6. asesiad effaith rheoleiddiol - senedd · 2017. 9. 11. · manteision 7.6 nid yw opsiwn 1 yn...
TRANSCRIPT
-
1
6. Asesiad effaith rheoleiddiol
6.1 Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i gwblhau ar gyfer y Bil, a gellir ei weld
yn Rhan 2.
6.2 Nid yw’r asesiad effaith rheoleiddiol wedi’i osod mewn ffordd sy’n cyfateb i
strwythur y Bil. Yn hytrach, mae’r asesiad effaith rheoleiddiol yn cyflwyno’r
costau fel y maent yn berthnasol i’r prif newidiadau a gyflwynir gan y Bil, gan
ddwyn ynghyd y darpariaethau perthnasol. Enghraifft o hyn yw’r amcangyfrif
o’r gost o ailenwi’r tribiwnlys o Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig
Cymru i Dribiwnlys Addysg Cymru. Mae’r ddarpariaeth i ailenwi’r tribiwnlys
wedi’i amlinellu yn rhan tri y Bil, ond mae’r amcangyfrif o’r gost yn cael ei
drafod fel rhan o’r diwygiadau i gyflwyno CDUau statudol i bobl ifanc ag
anghenion dysgu ychwanegol, sydd wedi’u cynnwys yn y darpariaethau yn
rhan dau y Bil (gweler paragraff 8.258).
6.3 Er mai’r arfer safonol yw amlinellu’r amcanestyniadau cost dros gyfnod o bum
mlynedd, yr hyn a wneir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol hwn yw amlinellu’r
costau dros gyfnod o bedair blynedd yn unol â thymor cyfredol Cynulliad
Cenedlaethol Cymru.
Crynodeb – asesiad effaith rheoleiddiol
Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg
(Cymru)
Yr opsiwn a ffefrir: cyflwyno deddfwriaeth i wella’r system bresennol ar gyfer
anghenion addysgol arbennig i leihau’r gwrthdaro sydd o fewn y system ar hyn o
bryd, a gwella canlyniadau i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
Mae’r opsiynau penodol yn cynnwys cyflwyno:
cynlluniau datblygu unigol statudol (CDUau) i bobl ifanc ag ADY. Gweler
tudalennau 94 a 131
gofyniad i awdurdodau lleol osgoi a datrys anghytundebau. Gweler
tudalennau 101 a 219
cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i asesu anghenion pobl ifanc ôl-16 a
sicrhau darpariaeth addysg bellach arbenigol. Gweler tudalennau 103 a
234
newidiadau i gofrestru a chymeradwyo ysgolion annibynnol mewn
perthynas ag anghenion addysgol arbennig. Gweler tudalennau 107 a
248
newidiadau i’r sail statudol dros gydlynwyr anghenion addysgol arbennig
mewn addysg. Gweler tudalennau 110 a 269
-
2
newidiadau i’r sail statudol dros gydlynwyr anghenion addysgol arbennig
mewn iechyd. Gweler tudalennau 115 a 281
Cam: cyflwyno Cyfnod arfarnu: 2017-
18 i 2020-21
Blwyddyn y sail brisiau:
2016-17
Cyfanswm y gost
Cyfanswm: £8,519,900 Gwerth presennol: £7,856,860
Cyfanswm y manteision Cyfanswm: £4,272,740 Gwerth presennol: £3,923,530
Gwerth presennol net: £3,933,330
Costau gweinyddol
Costau
Costau rheolaidd: Yn gyffredinol, mae disgwyl i’r bil arwain at arbedion cost. Fodd
bynng, mae yna bedwar sefydliad sy’n debygol o wynebu costau rheolaidd
ychwanegol:
Byrddau iechyd: £825,600 (£206,400 y flwyddyn)
Sefydliadau addysg bellach: £92,800 (£23,200 y flwyddyn)
Estyn: £172,000 (£43,000 y flwyddyn)
Llywodraeth Cymru: £680 (£170 y flwyddyn)
Costau pontio: mae’n debygol y bydd naw o gyrff y sector cyhoeddus yn wynebu
costau pontio, sef gwasanaethau addysg awdurdodau lleol, gwasanaethau
cymdeithasol awdurdodau lleol, TAAAC, ysgolion y brif ffrwd, byrddau iechyd,
sefydliadau addysg bellach, Estyn, unedau cyfeirio disgyblion a Llywodraeth Cymru.
Cyfanswm y costau pontio yw £11,528,460. Costau pontio Llywodraeth Cyru yw
£1,972,510, sy’n gadael £9,555,950 o gostau pontio i weddill y sefydliadau sector
cyhoeddus.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gweithredu’r Bil drwy grantiau pontio.
-
3
Pontio:
£11,528,460
Rheolaidd:
£1,091,080
Cyfanswm:
£12,619,540
Gwerth Presennol: £11,621,330
Arbedion costau:
Yn gyffredinol, gallai’r bil sicrhau arbedion rheolaidd o tua £4,766,340 dros y cyfnod
pedair blynedd rhwng 2017-18 a 2020-21. Mae hwn yn arbediad o tua £1,191,585 y
flwyddyn.
Gallai gwasanaethau addysg awdurdodau lleol arbed tua £2,750,740 dros y cyfnod
pedair blynedd; gallai Gyrfa Cymru arbed tua £1,954,400 a gallai TAAAC arbed
£61,200 dros y cyfnod pedair blynedd.
Disgwylir i’r arbedion ddeillio o ddarpariaethau yn y bil sy’n ceisio cael gwared â
natur wrthwynebol y broses bresennol o greu datganiad.
Yn ogystal â chydnabod yr arbedion posibl a allai ddeillio o gyflwyno’r opsiynau a
ffefrir, mae’r asesiad effaith rheoleiddiol yn cydnabod na wyddom i ba raddau y caiff
yr arbedion eu cyflawni. Wrth gyfrifo’r arbedion, felly, defnyddiwyd ffigurau canol yr
ystod yn gyffredinol i osgoi gorddatgan yr arbedion posibl.
Lle na fu’n bosibl nodi’r arbedion posibl oherwydd arferion amrywiol sy’n debygol o
gael eu sefydlu wrth weithredu darpariaethau’r bil, cyflwynir arbedion enghreifftiol yn
y testun, ond ni chaiff y rhain eu cynnwys yng nghrynodeb Tabl 69 a Thabl 70.
Pontio: £0
Rheolaidd: £4,766,340
Cyfanswm: £4,766,340
Gwerth Presennol:
£4,376,790
Y gost weinyddol net a arbedir: £7,853,200
-
4
Costau cydymffurfio
Bydd ysgolion annibynnol, rhieni a darparwyr gwasanaethau datrys anghydfod yn
wynebu costau ychwanegol dros y cyfnod pedair blynedd. Fodd bynnag, mae yna
fanteision net i rieni a darparwyr gwasanaethau – gweler isod.
Bydd ysgolion annibynnol yn wynebu costau ychwanegol o tua £17,300 dros y
cyfnod pedair blynedd, sef £2,100 o gostau pontio a £15,200 o gostau rheolaidd.
Amcangyfrifir cost reolaidd ychwanegol bob blwyddyn o £3,800.
Bydd cost ychwanegol i reini o £592,400 dros y pedair blynedd yn sgil hawliau
estynedig i apelio, sef £148,100 y flwyddyn.
Bydd darparwyr gwasanaethau datrys anghydfod yn wynebu costau ychwanegol o
£57,000 dros y cyfnod pedair blynedd yn sgil hawliau estynedig i apelio, sef £14,250
y flwyddyn.
Pontio:
£2,100
Rheolaidd:
£664,600
Cyfanswm:
£666,700
Gwerth Presennol: £612,310
Costau eraill
Nid yw’r dadansoddiad effaith rheoleiddiol wedi nodi unrhyw gostau economaidd,
cymdeithasol nac amgylcheddol sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r opsiynau a ffefrir.
Pontio: £0 Rheolaidd: £0 Cyfanswm: £0 Gwerth
Presennol: £0
-
5
Costau ac anfanteision na chyfrifwyd
Mae yna nifer o gostau, anfanteision a risgiau’n gysylltiedig â chyflwyno’r bil na fu
modd cyfrifo eu gwerth, ac nid yw’r costau’n hysbys, ee:
Cost gweinyddu cyhoeddus
costau rheolaidd a chostau yn y dyfodol i ysgolion yn sgil cwynion am
gynlluniau a darpariaeth
costau rheolaidd a chostau yn y dyfodol i sefydliadau addysg bellach yn sgil
cwynion am gynlluniau a darpariaeth
costau sy’n gysylltiedig â throsiant staff mewn perthynas â chymhwyster
sylfaenol Cydlynwyr ADY
costau sy’n gysylltiedig â datblygu cymhwyster sylfaenol Cydlynwyr ADY
y gost reolaidd gyfredol i fyrddau iechyd lleol yn sgil cydgysylltu darpariaeth
iechyd i blant a phobl ifanc ag ADY
Mae’r rhain wedi’u nodi yn ôl darpariaeth a sefydliad drwy gydol yr asesiad effaith
rheoleiddiol.
Manteision
Mae’r dadansoddiad effaith rheoleiddiol wedi nodi arbedion posibl o tua
£3,921,900 dros y cyfnod pedair blynedd i rieni pobl ifanc ag anghenion dysgu
ychwanegol. Mae hwn yn arbediad posibl o £980,475 y flwyddyn.
Gallai darparwyr gwasanaethau datrys anghydfod wneud arbedion o
£350,840 dros y cyfnod pedair blynedd. Amcangyfrifir bod hwn yn arbediad
posibl o £87,710 y flwyddyn.
Mae’r manteision na chyfrifwyd wedi’u nodi yn yr adran ar opsiynau.
Pontio: £0 Rheolaidd: £4,272,740
Cyfanswm: £4,272,740
Gwerth Presennol:
£3,923,530
Manteision na chyfrifwyd
Mae yna nifer o fanteision yn gysylltiedig â chyflwyno’r bil na fu modd cyfrifo
eu gwerth, ee:
-
6
Manteision o ran gweinyddu cyhoeddus
arbedion posibl i sefydliadau addysg bellach yn sgil peidio â gorfod
cynnal cynlluniau colegau ar gyfer pob person ifanc ag ADY yn sgil y
ddarpariaeth i gyflwyno cynlluniau datblygu unigol a gynhelir gan
awdurdodau lleol ar gyfer rhai pobl ifanc ag ADY sy’n mynd i addysg
bellach
arbedion posibl i awdurdodau lleol sy’n gysylltiedig ag unrhyw
ostyngiad yn nifer yr anghytundebau yn sgil y ddarpariaeth sy’n ei
gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol osgoi a datrys anghytundebau
arbedion posibl i wasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau iechyd
sy’n deillio o gael gwared â’r gofyniad presennol iddynt ddarparu
cyngor ym mhob achos asesu statudol, pa mor berthnasol bynnag y
bo.
Manteision i sefydliadau eraill
arbedion posibl i ddarparwyr gwasanaethau datrys anghydfod yn sgil y
ddarpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol osgoi a
datrys anghydfodau
Manteision i blant, pobl ifanc a rhieni
arbedion posibl i rieni sy’n gysylltiedig ag unrhyw ostyngiad yn nifer yr
anghytundebau yn sgil y ddarpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i
awdurdodau lleol osgoi a datrys anghydfodau
Manteision cymdeithasol
manteision cymdeithasol o ganlyniad i blant a phobl ifanc ag ADY yn
cyflawni eu potensial, gan gynnwys cyrhaeddiad uwch, mynd i’r coleg,
byw’n annibynnol a chyflogaeth yn y dyfodol
Mae’r rhain wedi’u nodi yn ôl darpariaeth a sefydliad drwy gydol yr
asesiad effaith rheoleiddiol.
Tystiolaeth allweddol, rhagdybiaethau ac ansicrwydd
Mae’r dystiolaeth allweddol, y rhagdybiaethau a’r elfennau o ansicrwydd wedi’u nodi
yn y cyflwyniad. Mae mwy o fanylion i’w gweld yn y trafodaethau ar gostau a
manteision y cynigion unigol.
-
7
RHAN 2 - ASESIAD EFFAITH
7. Yr opsiynau
7.1 Mae'r bennod hon yn amlinellu'r opsiynau sy'n gysylltiedig â phob un o'r
darpariaethau canlynol a amlinellir yn y Bil:
Cynlluniau i gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu
ychwanegol
Datrys anghydfodau
Cyfrifoldeb dros asesu anghenion pobl ifanc sy'n hŷn nag 16 oed a thros
sicrhau darpariaeth addysg bellach arbenigol
Cofrestru a chymeradwyo ysgolion annibynnol mewn perthynas ag
anghenion addysgol arbennig
Sail statudol i gydlynwyr anghenion addysgol arbennig mewn addysg
Sail statudol i gydlynwyr strategol anghenion addysgol arbennig ym maes
iechyd
Cynlluniau i gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu
ychwanegol
7.2 Ar hyn o bryd, bydd gan bobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (y
cyfeirir atynt hefyd fel anghenion addysgol arbennig) un neu fwy o'r cynlluniau
canlynol:
Datganiad statudol o anghenion addysgol arbennig (AAA)
Cynllun addysg unigol anstatudol
Cynllun dysgu a sgiliau statudol
Cynllun anstatudol eu coleg.
7.3 Bydd y cynllun sydd gan blentyn neu berson ifanc yn dibynnu ar sail statudol
ei ddarpariaeth addysg arbennig ac ar ba gam y mae'r person ifanc o ran ei
yrfa ysgol. Bydd gan blant a phobl ifanc sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth,
er enghraifft, ddatganiad anghenion addysgol arbennig a chynllun addysg
unigol tra byddant yn mynychu ysgol a bydd ganddynt gynllun dysgu a sgiliau
-
8
tra byddant yn mynychu addysg ôl-16 mewn sefydliad addysg bellach. Bydd
gan blant a phobl ifanc sydd â mân anghenion dysgu ychwanegol (ADY) neu
anghenion cymhedrol gynllun addysg unigol tra byddant yn mynychu'r ysgol, a
chynllun gan y coleg tra byddant mewn addysg bellach ôl-16.
7.4 Yn ogystal â chynlluniau amrywiol, mae gan blant a phobl ifanc hawliau
amrywiol ar hyn o bryd. Gall plant a phobl ifanc sydd â datganiad anghenion
addysgol arbennig herio penderfyniadau a wneir gan yr awdurdod lleol
ynghylch darpariaeth, drwy apelio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig
Cymru (TAAAC). Ni all plant a phobl ifanc sydd â chynllun addysg unigol
apelio i TAAAC i herio penderfyniadau a wneir gan ysgolion ynghylch
darpariaeth.
Opsiwn 1: gwneud dim
7.5 O dan opsiwn 1, byddai'r arfer presennol o greu cynlluniau addysg i gefnogi
plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn parhau.
Manteision
7.6 Nid yw opsiwn 1 yn golygu unrhyw gostau ychwanegol.
Anfanteision
7.7 Nid yw'r system bresennol yn trin pawb ar yr un sail. Darperir gwasanaeth
sydd wedi'i warchod gan y gyfraith ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â'r
anghenion mwyaf difrifol ac sy'n cyrraedd y trothwy i gael datganiad
anghenion addysgol arbennig. Ar y llaw arall, nid oes darpariaeth na hawliau
statudol sydd wedi'u gwarchod ar gyfer plant a phobl ifanc y mae eu
hanghenion yn llai difrifol ac nad ydynt yn cyrraedd y trothwy i gael datganiad
anghenion addysgol arbennig.
7.8 Nid yw'r trothwy cymhwysedd presennol ar gyfer datganiad anghenion
addysgol arbennig wedi'i ddiffinio yng Nghod Ymarfer Anghenion Addysgol
Arbennig Cymru1. O ganlyniad, gall awdurdodau lleol ddehongli pwy sy'n
1 http://learning.gov.wales/docs/learningwales/publications/131016-sen-code-of-practice-for-wales-
en.pdf
http://learning.gov.wales/docs/learningwales/publications/131016-sen-code-of-practice-for-wales-en.pdfhttp://learning.gov.wales/docs/learningwales/publications/131016-sen-code-of-practice-for-wales-en.pdf
-
9
gymwys mewn amrywiol ffyrdd, gan arwain at anghysondeb rhwng
awdurdodau lleol.
7.9 Mae'r arferion a'r prosesau presennol sy'n gysylltiedig â datganiadau
anghenion addysgol arbennig yn aneffeithlon ac anhyblyg, a gallant arwain at
ddarpariaeth aneffeithiol i blant a phobl ifanc.
7.10 Mae'r trefniadau presennol ar gyfer adolygu a diwygio cynlluniau statudol yn
llafurus yn weinyddol, ac mae ysgolion yn gorfod gwahodd set benodol o
broffesiynolion, p'un a oes angen iddynt fod yno a ph'un a oes angen eu
mewnbwn i sicrhau effeithiolrwydd yr adolygiad ai peidio. Mae'n cymryd cryn
amser i drefnu a pharatoi ar gyfer adolygiadau statudol. Gall diwygio cynllun,
felly, fod yn broses hir a gall arwain at oedi cyn i ddysgwyr dderbyn y cymorth
mwyaf priodol.
7.11 Yn ogystal, nid oes llawer o hyblygrwydd wrth adolygu'r ddarpariaeth ar gyfer
plant a phobl ifanc sydd ar y trothwy ar gyfer derbyn cymorth statudol. Lle, er
enghraifft, bydd canlyniadau cynllun statudol wedi'u cyflawni yn achos plentyn
neu berson ifanc, gallai pryder rhieni ynghylch colli hawliau statudol arwain at
bwysau i gadw'r cynllun a'i ddarpariaeth, er nad dyma o reidrwydd y
ddarpariaeth fwyaf effeithiol ar gyfer y person ifanc.
7.12 Nid yw'r system bresennol yn hwyluso'r broses bontio rhwng gwahanol gamau
addysg, hynny yw rhwng y blynyddoedd cynnar a'r ysgol a rhwng yr ysgol ac
addysg ôl-16. Gall hyn gael effaith negyddol ar addysg dysgwyr.
7.13 Yn ogystal, nid yw'r system bresennol yn rhoi hawl i bob plentyn a pherson
ifanc ag ADY apelio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Yn
wahanol i blant a phobl ifanc o oed ysgol gorfodol, ar hyn o bryd nid yw pobl
ifanc sydd mewn addysg ôl-16 yn cael apelio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol
Arbennig Cymru.
-
10
Opsiwn 2: disodli'r cynlluniau cymorth presennol ag un cynllun ar gyfer
plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol
7.14 O dan opsiwn 2, byddai'r cynlluniau statudol ac anstatudol presennol ar gyfer
dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig ac anawsterau a/neu anableddau
dysgu yn cael eu disodli ag un cynllun datblygu unigol (CDU) statudol ar gyfer
pob plentyn a pherson ifanc ag ADY.
7.15 Ysgolion, sefydliadau addysg bellach neu awdurdodau lleol fydd yn cynnal y
CDUau. Y disgwyl yw y bydd y plant a'r bobl ifanc sydd â chynllun anstatudol
ar hyn o bryd yn cael CDU a gynhelir gan yr ysgol/sefydliad addysg bellach,
ac y bydd y rheini sydd â chynlluniau statudol yn cael un a gynhelir gan yr
awdurdod lleol.
7.16 Opsiwn 2 yw’r opsiwn a ffefrir.
Manteision
7.17 Ar ôl rhoi'r CDUau ar waith, ni fyddai unrhyw gostau rheolaidd ychwanegol yn
gysylltiedig â’u datblygu a’u hadolygu2. Mae'r diffiniad arfaethedig ar gyfer
ADY yn debyg i'r diffiniadau presennol ar gyfer anghenion addysgol arbennig
ac anawsterau a/neu anableddau dysgu3. Dylai nifer y dysgwyr a fyddai ag
ADY, felly, fod yr un fath â'r rheini sydd ag anghenion addysgol arbennig neu
sydd ag anawsterau a/neu anableddau dysgu ar hyn o bryd.
7.18 Byddai defnyddio'r term 'ychwanegol' mewn perthynas ag anghenion dysgu
yn helpu i osgoi'r stigma sy'n gysylltiedig â'r term 'arbennig' ac yn symud y
ffocws i'r cymorth ychwanegol y mae ei angen ar blant a phobl ifanc i gael
addysg.
7.19 Byddai pob plentyn a pherson ifanc ag ADY yn cael eu trin yn yr un ffordd, pa
mor ddifrifol bynnag yw eu hangen. Byddai hawl gan bob dysgwr yn
lleoliadau'r blynyddoedd cynnar, ac mewn ysgolion (gan gynnwys ysgolion
arbennig, unedau cyfeirio disgyblion a meithrinfeydd a gynhelir) a sefydliadau
2 Fodd bynnag, mae’n bosibl y gallai fod yna gostau rheolaidd ychwanegol o £23,200 i sefydliadau
addysg bellach yn sgil ymateb i apelau gan bobl ifanc ag anawsterau a/neu anableddau dysgu ac
anawsterau dysgu dwys a lluosog o ganlyniad i ehangu’r hawl i apelio i TAAAC i gynnwys pobl ifanc
hyd at 25 oed sydd ag ADY sy’n mynychu addysg bellach. 3 Gweler yr adran ar gyflwyno’r term Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y memorandwm esboniadol.
-
11
addysg bellach, y mae angen darpariaeth ddysgu ychwanegol arnynt, i gael
cynllun statudol, y CDU.
7.20 Byddai cyflwyno cynlluniau statudol ar gyfer pob person ifanc ag ADY yn ei
gwneud yn bosibl canolbwyntio'n fwy ar nodi angen dysgwr a'i gefnogi yn
gynnar. Gallai ymyrraeth gynnar arwain at arbed costau drwy, er enghraifft,
gadw'r anghenion rhag cynyddu.
7.21 Yn ogystal, bydd gan bob plentyn a pherson ifanc ag ADY hawl i apelio i
Dribiwnlys Addysg Cymru (Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru ar
hyn o bryd). Byddai opsiwn 2, drwy ymestyn yr hawl i apelio i bob dysgwr, gan
gynnwys y rheini mewn darpariaeth ôl-16, yn cyflwyno hawliau apelio tecach i
blant, eu rhieni a phobl ifanc.
7.22 Dylai'r prosesau a'r arferion a gyflwynir i gefnogi CDUau helpu i gyflwyno dull
mwy effeithlon a hyblyg o asesu ac adolygu. Byddai hyn yn cynnwys, er
enghraifft, ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr iechyd a gwasanaethau
cymdeithasol gymryd rhan mewn asesiadau ac adolygiadau dim ond lle
byddai eu mewnbwn o fudd i'r dysgwr4. Mae yna botensial, felly, i arbed
costau o ran amser proffesiynol a'r amser mae'n ei gymryd i drefnu a chydlynu
cyfarfodydd asesu ac adolygu.
7.23 Dylai dysgwyr a'u teuluoedd hefyd fod ar eu hennill yn sgil llai o oedi wrth
gynllunio a/neu adolygu cynlluniau, gan y bydd yn haws trefnu cyfarfodydd lle
gwahoddir llai o broffesiynolion.
7.24 Bydd cael un cynllun ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc ag ADY yn cael
gwared ar y pwysau sy'n dod gan rieni ar hyn o bryd i gadw'r ddarpariaeth
mewn datganiad anghenion addysgol arbennig ar ôl i amcanion y cynllun gael
eu cyflawni a bod dim gwarant am yr un lefel o ddarpariaeth bellach. Mae'r
pwysau hyn yn deillio o bryder ynghylch colli hawl i gynllun statudol os lleiheir
y ddarpariaeth. Bydd cael gwared ar y rhaniad presennol rhwng darpariaeth
4 Ar hyn o bryd, wrth gynnal asesiad, rhaid i awdurdod lleol ofyn am gyngor rhiant y plentyn, y
pennaeth (neu'r unigolyn cyfatebol), yr awdurdod iechyd. Mae'r rheini, yn eu tro, yn gorfod cael cyngor
ymarferwr meddygol sydd wedi'i gofrestru'n llawn, seicolegydd addysg, awdurdod gwasanaethau
cymdeithasol ac unrhyw gyngor arall y mae'r awdurdod yn ei ystyried yn briodol at ddiben cynnal
asesiad boddhaol (gweler Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002 (2002
Rhif 152)).
-
12
statudol ar gyfer yr anghenion mwyaf cymhleth a darpariaeth anstatudol ar
gyfer dysgwyr ag anghenion llai cymhleth yn goresgyn y pryder hwn.
7.25 Y disgwyl yw y bydd cael gwared ar y gwahaniaeth rhwng darpariaeth statudol
ac anstatudol yn arwain at ddull mwy hyblyg o gynllunio, a allai leihau'r gost a
chynyddu effeithiolrwydd gan y gellid targedu'r gwasanaethau yn well yn ôl
anghenion y dysgwr.
7.26 Bydd cael un cynllun ar gyfer plant a phobl ifanc yn hwyluso mwy o gysondeb
o ran arferion a phrosesau ADY, a bydd pob ymarferwr yn gweithredu o fewn
un system, ar draws y blynyddoedd cynnar, ysgolion ac addysg bellach.
7.27 Yn ogystal, gallai creu un cynllun wella'r gwaith cynllunio o ran y broses bontio
rhwng gwahanol gamau addysg - y blynyddoedd cynnar, yr ysgol ac addysg
bellach - gan mai'r disgwyl yw y bydd un cynllun yn hyrwyddo dilyniant y
broses gynllunio. O dan y system bresennol, ceir amryw o gynlluniau sy’n
adlewyrchu gwahanol gamau addysg. Dylai un cynllun hwyluso darpariaeth
lyfn, ddi-dor.
7.28 Dylai proses bontio lyfn rhwng camau addysgol eglur helpu i atal canlyniadau
pontio gwael, lle caiff y manteision a gafodd dysgwyr yn ystod eu plentyndod
eu tanseilio wrth iddynt dyfu'n oedolion.
Risgiau
7.29 Gallai cynyddu nifer y plant a'r bobl ifanc sydd â hawl statudol i ddarpariaeth
arwain at fwy o bwysau am ddarpariaeth.
7.30 O dan opsiwn 2, bydd nifer y bobl ifanc sydd â chynllun statudol yn cynyddu o
13,218 i 107,6685. Gallai cyfran o'r 94,350 o blant a phobl ifanc ychwanegol
a/neu eu rhieni ddisgwyl mwy gan gynllun statudol nag yr oeddent yn ei
ddisgwyl gan eu cynllun anstatudol blaenorol, a herio penderfyniadau
ynghylch y ddarpariaeth.
7.31 Gallai hyn arwain at fwy o anghytuno ynghylch y ddarpariaeth a nodir yn y
CDUau a gynhelir gan ysgolion a sefydliadau addysg bellach. Yn yr achosion
5 Ar sail ffigurau 2015/16 a'r rhagdybiaeth y caiff pob person ifanc y nodwyd ar hyn o bryd bod
ganddynt anghenion addysgol arbennig eu nodi wedyn fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
-
13
hynny, bydd yna oblygiadau o ran cost6. Fodd bynnag, rydym yn ystyried bod
y risg yn isel am ddau reswm. Yn un peth, cyflwynir cynllunio sy'n
canolbwyntio ar yr unigolyn.7 Yn ail, fel rhan o'r cynnig dysgu proffesiynol,
mae datblygu'r gweithlu yn cynnwys hyfforddiant ar nodi'r addysg sydd ei
hangen ar blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, ac ar
wahaniaethu rhwng elfennau'r addysgu hwnnw.
6 Nid oes disgwyl apeliadau ychwanegol i dribiwnlysoedd gan fod y Bil yn sefydlu darpariaethau ynghylch datrys anghytundebau sy'n sicrhau, lle ceir anghytundeb ynghylch CDU neu ei ddarpariaeth,
y caiff y mater ei ystyried a'i ddatrys ar y lefel fwyaf leol bosibl. 7 Mae adran 6 y Bil yn cynnwys darpariaeth sy'n pennu bod sylwadau, dymuniadau a theimladau plant
a phobl ifanc yn elfen graidd o'r system newydd ac mae'n pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod plant a
phobl ifanc, a'u rhieni, yn chwarae rhan mor lawn â phosibl yn y penderfyniadau a wneir mewn
perthynas â'u ADY a'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a gânt.
-
14
Datrys anghydfodau
7.32 Ar hyn o bryd, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu trefniadau ar gyfer
osgoi neu ddatrys anghydfodau mewn perthynas â phenderfyniadau am
ddatganiadau.
7.33 Yn fwy cyffredinol, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau ar gyfer
osgoi neu ddatrys anghydfodau am ddarpariaeth addysgol arbennig rhwng
ysgolion a phlant a phobl ifanc a'u rhieni.
Opsiwn 1: gwneud dim
7.34 O dan opsiwn 1, byddai'r dull presennol o ddatrys anghydfod yn parhau.
Manteision
7.35 Nid oes costau ychwanegol yn gysylltiedig ag opsiwn 1.
Anfanteision
7.36 Efallai nad yw'r trefniadau presennol mor effeithlon ag y gallent fod gan nad
yw'n ofynnol ar hyn o bryd i awdurdodau lleol ganolbwyntio ar osgoi
anghydfodau. O'r herwydd, gallai anghytundeb y gellid bod wedi'i osgoi greu
gwrthdaro a chymryd amser diangen.
-
15
Opsiwn 2: ehangu cwmpas y trefniadau presennol
7.37 Mae opsiwn 2 yn wahanol i opsiwn 1 mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, caiff y
trefniadau presennol eu hehangu i gynnwys pob person ifanc sydd ag
anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys y rheini mewn addysg bellach.
7.38 Yn ail, bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu trefniadau ar gyfer osgoi a
datrys anghydfodau. Ar hyn o bryd, mae gofyn i awdurdodau lleol sefydlu
trefniadau ar gyfer osgoi neu ddatrys anghydfodau.
7.39 Opsiwn 2 yw’r opsiwn a ffefrir.
Manteision
7.40 Dylai canolbwyntio ar osgoi a datrys anghytundeb wneud y broses o ddatrys
anghydfod yn fwy effeithlon, a dylai leihau'r costau i wasanaethau addysg
awdurdodau lleol ac i blant a phobl ifanc a'u rhieni drwy leihau'r achosion lle
mae anghytundeb yn gwaethygu, gan gynnwys osgoi sefyllfaoedd lle bydd yn
rhaid mynd i'r tribiwnlys.
7.41 Mae un awdurdod lleol sydd wedi creu rôl ar gyfer swyddog cymorth teuluol ar
gyfer anghenion dysgu ychwanegol fel ffordd o osgoi anghytundebau wedi
gweld cwymp sylweddol yn nifer yr apeliadau i'r tribiwnlys.
7.42 Mae'r swyddog cymorth teuluol hwn yn gyfrifol am roi cyngor a chymorth
gydag asesiadau, datganiadau ac adolygiadau blynyddol, gan gynnwys
paratoi ar gyfer cyfarfodydd a chefnogaeth yn y cyfarfodydd hynny8.
7.43 Dylai plant a phobl ifanc hefyd elwa yn sgil dull mwy effeithlon a llai ffurfiol o
ddatrys anghytundeb.
Risgiau
7.44 Gallai'r gofyniad i sefydlu trefniadau ar gyfer osgoi yn ogystal â datrys
anghydfod gynyddu'r costau. Lle na weithredir hyn yn effeithiol, mae yna risg
y bydd yna gynnydd yn y costau heb yr arbedion disgwyliedig yn sgil osgoi
trefniadau drud datrys anghydfod neu dribiwnlys.
8 http://fis.carmarthenshire.gov.uk/eng/aln_support_e.htm
http://fis.carmarthenshire.gov.uk/eng/aln_support_e.htm
-
16
Cyfrifoldeb dros asesu anghenion pobl ifanc sy'n hŷn nag 16 oed a thros sicrhau darpariaeth addysg bellach arbenigol
7.45 Ar hyn o bryd, cyfrifoldeb Gweinidogion Cymru yw asesu'r ddarpariaeth ar
gyfer dysgwyr dros 16 oed sydd ag anawsterau dysgu a/neu anableddau, a
sicrhau darpariaeth addysg ôl-16 arbenigol i ddysgwyr sydd â'r anghenion
mwyaf difrifol. Mae Gyrfa Cymru yn cynnal asesiadau ar ran Gweinidogion
Cymru ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn sicrhau lleoliadau ar ran
Gweinidogion Cymru.
7.46 Pan fydd person ifanc yn gadael yr ysgol ac yn mynd i addysg ôl-16, mae'r
canlynol yn digwydd:
fel rhan o'r broses adolygu a phontio flynyddol, bydd ysgolion, sefydliadau
addysg bellach a/neu golegau arbenigol annibynnol yn darparu
gwybodaeth am y dysgwr i Gyrfa Cymru
mae Gyrfa Cymru yn defnyddio'r wybodaeth wrth asesu anghenion
addysgol arbennig y dysgwr ac wrth lunio'r cynllun dysgu a sgiliau
lle bydd gan berson ifanc anghenion cymhleth a bod angen cymorth
darpariaeth ôl-16 arbenigol, bydd Gyrfa Cymru yn gwneud cais i
Weinidogion Cymru ei ystyried
mae Gweinidogion Cymru yn gyfrifol am sicrhau a chyllido darpariaeth
arbenigol ôl-16.
Opsiwn 1: gwneud dim
7.47 O dan opsiwn 1, byddai'r cyfrifoldebau presennol o ran asesu anghenion a
sicrhau addysg ôl-16 arbenigol yn parhau.
Manteision
7.48 Ni fyddai unrhyw gostau ychwanegol yn gysylltiedig ag opsiwn 1.
Anfanteision
7.49 O dan y trefniadau presennol, yr awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am asesu
anghenion ac am sicrhau darpariaeth addysg arbenigol ar gyfer plant a phobl
ifanc hyd at 16 neu 19 oed lle mae gan y person ifanc ddatganiad. Yna, mae
-
17
swyddogion Gyrfa Cymru a Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â'r cyfrifoldeb ar
ran Gweinidogion Cymru.
7.50 Mae risg i'r wybodaeth y mae awdurdod lleol wedi'i chasglu am y dysgwr yn
ystod ei yrfa ysgol gael ei cholli yn ystod y cyfnod pontio. Yn wahanol i
awdurdodau lleol, nid yw swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion Gyrfa
Cymru wedi datblygu perthynas gyda'r person ifanc ac felly mae'r wybodaeth
sydd ganddynt i seilio penderfyniadau arni yn gyfyngedig.
7.51 Yn ogystal, fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae perthynas y naill ochr a'r llall
yn dod i ben ac mae'n rhaid datblygu perthynas newydd. Gall hyn fod yn
rhwystredig i bobl ifanc a'u rhieni.
-
18
Opsiwn 2: pennu bod awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynllunio a sicrhau darpariaeth addysg bellach arbenigol ar gyfer dysgwyr ag ADY
7.52 O dan opsiwn 2, lle mae gan ddysgwyr CDU a gynhelir gan yr awdurdod lleol,
byddai'r cyfrifoldeb dros asesu anghenion a sicrhau darpariaeth arbenigol ôl-
16 yn cael ei drosglwyddo i awdurdodau lleol. Byddai'r gyllideb bresennol a
ddefnyddir gan Weinidogion Cymru i gynllunio a sicrhau darpariaeth ôl-16
arbenigol yn cael ei throsglwyddo i awdurdodau lleol wrth iddynt ysgwyddo'r
cyfrifoldebau hyn. Ni fydd costau ychwanegol i awdurdodau lleol, felly.
7.53 Yn ogystal, byddai'n ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal a chyhoeddi rhestr o
golegau ôl-16 arbenigol annibynnol.
7.54 Byddai gwasanaethau addysg awdurdodau lleol yn gweithio'n uniongyrchol
gydag ysgolion a darparwyr ôl-16 i nodi'r ddarpariaeth y mae ei hangen i
fodloni anghenion y dysgwr, ac i sicrhau ei bod ar gael. Ni fyddai awdurdodau
lleol yn gallu rhoi person ifanc mewn coleg nad yw ar y rhestr o golegau
arbenigol annibynnol a gynhelir gan Weinidogion Cymru.
7.55 Opsiwn 2 yw’r opsiwn a ffefrir.
Manteision
7.56 Byddai'r cydberthnasau presennol yn cael eu cadw ac ni fydd yr wybodaeth y
mae'r awdurdod lleol wedi'i chasglu am y person ifanc yn cael ei cholli pan aiff
i addysg bellach.
7.57 Byddai trosglwyddo'r cyfrifoldeb i awdurdodau lleol yn galluogi adrannau
addysg awdurdodau lleol ac adrannau gwasanaethau cymdeithasol
awdurdodau lleol i gydweithio wrth ddatblygu'r ddarpariaeth a negodi'r gost.
Yn y ffordd hon, mae'r awdurdod lleol mewn sefyllfa well na swyddogion
Llywodraeth Cymru i hyrwyddo datblygu pecynnau cymorth lleol.
7.58 Yn ogystal, byddai ymgymryd â rôl uniongyrchol yn caniatáu i'r awdurdod
lleol gydweithio â sefydliadau addysg bellach lleol wrth ddatblygu darpariaeth
leol ar gyfer pobl ifanc ag anghenion cymhleth. Gallai hyn leihau'r arfer o'u
lleoli mewn sir arall, gan sicrhau arbedion yn sgil hynny. Byddai pobl ifanc a'u
teuluoedd yn elwa ar opsiwn darpariaeth leol.
-
19
7.59 Byddai rhestr Gweinidogion Cymru o golegau arbenigol annibynnol yn rhoi
sicrwydd i awdurdodau lleol ac i bobl ifanc ynghylch safonau ac ansawdd yr
addysgu.
Risgiau
7.60 Ar hyn o bryd, caiff y prosesau asesu a chyllido eu cynnal gan gyrff gwahanol
- Gyrfa Cymru a Llywodraeth Cymru. O dan opsiwn 2, yr awdurdodau lleol
fyddai'n cyllido ac yn asesu. Mae yna risg y bydd gwrthrychedd yr asesu yn
llai sicr nag ar hyn o bryd; hynny yw, gallai'r gost fod yn ffactor pwysicach yn y
penderfyniad nag y mae ar hyn o bryd.
7.61 Mae'r risg hon yn isel, gan fod modd dal awdurdodau lleol yn atebol am
benderfyniadau a wnânt o ran darpariaeth ar gyfer pobl ifanc ag anghenion
addysgol arbennig.
7.62 Yn ogystal, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y meini prawf ar gyfer
lleoliadau addysg bellach arbenigol yn glir.
7.63 Mae yna risg y caiff yr wybodaeth y mae Gyrfa Cymru wedi'i chasglu am
golegau arbenigol annibynnol ei cholli, o ran y cymorth y gallant ei ddarparu i
grwpiau penodol o bobl ifanc ag anghenion ychwanegol. Disgwylir i'r risg hon
fod yn isel a gellir ei chadw'n isel drwy sicrhau bod Gyrfa Cymru yn
trosglwyddo gwybodaeth i awdurdodau lleol.
-
20
Cofrestru a chymeradwyo ysgolion annibynnol o safbwynt anghenion addysgol arbennig
7.64 Ar hyn o bryd, mae yna ddwy system ddeddfwriaethol wahanol ar gyfer
cofrestru a chymeradwyo ysgolion annibynnol yng Nghymru o safbwynt
anghenion addysgol arbennig9.
7.65 Rhaid i unrhyw sefydliad sydd am weithredu fel ysgol yn y sector annibynnol
gael ei gofrestru gyda Gweinidogion Cymru. Dylai'r ysgol annibynnol hefyd
gofrestru os yw'n bwriadu derbyn dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig.
7.66 Yn ogystal, rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo ysgol annibynnol i gael
derbyn plant â datganiad anghenion addysgol arbennig yn gyffredinol. Lle
cymeradwyir ysgolion annibynnol i gael derbyn plant a phobl ifanc sydd â
datganiad anghenion addysgol arbennig yn gyffredinol, cânt eu monitro bob
blwyddyn gan Estyn.
7.67 Lle nad yw ysgol annibynnol wedi'i chymeradwyo i dderbyn plant â datganiad
anghenion addysgol arbennig, mae modd i awdurdod lleol geisio cydsyniad
Gweinidogion Cymru i leoli un plentyn sydd â datganiad anghenion addysgol
arbennig o fewn yr ysgol. Ni fydd Estyn yn monitro'r lleoliadau hynny bob
blwyddyn.
7.68 Mae modd i rieni wneud eu trefniadau eu hunain i dalu am le i blentyn neu
berson ifanc mewn ysgol annibynnol, nad yw wedi'i chymeradwyo gan
Weinidogion Cymru, cyhyd ag y bydd yr awdurdod sy'n cynnal y datganiad yn
fodlon bod y trefniadau yn addas.
Opsiwn 1: gwneud dim
7.69 O dan opsiwn 1, bydd y trefniadau presennol ar gyfer cofrestru a
chymeradwyo ysgolion annibynnol sydd am dderbyn plant a phobl ifanc sydd
â datganiad anghenion addysgol arbennig yn parhau.
Manteision
9 Mae adran 160 o Ddeddf Addysg 2002 yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gofrestru mewn perthynas
ag anghenion addysgol arbennig, ac mae adran 347 o Ddeddf Addysg 1996 yn ei gwneud yn ofynnol i
ysgolion gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru er mwyn derbyn plentyn sydd â datganiad AAA.
-
21
7.70 Nid oes costau ychwanegol yn gysylltiedig ag opsiwn 1.
Anfanteision
7.71 Bydd y ddwy system ddeddfwriaethol wahanol sydd, i ryw raddau, yn
cyflawni'r un gwaith â'i gilydd mewn perthynas ag anghenion addysgol
arbennig, yn parhau.
7.72 O dan y trefniadau presennol, caiff ysgolion annibynnol, sydd wedi'u
cymeradwyo gan Weinidogion Cymru i dderbyn plant a phobl ifanc sydd â
datganiad anghenion addysgol arbennig yn gyffredinol, dderbyn unrhyw
blentyn neu berson ifanc sydd â datganiad, beth bynnag yw lefel benodol y
ddarpariaeth sy'n ofynnol.
7.73 Yn ogystal, byddai'n dal i fod yn bosibl i blant a phobl ifanc ag anghenion
addysgol arbennig gael eu lleoli mewn ysgol annibynnol nad yw'n cael ei
monitro gan Estyn. Byddai hyn yn digwydd lle nad oedd gan ysgol
gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru i dderbyn plant a phobl ifanc yn
gyffredinol sydd â datganiad anghenion addysgol arbennig, ond lle roedd yr
awdurdod lleol wedi cael caniatâd i leoli plentyn â datganiad anghenion
addysgol arbennig yn yr ysgol.
-
22
Opsiwn 2: diwygio'r system ar gyfer cofrestru a chymeradwyo ysgolion annibynnol o safbwynt anghenion addysgol arbennig
7.74 Byddai opsiwn 2 yn cyflwyno gofyniad i Weinidogion Cymru gynnal a
chyhoeddi cofrestr o ysgolion annibynnol.
7.75 Fel rhan o'r broses gofrestru, bydd gofyn i ysgolion nodi'r mathau o angen
ychwanegol y gallant ddarparu ar eu cyfer. Cyn rhoi plentyn neu berson ifanc
mewn ysgol annibynnol, mae'n rhaid i'r awdurdod lleol fod yn fodlon y gall yr
ysgol gynnig y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sy'n ofynnol er mwyn bodloni
anghenion dysgu ychwanegol y person ifanc, fel yr amlinellir yn ei CDU.
7.76 Opsiwn 2 yw’r opsiwn a ffefrir.
Manteision
7.77 Byddai cyhoeddi cofrestr ar gyfer ysgolion annibynnol, ynghyd â newid y
system gofrestru, yn sicrhau y byddai'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y
mae'r ysgol yn gallu ei chynnig yn cael ei nodi'n glir er mwyn i wasanaethau
addysg awdurdodau lleol a rhieni dysgwyr sydd ag ADY ei gweld.
7.78 Byddai gwybodaeth gliriach ynghylch yr hyn y gall ysgol ei ddarparu yn
lleihau'r risg y gallai dysgwyr ag ADY gael eu lleoli'n amhriodol mewn ysgol
annibynnol.
7.79 Mae opsiwn 2 yn sicrhau lefel o sicrwydd ar gyfer yr awdurdod lleol a rhieni o
ran gallu'r ysgol annibynnol i fodloni anghenion y dysgwr, yn unol â'r hyn a
nodir yn ei CDU. Yn ogystal, bydd pob ysgol annibynnol sydd wedi cofrestru
eu darpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael eu monitro bob blwyddyn gan
Estyn, gan roi sicrwydd i bob plentyn, person ifanc a'u rhieni am ansawdd a
safonau addysgu a darpariaeth yr ysgol.
Anfanteision
7.80 Nid oes unrhyw anfanteision i opsiwn 2.
-
23
Sail statudol i gydlynwyr cymorth anghenion addysgol arbennig mewn addysg
7.81 Ar hyn o bryd, drwy gydlynydd anghenion addysgol arbennig yr ydym yn
cydlynu cymorth i blant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig yn
lleoliadau'r blynyddoedd cynnar ac mewn ysgolion. Mae'r Cydlynydd
Anghenion Addysgol Arbennig yn gyfrifol am gydlynu darpariaeth anghenion
addysgol arbennig i blant, gan gynnwys hyfforddi staff eraill, cydlynu ag ystod
o asiantaethau ac â theuluoedd, addysgu a chefnogi plant a phobl ifanc, a
chynnal cofnodion.
7.82 Mae casgliadau'r ymchwil yn dynodi bod darpariaeth anghenion addysgol
arbennig sy'n cael ei chydlynu'n effeithiol mewn ysgol brif-ffrwd yn un o'r prif
ffactorau o ran pa mor effeithiol yw darpariaeth i blant a phobl ifanc ag
anghenion addysgol arbennig10.
7.83 Er bod rôl Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn rôl gydnabyddedig, ar
hyn o bryd nid yw'n ofynnol i leoliadau'r blynyddoedd cynnar, ysgolion y brif
ffrwd, unedau cyfeirio disgyblion na sefydliadau addysg bellach ddynodi aelod
o'u staff i gyflawni'r rôl.
7.84 Nid oes sail orfodol i God Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru, ac
nid yw Gweinidogion Cymru felly yn gallu rhagnodi ar hyn o bryd sut y dylid
mynd ati i gyflawni rôl Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig. Mae'r cod yn
amlinellu prif gyfrifoldebau posibl rôl Cydlynydd Anghenion Addysgol
Arbennig, ond nid oes llawer o gyfarwyddyd am yr amser a'r gefnogaeth y
dylid eu rhoi i'r rôl. Nid oes diffiniad clir o'r rôl, felly, ar lefel leol na
chenedlaethol, a chyflawnir y rôl mewn sawl ffordd.
7.85 Nid oes gan sefydliadau addysg bellach Gydlynwyr Anghenion Addysgol
Arbennig. Yn hytrach, mae gwasanaethau cymorth penodol i sefydliadau
addysg bellach ar gael i bobl ifanc sydd ag anawsterau a/neu anableddau
dysgu mewn addysg bellach.
10 http://www.assembly.wales/laid%20documents/gen-ld7255%20-
%20written%20response%20to%20the%20enterprise%20and%20learning%20committee,%20rapporte
ur%20group%20report%20on%20support%20for%20-08102008-100412/gen-ld7255-e-english.pdf
http://www.assembly.wales/laid%20documents/gen-ld7255%20-%20written%20response%20to%20the%20enterprise%20and%20learning%20committee,%20rapporteur%20group%20report%20on%20support%20for%20-08102008-100412/gen-ld7255-e-english.pdfhttp://www.assembly.wales/laid%20documents/gen-ld7255%20-%20written%20response%20to%20the%20enterprise%20and%20learning%20committee,%20rapporteur%20group%20report%20on%20support%20for%20-08102008-100412/gen-ld7255-e-english.pdfhttp://www.assembly.wales/laid%20documents/gen-ld7255%20-%20written%20response%20to%20the%20enterprise%20and%20learning%20committee,%20rapporteur%20group%20report%20on%20support%20for%20-08102008-100412/gen-ld7255-e-english.pdf
-
24
Opsiwn 1: gwneud dim
7.86 O dan opsiwn 1, byddai'r dull presennol o gydlynu'r ddarpariaeth ar gyfer plant
a phobl ifanc sydd ag Anghenion Addysgol Arbennig ac anawsterau a/neu
anableddau dysgu yn parhau; hynny yw, ni fyddai unrhyw ofyniad statudol i
ysgolion, na lleoliadau addysg eraill, benodi Cydlynydd Anghenion Addysgol
Arbennig nac unrhyw ofyniad i sefydliadau addysg bellach sefydlu
gwasanaethau cymorth.
Manteision
7.87 Nid oes costau ychwanegol yn gysylltiedig ag opsiwn 1.
Anfanteision
7.88 Ar hyn o bryd, nid yw'n ofynnol i leoliadau addysg benodi Cydlynwyr
Anghenion Addysgol Arbennig. Er bod yna rai mewn ysgolion, nid oes
gweithdrefn gyson ledled Cymru o ran pwy ddylai fod yn Gydlynydd
Anghenion Addysgol Arbennig, pa gymwysterau ddylai fod ganddo, a sut y
dylid cyflawni'r rôl. Er bod Cydlynwyr Anghenion Addysgol Arbennig yn
athrawon sydd wedi cymhwyso yn gyffredinol, mae hefyd yn bosibl i
Gydlynwyr beidio â bod yn athrawon sydd wedi cymhwyso. Er enghraifft,
gallai fod yn gynorthwy-ydd addysgu lefel uwch neu'n aelod o'r staff nad ydynt
yn addysgu.
7.89 Er mwyn cyflawni'r rôl yn effeithiol, mae angen hyfforddiant penodol ar
Gydlynwyr Anghenion Addysgol Arbennig ym maes asesu ac addysgu pobl
ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae
yna ddiffyg hyfforddiant penodol a diffyg cyfatebol, felly, yn y Cydlynwyr
Anghenion Addysgol Arbennig sydd â'r sgiliau angenrheidiol.
7.90 Mae yna gwestiwn ynghylch i ba raddau y mae athrawon wedi'u hyfforddi i
asesu ac addysgu pobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig (gweler, er
enghraifft, Rose, 2010). Mewn astudiaeth ddiweddar a gomisiynwyd gan
Lywodraeth Cymru, daeth Holtom et al (2010)11 i'r casgliad bod staff ym maes
addysg yn gyffredinol hyderus yn eu sgiliau a'u gwybodaeth mewn perthynas
11 http://dera.ioe.ac.uk/22888/1/150330-sen-en.pdf
http://dera.ioe.ac.uk/22888/1/150330-sen-en.pdf
-
25
ag anghenion addysgol arbennig. Mae'r dystiolaeth o'r astudiaeth yn
awgrymu, er bod asesu a gwahaniaethu yn eithriadau pwysig,12, fod yna sail
weddol dda i'r hyder hwn.
7.91 Gall diffyg hyfforddiant ar gyfer Cydlynwyr Anghenion Addysgol Arbennig ac
athrawon olygu nad oes gan rai ysgolion ddigon o gapasiti i ddelio ag
anghenion addysgol arbennig, gan arwain at asesiadau diangen gan yr
awdurdod lleol (gweler, er enghraifft, Rose, 2010).
7.92 Yn ogystal, mae rhieni wedi mynegi pryderon ynghylch anghysondeb yn
effeithiolrwydd ac ansawdd gwasanaeth Cydlynwyr Anghenion Addysgol
Arbennig ysgol eu plant13.
12 Dull addysgol yw gwahaniaethu sy'n ei gwneud yn ofynnol i athrawon deilwra eu dysgu, eu
haddysgu a'u hasesu, gan addasu'r cwricwlwm yn ôl anghenion y plant, gan gynnwys y rheini ag
anghenion addysgol arbennig, yn hytrach na disgwyl i'r disgyblion addasu i'rcwricwlwm (Cole, R,
(2008), Educating Everybody's Children: diverse strategies for diverse learners, Cymdeithas
Goruchwylio a Datblygu'r Cwricwlwm, Google Books, http://books.google.co.uk/books?id=ixmW-porsOAC; Rogers, C. (2007), Experiencing an Inclusive Education: parents and their children with
special educational needs, British Journal of Sociology of Education, 28, 1, tud 55-68). 13
Llywodraeth Cymru (2008) Datganiadau neu Rywbeth Gwell?: crynodeb o'r cynnydd a wnaed hyd
yma a'r camau nesaf. Ewch i:
http://gov.wales/dcells/publications/publications/guidanceandinformation/ellscomitteerecommendation
s/summaryprogressenglish?lang=en
http://books.google.co.uk/books?id=ixmW-porsOAChttp://books.google.co.uk/books?id=ixmW-porsOAChttp://gov.wales/dcells/publications/publications/guidanceandinformation/ellscomitteerecommendations/summaryprogressenglish?lang=enhttp://gov.wales/dcells/publications/publications/guidanceandinformation/ellscomitteerecommendations/summaryprogressenglish?lang=en
-
26
Opsiwn 2: cyflwyno rôl cydlynydd cymorth ADY statudol
7.93 O dan opsiwn 2, byddai rôl statudol yn cael ei chyflwyno ar gyfer cydlynydd
ADY. Byddai'n ofynnol i bob lleoliad addysg, ac eithrio ysgolion arbennig,
benodi Cydlynydd ADY.
7.94 Mewn ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar a gynhelir,14 bydd y
Cydlynydd ADY yn athro sydd wedi cymhwyso. Mewn sefydliadau addysg
bellach, bydd yn ymarferydd addysgu.
7.95 Yn ogystal, bydd yn rhaid i bob Cydlynydd ADY fod wedi dilyn rhaglen
hyfforddiant ar lefel meistr.
7.96 Opsiwn 2 yw’r opsiwn a ffefrir.
Manteision
7.97 Bydd y gofyniad i benodi Cydlynydd ADY yn ehangu arfer sydd eisoes yn
digwydd. O dan opsiwn 2, bydd gofyn i bob lleoliad addysg, gan gynnwys
unedau cyfeirio disgyblion a sefydliadau addysg bellach, benodi Cydlynydd
ADY.
7.98 Byddai gwneud rôl y Cydlynydd ADY yn un statudol yn sicrhau bod y rôl wedi
ei diffinio'n glir yn y cod, a bod y rôl gydlynu yn cael ei chyflawni mewn ffordd
gyson ledled Cymru.
7.99 Bydd cymhwyster penodol ar lefel meistr yn darparu'r hyfforddiant sydd ei
angen er mwyn i'r Cydlynydd ADY gyflawni cyfrifoldebau'r rôl yn effeithiol, gan
gynnwys hyfforddi a chefnogi staff eraill.
7.100 Dylai rôl statudol y Cydlynydd ADY, ynghyd â mentrau polisi eraill, gan
gynnwys datblygu'r gweithlu drwy'r cynnig dysgu proffesiynol, gynyddu
capasiti ysgolion i ddelio ag ADY ac osgoi asesiadau diangen gan yr
awdurdod lleol.
14 Ni fydd yn ofynnol i leoliadau annibynnol y blynyddoedd cynnar benodi Cydlynydd ADY, ond bydd
yn ofynnol iddynt gyfeirio pobl ifanc ag ADY i'r awdurdod lleol.
-
27
Anfanteision
7.101 Nid oes unrhyw anfanteision i opsiwn 2.
Risgiau
7.102 Mae yna risg y gallai'r gofynion newydd o ran Cydlynwyr ADY gael eu
hystyried yn rhy feichus. Gallai hyn wneud i bobl deimlo nad ydynt am barhau
i fod yn Gydlynydd ADY neu ymgymryd â'r swydd o gwbl.
7.103 Fodd bynnag, ystyrir mai risg fach yw hon gan y bydd Llywodraeth Cymru yn
mynd ati i sicrhau na fydd y rôl yn rhy feichus. Er enghraifft, bydd yn gweithio
gydag awdurdodau lleol ac athrawon i ddatblygu rôl y Cydlynydd ADY; bydd
yn ymgynghori ar fanylion y rôl sydd wedi'u nodi yn y rheoliad; a bydd yn
darparu hyfforddiant a chymorth i athrawon mewn perthynas â'r cynnig dysgu
proffesiynol.
-
28
Sail statudol i gydlynwyr strategol ym maes iechyd
7.104 Ar hyn o bryd, nid yw'n ofynnol i fyrddau iechyd benodi un prif unigolyn neu un
pwynt cyswllt i fod â chyfrifoldeb strategol dros ddarpariaeth iechyd ar gyfer
plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig.
Opsiwn 1: gwneud dim
7.105 O dan opsiwn 1, byddai'r ddarpariaeth bresennol yn parhau; hynny yw, byddai
byrddau iechyd yn parhau i fabwysiadu amrywiol ddulliau o ddatblygu
darpariaeth i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig yn
strategol, eu cydlynu a'u goruchwylio.
Manteision
7.106 Nid oes costau ychwanegol yn gysylltiedig ag opsiwn 1.
Anfanteision
7.107 Er bod byrddau iechyd yn sicrhau darpariaeth anghenion addysgol arbennig
ar hyn o bryd, a oruchwylir ac a gydlynir i ryw raddau, nid oes yna rôl arwain
ffurfiol. Ni chiff ei goruchwylio'n gyson nac yn strategol, felly, ledled GIG
Cymru, ac nid yw o reidrwydd yn cael blaenoriaeth ar lefel ganolog, strategol.
Nid oes un rôl glir ac felly nid oes yna deitl swydd na chyfres o gyfrifoldebau
sy'n gyffredin i bob bwrdd.
-
29
Opsiwn 2: cyflwyno rôl statudol ar gyfer swyddog meddygol neu glinigol dynodedig
7.108 Byddai opsiwn 2 yn cyflwyno rôl statudol ar gyfer swyddog arweiniol clinigol
addysg dynodedig. Byddai gofyn i fyrddau iechyd benodi prif swyddog o'r fath.
7.109 Byddai'r swyddog arweiniol clinigol addysg dynodedig yn gyfrifol am sefydlu
systemau effeithlon i sicrhau bod gan y gwasanaethau iechyd sy'n ymwneud
ag asesu ADY (gan gynnwys therapi iaith a lleferydd, therapi galwedigaethol,
ffisiotherapi, gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, pediatreg
gymunedol a gwasanaethau anabledd dysgu, timau gofal sylfaenol gan
gynnwys meddygon teulu, ymwelwyr iechyd a nyrsys ysgol) y sgiliau i gynnal
asesiadau priodol, amserol; llunio argymhellion, ar sail tystiolaeth, ar gyfer
ymyriadau effeithiol; monitro canlyniadau; sicrhau ansawdd cyngor a
meincnodi ar draws byrddau iechyd er mwyn cyfyngu ar unrhyw amrywiaeth o
ran arfer neu ddisgwyliadau.
7.110 Bydd y swyddog arweiniol clinigol addysg dynodedig yn weithiwr proffesiynol
iechyd cofrestredig sydd â chymwysterau clinigol a phrofiad helaeth mewn
agwedd ar ofal iechyd sy'n berthnasol i ADY, gan gynnwys ond heb fod yn
gyfyngedig i nyrsio meddygol (gofal sylfaenol neu eilaidd), bydwreigiaeth,
proffesiynau perthynol i iechyd neu iechyd cyhoeddus.
7.111 Y disgwyl yw y caiff un diwrnod yr wythnos ei neilltuo i'r rôl am bob 200,000
o’r boblogaeth neu am bob 40,000 o blant a phobl ifanc. Mae hyn yn cyfateb i
dair swydd lawnamser ar draws y saith bwrdd iechyd.
7.112 Opsiwn 2 yw’r opsiwn a ffefrir.
Manteision
7.113 Byddai penodi swyddog arweiniol clinigol addysg dynodedig o fewn y byrddau
iechyd yn hwyluso'r gwaith o gydlynu darpariaeth ADY y byrddau iechyd yn
effeithiol a chydweithio effeithiol rhwng byrddau iechyd a gwasanaethau
addysg awdurdodau lleol wrth ddarparu gwasanaethau i ddysgwyr ag ADY.
Byddai'r swyddog arweiniol clinigol addysg dynodedig hefyd yn bwynt cyswllt
ar gyfer awdurdodau lleol ac eraill o fewn y byrddau iechyd ar gyfer materion
-
30
ADY. Yn ogystal, dylai penodi swyddog arweiniol clinigol addysg dynodedig
sicrhau bod darpariaeth ADY yn dod yn flaenoriaeth strategol i fyrddau iechyd,
a allai wella effeithiolrwydd y ddarpariaeth.
7.114 Mae disgwyl i'r swyddog arweiniol clinigol addysg dynodedig ddod â
manteision i'r dysgwr gan y byddai'n goruchwylio'r broses o sefydlu arferion a
systemau effeithiol mewn perthynas ag ADY ac yn sicrhau bod unrhyw
ddarpariaeth iechyd y cytunwyd arni gan y bwrdd iechyd yn cael ei gwireddu.
7.115 Y disgwyl yw y bydd cyflwyno rôl y swyddog arweiniol clinigol addysg
dynodedig yn arbed costau i fyrddau iechyd gan y bydd yna gydweithio ar
ddarpariaeth ddysgu ychwanegol, a gallai hynny leihau gwaith ofer.
Risgiau
7.116 Er bod byrddau iechyd yn cyflawni cyfrifoldebau'r swyddog arweiniol clinigol
addysg dynodedig ar hyn o bryd, mae yna risg y gallai cyflwyno'r rôl yn ffurfiol
greu costau.
-
31
8. Costau a manteision
Cyflwyniad
8.1 Mae'r bennod hon yn nodi'r costau a'r manteision sy'n gysylltiedig â'r opsiynau
a amlinellwyd ym mhennod 6. Mae'r costau a'r manteision hyn wedi'u seilio ar
sylwadau prif randdeiliaid15, gwaith a wnaed gan Holtom et al (2012)16 a
Deloitte (2015)17, a dadansoddiad gan swyddogion Llywodraeth Cymru.
8.2 Yn 2012, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymchwil dros dro (Holtom et al,
2012) i gostau a manteision diwygio anghenion addysgol arbennig yn
statudol. Roedd y gwaith ymchwil yn ystyried cost mentrau a gynhelir yn ystod
cyfnod treialu'r diwygiadau. Lle bo'n bosibl, mae'r costau wedi'u tynnu o'r
gwaith hwn fel sail i gostau a manteision y cynigion a nodir yn y Bil.
8.3 Yn 2014, comisiynodd Llywodraeth Cymru Deloitte i gynnal adolygiad er
mwyn ymchwilio i'r costau sydd ynghlwm wrth gefnogi dysgwyr ag anghenion
addysgol arbennig neu anawsterau a/neu anableddau dysgu o dan y
fframweithiau deddfwriaethol presennol yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys
cyfanswm y costau a'r costau unigol sy'n gysylltiedig ag:
asesu angen;
darparu cefnogaeth;
cynnal adolygiadau;
anghydfodau ac apelau.
8.4 Aeth Deloitte ati i ddadansoddi'r data a oedd ar gael i'r cyhoedd ac i gasglu
data gan brif randdeiliaid megis awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach,
ysgolion a Gyrfa Cymru (gweler tabl 1 islaw).
15 Gan gynnwys rhanddeiliaid o TAAAC, Estyn, Gyrfa Cymru, CLlLC a SNAP Cymru. 16 Holtom et al (2012) Programme of Action Research to Inform the Evaluation of the Additional
Learning Needs Pilot: interim report on the costs of the statutory reform of special educational needs
provision. 17 Deloitte (2015) Archwiliad o ddarparu cyllid ar gyfer dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig neu
anawsterau a/neu anableddau dysgu(Llywodraeth Cymru: Caerdydd).
http://gov.wales/docs/dcells/publications/150706-final-report-en.pdf
http://gov.wales/docs/dcells/publications/150706-final-report-en.pdf
-
32
8.5 Mae’r data ariannol a gasglwyd gan Deloitte yn cyfeirio at 2011-12 i 2013-14.
Defnyddiwyd y ffigurau hyn drwy gydol yr asesiad effaith rheoleiddiol hwn, lle
mai dyna’r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael. Mae prisiau 2013-14 hefyd
wedi’u nodi ar sail prisiau heddiw (2016-17) gan ddefnyddio’r datchwyddydd
CMC. Ac er mwyn cymharu, mae’r costau i gyd wedi’u nodi ar sail prisiau
2016-17.
Tabl 1: ffynonellau data
Corff Ffynhonnell y data
Byrddau iechyd Gwariant cyllideb rhaglen y GIG18
Gwasanaethau addysg awdurdodau lleol
Gwariant alldro refeniw19 Data arolygon a gasglwyd gan Deloitte
Gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol
Gwariant alldro refeniw20
Sefydliadau addysg bellach
Cyfanswm dyraniadau cyllid sefydliadau addysg bellach Cyfanswm dyraniadau cyllid y brif ffrwd a chyllid ar wahân Data arolygon a gasglwyd gan Deloitte
Ysgolion
Datganiadau alldro Adran 5221 Cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion (CYBLD)22 Data arolygon a gasglwyd gan Deloitte
Gyrfa Cymru Data arolygon a gasglwyd gan Deloitte
Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru Adroddiadau blynyddol TAAAC23
8.6 Yn ogystal â'r ffynonellau uchod, defnyddiwyd data o gofnod dysgu gydol oes
Llywodraeth Cymru24.
18 http://gov.wales/statistics-and-research/nhs-expenditure-programme-budgets/?skip=1&lang=cy 19 https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Local-Government/Finance/Revenue/Outturn 20 https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Local-Government/Finance/Revenue/Outturn 21 https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Local-Government/Finance/Revenue/Delegated-School-
Outturn 22 http://gov.wales/statistics-and-research/schools-census/?skip=1&lang=cy 23 http://sentw.gov.uk/about/areports/?lang=en 24 Ystadegau ar ddysgwyr mewn addysg a hyfforddiant ôl-16, ac eithrio'r rheini mewn ysgolion, ond
gan gynnwys y rheini sydd mewn sefydliadau addysg bellach, darpariaeth arall dysgu seiliedig ar waith
a darpariaeth dysgu cymunedola gasglwyd drwy gofnod dysgu gydol oes Llywodraeth Cymru.
https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Post-16-Education-and-
Training/Further-Education-and-Work-Based-Learning/Lifelong-Learning-Wales-Record
http://gov.wales/statistics-and-research/nhs-expenditure-programme-budgets/?skip=1&lang=cyhttps://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Local-Government/Finance/Revenue/Outturnhttps://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Local-Government/Finance/Revenue/Outturnhttps://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Local-Government/Finance/Revenue/Delegated-School-Outturnhttps://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Local-Government/Finance/Revenue/Delegated-School-Outturnhttp://gov.wales/statistics-and-research/schools-census/?skip=1&lang=cyhttp://sentw.gov.uk/about/areports/?lang=enhttps://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Post-16-Education-and-Training/Further-Education-and-Work-Based-Learning/Lifelong-Learning-Wales-Recordhttps://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Post-16-Education-and-Training/Further-Education-and-Work-Based-Learning/Lifelong-Learning-Wales-Record
-
33
8.7 Fodd bynnag, nid oedd modd i Deloitte gasglu'r holl ddata sy'n ofynnol i asesu
costau a manteision y cynigion a nodir yn y Bil. Y rheswm am hyn, i raddau
helaeth, oedd nad yw'n ofynnol i ysgolion, colegau na byrddau iechyd yng
Nghymru adrodd ar y symiau sy'n cael eu gwario ar anghenion addysgol
arbennig a/neu ar anawsterau a/neu anableddau dysgu.
8.8 Yn ogystal, er bod awdurdodau lleol yn adrodd ar wariant anghenion addysgol
arbennig ar hyn o bryd drwy adroddiadau alldro refeniw i Lywodraeth Cymru
(a bod gwariant anghenion addysgol arbennig yn is-gategori o fewn y rheini),
nid yw'r gwariant wedi'i rannu yn ôl gwaith asesu, adolygu, darpariaeth ac
anghydfodau.
8.9 Lle nad yw'r union ffigurau ar gael neu lle na chawsant eu hamcangyfrif o'r
blaen, mae swyddogion wedi amcangyfrif y costau a'r manteision.
8.10 Dylid ystyried, felly, mai'r costau a nodir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol hwn
yw'r amcangyfrifon gorau ar sail y casgliadau a nodwyd gan Holtom et al
(2012), Deloitte, amcangyfrifon swyddogion a'r dystiolaeth a oedd ar gael. Yn
achos nifer o’r elfennau, bu’n rhaid rhagdybio er mwyn llunio amcangyfrifon.
Yn gyffredinol, lle gwnaed hyn, mae’r costau wedi’u talgrynnu i’r £100 agosaf
er mwyn lleihau’r perygl o ffigurau annilys.
8.11 Mewn rhai achosion, nid oedd yn briodol talgrynnu’r gost a amcangyfrifwyd i’r
£100 agosaf, ee lle mae’r gost a amcangyfrifwyd yn llai na £50 a byddai ei
thalgrynnu i’r £100 agosaf yn cael gwared ar y gost. Ni thalgrynnwyd
cyfanswm costau opsiynau 1 a 2, felly, fel y maent wedi’u nodi yn Nhabl 69 a
Thabl 70, i’r £100 agosaf.
8.12 Mae Tabl 2 islaw yn dangos, yn 2015-16, fod yna 477,549 o blant a phobl
ifanc yng Nghymru mewn ysgolion a gynhelir25, ysgolion annibynnol neu'n
cael eu haddysgu gan yr awdurdod lleol (addysg heblaw yn yr ysgol). O'r
rhain, roedd gan 94,350 (20%) anghenion addysgol arbennig a oedd yn cael
eu cefnogi drwy gynllun anstatudol (gweithredu yn y blynyddoedd cynnar,
25 Gan gynnwys ysgolion meithrin a gynhelir.
-
34
gweithredu gan yr ysgol, gweithredu yn y blynyddoedd cynnar a mwy neu
gweithredu gan yr ysgol a mwy); ac roedd gan 13,318 (3%) anghenion
addysgol arbennig a oedd yn cael eu cefnogi drwy gynllun statudol (datganiad
anghenion addysgol arbennig). Yn 2015-16, roedd anghenion addysgol
arbennig ar gyfanswm o 107,668 o blant a phobl ifanc mewn lleoliadau
addysg yng Nghymru.
-
35
Tabl 2: Nifer y plant a'r bobl ifanc ag AAA mewn lleoliadau addysg yng Nghymru
2011-12 2012-13 2013-14
2015-16
Lleoliadau a gynhelir
Cyfanswm nifer y disgyblion mewn lleoliad a
gynhelir26
465,943 464,868 465,081
466,555
Gweithredu yn y Blynyddoedd
Cynnar/Gweithredu gan yr Ysgol a Gweithredu
yn y Blynyddoedd Cynnar a Mwy/Gweithredu
gan yr Ysgol a Mwy 89,940 91,053 92,773
92,709
 datganiad 13,098 12,738 12,530 12,434
Cyfanswm nifer ag AAA mewn lleoliadau a
gynhelir 103,038 103,791 105,303 105,143
Annibynnol
Cyfanswm nifer y disgyblion mewn lleoliad
annibynnol27
8,929 8,862 8,603
8,880
Gweithredu gan yr Ysgol a Gweithredu gan yr
Ysgol a Mwy28
1,009 1,043 1,092
813
 datganiad29
343 386 388 412
Cyfanswm nifer ag AAA mewn lleoliadau
annibynnol 1,352 1,429 1,480
1,225
Addysg heblaw yn yr ysgol30
Cyfanswm nifer y dysgwyr yn derbyn eu
haddysg heblaw yn yr ysgol 2,577 2,577 2,367
2,114
Gweithredu gan yr Ysgol a Gweithredu gan yr
Ysgol a Mwy 557 589 635
828
 datganiad 365 443 424 472
Cyfanswm nifer ag AAA yn derbyn eu
haddysg heblaw yn yr ysgol 922 1,032 1,059
1,300
Cyfanswm nifer y disgyblion 477,449 476,307 476,051
477,549
Cyfanswm yn derbyn cefnogaeth gan
Gweithredu gan yr Ysgol a Gweithredu gan yr
Ysgol a Mwy 91,506 92,685 94,500
94,350
Cyfanswm â datganiad 13,806 13,567 13,342 13,318
Cyfanswm nifer sy’n cael Darpariaeth AAA 105,312 106,252 107,842
107,668 Ffynhonnell: StatsCymru31
26 https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Schools-and-Teachers/Schools-
Census/Pupil-Level-Annual-School-Census/Pupils/pupils-by-localauthorityregion-agegroup 27 https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Schools-and-Teachers/Schools-Census/Independent-Schools/Pupils/number-by-localauthorityregion-agegroup 28 https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Schools-and-Teachers/Schools-
Census/Independent-Schools/Special-Educational-Needs/senbutnostatement-by-year 29 https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Schools-and-Teachers/Schools-
Census/Independent-Schools/Special-Educational-Needs/senstatement-by-year 30 http://gov.wales/statistics-and-research/pupils-educated-other-than-school/?skip=1&lang=cy
https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Schools-and-Teachers/Schools-Census/Pupil-Level-Annual-School-Census/Pupils/pupils-by-localauthorityregion-agegrouphttps://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Schools-and-Teachers/Schools-Census/Pupil-Level-Annual-School-Census/Pupils/pupils-by-localauthorityregion-agegrouphttps://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Schools-and-Teachers/Schools-Census/Independent-Schools/Pupils/number-by-localauthorityregion-agegrouphttps://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Schools-and-Teachers/Schools-Census/Independent-Schools/Pupils/number-by-localauthorityregion-agegrouphttps://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Schools-and-Teachers/Schools-Census/Independent-Schools/Special-Educational-Needs/senbutnostatement-by-yearhttps://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Schools-and-Teachers/Schools-Census/Independent-Schools/Special-Educational-Needs/senbutnostatement-by-yearhttps://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Schools-and-Teachers/Schools-Census/Independent-Schools/Special-Educational-Needs/senstatement-by-yearhttps://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Schools-and-Teachers/Schools-Census/Independent-Schools/Special-Educational-Needs/senstatement-by-yearhttp://gov.wales/statistics-and-research/pupils-educated-other-than-school/?skip=1&lang=cy
-
36
8.13 Mae nifer y plant a'r bobl ifanc y cofnodwyd bod ganddynt anghenion
addysgol arbennig rhwng 2011-12 a 2015-16 wedi bod yn gymharol sefydlog
ar 23% o'r boblogaeth disgyblion. Yn ystod y cyfnod hwn, parhaodd nifer y
plant a'r bobl ifanc yng Nghymru sydd â datganiad anghenion addysgol
arbennig hefyd yn gymharol sefydlog ar ryw 3% o'r boblogaeth disgyblion.
8.14 Mae Tabl 3 isod yn dangos, yn 2014-15, fod yna 73,195 o blant a phobl ifanc
hyd at 25 oed wedi'u cofrestru yn sefydliadau addysg bellach y brif ffrwd. O'r
rhain, roedd 9,025 (12%) yn nodi bod ganddynt anawsterau a/neu
anableddau dysgu32 ac roedd 120 (0.2%) o’r rheini yn nodi bod ganddynt
anawsterau dysgu dwys a lluosog33. Yn ogystal, roedd yna 298 o bobl ifanc
mewn colegau arbenigol annibynnol a gafodd ddarpariaeth arbenigol i
ddiwallu eu hanghenion o ran anawsterau a/neu anableddau dysgu. Roedd
cyfanswm o 9,323, felly, o bobl ifanc mewn addysg bellach yng Nghymru yn
ystod 2014-15 a nododd eu hunain, neu y nodwyd gan rywun arall, fod
ganddynt anawsterau a/neu anableddau dysgu. Gan nad oes rhaid i bobl
ifanc mewn addysg bellach ddatgan anawsterau a/neu anableddau dysgu,
mae'n bosibl bod union nifer y bobl ifanc mewn addysg bellach a oedd ag
anawsterau a/neu anableddau dysgu yn uwch.
31 https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Schools-and-Teachers/Schools-
Census/Pupil-Level-Annual-School-Census/Special-Educational-Needs/pupilssen-by-
localauthorityregion-provision 32 Gan gynnwys anawsterau dysgu dwys a lluosog. 33 Yn 2014-15, roedd cyfanswm o 9,025 o bobl ifanc mewn sefydliadau addysg bellach, o dan 25 oed, oedd ag anhawster a/neu anabledd dysgu, gan gynnwys y bobl ifanc hynny ag anawsterau dysgu dwys a lluosog. Gellir rhannu’r bobl ifanc sydd ag anawsterau a/neu anableddau dysgu, ag eithrio anawsterau dysgu dwys a lluosog, yn ôl grŵp oedran fel a ganlyn: o dan 16 oed – 270, 16 oed – 2,300, 17 oed – 2,055, 18 oed – 1,295, 19 oed – 945, a 20-24 oed – 2,040. Gellir rhannu’r bobl ifanc sydd ag anawsterau dysgu dwys a lluosog yn ôl grŵp oedran fel a ganlyn: o dan 16 oed – 0, 16 oed – 30, 17 oed – 20, 18 oed – 15, 19 oed – 20, a 20-24 oed – 35. Roedd gan 8,905 o bobl ifanc anawsterau a/neu anableddau dysgu, felly, ac roedd gan 120 anawsterau dysgu dwys a lluosog – sy’n creu cyfanswm o 9,025. Gweler https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Post-16-Education-and-Training/Further-Education-and-Work-Based-Learning/Learners/Further-Education/uniquelearnersenrolledfurthereducationinstitutions-by-primarydisability-gender
https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Schools-and-Teachers/Schools-Census/Pupil-Level-Annual-School-Census/Special-Educational-Needs/pupilssen-by-localauthorityregion-provisionhttps://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Schools-and-Teachers/Schools-Census/Pupil-Level-Annual-School-Census/Special-Educational-Needs/pupilssen-by-localauthorityregion-provisionhttps://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Schools-and-Teachers/Schools-Census/Pupil-Level-Annual-School-Census/Special-Educational-Needs/pupilssen-by-localauthorityregion-provisionhttps://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Post-16-Education-and-Training/Further-Education-and-Work-Based-Learning/Learners/Further-Education/uniquelearnersenrolledfurthereducationinstitutions-by-primarydisability-genderhttps://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Post-16-Education-and-Training/Further-Education-and-Work-Based-Learning/Learners/Further-Education/uniquelearnersenrolledfurthereducationinstitutions-by-primarydisability-genderhttps://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Post-16-Education-and-Training/Further-Education-and-Work-Based-Learning/Learners/Further-Education/uniquelearnersenrolledfurthereducationinstitutions-by-primarydisability-gender
-
37
Tabl 3: Nifer y bobl ifanc hyd at 25 oed mewn darpariaeth addysg bellach ag anabledd dysgu a/neu anabledd corfforol
2012-13 2013-14 2014-15
Cyfanswm y dysgwyr wedi'u cofrestru mewn lleoliad addysg bellach prif ffrwd 81,460 78,920
73,195
Ag anawsterau a/neu anableddau dysgu mewn lleoliad addysg bellach prif ffrwd (yn cynnwys anabledd corfforol) 7,695 8,220 9,025
Mewn coleg arbenigol annibynnol 250 278
298
Cyfanswm y Dysgwyr ag anawsterau a/neu anableddau dysgu 7,945 8,498
9,323
Ffynhonnell: Stats Cymru34
8.15 Fel y mae Tabl 4 islaw yn ei ddangos, amcangyfrifir mai cyfanswm cost
darpariaeth anghenion addysgol arbennig ac anawsterau a/neu anableddau
dysgu yng Nghymru, ar sail prisiau 2016-17, yw £365.4m. Gwasanaethau
addysg awdurdodau lleol ac ysgolion ysgwyddodd y rhan fwyaf o'r costau -
£324.6m (89%).
34 Dysgwyr unigryw wedi'u cofrestru mewn sefydliadau addysg bellach yn ôl prif anabledd a/neu
anhawster dysgu a rhyw
https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Post-16-Education-and-
Training/Further-Education-and-Work-Based-Learning/Learners/Further-
Education/uniquelearnersenrolledfurthereducationinstitutions-by-primarydisability-gender
https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Post-16-Education-and-Training/Further-Education-and-Work-Based-Learning/Learners/Further-Education/uniquelearnersenrolledfurthereducationinstitutions-by-primarydisability-genderhttps://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Post-16-Education-and-Training/Further-Education-and-Work-Based-Learning/Learners/Further-Education/uniquelearnersenrolledfurthereducationinstitutions-by-primarydisability-genderhttps://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Post-16-Education-and-Training/Further-Education-and-Work-Based-Learning/Learners/Further-Education/uniquelearnersenrolledfurthereducationinstitutions-by-primarydisability-gender
-
38
Tabl 4: amcangyfrif o gost y system AAA/anawsterau a/neu anableddau dysgu bresennol yng Nghymru fesul sector, 2011-12 i 2013-14
Sector 2011-12
(£m) 2012-13
(£m) 2013-14
(£m)
Cyfanswm 2011/12 - 2013/14
2016-1735 (£m)
Llywodraeth Cymru36 8.9 9.7 10.4 29.00 10.7
Gwasanaethau Addysg Awdurdodau Lleol 167.5 155.7 138.4 461.6 142.8
Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 5.6 5.8 6.1 17.5 6.3
Ysgolion 157.1 178.3 176.2 511.6 181.8
Sefydliadau Addysg Bellach 7.3 7.4 7.5 22.2 7.7
Byrddau Iechyd 13.7 14.1 14.7 42.5 15.2
Gyrfa Cymru 0.8 0.7 0.7 2.2 0.7
TAAAC37 0.1 0.2 0.1 0.4 0.2
Cyfanswm 361.0 371.9 354.1 1087.0 365.4 Ffynhonnell: Deloitte (2015)
35 Prisiau 2013-14 wedi’u haddasu ar sail prisiau 2016-17 36
Cost gweinyddu a chyllido lleoliadau arbenigol ôl-16. 37 Mae’r costau i TAAAC a nodir yn yr adran hon yn cyfeirio at gostau gwrando apelau, gan gynnwys
y llywydd, yr aelodau a’r lleoliad. Mae treuliau a hyfforddiant aelodau hefyd wedi’u cynnwys. Nid
yw’r costau yn cynnwys costau gweinyddol.
-
39
Crynodeb gweithredol
8.16 Mae’r crynodeb gweithredol yn darparu trosolwg o gost gwneud dim a chost
gweithredu’r opsiynau a ffefrir. Ym mhob achos, opsiwn 2 yw’r opsiwn a ffefrir.
Mae mwy o fanylion i’w gweld yn y crynodeb o’r costau a’r manteision (gweler
tudalen 213).
8.17 Yn gyffredinol, mae’r asesiad effaith rheoleiddiol yn awgrymu y gallai fod yna
gost ychwanegol o £7,853,200 dros y cyfnod pedair blynedd rhwng 2017-18 a
2020-21 (gweler Tabl 69), o ystyried pob cost gweinyddu cyhoeddus. Ar
gyfartaledd, mae hyn yn gost o tua £1,963,300 y flwyddyn.
8.18 Mae yna botensial i ddarpariaethau’r bil arbed costau rheolaidd i’r gwaith
gweinyddu cyhoeddus o £3,675,260 dros y cyfnod pedair blynedd 2017-18 i
2020-21 (gweler Tabl 69). Amcangyfrifir arbedion costau rheolaidd bob
blwyddyn o 2017-18 o £918,815. Disgwylir i’r rhan fwyaf o’r arbedion a
amcangyfrifir ddeillio o’r darpariaethau yn y bil sy’n ceisio gwneud i ffwrdd â
natur wrthwynebol y broses o lunio datganiad. Fel y nodir isod, mae yna
risgiau sy’n gysylltiedig â’r graddau y caiff yr arbedion posibl eu sicrhau.
8.19 Yn ogystal â’r costau a’r manteision a ddaw yn sgil gwaith gweinyddu
cyhoeddus, disgwylir i ysgolion annibynnol, rhieni a darparwyr gwasanaethau
datrys anghydfod wynebu costau a gweld manteision. Fel y mae Tabl 71 yn ei
ddangos, amcangyfrifir y bydd ysgolion annibynnol yn wynebu costau
ychwanegol o £17,300 dros y cyfnod pedair blynedd (£4,325 y flwyddyn);
amcangyfrifir y bydd rhieni yn elwa ar arbedion o ryw £3,329,500 (£832,375 y
flwyddyn); ac amcangyfrifir y bydd darparwyr gwasanaethau datrys anghydfod
yn elwa ar arbedion o £293,840 dros y cyfnod pedair blynedd (£73,460 y
flwyddyn). Mae’r arbediad hwn yn gyfuniad o arbedion ariannol ac arbedion
cyfle. Caiff arbedion eu gwneud o ran amser gwirfoddolwyr ar ddatrys
anghytundebau sydd, yn ei dro, yn caniatáu i wirfoddolwyr ymgymryd â
gweithgareddau eraill.
-
40
8.20 Mae'r drafodaeth isod yn ystyried yn fanylach gostau a manteision
gweithredu’r opsiynau a ffefrir. Nid yw'r Bil yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth
sy'n codi gwariant ar Gronfa Gyfunol Cymru.
-
41
Costau pontio Llywodraeth Cymru
8.21 Fel y mae Tabl 5 isod yn ei nodi, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl costau pontio o tua £1,972,510 rhwng 2017-18 a 2020-21 wrth helpu i weithredu'r newidiadau a gynigir yn y Bil. Yn ogystal â’r costau a nodir isod, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu nifer o grantiau i gefnogi rhanddeiliaid i weithredu’r bil.
Tabl 5: Costau pontio Llywodraeth Cymru
2017/18 2018/19 2019/20 2020/21 Cyfanswm
Grwpiau Arbenigol y Grŵp Gweithredu Strategol ynghylch ADY 5,000 5,000
10,000
-
Datblygu sgiliau craidd, codi ymwybyddiaeth ac adnoddau 100,000 50,000 135,000 105,000 390,000
Cydymffurfio a monitro effaith 80,000 130,000
210,000
Rheoli'r prosiect gweithredu 217,600 217,600 123,000
558,200
Datblygu cod ymarfer 76,220 76,220
Adolygu polisi a chanllawiau 18,000 18,000
Gyrfa Cymru 354,700 354,700 709,400
Lleoliadau arbenigol ôl-16 320 320
Cofrestru ysgolion annibynnol 370 370
- - -
Cyfansymiau 497,510 757,300 612,700 105,000 1,972,510
-
42
8.22 Mae Llywodraeth Cymru yn cyllido nifer o weithgareddau i gefnogi
gweithredu’r Bil. Mae hyn yn cynnwys dyrannu £10,000 i'r broses o gefnogi
gwaith rheolaidd y grŵp gweithredu strategol ynghylch ADY a grwpiau
arbenigol wrth baratoi ar gyfer gweithredu'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol
a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) rhwng 2017-18 a 2020-21.
8.23 Disgwylir i £210,000 gael ei wario rhwng 2017-18 a 2020-21 ar waith i fonitro
cydymffurfiaeth â'r gofynion deddfwriaethol newydd ac i asesu i ba raddau y
mae'r newidiadau deddfwriaethol wedi'u sefydlu ac yn effeithio ar ganlyniadau
dysgwyr.
8.24 Rhwng 2017-18 a 2020-21, amcangyfrifir y bydd Llywodraeth Cymru yn
gwario tua £390,000 ar ddatblygu adnoddau hyfforddi, datblygu sgiliau craidd
a gweithgareddau codi ymwybyddiaeth i helpu i weithredu'r bil. Bydd y
gweithgareddau codi ymwybyddiaeth hefyd yn canolbwyntio ar ymgysylltu â
rhanddeiliaid am eu dyletswyddau deddfwriaethol newydd, ac esbonio a
hyrwyddo'r system a'r hawliau y mae'n eu rhoi i blant, pobl ifanc a rhieni.
8.25 Bydd yna rai costau i Lywodraeth Cymru a fydd yn gysylltiedig â rheoli'r
rhaglenni gwaith uchod i gefnogi gweithredu'r bil. Bydd hyn yn cynnwys rheoli
codi ymwybyddiaeth, gweinyddu grantiau a rheoli'r gwaith o fonitro a
gwerthuso'r bil. Amcangyfrifir y bydd hyn yn costio £558,200 rhwng 2017-18 a
2020-21.
8.26 Yn ogystal, bydd yna gostau pontio i Lywodraeth Cymru sy'n gysylltiedig â
datblygu cod Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd i ategu'r broses o
weithredu'r fframwaith deddfwriaethol newydd. Cost llunio'r cod fydd tua
£46,220. Mae hyn yn seiliedig ar waith un HEO llawn amser am flwyddyn a
phennaeth cangen am bythefnos. Byddai angen ymgynghori ar y cod hefyd, ei
gyfieithu a'i hyrwyddo ar gost o tua £30,000. Cyfanswm y gost o lunio'r cod,
felly, fyddai tua £76,220.
8.27 Bydd yna gostau pontio i Lywodraeth Cymru sy'n gysylltiedig â diweddaru
canllawiau a deunyddiau polisi. Amcangyfrifir y bydd hyn yn costio £18,000.
-
43
8.28 Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyllido Gyrfa Cymru yn ystod y cyfnod
dwy flynedd rhwng 2018-19 a 2019-20. Mae yna gost bontio i Lywodraeth
Cymru, felly, o tua £709,400.
8.29 Bydd yna gostau pontio o £320 yn sgil newidiadau i leoliadau arbenigol ôl-16,
a £370 yn sgil newidiadau i gofrestru ysgolion annibynnol.
-
44
Cynlluniau i gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol
8.30 Fel y nodwyd uchod, mae'r data ariannol a gasglwyd gan Deloitte yn cyfeirio
at 2011-12 i 2013-14. Defnyddiwyd y ffigurau hyn yn yr adran hon mewn
perthynas â chynlluniau i gefnogi pobl ifanc sydd ag anghenion dysgu
ychwanegol lle mai dyna'r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael. Mae prisiau
2013-14 hefyd wedi'u nodi ar sail prisiau heddiw (2016-17) gan ddefnyddio'r
datchwyddydd CMC. Ac er mwyn cymharu, mae'r costau i gyd wedi'u nodi ar
sail prisiau 2016-17.
Opsiwn 1: gwneud dim
8.31 O dan opsiwn 1, byddai'r arfer presennol o ran cynlluniau addysg i gefnogi
plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn parhau.
8.32 Yn dibynnu ar sail statudol eu darpariaeth ddysgu ychwanegol a lle mae'r
plentyn neu'r person ifanc arni o ran ei addysg, bydd gan blentyn neu berson
ifanc un o'r cynlluniau canlynol: datganiad statudol o anghenion addysgol
arbennig, cynllun addysg unigol anstatudol, cynllun dysgu a sgiliau statudol
neu gynllun anstatudol gan y coleg.
8.33 Nid oes costau ychwanegol rheolaidd yn gysylltiedig ag opsiwn 1.
Y costau bras
8.34 Mae Tabl 6 isod yn nodi cost y prosesau a'r arferion presennol sy'n
gysylltiedig â chynlluniau i gefnogi pobl ifanc sydd ag anghenion dysgu
ychwanegol. Yn 2016-17, amcangyfrifir mai cyfanswm rheolaidd y gwaith
gweinyddu cyhoeddus yw £28,536,850. Mae Tabl 7 yn nodi'r gost reolaidd a
amcangyfrifir i rieni yn 2016-17, sef £3,678,600, ac amcangyfrifir cost reolaidd
o £320,510 i ddarparwyr gwasanaethau datrys anghydfod. Amcangyfrifir, felly,
bod cyfanswm costau rheolaidd o £32,526,460 i opsiwn 1 yn 2016-17.
-
45
Tabl 6: costau rheolaidd bras opsiwn gwneud dim, o ran gweinyddu cyhoeddus yn ôl sefydliad, prisiau 2016-17
2016-17
(£)
Cyfanswm
(£)
Gwasanaethau addysg awdurdodau lleol Asesiadau statudol 7,980,700
Adolygiadau statudol 4,023,600
Gwasanaethau datrys anghytundebau awdurdodau lleol – anghytundebau 384,950
Ymateb i anghytundebau 1,633,100
Gwasanaethau datrys anghytundebau awdurdodau lleol – apelau 5,300
Ymateb i apelau 1,083,300
Cyfanswm 15,110,950
Gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol Asesiadau statudol 307,800
Adolygiadau statudol 182,100
Cyfanswm 489,900 15,600,850
Ysgolion y brif ffrwd Asesiadau statudol 1,410,100
Adolygiadau statudol 1,547,000
Asesiadau anstatudol 2,959,300
Adolygiadau anstatudol 2,158,300
Cyfanswm 8,074,700
Ysgolion arbennig Asesiadau statudol 0
Adolygiadau statudol 938,700
Cyfanswm 938,700 9,013,400
Byrddau iechyd Asesiadau statudol 1,829,100
Adolygiadau statudol 1,082,600
Cyfanswm 2,911,700
Gyrfa Cymru
Asesiadau - Cynlluniau Dysgu a Sgiliau 354,700
Adolygiadau 274,800
Cyfanswm 629,500
TAAAC 152,000
Cyfanswm 152,000
Sefydliadau addysg bellach
Adolygiadau 228,600
Anghytundebau 800
Apelau – Anawsterau Dysgu Dwys a Lluosog 0 Apelau – AAD 0
Cyfanswm 229,400
Cyfanswm 28,536,850
-
46
Tabl 7: costau rheolaidd bras opsiwn gwneud dim i rieni ac i ddarparwyr gwasanaethau datrys anghytundeb, prisiau 2016-17
2016-17
(£)
Rhieni
Apelau 817,550
Anghytundebau 2,861,050
Cyfanswm y gost i rieni 3,678,600
Darparwyr gwasanaethau
Gwasanaethau datrys anghydfod –
anghytundebau – cymhorthdal 288,710
Gwasanaethau datrys anghydfod –
apelau – cymhorthdal 31,800
Cyfanswm y gost i ddarparwyr
gwasanaethau
320,510
8.35 Gellir rhannu costau'r system bresennol rhwng y canlynol:
asesiadau ac adolygiadau statudol
asesiadau ac adolygiadau anstatudol
anghytundebau ac apelau sy'n ymwneud â'r datganiadau.
8.36 Tabl Mae Tabl 8 yn dangos mai'r amcangyfrif o gost cynnal asesiadau ac
adolygiadau statudol oedd tua £19,931,200 ar sail prisiau 2016-17. O'r swm
hwn, gwariwyd tua £11,882,400 ar asesu ac £8,048,800 ar adolygu.
Tabl 8: costau bras cynnal asesiadau ac adolygiadau statudol, prisiau 2016-17, yn ôl sefydliad
Asesiadau statudol
(£) Adolygiadau statudol (£)
Cyfanswm (£)
Gwasanaethau addysg
awdurdodau lleol 7,980,700
4,023,600 12,004,300
Gwasanaethau
cymdeithasol
awdurdodau lleol 307,800 182,100 489,900
Ysgolion y brif ffrwd 1,410,100 1,547,000 2,957,100
Ysgolion arbennig38
0 938,700 938,700
Byrddau iechyd 1,829,100 1,082,600 2,911,700
Gyrfa Cymru 274,800 629,500
38 Mae Deloitte (2015) yn nodi na amcangyfrifwyd faint sy'n cael ei wneud i asesu anghenion. Nid yw
hyn yn golygu nad oes camau yn cael eu cymryd i asesu anghenion, ond bod ysgolion arbennig wedi'i
chael yn her dadelfennu 'asesu anghenion' a'r cymorth a roddir bob dydd i ddysgwyr, gan eu bod yn
asesu anghenion dysgwyr yn barhaus yn hytrach na gwneud hynny fel gweithgarwch penodol (tudalen
20).
-
47
354,700
Cyfanswm 11,882,400 8,048,800 19,931,200
-
48
Tabl 9: costau bras cynnal asesiadau ac adolygiadau anstatudol, prisiau 2016-17
Asesiadau anstatudol
(£)
Adolygiadau anstatudol
(£) Cyfanswm
(£)
Ysgolion y brif ffrwd 2,959,300 2,158,300 5,117,600
8.37 Mae Tabl 9 uchod yn nodi'r amcangyfrif o gostau cynnal asesiadau ac
adolygiadau anstatudol39. Yr amcangyfrif o gost cynnal asesiadau anstatudol
oedd tua £5,117,600 ar sail prisiau 2016-17. O'r swm hwn, gwariwyd tua
£2,959,300 ar asesiadau anstatudol a thua £2,158,300 ar adolygiadau
anstatudol.
8.38 Yn ogystal â chostau cynnal asesiadau ac adolygiadau statudol, mae yna
gostau i awdurdodau lleol, TAAAC a rhieni yn sgil anghytundebau ynghylch
penderfyniadau am asesiadau ac adolygiadau statudol, ac apelau yn erbyn y
penderfyniadau hynny.
8.39 Mae Tabl 10 isod yn nodi'r amcangyfrif o'r costau sy'n gysylltiedig â datrys
anghytundebau am ddatganiadau. Amcangyfrifir mai cyfanswm cost datrys
anghytundebau bob blwyddyn yw tua £5,167,810 (ar sail prisiau 2016-17).
Amcangyfrifir bod awdurdodau lleol yn gwario tua £2,018,050 y flwyddyn ar
ddatrys anghytundebau. O'r swm hwn, amcangyfrifir bod £1,633,100 yn cael
ei wario ar ymateb i anghytundebau a £384,950 ar wasanaethau datrys
anghydfodau i gefnogi plant, pobl ifanc a rhieni sy'n anghytuno ag
awdurdodau lleol. Amcangyfrifir costau o ryw £288,710 i ddarparwyr
gwasanaethau datrys anghydfodau yn sgil eu cymhorthdal ar gyfer cost
gwasanaethau datrys anghydfodau ar gyfer anghytundebau. Yn ogystal,
amcangyfrifir costau o £2,861,050 i rieni yn sgil anghytundebau ag
awdurdodau lleol am ddatganiadau.
39 Fel y gwelwch, dim ond ar ysgolion y brif ffrwd y mae'r costau yn disgyn. Er y gallai asiantaethau
eraill fod wedi cymryd rhan, i ryw raddau, mewn asesiadau ac adolygiadau anstatudol, ni wnaeth
Deloitte (2015) gasglu data yn ôl cynlluniau statudol a chynlluniau anstatudol. Mae'r holl gostau sy'n
disgyn ar wasanaethau addysg, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau iechyd awdurdodau lleol
yn ymwneud â chynlluniau statudol.
-
49
Tabl 10: costau bras datrys anghytundebau am ddatganiadau, prisiau 2016-1740
Y gost bob
blwyddyn
(£)
Y gost i awdurdod lleol wrth ymateb i anghytundebau 1,633,100
Gwasanaethau datrys anghydfod, anghytundebau – y
gost i awdurdod lleol 384,950
Gwasanaethau datrys anghydfod, anghytundebau – y
gost i ddarparwyr gwasanaethau 288,710
Y gost i rieni ar gyfartaledd 2,861,050
Cyfanswm 5,167,810
8.40 Fel mae Tabl 11 yn ei nodi, yr amcangyfrif o gost anghytundebau am
ddatganiadau a fydd yn cael eu cyfeirio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol
Arbennig Cymru (TAAAC) yw £2,089,950. Amcangyfrifir bod awdurdodau lleol
yn gwario tua £1,088,600 y flwyddyn ar gostau sy'n ymwneud ag apelau, sef
tua £1,083,300 ar gostau sy'n ymwneud ag amddiffyn a £5,300 ar
wasanaethau datrys anghydfodau i gefnogi plant, pobl ifanc a rhieni.
Amcangyfrifir costau o ryw £31,800 i ddarparwyr gwasanaethau datrys
anghydfodau yn sgil eu cymhorthdal at gost y gwasanaeth. Amcangyfrifir bod
rhieni yn gwario tua £817,550 y flwyddyn ar gostau sy'n ymwneud ag apelau.
Tabl 11: costau bras apelau i TAAAC, prisiau 2016-17
prisiau 2016-17 (£)
TAAAC41 152,000
Cost amddiffyn apêl i awdurdod lleol 1,083,300
Gwasanaethau datrys anghydfod – apelau – y gost i awdurdodau lleol 5,300
Gwasanaethau datrys anghydfod – apelau – y gost i ddarparwyr gwasanaethau 31,800
Rhieni42 817,550
Cyfanswm 2,089,950
40
Gweler Tabl 16 i gael costau awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau,