pennaeth- ysgol y gwernant - denbighshire...mae ysgol y gwernant yn ysgol gyfrwng gymraeg...

10
Pennaeth- Ysgol Y Gwernant Pecyn Swydd Wag

Upload: others

Post on 14-Feb-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Pennaeth- Ysgol Y Gwernant Pecyn Swydd Wag

  • Llythyr gan Gadeirydd y Llywodraethwyr Annwyl Ymgeisydd Diolch i chi am eich diddordeb yn swydd Pennaeth Ysgol Gymraeg y Gwernant . Rydym yn chwilio am unigolyn eithriadol i ymuno ac arwain ein hysgol, yn dilyn ymadawiad ein Pennaeth uchel ei pharch, Mrs Bethan Jones. Mae Ysgol y Gwernant yn ysgol gyfrwng Gymraeg llwyddiannus gyda thua 149 o ddisgyblion yn dod o Langollen a chymunedau cyfagos, sy'n cael eu cefnogi gan dîm rhagorol, ymroddedig o athrawon a staff cefnogi. Fel y cadarnhawyd yn adroddiad arolygu 2019 Estyn, mae'r ysgol yn perfformio'n dda ac yn gyson iawn i safonau uchel. Ymhlith y cryfderau a amlygir gan arolygwyr Estyn y mae ethos Cymreig cryf yr ysgol a'r defnydd a wneir o'r Gymraeg gan y disgyblion. Mae'r adroddiad yn disgrifio ysgol Y Gwernant fel "cymuned hapus, ofalgar a chynhwysol", ac yn canmol gwaith rhagorol y staff addysgu a chefnogi a chyflawniad ac ymddygiad disgyblion. Rydym yn chwilio am Bennaeth a fydd yn cynnal yr ethos hwn ac yn parhau i wella ar y safonau uchel a osodwyd gennym. Yn unol â hynny, mae'r Corff Llywodraethol yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd â sgiliau arwain a rheoli cryf, a'r gallu i ysbrydoli, i herio, ac i gymell eraill i gyrraedd eu llawn botensial. Byddwch yn ymarferwr effeithiol sydd wedi ymrwymo'n llwyr i fod yn gynhwysol ac i godi safonau ar gyfer pob disgybl. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cyflawni gweledigaeth strategol glir ar gyfer yr ysgol. Bydd gennych yr ysgogiad a'r sgiliau i hyrwyddo'r gwaith o rannu arferion rhagorol ac i sicrhau lefelau uchel o gyflawniad i bawb. Mae'r rôl yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y swydd feddu ar gymhwyster CPCP, neu yn ymgeisio amdano. Byddai disgwyl i ymgeiswyr sydd heb cymhwyster CPCP ei gyflawni o fewn 24 mis ar ôl eu penodi. Mae’r Corff Llywodraethol yn gydwybodol ac yn cymryd eu cyfrifoldeb o ddifrif, ac fydd gan y Pennaeth gefnogaeth gref i sicrhau lles parhaus disgyblion a staff, a llwyddiant parhaus yr ysgol. Diolch am gymryd diddordeb yn y swydd arweinyddiaeth hon. Os hoffech drefnu ymweliad â'r ysgol, neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Mrs Bethan Jones ar 07774002722. Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais Athro Jethro Newton Cadeirydd y Llywodraethwyr

  • Yr ardal

    Lleolir Ysgol y Gwernant yn Llangollen, Sir Ddinbych, tref hardd a bywiog gyda thraddodiad hanesyddol a ddiwylliannol cryf. Mae’n gymuned balch, clos a chymwynasgar sydd wedi hen arfer a chroesawu ymwelwyr o bob rhan o’r byd. Cynhelir Eisteddfod Gerddorol Rhyngwladol yma yn flynyddol, ac yn sicr hyn sydd wedi cyfrannu at ysbryd cytûn, hyderus a chyfeillgar unigryw pobl ardal Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy. Yn gyffredinol mae’r trigolion yn weithgar iawn, gyda llu o gymdeithasau a phwyllgorau sydd yn ceisio gwella a datblygu ansawdd bywyd yr ardal i bawb. Rydym yn sicr bod y fro yn le da i fyw, gweithio ac ymgartrefu ynddi. Mae prisiau tai yn rhesymol ac y mae nifer o ysgolion a cholegau safonol wrthlaw. Mae Sir Ddinbych ei hun yn llawn o gyfleuon hamdden llesol sydd yn manteisio ar ein amgylchfyd hardd...y bryniau a’r afonydd gwylltion, traethau glân, coedwig a chestyll hynafol. Gellir darganfod mannau tawel a heddychlon yn ogystal â threfi bach prysur a siopau arbennig. Gallwch hefyd teithio yn hawdd i bob rhan o Gymru ac ymhellach. Mae yna rhwydwaith trafnidiaeth da, gyda meysydd awyr cyfleus dros y ffîn.

    Ysgol Y Gwernant

    Yr Wyddfa

    Caer

    Llangollen

    Bangor

    Caernarfon

  • Ysgol Y Gwernant “Gwreiddiau i dyfu. Iaith i’w thrysori” Ein Gweledigaeth : Ein gweledigaeth yw i gynnig Addysg Gymraeg o’r safon uchaf i Langollen a’r ardal gyfagos. Drwy hyn, byddwn yn datblygu aelodau o’r gymuned fydd yn hapus, hyderus ac yn ddwyieithog. Ein Gwerthoedd :

    Hapusrwydd Iaith a Diwylliant Cymreig Gwneud ein gorau Bod yn annibynnol Tyfu’n iach a diogel Parchu’r Gymuned a’r Amgylchedd

    Ein Amcanion yw :

    I sicrhau fod pob plentyn yn hapus ac yn parchu ei gilydd I sicrhau fod pob plentyn yn datblygu i’w lawn botensial I sicrhau fod pob plentyn yn parchu Cymreictod ac yn gallu siarad Cymraeg I sicrhau fod pob plentyn yn datblygu i fod yn unigolyn hyderus ac annibynnol I sichrau fod pob plentyn yn datblygu’r sgiliau hanfodol i ymdrechu a llwyddo I drin pawb yn gyfartal I sicrhau fod pob plentyn yn deall y pwysigrwydd o gadw’n iach a diogel I sicrhau fod pob plentyn yn parchu ein byd gwerthfawr a’r gymuned y maent yn byw

    ynddi

  • Pennaeth - Ysgol Y Gwernant

    Cyflog: L9 - L15, £50,026 - £57,986 Lleoliad: Llangollen Oedran: 3-11 oed Contract: Parhaol Dyddiad cau: 23 Awst 2020 Dyddiad Asesiad: 28/29 Medi 2020 Mae Corff Llywodraethu Ysgol Y Gwernant, Llangollen yn dymuno penodi pennaeth rhagorol ac ysbrydoledig llawn amser, i arwain ein hysgol gynradd hapus a llwyddiannus. Mae’r ysgol yn cynnwys oddeutu 149 plentyn dynamig ac amrywiol a tîm o staff ymroddgar a thalentog, y cyfan yn cynnal cred yr ysgol sef ‘Parch, Ymdrech, Balchder’. Cafodd Y Gwernant ganlyniad da yn arolwg Estyn y llynedd ac mae’n rhaid i’r pennaeth newydd gymell a chynnal safonau uchel, hybu a rhannu arfer rhagorol i sicrhau y cyflawnir safonau uchel. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus: Weledigaeth glir ac ymrwymiad i barhau i wella’r ysgol, adeilad a’r cryfderau presennol Bod yn rheolwr ac arweinydd llwyddiannus â’r gallu i rymuso, datblygu a herio Bod yn gyfathrebwr ardderchog gydag ymrwymiad cryf i weithio gyda phlant, staff, rhieni,

    llywodraethwyr a’r gymuned leol Gallu datblygu perthnasoedd proffesiynol cryf, dirprwyo’n effeithiol a meddu ar sgiliau

    rhyngbersonol a threfnu ardderchog. Yn gyfnewid am hyn, rydym yn cynnig: Cymuned hapus gyda phlant sy’n ymddwyn yn dda ac yn frwdfrydig Y cyfle i weithio gyda staff ymroddedig, brwdfrydig a medrus Corff Llywodraethu cefnogol, rhagweithiol Ymrwymiad i gefnogi eich datblygiad gyrfa proffesiynol a phersonol

    Sut i ymgeisio: I wneud cais am y cyfle anhygoel hwn, cwblhewch ein ffurflen gais drwy'r wefan Cyngor Sir Ddinbych www. sirddinbych.gov.uk.

    Mae Cyngor Sir Ddinbych yn Gyflogwr Anabledd Hyderus ac yn ymroddedig i Gyfle Cyfartal a Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw ffurflenni cais a dderbynnir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na ffurflenni cais a gyflwynir yn Saesneg. Am ddulliau amgen o wneud cais, ffoniwch AD ar 01824 706200

  • Swydd-Ddisgrifiad Job Teitl: Pennaeth Ysgol Y Gwernant Diben y swydd: Darparu gweledigaeth, arweiniad a chyfeiriad ar gyfer ysgol.

    Gyda chymorth y corff llywodraethu, byddwch yn creu a chynnal amgylchedd dysgu cynhyrchiol sy’n ymgysylltu â'r holl ddisgyblion ac yn foddhaol iddynt ac yn magu gwelliant parhaus yn safon yr addysg.

    Yn atebol i’r: Corff Llywodraethu Yn gyfrifol am: Safonau, holl staff ac adnoddau Penaethiaid – gofynion gor-redol Mae’n rhaid i'r pennaeth ymgymryd â’i ddyletswyddau proffesiynol yn unol â’ canlynol:

    Darpariaethau’r holl ddeddfwriaethau perthnasol ac unrhyw orchymyn neu reoliad sydd mewn grym dan y deddfwriaethau hynny, yn arbennig Deddf Addysg 1996(20)

    Offeryn llywodraethu ysgol y pennaeth Unrhyw reol, reoliad neu bolisi sydd wedi ei wneud gan y corff llywodraethu

    mewn perthynas â materion y mae’n gyfrifol amdanynt, neu gan yr awdurdod mewn perthynas â materion nad yw’r corff llywodraethu yn gyfrifol amdanynt neu gan weithwyr y pennaeth

    Unrhyw weithred ymddiriedolaeth sy’n berthnasol i’r ysgol (os yw’n Ysgol wirfoddol, sefydledig neu’n ysgol sefydledig arbennig)

    Unrhyw gynllun wedi ei baratoi neu ei gynnal gan yr awdurdod dan Adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 1998

    Telerau'r penodiad Safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth.

    Dirprwyo Ni ddylid dirprwyo cyfrifoldebau proffesiynol pennaeth dan baragraff 46.9, ac eithrio yn unol â darpariaethau paragraff 48.2. Yn amodol ar baragraff 45.1, mae modd dirprwyo cyfrifoldebau pennaeth i ddirprwy bennaeth, pennaeth cynorthwyol neu aelod arall o staff os yw’n cydfynd â’u contract cyflogaeth, gan ystyried natur a graddfa eu cyfrifoldebau rheoli, a chynnal cydbwysedd rhesymol rhwng ymrwymiadau gwaith ac eraill i bob athro yn unol â pharagraff 51.4. Cyfrifoldebau proffesiynol Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i bennaeth ymgymryd â’r dyletswyddau canlynol: Trefniadaeth yr ysgol gyfan, strategaeth a datblygu Darparu arweinyddiaeth strategol a, chydag eraill, arwain, datblygu a chefnogi cyfeiriad strategol, gweledigaeth, gwerthoedd a blaenoriaethau’r Ysgol Datblygu, gweithredu a gwerthuso polisïau, arferion a gweithdrefnau’r ysgol

  • Swydd-Ddisgrifiad Addysgu

    Arwain a rheoli addysgu a dysgu ar draws yr ysgol, gan gynnwys sicrhau, ac eithrio dan amgylchiadau eithriadol, bod athro yn cael ei neilltuo yn amserlen yr ysgol i bob dosbarth neu grŵp o ddysgwyr

    a) yng nghyfnodau allweddol 1a 2 ar gyfer pynciau sylfaen a phynciau craidd eraill ac addysg grefyddol; a b) yn y camau rhagarweiniol

    Addysgu Iechyd, diogelwch a disgyblaeth Hyrwyddo diogelwch a lles disgyblion a staff Sicrhau trefn dda a disgyblaeth ymhlith disgyblion a staff Rheoli staff ac adnoddau

    Arwain, rheoli a datblygu’r staff, gan gynnwys gwerthuso a rheoli perfformiad

    Datblygu trefniadau clir ar gyfer cysylltu’r broses werthuso â datblygiad cyflog a chynghori’r corff perthnasol ar argymhellion ynglŷn â chyflog athrawon, gan gynnwys a ddylai athro yn yr ysgol a wnaeth gais i gael ei dalu ar yr ystod gyflog uwch gael ei dalu ar yr ystod honno

    Trefnu a dosbarthu adnoddau o fewn yr ysgol Hyrwyddo perthynas waith dda o fewn yr ysgol Cynnal perthynas gyda

    sefydliadau sy’n cynrychioli athrawon ac aelodau eraill o staff yr ysgol Arwain a rheoli staff gan roi ystyriaeth briodol i les a disgwyliadau

    rhesymol, gan gynnwys cydbwysedd iach rhwng gwaith ac ymrwymiadau eraill

    Datblygiad Proffesiynol

    Annog staff i fanteisio ar ddatblygiad proffesiynol parhaus perthnasol Cymryd rhan yn y broses o werthuso ac adolygu eich perfformiad eich hun ac, os yw’n briodol, perfformiad athrawon a staff cefnogi eraill

    Cymryd rhan mewn hyfforddiant a datblygiad proffesiynol ac, os yw’n briodol, hyfforddiant athrawon a staff cefnogi eraill gan gynnwys cyfarfodydd sefydlu

    Y gallu i rannu/lledaenu arfer da gyda chydweithwyr Cyfathrebu Ymgynghori a chyfathrebu gyda’r corff llywodraethu, staff, dysgwyr, rhieni a gofalwyr Gweithio gyda chydweithwyr a gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill Gweithio gyda chydweithwyr eraill a gweithwyr proffesiynol perthnasol o fewn a thu allan i’r ysgol, gan gynnwys asiantaethau a chyrff allanol perthnasol Hawliau Yn ogystal â darpariaethau paragraff 51, mae'r hawliau canlynol yn berthnasol: Amser wedi ei neilltuo ar gyfer swydd pennaeth Bydd gan bennaeth hawl i amser rhesymol yn ystod sesiynau’r ysgol, gan ystyried ei gyfrifoldebau addysgu, ar gyfer ei gyfrifoldebau arwain a rheoli. Egwyl yn ystod y dydd Bydd gan bennaeth hawl i egwyl am gyfnod rhesymol yn ystod pob diwrnod yn yr ysgol, a bydd yn trefnu i unigolyn addas fod yn gyfrifol am ei swyddogaethau fel pennaeth yn ystod yr egwyl hwnnw.

  • Manylion am yr Unigolyn

    Mae’r Manylion am yr Unigolyn yn nodi'r sgiliau, y wybodaeth a'r profiad yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r swydd yn effeithiol. Fe’i defnyddir yn y broses o lunio’r rhestr fer a'r cyfweliadau ar gyfer y swydd hon. Dylech ddangos ar eich ffurflen gais sut yr ydych yn bodloni’r meini prawf hyn oherwydd dim ond os ydych yn bodloni’r meini prawf hanfodol i gyd y byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

  • Manylion am yr Unigolyn Meini prawf

    Addysg a Chymwysterau

    Statws Athro Cymwysedig. Wedi cael Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth

    (neu barodrwydd i'w gyflawni o fewn 24 mis)

    Arwain a Rheoli

    Dangos gallu i osod disgwyliadau uchel a chynnal diwylliant llwyddiannus o ddysgu.

    Hanes wedi’i brofi o godi a chynnal safonau. Gwybodaeth am gynlluniau datblygu ysgol a hunanwerthuso. Dealltwriaeth o fentrau newydd negis cwricwlwm a’r gallu i arwain a’i

    gweithredu. Tystiolaeth glir o’r gallu i hyrwyddo Cymreictod a diwylliant Cymreig Gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o reoli arian yn dda. Sicrhau bod lles ein plant a staff yn flaenoriaeth wrth wneud

    penderfyniadau

    Dysgu ac Addysgu

    Amrediad eang o brofiad o fonitro addysgu a dysgu a’u datblygu. Gwybodaeth fanwl am weithdrefnau a strategaethau i gefnogi disgyblion ag

    Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chefnogi Ymddygiad. Gwerthfawrogi cefndir ieithyddol a chymdeithasol y disgyblion wrth eu trochi

    yn ethos Gymreig yr ysgol Tystiolaeth o’r gallu i arwain trwy esiampl yn rhagorol ar lawr y dosbarth

    Datblygu Staff a Gweithio Gydag Eraill

    Hanes o allu ysbrydoli staff, eu herio, eu hysgogi a rhoi grym iddynt. Gallu i feithrin diwylliant agored, teg a Chymreig. Parodrwydd i hyrwyddo, cefnogi a datblygu staff fel unigolion proffesiynol.

    Atebolrwydd ac Ymreolaeth

    Yn ymroddedig i’r ysgol yn gweithio’n effeithiol ac yn effeithlon. Gweithio i godi’n uwch eto lwyddiant academaidd a datblygiadau moesol,

    emosiynol a chymdeithasol pob disgybl. Yn gallu gweithio gyda’r Corff Llywodraethu i’w alluogi i gyflawni ei

    gyfrifoldebau a’i dargedau.

    Rhinweddau personol

    Arweinydd ysbrydoledig a chryf, gyda’r gallu i ysbrydoli hyder ac ymddiriedaeth mewn disgyblion, rhieni, cydweithwyr a Llywodraethwyr.

    Yn gallu ennyn diddordeb rhieni ac yn deall pwysigrwydd cynnal parch y naill i’r llall.

    Sgiliau trefnu a rheoli ardderchog. Yn gallu cyfathrebu â phawb yn ddiwahân, magu hyder ac ymddiriedaeth

    plant, rhieni, cydweithwyr a Llywodraethwyr. Yn frwdfrydig dros hyrwyddo’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd a gwaith

    yr ysgol

    Nerthu’r Gymuned

    Profiad o gydweithio ag ysgolion eraill. Gweledigaeth ac ymrwymiad clir i weithredu’n frwd dros ymdrechion yr

    ysgol i sicrhau, ehangu a chryfhau’r Gymraeg, Cymreictod a’r ethos Cymreig o fewn yr ysgol ac yn y gymuned ehangach, gyda llwyddiannau ym myd y campau, perfformio a chelfyddydau.

    Sicrhau bod yr Ysgol yn chwarae rhan ganolog yn nalgylch yr ysgol

    Lles plant

    Yn dangos ymroddiad i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Rhywun sy’n dangos gwir ddiddordeb ym mywydau a datblygiadau plant.

  • Diolch i chi am

    eich diddordeb Ysgol Y Gwernant Gwefan : www.ysgolygwernant.co.uk Cyfeiriad : Ysgol Y Gwernant, Pengwern, Llangollen, Sir Ddinbych, LL20 8AR Ffon: 01978 861986 E-bost: [email protected]