliau â gwybodaeth a dealltwriaeth er mwyn dylunio a gwneud cynhyrchion o safon. Y bwriad yw datblygu gallu dylunio a thechnolegol yr ymgeiswyr trwy ddulliau hyblyg ac eang eu sylfaen.

Asesu

Uned 1 - Papur ysgrifenedig

Papur ysgrifenedig 2 awr

100 marc – 50%

Mae ymgeiswyr yn ateb pob cwestiwn mewn dwy adran

Cyhoeddir deunyddiau rhyddhau ymlaen llaw

Dylid addysgu ymgeiswyr i ddatblygu gwybodaeth ymarferol o ddeunyddiau a chydrannau tecstiliau, hy Ffibrau a Phriodweddau, Prosesau Gorffen, Cydrannau. Dylid addysgu ymgeiswyr sut i ddadansoddi cynnyrch a phrosesau. Dylent ystyried sut mae'n effeithio ar y gwneuthurwr, y defnyddiwr a'r amgylchedd a phwysigrwydd materion iechyd a diogelwch. Mae enghreifftiau yn cynnwys, Dadansoddi Cynnyrch, Rôl y Dylunydd, gweithgynhyrchu ar raddfa ddiwydiannol a TGCh a CAD/CAM.

Uned 2 – Asesiad dan reolaeth

Tua 45 awr

100 marc – 50%

Yn cynnwys un gweithgaredd dylunio a gwneud a ddewiswyd o amrediad o dasgau wedi'u gosod gan y bwrdd.

Dylai ymgeiswyr gyflwyno canlyniad ymarferol a ffolder dylunio cryno. Dylai'r ffolder dylunio gynnwys tua 20 tudalen o bapur A3 neu'r hyn sy'n cyfateb o ran TGCh. Bydd yr Asesiad dan Reolaeth yn cael ei wneud yn ystod Blwyddyn 11 y cwrs dwy flynedd.

24

Page 25: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

DYLUNIO A THECHNOLEG – FFASIWN A THECSTILIAU

Bwrdd Arholi: CBAC

Cynnwys y Cwrs

Beth ydym ni'n ei wneud yn Ffasiwn a Thecstiliau?

Cwrs newydd yw hon a ddechreuodd ym Medi 2017.

Crynodeb o'r Asesiad:

Uned 1: Dylunio a Thechnoleg yn yr 21ain Ganrif

Arholiad ysgrifenedig: 2 awr

50% o'r cymhwyster

Cymysgedd o gwestiynau ateb byr, strwythuredig ac estynedig sy'n asesu gwybodaeth a dealltwriaeth yr ymgeiswyr o'r ardal a ddewiswyd, e.e. ffasiwn a thecstiliau.

Uned 2: Tasg Dylunio a Gwneud

Asesiad heb arholiad: oddeutu 35 awr

50% o'r cymhwyster

Tasg dylunio a gwneud yn seiliedig ar her gyd-destunol a osodwyd gan CBAC, gan asesu gallu'r ymgeiswyr i:

• nodi, ymchwilio, dadansoddi ac amlinellu posibiliadau dylunio. • dylunio a gwneud prototeipiau a gwerthuso eu ffitrwydd i'r pwrpas.

Beth fyddwch chi'n ei wneud yn ystod Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11?

Bydd pob dysgwr yn astudio pedwar maes: 1. Gwybodaeth a dealltwriaeth graidd. 2. Gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o ffasiwn a thecstilau. 3. Sgiliau Craidd. 4. Sgiliau manwl mewn ffasiwn a thecstilau.

Bydd Blwyddyn 10 yn canolbwyntio'n bennaf ar sgiliau tecstilau a bydd yn cynnwys cyfres o brosiectau bach/tasgau sy'n canolbwyntio ar adeiladu ar sgiliau a hyder yr unigolyn. Bydd hefyd yn cynnwys dysgu'r wybodaeth graidd o chwe maes pwnc sy'n galluogi'r dysgwr i wybod am dechnolegau diweddar yn y diwydiant hwn.

Bydd Blwyddyn 11 yn parhau i atgyfnerthu eu gwybodaeth am agwedd theori y cwrs ond y prif ffocws fydd y dasg dylunio a gwneud (35 awr) sy'n cyfateb i 50% o'r cymhwyster. Ar ddiwedd Blwyddyn 11 bydd y dysgwr yn sefyll yr arholiad sef y 50% sy'n weddill o'r radd gyffredinol.

Pam ddylech chi ddewis ffasiwn a thecstiliau?

• Ymarferol, creadigol, hwyl. • Sgiliau bywyd, Gwaith Cwrs wedi'i seilio ac yn amrywio oherwydd

cymysgedd o dasgau ymarferol a theori. • Yn ymestyn i gyfoeth o gyfleoedd yn y diwydiannau creadigol, hynny yw,

Prynwr/Nwyddau, Dylunydd Ffasiwn, Steilydd, Dylunio Gwisgoedd, Dylunydd Patrwm Arwyneb, Athro ac ati.

25

Page 26: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

TECHNOLEG GWYBODAETH A CHYFATHREBU

Bwrdd Arholi: Edexcel

Cynnwys y Cwrs Rydym yn cynnig cwrs Edexcel CiDA fel dewis arall mwy perthnasol yn hytrach na'r

TGAU traddodiadol. Mae'n gwrs yr 21ain Ganrif i fyfyrwyr o bob gallu, cwrs a gynlluniwyd i arfogi disgyblion gyda'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer y chweched dosbarth, addysg bellach, a chyflogaeth yn yr Oes Wybodaeth. Mae TGCh yn ymwneud â defnyddio cyfrifiaduron ac mae'r cwrs CiDA yn mabwysiadu ymagwedd ymarferol gan addysgu myfyrwyr sut i ddefnyddio cyfrifiaduron yn effeithlon ac yn greadigol, gan ddefnyddio ystod eang o feddalwedd. Cwrs cymhwysol yw'r CiDA, y Dystysgrif mewn Cymwysiadau Digidol. Mae'r holl waith yn cael ei wneud ar gyfrifiaduron ac nid oes arholiad traddodiadol. Mae Uned 1, "Datblygu Cynnyrch ar y We" yn orfodol ac yn cael ei osod fel asesiad ymarferol ar-lein; mae myfyrwyr wedyn yn dewis un o'r unedau prosiect: Uned 2: Amlgyfryngau Creadigol - golygu fideo a sain neu Uned 3: Gwaith Celf a Delweddu - trin Graffeg neu Uned 4: Gwneud Gemau - dylunio a chreu gêm gyfrifiadurol. Nodweddion allweddol y cwrs CiDA yw:

Mae'n hwyl ac yn ymarferol;

Mae'n cynnwys dysgu sut i greu gwefannau proffesiynol yr olwg, animeiddiadau, golygu fideos a ffeiliau sain, creu gemau cyfrifiadurol;

Nid yn unig am allu technegol, mae creadigrwydd yn rhan bwysig. Mae myfyrwyr sy'n dewis CiDA yn aml yn mynd ymlaen i wneud Lefel A mewn Cyfrifiadura neu llwybr cyfryngau creadigol. Mae bron yr holl gyrsiau prifysgol a swyddi y dyddiau hyn, yn gofyn i ymgeiswyr feddu ar gymwysterau TGCh a lefel uchel o sgiliau TGCh ymarferol. Mae CiDA yn gymhwyster delfrydol i ddangos hyn.

Asesu Mae myfyrwyr yn cymryd 2 uned. Uned 1, arholiad ymarferol ar-lein 25%. Uned 2 neu 3 neu 4 Prosiect 75%. Mae graddau yn cael eu dyfarnu o A* i G, ac maent yn cyfateb i TGAU. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Edexcel www.edexcel.com/quals/cida

26

Page 27: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

CYFRIFIADUREG

Bwrdd Arholi: CBAC

Cynnwys y Cwrs

Rydym yn cynnig y cwrs CBAC Cyfrifiadureg fel dewis arall i'r cwrs TGCh CiDA. Os ydych yn mwynhau Mathemateg a TGCh (yn enwedig rhaglennu) neu wedi meddwl tybed sut mae rhaglenni yn cael eu cynllunio, yna efallai mai dyma'r TGAU i chi. Mewn Cyfrifiadureg bydd disgyblion yn dysgu sut mae cyfrifiaduron yn gweithio a sut i greu cymwysiadau eu hunain; mae'r rhain yn sgiliau poblogaidd iawn yn yr oes ddigidol fodern hon. Bydd myfyrwyr yn gwneud un asesiad dan reolaeth sydd yn dasg rhaglennu gan ddefnyddio Visual Basic. Bydd myfyrwyr hefyd yn gwneud arholiad ymarferol ar ddiwedd blwyddyn 11 sy'n cynnwys rhywfaint o HTML sylfaenol (yr iaith a ddefnyddir i greu tudalennau gwe) a Greenfoot sy'n fersiwn wedi'i addasu o'r iaith raglennu Java. Mae'r cwrs Cyfrifiadureg wedi'i gynllunio:

I'ch helpu i ddeall technolegau cyfredol a'r technolegau diweddaraf;

Bod yn hwyl ac yn ffordd ddiddorol i ddatblygu sgiliau datrys problemau, dadansoddi a meddwl yn feirniadol;

Datblygu rhaglenni cyfrifiadurol i ddatrys problemau;

Paratoad gwych ar gyfer cyflogaeth. Swyddi fel bod yn wyddonydd, peiriannydd, rhaglennydd cyfrifiadur neu swyddi ym maes meddygaeth.

Mae myfyrwyr sy'n dewis Cyfrifiadureg yn aml yn mynd ymlaen i wneud Lefel A mewn Cyfrifiadureg, Mathemateg a Gwyddoniaeth ac i barhau â'r pynciau hyn yn y brifysgol. Cydnabyddir y bydd bwlch sgiliau mawr o ran bobl sydd â sgiliau Cyfrifiadureg a dylai'r rhagolygon cyflogaeth fod yn rhagorol.

Asesu Mae'r cwrs Gwyddoniaeth cyfrifiadurol yn TGAU yn 60% ymarferol a theori 40%. Uned 1: Arholiad theori ar ddiwedd Blwyddyn 11 40% Uned 2: Arholiad ymarferol ar ddiwedd Blwyddyn 11 30% Uned 3: Rhaglenni 15 awr Asesiad dan Reolaeth yn ystod Blwyddyn 10 30% Gall myfyrwyr TGAU lwyddo o A * i G.

27

Page 28: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

TYSTYSGRIF GYNTAF BTEC LEFEL 2 MEWN

CHWARAEON

Bwrdd Arholi: Edexcel

Cynnwys y Cwrs Mae Tystysgrif Gyntaf BTEC Lefel 2 mewn Chwaraeon yn cynnig cymhwyster arbenigol sy’n canolbwyntio ar agweddau ar gyflogaeth o fewn y sector chwaraeon a hamdden heini. Mae’r dysgu wedi’i ddynodi i fod yn arbrofol fel bo cysyniadau yn cael eu datblygu a’u cymhwyso mewn cyd-destun chwaraeon ymarferol a bydd y myfyrwyr yn ehangu eu sgiliau mewn ystod o weithgareddau chwaraeon tîm a chwaraeon unigol. Mae’r cwrs yn ymdrin â’r canlynol:- Blwyddyn 10

• Ffitrwydd ar gyfer chwaraeon ac ymarfer corff - arholiad ar-lein • Perfformiad chwaraeon ymarferol

Blwyddyn 11

• Perfformiwr chwaraeon ar waith • Hyfforddiant ar gyfer ffitrwydd personol

Asesu Mae Uned 1 Ffitrwydd ar gyfer Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn cael ei asesu'n allanol a dyfernir Llwyddiant L1, Llwyddiant L2, Teilyngdod L2 neu Rhagoriaeth L2 yn unol â chyflawniad y canlyniad dysgu penodedig. Caiff yr holl unedau eraill eu hasesu'n fewnol. Cynlluniwyd Gwobr Gyntaf BTEC Lefel 1/Lefel 2 Pearson mewn Chwaraeon i ddarparu cyflwyniad deniadol a symbylus i fyd chwaraeon. Mae'r cymhwyster yn adeiladu ar ddysgu o Gyfnod Allweddol 3 ar gyfer y rhai a allai fod eisiau archwilio llwybr galwedigaethol trwy gydol Cyfnod Allweddol 4. Mae hefyd yn rhoi cyflwyniad da o Chwaraeon i ddysgwyr mewn addysg ôl-16, ac mae'n dwyn ynghyd dysgu ar lefelau 1 a 2 i sicrhau bod pob dysgwr sy'n cymryd y cymhwyster yn ei chwblhau gyda lefel o ddealltwriaeth a sgil y bydd yn ei adeiladu yn ddiweddarach.

28

Page 29: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

TYSTYSGRIF GYNTAF BTEC LEFEL 2 MEWN LLETYGARWCH

Bwrdd Arholi: Edexcel

Cynnwys y Cwrs Mae Tystysgrif Gyntaf Lefel 2 mewn Lletygarwch yn gymhwyster galwedigaethol. Mae wedi cael ei datblygu i ddarparu cyflwyniad difyr a chyffrous i fyd lletygarwch. Mae'n cynnwys PEDWAR uned sy'n ffurfio'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth sylfaenol o egwyddorion lletygarwch.

Unedau

Uned 1: Cyflwyno'r Diwydiant Lletygarwch (asesir yn allanol) Papur Ysgrifenedig (1awr 15 munud. 50 marc) Lletygarwch yw un o'r diwydiannau mwyaf yn y DU. Mae ganddo dros ddwy filiwn o weithwyr ac mae'n gwneud cyfraniad sylweddol i economi'r DU. Mae'n ddiwydiant deinamig sy'n ymateb yn gyflym i anghenion newidiol y farchnad, drwy arloesi, amrywiaeth a thwf cyflym. Mae hyn yn galluogi'r diwydiant lletygarwch i gynnig nifer o wahanol fathau o gyflogaeth, gyda chyfleoedd i chi weithio yn y wlad hon a ledled y byd. Yn yr uned hon byddwch yn archwilio gwahanol agweddau ar y diwydiant lletygarwch trwy edrych ar ei gydrannau, gan ennill mewnwelediad i fusnes lletygarwch a'r gwahanol gynhyrchion a gwasanaethau y mae'n eu darparu.

Uned 2: Gweithio yn y Diwydiant Lletygarwch (asesir yn fewnol) Mae'r uned hon yn rhoi cyfle i chi archwilio pwysigrwydd gweithio mewn tîm a'r gwasanaeth cwsmeriaid sydd ei angen i weithio'n llwyddiannus mewn amrywiaeth o rolau swyddi o fewn y diwydiant lletygarwch.

Uned 3: Diogelwch Bwyd ac Iechyd a Diogelwch mewn Lletygarwch (asesir yn

fewnol) Mae cyfraith iechyd a diogelwch a rheoliadau diogelwch bwyd yn berthnasol i bob busnes, boed fawr neu fach. Mae'r holl staff sy'n gweithio mewn busnesau lletygarwch yn gyfrifol am ddiogelwch bwyd ac iechyd a diogelwch. Yn yr uned hon byddwch yn dysgu pwysigrwydd dilyn y gweithdrefnau priodol i gynnal diogelwch bwyd. Byddwch yn dysgu am y gweithdrefnau i gynnal diogelwch bwyd wrth storio, paratoi, coginio a gweini bwyd. Mae busnesau o fewn y diwydiant lletygarwch yn mabwysiadu'r gweithdrefnau hyn i atal unrhyw broblemau gyda pheryglon posibl o ran diogelwch bwyd.

Uned 6 – Cynllunio, Paratoi, Coginio a Gorffen Bwyd (asesir yn fewnol) Mae paratoi a choginio bwyd yn rhan bwysig iawn o'r Diwydiant Lletygarwch. Mae'r uned hon yn rhoi cyfle i chi edrych ar y ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer hyfedredd wrth gynllunio, paratoi, coginio a gorffen ystod o fathau o fwyd. Byddwch yn dysgu sut i ddewis a pharatoi cynhwysion a chynllunio pryd dau-gwrs. Byddwch hefyd yn dysgu am yr offer a'r cyfarpar a ddefnyddir i baratoi, coginio a gorffen bwyd. Cefnogir y wybodaeth am bob cwrs bwyd gan y ddealltwriaeth ynglŷn â chynllunio a dewis cynhwysion ac arferion gwaith diogel a hylan.

29

Page 30: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

TYSTYSGRIF GYNTAF BTEC LEFEL 2 MEWN

IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL

Bwrdd Arholi: Edexcel

Cynnwys y Cwrs Mae'r Dystysgrif Gyntaf Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cael ei datblygu i roi cyflwyniad difyr i'r sector. Mae uned gyntaf y cymhwyster hwn,a asesir yn allanol, yn rhoi sylfaen gadarn i ddysgwyr o ran datblygiad rhychwant oes dynol. Bydd dysgwyr hefyd yn ennill gwerthfawrogiad o bwysigrwydd gwerthoedd iechyd a gofal cymdeithasol yn y sector o'r ail uned.

Uned 1: Datblygiad Rhychwant Oes Dynol (asesir yn allanol) Papur Ysgrifenedig (1awr - 50 marc) Mae'r uned hon yn rhoi cyfle i chi archwilio sut yr ydym yn tyfu ac yn datblygu drwy gydol ein bywydau ac i ymchwilio i'r ffactorau sy'n effeithio ar y twf a'r datblygiad hwn. Byddwch yn mynd ymlaen i ystyried sut mae'r ffactorau hyn yn perthyn i'w gilydd. Mae pedair agwedd wahanol i dwf a datblygiad dynol, wedi'u dosbarthu fel arfer yn ddatblygiad corfforol, deallusol, emosiynol a chymdeithasol. Mae'r pedair agwedd hyn yn perthyn yn agos i'w gilydd, a gall newid mewn un effeithio ar rai, neu bob un, o'r meysydd eraill.

Uned 2: Gwerthoedd Iechyd a Gofal Cymdeithasol (asesir yn fewnol) Mae gwerthoedd iechyd a gofal cymdeithasol yn sail i arferion da o fewn y sector. Mae'r gwerthoedd gofal hyn yn berthnasol i bob maes o waith iechyd a gofal cymdeithasol. Yn yr uned hon byddwch yn dod i ddeall sut mae'r gwerthoedd gofal hyn yn cael eu cymhwyso mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, a'u pwysigrwydd i waith yn y sector.

Uned 5: Hybu Iechyd a Lles (asesir yn fewnol) Gall bod yn iach olygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Gellir atal llawer o anafiadau a chlefydau os bydd pobl yn dewis byw yn iach ac yn gwybod sut i leihau risgiau i'w hiechyd. Hybu iechyd yw'r maes iechyd sy'n codi ymwybyddiaeth o'r materion hyn, ac yn addysgu pobl ar sut i fod yn iach. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys hyrwyddo'r defnydd o sgrinio a brechu i atal clefyd, neu redeg ymgyrchoedd wedi'u cynllunio i ddarparu gwybodaeth am ddewisiadau ffordd o fyw iach.

Uned 6: Effaith Maeth ar Iechyd a Lles (asesir yn fewnol) Yn yr uned hon byddwch yn archwilio beth yw ystyr diet cytbwys a'i effeithiau ar y corff, er enghraifft o ran codi imiwnedd i haint a gwella'r gallu i ganolbwyntio. Byddwch hefyd yn archwilio beth yw ystyr diet anghytbwys a sut y gall hyn arwain at wahanol fathau o salwch. Mae'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth y byddwch yn eu hennill yn yr uned hon yn hanfodol ar gyfer gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol gan y bydd yn eich helpu i gefnogi unigolion i wneud y dewisiadau cywir i wella eu hiechyd a'u lles.

30

Page 31: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn

NODIADAU

Page 32: YSGOL GYFUN DYFFRYN TAF 1996 DEWIS PYNCIAUdyffryntaf.co.uk/wp-content/uploads/2017/12/Options-2018... · 2017. 12. 14. · Rhagfyr 2017 Annwyl Riant/Gwarchiedwad Mae eich plentyn