bridgend county borough council · web view3.5ar 8 chwefror 2011, penderfynodd y cabinet ddirwyn...

109
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL PEN-Y-BONT AR OGWR ADRODDIAD CABINET 7 Mehefin 2016 ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL – ADDYSG A CHYMORTH I DEULUOEDD Y RHAGLEN MODERNEIDDIO YSGOLION: Canlyniad Ymgyngoriadau ynghylch cynnig i wneud newid a reoleiddir i Ysgol Gynradd Pen-coed 1. Diben yr Adroddiad 1.1 Diben yr adroddiad hwn yw: hysbysu’r Cabinet ynghylch canlyniad yr ymgynghoriad ar y cynnig i wneud newid a reoleiddir i Ysgol Gynradd Pen- coed, trwy adleoli’r ysgol, gan gynnwys campws Heol y Cyw, i adeilad ysgol newydd ar safle caeau chwarae Ysgol Gynradd Pen-coed ar Heol Penprysg, Pen-coed o 1 Ebrill 2018 – a chyflwyno canfyddiadau’r ymgynghoriad i’r Cabinet mewn adroddiad ymgynghori manwl (gweler Atodiad A) ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gyhoeddi Hysbysiad Statudol yn unol â’r cynnig. 2. Cyswllt â’r Cynllun Corfforaethol / Blaenoriaethau Corfforaethol Eraill 2.1 Mae’r rhaglen moderneiddio ysgolion yn cefnogi llawer o’r blaenoriaethau corfforaethol, yn enwedig: Defnyddio adnoddau’n ddoethach Cefnogi economi lwyddiannus 3. Cefndir 1

Upload: others

Post on 06-Mar-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

CYNGOR BWRDEISTREF SIROL PEN-Y-BONT AR OGWR

ADRODDIAD CABINET

7 Mehefin 2016

ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL – ADDYSG A CHYMORTH I DEULUOEDD

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO YSGOLION: Canlyniad Ymgyngoriadau ynghylch cynnig i wneud newid a reoleiddir i Ysgol Gynradd Pen-coed

1. Diben yr Adroddiad

1.1 Diben yr adroddiad hwn yw:

hysbysu’r Cabinet ynghylch canlyniad yr ymgynghoriad ar y cynnig i wneud newid a reoleiddir i Ysgol Gynradd Pen-coed, trwy adleoli’r ysgol, gan gynnwys campws Heol y Cyw, i adeilad ysgol newydd ar safle caeau chwarae Ysgol Gynradd Pen-coed ar Heol Penprysg, Pen-coed o 1 Ebrill 2018 – a chyflwyno canfyddiadau’r ymgynghoriad i’r Cabinet mewn adroddiad ymgynghori manwl (gweler Atodiad A)

ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gyhoeddi Hysbysiad Statudol yn unol â’r cynnig.

2. Cyswllt â’r Cynllun Corfforaethol / Blaenoriaethau Corfforaethol Eraill

2.1 Mae’r rhaglen moderneiddio ysgolion yn cefnogi llawer o’r blaenoriaethau corfforaethol, yn enwedig:

Defnyddio adnoddau’n ddoethach Cefnogi economi lwyddiannus

3. Cefndir

3.1 Ar 3 Mawrth 2015, cafwyd cymeradwyaeth y Cabinet i’r Cyngor fabwysiadu egwyddorion diwygiedig fel fframwaith ar gyfer trefniadaeth ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr; cafodd pum egwyddor allweddol eu nodi i lywio’r broses o drefnu a moderneiddio ein hysgolion:

i. Ymrwymiad i safonau uchel a rhagoriaeth yn y ddarpariaeth.ii. Cyfle cyfartal, fel bod yr holl ddisgyblion yn gallu cael mynediad at gyfleoedd

dysgu o ansawdd.iii. Ysgolion cynhwysol, sy’n darparu ar gyfer anghenion dysgu eu holl

ddisgyblion.iv. Ysgolion bro, lle mae’r ysgol yn ymgysylltu’n weithredol â’i chymuned leol.

1

Page 2: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

v. Gwerth am arian.

3.2 Mae’r Fframwaith Polisi a Chynllunio’n nodi 17 maes lle dylai’r egwyddorion hyn gael eu cymhwyso’n ymarferol.

3.3 Mae’r egwyddorion sy’n arbennig o berthnasol yng nghyd-destun y cynnig hwn yn ymwneud â maint ysgolion cynradd (er mwyn sicrhau bod “holl ysgolion cynradd Pen-y-bont ar Ogwr yn ddigon mawr i gynnig yr ystod lawn o ddarpariaeth sy’n angenrheidiol”) a gwerth am arian, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd a darparu ysgolion lleol, gan gynllunio darpariaeth newydd i adlewyrchu newidiadau yn nosbarthiad y boblogaeth.

3.4 Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r ymatebion i’r ymgynghoriad mewn perthynas â’r cynnig i adleoli ac mae’n ceisio cymeradwyaeth i barhau â cham nesaf y broses.

4. Y sefyllfa bresennol

4.1 Ar 16 Chwefror 2016, fe wnaeth y Cabinet gymeradwyo’r ymgynghoriad ar y cynnig i wneud newid a reoleiddir i Ysgol Gynradd Pen-coed trwy adleoli’r ysgol, gan gynnwys campws Heol y Cyw, i safle caeau chwarae’r ysgol ar Heol Penprysg, Pen-coed.

4.2 Er mwyn bwrw ymlaen â’r cynnig, cynhaliwyd ymgynghoriad rhwng 23 Mawrth a 9 Mai 2016 yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion statudol. Roedd copi o’r ddogfen ymgynghori ar gael ar wefan y Cyngor hefyd yn ystod y cyfnod hwn ac mae copi wedi’i atodi (Atodiad 5).

Roedd y ddogfen ymgynghori’n gwahodd barn a safbwyntiau ynglŷn â’r cynnig.

4.3 Os caiff ei gymeradwyo gan y Cabinet, cam nesaf y broses yw cyhoeddi hysbysiad statudol yn nodi’r cynigion, y byddai angen ei gyhoeddi am gyfnod o 28 diwrnod, gan wahodd unrhyw wrthwynebiadau ysgrifenedig ffurfiol yn ystod y cyfnod hwn.

4.4 Os na cheir gwrthwynebiadau yn ystod cyfnod yr Hysbysiad Cyhoeddus, yna gall y Cabinet ystyried a yw’n mynd i benderfynu gweithredu’r cynnig.

4.5 Os ceir gwrthwynebiadau yn ystod cyfnod yr Hysbysiad Ffurfiol, bydd ‘adroddiad gwrthwynebiadau’ yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet i’w ystyried a’i gyhoeddi wedyn a hwnnw’n crynhoi’r gwrthwynebiadau ac ymateb yr awdurdod i’r gwrthwynebiadau hynny. Bydd angen i’r Cabinet ystyried y cynnig yng ngoleuni unrhyw wrthwynebiadau. Wedyn gallai’r Cabinet dderbyn, gwrthod neu addasu’r cynnig.

4.6 Crynodeb o’r Ymatebion i’r ymgynghoriad

4.7 Mae’r adroddiad ymgynghori sydd wedi’i atodi (Atodiad A) yn grynodeb manwl o’r materion a godwyd gan ymgyngoreion ac ymatebion yr awdurdod i’r rhain.

5. Effaith ar y Fframwaith Polisi a’r Rheolau Gweithdrefn

2

Page 3: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

5.1 Nid oes effaith ar y fframwaith polisi na’r rheolau gweithdrefn.

6. Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb

6.1 Mae Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi cael ei gwblhau fel rhan o’r cam ymgynghori ac mae wedi cael ei oleuo ymhellach gan ymatebion i’r papurau ymgynghori. Daeth yr asesiad i’r casgliad nad oes unrhyw effaith negyddol ar ddyletswyddau’r Cyngor tuag at grwpiau gwarchodedig. (Atodiad 2)

6.2 Mae Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg wedi cael ei gwblhau fel rhan o’r ymgynghoriad. (Atodiad 3).

6.3 Mae Asesiad o’r Effaith ar y Gymuned wedi cael ei gwblhau fel rhan o’r ymgynghoriad. (Atodiad 4).

7. Goblygiadau Ariannol

7.1 Bydd cost yr ysgol newydd yn cael ei thalu â chyllid o Raglen Ysgolion yr 21ain

Ganrif Llywodraeth Cymru y mae’r Awdurdod wedi cael ‘cymeradwyaeth mewn egwyddor’ iddo ac sydd wedi’i gynnwys yn rhaglen gyfalaf y Cyngor a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Mawrth 2016. £8.8m yw cyfanswm y gyllideb a gymeradwywyd ar gyfer y Cynllun. Byddai angen mynd trwy’r gweithdrefnau angenrheidiol o ran cyflwyno achos busnes yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru yn ystod y camau datblygu a dylunio adeiladau.

7.2 Nid yw’r cynllun yn gysylltiedig ag unrhyw gynnig ar gyfer y gyllideb yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

7.3 Bydd disgyblion yn cael cludiant i’r ysgol newydd yn unol â pholisi Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol. Ar hyn o bryd, darperir cludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol yn y Sir ar gyfer pellter cerdded sy’n fwy nag 1.5 milltir ar hyd llwybrau cerdded diogel sydd ar gael. Bydd y gwasanaeth bysiau ysgol i drosglwyddo disgyblion i safle newydd Ysgol Gynradd Pen-coed yn costio tua £40,470 y flwyddyn. Mae’r trefniadau cludiant presennol ar gyfer yr ysgol ar ddau safle’n costio tua £48,070 y flwyddyn ac felly bydd arbediad ar gyfer y gyllideb refeniw.

8. Argymhellion

8.1 Argymhellir felly bod y Cabinet:

1) yn ystyried canlyniad yr ymgynghoriad â’r holl bartïon fel a nodir yn yr adroddiad ymgynghori drafft sydd wedi’i atodi a’r atodiadau iddo;

2) yn penderfynu a ddylid cymeradwyo’r adroddiad ymgynghori drafft ar gyfer ei gyhoeddi;

3) yn penderfynu a ddylid awdurdodi camau i gyhoeddi Hysbysiad Cyhoeddus ynghylch y cynnig.

Deborah McMillan

3

Page 4: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Swyddog Cyswllt: Nicola EchanisPennaeth Addysg a Chymorth Cynnar

Ffôn: (01656) 642611E-bost: [email protected]

Cyfeiriad Post Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB

Dogfennau cefndir

Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu: Adroddiad Plant a Phobl Ifanc Chwefror 9 2009: YSGOLION Y DYFODOL – Y RHAGLEN MODERNEIDDIO YSGOLION

Adroddiad y Cabinet 28 Ebrill 2009: YSGOLION Y DYFODOL – TROSOLWG AR Y RHAGLEN MODERNEIDDIO YSGOLION A CHYNNYDD Y RHAGLEN

Adroddiad y Cabinet 16 Mai 2009: YSGOLION Y DYFODOL – TROSOLWG AR Y RHAGLEN MODERNEIDDIO YSGOLION A CHYNNYDD Y RHAGLEN

Adroddiad y Cabinet, 14 Gorffennaf. 2009, “Y RHAGLEN MODERNEIDDIO YSGOLION: CAM 1 DARPARIAETH DYSGU 3-11 YN ARDAL PEN-COED”

Adroddiad y Cabinet 7 Medi 2010 - Y RHAGLEN MODERNEIDDIO YSGOLION: NEWIDIADAU ARFAETHEDIG YN Y CYFNOD 3 – 11

Adroddiad y Cabinet 2 Tachwedd 2010 Y RHAGLEN MODERNEIDDIO YSGOLION: CANLYNIAD YMGYNGORIADAU AR NEWIDIADAU ARFAETHEDIG I YSGOLION CYNRADD HEOL Y CYW A PHEN-COED

Adroddiad Cabinet 2 Tachwedd 2010: “TROSOLWG O’R RHAGLEN MODERNEIDDIO YSGOLION A CHYFLWYNO RHAGLEN AMLINELLOL STRATEGOL YSGOLION YR 21AIN GANRIF PEN-Y-BONT AR OGWR I LYWODRAETH CYNULLIAD CYMRU”

Adroddiad y Cabinet 21 Chwefror 2012: “Y RHAGLEN MODERNEIDDIO YSGOLION: CYFLWYNO BAND A DIWYGIEDIG RHAGLEN AMLINELLOL STRATEGOL YSGOLION YR 21AIN GANRIF PEN-Y-BONT AR OGWR I LYWODRAETH CYMRU”

Adroddiad y Cabinet 3 Mawrth 2015: “DOGFEN EGWYDDORION”

Adroddiad y Cabinet 16 Chwefror 2016: “CYNNIG I YMGYNGHORI AR NEWID A REOLEIDDIR I YSGOL GYNRADD PEN-COED”

4

Page 5: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

ATODIAD A

CYNGOR BWRDEISTREF SIROL PEN-Y-BONT AR OGWR

ADRODDIAD YMGYNGHORI DRAFFT

ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL – ADDYSG A CHYMORTH I DEULUOEDD

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO: Canlyniad Ymgyngoriadau ar gynnig i wneud newid a reoleiddir i Ysgol Gynradd Pen-coed, trwy adleoli’r ysgol, gan gynnwys campws Heol y Cyw, i safle caeau chwarae Ysgol Gynradd Pen-coed ar Heol Penprysg, Pen-coed.

1. Diben yr adroddiad

1.1 Diben yr adroddiad cyhoeddus hwn yw hysbysu ynghylch canlyniad yr ymgynghoriad ar y cynnig i wneud newid a reoleiddir i Ysgol Gynradd Pen-coed, trwy adleoli’r ysgol, gan gynnwys campws Heol y Cyw, i adeilad ysgol newydd ar safle caeau chwarae Ysgol Gynradd Pen-coed ar Heol Penprysg, Pen-coed.

2. Cyswllt â’r Cynllun Corfforaethol / Blaenoriaethau Corfforaethol Eraill

2.1 Mae’r rhaglen moderneiddio ysgolion yn cefnogi llawer o’r blaenoriaethau corfforaethol, yn enwedig:

Defnyddio adnoddau’n ddoethach Cefnogi economi lwyddiannus

3. Cefndir

3.1 Ar 3 Mawrth 2015, cafwyd cymeradwyaeth y Cabinet i’r Cyngor fabwysiadu egwyddorion diwygiedig fel fframwaith ar gyfer trefniadaeth ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr; cafodd pum egwyddor allweddol eu nodi i lywio’r broses o drefnu a moderneiddio ein hysgolion:

i. Ymrwymiad i safonau uchel a rhagoriaeth yn y ddarpariaeth.ii. Cyfle cyfartal, fel bod yr holl ddisgyblion yn gallu cael mynediad at

gyfleoedd dysgu o ansawdd.iii. Ysgolion cynhwysol, sy’n darparu ar gyfer anghenion dysgu eu holl

ddisgyblion.iv. Ysgolion bro, lle mae’r ysgol yn ymgysylltu’n weithredol â’i chymuned

leol.v. Gwerth am arian.

3.2 Mae’r Fframwaith Polisi a Chynllunio’n nodi 17 maes lle dylai’r egwyddorion hyn gael eu cymhwyso’n ymarferol.

5

Page 6: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

3.3 Mae’r egwyddorion sy’n arbennig o berthnasol yng nghyd-destun y cynnig hwn yn ymwneud â maint ysgolion cynradd (er mwyn sicrhau bod “holl ysgolion cynradd Pen-y-bont ar Ogwr yn ddigon mawr i gynnig yr ystod lawn o ddarpariaeth sy’n angenrheidiol”) a gwerth am arian, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd a darparu ysgolion lleol, gan gynllunio darpariaeth newydd i adlewyrchu newidiadau yn nosbarthiad y boblogaeth.

3.4 Mae safle Heol y Cyw wedi’i leoli tua 2 filltir o brif safle Ysgol Gynradd Pen-coed ar Heol Penprysg. Dyfarnwyd gradd B a C i gyflwr yr adeiladau ar y ddau safle a chymysgedd o’r rhai a adeiladwyd yn wreiddiol ar gyfer darpariaeth fabanod, plant iau ac uwchradd yn negawd cyntaf y ganrif ddiwethaf ydynt yn bennaf. Ar hyn o bryd mae’n rhaid i blant groesi priffordd brysur ym Mhen-coed i fynd i rai ystafelloedd dosbarth, y ffreutur a chaeau chwarae’r ysgol.

3.5 Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol Gynradd Pen-coed lle cafodd ei helaethu a’i gweithredu fel darpariaeth 3-11 ar ddau safle, sef safle Heol y Cyw a safle Pen-coed tan ddiwedd tymor yr haf 2014, neu nes y byddai adeilad newydd Ysgol Gynradd Pen-coed wedi cael ei gwblhau. Penderfynodd y Cabinet newid dalgylch Ysgol Gynradd Pen-coed hefyd i gynnwys dalgylch presennol Ysgol Gynradd Heol y Cyw.

3.6 Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar y cynnig i adleoli.

4. Y sefyllfa bresennol

4.1 Ar 16 Chwefror 2016, fe wnaeth y Cabinet gymeradwyo’r ymgynghoriad ar y cynnig i wneud newid a reoleiddir i Ysgol Gynradd Pen-coed trwy adleoli’r ysgol, gan gynnwys campws Heol y Cyw, i safle caeau chwarae’r ysgol ar Heol Penprysg, Pen-coed.

4.2 Er mwyn bwrw ymlaen â’r cynnig, cynhaliwyd ymgynghoriad rhwng 23 Mawrth a 9 Mai 2016 yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion statudol. Roedd copi o’r ddogfen ymgynghori ar gael ar wefan y Cyngor hefyd yn ystod y cyfnod hwn ac mae copi wedi’i atodi (Atodiad 5).

4.3 Roedd y ddogfen ymgynghori’n gwahodd barn a safbwyntiau ynglŷn â’r cynnig agor Ysgol Gynradd Pen-coed wedi’i hadleoli i adeilad newydd ar 1 Ebrill 2018. Byddai gan yr ysgol le i 510 o ddisgyblion 4-11 oed, uned feithrin â lle i 70, 8 lle i ddisgyblion â nam ar eu golwg, 8 lle i fabanod mewn dosbarth arsylwi a 2 ddosbarth â 15 lle i ddisgyblion ag anawsterau dysgu cymedrol. Y nifer derbyn cyhoeddedig ar gyfer yr ysgol newydd arfaethedig fyddai 72.

4.4 Os caiff ei gymeradwyo gan y Cabinet, cam nesaf y broses yw cyhoeddi hysbysiad statudol yn nodi’r cynigion, y byddai angen ei gyhoeddi am gyfnod o 28 diwrnod, gan wahodd unrhyw wrthwynebiadau ysgrifenedig ffurfiol yn ystod y cyfnod hwn.

4.5 Os na cheir gwrthwynebiadau yn ystod cyfnod yr Hysbysiad Cyhoeddus, yna gall y Cabinet ystyried a yw’n mynd i benderfynu gweithredu’r cynnig.

6

Page 7: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

4.6 Os ceir gwrthwynebiadau yn ystod cyfnod yr Hysbysiad Ffurfiol, bydd ‘adroddiad gwrthwynebiadau’ yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet i’w ystyried a’i gyhoeddi wedyn a hwnnw’n crynhoi’r gwrthwynebiadau ac ymateb yr awdurdod i’r gwrthwynebiadau hynny. Bydd angen i’r Cabinet ystyried y cynnig yng ngoleuni unrhyw wrthwynebiadau. Wedyn gallai’r Cabinet dderbyn, gwrthod neu addasu’r cynnig

5. Crynodeb o’r Ymatebion i’r ymgynghoriad

5.1 Roedd y pwyntiau allweddol o’r ymarferion ymgynghori fel a ganlyn, gyda’r manylion llawn wedi’u hatodi ar ddiwedd yr adroddiad hwn.

5.2 Ymgynghori â DisgyblionCyfarfu cynrychiolwyr CBS Pen-y-bont ar Ogwr â’r Cyngor Ysgol yn Ysgol Gynradd Pen-coed ar 21 Ebrill 2016 i drafod y cynnig. Roedd y mwyafrif o’r materion a godwyd yn ymwneud â chludiant i’r safle newydd. Eglurodd Swyddogion y Cyngor y bydd unrhyw un o Heol y Cyw yn cael cludiant am ddim os oes angen am nad oes llwybr cerdded diogel yn bodoli. Mae manylion y cyfarfod, gan gynnwys ymatebion yr Awdurdod i faterion a godwyd, wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn yn Atodiad 1.

5.3 Ar ôl y sesiwn holi ac ateb a gynhaliwyd, gofynnwyd i’r disgyblion godi eu dwylo os oeddent yn meddwl bod y cynnig yn syniad da; cododd y disgyblion i gyd eu dwylo – gan gytuno bod y cynnig yn syniad da.

5.4 Ymgynghoriad gyda Rhieni a Phartïon â BuddiantCyfarfu cynrychiolwyr CBS Pen-y-bont ar Ogwr â rhieni a phartïon â buddiant ar 13 ac 14 Ebrill 2016 er mwyn trafod y cynnig. Roedd y prif bryderon a fynegwyd yn ymwneud â’r defnydd bwriadedig ar gyfer safle segur Heol y Cyw a cholli ased cymunedol. Nid yw Safle Heol y Cyw yn cael ei ddefnyddio gan grwpiau cymunedol ac eglurodd Swyddogion y Cyngor, ar y pwynt hwn, nad oes penderfyniad wedi cael ei wneud ynghylch y defnydd o’r safle yn y dyfodol os bydd y cynnig yn symud yn ei flaen. Mae manylion y cyfarfodydd, gan gynnwys ymatebion yr Awdurdod i faterion a godwyd, wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn yn Atodiad 1A.

5.5 Ymgynghoriad gyda LlywodraethwyrCyfarfu cynrychiolwyr CBS Pen-y-bont ar Ogwr â Chyrff Llywodraethu Ysgol Gynradd Pen-coed ar 13 Ebrill 2016 er mwyn trafod y cynnig. Roedd staff y prif faterion a godwyd yn ymwneud â sŵn ac amhariad a fyddai’n deillio o safle byw. Eglurodd Swyddogion y Cyngor fod yr Awdurdod wedi gwneud hyn o’r blaen gyda llawer o brosiectau eraill. Y peth cyntaf y mae’n ei wneud yw trafod gyda chontractwyr sut y maent yn mynd i reoli’r safle’n ddiogel. Wedyn, lle y mae angen, mae’n gosod cyfyngiadau ar y contractwr o ran amser danfon a symudiadau ar y safle. Mae manylion y cyfarfodydd, gan gynnwys ymatebion yr Awdurdod i faterion a godwyd, wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn yn Atodiad 1B.

5.6 Ymgynghoriad gyda StaffCyfarfu cynrychiolwyr CBS Pen-y-bont ar Ogwr â staff Ysgol Gynradd Pen-coed ar 13 Ebrill 2016 er mwyn trafod y cynnig. Roedd staff yn cwestiynu nifer y disgyblion y mae’r adeilad newydd yn mynd i fod yn darparu ar eu cyfer. Eglurodd Swyddogion y Cyngor y byddai lle yn yr ysgol newydd i 510 o ddisgyblion ac uned feithrin â lle i 70

7

Page 8: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

o ddisgyblion cyfwerth ag amser llawn, 8 lle i ddisgyblion â nam ar eu golwg, 8 lle i fabanod mewn dosbarth arsylwi a 2 ddosbarth â 15 lle i ddisgyblion ag anawsterau dysgu cymedrol, sy’n gyfanswm o 620 – 625. Mae manylion y cyfarfodydd, gan gynnwys ymatebion yr Awdurdod i faterion a godwyd, wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn yn Atodiad 1C.

5.7 Crynodeb o’r arolwg ar-leinDefnyddiodd 4 o bobl yr arolwg ar-lein ac roedd yr ymatebion (gweler Atodiad 1D) fel a ganlyn:

Rwy’n meddwl y dylid ystyried y mater sy’n ymwneud â pharcio, yn enwedig pan fo rhieni’n gollwng ac yn codi eu plant. Nid oes ystyriaeth i’r trigolion yng nghyffiniau’r ysgol.

Cyn yr ymgynghoriad, fe gomisiynodd yr Awdurdod Asesiad Trafnidiaeth manwl er mwyn goleuo’r cynnig – ac fe amlygodd hwn y materion presennol yn yr ysgol o ran tagfeydd a pharcio’n anghyfreithlon ar ymyl y ffordd yn ystod oriau brig penodol. O ganlyniad, er mwyn gwella’r sefyllfa bresennol, byddai’r Awdurdod yn ceisio ymgorffori man codi/gollwng pwrpasol ar gyfer rhieni o fewn ffiniau’r ysgol yn nyluniad yr ysgol newydd.

Rwy’n croesawu’r cyfle i ddisodli nifer o adeiladau hen iawn â sefydliad dysgu tra modern ar gyfer yr 21ain ganrif lle gall y staff barhau i addysgu ein plant i safon uchel iawn. Bydd yr ysgol newydd yn cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf y bydd ei hangen ar y disgyblion i’w cynorthwyo i ddatblygu wrth gael eu haddysg. Rwy’n ddiolchgar am y gwaith sydd wedi cael ei wneud gan y swyddogion, y Cabinet, y Pennaeth a’r staff, a Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau y bydd yr ysgol newydd yn barod yn ystod 2018.

Sylwadau wedi’u nodi. Diolch.

Nid yw’r cynnig fel y saif yn ystyried y ffaith bod ysgol gynradd arall yn ardal Pen-coed, ½ milltir yn unig i ffwrdd. A ddylid ystyried yr ysgol arall ar yr adeg hon i ddarparu ymgynghoriad mwy cynhwysfawr? Bydd y cynnig yn cadw ysgol ar briffordd brysur iawn a chan hynny mae angen i ardal Pen-coed ddarparu diogelwch personol a diogelwch eiddo ar gyfer dwy ardal ar wahân. Byddai uno’r ddwy ysgol gynradd hon yn lleihau’r costau hyn. Mae’r cynnig yn sôn am uno Heol y Cyw a hefyd am greu “cae pob tywydd” ar gyfer gweithgareddau hamdden. Rwy’n awgrymu nad yw’r tir sydd ar gael yn ddigon mawr ar gyfer y ddwy ysgol, oes mae digon o le yn ysgol Heol Croesty i ehangu

Mae’r Awdurdod eisoes wedi cynnal archwiliadau o’r safle, wedi gwneud gwaith dichonoldeb a datblygu dyluniadau ac mae’r safle yn Ysgol Gynradd Pen-coed yn ddigon mawr ar gyfer yr ysgol newydd. Fe wnaeth yr Awdurdod ystyried uno’r tair ysgol ond mae hyn wedi cael ei ddiystyru gan nad oes digon o gyllid i fwrw ymlaen â’r opsiwn hwn gan nad oes digon o dir ar y safle ar gyfer ysgol o’r maint gofynnol.

Mae angen yr ysgol newydd er mwyn ateb gofynion y gymuned yn y dyfodol.

Mae hyn yn gywir.

5.8 Gohebiaeth uniongyrcholCafwyd nifer o eitemau o ohebiaeth uniongyrchol yn ystod y cyfnod ymgynghori ynghylch y cynnig (gweler Atodiad 1E am fanylion llawn). Anfonwyd ymatebion at y

8

Page 9: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

rhai a anfonodd yr eitemau o ohebiaeth yn diolch iddynt am eu sylwadau ac yn datgan y byddai eu sylwadau’n cael eu cymryd i ystyriaeth yn yr adroddiad a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Cabinet.

5.9 I grynhoi, codwyd y materion canlynol (mae ymateb yr Awdurdod mewn inc italig o dan y crynodeb o’r mater):

Rwy’n llwyr gefnogol i’r cynllun i adeiladu ysgol newydd ac yn meddwl ei bod yn hen bryd gwneud hyn. Fodd bynnag, mae gennyf un pryder. I blant bach cynradd sy’n byw ar Bant Hirwaun yn Heol y Cyw bydd y bws yn eu casglu ar un ochr o’r ffordd ac yn eu gollwng ar y llall. Ar hyn o bryd mae Pant Hirwaun yn ffordd â therfyn cyflymder o 40mya heb fannau croesi diogel ar gyfer plant. A allech chi ymchwilio ymhellach i oblygiadau hyn os gwelwch yn dda a chreu mynediad diogel at y bws a safleoedd bysiau dan do ar gyfer y plant.

Fel rhan o’r broses o gludo disgyblion o safle Heol y Cyw i’r ysgol newydd ym Mhen-coed, bydd asesiad risg llawn o ddiogelwch disgyblion yn unol â’r cynnig. Bydd yr ALl yn sicrhau bod asesiad risg llawn a thrylwyr yn cael ei gwblhau i gadarnhau diogelwch mannau croesi ar y B4280, Heol Pant Hirwaun. Byddai’r ALl yn mynd i’r afael ag unrhyw faterion a ganfyddir yn unol â’i gyfrifoldebau statudol, yn enwedig y rhai a nodir yn y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru).

Allwch chi egluro wrthyf os gwelwch yn dda, sut mae’r cyfrifiad ar gyfer nifer y lleoedd yn cael ei fesur? Yn enwedig Ysgol Gynradd Llangrallo – allwch chi ddarparu manylion os gwelwch yn dda? A oes cynlluniau i greu ystafelloedd dosbarth ychwanegol ac ati lle bydd nifer y disgyblion yn fwy na’r lleoedd sydd ar gael? A fydd y dalgylchoedd yn cael eu hymestyn?

Caiff nifer y lleoedd sydd ar gael mewn ysgolion eu cyfrifo gan ddefnyddio’r cyfrifiad Mesur Capasiti Ysgolion yng Nghymru. Caiff y mannau addysgu eu rhannu ag 1.86m2 sy’n rhoi nifer y lleoedd sydd yn yr ysgol. Mae’r Cyngor yn ymwybodol o'r galw am leoedd ar gyfer disgyblion ac mae swyddogion yn agos at gwblhau arfarniad opsiynau ar gyfer ardal Llangrallo; mae’r arfarniad yn cynnwys ystyried y galw presennol a rhagamcanol am leoedd ac argaeledd tir. Bydd y gwerthusiad o’r opsiynau’n cael ei wneud maes o law.

6. Barn Estyn, Arolygydd Ei Mawrhydi ar gyfer Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru

Ymateb Estyn i’r cynnig i wneud newid a reoleiddir i Ysgol Gynradd Pen-coed trwy adleoli’r ysgol, gan gynnwys safle Heol y Cyw, i adeilad ysgol newydd a fydd yn cael ei godi ar safle caeau chwarae Ysgol Gynradd Pen-coed o 1 Ebrill 2018.

Mae’r adroddiad hwn wedi cael ei baratoi gan Arolygwyr Ei Mawrhydi ar gyfer Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Dan amodau Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a’i chod cysylltiedig, mae’n ofynnol i gynigwyr anfon dogfennau ymgynghori i Estyn. Fodd bynnag, nid yw Estyn yn gorff y mae’n ofynnol iddo weithredu yn unol â’r Cod ac nid yw’r Ddeddf yn gosod unrhyw ofynion statudol ar Estyn o ran materion trefniadaeth ysgolion. Felly, fel corff yr ymgynghorir ag ef, bydd Estyn yn darparu ei farn ar rinweddau cyffredinol cynigion trefniadaeth ysgolion.

9

Page 10: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

Mae Estyn wedi ystyried yr agweddau addysgol ar y cynnig ac wedi llunio’r ymateb canlynol i’r wybodaeth a ddarparwyd gan y cynigydd a gwybodaeth ychwanegol arall megis data gan Lywodraeth Cymru a barn y Consortiwm Rhanbarthol sy’n darparu gwasanaethau gwella ysgolion ar gyfer yr ysgolion yn y cynnig.

CyflwyniadMae’r cynnig yn un gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.Cynnig i wneud newid a reoleiddir i Ysgol Gynradd Pen-coed, trwy adleoli’r ysgol, gan gynnwys campws Heol y Cyw, i safle caeau chwarae Ysgol Gynradd Pen-coed ar Heol Penprysg, Pen-coed o 1 Ebrill 2018.

CrynodebMae’r cynnig yn rhan o fframwaith diwygiedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer trefniadaeth ysgolion yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r fframwaith yn cynnwys pum egwyddor allweddol, sy’n goleuo’r broses o drefnu a moderneiddio ysgolion. Mae’r rhain yn cynnwys ymrwymiad i safonau uchel a rhagoriaeth yn y ddarpariaeth; cyfle cyfartal fel bod disgyblion yn gallu cael mynediad at gyfleoedd dysgu o ansawdd, ni waeth pa ysgol y maent yn ei mynychu; ysgolion cynhwysol, sy’n darparu ar gyfer profiadau dysgu’r holl ddisgyblion; ac ysgolion bro, lle mae’r ysgol yn ymgysylltu’n weithredol â’i chymuned leol; a gwerth am arian.

Barn Estyn yw bod y cynnig yn debygol o gynnal y safonau addysg yn yr ardal o leiaf.

Disgrifiad a manteisionMae’r awdurdod lleol wedi rhoi rhesymeg glir dros y manteision disgwyliedig arfaethedig o’i gymharu â’r sefyllfa fel ag y mae mewn perthynas â chyllid, y galw yn y dyfodol am leoedd ar gyfer disgyblion yn yr ardal, yr effaith ar y gymuned leol, ac ansawdd y ddarpariaeth a’r amgylchedd dysgu. Mae’r cynigydd hefyd yn egluro sut y mae’r cynnig yn cyd-fynd â chynllun ehangach yr awdurdod lleol ar gyfer trefniadaeth ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r cynnig yn diffinio manteision disgwyliedig y cynnig ac mae’r rhain yn cysylltu’n dda â’r diben a rhesymeg a ddatganwyd. Mae’r awdurdod lleol wedi darparu tystiolaeth ddigonol i ddangos bod y cynllun yn debygol o gynnal safon yr addysg yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr o leiaf.

Mae’r cynnig yn nodi’n briodol beth yw manteision y cynnig sy’n cynnwys galluogi holl ddisgyblion a staff Ysgol Gynradd Pen-coed i fod wedi’u lleoli ar un safle mewn cyfleuster newydd sbon, arbedion o ganlyniad i beidio â gwario ar waith atgyweirio a chynnal a chadw i adeiladau ysgol sy’n heneiddio, cynnwys darpariaeth gymunedol yn yr ysgol newydd a darparu amgylchedd dysgu gwell ar gyfer disgyblion.

Mae’r cynigydd wedi ystyried yn briodol beth yw anfanteision y cynnig presennol, sy’n canolbwyntio ar effaith fyrdymor colli’r caeau chwarae tra bydd yr ysgol newydd yn cael ei hadeiladu.

Mae’r cynigydd wedi ystyried yn addas beth fydd effaith y cynnig ar drefniadau teithio gan ddysgwyr. Mae’n bwriadu cefnogi trefniadau teithio rhwng y cartref a’r ysgol yn unol â pholisi cludiant y Cyngor. Mae’n cydnabod hefyd y gallai’r cynnig

10

Page 11: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

arwain at ychydig bach o deithio ar gyfer disgyblion sy’n mynychu safle Heol y Cyw ar hyn o bryd, ond ni fyddai hyn yn fwy na’r hyn a nodir yn y canllawiau ar gyfer teithio gan ddysgwyr.

Mae’r cynigydd wedi dangos yn briodol sut y dylai’r cynnig ateb y galw am leoedd ar gyfer disgyblion yn yr ardal yn y dyfodol trwy ddarparu niferoedd disgyblion rhagamcanol am y pum mlynedd nesaf.

Gan mai Ysgol Gynradd Gymunedol Cyfrwng Saesneg yw Ysgol Gynradd Pen-coed, bydd yn parhau i addysgu Cymraeg fel ail iaith ar y safle newydd arfaethedig. Felly ni fyddai unrhyw effaith ar y Gymraeg o ganlyniad i’r cynnig hwn.

Mae’r cynigydd wedi ystyried yn briodol beth fydd effaith y cynigion ar ansawdd y canlyniadau, y ddarpariaeth ac arweinyddiaeth a rheolaeth yn Ysgol Gynradd Pen-coed. Mae’r cynigydd wedi ystyried canlyniadau’r adroddiad arolygu diweddaraf gan Estyn a chategori’r ysgol mewn perthynas â’r System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion o ran ansawdd yr arweinyddiaeth a deilliannau’r disgyblion.

Mae’r cynigydd yn credu’n rhesymol y byd y cynnig yn cael effaith gadarnhaol ar ansawdd y deilliannau a’r ddarpariaeth addysg yn yr ardal.

Mae’r cynigydd wedi ystyried yn briodol beth fydd effaith debygol y cynigion ar safonau, llesiant a darparu’r cwricwlwm. Ni fyddai’r cynnig yn effeithio’n anffafriol ar y safonau a’r ddarpariaeth ar hyn o bryd yn Ysgol Gynradd Pen-coed. Mae hwn yn honiad rhesymol.

Mae’r cynigydd wedi cynnal asesiad priodol o’r effaith ar gydraddoldeb, sy’n ystyried effaith y cynnig ar grwpiau agored i niwed gan gynnwys y rhai ag anabledd.

7. Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb

7.1 Mae Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi cael ei gwblhau fel rhan o’r cam ymgynghori ac mae wedi cael ei oleuo ymhellach gan ymatebion i’r papurau ymgynghori. Mae’r asesiad wedi dod i’r casgliad nad oes unrhyw effaith negyddol ar ddyletswyddau’r Cyngor tuag at grwpiau gwarchodedig. (Atodiad 2).

7.2 Mae Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg wedi cael ei gwblhau fel rhan o’r ymgynghoriad (Atodiad 3).

7.3 Mae Asesiad o’r Effaith ar y Gymuned wedi cael ei gwblhau fel rhan o’r ymgynghoriad (Atodiad 4).

8. Goblygiadau Ariannol

8.1 Bydd cost yr ysgol newydd yn cael ei thalu â chyllid o Raglen Ysgolion yr 21 ain Ganrif Llywodraeth Cymru y mae’r Awdurdod wedi cael ‘cymeradwyaeth mewn egwyddor’ iddo ac sydd wedi’i gynnwys yn rhaglen gyfalaf y Cyngor a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Mawrth 2016. £8.8m yw cyfanswm y gyllideb a gymeradwywyd ar gyfer y Cynllun. Byddai angen mynd trwy’r gweithdrefnau angenrheidiol o ran cyflwyno achos busnes yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru yn ystod y camau datblygu a dylunio adeiladau.

11

Page 12: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

8.2 Nid yw’r cynllun yn gysylltiedig ag unrhyw gynnig ar gyfer y gyllideb yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

8.3 Bydd disgyblion yn cael cludiant am ddim i’r ysgol newydd yn unol â pholisi Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol. Ar hyn o bryd, darperir cludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol yn y Sir ar gyfer pellter cerdded sy’n fwy nag 1.5 milltir ar hyd llwybrau cerdded diogel sydd ar gael. Bydd y gwasanaeth bysiau ysgol i drosglwyddo disgyblion i safle newydd Ysgol Gynradd Pen-coed yn costio tua £40,470 y flwyddyn. Mae’r trefniadau cludiant presennol ar gyfer yr ysgol ar ddau safle’n costio tua £48,070 y flwyddyn. Dim ond tua 2 filltir yw’r pellter rhwng safle Heol y Cyw a’r safle ar gyfer adeilad newydd arfaethedig Ysgol Gynradd Pen-coed.

9. Y broses statudol ar gyfer penderfynu ynghylch y cynigion

9.1 Amserlen dros dro:

Adroddiad i’r Cabinet ar ganlyniadau’r ymgynghoriad (7 Mehefin 2016).

Cyhoeddi’r Adroddiad Ymgynghori ar wefan CBS Pen-y-bont ar Ogwr, gyda chopïau caled o’r adroddiad ar gael ar gais (14 Mehefin 2016).

Os caiff ei gytuno gan Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, bydd Hysbysiad Cyhoeddus yn cael ei gyhoeddi (15 Mehefin 2016) a bydd cyfnod o 28 diwrnod i gyflwyno unrhyw wrthwynebiadau i’r cynnig yn ysgrifenedig.

Diwedd cyfnod yr Hysbysiad Cyhoeddus (2 Awst 2016).

Os na cheir unrhyw wrthwynebiadau gall y Cabinet benderfynu a yw’n bwriadu bwrw ymlaen ai peidio. Os ceir unrhyw wrthwynebiadau, bydd Adroddiad Gwrthwynebiadau yn cael ei anfon i’r Cabinet er mwyn iddo’i ystyried a gwneud penderfyniad a bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi wedyn.

Mae Copïau Caled o’r adroddiad hwn ar gael ar gais oddi wrth:

Ellen Franks d/o Y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a ThrawsnewidY Gyfarwyddiaeth Plant, Y Swyddfeydd DinesigStryd yr Angel Pen-y-bont ar OgwrCF31 4WB

Rhif ffôn: (01656) 642617

Neu drwy’r e-bost o: [email protected]

12

Page 13: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

Atodiad 1

Ysgol Gynradd Pen-coed – Ymgynghoriad gyda’r Cyngor YsgolDydd Iau 21 Ebrill 2016

Yn bresennol:

C L (Rheolwr Prosiect), S F (Swyddog Prosiect),Llysgenhadon: S O, J M,Y Cyngor Ysgol: R W, K P, M A G, T G, B B, T D, T H, J N, S C, M H, C N, F B HYC, J B HYC, L Z HYC, P J HYCYr Eco-bwyllgor: L D, H G

1. Cyflwyniad

1.1 Rhoddwyd trosolwg gan CL a oedd yn egluro’r rhesymau dros gyflawni’r prosiect:

Mae’r ALl yn gyfrifol am gynllunio lleoedd mewn ysgolion a sicrhau bod digon o leoedd ar gyfer yr holl blant yn y Fwrdeistref Sirol. Mae cynnig wedi cael ei gyflwyno i sicrhau bod digon o fynediad at ysgolion yn ardal Pen-coed trwy adeiladu ysgol newydd sbon ar gaeau presennol Ysgol Gynradd Pen-coed. Bydd yr ysgol newydd arfaethedig hon yn derbyn plant Heol y Cyw yn ogystal â’r rhai sydd ar safleoedd presennol Pen-coed.

Diben yr ymgynghoriad anffurfiol hwn yw cael barn disgyblion. Croesewir pob barn hyd at 9 Mai 2016. Os penderfynir bwrw ymlaen â’r cynnig yna bydd Hysbysiad Cyhoeddus yn cael ei gyhoeddi a rhoddir amser i’r cyhoedd wrthwynebu.

Rhoddwyd trosolwg o’r cynnig a chafodd y manteision/anfanteision eu rhestru fel yn yr adroddiad ymgynghori a ddarparwyd ar gyfer yr holl ddisgyblion a staff a oedd yn bresennol:

Manteision Posibl

Gwella safonau a lles Gwella ansawdd addysg Arbed costau i’r awdurdod

Anfanteision Posibl

× Efallai na fydd rhieni am i’r plant llai deithio ar fws× Efallai y bydd rhieni am i blant fynychu safle llai yn hytrach nag Ysgol

Gynradd newydd Pen-coed.

2. Barn a chwestiynau a ddarparwyd gan y disgyblion2.1

2.2

2.3

Dywedodd SO ei bod yn teimlo ei fod yn syniad da cael ysgol newydd am fod materion Iechyd a Diogelwch yn yr ysgol bresennol e.e. craciau yn adeilad Blwyddyn 6 a lleithder.

Faint fydd yn ei gostio?Mae cwmpas costau o oddeutu £9 miliwn; fodd bynnag gallai pethau gael eu darganfod pan fydd archwiliadau o’r safle’n cael eu gwneud a allai gynyddu cost y prosiect.

SO-Erbyn pryd fydd yr ysgol yn cael ei chwblhau?Mae gwaith adeiladu i fod i gael ei gwblhau ym mis Ionawr 2018. Mae’r ysgol i fod yn

13

Page 14: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

2.4

2.5

2.6

2.7

2.8

2.9

2.10

2.11

2.12

2.13

2.14

2.15

2.16

weithredol erbyn mis Ebrill 2018.

SC- Beth fydd yn digwydd i’r hen ysgol?Os datgenir nad oes angen y tir mwyach yna bydd Grŵp Eiddo Corfforaethol yr ALl yn penderfynu a yw’n mynd i gael ei ailddefnyddio ynteu ei werthu i’r farchnad agored.

TD- Ydych chi’n symud ystafelloedd dosbarth blwyddyn 5?Bydd y brif fynedfa i’r safle newydd arfaethedig yn yr un rhan ag ystafelloedd presennol Blwyddyn 5 a bydd yr adeilad tuag at ardal goediog y caeau chwarae, yr ardal sydd bellaf oddi wrth y llinell reilffordd.

JM- Faint o ddosbarthiadau fydd ym mhob grŵp blwyddyn ac a fydd mwy o athrawon?Bydd yr un faint o leoedd ar gyfer disgyblion (510 o ddisgyblion a’r uned feithrin). Corff llywodraethu a Phennaeth yr ysgol sydd i benderfynu ar nifer y dosbarthiadau a’r athrawon.

JN- A fydd yr ysgol newydd yn adeilad deulawr?Fe allai fod, neu’n adeilad ag 1 ½ llawr gan fod y tir ar ogwydd. Bydd hyn yn cael ei benderfynu wrth i’r prosiect fynd rhagddo.

KP- A fydd lle ar y cae ar gyfer Addysg Gorfforol?Bydd ardaloedd glaswelltog ond cae pob tywydd fydd y brif ardal. Mantais hyn yw ei fod, yn wahanol i gaeau glaswellt, yn gallu cael ei orddefnyddio ym mhob tywydd.

MAG- A fydd lle parcio i rieni?Nid ydym wedi cyrraedd y cam dylunio terfynol eto ond y bwriad yw y bydd y brif ffordd yn y rhan lle mae’r ffreutur ac ystafelloedd dosbarth blwyddyn 5 ar hyn o bryd. Bydd ardal codi/gollwng fawr ar gyfer rhieni gyda system traffig un ffordd, y cwbl wedi’u cynnwys o fewn ffiniau’r ysgol. Rhannodd CL gynllun cychwynnol o’r maes parcio. Ar hyn o bryd mae llawer o strydoedd ochr heb lwybrau cerdded diogel. Bydd gwelliannau’n cael eu gwneud i’r palmentydd hyn er mwyn gwella mynediad ar gyfer cerddwyr ar yr un pryd â’r cynllun i adeiladu’r ysgol.

TD- Sut fydd bysiau a cherbydau nwyddau’n cyrraedd at yr ysgol newydd?Byddant yn cael mynediad at yr ysgol trwy’r fynedfa newydd.

TH- Beth fydd yn digwydd i’r gampfa?Bydd yr adeilad newydd yn cynnwys neuadd fawr a neuadd lai a bydd un ohonynt yn cael ei defnyddio ar gyfer addysg gorfforol.

BB- A yw trenau’n mynd i darfu ar wersi?Nac ydynt gan fod yr adeilad ym mhen arall y cae, yn y rhan sydd bellaf i ffwrdd o’r llinell reilffordd a bydd yn bellach na’r adeiladau presennol. Bydd y cae pob tywydd ar bwys y llinell reilffordd. Hefyd, mae’r rheilffordd yn y broses o gael ei thrydaneiddio, a fydd yn lleihau’r sŵn.

Sawl ffreutur fydd?Un. Bydd un ffreutur yn llai ar y cyfan nag sydd ar hyn o bryd – am fod safleoedd Heol y Cyw a Phen-coed yn dod at ei gilydd ond bod y ffreutur newydd yn fwy o ran maint.

JB- Pa ystafelloedd fydd yn hygyrch i ddisgyblion?Y pennaeth fydd yn penderfynu ynghylch hyn.

SO- A oes bwriad i osod lifft yn yr ysgol newydd?Oes

A fydd y caeau ar agor i’r cyhoedd?

14

Page 15: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

2.17

2.18

2.19

2.20

2.21

2.22

Na, bydd ffens ddiogelwch o amgylch y safle felly ni fydd y cyhoedd yn gallu cael mynediad at y safle

Sut fydd plant Heol y Cyw yn teithio i’r ysgol?Bydd unrhyw un o Heol y Cyw yn cael cludiant am ddim os oes angen am nad oes llwybr cerdded diogel. Efallai y bydd rhai rhieni’n dewis dod â’u plant i’r ysgol yn y car.

A fydd bws ar wahân gan Ysgol Gyfun Pen-coed?Nid yw tîm y prosiect yn gyfrifol am gontractau cludiant ond rhagwelir y bydd bysiau ar wahân yn cael eu darparu oherwydd gwahaniaeth oedran y disgyblion. Hefyd, oherwydd eu hoedran, efallai y bydd ar rai plant angen hebryngwyr.

JN-A fydd y gwaith adeiladu’n tarfu ar drigolion lleol sy’n byw’n agos at y safle?Pan fydd cwmnïau adeiladu’n cynnig am y contract i adeiladu’r ysgol newydd, bydd gan yr ALl feini prawf y bydd yn rhaid i gwmnïau eu bodloni gan gynnwys ‘contractwyr ystyriol’ ac mae hyn yn cynnwys bod yn ystyriol o gymdogion, cyfyngu ar oriau gwaith a lleihau sŵn a.y.b.

HG- Pa syniadau ar gyfer arbed ynni fydd gan yr ysgol?Fel ALl rydym yn gweithio tuag at sgôr “Rhagorol” BREEAM (Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu) sy’n ddull i sicrhau rhagoriaeth amgylcheddol o ran adnoddau adeiladu. Mae’n profi bod yr adeilad yn eco-gyfeillgar ac yn gwneud yn siŵr nad yw ynni’n cael ei wastraffu e.e. sut y bydd yr adeilad yn cael ei inswleiddio a dulliau adfer dŵr.

LD- A fydd gardd i dyfu cnydau?Bydd yr ardal goediog ar y safle’n cael ei chadw ac fe allai honno gael ei defnyddio fel gardd o bosibl. Penderfyniad i’r ysgol fydd hynny.

TG-Ble fydd disgyblion blwyddyn 5 yn mynd pan fydd gwaith yn cael ei wneud i floc Blwyddyn 5?Bydd gwaith yn cael ei wneud mewn camau lle y bo’n bosibl a bydd disgyblion yn cael eu symud i ystafelloedd eraill – felly byddant yn cael eu dadleoli am gyn lleied o amser â phosibl.

3 Pleidlais ar y Cynnig3.1

3.2

Gofynnodd CL am bleidlais i gael gweld a oedd y disgyblion yn teimlo bod y cynnig yn syniad da ynteu gwael ar y cyfan.Roedd pob un o’r 19 disgybl a oedd yn bresennol yn cytuno ei fod yn syniad da.

Dywedodd CL, os oedd gan unrhyw un gwestiynau ar ôl yr ymgynghoriad hwn, y gellir cwblhau’r ffurflen ymgynghori ond mai 9 Mai 2016 oedd y dyddiad cau ar gyfer cwestiynau a sylwadau.

15

Page 16: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

Atodiad 1A

Ymgynghoriad gyda Rhieni a Phartïon sydd â Buddiant

Ysgol Gynradd Pen-coed – Ymgynghoriad ar y cynnig i adleoli Ysgol Gynradd Pen-coed i safle’r caeau chwarae

Cyfarfod gyda rhieni - 13 Ebrill 2016

Yn bresennol: Pennaeth Strategaeth, Partneriaeth a ChomisiynuRheolwr y Rhaglen Ysgolion Pennaeth, Ysgol Gynradd Pen-coed

1) Pa drefniadau parcio fydd yn bodoli? A fydd bws Heol y Cyw yn mynd ar y safle?

Mae mannau parcio pwrpasol ar gyfer staff/ymwelwyr yn cael eu dylunio ar gyfer y safle. Bydd man gollwng/codi ar gyfer rhieni o fewn y safle. Bydd yr ardal yn cael ei dylunio hefyd fel bod y bws yn gallu gollwng a chodi disgyblion o fewn tir yr ysgol. Mae’r ffordd y tu allan i’r ysgol yn brysur iawn ac mae’r dyluniad wedi cael ei oleuo gan swyddogion Priffyrdd sy’n pryderu ynghylch tagfeydd ar y ffordd.

2) Beth am ddefnydd y tu allan i oriau arferol?

Penderfyniad rheoli yw’r modd y caiff yr ysgol ei defnyddio y tu hwnt i’r diwrnod ysgol, a bydd y penderfyniad yn cael ei wneud gan y Corff Llywodraethu. Rydym am i’r ysgol fod yn rhan o’r gymuned. Bydd unrhyw ddefnydd yn cael ei reoli’n ofalus. Rydym yn rhagweld y bydd y defnydd y tu allan i oriau arferol yn cael ei reoli ar gyfer defnydd gan y disgyblion. Yn sicr nid ydym yn amcanu at osod yr adeilad ar brydles.

3) Beth yw defnydd cymunedol?

Bydd yr ysgol yn cael ei dylunio mewn modd sy’n rhoi anogaeth ar gyfer dysgu fel teulu ac ymgysylltu â theuluoedd. Bydd cegin fach ar bwys y neuadd a allai gael ei defnyddio i gynorthwyo gyda hyn. Byddai’r defnydd o’r ysgol yn cael ei benderfynu ar sail yr hyn sydd o fudd i’r plant a byddai’n cael ei reoli’n ofalus.

4) A fyddai’r disgyblion yn dal i fod â mynediad at yr adeiladau ar yr ochr arall yn ystod y gwaith adeiladu?

Os yw disgyblion yn gallu defnyddio’r ochr arall yn ystod gwaith adeiladu bydd angen inni sicrhau bod hyn yn cael ei wneud yn ddiogel. Mae diogelwch disgyblion o’r pwys mwyaf. Os na ellir sicrhau hyn am ryw reswm, yna mae angen inni wneud y defnydd gorau o’r adeiladau presennol yn yr ysgol. Heb os, bydd y gwaith adeiladu’n tarfu; byddwn yn ymgysylltu â’r gymuned ac yn eu hysbysu’n gyson trwy gydol y broses adeiladu.

5) Beth yw’r graddfeydd amser ar gyfer adeiladu?

Bydd yr adeilad yn agor ym mis Ebrill 2018. Rydym yn canlyn arni â’r cynllun fel bod gwaith adeiladu’n gallu dechrau ym mis Ionawr 17.

16

Page 17: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

Ymgynghoriad i adleoli Ysgol Gynradd Pen-coed i safle Caeau Chwarae Ysgol Gynradd Pen-coed Ymgynghoriad gyda rhieni a’r gymuned ar Gampws Heol y Cyw – 14 Ebrill 2016Yn bresennol: Rheolwr Grŵp, Strategaeth a Pherfformiad Busnes

Rheolwr y Rhaglen Ysgolion Pennaeth, Ysgol Gynradd Pen-coed

• Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y cyfleuster hwn? Mae’n gwneud synnwyr ei ddefnyddio ar gyfer lleoliad uwch, crèche/meithrinfa. Mae’r adeilad yn cael ei gynnal a’i gadw’n dda .

Nid oes penderfyniad wedi cael ei wneud eto ynghylch dyfodol y safle hwn.

• Ni fydd ein plant ni’n elwa o ysgol newydd erbyn yr amser y bydd yr ysgol newydd yn agor gan y byddant yn yr ysgol uwchradd. Byddant mewn adeiladau dros dro.

Nid adleoli dros dro yw’r cynnig. Byddai’n adleoliad parhaol i safle’r caeau chwarae. Byddai’r caeau chwarae’n cael eu colli yn ystod y broses adeiladu ond byddai’r awdurdod yn gweithio gyda’r ysgol i ganfod datrysiad dros dro nes bod yr ysgol newydd ar agor a’r cyfleusterau ar gael. Ni fyddai disgyblion a fyddai’n trosglwyddo i’r ysgol uwchradd yn 2018 yn cael budd o’r adeilad newydd, mwy na thebyg; fodd bynnag, byddem yn ymgysylltu â’r holl blant i sicrhau eu bod yn dal i deimlo’n rhan o’r broses. Mae gennym hanes gwych o ddarparu ysgolion ar amser ac o fewn y gyllideb.

• Pam na ellir dal i ddefnyddio’r adeilad hwn? Byddai o fudd i’r gymuned. Mae neuadd lesiant ond dim ond un ystafell sydd ynddi ac os yw honno wedi’i chadw ar gyfer rhywun yna nid oes unrhyw le arall i’r gymuned ei ddefnyddio.

Nid oes penderfyniad wedi cael ei wneud am yr adeilad arbennig hwn eto ond rydym yn cydnabod eich sylwadau.

• Mae’n bwysig inni ddeall beth yw’r defnydd arfaethedig ar gyfer y safle hwn yn y dyfodol. A oes gwerth wedi cael ei roi arno?

Mae cyllideb wedi’i phennu ar gyfer pob cynllun. Mae’n rhaid i’r Cyngor ddarparu 50% o’r cyllid ar gyfer y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion ar y cyfan ac fel arfer mae safleoedd ysgol gwag yn cael eu gwaredu i ariannu’r cyfraniad hwn. Mae’n bwysig bod gan y gymuned lais; fodd bynnag, nid yw dyfodol y safle hwn yn rhan o’r cynnig yr ydym yn ymgynghori yn ei gylch heddiw. Bydd hyn yn cael ei bennu rywbryd arall.

• Mae’r adeilad hwn yn ased i’r gymuned; byddai fel colli rhan o’r gymuned. Gallem fod â chlybiau. Mae plant ar eu colled heb glybiau. Gallai rhai rhieni gael budd o glybiau ar ôl ysgol. Byddai’n anodd cludo plant adref o’r ysgol newydd os ydynt yn aros ar gyfer clybiau ar ôl ysgol. Mae disgyblion cynradd yn teithio gyda disgyblion uwchradd ac nid yw hynny’n iawn. Mae parcio’n broblem ym Mhen-coed hefyd.

Byddai trefniadau gollwng pwrpasol ar y safle newydd. Mae’r rhain wedi’u cynnwys yn nyluniad y cynllun er mwyn sicrhau diogelwch priffyrdd.

• Mae’r safle ym Mhen-coed yn cefnu ar reilffordd. Ydych chi wedi meddwl am y sŵn?

Bydd angen cynnal arolwg i ganfod effaith debygol sŵn a phenderfynu ar ffordd ymlaen.

• Mae plant yn dechrau ysgol pan ydynt yn 3 oed. Beth yw’r rheolau ynglŷn â chludiant i’r ysgol?

Y gofyniad yw bod y Cyngor yn cludo disgyblion o oedran ysgol statudol; fodd bynnag, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn mynd y tu hwnt i hyn ac yn cynnig cludiant am ddim i ddisgyblion meithrin yn ogystal â’r disgyblion o oedran ysgol statudol. Bydd angen ystyried darpariaeth cludiant ar gyfer

17

Page 18: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

disgyblion meithrin o ran y niferoedd i sicrhau diogelwch plant; byddwn yn cynnal adolygiad o’r trefniadau presennol ac yn bwrw golwg ar rai gofynion penodol e.e. clustogau hybu. Efallai y bydd rhai disgyblion a rhieni’n ei gael yn frawychus. Bydd yn rhaid inni fwrw golwg ar amseroedd bysiau mewn perthynas â chlybiau brecwast a dechrau’r diwrnod ysgol.

• Mae problem ddifrifol ym Mhant Hirwaun o ran cyflymder a maint cerbydau yn y man hwnnw.

Bydd angen adolygu ac asesu risgiau’r mannau codi; bydd angen cerdded ar hyd y llwybr i’r mannau codi hynny i sicrhau eu bod yn ddiogel.

• Cafodd plentyn ei daro gan gerbyd ym Mhant Hirwaun.

Mae diogelwch priffyrdd a diogelwch plant o’r pwys mwyaf.

• Sut allen ni wneud i Heol y Cyw aros ar agor? Nid yw’r ysgol newydd i’w gweld yn ddigon mawr.

Mae’r awdurdod yn cyfrifo amcanestyniadau yn seiliedig ar ffactorau sy’n cynnwys genedigaethau a datblygiadau tai. Rydym hefyd yn edrych yn ôl. Rydym yn hyderus bod nifer y lleoedd yn yr ysgol newydd yn ddigonol.

• Beth yw maint y dosbarthiadau?

Mae 2 ddosbarth o 30 ym mhob grŵp blwyddyn

• Faint o staff fyddai yn y dosbarthiadau?

Byddai gan y Cyfnod Sylfaen gymhareb o 1:8Byddai gan Flwyddyn 1 a 2 gymhareb o 1:15Byddai gan Gyfnod Allweddol 2 gymhareb o 1:30 lle nad oes gofyniad am staff ychwanegol.

• Rwy’n pryderu y bydd fy mhlentyn yn diflannu mewn dosbarthiadau mwy.

Mae safon addysg yr holl blant yn eithriadol o bwysig. Mae dau safle’r ysgol yn wahanol iawn; nid yw’r un safle’n well nac yn waeth o gwbl na’r llall. Maent yn syml yn wahanol. Mae’n rhaid i’r holl blant gyrraedd eu potensial ac mae’r plant yn cyflawni’n dda. Mae llawer o bethau y gallwn ni eu gwneud i gefnogi plant.

• Byddai’n dda pe gallem weld lluniau sy’n dangos sut y byddai’r ysgol newydd yn edrych. Rydych yn colli cyfle i ddangos i’r gymuned sut y byddai’r ysgol newydd yn edrych.

Pe bai’r cynnig yn mynd yn ei flaen, yna byddai’r dyluniad yn cael ei rannu gyda’r partïon â buddiant.

• Sut mae cyfleu ein barn am ddyfodol y safle hwn?

Bydd y Cabinet yn ystyried y safbwyntiau a fynegir gan y bydd yn gweld cofnodion y cyfarfod hwn a hefyd yn cymeradwyo adroddiad ymgynghori drafft a fydd yn cofnodi’r safbwyntiau. Gallwch hefyd gysylltu â’ch aelod lleol i fynegi eich pryderon. Gallwch anfon neges e-bost neu ysgrifennu at y Cyngor gyda’ch barn. Mae dyfodol yr adeilad yn wahanol i’r cynnig yr ydym yn ymgynghori yn ei gylch.

• Ydych chi’n gwrthwynebu colli’r safle ynteu colli’r ysgol?

Rwy’n deall yr angen i ddiweddaru (yr ysgol) ond pe gallem gadw’r adeilad byddai’n fwy cadarnhaol. Mae staff yma’n gweithio’n galed; mae’n yn cadw’r hunaniaeth ond i lawr yn y fan honno (ym Mhen-coed) nid oes sefydlogrwydd o ran yr athrawon. Mae’r athrawon yn newid, ac mae hynny’n broblem.

18

Page 19: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

Os oes gennych bryderon ynghylch y trefniadau staffio yna gallwch siarad gyda mi (Pennaeth).

• Beth am Ysgol Gyfun Pen-coed?

Mae cynllun Ysgol Gynradd Pen-coed yn rhan o Fand A o’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion. Mae Band B yn dod ar-lein o 2019. Efallai y bydd angen i’r awdurdod lleol wneud cyfraniad i’r band hwnnw ond ar hyn o bryd ni wyddom beth fydd y cyfraniad hwnnw. Rydym yn cynnal adolygiad strategol ledled y fwrdeistref sirol a fydd yn cynnwys darpariaeth ôl 16. Mae rhai ysgolion cyfun yn llawnach na’i gilydd, ac nid yw rhai ysgolion cynradd wedi’u lleoli yn y lle iawn. Mae gan Ysgol Gyfun Pen-coed rai lleoedd gwag ond rhagwelir y bydd yn tyfu’n gyson dros y 10-15 mlynedd nesaf. Bydd atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw’n bwysig iawn o ran helpu i lunio bandiau’r rhaglen yn y dyfodol; fodd bynnag, ni allwn achub y blaen ar ganlyniad yr adolygiad.

• Mae’r hyn sydd gennym yma’n gweithio’n berffaith. Gallai’r blynyddoedd cynnar ddod yma a gallai’r plant o 8-9 i fyny gael eu hintegreiddio i mewn i Ysgol Gynradd Pen-coed. Bydd yr hyn sydd wedi digwydd yng Nghoety yn digwydd yma. Rydym am i bethau aros fel y maen nhw yn awr.

Sylw wedi’i nodi.

• O ba ardaloedd mae disgyblion yr ysgol yn dod ar hyn o bryd?

Mae 23 allan o’r 55 sy’n mynychu’r ysgol yn teithio i’r campws hwn.

• Nid oedd dewis ganddynt yn y mater, oherwydd diffyg lle ym Mhen-coed.

Sylw wedi’i nodi.

• Allwn ni ddisgwyl gweld tai â 3 neu 4 ystafell wely’n cael eu hadeiladu ar y safle hwn yn 2018?

Nid oes cynlluniau ar gyfer y safle hwn ar hyn o bryd.

• A yw safle Pen-coed ar werth? Dydw i ddim wedi gweld unrhyw beth ar y wefan.

Dydyn ni ddim yn ymwybodol o unrhyw waith i farchnata’r tir. Efallai fod hysbysiad wedi cael ei gyhoeddi ynghylch parthu tir ar gyfer y CDLl; fodd bynnag, rwy’n ansicr.

• A oes modd ymchwilio i’r mater sy’n ymwneud â’r cerbydau ym Mhant Hirwaun os gwelwch yn dda? Mae cerbydau mawr o South Wales Wood Recycling sy’n defnyddio’r ffordd honno’n achosi pryder difrifol. A ellid gosod arwydd yn eu hatal rhag defnyddio’r ffordd ar adeg cludo plant i ac o’r ysgol.

Byddwn yn codi eich pryderon gyda’n Hadran Priffyrdd ac yn gofyn iddynt ymchwilio i’r mater hwn, gan ei fod yn achosi pryder.

19

Page 20: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

Atodiad 1B

Ymgynghoriad gyda Llywodraethwyr

Yn bresennol: N E, Pennaeth Strategaeth, Partneriaethau a ChomisiynuAlison Gwyther, Uwch Ymgynghorydd, Adnoddau DynolG T, Rheolwr y Rhaglen YsgolionS S, PennaethJ M, Cadeirydd y Llywodraethwyr8 aelod o’r corff llywodraethu

Cyflwynodd Nicola Echanis y sesiwn ymgynghori, fe nododd ddiben y cyfarfod, natur a phroses yr ymgynghoriad ac fe amlinellodd y cynnig.

Cwestiynau/Materion Ateb/SylwadauAllwch chi ymhelaethu ar y ffigwr is ar gyfer teithio fel a nodir yn y ddogfen ymgynghori?

Bydd unigolion sydd ar safle Heol y Cyw ar hyn o bryd a byddant yn cael eu cludo gyda’r trefniant yn y dyfodol. Mae llai o ddisgyblion i’w cludo yn y cyfeiriad hwn nag yn y cyfeiriad arall.

Mae gennym rieni i blant sy’n byw ym Mhen-coed ac sy’n cael eu cludo i Heol y Cyw a dyna sut y mae’n gostwng ar y cyfan.

Ymateb y Pennaeth – ro’n i’n meddwl mai dim ond cwpl oedd ar hyn o bryd.

Cytunodd GT i ofyn i’r adran cludiant rhwng y cartref a’r ysgol sut y cafodd y ffigwr. Bydd yr ateb yn cael ei gynnwys yng nghanlyniad yr adroddiad ymgynghori ar gyfer y Cabinet.

Fe gewch chi fod llawer o blant Pen-coed yn cael eu cludo mewn tacsi i Heol y Cyw ac mae’n ddrud.

Mae’r prosiect yn gyffrous ac rydym wedi bod yn disgwyl yn hir amdano.

O ran danfon deunyddiau i’r safle a rhedeg yr ysgol ar yr un pryd, sut fydd hynny’n gweithio?

Mae’n ddarn cymhleth o waith, cadarnhau sut y bydd y safle’n gweithio. Bydd traffig ychwanegol a cherbydau ychwanegol yn parcio oddi ar y briffordd. Bu llawer o ddyluniadau ar gyfer tu blaen yr ysgol a’r fynedfa iddi. Mae’r cynllun yn un ar gyfer system unffordd ar dir yr ysgol gyda 70 o fannau parcio ar gyfer staff. Yn

20

Cyfarfod Ymgynghori ynghylch Ysgol Gynradd Pen-coed gyda’r

Corff Llywodraethu Dydd Mercher 13 Ebrill 2016

Page 21: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

y tymor byrrach bydd cerbydau mawr yn danfon deunyddiau. Rydym wedi gwneud hyn o’r blaen gyda phrosiectau eraill. Y peth cyntaf yr ydym yn ei wneud yw siarad gyda chontractwyr i drafod sut y maent yn mynd i reoli’r safle’n ddiogel.

Rydym yn gosod cyfyngiadau ar y contractwr o ran amseroedd danfon a symudiad ar y safle, e.e. rydym yn dweud dim nwyddau i gael eu danfon rhwng 8.30am a 9.30am. Roedd yn gynllun cymhleth ym Mhen-y-fai gyda mynediad ar hyd trac sengl. Roedd arolygwr a rheolwr gât ar gyfer y cynllun ac roeddent yn rheoli mynediad diogel i ysgolion ar gyfer y disgyblion.

Byddwn yn torri trwy ardal y ffreutur ac yn lledu’r fynedfa i’r safle.

Fyddwn ni’n colli’r ffreutur yn gyntaf? Byddwch. Mae cyfarfod eisoes wedi cael ei gynnal gyda’r pennaeth, rheolwr y prosiect a’r gwasanaeth arlwyo i drafod a yw’r offer cegin presennol yn gallu ymdopi â phrydau ychwanegol.

Ymateb y Pennaeth – rydym wedi ystyried yr offer ac mae’n addas ar gyfer nifer y prydau y bydd yn rhaid iddo’u darparu.

Efallai y bydd yn rhaid i’r neuadd iau gael ei defnyddio ar bwyta cinio hefyd.

Mwy na thebyg, bydd eitemau mawr yn cael eu danfon yn gynnar neu’n hwyr gyda’r nos. Wedyn bydd sŵn i’r tai lleol.

Bydd sŵn a tharfu’n digwydd yn barhaus.

Rwy’n tybio i chi gael problem debyg gyda Phen-y-fai, sef dim ond un ffordd i mewn ac allan?

Rydym yn cydweithio’n agos gyda chontractwyr. Rydym yn defnyddio fframwaith SEWSCAP ac mae gennym gontractwyr sydd wedi arfer gweithio gyda’r gymuned.

A oes cyfarfod ymgynghori ar gyfer trigolion lleol?

Oes, rydym yn cwrdd â hwy’n nes ymlaen. Pan fydd y dyluniadau’n gyflawn byddwn yn cwrdd â’r gymuned.

Fyddwn ni’n trafod y dyluniad drafft? Mae’r dyluniad yn dal i gael ei gwblhau. Mae’r cynllun yno fwy neu lai. Mae gogwydd o 10 metr ar draws y safle ac rydym yn ceisio penderfynu ar y graddiant a’r lefelau ar draws y safle.

21

Page 22: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

Mae arnom angen i’r cyllid gael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru er mwyn dechrau ar y cynllun adeiladu.

Yr allwedd i gynllun llwyddiannus yw ymgysylltu â’r gymuned.

O ran y raddfa amser, dydyn ni ddim yn sôn am 5 – 7 mlynedd, ond yn hytrach graddfa amser o 18 mis?

Cywir.

Os byddwn yn cael gwrthwynebiadau gan drigolion lleol a fyddai hynny’n effeithio ar raddfeydd amser?

Os bydd y Cabinet yn penderfynu cyhoeddi hysbysiad cyhoeddus bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ar 28 Gorffennaf 2016, ar y canlyniad, a bydd yn rhaid i’r Cabinet ystyried unrhyw wrthwynebiadau a phenderfynu a ydynt yn dymuno gweithredu’r cynnig.

Gallai gwrthwynebiadau cynllunio achosi oedi gyda’r broses.

Bydd caniatâd cynllunio mewn perthynas â’r safle hwn.

Bydd.

Mae tudalen ar y we ynghylch caniatâd cynllunio ar safle presennol yr ysgol.

Pwy roddodd y dudalen ar y we?

Mae ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’n rhaid i’r Cyngor dalu 50% o’r costau.

Na, mae cais cynllunio. Mae arnom angen yr arian o werthu safle presennol yr ysgol i fynd tuag at ariannu’r gwaith o adeiladu’r ysgol newydd.

Nid oes unrhyw beth yn digwydd gyda safle presennol yr ysgol nes bod yr ysgol newydd yn agor.

Bydd rhai ysgolion yn adeiladau rhestredig?

Na, nid yw unrhyw un o’n hysgolion yn adeiladau rhestredig.

Mae a wnelo’n fwy â phensaernïaeth. Mae’n ddrwg gen i, mae gennym un ysgol sy’n adeilad rhestredig ac ni all y pennaeth drefnu i gael gwneud unrhyw beth oherwydd cyfyngiadau.

Un cwestiwn am yr opsiynau y sonioch chi amdanynt, mae’r ysgol yn cael ei hadeiladu fel y gellir ei hehangu. Ai dyluniad modwlar ydyw?

Ie, yn debyg i Ysgol Coety, ysgol ag 1 ffrwd ac uned feithrin.

22

Page 23: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

Beth yw uchafswm disgwyliedig y lleoedd yn yr ysgol newydd?

Mae’r amcanestyniadau ar gyfer yr ysgol yn dynodi 510 o leoedd safonol ac rydym yn hyderus bod yr ysgol yn ddigon mawr. Mae llawer o botensial i ddatblygu yn yr ardal.

Rydym hefyd yn ymwybodol bod yr ysgol hon ac Ysgol Croesty yn dda iawn a’u bod felly’n ysgolion poblogaidd iawn.

Mae potensial ar gyfer datblygu Ysgol Gyfun Pen-coed ac Ysgol Croesty yn y dyfodol o bosibl ac rydym yn gweithio ar arfarniad opsiynau ar gyfer yr ardal hon.

Roeddwn i mewn Cyfarfod Partneriaeth ychydig wythnosau’n ôl lle dywedon nhw eu bod yn dymuno annog perthnasoedd rhwng ysgolion. Fe ddywedoch chi y bydd lle i 510 o ddisgyblion. Faint o blant sydd yn yr ysgol yn awr?

Mae lle i 628 o ddisgyblion yn yr ysgol ac ar hyn o bryd mae 570 o ddisgyblion ar y gofrestr. Nid ydym yn cael adeiladu ysgol â gormod o leoedd ychwanegol.

Bydd mwy o dai’n cael eu codi yn yr ardal hon. Rydych yn anelu at ddarparu 628 o leoedd. Faint o le fydd yn yr ysgol os bydd y galw hwnnw’n cynyddu eto?

Rydym yn bwriadu adeiladu’r ysgol gyda lle i 510 o ddisgyblion ac uned feithrin â lle i 70 o ddisgyblion cyfwerth ag amser llawn, 8 lle i ddisgyblion â nam ar eu golwg, 8 lle mewn dosbarth arsylwi i fabanod a 2 ddosbarth â 15 lle i ddisgyblion ag anawsterau dysgu cymedrol.

Bydd 2 neuadd yn yr ysgol, h.y. neuadd a hanner sy’n addas ar gyfer ysgol â 2.5 ffrwd. Bydd 17 o fannau dysgu prif ffrwd ac fe ellid ychwanegu 1 neu o bosibl 2 ddosbarth arall. Byddai’n rhaid inni ystyried maint y meysydd chwarae - 10,000 m² o laswellt a maint y cae pob tywydd a chymhwyso’r gyfradd honno i’r niferoedd yn yr ysgol fel a nodir yn Rheoliadau Adeiladau Ysgol 1999. Caiff amcanestyniadau disgyblion eu nodi yn y ddogfen ymgynghori. Ar ôl 2021 nid yw ein hamcanestyniadau’n ddibynadwy gan ein bod yn ansicr ynghylch cyfraddau genedigaethau a.y.b.

Adeilad safonedig fydd adeilad yr ysgol? Ydych chi wedi cyhoeddi tendr ar ei gyfer?

Nac ydym. Byddem yn mynd â’r corff llywodraethu i weld ysgolion safonedig eraill, h.y. Caerau, Pen-y-fai i weld y podiau, stryd, cynteddau a.y.b.Ysgol â 2 lawr fydd yr ysgol newydd.

O ran y caeau chwarae, a yw cae pob tywydd yn addas ar gyfer rygbi, pêl-droed a.y.b.?

Mae’n addas ar gyfer pêl-droed a rygbi tag, ond nid rygbi go iawn.

23

Page 24: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

Byddwn yn gwneud mwy o chwaraeon nag yr ydym wedi gallu ei wneud hyd yma.

Mae llawer o ysgolion yn defnyddio’u cae pob tywydd yn ystod amser chwarae hefyd.

A fydd campfa a neuadd? Bydd dwy neuadd ar gyfer bwyta, gwasanaethau ac Addysg Gorfforol. Bydd gennych neuadd a neuadd lai.

Ymateb y Pennaeth – yn wreiddiol roedd gennym rai pryderon ynghylch ardal y neuadd ac fe aethom i weld Ysgol Gynradd Coety. Mae’n ardal y gellir ei defnyddio’n dda.

Pryderon ynghylch parcio. Rydym yn profi anawsterau gyda pharcio yn awr ac mae preswylwyr yn gwrthwynebu pan fyddwn yn parcio y tu allan i’w tai. A fydd maes parcio i gontractwyr yn ystod y 18 mis o waith adeiladu?

Mae’r contractwyr yn parcio ar y safle fel arfer; byddant yn adeiladu eu lle caeëdig eu hunain ar gyfer parcio ceir.

Ni fydd rhai o ddisgyblion Blwyddyn 6 byth yn cael unrhyw fudd o’r ysgol.

Na fyddant, mae hynny’n wir yn anffodus ond mae angen iddynt deimlo’u bod yn rhan o’r broses, hyd yn oed os na fyddant yn mynychu’r ysgol.

A fydd llif traffig o amgylch safle’r ysgol? Bydd, a system un ffordd fydd hi. Bydd mesurau gostegu traffig.

Mae angen i GT wirio a fydd croesfan pâl ar y ffordd y tu allan i’r ysgol.

A fydd cyswllt di-wifr ar y safle? Bydd, ar draws y safle gan gynnwys y tu allan.

Sut mae hynny’n cael ei froceru o safbwynt y goblygiadau o ran costau a’r manteision?

Mae hyn yn digwydd trwy dîm y prosiect. Fe gawson nhw gyfarfod yr wythnos hon ynghylch costau’r prosiect. Fel rheol byddem yn cynnal sgwrs yn y pen draw. Mae mecanwaith yn bodoli a bydd yn cael ei uwchgyfeirio i Fwrdd y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion ar gyfer penderfyniad.

Rydym wedi cael trafodaeth ynghylch y cyfleusterau cymunedol yn yr ysgol.

Ymateb y Pennaeth – i mi mae’n bwysig bod yr ysgol newydd hon yn gwasanaethu’r plant a’r gymuned leol.

Mae’r awdurdod lleol wedi adeiladu llawer o ysgolion newydd dros y blynyddoedd. Mae tîm o bobl yn bodoli ac maent yn ymwybodol o’r hyn y mae angen ei wneud.

24

Page 25: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

Fel llywodraethwyr, byddem yn gwerthfawrogi cyfnod trosglwyddo cyflym o ran symud o un safle i’r llall gan felly gynnal y safonau.

Daeth y cyfarfod i ben am 6.45 pm.

25

Page 26: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

Atodiad 1C

Ymgynghoriad gyda Staff

Yn bresennol: Pennaeth Strategaeth, Partneriaethau a ChomisiynuUwch Ymgynghorydd, Adnoddau DynolRheolwr y Rhaglen YsgolionY Pennaeth22 aelod o staff

Cyflwynodd Nicola Echanis y sesiwn ymgynghori, fe nododd ddiben y cyfarfod, natur a phroses yr ymgynghoriad ac fe amlinellodd y cynnig.

Cwestiynau/Materion Ateb/SylwadauLle i faint o ddisgyblion fydd yn yr adeilad newydd?

Byddai lle yn yr ysgol arfaethedig i 510 o ddisgyblion ac uned feithrin â lle i 70 o ddisgyblion cyfwerth ag amser llawn, 8 lle i ddisgyblion â nam ar eu golwg, 8 lle i fabanod mewn dosbarth arsylwi a 2 ddosbarth â 15 lle i ddisgyblion ag anawsterau dysgu cymedrol, sy’n gyfanswm o 620 – 625.

Mae gennym amcanestyniadau ar gyfer yr ysgol hyd at 2021 a’r lefel uchaf yw 581 o ddisgyblion. Hyd y gwyddom bydd yr ysgol yn ddigon mawr. Dyma’r ysgol fwyaf y gallwn ni ei hadeiladu ar y tir sydd gennym.

Os yw’r ysgol yn mynd i gael ei hadeiladu yn ardal y caeau a fydd honno’n ardal na ellir mynd iddi?

Ar hyn o bryd mae rhai ystafelloedd dosbarth yno; mae’n dibynnu pa mor ddiogel y gallwn wneud y safle yn ystod y gwaith adeiladu. Oni bai ein bod yn gallu cyflawni’r prosiect yn ddiogel, yna bydd yn rhaid inni ystyried ystafelloedd dros dro ar brif safle’r ysgol.

Felly fyddwn ni ddim yn cadw’r gampfa? Na fyddwn.

A fydd cyfleusterau chwaraeon, e.e. cae 3G ar gyfer y gymuned?

Bydd cae pob tywydd a fydd yn 5,000 m² sy’n cyfateb i 10,000 m² o laswellt.

Os bydd y cynnig hwn yn mynd yn ei flaen, fel grŵp o staff byddwn yn ymgysylltu â chi ynghylch y dyluniad a byddwn yn gweithio gyda’r grŵp fel bod ganddynt ddealltwriaeth well ynghylch sut y gallai edrych.

26

Cyfarfod Ymgynghori ynghylch Ysgol Gynradd Pen-coed gyda’r

Staff Dydd Mercher 13 Ebrill 2016

Page 27: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

Byddwch yn cael mewnbwn i’r broses o ddylunio’r ysgol.

Mae’r rhan fwyaf o’r staff wedi ymweld â Phen-y-fai i weld dyluniad safonedig. Penderfyniad i’r grŵp staffio yw sut y caiff y stryd ei dodrefnu a’i defnyddio.

Sut fydd y gampfa’n cael ei defnyddio? Ym Mhen-y-fai mae neuadd amlbwrpas, sy’n ystafell fwyta, man cynnal gwasanaethau a champfa. Bydd dwy neuadd y gallwch eu huno neu eu gwahanu.

Ymateb y Pennaeth – Fe aeth Steve a minnau i Ysgol Coety a gallwch ddechrau cael ymdeimlad â maint ardal y neuadd. Roedd rhai cyfyngiadau o ran lle i storio offer Addysg Gorfforol a ble y bydd hwnnw. Yn y bôn mae’n ardal dda iawn.

Cafodd yr ardal yn Ysgol Coety ei dylunio gan ddylunwyr allanol. O ran storio, yn allanol ac yn fewnol, byddwn yn gwneud yn siŵr bod darpariaeth.

A oes mynedfa arall i ardal y cae? Mae dwy fynedfa, sef y brif fynedfa a mynedfa arall o’r cefn, trwy barc.

Sut fydd ceir yn mynd i mewn i’r safle newydd?

Bydd y fynedfa’n cael ei hailddylunio. Bydd y tu blaen i gyd yn edrych yn wahanol. Bydd mannau parcio ar gyfer staff ar y safle a man gollwng disgyblion i rieni.

Bydd arfarniad opsiynau helaeth yn cael ei ystyried er mwyn cynyddu i’r eithaf y cyfleusterau parcio ceir ar y safle a sicrhau nad oes angen parcio ar y briffordd. Rydym yn ystyried system un ffordd o amgylch y safle.

Ymateb y Pennaeth – o ran mannau parcio ar gyfer staff rydym yn ystyried 70 o fannau parcio ceir. Mae pethau y mae angen eu hystyried o hyd gydag unrhyw adeilad newydd. Bydd materion a phethau y bydd angen inni fod yn greadigol gyda hwy. Mae’r hyn y mae plant yn mynd i’w gael yn anhygoel.

A fydd Llyfrgell ac ardal TG? Na fydd. Bydd yr ardal a ganiateir ar gyfer y darpariaethau hyn yn rhan o ardal y ‘stryd’. Gan fod y modd y cyflwynir TGCh wedi newid, nid yw ystafelloedd TGCh yn ddefnydd da o ystafelloedd. Yr hyn y byddwn yn ei wneud yw

27

Page 28: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

sicrhau bod gennym ddodrefn sy’n addas ar gyfer creu ardal lyfrgell yn y stryd.

Ardal awyr agored a lle chwarae meddal ar gyfer y plant llai; a fydd darpariaeth ar gyfer hynny?

Dangosir ardal chwarae meddal yn y lluniad ar gyfer yr unedau meithrin a derbyn.

A fydd unrhyw offer sefydlog? Na fydd.

Beth am le storio? Bydd, mi fydd lle storio.

A fydd y dosbarthiadau ADY yn cael eu lleoli gyda’i gilydd?

Ymateb y Pennaeth:- drafftiau cynnar yw’r cynlluniau ar hyn o bryd. Mae’r cam hwn yn rhan o’r ymgynghoriad. Rwyf wedi cael drafft o safon uchel iawn ac mae llawer o hyblygrwydd o ran ble y caiff y dosbarthiadau hynny eu lleoli. Bydd unrhyw benderfyniad yn cael ei rannu gyda staff.

Daeth y cyfarfod i ben am 4.20 pm.

28

Page 29: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

Atodiad 1D

Arolwg Ar-lein

29

Page 30: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

30

Page 31: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

Atodiad 2Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb

Asesiad Llawn o’r Effaith ar GydraddoldebEnw’r prosiect, polisi, swyddogaeth, gwasanaeth neu gynnig a asesir

Cynnig i wneud newid a reoleiddir i Ysgol Gynradd Pen-coed, trwy adleoli’r ysgol, gan gynnwys campws Heol y Cyw, i adeilad ysgol newydd ar safle caeau chwarae Ysgol Gynradd Pen-coed ar Heol Penprysg, Pen-coed o 1 Ebrill 2018

Dyddiad cwblhau’r asesiad 25/05/2016

Cwblhawyd proses sgrinio gychwynnol ar gyfer Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ym mis Chwefror 2016Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus llawn rhwng 23 Mawrth 2016 a 9 Mai 2016 yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion statudol.

Ar y cam hwn budd angen ichi ailedrych ar eich templed sgrinio cychwynnol i oleuo eich trafodaethau ar yr ymgynghoriad a chyfeirio at y nodiadau cyfarwyddyd ar gwblhau Asesiad llawn o’r Effaith ar Gydraddoldeb

1. YmgynghoriadPwyntiau Gweithredu

Pwy yw’r rhai y mae angen inni ymgynghori â hwy (pa grwpiau cydraddoldeb)?

Ym mhob un o’r grwpiau â nodweddion gwarchodedig bydd angen i’r Cyngor ymgynghori â’r partïon hynny a nodir yn adran 3.2 o God Trefniadaeth Ysgolion 2013

Dylai’r offer a mecanweithiau ymgynghori a ddefnyddir gynnwys: Cyfarfodydd Ffocws, Cyfarfodydd Cyhoeddus, dogfen ymgynghori a holiadur cysylltiedig, cyhoeddi’r holl wybodaeth ar wefan y Cyngor.

Sut fyddwch chi’n sicrhau bod eich ymgynghoriad yn gynhwysol?

Mae’r Awdurdod Lleol yn ymwybodol bod angen defnyddio ystod mor eang â phosibl o weithgareddau ac offer ymgynghori ac ymgysylltu er mwyn cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl o ymgyngoreion. Mae’n rhaid ymgynghori ac ymgysylltu cymaint â phosibl fel bod barn a phryderon y cyhoedd yn cael eu “clywed a’u hystyried” gan y Cyngor.Bydd dulliau ymgynghori’n cynnwys (lle y bo’n briodol) deunyddiau dwyieithog (Cymraeg / Saesneg),

1

Page 32: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

gwybodaeth wedi’i pharatoi mewn ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg, ac, os gofynnir, dogfennau mewn print bras, fersiynau hawdd i’w darllen o wybodaeth, darparu gwybodaeth sain a byddant yn cynnwys cymysgedd o ddogfennau ar ffurf copïau caled a darparu ffurflenni a gwybodaeth ar-lein. Mae’r Cyngor yn cydnabod bod ymrwymiad i ymweld â’r cyhoedd ac ymgyngoreion eraill yn eu lleoliadau / cymunedau eu hunain ar adegau sy’n gyfleus iddynt hwy yn allweddol i strategaeth ymgynghori ac ymgysylltu’r Cyngor.

Pa weithgarwch ymgynghori a wnaed?Rhowch ystyriaeth i unrhyw weithgarwch ymgynghori a gwblhawyd yn barod, nad oedd yn ymwneud yn benodol â chydraddoldeb o bosibl ond sydd o bosibl yn cynnwys gwybodaeth y gallwch ei defnyddio

Cynhaliwyd ymgynghoriad llawn â’r cyhoedd rhwng 23 Mawrth 2016 a 9 Mai 2016.

Cafodd cyfarfodydd ymgynghori eu cynnal ac mae eu manylion i’w gweld yn yr adran ganlynol.

Cofnod o ymgynghori â phobl o grwpiau cydraddoldebGrŵp neu bobl yr ymgynghorwyd â hwy

Dyddiad, lleoliad Adborth, pryderon a godwyd

Pwyntiau Gweithredu

Cyfarfod cyffredinol gyda’r cyngor ysgol

21 Ebrill 2016Ysgol Gynradd Pen-coedRoedd cynrychiolwyr y cyngor ysgol yn bresennol.

Gwnaed sylwadau cyffredinol ac ni chyfeiriwyd yn benodol ar unrhyw beth a oedd yn ymwneud â grwpiau cydraddoldeb

Amherthnasol

Cyfarfod cyffredinol gyda llywodraethwyr yr ysgol

13 Ebrill 2016Ysgol Gynradd Pen-coedRoedd cynrychiolwyr corff llywodraethu’r ysgol yn bresennol.

Gwnaed sylwadau cyffredinol ac ni chyfeiriwyd yn benodol ar unrhyw beth a oedd yn ymwneud â grwpiau cydraddoldeb

Amherthnasol

2

Page 33: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

Cyfarfod cyffredinol gyda staff yr ysgol

13 Ebrill 2016Ysgol Gynradd Pen-coedRoedd cynrychiolwyr staff yr ysgol yn bresennol.

Gwnaed sylwadau cyffredinol ac ni chyfeiriwyd yn benodol ar unrhyw beth a oedd yn ymwneud â grwpiau cydraddoldeb

Amherthnasol

Cyfarfod cyffredinol gyda rhieni a phartïon â buddiant

Roedd rhieni a phartïon â buddiant yn bresennol.Ysgol Gynradd Pen-coed: Safle Heol y Cyw (14 Ebrill 2016)Safle Heol Penprysg (13 Ebrill 2016)

Gwnaed sylwadau cyffredinol ac ni chyfeiriwyd yn benodol ar unrhyw beth a oedd yn ymwneud â grwpiau cydraddoldeb

Amherthnasol

2. Asesiad o’r EffaithYn seiliedig ar y data yr ydych wedi’i ddadansoddi, a chanlyniadau gweithgarwch ymgynghori neu ymchwil, dylech ystyried beth fydd yr effaith bosibl ar bobl â nodweddion gwarchodedig (boed yn negyddol neu’n gadarnhaol). Os byddwch yn canfod unrhyw effaith anffafriol mae’n rhaid ichi wneud y canlynol:

a) Cysylltu â’r Tîm Cydraddoldebau a all geisio cyngor cyfreithiol i ganfod, yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddarparwyd, a yw effaith anffafriol yn wahaniaethol neu a allai fod yn wahaniaethol, ab) Adnabod camau i liniaru unrhyw effaith anffafriol – bydd angen cynnwys y camau gweithredu hyn yn eich cynllun gweithredu.

Mae’n annhebygol y bydd unrhyw effaith negyddol uniongyrchol ar unrhyw grŵp gwarchodedig. Mae’r cynnig yn ymwneud â symud adeiladau ysgol yn ffisegol i leoliad newydd. Bydd yr ysgol newydd yn cydymffurfio’n llawn â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ac felly bydd yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer pobl anabl i gefnogi’r holl ddysgwyr, staff ac ymwelwyr anabl. Ystyrir felly bod hyn yn effaith gadarnhaol a fydd yn sicrhau bod gan yr holl ddysgwyr, gan gynnwys y rhai ag anableddau, fynediad at amgylchedd dysgu sy’n diwallu eu hanghenion.

Rhywedd Effaith wirioneddol neu effaith bosibl

Camau lliniaru

Ewch ati i adnabod yr effaith wirioneddol/effaith bosibl ar fenywod a dynion.

Dim effaith yn cael ei rhagweld gan mai cynnig i adleoli adeiladau presennol yr ysgol i safle newydd yw hwn.

Dim camau lliniaru’n cael eu rhagweld

Anabledd Effaith wirioneddol neu effaith bosibl

Camau lliniaru

Ewch ati i adnabod yr effaith wirioneddol/effaith bosibl ar bobl anabl (sicrhewch eich bod yn ystyried ystod o namau, e.e. namau corfforol, synhwyraidd, anableddau

Disgwylir y bydd hygyrchedd y ddarpariaeth yn cael ei wella’n sylweddol yn dilyn symud i’r ysgol newydd ar y safle presennol ar Heol Penprysg gan y

Dim camau lliniaru’n cael eu rhagweld

3

Page 34: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

dysgu, afiechyd hirdymor). byddai’r ysgol yn cydymffurfio’n llawn â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ac y bydd felly’n cynnwys cyfleusterau i bobl anabl i gefnogi’r holl ddysgwyr, staff ac ymwelwyr anabl. Ystyrir felly bod hyn yn effaith gadarnhaol.

Hil Effaith wirioneddol neu effaith bosibl

Camau lliniaru

Ewch ati i adnabod effaith wirioneddol/effaith bosibl y gwasanaeth ar Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig.

Dim effaith yn cael ei rhagweld gan mai cynnig i adleoli adeiladau presennol yr ysgol i safle newydd yw hwn.

Dim camau lliniaru’n cael eu rhagweld

Crefydd neu gred Effaith wirioneddol neu effaith bosibl

Camau lliniaru

Ewch ati i adnabod effaith wirioneddol/effaith bosibl y gwasanaeth ar bobl o wahanol grwpiau crefyddol a ffydd.

Dim effaith yn cael ei rhagweld gan mai cynnig i adleoli adeiladau presennol yr ysgol i safle newydd yw hwn.

Dim camau lliniaru’n cael eu rhagweld

Cyfeiriadedd Rhywiol Effaith wirioneddol neu effaith bosibl

Camau lliniaru

Ewch ati i adnabod effaith wirioneddol/effaith bosibl y gwasanaeth ar bobl hoyw, lesbiaidd a deurywiol.

Dim effaith yn cael ei rhagweld gan mai cynnig i adleoli adeiladau presennol yr ysgol i safle newydd yw hwn.

Dim camau lliniaru’n cael eu rhagweld

Oedran Effaith wirioneddol neu effaith bosibl

Camau lliniaru

Ewch ati i adnabod effaith wirioneddol/effaith bosibl y gwasanaeth ar bobl hŷn a phobl iau.

Bydd mwy o effaith ar blant yn yr ysgol o ystyried bod a wnelo’r cynnig hwn ag adleoli rhai o adeiladau Ysgol Gynradd Pen-coed. Serch hynny, bydd y cynnig yn sicrhau bod gan yr holl ddysgwyr, gan gynnwys y rhai ag anableddau, fynediad at amgylchedd dysgu sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif i ddiwallu eu hanghenion.

Sicrhau ynghylch manteision cadarnhaol y datblygiad.

Beichiogrwydd a Mamolaeth

Effaith wirioneddol neu effaith bosibl

Camau lliniaru

Dim effaith yn cael ei rhagweld

Dim camau lliniaru’n cael eu rhagweld

Statws Trawsrywiol Effaith wirioneddol neu Camau lliniaru

4

Page 35: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

effaith bosibl Dim effaith yn cael ei rhagweld

Priodas a Phartneriaeth Sifil

Effaith wirioneddol neu effaith bosibl Dim effaith yn cael ei rhagweld

Camau lliniaru

Mae’n hanfodol eich bod yn mynd ati yn awr i gwblhau’r cynllun gweithredu. Unwaith y bydd eich cynllun gweithredu wedi’i gwblhau, sicrhewch fod y camau gweithredu’n cael eu prif ffrydio yn y Cynllun Datblygu Gwasanaeth Thematig perthnasol.

3. Cynllun GweithreduCam Gweithredu

Arweinydd Targed ar gyfer Cwblhau

Adnoddau y mae eu hangen

Cynllun Datblygu Gwasanaeth ar gyfer y cam gweithredu hwn

Sicrhau ynghylch y manteision cadarnhaol y bydd y datblygiad yn eu dwyn i ddisgyblion/ rhieni.

Y Pennaeth Yn barhaus nes dyddiad agor arfaethedig yr ysgol yn 2018

Cyfranogiad disgyblion a’r gymuned

Cyfathrebu gyda’r ysgol.

Nodwch enw’r person annibynnol (rhywun heblaw am y sawl sy’n cwblhau’r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb) sy’n cydlofnodi’r Asesiad hwn o’r Effaith ar Gydraddoldeb isod:

Nicola Echanis (Pennaeth Strategaeth, Partneriaethau a Chomisiynu)

Nodwch sut a phryd y bydd yr Asesiad hwn o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn cael ei fonitro yn y dyfodol a phryd fydd adolygiad yn cael ei gynnal:Bydd yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn cael ei fonitro trwy raglen ysgolion yr 21ain Ganrif ac yn benodol trwy’r prosiect i ddatblygu’r ysgol, h.y. trwy Fwrdd Prosiect Ysgol Gynradd Pen-coed a fydd yn adolygu’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac yn sicrhau bod prosesau monitro a rheolaethau digonol yn eu lle.

Llofnod: R J DaviesDyddiad: 25/05/2016

4. Cyhoeddi eich canlyniadau a’ch adborth i grwpiau yr ymgynghorwyd â hwyMae’n bwysig bod canlyniadau’r asesiad hwn o’r effaith yn cael eu cyhoeddi mewn fformat hawdd i’w ddarllen. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn adrodd yn ôl wrth y grwpiau yr ymgynghoroch chi â hwy i’w hysbysu ynghylch y camau gweithredu yr ydych yn eu cymryd i fynd i’r afael â’u pryderon ac i liniaru unrhyw effaith anffafriol bosibl. Ar ôl ei chwblhau, anfonwch ffurflen yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb at y Tîm Cydraddoldebau

5

Page 36: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

Atodiad 3Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg

Ysgol Gynradd Pen-coed

Diweddarwyd ar ôl yr ymgynghoriad

Cynnig i wneud newid a reoleiddir i Ysgol Gynradd Pen-coed trwy adleoli’r ysgol, gan gynnwys campws Heol y Cyw, i ysgol newydd a fydd yn cael ei hadeiladu ar safle caeau chwarae Ysgol Gynradd Pen-coed, gan greu ysgol â lle i 510 o ddisgyblion ac uned feithrin â lle i 70 o ddisgyblion cyfwerth ag amser llawn, 8 lle i ddisgyblion â nam ar eu golwg, 8 lle i fabanod mewn dosbarth arsylwi a 2 ddosbarth â 15 lle i ddisgyblion ag anawsterau dysgu cymedrol o 1 Ebrill 2018.

Gan y byddai’r ysgol gynradd Saesneg y cynigir ei hadleoli’n parhau ‘fel ag y mae’ ond mewn lleoliad gwahanol, ystyrir na fyddai unrhyw effaith arwyddocaol ar y ddarpariaeth Gymraeg a brofir gan ddisgyblion yn yr ysgol ar hyn o bryd. Byddai Cymraeg yn dal i gael ei haddysgu trwy’r cwricwlwm.

Bydd yr awdurdod yn cydymffurfio â’i bolisi iaith Gymraeg trwy wneud yn siŵr bod yr holl arwyddion a ddefnyddir ar safleoedd yr ysgol yn ddwyieithog.

Rheolwr y Rhaglen Ysgolion4 Mawrth 2016

6

Page 37: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

Atodiad 4

Asesiad o’r Effaith ar y GymunedDiweddarwyd ar ôl yr ymgynghoriad

Enw’r cynnig:

Cynnig i wneud newid a reoleiddir i Ysgol Gynradd Pen-coed trwy adleoli’r ysgol, gan gynnwys campws Heol y Cyw, i ysgol newydd a fydd yn cael ei hadeiladu ar safle caeau chwarae Ysgol Gynradd Pen-coed, gan greu ysgol â lle i 510 o ddisgyblion ac uned feithrin â lle i 70 o ddisgyblion cyfwerth ag amser llawn, 8 lle i ddisgyblion â nam ar eu golwg, 8 lle i fabanod mewn dosbarth arsylwi a 2 ddosbarth â 15 lle i ddisgyblion ag anawsterau dysgu cymedrol o 1 Ebrill 2018.

Pwy fydd yn gwneud y penderfyniad? :

Y Cabinet

Pwy sydd wedi bod yn rhan o ddatblygu’r cynnig? :

Y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a ThrawsnewidPennaeth Strategaeth, Partneriaethau a Chomisiynu – Addysg a ThrawsnewidRheolwr Prosiect – Gwasanaethau Eiddo

Nodau ac Amcanion:

Cynnig i wneud newid a reoleiddir i Ysgol Gynradd Pen-coed trwy adleoli’r ysgol, gan gynnwys campws Heol y Cyw, i ysgol newydd a fydd yn cael ei hadeiladu ar safle caeau chwarae Ysgol Gynradd Pen-coed, gan greu ysgol â lle i 510 o ddisgyblion ac uned feithrin â lle i 70 o ddisgyblion cyfwerth ag amser llawn, 8 lle i ddisgyblion â nam ar eu golwg, 8 lle i fabanod mewn dosbarth arsylwi a 2 ddosbarth â 15 lle i ddisgyblion ag anawsterau dysgu cymedrol o 1 Ebrill 2018.

Bydd hyn yn galluogi disgyblion Ysgol Gynradd Pen-coed sydd wedi’u lleoli mewn tri safle ar wahân ar hyn o bryd i ddod at ei gilydd mewn un ysgol.

Camau gweithredu allweddol:

Gweithdrefn statudol i wneud newid a reoleiddir i Ysgol Gynradd Pen-coed.

Canlyniadau a ddisgwylir: Bydd Ysgol Gynradd Pen-coed yn symud i Ysgol Gynradd newydd Pen-coed a fydd yn cael ei hadeiladu ar safle presennol caeau chwarae Ysgol Gynradd Pen-coed, gan ddarparu 510 o leoedd ac uned feithrin â lle i 70 o ddisgyblion cyfwerth ag amser llawn, 8 lle i ddisgyblion â nam ar eu golwg, 8 lle i fabanod mewn dosbarth arsylwi a 2 ddosbarth â 15 lle i ddisgyblion ag anawsterau dysgu cymedrol o 1 Ebrill 2018.

Ar bwy fydd hyn yn effeithio: Staff, llywodraethwyr, disgyblion, rhieni a’r gymuned

Ar oddeutu faint o bobl fydd hyn yn effeithio: gallai effeithio ar fwy na 1000 o bobl

7

Page 38: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

Dyddiad y disgwylir penderfyniad: Gorffennaf 2016.

Cwmpas/ffocws yr asesiad: Rhoddwyd ystyriaeth i’r canlynol defnydd presennol o’r ysgolion gan y gymuned; hygyrchedd i ddisgyblion, staff, rhieni a’r gymuned; effaith symud ysgol gynradd effaith ar adeilad yr ysgol effaith ar y gymuned estynedig

Data a/neu waith ymchwil perthnasol: Defnydd o adeiladau ysgolion y tu allan i oriau arferol Adroddiad gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn 2006 a oedd yn dwyn y teitl

‘Strategaeth, Egwyddorion, Fframwaith Polisi a Chynllunio’ sy’n goleuo’r dull ar gyfer mynd i’r afael â’r blaenoriaethau strategol yn y Fwrdeistref Sirol a’r ddogfen ‘Ddogfen Egwyddorion’ a gyhoeddwyd wedyn yn 2015

Amcanestyniadau disgyblion, nifer y lleoedd, cyflwr adeiladau

Canfyddiadau:Defnydd gan y Gymuned:

Mae Ysgol Gynradd Pen-coed (gan gynnwys safle Heol y Cyw) yn gweithredu ‘clybiau brecwast’ ar gyfer disgyblion. Fodd bynnag, nid yw’r naill adeilad na’r llall yn cael ei ddefnyddio y tu allan i oriau arferol gan fudiadau a sefydliadau lleol nac ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned. Nid oes defnydd cymunedol o gaeau chwarae Ysgol Gynradd Pen-coed (y safle arfaethedig).

Polisi Cynradd: Mae’r cynnig hwn yn gyson â’r egwyddorion addysg a bennwyd gan y Cyngor yn

2006 a’i bolisi mewn perthynas â darpariaeth – ‘Cymunedau Dysgu – Ysgolion y Dyfodol’ a’r ‘Ddogfen Egwyddorion’ a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2015

Amcanestyniadau disgyblion, nifer y lleoedd, cyflwr adeiladau: Mae’r amcanestyniadau disgyblion sy’n effeithio ar ysgolion cynradd yng nghlwstwr

Pen-coed (sy’n cynnwys Ysgol Gynradd Coety, Ysgol Gynradd Llangrallo, Ysgol Gynradd Croesty ac Ysgol Gyfun Pen-coed) yn dangos bod y boblogaeth disgyblion yn cynyddu ar gyfer rhai ardaloedd yn y clwstwr.

Caiff cyflyrau’r adeiladau presennol eu nodi isod:- Adeiladau Babanod a Phlant Iau Pen-coed – Yn amrywio o Radd B (Boddhaol –

yn perfformio fel y dylent ond yn dangos mân ddirywiad) i Radd C (Gwael – yn dangos diffygion pwysig a/neu ddim yn gweithredu fel a fwriadwyd)

- Heol y Cyw – Gradd B (Boddhaol – yn perfformio fel y dylent ond yn dangos mân ddirywiad)

O ran hygyrchedd, mae adeiladau Pen-coed a Heol y Cyw wedi’u gosod yng nghategori C (Yn anhygyrch i raddau helaeth. Ddim yn cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ond gellid gwneud iddynt gydymffurfio, yn amodol ar waith helaeth.).

Effaith ar y gymuned estynedig

Bydd effaith gadarnhaol o ran cyfleusterau cymunedol modern, hygyrch.

Effaith ar ysgolion eraill

8

Page 39: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

Ystyrir na fydd adleoli’r ysgol gynradd i gaeau chwarae’r ysgol yn cael effaith sylweddol ar ysgolion eraill yn yr ardal.

Gallai newid i leoliad yr ysgol effeithio ar y disgyblion sy’n byw yn Heol y Cyw gan y byddai angen eu cludo ar fws i’r ysgol newydd ym Mhen-coed.

Sut fydd y penderfyniad yn effeithio ar bobl â gwahanol nodweddion gwarchodedig? :

Mae’n debygol y byddai effaith gadarnhaol o ystyried y byddai’r ysgol newydd yn cydymffurfio’n llwyr â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a fyddai’n cefnogi’r holl ddisgyblion, staff, ymwelwyr a.y.b.

YmgynghoriA gynhaliwyd ymgynghoriad penodol ynghylch y penderfyniad hwn (os na, dywedwch pam a/neu pryd y gallai hyn ddigwydd): Ymgynghoriad 23 Mawrth 2016 – 9 Mai 2016.

Beth oedd canlyniadau’r ymgynghoriad? :Mae effaith y cynnig hwn wedi cael ei hystyried a gofynnwyd am ymatebion pellach fel rhan o’r ymgynghoriad, y caiff ei ganlyniad ei gofnodi a’i gyflwyno i’r Cabinet yn yr Adroddiad Ymgynghori. Ceir crynodeb isod o’r prif faterion a godwyd, ynghyd ag ymateb/eglurhad yr Awdurdod mewn inc italig:

Mae’r adeilad hwn yn ased i’r gymuned; byddai fel colli rhan o’r gymuned. Gallem fod â chlybiau. Mae plant ar eu colled heb glybiau. Gallai rhai rhieni gael budd o glybiau ar ôl ysgol…

Mae’r ysgol yn rhedeg ei Chlybiau Ysgol yn ystod y diwrnod ysgol ar hyn o bryd a byddai’n parhau i wneud hynny pe bai’r cynnig yn symud ymlaen. Nid oes unrhyw ddefnydd o’r adeilad gan y gymuned/ar ôl oriau ysgol. O ganlyniad, ni ragwelir unrhyw effaith sylweddol.

Beth am ddefnydd y tu allan i oriau ysgol?

Penderfyniad rheoli yw’r modd y caiff yr ysgol ei defnyddio y tu hwnt i’r diwrnod ysgol, a bydd y penderfyniad yn cael ei wneud gan y Corff Llywodraethu. Rydym am i’r ysgol fod yn rhan o’r gymuned. Bydd unrhyw ddefnydd yn cael ei reoli’n ofalus…

Beth yw defnydd cymunedol?

Bydd yr ysgol yn cael ei dylunio mewn modd sy’n rhoi anogaeth ar gyfer dysgu fel teulu ac ymgysylltu â theuluoedd. Bydd cegin fach ar bwys y neuadd a allai gael ei defnyddio i gynorthwyo gyda hyn. Byddai’r defnydd o’r ysgol yn cael ei benderfynu ar sail yr hyn sydd o fudd i’r plant a byddai’n cael ei reoli’n ofalus.

Ar draws y nodweddion gwarchodedig, pa wahaniaeth barn wnaeth dadansoddiad o’r ymgynghoriad ei ddatgelu?Nid oedd tystiolaeth o effaith wahaniaethol.

Pa gasgliadau ddaethpwyd iddynt o ganlyniad i’r dadansoddiad o’r modd y bydd y penderfyniad yn effeithio ar bobl â gwahanol nodweddion gwarchodedig?

9

Page 40: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

Ni ragwelir unrhyw effaith wahaniaethol.

Asesiad o’r effaith ar staffRhowch fanylion yr effaith ar staff, gan gynnwys y proffil staffio os yw/fel y bo’n briodol:Gallai’r cynnig effeithio ar staff sy’n addysgu a staff nad ydynt yn addysgu. Y corff llywodraethu sydd i benderfynu ynghylch hyn unwaith y bydd yn deall anghenion yr ysgolion unigol a’r gyllideb sydd ar gael iddynt er mwyn pennu’r strwythurau staffio sy’n ofynnol.

Asesiad o’r effaith ar y gymuned ehangachRhowch fanylion unrhyw effeithiau ar y gymuned yn ei chyfanrwydd:Mae potensial ar gyfer rhywfaint o effaith ar deuluoedd gan y bydd lleoliad yr ysgol newydd rhyw 2 filltir yn bellach i ffwrdd o safle presennol Heol y Cyw.

Byddai safle Heol y Cyw yn cau hefyd a chan fod ysgolion yn cael eu hystyried yn asedau cymunedol pwysig, yn enwedig mewn pentrefi bychain, efallai y bydd rhywfaint o gydlyniant cymunedol yn cael ei golli o ganlyniad i adleoli safle Ysgol Heol y Cyw i Ben-coed .

Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd effaith gadarnhaol ar gydlyniant cymunedol hefyd gan y bydd dysgwyr o Heol y Cyw yn cael eu cydleoli yn y brif ysgol fwy ym Mhen-coed.

Dadansoddiad o’r effaith yn ôl nodweddion gwarchodedigCrynhowch ganlyniadau’r dadansoddiad:Ystyrir mai nodweddion oedran ac anabledd yw’r rhai y gallai’r cynnig effeithio arnyntEwch ati i asesu perthnasedd ac effaith y penderfyniad ar gyfer pobl â gwahanol nodweddion Perthnasedd = Uchel/Isel/Dim Effaith = Uchel/Isel/Niwtral

Nodwedd Perthnasedd Effaith

Oedran Uchel Isel

Anabledd Uchel Isel

Ailbennu rhywedd Dim Niwtral

Priodas a phartneriaeth sifil Dim Niwtral

Beichiogrwydd a mamolaeth Dim Niwtral

Hil Dim Niwtral

Crefydd neu gred Dim Niwtral

Rhyw Dim Niwtral

Cyfeiriadedd rhywiol Dim Niwtral

Grwpiau eraill sydd wedi’u hallgau’n gymdeithasol (gan gynnwys anghydraddoldebau iechyd) Dim Niwtral

10

Page 41: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

Lle mae unrhyw effaith negyddol wedi cael ei hadnabod, nodwch y mesurau a roddwyd ar waith i’w lliniaru:Bydd yr Awdurdod yn:

Gweithio gyda chyrff llywodraethu ac ysgolion i’w cynorthwyo i bennu strwythurau staffio.

Annog a chynorthwyo’r ysgolion i barhau i ddarparu defnydd cymunedol o adeilad yr ysgol.

Sicrhau newid esmwyth trwy gydweithio’n agos gyda’r ysgolion. Ceisio cynorthwyo’r ysgol i feithrin perthnasoedd cadarnhaol i leddfu unrhyw bryder

a allai godi ynghylch y cynnig i adleoli.

Hysbyswch ynghylch y goblygiadau cyffredinol ar gyfer cydraddoldeb y dylid eu hystyried yn y penderfyniad terfynol, gan ystyried eu perthnasedd a’u heffaith:

Mae’r Asesiad llawn o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi’i gynnwys uchod (yn Atodiad 2). Mae’n annhebygol y bydd unrhyw effaith negyddol uniongyrchol ar unrhyw grŵp gwarchodedig.

Llofnod:

Rheolwr y Rhaglen Ysgolion, Gwasanaethau Eiddo, Adnoddau

Dyddiad:

25 Mawrth 2016

11

Page 42: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk

Dyddiad Cyhoeddi: 23 Mawrth 2016Gweithrediad gofynnol: 9 Mai 2016

Ffôn: (01656) 643 664Ebost: [email protected]: www.bridgend.gov.uk/consultation

Atodiad 5

Ysgol Gynradd PencoedDogfen YmgynghoriCynnig i wneud newid a reoleiddir i Ysgol Gynradd Pencoed, trwy adleoli’r ysgol, yn cynnwys campws Heol y Cyw, i safle caeau chwarae Ysgol Gynradd Pencoed ar Heol Penprysg, Pencoed, o 1 Ebrill 2018 ymlaen

Cynnwys

Cynnwys..................................................................................................................2

Trosolwg..................................................................................................................3

Sut i ymateb.............................................................................................................3

Diogelu data............................................................................................................3

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Page 43: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 13

Dogfennau perthnasol.............................................................................................4

Cefndir a gwybodaeth..............................................................................................4

Y Cynnig..................................................................................................................6

Pam bod y cynnig hwn wedi cael ei gyflwyno?........................................................6

Beth mae’r cynnig yn ei olygu’n ymarferol...............................................................7

Corff Llywodraethu..................................................................................................7

Materion Staffio.......................................................................................................7

Beth yw’r manteision os bydd y cynnig yn cael ei roi ar waith?...............................7

Beth yw’r anfanteision posibl os bydd y cynnig yn cael ei roi ar waith?...................7

Effaith y cynigion.....................................................................................................8

Asesiadau Effaith...................................................................................................10

Risgiau...................................................................................................................11

Opsiynau eraill.......................................................................................................12

Manylion yr ysgol(ion) yr effeithir arni/arnynt.........................................................12

Cyllid......................................................................................................................16

Y broses ymgynghori.............................................................................................17

Sut i leisio’ch barn.................................................................................................18

Pro fforma..............................................................................................................19

Appendix A - Community Impact Assessment.......................................................19

Atodiad A – Asesiad o’r Effaith ar y Gymuned.......................................................20

Atodiad A – Asesiad o’r Effaith ar y Gymuned.......................................................20

Atodiad B – Asesu’r Effaith ar yr Iaith Gymraeg....................................................25

Atodiad C - Ffurflen sgrinio Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb (EIA).................26

Atodiad 1...............................................................................................................31

Atodiad 2...............................................................................................................32

Atodiad 3...............................................................................................................34

Atodiad 4...............................................................................................................36

Atodiad 5...............................................................................................................37

TrosolwgDiben yr ymgynghoriad hwn yw gwahodd pobl i roi eu barn ar y cynnig i wneud newid a reoleiddir i Ysgol Gynradd Pencoed trwy adleoli’r ysgol, yn cynnwys campws Heol y

Cyw, i adeilad ysgol newydd a fydd yn cael ei adeiladu ar safle cyfredol caeau chwarae Ysgol Gynradd Pencoed, Heol Penprysg, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr, CF35 6RH.

Page 44: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 14

Sut i ymatebBydd y cyfnod ymgynghori’n cychwyn ar 23 Mawrth 2016 ac yn dod i ben ar 9 Mai 2016

Gallwch ymateb neu ofyn mwy o gwestiynau trwy’r ffyrdd canlynol;

Ffôn: (01656) 643 643

E-bost: [email protected]

Ar-lein: www.bridgend.gov.uk/services/consultation.aspx

Post: Addysg a Thrawsnewid, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Mae fformatau eraill ar gael ar gais.

Diogelu dataSut ydym yn defnyddio’r safbwyntiau a’r wybodaeth a rennir gennych.

Bydd yr holl ymatebion a dderbynnir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu gweld yn llawn gan yr aelodau o’i staff sy’n ymwneud â’r broses ymgynghori. Gallai’r wybodaeth hefyd gael ei gweld gan adrannau eraill o fewn y cyngor neu gan aelodau o’r bwrdd gwasanaeth lleol er mwyn helpu i wella’r gwasanaethau a ddarperir.

Gallai’r cyngor hefyd ddefnyddio’r wybodaeth a gesglir i gyhoeddi dogfennau dilynol sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol â’r ymgynghoriad hwn, ond ni fydd y Cyngor, ar unrhyw adeg, yn datgelu unrhyw wybodaeth bersonol, fel enwau neu gyfeiriadau a allai beri i bobl adnabod unigolyn.

Os nad ydych eisiau i’ch barn gael ei chyhoeddi, nodwch hynny yn eich ymateb.

Dogfennau perthnasolI gael rhagor o wybodaeth am ymgynghoriadau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr neu sut i ymuno â’n panel Dinasyddion.

Ewch i: http://www1.bridgend.gov.uk/cy/gwasanaethau/ymgynghori.aspx

Cefndir a gwybodaethDiben yr ymgynghoriad hwn yw eich gwahodd i roi eich barn ar y cynnig i wneud newid a reoleiddir i Ysgol Gynradd Pencoed trwy adleoli’r ysgol, yn cynnwys campws Heol y Cyw, i adeilad ysgol newydd a fydd yn cael ei adeiladu ar safle caeau chwarae Ysgol Gynradd Pencoed o’r 1 Ebrill 2018 ymlaen.

Rydym yn ymgynghori â’r rhanddeiliaid canlynol i gael eu barn:

► Y Corff Llywodraethu, rhieni, staff, gofalwyr, gwarcheidwaid a disgyblion Ysgol Gynradd Pencoed

► Ysgolion eraill yn y clwstwr/ardal: Ysgol Gynradd Coety, Ysgol Gynradd Llangrallo, Ysgol Gynradd Croesty ac Ysgol Gyfun Pencoed

► Awdurdodau cyfagos► Yr Eglwys yng Nghymru ac Awdurdodau Esgobaethol yr Eglwys Babyddol ► Gweinidogion Cymru► Llywodraeth Cymru► Aelodau Cynulliad dros bob etholaeth ac ardal ranbarthol sy’n gwasanaethu Cyngor

Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Page 45: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 15

► Aelodau Seneddol ► Estyn► Undebau llafur athrawon a staff cymorth ► Gwasanaeth Addysg ar y cyd Consortiwm Canolbarth y De ► Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol► Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru ► Cynghorau Tref a Chymuned► Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf ► Darparwyr meithrinfeydd annibynnol sy’n gwasanaethu’r ardal ► Tîm Gofal Plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (BCBC)► Byrddau Gwasanaeth Lleol► Aelodau Cabinet► Bwrdd Rheoli Corfforaethol► Alodau o’r Ward ► Rheolwr Grŵp, Cynhwysiant ► CAMHS, GIG Cymru, Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf. ► Tîm Iechyd Meddwl Sylfaenol GIG Cymru, Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf. ► Gwasanaeth Therapi Lleferydd ac Iaith GIG Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol

Abertawe Bro Morgannwg. ► Paediatregwyr GIG Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.► Therapi Galwedigaethol (ThG) GIG Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro

Morgannwg.► Gwasanaeth Ffisiotherapi: GIG Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro

Morgannwg.► Seicolegwyr Addysg, Gwasanaeth Seicoleg Addysg BCBC. ► Tîm Plant Anabl Gwasanaethau Cymdeithasol BCBC► SNAP Cymru ► Barnardos Cymru► Gwasanaeth cwnsela - BCBC (Tîm cymorth cynnar)

Bydd y broses ymgynghori hon yn rhedeg rhwng 23 Mawrth 2016 a 9 Mai 2016.

Y Cynnig

Page 46: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk

Cynigir gwneud newid a reoleiddir i Ysgol Gynradd Pencoed trwy adleoli’r ysgol, yn cynnwys campws Heol y Cyw, i adeilad newydd a fydd yn cael ei adeiladu ar safle caeau chwarae Ysgol Gynradd Pencoed. Mae’r Awdurdod eisoes wedi cynnal prosesau statudol i beidio â chynnal a chadw Ysgol Gynradd Heol y Cyw, a ddaeth i rym ddiwedd Tymor yr Haf 2011 pan ddaeth safle Heol y Cyw yn rhan o Ysgol Gynradd Pencoed. Bydd y cynnig hwn yn caniatáu i safleoedd ysgol Gynradd Pencoed gael eu huno ar un safle sengl. Mae tua 2 filltir o bellter rhwng safle Heol y Cyw a safle newydd arfaethedig Ysgol Gynradd Pencoed. Byddai gan yr ysgol arfaethedig ddigon o le i 510 o ddisgyblion, yn ogystal â meithrinfa gyda 70 o ddisgyblion cyfwerth â llawn-amser, 8 lle ar gyfer plant â nam gweledol, 8 lle i arsylwi yn nosbarth y babanod a 2 ddosbarth â lle i 15 o ddisgyblion ag anawsterau dysgu cymedrol.

Pam bod y cynnig hwn wedi cael ei gyflwyno? Ar 3 Mawrth 2015, cafwyd cymeradwyaeth y Cabinet i’r Cyngor fabwysiadu egwyddorion diwygiedig fel fframwaith ar gyfer trefniant ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr; defnyddiwyd pum egwyddor allweddol i lywio’r gwaith o drefnu a moderneiddio ein hysgolion:

i. Ymrwymiad i safonau uchel a rhagoriaeth yn y ddarpariaeth;

ii. Cyfle cyfartal, fel y gall pob disgybl fanteisio ar gyfleoedd dysgu o ansawdd, waeth pa ysgol y maent yn ei mynychu;

iii. Ysgolion cynhwysol, sy’n diwallu anghenion dysgu pob un o’u disgyblion;

iv. Ysgolion â ffocws cymunedol, lle mae gan yr ysgol gysylltiad gweithredol â’i chymuned leol;

v. Gwerth am arian.

Mae’r Fframwaith Polisi a Chynllunio’n nodi 17 maes lle dylai’r egwyddorion gael eu defnyddio’n ymarferol. Mae’r rheini sy’n arbennig o berthnasol yng nghyd-destun y cynnig hwn yn ymwneud â gwerth am arian, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.

Ar hyn o bryd, mae Ysgol Gynradd Pencoed wedi’i rhannu ar draws tri safle; mae’r brif ysgol ar Heol Penprysg ar ddau safle sydd wedi’u gwahanu gan briffordd brysur iawn, ac mae’r trydydd safle ar Heol y Cyw. Mae cyflwr adeiladau’r ysgol yn amrywio, gyda rhai’n foddhaol (yn perfformio fel y bwriadwyd, ond yn dangos ychydig o ddirywiad) a rhai’n wael (yn dangos diffygion mawr a/neu ddim yn gweithredu fel y bwriadwyd). Ar y cyd, mae angen gwario £1,678,720.00 ar drwsio a chynnal a chadw adeiladau’r ysgol ar draws y tri safle.

Cyflwynodd y Cyngor y cynnig hwn er mwyn ceisio dod â’r ysgol gyfan ynghyd. Byddai’r ysgol ar un safle, mewn adeilad ysgol newydd a fyddai wedi’i gynllunio’n briodol i ateb y gofynion addysgu a dysgu ar gyfer yr 21ain Ganrif.

Ar hyn o bryd mae lle yn yr ysgol i 455 disgybl rhwng 4-11 oed. Ym mis Ionawr 2016, roedd 492 o ddisgyblion rhwng 4-11 oed ar y gofrestr, sy’n golygu ei bod 37 o leoedd yn brin. Disgwylir y bydd y nifer ar y gofrestr yn cynyddu i 511 yn 2021, a fyddai’n golygu y byddai 56 o leoedd yn brin pe bai’r ysgol yn aros fel y mae ar hyn o bryd.

Page 47: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 17

Beth mae’r cynnig yn ei olygu’n ymarferolMae’r cynnig yn golygu y byddai Ysgol Gynradd Pencoed, Heol Penprysg a safle Heol y Cyw Ysgol Gynradd Pencoed yn adleoli i ysgol newydd a fyddai’n cael ei hadeiladu ar safle caeau chwarae Ysgol Gynradd Pencoed, Heol Penprysg, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr CF35 6RH. Bydd hyn yn caniatáu i bob disgybl gael eu lleoli gyda’i gilydd ar un safle.

Corff Llywodraethu

Pe bai’r cynnig yn mynd yn ei flaen, byddai trefniadau’r corff Llywodraethu’n parhau i fod yr un peth â’r trefniadau cyfredol.

Materion Staffio

Pe bai’r cynnig yn mynd yn ei flaen, byddai nifer y staff yn parhau fel y mae, ar sail y ffaith na ragwelir y bydd nifer llai o ddisgyblion yn yr ysgol.

Beth yw’r manteision os bydd y cynnig yn cael ei roi ar waith?► Mae’n caniatáu i bob disgybl a staff yn Ysgol Gynradd Pencoed fod gyda’i gilydd ar

un safle;► Byddai’r disgyblion a’r staff yn elwa o gael cyfleuster newydd sbon; ► Arbed gwario arian ar drwsio a chynnal a chadw hen adeiladau’r ysgol; ► Gallai darpariaeth gymunedol gael ei chynnwys yn adeilad newydd yr ysgol;► Ysgol sydd wedi’i chynllunio i ddarparu’r amgylchedd dysgu cywir ar gyfer

cyfleoedd cwricwlaidd, yn arbennig yn y Cyfnod Sylfaen.

Ar hyn o bryd, mae’r amgylchedd addysgu a dysgu’n wael mewn rhai adeiladau. O fewn yr amgylchedd gwael hwn, mae’r ysgol yn llwyddo i ddarparu safon dda o addysg yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae hyn yn her gyson, yn arbennig ers cyflwyno cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen, sy’n rhoi mwy o bwys ar ddysgu arbrofol. Os caiff y cynnig ei dderbyn, bydd disgyblion yn elwa o amgylchedd dysgu gwell, byddant yn gallu manteisio’n haws ar yr ystod lawn o gyfleoedd cwricwlaidd a bydd safon yr addysg yn well yn gyffredinol.

Beth yw’r anfanteision posibl os bydd y cynnig yn cael ei roi ar waith?

► Bydd yr ysgol yn colli’r defnydd o’i chaeau chwarae yn ystod cyfnod adeiladu’r ysgol newydd. Fodd bynnag, bydd trefniadau eraill yn cael eu gwneud ar gyfer chwarae awyr agored yn ystod y cyfnod adeiladu a phan fydd yr ysgol newydd wedi’i chwblhau, bydd y disgyblion yn elwa o allu defnyddio cae pob tywydd.

Effaith y cynigionAnsawdd a safonau mewn addysg;

Mae cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen yn rhoi pwyslais mawr ar ddysgu arbrofol ac awyr agored. Mae adeiladau ysgol newydd yng Nghymru yn rhoi ystyriaeth i hyn fel bod yr amgylchedd dysgu’n cefnogi gweithgareddau’r cwricwlwm a’r ffyrdd y disgwylir i athrawon drefnu profiadau dysgu ac i addysgu’n effeithiol. Mae profiadau dysgu awyr agored yn parhau i fod yn rhan bwysig o’r cwricwlwm yng nghyfnod allweddol 2. Drwy symud i ysgol sydd wedi’i hadeiladu’n bwrpasol i ddiwallu’r anghenion addysgu a dysgu ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain bydd gallu’r ysgol yn gwella’n fawr i ddarparu cwricwlwm

Page 48: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 18

llawn y Cyfnod Sylfaen ac yng Nghyfnod Allweddol 2, gan effeithio’n gadarnhaol ar yr ansawdd a’r safonau mewn addysg.

Canlyniadau (safonau a lles);

Yn ystod arolygiad Ysgol Gynradd Pencoed ym mis Ionawr 2011, barnwyd bod y canlyniadau o ran safonau a lles yn dda. Yn adroddiad diweddar y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion 2015/2016 (Ionawr 2016), barnwyd bod yr ysgol yn y categori cymorth ‘gwyrdd’ ar gyfer safonau ac arweinyddiaeth. Mae yn y chwartel uchaf ar gyfer perfformiad, ar lefel uwch na’r disgwyl yn y Cyfnod Sylfaen, ac ar y lefel/ar lefel uwch na’r disgwyl yn CA2 . Mae’r ysgol hon yn cymharu’n dda iawn ag ysgolion tebyg ac mae yn chwarteli uwch prydau bwyd ysgol am ddim (FSM) yn gyson. Yn yr un modd, mae’r cysylltiad ardderchog â’r gymuned, o ganlyniad i fenter ymgysylltu gryf iawn gan rieni, yn effeithiol tu hwnt. Yn gyffredinol, mae’r cyfraddau mynychu wedi gwella yn ystod y tair blynedd diwethaf i 94.7%, sydd fymryn yn is na’r targed cenedlaethol o 95%.Mae absenoldeb anawdurdodedig yn isel ar 0.7%.

Darpariaeth (profiadau dysgu, addysgu, staffio, cymorth gofal ac arweiniad, a’r amgylchedd dysgu);

Mae ansawdd yr addysgu yn Ysgol Gynradd Pencoed yn debygol o wella trwy gael cyfleuster modern, newydd sydd wedi’i adeiladu’n bwrpasol. Mae’n debygol y bydd effaith gadarnhaol ar forâl y staff a dylai fod yn haws i’r ysgol gynnal gweithlu addysgu o safon uchel.

Mae’r adeiladau ysgol newydd yn ystyried dulliau addysgu a dysgu modern, gan gynnwys yr angen i ddarparu amgylcheddau sy’n addas i addysgu grwpiau bach o ddisgyblion sy’n dechrau syrthio’n ôl yn eu dysgu. Felly, dylai cymorth gofal ac arweiniad wella o ganlyniad i’r cynnig. Bydd hyn, yn ei dro, yn debygol o effeithio ar gyflawniad a chyrhaeddiad uwch disgyblion.

Arwain a rheoli (arweinyddiaeth, gwella ansawdd, gweithio mewn partneriaeth a rheoli adnoddau);

Yn ystod arolygiad Ysgol Gynradd Pencoed ym mis Ionawr 2011, barnwyd bod yr arweinyddiaeth a’r rheolaeth yn dda ac mae hyn wedi’i gynnal, fel yr adroddwyd gan Gynghorwr Her Consortiwm Canolbarth y De. Mae’r model arwain a ddosbarthwyd yn rhan annatod o strwythur yr ysgol, Mae gan arweinwyr ddealltwriaeth ardderchog o’r heriau yn eu meysydd eu hunain ac yn yr ysgol yn gyffredinol. Mae’r arweinwyr, y staff a’r llywodraethwyr yn rhannu’r un weledigaeth ac mae ganddynt strategaeth glir sy’n gwella’r canlyniadau i ddysgwyr. Ceir pwyslais clir ar godi safonau ac mae gan yr ysgol ddisgwyliadau uchel o ran cyrhaeddiad ei disgyblion.

Page 49: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 19

Mae’r holl staff yn rhannu’r un ymrwymiad i’r ysgol ac yn gweithio gyda’i gilydd yn gydlynol. Yn rhaglen hunanwerthuso’r ysgol nodwyd yn gywir gryfderau’r ysgol a’r meysydd y mae angen iddi eu datblygu trwy ddefnyddio timau’r meysydd cwricwlwm. Mae gweithgareddau partneriaeth effeithiol yn cyfrannu’n dda at wella safonau a lles disgyblion. Mae gan yr ysgol lefelau priodol o staff cymwys, dawnus, newydd a phrofiadol ac mae hyn, ynghyd â lefelau da o adnoddau, yn sicrhau bod hyn yn briodol i gefnogi’r amgylchedd ddysgu.

Ystyriaethau eraill

Yr awdurdod derbyniadau ar gyfer disgyblion yr Ysgol Gynradd Pencoed arfaethedig wedi’i hadleoli fyddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Byddai’r trefniadau derbyn yn unol â’r hyn a nodir yn llyfryn ‘Dechrau yn yr Ysgol – Arweiniad i Bolisi a Threfniadau Derbyn Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer Ysgolion’. Y Rhif Derbyn Cyhoeddedig ar gyfer yr ysgol newydd fyddai 72.

Caiff crynodeb o adroddiadau arolygu diweddaraf Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn) sy’n ymwneud â phob ysgol cyfrwng Saesneg a Chymraeg yr effeithir yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol arnynt gan y cynnig eu cynnwys yn atodiad 1 i 6. Mae’r adroddiadau arolygu llawn ar gael ar wefan Estyn.

Trefniadau teithio ac effaith hygyrchedd

Bydd disgyblion yn cael cludiant am ddim i’r ysgol newydd, yn unol â pholisi cludiant i’r ysgol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Ar hyn o bryd, darperir cludiant am ddim i ysgolion yn y Sir ar gyfer pellteroedd cerdded sy’n fwy na 1.5 milltir ar hyd llwybrau cerdded diogel. Bydd y gwasanaeth bws ysgol i gludo disgyblion i safle newydd Ysgol Gynradd Pencoed yn costio tua £40,470 y flwyddyn. Mae’r trefniadau cludo cyfredol i wahanol safleoedd yr ysgol yn costio tua £48,070 y flwyddyn. Dim ond tua 2 filltir o bellter sydd rhwng safle Heol y Cyw a’r safle ar gyfer Ysgol Gynradd newydd arfaethedig Pencoed. O ganlyniad, bydd yr amserau teithio i ddisgyblion yn fyr iawn os bydd y cynnig yn cael ei ddatblygu a bydd teithiau un ffordd yn bendant yn llawer llai na 45 munud.

Asesiadau EffaithAsesiad o’r Effaith ar y Gymuned

Cynhaliwyd asesiad cychwynnol o'r effaith ar y gymuned ac, fel rhan o’r ymgynghoriad hwn, byddwn yn croesawu eich sylwadau/safbwyntiau ynghylch a ydych chi’n credu y bydd y cynnig yn cael effaith gadarnhaol/niweidiol. Mae Ysgol Gynradd Pencoed (yn cynnwys safle Heol y Cyw) yn cynnal ‘clybiau brecwast’ i ddisgyblion. Fodd bynnag, nid yw’r un o’r adeiladau’n cael eu defnyddio y tu allan i oriau gan sefydliadau lleol nac ar gyfer dysgu oedolion a chymunedol. Ni ddefnyddir caeau chwarae Ysgol Pencoed (y safle arfaethedig) gan y gymuned chwaith. Cynhelir pob un o weithgareddau allgyrsiol Ysgol Gynradd Pencoed yn ystod y diwrnod ysgol - fel bod pawb yn gallu gwneud defnydd llawn ohonynt.Yn ôl canlyniadau’r asesiad cychwynnol, rhagwelir y bydd symud i’r ysgol newydd ar safle Ysgol Gynradd Pencoed ym mis Ebrill 2018 yn cael effaith gadarnhaol o ganlyniad i ddarpariaeth cyfleusterau cymunedol modern a hygyrch.

Gellir gweld drafft o’r asesiad cychwynnol yn atodiad A

Page 50: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 20

Asesiad o’r Effaith ar yr Iaith Gymraeg

Cynhaliwyd asesiad effaith cychwynnol ar yr iaith Gymraeg ac, fel rhan o’r ymgynghoriad hwn, byddwn yn croesawu eich sylwadau/safbwyntiau ynghylch a ydych chi’n credu y bydd y cynnig yn cael effaith gadarnhaol/niweidiol.

Gan y byddai’r ysgol Saesneg arfaethedig a adleolir yn parhau ‘fel y mae’ ond mewn adeilad pwrpasol mwy o faint, credir na fyddai unrhyw effaith sylweddol ar y ddarpariaeth iaith Gymraeg a brofir gan ddisgyblion yr ysgol ar hyn o bryd. Byddai’r Gymraeg yn parhau i gael ei dysgu trwy’r cwricwlwm fel y mae ar hyn o bryd.

Bydd yr awdurdod yn cydymffurfio â’i bolisi iaith Gymraeg trwy sicrhau bod yr holl arwyddion a ddefnyddir ar safle’r ysgol yn ddwyieithog.

Gellir gweld drafft o’r asesiad cychwynnol yn atodiad B

Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb

Cynhaliwyd asesiad effaith cychwynnol ar gydraddoldeb ac, fel rhan o’r ymgynghoriad hwn, byddwn yn croesawu eich sylwadau/safbwyntiau ynghylch a ydych chi’n credu y bydd y cynnig yn cael effaith gadarnhaol/niweidiol.

Fel rhan o’r broses gyffredinol, mae gan y cyngor ddyletswydd i ystyried goblygiadau unrhyw gynnig ar bob aelod o’r gymuned leol a allai gael ei effeithio’n annheg o ganlyniad i weithredu’r cynnig. Mae sgrinio cychwynnol wedi’i wneud o’r posibilrwydd y bydd cyfle anghyfartal yn codi yn sgil y cynigion hyn ac mae’n dangos y bydd angen asesiad llawn o’r effaith ar gydraddoldeb maes o law. Os oes gennych unrhyw farn ar botensial y cynnig hwn i effeithio’n gadarnhaol neu’n niweidiol ar unrhyw grwpiau neu unigolion, byddwn yn croesawu eich sylwadau fel rhan o’r ymgynghoriad hwn.

Gellir gweld drafft o’r sgrinio cychwynnol yn atodiad C.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn

Mae’r cynnig yn debygol o fod yn fuddiol i blant a phobl ifanc, yn unol â 7 nod craidd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sef bod plant:

► Yn cael dechrau da mewn bywyd;

► Yn cael ystod gynhwysfawr o gyfleoedd addysg a dysg;

► Yn mwynhau’r iechyd gorau posib, yn rhydd o gamdriniaeth, erledigaeth ac ecsbloetiaeth;

► Yn gallu cael mynediad at weithgareddau chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliannol;

► Yn cael eu trin â pharch, yn cael pobl i wrando arnynt, gan gydnabod eu hil a’u hunaniaeth ddiwylliannol;

► Yn byw mewn cartref a chymuned ddiogel sy’n cefnogi lles corfforol ac emosiynol;

► Ddim dan anfantais oherwydd tlodi.

Page 51: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 21

RisgiauNodir y risgiau sy’n gysylltiedig â’r cynnig a’r gwrthfesurau drosodd.Prif Risg Gwrthfesurau1. Ysgol ddim yn barod i symud i mewn

iddi erbyn y dyddiad cyhoeddedigRhaglen gadarn wedi’i sefydlu sy’n egluro’r llwybr critigol; sicrhau bod achosion busnes yn cael eu datblygu ar amser a bod apwyntiadau cynllunio/contractwyr yn cael eu rheoli o fewn amserlen briodol.

2. Dim digon o gyllid ar gael i ddatblygu’r dewis a ffafrir.

Bydd amcangyfrif o’r costau cynnar yn cael eu nodi a’u gwirio’n rheolaidd yn ystod y broses gynllunio; cynnal peirianneg gwerth os oes angen.

3. Oedi wrth gael cyllid/ffrwd ariannu yn aros yn ei hunfan, ac adeiladu fesul cyfnod o bosibl, gan arwain at fwy o gostau.

Paratoi/cyflwyno/cymeradwyo’r achos busnes yn gadarn ac yn amserol er mwyn gallu gweld unrhyw broblemau posibl yn gynnar a mynd i’r afael ag effaith unrhyw oedi o ran cyllido’n gynnar a lleihau effeithiau o’r fath.

4. Risg na fodlonir dyheadau a disgwyliadau’r defnyddwyr.

Cynhelir cyfarfodydd ymgynghori â rhanddeiliaid a fydd yn helpu i sicrhau eu bod yn deall y cynllun a bod yr adeilad wedi’i gynllunio i ystyried yr anghenion.

5. Problemau cynllunio’n codi Gwneud newidiadau angenrheidiol i gynllun yr adeilad.

6. Rhieni’n dewis peidio ag anfon eu plant i’w hysgol ddynodedig

Mae ansawdd yr adeilad a’r ddarpariaeth newydd yn denu’r disgyblion presennol sydd ar y gofrestr a’r rhai a fydd yn cofrestru yn y dyfodol.

7. Gall adleoli ysgol achosi rhywfaint o aflonyddwch ac ansicrwydd am gyfnod o amser.

Gellir lleihau hyn trwy weithio’n agos â’r pennaeth, y llywodraethwyr a’r staff i gynllunio’r rhaglen o amgylch anghenion yr ysgol.

Opsiynau eraillCafodd opsiynau eraill eu hystyried fel y nodir, ynghyd â’r rhesymau pam na ddewiswyd y rhain:

Opsiwn 1- Parhau gyda’r trefniadau cyfredol gyda’r ysgol yn cael ei rhedeg o wyth adeilad ar wahân dros dri safle Ni chafodd yr opsiwn hwn ei ddewis yn bennaf am nad yw’n opsiwn cynaliadwy, nid yw’n cyd-fynd â strategaeth ac amcanion yr awdurdod a byddai’n rhoi cenedlaethau’r dyfodol o ddysgwyr dan anfantais trwy beidio â mynd i’r afael â’r angen am leoedd disgyblion yn yr 21ain Ganrif. Opsiwn 2- Darparu lleoedd dysgu ychwanegol ar safle Ysgol Gynradd Pencoed er mwyn galluogi’r broses o drosglwyddo a chau safle Heol y Cyw Er y byddai’r opsiwn hwn yn gwella’r sefyllfa o ran natur wasgaredig yr ysgol ac mai hwn fyddai’r opsiwn rhataf, ni chafodd ei ddewis yn bennaf am na fyddai’n gwella’r sefyllfa ddigon i gyfiawnhau’r buddsoddiad cyfalaf ac ni fyddai’n mynd i’r afael ag anghenion yr ardal yn y dyfodol. Opsiwn 3- Darparu adeilad ysgol newydd ar safle cae chwarae Ysgol Gynradd Pencoed, gan alluogi’r awdurdod i gau adeiladau cyfredol Pencoed a Heol y Cyw

Page 52: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 22

Dyma’r opsiwn sydd wedi cael ei ffafrio gan mai dyma fyddai orau o ran darpariaeth addysgol yr ardal a bydd yn mynd i’r afael â’r cynnydd a ragwelir o ran niferoedd disgyblion. Bydd hefyd yn galluogi pob un o ddisgyblion yr ysgol i integreiddio’n effeithiol ar un safle ysgol. Opsiwn 4 - Darparu adeilad ysgol newydd ar safle cae chwarae Ysgol Gynradd Pencoed, i gymryd disgyblion Pencoed a Heol y Cyw, ynghyd â darparu ar gyfer y galw cynyddol am leoedd yn yr ardal er mwyn galluogi i’r awdurdod drosglwyddo a chau Ysgol Gynradd Croesty.

Nid yw’r opsiwn hwn wedi’i ddewis am nad oes digon o gyllid i ddatblygu’r opsiwn hwn ac nid oes digon o dir ar y safle i leoli ysgol o’r maint gofynnol.

Manylion yr ysgol(ion) yr effeithir arni/arnyntMae’r ysgolion cymunedol Saesneg canlynol wedi’u nodi fel rhai yr effeithir arnynt neu y mae’n debygol yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan y cynnig:

Ysgol Gynradd Coety,Ffordd yr Hebog,Coety,Parc DerwenPen-y-bont ar Ogwr, CF35 6DH

Ysgol Gynradd Llangrallo,Y Brif Ffordd,Llangrallo,Pen-y-bont ar Ogwr, CF35 5HN

Ysgol Gynradd Croesty,Ffordd Llangrallo,Pencoed,Pen-y-bont ar Ogwr, CF35 5LY

Ysgol Gyfun Pencoed, Ffordd Llangrallo,Pencoed,Pen-y-bont ar Ogwr, CF35 5LY

Mae’r tabl isod yn darparu manylion y niferoedd oedd ar gofrestr pob ysgol ym mis Ionawr 2016 a’r ffigurau a gofnodwyd ar gyfer y pedwar cyfrifiad blynyddol blaenorol.

Dros Dro Ion 2016

Ion 2015 Ion 2014 Ion 2013 Ion 2012

Ll/A Rh/A Ll/A Rh/A Ll/A Rh/A Ll/A Rh/A Ll/A Rh/AYsgol Gynradd CoetyYsgol Gynradd LlangralloYsgol Gynradd Croesty

313123234

125

226103225

3184

91235

5 2 1

16886

234

43

15787228

3

Page 53: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 23

Ysgol Gynradd PencoedYsgol Gyfun Pencoed

555863

1 546885

6 534868

4 0

524879

14 524943

18

Mae’r tablau canlynol yn darparu amcanestyniad o boblogaeth y disgyblion dros 5 mlynedd:

Ysgol Gynradd Coety

Blwyddyn

M1 M2 D B1 B2 B3 B4 B5 B6 Cyfanswm Cyfanswm, yn cynnwys datblygiad tai Parc Derwen4-11 yn unig

Ion 2017 8 58 60 47 44 33 37 34 28 349 371

Ion 2018 10 58 60 60 47 44 33 37 34 383 425

Ion 2019 10 58 60 60 60 47 44 33 37 409 473

Ion 2020 10 58 60 60 60 60 47 44 33 432 518

Ion 2021 10 58 60 60 60 60 60 47 44 459 562

Ysgol Gynradd Llangrallo

Blwyddyn M1 M2 D B1 B2 B3 B4 B5 B6 Cyfanswm Cyfanswm, yn cynnwys datblygiadau tai

Ion 2017 4 14 21 16 20 18 11 21 18 143 148

Ion 2018 4 15 17 23 17 22 22 13 22 155 165

Ion 2019 4 15 17 19 24 19 26 26 14 164 174

Ion 2020 4 15 15 19 20 26 22 31 28 180 190

Ion 2021 4 15 18 16 20 21 31 27 34 186 196

Ysgol Gynradd Croesty

Blwyddyn M1 M2 D B1 B2 B3 B4 B5 B6 Cyfanswm Cyfanswm, yn cynnwys datblygiadau tai

Page 54: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 24

Ion 2017 29 35 30 27 31 29 23 33 237 239

Ion 2018 29 29 35 28 27 30 30 23 231 233

Ion 2019 29 29 29 33 28 26 31 31 236 238

Ion 2020 29 29 29 27 33 27 27 32 233 235

Ion 2021 29 31 29 27 27 32 28 28 231 233

Ysgol Gynradd Pencoed

Blwyddyn M1 M2 D B1 B2 B3 B4 B5 B6 Cyfanswm Cyfanswm, yn cynnwys datblygiadau tai

Ion 2017 3 65 70 78 71 66 76 69 70 568 570

Ion 2018 3 67 67 73 76 75 66 76 70 573 575

Ion 2019 3 67 67 70 71 81 75 66 77 577 579

Ion 2020 3 67 67 70 68 76 81 75 66 573 575

Ion 2021 3 67 68 70 68 72 76 81 76 581 583

Ysgol Gyfun Pencoed

Blwyddyn B7 B8 B9 B10 B11 B12 B13 Cyfanswm Cyfanswm, yn cynnwys datblygiad tai

Ion 2017 146 151 172 140 152 66 51 878 940Ion 2018 153 155 155 181 135 75 48 902 1004Ion 2019 145 162 159 163 175 66 54 924 1037Ion 2020 155 154 167 167 158 86 48 935 1048Ion 2021 146 164 158 175 162 77 63 945 1058

Tir ac adeiladau

Mae’r tabl canlynol yn nodi’r capasiti ac asesiad o ansawdd y lleoedd dysgu, yn unol â Chynlluniau Rheoli Asedau a Hygyrchedd y Cyngor o’r ysgolion a nodwyd fel rhai yr effeithir arnynt neu y mae’n debygol yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan y cynnig. Mae’r capasiti wedi’i gyfrifo’n unol â Chylchlythyr Rhif 21/2011 Llywodraeth Cymru, ‘Mesur Capasiti Ysgolion yng Nghymru’.

Page 55: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 25

Ysgol Capasiti Ansawdd y Lleoedd Dysgu

Ysgol Gynradd Coety

420 Ysgol Newydd - Tachwedd 2015

Ysgol Gynradd Llangrallo

134 Gradd B ar gyfer y cyflwr cyffredinol (Boddhaol – yn perfformio fel y bwriadwyd ond yn dangos ychydig o ddirywiad)

Ysgol Gynradd Croesty

205 Gradd B ar gyfer y cyflwr cyffredinol (Boddhaol – yn perfformio fel y bwriadwyd ond yn dangos ychydig o ddirywiad)

Ysgol Gyfun Pencoed

1115 Gradd B ar gyfer y cyflwr cyffredinol (Boddhaol – yn perfformio fel y bwriadwyd ond yn dangos ychydig o ddirywiad)

Ysgol Gynradd Pencoed

455 Gradd B ar gyfer y cyflwr cyffredinol (Boddhaol – yn perfformio fel y bwriadwyd ond yn dangos ychydig o ddirywiad)

CyllidBydd y gost a ragwelir ar gyfer yr ysgol newydd yn cael ei thalu trwy Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, yr ydym wedi cael ‘cymeradwyaeth mewn egwyddor’ ar ei chyfer, a thrwy raglen cyfalaf y Cyngor fel y cymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Hydref 2015. Byddwn yn datblygu’r gweithdrefnau achos busnes angenrheidiol yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru yn ystod cyfnod datblygu a chynllunio’r adeilad. Byddai unrhyw dderbyniad cyfalaf a ddaw yn sgil gwerthu safleoedd cyfredol Pencoed a Heol y Cyw yn cael ei ail-fuddsoddi yn Rhaglen Foderneiddio’r Ysgol.

Y cyllid cyfredol (2015/16) am bob disgybl yn Ysgol Gynradd Pencoed yw £3,227. Y cyllid am bob disgybl mewn ysgolion cynradd ledled Pen-y-bont ar Ogwr yw £3,310 ar gyfartaledd. Felly, dylai’r cynnig i adleoli a chynyddu’r capasiti gynhyrchu arbedion effeithlonrwydd. Mae’n anodd cyfrifo’r union symiau ar hyn o bryd gan y byddant yn ffurfio rhan o fformiwla flynyddol y broses ariannu.

Y broses ymgynghoriBydd y broses ymgynghori’n cael ei chwblhau erbyn 9 Mai 2016 a bydd y canlyniadau, a fydd yn cael eu cynnwys yn y cynnig lle bo’n bosibl, yn cael eu hadrodd i gyfarfod o’r Cabinet ar 7 Mehefin 2016. Ni fydd ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn cael eu hystyried yn wrthwynebiadau ffurfiol, gall hyn ond ddigwydd yn ystod cyfnod yr Hysbysiad Cyhoeddus fel yr amlinellir isod. Os gwneir penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen, dyna fydd diwedd y cynnig hwn hyd gyfnod na ellir ei ragweld a bydd angen dod o hyd i gynnig arall.

Os gwneir penderfyniad i fwrw ymlaen â’r cynnig, bydd angen cyhoeddi hysbysiad statudol yn amlinellu’r cynnig am gyfnod o 28 diwrnod a byddai unrhyw wrthwynebiadau ysgrifenedig ffurfiol yn cael eu gwahodd yn ystod y cyfnod hwn. Os bydd gwrthwynebiadau yn ystod cyfnod yr Hysbysiad Cyhoeddus hwn, bydd angen i’r Cabinet ystyried y cynnig. Wedi hyn, gallai’r Cabinet dderbyn, gwrthod neu addasu’r cynnig. Os na cheir unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig, bydd yn cael ei weithredu, yn unol â chymeradwyaeth derfynol gan y Cabinet.

Camau nesaf

Dyma’r amserlen a’r weithdrefn dros dro:

Page 56: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 26

Gweithgaredd Dyddiad

Cyfnod ymgynghori pan fyddwn yn croesawu eich safbwyntiau a’ch sylwadau ar y cynnig*. 23 Mawrth – 9 Mai 2016

Drafft o’r Adroddiad Ymgynghori i’r Cabinet ar ganlyniadau’r ymgynghoriad. 7 Mehefin 2016Cyhoeddi’r Adroddiad Ymgynghori Cymeradwy ar wefan BCBC, a chopïau caled ar gael ar gais. 14 Mehefin 2016

Os bydd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cytuno, bydd Hysbysiad Cyhoeddus yn cael ei gyhoeddi a bydd cyfnod o 28 diwrnod i gyflwyno unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig yn ysgrifenedig.

15 Mehefin 2016

Os na fydd unrhyw wrthwynebiadau, gall y Cabinet benderfynu a ddylid bwrw ymlaen neu beidio. Os daw unrhyw wrthwynebiadau i law, bydd Adroddiad Gwrthwynebu yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet i’w ystyried ac i wneud penderfyniad dilynol. Wedi hyn, bydd yr adroddiad cymeradwy yn cael ei gyhoeddi ar wefan BCBC a bydd copïau caled o’r adroddiad ar gael ar gais.

2 Awst 2016

Gweithredu. 1 Ebrill 2018

*Nodwch na fydd ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu hystyried fel gwrthwynebiadau i’r cynnig. Gellir ond cofrestru gwrthwynebiad yn ystod cyfnod yr Hysbysiad Cyhoeddus.

Beth sydd angen i chi ei ystyried nawr?

Gwahoddir chi i ystyried y cynnig ac i gyflwyno’ch barn ynghylch a ydych o blaid adleoli Ysgol Gynradd Pencoed, yn cynnwys campws Heol y Cyw, i adeilad ysgol newydd i’w hadeiladau ar safle cyfredol caeau chwarae Ysgol Gynradd Pencoed, neu beidio.

Page 57: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 27

Sut i leisio’ch barnCynhelir cyfarfodydd ymgynghori a sesiynau galw heibio y gellir eu neilltuo ar gyfer yr holl bartïon eraill â diddordeb, fel y nodir isod. Os ydych am gael cyfarfodydd/sesiynau ymgynghori yn Gymraeg, cysylltwch ag Ellen Franks ar 01656 642617 cyn gynted â phosibl.

Lleoliad – Ysgol Gynradd Pencoed, campws Penprysg Cyfarfod i staff - 13eg Ebrill 2016 (4pm)

Cyfarfod i’r Corff Llywodraethu - 13eg Ebrill 2016 (5pm)

Cyfarfod i’r Cyngor Ysgol - 21ain Ebrill 2016 (2pm)

Sesiynau galw heibio y gellir eu neilltuo ar gyfer rhieni, gofalwyr, aelodau o’r gymuned leol a’r holl bartïon eraill â diddordeb (cysylltwch ag Ellen Franks ar 01656 642617 i neilltuo lle ar gyfer y sesiwn galw heibio ) – 13eg Ebrill 2016 (6.30pm)

-Lleoliad – Ysgol Gynradd Pencoed, campws Heol-y-Cyw

Sesiynau galw heibio y gellir eu neilltuo ar gyfer rhieni, gofalwyr, aelodau o’r gymuned leol a’r holl bartïon eraill â diddordeb (cysylltwch ag Ellen Franks ar 01656 642617 i neilltuo lle ar gyfer y sesiwn galw heibio) -14eg Ebrill 2016 (6.30pm)

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y cynnig hwn, neu os ydych eisiau nodi’ch barn yn ysgrifenedig, awgrymu cynigion eraill neu ofyn am gopi o’r adroddiad ymgynghori pan gaiff ei gyhoeddi, cysylltwch â (gan ddefnyddio’r pro fforma sydd wedi’i hatodi):

Post: Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Thrawsnewid y Gyfarwyddiaeth Plant,Swyddfeydd Dinesig,Stryd yr Angel Pen-y-bont ar OgwrCF31 4WB

Nodwch yr amlen at sylw Ellen Franks, neu E-bostiwch: [email protected]

Ar-lein: Cliciwch yma Ffôn: (01656) 642617

Mae fformatau eraill hefyd ar gael ar gais.

Rhaid derbyn pob barn cyn 9 Mai 2016.

Pro fformaPro fforma - Cynnig i wneud newid a reoleiddir i Ysgol Gynradd Pencoed, trwy adleoli’r ysgol, yn cynnwys campws Heol y Cyw, i safle caeau chwarae Ysgol Gynradd Pencoed ar Heol Penprysg, Pencoed o’r 1 af Ebrill

2018 ymlaen. Enw:

Manylion cyswllt:

Page 58: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 28

A ydych chi’n (ticiwch os gwelwch yn dda): Llywodraethwr ysgol Rhiant/gwarcheidwad

Disgybl ysgol Staff ysgol

Parti arall â diddordeb (nodwch os gwelwch yn dda)

Sylwadau/awgrymiadau/ceisiadau/cwestiynau:

Appendix A - Community Impact Assessment

Draft – to be updated following consultation

Atodiad A – Asesiad o’r Effaith ar y Gymuned

Atodiad A – Asesiad o’r Effaith ar y GymunedEnw’r cynnig: Cynnig i wneud newid a reoleiddir i Ysgol Gynradd Pencoed trwy adleoli’r ysgol, yn cynnwys campws Heol y Cyw, i adeilad newydd a fydd yn cael ei adeiladu ar safle caeau chwarae Ysgol Gynradd Pencoed, gan greu ysgol â lle i 510 o ddisgyblion, yn ogystal â meithrinfa gyda 70 o ddisgyblion cyfwerth â llawnamser, 8 lle ar gyfer plant â nam gweledol, 8 lle i arsylwi yn nosbarth y babanod a 2 ddosbarth â lle i 15 o ddisgyblion ag anawsterau dysgu cymedrol, o 1 Ebrill 2018 ymlaen.

Pwy fydd yn gwneud y penderfyniad? :Y CabinetPwy sydd wedi bod yn gysylltiedig â datblygu’r cynnig? :Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a ThrawsnewidPennaeth Partneriaethau Strategaeth a Chomisiynu – Addysg a Thrawsnewid Rheolwr Prosiect – Gwasanaethau Eiddo

Nodau ac amcanion:

Cynnig i wneud newid a reoleiddir i Ysgol Gynradd Pencoed trwy adleoli’r ysgol, yn cynnwys campws Heol y Cyw, i adeilad newydd a fydd yn cael ei adeiladu ar safle caeau chwarae Ysgol Gynradd Pencoed, gan greu ysgol â lle i 510 o ddisgyblion, yn ogystal â meithrinfa gyda 70 o ddisgyblion cyfwerth â llawnamser, 8 lle ar gyfer plant â nam gweledol,

Page 59: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 29

8 lle i arsylwi yn nosbarth y babanod a 2 ddosbarth â lle i 15 o ddisgyblion ag anawsterau dysgu cymhedrol, o 1 Ebrill 2018 ymlaen.

Bydd hyn yn galluogi disgyblion Ysgol Gynradd Pencoed sydd wedi’u lleoli ar dri safle ar wahân ar hyn o bryd i ddod ynghyd mewn un ysgol.

Camau gweithredu allweddol: Gweithdrefn statudol i wneud newid a reoleiddir i Ysgol Gynradd Pencoed.

Canlyniadau disgwyliedig: Bydd Ysgol Gynradd Pencoed yn adleoli i Ysgol Gynradd Pencoed newydd a fydd yn cael ei hadeiladu ar safle cyfredol caeau chwarae Ysgol Gynradd Pencoed, gan ddarparu 510 lle, yn ogystal â meithrinfa gyda 70 o ddisgyblion cyfwerth â llawn amser, 8 lle ar gyfer plant â nam gweledol, 8 lle i arsylwi yn nosbarth y babanod a 2 ddosbarth â lle i 15 o ddisgyblion ag anawsterau dysgu cymhedrol, o’r 1af Ebrill 2018 ymlaen.

Pwy fydd yn cael ei effeithio gan hyn: Staff, llywodraethwyr, disgyblion, rhieni a’r gymuned

Tua faint o bobl fydd yn cael eu heffeithio gan hyn: dros 1000 o bobl o bosibl

Dyddiad penderfynu disgwyliedig: Gorffennaf 2016.

Cwmpas/canolbwynt yr asesiad: Ystyried:

y defnydd y mae’r gymuned yn ei wneud o’r ysgol ar hyn o bryd; hygyrchedd i ddisgyblion, staff, rhieni a’r gymuned; effaith symud ysgol gynradd yr effaith ar adeilad yr ysgol yr effaith ar y gymuned ehangach

Data a/neu ymchwil perthnasol:

Defnydd o adeiladau’r ysgol y tu allan i oriau Adroddiad 2006 BCBC o’r enw, ‘Strategaeth, Egwyddorion, Fframwaith Polisi a

Chynllunio’, sy’n sail i’r dull o fynd i’r afael â blaenoriaethau strategol yn y Fwrdeistref Sirol a’r ‘Ddogfen Egwyddorion’ dilynol yn 2015

rhagamcaniadau o ddisgyblion, capasiti, cyflwr adeiladau

Canfyddiadau:Defnydd Cymunedol:

Mae Ysgol Gynradd Pencoed (yn cynnwys safle Heol y Cyw) yn cynnal ‘clybiau brecwast’ i ddisgyblion. Fodd bynnag, ni chaiff yr un o’r adeiladau eu defnyddio’r rheolaidd gan sefydliadau lleol nac ar gyfer dysgu oedolion a chymunedol y tu allan i oriau. Nid yw’r gymuned yn defnyddio caeau chwarae Ysgol Pencoed o gwbl (y safle arfaethedig).

Prif Bolisi: Mae’r cynnig hwn yn cyd-fynd ag egwyddorion a pholisi addysg 2006 y Cyngor o ran

darpariaeth – ‘Cymunedau Dysgu: Ysgolion y Dyfodol’ a ‘Dogfen Egwyddorion’ mis Mawrth 2015.

Page 60: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 30

Rhagamcaniadau o ddisgyblion, capasiti, cyflwr adeiladau: Mae’r rhagamcaniadau o ddisgyblion sy’n effeithio ar ysgolion cynradd yng

nghlwstwr Pencoed (sy’n cynnwys Ysgol Gynradd Coety, Ysgol Gynradd Llangrallo, Ysgol Gynradd Croesty ac Ysgol Gyfun Pencoed) yn dangos bod y boblogaeth o ddisgyblion yn cynyddu mewn rhannau penodol o’r clwstwr.

Amlinellir cyflwr yr adeiladau cyfredol isod:- Adeiladau babanod a disgyblion iau Pencoed – Yn amrywio o Gyflwr gradd B

(Boddhaol – yn perfformio fel y bwriadwyd ond yn dangos ychydig o ddirywiad) i Gyflwr Gradd C (Gwael – yn dangos diffygion mawr a/neu ddim yn gweithredu fel y bwriadwyd)

- Heol y Cyw – Cyflwr gradd B (Boddhaol – yn perfformio fel y bwriadwyd ond yn dangos ychydig o ddirywiad

Mae hygyrchedd adeiladau Pencoed a Heol y Cyw yng nghategori C (y rhan fwyaf ohonynt yn anhygyrch. Nid ydynt yn cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, ond gallai hyn newid gyda gwaith sylweddol).

Effaith ar y gymuned ehangach

Bydd effaith gadarnhaol o ran cyfleusterau cymunedol modern, hygyrch.

Effaith ar ysgolion eraill Credir na fydd adleoli’r ysgol gynradd i gae chwarae’r ysgol yn cael effaith fawr ar

ysgolion eraill yn yr ardal. Gallai newid lleoliad yr ysgol effeithio ar y disgyblion hynny sy’n byw yn Heol y

Cyw gan y byddai angen darparu bws iddynt fynd i’r ysgol newydd ym Mhencoed.

Sut bydd y penderfyniad yn effeithio ar bobl â nodweddion gwarchodedig gwahanol? :Mae’n debygol y byddai’n cael effaith gadarnhaol, gan ystyried y byddai’r ysgol newydd yn cydymffurfio’n llwyr â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd a fyddai’n cynorthwyo’r holl ddisgyblion, staff, ymwelwyr ac ati.

Ymgynghori

A ymgynghorwyd yn benodol ar y penderfyniad hwn (os na, pam a/neu pryd fydd hyn yn digwydd): Bydd yr ymgynghori’n cychwyn ar 23 Mawrth 2016.

Beth oedd canlyniadau’r ymgynghoriad? :Mae effaith y cynnig hwn wedi’i hystyried ac rydym wedi gofyn am ymatebion pellach fel rhan o’r ymgynghoriad hwn. Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad yn cael eu cofnodi a’u hadrodd i’r Cabinet yn yr Adroddiad Ymgynghori.

O ddadansoddi’r ymgynghoriad, pa safbwyntiau gwahanol a welwyd ar draws y nodweddion gwarchodedig?I’w cadarnhau ar ôl cwblhau’r ymgynghoriad

Pa gasgliadau y daethpwyd iddynt o’r dadansoddiad ar sut bydd y penderfyniad yn effeithio ar bobl â nodweddion gwarchodedig gwahanol?

Page 61: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 31

I’w cadarnhau ar ôl cwblhau’r ymgynghoriad

Asesiad o’r effaith ar staff Rhowch fanylion yr effaith ar staff, gan gynnwys proffil staffio os/fel y bo’n briodol:Mae’n bosibl y bydd y cynnig yn effeithio ar athrawon a staff nad ydynt yn dysgu. Y corff llywodraethu fydd yn penderfynu ar hyn wedi iddynt ddeall anghenion yr ysgolion unigol a’r gyllideb sydd ar gael iddynt er mwyn pennu’r strwythurau staffio sydd eu hangen.

Asesiad o’r effaith ar y gymuned ehangach Rhowch fanylion unrhyw effeithiau ar y gymuned yn gyffredinol:Mae’n bosibl y bydd yn effeithio rhywfaint ar deuluoedd gan y bydd lleoliad yr ysgol newydd oddeutu 2 filltir yn bellach i ffwrdd na safle cyfredol Heol y Cyw.

Byddai safle Heol y Cyw hefyd yn cau a, chan ystyried bod ysgolion yn cael eu gweld fel asedau cymunedol pwysig, yn arbennig mewn cymunedau pentrefi bach, fe allai adleoli safle ysgol Heol y Cyw i Bencoed beri i’r gymuned golli rhywfaint o gydlyniant.

Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar gydlyniant cymunedol gan y bydd dysgwyr Heol y Cyw yn cael eu cyd-leoli yn y brif ysgol fwy o faint ym Mhencoed.

Dadansoddi’r effaith yn ôl nodweddion gwarchodedig Rhowch grynodeb o ganlyniadau’r dadansoddiad:Credir mai’r nodweddion y gellid effeithio arnynt fyddai oedran ac anabledd.

Asesu perthnasedd ac effaith y penderfyniad ar bobl â nodweddion gwahanol Perthnasedd = Uchel/Isel/Dim Effaith = Uchel/Isel/Niwtral

Nodwedd Perthnasedd Effaith

Oedran Uchel Isel

Anabledd Uchel Isel

Ailbennu rhywedd Dim Niwtral

Priodas a phartneriaeth sifil Dim Niwtral

Beichiogrwydd a mamolaeth Dim Niwtral

Hil Dim Niwtral

Crefydd neu gred Dim Niwtral

Rhyw Dim Niwtral

Cyfeiriadedd Rhywiol Dim Niwtral

Grwpiau eraill a gaiff eu hallgáu’n gymdeithasol (yn cynnwys anghydraddoldebau iechyd) Dim Niwtral

Pan fydd unrhyw effaith negyddol wedi’i nodi, nodwch y mesurau sydd wedi’u cymryd i’w lliniaru:

Page 62: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 32

Bydd yr Awdurdod yn:

Gweithio gyda’r cyrff llywodraethu a’r ysgolion i’w cynorthwyo i bennu’r strwythurau staffio.

Annog a chefnogi’r ysgolion i barhau i ddefnyddio adeilad yr ysgol at ddefnydd cymunedol.

Sicrhau symud yn ddidrafferth gan weithio’n agos â’r ysgolion. Byddai’r ALl yn ceisio cefnogi’r ysgol i feithrin cysylltiadau cadarnhaol er

mwyn lliniaru unrhyw bryder a allai godi ynghylch yr adleoli arfaethedig.

Darparwch gyngor ar y goblygiadau cydraddoldeb cyffredinol y dylid eu hystyried yn y penderfyniad terfynol, gan roi ystyriaeth i’w perthnasedd a’u heffaith:

I’w cadarnhau ar ôl yr ymgynghoriad.

Llofnodwyd:

Rheolwr Rhaglen Ysgolion, Gwasanaethau Eiddo, Adnoddau

Dyddiad:

4 Mawrth 2016

Page 63: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 33

Atodiad B – Asesu’r Effaith ar yr Iaith Gymraeg Ysgol Gynradd Pencoed

Drafft – i’w ddiweddaru ar ôl yr ymgynghoriad

Cynnig i wneud newid a reoleiddir i Ysgol Gynradd Pencoed trwy adleoli’r ysgol, yn cynnwys campws Heol y Cyw, i adeilad newydd a fydd yn cael ei adeiladu ar safle caeau chwarae Ysgol Gynradd Pencoed, gan greu ysgol â lle i 510 o ddisgyblion, yn ogystal â meithrinfa gyda 70 o ddisgyblion cyfwerth â llawnamser, 8 lle ar gyfer plant â nam gweledol, 8 lle i arsylwi yn nosbarth y babanod a 2 ddosbarth â lle i 15 o ddisgyblion ag anawsterau dysgu cymhedrol, o 1 Ebrill 2018 ymlaen.

Gan y byddai’r ysgol Saesneg arfaethedig a adleolir yn parhau ‘fel y mae’ ond mewn lleoliad gwahanol, credir na fyddai unrhyw effaith sylweddol ar y ddarpariaeth iaith Gymraeg a brofir gan ddisgyblion yr ysgol ar hyn o bryd. Byddai’r Gymraeg yn parhau i gael ei dysgu trwy’r cwricwlwm.

Bydd yr awdurdod yn cydymffurfio â’i bolisi iaith Gymraeg trwy sicrhau bod yr holl arwyddion a ddefnyddir ar safle’r ysgol yn ddwyieithog.

Rheolwr Rhaglen Ysgolion

4 Mawrth 2016

Page 64: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 34

Atodiad C - Ffurflen sgrinio Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb (EIA)

Drafft – i’w ddiweddaru wedi’r ymgynghoriad

Enw’r polisi sy’n cael ei sgrinio Cynnig i wneud newid a reoleiddir i Ysgol Gynradd Pencoed.

Disgrifiad cryno o’r Polisi. Cynnig i wneud newid a reoleiddir i Ysgol Gynradd Pencoed trwy adleoli’r ysgol i safle caeau chwarae’r ysgol ar Heol Penprysg, Pencoed o 1 Ebrill 2018 ymlaen. Bydd hyn yn cynnwys cau ac adleoli safle Ysgol Gynradd Pencoed (Heol Y Cyw).

A yw’r polisi hwn yn ymwneud ag unrhyw bolisi arall? Rhaglen Foderneiddio’r Ysgol

Beth yw nod neu ddiben y polisi? Creu ysgol gynradd i wasanaethu dalgylch traddodiadol Pencoed.

Pwy fydd y polisi hwn yn effeithio arnynt (e.e. staff, trigolion, pobl anabl, menywod yn unig?)Staff, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned

Pwy sy’n gyfrifol am gyflwyno’r polisi hwn?Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Thrawsnewid

Rhaid cwblhau’r adrannau canlynol ar gyfer pobl polisi sy’n cael ei adolygu neu ei ddiwygio:

A yw hwn yn adolygiad o bolisi cyfredol? Na

Os yw hwn yn adolygiad neu’n ddiwygiad o bolisi cyfredol, a oes unrhyw beth wedi newid ers iddo gael ei adolygu ddiwethaf? Amherthnasol

A oes Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb (EIA) wedi’i gynnal ar y polisi hwn o’r blaen? Nac oes.

Os oes Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb (EIA) yn bodoli, pa ddata newydd sydd wedi’i gasglu ar grwpiau cydraddoldeb ers iddo gael ei gwblhau? Amherthnasol

Cwestiynau Sgrinio

1. A oes gan y polisi hwn swyddogaeth bwysig neu swyddogaeth ‘ar raddfa fawr’, ac/neu a yw’r polisi’n debygol o effeithio ar nifer fawr o staff, trigolion a/neu gontractwyr?

Oes/Ydy (Canllaw)

2. A yw’n bosibl y bydd unrhyw agwedd ar y polisi hwn yn effeithio ar bobl o wahanol grwpiau mewn gwahanol ffyrdd? (Gweler y canllaw am restr o’r ‘nodweddion gwarchodedig’ i’w hystyried)

Nodwedd Ydy Nac ydy

Ddim yn gwybod

Esboniad o’r effaith

Page 65: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 35

Oedran X Gan ystyried bod y cynnig yn ymwneud ag ysgol gynradd, bydd yn effeithio’n bennaf ar ddisgyblion 3-11 oed.

Anabledd X Mae’n debygol y byddai’n cael effaith gadarnhaol, gan ystyried y byddai’r ysgol newydd yn cydymffurfio’n llwyr â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ac yn cefnogi’r holl ddisgyblion, staff, ymwelwyr ac ati.

Ailbennu rhywedd

X Ni fydd yr opsiynau a gynigir yn effeithio’n wahanol neu’n fwy sylweddol ar bobl yn y grŵp hwn.

Beichiogrwydd a mamolaeth

X Ni fydd yr opsiynau a gynigir yn effeithio’n wahanol neu’n fwy sylweddol ar bobl yn y grŵp hwn.

Hil X Ni fydd yr opsiynau a gynigir yn effeithio’n wahanol neu’n fwy sylweddol ar bobl yn y grŵp hwn.

Crefydd/cred X Ni fydd yr opsiynau a gynigir yn effeithio’n wahanol neu’n fwy sylweddol ar bobl yn y grŵp hwn.

Rhyw X Ni fydd yr opsiynau a gynigir yn effeithio’n wahanol neu’n fwy sylweddol ar bobl yn y grŵp hwn.

Cyfeiriadedd rhywiol

X Ni fydd yr opsiynau a gynigir yn effeithio’n wahanol neu’n fwy sylweddol ar bobl yn y grŵp hwn.

Partneriaethau sifil a phriodasau

X Ni fydd yr opsiynau a gynigir yn effeithio’n wahanol neu’n fwy sylweddol ar bobl yn y grŵp hwn.

Ydy (Canllaw)

Ymhelaethwch ar eich ateb os gwelwch yn dda:

Y cynnig yw adleoli Ysgol Gynradd Pencoed (yn cynnwys safle Heol y Cyw) i safle caeau chwarae cyfredol yr ysgol a chynyddu maint yr ysgol i ddarparu ar gyfer 510 o ddisgyblion rhwng 4-11 oed, meithrinfa â lle i 70 o blant, 8 lle ar gyfer plant â nam gweledol, 8 lle i arsylwi yn nosbarth y babanod a 2 ddosbarth â lle i 15 i ddisgyblion ag anawsterau dysgu cymhedrol.

3. Beth yw’r risg y gallai unrhyw agwedd ar y polisi hwn arwain, mewn gwirionedd, at effeithiau gwahaniaethol neu niweidiol yn erbyn unrhyw grŵp o bobl? (Gweler y canllaw am restr o nodweddion gwarchodedig)

Pa gamau sydd wedi’u cymryd i leihau’r risg hon? Canllaw

Page 66: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 36

Ymhelaethwch os gwelwch yn dda:

Mae’n annhebygol y bydd unrhyw effaith uniongyrchol ar unrhyw grŵp gwarchodedig, ar wahân i symudiad ffisegol yr ysgol i leoliad newydd i wasanaethu disgyblion sy’n bennaf rhwng 3-11 oed yn nalgylch yr ysgol. Fodd bynnag, bydd yr ysgol newydd yn cydymffurfio’n llawn â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, a bydd ganddi gyfleusterau i’r anabl i gefnogi pob dysgwr, staff ac ymwelydd anabl. Ystyrir hon felly’n effaith gadarnhaol.

4. A allai unrhyw agwedd ar y polisi hwn helpu BCBC i gyflawni prif ddyletswyddau’r sector cyhoeddus? Cofiwch fod y ddyletswydd yn cynnwys 9 o nodweddion gwarchodedig. Canllaw

Dyletswydd IE NA Ddim yn gwybod

Cael gwared â gwahaniaethu, aflonyddwch, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf X

Datblygu cyfle cyfartal rhwng pobl â nodweddion gwarchodedig a phobl nad ydynt yn rhannu’r un nodweddion X

Meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu X

5. A allai unrhyw agwedd ar y polisi hwn helpu BCBC i fynd â’r ymrwymiadau a nodir yng Nghynllun Iaith Gymraeg y cyngor ymhellach?

Gan mai’r cynnig yw adleoli ac ymestyn yr ysgol Saesneg i safle o fewn yr ardal, nid ystyrir y bydd unrhyw effaith ar y ddarpariaeth o’r iaith Gymraeg a brofir gan ddisgyblion ar hyn o bryd. Byddai’r Gymraeg yn parhau i gael ei dysgu trwy’r cwricwlwm.

6. A ydych yn ymwybodol o unrhyw dystiolaeth fod gan grwpiau gwahanol anghenion, profiadau, materion a/neu flaenoriaethau gwahanol mewn cysylltiad â’r polisi hwn?

Na (Canllaw)

7. A yw’r polisi hwn yn debygol o effeithio ar Gydlyniant Cymunedol?Mae’n bosibl y bydd yn effeithio rhywfaint ar deuluoedd gan y bydd lleoliad yr ysgol newydd oddeutu 2.2 milltir (3.5km) yn bellach na safle cyfredol Heol y Cyw.

Nodwch eich rhesymau dros yr atebion a roddwyd yng nghwestiwn 4 yn llawn, gan gynnwys ymwybyddiaeth o sut y gellir cyfiawnhau eich penderfyniadau.

Bydd y cynnig yn sicrhau bod pob dysgwr, yn cynnwys y rheini ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol, yn cael mynediad i amgylchedd ddysgu sy’n cefnogi eu hanghenion. Bydd mwy o ddisgyblion o’r cymunedau lleol a nodir gan y cynnig yn rhannu’r un ysgol, yn arbennig y rheini sydd ar safle Heol y Cyw ar hyn o bryd, a gallai hyn, felly, gefnogi mwy o gydlyniant rhwng y ddwy gymuned.

Page 67: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 37

Byddai safle Heol Y Cyw hefyd yn cau a, chan ystyried bod ysgolion yn cael eu gweld fel asedau cymunedol pwysig, yn arbennig mewn cymunedau pentrefi bach, fe allai adleoli safle ysgol Heol y Cyw i Bencoed beri i’r gymuned golli rhywfaint o gydlyniant.

Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar gydlyniant cymunedol gan y bydd dysgwyr Heol y Cyw yn cael eu cyd-leoli yn y brif ysgol fwy o faint ym Mhencoed.

Serch hynny, pan gaiff ysgolion sy’n gyfleusterau cymunedol eu symud allan o ganol y gymuned, mae potensial yn bodoli o hyd am rywfaint o bryder cychwynnol o fewn y gymuned leol.

Byddai’r ALl yn ceisio cefnogi’r ysgol i feithrin cysylltiadau cadarnhaol er mwyn lliniaru unrhyw bryder a allai godi ynghylch yr adleoli arfaethedig.

Casgliadau

8. Pa lefel o flaenoriaeth EIA fyddech chi’n ei rhoi i’r polisi hwn? (Canllaw)

UCHEL - EIA llawn o fewn 6 mis, neu cyn i’r polisi gael ei gymeradwyo

Given the

9. A effeithir ar yr amserlen ar gyfer EIA gan unrhyw ddylanwadau eraill, e.e. dyddiad cau y Pwyllgor, dyddiad cau allanol, rhan o broses adolygu ehangach?

(Canllaw)Na

10. Pwy fydd yn cwblhau’r EIA llawn?

Rheolwr Grŵp, Strategaeth a Pherfformiad Busnes

Sgrinio EIA wedi’i gwblhau gan: Rheolwr Grŵp, Strategaeth a Pherfformiad Busnes

Dyddiad: 01/02/2016Adroddiad ar Ysgol Gynradd Pencoed

Ionawr 2011

Crynodeb

Perfformiad cyfredol yr ysgol DaCyfleoedd gwella’r ysgol Da

Esboniwch yn llawn y rhesymau dros y farn hon, gan gynnwys ymwybyddiaeth o sut y gellir cyfiawnhau eich penderfyniadau.

Mae’n debygol y bydd diddordeb sylweddol yn y cynigion gan y bydd yn effeithio’n bennaf ar gymuned Heol y Cyw gan y bydd safle’r ysgol yn adleoli i Bencoed.

Gan gymharu’r cynllun hwn â chynlluniau eraill tebyg a gyflawnwyd yn y Fwrdeistref Sirol, rhagwelir y bydd angen EIA llawn maes o law.

Page 68: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 38

Perfformiad cyfredol

Mae’r ysgol yn dda oherwydd: mae’r safonau yn asesiadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol (CC) yn uwch na’r

cyfartaledd lleol a chenedlaethol Mae sgiliau cyfathrebu, rhifyddeg, TGCh a Chymraeg yn dda. Mae’r safonau mewn pynciau’n dda, yn enwedig mewn Saesneg, mathemateg a

TGCh. Mae’r addysgu’n dda ar y cyfan.

Cyfleoedd i wella

Argymhellion

Er mwyn gwella ymhellach, mae angen i Ysgol Gynradd Pencoed:

A1 cryfhau cynlluniau athrawon er mwyn cynnig mwy o her i’r disgyblion mwy abl a thalentog a chael disgwyliadau uwch o’r hyn y dylent eu cyflawni;

A2 parhau i loywi’r trefniadau asesu er mwyn codi safonau ymhellach;

A3 sicrhau bod yr addysgu ardderchog a welwyd mewn rhai dosbarthiadau’n gyson ar draws yr ysgol; ac

A4 adolygu’r lleoedd dysgu mewnol i blant yn y feithrinfa lawn-amser ac yn y dosbarthiadau derbyn.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd yr ysgol yn llunio cynllun gweithredu sy’n dangos sut bydd yn mynd i’r afael â’r argymhellion.

Mae’r cyfleoedd i wella’n dda oherwydd: mae arweinyddiaeth yr ysgol yn canolbwyntio ar wella ansawdd ac yn parhau i

ddatblygu gwaith gyda phartneriaid; mae gan yr ysgol broses hunanwerthuso drwyadl; mae gan y staff ymrwymiad cryf i barhau i wella ymhellach; ac mae’r ysgol wedi dechrau gwerthuso perfformiad yn fanwl yn ddiweddar.

Page 69: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 39

Adroddiad ar Ysgol Gynradd Coety 8 Chwefror 2011

Crynodeb

Perfformiad cyfredol yr ysgol DaCyfleoedd gwella’r ysgol Da

Perfformiad cyfredol

Cyfleoedd i wellaPrif Werthusiad

Mae’r ysgol yn dda oherwydd:

mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn gwneud cynnydd da mewn dysgu;

mae’r addysgu o safon dda;

mae’r ysgol yn darparu profiadau dysgu da i bob disgybl; ac

mae pob disgybl yn mwynhau’r ysgol ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael gofal da o fewn ethos cefnogol iawn.

Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud ar y materion a nodwyd yn yr adolygiad arolygu blaenorol fel rhai oedd angen sylw.

Mae’r safonau cyrhaeddiad yn dda yn gyson ac maent wedi cael eu cynnal o un flwyddyn i’r llall ym mhob un o’r pynciau craidd.

Caiff yr ysgol ei harwain yn effeithiol ac mae ganddi synnwyr clir o ddiben a chyfeiriad a rennir. O ganlyniad, mae’r tîm arolygu’n hyderus y bydd yr ysgol yn gallu gwneud gwelliannau pellach.

Page 70: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 40

Adroddiad ar Ysgol Gynradd Coety 8 Chwefror 2011

Argymhellion

Mae’r arolygwyr a’r ysgol wedi cytuno ar yr argymhellion canlynol i wella:

A1 datblygu sgiliau dwyieithog disgyblion ymhellach;

A2 sicrhau bod adroddiadau i rieni’n cynnwys digon o fanylion i ddarparu gwybodaeth iddynt am gynnydd eu plant, ac

A3 ailfodelu’r gweithlu’n gyfan gwbl.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd yr ysgol yn llunio cynllun gweithredu sy’n dangos sut bydd yn mynd i’r afael â’r argymhellion.

Prif ganfyddiadau

Cwestiwn Allweddol 1: Pa mor dda yw’r canlyniadau? Da

Safonau: Da

Pan fydd disgyblion yn cychwyn yn yr ysgol, mae’r rhan fwyaf ohonynt yn arddangos sgiliau cymedrol mewn gwrando, siarad a rhifedd. Maent yn gwneud cynnydd da tuag at ganlyniadau’r Cyfnod Sylfaen ac mae’r mwyafrif yn gwneud cynnydd da o un flwyddyn i’r llall.

Ar ben uchaf cyfnod allweddol 1 yn 2010, roedd cyrhaeddiad dysgwyr, yn ôl asesiad athro o bynciau craidd y cwricwlwm cenedlaethol (CC) , sef Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth, yn uwch na’r cyfartaledd lleol a chenedlaethol. O ganlyniad, roedd yr ysgol ymhlith y 50% o ysgolion gorau, ond yn is na’r 25% o ysgolion gorau â chanran debyg o brydau bwyd ysgol am ddim, sy’n debyg i flynyddoedd blaenorol. Pan gymharwyd hi â grŵp o ysgolion gyda nodweddion tebyg, roedd yn uwch na’r cyfartaledd mewn Saesneg a mathemateg ac yn debyg mewn gwyddoniaeth. Roedd cyrhaeddiad dysgwyr ar lefel 3, y lefel uchaf sydd ar gael i blant saith oed, yn debyg i’r cyfartaledd lleol, cenedlaethol a’r teulu o ysgolion tebyg mewn Saesneg a gwyddoniaeth, ac yn uwch o lawer mewn mathemateg. Roedd perfformiad bechgyn yn is na pherfformiad merched.

Ar ben uchaf cyfnod allweddol 2 yn 2010, roedd cyrhaeddiad dysgwyr mewn Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth yn uwch na’r cyfartaledd lleol a chenedlaethol. O ganlyniad, roedd yr ysgol ymhlith y 50% o ysgolion gorau ond yn is na’r 25% o ysgolion gorau â chanran tebyg o brydau bwyd ysgol am ddim, sy’n debyg i flynyddoedd blaenorol. Roedd cyrhaeddiad dysgwyr ar lefel 5, y lefel uchaf sydd ar gael i blant 11 oed, ymhell uwchlaw’r cyfartaledd lleol, cenedlaethol a’r grŵp o ysgolion â nodweddion tebyg ym mhob pwnc. Roedd perfformiad bechgyn yn is na pherfformiad merched.

Yn y ddau gyfnod allweddol, mae disgyblion ag AAA yn gwneud cynnydd priodol o ran eu targedau.

Page 71: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 41

Adroddiad ar Ysgol Gynradd LlangralloMawrth 2014

Crynodeb

Perfformiad cyfredol yr ysgol DaCyfleoedd gwella’r ysgol Da

Perfformiad cyfredol

Mae perfformiad cyfredol yr ysgol yn dda oherwydd:

mae’r canlyniadau ar ddiwedd cyfnod allweddol 2 yn uwch na’r disgwyl; mae bron pob disgybl yn gwneud cynnydd da yn eu dysgu; mae ymddygiad y disgyblion o safon uchel; mae cysylltiad cadarnhaol rhwng y disgyblion a’r staff mae’r addysgu o safon uchel yn gyson yn y mwyafrif o ddosbarthiadau; mae’r disgyblion yn cael eu hysgogi’n dda, maent yn gwrtais ac yn mwynhau’r

ysgol; ac mae’r ysgol yn gymuned gynhwysol.

Mae cyfleoedd yr ysgol i wella’n dda oherwydd:

mae’r prifathro, y staff a’r llywodraethwyr yn rhannu gweledigaeth gadarn ar gyfer datblygiad yr ysgol yn y dyfodol;

mae proses hunanwerthuso drwyadl ar waith, sy’n defnyddio ystod eang o dystiolaeth uniongyrchol;

mae cynlluniau gwella’r ysgol yn canolbwyntio’n agos ar godi lefelau cyrhaeddiad disgyblion;

mae gan yr uwch dîm rheoli a’r llywodraethwyr ddealltwriaeth dda o gryfderau’r ysgol a’r meysydd sydd angen eu datblygu;

mae partneriaethau â’r rhieni a’r gymuned leol yn gryf; mae gwaith tîm a chyfathrebu’n effeithiol ar bob lefel; ac mae’r ysgol yn rheoli ei hadnoddau’n dda.

Page 72: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 42

Adroddiad ar Ysgol Gynradd LlangralloMawrth 2014

Argymhellion

A1 Gwella’r canlyniadau ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen

A2 Gwella’r ddarpariaeth ar gyfer ysgrifennu estynedig ar draws y cwricwlwm

A3 Sicrhau cysondeb yn safon yr addysgu trwy gydol yr ysgol

A4 Gwella’r ardal awyr agored i ddisgyblion hŷn yn y Cyfnod Sylfaen

A5 Gwella presenoldeb ymhellach

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd yr ysgol yn llunio cynllun gweithredu sy’n dangos sut mae’n mynd i fynd i’r afael â’r argymhellion.

Page 73: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 43

Adroddiad ar Ysgol Gynradd Croesty Tachwedd 2013

Crynodeb

Perfformiad cyfredol yr ysgol DigonolCyfleoedd gwella’r ysgol Da

Cyfleoedd i wella

Mae perfformiad cyfredol yr ysgol yn ddigonol oherwydd:

mae’r perfformiad ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen ac asesiadau cyfnod allweddol 2 wedi gwella yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf;

mae safon gyfredol y gwaith mewn llyfrau llawer o ddisgyblion yn dda; mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn ymddwyn yn dda ac yn gwrtais, ac mae ganddynt

agwedd dda tuag at ddysgu; mae safon yr addysgu’n dda ac mae’r athrawon yn darparu gweithgareddau diddorol a

pherthnasol sy’n diwallu anghenion y mwyafrif o ddisgyblion; mae’r staff yn darparu lefel uchel o ofal, cymorth ac arweiniad i ddisgyblion; mae’r ysgol yn gymuned gynhwysol lle caiff disgyblion eu gwerthfawrogi; ac mae ystod eang o bartneriaethau’n cael effaith fuddiol ar gyrhaeddiad disgyblion.

Fodd bynnag:

Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, mae perfformiad cyffredinol yr ysgol mewn asesiadau ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen a chyfnod allweddol 2 wedi gosod yr ysgol ymhlith y 50% o ysgolion gwaethaf sydd â chyfrannau tebyg o ddisgyblion â’r hawl i gael prydau bwyd ysgol am ddim;

nid yw sgiliau ysgrifennu estynedig a rhifedd llawer o ddisgyblion yng nghyfnod allweddol 2 wedi’u datblygu’n dda ar draws y cwricwlwm;

nid yw’r lefelau presenoldeb cystal ag y dylent fod; ac nid yw llawer o’r disgyblion yn ymwneud yn ddigonol ag asesu eu dysgu eu hunain.

Mae cyfleoedd yr ysgol i wella’n dda oherwydd:

mae gan arweinwyr yr ysgol weledigaeth glir ar gyfer datblygiad yr ysgol yn y dyfodol ac mae’r uwch dîm arwain sydd newydd ei sefydlu yn dechrau cael effaith ar safonau pob dysgwr;

mae gan arweinwyr yr ysgol ddealltwriaeth gywir o gryfderau’r ysgol a’r meysydd sydd angen eu datblygu, a ddaw yn sgil trefniadau hunanasesu effeithiol;

mae pob aelod o’r staff yn deall yr hyn sydd angen ei wneud i roi strategaethau gwella ar waith, sydd eisoes wedi cael effaith gadarnhaol ar godi safonau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf; ac

mae’r corff llywodraethu’n gwneud yr ysgol yn atebol am y safonau y mae’n ei chyflawni yn effeithiol.

Page 74: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 44

Adroddiad ar Ysgol Gynradd Croesty Tachwedd 2013

Argymhellion

A1 Codi safonau fel bod mwy o ddisgyblion yn cyrraedd y lefel a ddisgwylir am eu hoedran ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen a chyfnod allweddol 2

A2 Gwella gallu’r disgyblion i ddefnyddio’u sgiliau rhifedd ac ysgrifennu estynedig ar draws y cwricwlwm yng nghyfnod allweddol 2

A3 Gwella presenoldeb disgyblion

A4 Mynd i’r afael â’r anghydbwysedd sylweddol mewn maint dosbarthiadau yn y Cyfnod Sylfaen

A5 Gwella cyfleoedd i ddisgyblion asesu eu dysgu eu hunain

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd yr ysgol yn llunio cynllun gweithredu sy’n dangos sut mae’n gwneud cynnydd o ran mynd i’r afael â’r argymhellion. Bydd Estyn yn monitro cynnydd yr ysgol.

Page 75: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 45

Adroddiad gan William Gwyn ThomasYsgol Gyfun Pencoed, 19/04/10

lefel 5 yn asesiadau’r athrawon ym mhob un o’r pynciau craidd gyda’i gilydd ar ddiwedd CA3 (Saesneg 75%, mathemateg 80% a gwyddoniaeth 82%).

Perfformiad mewn arholiadau allanol ar ddiwedd CA4

11. Yn 2010, y canrannau canlynol o ddisgyblion 15 oed sydd wedi’u targedu i gyflawni yw:

Trothwy Lefel 1 (y cymwysterau ar lefel 1 sy’n gyfwerth â 5 Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd (TGAU) ar radd A*-G)

91%

Trothwy Lefel 2 (y cymwysterau ar lefel 2 sy’n gyfwerth â 5 TGAU ar radd A*-C) 62%Trothwy Lefel 2 gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf a mathemateg (y cymwysterau ar lefel 2 sy’n gyfwerth â 5 TGAU ar radd A*-C, gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf a mathemateg)

48%

Dangosydd pwnc craidd (DPC) Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf, gwyddoniaeth a mathemateg gyda’i gilydd

45%

Gadael addysg lawnamser heb gymhwyster cydnabyddedig 0%Sgôr Pwyntiau Cyfartalog Ehangach (AWPS) 365

Perfformiad mewn arholiadau allanol ar ddiwedd y flwyddyn (B) 12/13

12. Yn 2010, y canran canlynol o fyfyrwyr 17 oed sydd wedi’u targedu i gyflawni yw:

Trothwy Lefel 3 (y cymwysterau ar lefel 3 sy’n gyfwerth â 2 lefel Uwch (A) ar radd A-E)

97%

AWPS (nid canran) 695

Crynodeb

13. Ysgol gymunedol yw Ysgol Gyfun Pencoed sy’n darparu cymorth ac arweiniad da i’w disgyblion. Mae’r profiadau dysgu a ddarperir gan yr ysgol o safon dda. Dan arweiniad y pennaeth newydd ei benodi a’i Dîm Arwain Ysgol, mae’r ysgol yn barod i symud ymhellach ymlaen. Mae’r tîm arolygu’n cytuno â’r farn a gyflwynwyd gan yr ysgol yn ei hadroddiad hunanwerthuso ar gyfer cwestiwn allweddol 4. Mae’n anghytuno â barn yr ysgol ar y chwe chwestiwn allweddol eraill a arolygwyd.

Tabl o’r graddau a ddyfarnwyd

Cwestiwn Allweddol Gradd Arolygu

1 Pa mor dda mae’r dysgwyr yn cyflawni? 32 Pa mor effeithiol yw’r addysgu, yr hyfforddiant a’r asesu? 33 Pa mor dda mae’r profiadau dysgu’n diwallu anghenion a diddordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach?

2

4 Pa mor dda yw’r gofal, yr arweiniad a’r gefnogaeth a gaiff dysgwyr? 25 Pa mor effeithiol yw’r arweinyddiaeth a’r rheoli strategol? 36 Pa mor dda mae’r arweinwyr a’r rheolwyr yn gwerthuso a gwella’r ansawdd a’r safonau?

3

7 Pa mor effeithlon yw’r arweinwyr a’r rheolwyr am ddefnyddio adnoddau? 3

Page 76: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 46

Adroddiad gan William Gwyn ThomasYsgol Gyfun Pencoed, 19/04/10

strategaethau ar gyfer codi safonau. Nid yw sawl adroddiad adrannol yn ddigon eglur ac maent yn rhy ddisgrifiadol.

54 Mae pob aelod o’r staff yn ymwneud yn llawn â’r broses hunanwerthuso.

55 Nid yw’r cyswllt rhwng y gwerthusiad o’r ysgol gyfan a chynllunio ar gyfer gwella yn ddigon cryf ac nid oes gan y mwyafrif o gynlluniau datblygu adrannol (DDP) ddigon o bwyslais ar strategaethau trwyadl a meini prawf llwyddiant i godi safonau.

56 Mae gan bob aelod o’r staff addysgu y cymwysterau a’r profiad priodol. Maent yn sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei gyflawni’n effeithiol. Mae’r cynorthwywyr cymorth dysgu (LSA), ynghyd â thîm cryf o bersonél cymorth arbenigol yn darparu cymorth da. Fodd bynnag, nid oes digon o LSA ar hyn o bryd i ddarparu’r lefel briodol o gymorth.

57 Mae aelodau o’r staff cymorth technegol a gweinyddol yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy i gefnogi’r rhaglenni addysgu a dysgu.

58 Mae’r adnoddau dysgu a’r cyfleusterau i gyflwyno’r cwricwlwm yn dda. Mae buddsoddi mewn TGCh wedi sicrhau bod gan bob aelod o staff a dysgwr fynediad i’r datblygiadau diweddaraf mewn technoleg gyfrifiadurol.

59 Mae ansawdd yr adeiladau a’r cyfleusterau’n amrywio. Mae angen ailwampio llawer o ardaloedd yr ysgol. Mae’r tîm rheoli safle’n gwneud cyfraniad sylweddol at gynnal a chadw campws yr ysgol.

60 Mae’r systemau ar gyfer rheoli’r gyllideb yn dda. Mae’r chweched dosbarth mawr yn hunan-gyllidol ac yn rhoi gwerth da am arian. Mae gan bob aelod o’r staff fynediad i raglen ddatblygu staff a reolir yn dda. Maent yn cael rhaglen hyfforddi fwriadol bob blwyddyn.

61 O ganlyniad i’r safonau isel a gyflawnir gan ddysgwyr ar draws yr ysgol, ansawdd yr addysgu a’r gwaith o reoli a monitro nifer sylweddol o brosesau a gweithdrefnau ysgol gyfan, dim ond digonol yw’r gwerth am arian a gyflawnir gan yr ysgol.

62 Nid chafodd llawer o’r materion allweddol a nodwyd yn adroddiad arolygu 2004 eu datrys yn effeithiol. Nid yw’r safonau cyflawni yn CA3; gwelliannau mewn addysgu a dysgu; ymddygiad nifer fach o ddisgyblion na chydlynu rhifedd wedi’u datrys yn ddigonol.

Argymhellion

63 Er mwyn cyflawni ei hamcanion, dylai’r ysgol ganolbwyntio ar y blaenoriaethau canlynol.

A1 Codi safonau disgyblion yn sylweddol mewn gwyddoniaeth ar draws yr ysgol ac mewn mathemateg CA4, ac iechyd a gofal cymdeithasol yn y chweched dosbarth.

*A2 Sicrhau bod pob aelod o’r Tîm Arwain Ysgol yn:

cydlynu mentrau’r ysgol gyfan o ran asesu ar gyfer dysgu; monitro safon gwaith rheolwyr canol yn drwyadl ac yn gyson; a rhannu arferion gorau i hyrwyddo nodweddion rhagorol ar draws y cwricwlwm.

Page 77: BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL · Web view3.5Ar 8 Chwefror 2011, penderfynodd y Cabinet ddirwyn Ysgol Gynradd Heol y Cyw i ben o 31 Awst 2011 a gwneud addasiad rhagnodedig i Ysgol

www.bridgend.gov.uk 47

Adroddiad gan William Gwyn ThomasYsgol Gyfun Pencoed, 19/04/10

*A3 Datblygu atebolrwydd pob deiliad swydd â chyfrifoldeb dros arwain timau staff, gan fonitro a gwerthuso’r ymarfer yn gyson a chynllunio ar gyfer gwelliant.

A4 Sicrhau systemau gwerthuso a chynllunio trwyadl ac annibynnol gyda phwyslais clir ar godi safonau addysgu a dysgu.

A5 Sicrhau bod trefniadau asesu’r ysgol yn gyson ac yn cael eu defnyddio’r drwyadl ac yn gywir ar draws yr ysgol er mwyn codi safonau. Datblygu system gosod targedau’r ysgol er mwyn sicrhau bod targedau’n realistig ac yn heriol.

A6 Cynyddu cyfran yr addysgu da a rhagorol yn sylweddol trwy fynd i’r afael ag anghysondebau, yn arbennig o ran her, cyflymder ac ymddygiad disgyblion.

A7 Gwella gallu’r corff llywodraethu i ymddwyn fel cyfaill beirniadol yr ysgol trwy wella’i drefniadau monitro a gwneud rheolwyr yn atebol yn fwy effeithiol.

* Mae’r Cynllun Datblygu Strategol yn mynd i’r afael â nifer o’r argymhellion hyn.

Mae’r corff llywodraethu yn gyfrifol am ddiwygio’i Gynllun Datblygu Strategol cyfredol i gynnwys camau gweithredu mewn ymateb i’r argymhellion o fewn 45 diwrnod gwaith i dderbyn yr adroddiad hwn, gan ddangos beth mae’r ysgol yn mynd i’w wneud ynghylch yr argymhellion. Bydd y cynllun hwn, neu grynodeb ohono, yn cael ei ddosbarthu i bob rhiant yn yr ysgol.

Safonau

Cwestiwn Allweddol 1: Pa mor dda mae’r dysgwyr yn cyflawni?

Gradd 3: Mwy o nodweddion da na gwendidau

64 Dyfarnodd yr ysgol radd 2 iddi ei hun yn yr adroddiad hunanwerthuso. Mae’r radd a ddyfarnwyd gan y tîm arolygu un radd yn is gan fod mwy o nodweddion da na gwendidau.

CA3 a CA4

Llwyddiant disgyblion o ran cyflawni nodau dysgu

65 Mae’r canlyniadau yn asesiadau athrawon o’r pynciau craidd a di-graidd ar ddiwedd CA3 wedi bod yn ddigonol mewn dwy o’r tair blynedd flaenorol. Fodd bynnag, yn 2009, roedd y cyrhaeddiad wedi gwella mewn mathemateg, y Dangosydd Pwnc Craidd (CSI) a rhai pynciau di-graidd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Roedd y canlyniadau mewn mathemateg a gwyddoniaeth ymhlith hanner uchaf y canlyniadau o’u cymharu â chanlyniadau ysgolion tebyg yng Nghymru, ar sail dangosydd Prydau Bwyd Ysgol am Ddim yn y cwmpas 10-15% .

66 Roedd y cyrhaeddiad ar CA3 yn uwch na’r disgwyl yn 2009, ar sail cyrhaeddiad blaenorol, mewn mathemateg a gwyddoniaeth ac yn is na’r disgwyl yn y Dangosydd Pwnc Craidd a Saesneg.

67 Roedd canran y disgyblion a oedd yn cyrraedd lefel 5 neu’n uwch mewn Saesneg yn debyg i’r cyfartaledd cenedlaethol ac yn uwch na’r cyfartaledd lleol. Roedd canran y disgyblion a oedd yn cyrraedd lefel 5 neu’n uwch yn y Dangosyddion Pwnc Craidd, mathemateg a gwyddoniaeth yn uwch na’r cyfartaledd lleol a chenedlaethol yn 2009. O’i chymharu â’i theulu o naw ysgol, roedd y canlyniadau’n gosod yr ysgol yn is na’r cyfartaledd teuluol yn y dangosyddion hyn.