· web viewuned 5 patrwm craidd amser gorffennol: ffurfiau cryno (past tense: short forms) ffurf...
TRANSCRIPT
UNED 5
Patrwm craidd
AMSER GORFFENNOL: FFURFIAU CRYNO (Past tense: Short forms)
FFURF HIR (Long form) FFURF GRYNO (Short form)
Mi wnes i dalu Mi dales i
Wnest ti dalu? Dalest ti?
Mi wnaeth o / hi dalu Mi dalodd o / hi
Mi wnaethon ni dalu Mi dalon ni
Wnaethoch chi dalu? Daloch chi?
Mi wnaethon nhw dalu Mi dalon nhw
Wnaethon nhw ddim talu Thalon nhw ddim
[Yn y Cwrs Wlpan, mae’r patrymau’r uned yma’n codi yn Unedau 35, 37 a 38]
Hefyd yn yr uned:
GWRANDO: 1. Llenwi’r bylchau
2. Newyddion
DARLLEN: Madog ap Owain Gwynedd
YSGRIFENNU: Dau baragraff yn y gorffennol cryno.
81
A. PROC I’R COF
Rhan 1
Pryd aethoch chi ar fws ddiwetha?
Pryd aethoch chi ar drên ddiwetha?
Pryd aethoch chi ar long ddiwetha?
Pryd aethoch chi ar awyren ddiwetha?
Lle aethoch chi?Sut oedd y daith?Be’ wnaethoch chi ar ôl cyrraedd?
Pryd wnaethoch chi symud tŷ ddiwetha?
O le i le wnaethoch chi symud?Pam wnaethoch chi symud?Sut aeth y symud?
Be’ wnaethoch chi goginio ddiwetha?
Sut oedd y bwyd?
Pryd wnaethoch chi wrando ar y radio ddiwetha?
Ar be’ wnaethoch chi wrando?Lle wnaethoch chi wrando?
Pa gêm wnaethoch chi chwarae ddiwetha?
Efo pwy wnaethoch chi chwarae?Wnaethoch chi fwynhau?
Gofynnwch y cwestiynau eto gan ddefnyddio “ti”
82
Rhan 2 Be’ wnaeth ddigwydd ....
1. ar 1af Tachwedd 1982?
2. mewn gwesty ym Meddgelert ym 1949?
3. ym Mhortmeirion yn y chwedegau?
4. ar yr Wyddfa ym Mehefin 2009?
5, ym Mhenbedw ym 1917?
6. yn Llanfairpwll ym 1915
7. yn ymyl Moelfre ym 1859?
8. yn Rhuthun ym 1400?
9. yn Alabama ym 1169?
10. ar gae pêl-droed Wrecsam ym 1992?
11. wrth y Rhyl yn 2003?
12. wrth y Bala ym 1974
A. Mi wnaeth y caffi newydd agor
B. Mi wnaeth y W.I. ddechrau
C. Mi wnaeth y Royal Charter suddo
Ch. Mi wnaeth S4C ddechrau
D. Mi wnaeth U.F.O. lanio
Dd. Mi wnaeth Madog ap Owain Gwynedd lanio
E. Mi wnaethon nhw ffilmio The Prisoner
F. Mi wnaethon nhw adeiladu fferm wynt yn y môr
Ff. Mi wnaeth Hedd Wyn ennill Cadair yr Eisteddfod
G. Mi wnaeth Owain Glyndŵr losgi’r dre
Ng. Mi wnaethon nhw guro Arsenal
H. Mi wnaeth meteorit syrthio drwy’r to
[Atebion ar dudalen 100]
83
B. YMESTYN
Gorffennol cryno Short past tense
i. Eistedd, Ymlacio, Cysgu
Be’ wnest ti ddoe? Mi eisteddes iMi ymlacies iMi gysges i
Be’ wnaeth Ceri ddoe? Mi eisteddodd o/hiMi ymlaciodd o/hiMi gysgodd o/hi
Be’ wnaethoch chi ddoe? Mi eisteddon niMi ymlacion niMi gysgon ni
Be’ wnaeth y staff ddoe? Mi eisteddon nhwMi ymlacion nhwMi gysgon nhw
ii. Cwestiwn ac ateb
Pwy dalodd y dyn llefrith? Mi dales i fo
Pwy fwytodd y bisgedi? Mi fwytoch chi nhw
Pwy brynodd y rownd ddiwetha? Mi brynest ti hi
Pwy enillodd y wobr gynta? Mi enillon ni hi
iii. Negyddol
Ddalltest ti? Naddo, ddalltes i ddim
Dalodd o? Naddo, thalodd o ddim
Basioch chi? Naddo, phasion ni ddim
Gysgodd y plant? Naddo, chysgon nhw ddim
84
iv. Bôn afreolaidd (Irregular root)
Be’ wnest ti weld? Mi weles i ffilm
Be’ wnest ti yfed? Mi yfes i ddŵr
Be’ wnest ti glywed? Mi glywes i sŵn
Pa ffordd wnest ti gerdded? Mi gerddes i drwy’r parc
Pa mor bell wnest ti redeg? Mi redes i ddeg milltir
Lle wnest ti aros? Mi arhoses i mewn pabell
Faint o’r gloch wnest ti gyrraedd? Mi gyrhaeddes i am saith
Pryd wnest ti alw? Mi alwes i ddoe
Be’ wnest ti gadw? Chadwes i ddim byd
Lle wnest ti roi’r pres? Mi roies i’r pres yn y banc
Pryd wnest ti ddechrau? Mi ddechreues i ddoe
Wnest ti fwynhau? Do, mi fwynheues i’n fawr
Faint o amser wnest ti gymryd? Mi gymes i awr a hanner
Be’ wnest ti ddeud? Ddudes i ddim byd
Ar be’ wnest ti wrando? Mi wrandawes i ar Radio Cymru
Pryd wnest ti adael? Mi adawes i am saith
Lle wnest ti sefyll? Mi safes i wrth y drws
Ar ôl ymarfer y brawddegau uchod:
a) Newidiwch y cwestiynau i’r gorffennol cryno
b) Newidiwch y cwestiynau i’r gorffennol cryno efo CHI a newidiwch yr
atebion i NI
c) Newidiwch y cwestiynau i’r gorffennol cryno efo Y STAFF a newidiwch
yr atebion i NHW
85
Be’ wnaeth pawb?
Amrywiwch y personau / Vary the persons, e.e.
Mi olches i’r llestriMi siaradodd hiMi fwynheuon niDdudon nhw ddim byd ac ati
86
Taflen waith
1. Llenwch y bylchau efo’r amser gorffennol cryno (with the short past tense)
Lle _______________________ chi ar eich gwyliau? (MYND)
Mi _______________________ ni hwyl. (CAEL)
Pryd _______________________ Ceri adra? (DWAD)
Pwy _______________________ y gêm? (ENNILL)
Mi _______________________ ti dy amser! (CYMRYD)
Pryd _______________________ y broblem? (DECHRAU)
Mi _______________________ nhw’r dafarn yn sych. (YFED)
Be’ _______________________ chi? (DEUD)
_______________________ i ddim yn dda neithiwr. (CYSGU)
_______________________ ti’r storm yn y nos? (CLYWED)
Mi _______________________ ni lawer o bobl. (GWELD)
Pa mor gyflym _______________________ hi? (RHEDEG)
Mi _______________________ i’r cyfarfod yn hwyr. (CYRRAEDD)
Mi _______________________ i’r cyfarfod yn gynnar. (GADAEL)
Mi _______________________ pawb i ganu’r anthem. (SEFYLL)
Mi _______________________ nhw’r pres dan y gwely. (CADW)
Lle _______________________ ti’r goriad? (RHOI)
_______________________ chi ar y neges? (GWRANDO)
_______________________ ni ddim tan y diwedd. (AROS)
Sut _______________________ y perfformiad? (MYND)
_______________________ i ddim amser i orffen y gwaith. (CAEL)
Sut _______________________ ti yma heddiw? (DWAD)
Mi _______________________ ni’r ymarfer yma! (MWYNHAU)87
2. Ysgrifennu
Defnyddiwch y gorffennol cryno (use the short past tense) lle dach chi’n medru i ysgrifennu
a) paragraff mewn ateb i un o’r cwestiynau yn Adran A Rhan 1.
b) paragraff am be’ wnaeth rhywun arall (e.e. un o’r teulu, ffrind, cymdogion) dros y penwythnos.
Geirfa’r uned b = benywaidd/feminineg = gwrywaidd/masculine
curo - to beatchwedegau - sixtiesglanio - to landllong (b) - shipllosgi - to burnsefyll - to standsuddo - to sinksyrthio - to fall
C. DEIALOG
Geirfa’r ddeialog
codi llaw - to wavecolli - to lose, to misscyfle (g) - opportunitydiwedd (g) - endesgob! - gosh!o leia - at leastrhesymol - reasonabletair gwaith - three timestybed - I wonder
88
DEIALOG
A. Wel helo, sut aeth hi yn yr ocsiwn?
B. Ddim yn rhy dda. Mi golles i fy ffordd, i ddechrau.
A. Lle est ti felly?
B. Dim syniad, ond mi basies i’r eglwys o leia pedair gwaith.
A. Ffindiest ti’r adeilad yn y diwedd?
B. Do, ond wedyn doedd ’na ddim lle yn y maes parcio. Mi basies i’r eglwys o leia tair gwaith eto cyn ffindio lle i barcio ar y stryd.
A. Pryd gyrhaeddest ti’r ocsiwn, felly?
B. Tua chwarter i dri! Mi golles i’r cyfle i roi bid i mewn am y lluniau. Esgob, rôn i’n flin. Mi werthon nhw am bris rhesymol hefyd.
A. Bechod. Brynest ti rywbeth arall, ’te?
B. Do, yn anffodus.
A. Yn anffodus?
B. Ia. Pan gerddes i i mewn, mi weles i Gareth wrth y ffenest, felly mi godes i fy llaw. Y peth nesa glywes i oedd yr ocsiwniar yn deud “Lot 75 yn mynd, yn mynd, wedi mynd am £200 i’r person wrth y drws”.
A. Ti?
B. Ia!
A. A be’ oedd Lot 75, tybed?
B. Paid â gofyn...
89
CH. GWRANDO
1. Y gath
Geirfa
rywsut - somehowar hyd - alongsilff / silffoedd (b) - shelf / shelvesgwifren / gwifrau (b) - wire(s)gwaetha - worstdrosodd - overyn hollol - completely,
exactlygwyllt - wild
neidio - to jumpgrisiau (g) - stairssimdde (b) - chimneyrhuthro - to rushi ffwrdd â hi - off she wentmellten (b) - lightning boltdal - to catchgwastad - flat
Mae sgript y stori ar y dudalen nesa. Mi fydd angen defnyddio ffurfiau gorffennol cryno (short past tense forms) y berfau yma i lenwi’r bylchau:
cerdded
chwarae
dechrau
dringo
gadael
mynd
neidio
rhedeg (x3)
rhuthro
sblasio
stopio
syrthio
troi
yfed
90
Llenwch y bylchau yn y sgript yma:
Unwaith, mi ________________ ein cath ni i mewn trwy ffenest y garej rywsut. Mi
________________ hi lanast ofnadwy yno. Mi ________________ hi ar hyd y silffoedd,
mi________________ hi efo gwifrau, mi ________________ hi baent dros y car. Ond y
peth gwaetha oedd hyn: mi ________________ hi dun o betrol drosodd ac mi
________________ y petrol dros lawr y garej. Mi ________________ y gath yfed y
petrol. Dw i ddim yn siwr faint ________________ hi, ond yn sydyn, mi
________________ hi'n hollol wyllt. Mi ________________ hi'n ôl allan trwy'r ffenest
ac i mewn i'r tŷ. Mi ________________ hi i fyny'r grisiau, i lawr y grisiau, i fyny'r simdde,
i lawr y simdde, i fyny'r wal, i lawr y wal. Allan â hi wedyn, ac mi ________________ hi
o gwmpas yr ardd chwech gwaith. I ffwrdd â hi wedyn i lawr y stryd fel mellten. Mi
________________ ni i lawr y stryd hefyd, ond roedd hi’n amhosib ei dal hi: roedd hi’n
mynd yn rhy gyflym. ________________ hi ddim tan iddi hi gyrraedd Capel y
Methodistiaid. Yno, mi ________________ hi ar wastad ei chefn o flaen y drws ffrynt.
Oedd hi wedi marw? Nac oedd, ond roedd hi wedi rhedeg allan o betrol!
2. Newyddion
91
Geirfa
arian - silveraur - goldcyfeiriad (g) - directioncyffuriau (g) - drugsgwobr (b) - prizeLlys Ynadon - Magistrates’ Courtpencampwriaeth (b) - voterhan (b) - parttagfa / tagfeydd (b) - traffic jam(s)terfysg (g) - unrest, riotingymddangos - to appearymladd - to fight, fighting
a) Be’ ydy rhif yr eitem lle mae’r geiriau yma’n ymddangos?
arian
aur
cyfeiriad
cyffuriau
gwobr
Llys Ynadon
pencampwriaeth
rhan
tagfeydd
terfysg
ymddangos
ymladd
b) Pam mae’r rhifau yma’n codi yn y newyddion?
Eitem 1: 3 ___________________________________________________
92
8 ___________________________________________________
Eitem 2: 4 ___________________________________________________
Eitem 3: 15 ___________________________________________________
Eitem 4: 2 ___________________________________________________
Eitem 5: 2 ___________________________________________________
c) Atebwch efo’r gorffennol cryno (short past tense)
1. Lle ddigwyddodd y ddamwain?
___________________________________________________________________
2. Be’ wnaeth yr heddlu yn Lerpwl?
___________________________________________________________________
3. Be’ wnaeth y merched neithiwr?
_________________________________________________________________________
4. Be’ wnaeth tri o feicwyr Cymru yn Awstralia ddoe?
___________________________________________________________________
5. Be’ wnaeth Ioan Gruffudd yn “Round Table”?
___________________________________________________________________
D. DARLLEN
Madog ap Owain Gwynedd
Roedd Madog yn byw yng Ngogledd Cymru yn y ddeuddegfed ganrif ac yn fab i Owain, Tywysog Gwynedd.
93
Roedd ’na lawer o ymladd yng Ngogledd Cymru ar y pryd, a doedd Madog ddim yn hapus o gwbl efo’r sefyllfa. Roedd Madog yn hoff iawn o’r môr, felly mi benderfynodd o adael Gwynedd a hwylio i Iwerddon.
Un bore braf, mi hwyliodd Madog allan o borthladd Llandrillo yn Rhos i gychwyn ar y daith i Iwerddon. Yn anffodus, mi newidiodd y tywydd yn sydyn ac mi gododd gwynt cryf. Mi gariodd y gwynt y llong heibio i Iwerddon ac allan i’r môr mawr. Mi hwyliodd o am naw mis heb weld tir.
Yn y diwedd, mi gyrhaeddodd o Gwlff Mecsico ac mi laniodd o mewn gwlad ddieithr. Mae cofeb ger Fort Morgan yn Mobile Bay, Alabama, i gofio’r glaniad ym 1169, dros dair canrif cyn i Columbus gyrraedd America.
Roedd Madog yn hoff iawn o’r wlad newydd, felly mi ddôth o’n ôl i Gymru i chwilio am bobl eraill i ddwad i fyw efo fo yno. Y tro yma, mi gychwynnodd tair ar ddeg o longau ar y daith, ond chlywodd neb ddim byd am Madog a’i ffrindiau ar ôl hynny.
Gyrhaeddodd Madog America yr ail dro? Does neb yn siŵr. Yn ôl y stori, mi deithiodd Madog a’i ffrindiau i fyny’r afon Missouri i Tennessee, ac yno, mi ddaethon nhw’n ffrindiau efo Indiaid brodorol y Mandan. Yn hwyrach, mi ddôth storïau i Gymru am lygaid glas Indiaid y Mandan ac am y geiriau Cymraeg yn eu hiaith.
Oedd yr Indiaid yma’n perthyn i Madog, tybed? Dyna’r cwestiwn mawr!
Geirfa
canrif (b) - centurytywysog (g) - princesefyllfa (b) - situationhwylio - to sailporthladd (g) - porttaith (b) - journeyheibio i - past
dieithr - strange, unknowncofeb (b) - memorialyn ôl - according tobrodorol - nativeperthyn - to belong, to be
relatedtybed - I wonder
1. Pam doedd Madog ddim yn hapus yng Ngogledd Cymru?
_____________________________________________________________________
2. Lle oedd Madog isio mynd?
_____________________________________________________________________
94
3. Sut oedd y tywydd ar y daith?
_____________________________________________________________________
4. Am faint o amser hwyliodd Madog ar y môr?
_____________________________________________________________________
5. Pam mae cofeb i Madog ger Fort Morgan?
_____________________________________________________________________
6. Pryd gyrhaeddodd Columbus America?
_____________________________________________________________________
7. Pam ddôth Madog yn ôl i Gymru?
_____________________________________________________________________
8. Faint o longau hwyliodd yr ail dro?
_____________________________________________________________________
9. Gyrhaeddodd Madog America yr ail dro?
_____________________________________________________________________
10. Pam mae pobl yn meddwl bod cysylltiad (connection) rhwng Madog ac Indiaid brodorol y Mandan?
a) __________________________________________________________________
b) __________________________________________________________________
DD. GRAMADEG (Er gwybodaeth)
Amser gorffennol (Past tense: I saw, I moved, ac ati)
Ffurf hir (Long form) Ffurf gryno (Short form)
95
mi wnes i ddarllen mi ddarllenes i
mi wnest ti ddarllen mi ddarllenest ti
mi wnaeth o/hi ddarllen mi ddarllenodd o/hi
mi wnaeth y plant ddarllen mi ddarllenodd y plant
mi wnaethon ni ddarllen mi ddarllenon ni
mi wnaethoch chi ddarllen mi ddarllenoch chi
mi wnaethon nhw ddarllen mi ddarllenon nhw
Y terfyniadau (endings) bob tro ydy:
-es i (-ais i ar bapur, weithiau)
-est ti (-aist ti ar bapur, weithiau)
-odd o/hi
-on ni
-och chi
-on nhw
Bôn y ferf (root of the verb):
a) Gorffen efo cytsain (consonant) = dim newid
symud > mi symudodd oedrych > mi edrychon nhwdallt > ddalltest ti?
b) Gorffen efo llafariad (vowel) = colli’r llafariad
codi > mi godon nibwyta > mi fwyton nhwgweithio > weithioch chi?ffonio > mi ffonies i
Bôn afreolaidd (Irregular root)
yfed > yf- mi yfodd ocerdded > cerdd- mi gerddon nhwclywed > clyw- mi glywes i
gweld > gwel- welest ti?
96
rhedeg > rhed mi redon ni
galw > galw mi alwon nhwcadw > cadw mi gadwodd hirhoi > rhoi mi roiodd otroi > troi mi droies ichwarae > chwarae mi chwaraeon ni
dechrau > dechreu- mi ddechreuodd himwynhau > mwynheu- fwynheuoch chi?
cyrraedd > cyrhaedd- mi gyrhaeddon nhwaros > arhos- mi arhoson ni
cymryd > cym- mi gymon nhw> cymer- mi gymeron nhw (ar bapur)
deud > dud- mi ddudodd o> dwed- mi ddwedodd o (ar bapur)
gadael > gadaw- mi adawodd ogwrando > gwrandaw- wrandawest ti?
sefyll > saf- mi safodd pawb
Does ’na ddim gwahaniaeth (difference) rhwng “mi wnes i ddarllen” a “mi ddarllenes i”
Mae’r "mi" yn dangos bod y frawddeg yn bositif, ond dydy o ddim bob amser i’w glywed ar lafar. Does ’na ddim "mi" yn y cwestiwn a’r negyddol.The "mi" shows that the sentence is positive, but is not always heard in speech. There is no "mi" in the question and negative.
Treiglad meddal ar ôl "mi" ac yn y cwestiwn: mi brynes ifwytest ti?
Treiglad llaes yn y negyddol os yn bosib: chysges i ddimOs na, treiglad meddal: _weithion ni ddimUse aspirate mutation in the negative, if possible. Otherwise,use soft mutation.
GEIRFA UNED 5
along ar hyd
according to yn ôl
appear, to ymddangos
97
at least o leia
beat, to curo
belong, to perthyn
burn, to llosgi
catch, to dal
century canrif (b)
championship pencampwriaeth (b)
chimney simdde (b)
completely, exactly yn hollol
direction cyfeiriad (g)
drugs cyffuriau (g)
end diwedd (g)
fall, to syrthio
fight, to ymladd
flat gwastad
gold aur
gosh! esgob!
journey taith (b)
jump, to neidio
land, to glanio
lightning bolt mellten (b)
lose, to colli
Magistrates’ Court Llys Ynadon
memorial cofeb (b)
miss, to colli
native brodorol
off she went i ffwrdd â hi
opportunity cyfle (g)
over drosodd
part rhan (b)
past heibio i
port porthladd (g)
prince tywysog (g)
98
prize gwobr (b)
reasonable rhesymol
related, to be perthyn
rush, to rhuthro
sail, to hwylio
shelf / shelves silff / silffoedd (b)
ship llong (b)
silver arian
sink, to suddo
situation sefyllfa (b)
sixties chwedegau
somehow rhywsut
stairs grisiau (g)
stand, to sefyll
strange (unfamiliar) dieithr
three times tair gwaith
traffic jam(s) tagfa / tagfeydd (b)
unrest, rioting terfysg (g)
wave, to codi llaw
wild gwyllt
wire(s) gwifren / gwifrau (b)
wonder, I wonder tybed
worst gwaetha
Atebion y cwestiynau ar dudalen 83
1 - Ch
2 - H
3 - E
4 - A
99
5 - Ff
6 - B
7 - C
8 - G
9 - Dd
10 - Ng
11 - F
12 - D
100