adroddiad blynyddol hosbis dewi sant 2011

11
Darparu gofal arbe nigol or rad d f aen af arbe nigol ADRODDIAD BLYNYDDOL 2011

Upload: st-davids-hospice

Post on 24-Mar-2016

223 views

Category:

Documents


3 download

DESCRIPTION

Yn cynnwys: Gwasanaethau clinigol, cyfrifon diwedd blwyddyn, diweddariad ar gynhyrchu incwm a chynlluniau’r dyfodol

TRANSCRIPT

Page 1: Adroddiad Blynyddol Hosbis Dewi Sant 2011

Darparu gofal arbenigol o’r radd f aenaf arbenigol

AdroddiAd Blynyddol 2011

Page 2: Adroddiad Blynyddol Hosbis Dewi Sant 2011

Cyfleuster gofal lliniarol i oedo-lion yw Hosbis Dewi Sant sy’n gwasanaethu Gogledd Orllewin Cymru i gyd (Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn) ac mae wedi’i leoli yn Llandudno.

Mae’r Uned Cleifion Preswyl ar agor 24 awr y dydd, saith ni-wrnod yr wythnos, ac mae un ar ddeg o welyau cofrestredig yno sy’n darparu gwasanaeth lliniaru symptomau, gofal seibiant a gofal diwedd oes.

Mae’r gwasanaeth Uned Ddydd ar agor bedwar diwrnod yr wythnos ar gyfer hyd at ddeg o gleifion, ac ar gyfer cefnogaeth mewn galar/cynghori am un diwrnod yr wythnos.

Mae’r holl ofal yn rhad ac am ddim.

Mae gofal Hosbis yn darparu cefnogaeth emosiynol, corfforol ac ysbrydol ar gyfer y claf a’i anwyliaid.

Hosbis Dewi Sant Ffordd yr Abaty LlandudnoConwy LL30 2EN01492 879058

[email protected] Rhif Elusen Gofrestredig: 1038543 www.stdavidshospice.org.uk

www.facebook.org.uk/hosbisdewisant @stdavidshospice

Page 3: Adroddiad Blynyddol Hosbis Dewi Sant 2011

Yma yn Hosbis Dewi Sant rydym yn ymdrechu i ddarparu’r gofal gorau posibl ar gyfer ein cleifion a’u teuluoedd. Mae ein brwdfrydedd dros ragoriaeth yn cael ei arwain gan ein tîm clinigol tra medrus gyda chefnogaeth ein criw gwych o wirfoddolwyr, codwyr arian a staff gweinyddol sydd i gyd yn rhannu ein delfrydau.

Eleni, gwnaed penderfyniad cyffrous ac un hynod bwysig i ehangu’r llety yn yr hosbis er mwyn darparu ystafell sengl i bob un o’n cleifion a’u teuluoedd, gan gynyddu nifer ein gwelyau o 11 i 14. Bydd hyn yn fodd i ni roi’r preifatrwydd a’r urddas ychwanegol sy’n agwedd hanfodol a phroffesiynol o’n gofal.

Rydym yn diolch yn ddiffuant iawn i’n holl gefnogwyr am eu cymorth yn codi’r £1.7 miliwn sydd ei angen yn flynyddol i gadw ein gwasanaethau clinigol i fynd. Rydym yn ymwybodol iawn fod codi arian yn anodd mewn cyfnod o galedi cynyddol a bod cyfraniadau’n llai, ond yr hyn sy’n ein gyrru ni yw anghenion ein cleifion ac mae’n wych gweld fod ein cymuned yn parchu’r her hon a bod pobl wedi ymateb yn dda.

Mae ein siopau hosbis, ein loteri a’r tîm codi arian wedi parhau i ddarparu incwm cyson a

chyfraniad hanfodol i’n cronfeydd ariannol. Rydym yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar y gwirfoddolwyr ymroddedig sy’n rhoi’r gefnogaeth allweddol er mwyn darparu’r gwasanaethau hyn. Heb y cyfraniad hwn byddai ein costau wedi bod yn anferthol ac rydym yn falch fod ein timau yn rhai mor ffyddlon.

Rydym yn ffodus iawn fod ein cymuned yn ein cefnogi yn y gwaith o ddarparu ein gwasanaethau ond bydd y dyfodol yn parhau i fod yn llawn heriau o ran cynnal y llif incwm sydd ei angen i gynnal gofal ar y lefel uchel hon. Byddwn yn parhau i chwilio am gyfleoedd i ymestyn ein gwaith o godi arian ac rwy’n hyderus y byddwn yn llwyddo gyda chymorth ein holl gefnogwyr.

Dymuna’r bwrdd ymddiriedolwyr estyn eu diolch i’r holl staff am ddelio â’r her o ddarparu gofal hynod arbenigol tra bod y gwaith adeiladu’n mynd rhagddo.

Mrs Gladys Harrison Cadeirydd

Croeso i’n Hadroddiad Blynyddol ar Gyfer 2011Rhestr o’r Ymddiriedolwyr

• Mrs G Harrison (Cadeirydd)• Mr J O Jones

(Ysgrifennydd Anrhydeddus)• Mr A M Thomas

(Trysorydd Anrhydeddus)• Mr A Neville• Dr C Davies • Mrs V Macdonald• Mr J Moffett• Mr M Mason

Bydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr yn cyfarfod ddeg gwaith y flwyddyn er mwyn llywio gwaith rheoli a rheolaeth yr Hosbis. Mae hyn yn cynnwys adolygiadau o bolisïau a phrotocolau’r Hosbis, datblygiadau i wasanaethau, cyllid a chodi arian. Dirprwyir y gwaith o reoli’r Hosbis o ddydd i ddydd i Brif Weithredwr yr Hosbis a’i Dîm Rheoli.

Page 4: Adroddiad Blynyddol Hosbis Dewi Sant 2011

Cleifion PreswylAr agor 7 niwrnod yr wythnos, 24 awr y dydd, mae uned cleifion preswyl Hosbis Dewi Sant, sydd ag 11 gwely, yn cynnig gofal diwedd oes, rheoli symptomau a gofal seibiant.

Yn ystod 2011, cyfeiriwyd 170 o gleifion i’n huned cleifion preswyl ac arweiniodd hyn at 205 o dderbyniadau. Mae gan yr hosbis dîm amlddisgyblaethol llawn sy’n cynnwys chwe sesiwn gan Feddyg Ymgynghorol, Cyfarwyddwr Meddygol llawn amser, wyth sesiwn gan Feddyg arbenigol, nyrsys o wahanol raddau, gweithiwr cymdeithasol uwch, therapydd galwedigaethol a ffisiotherapydd rhan amser, gwasanaeth caplaniaeth, therapydd cyflenwol a fferyllydd a dietegydd sesiynol.

“Roedd y gofal a’r caredigrwydd a dderbyniodd fy ngwr a’r teulu’n

ardderchog. Fedra’i ddim dod o hyd i’r geiriau i fynegi ein diolch. Bu farw fy

ngwr ag urddas.”

“Mae’r staff gwych yn gwneud ac yn dweud y pethau iawn ar yr

adeg iawn. Effeithiol ond gofalgar iawn. Bob amser yn barod i

wrando ac i gysuro.”

Page 5: Adroddiad Blynyddol Hosbis Dewi Sant 2011

Dal Gafael Ar Yr Hunan Cyfarfu Alex a Robin yn hwyr yn eu bywydau; roedd y ddau deulu wedi gadael y nyth ac fe wnaethon nhw syrthio mewn cariad. Roedd y ddau yn heini, yn mwynhau cerdded, teithio a bwyta allan.

Dechreuodd Robin, a oedd bob amser yn llawn bywyd, ymddwyn yn wahanol iawn i’r arfer. Gwyddai Alex fod rhywbeth o’i le a chafodd Robin wybod fod ganddo diwmor ar yr ymennydd. Ar ôl nifer o ymweliadau a llawdriniaethau yn Ysbyty Walton, daeth yr amser pan nad oedd yn bosib’ ei drin ymhellach Ac yntau’n synhwyrol am ei salwch, nid oedd Robin eisiau gwastraffu ei egni’n poeni. Ceisiodd fyw bywyd “normal”, gydag Alex yn gofalu amdano adref.

Meddai Alex, “Mi wnaeth y rhwydwaith gefnogi o arbenigwyr a ddaeth ynghyd, yn ymweliadau gan y therapydd galwedigaethol a nyrs Macmillan a chyfeiriad i’r Uned Gofal Dydd yn Hosbis Dewi Sant, argraff fawr arna’i.” Drwy gyfrwng y sesiynau Gofal Dydd cafodd Robin y cyngor meddygol i ddeall ei gyflwr tra cafodd Alex ‘seibiant’ drwy gyfrwng adweitheg a thylino.

Oherwydd nad oedd modd rhagweld i ba gyfeiriad roedd y salwch yn mynd roedd hyn yn creu anawsterau oedd angen gofal arbenigol. Daeth cyfle i Robin gael ei dderbyn i’r Uned Gofal Preswyl am wythnos o ofal seibiant, gan roi amser i Alex gael ei gwynt ati.

Parhaodd Robin i ddirywio, tu hwnt i’r math o ofal y gallai Alex ei ddarparu adref. Y pryd hwnnw cytunodd Robin i aros. Roedd Alex yn falch o gael cefnogaeth staff yr Hosbis. Roedd yn teimlo’n rhan o dîm gofal yr Hosbis ac roedd yn cael ei chynnwys mewn trafodaethau gyda’r arbenigwyr.

Meddai Alex, “Roeddwn i’n gallu treulio’r diwrnod cyfan yno, gan barhau i ofalu amdano gyda chymorth y nyrsys. Roedd pethau bach yn golygu llawer – fi oedd yn dewis ei fwyd, yn ei fwydo ac yn ei helpu gyda hylendid personol.”

“Mae Dewi Sant yn darparu’r gofal o’r safon uchaf. Roedd Robin yn ‘ddyn mawr a hael ym mhob ystyr’, ac fe wnaethon nhw adael i ‘Robin fod yn Robin’. Mae pobl yn dal gafael ar eu hunaniaeth at y diwedd un.”

Yn anffodus, bu farw Robin. Mae Alex yn parhau i dderbyn cynghori mewn profedigaeth yn yr Hosbis ac fe wnaeth eu mab gwblhau taith feicio noddedig o gwmpas Cymru er cof am Robin.

Page 6: Adroddiad Blynyddol Hosbis Dewi Sant 2011

“Mae rhywun wedi gwrando arna’i ac mae pobl wedi esbonio fy ofnau a’m pryderon i mi gan roi tawelwch meddwl a dyfodol disgleiriach imi.”

Uned Gofal DyddMae’r Uned Ddydd yn darparu gwasanaeth ar gyfer hyd at ddeg o gleifion am bedwar diwrnod yr wythnos, a gwasanaeth cyngor mewn profedigaeth/cynghori am ddiwrnod yr wythnos.

Rydym yn cynnig y gwasanaethau canlynol:• Nyrsys a staff meddygol wedi eu hyfforddi yn monitro a rheoli symptomau. • Cefnogaeth seicolegol, ysbrydol ac emosiynol • Therapïau cyflenwol - gan gynnwys tylino ac adweitheg• Therapïau dargyfeiriol - gweithgareddau celfyddyd a chrefftau• Pryd a lluniaeth • Seibiant i deuluoedd a gofalwyr

Mae gwasanaethau gofal dydd i gyd yn rhad ac am ddim.Cyfeiriwyd 109 o gleifion i’r uned yn 2011 a chafwyd 1,134 o ymweliadau â’r uned yn ystod y flwyddyn.

“Rwy’n edrych ymlaen at fynd bob wythnos. Mae’n wych cael diwrnod heddychlon. Mae’n hosbis hyfryd.”

Page 7: Adroddiad Blynyddol Hosbis Dewi Sant 2011

Mae Eleanor Rees o Landudno’n rhannu ei phrofiad personol o ofal diwedd oes Hosbis Dewi Sant.

Gydag ychydig o anogaeth dawel ymwelodd fy ngwr David â Hosbis Dewi Sant am y tro cyntaf. Derbyniodd David ddiagnosis o ganser y coluddyn a thiwmorau eilaidd yn yr iau ac fel llawer o bobl eraill roedd yn gyndyn o ystyried y syniad. Byddai’n mynd am ymweliadau wythnosol a byddai’n edrych ymlaen at yr ymweliadau hynny. Byddai’n dod adref wedi ymlacio ar ôl cael sesiynau adweitheg, aromatherapi a ffisiotherapi gan rai o’r staff nyrsio mwyaf gofalgar a chariadus y gallai rhywun eu cyfarfod byth.

Yn ddiweddarach, dirywiodd David a bu’n rhaid ei dderbyn i’r Uned Cleifion Preswyl. Mae adegau fel hyn yn rhai trawmatig iawn, Doedd gan yr un o’m merched unrhyw brofiad o’r hyn y mae hosbis yn ei wneud. Fe wnaeth y cariad a’r gofal nodedig a dderbyniodd eu tad eu cyffwrdd. Roedd y gofal a dderbyniwyd yn ein cynnwys ninnau hefyd. Roedd ein hemosiynau ar chwâl ond roedd y staff nyrsio yno ar ein cyfer ninnau hefyd, boed hynny i’n cofleidio, i rannu paned o de neu am sgwrs.

Mae pob claf ac aelod o’r teulu’n cael eu trin gyda chymaint o urddas, Yn anffodus bu fy ngwr farw, ond dydi’r hosbis ddim yn eich anghofio chi. Ar ôl holl boen a loes yr angladd, cysylltodd yr Hosbis a gofyn i mi ymweld â’r uned ddydd. Fe wnaethon nhw edrych ar fy ôl i am ddeuddeg mis gan ddarparu sesiynau cynghori, aromatherapi ac adweitheg, y cyfan yn rhad ac am ddim. Fyddwch chi byth yn teimlo’n unig tra fyddwch chi yn Hosbis Dewi Sant: fe fydd rhywun yno bob amser i afael yn eich llaw, i gynnig paned o de i chi a’ch croesawu chi â gwên.

Fe Fydd Rhywun Yno Bob Amser

Page 8: Adroddiad Blynyddol Hosbis Dewi Sant 2011

Sut Mae’r Arian Yn GweithioIN

CWM

%

Cyfraniadau a Rhoddion 295,858 9.2

Loteri'r Hosbis 696,039 21.6

Codi Arian 281,070 8.7

Cymynroddion 900,488 28.0

Bwrdd Iechyd Lleol 133,134 4.1

Llywodraeth Cymru 358,607 11.1

Incwm Nwyddau 535,016 16.6

Incwm Buddsoddiadau 20,851 0.6

3,221,063

Donations & Gifts

Hospice Lottery

Fundraising

Legacies

Local Health Board

Welsh Government

Merchandising Income

Investment Income

Cyfraniadau a Rhoddion

Loteri’r Hosbis

Codi Arian

Cymynroddion

Bwrdd Iechyd Lleol

Llywodraeth Cymru

Incwm Nwyddau

Incwm Buddsoddiadau

Costau nwyddau

Costau codi arian

Costau Loteri’r Hosbis

Gofal Cleifion

Costau adeiladu

Rheolaeth a Gweinyddu

Ar gyfer 2011 cynyddodd cyfanswm yr incwm dros 28 y cant o’i gymharu ag incwm 2010 o ganlyniad i haelioni’r gmuned leol.Y cyfrannwr unigol mwyaf oedd incwm o gymynroddion.

Ein nod yw gwario pob ceiniog yn ddoeth er budd ein cleifion ac yn 2011 gwariwyd 14 y cant yn fwy ar ofal i gleifion.

Mae 71 y cant o’n gwariant yn mynd yn uniongyrchol ar gefnogi gofal i gleifion.

GWAR

IAN

t Merchandising costs

Fundraising costs

Hospice Lottery costs

Patient Care

Premises costs

Management &Administration

%

Costau nwyddau 333,711 12.3

Costau codi arian 166,627 6.1

Costau Loteri'r Hosbis 288,731 10.7

Gofal Cleifion 1,616,437 59.7

Costau adeiladu 133,738 4.9

Rheolaeth a Gweinyddu 170,596 6.3

2,709,840

Page 9: Adroddiad Blynyddol Hosbis Dewi Sant 2011

Cynhyrchu Incwm Derbyniodd yr Hosbis £442,000 oddi wrth y Bwrdd Iechyd Lleol a Llywodraeth Cymru, digon o arian i ariannu gwaith yr Hosbis am 92 niwrnod. Rhaid ariannu’r 273 diwrnod sy’n weddill drwy waith y tîm Cynhyrchu Incwm, cymynroddion, cyfraniadau a rhoddion. Yn 2011, costiodd £4795 y diwrnod i dalu costau cynnal clinigol yr Hosbis.

LoteRIYn 2011 cafwyd nifer o fentrau newydd yn yr adran loteri gan gynnwys yr ymgyrch chwarae’r ail rif a chyflwyno’r jacpot treigl.

CoDI ARIAN Ar gyfer 2011, sefydlodd yr Hosbis nifer o ddigwyddiadau newydd ar gyfer codi arian a thrwy’r rhain, ar y cyd ag ailstrwythuro’r tîm codi arian, llwyddwyd i gynyddu cyfanswm yr arian a godwyd i £281,070. O ystyried yr hinsawdd economaidd bu’r tîm rheoli’n gweithio’n gyson ar yr her o geisio dod o hyd i ddulliau newydd o gynhyrchu incwm.

SIoPAU Mae incwm o’n siopau hosbis yn ffynhonnell arian sylweddol ar gyfer ein helusen. Yn ystod 2011, agorwyd dwy siop newydd (Biwmares a Bangor) ond bu’n rhaid cau un (Llangefni). O ganlyniad i agor dwy siop newydd, ynghyd â gwaith caled staff y siop a’r gwirfoddolwyr, llwyddwyd i gynyddu’r incwm o’n siopau 8.14 y cant i £535,016.

DIoLCH I CHI: Yn 2011 • Gwariwyd dros £158,000 ar ddillad, £19,000 ar fagiau llaw ac esgidiau a £16,000 ar lyfrau yn ein siopau hosbis!• Cododd 298 o ferched gyda’r wawr i gymryd rhan yn y Daith Gerdded Gyda’r Wawr gan godi dros £21,000• Bu 310 yn dawnsio yn Nawns Nadolig yr Hosbis gan godi £16,000• Cyfrannwyd dros 480 o ffonau symudol i’w hailgylchu• Chwarddodd dros 1500 yng Ngwyl Gomedi gyntaf un y Giddy Goat gan godi £17,000. • Bu 12,000 yn chwarae Loteri’r Hosbis gan godi £407,308.• Prynwyd 83,770 o docynnau Raffl Fawr y Loteri yn yr Haf a’r Nadolig

Gosododd llawer ohonoch chi her i chi eich hunain, gan redeg marathonau, neidio allan o awyrennau, cerdded milltiroedd i fyny mynyddoedd a theithio ar draws y DU. Gwnaeth nifer ffyliaid ohonyn nhw eu hunain: eillio eu pennau, tyfu barf a neidio i mewn i’r môr ar Ddydd San Steffan. DIoLCH YN FAWR I CHI.

Page 10: Adroddiad Blynyddol Hosbis Dewi Sant 2011

Ni allai Hosbis Dewi Sant ddal ati i wasanaethu’r gymuned heb gefnogaeth ac ymroddiad ein gwirfoddolwyr sy’n rhoi eu hamser bob blwyddyn er mwyn helpu i gadw ein gwasanaethau i fynd. Heb ymroddiad ac agwedd broffesiynol yr unigolion yma, ni fyddai’r Hosbis yn gallu gweithredu.

Mae niferoedd y gwirfoddolwyr yn Hosbis Dewi Sant yn fwy na niferoedd y gweithwyr sy’n cael eu talu, o bron i bedwar i un, ac, mewn termau ariannol, maen nhw’n arbed tua £250,000 bob blwyddyn mewn cyflogau i’r Hosbis. Rydym yn parhau i ddenu gwirfoddolwyr rhwng 15 a 88 oed, ac yn 2011 cychwynnodd 29 o rai newydd ar y gwaith gan greu cyfanswm o 280 ar draws pob maes. Mae 23 o’r gwirfoddolwyr yma wedi bod yn cyfrannu eu hamser yn rheolaidd am dros 10 mlynedd.

Hoffem fanteisio ar y cyfle yma i ddweud Diolch yn Fawr i’n holl wirfoddolwyr. Rydych chi’n rhan hanfodol o’r tîm sy’n gwneud Hosbis Dewi Sant yr hyn ydyw heddiw.

Mae Dilys Roberts o Ddeganwy’n gwirfoddoli, unwaith bob pythefnos, fel derbynnydd yn Hosbis Dewi Sant. Gall ei diwrnod amrywio’n fawr: o ateb y ffôn a chyfarch ymwelwyr i drin arian o’r siop a’r caffi a chynorthwyo gyda thasgau gweinyddol eraill yn yr adran.

Dechreuodd yn 2009, ar ôl mynd i Gaffi Dewi (caffi’r Hosbis) un bore a gweld y derbynnydd a meddwl ‘Mi fedra’i wneud hynny’. Llenwodd ei ffurflen gais a dydi hi ddim wedi edrych yn ôl ers hynny.

Meddai Dilys, “Dwi’n edrych ymlaen at ddod yma - dwi wrth fy modd efo’r gwaith! Dwi’n mwynhau cyfarfod pobl a siarad efo nhw. Dwi’n teimlo fy mod i’n helpu mewn ffordd fechan. Dwi’n mwynhau bod yn rhan o’r tîm. Mae gweithio efo pobol iau yn helpu i’m cadw’n ifanc ac yn gyfoes!”

Gwirfoddolwyr – Rhan Hanfodol o’n tîm

4 Gofal Dydd a Ward (Dyletswyddau Cyffredinol)4 Siopau’r Hosbis4 Cynorthwy-ydd yn y Ganolfan Ddosbarthu 4 Gyrrwr Cleifion4 Cegin 4 Codi arian 4 Derbynfa4 Caffi Dewi4 Garddio

DULLIAU o WIRFoDDoLI

Page 11: Adroddiad Blynyddol Hosbis Dewi Sant 2011

Brwdfrydedd ac Angerdd – Y Flwyddyn i Ddod Gan ddechrau yng ngaeaf 2011, fe wnaethom ni ddechrau ar brosiect i wella’r gofal diwedd oes a ddarparwn ni yn ein hosbis i oedolion. Mae ein hapêl cyfalaf ‘Help Llaw’ wedi ein galluogi ni i droi 6 o’n gwelyau yn llety ystafell wely sengl yn ogystal ag adeiladu tair ystafell wely ychwanegol (gan wneud cyfanswm o 14 o ystafelloedd gwely sengl).

Drwy wrando ar farn cleifion, perthnasau a staff clinigol rydym wedi darganfod y byddai cynyddu nifer yr ystafelloedd sengl a mannau preifat yn ateb eu gofynion yn well, er bod yr ymateb i’r gofal yr ydym yn ei ddarparu yn gadarnhaol iawn. Byddai hyn yn gwella’r preifatrwydd i deuluoedd ar adeg anodd iawn.

Diolch i gefnogaeth y gymuned leol, mae’r datblygiad yn tynnu tua’r terfyn ac mae gennym Hosbis y gall pawb fod yn falch ohono ac yn fan lle gellir gwella ein gofal holistig ymhellach. Ni allwn fod wedi cyflawni hyn heb y brwdfrydedd a’r angerdd sy’n parhau ymhlith pobl Gogledd Orllewin Cymru.

Mae Hosbis Dewi Sant yn ganolfan lliniarol arbenigol ac y mae’n parhau i chwarae rhan hanfodol yng nghymunedau Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn. Gyda’r 3 ystafell wely ychwanegol, bydd y costau clinigol blynyddol yn codi i £1.9 miliwn. Bydd hyn ar ben y £120,000 sydd ei angen i helpu tuag at ddodrefnu a gosod cyfarpar yn ein hystafelloedd gwely newydd a llety’r perthnasau. Rydym yn derbyn 25 y cant o’n costau gofal cleifion gan Lywodraeth Cymru a’r Bwrdd Iechyd Lleol; mae’r mwyafrif felly yn deillio o godi arian a chyfraniadau gwirfoddol eraill, Bydd y flwyddyn i ddod yn un brysur iawn o ran cynhyrchu incwm, yn arbennig yn wyneb yr hinsawdd economaidd.

Gyda’n gilydd, gallwn ddarparu amgylchedd gofal fydd yn rhoi’r urddas a’r cysur y mae ein cleifion yn ei haeddu.

Alun Davies, Prif Weithredwr