chapter awst 2014

27
chapter.org @chaptertweets 029 2030 4400

Upload: chapter

Post on 01-Apr-2016

235 views

Category:

Documents


9 download

DESCRIPTION

 

TRANSCRIPT

Page 1: Chapter Awst 2014

chapter.org@chaptertweets029 2030 4400

Page 2: Chapter Awst 2014

ChapterHeol y Farchnad,Caerdydd CF5 1QE029 2030 4400

[email protected]

Croeso

CROESO

Defnyddiwch y côd QR hwn i lawr-lwytho copi digidol o gylchgrawn Chapter

Croeso i’ch canllaw misol sy’n rhestru popeth sy’n digwydd yn Chapter yn ystod mis Awst. Yn gyferbyniad llwyr (gobeithio!) â heulwen yr haf, bydd ein Theatr yn archwilio gaeaf Arctig gogledd Japan yn y darn dawns Aomori Aomori (t11). Yn ddiweddarach y mis hwn byddwn hefyd yn llwyfannu sioe wych Kitsch & Sync, Last Chance Romance (t12), comedi frathog am serch sydd newydd fod yng Ngŵyl ‘Fringe’ Caeredin. Draw yn y Sinema, byddwn yn parhau â’n harolwg o yrfa Stanley Baker. Byddwn yn dathlu gyrfa’r bachgen o Lynrhedynog a aeth yn ei flaen i fod yn un o sêr mawr Hollywood â dangosiadau o nifer o’i ffilmiau clasurol, gan gynnwys The Guns of Navarone (tt22-23). Bydd 21 Awst yn ddiwrnod o gnoi ewinedd i’r rheiny sy’n aros am ganlyniadau TGAU — a’r diwrnod hwnnw a ddewiswyd ar gyfer y dangosiad o Art Party (t19).Yn gyfuniad o ffilm ddogfen, ‘road movie’ a ffilm ffantasi wleidyddol, mae’r ffilm hon yn tanlinellu pwysigrwydd y celfyddydau mewn addysg. Ydych chi’n dod i weld ffilm, arddangosfa neu sioe? Beth am aros i gael pryd o fwyd tra byddwch chi yma? Ar y cyd â’n bwydlen reolaidd, bydd ein Caffi Bar yn gweini bwyd ar gyfer picnic dinesig ac yn tanio’r barbiciw yn yr iard. Mewn mannau eraill, rydym yn edrych ymlaen at fynd ag ychydig o fwrlwm Chapter i ganolbarth Cymru ar gyfer Gŵyl Jazz Aberhonddu eto eleni. Os byddwch chi yno, dewch i fwynhau perfformiadau arbennig ar lwyfan Chapter yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu (t13). Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir!

02 chapter.org

Delwedd y clawr: Cycling with Molière

Page 3: Chapter Awst 2014

chapter.org 03

Oriel tudalennau 4–7

Bwyta Yfed Llogitudalen 8

Chapter Mix tudalen 9

Theatr tudalennau 10–12

Sinematudalennau 14–24

Addysgtudalen 25

Gwybodaeth a Sut i archebu tocynnau tudalen 26

Cymryd Rhan tudalen 27

Calendr tudalennau 28–29

Uchafbwyntiau

Cerdyn CL1CCerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol

hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ffrindiau ChapterYmunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.Ffrind Efydd: £25/£20Ffrind Arian: £35/£30Ffrind Aur: £45/£40

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-leinwww.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

eAmserlen rad ac am ddimeAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch [email protected] â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Siaradwch â ni @chaptertweets facebook.com/[email protected]

CYMRYD RHAN

Page 4: Chapter Awst 2014

Oriel04 029 2030 4400

Pob

delw

edd

â ch

ania

tâd

Chris

toph

Det

tmei

er

Arddangosfa ar agor:Dyddiau Mawrth, Mercher,Sadwrn a Sul 12-6pm;dydd Iau a dydd Gwener 12-8pm;ar gau ar ddydd Llun

Page 5: Chapter Awst 2014

Oriel 05chapter.org

Gall Christoph Dettmeier ddod o hyd i baith y Gorllewin Gwyllt yn Detroit, Berlin neu yn unrhyw le arall lle mae yna ddarn o dir diffaith diwydiannol i gymryd lle tref anghyfannedd. Yn ei waith ffotograffig mwyaf adnabyddus, mae’r mannau diwydiannol diffaith hyn yn gefndir i silwetau o feicwyr unigol a chowbois grotesg ac fe’u darlunnir yn y fath fodd ag i droi’r lleoedd di-ddim hyn yn fannau swreal, oesol a rhyfeddol o hardd. Mae’r arddangosfa aml-gyfrwng hon — ei sioe unigol gyntaf yn y DG — yn cynnwys detholiad o dirluniau epig a gynhyrchwyd yn ymateb i leoliadau nodedig yng Nghymru. Maent hefyd yn fyfyrdod ar ddathliadau canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Mawr eleni. Man cychwyn Dettmeier yw trawma cyfunol y rhyfel a datblygiad dilynol genres ffilm arswyd a gêmau cyfrifiadurol cyfoes. Mae e’n gosod y rhain yn y tirweddau epig hyn — ac yn gwneud defnydd trawiadol o ffosydd ymarfer Penalun, sy’n gefnlen i gyfres ffotograffig newydd a ffilm yn dychmygu’r hyn a welid mewn gêm gyfrifiadur am y Rhyfel Byd Cyntaf lle byddai angen i’r chwaraewr frysio’n ddi-ildio ar hyd y ffosydd.

Ynglŷn â’r artistGanwyd Christoph Dettmeier yn Köln ac mae e’n byw ac yn gweithio yn Berlin. Mae ei arddangosfeydd unigol diweddar yn cynnwys ‘Waitin’ Around to Die’, Kunstverein Braunschweig (2010) a Galerie der Stadt Remscheid (2009); ‘Private Land’, rahncontemporary, Zürich, ‘Open Range’, Galerie Schmidt Maczollek, Köln (2009) a ‘Badlands’, O.T. raum für aktuelle Kunst, Luzern (2008). Mae ei arddangosfeydd grŵp a’i berfformiadau yn cynnwys ‘Experimentica12: Born Under A Bad Sign’, Chapter, Caerdydd (2012) ‘Visions. An Atmosphere of Change’, Marta, Herford (2013) ‘2 Dead_LINES. Todesbilder in Kunst — Medien — Alltag ‘, Amgueddfa Von der Heydt, Wuppertal,’Optical Shift — Illusion und Täuschung’, b-05, Kunst-und Kulturzentrum, Montabaur (y ddwy yn 2010).Mae mwy o wybodaeth ar gael ar ei we-fan, www.christoph-dettmeier.de

Christoph Dettmeier: Happy BirthdaySad 26 Gorffennaf — Sul 21 Medi

Delw

edd

â ch

ania

tâd

Chris

toph

Det

tmei

er

Page 6: Chapter Awst 2014

Oriel06 029 2030 4400

Nodweddir gwaith Kelly Best gan dechnegau graffeg ac estheteg sy’n awgrymu systemau sydd yn fathemategol ac yn afreolus. Mae hi’n ceisio ysbrydoliaeth yn y profiad o fyw mewn gofodau pensaernïol y mae hi wedyn yn eu datgysylltu, yn eu hail-siapio’n rhannol ac yn eu troi’n haniaethau. Mae ei harbrofion â phersbectif (a’i absenoldeb) yn peri i’r gwaith bendilio rhwng arwyneb y ddelwedd a’r gofod a ddarlunnir; fe’i poblogir â ffurfiau pensaernïol wedi’u haildrefnu — cromenni gwydr, pileri neu agoriadau, er enghraifft.Mae ei gwaith yn Chapter yn adleisio’r haul wrth iddo, yn anuniongyrchol, daflu siapiau hir ar y wal drwy ffenestri’r to uwchben. Yn gweithio â gwyn penodol, mae hi’n ail-greu fersiynau o gysgodion yr haul â phensil lliw. Cryfder y gwaith yw ei gynildeb: mae’r siapiau mor debyg o ran tôn a lliw i’r wal fel y gellid eu hanwybyddu ond mae maint y gwaith yn golygu y bydd y gwyliwr, pan fydd wedi sylwi arnynt, yn llawer mwy ymwybodol o’u presenoldeb, hyd yn oed wrth eu gwerthfawrogi o bell. Y gydnabyddiaeth hon o graffter gweledol sydd fwyaf diddorol.Mae’r lluniadau yma, felly, yn annog ac yn gwobrwyo sylw. Rydym yn gyfarwydd iawn ag ystyried edrych fel gweithred oddefol ond yn llai hyddysg, efallai, yng nghrefft sylwi. Mae gwaith Best yn ein hannog i edrych ar yr hyn a welwn; chwilfrydedd syml yr hyn y mae hynny’n ei ennyn.Dyfyniadau o destun comisiwn gan Chris Brown.

BywgraffiadGanwyd Kelly Best yng Nghaint ym 1984 a chwblhaodd radd BA Celfyddyd Gain mewn peintio ym Mhrifysgol Kingston, Llundain. Mae hi bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Mae ei harddangosfeydd diweddar yn cynnwys ‘Preswyliad Unit(e)’, g39, Caerdydd (2014), ‘Y Lle Celf’, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Dinbych, ‘Arddangosfa o Beintiadau’, Stiwdio B, Caerdydd (y ddwy yn 2013), ‘Gwobr Beintio John Moores’, Oriel Gelf Walker, Lerpwl, ‘Cardiff Open 2012’, Caerdydd, Gwobr ‘Door Painting’, Oriel Centrespace, Bryste (pob un yn 2012).

I DDoD Yn FUAn:

Celfyddyd yn y Bar Bob a Roberta Smith: All Schools Should Be Art SchoolsYm mis Awst, byddwn yn datguddio darn comisiwn newydd gan Bob a Roberta Smith i gyd-fynd â rhyddhau’r ffilm nodwedd, Art Party. Gweler tudalen 19 am fwy o wybodaeth.

Kelly

Bes

t, O

ut L

ines

, dar

lun

â ph

ensi

l lliw

, 201

4

CELFYDDYD Yn Y BARKelly Best: out LinesGwe 23 Mai — Sul 17 Awst

Page 7: Chapter Awst 2014

Oriel 07chapter.orgAr

t Pa

rty

Sgyrsiau am 2Sad 2 + Sad 16 + Sad 30 Awst 2pmCynhelir ein ‘Sgyrsiau am 2’ bob yn ail ddydd Sadwrn yn ystod cyfnodau ein arddangosfeydd ac fe’i cyflwynir gan ein Tywyswyr Byw, Richard Higlett a Samuel Hasler. Mae’r sgyrsiau’n gyfle i ddysgu mwy am yr arddangosfa gyfredol ac am ddulliau gwaith unigryw yr artist. Ni fydd dwy sgwrs yn union yr un fath ond y gobaith yw y byddan nhw’n ddiddorol ac yn agored bob amser. Mae’r Sgyrsiau am 2 yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle ymlaen llaw — dewch draw i’r Oriel i ymuno â ni!RHAD AC AM DDIM

DAnGoSIAD FFILM + PARtI

Art PartyYn 2011, aeth yr artist Patrick Brill (cyfuniad creadigol o Bob a Roberta Smith) ati i greu Llythyr at Michael Gove, ymateb mewn geiriau mawrion i gynnig y Gweinidog Addysg bod celfyddyd yn cael ei dynnu o’r maes llafur yn ysgolion Prydain. Yn y ffilm nodwedd, Art Party, mae’r artistiaid yn ychwanegu at brotest 2011 gyda chymysgedd o berfformiadau, cyfweliadau a golygfeydd dychmygol, ar y ffordd i Gynhadledd y Blaid Gelfyddydol yn 2013, lle’r aethant ati — ar y cyd â siaradwyr eraill — i danlinellu pwysigrwydd celfyddyd a’i lle yn y system addysg. (Gweler y manylion pellach ar dudalen 19). Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad o Art Party, i ddathlu rhyddhau’r ffilm. Byddwn yn chwarae detholiad arbennig o restrau cerddoriaeth yr artistiaid gydol y dydd ac fe fydd yna noson o adloniant i ddilyn hefyd.

Page 8: Chapter Awst 2014

08 029 2030 4400

Llogi Mae nifer o leoedd a chyfleusterau yn Chapter ar gael i’w llogi, ac mae llawer ohonynt yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan gymysgedd eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Edrychwch ar ein gwe-fan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod, cynhadledd, neu am ofod i saethu fideo, i ymarfer neu ar gyfer gweithgareddau adeiladu tîm, bydd ein cyfleusterau gwych, ein harbenigedd technegol a’n staff cyfeillgar yn sicrhau bod eich digwyddiad yn un cyffyrddus, unigryw a chofiadwy. Gallwn gynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad hefyd. Os oes gennych chi gwestiynau penodol neu os hoffech chi fwy o wybodaeth am ein cyfleusterau, rhowch ganiad i’n rheolwr llogi, Nicky, ar 029 2031 1058 neu anfonwch e-bost at [email protected].

Bwyta + YfedEr nad oes dim yn well gennym na chinio rhost blasus ar ddydd Sul, drwy gydol misoedd yr haf, byddwn yn cyfnewid y tatws a’r grefi am brofiad bwyta al fresco, a’n picnics dinesig ardderchog. Bob dydd Sul, byddwn yn tanio’r barbeciw yn yr iard ac yn gweini eich hoff saladau o’r cownter Picnic. Wrth gwrs, os na fyddwch chi’n gallu aros tan y penwythnos (a pham ddylech chi?), mae yna ddigonedd o brydau hyfryd ar ein bwydlen newydd, ac fe fydd y Picnic ar agor yn ystod yr wythnos o 11.30am tan 2.30pm.

Cefnogi ChapterR’yn ni wedi ei ddweud o’r blaen, ond mae hi’n wir bob gair: allen ni ddim gwneud yr hyn a wnawn heb y gefnogaeth a dderbyniwn gan gynifer ohonoch. Mae ein rhaglen artistig amrywiol a’n gwaith addysg pwysig yn dibynnu ar gefnogaeth unigolion fel chi ac rydym yn ddiolchgar iawn am bob ceiniog a dderbyniwn.Os teimlwch y gallwch chi helpu, mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi wneud cyfraniad — er mwyn cyfrannu ar-lein, ewch i www.chapter.org/cy/cefnogwch-ni.I gyfrannu â cherdyn credyd, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400 neu gallwch dalu â siec (yn daladwy i ‘Chapter (Caerdydd) Cyf’). Danfonwch hi at Elaina Gray, Chapter, Heol y Farchnad, CF5 1QE (neu gallwch bicio heibio a’i gadael yn y Swyddfa Docynnau).Gallwch wneud cyfraniadau â’ch ffôn hefyd yn awr — tecstiwch ‘Chap14’ ynghyd â’r swm yr hoffech ei gyfrannu at 70070. Fydd hi ddim yn costio ceiniog i chi anfon y neges destun ac fe fyddwn yn derbyn 100% o’r swm a gyfrannwch.I gael gwybodaeth am y rhannau o’r rhaglen y mae angen eich cefnogaeth chi fwyaf arnynt, neu i gael gwybodaeth gyffredinol am unrhyw un o’n gweithgareddau codi arian, cysylltwch ag Elaina yn y Swyddfa Ddatblygu — 029 2035 5662 / [email protected].

Bwyta Yfed Llogi

Page 9: Chapter Awst 2014

Chapter Mix 09chapter.org

Cylch Chwedleua CaerdyddSul 3 Awst 8pmStraeon ar Dro’r Flwyddyn: Dewch i rannu a gwrando ar gasgliad hyfryd o straeon — croeso cynnes i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd!£4 (wrth y drws)

Clwb Comedi the DronesGwe 1 + Gwe 15 Awst. Drysau’n agor: 8.30pm Sioe’n dechrau: 9pmClint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand-ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue.£3.50 (wrth y drws)

Jazz ar y SulSul 17 Awst 9pmEin noson fisol o Jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar gyda Phedwarawd Glen Manby.RHAD AC AM DDIMwww.glenmanby.com

Ysgol Haf ShakespeareLlun 4 — Gwe 8 Awst 9.30am — 3.30pmMae Ysgol Haf Shakespeare yn dychwelyd am y 7fed tro. Mae’r ysgol haf yn cael ei threfnu gan Omidaze Productions, y mae eu haelodau yn weithwyr theatr proffesiynol sydd wedi derbyn hyfforddiant llawn ac wedi eu gwirio gan y CRB. Mae’n gyflwyniad hwyliog, bywiog ac ymarferol i weithiau Shakespeare i blant rhwng 7 a 11 mlwydd oed. Nid oes angen profiad blaenorol o Shakespeare neu’r ddrama fel y cyfryw. Testun eleni fydd The Tempest.

I gael mwy o wybodaeth a ffurflen gais, cysylltwch ag Yvonne o Omidaze ar 07949 626538 neu e-bostiwch [email protected].£90 i bob myfyriwr neu £160 i gwpwl o frodyr a/neu chwioryddwww.omidaze.co.uk

Capoeira — Roda Stryd Sul 17 Awst 2 3.30pmBydd y grŵp capoeira lleol, Nucleo de Capoeiragem (c-m Claudio Campos), yn cyflwyno’u roda awyr agored misol yng Ngardd Gymunedol Chapter yn ystod misoedd yr haf. Mae Capoeira yn gamp Affro-Frasilaidd sy’n ymgorffori crefft ymladd chwareus, ‘floreos’ acrobatig ac elfennau o ddawns, cerddoriaeth acwstig fyw a chanu. Croeso i bawb!RHAD AC AM DDIM [email protected]

Music Geek MonthlyIau 28 Awst 8pmTrafodir un clasur o albwm ac un albwm newydd sbon yn y Pwynt Cyfryngol ar ddydd Iau olaf y mis.RHAD AC AM DDIM www.musicgeekmonthly.tumblr.com

Clonc yn y CwtshBob dydd Llun 6.30 — 8pmYdych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg yng nghwmni dysgwyr eraill. Croeso i bawb!RHAD AC AM DDIM Ar y cyd â Menter Caerdydd

Page 10: Chapter Awst 2014

Theatr10 029 2030 4400

Aom

ori,

Aom

ori.

Delw

edd

gan

Kym

Cha

ng-K

yum

a M

assi

mili

ano

Sim

bula

Page 11: Chapter Awst 2014

Theatr 11chapter.orgAo

mor

i, Ao

mor

i, De

lwed

d ga

n Ca

thy

Boyc

e

Sioned Huws Aomori Aomori Iau 31 Gorffennaf + Gwe 1 Awst 7.30pmPerfformiad gan gwmni o ddawnswyr, cerddorion a chanwr, o Japan, Cymru, y DG ac Ewrop.

Dan ddylanwad y cof, yr amgylchfyd a bywyd bob dydd, mae Aomori Aomori yn gyflwyniad o ddawnsio, canu a synau yn deillio o aeafau Arctig Gogledd Japan; gwaith o gyfyngiant emosiynol, lle mae symudiad, llais, sain a distawrwydd yn cyfuno i greu cyfanwaith aml-ddimensiynol. Trwy gyfrwng ailadrodd, mae symudiadau’n cyfleu synwyrusrwydd tirwedd mewnol, ac yn adlewyrchu enaid Aomori; tawelwch ailadroddus eira.‘Dawns dwylo’ Tsugaru, manylyn mewn ffocws, o’r fertigol i’r llorweddol, proses goreograffig o gyfieithu a deall, ailadrodd symudiadau. Cyfosodiad o systemau trefnus, wedi’u cydbwyso ar y llinell denau rhwng trefn ac anhrefn, bod a difodedd; symlrwydd trosiannol.Gyda’r dawnsiwr Tsugaru ‘teodori’, Yoshiya Ishikawa, Tsugaru Shamisen — Hasegawa Sangen-kai, y canwr ‘minyo’, Kiyoko Goto (a ddaeth i Chapter ar gyfer Prosiect Aomori yn 2011 a 2013) a’r dawnswyr Sioned Huws, Elena Jacinta, Agnese Lanza a Taz Burns.Mae Prosiect Aomori yn brosiect perfformio parhaus sydd, ers 2008, wedi creu cysylltiadau ar hyd a lled arfordir gogledd-ddwyrain Japan ac wedi teithio i fwy nag ugain o leoliadau a gwyliau rhyngwladol yn Ewrop, Japan a Singapore.£12/£10/£8

‘Aomori’ ffilm gan Eilir PierceSad 2 Awst 2.30pmJapan/2014/40mun/is-deitlau/PG. Cyf: Eilir Pierce.

Eleni, daeth y gwneuthurwr ffilmiau dogfen, Eilir Pierce, yn aelod diweddaraf criw Sioned Huws o gydweithiwr ar ei phrosiect uchelgeisiol, Aomori, Aomori. Mae ffilm Eilir yn dilyn cast rhyngwladol o gerddorion, dawnswyr a chantorion sy’n aduno i berfformio o flaen pobl Aomori. Daeth y prosiect unigryw i fodolaeth ar ôl profiad cyntaf Sioned Huws o dywydd Arctig llym rhanbarth Tohoku yng ngogledd Japan, yn 2008. Fel stormydd eira di-ben-draw Aomori, mae’r ffilm agos-atoch hon yn fodd o gyflwyno prosiect hardd a heriol. £3 (mynediad am ddim i ddeiliaid tocyn Aomori Aomori)

Cynhyrchiad gan Dance4 a Sioned Huws. Cyd-gynhyrchwyr: Theatr Harlech, ARTizan, Fondazione Fabbrica Europa / Gŵyl Verticali Orizzonti. Partneriaid: Chapter, aterteater, Galeri Caernarfon, Oriel Wrecsam a Rhaglen Breswyl Rikuzentakata. Ariannwyd gan: Cyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Japan, Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol. Crëwyd Aomori Aomori yn Chapter, Caerdydd, a Greenwich Dance, Llundain, 2013

Page 12: Chapter Awst 2014

Theatr12 029 2030 4400

KItSCH & SYnC CoLLECtIvE

Last Chance Romance Iau 28 — Sad 30 Awst 7.30pmBing, Bong, Bing... Croeso i asiantaeth garu retro Kitsch & Sync... Chwilio am gariad?... Wedi’ch gadael ar ôl?... Teimlo’n unig a di-werth?... Dyma’ch cyfle olaf i ddod o hyd i ramant, eich ‘last chance romance’.Newydd ddychwelyd o gyfnod llwyddiannus yng Ngŵyl ‘Fringe’ Caeredin, mae Last Chance Romance yn berfformiad theatr ddawns rhyngweithiol yng nghwmni tair ysgrifenyddes mewn asiantaeth garu retro. Mae’r darn hwn, yn arddull y 50au, yn cyfuno dawnsio ‘swing’, alawon i wneud i chi dapio’ch traed, bythau caru a ... chariad, cariad a mwy o gariad!

Prynwch ddiod, ymlaciwch a llaciwch eich coler mewn awyrgylch hwyliog ac anffurfiol. Gadewch i gariad eich tywys. Mae’r cwmni hwn yn prysur ennill enw da fel un o grwpiau perfformio mwyaf cyffrous, eclectig a gwreiddiol Caerdydd — felly dewch draw a gadewch i Kitsch & Sync ddod o hyd i’r partner perffaith i chi!Comisiynwyd yn wreiddiol gan Coreo Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru yn rhan o ŵyl Blysh£12/£10kitschandsync.co.uk

Last

Cha

nce

Rom

ance

Page 13: Chapter Awst 2014

13chapter.org

Mae Partneriaeth Chapter â’r ŵyl yn parhau i flodeuo ac eleni byddwn yn croesawu Triawd MichaelWollny, un o sêr y dyfodol, Zara McFarlane, a Don Weller & David Newton i’n llwyfan. Byddwn hefyd yn cyflwyno perfformiad cyntaf darn comisiwn Huw Warren i ddathlu Canmlwyddiant Dylan Thomas, ‘Do Not Go Gentle’, ynghyd â’r artistiaid canlynol: Pedwarawd Marius Neset, Pumawd Trish Clowes gyda Gwilym Simcock, perfformiad prin gan Driawd John Taylor a theyrnged Christine Tobin i Leonard Cohen, ‘A Thousand Kisses Deep’, a enillodd Wobr yr Herald Angel yng Ngŵyl Caeredin yn 2013.Bydd rhaglen yr ŵyl hefyd yn cynnwys perfformwyr mor amrywiol â Burt Bacharach (Iau 7 Awst, Neuadd y Farchnad), Laura Mvula (Sadwrn 9 Awst, Neuadd y Farchnad), Loose Tubes, sydd newydd ail-ffurfio (Gwener 8 Awst, Neuadd y Farchnad), a’r llais newydd cyffrous, Gregory Porter, sydd eisoes wedi ennill gwobr Grammy (Sul 10 Awst, Neuadd y Farchnad).

At ei gilydd, bydd Jazz Aberhonddu yn cyflwyno 39 o gyngherddau mewn chwe lleoliad dros gyfnod o bedwar diwrnod.Eleni hefyd, bydd lleoliad awyr-agored poblogaidd y Captain’s Walk yn dychwelyd i ganol tref Aberhonddu (Sad 9 a Sul 10 Awst). Bydd yna ddosbarthiadau meistr, Marchnad Stryd, Man Chwarae Western Power i Blant ac Adloniant Stryd rhad ac am ddim — y cyfan yn dod at ei gilydd i wneud Jazz Aberhonddu 2014 yn un o’r mwyaf yn hanes yr ŵyl. Codwch lwnc destun i’r 30 mlynedd nesaf!

I brynu tocynnau ac i weld y rhaglen lawn, ewch i www.breconjazz.com

Iau 7 — Sul 10 AwstYn 2014 bydd Gŵyl Jazz Aberhonddu yn dathlu’i phen-blwydd yn 30 oed ac, â’r ŵyl yn ffynnu unwaith eto, bydd mis Awst yn gyfle i weld cyngherddau gwych mewn gwahanol leoliadau yng nghanol tref Aberhonddu. Bydd Eglwys Gadeiriol hyfryd Aberhonddu yn gartref i Lwyfan Chapter am yr ail flwyddyn yn olynol.

Gyda

’r cl

oc o

’r ch

wit

h: T

rish

Clow

es, D

on W

elle

r, T

riaw

d Jo

hn T

aylo

r

Page 14: Chapter Awst 2014

Sinema14 029 2030 4400

The

Man

Who

Fin

ally

Die

d (A

rolw

g St

anle

y Ba

ker,

t22

)

Mae ein harolwg o yrfa Stanley Baker yn parhau y mis hwn — gweler y manylion ar dudalennau 22—23

Page 15: Chapter Awst 2014

Sinema 15chapter.org

Monty Python Live (mostly)Encore: Sul 3 AwstDG/2014/120mun/12A. Gyda: Michael Palin, Terry Jones, John Cleese, Eric Idle, Terry Gilliam ac ysbryd Graham Chapman.

Yng nghwmni’r pum Python sy’n dal ar dir y byw a phresenoldeb rhithwir y chweched, gallwch ddisgwyl ychydig o gomedi, llawer o pathos a cherddoriaeth ynghyd ag ychydig bach o ryw hynafol a chroes-wisgo ym mherfformiad olaf y Pythons gyda’i gilydd, wedi’i ddarlledu’n fyw o’r 02 Arena. £15/£12

nt LIvE

SkylightPerfformiadau Encore: Sul 10 Awst + Llun 25 AwstDG/2014/180mun/12A Cyf: Stephen Daldry. Gyda: Bill Nighy, Carey Mulligan.

Ar noson oer yn Llundain, mae athro ysgol, Kyra Hollis, yn derbyn ymweliad annisgwyl gan ei chyn gariad, Tom Sergeant, perchennog bwyty llwyddiannus a charismataidd y mae ei wraig wedi marw yn ddiweddar. Wrth i’r noson fynd yn ei blaen, mae’r ddau’n ceisio ailgynnau perthynas a oedd ar un adeg yn angerddol ond yn eu cael eu hunain mewn brwydr beryglus o ideolegau cyferbyniol a dyheadau cyfun.Mae tocynnau i’r dangosiadau encore wedi’u recordio ymlaen llaw yn £13/£11/£10

PulpSad 23 — Iau 28 AwstDG/2014/90mun/12arf. Cyf: Florian Habicht. Gyda: Pulp a phobl Sheffield.

Ffilm am fywyd, marwolaeth ac archfarchnadoedd ... Datgelir cariad gwirioneddol trigolion Sheffield at y grŵp Pulp ac effaith ffurfiannol y dref ar gerddoriaeth y band. Mae Pulp yn ffilm gerddorol unigryw — yn ddoniol, yn ddwys, yn brawf bod bywyd yn wych ac yn ddigon, o bryd i’w gilydd, i’ch drysu chi’n llwyr.

AomoriSad 2 AwstJapan/2014/40mun/is-deitlau/PG. Cyf: Eilir Pierce

Eleni, daeth y gwneuthurwr ffilmiau dogfen, Eilir Pierce, yn aelod diweddaraf criw Sioned Huws o gydweithiwr ar ei phrosiect uchelgeisiol, Aomori, Aomori. Mae ffilm Eilir yn dilyn cast rhyngwladol o gerddorion, dawnswyr a chantorion sy’n aduno i berfformio o flaen pobl Aomori. Daeth y prosiect unigryw i fodolaeth ar ôl profiad cyntaf Sioned Huws o dywydd Arctig llym rhanbarth Tohoku yng ngogledd Japan, yn 2008. Fel stormydd eira di-ben-draw Aomori, mae’r ffilm agos-atoch hon yn fodd o gyflwyno prosiect hardd a heriol. £3 (mynediad am ddim i ddeiliaid tocyn Aomori Aomori)Darllenwch fwy am brosiect Aomori ar dudalen 11.

Gyda

’r cl

oc o

’r ch

wit

h: S

kylig

ht, M

onty

Pyt

hon

Live

(mos

tly)

, Pul

p

Page 16: Chapter Awst 2014

16 029 2030 4400Sinema

Arthur and MikeGwe 1 — Iau 7 AwstUDA/2012/93mun/15. Cyf: Dante Ariola. Gyda: Colin Firth, Emily Blunt.

Mae Wallace Avery eisiau newid ei fywyd felly mae e’n ffugio’i farwolaeth ei hun, yn prynu hunaniaeth newydd ac yn mynd ar daith dan yr enw Arthur Newman. Ond caiff y cynllun ei fwrw oddi ar ei echel ar ôl iddo gwrdd â Michaela “Mike” Fitzgerald. Mae hi’n gweld y gwirionedd amdano — a buan iawn y gwêl e’r gwir amdani hi. Wrth iddyn nhw barhau ar eu taith gyda’i gilydd, caiff cyfrinachau poenus eu datgelu ac mae eu bywydau newydd yn ffurfio...

the Young and Prodigious t.S. Spivet Gwe 25 Gorf — Iau 7 AwstFfrainc/2014/105mun/12A. Cyf: Jean-Pierre Jeunet Gyda: Helena Bonham Carter, Callum Keith Rennie, Kyle Catlett.

Mae cartograffydd 10-mlwydd-oed yn gadael y ranch ym Montana lle mae’n byw gyda’i gowboi o dad a’i wyddonydd o fam ac yn teithio ledled y wlad ar fwrdd trên nwyddau i dderbyn gwobr gan Sefydliad Smithsonian.+ Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad, Is-deitlau Meddal ar ddydd Sul 3 Awst, 11am. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiad hwn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Fruitvale StationGwe 1 — Iau 7 AwstUDA/2013/85mun/15. Cyf: Ryan Coogler. Gyda: Michael B Jordan, Melonie Diaz, Octavia Spencer.

Ar Ddydd Calan 2009, cafodd Oscar Grant ei saethu gan blismon yng ngorsaf drenau Fruitvale. Honnodd y plismon, y recordiwyd ei weithredoedd ar nifer o ffônau symudol, iddo gamgymryd ei ‘taser’ a’i wn ac fe arweiniodd marwolaeth Grant at brotestiadau lleol a thrafodaethau cenedlaethol. Mae’r ffilm gyntaf drawiadol ac emosiynol hon yn adrodd hanes deuddeg awr olaf Oscar.

Gyda

’r cl

oc o

’r br

ig: A

rthu

r and

Mik

e, F

ruit

vale

Sta

tion

, The

You

ng a

nd P

rodi

giou

s T.

S. S

pive

t

Page 17: Chapter Awst 2014

Sinema 17chapter.org

JoeGwe 1 — Iau 7 AwstUDA/2014/117mun/15. Cyf: David Gordon Green. Gyda: Nicolas Cage, Tye Sheridan.

Mae’r cyn-garcharor tanbaid Joe yn ceisio gwneud bywoliaeth yng nghefn gwlad Texas ond yn methu â dianc rhag ei orffennol troseddol. Mae’n cyflogi bachgen yn ei arddegau o’r enw Gary ac mae eu cyfeillgarwch yn tanio ynddo awydd ffyrnig i’w amddiffyn ac yn rhoi cyfle i’r ddau ohonynt ddechrau o’r newydd. Portread meddylgar o anobaith ac achubiaeth, a Cage yn dangos unwaith eto y gall fod yn actor grymus ac effeithiol.

Beyond the Edge (2D)Gwe 8 — Iau 14 AwstSeland Newydd/2013/90mun/PG. Cyf: Leanne Pooley.

Ym 1953, Everest oedd yr olaf o sialensiau mawrion y Ddaear. Roedd mynydd uchaf y byd eisoes wedi hawlio tri ar ddeg o fywydau ac yn dal i fod yn antur enbyd. Yn y ddrama-ddogfen hon, dilynwn yr ymgyrch lwyddiannus gyntaf i goncro’r bwystfil. Gyda chymorth cyfweliadau a golygfeydd wedi’u hail-greu, mae’r ffilm yn olrhain y foment y brwydrodd Sherpa Tenzing Norgay a’r ceidwad-gwenyn, Edmund Hillary, yn erbyn gwyntoedd croes a salwch uchder er mwyn cyrraedd y copa a syfrdanu’r byd.

When I Saw YouGwe 8 — Iau 14 AwstPalestina/2012/93mun/is-deitlau/12A. Cyf: Annemarie Jacir. Gyda: Mahmoud Asfa, Ruba Bial, Saleh Bakri.

1967. Mae’r byd yn llawn steiliau newydd, cerddoriaeth newydd a theimlad heintus o obaith. Ond yn yr Iorddonen, mae math arall o newid ar gerdded ac fe gaiff Tarek a’i fam, Ghaydaa, eu hunain yn ffoaduriaid. Mae’r rhyfel yn gwahanu tad a mam a mab ac mae Tarek yn ei chael hi’n anodd addasu i’w fywyd yng ngwersyll Harir ac yn gwneud popeth a all i ddianc. Drama bwerus am effaith cyfnod ar ei bobl a’r ymchwil am rywbeth mwy, rhywbeth gwell.Enillydd Gwobrau yng Ngwyliau Ffilm Berlin a Cairo.

O’r b

rig: B

eyon

d th

e Ed

ge (2

D), J

oe

Page 18: Chapter Awst 2014

Sinema18 029 2030 4400

God’s PocketGwe 8 — Iau 14 AwstUDA/2014/88mun/15. Cyf: John Slattery. Gyda: Philip Seymour Hoffman, Christina Hendricks, John Turturro.

Ar ôl i lys-fab gwallgo’ Mickey, Leon, gael ei ladd mewn ‘damwain’ adeiladu, does neb yng nghymuned ddosbarth gweithiol God’s Pocket yn arbennig o flin. Mae Mickey’n ceisio claddu’r newyddion drwg ar y cyd â’r corff, ond ar ôl i fam y bachgen fynnu’r gwir, caiff Mickey ei hun yn sownd mewn brwydr o fywyd-a-marwolaeth rhwng corff na all gladdu, gwraig na all ei phlesio a dyled na all ei ad-dalu. Mae’r ffilm gyntaf hon yn cynnwys cast aruthrol ac elfen gomig a hynod dywyll.

Mood IndigoGwe 8 — Mer 20 AwstFfrainc/2013/94mun/is-deitlau/12A. Cyf: Michel Gondry. Gyda: Romain Duris, Audrey Tautou, Gad Elmaleh, Omar Sy.

Mae Colin, dyfeisiwr cyfoethog y piano sy’n gallu cymysgu coctelau, yn chwilio am gariad ac yn dod o hyd i’r Chloe hardd. Ond caiff eu carwriaeth ei phrofi i’r eithaf ar ôl iddi hi fynd yn sâl — â blodyn yn tyfu yn ei hysgyfaint! Mae Colin yn dysgu taw’r unig ffordd o’i gwella yw gwneud yn siŵr bod yna gyflenwad parhaol o flodau ffres o’i chwmpas hi. Wedi’i haddasu o nofel Boris Vian, mae’r ffilm hon yn stori garu hudolus gan y cyfarwyddwr swrrealaidd, Michel Grondry, ac yn cynnwys cast ardderchog.

Miss violenceGwe 15 — Iau 21 AwstGwlad Groeg/2013/99mun/is-deitlau/18. Cyf: Alexandros Avranas. Gyda: Kostas Antalopoulos, Constantinos Athanasiades, Chloe Bolota.

Ar ei phen-blwydd, mae Angeliki, 11 oed, yn neidio oddi ar y balconi at ei marwolaeth â gwên lond ei hwyneb. Cynhelir ymchwiliad i geisio dod o hyd i’r rhesymau dros ei hunanladdiad — ond mae’r teulu’n mynnu taw damwain oedd y farwolaeth. Portread tanbaid o uned deuluol yn ildio i malaise economaidd a moesol Gwlad Groeg y presennol, wedi’i ffilmio â realaeth ddi-emosiwn. Ffilm danbaid, wrth-gyfalafol, chwyldroadol.

“Perfformiadau perffaith sy’n cyfleu dwyster difrifol” Nick James, Sight & Sound

O’r b

rig: M

ood

Indi

go, G

od’s

Poc

ket

Page 19: Chapter Awst 2014

Sinema 19chapter.org

Cycling with MolièreGwe 15 — Iau 21 AwstFfrainc/2013/105mun/is-deitlau/15. Cyf: Philippe Le Guay. Gyda: Fabrice Luchini, Lambert Wilson, Maya Sansa.

Mae cyn-actor enwog o’r enw Serge yn treulio’i ddyddiau yn paentio portreadau gwael ac yn beicio ar hyd yr Île de Ré yn Ffrainc. Un diwrnod, daw hen gyfaill iddo, actor sebon enwog o’r enw Gauthier, i geisio’i berswadio i ddychwelyd i’r llwyfan, gan addo rôl iddo yn nrama Molière, Le Misanthrope. Er ei fod yn wfftio’r syniad yn y lle cyntaf, caiff Serge ei dynnu, yn erbyn ei ewyllys, yn ôl i fyd y theatr. Comedi gynnes, ddoniol a deallus am yr hyn sy’n digwydd pan ddaw ego a chyfeillgarwch i wrthdrawiad â’i gilydd.

Art Party Iau 21 AwstDG/2014/80mun/dim tyst. Cyf: Bob a Roberta Smith, Tim Newton. Gyda: John Voce, Julia Rayner.

Yn gyfuniad o ddogfen a ffantasi wleidyddol, mae hon yn ffilm unigryw a phryfoclyd sy’n trafod pwysigrwydd celfyddyd a’i lle ym myd addysg a gwleidyddiaeth fodern. Mae’n gymysgedd amryliw o berfformiadau, cyfweliadau ag artistiaid a golygfeydd dychmygol sy’n cynnwys sylwadau gan artistiaid mor amrywiol â Cornelia Parker, John Smith, Haroon Mirza, Jeremy Deller a Jessica Voorsanger. Ymunwch â’r Parti! Gyda cherddoriaeth wedi’i churadu gan artistiaid yn y Caffi Bar gydol y dydd a digwyddiadau ar ôl y ffilm. Gweler y manylion ar dudalen 7.

northwestGwe 22 — Iau 28 AwstDenmarc/2014/91mun/is-deitlau/15. Cyf: Michael Noer. Gyda: Gustav Dyekjaer Giest, Oscar Dyekjaer Giest.

Mae’r lleidr Casper yn gweithio i Jamal ond yn cael cynnig dyrchafiad yn y byd troseddol gan y gangster, Bjorn. Wedi’i ddal mewn brwydr rhwng rheolwyr y byd troseddol, ac â’i frawd iau mewn perygl enbyd, mae’r ffilm yn stori am ddyn ifanc y mae ei foesoldeb wedi’i ddifrodi ond heb eto chwalu’n deilchion. Yn cynnwys cast o bobl nad ydyn nhw’n actorion proffesiynol ac agwedd amrwd at y deunydd, mae hon yn ffilm rymus am densiynau a hierarchaethau hiliol mewn cymdogaeth arw.

Jersey BoysGwe 15 Awst — Maw 2 MediUDA/2014/134mun/15. Cyf: Clint Eastwood. Gyda: John Lloyd Young, Erich Bergen, Vincent Piazza, Christopher Walken.

Hanes grŵp o ffrindiau yn New Jersey y 1960au, a chofiant cerddorol am lwyddiannau a methiannau y bois a oedd yn fwy adnabyddus fel y sêr pop eiconig, The Four Seasons. Mae’r ffilm yn mynd at wraidd perthnasau’r band (dan arweiniad y gŵr ifanc â’r falsetto pwerus, Frankie Valli) wrth iddyn nhw wynebu colli cysylltiad â’u teuluoedd a nesu at y maffia. + Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad, Is-deitlau Meddal ar ddydd Sul 17 Awst, 7.45pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiad hwn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Cycl

ing

wit

h M

oliè

re

Page 20: Chapter Awst 2014

Sinema20 029 2030 4400

venus in FurGwe 29 Awst — Iau 4 MediFfrainc/2013/96mun/15. Cyf: Roman Polanski. Gyda: Emmanuelle Seigner, Mathieu Amalric.

Mae’r awdur-gyfarwyddwr Thomas ar ei ben ei hun mewn theatr ym Mharis ac yn cael trafferth castio rôl y dominatrix yn ei ddrama newydd — cyn iddo gyfarfod â Vanda. Ar y cychwyn, dyw hi ddim fel petai hi’n arbennig o addas ond ar ôl cytuno i roi clyweliad iddi, caiff Thomas ei swyno. Wrth i’r clyweliad fynd yn ei flaen, mae’r berthynas yn trawsnewid, o atyniad i obsesiwn, a’r berthynas rhyngddynt yn newid yn gyfan-gwbl. Golwg ddeifiol, gynnil a thywyll ar ryw, rhywioldeb a pherfformio.

I am DivineGwe 22 — Mer 27 AwstUDA/2013/90mun/15. Cyf: Jeffrey Schwarz.

Mae Harris Glenn Milstead, neu ‘Divine’, ar gyrion ei gymuned ond yn troi’n arwr mewn ffilm swynol am ddatblygiad gyrfaol a’r broses o ddod yn seren. Fel awen i’r cyfarwyddwr cwlt, John Waters, aeth Glenn o fod yn blentyn tew yn yr ysgol i gynrychioli gobeithion miliynau o ddynion a merched hoyw, breninesau drag a phyncs, heb sôn am lu o bobl eraill ar gyrion cymdeithas. Â’i agwedd ffwrdd-a-hi, heriol, llwyddodd i chwalu ffiniau ac i chwyldroi diwylliant pop.

Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar ddydd Mawrth 26 Awst ar gyfer cyfarfod o grŵp trafod ffilm LGBT Chapter.

O’r b

rig: V

enus

in F

ur, I

am

Div

ine

Page 21: Chapter Awst 2014

Sinema 21chapter.org

the CongressGwe 22 — Iau 28 AwstIsrael/2014/122mun/15. Cyf: Ari Folman. Gyda: Robin Wright, Harvey Keitel, Paul Giamatti.

Mae actores yn penderfynu chwarae ei rôl olaf un — sef cofnodi a recordio delwedd ddigidol ohoni hi’i hun at ddefnydd Hollywood yn y dyfodol. Caiff ei sganio a’i samplo, ac mae hi’n derbyn swm sylweddol o arian am yr hawl i ddefnyddio’i alter-ego yn ddigyfyngiad. Fe fydd hi’n fythol ifanc, a’i ‘avatar’ yn anfarwol. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, â’i chytundeb ar fin dod i ben, caiff yr actores ei gwahodd i gymryd rhan mewn cynhadledd ac i ddychwelyd i fyd actio. Ffilm sydd yn gamp ffurfiol a thechnegol ryfeddol ac yn fersiwn o ddyfodol Orwellaidd sy’n llawn o ddyfais a dychymyg y presennol.

the Cabinet of Dr CaligariGwe 29 Awst — Llun 1 MediYr Almaen/1920/66mun/ffilm fud gydag is-deitlau/U. Cyf: Robert Wiene. Gyda: Werner Krauss, Conrad Veidt, Lil Dagover.

Caiff Francis ei ddenu i weld arddangosfa yn y ffair a fydd yn cael effaith sinistr a phellgyrhaeddol arno. Ar ôl i Dr Caligari ddeffro’r cysgadur seicig Cesare o’i gwsg, mae ei broffwydoliaeth yn frawychus. Yn ystod y dyddiau mesaf, mae yna gyfres o lofruddiaethau dirgel yn y pentref. Â’r llofrudd yn nesu at ddyweddi Francis, Jane, rhaid i’r darpar was priodas dewr ddatguddio cyfrinachau rhyfedd Dr Caligari cyn y bydd hi’n rhy hwyr...

the RoverGwe 29 Awst — Iau 11 MediAwstralia/2014/103mun/15. Cyf David Michod. Gyda: Guy Pearce, Robert Pattinson.

Ddeng mlynedd ar ôl tranc cymdeithas, mae cyfraith a threfn wedi mynd ar chwâl ac mae bywyd yn ddi-werth. Mae Eric yn teithio i drefi anghyfannedd yr ‘outback’ ond ar ôl i griw o ladron ddwyn ei gar, maen nhw’n gadael y Rey clwyfedig ar eu hôl. Mae Eric yn gorfodi Rey i’w helpu i ddod o hyd i’r giang — ac yn dangos ei fod yn fodlon gwneud unrhyw beth i ddod o hyd i’r un peth yn y byd sydd yn dal yn werthfawr. Â pherfformiadau anhygoel ac wedi’i ffilmio â harddwch milain, mae’r ffilm hon yn ddilyniant teilwng i Animal Kingdom.

Moviemaker ChapterLlun 4 AwstSesiwn reolaidd sy’n galluogi i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos ffilmiau byrion. I gael mwy o wybodaeth am sut i ddangos eich ffilm chi, neu unrhyw wybodaeth arall, e-bostiwch [email protected]. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed.

O’r c

hwit

h i’r

dde

: The

Con

gres

s, T

he R

over

Page 22: Chapter Awst 2014

Sinema22 029 2030 4400

the Guns of navaroneSul 3 + Maw 5 AwstDG/1961/158mun/PG. Cyf: J. Lee Thompson. Gyda: Stanley Baker, David Niven, Gregory Peck, Anthony Quinn.

Ar ynys Navarone yn y môr Egeaidd, mae canonau enfawr y gelyn yn gwarchod môr-lwybr hollbwysig. Ar ôl i’r swyddog a benodwyd gan y Tasglu Prydeinig i oruchwylio’r gwaith o ddinistrio’r gynnau gael ei anafu, rhaid i’r gwaith gael ei gwblhau gan Mallory, gŵr cymharol ddibrofiad. Dyw’r berthynas rhwng Mallory, yr arbenigwr ar ffrwydron, Miller, a’r gwladgarwr Groegaidd, Andrea, ddim yn arbennig o garedig — yn enwedig wedi iddi ddod i’r amlwg bod yna fradwr yn eu plith.

Yesterday’s EnemySul 10 + Maw 12 AwstDG/1959/96mun/PG. Cyf: Val Guest. Gyda: Stanley Baker, Guy Rolfe, Leo McKern, Gordon Jackson.

Yn y cipolwg ddidostur hwn ar effeithiau’r rhyfel ar y seice dynol, dilynwn gatrawd Brydeinig ar gyrch yn jyngl Byrma. Mae Capten Langford a’i filwyr blinedig yn meddiannu un o bentrefi’r gelyn. Er gwaetha’ protestiadau Padre oedrannus a gohebydd rhyfel, mae Langford yn gorchymyn i’r Rhingyll McKenzie saethu dau bentrefwr diniwed er mwyn perswadio gŵr lleol i ddatgelu gwybodaeth hanfodol. Ond ar ôl i luoedd Japan adfeddiannu’r pentref, mae cadlywydd byddin y gelyn yn defnyddio’r union dactegau ffyrnig yn erbyn Langford ei hun.

Arolwg o Yrfa Stanley BakerRydym yn parhau â’n tymor o ffilmiau i ddathlu gyrfa mab enwocaf Glynrhedynog, Stanley Baker. Fel actor arhosol a grymus, ac wedi hynny fel cynhyrchydd, roedd yn gyfrifol am rai o ffilmiau mawrion ei gyfnod. Cyfle i dalu gwrogaeth i eicon Cymreig.

Yest

erda

y’s

Enem

y

“Roedd Baker fel petai’n cyfleu yn ei gymeriadau aflonyddwch, ‘styfnigrwydd ac anesmwythyd ei flynyddoedd cynnar fel mab i löwr yng Nghwm Rhondda.” Dave Berry, Wales and Cinema: The First Hundred Years

Page 23: Chapter Awst 2014

23chapter.org Sinema

Sea FurySul 17 + Maw 19 AwstDG/1958/88mun/PG. Cyf: C. Raker Endfield. Gyda: Stanley Baker, Victor McLaglen, Luciana Paluzzi.

Mae’r morwr o Loegr, Abel Hewson, yn glanio ym mhentref arfordirol San Pedro yn Sbaen. Ar ôl creu argraff ar hen gapten profiadol y Fury II, Capten Bellew, caiff wahoddiad i ymuno â’r criw. Mae’r capten ffôl yn cael ei swyno gan ferch leol yn ei harddegau, Josita — ac mae hynny wrth fodd ei thad, sydd eisiau cael gafael ar ffortiwn y Capten. Ond Abel a Josita sy’n syrthio mewn cariad. Ond rhaid i serch gael ei rhoi o’r neilltu wrth i hen long â chargo o ffrwydron gael ei hachub a’i thynnu i’r porthladd — sydd yn peryglu’r Fury II ei hun.

the Man who Finally DiedSul 24 + Maw 26 AwstDG/1963/98mun/PG. Cyf: Quentin Lawrence. Gyda: Stanley Baker, Peter Cushing, Mai Zetterling.

Caiff Joe Newman, Almaenwr sydd wedi bod yn byw yn Lloegr ers cychwyn yr Ail Ryfel Byd, ei alw yn ôl i bentref yn Bafaria i chwilio am ei dad — gŵr a fu farw, yn ôl y sôn, 20 mlynedd yn ôl. Mae gan y dref fechan gyfrinachau niferus ...

AccidentSul 31 Awst + Maw 2 MediDG/1967/101mun/12A. Cyf: Joseph Losey. Gyda: Dirk Bogarde, Stanley Baker, Jacqueline Sassard, Michael York.

Mae Stephen yn athro prifysgol priod yn Rhydychen ac yn wynebu argyfwng canol oed a gormes emosiynol ei gymdeithas barchus. Mae pethau’n newid ar ôl iddo gyfarfod ag Anna, myfyrwraig hardd sydd yn ddyweddi i un arall o’i fyfyrwyr. Er ei fod yn teimlo’n fyw yn ei phresenoldeb, all teimladau Stephen at Anna arwain at ddim ond un pen draw: trasiedi. Wedi’i sgriptio gan Harold Pinter, mae’r ffilm hon yn astudiaeth gynnil a ffraeth o densiwn rhywiol a gwrthdaro rhwng dosbarthiadau economaidd.

Gyda

’r cl

oc o

’r br

ig: S

ea F

ury,

Acc

iden

t, T

he M

an w

ho F

inal

ly D

ied

Page 24: Chapter Awst 2014

Sinema24 029 2030 4400

The House of Magic (2D)Gwe 15 — Iau 21 AwstUDA/2014/85min/U. Cyf: Jeremy Degruson, Ben Stassen. Gyda: Cinda Adams, Edward Asner, George Babbit.

Mae Thunder, cath ifanc sy’n ceisio lloches rhag y storm, yn dod ar draws y tŷ rhyfeddaf un, sy’n eiddo i hen ddewin ac amrywiaeth eang o beiriannau a gizmos od ar y naw.

Earth to EchoGwe 22 — Iau 28 AwstUDA/2014/91mun/PG. Cyf: Dave Green. Gyda: Teo Halm, Astro, Reese Hartwig.

Ar ôl derbyn cyfres o negeseuon rhyfedd wedi’u hamgryptio, mae grŵp o blant yn cychwyn ar antur gydag ‘alien’ sydd angen eu help.

MaleficentGwe 29 — Sul 31 AwstUDA/2014/97mun/PG. Cyf: Robert Stromberg. Gyda: Angelina Jolie, Elle Fanning, Sharlto Copley.

Mae tylwythen deg ddialgar yn melltithio tywysoges ifanc — cyn sylweddoli taw’r plentyn yw’r unig un a all adfer heddwch i’r deyrnas.+ Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad, Is-deitlau Meddal ar ddydd Sul 31 Awst, 11am a 2.15pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiad hwn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Carry on Screaming!Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn rhoi cyfle i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn ar gyfer pobl â babanod dan flwydd oed.

The Young and Prodigious T.S. Spivet Gwe 1 — Iau 7 AwstFfrainc/2014/105mun/12A. Cyf: Jean-Pierre Jeunet Gyda: Helena Bonham Carter, Callum Keith Rennie, Kyle Catlett.

Mae cartograffydd 10-mlwydd-oed yn gadael y ranch ym Montana lle mae’n byw gyda’i gowboi o dad a’i wyddonydd o fam ac yn teithio ledled y wlad ar fwrdd trên nwyddau i dderbyn gwobr gan Sefydliad Smithsonian.+ Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad, Is-deitlau Meddal ar ddydd Sul 3 Awst, 11am. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiad hwn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

How to Train Your Dragon 2 (2D)Gwe 8 — Iau 14 AwstUDA/2014/102mun/PG. Cyf: Dean DeBlois. Gyda: Jay Baruchel, Gerard Butler, Cate Blanchett.

Ar ôl dod o hyd i ogof iâ sy’n gartref i gannoedd o ddreigiau gwyllt newydd a’r Marchog Dreigiau dirgel, mae Hiccup a Toothless yn eu cael eu hunain yng nghanol brwydr i gadw heddwch.+ Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad, Is-deitlau Meddal ar ddydd Sul 10 Awst, 11am a dydd iau 14 Awst, 11am. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiad hwn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Mal

efic

ent

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm a dydd Sul am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

FFilmiau i’r Teulu CyFan

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk02920 666688

Page 25: Chapter Awst 2014

25chapter.org Addysg

Seremoni Raddio Academi Ffilm Pobl IfaincYm mis Mehefin a Gorffennaf, cymerodd pymtheg o bobl ifainc rhwng 9 a 12 oed ran yn Academi Ffilm Pobl Ifainc Chapter, dan arweiniad arbenigol ein tiwtor preswyl, Paul Holder. Dros gyfnod o bedwar dydd Sadwrn, daeth y graddedigion at ei gilydd i ddysgu sylfeini’r broses o wneud ffilm, o iaith ffilm i gyfarwyddo, o hanes ffilm i olygu, ac o ysgrifennu sgriptiau i effeithiau sain. Llongyfarchiadau mawr i’r bobl ifainc ganlynol, wrth iddyn nhw nesu at Hollywood:Archie Bernstein, Ellis Thomas, Michael Collins, Trystan Roberts, Rohan Efstathiou, Matthew Peters, Hafwen Davies, Brychan Thomas, Dominic O’Leary, Donovan Henry, James Rayer, Hannah Ratigan, Leon Bogacz, Ana Gomes a Bryn Collins. WInDInG SnAKE PRoDUCtIonS Cwest Gêmau yr Haf!Llun 4 — Gwe 8 Awst 12-16 oedGêmau fideo yw’r ffurf gyfryngol fwyaf newydd, a’r ffurf sy’n tyfu gyflymaf, ar y blaned. Mae gêmau’n cyfuno holl rym straeon, medr a steil weledol ffilmiau poblogaidd a ffyrdd o ryngweithio a fyddai wedi bod yn anodd eu dychmygu ddim ond ychydig flynyddoedd yn ôl. Ers eu datblygiad yn yr 80au cynnar, mae gêmau fideo wedi swyno cenhedlaeth gyfan. Â chysylltedd byd-eang, a’u gallu i feithrin creadigrwydd, cystadleuaeth iach a sgiliau unigol, daeth gêmau fideo yn rhan annatod o fywydau llawer o bobl. Er gwaethaf hyn, mae dysgu sut i ddatblygu a dylunio gêmau yn dal i fod yn ddirgelwch i lawer yn y DG, ac yn rhan o gwricwlwm addysg bellach yn unig, fel arfer. Mae Winding Snake Productions o’r farn y gall gêmau fideo helpu i feithrin y sgiliau hanfodol a fydd yn eich galluogi chi i fod yn rhan o ddiwydiant modern datblygol.

Dewch i ymuno â datblygwyr gêmau fideo proffesiynol a thros gyfnod o bum niwrnod byddwch yn dysgu sut i ddylunio ac adeiladu eich gêm fideo eich hun. Caiff yr holl ddeunyddiau, offer a meddalwedd angenrheidiol eu darparu gan Winding Snake. Gallwch archebu lle ar y cwrs yn awr, drwy Swyddfa Docynnau Chapter. Cost y cwrs fydd £250. I gael mwy o wybodaeth am Gwest Gêmau yr Haf, anfonwch e-bost at [email protected].

Gweithdai ‘Sewcial’ ChapterGweithdai gwnïo i bobl bobl ifainc 7-12 oed.Bydd pob cyfranogwr yn gadael ar ddiwedd y diwrnod ag eitem arbennig ac unigryw, taflenni o weithgareddau a gwybodaeth a fydd yn eu galluogi i fynd ati i greu drostynt eu hunain.

Dewch i gymryd rhan! 7 — 9 oedMaw 29 Gorffennaf 10am-2pmGweithdy hwyliog a hawdd i blant sydd eisiau dysgu sgiliau gwnïo er mwyn creu bagiau i ddal eu holl stwff — teganau, llyfrau, dyfeisiau ac ati. Bydd cyfranogwyr yn dysgu am dechnegau gwnïo ac yn mynd i’r afael â phwythau gwahanol, gwnïo botymau a rhubanau ac yn datblygu eu sgiliau arlunio er mwyn personoli eu gwaith. Bydd angen pecyn bwyd.

Dewch i gymryd rhan!10 — 12 oedMaw 5 Awst 10am-2pmEisiau rhywbeth unigryw i ddal eich arian, clustffonau, dyfeisiau ac ati? Beth am ddod i’r gweithdy hwn i ddysgu sut i wnïo’r ‘cwdyn perffaith’? Delfrydol ar gyfer dechreuwyr neu’r rheiny ag ychydig o brofiad — byddwn yn astudio sylfeini gwnïo, a thechnegau pwytho â llaw, mesur a thorri. Byddwn yn mynd ati wedyn i greu darn unigryw i ddal eich hoff eitemau. Bydd angen pecyn bwyd.£7.50 y pen. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.

ADDYSG

Page 26: Chapter Awst 2014

Archebu / Gwybodaeth26 029 2030 4400

Sinema Cyn 5pm o 5pm ymlaenLlawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20)Cons £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10)Cerdyn + Cons £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50)DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangosiadau — £4.40

Sut i Archebu TocynnauDros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd.Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am-8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm.Ar-lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nosConsesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di-waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter.Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol.Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM.Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad.Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe-fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.

Prisiau ymlaen llaw/ar-lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

GwybodaethCwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sut i gyrraedd ChapterFe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE

Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas.

Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas.

Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad.

Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.

GWYBODAETH

Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad penodol ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.

Heol y Farchnad

Heol Ddwyreiniol y Bont Faen

Chur

ch R

d.

Llandaff Road

Leckwith Road

Albert St.

W

ellington Street

Severn Road

Glynne St.

Springfield Pl.

Orchard Pl.

Gray St.

Gray St.

Gray Lane

King’s Road

Market Pl. Library St.

Penl

lyn

Rd.

Earle Pl.

Hamilton St

Talbot St

Wyndham

Crescent

Har

ve

y Street

I Ganol Dinas Caerdydd

Treganna

o 6pm

P — meysydd parcio rhad ac am ddim — arhosfan bysus — rac feics

Page 27: Chapter Awst 2014

27chapter.org Cymryd Rhan

CYMRYD RHAN

Landfill Community FundEsmée Fairbairn FoundationEU Culture ProgrammeThe Baring FoundationGarfield Weston FoundationFoyle Foundation Biffa AwardColwinston Charitable TrustAdmiral Group plcMoondance FoundationFoundation for Sport and the ArtsTrusthouse Charitable FoundationCommunity Foundation in WalesBBC Children in Need The Waterloo FoundationScottishPower Green Energy TrustThe Welsh Broadcasting TrustSEWTA

Richer SoundsThe Clothworkers’ Foundation MomentumWRAPThe Henry Moore FoundationGoogleThe PrincipalityJane Hodge FoundationSimon Gibson Charitable TrustPeople’s Postcode TrustDunhill Medical TrustLegal & GeneralInstitut für Auslandsbeziehungen e.VMillennium Stadium Charitable TrustThe Ernest Cook Trust Lloyds TSBMorgan SignsGarrick Charitable Trust

BarclaysArts & Business CymruPenderynThe Austin & Hope Pilkington Trust Singapore International FoundationPuma Hotels Collection: Cardiff Angel HotelCardiff AirportWales Arts InternationalGibbs Charitable TrustCeredigion Community SchemeThe Steel Charitable TrustThe Boshier-Hinton FoundationTaylor Wimpey 1st OfficeOakdale TrustDipec PlasticsNelmes Design

The Coutts Charitable TrustBruce Wake CharityFunky Monkey FeetFinnis Scott FoundationUnity Trust BankHugh JamesContemporary Art Society for WalesThe Dot FoundryJVHGidden & ReesWestern Power DistributionFollett TrustArts & Kids CymruCanton High School Girl’s ReunionCo-operative GroupRenault CardiffEmbassy of BelgiumQueensland Government

Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:

Cerdyn CL1CCerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol

hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ffrindiau ChapterYmunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.Ffrind Efydd: £25/£20Ffrind Arian: £35/£30Ffrind Aur: £45/£40

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-leinwww.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

eAmserlen rad ac am ddimeAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch [email protected] â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Cynllun Myfyrwyr ChapterYdych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — [email protected]/cy/aelodaeth-myfyrwyr-chapter