adolygu ffurf
TRANSCRIPT
Beth yw Patrymau Aneddiadau?
Patrwm anheddiad yw ffurf (siâp) yr anheddiad. Roedd natur yr ardal gyfagos yn effeithio ar ffurf pentrefi a threfi.
Gall ffurf anheddiad fod yn:
1.Gwasgarog2.Cnewyllol
3.Llinol
Mae’r llun yn dangos ffermdai ac adeiladau ar wasgar. Mae patrwm gwasgarog o’r math yma’n gyffredin mewn ardaloedd mynyddig o Brydain ble mae angen llawer o dir ar bob ffermwr.
Yn y llun hyn mae adeiladau’r pentref yn agos i’w gilydd. Dyma anheddiad cnewyllol. Roedd yn haws amddiffyn pentref o’r math hwn. Mae’n batrwm cyffredin mewn rhannau o iseldir gwastad Prydain.
Anheddiad LlinolAnheddiad Llinol
Anheddiad llinol sydd yma. Mae’r llethrau’n serth, felly adeiladwyd y tai mewn llinellau ar waelod y dyffryn.
1. Gwnewch gopi syml o fap 1. Rhowch y labeli canlynol gyferbyn â’r anheddiad cywir:• gwasgarog• cnewyllol• llinol
2. Edrychwch ar luniau A, B a C. Ysgrifennwch ddwy frawddeg yr un i ddisgrifio ffurf yr anheddiad.
CRYNODEBDewiswyd safleoedd cynnar oherwydd manteision naturiol e.e. cyflenwad dŵr, tir sych, amddiffyn, cysgod, tir ffermio a deunydd adeiladu. Dylanwadwyd ar ffurf yr aneddiadau’n aml gan natur yr ardal leol.