bwrdd iechyd prifysgol betsi cadwaladr cynllun a chynllun ... 09.034.1b...2010. bydd y cynllun ar...

46
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Cynllun a Chynllun Gwella Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2009 -2012 Gellir darparu’r cynllun hwn mewn ieithoedd neu fformatau eraill ar gais Cysylltwch â’r Adran Gyfathrebu Corfforaethol E-bost: [email protected] Ffôn testun: 01248 384 939 Ffôn: 01248 384 938 Ffacs: 01248 384 731

Upload: others

Post on 15-Feb-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

    Cynllun a Chynllun Gwella

    Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

    2009 -2012

    Gellir darparu’r cynllun hwn mewn ieithoedd neu ffo rmatau eraill

    ar gais

    � �

    Cysylltwch â’r Adran Gyfathrebu Corfforaethol

    E-bost: [email protected] Ffôn testun: 01248 384 939 Ffôn: 01248 384 938 Ffacs: 01248 384 731

  • Cynnwys Tudalen Ymrwymiad 4 Rhagymadrodd 6

    • Rôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 7 • Ein Demograffeg Newidiol 8 • Poblogaeth Gogledd Cymru 8 • Amddifadedd Economaidd-gymdeithasol 9 • Anghydraddoldebau Iechyd 9 • Sut y Bu Hyd Yma 14

    Cwrdd â’n Gofynion Statudol 17 • Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus 17 • Rheolau Sefydlog Enghreifftiol i Fyrddau Iechyd Lleol 18

    Ein Dull o Ddatblygu’r Cynllun 19 • Cyfeiriad Strategol i BI PBC 21 • Dull wedi’i Seilio ar Hawliau Dynol 23 • Safonau Gofal Iechyd 24 • Canolbwyntio ar y Dinesydd 24 • Ymgysylltu Cynhwysol 24 • Model Cymdeithasol o Anabledd 24 • Yr Iaith Gymraeg 25 • Monitro ein cynllun 26 • Hyrwyddwyr Cydraddoldeb 26 • Cynlluniau Gweithredu Cydraddoldeb Gwasanaethau 27

    Ymgysylltu â Defnyddwyr Gwasanaethau, Staff a Rhanddeiliaid Eraill 27

    • Cydweithio i Gynnwys ac Ymgysylltu’n Well 27 • Ymgysylltu â’n Rhanddeiliaid 28 • Ymgysylltu â’n Staff 29

    • Parhau i Ymgysylltu 29

    Casglu a Dadansoddi’r Dystiolaeth 29

    • Beth a Ddywedsoch Wrthym Ni a Dal i Wneud Cynnydd 29 • Beth yr Ydym wedi’i Ddysgu a’n Blaenoriaethau 30

    Mynediad a Hygyrchedd 34

  • 3

    Asesu Effaith Ein Penderfyniadau 34

    • Asesu Swyddogaethau a Pholisïau o ran eu Perthnasedd i’r Dyletswyddau Cyffredinol 34 Sut Byddwn yn Gwreiddio’r Broses Asesu Effaith 36 Sut yr Ydym yn Casglu a Defnyddio Gwybodaeth 37 Sut yr Ydym yn Cyhoeddi Adroddiadau ar Asesu, Ymgynghori a Monitro 40 Ein Rôl fel Cyflogwr 40 Monitro’r Cynllun Hwn a’i Ddatblygu Ymhellach 43 Adroddiadau Blynyddol 44 Adolygu a Diwygio’r Cynllun Cydraddoldeb Sengl 45 Cyhoeddi’r Cynllun 45 Cael Copi o’r Cynllun 45 Sylwadau a Chwynion 45

    Atodiadau

    Atodiad 1 Y Cynllun Gwella Cydraddoldeb

    Atodiad 2 Gwybodaeth am Boblogaeth Gogledd Cymru

    Atodiad 3 Y Dystiolaeth a Gasglwyd drwy Ymgysylltu

    Atodiad 4 Gwybodaeth am y Gweithlu

    Atodiad 5 Proses Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb

    Atodiad 6 Y Fframwaith Cyfreithiol

    Atodiad 7 Rhestr Termau, Diolchiadau a Llyfryddiaeth

  • 4

    Ymrwymiad Croeso i Gynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Sengl cyntaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rydym wrth ein bodd o allu ysgrifennu rhagair i’r ddogfen bwysig hon. Mae’n hollbwysig bod Bwrdd Iechyd fel BI PBC yn cydymffurfio â’r gyfraith, ond safon sylfaenol yw hon. Mae gennym weledigaeth glir – dylai pawb sy’n dod i gysylltiad â’n gwasanaethau gael eu trin gyda pharch ac urddas, cael asesu eu hanghenion iechyd, cael cymorth ac nid eu trosglwyddo i rywun arall, cael gwasanaeth diogel ac ymatebol o ansawdd uchel sy’n gwella drwy’r amser, ac sy’n hawdd ei ddeall a chael mynediad ato. Ein glasbrint ar gyfer y dyfodol yw system gyhoeddus lle gall dinasyddion gael mynediad at ofal o’r un safon ac ansawdd ag eraill pwy bynnag ydynt, beth bynnag yw eu hiaith, beth bynnag yw eu lleoedd neu oriau gwaith a lle bynnag maent yn byw. Ein nod yw sicrhau safonau uwch drwy integreiddio gwasanaethau iechyd cyhoeddus, sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl ac eilaidd mewn partneriaeth â dinasyddion, cyrff cyhoeddus, staff, undebau llafur, cyrff proffesiynol a’r sector gwirfoddol. Byddwn yn canolbwyntio gyda’n gilydd ar les yn ei ystyr ehangaf er mwyn gwella a chyfoethogi bywydau unigolion, cymunedau a phoblogaeth Gogledd Cymru. Mae’r gwerthoedd sydd wedi’u nodi yn y dyletswyddau cydraddoldeb, sef tegwch, cyfiawnder a hunanddewis, ac egwyddorion hawliau dynol, yn sail i’n cyfeiriad strategol. Fel corff iechyd, mae BI PBC yn anelu at nodau sy’n ymwneud â diogelwch, ansawdd, effeithioldeb ac effeithlonrwydd er mwyn darparu’r safonau gofal uchaf. Mae egwyddorion llywodraethu sy’n canolbwyntio ar y dinesydd wrth wraidd ei gynlluniau ac yn rhan o’i set o werthoedd. Fel Bwrdd Iechyd Prifysgol, mae’n arwain ym maes arloesi, gwella, ymchwil a datblygu, wrth gryfhau ei sylfaen academaidd. Fel gwasanaeth cyhoeddus, mae’n chwarae ei ran fel dinesydd corfforaethol gan arwain drwy esiampl. Rydym yn cydnabod bod y Dyletswyddau Cydraddoldeb yn berthnasol i holl feysydd gweithgarwch y sefydliad a’u bod yn ymwneud, yn y bôn, ag ehangu gwybodaeth, dealltwriaeth a gallu i sicrhau gwelliannau. Ein dymuniad yw parchu hawliau pawb sy’n dod i gysylltiad â ni a dangos parch at bawb beth bynnag fo’u sefyllfa. Rydym yn cydnabod bod angen datblygu o safbwynt lle y gwelir bod hawliau dynol yn bwysig at fod yn gorff sydd wedi’i seilio ar hawliau dynol a sicrhau bod hawliau dynol yn rhan hanfodol o’r hyn ydym a’r hyn yr ydym yn ei wneud. Mae camau i hyrwyddo’r ymrwymiad hwn wedi’u nodi yn y cynllun gwella sy’n ategu’r cynllun hwn.

  • 5

    Fel Cadeirydd a Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr rydym wedi ymrwymo i hybu cyfle cyfartal a diogelu a hyrwyddo hawliau pawb. Byddwn yn craffu ar y gweithredu ar y cynllun hwn ac yn hyrwyddo ein gweledigaeth o gydraddoldeb sy’n mynd ymhellach na chydymffurfio â’r gyfraith, ac yn gosod safonau newydd ym maes cydraddoldeb a hawliau dynol mewn iechyd. Byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn darparu gwasanaeth sy’n deg, yn ymatebol, yn gynhwysol ac yn briodol i bawb a byddwn yn helpu i hyrwyddo newid mewn diwylliant yn ôl yr angen o fewn y sector cyhoeddus. Dyletswydd i ni ac i’r Bwrdd yw sicrhau y rhoddir y cynllun hwn ar waith.

    Mr Michael Williams Mrs Mary Burrows

    Cadeirydd Prif Weithredwr Hyrwyddwr Cydraddoldeb Aelod Annibynnol

  • 6

    Rhagymadrodd Mae’r cynllun hwn yn egluro sut mae’r Bwrdd Iechyd yn bwriadu ceisio gwireddu ein gweledigaeth o gydraddoldeb a hawliau dynol a sut byddwn yn monitro mynediad, profiadau a chanlyniadau ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau a’n gweithlu. Ei nod hirdymor yw hyrwyddo cydraddoldeb a chynnwys ac ymgysylltu â dinasyddion yng Ngogledd Cymru wrth ddatblygu polisïau, arferion a gwasanaethau sy’n effeithlon ac yn effeithiol, ac arwain y ffordd at arferion arloesol a gwell canlyniadau o ran cydraddoldeb i bawb. Mae’r cynllun strategol hwn yn dal sylw ar y cynlluniau cydraddoldeb a etifeddwyd ar ôl y cyrff blaenorol. Mae’n ddogfen flaengar a byw a fydd yn dal i ddatblygu wrth i swyddogaethau a strwythurau BI PBC ymsefydlu. Rydym wedi casglu tystiolaeth o adroddiadau cenedlaethol a lleol a gan staff a defnyddwyr gwasanaethau i oleuo’r gwaith hwn. Rydym wedi gwrando ac wedi clywed negeseuon allweddol ac yn rhoi pris mawr ar yr adborth hwn a ddefnyddiwn i gynorthwyo a chydweithio ag Adrannau Gwasanaethau Corfforaethol a Grwpiau Rhaglenni Clinigol wrth iddynt bennu blaenoriaethau ar gyfer gweithredu a chynnwys pobl yn eu cynlluniau gwasanaeth. Mae’r Cynllun hwn wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â llawer o unigolion, cyrff a’n staff. Mae’n egluro sut byddwn yn hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb, a sut rydym yn cydnabod ac yn mawrbrisio amrywiaeth. Mae’r Cynllun yn cynnig fframwaith i BI PBC wneud cynnydd ar hyrwyddo cydraddoldeb. Rydym am iddo gael ei seilio ar egwyddorion hawliau dynol, sef tegwch, parch, cydraddoldeb, urddas ac ymreolaeth, gan ganolbwyntio ar anghenion dinasyddion Gogledd Cymru. Rydym wedi ceisio dal y ddysgl yn wastad rhwng anghenion y corff newydd a gofynion deddfwriaeth a Chodau Ymarfer perthnasol drwy fabwysiadu dull o weithredu a fydd yn sicrhau cymeradwyo drafft o’r Cynllun gan y Bwrdd i’w gyhoeddi erbyn 4 Rhagfyr 2009. Bydd hyn yn cynnwys yr adolygiad o Gynlluniau Cydraddoldeb Anabledd y cyrff blaenorol y mae’n ofynnol ei wneud erbyn y dyddiad hwn. Bydd y ddogfen hon yn destun ymgynghoriad wedyn am gyfnod o 12 wythnos a ddaw i ben ar 1 Mawrth 2010, a chyhoeddir y Cynllun terfynol ar 1 Ebrill 2010. Bydd y Cynllun ar gael, ar ffurf drafft i ddechrau o 4 Rhagfyr 2009, ac ar ei ffurf derfynol o 1 Ebrill 2010 ar wefan BI PBC yn y lle canlynol:http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/861/page/41868 a http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/861/tudalen/41867. Mae hon yn ddogfen fyw a bydd yn datblygu ymhellach ar ôl ymgynghori â’n rhanddeiliaid, ein staff, defnyddwyr gwasanaethau a phartneriaid dros y misoedd i ddod.

  • 7

    Mae llawer o ddeddfwriaeth ynghylch cydraddoldeb, a chafwyd ymrwymiad i gysoni a rhesymoli’r gwahanol ddeddfau drwy wneud Deddf Sengl. Amcan y Ddeddf Cydraddoldeb, a ddisgwylir y flwyddyn nesaf, yw ei gwneud yn haws i bobl wybod beth yw eu hawliau a’u rhwymedigaethau. Yn y cyfamser, mae’r Cynllun hwn yn ymwneud â’r Dyletswyddau cyfredol o ran Hil, Anabledd a Rhywedd a chaiff ei adolygu pan ddaw’r Ddeddf Cydraddoldeb i rym. Mae adolygiadau blynyddol wedi’u cynnwys yn rhaglen weithredu’r Cynllun i sicrhau y cawn gyfle i ystyried ac adolygu ein cynlluniau a dal sylw ar ofynion newydd mewn deddfwriaeth. Byddwn yn cyhoeddi adolygiad blynyddol o’r gwaith ar gyflawni’r cynllun gwella, a hynny’n cynnwys datblygu cynlluniau gweithredu i’w ategu gan Grwpiau Rhaglenni Clinigol ac Adrannau Gwasanaethau Corfforaethol. Rôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gorff statudol a sefydlwyd ar 1 Mehefin 2009 a daeth yn weithredol ar 1 Hydref 2009. Hwn yw’r corff iechyd mwyaf yng Nghymru ac mae’n cynnig darpariaeth lawn o wasanaethau sylfaenol ac iechyd meddwl a rhai yn y gymuned ac mewn ysbytai acíwt i boblogaeth o tua 676,000 ym mhob un o chwe sir y Gogledd (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) yn ogystal â rhai rhannau o ganolbarth Cymru, Swydd Gaer a Swydd Amwythig. Mae’r Bwrdd Iechyd yn cyflogi staff o tua 18,000 ac mae ei gyllideb oddeutu £1.1 biliwn. Mae’n gyfrifol am redeg tri ysbyty cyffredinol dosbarth, sef Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Ysbyty Glan Clwyd ger y Rhyl, ac Ysbyty Maelor Wrecsam, yn ogystal â 22 o ysbytai acíwt a chymunedol eraill, a rhwydwaith o fwy na 90 o ganolfannau iechyd, clinigau, canolfannau timau iechyd cymunedol ac unedau iechyd meddwl. Mae hefyd yn cydgysylltu gwaith 121 o bractisau meddygon teulu a gwasanaethau GIG sy’n cael eu darparu gan Ddeintyddion, Optegwyr a Fferyllfeydd Gogledd Cymru. Prif rôl y Bwrdd Iechyd Lleol yw sicrhau bod y system GIG leol yn cael ei chynllunio a’i rhedeg yn effeithiol, o fewn fframwaith llywodraethu cadarn, i gyrraedd y safonau uchaf o ran diogelwch cleifion a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, gwella iechyd a lleihau anghydraddoldebau a sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’w ddinasyddion, a hynny mewn modd sy’n hyrwyddo hawliau dynol. (Rheolau Sefydlog Enghreifftiol i Fyrddau Iechyd Lleol, GIG Cymru, Medi 2009) BI PBC yw’r prif gorff sy’n gyfrifol am gomisiynu gofal sylfaenol a darparu gofal iechyd eilaidd, cymunedol a chanolraddol i boblogaeth Gogledd

  • 8

    Cymru. Rydym yn gyfrifol am gyflawni’r rôl arweiniol o geisio gwella iechyd y boblogaeth a datblygu gofal sylfaenol. Er nad yw contractwyr gofal sylfaenol (Meddygon Teulu, Deintyddion, Fferyllwyr ac Optometryddion) wedi’u rhwymo gan y gyfraith i gynhyrchu Cynllun Cydraddoldeb Sengl, bydd BI PBC yn cymryd camau i annog a helpu contractwyr i lunio Cynlluniau Gweithredu wedi’u seilio ar Gynllun Cydraddoldeb Sengl y Bwrdd Iechyd. Ein Demograffeg Newidiol ‘Mae ein proffil demograffig yn newid. Mae newidiadau yn y patrymau mudo. Mae mwy o ymwybyddiaeth ynghylch gwahanol hunaniaethau a diwylliannau. Mae cynnydd yn nifer y bobl sydd â salwch tymor hir, ac yn nifer y bobl anabl. Mae newid yn y berthynas rhwng dynion a menywod ac yn natur teuluoedd. Oherwydd newidiadau mewn amgylchiadau bywyd a’r arferion gweithio a ffafrir, mae’n rhaid inni hefyd ailedrych ar y rhwystrau a allai achosi anfantais a ffyrdd o ddelio â’r gwahaniaethau sydd rhyngom. Mae angen inni ddatblygu a chroesawu’r buddion a gawn o fod â phoblogaeth fwy amrywiol ac integredig a llunio polisïau a gwasanaethau i nodi a diwallu anghenion cymunedau. Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Sengl yn cynnig y cyfleoedd i wneud hyn. Bydd yn sbardun pwysig i gael y newidiadau sy’n angenrheidiol.’ Ffynhonnell: Cynllun Cydraddoldeb Sengl Llywodraeth Cynulliad Cymru Poblogaeth Gogledd Cymru Mae arwynebedd Gogledd Cymru oddeutu 2,500 o filltiroedd sgwâr. Mae poblogaeth o tua 670,000 a rhagwelir y bydd yn cynyddu i bron 700,000 erbyn 2028. Mae 18.5% o boblogaeth breswyl Gogledd Cymru’n 65 oed neu’n hŷn. Mae cyfran fwy o bobl hŷn yng Nghonwy. Sir y Fflint a Wrecsam sydd â’r cyfrannau lleiaf o bobl hŷn ac mae ganddynt gyfran fawr o bobl iau. Rhagwelir y bydd demograffeg Gogledd Cymru’n newid yn ystod yr 20-30 mlynedd nesaf ac y bydd cynnydd mawr yn nifer y bobl hŷn. Mae’r boblogaeth wedi’i rhannu rhwng crynodiadau mawr o bobl ym mhrif ganolfannau trefol y rhanbarth a’u cyffiniau, trefi gwyliau glan môr a threfi marchnad gwledig a chrynodiadau llai mewn pentrefi gwledig bach a mawr ac aneddiadau gwledig ac o’u cwmpas. Mae llai nag 1.2% o boblogaeth Gogledd Cymru o gymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae’r rhan fwyaf o’r cymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig o gwmpas ardaloedd Bangor, y Rhyl a Wrecsam. Mae delio ag anghydraddoldebau iechyd yn fater allweddol, gan fod bron un ym mhob pump o’r boblogaeth yn byw yn y wardiau mwyaf difreintiedig yng Nghymru sydd yn y Gogledd. Gwynedd a Wrecsam sydd â’r gyfran fwyaf o’u poblogaethau’n byw yn y wardiau mwyaf difreintiedig yn y rhanbarth. Mae’r rhan fwyaf o’r poblogaethau o Sipsiwn a Theithwyr ar hyd y prif lwybrau trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru. Mae safleoedd preswyl awdurdodedig yng Ngwynedd a Sir y Fflint; nid oes unrhyw safleoedd

  • 9

    tramwy nac arosfannau dros dro awdurdodedig yn unman yn y Gogledd. Mae mwy o wybodaeth am broffil cydraddoldeb y boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu yn Atodiad 2. Mae hyn yn cynnwys oed, rhywedd, anabledd, crefydd a chred ac ethnigrwydd. Amddifadedd Economaidd-gymdeithasol Er gwaethaf gwelliannau mewn iechyd, mae’n ymddangos bod y bwlch rhwng y lleiaf a’r mwyaf difreintiedig yn ymledu ar lefel genedlaethol. Un her allweddol i gyrff yw sicrhau bod pwyslais digonol ar y nod tymor hwy o ddelio ag anghydraddoldebau iechyd. Ar draws Cymru, mae wardiau etholiadol wedi’u grwpio o’r gwaethaf i’r gorau yn bumedau (cwintelau). Ar lefel Cymru gyfan, cofnodwyd bod 705,118 o bobl yn preswylio yn y wardiau mwyaf difreintiedig. Cofnodwyd bod 122,181 yn byw mewn wardiau o’r fath sydd yng Ngogledd Cymru (h.y. mae tua 17% o’r boblogaeth gyfan yn byw yn y wardiau mwyaf difreintiedig sydd yng Nghymru). Mae canran uchaf y bobl sy’n byw yn y wardiau mwyaf difreintiedig yn y rhanbarth yng Ngwynedd a Wrecsam. Gwelir bod pocedi o amddifadedd i’w cael yn aml mewn canolfannau trefol, er enghraifft, Bangor a Wrecsam. Mae amddifadedd gwledig yn fater pwysig yng Ngogledd Cymru hefyd. Ffynhonnell: Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, Adolygiad Cyflym o’r Elfen Ysbytai mewn Gwasanaethau Gofal Heb eu Trefnu yng Ngogledd Cymru. Awdurdodau Lleol yng Ngogledd Cymru. Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru Cafwyd y wybodaeth ganlynol o ‘Materion Cydraddoldeb yng Nghymru’, adolygiad o ymchwil. Mae’r adroddiad a gomisiynwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cyflwyno’r canfyddiadau o adolygiad o’r llenyddiaeth ar ymchwil ac ystadegau ar gydraddoldeb yng Nghymru. Roedd yn cynnwys ymchwil gan academyddion, llywodraeth a’r trydydd sector a gyhoeddwyd rhwng 2000 a 2008 ac mae’n canolbwyntio ar astudiaethau sy’n ymdrin â Chymru gyfan yn hytrach nag astudiaethau lleol. Tlodi ac Allgáu Cymdeithasol Mae digon o dystiolaeth i ddod i’r casgliad bod grwpiau lleiafrifol ethnig, menywod, pobl anabl, plant a phobl ifanc a phobl hŷn yn profi mwy o dlodi ac allgáu cymdeithasol na grwpiau eraill. Fodd bynnag, nid oes bron ddim tystiolaeth mewn cysylltiad â chrefydd a chyfeiriadedd rhywiol. Incwm Cartrefi a Thlodi Mae’r dystiolaeth ynghylch incwm a thlodi’n anwastad iawn. Mae’r rhan fwyaf o lawer o’r wybodaeth yn ymwneud â thlodi plant a phensiynwyr, sy’n dangos bod tua 26 y cant o blant a 18 y cant o bensiynwyr yn byw

  • 10

    ar aelwydydd sy’n dlawd o ran incwm, a bod cyfran lai, ond sylweddol er hynny, o’r ddau grŵp hefyd yn mynd heb ‘angenrheidiau’. Mewn cyferbyniad â hynny, nid oes fawr ddim gwybodaeth am dlodi a hil, rhywedd neu anabledd, nac am grefydd a chyfeiriadedd rhywiol.

    Iechyd a Gofal Cymdeithasol Er bod llenyddiaeth sylweddol ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, mae llawer ohoni’n ymwneud ag anghydraddoldebau iechyd yn gyffredinol yn hytrach na meysydd cydraddoldeb. Mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn dangos bod grwpiau lleiafrifol ethnig, pobl anabl, plant sy’n agored i niwed a phobl hŷn yn tueddu i fod yn waeth eu hiechyd a bod ganddynt fynediad gwaeth at ofal yr un pryd. Mae’r dystiolaeth ar grefydd a chyfeiriadedd rhywiol, ac ar rywedd, yn fwy cyfyngedig byth. Statws Iechyd Mae tystiolaeth gyfyngedig yn dangos bod statws iechyd grwpiau lleiafrifol ethnig, menywod, pobl anabl, plant sy’n agored i niwed a phobl hŷn yn is na’r boblogaeth yn gyffredinol. Nid oes unrhyw wybodaeth ynghylch cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd, a bron ddim tystiolaeth ynghylch gwahanol grwpiau o fewn y boblogaeth leiafrifol ethnig. Mynediad at Ofal Iechyd Mae hefyd yn ymddangos bod y mynediad at ofal iechyd yn waeth ymysg grwpiau lleiafrifol ethnig a phobl anabl. Mae mynediad at ofal, yn enwedig gofal iechyd meddwl ar gyfer plant sy’n agored i niwed, yn fater pwysig hefyd. Mae’r dystiolaeth ar fynediad ar gyfer menywod, pobl hŷn, pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn gyfyngedig neu heb fod ar gael. Ffordd o Fyw Mae tystiolaeth yn awgrymu bod ffyrdd o fyw dynion yn llai iach na’r rhai sydd gan fenywod, heblaw am weithgarwch corfforol. Mae mwy o dystiolaeth ar gael am ffyrdd o fyw pobl ifanc, sy’n dangos pa mor gyffredin yw ysmygu a chamddefnyddio alcohol a sylweddau, maethiad gwael, lefelau isel o weithgarwch corfforol a chyfraddau uchel o ordewdra a phwysau rhy uchel. Mae ffyrdd o fyw pobl hŷn hefyd yn gymharol afiach yng nghyd-destun gordewdra a gweithgarwch corfforol, er bod y defnydd o alcohol ac ysmygu’n llai cyffredin. Ychydig sy’n hysbys am ffyrdd o fyw grwpiau lleiafrifol ethnig, pobl anabl, pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol a grwpiau crefyddol. Mae tystiolaeth o anghydraddoldeb sylweddol yng Nghymru. Mae grwpiau lleiafrifol ethnig, menywod, pobl anabl a phobl hŷn yn profi anfantais a gwahaniaethu yn eu herbyn yn gyson ym mron bob agwedd ar fywyd. Mae’r dystiolaeth fwy cyfyngedig ar gyfeiriadedd rhywiol a

  • 11

    chrefydd yn awgrymu bod gwahaniaethu ac anfantais arwyddocaol yma hefyd. Er hynny, nid yw’r dystiolaeth a gafwyd yn ffurfio corff cydlynol o wybodaeth a gallai’r canlyniadau i hyn fod yn niweidiol. Mae bylchau mawr yn y dystiolaeth ar yr holl faterion sy’n ymwneud ag anabledd, cyfeiriadedd rhywiol a chrefydd, a bylchau yn y dystiolaeth ar gyfer yr holl feysydd cydraddoldeb sy’n ymwneud â thlodi ac allgáu cymdeithasol, iechyd a gofal cymdeithasol, tai, a bywyd cyhoeddus a gwleidyddol. Ffynhonnell: Materion Cydraddoldeb yng Nghymru, adolygiad o ymchwil, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2009 Pobl ag Anableddau Dysgu a/neu Broblemau Iechyd Med dwl Yn yr Ymchwiliad Ffurfiol Triniaeth Gyfartal: Cau’r Bwlch a gynhaliwyd yn 2005/06, cafwyd bod pobl sydd ag anableddau dysgu a phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn llawer mwy tebygol o wynebu risgiau iechyd arwyddocaol; cael problemau iechyd corfforol sylweddol; a marw’n iau na phobl eraill. Maent yn llai tebygol o gael rhai o’r triniaethau a’r archwiliadau wedi’u seilio ar dystiolaeth y mae arnynt eu hangen, ac maent yn wynebu rhwystrau gwirioneddol rhag cael mynediad at wasanaethau. Yn ystod yr ymchwiliad, datgelwyd bod ymagwedd ddifater a ddaliai fod y grwpiau hyn sydd wedi’u hallgáu’n ‘arfer’ marw’n iau neu eu bod yn ‘dueddol i beidio’ â gofalu am eu hiechyd neu gadw apwyntiadau. Dangosodd yr ymchwiliad fod ymateb annigonol ar ran y gwasanaethau iechyd a’r llywodraethau yng Nghymru a Lloegr i’r anghydraddoldebau mawr o ran iechyd corfforol a brofir gan rai o’r dinasyddion sydd wedi’u hallgáu i’r graddau mwyaf. Mae hyn yn cynnwys un filiwn o bobl sydd ag anableddau dysgu, 200,000 o bobl sydd â sgitsoffrenia neu anhwylder deubegynnol a chwe miliwn o bobl sydd ag iselder yng Nghymru a Lloegr. Roedd yr archwiliad cyntaf yn gymorth mawr o ran dangos y cynnydd yng Nghymru a hefyd drwy rannu enghreifftiau o ymarfer da a oedd â’r amcan o wella iechyd corfforol pobl sydd ag anableddau dysgu a/neu broblemau iechyd meddwl. Yn yr Ail Archwiliad yn 2007/08 dangoswyd bod cynnydd da a thynnwyd sylw at lawer o fentrau sefydledig a phrosiectau a oedd wedi’u datblygu o’r newydd a oedd â’r amcan o wella iechyd corfforol pobl sydd ag anableddau dysgu a/neu broblemau iechyd meddwl yng Nghymru, a hynny’n cynnwys cynnydd sylweddol yn niferoedd y bobl sy’n cael mynediad at archwiliadau iechyd. Mae adroddiad yr archwiliad yn tynnu sylw at gysylltiad rhwng y lle y mae oedolion yn byw ac a ydynt yn debygol o dderbyn archwiliadau iechyd. Cafodd mwy na 50% o’r preswylwyr yng Nghonwy, Abertawe, Sir Ddinbych, Gwynedd a Wrecsam archwiliadau iechyd yn 2007- 08 o’i gymharu ag 8% neu lai o’r preswylwyr yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Mae argymhellion o’r ail archwiliad yn nodi 8 o gamau gweithredu

  • 12

    allweddol pellach i hyrwyddo cynnydd. Mae’r rhain wedi’u cynnwys yng Nghynllun Gwella Cydraddoldeb BI PBC i’w gweithredu. Ffynhonnell: Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru, Ebrill 2009. Triniaeth Gyfartal: Cau’r Bwlch - Ymchwiliad ffurfiol i’r anghydraddoldebau iechyd corfforol a brofir gan bobl ag anableddau dysgu a/neu broblemau iechyd meddwl, Comisiwn Hawliau Anabledd. Sipsiwn-Teithwyr Mae cymunedau Sipsiwn a Theithwyr ym Mhrydain yn profi anghydraddoldebau o lawer math; mae diffyg cydnabyddiaeth gyffredinol o statws Sipsiwn a Theithwyr fel lleiafrif ethnig mewn cysylltiad â chydraddoldeb hiliol. Mae llawer o’r anghydraddoldebau y mae Sipsiwn a Theithwyr yn eu profi’n ymwneud â’u hethnigrwydd neu ffordd o fyw grwydrol. Yn ogystal â hynny, mae materion cydraddoldeb eraill sy’n ymwneud â rhywedd, anabledd, oed, crefydd a chyfeiriadedd rhywiol yn cydblethu â’r anghydraddoldebau mwy cyffredinol y mae aelodau o’r cymunedau’n eu hwynebu. Lle mae gwybodaeth ar gael, mae’n tynnu sylw at anawsterau pellach, fel y rhai sydd gan bobl hŷn neu anabl a allai fod ag angen cymorth i fyw’n annibynnol. Mae disgwyliad oes Sipsiwn-Teithwyr yn arwyddocaol is na’r boblogaeth gyffredinol (Niner 2002). Mae achosion o salwch tymor hir, anabledd, asthma a chlefydau anadlol, clefydau cardiofasgwlaidd, poen cronig, clefydau synhwyraidd a phroblemau iechyd meddwl yn fwy cyffredin. Mae marwenedigaethau’n 17 waith yn fwy cyffredin yn y gymuned hon na’r cyfartaledd cenedlaethol ac mae cyfradd marwolaethau babanod yn 12 gwaith yn uwch na’r cyfraddau cyfartalog (Power 2004). Mae cyfraddau is o imiwneiddio ymysg plant a chyfradd damweiniau uwch. Ffynhonnell: Inequalities Experienced by Gypsy and Traveller Communities: A review, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2009. Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r GIG yng Nghymru. Canllawiau Arfer Da i Fyrddau Iechyd Lleol ar Ddarparu Gwasanaethau i Grwpiau Penodol o Leiafrifoedd 2006 O fewn Gogledd Cymru, mae nifer o brosiectau wedi gwella mynediad at wasanaethau gofal iechyd i rai yn y gymuned teithwyr, gan gynnig sgrinio iechyd, cyngor a chymorth ar ffurf sy’n hygyrch ac yn dderbyniol, gan ddarparu arferion diwylliannol sensitif. Mae’r agenda ar iechyd yn Strategaeth Sipsiwn-Teithwyr Llywodraeth Cynulliad Cymru 2009 yn nodi argymhellion i sicrhau y bydd anghenion iechyd Sipsiwn-Teithwyr yn cael sylw drwy bolisi cenedlaethol a lleol, gan wneud gofal iechyd yn fwy hygyrch i’r Gymuned Sipsiwn-Teithwyr a gwella mynediad at ofal parhaus. Mae’r argymhellion hyn wedi’u cynnwys yng Nghynllun Gwella Cydraddoldeb BI PBC i’w gweithredu er mwyn hyrwyddo’r gwaith hwn. Pobl Hŷn

  • 13

    Mae llawer o bobl hŷn yng Nghymru’n aros yn iach, yn egnïol ac yn annibynnol heb fawr o ddibyniaeth ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Er hynny, mae oed cynyddol yn cael ei gysylltu’n gyffredinol ag anabledd cynyddol a cholli annibyniaeth ac amhariadau ar weithrediadau fel colli’r gallu i symud o gwmpas a cholli’r golwg a’r clyw. Mae Cyfrifiad 2001 yn dangos bod cyfran yr unigolion sydd â salwch cyfyngus hirdymor yn cynyddu’n sylweddol wrth heneiddio. Mae Adolygiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar gyfer 2008/09 yn cydnabod y dylai pobl hŷn gael mynediad at ofal iechyd i’w helpu i gadw neu adennill y lefel uchaf posibl o les corfforol, meddyliol ac emosiynol ac i atal neu ohirio salwch. Mae’r Comisiynydd wedi rhoi pwys ar yr angen am gydnabod materion pobl hŷn a’u cynnwys yn llawn ac wedi datgan bod angen i’r ymarfer gorau wrth drin pobl hŷn fod yn ganolog yng ngweithrediad y GIG ar ôl ei ailstrwythuro. Ym maes iechyd yng Ngogledd Cymru, mae’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn wedi bod yn allweddol o ran hyrwyddo cydraddoldeb i bobl hŷn. Amcan y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol yw gwella safonau a hybu mynediad cyfartal at wasanaethau iechyd a chymdeithasol ym mhob rhan o’r wlad a darparu fframwaith cyffredinol ar gyfer ei ddatblygu a’i weithredu. O ran yr agenda ehangach ar gyfer pobl hŷn, cafwyd cynnydd da, a chyflwynir adroddiadau’n rheolaidd i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Tynnwyd sylw at yr angen am weithredu pellach ar y safon ar ddileu gwahaniaethu ar sail oed. Ei hamcan yw sicrhau na cheir unrhyw wahaniaethu yn erbyn pobl wrth dderbyn neu gael mynediad at wasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol oherwydd eu hoedran, ac na fyddant yn wynebu agweddau meddwl gwahaniaethol ymysg staff, boed hynny’n fwriadol neu beidio. Mae’r agwedd benodol hon wedi’i chynnwys yng Nghynllun Gwella Cydraddoldeb BI PBC er mwyn ymchwilio ymhellach iddi a chymryd camau er mwyn hyrwyddo’r gwaith hwn. Ffynhonnell: Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru Adolygiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2008/09, Age Concern a Help the Aged Mewn ymateb i adolygiad o’r llenyddiaeth, mae BI PBC wedi nodi’r grwpiau cydraddoldeb canlynol fel meysydd blaenoriaethol sy’n galw am ymchwil bellach. Rydym yn cydnabod y bydd gwelliannau o ran mynediad i’r grwpiau hyn o ddinasyddion difreintiedig yn gwella profiad y claf ar gyfer pawb. Yn ystod oes y cynllun hwn, byddwn yn ymdrechu i adnabod yn well y rhwystrau rhag mynediad, i ganfod anghydraddoldebau iechyd a chymryd camau unioni i wella canlyniadau i’r rhai canlynol:

  • 14

    • Pobl anabl a phobl sydd ag anableddau dysgu • Sipsiwn-Teithwyr • Pobl hŷn

    Sut y Bu Hyd Yma Mae cyrff iechyd yng Ngogledd Cymru wedi bod yn cydweithio i hyrwyddo cydraddoldeb ers 2005. Digwyddodd hyn dan arweiniad Ymddiriedolaeth GIG Siroedd Conwy a Dinbych gynt a gynigiodd y dylid ehangu’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen, a sefydlwyd i lywio datblygiad y Cynllun Cydraddoldeb Anabledd ar y pryd, i gynnwys cynrychiolwyr o’r holl gyrff iechyd eraill yng Ngogledd Cymru. Cafwyd cefnogaeth frwd iawn i’r syniad o weithio mewn partneriaeth ym maes iechyd yn gyffredinol, i rannu gwybodaeth a dysg am gydraddoldeb ac amrywiaeth, gan yr holl gyrff gan gynnwys Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol GIG Cymru. Wedyn ffurfiwyd Grŵp Cydraddoldebau Cymunedau Iechyd Gogledd Cymru a chafwyd cynnydd sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf drwy weithio mewn partneriaeth i hyrwyddo mentrau cydraddoldeb ym maes iechyd. Rydym wedi cydweithio â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a chyrff blaenorol y Comisiwn Hawliau Anabledd, y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal i ddatblygu cynlluniau cydraddoldeb ar gyfer hil, anabledd a rhywedd er mwyn hyrwyddo ein harferion o ran cydraddoldebau. Cafwyd cynnydd sylweddol, a welir yn Adroddiadau Blynyddol y cyrff blaenorol. Mae sylfaen gadarn yng Ngogledd Cymru y gall BI PBC adeiladu arni’n awr. Rhai enghreifftiau o ymarfer da gan y cyrff blaenorol yw: Sefydlu Rhwydwaith Cydraddoldeb a Chynnwys y Cyhoed d ar y Cyd Cynhaliwyd gweithdy yn Hydref 2008 dan nawdd yr arweinwyr ar gydraddoldebau mewn cyrff iechyd ledled Gogledd Cymru o’r enw ‘Cydweithio i sicrhau ymgysylltu â phawb’ i hyrwyddo a meithrin cysylltiadau gweithio agosach rhwng gweithwyr cydraddoldeb proffesiynol a’r rheini sy’n gweithio ym maes ymgysylltu â’r cyhoedd/cleifion. Roedd nifer da iawn o gymheiriaid o Awdurdodau Lleol, Cynghorau Iechyd Cymuned a’r Sector Gwirfoddol yn bresennol yn y digwyddiad. Gwahoddwyd cynrychiolwyr i enwi ac ymdrin â’r rhwystrau y mae pobl o grwpiau lleiafrifol neu grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn eu hwynebu wrth gael mynediad at ofal iechyd a nodwyd camau gweithredu gan dri grŵp gweithdy i hyrwyddo cydweithio. Ar ôl y gweithdy, mae rhwydwaith ar y cyd wedi’i sefydlu a chafwyd cysylltiadau cadarnhaol a gwell gweithio mewn partneriaeth ers hynny. Cydweithiodd y Rhwydwaith Cydraddoldebau a Chynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd ar y cyd i reoli’r gweithgarwch ymgysylltu sy’n sail i ddatblygu’r cynllun hwn.

  • 15

    Datblygu Adnodd Addysgu Mae’r Bwrdd Iechyd Lleol Conwy blaenorol wedi cydweithio’n agos â Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Gogledd Cymru ers rhai blynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwn, cyfrannodd at y gwaith o ddatblygu Cydraddoldeb Hiliol ar Waith – Pecyn Adnoddau. Mae’r pecyn hwn wedi’i ddatblygu i helpu gweithwyr proffesiynol i gyflawni’r Ddyletswydd Gyffredinol yn Neddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000. Mae’r Pecyn Adnoddau’n cynnwys enghreifftiau ymarferol o ymwybyddiaeth ddiwylliannol; gweithgareddau a ddefnyddir i hybu ymwybyddiaeth o’r rhwystrau a brofir gan bobl o wahanol grwpiau hiliol, i helpu i gynyddu dealltwriaeth a datblygu cymhwysedd diwylliannol, ac yn cynnig cyngor ymarferol a chyfeiriadau at wybodaeth bellach. Mae’r Pecyn Adnoddau wedi’i rannu’n eang â chymheiriaid mewn asiantaethau iechyd ac asiantaethau sy’n bartneriaid ac fe’i defnyddir ledled Cymru’n awr gan weithwyr proffesiynol fel pecyn cymorth i hybu ymwybyddiaeth. Meithrin Gallu mewn Timau Gweithredol Mae Ymddiriedolaeth Gogledd Cymru wedi ymdrechu i hybu ymwybyddiaeth a meithrin gallu mewn timau gweithredol er mwyn troi’r cynlluniau cydraddoldeb strategol yn gynlluniau gweithredu sy’n sicrhau gwell canlyniadau o ran cydraddoldeb i gleifion. Sefydlwyd strwythurau i gynorthwyo a galluogi Arweinwyr ar Gydraddoldeb o fewn adrannau i hyrwyddo’r gwaith hwn. Sefydlwyd Grŵp Gweithredu Cydraddoldeb fel rhwydwaith dysgu gyda chymorth cymheiriaid i ganfod atebion er mwyn dileu rhwystrau a ganfuwyd. Rhoddwyd hyfforddiant gan Bennaeth Cydraddoldeb a threfnwyd sesiynau addysgol rheolaidd mewn ymateb i anghenion dysgu’r grŵp. Cafwyd cynnydd sylweddol o ran meithrin galluedd a hyder yn y grŵp staff allweddol hwn. Cyhoeddwyd gwybodaeth am gynnydd a chyflawniadau mewn meysydd gwasanaeth a thystiolaeth iddynt yn yr Adroddiadau Gweithredol Cydraddoldeb Blynyddol. Gwella Mynediad yn yr Ymddiriedolaethau Blaenorol Roedd yr Ymddiriedolaethau blaenorol dros Ogledd Orllewin Cymru a Gogledd Cymru wedi sefydlu Grwpiau Cyfeirio Mynediad ac Anabledd ac ynddynt aelodau o’r gymuned leol i hyrwyddo ymgysylltu a dylanwadu ar waith datblygu polisi cynhwysol mewn cysylltiad â materion cydraddoldeb. Mae’r ddau grŵp hyn wedi dylanwadu’n gadarnhaol ar arferion cydraddoldeb drwy hybu ymwybyddiaeth o’r rhwystrau y mae rhai grwpiau cymunedol yn eu profi’n lleol a chynnig cyngor er mwyn dod o hyd i atebion. Mae’r Grŵp Anabledd wedi rhoi cyngor bob blwyddyn ynghylch blaenoriaethu gwaith cyfredol ar wella mynediad ar sail yr archwiliadau o fynediad i adeiladau yn 2003.

  • 16

    Gwella Mynediad at Wasanaethau Meddygon Teulu Mae nifer o’r BILlau blaenorol wedi cydweithio â gweithwyr Gofal Sylfaenol proffesiynol i ganfod rhwystrau mynediad ffisegol ac wedi ariannu cost gwelliannau hanfodol a nodwyd yn yr adroddiadau archwilio. Yn ogystal â hynny, hwyluswyd nifer o ddigwyddiadau hyfforddi ar Gydraddoldeb Anabledd mewn Gofal Sylfaenol, ar y cyd ag EquIP Cymru, ar gyfer practisau meddygon teulu ledled Gogledd Cymru. Yn Sir y Fflint cynigiwyd cyllid hefyd i bractisau meddygon teulu i’w helpu i ddiweddaru a moderneiddio offer meddygol penodol. Prynodd y rhan fwyaf o bractisau welyau archwilio meddygol hydrolig gydag offer codi at bob angen, er mwyn diwallu anghenion pobl anabl. Cynigiwyd cyllid i bob contractwr gofal sylfaenol i brynu System Ddolen er mwyn cynnig cymorth i gyfathrebu i gleifion byddar a thrwm eu clyw. Datblygwyd pecynnau adnoddau, ac ynddynt wybodaeth ddefnyddiol ynghylch sut i gael mynediad at ‘NEWDOC’ y Gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau Arferol i Sir y Fflint a Wrecsam, a’u rhannu â Fforwm Pobl Fyddar Sir y Fflint. Roedd hyn yn cynnwys ffurflen i’w ffacsio i NEWDOC gan bobl fyddar pan fyddai arnynt angen cael mynediad at y gwasanaeth. Fel rhan o’r Gwasanaethau Ychwanegol dan Gyfarwyddyd, rhoddodd y BILl blaenorol gymorth i bractisau meddygon teulu i gwblhau holiadur hunanasesu EquIP Cymru a llunio Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Anableddau yng ngoleuni’r dystiolaeth a gasglwyd. Ymgysylltu â’r Gymuned Tsieineaidd Cydweithiodd Gwynedd yn agos â’r Awdurdod Lleol i sefydlu a chynnal cysylltiadau â’r Gymdeithas Menywod Tsieineaidd. Cynhaliwyd cyfarfodydd â’r grŵp yn rheolaidd er mwyn meithrin eu gallu a’u hyder o ran cael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a chynnig cyfleoedd i gymryd rhan mewn digwyddiadau iechyd a lles. Ymhlith y cyflawniadau y mae cyfranogi mewn Digwyddiad Byw’n Iach yn Hydref 2006 pan roddwyd cyngor ar iechyd gan aelodau o dimau Fferylliaeth a Chleifion Arbenigol Calon Lân i aelodau o’r Gymuned Tsieineaidd, a hwyluso Digwyddiad Hybu Iechyd yn Hydref 2008 a oedd yn cynnwys sesiwn ar Gerdded Nordig a sesiwn Ymwybyddiaeth o Ganser gyda darpariaeth cyfieithu i’r Gantoneg yn y digwyddiadau. Cynnwys Cleifion a Defnyddwyr Gwasanaethau wrth Gyn llunio Gwasanaethau Mae Sir y Fflint wedi cymryd camau i geisio cynnwys cleifion a defnyddwyr gwasanaethau wrth gynllunio gwasanaethau a rheoli eu cyflyrau meddygol eu hunain. Cafwyd amryw o fentrau gan gynnwys sefydlu Grŵp Cyfeirio Diabetes, darparu cyrsiau Coginio i Fwyta’n Iach i bobl sydd â diabetes mewn partneriaeth â Choleg Glannau Dyfrdwy a rhaglen Diabetes X-Pert i bobl fyddar gyda chymorth cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain.

  • 17

    Y Ganolfan Aml-ffydd yn Ysbyty Gwynedd Roedd Ymddiriedolaeth Gogledd Orllewin Cymru yn bartner allweddol ym mhrosiect Meithrin Gallu Cymunedau Ffydd – menter gan yr Adran Llywodraeth Leol a Chymunedau yn San Steffan i hybu deialog rhwng crefyddau ledled y Deyrnas Unedig. Mae’r Ganolfan Aml-ffydd yn Ysbyty Gwynedd wedi’i chydnabod yn enghraifft o ymarfer da. Mae’r ganolfan yn cynnwys man addoli aml-ffydd, swyddfa, ystafell gynghori bwrpasol ac ystafell ar gyfer ymolchi defodol cyn addoli. Mae’r man addoli wedi’i gynllunio’n ofalus fel bod modd neilltuo lle addoli pwrpasol ar gyfer prif grefyddau’r byd. Defnyddir y ganolfan bob dydd gan Gristnogion, Mwslimiaid a Hindwiaid, yn ogystal â llawer o rai eraill nad ydynt yn arddel crefydd benodol. Mae’r ganolfan yn agored ddydd a nos fel y gall pawb ddod i dreulio ychydig o funudau mewn distawrwydd i feddwl, siarad neu weddïo mewn amgylchedd tawel a heddychlon.

    Cwrdd â’n Gofynion Statudol: Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Sut yr Ydym yn Cwrdd â Hwy Wrth ddatblygu ein Cynllun Cydraddoldeb Sengl cyntaf, un o’r blaenoriaethau pennaf yw sicrhau, fel gofyniad sylfaenol, fod y cynllun newydd yn ymgorffori holl ddyletswyddau’r sector cyhoeddus sydd yn y ddeddfwriaeth gyfredol a restrwyd yn y Fframwaith Cyfreithiol yn Atodiad 6. Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Sengl trosfwaol hwn wedi’i ddatblygu i gwrdd yn effeithiol â thair dyletswydd gyffredinol y sector cyhoeddus ac mae wedi’i ehangu i gynnwys y meysydd cydraddoldeb eraill a hefyd i hybu hawliau dynol. Fel egwyddor gyffredinol, lle bynnag mae un o’r dyletswyddau’n cynnwys gofyniad manylach, rydym wedi ceisio bodloni’r gofyniad hwn, fel mater o ymarfer da, ym mhob un o’r tair dyletswydd. Er enghraifft, mae’r ddyletswydd anabledd yn galw am gynnwys ac nid ymgynghori, ond bydd cynnwys pobl ar gyfer y dyletswyddau hil a rhywedd yn llesol o ran pennu blaenoriaethau ac ymgysylltu ystyrlon â chymunedau. Defnyddir y Mesur Cydraddoldeb a ddisgwylir y flwyddyn nesaf i gynnig mwy o amddiffyniad rhag gwahaniaethu, i hyrwyddo cydraddoldeb a symleiddio’r gyfraith. Bydd y Mesur yn cryfhau cyfraith cydraddoldeb, yn cyflwyno dyletswydd newydd i’r sector cyhoeddus i ystyried lleihau anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol; a

  • 18

    Dyletswydd Cydraddoldeb newydd i gyrff cyhoeddus i ddileu gwahaniaethu, hybu cyfle cyfartal a meithrin cysylltiadau da. Crynodeb o’r Dyletswyddau Cyffredinol Dyletswyddau Cyffredinol Statudol ar Gydraddoldeb Wrth gyflawni ei swyddogaethau, rhaid i bob awdurdod

    cyhoeddus roi “sylw dyladwy” i’r angen i: Dyletswydd Cydraddoldeb Hiliol

    1. dileu gwahaniaethu hiliol anghyfreithlon;

    2. hybu cyfle cyfartal;

    3. hybu cysylltiadau da rhwng pobl o wahanol grwpiau hiliol.

    Dyletswydd Cydraddoldeb Anabledd

    4. dileu gwahaniaethu sy’n anghyfreithlon o dan y Ddeddf;

    5. dileu aflonyddu ar bobl anabl sy’n gysylltiedig â’u hanableddau;

    6. hybu cyfle cyfartal rhwng pobl anabl a phobl eraill;

    7. hybu agweddau cadarnhaol tuag at bobl anabl;

    8. hyrwyddo cyfranogi gan bobl anabl mewn bywyd cyhoeddus;

    9. cymryd camau i ystyried anableddau pobl anabl, hyd yn oed os yw hynny’n golygu trin pobl anabl yn fwy ffafriol na phobl eraill .

    Dyletswydd Cydraddoldeb Rhywedd

    10. dileu gwahaniaethu anghyfreithlon ac aflonyddu ar sail rhyw;

    a

    11. hybu cyfle cyfartal rhwng dynion a menywod.

    Rheolau Sefydlog Enghreifftiol i Fyrddau Iechyd Lle ol Yn ogystal â’r gofynion statudol sydd wedi’u nodi uchod, rhaid i’r BILl gyflawni’r cwbl o’i fusnes mewn modd sy’n ei alluogi i gyfrannu’n llawn at wireddu gweledigaeth Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer y GIG yng Nghymru a’i safonau ar gyfer cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r safonau llywodraethu – Rheolau Sefydlog Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, a osodwyd ar gyfer y GIG yng Nghymru, wedi’u seilio ar egwyddorion Llywodraethu sy’n Canolbwyntio ar y Dinesydd y Cynulliad. Mae’r egwyddorion hyn yn cynnig y fframwaith ar gyfer llywodraethu da ac yn ymgorffori’r gwerthoedd a’r safonau ymddygiad a ddisgwylir ar bob lefel yn y gwasanaeth, yn lleol ac yn genedlaethol.

  • 19

    Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol wedi’u gwreiddio ym mhob agwedd ar y GIG yng Nghymru drwy Fframwaith Gwerthoedd a Safonau Ymddygiad y GIG; Fframwaith Safonau Gofal Iechyd Cymru, Fframwaith Risg a Sicrwydd y GIG, a systemau cynllunio a rheoli perfformiad y GIG. Maent yn ceisio hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb, gan roi cyfle i bob unigolyn wireddu ei botensial, yn rhydd oddi wrth ragfarn a gwahaniaethu, a’r hawl i gael ei drin mewn modd sy’n sicrhau tegwch, parch, cydraddoldeb, urddas ac ymreolaeth. Mae’r fframwaith deddfwriaethol yn mynnu bod awdurdodau cyhoeddus yn hybu cydraddoldeb ym mhopeth y maent yn ei wneud. Mae’n ofynnol i’r Bwrdd Iechyd, wrth ddyfeisio ei strwythur pwyllgorau a threfniadau gweithredu, roi pob sylw i’r angen i wreiddio safonau, blaenoriaethau a gofynion corfforaethol, gan gynnwys cydraddoldeb a hawliau dynol, ym mhob maes gweithgarwch.

    Ein Dull o Ddatblygu’r Cynllun Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Sengl (CCS) yn disgrifio ein hymrwymiad a hefyd sut mae BI PBC yn bwriadu cyflawni’r dyletswyddau sydd arno o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae’r CCS yn berthnasol i’r swyddogaethau a gweithrediadau ym mhob rhan o’r corff. Mae’n egluro sut byddwn yn hybu cyfle cyfartal i bawb, a sut rydym yn cydnabod ac yn mawrbrisio amrywiaeth. Rydym am wneud mwy na chwrdd â’n cyfrifoldebau cyfreithiol i hybu cyfle cyfartal a dileu gwahaniaethu anghyfreithlon mewn cysylltiad ag anabledd, rhywedd a hil; byddwn yn adeiladu ar sail ein cyflawniadau hyd yma i hyrwyddo cydraddoldeb mewn cysylltiad â’r holl briodoleddau a amddiffynnir. Bydd angen inni gydweithio’n effeithiol â phob un o’n partneriaid i wneud cynnydd ar wireddu’r agenda flaengar hon. Er mwyn gwneud amrywiaeth, cydraddoldeb a hawliau dynol yn rhan o’n diwylliant a gwreiddio’r cynllun a’r cynllun gwella ar ei gyfer yn ein gwaith pob dydd, byddwn yn sicrhau atebolrwydd; yn cryfhau arweinyddiaeth a llywodraethu, strategaethau a pholisïau ac arferion a phrosesau, gan rymuso defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a staff mewn cysylltiad â hawliau dynol a galluogi rhanddeiliaid i gyfrannu’n ystyrlon at ddatblygu’r cynllun hwn ymhellach. Byddwn yn cyflawni hyn drwy adeiladu ar sail y cynnydd a gafwyd hyd yma drwy wneud y canlynol:

  • 20

    • Pennu cyfeiriad a blaenoriaethau, a rhoi cymorth i’w gyflawni, mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo cydraddoldeb ac yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd sy’n codi o amddifadedd a gwahaniaethu

    • Cymryd camau i helpu pobl i sicrhau’r gorau posibl o ran eu hiechyd, lles, annibyniaeth, dewis a rheolaeth

    • Helpu pawb sy’n gweithio i’r Bwrdd Iechyd i gyrraedd y nodau hyn, gan gydnabod gwerth eu gwahaniaethau yn eu cyfraniad

    • Datblygu sylfaen dystiolaeth gadarn ynghylch amrywiaeth

    poblogaeth Gogledd Cymru, proffil ein defnyddwyr gwasanaethau a’n staff ac ynghylch yr anghydraddoldebau y mae gwahanol grwpiau ac unigolion yn eu profi

    • Datblygu ein rhaglen hyfforddiant cydraddoldeb ymhellach ar gyfer

    yr holl staff yn unol â’r fframwaith sgiliau a gwybodaeth

    • Gwreiddio cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein gwaith o ddatblygu polisi a strategaethau drwy ddefnyddio Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb

    • Parhau i ymgysylltu â’n staff, defnyddwyr gwasanaethau a

    phartneriaid i hyrwyddo ein gwaith

    • Monitro ac ystyried ein gwaith yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion y rhai yr ydym yn eu gwasanaethu

    Roedd 23 o gynlluniau a chynlluniau gweithredu ar waith eisoes yr oedd yn ofynnol eu hadolygu a’u datblygu mewn ymateb i ddiwygio sefydliadol, a’u datblygu ymhellach i gyfrannu at y drafft hwn o’r Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Sengl ar gyfer iechyd yng Ngogledd Cymru. Mae’r diwygio wedi cynnig cyfle cyffrous inni fyfyrio ynghylch y ddysg sefydliadol a gafwyd ar ôl yr holl gyrff blaenorol, cytuno ar ddull gweithredu a model ar gyfer ein CCS i Ogledd Cymru a meithrin dealltwriaeth o ofynion helaethach y Ddeddf Cydraddoldeb sydd ar ddod. Rydym hefyd wedi dysgu am yr agweddau ymarferol ar fabwysiadu fframwaith wedi’i seilio ar hawliau dynol ac wedi cael cymorth gan Ymddiriedolaeth GIG Mersey Care fel partner dysgu yn hyn o beth. Rydym wedi casglu tystiolaeth oddi wrth y cyrff blaenorol, o adroddiadau cenedlaethol a lleol, ac wedi ymgymryd â llawer o ymgysylltu â staff a defnyddwyr gwasanaethau, gan gydweithio’n agos â’n cymheiriaid mewn timau Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd wrth ystyried a phennu ein blaenoriaethau. Rydym wedi gwrando ac wedi clywed negeseuon

  • 21

    Byddwn yn ceisio cyflawni’r Dyletswyddau Cydraddoldeb,

    hyrwyddo hawliau a chyfrifoldebau a pharhau i gydymffurfio â’r gyfraith

    Byddwn yn ceisio cyflawni’r

    Dyletswyddau Cydraddoldeb o ran cyflogaeth a bod yn ddewis

    cyntaf fel cyflogwr

    Ei wneud yn ddiogel

    Ei wneud yn well

    Ei wneud yn gadarn

    Ei roi ar waith

    Cael canlyniadau

    Byddwn yn ceisio cyflawni’r

    Dyletswyddau Cydraddoldeb wrth gyflenwi

    gwasanaethau sy’n effeithlon, yn

    effeithiol ac yn arloesol o ran eu

    cynllun a’u gweithrediad

    allweddol ac rydym yn rhoi pris mawr ar fewnbwn o’r fath. Mae’r ddogfen hon wedi’i datblygu ar ôl ein gwaith ymgysylltu rhwng Mehefin a Hydref 2009 a chaiff ei datblygu eto wedi’r ymgynghori pellach ar y Cynllun a’r cynllun gwella ar ei gyfer rhwng Rhagfyr 2009 a Mawrth 2010. Wrth ddatblygu’r cynllun hwn rydym wedi gwneud defnydd o amryw o ddulliau gweithredu a strategaethau gan gynnwys:

    • Cyfeiriad Strategol i BI PBC • Dull wedi’i Seilio ar Hawliau Dynol • Safonau Gofal Iechyd • Canolbwyntio ar y Dinesydd • Ymgysylltu Cynhwysol • Model Cymdeithasol o Anabledd • Yr Iaith Gymraeg

    Cyfeiriad Strategol Y gwerthoedd sydd wedi’u nodi o fewn y dyletswyddau cydraddoldeb, sef tegwch, cyfiawnder a hunanddewis, ac egwyddorion hawliau dynol, yw’r sail i’n cyfeiriad strategol. Mae’r tair blaenoriaeth strategol yn y cynllun gwella cydraddoldeb yn canolbwyntio ar y dinesydd ac maent wedi’u dangos yng nghyd-destun y sefydliad. Dull wedi’i Seilio ar Hawliau Dynol Hawliau Dynol yw’r hawliau sylfaenol a’r mathau o ryddid sy’n eiddo i bob person yn y byd. Maent wedi’u seilio ar egwyddorion craidd, sef urddas, tegwch, cydraddoldeb, parch ac ymreolaeth. Mae Hawliau Dynol

  • 22

    yn berthnasol i fywyd pob dydd pawb. Maent yn diogelu ein rhyddid i reoli ein bywydau’n effeithiol, cymryd rhan mewn penderfyniadau a wneir gan awdurdodau cyhoeddus, a chael gwasanaethau sy’n deg ac yn gyfartal. Rydym yn dymuno parchu hawliau pawb sy’n dod i gysylltiad â ni a dangos parch tuag at bawb beth bynnag fo’u sefyllfa. Un agwedd bwysig ar y Cynllun hwn yw sicrhau ein bod yn hyrwyddo tegwch, parch, cydraddoldeb, urddas ac ymreolaeth yng ngwaith BI PBC. Rydym yn bwriadu integreiddio ystyriaeth i hawliau dynol wrth arfer ein swyddogaethau a datblygu ein polisïau. Rydym yn bwriadu hybu ymwybyddiaeth o hawliau dynol ymysg llunwyr polisi a chyflenwyr gwasanaethau. Mae hyn wedi’i ymgorffori yn y Broses Asesu Effaith ar Gydraddoldeb. Cyfrannodd Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru gynt i ymchwiliad gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i Hawliau Dynol ym Medi 2008. Byddwn yn ystyried yr argymhellion ar gyfer ein gwaith yn y dyfodol. Rydym yn cydnabod bod angen datblygu o safbwynt lle y gwelir bod hawliau dynol yn bwysig at fod yn gorff sydd wedi’i seilio ar hawliau dynol a sicrhau bod hawliau dynol yn rhan hanfodol o’r hyn ydym a’r hyn yr ydym yn ei wneud. Mae camau i hyrwyddo’r ymrwymiad hwn wedi’u nodi yn y cynllun gwella sy’n ategu’r cynllun hwn. Mae’r tabl isod yn dangos y cyfryngau ym maes iechyd yr ydym yn eu defnyddio i hyrwyddo’r gwaith hwn.

  • Dull wedi’i Seilio ar Hawliau Dynol Egwyddor Enghraifft o ran

    hawliau dynol Enghraifft ym maes gofal iechyd

    Hanfodion gofal Urddas mewn gofal

    Rhydd i arwain, rhydd i ofalu

    FfFS Craidd 6 Safon gofal iechyd

    Tegwch

    Hawl i gael treial teg

    Sicrhau bod gweithdrefnau cwyno’n deg ac yn dryloyw

    Sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn gallu cwyno heb ofn dial

    Y gweithiwr: Yn cydnabod pwysigrwydd hawliau pobl ac yn gweithredu’n unol â’r ddeddfwriaeth. Polisïau a gweithdrefnau (lefel 2)

    Parch

    Parch at fywyd teuluol a phreifat

    Parchu teuluoedd o bob math, e.e. cyplau o’r un rhyw

    Yr amgylchedd gofal (Pobl yn teimlo’n gyfforddus, yn ddiogel, yn dawel eu meddwl, yn hyderus a bod croeso iddynt)

    Cynorthwyo pobl gan ddangos yr un parch atynt ag y byddech yn ei ddymuno i chi’ch hun neu’ch teulu

    Yn trin pawb y mae’n dod i gysylltiad â hwy gyda pharch ac urddas (lefel 1)

    Cydraddoldeb

    Peidio â gwahaniaethu yn erbyn hawliau wrth fwynhau hawliau dynol eraill

    Sicrhau na wrthodir triniaeth i bobl dim ond oherwydd eu hoedran

    Cyfathrebu (Cleifion a gofalwyr yn profi cyfathrebu effeithiol sy’n sensitif i anghenion a dewisiadau unigol – yn cynnwys cyfieithwyr)

    Trin pob person fel unigolyn drwy gynnig gwasanaeth personol

    Yn cydnabod bod pobl yn wahanol ac yn sicrhau nad yw’n gwahaniaethu yn erbyn pobl eraill (lefel 1) Yn pennu camau ac yn eu cymryd pan fydd ei ymddygiad ei hun neu ymddygiad pobl eraill yn tanseilio cydraddoldeb ac amrywiaeth (lefel 2)

    Urddas

    Hawl i beidio â chael ei arteithio neu ei drin yn greulon neu’n ddiraddiol

    Sicrhau bod digon o staff ac adnoddau i newid cynfasau gwlyb a budr yn ddi-oed

    Preifatrwydd ac urddas (Cleifion yn cael gofal mewn amgylchedd sy’n cwmpasu gwerthoedd, credoau a pherthnasoedd personol yr unigolyn)

    Helpu pobl i gadw eu hyder a hunan-barch cadarnhaol

    Yr un fath ag ar gyfer parch

    Ymreolaeth

    Hawl i gael parch at fywyd preifat

    Cynnwys pobl mewn penderfyniadau am eu triniaeth a’u gofal

    Egwyddorion hunanofal (Galluogi cleifion i wneud dewisiadau ynghylch hunanofal a pharchu’r dewisiadau hynny)

    Galluogi pobl i gadw’r lefel uchaf posibl o annibyniaeth, dewis a rheolaeth

    Yn gweithredu mewn ffyrdd sy’n derbyn ac yn cydnabod y credoau, hoffterau a dewisiadau y mae pobl yn eu mynegi (lefel 2)

  • Safonau Gofal Iechyd Defnyddir y Safonau Gofal Iechyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) fel rhan o’i phrosesau ar gyfer asesu ansawdd, diogelwch ac effeithioldeb cyrff iechyd y GIG ledled Cymru. Mae’r safonau’n gyson â blaenoriaethau a strategaethau eraill y Cynulliad fel ‘Creu’r Cysylltiadau: Gwell Gwasanaethau i Gymru’ a ‘Cynllun Oes: Strategaeth 10 Mlynedd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol’. Mae’r safonau wedi’u gwreiddio ym mhob lefel o fewn y corff, wedi’u cadarnhau gan dystiolaeth o wella parhaus mewn ansawdd drwy gynhyrchu Cynllun Gwella Safonau Gofal Iechyd BI PBC a’i fonitro’n barhaus. Mae’r Cynllun Gwella Cydraddoldeb wedi’i gynllunio fel ei fod yn cyfateb i Safonau Gofal Iechyd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Bydd y gwaith hwn yn cael ei ddatblygu ymhellach yn ystod y broses ymgynghori wrth inni ofyn am farn arweinwyr ar Safonau Gofal Iechyd. Drwy gysoni’r Cynllun Cydraddoldeb Sengl â’r Safonau Gofal Iechyd ceir fframwaith cyson ar gyfer monitro a chofnodi cynnydd. Mae ystod eang o safonau’n sail i’r Cynllun hwn a byddant yn cael eu nodi fel y ffynhonnell sicrwydd yn y Cynllun Gwella Cydraddoldeb. Mae hyn wedi’i nodi ar gyfer gweithredu pellach. Canolbwyntio ar y Dinesydd Mae egwyddorion llywodraethu sy’n Canolbwyntio ar y Dinesydd yn ymgorffori’r math o wasanaethau cyhoeddus y mae Llywodraeth y Cynulliad am eu gweld, sef rhai sy’n canolbwyntio ar anghenion dinasyddion, lle mae dinasyddion yn cymryd rhan ac wedi’u cynnwys wrth ddatblygu gwasanaethau ac yn cael gwasanaethau sy’n effeithlon, yn effeithiol ac yn arloesol o ran eu cynllun a’u gweithrediad. Ymgysylltu Cynhwysol Rydym wedi ymrwymo i fabwysiadu dull ymgysylltu cynhwysol. Mae hyn yn golygu y byddwn yn defnyddio dulliau ymgysylltu sydd â’r amcan o’n helpu i ymgysylltu i’r graddau mwyaf posibl a chynnwys ein rhanddeiliaid wrth ddatblygu’r gwaith hwn. Byddwn yn ystyried anghenion amrywiol ein cynulleidfa a materion sy’n ymwneud ag amser, technoleg, a mynediad at wybodaeth, rhwystrau iaith neu faterion eraill sy’n ymwneud â mynediad. Mae camau gweithredu i hyrwyddo gweithgareddau ymgysylltu cynhwysol yn y Cynllun Gwella.

    Model Cymdeithasol o Anabledd “Ar hyn o bryd, nid yw pobl anabl yn cael yr un cyfleoedd na dewisiadau â phobl nad ydynt yn anabl. Nid ydynt ychwaith yn mwynhau’r un parch na chynhwysiant llawn mewn cymdeithas ar sail gyfartal. Nid yw’r tlodi, yr anfantais a’r allgáu cymdeithasol a brofir gan nifer o bobl anabl yn

  • 25

    ganlyniad anochel i’w nam neu eu cyflwr meddygol, ond yn hytrach maent yn deillio o rwystrau agwedd ac amgylcheddol. Gelwir hyn yn ‘fodel cymdeithasol o anabledd’, a gellir ei ddefnyddio fel sail ar gyfer gweithrediad llwyddiannus y ddyletswydd i hybu cydraddoldeb anabledd.” Ffynhonnell: Dyletswydd i Hyrwyddo Cydraddoldeb Anabledd, Cod Ymarfer Statudol, Comisiwn Hawliau Anabledd 2005 Mae’r Ddyletswydd Cydraddoldeb Anabledd yn adlewyrchu’r model cymdeithasol o anabledd sy’n fodd i ganolbwyntio ar strwythurau a’r rhwystrau y mae unigolion anabl yn eu hwynebu o ganlyniad iddynt ac yn darparu offer ar gyfer datgymalu ac atal y rhain. Drwy fabwysiadu dull y model cymdeithasol, mae awdurdodau’n wynebu’r her i droi oddi wrth ymagwedd gwbl feddygol at anabledd, sy’n canolbwyntio ar namau meddygol fel y prif reswm dros yr anawsterau a ddaw i ran pobl anabl, at ddull y model cymdeithasol sy’n cydnabod yr effaith negyddol ar bobl anabl o gymdeithas sydd wedi’i chynllunio ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl ac yn cymryd camau i hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl. (Comisiwn Hawliau Anabledd 2005). Tynnwyd sylw yn ystod ein proses ymgysylltu at y ffaith bod adeiladwaith adeiladau weithiau’n gallu atal rhai grwpiau rhag defnyddio’r gwasanaethau sydd ynddynt. Er enghraifft, nid oes rampiau neu lifftiau mewn rhai adeiladau ac mae hynny’n atal defnyddwyr cadeiriau olwyn rhag cael mynediad at wasanaethau neu mae’r goleuadau a’r acwsteg mewn adeilad yn gallu effeithio ar fynediad i bobl fyddar. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y model cymdeithasol o anabledd a’r egwyddorion sy’n sail iddo ac mae hyn wrth wraidd llawer o’r camau gweithredu yn ein Cynllun a’n cynllun gwella. Yr Iaith Gymraeg Mae’r Bwrdd Iechyd yn rhannu ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i greu Cymru ddwyieithog, fel y mae wedi’i nodi yn “Iaith Pawb”, ei chynllun gweithredu ar gyfer y Gymraeg. Mae deddfwriaeth benodol ar gyfer yr iaith, sef Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Roedd y cyn Fyrddau Iechyd Lleol a’r Ymddiriedolaethau yn gweithredu’n unol â’u Cynlluniau Iaith Gymraeg, a baratowyd o dan y Ddeddf – ac a gymeradwywyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Roedd y Cynlluniau yn disgrifio sut y caiff y Gymraeg a’r Saesneg eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal wrth inni gyflenwi gwasanaethau iechyd i bobl Gogledd Cymru a datblygu polisïau, gwasanaethau a mentrau newydd. Bydd Cynllun Iaith Gymraeg ar gyfer BI PBC yn cael ei gyhoeddi erbyn Mawrth 2010.

  • 26

    Datblygu a Monitro ein Cynllun Mae’r Prif Weithredwr yn atebol am sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn cyflawni ei gyfrifoldebau o dan y Deddfau ac am sicrhau bod y Cynllun Cydraddoldeb Sengl hwn yn cael ei roi ar waith. Mae’r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am gymeradwyo’r cynllun a chraffu ar ei weithrediad. Bydd yr holl Gyfarwyddwyr Gweithredol a Phenaethiaid Staff yn defnyddio eu lle fel arweinwyr i ddatblygu a gweithredu’r cynllun. Bydd Penaethiaid Staff yn sicrhau bod yr egwyddorion o ran cydraddoldeb a hawliau dynol sy’n perthyn i’r amcanion yn eu cynlluniau gwasanaeth wedi’u dynodi o ran eu perthnasedd ac y cymerir camau arnynt drwy fabwysiadu dull cymesur o hyrwyddo cydraddoldeb. Rhaid i Feddygon Ymgynghorol, Rheolwyr Cyffredinol, Penaethiaid Gwasanaeth, Staff Clinigol Uwch a Rheolwyr Llinell hybu cydraddoldeb o fewn eu hadrannau a sicrhau bod cynlluniau gweithredu a hyfforddiant yn cael eu dilyn. Bydd y Bwrdd Iechyd yn enwi aelodau arweiniol o’r corff a fydd yn gyfrifol am arwain ar gydraddoldeb a hybu’r broses asesu effaith:

    • Aelod Annibynnol o’r Bwrdd yn Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ac yn Hyrwyddwr Cydraddoldeb

    • Cyfarwyddwr Datblygu’r Gweithlu a’r Sefydliad yn gyfrifol am hyrwyddo’r agenda ar gydraddoldeb a hawliau dynol i’r corff. Caiff y Cyfarwyddwr gymorth gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol a Phennaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Hawliau Dynol yn hyn o beth.

    • Penaethiaid Staff a Phenaethiaid Gwasanaeth gyda chymorth gan Bennaeth Cydraddoldeb a’r Grŵp Gweithredu ar Gydraddoldeb gan gynnwys arweinwyr cydraddoldeb y Grwpiau Rhaglenni Clinigol / Adrannau Gwasanaethau Corfforaethol

    Hyrwyddwyr Cydraddoldeb Bydd pob Grŵp Rhaglen Glinigol neu Adran Gwasanaethau Corfforaethol yn enwi Hyrwyddwr Cydraddoldeb. Mae Hyrwyddwyr Cydraddoldeb wedi chwarae rhan o bwys wrth helpu i ddatblygu ein Cynllun a gwella cynlluniau yn y cyrff blaenorol. Byddant yn chwarae rhan hollbwysig wrth sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol yn cael eu hyrwyddo ym mhob rhan o’r Bwrdd Iechyd. Mae’r Hyrwyddwyr yn gweithredu fel eiriolwyr dros gydraddoldeb, ac fel cyfryngwyr newid. Byddant yn herio ac yn hybu ymwybyddiaeth o fewn y sefydliad yn eu holl feysydd gwaith mewn cysylltiad â materion cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol. Mae’r Grŵp Gweithredu ar Gydraddoldeb yn gweithredu fel rhwydwaith dysgu i gynorthwyo Hyrwyddwyr Cydraddoldeb gan rannu materion ac arferion pwysig. Bydd Hyrwyddwyr Cydraddoldeb yn allweddol o ran hybu’r gwaith o ddatblygu blaenoriaethau, canlyniadau a chynlluniau gweithredu lefel uchel ar gyfer meysydd gwasanaeth. Fel rhan o’n hymrwymiad i brif ffrydio

  • 27

    cydraddoldeb, byddwn yn adolygu rôl yr Hyrwyddwyr ym mhob rhan o’r Bwrdd Iechyd ac yn datblygu cymorth pellach ar eu cyfer fel un o’r ymrwymiadau yn ein Cynllun. Ein bwriad yw y bydd y Cynllun Cydraddoldeb Sengl i BI PBC yn dilyn model tebyg i Gynllun Cydraddoldeb Sengl Llywodraeth Cynulliad Cymru, h.y. cynllun corfforaethol a chynllun gweithredu wedi’i ategu gan gynlluniau gweithredu GRhGau ac AGCau a gaiff eu datblygu o’r gwaelod i fyny. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd y GRhGau yn nodi’r goblygiadau o ran cydraddoldeb a hawliau dynol sydd yn eu blaenoriaethau gweithredol cyfredol ac y bydd gwaith ar gydraddoldebau’n rhan o’r busnes craidd. Mae’r dull gweithredu hwn wedi’i ymgorffori mewn Canllaw Cynllunio Dros Dro sydd wedi’i ddatblygu i hyrwyddo gwaith cynllunio gwasanaethau ar gyfer BI PBC. Cynlluniau Gweithredu Cydraddoldebau Gwasanaethau Mae’r cynlluniau gweithredu’n dangos sut bydd y Tîm Gweithredu’n pennu blaenoriaethau gweithredu ar gydraddoldeb a sut byddwn yn cydweithio â GRhGau ac AGCau yn ystod y flwyddyn nesaf i bennu camau gweithredu allweddol y bydd ein hadrannau’n eu hyrwyddo yn ystod y tair blynedd nesaf i gyflawni eu hymrwymiad i hybu cydraddoldeb. Byddwn yn mabwysiadu dull datblygu sefydliadol ar gyfer y maes gwaith pwysig hwn. Bydd Arweinwyr Cydraddoldeb y GRhGau a’r AGCau yn cael eu galluogi a’u cynorthwyo i fwrw ymlaen â chamau gweithredu angenrheidiol drwy roi hyfforddiant penodol dan arweiniad Pennaeth Cydraddoldeb. Mae rhai o’r gweithgareddau a fydd yn rhan o’r cynlluniau gweithredu hyn yn ymrwymiadau a bennwyd mewn cynlluniau a rhaglenni gwaith cynharach. Bydd eraill yn cael eu datblygu o ganlyniad i ystyried materion cydraddoldeb mewn cysylltiad â blaenoriaethau gweithredol presennol y GRhGau a sylwadau, barn ac adborth a geir yn ystod y gweithgarwch ymgysylltu. Mae adolygiadau blynyddol wedi’u cynnwys yn rhaglenni gweithredu’r Cynllun i sicrhau y cawn gyfle i ystyried ac adolygu ein cynlluniau a dal sylw ar newidiadau mewn gofynion deddfwriaethol.

    Ymgysylltu â Defnyddwyr Gwasanaethau, Staff a Budd-ddeiliaid Eraill Cydweithio i Gynnwys ac Ymgysylltu’n Well

    Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd

  • 28

    Mae’r gofynion cyfreithiol ar gyfer cyhoeddi cynlluniau cydraddoldeb gan gyrff cyhoeddus yn y deddfau canlynol:

    • Deddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000 • Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 2005 • Deddf Cydraddoldeb 2006

    Er ei bod yn amlwg bod pethau sy’n debyg yn y gwahanol ddyletswyddau statudol, mae gwahaniaethau rhyngddynt hefyd. Lle bynnag yr oedd modd, mae’r gwaith o ddatblygu’r Cynllun Cydraddoldeb Sengl hwn wedi’i seilio ar ddefnyddio’r ‘safon uwch’. Er enghraifft, un o ofynion Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 2005 yw ‘cynnwys’ pobl anabl yn y broses o gyhoeddi’r Cynllun, tra bo Deddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000 yn mynnu y bydd ‘ymgynghori’ priodol. Yn y dyfodol, felly, nod BI PBC fydd ‘ymgysylltu’ yn ogystal ag ymgynghori wrth gynhyrchu ac wedyn adolygu’r Cynllun Sengl hwn. Mae hefyd yn bwysig cydnabod yn glir na all ymgynghori ac ymgysylltu gwirioneddol fod yn broses ‘untro’ neu ddigwyddiad unigol, a bod rhaid i hyn fod yn broses barhaus. Ymgysylltu â’n Rhanddeiliaid Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu ar gydraddoldeb wedi’u hwyluso ar gyfer datblygu cynlluniau ynghylch hil, anabledd a rhywedd ym maes iechyd ledled Gogledd Cymru a datblygwyd cronfa ddata gynhwysol o fwy na 1,000 o gysylltiadau. Ym mis Medi 2009 datblygwyd holiadur drwy ymgynghori â chymheiriaid ym maes Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd ac fe’i dosbarthwyd yn eang ymysg unigolion a chyrff sydd â diddordeb mewn materion cydraddoldeb ac sy’n gallu helpu i oleuo a dylanwadu ar y datblygu ar flaenoriaethau yn ein cynllun newydd. Cwestiwn cyntaf yr holiadur oedd “Beth Rydym yn ei Wneud yn Dda?” fel corff mewn cysylltiad â materion cydraddoldeb. Ein cwestiwn nesaf oedd “Beth Allem ei Wneud yn Well?” Roedd o ddiddordeb inni gael gwybod beth yr oedd pobl yn teimlo ein bod yn ei wneud yn dda er mwyn parhau â’r arferion da presennol a’u datblygu. Cafwyd 149 o ymatebion i gyd. Mae’r atebion i’r ail gwestiwn wedi’u dadansoddi yn ôl thema. Mae gwaith yn mynd ymlaen ar hyn o bryd i bennu perchnogaeth ar feysydd i’w gwella o fewn y corff ynghyd â blaenoriaethau. Mae dadansoddiad o’r themâu, ynghyd â sampl o’r sylwadau a gafwyd, yn Atodiad 3. Sicrhawyd bod y dull gweithredu hwn yn llwyddo drwy gydweithio a chydweithredu â chymheiriaid ym maes Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd, Cynghorau Iechyd Cymuned a Chynghorau Gwasanaethau Gwirfoddol a chynrychiolwyr eraill o’r trydydd sector. Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a gymerodd ran ac i’r aelodau hynny o’r cyhoedd a

  • 29

    ymatebodd ym mhob rhan o Ogledd Cymru. Mae’r wybodaeth a gafwyd yn amhrisiadwy wrth bennu ein blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol. Ymgysylltu â’n Staff Cafodd holiadur ei gynllunio a’i ddosbarthu hefyd i holl staff y GIG yng Ngogledd Cymru fel rhan o’r pecyn ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Dychwelwyd cyfanswm o 132 o holiaduron. Roedd y prif bwnc a godwyd gan staff yn ymwneud â gweithio hyblyg a materion gofal, a hynny mewn 41% o’r ymatebion. Mae dadansoddiad manwl o’r ymatebion a’r ymatebwyr yn Atodiad 3. Hoffem ddiolch i’r holl staff a gymerodd ran am eu cyfraniadau gwerthfawr a fydd yn cael eu hystyried wrth ddatblygu’r Cynllun Gwella. Cyfarfod y Gr ŵp Cyfeirio Budd-ddeiliaid Fel rhan o’r gweithgarwch ymgysylltu, gwnaethom hefyd wahodd rhai a oedd wedi mynegi diddordeb i ddod i gyfarfod gyda’r hwyr i gael adborth o’r gwaith ymgysylltu a gafwyd hyd hynny ac i gydweithio â ni i ddatblygu’r gwaith hwn ymhellach. Cynhaliwyd y digwyddiad hwn ar 15 Hydref 2009, a chafwyd trafodaeth fywiog a gweithdai diddorol yno. Mae’r themâu a nodwyd yn ystod y cyfarfod hwn wedi’u cynnwys yn Atodiad 3 hefyd. Parhau i Ymgysylltu Mae’r gwaith hwn wedi’i hyrwyddo mewn partneriaeth gan y Rhwydwaith Cydraddoldeb a Chynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd ar y cyd. Mae camau i gryfhau’r dull gweithredu hwn a phrif ffrydio ymgysylltu cynhwysol ymhellach mewn gweithgareddau Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd wedi’u nodi yn y Cynllun Gwella.

    Casglu a Dadansoddi’r Dystiolaeth Beth a Ddywedsoch Wrthym Ni – Dal i Wneud Cynnydd Themâu a nodwyd o’r Ymgysylltu â Defnyddwyr Gwasana ethau yng Ngogledd Cymru drwy Holiadur, Gorffennaf 2009

    • Hyfforddi gorfodol i’n gweithlu i hybu ymwybyddiaeth a gallu mewn cysylltiad â chydraddoldeb, hawliau dynol ac urddas;

    • Gwell mynediad at wasanaethau; • Ymchwilio’n benodol i’r modd y mae meini prawf oedran yn gallu

    atal mynediad at rai gwasanaethau • Datblygu’r sefydliad o ran dealltwriaeth o’r canlynol:

    o rhwystrau a brofir gan rai grwpiau;

  • 30

    o y cysylltiad rhwng Dyletswyddau Cydraddoldeb a lleihau anghydraddoldebau iechyd;

    • Gwelliannau o ran cyfathrebu a darparu gwybodaeth; • Partneriaethau, cynhwysiant a chynnwys y cyhoedd yn barhaus yn

    ein gwaith ar gydraddoldebau. Themâu a nodwyd o’r Digwyddiad i Randdeiliaid – 15 Hydref 2009

    • Pwysigrwydd gofal, urddas a pharch – sut rydym yn sicrhau bod staff yn gweithio yn ôl y gwerthoedd hyn?

    • Effaith cyfathrebu gwael â defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr • Yr angen i glywed llais cleifion a’u cynnwys mewn hyfforddiant ac

    addysg • Y pwysigrwydd o ddangos ein bod yn dysgu o gwynion • A yw staff wedi’u grymuso’n wirioneddol i ddelio â phryderon ar

    lefel y ward ac a ydynt yn ddigon hyderus i godi pryderon eu hunain

    • Beth yw ymagwedd BI PBC at fynediad teg ledled Gogledd Cymru • Mae cael pethau’n iawn y tro cyntaf yn arbed arian

    Themâu a nodwyd o’r Ymgysylltu â Staff drwy Holiadu r, Gorffennaf-Medi 2009 • Hyfforddiant • Trais yn erbyn staff y GIG • Fforymau Amrywiaeth mewn Cyflogaeth • Gofalu a Gofal Plant • Sioeau teithiol • Canolfan Byd Gwaith a Remploy • Crefydd a Chredo • Ymgyrch Gwahardd Bwlio yn y Gwaith • Ymddeol • Gweithio hyblyg

    Beth yr Ydym wedi’i Ddysgu a’n Blaenoriaethau Am fod cwmpas y gwaith hwn mor eang, derbynnir bod angen pennu blaenoriaeth meysydd ar gyfer cynnydd fel eu bod yn adlewyrchu’r meysydd ar gyfer gwella a nodwyd gan staff a defnyddwyr gwasanaethau, yn cyfateb i flaenoriaethau’r sefydliad ac yn gysylltiedig â’r busnes craidd. Mae’r argymhellion canlynol wedi’u seilio ar yr hyn a ddysgwyd o waith cyrff iechyd blaenorol mewn cysylltiad â hyrwyddo cydraddoldeb, o adroddiadau cenedlaethol ac o themâu a nodwyd ar ôl ymgynghori â staff a rhanddeiliaid. Bydd camau gweithredu sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau yn y meysydd blaenoriaethol yn cael eu datblygu ymhellach i’w cynnwys yn y Cynllun ochr yn ochr â chamau

  • 31

    gweithredu eraill y mae eu hangen i sicrhau cydymffurfiad. Cynigir y bydd y Cynllun Cydraddoldeb Sengl yn canolbwyntio ar hawliau dynol ac yn rhoi blaenoriaeth i anghenion y rhai sy’n fwyaf agored i niwed. Tra bydd hyfforddiant ac asesiadau o effaith yn hybu ymwybyddiaeth o’r rhwystrau a brofir gan unigolion a chymunedau mewn cysylltiad â’r holl briodoleddau a amddiffynnir, awgrymir ein bod yn canolbwyntio ar y grwpiau cydraddoldeb canlynol wrth hybu cyfle cyfartal yn ystod oes y cynllun hwn:

    • Pobl anabl gan gynnwys pobl sydd ag Anableddau Dysgu • Sipsiwn-Teithwyr • Pobl hŷn

    Ymhlith y blaenoriaethau eraill y mae: Bwrdd Iechyd PBC – cyflawni’r Dyletswyddau fel darp arwr gwasanaethau 1. Hyfforddi ein gweithlu er mwyn hybu ymwybyddiaet h a gallu mewn cysylltiad â chydraddoldeb, hawliau dynol ac u rddas: Bydd y corff yn gwneud hyfforddiant ar gydraddoldeb ac amrywiaeth yn orfodol ar gyfer pob swydd. Bydd grŵp gorchwyl a gorffen yn adolygu’r hyfforddiant a gynigir ar hyn o bryd ledled Gogledd Cymru a chytunir ar Raglen Hyfforddiant Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Cytunir ar dargedau hyfforddi o 80% o gydymffurfiad dros dair blynedd. 2. Gwell mynediad at wasanaethau; bydd y Bwrdd Iech yd yn hyrwyddo mynediad fel blaenoriaeth sefydliadol: Bydd y Pwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn monitro materion mynediad ac yn cyflwyno argymhellion i Grwpiau Rhaglenni Clinigol ac Adrannau Gwasanaethau Corfforaethol. Ymchwilio’n benodol i’r modd y mae meini prawf oedr an yn gallu atal mynediad at rai gwasanaethau. Datblygu sefydliadol i gael dealltwriaeth o’r canly nol:

    o rhwystrau a brofir gan rai grwpiau; o y cysylltiad rhwng Dyletswyddau Cydraddoldeb a llei hau

    anghydraddoldebau iechyd; Cymerir camau i hyrwyddo’r gwaith hwn a rhoi gwybod amdano ar ôl cydweithio’n agos â Phrosiect Ymchwil Anghydraddoldebau Iechyd y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus a’r Prif Economegydd Iechyd. Bydd gwybodaeth am y berthynas rhwng anghydraddoldeb iechyd, amddifadedd ac anfantais yn

  • 32

    cael ei lledaenu’n eang er mwyn ei hystyried mewn asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb ac wrth gynllunio gwasanaethau. 3. Gwelliannau o ran cyfathrebu a darparu gwybodaet h; a phartneriaethau, cynhwysiant a chynnwys y cyhoedd y n barhaus yn ein gwaith ar gydraddoldebau. Cydweithio’n barhaus â Thimau Profiad y Claf a Chynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd, cydweithio’n agosach â’r Cyfarwyddwr Cynllunio a Chyfarwyddwr Gofal Sylfaenol a Phartneriaethau Cymunedol drwy Fyrddau Gwasanaethau Lleol/ Awdurdodau Lleol a mentrau trydydd sector. Rhai o’r cyfryngau arfaethedig i hyrwyddo’r gwaith hwn yw

    • Cynllun Corfforaethol i BI PBC • Cynlluniau Datblygu Gwasanaeth y Grwpiau Rhaglenni Clinigol • Hanfodion gofal • Rhaglen urddas a pharch mewn gofal • Yn Rhydd i Arwain, Yn Rhydd i Ofalu • Gweddnewid Gofal wrth Erchwyn y Gwely • Ymgyrch 1,000 o fywydau • Cytundebau lefel gwasanaeth • Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles • Safonau gofal iechyd • Llwybrau clinigol • Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn • Addewidion ar gynnwys pawb (cytuno arnynt ag Arweinwyr

    Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd ledled Gogledd Cymru) • Prosiect ymchwil y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol

    Bwrdd Iechyd PBC – cyflawni’r Dyletswyddau fel cyfl ogwr Trais yn erbyn staff y GIG: Bydd y corff yn cydweithio’n agosach â’r heddlu i ymchwilio i honiadau o drais yn erbyn staff y GIG. Gwneir yr argymhelliad hwn yn dilyn y cytundeb diweddar â’r heddlu a lofnodwyd gan y Gweinidog Iechyd Edwina Hart. Mae’r cytundeb yn cynnwys protocolau newydd ar ymchwilio i ddigwyddiadau; atgyfeirio achosion i’r heddlu; casglu tystiolaeth a darparu datganiadau; adolygiadau ar ôl digwyddiad a chymorth i ddioddefwyr wedi i’w hachos fynd ymlaen i lys. Bydd BI PBC yn penodi unigolion wedi’u henwi ar lefelau Prif Weithredwr ac Aelodau nad ydynt yn Swyddog a fydd yn delio’n benodol â phroblem trais yn y sefydliadau. Cyflwynir adroddiadau rheolaidd ar drais ac ymddygiad ymosodol yng nghyfarfodydd y Bwrdd.

  • 33

    Fforymau Amrywiaeth mewn Cyflogaeth: Bydd y corff yn ymuno â fforymau ar arferion da o ran amrywiaeth, yn cydweithio â chyrff arbenigol sy’n cynrychioli’r holl feysydd cydraddoldeb er mwyn nodi’r rhwystrau y mae rhai grwpiau o gyflogeion yn eu profi ac yn ymdrechu i hyrwyddo cydraddoldeb yn y gweithle, h.y. Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall.

    Gofalu a Gofal Plant: Bydd y corff yn cynnal cysylltiadau â’r Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr a Gwasanaethau Gwybodaeth a Gwasanaethau Gwybodaeth Plant ac yn eu hyrwyddo ar gyfer pob sir yng Ngogledd Cymru, fel adnodd i staff.

    Hyfforddiant: Bydd y corff yn sicrhau bod yr holl staff yn cael hyfforddiant statudol mewn cysylltiad â chydraddoldeb ac amrywiaeth. Dylai hyn gynnwys hyfforddiant i reolwyr llinell ynghylch rheoli staff mewn cysylltiad â materion anabledd gan gynnwys iechyd meddwl, cyfathrebu ac urddas yn y gwaith. Sioeau teithiol: Bydd y corff yn creu mwy o ymwybyddiaeth o faterion cydraddoldeb/rhwystrau drwy gynnal sioeau teithiol thematig, h.y. Diwrnod y Cenhedloedd Unedig ar gyfer dileu gwahaniaethu ar sail hil. Canolfan Byd Gwaith a Remploy: Bydd y corff yn cydweithio â chyrff ac yn hyrwyddo eu gwasanaethau er mwyn cefnogi staff anabl gan gynnwys y rheini sy’n dod yn anabl yn ystod eu cyflogaeth. Crefydd a Chredo: Bydd y corff yn hyrwyddo rôl Caplaniaid Ymddiriedolaethau mewn cysylltiad â diwallu anghenion crefyddol ac ysbrydol cyflogeion ac yn cynnal sioeau teithiol ar grefydd a chredoau ysbrydol er mwyn hybu ymwybyddiaeth.

    Ymgyrch Gwahardd Bwlio yn y Gwaith : Bydd y corff yn rhoi cyhoeddusrwydd eang i’r Ymgyrch Gwahardd Bwlio yn dilyn lansio’r Polisi Urddas yn y Gwaith newydd yn BI PBC.

    Ymddeol: Bydd y corff yn ymgymryd ag ymchwil leol ac yn datblygu polisi ar ymddeol sy’n ymateb i anghenion y grŵp cleientiaid hwn ac yn ei hyrwyddo’n eang. Gweithio hyblyg: Bydd y corff yn sicrhau bod dull cyson o gymhwyso’r polisi ar weithio hyblyg. Dylai’r Adran Adnoddau Dynol ddarparu hyfforddiant pellach i reolwyr llinell/uwch reolwyr ar gymhwyso hyn ac ar bolisïau eraill fel gwyliau blynyddol, absenoldeb arbennig a gweithio hyblyg er mwyn sicrhau bod dull gweithredu cyson yn BI PBC.

  • 34

    Mynediad a Hygyrchedd Mae BI PBC wedi ymrwymo i weithredu’n dryloyw ac yn agored, ac mae’n cydnabod y bydd gwella mynediad at wybodaeth a gwasanaethau i bobl sy’n profi rhwystrau’n arwain at welliannau mewn canlyniadau iechyd ym mhob rhan o’n cymuned. Gallai’r rhwystrau hyn fod yn faterion ffisegol sy’n ymwneud ag Ystadau, ond byddant hefyd yn cynnwys rhwystrau o ran iaith, er enghraifft, i’r rheini nad yw’r Gymraeg na’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt. Mae dadansoddiad manwl o faterion a nodwyd wrth ymgysylltu ac ymgynghori â phobl anabl yn BI PBC wrth ddatblygu’r Cynllun Cydraddoldeb Sengl wedi’i gynnwys yn Atodiad 3. Mae corff cynyddol o dystiolaeth sy’n dangos i ni fod pobl yn wynebu rhwystrau wrth gael mynediad at ofal iechyd ac mae hyn yn gallu arwain at ganlyniadau iechyd anghyfartal. Bydd y gwaith o ganfod a dileu rhwystrau er mwyn gwneud gwybodaeth a gwasanaethau’n fwy hygyrch i bobl o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn flaenoriaeth uchel yn ystod cyfnod tair blynedd y Cynllun hwn.

    Asesu Effaith Ein Penderfyniadau Mae’n ofynnol o dan ddeddfwriaeth inni ymgymryd ag adolygiad trwyadl o swyddogaethau a pholisïau mewn cysylltiad â hil, anabledd a rhywedd. Rydym yn cydnabod mai arfer da yw asesu effaith ein swyddogaethau a’n polisïau mewn cysylltiad â’r holl feysydd cydraddoldeb ac wedi mabwysiadu’r dull cynhwysol hwn. Asesu Swyddogaethau a Pholisïau o ran eu Perthnased d i’r Dyletswyddau Cyffredinol . Yn 2008 comisiynwyd gweithdy gan Grŵp Cydraddoldebau Gogledd Cymru, a oedd yn cynrychioli’r holl gyrff iechyd blaenorol, gyda chymorth Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru, i adolygu cyfrifoldebau pob un o’r cyrff o dan ddeddfwriaeth Cydraddoldeb Hiliol, pennu ‘swyddogaethau’ a ‘pherthnasedd’ a cheisio pennu blaenoriaeth swyddogaethau perthnasol er mwyn asesu’r effaith ar gydraddoldeb. Ymhlith y dogfennau a ystyriwyd wrth wneud y gwaith hwn yr oedd gohebiaeth oddi wrth Gomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru, Deddfwriaeth Cydraddoldeb Hiliol, Pecyn Cymorth ar gyfer Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG (Cymru) (Pecyn Cymorth), Swyddogaethau Cyrff y GIG a’r Adran Iechyd. Ymhlith y mathau o dystiolaeth a adolygwyd i ddangos effeithioldeb y swyddogaeth a’i pherthnasedd i gydraddoldebau yr oedd adroddiadau, cofnodion ac adroddiadau ymchwil i Fyrddau Ymddiriedolaethau, adroddiadau am gwynion/digwyddiadau arwyddocaol, Cynlluniau

  • 35

    Cydraddoldeb, yn cynnwys Cynlluniau ar gyfer Hil, Anabledd a Rhywedd, deddfwriaeth ac adroddiadau ac argymhellion cenedlaethol.

    Nodwyd mai’r swyddogaethau canlynol oedd y rhai mwyaf perthnasol:

    • Llywodraethu corfforaethol • Llywodraethu clinigol • Cyflogaeth • Gwella iechyd y gymuned • Cynllunio a phartneriaethau • Comisiynu gwasanaethau a chyflenwi gwasanaethau

    Yn dilyn y diwygiadau, mae angen ailedrych ar y gwaith hwn wrth i swyddogaethau a strwythurau’r BI PBC newydd ymsefydlu. Rydym yn cydnabod y bydd hyn yn cymryd amser, wrth inni weithio i bennu perthnasedd y swyddogaethau a’r polisïau newydd o ran cwrdd â phob agwedd ar y Dyletswyddau Cyffredinol. Y swyddogaethau a pholisïau a bennir fel y rhai mwyaf perthnasol a gaiff flaenoriaeth ar gyfer asesu effaith. Cytunir ar amserlen i sicrhau y cynhelir asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer y swyddogaethau hyn o fewn cyfnod rhesymol. Disgwylir y bydd y broses hon yn pennu swyddogaethau sydd wedi aros yn ddigyfnewid gan mwyaf wrth symud i’r corff newydd ac, os ydynt wedi’u hasesu o’r blaen, ni fyddant yn cael eu hasesu ymhellach ar yr adeg hon. Mae’r amserlen a’n dull gweithredu i gyflawni’r Dyletswyddau Cyffredinol ac ymgymryd ag asesiad o berthnasedd wedi’u nodi yn y Cynllun Gwella Cydraddoldeb. Mae cynnal asesiadau o effaith yn ddyletswydd benodol sydd â’r amcan o sicrhau bod sylw dyladwy’n cael ei roi i gydraddoldeb mewn penderfyniadau a gweithgareddau. Nid yw asesu effaith yn nod ar ei ben ei hun, dim ond yn broses y bydd awdurdod yn mynd drwyddi er mwyn pennu’r angen i addasu polisïau ac arferion a gweithredu ar sail hynny, er mwyn rhoi gwell sylw i’r angen i hybu cydraddoldeb. (Ffynhonnell: Dyletswydd i Hyrwyddo Cydraddoldeb Anabledd, Cod Ymarfer Statudol, Comisiwn Hawliau Anabledd 2005) Mae asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb yn ystyried yr effeithiau a gaiff penderfyniadau, polisïau neu wasanaethau ar bobl ar sail eu rhywedd, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gredo, oed, y Gymraeg a hawliau dynol. Mae BI PBC wedi mabwysiadu’r Pecyn Offer ar gyfer Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb diwygiedig a ddatblygwyd gan Ganolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG ac mae hwn yn cynnwys 11 o gamau mewn proses dair rhan:

  • 36

    - Rhan A: Paratoi ac Asesu Perthnasedd a Blaenoriaeth - Rhan B: Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb - Rhan C: Canlyniad, Monitro, Cyhoeddi ac Adolygu Mae siart llif sy’n disgrifio’r camau manwl ym mhob rhan o’r broses wedi’i gynnwys yn Atodiad 5.

    Sut Byddwn yn Gwreiddio’r Broses Asesu Effaith Fel rhan o’n hymrwymiad, byddwn yn datblygu dull strategol o helpu’r holl Grwpiau Rhaglenni Clinigol / Adrannau Gwasanaethau Corfforaethol i gael system glir a chynhwysfawr i asesu effaith. Bydd hyn yn ategu’r broses o sicrhau bod Cynlluniau Gweithredu Cydraddoldeb y GRhGau / AGCau yn ddogfennau byw. Mae Polisi Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi’i ddatblygu fel blaenoriaeth sefydliadol a chytunwyd arno yng nghyfarfod cyntaf BI PBC. Mae hwn yn cynnig fframwaith i sicrhau bod egwyddorion cydraddoldeb a hawliau dynol wedi’u pennu a’u hystyried ym mhopeth yr ydym yn ei wneud, a bod asesu’r effaith ar gydraddoldeb yn rhan o brosesau penderfynu sefydliadol. Mae asesu’r effaith ar gydraddoldeb yn rhan o’r broses datblygu polisi y mae’r holl staff yn ei dilyn wrth gyflwyno polisi / protocol neu ganllaw i’w gymeradwyo. Darparwyd cyfres o weithdai gan y cyrff blaenorol i awduron polisïau ac aelodau Pwyllgorau Dilysu i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r broses gan fod y rhan fwyaf o asesiadau ar effaith yn cael eu gwneud gan rai nad ydynt yn arbenigwyr ar gydraddoldeb. Mae’r tudalennau ar gydraddoldeb ar y fewnrwyd wedi’u datblygu fel safle adnoddau lle y gall staff weld dogfennau ymchwil ac ystadegau perthnasol i’w defnyddio yn ystod y cam casglu gwybodaeth. Cymerir camau i ddarparu mwy o hyfforddiant a gweithgarwch i hybu ymwybyddiaeth. Bydd y cyfrifoldeb dros gynnal asesiadau o effaith yn perthyn i Bennaeth yr Adran ac Awduron Gwreiddiol y polisïau. Mae’r Pwyllgorau Dilysu yn ystyried canlyniad yr holl asesiadau o effaith cyn cadarnhau polisïau, ac anfonir copi o’r canlyniad i’r Gweinyddwr Polisïau. Bydd y Pwyllgor Dilysu yn rhoi gwybod i awdur y polisi a’r Grŵp Rhaglen Glinigol/Adran Gwasanaeth Corfforaethol am unrhyw gamau priodol y mae angen eu cymryd yng ngoleuni’r asesiadau o effaith gan gynnwys trefniadau monitro. Dalen Glawr ar gyfer Papurau’r Bwrdd Rhoddir dogfen grynodeb gyda phob dogfen a gyflwynir i’r Bwrdd i’w chymeradwyo sy’n disgrifio canlyniad yr asesiad o effaith ar gyfer yr holl feysydd cydraddoldeb a hawliau dynol.

  • 37

    Cyhoeddi Cyhoeddir adroddiad ar asesu’r effaith ar gydraddoldeb yn y dyfodol ar wefan BI PBC a gellir eu gweld drwy’r dudelan cyhoeddiadau.

    Sut yr Ydym yn Casglu a Defnyddio Gwybodaeth Y cam cyntaf a gymerwyd wrth baratoi’r cynllun a’r cynllun gwella hwn oedd asesu’r wybodaeth a oedd ar gael ar gyfer ei lunio. Er bod swm sylweddol o waith ansoddol wedi’i wneud yn ddiweddar i ddysgu mwy am y rhwystrau a wynebir gan bobl wrth gael mynediad at wasanaethau neu i gyflogaeth, a gan rai sydd wedi’u cyflogi gan y Bwrdd Iechyd, derbynnir bod angen cryfhau’r mecanweithiau ar gyfer casglu gwybodaeth feintiol am ein perfformiad mewn cysylltiad â chydraddoldeb.

    Mae casglu a defnyddio gwybodaeth yn rhan ganolog o’r Dyletswyddau Cydraddoldeb ac mae’n rhan o’r broses o sicrhau mwy o gydraddoldeb. Mae’r Bwrdd Iechyd yn cydnabod ei bod yn hollbwysig cael darlun mor glir ag sy’n bosibl fel sylfaen dystiolaeth i ddangos ein perfformiad ar gydraddoldeb, drwy asesu lle nad yw unigolion neu grwpiau sydd wedi’u diffinio ar sail priodoleddau a amddiffynnir yn cael triniaeth deg ar hyn o bryd fel sail i’r cynllun ac i fesur ein cynnydd yn y dyfodol.

    Bydd BI PBC yn casglu, yn dadansoddi ac yn defnyddio gwybodaeth am effaith polisïau ac arferion ar recriwtio, datblygu a chadw staff mewn cysylltiad â meysydd cydraddoldeb, a gwybodaeth am y graddau y mae’r gwasanaethau a ddarparwn, a’r swyddogaethau eraill hynny a gyflawnir, yn ystyriol o anghenion defnyddwyr gwasanaethau mewn cysylltiad â’r meysydd cydraddoldeb. Un agwedd bwysig ar y cynllun gwella cyntaf hwn ar gyfer y Cynllun Cydraddoldeb Sengl oedd delio â’r angen i gryfhau ein mecanweithiau casglu gwybodaeth a’n dull o ddadansoddi a defnyddio’r wybodaeth hon. Mae hyn yn cynnwys adeiladu ar sail gwaith blaenorol i gasglu gwybodaeth o gwynion ac arolygon bodlonrwydd cleifion, mewn cyfarfodydd, grwpiau ffocws neu reithgorau dinasyddion a thrwy brofiad y claf. Rhoddwyd blaenoriaeth yn y cynlluniau blaenorol i gael gwell gwybodaeth o ran maint ac ansawdd drwy’r prosiect monitro cydraddoldeb cleifion a chofnodi rheolaidd drwy’r cofnod staff electronig ar brofiad staff yn ystod y cylch cyflogaeth, a byddwn yn dal i ddatblygu systemau a fydd yn cynhyrchu gwybodaeth i’w dadansoddi a’i hadolygu a sicrhau y cymerir camau i ddelio â gwahaniaethu a gaiff ei ddarganfod drwy’r broses monitro.

  • 38

    Prosiect Monitro Cydraddoldeb Cleifion Mae Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG yn rheoli’r prosiect hwn sydd â’r amcan o ddatblygu a gweithredu model i gipio a monitro proffiliau cydraddoldeb y cleifion sy’n cael mynediad at wasanaethau iechyd ledled Cymru. Nodau’r Prosiect yw: • darparu rhaglen newid sy’n gwella’r casglu ar ddata cydraddoldeb yn y

    GIG ledled Cymru; ac • wrth wneud hynny, gwahaniaethu rhwng effeithiau polisïau ac arferion

    gwasanaethau iechyd ar wahanol grwpiau o gleifion, yn ôl eu grŵp hiliol, rhywedd, oed, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gredo

    Mae set ddata cydraddoldeb wedi’i datblygu drwy ymgynghori â’r Comisiynau Cydraddoldeb blaenorol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, y Swyddfa Ystadegau Gwladol a’r GIG yng Nghymru er mwyn sicrhau cysondeb a chynhwysiant wrth gasglu data. Mae’r set ddata cydraddoldeb wedi’i chyflwyno i Fwrdd Safonau a Llywodraethu Gwybodaeth Cymru, a gobeithir y bydd yn cael ei chymeradwyo cyn hir. Roedd BI PBC yn safle treialu ar gyfer camau cyntaf y prosiect ac mae staff wedi dilyn hyfforddiant ynghylch sut i geisio a chipio data cydraddoldeb cleifion. Mae’r gwaith hwn wedi’i ddynodi ar gyfer dilyniant yn y Cynllun Gwella. Monitro cyflogaeth Mae’n ofynnol i’r Bwrdd Iechyd gasglu gwybodaeth am effaith polisïau ac arferion ar recriwtio, datblygu a chadw ei gyflogeion. Mae’r cam gweithredu hwn wedi’i nodi’n flaenoriaeth yn y cynllun gweithredu. Mae hyn yn cynnwys: • Adolygiad o niferoedd ymgeiswyr, a phroffiliau’r rhai sy’n cyrraedd y

    rhestr fer ac yn cael eu penodi • Mathau o swyddi a gyflawnir gan bobl anabl, graddfeydd / lefelau

    cyflog • Cyrsiau hyfforddi a ddilynir • Camu ymlaen mewn gyrfa • Arfarniadau • Camau disgyblu • Adroddiadau am aflonyddu (a sut cawsant eu datrys) • Hyd cyflogaeth • Niferoedd mewn gwaith amser llawn neu ran amser

  • 39

    • Niferoedd sy’n gadael gan roi rhesymau, yn cynnwys dileu swyddi, diswyddo, iechyd gwael, ac ymddeol

    • Dadansoddiad o gyfweliadau ymadael staff (yn cynnwys y rhai sy’n ymddeol oherwydd iechyd gwael)

    Sut byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon Cyflwynir data i’r Pwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn flynyddol ac fe’u defnyddir wrth lunio’r Adroddiad Gweithredol Blynyddol ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth. Pwrpas y data yw helpu’r Grŵp i ddatblygu atebion i’r cwestiynau canlynol: • A yw polisïau a gweithdrefnau’r Bwrdd Iechyd yn deg â’r holl grwpiau? • A yw aelodau o rai grwpiau’n fwy tebygol nag eraill o ddefnyddio ei

    wasanaethau? • A oes gwahaniaethau o ran canlyniadau i wahanol grwpiau? • A yw unrhyw un o’r gwahaniaethau hyn yn ganlyniad i bolisïau neu

    weithdrefnau eraill? • A yw’r gwahaniaeth yn ganlyniad i ryw batrwm neu anfantais sylfaenol? • A yw’r ffactorau y mae wedi’u hystyried yn ddigon i egluro maint y

    gwahaniaethau? • Pa ddata neu ddadansoddiadau eraill a allai fod yn angenrheidiol er

    mwyn ymchwilio ymhellach? • A oes unrhyw reswm amlwg dros y gwahaniaeth, neu ei faint, a beth

    arall y gall ei wneud? A yw gwahaniaethu uniongyrchol yn achos posibl? • A oes tystiolaeth bod y patrymau hyn yn newid? • A yw’r camau a gymerwyd wedi arwain at welliannau? • Pa wersi y gellir eu dysgu ar gyfer y dyfodol?

  • 40

    Sut yr Ydym yn Cyhoeddi Adroddiadau ar Asesu, Ymgynghori a Monitro Mae’r BILl o dan Ddyletswydd Benodol i gyhoeddi’r canlyniadau i asesiadau, ymgyngoriadau a monitro y mae’n eu cyflawni er mwyn canfod unrhyw effaith anffafriol ar gydraddoldeb. Cyhoeddir y Cynllun hwn a dogfennau, adroddiadau ac ymgyngoriadau i’w ategu ar ffurf electronig ar wefan y BILl. Mae gwaith pellach i ddatblygu tudalen we allanol ar gydraddoldebau wedi’i nodi fel cam gweithredu yn y cynllun gwella.

    Ein Rôl fel Cyflogwr Hyfforddi ein staff Rhaid i bob cyflogai newydd ddilyn rhaglen gynefino gynhwysfawr wrth ymuno â’r Bwrdd Iechyd ac mae hyn yn cynnwys ymwybyddiaeth o amrywiaeth, cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn agwedd graidd ar Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth y GIG ac wedi’u nodi’n agwedd allweddol ar bob swydd a phopeth y mae pawb yn ei wneud. Fel rhan o’r broses hon, mae’r BILl wedi integreiddio cydraddoldeb a hawliau dynol yng ngweithgarwch hyfforddi hanfodol prif ffrwd y corff. Dylai pob cyflogai fod â chynllun hyfforddi a datblygu personol o dan y fframwaith sgiliau a gwybodaeth sy’n nodi lefel y cymhwysedd mewn cydraddoldeb ac amrywiaeth sy’n ofynnol i’w swydd, enghreifftiau o’i gymhwyso’n ymarferol a thystiolaeth o hyfforddiant a datblygiad. Caiff hwn ei adolygu unwaith y flwyddyn o leiaf. Dylai’r holl staff rheoli a staff uwch sy’n arfarnu gan ddefnyddio’r fframwaith sgiliau a gwybodaeth neu’n recriwtio ac yn dewis staff fod wedi’u hyfforddi mewn cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae gwybodaeth am gyfleoedd hyfforddi a datblygu’n cael ei hysbysebu’n eang a bydd y defnydd o’r cyfleoedd hynny’n cael ei fonitro. Cynllunnir cyfleoedd hyfforddi a datblygu i fodloni anghenion yr holl staff. Urddas yn y gwaith Er mwyn cyflawni’r Dyletswyddau Cydraddoldeb fel cyflogwr, mae BI PBC wedi ymrwymo i sicrhau ei fod yn rhoi sylw dyladwy i’r angen i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon ac aflonyddu yn ein harferion cyflogaeth ac yn hyrwyddo cydraddoldeb o fewn ein gweithlu ym